Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Page 1

Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Student Rep Coordinator Handbook 16/17 | 2.


Cynnwys 3.

Diolch!

4.

Dyddiadau Allweddol

5.

Beth yw eich prif gyfrifoldebau?

6.

Rôl Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr

7.

Rôl y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd

9.

Etholiadau a Phenodiadau

10. Cefnogi Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr 11. Lle dylid cyfeirio’r adborth myfyrwyr? 13. Cyfleoedd ar gael i Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr

Cyflwyniad gan Yr Athro Amanda Coffey Mae Prifysgol Caerdydd yn falch iawn o’r bartneriaeth gref sydd ganddo â chorff y myfyrwyr. Mae gennym draddodiad hir o gynrychiolaeth myfyrwyr yn y Brifysgol, fel un o’r ffyrdd rydym yn gweithio gydag ac ar gyfer ein myfyrwyr. Mae’r system cynrychiolaeth academaidd yn golygu y gall myfyrwyr o bob rhaglen ym mhob ysgol gael llais yn sut y gellir gwella eu haddysg a’u profiad myfyrwyr ehangach. Mae gan Cydlynwyr Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr rôl allweddol yn sicrhau fod y system cynrychiolydd academaidd yn fecanwaith effeithiol ar gyfer gwrando i’n myfyrwyr, ac i weithio gyda nhw i wella profiadau o astudio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r Cydlynwyr hefyd yn sicrhau bod y system Cynrychiolwyr yn cael ei diwnio’n briodol ar gyfer pob ysgol ac ar draws ein hystod lawn o raglenni. Diolch i chi am ysgwyddo rôl hanfodol.

YR ATHRO AMANDA COFFEY Dirprwy Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd


Diolch! Bydd y gwaith a fyddwch yn gwneud eleni yn helpu atgyfnerthu a rhoi grym i lais myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd. Am yr ymdrechion hyn, hoffem ddweud diolch mawr i chi, p’un os ydych wedi bod yn Gydlynydd Cynrychiolydd Myfyriwr am nifer o flynyddoedd, neu os ydych newydd ddechrau’r rôl. Ers mis Awst 2014, mae’r Tîm Llais Myfyriwr yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi rheoli strwythur Cynrychiolaeth Academaidd Myfyrwyr ar draws y Brifysgol. Yn yr amser hyn, mae yna lawer o ddatblygiadau swyddogol mewn ymgysylltu boed hynny y nifer o sgyrsiau ymsefydlu, nifer y cynrychiolwyr myfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi neu’r maint o adborth a gasglwyd yn Wythnos Siarad. Ond fyddai dim o’r pethau hyn wedi digwydd heb ein gwirfoddolwyr myfyrwyr ymroddedig, ac ni fyddai chwaith wedi digwydd heb bartneriaeth gref gyda’r Tîm Ymgysylltu Myfyrwyr. Hefyd, ni fyddai’r cyflawniadau hyn wedi digwydd heb gefnogaeth ehangach Prifysgol Caerdydd ac ymrwymiad pob Cydlynydd Cynrychiolydd Myfyrwyr. Ym mis Mai 2017 fe ddathlom y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr (ESLAs) blynyddol, a oedd yn cydnabod gwaith caled myfyrwyr a staff a helpodd i wella profiad y myfyriwr yma ym Mhrifysgol Caerdydd. Yn 2017/18 edrychwn i hybu’r gwobrau ymhellach, a chael ymgyrch gref i gael myfyrwyr a staff i gymryd rhan.

Llais Myfyrwyr yn chwilio am wirfoddolwyr ymroddedig i ymuno â Phwyllgorau Gweithredol Addysg ac Ôl-raddedig, Pwll Cynrychiolydd a phrosesau Sicrwydd Ansawdd – byddwch yn derbyn gwybodaeth ychwanegol am y cyfleoedd hyn yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod. Mae’r llawlyfr hwn yn anelu i sôn am y pethau allweddol sydd angen i chi wybod fel Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr, sy’n amrywio o ofynion eich rôl, rôl y myfyrwyr, a dyddiadau allweddol ar gyfer y flwyddyn academaidd. Mae eich help yn hollbwysig fel Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr, o ethol cynrychiolwyr i sicrhau ein bod yn derbyn cofnodion Paneli Staff-Myfyrwyr. Os oes gennych unrhyw gwestiynau ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni ar: studentreps@Caerdydd.ac.uk Diolch eto a chadwch mewn cysylltiad.

Tîm Ymgysylltu Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Tîm Llais Myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

Y flwyddyn hon, ein nod yw cynyddu ymgysylltiad a dealltwriaeth o’r strwythur Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr ar draws y Brifysgol. Bydd Tîm Llais Myfyrwyr yn cyflwyno system Nodau Cynrychiolwyr i helpu Cynrychiolwyr Myfyrwyr i ddeall eu rôl a’u hannog i ragori ar y gofynion sylfaenol a osodwyd ger eu bron. Gyda’n gilydd gallwn sicrhau bod ein Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn cyflawni pethau ar gyfer eu cyfoedion, eu bod yn effeithiol yn eu rôl ac yn ymgysylltu’n briodol â strwythurau’r Brifysgol. Bydd y Tîm

TOM TATCHELL – CEMEG

Cydlynydd Cynrychiolydd Myfyrwyr y Flwyddyn Gwobrau Cyfoethogi Bywydau Myfyrwyr Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 3.


