Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 1
title
Your guide toate u Postgradin life cardiff
2 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cynnwys 3 Croeso oddi wrth IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig 4 Eich Undeb Myfyrwyr (Cathays a Pharc y Mynydd Bychan) 5
Eich Swyddogion Etholedig
Cadwch mewn cysylltiad Rydyn ni’n gwybod eich bod chi’n bobl brysur, felly rydyn ni am ei gwneud hi mor syml â phosib i chi gadw’n gyfoes â’r hyn sy’n digwydd o gwmpas y campws. E-bost pythefnosol
7 Cymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig Caerdydd
10–11 Llais Myfyrwyr: democratiaeth yn eich Undeb Myfyrwyr
Bob pythefnos, bydd IL y Myfyrwyr Ôlraddedig, Alex Kuklenko, yn anfon e-bost atoch chi i sôn am yr hyn sy’n digwydd. O ddiweddariadau pwysig, pethau i gymryd rhan ynddynt a newyddion eraill, bydd hwn yn werth ei ddarllen.
12–13 Gweithgareddau
Gwefan
14 Siop Swyddi a’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau
Rydyn ni wedi datblygu ardal o’n gwefan ar eich cyfer chi. Ewch i cardiffstudents. com/postgrad i ganfod mwy.
8–9
Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr
15 Gwirfoddoli Caerdydd a Menter Myfyrwyr Caerdydd
Cyfryngau Cymdeithasol
16 Cyngor Myfyrwyr
cardiffstudentspostgrad
17 Siopau a Gwasanaethau
@PostgradCSU
18–19 Digwyddiadau gwych 20
Map o’r campws
12-13 Gweithgareddau
Digwyddiadau gwych
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 3
Croeso i Gaerdydd! Croeso i ôl-raddedigion newydd Prifysgol Caerdydd. I’r rheini sy’n dychwelyd i Gaerdydd ar gyfer astudiaeth ôl-raddedig – croeso nol. Fel myfyriwr ôl-raddedig yng Nghaerdydd, rydych yn awtomatig yn aelod o Undeb y Myfyrwyr. Mae hyn yn golygu fod gennych fynediad i amrywiaeth gwych o gymdeithasau, clybiau chwaraeon a chydgysylltiadau sy’n gweithredu ar draws yr Undeb. Rydych hefyd yn cael eich cynrychioli a’ch cefnogi gan Dîm Sabothol etholedig a nifer o aelodau staff ymroddedig. Yn yr Undeb, rydym yn ymrwymo i wneud yn siw ˆ r eich bod yn cael y profiad gorau posibl yn ystod eich amser yng Nghaerdydd. Gwnawn hyn drwy eich cynrychioli i’r brifysgol ar faterion academaidd, cynnig gweithgareddau cymdeithasol a digwyddiadau, a chefnogi eich pryderon ynglyˆn â lles. P’un ai eich bod yn anelu at lwyddiant yn eich cwrs a Addysgir, neu Ymchwil, rydym eisiau darparu gymaint o gyfleoedd a phosibl i chi – o wneud yn siw ˆ r fod gennych y cyfleusterau i gynnal eich ymchwil, neu’r cyfle i ymrwymo i gyrsiau datblygu sgiliau, i gael y cyfle’n syml i integreiddio i’r gymuned ôl-raddedig ymhellach. Rydym yma i roi grym i chi a’ch profiad academaidd, a gwneud yn siw ˆ r fod eich llais yn cael ei glywed. Fel yr IL Myfyrwyr Ôl-raddedig, rwy’n edrych ymlaen yn fawr i weithio gyda
cymaint ohonoch â phosib o fewn y gymuned ôl-raddedig, fel ein bod yn gallu siapio profiad bob unigolyn yn y modd mwyaf effeithiol yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, mae croeso i chi ddanfon neges. Gallwch hefyd ddod o hyd i fi ar drydydd llawr Undeb y Myfyrwyr! Alex IL y Myfyrwyr Ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk @PostgradCSU
4 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Eich Undeb Myfyrwyr
Campws Cathays Mae prif adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc. Mae gan y lleoliad pwrpasol hwn bum llawr, tafarn, ardal ddysgu gymdeithasol 24-awr, allfeydd bwyd, ystod o siopau, llefydd cyfarfod ac ymarfer, lleoliad aml-bwrpas ar gyfer digwyddiadau gyda’r dydd a gyda’r nos, darlithfa a gorsaf radio. Mae Undeb y Myfyrwyr yn le gwych i ymlacio, cwrdd â ffrindiau, cael cymorth, canfod swydd, bwyta a chymryd rhan gyffredinol mewn bywyd myfyrwyr. Campws y Mynydd Bychan Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan yn yr IV Lounge ar lawr gwaelod adeilad Neuadd Meirionnydd. Mae’r
Undeb cyswllt hwn yn rhoi mynediad i chi i ystod o wasanaethau a ddarperir ar Blas y Parc, gan gynnwys Siop Swyddi, Gosod Myfyrwyr Caerdydd, Cyngor i Fyfyrwyr, Gwirfoddoli Caerdydd a chyrsiau Datblygu Sgiliau. Gallwch brosesu sieciau clybiau chwaraeon a chymdeithasau yma yn ogystal â phrynu offer ysgrifennu a nwyddau Prifysgol Caerdydd. Hefyd mae gennym ni gyfleusterau i chi fwcio cyfarfodydd gydag unrhyw un o’n Swyddogion Etholedig. Mae Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan wedi cael ei ailddatblygu yn ystod haf 2015 felly byddwn ni’n edrych yn well nag erioed. Caiff Undeb y Myfyrwyr yn y Mynydd Bychan ei redeg gan Neil felly dewch i ddweud helo!
