Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
1
2017/18
ladol w g n y r s wn dina e m g e ymra Bywyd C
2 Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Gair o groeso
Croeso i chi gyd i’r flwyddyn academaidd newydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd! Boed yn fyfyriwr newydd, neu’n fyfyriwr presennol yma, rwy’n siw ˆ r eich bod chi gyd, fel fi, yn edrych ymlaen yn arw at y flwyddyn gyffrous sydd o’n blaenau. Fel yr ydych yn gwybod, eleni yw blwyddyn gyntaf Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, ar ôl i ni ymgyrchu i’w sefydlu y llynedd, er mwyn cynnig cynrychiolaeth well a fwy cyflawn i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd, ac er mwyn uno’r gymuned gref a bywiog o siaradwyr a dysgwyr Cymraeg sydd yma yn ein prif ddinas. Mae UMCC yma er mwyn eich cynrychioli chi, a sicrhau eich bod yn mwynhau pob agwedd o’ch bywyd Prifysgol. Boed yn siaradwr rhugl neu’n ddysgwr pur. Boed yn fyfyriwr yng Nghampws Cathays neu’r Mynydd Bychan. Boed yn rhywun sydd eisiau siarad Cymraeg bob dydd neu ei ddefnyddio yn achlysurol. Mae UMCC yma i bawb. Mae nifer o broblemau wedi codi yn narpariaeth Cymraeg y Brifysgol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae’r berthynas rhwng y gymuned Gymraeg yng Nghaerdydd, gyda’r Undeb a’r Brifysgol, wedi bod yn un gwael ac annigonol. Gobeithiaf, gyda sefydliad UMCC, a’r undod a’r nerth a ddaw law yn llaw â hynny, y bydd y berthynas honno yn gwella,
ac y bydd y problemau sy’n bodoli eisoes yn cael eu datrys. Dros y flwyddyn nesaf, os oes yna unrhyw fater sydd yn eich poeni chi, boed yn fater academaidd, cymdeithasol, ieithyddol, neu fater lles, neu os hoffech gymorth gydag unrhyw agwedd o’ch bywyd prifysgol, mae yna groeso i chi gysylltu â mi, neu unrhyw aelod o bwyllgor UMCC, ac mi wnawn ni eich cymhorthi. Cofiwch mai eich undeb chi yw UMCC. Mae UMCC yn gorff democrataidd sydd, yn y bôn, yn cael ei redeg gennych chi, ei aelodau. Os oes yna unrhyw agwedd o UMCC yr ydych yn anfodlon â, neu os oes gennych chi syniadau am sut i wella a chryfhau UMCC, mae’n hanfodol eich bod yn lleisio’ch barn, ac yn dylanwadu ar sut y caiff UMCC ei redeg. Rwy’n ffyddiog y byddwch chi gyd yn cael blwyddyn wrth eich bodd yng Nghaerdydd eleni, ac rwy’n hyderus y bydd UMCC yn cyfrannu’n gadarnhaol at hynny. Cofiwch fod croeso cynnes ichi gysylltu â mi ar bob achlysur. Hwyl am y tro, Osian Morgan, Llywydd UMCC @UMCCaerdydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd UMCC@cardiff.ac.uk
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
3
Y Pwyllgor Dyma gyflwyno Pwyllgor UMCC ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf! Pwyllgor UMCC fydd yn eich cynrychioli chi dros y flwyddyn nesaf, a byddent yn gweithio’n ddiflino i sicrhau eich bod yn mwynhau pob agwedd o’ch bywyd prifysgol yma yng Nghaerdydd. Os oes gennych unrhyw broblemau yn ystod eich cyfnod, mae croeso ichi gysylltu ag aelod o’r Pwyllgor.