Dyddiadau Allweddol Cyfnod Etholiadau 1: Hydref 9fed – 20fed Cyfnod Hyfforddiant 1: Hydref 16eg – Tachwedd 3ydd Rhaid trefnu Etholiad ac Hyfforddiant gyda’r Tîm Llais Myfyrwyr drwy studentreps@Cardiff.ac.uk. Gall Etholiadau gael eu cynnal drwy cardiffstudents.com, os hoffech wneud hyn, cysylltwch â Thîm Llais Myfyrwyr o leiaf dair wythnos cyn i bleidleisio agor. Cynhadledd Cynrychiolwyr: 28 Hydref Eleni byddwn yn cynnal Cynhadledd Cynrychiolwyr gyda gwahanol sesiynau hyfforddi rhyngweithiol i’ch helpu gael y gorau allan o’ch rôl fel cynrychiolydd! Dyddiad Cau Manylion Cynrychiolydd: Hydref 7fed Rydym yn disgwyl derbyn cofnodion cyflawn o’ch holl Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr erbyn y dyddiad hwn. Rhaid i’r cofnodion gynnwys yr Ysgol, cwrs, nodi os ydynt yn is-raddedig, ôl-raddedig a addysgir neu ôl-raddedig ymchwil, eu cyfeiriadau e-bost a Rhif Myfyriwr. Mae’r manylion cyswllt hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cadw mewn cysylltiad drwy’r flwyddyn academaidd. Hyfforddiant Cadeirydd ac Ysgrifennydd: Hydref 23ain – Tachwedd 3ydd Bydd y Tîm Llais Myfyrwyr yn cynnig hyfforddiant cynhwysfawr ar gyfer Cadeiryddion ac Ysgrifenyddion, ar sut i gynnal a chofnodi Paneli Staff Myfyrwyr, a sut i reoli cofnodion yn effeithiol. Wythnos Siarad Chwefror 5ed – 9fed Ymgyrch blynyddol Undeb y Myfyrwyr yw Wythnos Siarad i gasglu adborth gan fyfyrwyr. Cwblhawyd dros 2,910 o gardiau Wythnos Siarad llynedd! Ni fyddai hyn wedi digwydd heb ymroddiad ein gwirfoddolwyr a’r cydweithrediad gyda chydweithwyr ar draws y Brifysgol. Gall eich Ysgol gynnal Wythnos Siarad yn eich ardal, neu fel arall, yn gallu helpu recriwtio gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn mannau arall

4. | Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Cyfnod Etholiadau 2: Chwefror 5ed – 9fed 2018 Cyfnod Hyfforddiant 2: 5ed – 16eg Mawrth 2018 Cyfnod Etholiadau 3: 16eg Ebrill – 20fed Ebrill 2018 Cyfnod Hyfforddiant 3: 23ain Ebrill – 27ain Ebrill 2018 Fforymau Coleg Mae’r Fforymau Coleg yn cynnwys holl Gadeiryddion Paneli Staff Myfyrwyr ar lefel Is-raddedig ac Ôl-raddedig a Addysgit i drafod materion nad oes modd eu datrys ar lefel Ysgol. Mae’r cyfarfodydd yn cael eu trefnu gan Undeb y Myfyrwyr gyda staff allweddol y Brifysgol yn mynychu gan gynnwys y Dirprwy Is-ganghellor dros Brofiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, Deon y Coleg yn ogystal â chynrychiolwyr o TG a Llyfrgelloedd. Fforwm Coleg ar gyfer Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol: Tachwedd 29 – 15:00 – 17:00 Rhagfyr 31 – 15:30 – 17:30 Mawrth 21 – 13:00 – 15:00 Fforwm Coleg ar gyfer Biowyddorau a Gwyddorau Bywyd: Tachwedd 29 – 12:30 – 14:30 Rhagfyr 31 – 13:00 – 15:00 Mawrth 14 – 13:00 – 15:00 Fforwm Coleg ar gyfer Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: Tachwedd 28 – 13:00 – 15:00 Ionawr 30 – 15:30 – 17:30 Mawrth 14 – 15:30 - 17:30 Fforwm Cynrychiolwyr Ôl-raddedigion Ymchwil Mae’r Fforwm hwn yn agored i holl fyfyrwyr Ôlraddedig Ymchwil. Yn yr un modd â’r Coleg, gall y cynrychiolwyr godi materion sydd heb gael eu datrys ar lefel Ysgol. Mae’r cyfarfod hwn yn cael ei drefnu gan Undeb y Myfyrwyr. 30 Awst – 13.00 – 15.00 Tachwedd 22 – 13:00 – 15:00 Ionawr 24 – 13.00 – 15:00 Mawrth 21 – 15:30 – 17:30 Mehefin 6ed – 13:00 – 15:00