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 5
Swyddogion Etholedig 2016-17 Mae’r Swyddogion Etholedig yn dîm o fyfyrwyr sy’n cael eu dewis gan fyfyrwyr eraill i arwain Undeb y Myfyrwyr. Maen nhw’n cynrychioli barn myfyrwyr ac yn arwain gweithgareddau ym mhob agwedd o fywyd myfyrwyr fel Addysg i israddedigion, ôl-raddedigion a myfyrwyr gofal iechyd, chwaraeon, cymdeithasau a lles. Caiff y Swyddogion Etholedig eu harwain gan Lywydd Undeb y Myfyrwyr.
Cewch gwrdd â’ch Swyddogion Etholedig ar 3ydd llawr adeilad Undeb y Myfyrwyr neu ar cardiffstudents.com
6 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Canolfan y Graddedigion
Mae Canolfan y Graddedigion yn adeilad Undeb y Myfyrwyr ar Blas y Parc ac yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau i wella profiad ôl-raddedigion. Os ydych chi ym Mharc y Mynydd Bychan, cewch fynediad i Ganolfan y Graddedigion, ar 2il lawr yr Ysgol Feddygaeth, sydd ar agor 7 diwrnod yr wythnos, 24 awr y dydd. Mae Canolfan y Graddedigion yn cynnig teithiau diwrnod a digwyddiadau cymdeithasol ledled y brifysgol i’ch helpu chi gael seibiant o’ch holl ymchwil a rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd. Mae yna ardal gymdeithasol i chi ymlacio sydd â theledu, cegin, balconi awyr agored yn ogystal ag ystafelloedd cyfarfod ar gyfer grwpiau astudio, seminarau, cyfweliadau a chyflwyniadau. Felly p’un ai’ch bod chi am astudio’n unigol neu mewn gr p,
mae eu hardaloedd anffurfiol yn addas i chi. Mae’r ardaloedd hyn ar gyfer bwciadau gan gynnwys partïon ysgol neu ddigwyddiadau rhyngddisgyblaethol. Hefyd mae gan Ganolfan y Graddedigion rwydwaith gyfrifiaduron a chyfleusterau argraffu. Mae Canolfan y Graddedigion yn Undeb y Myfyrwyr ar agor rhwng 08:00 – 00:00 ddydd Llun i ddydd Gwener a 12:00 – 00:00 ddydd Sadwrn i ddydd Sul. Ewch i ganfod mwy a chysylltwch â ni: 029 2087 4748 cardiff.ac.uk/gradc Grad-Centre@Caerdydd.ac.uk gradcentre @grad_centre
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 7
Cydgymuned Myfyrwyr Ôl-raddedig Caerdydd Croeso ôl-raddedigion newydd! Hoffai’r Pwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig ddymuno croeso cynnes mawr i chi, a danfon ein llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio gradd ôl-raddedig yma ym Mhrifysgol Caerdydd! Pan ddechreuodd y gymdeithas, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, nid oedd yna unrhyw gymuned ôl-raddedig trawscampws. Yn ein blwyddyn gyntaf, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau a dyfodd cymuned fach ond cadarn. Fe ymgyrchom ni am gyflwyno rôl sabothol llawn amser ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig (ar gyfnod y cyflwyno dim ond y seithfed o’r fath rôl yn y wlad gyfan) ac fe gafodd ein cyflwyniadau eu cydnabod pan ddaethon yn ail yn y Noson Fawreddog Cymdeithasau blynyddol. Yn ein hail flwyddyn rydym wedi parhau i adeiladu ar ein llwyddiannau. Fe gyflwynom gwis dafarn bob pythefnos a ddaeth yn boblogaidd iawn yn gyflym. Fe drefnom ni ddigwyddiadau “blasu” gyda chlybiau a chymdeithasau eraill, a rhoddodd y cyfle i fyfyrwyr ôl-raddedig i drio’r amrywiaeth o gymdeithasau a chwaraeon sydd gan Gaerdydd i’w gynnig. Cynhaliwyd nosweithiau ffilmiau, heb sôn am ein parti Nadolig a’n dathliad Gwyˆl Sant Padrig. Daeth popeth i ben llynedd gyda’n
