Eich Canllaw i Fywyd Ôl-raddedig yng Nghaerdydd Croeso i'n holl ôl-raddedigion newydd ym Mhrifysgol

Page 1

Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 1

title

Your guide toate u Postgradin life cardiff


2 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Cynnwys 3 Croeso oddi wrth IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig 4 Eich Undeb Myfyrwyr (Cathays a Pharc y Mynydd Bychan) 5

Eich Swyddogion Etholedig

6

Canolfan y Graddedigion

Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr

10–11 Llais Myfyrwyr: democratiaeth yn eich Undeb Myfyrwyr 12–13 Gweithgareddau 14 Siop Swyddi a’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau 15 Gwirfoddoli Caerdydd a Menter Myfyrwyr Caerdydd 16 Cyngor Myfyrwyr

Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl brysur, felly rydyn ni am ei gwneud hi mor syml â phosib i chi gadw’n gyfoes â’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y campws. E-bost pythefnosol

7 Cymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig Caerdydd 8–9

Cadwch mewn cysylltiad

Bob pythefnos, bydd IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig, Katie Kelly, yn anfon e-bost atoch chi i sôn am yr hyn sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion eraill, bydd hwn yn werth ei ddarllen. Gwefan Rydyn ni wedi datblygu ardal o’n gwefan ar eich cyfer chi. Ewch i cardiffstudents. com/postgrad i ganfod mwy. Cyfryngau Cymdeithasol cardiffstudentspostgrad @PostgradCSU

17 Siopau a Gwasanaethau 18–19 Digwyddiadau gwych 20

12-13

Map o’r campws

Gweithgareddau

Digwyddiadau gwych


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 3

Croeso i Gaerdydd! Croeso i holl ôl-raddedigion newydd Prifysgol Caerdydd! I’r rheiny sy’n dychwelyd i Gaerdydd fel ôl-raddedig – croeso yn ôl! Fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mhrifysgol Caerdydd, rydych yn aelod awtomatig o Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn yn golygu bod gennych fynediad i’r gwasanaethau gwych mae’r Undeb yn eu cynnig wrth gael eich cynrychioli a’ch cefnogi gan y Tîm Sabothol etholedig a chymaint o aelodau staff ymroddgar. Rydyn ni yma i’ch helpu chi gael y profiad gorau posib yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd drwy eich cynrychioli chi i’r brifysgol ar faterion academaidd, cynnig gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol a’ch cefnogi chi â’ch pryderon lles. Wrth i chi ymdrechu i lwyddo yn eich ymchwil, rydyn ni am eich darparu chi â chymaint o gyfleoedd â phosib - boed yn sicrhau bod gennych le i gyflwyno eich ymchwil, cymryd rhan mewn cyrsiau datblygu sgiliau, cael cyfle i ddod i adnabod ôl-raddedigion eraill neu roi cynnig ar gamp newydd. O ran eich profiad academaidd, rydyn ni yma i roi grym i chi i leisio’ch barn. Fel IL newydd y Myfyrwyr Ôl-raddedig, rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at ddod i adnabod a gweithio gyda chymaint ohonoch yn y flwyddyn sydd i ddod ar y materion sydd wir o bwys i chi er mwyn hybu cymuned fywiog yr ôl-raddedigion yma yng Nghaerdydd. Ewch i gael cipolwg

ar ddigwyddiadau Wythnos Groeso’r Ôlraddedigion yn ogystal â’r digwyddiadau sydd ar gynnig yn Undeb y Myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw ymholiad neu awgrym, mae croeso i chi anfon neges ataf neu dewch i fy ngweld i ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr! Katie Kelly IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk @PostgradCSU


4 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Eich Undeb Myfyrwyr

Campws Cathays Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc. Mae gan y lleoliad pwrpasol hwn bum llawr, tafarn, ardal ddysgu gymdeithasol 24-awr, allfeydd bwyd, ystod o siopau, llefydd cyfarfod ac ymarfer, lleoliad aml-bwrpas ar gyfer digwyddiadau gyda’r dydd a gyda’r nos, darlithfa a gorsaf radio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn le gwych i ymlacio, cwrdd â ffrindiau, cael cymorth, canfod swydd, bwyta a chymryd rhan gyffredinol mewn bywyd myfyrwyr. Campws y Mynydd Bychan Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yn yr IV Lounge ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionnydd. Mae’r

