Yr Awen Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 Cadeirydd/Cydlynydd: Steffan Bryn, Swyddog y Gymraeg, UMPC 2014/15 & 2015/16 Pwyllgor y Gym Gym 2015/16: Dylan Williams, Llywydd Iwan Garmon Hughes, Is-Lywydd
Rhyddiaith: Sian Beidas, Sioned Davies, Jeremy Evas, Dylan Foster Evans, Edith Gruber, Ll r Gwyn Lewis, Geraldine Lublin, Anni Ll n, Iwan Rees, Siwan Rosser a Lisa Sheppard Dysgwyr: Gwennan Higham, Angharad Naylor, Hannah Sams a Nia Thomas
Mared Fflur Harries, Ysgrifennydd Sara Anest Jones, Trysorydd Pwyllgor y Gym Gym 2014/15: Gethin Wynn Davies, Llywydd Rhys Myfyr Tomos, Is-Lywydd
Celf a Ffotograffiaeth: Elin Meredydd a Dyfan Williams Y Fedal Ddrama: Merfyn Pierce Jones Tlws y Cerddor: Huw Alun Foulkes
Mared Roberts, Ysgrifennydd Heledd Thomas, Trysorydd Cadeirydd Aelwyd y Waun Ddyfal 2015/16: Gwenno Bowen
Beirniaid Llwyfan:
Cerddoriaeth: Miriam Isaac Adrodd a Pherfformio: Jacob Ifan Dawns: Tudur Philips Gwaith Cartref: Barddoniaeth: Sioned Davies, Rhys Iorwerth, Ll r Gwyn Lewis, Llion Pryderi Roberts a Siwan Rosser
2 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Arweinyddion Lois Cernyw Geraint Hardy
Diolchiadau Mae’r diolch am lwyddiant yr Eisteddfod eleni yn dysteb i waith caled ac ewyllys da rhestr hirfaith o unigolion sy’n llawer iawn rhy hir i’w henwi. Serch hynny, mae’n angenrheidiol mynegi gwerthfawrogiad penodol i’r canlynol am eu cyfraniad gyda’r paratoadau yn arwain at benwythnos yr Eisteddfod ynghyd â’u cyfraniad at yr Eisteddfod ei hun: Y Pwyllgor Gwaith am eu gwaith cyson,
diwyd, dirwgnach (a di-dâl wrth ddilyn rhaglenni gradd llawn-amser!) dros achos yr Eisteddfod, y Gymraeg a’n diwylliant ym Mhrifysgol Caerdydd - a hynny yn wyneb rhwystrau niferus. Y beirniaid am eu holl waith caled ac amhrisiadwy. Yr arweinyddion am arwain y cyfan mor hwylus. Yr Athro Sioned Davies, Dr Angharad Naylor a holl staff Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cefnogaeth barod i’r Eisteddfod. Staff a Swyddogion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, a diolch yn arbennig i Siwan Gwyn Jones (Cydlynydd y Gymraeg), Andy Cummings (Dylunydd), Becky Gardener (Rheolwr Lleoliadau Cynorthwyol), Claire Blakeway (Llywydd 2015/16) a Steve Wilford (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Aelodaeth). Mae’n dyled i Siwan yn benodol yn ddirfawr. Staff Canolfan Chwaraeon Talybont, Canolfan Gymdeithasol Talybont ac Adran Gwasanaethau Campws, Prifysgol Caerdydd.
Llywyddion a chynrychiolwyr undebau myfyrwyr Cymraeg a chymdeithasau Cymraeg y prifysgolion am eu cydweithrediad parod wrth hwyluso’r gwaith trefnu ymarferol o safbwynt eu sefydliadau nhw. Iolo Puw a Mari Eluned, gwneuthurwyr y gwobrau, am eu glanweithiau. Catrin Nicholas ac Eben Muse, y ffanfferwyr ar ddiwrnod yr Eisteddfod, am eu cyfraniad parod a hollbwysig. Gruffudd Antur am gyfansoddi englynion cyfarch i Brifardd a Phrif Lenor yr Eisteddfod – a hynny ar yr unfed awr ar ddeg, gan ychwanegu at naws ac awyrgylch dwy brif seremoni’r Eisteddfod. Damien Brieg, myfyriwr Prifysgol Caerdydd a ffotograffydd yr Eisteddfod, am ei amynedd a’i ofal wrth gynhyrchu casgliad penigamp o luniau. Diwedd y gân yw’r geiniog – felly rhaid hefyd yw diolch i’r noddwyr oll (gweler rhestr lawn ohonynt ar y clawr cefn) ac i’r sawl sydd wedi darparu eu gwasanaethau am bris gostyngedig neu am ddim, gan gydnabod fod cyllideb yr Eisteddfod yn dynn. Diolch yn fawr iawn ichi.