dawns haf ôl-raddedigion traws-campws cyntaf, digwyddiad a oedd yn llawer mwy poblogaidd na’r oedden yn ei ddisgwyl! Yna fe enillodd Cymdeithas Myfyrwyr Ôl-raddedig ‘Cydgysylltwyr y Flwyddyn’ yn Noson Fawreddog Cymdeithasau. Rydym yn gyffrous iawn o dwf y gymuned ôl-raddedig dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ac rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu tyfu hyd yn oed yn gryfach gyda’ch help chi. Edrychwch ar ein digwyddiadau cymdeithasol sydd ar y gweill drwy’r flwyddyn a chymerwch ran. O bobi, dawnsio a heicio, i bartïon a phrydau bwyd – mae yna rywbeth i bawb. Felly, dewch o hyd i ni ar Facebook (facebook.com/ CardiffPGA) a hoffwch ni fel na fyddwch yn colli dim byd; gallwch hefyd ddanfon e-bost atom ar PostgraduateAssociation@ Caerdydd.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu gallwch alw heibio ein stondin yn y Ffair Gymdeithasau ym mis Medi am sgwrs. Felly, unwaith eto, croeso i Gaerdydd – edrychwn ymlaen i’ch gweld chi mis Medi! Ar ran pwyllgor Cymdeithas Myfyrwyr Ôlraddedig, Tom Tollefsen Cadeirydd y Pwyllgor
8 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cynrychiolwyr Academaidd MyfyrwyrAcademaidd Myfyrwyr Beth yw Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Mae Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn wirfoddolwr myfyrwyr sy’n lleisio sylwadau, pryderon a chwestiynau o’u cyrsiau i’w hysgolion. Eu rolau yw casglu adborth o’u cyrsiau a’i anfon at Baneli Staff Myfyrwyr (PSM) a Byrddau Astudiaeth i sicrhau bod lleisiau’r myfyrwyr yn cael eu cymryd o ddifrif ar bob lefel. Mae gennym gyfanswm o tua 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynrychioli dros 30,000 o fyfyrwyr. Dewch yn Gynrychiolydd Mae cynrychiolwyr yn chwarae rhan annatod o rymuso lleisiau myfyrwyr ac rydym wastad yn edrych am recriwtiaid newydd. Nid yw profiad blaenorol yn angenrheidiol; y cyfan sy’n ofynnol yw brwdfrydedd a meddwl agored. Bydd y tîm Llais Myfyrwyr yn yr Undeb Myfyrwyr yn eich hyfforddi a chynnig cymorth, felly byddwch yn barod ar gyfer eich rôl. Os oes gennych ddiddordeb, mae croeso i chi gysylltu â StudentReps@Caerdydd. ac.uk a gall y tîm anfon manylion y Cydgysylltydd Cynrychiolydd Myfyrwyr perthnasol atoch. Fel arall, gallwch gysylltu â swyddfa eich Ysgol a gallent anfon y manylion atoch.
Beth yw’r manteision i mi? Fel ôl-raddedigion, mae eich anghenion addysgol yn aml yn arbenigol ac mae angen sylw penodol arnynt. Felly, trwy ddod yn Gynrychiolydd gallwch gymryd gafael ar eich addysg, gallwch helpu i lunio eich cwrs neu brofiad ymchwil ac amlygu unrhyw welliannau. Mae dod yn Gynrychiolydd yn gyfle perffaith i ymgysylltu â myfyrwyr sy’n ymchwilio ac yn astudio pynciau tebyg, byddwch yn cwrdd â llawer o bobl. Cewch gyfle i adeiladu rhwydweithiau gyda staff y Brifysgol i’ch helpu ymgysylltu ag uwch academyddion. Gallwch gymryd rhan mewn sicrwydd ansawdd a gwella safonau academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. Cymerwch ran, dewch yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyriwr! Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch â: Alex Kuklenko – Is-lywydd Myfyrwyr ôl-raddedig VPpostgraduate@Caerdydd.ac.uk PgradOfficerCSU @PostgradCSU
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 9
Defnyddiwch eich Cynrychiolydd Pa fath o faterion mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymdrin â hwy? Gall Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr anfon unrhyw sylwadau cadarnhaol neu negyddol am yr Ysgol, pwnc neu fodiwl drwy fynychu Paneli Staff Myfyrwyr sy’n digwydd tua unwaith y tymor. O ganlyniad o gael eich hyfforddi i arwain myfyrwyr at y bobl berthnasol, mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr hefyd yn gallu darparu llawer o wybodaeth ynglyˆn â’r Gwasanaethau bydd ar gael o’r Brifysgol a’r Undeb Myfyrwyr.