Undeb cyswllt hwn yn rhoi mynediad i chi i ystod o wasanaethau a ddarperir ar Blas y Parc, gan gynnwys Siop Swyddi, Gosod Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr, Gwirfoddoli Caerdydd a chyrsiau Datblygu Sgiliau. Gallwch brosesu sieciau clybiau chwaraeon a chymdeithasau yma yn ogystal â phrynu offer ysgrifennu a nwyddau Prifysgol Caerdydd. Hefyd mae gennym ni gyfleusterau i chi fwcio cyfarfodydd gydag unrhyw un o’n Swyddogion Etholedig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan wedi cael ei ailddatblygu yn ystod haf 2015 felly byddwn ni’n edrych yn well nag erioed. Caiff Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan ei redeg gan Neil felly dewch i ddweud helo!


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 5

Swyddogion Etholedig 2015-16 Mae’r Swyddogion Etholedig yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau myfyrwyr ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i israddedigion, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Etholedig eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.

Cewch gwrdd â’ch Swyddogion Etholedig ar 3ydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu ar cardiffstudents.com


6 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Canolfan y Graddedigion

Mae Canolfan y Graddedigion yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc ac yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau i wella profiad ôl-raddedigion. Os ydych chi ym Mharc y Mynydd Bychan, cewch fynediad i Ganolfan y Graddedigion, ar 2il lawr yr Ysgol Feddygaeth, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd. Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnig teithiau diwrnod a digwyddiadau cymdeithasol ledled y brifysgol i’ch helpu chi gael seibiant o’ch holl ymchwil a rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd. Mae yna ardal gymdeithasol i chi ymlacio sydd â theledu, cegin, balconi awyr agored yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod ar gyfer grwpiau astudio, seminarau, cyfweliadau a chyflwyniadau. Felly p’un ai’ch bod chi am astudio’n unigol neu mewn gr p,

mae eu hardaloedd anffurfiol yn addas i chi. Mae’r ardaloedd hyn ar gyfer bwciadau gan gynnwys partïon ysgol neu ddigwyddiadau rhyngddisgyblaethol. Hefyd mae gan Ganolfan y Graddedigion rwydwaith gyfrifiaduron a chyfleusterau argraffu. Mae Canolfan y Graddedigion yn Undeb y Myfyrwyr ar agor rhwng 08:00 – 00:00 ddydd Llun i ddydd Gwener a 12:00 – 00:00 ddydd Sadwrn i ddydd Sul. Ewch i ganfod mwy a chysylltwch â ni: 029 2087 4748 cardiff.ac.uk/gradc Grad-Centre@Caerdydd.ac.uk gradcentre @grad_centre


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 7

Cydgymuned Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd Croeso cynnes oddi wrth Bwyllgor Cydgymuned y Myfyrwyr Ôl-raddedig. Rydym yn bwriadu creu cymuned gadarn a chyffrous ar gyfer pob myfyriwr ôl-raddedig ledled y Brifysgol. Llynedd, cynhaliom ni ddigwyddiadau cymdeithasol, ymgyrchom ni i gael Swyddog Sabothol llawn amser yn Undeb y Myfyrwyr ar gyfer ôlraddedigion a chawsom ni wobr gysur am Gydgymuned y Flwyddyn yng Ngwobrau’r Cymdeithasau. Rydym yn teimlo’n gyffrous iawn am dwf ein cymuned gymdeithasol - ewch i gael cipolwg ar y digwyddiadau cymdeithasol sy’n digwydd gydol y flwyddyn a dewch yn llu. Caiff y digwyddiadau hyn eu trefnu gan ôl-raddedigion ar gyfer ôl-raddedigion! O bobi, dawnsio a heicio, i bartïon a phrydau bwyd - bydd rhywbeth at ddant pawb. Rydym yma i gefnogi cymuned yr ôl-raddedigion a thrwy gydweithio ag IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig, sicrhau bod eich cyfnod chi fel ôl-raddedig mor ddifyr â phosib! Felly croeso i Brifysgol Caerdydd, byddwch yn rhan o’n digwyddiadau a mwynhewch!