Guto Brychan, Steffan Dafydd a’r criw yng Nghlwb Ifor Bach am fod yng ngofal Dawns yr Eisteddfod. Miriam Williams (Llywydd UMCA 2014/15 a Chadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth 2015) am ei chyngor a’i hymateb prydlon i ymholiadau lu.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 3
Gair Golygyddol Pleser yw cyflwyno Yr Awen, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016. Dyma gyfle i gael blas ar waith caled yr holl golegau – oddi ar y llwyfan a’r meysydd chwarae – a chyfle hefyd i ail-fyw peth ar benwythnos yr Eisteddfod a gynhaliwyd ddiwedd Chwefror! O’n safbwynt ni fel trefnwyr yr Eisteddfod eleni, mae cyhoeddi Yr Awen yn nodi cau pen y mwdl ar yr holl drefnu ac yn goron ar ‘Steddfod a phenwythnos gwerth chweil. Ar ran y Pwyllgor Gwaith, rwyf yn gobeithio i chi fwynhau penwythnos yr Eisteddfod yn ei gyfanrwydd. Mae’r diolchiadau swyddogol i’w gweld ar y dudalen flaenorol, ond hoffwn hefyd ddiolch i bawb am gymryd rhan yn hwyl yr Eisteddfod drwy ba fodd bynnag y gwnaethoch hynny, a hoffwn hefyd dalu teyrnged i’r rhai a fu’n gyfrifol am arwain y gwaith hyfforddi a pharatoi yn yr holl golegau ac i bawb a wnaeth roi tro ar gystadlu yn unrhyw un o gystadlaethau’r Eisteddfod. Cafwyd sawl perfformiad arbennig, sydd, heb os, yn parhau i aros yn y cof. Â bwrw plwyfoldeb rhyng-golegol i’r neilltu, estynnwn ein llongyfarchiadau gwresog i Brifysgol Bangor ar gipio Tarian Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 ac ar eu buddugoliaeth. Er y gallai peth elfennau ar y trefniadau – y Ddawns yn arbennig (ymddiheuriadau mawr i’r rheiny a wynebodd drafferthion yn cael mynediad) – fod wedi mynd yn rhwyddach, byddai’n briodol dweud bod y farn gyffredinol yn adlewyrchu bod pethau wedi mynd
4 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
yn arbennig o dda, yn enwedig yn wyneb trefniadaeth cymuned myfyrwyr Cymraeg Prifysgol Caerdydd; cymuned yw honno heb fawr ddim cefnogaeth na chydnabyddiaeth sefydliadol, swyddogol. Mae hyn yn arbennig o wir wrth gymharu â’r amodau cymaint mwy ffafriol sydd yn bodoli ym mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth ar gyfer trefnu a chynnal digwyddiadau fel yr Eisteddfod ac o ran llu o bethau eraill. Yn benodol, mae buddiannau’r myfyrwyr a’r gymuned Gymraeg yn y prifysgolion hynny yn cael eu diogelu a’u hybu, yn bennaf yn sgil y ffaith eu bod ag Undebau Myfyrwyr Cymraeg â Llywyddion etholedig llawn-amser arnynt, a all roi eu holl egni i gydlynu’r gwaith o hwyluso’r bywyd Cymraeg ar sail llawnamser – a hynny ers blynyddoedd lawer. Yn hyn o beth, mae’n hynod addas mai ym Mangor y bydd yr Eisteddfod Ryng-golegol y flwyddyn nesaf gan eu bod yn dathlu pedwar deg mlynedd o fodolaeth Undeb Myfyrwyr Cymraeg annibynnol. Hyd yma, bedwar deg mlynedd yn ddiweddarach ym Mhrifysgol Caerdydd, ni lwyddwyd i sicrhau unrhyw gynrychiolaeth gymharol ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Rydym yn parhau ar wasgar ac nid ydym wedi trefnu ein hunain yn wleidyddol nac yn sefydliadol. Y rheswm hwnnw hefyd oedd i gyfrif am orfod dirprwyo gwaith trefnu a chynnal y Ddawns i ddarparwr allanol (yn hytrach na’i threfnu’n hunain a’i chynnal yn Undeb y Myfyrwyr), ac am yr oedi wrth gyhoeddi’r gyfrol hon i raddau hefyd. Nid yn unig diffyg amser gwirfoddolwyr, a oedd yn fyfyrwyr
llawn-amser, a fu’n her i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus, ond diffyg dealltwriaeth o’n hiaith a’n diwylliant wedi’i wreiddio ym meddylfryd a bydolwg y sefydliad. Teg dweud mai prin iawn fu’r sylw a roddwyd gan y Brifysgol (ac eithrio Ysgol y Gymraeg) i’r Eisteddfod o gwbl, o’i gymharu â jambori blynyddol y Varsity Saesneg. I’r gwrthwyneb, gellid dadlau mai gwneud popeth yn eu gallu i lesteirio cynnal yr Eisteddfod wnaeth y Brifysgol a’i swyddogion, gan fynnu codi crocbris i ganiatáu i fyfyrwyr gysgu ar lawr y Gawell Chwaraeon ar y nos Wener, er enghraifft! Serch hynny, darn i’n hysbrydoli ac i’n herio a osodwyd fel darn gosod y côr SATB eleni a’r gân a gafodd ei morio’n llawn hyder o lwyfan yr Eisteddfod ddiwedd y prynhawn oedd ‘Mae’r Dyfodol yn Ein Dwylo Ni’. Mae’r dyfodol o safbwynt sut siâp fydd ar bethau pan fydd yr Eisteddfod Ryng-golegol yn dychwelyd i Gaerdydd yn 2021 yn nwylo myfyrwyr Caerdydd y presennol a’r dyfodol. Gyda chyfnod dwys o ymgyrchu gan y myfyrwyr ac ewyllys i wella’r drefn annigonol bresennol, erbyn Eisteddfod 2021 gellir sicrhau Undeb Myfyrwyr Cymraeg ac arni Lywydd sabothol llawn-amser, strwythur cadarn i gynrychioli buddiannau’r myfyrwyr Cymraeg eu hiaith a dysgwyr a thyfu’r bywyd cymdeithasol Cymraeg drwy rwydwaith o gymdeithasau Cymraeg ffyniannus at bob dant. Byddai pethau tipyn haws yma o ran yr Eisteddfod Ryng-gol, a llu o bethau eraill, pe bai modd i ni drefnu’n hunain, nid yn unig yn gymdeithasol, ond yn wleidyddol, o ran materion lles ac addysg ac ar y llwyfan genedlaethol hefyd, a thrwy hynny sicrhau statws y Gymraeg a’i diwylliant yn undeb myfyrwyr a phrifysgol ein prifddinas. Rwyf am nodi yma hefyd yr ymdrechwyd