Sut y gallaf gysylltu â fy Nghynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr? Os hoffech rannu adborth am eich cwrs gyda’ch Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr, gallwch fewngofnodi i cardiffstudents.com/reps a defnyddio’r nodwedd “Find my Rep”. Neu gallwch anfon e-bost at StudentsReps@Cardiff. ac.uk neu bicio draw i drydydd llawr yr Undeb Myfyrwyr. Gallwch hefyd dderbyn e-byst o’ch cynrychiolydd yn gofyn am adborth. Sut allai ddarganfod rhagor? cardiffstudents.com/reps StudentReps@Caerdydd.ac.uk Cardiff Student Voice @CU_StudentVoice
10 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Llais Myfyrwyr yn cwrdd unwaith y mis, yn cyfrannu at benderfyniadau pwysig ac yn gweithredu fel bwrdd ymgynghori. Bydd y Pwyllgor Gwaith yn cynnwys tri myfyriwr ôlraddedig a addysgir, tri myfyriwr ôlraddedig ymchwil ac aelod o bwyllgor Cymdeithas yr Ôl-raddedigion; y cadeirydd fydd yr Is-Lywydd Ôl-raddedig. Cadwch lygad ar eich e-byst am fanylion ynglyˆn â sut y gallwch gyfranogi eleni.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn fudiad aelodaeth democrataidd, a’i brif ddiben yw cynrychioli eich buddiannau chi a’ch cyd-fyfyrwyr i’r Brifysgol a chymdeithas yn ehangach. Yn y gorffennol, mae’r Undeb wedi ymladd i osod ffioedd ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, dros lyfrgelloedd 24 awr a rhyddhau amserlenni arholiadau ynghynt. Mae yna nifer o ffyrdd y gallwch fynd ati i godi materion y byddwch eisiau i’r Undeb fynd i’r afael â nhw. Mae disgrifiad cryno isod o’r gwahanol grwpiau sy’n arwain ein gwaith a sut y gallwch chi gyfranogi. Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig Hon fydd ail flwyddyn i Undeb Myfyrwyr gael Pwyllgor Gwaith Ôl-raddedig. Nod y pwyllgor fydd hyrwyddo a gwella profiad ôl-raddedigion yng Nghaerdydd, yn ogystal â gweithredu fel cyswllt rhwng myfyrwyr ôl-raddedig a’r IsLywydd Ôl-raddedig. Bydd y pwyllgor
Senedd y Myfyrwyr Mae Senedd y Myfyrwyr yn creu ac yn newid polisi Undeb y Myfyrwyr. Golyga hyn eu bod nhw’n penderfynu pa newidiadau neu welliannau y dylem eu gwneud neu lobïo drostynt. Mae Senedd y Myfyrwyr yn cynnwys dau ddeg pump o seneddwyr a etholir ym mis Hydref mewn Is-Etholiadau. Mae’r Senedd yn cwrdd pum gwaith y flwyddyn ac mae’r cyfarfodydd yn agored i fyfyrwyr oll. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cynnig neu eitem i’w gosod ar yr agenda ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, a gall unrhyw fyfyriwr fynychu’r cyfarfod a dadlau o blaid neu yn erbyn y pynciau sydd ar yr agenda. Mae’r agenda, y cofnodion a manylion y cyfarfod nesaf i’w gweld yma cardiffstudents.com/senate Os oes rywbeth y gallwch feddwl all wneud profiad myfyrwyr ôl-raddedig y well o fewn undeb y myfyrwyr, cyflwynwch gynnig!