8 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

CYNRYCHIOLWYR ACADEMAIDD Beth yw Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Mae Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn wirfoddolwr myfyrwyr sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau o’u cyrsiau i’w hysgolion. Eu rolau yw casglu adborth o’u cyrsiau a’i anfon at Baneli Staff Myfyrwyr (PSM) a Byrddau Astudiaeth i sicrhau bod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ar bob lefel. Mae gennym gyfanswm o tua 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cynrychioli rhyw 28,000 myfyriwr. Byddwch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rhan annatod o rymuso lleisiau myfyrwyr ac rydym wastad yn edrych am recriwtiaid newydd. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol; y cyfan sy’n ofynnol yw brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr yn eich hyfforddi, felly byddwch yn barod ar gyfer eich rôl. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i chi gysylltu â StudentReps@Cardiff.ac.uk a gall y tîm anfon manylion y Cydgysylltydd Cynrychiolydd Myfyrwyr perthnasol atoch. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa eich Ysgol a gallant anfon manylion y cydgysylltydd atoch.

Beth yw’r manteision i mi? Fel ôl-raddedigion, mae eich anghenion addysgol yn aml yn arbenigol ac mae angen sylw penodol arnynt. Felly, trwy ddod yn Gynrychiolydd gallwch gymryd gafael ar eich addysg, gallwch helpu i lunio eich cwrs ac amlygu unrhyw welliannau. Mae dod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n ymchwilio ac yn astudio pynciau tebyg, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl. Cewch gyfle i adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol i’ch helpu ymgysylltu ag uwch academyddion. Gallwch gymryd rhan mewn sicrwydd ansawdd a gwella safonau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cymerwch ran, byddwch yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyriwr! Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â: Katie Kelly – Is-lywydd y Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PgradOfficerCSU @PostgradCSU


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 9

Defnyddiwch Eich Cynrychiolydd Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â hwy? Gall Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr anfon unrhyw sylwadau cadarnhaol neu negyddol am yr Ysgol, pwnc neu fodiwl drwy fynychu Paneli Staff Myfyrwyr sy’n digwydd tua unwaith y tymor. O ganlyniad i o gael eich hyfforddi i arwain myfyrwyr at y bobl berthnasol, mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr hefyd yn gallu darparu llawer o wybodaeth yngl n â’r Gwasanaethau fydd ar gael o’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.

Sut mae modd i mi gysylltu â fy Nghynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Os hoffech rannu adborth am eich cwrs gyda’ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, gallwch fewngofnodi ar cardiffstudents.com/reps a defnyddio’r nodwedd “Find my Rep”. Neu gallwch anfon e-bost at StudentsReps@Cardiff. ac.uk neu alw heibio trydydd llawr yr Undeb Myfyrwyr. Gallwch hefyd dderbyn e-byst o’ch cynrychiolydd yn gofyn am adborth. Sut mae modd i modd i mi ddarganfod mwy? cardiffstudents.com/reps StudentReps@Caerdydd.ac.uk Cardiff Student Voice @CU_StudentVoice


10 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Llais Myfyrwyr ôl-raddedig a’r Is-Lywydd Ôl-raddedig. Bydd y pwyllgor yn cwrdd unwaith y mis, yn cyfrannu at benderfyniadau pwysig ac yn gweithredu fel bwrdd ymgynghori. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys tri myfyriwr ôl-raddedig a addysgir, tri myfyriwr ôl-raddedig ymchwil ac aelod o bwyllgor Cymdeithas yr Ôl-raddedigion; y cadeirydd fydd yr Is-Lywydd Ôl-raddedig. Cadwch lygad ar eich e-byst am fanylion yngl n â sut y gallwch gyfranogi eleni.

Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad aelodaeth democrataidd, a’i brif ddiben yw cynrychioli eich buddiannau chi a’ch cyd-fyfyrwyr i’r Brifysgol a chymdeithas yn ehangach. Yn y gorffennol, mae’r Undeb wedi ymladd i osod ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dros lyfrgelloedd 24 awr a rhyddhau amserlenni arholiadau ynghynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati i godi materion y byddwch eisiau i’r Undeb fynd i’r afael â nhw. Mae disgrifiad cryno isod o’r gwahanol grwpiau sy’n arwain ein gwaith a sut y gallwch chi gyfranogi. Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig Hon fydd y flwyddyn gyntaf i Undeb Myfyrwyr Caerdydd fod â Phwyllgor Gwaith Ôl-raddedig. Nod y pwyllgor fydd hyrwyddo a gwella profiad ôlraddedigion yng Nghaerdydd, yn ogystal â gweithredu fel cyswllt rhwng myfyrwyr

Senedd y Myfyrwyr Mae Senedd y Myfyrwyr yn creu ac yn newid polisi Undeb y Myfyrwyr. Golyga hyn eu bod nhw’n penderfynu pa newidiadau neu welliannau y dylem eu gwneud neu lobïo drostynt. Mae Senedd y Myfyrwyr yn cynnwys ugain o seneddwyr a etholir ym mis Hydref mewn Is-Etholiadau. Mae’r Senedd yn cwrdd tua phum gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i fyfyrwyr oll. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig neu eitem i’w gosod ar yr agenda ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, a gall unrhyw fyfyriwr fynychu’r cyfarfod a dadlau o blaid neu yn erbyn y pynciau sydd ar yr agenda. Mae’r agenda, y cofnodion a manylion y cyfarfod nesaf i’w gweld yma cardiffstudents.com/your-voice/senate/ meetings/


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 11

Pwyllgor Archwilio Mae’r Pwyllgor Archwilio’n cynnwys deg myfyriwr etholedig sy’n dal eich cynrychiolwyr (gan gynnwys Llywydd Undeb y Myfyr a’r IL Ôl-raddedig) i gyfrif. Maent yn gwasanaethu i archwilio adroddiadau Swyddogion Etholedig er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio er eich budd chi. Gall unrhyw fyfyriwr ymgeisio ar gyfer aelodaeth o’r Pwyllgor Archwilio mewn is-etholiad a gynhelir ym mis Hydref. Byddant yn cwrdd tua 8 gwaith y flwyddyn, ar nos Fawrth. Gallwch weld beth mae’r swyddogion yn gweithio arno a chofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn cardiffstudents.com/officers Etholiadau Gan ein bod yn fudiad democrataidd, caiff pob swydd gynrychioli, sydd â’r p er i wneud penderfyniadau, ei llenwi drwy etholiad traws-gampws. Mae dwy set o etholiadau bob blwyddyn, a chynhelir y rhai cyntaf ym mis Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr a’r Pwyllgor Archwilio. Cynhelir yr ail set o etholiadau yn Chwefror i ethol y Swyddogion llawnamser a’r naw Swyddog Ymgyrchoedd. Mae’r tîm Swyddogion llawn-amser yn cynnwys y Llywydd a chwe Is-Lywydd, gan gynnwys yr Is-Lywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig. Swyddi gwirfoddol sydd

gan y Swyddogion Ymgyrchoedd, ac mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r rhain ochryn-ochr â’u hastudiaethau. Maent yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol a rhyddhad i Undeb y Myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae angen amrywiaeth o leisiau o fewn y swyddi hyn, ac rydym yn chwilio am ôl-raddedigion i sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed! Mae dwy brif ffordd o gyfranogi - gallwch gyflwyno eich hun ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch bleidleisio dros yr ymgeisydd fydd yn eich barn chi’n gwneud gwaith da yn y swydd. Gallwch ganfod mwy am etholiadau yn cardiffstudents.com/elections