i gadw’r Eisteddfod ei hun yn ddigwyddiad uniaith gan wrthod pwysau o sawl cyfeiriad – yn anymwybodol ac yn ddiniwed felly yn aml – o lithro at ddwyieithrwydd slafaidd, yr ydym wedi dod mor gyfarwydd a goddefgar ohono yng Nghymru heddiw. Gwnaed ymgais fwriadol i sicrhau bod holl gyhoeddiadau a chyfathrebu’r Eisteddfod Ryng-golegol yn uniaith Gymraeg. Byddwn yn erfyn ar drefnwyr y flwyddyn nesaf i wneud hynny. Braf yn hyn o beth oedd gweld y diddordeb o du myfyrwyr a oedd yn dysgu’r Gymraeg, a myfyrwyr cynllun Cymraeg i Bawb, Prifysgol Caerdydd, yn benodol, yn gwerthfawrogi’r cyfle prin i gael ymgolli mewn awyrgylch naturiol Gymraeg a chroesawgar. Gwnaed peth gwaith diweddaru ar Reolau eleni a pheth diwygio ar rai cystadlaethau mewn ymgais i gadw pethau’n gyfoes. Er mwyn sicrhau gwydnwch a hirhoedledd yr Eisteddfod Ryng-golegol fel digwyddiad diwylliannol pwysig ym mywydau myfyrwyr Cymraeg, byddwn yn apelio ar drefnwyr y dyfodol i’w mabwysiadu ac i lynu atynt yn yr un modd. Priodol cyn cloi’r nodyn golygyddol hwn fyddai cyfeirio at y penderfyniadau golygyddol yn y gyfrol hon. Mae’r gwaith a gyhoeddir ynghyd â’r beirniadaethau ysgrifenedig wedi’u cynnwys fel y daethant i law. Cyhoeddwyd y gweithiau buddugol, pan fo hynny’n bosibl, ond penderfynwyd blaenoriaethu’r beirniadaethau yn y gyfrol hon. Pob hwyl i griw Bangor ar drefnu’r Eisteddfod y flwyddyn nesaf ac fe edrychwn ymlaen at eich gweld ym Mangor yn 2017! Steffan Bryn, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Swyddog y Gymraeg 2014/15 & 2015/16
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 5
BARDDONIAETH 1.1 Y Gadair - Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell ar y testun - Cam Beirniad: Ll r Gwyn Lewis (Noddwyd gan Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd) 1. Me Culp (Gethin Wynn Davies – Caerdydd) 2. Y Cydymaith (Iestyn Tyne – Aberystwyth) 3. Fforddol (Morgan Owen – Caerdydd) Beirniadaeth: Gair o gyngor yn gyntaf: nid gosod testun ar ganol dalen yn hytrach na’i ochr, ac yna torri brawddegau yn eu hanner yw cyfansoddi cerdd. Gall y wers rydd fod yn fesur hynod bwerus, ond mae’n fesur sydd hefyd yn gofyn am ymwybod a dealltwriaeth o rhythm a thempo, ac o gynildeb. Ochr arall y geiniog, wrth gwrs, yw nad yw rhywbeth sy’n odli ac yn rhedeg ar fydr cyson o reidrwydd yn golygu barddoniaeth dda chwaith. Defnyddiwch ferfau! Nid dim ond berfenwau, neu ferfau diamser, diberson. Mi wn mai’r nod ydi cynildeb, a chreu rhyw awyrgylch dramatig, ond mae’n dechneg dreuliedig dros ben ac mae’n gallu gwneud i gerdd swnio’n syrffedus o undonog. O ran cynnwys, fe wnâi les i nifer fawr o’r beirdd fynd draw i’r wefan hon, sef blog gan Elan Grug Muse: https://gwybedyn. wordpress.com/2016/02/01/codi-tresi/ Mae ganddi gofnod yno sy’n sôn am ba mor gamarweiniol y gall y cyngor hwnnw, ‘dechreuwch wrth eich traed’, fod i sgwennwyr ifainc. Rhwydd hynt wrth
6 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
gwrs i unrhyw un ‘sgrifennu am unrhyw bwnc dan haul. Ond gall rhywun ddeall y cyngor hwnnw o ddarllen mwyafrif helaeth y cerddi hyn. Maent yn gerddi trasig, trist sy’n mynd i’r afael â thrais a thlodi a marwolaeth, a phethau sydd yn aml yn amlwg y tu hwnt i brofiad ac amgyffred yr unigolyn a’i cyfansoddodd. Sgrifennwch rywbeth hapus neu grafod neu smala neu ddychanol! Fel yna, pan fyddwch chi’n anelu am y difrifol a’r dwys, mi darwch hi gymaint yn galetach. Holl bwynt y ‘dechreuwch wrth eich traed’ ydi ceisio annog sgwennwyr i sgwennu o’u profiad eu hunain, neu i geisio ymdeimlo neu gydymdeimlo mewn rhyw ffordd â’r hyn y maen nhw’n ei ddisgrifio neu’n ei ddelweddu yn y gerdd. Rhaffu gwirebau rhad a moesoli cyffredinol a geir yn nifer o’r cerddi hyn. Pam bod y fath anghyfiawnder yn y byd? Nid chi, o bell ffordd, yw’r cyntaf i ofyn hynny.