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 11
Pwyllgor Archwilio Mae’r Pwyllgor Archwilio’n cynnwys 10 myfyriwr etholedig sy’n dal eich cynrychiolwyr (gan gynnwys Llywydd Undeb y Myfyr a’r IL Ôl-raddedig) i gyfrif. Maent yn gwasanaethu i archwilio adroddiadau Swyddogion Etholedig er mwyn sicrhau eu bod yn gweithio er eich budd chi. Gall unrhyw fyfyriwr ymgeisio ar gyfer aelodaeth o’r Pwyllgor Archwilio mewn is-etholiad a gynhelir ym mis Hydref. Byddant yn cwrdd tua wyth gwaith y flwyddyn, ar nos Fawrth. Gallwch weld beth mae’r swyddogion yn gweithio arno a chofnodion o gyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio yn cardiffstudents. com/your-voice/elected-officers/ Etholiadau Gan ein bod yn fudiad democrataidd, caiff pob swydd gynrychioli, sydd â’r pw ˆ er i wneud penderfyniadau, ei llenwi drwy etholiad traws-gampws. Mae dwy set o etholiadau bob blwyddyn, a chynhelir y rhai cyntaf ym mis Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr a’r Pwyllgor Archwilio. Cynhelir yr ail set o etholiadau yn Chwefror i ethol y Swyddogion llawnamser sy’n cael eu talu a’r naw Swyddog Ymgyrchoedd. Mae’r tîm Swyddogion llawn-amser yn cynnwys y Llywydd a chwe Is-Lywydd, gan gynnwys yr IsLywydd Myfyrwyr Ôl-raddedig. Swyddi
gwirfoddol sydd gan y Swyddogion Ymgyrchoedd, ac mae myfyrwyr yn ymgymryd â’r rhain ochr-yn-ochr â’u hastudiaethau. Maent yn cynrychioli grwpiau lleiafrifol a rhyddhad i Undeb y Myfyrwyr ac i’r Brifysgol. Mae angen amrywiaeth o leisiau o fewn y swyddi hyn, ac rydym yn chwilio am ôl-raddedigion i sicrhau bod eu lleisiau i’w clywed! Mae dwy brif ffordd o gyfranogi - gallwch gyflwyno eich hun ar gyfer swydd sydd o ddiddordeb i chi, neu gallwch bleidleisio dros yr ymgeisydd fydd yn eich barn chi’n gwneud gwaith da yn y swydd. Is Etholiad - Enwebiadau’n Agor 19/09/16. Prif Etholiad - Enwebiadau’n Agor 24/11/16. Gallwch ganfod mwy am etholiadau yn cardiffstudents.com/ your-voice/elections/ neu drwy e-bostio Elections@Caerdydd.ac.uk
12 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Gweithgareddau Cymdeithasau Mae ymuno â chymdeithas neu bwyllgor yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ffordd wych o rwydweithio, cymryd rhan mewn diddordeb neu eich cysylltu chi â phobl o feddwl tebyg. Mae yna dros 180 o gymdeithasau gan gynnwys cymdeithasau ar sail cwrs, grwpiau crefyddol, cymdeithasau rhyngwladol yn ogystal â chymdeithasau gwleidyddol a diwylliannol. Chwaraeon Caiff ein clybiau chwaraeon eu cefnogi gan yr Undeb Athletau, sy’n gofalu am fyfyrwyr sy’n rhedeg dros 60 o glybiau chwaraeon, gan gynnwys chwaraeon unigol a thîm, gweithgareddau awyr agored, chwaraeon d r a chrefft ymladd. Cydgymunedau Mae ein cydgymunedau myfyrwyr yn rhad ac am ddim a gall unrhyw fyfyriwr Prifysgol Caerdydd fod yn aelod. Mae pob cydgymuned yn cynrychioli gr p arbennig fel myfyrwyr LHDT+, myfyrwyr croenddu a lleiafrifoedd ethnig neu fyfyrwyr ôl-raddedig, ac yn ymgyrchu ar faterion all effeithio arnyn nhw. Gallwch ganfod mwy am ein cydgymunedau ar cardiffstudents.com/ associations. Gallwch ddarllen mwy am Gydgymuned y Myfyrwyr Ôl-raddedig ar dudalen 7.
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 13
Ffyrdd gwych eraill i gymryd rhan Cyfryngau Myfyrwyr Mae gennym ni ddiwylliant cyfryngau sy’n ffynnu yn Undeb y Myfyrwyr gyda gr p brwdfrydig o fyfyrwyr yn cynhyrchu ein papur newydd wythnosol, Gair Rhydd, a’n cylchgrawn misol, Quench, yn ogystal â gwirfoddoli gydag Xpress Radio, ein gorsaf radio, a CUTV, ein gorsaf deledu ar-lein. Gallwch gymryd rhan mewn cyfryngau myfyrwyr unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Gall fod yn ffordd wych o berffeithio eich sgiliau newyddiaduraeth yn ogystal â darparu ystod amrywiol o brofiad ar gyfer y dyfodol. Dysgwch Iaith Dramor Rhowch gynnig ar iaith newydd neu wella iaith bresennol, am ddim! Mae Ieithoedd i Bawb yn rhoi cyfle i chi wella eich sgiliau iaith ochr yn ochr â’ch astudiaethau. Mae eu hopsiynau astudio hyblyg yn golygu bod modd i chi ddysgu mewn ffordd sy’n addas i chi, boed yn wythnosol, yn ddwys neu’n annibynnol. P’un ai’ch bod chi’n dechrau o’r dechrau neu am wella eich sgiliau iaith presennol, rydyn ni’n cynnig rhywbeth ar gyfer pob gallu. Rydym yn cynnal cyrsiau mewn ystod eang o ieithoedd ac yn cynnal dosbarthiadau ar ein campysau ym Mharc Cathays a’r Mynydd Bychan. I ganfod mwy, ewch i cardiff.ac.uk/modern-languages.