Llywydd UMCC Llywydd UMCC eleni yw Osian Morgan. Y Llywydd sydd yn gyfrifol am redeg UMCC o ddydd i ddydd, ac am gynrychioli UMCC a’i aelodau o fewn yr Undeb a’r Brifysgol. Daw Osian o Landudno yng Nghonwy yn wreiddiol, ac mae’n fyfyriwr yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg. Gallwch gysylltu ag Osian drwy e-bostio UMCC@cardiff.ac.uk, neu MorganOW@cardiff.ac.uk
Ysgrifennydd Mae Elen Davies yn dod o Bencader, Sir Gaerfyrddin, a hi fydd Ysgrifennydd UMCC eleni. Myfyriwr trydedd flwyddyn Cymraeg a Newyddiaduraeth yw Elen, ac fel ysgrifennydd UMCC, hi fydd yn gyfrifol am gadw cofnodion o gyfarfodydd a gweithgareddau UMCC, yn ogystal ag eistedd ar bwyllgorau UMCC. Cysylltwch ag Elen drwy e-bostio DaviesEH2@cardiff.ac.uk
Trysorydd Fel trysorydd UMCC, Rhian Floyd fydd yn gyfrifol am gydlynu materion ariannol UMCC, yn ogystal ag eistedd ar bwyllgorau UMCC. Mae Rhian yn fyfyriwr Cymraeg ac Iaith Saesneg yn ei thrydedd flwyddyn, ac yn dod yn wreiddiol o Aberaeron yng Ngheredigion. Os hoffech gysylltu â Rhian, gallech e-bostio FloydR@cardiff.ac.uk
Swyddog Gweithgareddau Amrywiol Mae Lleu Bleddyn yn fyfyriwr yn ei ail flwyddyn yn astudio Cymraeg a Newyddiaduraeth, a fo fydd Swyddog Gweithgareddau Amrywiol UMCC eleni. Daw Lleu o Lanbrynmair ym Mhowys, ac fe fydd yn gyfrifol am gydweithio gyda’r Pwyllgor a’r Swyddogion Cyswllt i drefnu gweithgareddau sydd yn apelio at holl aelodau UMCC. Mae croeso i chi gysylltu â Lleu drwy e-bostio BleddynL@cardiff.ac.uk
Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Ail Iaith Y Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Ail Iaith sy’n gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr ail iaith a dysgwyr o fewn UMCC a threfnu digwyddiadau penodol ar eu cyfer. Mae dau swyddog cyswllt myfyrwyr ail iaith eleni, sef Amy George, myfyriwr ail flwyddyn Cymraeg a Hanes sy’n dod o Bontypridd yn Rhondda Cynon Taf, ac Esyllt Lewis, sy’n dod o Graig-Cefn-Parc yn Sir Abertawe, ac yn ei thrydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Athroniaeth. Gallech gysylltu ag Amy ac Esyllt drwy e-bostio GeorgeAS@cardiff.ac.uk neu LewisE31@cardiff.ac.uk
Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Ôl-raddedig Dewi Alter ac Eirian Jones fydd y Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Ôl-raddedig ar gyfer y flwyddyn nesaf. Myfyriwr MA Cymraeg o Gastell-nedd, yw Dewi, ac mae Eirian, sy’n dod o Bontiets Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, yn ei drydedd flwyddyn yn astudio Cymraeg. Fel Swyddogion Cyswllt Myfyrwyr Ôlraddedig, byddent yn gyfrifol am gynrychioli myfyrwyr ôl-raddedig o fewn UMCC, a threfnu digwyddiadau penodol ar eu cyfer. Cysylltwch â nhw drwy e-bostio AlterDS@cardiff.ac.uk neu JonesED1@cardiff.ac.uk.
4 Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Y Cymdeithasau Cymraeg
Y Gym Gym
Cymdeithas Iolo
Y Gym Gym yw Cymdeithas Gymraeg mwyaf Prifysgol Caerdydd, a gyda bron i 200 o aelodau, mae’n un o gymdeithasau mwyaf bywiog y Brifysgol. Mae cymryd rhan yng ngweithgareddau’r Gym Gym yn ffordd wych ichi ddod i adnabod siaradwyr Cymraeg eraill y Brifysgol, ac mae’n eich galluogi i fyw a bod drwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Mae’r aelodau’n cwrdd yn gyson ar gyfer ‘crôls’, fel y ‘crôl teulu’, y ‘crôl teircoes’, a’r ‘crôl cymeriadau’ ac mae’r Wythnos Gym Gym, sy’n cael ei gynnal ar ddiwedd bob blwyddyn, yn uchafbwynt ar galendr cymdeithasol myfyrwyr Cymraeg Caerdydd. Yn ogystal, os ydych yn hoff o chwaraeon, gallwch chwarae i dîm pêldroed, rygbi y Gym Gym sy’n cystadlu yng nghynghrair y Brifysgol yn wythnosol.