Ond mi allech fod yn fwy gwreiddiol drwy gynnig ateb newydd i’r cwestiwn hwnnw, ateb sy’n seiliedig ar eich profiad chi o fyw r an, yn ifanc, yng Nghymru, drwy’r Gymraeg. Ble’r oedd eich profiadau chi? Dyna oedd gwendid y gystadleuaeth. Doedd neb yn gwbl ddi-glem o ran crefft, ond yn syniadol roedd hi’n gystadleuaeth dlawd, gan ailadrodd hen goelion. Mi ddefnyddiais gwestiwn rhethregol yn y paragraff diwethaf; dylanwad darllen cynnyrch y gystadleuaeth, bid si r, oherwydd mae yna ormod o beth wmbreth ohonynt i’w cael yn y cerddi hyn. Ac ansoddeiriau hefyd, petai’n dod i hynny. Yn y trydydd dosbarth mae Bedlam, Y Bugail, Seithennyn, Carwen, Celyn, Prishart, Titw Tomos Las, a Smotyn Harddwch. Y cyngor cyffredinol i’r rhain yw: chwiliwch am rywbeth newydd, gwahanol i’w ddweud – neu’n hytrach, gofynnwch sut y gallwch chi roi golwg unigryw inni ar rywbeth mewn ffordd na all neb arall i’w wneud. Wedyn, gadewch i’r syniad hwnnw droi a gwaelodi yn eich meddwl. Yna, cymerwch ofal mawr wrth roi’r cyfan ar bapur. Yr ail ddosbarth: yn yr hanner isaf mae Negydd, Lisa, Sianco, Anni, Dorothi, Y Seciwlydd, a Mo’yn prynu ceffyl?. Yn sicr mae gan y rhain grebwyll, syniad pendant, a chlust dda hefyd – mae nifer o’r cerddi hyn ar fydr ac odl, a braf eu cael. Treuliedig braidd yw’r syniadau yn rhai o’r cerddi, fodd bynnag, ac mae’r lleill wedyn, er taro ar brofiad dilys neu wreiddiol, braidd yn lletchwith neu’n drwsgwl o ran mynegiant. Roedd Caradog, Pumsaint, Acer, Catrin, Enfys a Betsi Grug yn agos iawn at y
dosbarth cyntaf, ac yn wir fe symudodd ambell un i mewn ac allan ohono yn ystod y broses feirniadu! Mae’n amlwg fod yr ymgeiswyr hyn wedi meddwl yn ddwys am yr hyn oedd ganddynt i’w ddweud – ac mae gan y rhain rywbeth pendant i’w gyfathrebu â’u cynulleidfa – cyn rhoi geiriau a llinellau ar bapur. Weithiau mae’r mynegiant yn llac neu’n mynd yn rhy ddisgrifiadol; ceisiwch feddwl am ddelweddau all grisialu’r hyn rydych am ei ddweud, yn lle rhygnu ymlaen. Mae nifer o’r beirdd hyn hefyd fel pe baent yn ysu am ddisgyblaeth y gynghanedd neu fesur rhydd pendant. Beth am geisio ymddisgyblu y tro nesaf i roi cynnig ar ddweud eich dweud o fewn fframwaith mesur penodol? Hyd yn oed os na ddefnyddiwch y fersiwn hwnnw yn y pen draw, mi fydd y profiad o geisio’ch disgyblu’ch hun yn un gwerthfawr. Darllenwch farddoniaeth, gwrandewch ar gerddi – beth ydi’r rhythmau a’r tempos gwahanol rheini all droi disgrifiad dramatig, trawiadol yn farddoniaeth gofiadwy? Hynny yw, beth sy’n gwneud iddyn nhw ganu? Dysgwch hynny ac fe gewch benderfynu drosoch eich hunain wedyn a ydych am i’ch gwaith chi ganu ai peidio. A dyma ni’n cyrraedd y dosbarth cyntaf. Am ei grefft, caiff Lleu ddod i mewn. Mae’n amlwg wrth ei fodd yng nghwmni’r gynghanedd, ac mae rhyw dinc Dafydd ap Gwilym-aidd i’r sangiadau a’r angerdd a geir yma. Ar hyn o bryd mae ambell lithriad prin o ran y gynghanedd, ac achosion amlach pan fo’i gofynion yn drech na’r hyn y mae ar Lleu eisiau ei ddweud. Ond ceir yma hefyd ambell linell a chwpled arbennig, megis ‘Nid â’n hiaith a’n hyfryd
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 7
nwyd / fyth i’r bedd: fe’th rybuddiwyd’. Erbyn y flwyddyn nesaf, dybiwn i, bydd Lleu yn gystadleuydd peryglus iawn! Darlun annwyl, tyner, a thrist mewn ffordd dawel a geir gan Penrhyn. Mae gan y bardd ddawn wirioneddol wrth greu llun a dod â delwedd a golygfa’n fyw: mae’r darllenydd yno yn y ffermdy, ac mae’r cyferbynnu rhwng cynhesrwydd y gorffennol ac oerni’r presennol yn galluogi’r traethydd i ddweud llawer iawn mewn ffordd gynnil dros ben. Mae yma hefyd linellau unigol ysgubol, fel ‘ysgwyd llaw piano / heb ei diwnio’. Ond aeth y bardd ymlaen yn rhy hir ar y diwedd – roedd y cwbl eisoes wedi’i ddweud, a’i ddweud yn dda. O ran yr hyn a drafodir ac a ddisgrifir, mae Arianrhod wedi dewis mater go debyg i nifer o’r beirdd yn yr ail a’r