Rhowch Gynnig Arni Mae Rhowch Gynnig Arni yn galendr llawn o weithgareddau anhygoel i chi roi cynnig arnynt tra eich bod chi’n fyfyriwr yng Nghaerdydd. Mae’n rhoi cyfle i chi roi cynnig ar yr holl bethau mae ein cymdeithasau yn eu gwneud, cymryd rhan mewn chwaraeon, dysgu iaith newydd, datblygu sgiliau hanfodol, gwirfoddoli, mynd ar deithiau diwrnod a phenwythnos, a llawer llawer mwy. Yr amcan yw eich annog chi i roi cynnig ar bethau newydd, cwrdd â phobl newydd a chael profiad anhygoel yng Nghaerdydd.
14 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Swyddi a Sgiliau Siop Swyddi Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio ochr yn ochr â’ch cwrs ôlraddedig, mae’r Siop Swyddi’n lle gwych i ddechrau. Caiff y Siop Swyddi ei rhedeg gan Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth cyflogi am ddim i holl fyfyrwyr y Brifysgol. Mae cyfleoedd gweithio ar gael yn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a chyflogwyr lleol, sy’n cynnig cyflogaeth am dâl sy’n gweddu eich ymrwymiadau academaidd. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/ Jobshop. Mae’n ffordd wych o ennill arian ychwanegol a rhoi profiad gwaith ar eich CV tra eich bod chi’n astudio!
Y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Mae’r Gwasanaeth Datblygu Sgiliau’n darparu ystod o gyrsiau sy’n bwriadu eich paratoi chi ar gyfer y farchnad gyflogaeth. Mae’r cyrsiau hyn yn amrywio o wella eich sgiliau trosglwyddadwy, codi eich hyder a gwella eich cyflogadwyedd yn gyffredinol. Cyflwynir tystysgrifau am gwblhau’r cyrsiau’n llwyddiannus ac maen nhw’n hynod boblogaidd ymysg cyflogwyr. Mae tri phrif faes i’r cyrsiau a gynigir gan y Gwasanaeth Datblygu Sgiliau: • Tystysgrif Datblygiad Proffesiynol • Sesiynau ychwanegol i helpu eich hyder a’ch cyflogadwyedd
CardiffJobshop
• Cyrsiau a achredir yn allanol
@CardiffJobshop
Ceir gwybodaeth fwy manwl am y cyrsiau hyn ar cardiffstudents.com/jobs-skills.
Jobshop@Caerdydd.ac.uk 029 2078 1535
Cysylltwch â ni 029 2078 1489 SDS@Caerdydd.ac.uk CardiffSDS @SDScardiff
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 15
Gwirfoddoli Caerdydd Mae gwirfoddoli’n ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol yn ystod eich cyfnod yng Nghaerdydd. Mae’n cynnig profiad gwaith gwerthfawr ar gyfer eich CV yn ogystal â rhoi cyfle i chi gwrdd â phobl newydd a mwynhau! Mae Gwirfoddoli Caerdydd yn cynnig ystod eang o brosiectau gwahanol a chyffrous sy’n gallu gweddu eich amserlen prifysgol. Mae llawer o fyfyrwyr yn gwirfoddoli ar brosiectau o gwmpas dinas Caerdydd ac yn ymroi eu hamser i helpu gwella bywyd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol eraill yn y gymuned leol a datblygu sgiliau, profiadau a chreu ffrindiau newydd drwy ei wneud. I ganfod mwy am Gwirfoddoli Caerdydd a sut i gymryd rhan, ewch i cardiffstudents. com/volunteering neu galwch heibio’u swyddfa yng Nghanolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli Undeb y Myfyrwyr pan fyddwch yn cyrraedd Caerdydd. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 09:00-17:00 ddydd Llun-dydd Iau a rhwng 09:0016:00 ar ddydd Gwener. cardiffstudents.com/volunteering VolunteerCUSU @VolunteerCUSU @VolunteerCUSU
Menter Prifysgol Caerdydd Mae bod yn fentrus yn golygu bod â’r hyder a’r sgiliau i ddod a syniadau’n fyw. P’un ai os ydych eisiau dechrau busnes, creu a thyfu prosiect cymunedol, neu cael argraff ar gyflogwr, rydym yma i’ch cefnogi. Rydym yn cynnal cyfres o weithdai a digwyddiadau drwy’r flwyddyn i roi profiad i chi a chyfleoedd i gyfarfod â phobl proffesiynol ysbrydoledig. Gallwch hefyd ennill rhoddion ariannol i helpu ddod a’ch syniadau’n fyw. Mae yna hefyd ymgynghorydd arbenigol a all roi arweinyddiaeth un ar un a chynnig gofod swyddfa rhydd. Dewch o hyd i ni yn y Ganolfan Sgiliau, Menter a Gwirfoddoli yn Undeb y Myfyrwyr. Enterprise@Caerdydd.ac.uk studententerprise @CardiffUniE
16 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Cyngor i Fyfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyngor cyfrinachol, diduedd ac annibynnol a rhad ac am ddim drwy ein gwasanaeth Cyngor Myfyrwyr. Mae tîm Cyngor i Fyfyrwyr yn cynnig cyngor, gwybodaeth, eiriolaeth a chynrychiolaeth i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Caiff y gwasanaeth ei ddarparu ar ffurf galw heibio, apwyntiadau, e-bost a ffôn. Mae’r gwasanaeth hefyd yn ymgymryd â gweithgareddau a digwyddiadau i ddatblygu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfrifoldebau, yn ogystal â hyrwyddo a chefnogi iechyd a lles myfyrwyr. Yn ogystal â chynnig cyngor cyffredinol, mae gwasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn arbenigwyr mewn helpu myfyrwyr â materion landlord a thenantiaid yn ogystal â materion eraill ynghylch tai. Mae’r tîm hefyd yn cynnig cyngor ar faterion academaidd gan gynnwys apeliadau a chwynion.