Beth yw eich Cyfrifoldebau Allweddol? Mae Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr yn gweithredu fel pwynt canolog ar gyfer trefnu’r system Cynrychiolwyr Myfyrwyr o fewn Ysgolion. Heb rôl y Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr, ni fyddai Caerdydd fel sefydliad yn gallu cydlynu’r 1,000 o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr sydd gennym yn effeithiol. Mae’r rôl a chyfrifoldebau penodol yn cael eu manylu isod, ond os rydych yn newydd i fod yn Gydlynydd Cynrychiolydd Myfyrwyr ac eisiau gwybod mwy, e-bostiwch studentreps@Caerdydd.ac.uk i drefnu cyfarfod neu am unrhyw gymorth arall. Y prif gyfrifoldebau yw: • Penodi ac Ethol • Cyfarfodydd Paneli Myfyrwyr Staff • Hyfforddiant • Cyhoeddusrwydd Penodi ac Ethol Fel Cydlynydd, rydych hefyd yn gyfrifol am gydlynu’r broses o benodi ac ethol Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr, ceir mwy o wybodaeth am hyn yn y llyfryn. Rydych hefyd yn gyfrifol am anfon enwau Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr a Chadeiryddion yr Ysgol at Dîm Llais y Myfyrwyr studentreps@Caerdydd.ac.uk erbyn y dyddiadau cau blynyddol erbyn Hydref 27ain. Cyfarfodydd Paneli Myfyrwyr Staff Chi sy’n gyfrifol am sicrhau y caiff pob un o gyfarfodydd y Panel Staff Myfyrwyr eu cynnal drwy gydlynu’r trefniadau ar eu cyfer, gan gynnwys trefnu cyfarfodydd a phenodi Cadeiryddion ac Ysgrifenyddion y paneli. Byddem yn disgwyl i chi weithio gyda’r myfyrwyr er mwyn helpu i gydnabod pwyntiau ar gyfer yr agenda i’r cyfarfodydd ac i sicrhau y caiff cynrychiolwyr eu penodi i’r pwyllgorau priodol o fewn yr Ysgol. Gofynnwn hefyd i chi anfon yr holl gofnodion at Dîm Llais y Myfyrwyr. Hyfforddiant Nod y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr yw darparu hyfforddiant cynhwysfawr i Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr. Darperir yr hyfforddiant hwn yn ystod Tymor yr Hydref ac mae’n cynnwys:

• Trosolwg o’r ffordd y mae’r system gynrychioli yn gweithredu o fewn ysgolion a’r Brifysgol. • Amlinelliad o rolau a chyfrifoldebau cynrychiolwyr a’r hyn a ddisgwylir ganddynt. • Y mathau o faterion y gall cynrychiolwyr ddod ar eu traws a beth y dylent ei wneud yn eu cylch. • Sut y dylai cynrychiolwyr gasglu a chyfleu tystiolaeth gan fyfyrwyr. • Y dull ar gyfer cynnal cyfarfodydd (gyda phwyslais arbennig ar Baneli Staff Myfyrwyr). Yn dilyn hyn, fel Cydlynydd Cynrychiolwyr Myfyrwyr eich cyfrifoldebau yw: • Bod yn ymwybodol o gynnwys yr hyfforddiant a ddarperir bob blwyddyn gan Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol. • Cyfeirio at y Llawlyfr i Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr i ategu rôl a datblygiad Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr. • Trefnu sesiwn hyfforddiant ar gyfer eu Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr drwy Dîm Llais y Myfyrwyr cyn gynted â phosibl. Os nad yw’r amserlenni yn eich siwtio e-bostiwch studentreps@Caerdydd.ac.uk Cyhoeddusrwydd Fel Cydlynwyr Cynrychiolwyr y Myfyrwyr, disgwylir i chi gydlynu’r broses o roi cyhoeddusrwydd i’r system gynrychioli yn eich Ysgol Gellir gwneud hyn drwy drefnu i Dîm Llais y Myfyrwyr ddod i’ch Ysgol i siarad â’ch myfyrwyr, archebu posteri a ddarperir gan Undeb y Myfyrwyr, hyrwyddo’r rôl drwy’r llawlyfrau i fyfyrwyr a chyfeirio myfyrwyr at ein tudalennau Llais Myfyrwyr – cardiffstudents.com/studentvoice. Gall Undeb y Myfyrwyr gael hysbysfyrddau arbennig a bocsys adborth i hyrwyddo’r system Cynrychiolwyr, cysylltwch os hoffech sgwrs am sut y gellid defnyddio un o’r hysbysfyrddau hyn o fewn eich ysgol.

Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 5.