trydydd dosbarth. Ond mae’r ymdriniaeth yn fwy gwreiddiol a diddorol o’r hanner. Rhyw fath o ffigwr Crist sydd yma’n dychwelyd i Israel a Phalesteina ac yn gweld y dinistr yno. Yn nwylo bardd gwannach gallai hyn fod yn gyfle i bregethu a sentimentaleiddio, ond diriaethu’r profiad yn sylwgar a thawel a wna Arianrhod. Mae’r diweddglo annisgwyl a bathetig, wedi’i danlinellu gan yr odl dwt, yn annisgwyl, yn grafog, ac yn taro’r darllenydd. Os oedd Lleu yn dwyn Dafydd ap Gwilym i gof, llais ac arddull rhywun fel Gwenallt sy’n atseinio yng ngherdd Fforddol, er bod rhyw gyffyrddiad Waldoaidd yma yn ogystal. Rwy’n si r bod y traethydd yn sianelu rhywfaint o chwerwder R. S. Thomas hefyd! Cawn ganddo ddarlun teimladwy a soffistigedig o’r Gymru ôlddiwydiannol, gan gysylltu’r presennol hwnnw â chenedlaethau o gyndeidiau. Y byrdwn a ailadroddir drwy’r gerdd yw
8 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
mai ‘cam oedd y rhod’, ac nad ydyw’r rhod wedi troi’n llawn eto. Synhwyrwn erbyn diwedd y gerdd fod hynny ar fin digwydd, a cheir gwawr b l o obaith ar ôl delweddau marwaidd y rhan gyntaf. Eto y mae’n obaith sydd wedi’i dymheru gan ymwybod ac adnabyddiaeth ddofn o’r ardal a’r hyn a wnaed iddi a’i phobl. Prin bellach yw’r sawl a all gyfansoddi yn y fath Gymraeg clasurol, coeth: ymhellach, mae’r bardd hwn yn gwybod beth yw rhythm! Ond yn anffodus mae’r mynegiant coeth yn troi’n oreiriogrwydd a bombast yn llawer rhy aml, gan gymylu’r delweddau a chymhlethu’r mynegiant yn ddiangen. Cofiaf i’r beirniad, pan enillais i fy nghadair ryng-golegol gyntaf, alw fy ngwaith yn ‘henffasiwn fel het’. Fyddwn i ddim yn mynd cyn belled â hynny yn yr achos hwn, ond yn sicr mae lle i gyfoesi llawer ar y dweud, a diosg yr iaith rwysgfawr. Gobeithio y gwna’r bardd hynny oherwydd mae yma lais a llygad hynod werthfawr a gwreiddiol. Un o leisiau mwyaf cyfoes y gystadleuaeth yw Y Cydymaith, heb fod yn boenus felly – mae’r cyfoesedd yn gwbl ddiymdrech ac yn amheuthun. Taith car a gawn yma wrth i’r traethydd ddianc ‘adref’ – er y cawn amheuon yn ddiweddarach ynghylch ble neu beth yn union yw ‘cartref’. Ar y naill law, mae gennym y daith hon a churiadau’r gerddoriaeth ar y CD yn gyfeiliant. Cyfochrir hyn â chameos o atgofion am garwriaeth fer a esgorodd ar feichiogrwydd. Dyw hon ddim yn stori newydd o bell ffordd, ond mae’r modd y’i hadroddir mor ddiffuant a dirodres, gan ddefnyddio delweddau sylwgar, craff, yn gwneud iddi ymddangos fwyfwy felly. Yn anffodus, mae pethau’n mynd yn fwy amwys a chymysglyd tua’r diwedd: a oes
yma newid safbwynt rhwng y bachgen a’r ferch? Dyw’r peth ddim yn gwbl eglur. Mae yma ambell ddelwedd haniaethol yma a thraw: ‘i geisio ffug gysur mewn unigedd’, er enghraifft, sy’n dadwneud gwaith da a manwl rhai o’r mân ddelweddau a geir ynghynt. Ond mae’r pennill olaf yn ysgubol ac yn uchafbwynt yn y gystadleuaeth. Gan me culp y daeth unig ymgais gaeth arall y gystadleuaeth, ac mae hwn wedi llwyddo i ffrwyno’r gynghanedd a’i throi i’w felin ei hun, gan ganu’i genadwri yn ffres, yn ddi-wastraff ac yn gyfoes. Dim ond ambell dro – tua’r diwedd – y caiff yr ystyr ei llurgunio rywfaint gan ofynion y mesur, ac y ceir ambell lithriad cynganeddol. Efallai mai’r broblem fwyaf sydd gennyf â’r ymgais hon yw natur dreuliedig ei delwedd ganolog: cyferbynnu siopwyr barus y ‘Gwener Du’ bondigrybwyll, ar y naill law, â bysgiwr digartref sy’n ceisio crafu byw yn yr oerfel trwy ganu caneuon poblogaidd ar ei gitâr. Faint o gerdd tebyg a gafwyd mewn talyrnau ac ymrysonau dros y blynyddoedd tybed? Ac eto mae ffresni’r dweud yn y gerdd hon yn peri inni deimlo, o leiaf, fel pe baem yn cael rhyw brofiad newydd, neu un diffuant neu ddilys, yma. Mae’r cyfeiriad at ‘Queen Street’ yn lleoli’r darlun, a manylion bach fel yr ‘Imagine wedi smyjo’ ar ddarn papur y canwr, yn gweld manylion newydd yn yr hen ddelwedd hon. Yn aml mewn cerddi o’r fath, ceir rhyw newid meddwl, rhyw dinc o gydwybod, yng nghynffon y dweud. Yma does dim: dim ond nodi bod y dyn yn dal yn ‘gaeth i balmentydd’. Sylwedydd gwrthrychol, oddi allan yw’r llais yn y fan hon, heb gondemnio – mae’n ein gadael ni i wneud hynny drosto. Ond o’r herwydd, does dim rhyw welediad syfrdanol wahanol ar y diwedd chwaith. Mae hon