Cysylltwch â ni: 029 2078 1410 cardiffstudents.com/advice Advice@Caerdydd.ac.uk Gallwch gael mynediad i wasanaeth Cyngor i Fyfyrwyr yn Undeb y Myfyrwyr ar Gampws Cathays. Gallwch wneud cais am apwyntiad neu gyrraedd drwy ein gwasanaeth galw heibio dyddiol. Gallwch hefyd ffonio, e-bostio neu lenwi ffurflen ymholiadau ar-lein ar ein gwefan. Edrychwch ar cardiffstudents.com/ Advice am yr amseroedd i gyd neu ffoniwch 029 2078 1410.
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 17
Siopau a Gwasanaethau Siop TG Mae’r Siop TG yn cael ei ailwampio ar hyn o bryd ac fe fydd yn ailagor ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr ym mis Medi 2016. Fe fyddant yn cynnig amrywiaeth eang o lyfrau nodiadau, cyfrifiaduron, ategolion a eitemau perifferol, yn ogystal â amrywiaeth dda o ddeunydd ysgrifennu, i gyd am bris cystadleuol. Mae’r siop hefyd yn cynnig cynlluniau talu gliniaduron a chyfrifiadur. Angen cymorth? Gallwch gael gwasanaeth trwsio cyfrifiaduron cyflym ac effeithiol. Mae ffioedd diagnosis yn cychwyn ar £15 ac fel arfer yn cael eu cwblhau o fewn 24 awr. Bydd y siop hefyd yn cynnig gwasanaeth Swyddfa Bost.. 020 2078 1454 theitshop@Caerdydd.ac.uk Gosod Myfyrwyr Caerdydd Mae Gosod Myfyrwyr Caerdydd yn asiantaeth gosod y mae Undeb y Myfyrwyr yn ei berchen a’i redeg. Wedi’i leoli ar lawr gwaelod Undeb y Myfyrwyr, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim heb unrhyw ffi asiantaeth neu ffi weinyddol. cardiffstudentletting.com 029 2078 1525 cardiffstudentletting
Y Salon Wyddech chi fod gan Undeb y Myfyrwyr salon trin gwallt ei hun? Ar lawr gwaelod adeilad yr Undeb, mae Y Salon yn cynnig prisiau rhad ar doriadau, lliwiau a llawer mwy! Cadwch lygad am gynigion arbennig gydol y flwyddyn ar cardiffstudents.com. I wneud apwyntiad, ffoniwch: 029 2078 1500 Y Cwrt Bwydydd yn Y Plas Pan fydd angen bwyd arnoch, bydd eich chwant yn ein dwylo. O saladau iachus i fyrgyr neu sglodion, ein hallfeydd bwyd yn Y Plas yw’r lle perffaith i fynd ar y ffordd i’ch darlithoedd. Maen nhw ar yr 2il lawr gyda llawer o seddi, wifi am ddim a socedi i blygio eich gliniadur sgwrsio, astudio, bwyta, yfed. Mae ein cwrt bwydydd yn cynnwys Starbucks, bar nwdls, bar salad ac allfa bwyd brys. Hefyd mae’r Pantri yn y brif fynedfa ar yr 2il lawr yn gwerthu pasteiod a chrystau gydol y dydd. Y Taf Y Taf yw tafarn Undeb y Myfyrwyr. Mae ein tafarn yn berffaith ar gyfer peint tawel neu rywbeth bach i fwyta ac mae yna hefyd gwis anhygoel, cerddoriaeth fyw a bargeinion gwych hefyd. Gwasanaethau Eraill Hefyd mae gan Undeb y Myfyrwyr wasanaethau eraill gan gwmnïau fel WHSmith, Siop Lyfrau Blackwell’s, Magic Wrap, Santander a Print Centre.