12 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Gweithgareddau Cymdeithasau Mae ymuno â chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ffordd wych o rwydweithio, cymryd rhan mewn diddordeb neu eich cysylltu chi â phobl o feddwl tebyg. Mae yna dros 180 o gymdeithasau gan gynnwys cymdeithasau ar sail cwrs, grwpiau crefyddol, cymdeithasau rhyngwladol yn ogystal â chymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol. Chwaraeon Caiff ein clybiau chwaraeon eu cefnogi gan yr Undeb Athletau, sy’n gofalu am fyfyrwyr sy’n rhedeg dros 60 o glybiau chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon unigol a thîm, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon d r a chrefft ymladd. Cydgymunedau Mae ein cydgymunedau myfyrwyr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd fod yn aelod. Mae pob cydgymuned yn cynrychioli gr p arbennig fel myfyrwyr LHDT+, myfyrwyr croenddu a lleiafrifoedd ethnig neu fyfyrwyr ôl-raddedig, ac yn ymgyrchu ar faterion all effeithio arnyn nhw. Gallwch ganfod mwy am ein cydgymunedau ar cardiffstudents.com/ associations. Gallwch ddarllen mwy am Gydgymuned y Myfyrwyr Ôl-raddedig ar dudalen 7.


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 13

Ffyrdd gwych eraill i gymryd rhan Cyfryngau Myfyrwyr Mae gennym ni ddiwylliant cyfryngau sy’n ffynnu yn Undeb y Myfyrwyr gyda gr p brwdfrydig o fyfyrwyr yn cynhyrchu ein papur newydd wythnosol, Gair Rhydd, a’n cylchgrawn misol, Quench, yn ogystal â gwirfoddoli gydag Xpress Radio, ein gorsaf radio, a CUTV, ein gorsaf deledu ar-lein. Gallwch gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gall fod yn ffordd wych o berffeithio eich sgiliau newyddiaduraeth yn ogystal â darparu ystod amrywiol o brofiad ar gyfer y dyfodol. Dysgwch Iaith Dramor Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella iaith bresennol, am ddim! Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae eu hopsiynau astudio hyblyg yn golygu bod modd i chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi, boed yn wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol. P’un ai’ch bod chi’n dechrau o’r dechrau neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydyn ni’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. Rydym yn cynnal cyrsiau mewn ystod eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar ein campysau ym Mharc Cathays a’r Mynydd Bychan. I ganfod mwy, ewch i cardiff.ac.uk/modern-languages.

Rhowch Gynnig Arni Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra eich bod chi’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr holl bethau mae ein cymdeithasau yn eu gwneud, cymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau hanfodol, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phenwythnos, a llawer llawer mwy. Yr amcan yw eich annog chi i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel yng Nghaerdydd.


14 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Swyddi a Sgiliau Siop Swyddi Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’ch cwrs ôlraddedig, mae’r Siop Swyddi’n lle gwych i ddechrau. Caiff y Siop Swyddi ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyflogi am ddim i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Mae cyfleoedd gweithio ar gael yn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyflogwyr lleol, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl sy’n gweddu eich ymrwymiadau academaidd. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop. Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol a rhoi profiad gwaith ar eich CV tra eich bod chi’n astudio!

Y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau’n darparu ystod o gyrsiau sy’n bwriadu eich paratoi chi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o wella eich sgiliau trosglwyddadwy, codi eich hyder a gwella eich cyflogadwyedd yn gyffredinol. Cyflwynir tystysgrifau am gwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus ac maen nhw’n hynod boblogaidd ymysg cyflogwyr. Mae tri phrif faes i’r cyrsiau a gynigir gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau: • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol • Sesiynau ychwanegol i helpu eich hyder a’ch cyflogadwyedd

CardiffJobshop

• Cyrsiau a achredir yn allanol

@CardiffJobshop

Ceir gwybodaeth fwy manwl am y cyrsiau hyn ar cardiffstudents.com/jobs-skills.

Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535

Cysylltwch â ni 029 2078 1489 SDS@Caerdydd.ac.uk CardiffSDS @SDScardiff


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 15

Gwirfoddoli Caerdydd Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd. Mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer eich CV yn ogystal â rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a mwynhau! Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig ystod eang o brosiectau gwahanol a chyffrous sy’n gallu gweddu eich amserlen prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar brosiectau o gwmpas dinas Caerdydd ac yn ymroi eu hamser i helpu gwella bywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eraill yn y gymuned leol a datblygu sgiliau, profiadau a chreu ffrindiau newydd drwy ei wneud. I ganfod mwy am Gwirfoddoli Caerdydd a sut i gymryd rhan, ewch i cardiffstudents. com/volunteering neu galwch heibio’u swyddfa yng Nghanolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 09:00-17:00 ddydd Llun-dydd Iau a rhwng 09:0016:00 ar ddydd Gwener. cardiffstudents.com/volunteering VolunteerCUSU @VolunteerCUSU @VolunteerCUSU

Menter Prifysgol Caerdydd Os oes gennych syniad am fusnes neu fenter gymdeithasol, neu os ydych am ddatblygu sgiliau newydd i’ch helpu i fod yn weithiwr mwy mentrus, mae Menter Prifysgol Caerdydd yma i’ch cynorthwyo. Mae Menter Prifysgol Caerdydd yn dîm sydd â ar fyfyrwyr sydd yma i helpu myfyrwyr i gyrraedd eu llawn botensial, beth bynnag fo’u maes. Maen nhw’n cynnig digwyddiadau, gweithdai, cystadlaethau a chyngor, a gyda llaw, mae popeth yn RHAD AC AM DDIM! Bydd gweithgareddau Menter Prifysgol Caerdydd yn ymddangos unrhywle yn y Brifysgol, ond mae ein cartref ni yn Undeb y Myfyrwyr. Ewch i swyddfa Menter Prifysgol Caerdydd ar yr ail lawr. @CardiffUniE


16 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Cyngor i Fyfyrwyr

Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol a rhad ac am ddim drwy ein gwasanaeth Cyngor Myfyrwyr. Mae tîm Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig cyngor, gwybodaeth, eiriolaeth a chynrychiolaeth i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu ar ffurf galw heibio, apwyntiadau, e-bost a ffôn. Mae’r gwasanaeth hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau a digwyddiadau i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau, yn ogystal â hyrwyddo a chefnogi iechyd a lles myfyrwyr. Yn ogystal â chynnig cyngor cyffredinol, mae gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn arbenigwyr mewn helpu myfyrwyr â materion landlord a thenantiaid yn ogystal â materion eraill ynghylch tai. Mae’r tîm hefyd yn cynnig cyngor ar faterion academaidd gan gynnwys apeliadau a chwynion.

Cysylltwch â ni: 029 2078 1410 cardiffstudents.com/advice Advice@Caerdydd.ac.uk Mae sesiynau galw heibio Cyngor i Fyfyrwyr (adeg y tymor) ar gael yn ystod yr wythnos rhwng 10:00 – 15:00 ac eithrio dydd Iau, pan fo ar agor rhwng 13:00 – 15:00. Tu allan i’r tymor cysylltwch â Cyngor i Fyfyrwyr rhwng 10am a 4pm i drefnu apwyntiad. Campws Mynydd Bychan: Mae sesiynau cynghori ac apwyntiadau ar safle Mynydd Bychan ar gael ar ddydd Llun. Ewch i cardiffstudents.com/advice am yr amseroedd mwyaf cyfoes neu ffoniwch 029 2078 1410.