yn gerdd gynnil dros ben – rhy gynnil, gellid dadlau, ac mewn cystadleuaeth o’r fadd gallesid ehangu rhywfaint ar y naratif i geisio dod â gogwydd newydd neu ffresni o fath i hen ddelwedd. Ond mae’n rhaid imi gyfaddef mai dyma gerdd fwyaf gorffenedig y gystadleuaeth. Tri ar y brig a phenbleth, felly: clasur o gystadleuaeth! Ond o ddifrif, roedd hon, ar y brig, yn gystadleuaeth gref. Fe ellid ystyried unrhyw un o blith Penrhyn, Arianrhod, Fforddol, Y Cydymaith, a me culp yn deilwng. Rhwng y tri olaf hynny y bûm yn pendroni hwyaf: Fforddol, Y Cydymaith, a me culp . Mae’r tri ar wahanol adegau’n ei hennill hi am resymau gwahanol: un yn llais ôl-ddiwydiannol a chanddo berspectif ffres a gweledigaeth soffistigedig; un arall yn llais ifanc cyfoes, teimladwy, llawn delweddau arbennig; a’r llall yn bencampwr o ran crefft, hefyd yn llawn cyfoesedd ond yn ymatal ac yn sylwi’n fwy pellennig. Yn y pen draw, me culp aiff â hi o drwch blewyn, gyda siars iddo geisio defnyddio’i grefft i fynegi gweledigaeth fwy newydd neu fwy cymhleth y tro nesaf. Daw’r Cydymaith ar ei sodlau gyda chlod uchel, a Fforddol yn drydydd agos hefyd ag anogaeth i geisio mynegi ei safbwynt unigryw mewn modd mwy cyfoes. Llongyfarchiadau i’r tri, a llongyfarchiadau hefyd i bawb o blith y dosbarth cyntaf sy’n ennill pwynt yr un.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 9
Cam Nid pnawn Gwener arferol Mohoni – gêm wahanol, Cyflafan rhyw ffwdan ffôl. Ac ar Queen Street yn trîtio Eu hunain, mae pawb yno Yn giw hir am rwtsh ‘MUST GO!’ Gwario, gwario ar geriach Heb allu dofi, bellach Eu chwantau am bethau bach. Do, daeth gyda’r Gwener Du Y dillad rhad i’w dallu I wario’n ddiyfory. **** Yn eu brys, heb sylwi bron, Mae dyn, (mae o hyd yno’n Ei gornel, oerfel neu law Yn eistedd yno’n ddistaw). Ar ei bapur budur bu
Ôl llef yn ei sillafu Blêr, ond ofer ydi o – ‘Imagine’ wedi smyjo. Rhegant rhag mynd mor agos Â’i daro ef, camu dros ei gês gitâr di-arian A mynd gyda’u newid mân. Lond eu poced, ac wedyn Cleber mai ar heroin Y gwariai hwn – gorau yw Ei adael fel yr ydyw. **** Mae yntau’n gaeth i balmentydd – yn gaeth Heb gwilt na gobennydd I’w gornel dawel bob dydd. Me Culp Gethin Wynn Davies, Prifysgol Caerdydd Prifardd Eisteddfod Ryng-golegol 2016
10 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Gethin Weithiau daw’r Awen, Gethin, – i ddewis un neu ddau i’w meithrin; heno daeth i’th gipio di’n ei rhwydi anghyffredin. Gruffudd Antur
1.2 Englyn ar y testun - Penbleth Beirniad: Rhys Iorwerth 1. Pam? (Gethin Wynn Davies – Caerdydd) 2. Bawb (Ffion Williams – Caerfyrddin) 3. Bob (Carwyn Eckley – Aberystwyth) Beirniadaeth: Mi ddaeth wyth cynnig i law, ond nid wyth englyn yn anffodus. Mae cynigion RHUNALDO, COFFI a GOG yn nes at fod yn benillion telyn nac englynion. A thra bo gan CHARLIE CHAPLIN a PRISHART well syniad sut y dylai englyn swnio, mae angen iddyn nhwythau fynd ati i ddysgu rheolau’r gynghanedd yn well cyn gallu creu englyn sy’n gywir o’i gopa i’w gwt. Ymunwch efo dosbarth cynganeddu os gallwch a dyfal donc. Mae BOB, BAWB a PAM? i gyd wedi dysgu rheolau’r gynghanedd yn gywir, ac felly mae’n naturiol bod ganddyn nhw fantais. Englyn cellweirus sydd gan BOB, bardd sy’n gorfod “bathu’n anobeithiol” er mwyn goresgyn y benbleth o ganu englyn testunol. Englyn enigmatig sydd gan BAWB – stori fer o englyn, bron iawn. Ond stori sydd fymryn yn dywyll i mi, yn anffodus, a braidd yn ddiofal ydi’r camdeipio (“gynhleth” a “Bynd”) sydd ond yn bwrw cysgod duach dros bethau.