18 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Digwyddiadau Gwych Mae Caerdydd yn ddinas fywiog sydd ag amryw o ddigwyddiadau i’ch cadw chi’n ddifyr pan nad ydych chi’n gweithio’n galed. Rydym wedi creu rhestr fer yma ond nid popeth mo hyn – rydym yn argymell crwydro, chwilio a chadw llygad allan er mwyn manteisio ar eich cyfnod yn y ddinas. G yl Bwyd a Diod Ryngwladol Caerdydd Digwyddiad gwreiddiol Caerdydd a g yl fwyd fwyaf y ddinas gyda thros 100 o gynhyrchwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Rhowch gynnig ar, a phrynwch y gorau o gawsiau ffermdy, bara arbenigol, siocledi wedi’u gwneud â llaw a gwirodlynnau arbenigol. Mae yna gerddoriaeth fyw gydol y digwyddiad hefyd i’ch cadw chi’n ddifyr. Tân Gwyllt Mae arddangosiad tân gwyllt blynyddol Caerdydd yn digwydd ddechrau mis Tachwedd i ddathlu Noson Guto Ffowc ac mae Round Table Caerdydd wedi ei drefnu am 30 blynedd a mwy. Fe’i cynhelir ym Mharc Biwt gyda’r castell yn y cefndir ac mae’n gyfle gwych i lapio’n gynnes a mwynhau’r goleuadau llachar. G yl y Gaeaf yng Nghaerdydd Yng Ng yl y Gaeaf, mae’r Ganolfan Ddinesig yn troi’n wynfyd Nadoligaidd sy’n cynnwys llawr sglefrio awyr agored, reidiau yn ogystal â bwyd blasus a stondinau diod.
Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS Rygbi yw camp genedlaethol Cymru ac mae yna awyrgylch anhygoel yn y ddinas yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwyliwch Gymru’n herio Lloegr, Ffrainc, Iwerddon, yr Eidal a’r Alban ar sgriniau teledu o gwmpas y ddinas neu, petai chi’n lwcus iawn, gallwch gael gafael ar docyn i wylio gêm yn fyw yn Stadiwm Principality.
Digwyddiadau Bwyd Stryd Mae Caerdydd yn dod yn ddinas fwyfwy enwog am fwyd ac mae ganddi ddigon o gaffis a thai bwyta gwych i gadw’r rhan fwyaf o arbenigwyr yn hapus. Mae Bwyd Stryd wedi ymuno â’r duedd yn y blynyddoedd diwethaf gyda digwyddiadau hynod boblogaidd o gwmpas y ddinas.
Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 19
Tafwyl Mae Tafwyl yn yl flynyddol a sefydlwyd gan Menter Caerdydd i ddathlu’r defnydd o’r Gymraeg yn y ddinas. Y prif ddigwyddiad yw Ffair Tafwyl, sef cyfuniad o ddigwyddiadau artistig, cerddorol, diwylliannol a chwaraeon, i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Am fwy o wybodaeth, ewch i tafwyl.org. Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd Mae Hanner Marathon Prifysgol Caerdydd bellach yn un o rasys ffordd mwyaf y Deyrnas Unedig. Dyma 2il hanner marathon mwyaf yn y byd, a ras ffordd mwyaf Cymru yn ogsytal â digwyddiad codi arian mwyaf Cymru. Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnar ar ddydd Sul 2il Hydref eleni. Cofrestrwch i gymryd rhan ar cardiffhalfmarathon.co.uk Farsiti Cymru Dechreuodd Farsiti Cymru 20 mlynedd yn ôl fel gêm rygbi rhwng myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae cymaint mwy iddi heddiw. Mae Farsiti Cymru yn wythnos llawn digwyddiadau gyda thimoedd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn 30 a mwy o gampau i gynrychioli eu prifysgol. Bydd y diwrnod terfynol yn gorffen gyda gêm rygbi’r dynion o flaen miloedd o fyfyrwyr o’r ddwy brifysgol.
Digwyddiadau Eraill Cofiwch edrych yn Motorpoint Arena Caerdydd am gerddoriaeth fyw a gigs comedi yn ogystal â Chanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd, sy’n cynnal sioeau cerdd, operâu, bale a pherfformiadau theatr a dawns. Hefyd mae yna ddewis gwych o orielau celf o gwmpas y ddinas sy’n amrywio o ran maint a thestun, o beintiadau i ffotograffiaeth a cherflunwaith.
20 Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Map o’r campws A1
A2
16
Ardal Astudio Ol-raddedigion 17
B1
B2
C1
C2
C3
C4
D3
D4
14
15 12 13 D1
D2
11 10
3 9
1
7 2
4
6 5 8