Rôl Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr Mae Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau y caiff llais y myfyrwyr ei glywed a’i ystyried o ddifrif ar bob lefel. Mae Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn chwarae rhan hanfodol yn hyn o beth drwy fynd i gyfarfodydd Paneli Myfyrwyr-Staff mewn Ysgolion a gweithredu fel cyswllt rhwng aelodau staff a’u cyd-fyfyrwyr. Eu swydd yw dweud wrth yr Ysgol a’r Brifysgol beth mae myfyrwyr yn ei hoffi a’r pethau y gellid eu gwella ym Mhrifysgol Caerdydd. Drwy wneud hyn gallwn barhau i wneud y pethau maent yn eu hoffi a gwella’r profiad myfyriwr. Pam bod eu rôl mor bwysig? Maent yn un o dros fil o Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, sy’n cynrychioli cyfanswm o dros 28,000 o Fyfyrwyr Caerdydd. Fel cynrychiolwyr, eu rôl yw sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn gwybod beth yw Cynrychiolydd Academaidd y Myfyrwyr a sut i ddefnyddio’r system. Beth a ddisgwylir ganddynt? Fel Cynrychiolydd Academaidd y Myfyrwyr, byddant yn chwarae rôl hanfodol yn cynrychioli myfyrwyr drwy fynd i gyfarfodydd eu Paneli Myfyrwyr-Staff a chyfathrebu ag Undeb y Myfyrwyr ar faterion academaidd eraill, gan weithredu fel y cyswllt rhyngoch chi a’ch cyfoedion. Drwy ofyn am adborth gan fyfyrwyr, gallant drosglwyddo’r wybodaeth hon i aelodau o staff, naill ai drwy gyfarfodydd anffurfiol neu yn ystod Panel Myfyrwyr-Staff. Drwy’r rôl hon, caiff myfyrwyr fewnbwn uniongyrchol i’w maes astudio a gallant wella eu profiad cyffredinol fel myfyrwyr. Eu prif gyfrifoldebau yw:

Mae eu prif gyfrifoldebau fel a ganlyn: • Cynrychioli safbwyntiau a barn eu cyd-fyfyrwyr. • Helpu gwneud penderfyniadau i wella profiad academaidd myfyrwyr a’u profiad ehangach yn eu Hysgol. • Cyfeirio myfyrwyr at y gwasanaethau cymorth a chyngor amrywiol sydd ar gael iddynt. • Meithrin y sgiliau a’r wybodaeth i gynorthwyo eu rôl.

6. | Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr


Rôl y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd Pryd y penodir y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd? Dylid cytuno ar Gadeirydd ac Ysgrifennydd i’w penodi yn ystod cyfarfod cyntaf sesiwn academaidd Panel Staff Myfyrwyr. Dylai Cynrychiolydd Academaidd y Myfyrwyr bob amser ymgymryd â rôl Cadeirydd y Panel, mae disgwyl iddynt aros yn niwtral drwy gydol y cyfarfodydd. Mae’n well bod myfyriwr yn ymgymryd â rôl Ysgrifennydd Panel Staff-Myfyrwyr i sicrhau fod y cyfarfodydd yn cael eu arwain gan fyfyrwyr. Unwaith y cwblheir cofnodion y cyfarfodydd, dylent gael eu rhannu ag aelodau o’r panel Staff Myfyrwyr a hefyd i’r Tîm Llais Myfyrwyr at studentreps@Caerdydd.ac.uk Mae disgwyl i gadeiryddion Paneli Staff Myfyrwyr fynychu Fforymau Coleg. Mae yna dri Fforwm Coleg bob blwyddyn am bob Coleg. Mae disgwyl i gadeiryddion rannu adborth o’r wybodaeth maent wedi ei dderbyn yn y Fforwm ac os yw’r materion a ddaeth i’r cyfarfod yn cael eu gweithredu. Unwaith y penodir y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd Dylai Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr sicrhau bod enwau’r Cadeiryddion Ysgol yn cael eu cyfleu i Dîm Llais Myfyrwyr cyn gynted ar ôl i’r Panel Staff Myfyrwyr ddigwydd a bod yr etholiad ar gyfer y Cadeirydd wedi digwydd, ar 27ain Hydref yn ddelfrydol. Yn dilyn penodiad Cadeirydd Ysgol a’r Ysgrifennydd, bydd Tîm Llais Myfyrwyr yn cysylltu â nhw i ddarparu hyfforddiant ychwanegol ar gyfer eu rôl wedi’i drefnu ar gyfer yr wythnos sy’n dechrau Hydref 23ain. Gwahoddir y Cadeiryddion i Fforymau Coleg bob tymor, nodir.

Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 7.


Rôl y Cadeirydd a’r Ysgrifennydd Rôl y Cadeirydd

Rôl yr Ysgrifennydd

Cyn y cyfarfod:

Cyn y cyfarfod:

• Casglu eitemau ar gyfer yr agenda gan Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr.

• Trefnu a llogi ystafell ar gyfer y cyfarfod.

• Cytuno ar agenda â’r aelod cynorthwyol o staff o leiaf bum diwrnod cyn y cyfarfod.

• Sicrhau bod holl aelodau’r Panel yn ymwybodol o ddyddiad a lleoliad y cyfarfod.