Bwriad Cymdeithas Iolo yw dod â myfyrwyr o gefndiroedd gwahanol ynghyd i fwynhau’r gorau o ddiwylliant Cymraeg Caerdydd. Rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar weithgareddau diwylliannol Cymraeg a Chymreig, fel trefnu tripiau i weld dramâu, nosweithiau comedi a gigs Cymraeg. Yn ogystal, mae’r gymdeithas yn trefnu stomp farddonol flynyddol rhwng ei haelodau a darlithwyr Ysgol y Gymraeg. Bwriad hyn oll yw cyfoethogi’r profiad o fod yn fyfyriwr sy’n medru neu’n dysgu’r Gymraeg yng Nghaerdydd, a chwrdd â phobl sy’n angerddol am y Gymraeg o bob cefndir a phob cwr o Gymru, i fwynhau amrywiaeth ein heniaith. @cymdeithas_iolo Cymdeithas Iolo
@YGymGym Y Gym Gym “Mae bod yn rhan o’r Gym Gym yn gyfle gwych i ddod i gyfarfod pobol newydd, trwy mynd ar crôls neu gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae digon i wneud o fewn y gymdeithas, a hynny oll drwy’r Gymraeg!” - Dylan Nicholas
“Mwynheais fod yn aelod o Gymdeithas Iolo llynedd am fod y gymdeithas wedi denu amrywiaeth o fyfyrwyr i ddigwyddiadau diwylliannol Cymreig. Rwy’n edrych ymlaen at weld sut bydd y gymdeithas yn datblygu yn y blynyddoedd nesaf” - Nia Eyre
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
5
Aelwyd y Waun Ddyfal
Clwb y Mynydd Bychan
Os yw’r celfyddydau a pherfformio yn mynd â’ch bryd, yna dylech ymuno ag Aelwyd y Waun Ddyfal. Mae ymuno â’r côr yn eich galluogi i gymryd rhan mewn côr llwyddiannus o safon uchel, yn ogystal â rhoi’r cyfle i chi gwrdd â siaradwyr Cymraeg o ledled Cymru. Bob blwyddyn mae’r côr yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac maent yn dod i’r brig mewn cystadlaethau yn aml iawn! Maent hefyd yn perfformio yn gyhoeddus yn y ddinas, mewn cyngherddau Nadolig, canu carolau, ac yn y gorffennol maent wedi cefnogi cantorion proffesiynol megis Russel Watson a Sam Bailey, mewn cyngherddau yng Nghanolfan y Mileniwm. Yn ogystal, bob blwyddyn mae criw o’r Waun Ddyfal yn teithio i Baris, i ganu yng Ngw ˆ yl Gymreig Disneyland Paris.
Cymdeithas Gymraeg myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd Caerdydd yw Clwb y Mynydd Bychan. Mae’r gymdeithas yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr gofal iechyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol ac allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae digwyddiadau cymdeithasol y gymdeithas yn cynnwys ‘Bingo Lingo’ a chawl i ddathlu Dydd Gw ˆ yl Dewi. Yn ogystal, rho’r gymdeithas bwyslais mawr ar drefnu gweithgareddau allgyrsiol ac academaidd, ac yn y gorffennol maent wedi ymweld ag ysgolion cynradd Caerdydd i addysgu disgyblion am Asthma, dylunio cyflwyniad i gymhorthi ddisgyblion ysgol uwchradd i wneud ceisiadau ar gyfer Ysgol Feddygaeth Caerdydd, a chynnal sesiynau adolygu. Gallwch wirfoddoli drwy’r clwb yn ogystal â rhwydweithio â doctoriaid a nyrsys.