hynny’n ei achosi. Dyna benbleth yr awdur, ond doedd yn ddim penbleth o gwbl i mi ei wobrwyo. Penbleth Gwyddwn y bore hwnnw – er erfyn Rhoi’r arfau i’w cadw Na wneir ond eu cofio nhw Am awr wrth feddau’r meirw. Beirniadaeth: Tri englyn sy’n y ciw ar Caroline Street, ond fel yn y gystadleuaeth flaenorol, mae angen i PRISHART fireinio mymryn ar ei afael ar y gynghanedd, ac wedyn mi fydd yn nes at flaen y sgrym feddwol am ei gebab.
Ond PAM? ddaeth i’r brig o’r cychwyn cynta - englyn sy’n llifo’n rhwydd, heb ôl straen arno. Mae modd ei ddarllen mewn sawl ffordd, yn enwedig y “nhw”. Yn ôl fy nehongliad i, awgrymu’n gelfydd mae’r englyn yma mai troi’n ôl i ladd fydd y ddynoliaeth o hyd, er gweld y dinistr mae
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 11
1.3 Englyn digri ar y testun - Chippy Lane Beirniad: Rhys Iorwerth 1. Jenny (Gethin Wynn Davies – Caerdydd) 2. Garem (Carwyn Eckley – Aberystwyth) 3. Prishart (Caryl Bryn – Bangor) Beirniadaeth: Tri englyn sy’n y ciw ar Caroline Street, ond fel yn y gystadleuaeth flaenorol, mae angen i PRISHART fireinio mymryn ar ei afael ar y gynghanedd, ac wedyn mi fydd yn nes at flaen y sgrym feddwol am ei gebab. Mae’n gystadleuaeth agos wedyn rhwng GAREM a JENNY. Er gwaethaf y dweud da yn englyn steilus GAREM, JENNY sy’n mynd â hi am gynildeb yr olygfa gomig
mae’n ei phaentio a gwreiddioldeb y cynganeddu. Efallai y byddai “Sut gwn i?” yn ffordd fwy normal o ofyn y cwestiwn yn y llinell olaf, ond mi wnaeth i mi chwerthin beth bynnag. JENNY piau’r pei. Chippy Lane Ar chippy lane fe gafodd Jenny – flas Saveloy a grefi, A hyd’noed Steak and Kidney. Wn i sut? Cusainais hi.
1.4 Englyn coch i gynnwys y geiriau - Clwb Ifor Bach/Clwb Ifor/Clwb Beirniad: Rhys Iorwerth 1. Pen Richard (Gethin Wynn Davies – Caerdydd) Beirniadaeth: Un englyn yn unig ddaeth i law ac amau ydw i fod y cynildeb awgrymog yn y llinell olaf yn golygu nad englyn gwir goch mohono, yn y bôn. Ac mi hoffai’r beirniad wybod lle mae Waen-fach. Ta waeth, mi gaiff PEN RICHARD y wobr am ei ymdrech a’i gyfeiriadaeth lenyddol os am ddim arall.
12 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Rhys Iorwerth yng Nghlwb Ifor Bach yn 2011 Hwnt i ddôr Clwb Ifor Bach – ‘n ddifaddau o feddwol, mae’n grwgnach am serch rhyw ferch o Waen-fach, a dyn a’i jîns o’n dynnach.