Yn ystod y cyfarfod:

• Dosbarthu’r agenda unwaith iddo gael ei gymeradwyo gan y Cadeirydd.

• Rhoi trefn ar y cyfarfod a rheoli ymddygiad yn y cyfarfod. • Rhoi adborth i’r Panel ar y Fforwm Coleg. • Dilyn yr agenda a rheoli faint o amser a dreulir ar bob eitem, gan arwain y panel tuag at benderfyniad. • Sicrhau y caiff y camau gweithredu y cytunir arnynt eu dyrannu i’r unigolyn a enwir, ac y cânt eu rhoi ar waith o fewn amserlen briodol. Ar ôl y cyfarfod: • Cadarnhau bod yr holl gofnodion yn gofnod cywir o’r cyfarfod cyn eu dosbarthu. • Anfon adroddiad byr at Tîm Llais y Myfyrwyr • Mynychu Fforymau Coleg. • Mynd i unrhyw gyfarfodydd y bydd eich Ysgol yn gofyn i chi fynd iddynt.

8. | Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr

Yn ystod y cyfarfod: • Gwneud nodiadau cryno o’r trafodaethau, yn cynnwys y penderfyniadau a’r camau gweithredu y cytunir arnynt gan y Panel, yr unigolyn sy’n gyfrifol am y cam gweithredu a’r terfyn amser. Ar ôl y cyfarfod: • Llunio fersiwn drafft o’r cofnodion cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod. Pan fydd y cadeirydd a’r aelod o staff cynorthwyol wedi cytuno ar y cofnodion, dylid dosbarthu’r holl gofnodion i’r Panel o fewn deg diwrnod gwaith i’r cyfarfod. • Sicrhau bod y cofnodion ar gael i bob myfyriwr drwy eu gosod ar hysbysfyrddau / Learning Central.


Etholiadau a Phenodiadau Cyfrifoldebau Ysgolion: • Egluro’r prosesau ar gyfer enwebu, ethol a phenodi Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr i’r myfyrwyr. • Sicrhau y caiff y prosesau ethol a phenodi eu cynnal bob blwyddyn a’u bod yn dryloyw, yn amserol ac yn hygyrch. Mae’n bwysig y caiff pob un o Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr eu penodi drwy broses ethol ddemocrataidd a gynhelir bob blwyddyn. Gall Cynrychiolwyr Academaidd presennol barhau fel cynrychiolwyr yn ystod y sesiwn academaidd ganlynol ond rhaid rhoi cyfle blynyddol er mwyn i ymgeiswyr eraill allu cyflwyno eu hunain i gael eu hethol. Cynnal Etholiadau Un o’r dulliau hawsaf ar gyfer cynnal etholiadau yw drwy e-bost. Gellid gofyn i ymgeiswyr swydd ysgrifennu paragraff byr yn nodi pam yr hoffent ddod yn gynrychiolydd a gellid wedyn anfon y paragraffau hyn ar ffurf neges e-bost i’r garfan gan ofyn iddynt ymateb drwy bleidleisio. Fel arall, gallai ysgolion lunio holiadur arlein syml ar gyfer y broses ethol, er enghraifft drwy ddefnyddio Bristol Online Surveys (BOS). Gallwch hefyd gael y dewis o gynnal etholiadau drwy wefan Undeb Myfyrwyr Caerdydd. Gall y wefan gynnal etholiadau ysgol gyfan. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â studentreps@Caerdydd.ac.uk. Sawl Gynrychiolwyr dylai Ysgol gael? Er mwyn sicrhau y caiff pob gr p o fyfyrwyr o fewn pob Ysgol ei gynrychioli, dylai fod gan bob rhaglen o fewn yr Ysgol o leiaf un Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr ar gyfer pob blwyddyn astudio. Gall yr Ysgol, yn ôl ei disgresiwn, benderfynu bob blwyddyn ar nifer y cynrychiolwyr ar gyfer ymchwil ôl-raddedig ond dylid sicrhau bod o leiaf dau fesul Ysgol. Gall rhai Ysgolion benderfynu penodi pob myfyriwr ymchwil ôl-raddedig (PGR) i’w phwyllgorau ymgynghorol priodol ar gyfer myfyrwyr mewnol. Ar gyfer grwpiau blwyddyn mwy o faint, rydym yn argymell o leiaf un cynrychiolydd fesul 30 o fyfyrwyr. Dylai pob Cynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr fod wedi’i ethol erbyn diwedd wythnos Hydref 20ain. Mae hyn yn sicrhau y gellir hyfforddi cynrychiolwyr cyn iddynt fynd i’w Panel Myfyrwyr-Staff cyntaf. Dylai Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr gyflwyno enwau Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr i Dîm Llais y Myfyrwyr gan ddefnyddio’r ffurflen (i’w dosbarthu ymlaen llaw gan Y Gofrestrfa a’r Gwasanaethau Academaidd) erbyn Hydref 27ain fan bellaf. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth arnoch i ethol cynrychiolwyr, cysylltwch â Thîm Llais y Myfyrwyr ar - studentreps@Caerdydd.ac.uk

Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 9.