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 17

Siopau a Gwasanaethau Siop TG Cafodd y Siop TechGwyb ei sefydlu gan y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr i ddarparu gwasanaeth TechGwyb llawn i bob myfyriwr. Maen nhw’n cynnig ystod eang o nodiaduron, cyfrifiaduron desg, offer ac eitemau perifferol, yn ogystal ag ystod eang o offer swyddfa, am brisiau cystadleuol. Mae’r Siop TechGwyb hefyd yn cynnig cynlluniau talu fforddiadwy ar ein holl liniaduron a chyfrifiaduron desg. Angen cymorth? Mae’r Siop TechGwyb yn darparu gwasanaeth trwsio cyfrifiaduron cyflym ac effeithlon. Mae eu ffioedd diagnosis yn dechrau o £15 a gellir trwsio fel arfer o fewn 24 awr. 020 2078 1454 theitshop.cardiffstudents.com theitshop@Caerdydd.ac.uk Gosod Myfyrwyr Caerdydd Mae Gosod Myfyrwyr Caerdydd yn asiantaeth gosod y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei berchen a’i redeg. Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ffi asiantaeth neu ffi weinyddol. cardiffstudentletting.com 029 2078 1525 cardiffstudentletting

Trinwyr Gwallt Cutting Edge Wyddech chi fod gan Undeb y Myfyrwyr salon trin gwallt ei hun? Ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb, mae Cutting Edge yn cynnig prisiau rhad ar doriadau, lliwiau a llawer mwy! Cadwch lygad am gynigion arbennig gydol y flwyddyn ar cardiffstudents.com. I wneud apwyntiad, ffoniwch: 029 2078 1500 Y Cwrt Bwydydd yn Y Plas Pan fydd angen bwyd arnoch, bydd eich chwant yn ein dwylo. O saladau iachus i fyrgyr neu sglodion, ein hallfeydd bwyd yn Y Plas yw’r lle perffaith i fynd ar y ffordd i’ch darlithoedd. Maen nhw ar yr 2il lawr gyda llawer o seddi, wifi am ddim a socedi i blygio eich gliniadur sgwrsio, astudio, bwyta, yfed. Mae ein cwrt bwydydd yn cynnwys Starbucks, bar nwdls, bar salad ac allfa bwyd brys. Hefyd mae’r Pantri yn y brif fynedfa ar yr 2il lawr yn gwerthu pasteiod a chrystau gydol y dydd. Y Taf Y Taf yw tafarn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein tafarn yn berffaith ar gyfer peint tawel neu rywbeth bach i fwyta ac mae yna hefyd gwis anhygoel, cerddoriaeth fyw a bargeinion gwych hefyd. Gwasanaethau Eraill Hefyd mae gan Undeb y Myfyrwyr wasanaethau eraill gan gwmnïau fel WHSmith, Siop Lyfrau Blackwell’s, Magic Wrap, Santander a Print Centre.


18 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Digwyddiadau Gwych Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sydd ag amryw o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n ddifyr pan nad ydych chi’n gweithio’n galed. Rydym wedi creu rhestr fer yma ond nid popeth mo hyn – rydym yn argymell crwydro, chwilio a chadw llygad allan er mwyn manteisio ar eich cyfnod yn y ddinas. G yl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Digwyddiad gwreiddiol Caerdydd a g yl fwyd fwyaf y ddinas gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rhowch gynnig ar, a phrynwch y gorau o gawsiau ffermdy, bara arbenigol, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gwirodlynnau arbenigol. Mae yna gerddoriaeth fyw gydol y digwyddiad hefyd i’ch cadw chi’n ddifyr. Tân Gwyllt Mae arddangosiad tân gwyllt blynyddol Caerdydd yn digwydd ddechrau mis Tachwedd i ddathlu Noson Guto Ffowc ac mae Round Table Caerdydd wedi ei drefnu am 30 blynedd a mwy. Fe’i cynhelir ym Mharc Biwt gyda’r castell yn y cefndir ac mae’n gyfle gwych i lapio’n gynnes a mwynhau’r goleuadau llachar. G yl y Gaeaf yng Nghaerdydd Yng Ng yl y Gaeaf, mae’r Ganolfan Ddinesig yn troi’n wynfyd Nadoligaidd sy’n cynnwys llawr sglefrio awyr agored, reidiau yn ogystal â bwyd blasus a stondinau diod.

Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS Rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac mae yna awyrgylch anhygoel yn y ddinas yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwyliwch Gymru’n herio Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban ar sgriniau teledu o gwmpas y ddinas neu, petai chi’n lwcus iawn, gallwch gael gafael ar docyn i wylio gêm yn fyw yn Stadiwm y Mileniwm.