@WaunDdyfal Côr Aelwyd y Waun Ddyfal “ Mae’r Waun Ddyfal yn gyfle gwych i fwynhau canu a chymdeithasu. Mae cystadlu yn yr Urdd, perfformio yn Disneyland Paris, a pherfformio efo enwogion oll yn brofiadau gwych, a gallech wneud hynny efo criw da o bobl!” - Caeo Harri Hughes
Clwb y Mynydd Bychan “ Mae’r 3 mlynedd diwethaf fel aelod o’r Clwb wedi bod yn ffab! Dwi wedi cwrdd â chymaint o fy nghyd-fyfyrwyr gofal iechyd, ac wedi joio addysgu plant ysgolion cynradd am asthma gyda’r cynllun ‘Achubwyr Asthma’. ” - Emily Lloyd
6 Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Eich hawliau ieithyddol Fel myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd, mae gennych nifer o hawliau i ddefnyddio’ch Cymraeg o ddydd i ddydd o fewn y Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Mae sicrhau eich bod yn derbyn eich hawliau yn ddieithriad ac yn ddiofyn wrth graidd gwaith UMCC. Os ydych chi’n cael unrhyw drafferthion gyda derbyn yr hawliau isod, neu os nad ydych yn teimlo bod eich hawliau wedi cael eu cynnig a’i hysbysebu i chi, cysylltwch â UMCC.
Y Brifysgol
Yr Undeb
Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, fydd safonau yn cael eu gosod ar brifysgolion Cymru gan Lywodraeth Cymru, gan olygu y bydd gennych chi fwy o hawliau i ddefnyddio’ch mamiaith wrth ymwneud â’r Brifysgol. Mae’r rhain yn cynnwys yr hawl i:
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cynrychiolwyr myfyrwyr Cymraeg Caerdydd wedi bod yn cydweithio gyda’r Undeb i greu polisi iaith cryf a chynhwysfawr. Golyga hyn fod gennych hawliau ieithyddol o fewn Undeb y Myfyrwyr, gan gynnwys yr hawl i:
• Gyflwyno unrhyw draethawd neu arholiad drwy gyfrwng y Gymraeg.
• Gyfathrebu’n uniaith Gymraeg gydag unrhyw aelod o staff neu swyddog etholedig.
• Gael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg.
• Gyfrannu’n Gymraeg mewn unrhyw gyfarfod democrataidd.
• Gael mynediad i fewnrwyd cyfrwng Cymraeg. • Gyfathrebu yn uniaith Gymraeg gyda’r Brifysgol. • Fynegi dymuniad am lety penodedig Cymraeg.
• Dderbyn gwybodaeth gan yr Undeb yn Gymraeg dros e-bost neu dros y cyfryngau cymdeithasol. • Lenwi ffurflenni a holiaduron yn Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau ieithyddol, cysylltwch ag UMCC.
Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
7
Gwasanaethau Cymraeg i Bawb
Cafodd y cynllun ‘Cymraeg i Bawb’ ei sefydlu yn 2015 er mwyn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr dderbyn gwersi Cymraeg yn rhad ac am ddim ochr yn ochr â’u cyrsiau. Mae nifer o gwmnïau a chyflogwyr yn chwilio am raddedigion sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg a dyma gyfle i fyfyrwyr fanteisio ar ddarpariaeth broffesiynol ac arbenigol. Mae cyrsiau ar amrywiaeth o lefelau yn cael eu cynnig, ar gyfer dechreuwyr pur, ac ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau gwella ar y Gymraeg sydd ganddynt yn barod. Am fwy o fanylion, cysylltwch â: cymraegibawb@caerdydd.ac.uk.
Cangen Caerdydd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae Cangen Caerdydd yn rhan allweddol o drefniadaeth datblygiadau addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Mae’r gangen yn hybu, hyrwyddo, monitro a chynghori ysgolion ar draws y Brifysgol ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg y sefydliad. Mae’r gangen yn gweithio’n ddiflino i sicrhau fod y Brifysgol yn cynnig darpariaeth Gymraeg digonol a theg i’w myfyrwyr, ac maent yn fwy na pharod i gymhorthi unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater sy’n ymwneud â’r Gymraeg o
fewn eu haddysg. Yn ogystal, mae’r gangen hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol, fel nosweithiau comedi, a gigs. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ag Elliw Iwan, Swyddog y Gangen, ar: IwanEH@cardiff.ac.uk
Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Mae Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd (CMCC) yn wasanaeth newydd sbon a fydd yn creu platfform i siaradwyr Cymraeg y brifysgol o fewn cyfryngau myfyrwyr Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Bydd CMCC yn cydweithio gyda’r 4 gwahanol fath o gyfryngau myfyrwyr sydd eisoes yn bodoli sef y Gair Rhydd, y papur newydd wythnosol, Quench, y cylchgrawn pythefnosol, Xpress Radio, yr orsaf radio, a CUTV, yr orsaf deledu. Ar hyn o bryd, mae yna gyfleoedd i gyfrannu’n Gymraeg i’r Gair Rhydd ac Xpress Radio, fodd bynnag, mae CMCC yn anelu at sicrhau fod yna gyfleoedd i fyfyrwyr gyfrannu’n Gymraeg i’r pedwar math o gyfryngau myfyrwyr. Mae manteisio ar gyfleodd fel hyn yn gyfle gwych ichi ddatblygu sgiliau defnyddiol dros ben, ac mae’n gyfle i chi gwrdd â ffrindiau newydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau cysylltwch gyda CMCC ar twitter @cmccaerydd, neu ar dudalen Facebook ‘Cyfryngau Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd’.