Cynorthwyo eich Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr • Hysbysfwrdd electronig neu ffisegol, gan gynnwys gwybodaeth am Baneli Myfyrwyr Staff; • Ardal ar Dysgu Canolog (neu gyfleuster cyfatebol), i gynnwys archif o gofnodion Paneli, manylion cyswllt allweddol ac ati; Mynediad i restrau perthnasol o gyfeiriadau e-bost myfyrwyr (ond gan nodi y dylid cyfyngu’r defnydd o’r rhestrau hyn gan Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr i fusnes cynrychiolwyr yn unig - gweler yr Adran ar Ddiogelu Data, isod); • Amser i wneud cyhoeddiadau achlysurol ar ddechrau neu ddiwedd darlithoedd. • Sicrhau y trefnir slot amser gyda Swyddog Llais y Myfyrwyr i ddod i hyfforddi Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr cyn cyfarfod cyntaf eu Panel. • Gosod ffotograffau o Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ar hysbysfyrddau Ysgolion neu ar Dysgu Canolog er mwyn helpu i godi proffil cynrychiolwyr. • O ran y defnydd a wneir o ddata myfyrwyr eraill gan Gynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr, • dylai cynrychiolwyr gael mynediad at gyfeiriadau e-bost ar gyfer y rhaglenni. a’r carfannau penodol y maent yn eu cynrychioli. Nodau Cynrychiolwyr Eleni mae Tîm Llais Myfyrwyr yn cyflwyno cynllun Nodau Cynrychiolwyr, fframwaith sy’n nodi cyfrifoldebau’r Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr – yn amlinellu pa gyfarfodydd y dylent fynychu a gosod gofynion sylfaenol ar gyfer cael cydnabyddiaeth yn eu rôl.

10. | Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr

yr Nodau Cynrychiolw io on sb he u wedi’ f

ff

Gall ysgolion hwyluso cyfathrebu rhwng cynrychiolwyr a’r myfyrwyr drwy ddarparu’r adnoddau sylfaenol canlynol:

Caerdydd yn Caerdydd a Phrifysgol Mae Undeb Myfyrwyr bod Llais y eth er mwyn sicrhau mynediad. gweithio mewn partneria lefel ar i ed a’i gymryd o ddifr Myfyrwyr yn cael ei glyw hio gyda’r Brifysgol, weit trwy hyn yn hanfodol rwyr Byddwch yn chwarae rhan ebu gyda Undeb y Myfy f Myfyrwyr a chyfathr mynychu eich Paneli Staf dd. emai acad ion fater am n u Cynrychiolydd er mwy wedi creu taflen Noda lydd gennych fel Cynrychio Mae tîm Llais y Myfyrwyr ol o’r cyfrifoldebau sydd ybod ymw yn bod eich sicrhau Myfyriwr Academaidd. wedi’u cynnwys: Dyma’r pum categori sydd • Paratoi am y rôl • Dyletswyddau’r rôl • Ymgysylltu • Cyfathrebu • Adlewyrchu/Adborth ori er o leiaf un nod o bob categ wni a rhoi tystiolaeth Bydd disgwyl i chi gyfla Academaidd. ysgrif Cynrychiolydd mwyn cyflawni eich tyst eps@caerdydd.ac.uk dystiolaeth at studentr Mae angen danfon yr holl

Diogelu Data Dylai’r Ysgol sicrhau bod Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr yn ymwybodol y caiff eu henwau, eu rhifau adnabod Myfyriwr a’u cyfeiriadau e-bost eu danfon ymlaen o’r Gofrestrfa a Gwasanaethau Academaidd i Undeb y Myfyrwyr er mwyn eu gwahodd i ddigwyddiadau hyfforddiant a datblygiad ac, o bryd i’w gilydd, i ofyn iddynt roi adborth ar weithrediad a chanlyniadau’r system gynrychioli o fewn eu Hysgol.


Lle dylid cyfeirio’r Adborth gan Fyfyrwyr? Cyfrifoldebau’r Ysgolion:

Aelodaeth Panel Myfyrwyr-Staff:

• Diffinio pa gyfarfodydd ysgol y dylai Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr eu mynychu, a sut y mae’r rhain yn cyd-fynd â strwythurau gwneud penderfyniadau ehangach yr ysgol

Byddai’n ddymunol pe gallai Cyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu, Cydlynwyr Cynrychiolwyr y Myfyrwyr, llyfrgellyddion pwnc, Uwch Diwtor Personol, Penaethiaid Blwyddyn ac aelod o staff gweinyddol fod yn bresennol yn ystod y cyfarfodydd hyn i sicrhau bod y bobl berthnasol yn bresennol er mwyn ymateb i ymholiadau’r myfyrwyr.