Digwyddiadau Bwyd Stryd Mae Caerdydd yn dod yn ddinas fwyfwy enwog am fwyd ac mae ganddi ddigon o gaffis a thai bwyta gwych i gadw’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn hapus. Mae Bwyd Stryd wedi ymuno â’r duedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau hynod boblogaidd o gwmpas y ddinas.


Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 19

Tafwyl Mae Tafwyl yn yl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl, sef cyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i tafwyl.org. Cystadleuaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd Ddydd Sadwrn 26ain Mawrth 2016, bydd Cystadleuaeth Hanner Marathon y Byd IAAF/Prifysgol Caerdydd yn cyrraedd Caerdydd. Nid yn unig bydd athletwyr gorau’r byd yn dod i strydoedd Caerdydd, ond bydd y ras yn agored i lu o gyfranogwyr. Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle gwych i bobl o bob oedran a phob gallu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth y byd. Dim ond 25,000 o lefydd sydd felly os ydych yn barod am her, cofrestrwch yma: cardiff2016.co.uk/register/ Farsiti Cymru Dechreuodd Farsiti Cymru 19 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae cymaint mwy iddi heddiw. Mae Farsiti Cymru yn ddiwrnod llawn digwyddiadau gyda thimoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn 30 a mwy o gampau i gynrychioli eu prifysgol. Bydd y diwrnod yn gorffen gyda gêm rygbi’r dynion o flaen miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol.

Digwyddiadau Eraill Cofiwch edrych yn Motorpoint Arena Caerdydd am gerddoriaeth fyw a gigs comedi yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, sy’n cynnal sioeau cerdd, operâu, bale a pherfformiadau theatr a dawns. Hefyd mae yna ddewis gwych o orielau celf o gwmpas y ddinas sy’n amrywio o ran maint a thestun, o beintiadau i ffotograffiaeth a cherflunwaith.


20 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Map o’r campws A1

A2

16

17

B1

ELD AV

AV

SUMMERFI

LD

FIE

H AT

HE

AVENUE

EDINGTON

CLODIAN AD RO

INGLEFIEL

D AVENUE

LLANISHE B2N STR EET

MANOR STR

EET

TALYGARN STR

T EE TR

ST

RY S

D

BU ES WK

TE EE

T

T

EE

DA N

CE

EN

BE

IE

RT

C3L ST

ST

RS

T

ST

RE

RE

T

TIA ET

C4

ET

US S T TREE

EE

T Y ST NRO

GLE

12

REE

H ST

POC

KEP

ARR

13

AN

RIS HAR

STREET

EET

2

CROFT

STR

1

7

ET

TRE

FA S

T H ST OR

RD

FO

9

EET

STR

RTH CYFA

W TAL

ST

3

D4

BED

10

D3

LL

11

T

EET

STR

TRE

SSE RU

D2

REET

TR

15

D1

T ED S

REET A ST

REET

T LD S

YS

E

TT

PLAC

LE ST

DIAN

NESS

INVER

MINISTER

REET A ST BELL

ARA

ST

14

A DON

IS TR AN LL ST HIRWAIN M ER RT ST THTREHERBE YR ST RETREORKY ET

ANG

T AN

R ST

FL OR

RO

ST

EE

T

EN

ALFR

PE NT

ES

SP

DARRAN

YR CH

C2

T

TR

TR

RM AN

ET

RS

UC

NO

EE

GF DO

DI

TR

IEL

MA L ES

RE

BR

PL

VA N

ST

ES

CH

TO N

G GA ELL RD IGA EN ER S

C1

ES

ITH

WH ITC HU R

M

BR

LIS

ST RE ET

CO S

DA R

NY TH ST

REET AER ST CW M

GELLIG

GWEN

EF AN

RE

TS

ET

TR

EE

T

EET

PARTRI

ELM

DGE RD

STREE

T

4

6 5 8 SS

O CR NG T LO REE ST


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.