8 Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd
Gwasanaethau Undeb y Myfyrwyr Mae Undeb y Myfyrwyr yma i’ch helpu gyda phob agwedd o’ch bywyd myfyrwyr. Os rydych am drio pethau newydd, gwella eich cwrs neu ganfod swydd, yna mae’r Undeb yn lle gwych i wneud hynny. Dyma rai o’n gwasanaethau gwych sydd ar gael i chi.
Siop Swyddi Mae ymuno â’r Siop Swyddi yn ffordd wych o ennill arian ychwanegol ochr yn ochr â’ch cwrs. Maent yn cynnig gwaith rhan amser dros dro i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae cyfleoedd gwaith ar gael o fewn y Brifysgol, Undeb y Myfyrwyr a gyda chyflogwyr lleol. I ganfod mwy am y Siop Swyddi a sut i gofrestru, ewch i cardiffstudents.com/Jobshop.
Gwirfoddoli Caerdydd Mae Gwirfoddoli yn ffordd wych o wneud gwahaniaeth yn y gymuned leol. Mae’n gyfle gwych hefyd i gwrdd â phobl newydd a chael llawer o hwyl. Maent yn cynnig nifer o brosiectau cyffrous a chyfleoedd gwirfoddoli dros yr haf. Darganfyddwch fwy ar: cardiffstudents.com/volunteering.
Cyngor i Fyfyrwyr Mae’r ganolfan Cyngor i Fyfyrwyr yn darparu cyngor a gwybodaeth, eiriolaeth, cynrychiolaeth a chefnogaeth drwy wasanaeth am ddim, anhysbys, di-duedd ac annibynnol i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Darganfyddwch fwy ar cardiffstudents.com/advice.
Gwasanaeth Datblygu Sgiliau Cynyddwch eich cyflogadwyedd drwy ddilyn un o gyrsiau datblygiad proffesiynol ein Gwasanaeth Datblygu Sgiliau. Maent yn cynnwys amrywiaeth o gyrsiau wedi’u llunio i adeiladu eich hyder, gwella eich sgiliau a
chynyddu eich potensial cyflogadwyedd. Cofrestrwch ar cardiffstudents.com/sds.
Rho Gynnig Arni Mae Rho Gynnig Arni yn fenter gan Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd a sesiynau blasu ar gael i holl fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’n gyfle i chi drio rywbeth cyn ymrwymo’n llawn, megis clybiau, chwaraeon, gwirfoddoli, cyrsiau ieithoedd a datblygu sgiliau. Darganfyddwch fwy ar cardiffstudents.com/giveitago.
Cynllun Cerdded Diogel Cynllun sy’n cefnogi myfyrwyr sydd yn teimlo’n anghyfforddus yn cerdded adref ar ben eu hunain yn hwyr yn y nos. Mae gwirfoddolwyr yn ac o amgylch Undeb y Myfyrwyr ac yn cynnig gwasanaeth gerdded i fyfyrwyr ar nosweithiau dethol. Mwy o wybodaeth ar dudalen Facebook @SafetyWalkCUSU
Cynllun Tacsi Diogel Os nad oes gennych arian ar ôl ac eisiau defnyddio tacsi, ffoniwch Dragon Taxis ar 02920 333333 gan ddyfynnu ‘Cardiff University Safe Taxi Scheme’ gan rhoi eich enw a’ch rhif myfyriwr. Bydd angen eich cerdyn myfyriwr arnoch chi, ac yna ewch a’ch danfoneb i’r Swyddfa Gyllid yn Undeb y Myfyrwyr a thalu am y tacsi yno. Mwy o wybodaeth ar cardiffstudents.com/safetaxi