• Mynd ati i annog myfyrwyr i ‘gau’r cylch adborth’. Gall hyn gael ei gyflawni drwy nifer o ffrydiau cyfathrebu, e-bost, Facebook, cyhoeddiadau mewn darlithoedd a Dysgu Canolog, fel y gall myfyrwyr weld bod y system cynrychioliadol yn effeithiol a bod eu cyfraniad yn werth chweil. Mae Paneli Staff Myfyrwyr yn darparu sianel ffurfiol i’r myfyrwyr gyfarfod ag aelodau o staff ac i drafod materion sy’n ymwneud â’u profiad addysgol. Maent hefyd yn gyfle i’r Ysgol ymgynghori â myfyrwyr a chael adborth ar gynigion newydd. • Rhaid bod gan bob Ysgol o leiaf un Panel i israddedigion ac un Panel i ôl-raddedigion. • Mae’n bosibl y bydd Ysgolion am gynnal sawl Panel ar wahân oherwydd yr amrywiaeth o raglenni astudio • Bydd y Paneli yn cyfarfod o leiaf unwaith y tymor ac ni ddylid trefnu’r cyfarfodydd ar adegau sy’n cyd-daro â chyfarfodydd eraill o fewn yr Ysgol neu ymrwymiadau addysgu. • Dylid dosbarthu amserlen blynyddol o’r cyfarfodydd i bob aelod o staff yr Ysgol, Tîm Llais y Myfyrwyr a myfyrwyr ar ddechrau’r sesiwn academaidd. Dylid egluro cylch gorchwyl ac aelodaeth y Paneli i bob myfyriwr ac aelod o staff, a dylid eu hadolygu bob blwyddyn. Pan gaiff rhaglen ei chyflwyno’n llwyr drwy ddulliau dysgu o bell, neu pan fydd yn cynnwys cyfnodau sylweddol ar leoliad gwaith, dylid rhoi dull trafod priodol ar waith (e.e. drwy ddefnyddio byrddau trafod ar-lein). Cynghorir yn gryf y dylid trefnu set gyntaf cyfarfodydd y Paneli Myfyrwyr-Staff erbyn wythnos sy’n dechrau Tachwedd y 6ed er mwyn sicrhau y gellir cyflwyno enwau Cadeiryddion yr Ysgolion i Dîm Llais y Myfyrwyr.

Agendâu a chofnodion Dylai’r Cadeirydd ac aelod o staff cynorthwyol (y Cydlynydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr fel arfer) gytuno ar agenda ar gyfer pob cyfarfod a dylid dosbarthu’r agenda honno i aelodau’r panel o leiaf bum diwrnod cyn y cyfarfod. Cyfrifoldeb Cynrychiolwyr Academaidd y Myfyrwyr yw annog myfyrwyr i awgrymu eitemau i’w rhoi ar yr agenda ar gyfer cyfarfodydd Paneli, a’u cyflwyno i’r Cadeirydd. Efallai y bydd ysgolion am hwyluso’r broses hon drwy gyfrwng e-bost atgoffa i gynrychiolwyr a/neu drwy hysbysfyrddau ysgol. Dylai’r Cydlynydd Cynrychiolwyr y Myfyrwyr hefyd helpu nodi materion ar gyfer yr agenda, gan gyfeirio’n benodol at y materion a awgrymir ar gyfer agendâu’r Paneli Myfyrwyr-Staff, a nodir ar y dudalen cysylltiadau. Nodiadau Cyffredinol • Dylid dosbarthu cofnodion y cyfarfod i bob aelod o’r panel o fewn deg diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. • Dylid sicrhau bod y cofnodion a’r pwyntiau gweithredu ar gael i bob myfyriwr, drwy hysbysfyrddau neu ar ffurf electronig. • Dylai Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr ddarparu adborth ar unrhyw wybodaeth neu penderfyniadau a wneir yn y cyfarfodydd i gydfyfyrwyr, ar ffurf cyfres fer o bwyntiau allweddol y gellir eu cyfleu drwy e-bost os yn bosib. • Ymhob achos, mae’n bwysig bod y cofnod o benderfyniadau a chamau gweithredu a wneir yng nghyfarfodydd y Panel yn gywir a bod y myfyrwyr a’r staff sy’n aelodau o’r panel wedi cytuno ar y cofnod hwnnw. Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 11.


• Mae hefyd yn gyfrifoldeb ar y Cydlynwyr i sicrhau bod yr holl gofnodion yn cael eu danfon at Dîm Llais y Myfyrwyr. Gellir cael templed ar gyfer llunio cofnodion cyfarfodydd a’r cofnodion o’r prif benderfyniadau ar dudalennau gwe Llais y Myfyrwyr. Cysylltiadau â strwythurau gwneud penderfyniadau Ysgolion Rydym yn argymell o leiaf 3 Panel Staff Myfyrwyr y flwyddyn. Yn ogystal â hyn, rydym yn disgwyl i Gadeirydd y Panel Staff Myfyrwyr fynychu’r Bwrdd Astudiaethau perthnasol. Wedyn dylid rhoi adborth o unrhyw faterion a godwyd gan gynrychiolydd myfyrwyr yn y cyfarfod i’r Panel Myfyrwyr Staff. Yn ogystal â gwahodd Cynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr i drafod materion sy’n deillio o’r Panel, anogir Ysgolion yn gryf i wahodd cynrychiolwyr i aros i drafod unrhyw fusnes agored ym mhwyllgorau’r Ysgol (e.e pob eitem ac eithrio’r rheini sy’n ymwneud ag aelodau staff unigol neu fyfyrwyr a gaiff eu henwi). Cysylltiadau ag Undeb y Myfyrwyr a’r Brifysgol Bydd aelodau Fforymau Coleg Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys Cadeiryddion yr Ysgolion a gaiff eu penodi gan bob Panel Myfyrwyr-Staff. Mae’r fforymau hyn, sy’n cyfarfod deirgwaith y flwyddyn, yn rhoi cyfle i Undeb y Myfyrwyr nodi unrhyw faterion traws-Ysgol o fewn Coleg neu faterion ehangach o ran profiad myfyrwyr a gaiff eu hamlygu gan Gadeiryddion Ysgolion ac i godi’r materion hyn ar lefel uwch o fewn y Brifysgol. Bydd Tîm Llais y Myfyrwyr yn gyfrifol am wahodd Cadeiryddion Ysgolion i’r cyfarfodydd hyn.

12. | Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr


Cyfleoedd sydd ar gael i Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr Cyfleoedd Cyflogaeth Nid cael gradd yw amcan craidd ar gyfer myfyrwyr sy’n dechrau addysg uwch rhagor – y profiadau a’r cyfleoedd ochr yn ochr ag astudiaethau academaidd sy’n gwneud myfyrwyr yn fwy cyflogadwy. Mae bod yn Gynrychiolydd Academaidd Myfyrwyr yn dangos i gyflogwyr fod myfyriwr yn ymrwymedig i’w cwrs, ond hefyd yn gallu dangos sgiliau sefydliadol a negodi, yn ogystal ag arweinyddiaeth. Gall Gynrychiolwyr Academaidd Myfyrwyr droi at nifer o gyfleoedd i adeiladu ar eu profiadau. Sefyll yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr Mae gan bob myfyriwr Caerdydd y cyfle i sefyll yn etholiadau Undeb y Myfyrwyr, sy’n digwydd ddwywaith y flwyddyn. Bob mis Chwefror, mae gan fyfyrwyr Caerdydd y cyfle i ethol saith Swyddog Sabothol llawn amser i gynrychioli eu barn i’r Brifysgol a rhedeg Undeb y Myfyrwyr am y flwyddyn. Mae’r rhain yn swyddi â thâl. Ynghyd â’r rolau hyn mae yna swyddi Swyddogion Ymgyrch sy’n lleisio eu pryderon ynghylch grwpiau heb gynrychiolaeth digonol.. Mae’r rhain yn cynnwys: • LGBT + (Agored) • LGBT + (Merched) • Lleiafrifoedd Ethnig a Du • Iechyd Meddwl

Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn ymwneud ag Etholiadau Undeb y Myfyrwyr anfonwch e-bost at studentreps@Caerdydd.ac.uk Pwyllgorau Gwaith Addysg, Ol-raddedig a Pharc y Mynydd Bychan Ym mis Medi bydd y Tîm Llais Myfyrwyr yn agor ceisiadau ar gyfer Pwyllgorau Gwaith Addysg, Ol-raddedig a Pharc y Mynydd Bychan. Gall unrhyw fyfyriwr gyflwyno cais – nudd u swyddogion gweithredol yn gwasanaethu mewn swyddogaeth ymgynghorol i’r Is Lywydd Addysg: Fadhila Al Dhahouri, Is Lywydd Myfyrwyr Ol-raddedig: Jake Smith, ac Is Lywydd Parc y Mynydd Bychan: Kirsty Hepburn. Am fwy o wybodaeth cysylltwch â studentreps@Caerdydd.ac.uk. Sicrhau Ansawdd Drwy gydol y flwyddyn academaidd bydd myfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yn sicrhau ansawdd ar draws y Brifysgol. Mae’r Timoedd Llais Myfyrwyr ac Ymgysylltu yn gweithio’n agos gyda Safonau Ansawdd ac Academaidd i gynyddu cyfranogiad myfyrwyr yng Nghaerdydd. Mae’r prosesau yn cynnwys Rhaglen Cymeradwyo Paneli, Adolygiad a Gwellhad Blynyddol, yn ogystal ag Adolygiad Cyfnodol.

• Myfyrwyr H n • Myfyrwyr ag Anableddau • Myfyrwyr Rhyngwladol • Swyddog y Gymraeg • Swyddog Merched a • Moesegol ac Amgylcheddol. Ar ben hyn, mae swyddi ar gael yn is-etholiadau Hydref ar gyfer Senedd y Myfyrwyr, Pwyllgor Craffu a Chynrychiolwyr UCM. Llawlyfr 17/18 Cydlynwyr Cynrychiolwyr Myfyrwyr | 13.


Darganfyddwch mwy


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.