1.5 Parodi - Hon T H Parry Williams Beirniad: Llion Pryderi Roberts 1. Theleri Th p (Mirain Llwyd Roberts – Bangor) 2. Yr Hen Ast (Mirain Llwyd Roberts – Bangor) 2. Tony ac Aloma (Carwen Richards – Bangor) 3. Fflos (Sara Alis – Caerdydd) Beirniadaeth: Daeth pum ymgais i law, ac mae’r rhan fwyaf wedi deall gofynion sylfaenol parodi, ynghyd â’r berthynas â dychan a hiwmor i greu effaith ar y darllenydd. Dyma rai sylwadau byrion am bob ymgeisydd: ‘Tony ac Aloma’: Ceir yma bwnc cyfarwydd, sef yr ymryson cyfeillgar sy’n bodoli rhwng myfyrwyr prifysgolion. Mae’r awdur yn gyfarwydd â’r gerdd wreiddiol, ac mae’r dychan yn llwyddo mewn mannau heb ddisgyn i gors ystrydeb. Ymgais dda, ond trueni am y llinell olaf sydd braidd yn amwys ac yn colli rhythm (ac ergyd) y gwreiddiol. Daliwch ati. ‘Yr Hen Ast’: Dyma ymgeisydd mwyaf gwreiddiol y gystadleuaeth, ac mae’r dychan gwleidyddol miniog yn ategu at feddylfryd ‘Hon’. Mae’r cynllun odlau a’r ymadroddi yn ffres ac awgrymog yn hanner cyntaf y gerdd, ond nid yw’r ail hanner cystal o ran rhythm a chynildeb. Gellid bod wedi cryfhau’r clo drwy chwarae ar air olaf y gerdd wreiddiol, ‘hon’. Daliwch ati.
ffurf a mynegiant y gwreiddiol nes colli siâp ac ystyr. O’r herwydd, collir ergydion dychanol y gerdd ‘Hon’ a fyddai wedi gallu cryfhau tensiwn, eglurder a chynildeb y parodi. Daliwch ati. ‘Theleri Th p’: Cerdd sydd eto yn mynd i dir cyfarwydd y prifysgolion, ond mae’r pwyslais ar leoliad yn creu cyswllt thematig â’r gerdd wreiddiol. Mae’r parodi hwn yn llai uchelgeisiol nag ambell ymgais arall, ac yn tueddu i gadw yn rhy agos at ymadroddi’r gwreiddiol mewn mannau. Serch hynny, ceir yma fflachiadau parodïol a dychanol effeithiol, yn enwedig wrth i’r gerdd fynd rhagddi ac mae’r rhythmau yn fwy gwastad ar y cyfan. Daliwch ati. ‘Fflos’: Cerdd sy’n dychanu’r eisteddfod ryng-golegol. Ceir yma gyffyrddiadau diddorol a chanu eironig ar dro sy’n adlewyrchu camp a rhemp y sefydliad. Serch hynny, mae’r cynllun odli anghyson yn tynnu rhywfaint oddi wrth yr ergydion, ac fe gollir symudiad rhythmig a chynildeb mewn ambell fan wrth i’r gerdd fynd rhagddi. Daliwch ati.
‘Seren Aur’: Testun cyfarwydd eto, sy’n berthnasol i fyfyrwyr heddiw, ac yn sicr fe glywir bwrlwm bywyd myfyrwyr prifysgolion Cymru yma. Fodd bynnag, teimlaf fod tuedd i ymestyn cymaint ar
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 13
Hon.
Rhai Aber fondigrybwyll, yn cadw s n. Mi af i’r Glôb, i osgoi myfyrwyr di-frên, Yn ôl i’r offis gynt, a’i chwsmeriaid sy’n glên.
Beth yw’r ots gen i am Fangor? Damwain a hap Fy mod yn y ddinas yn byw. Nid yw hon ar fap. Yn ddim byd ond tipyn o goleg mewn cornel gefn. Ac yn andros o boendod i rai sy’n credu mewn trefn. A phwy sy’n meddwi’n y tafarne, dwedwch i mi.
A dyma fi yno. Diolch am fod ar goll. Ymhell o Aber gyda’r ffyliaid oll. Dyma Geraint a’i griw; corun perffaith a moelni’n wir; Dacw bwmp a photel a wisgi; ac, ar fy ngwir, Dacw fy hoff ddiod. Ac wele, uwch bar y lle Mae jägermeister mwyaf sydd dan y ne’.
Dim ond gwehilion o stiwdants? Peidiwch da chi.
Rwy’n dechrau simsanu braidd; ac meddaf i chi, Mae rhyw sic yn dod yn sydyn drosof i.
 chlegar am radd a gwobrau a chlod o hyd; Mae digon o’r rhain, heb Fangor, i’w chael yn y byd.
Ac mi glywaf grafangau Bangor yn dirdynnu fy mron,
Rwyf wedi blino ers dyddiau ar glywed grwn.
Duw a’m gwaredo, ni allaf ddianc rhag hon.
1.6 Cerdd Ddychan i unrhyw un o brifysgolion Cymru Beirniad: Siwan Rosser 1. Anti Wendy (Marged Gwenllian Edwards – Aberystwyth) 2. Prishart (Caryl Bryn – Bangor) 3. Anti Jên (Marged Gwenllian Edwards – Aberystwyth) Beirniadaeth: Gall dychan fod yn arf pwerus i’r sawl sydd am dynnu blewyn o drwyn ei elynion. Nid rhyfedd felly gweld 10 ymgeisydd yn achub ar y cyfle i ladd ar
14 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
brifysgolion y naill a’r llall. Mae digon o elyniaeth chwareus yn y cerddi, ond mae yma fwy o ddifenwi ac enllibio nag o ddychan. Rhestru ffaeleddau ac ystrydebau cyffredin a gawn gan fwyaf
(joscins, budreddi’r Glôb/Llew Du ac ati!) - byddwn wedi hoffi gweld mwy o ddarluniau pryfoclyd, doniol a gwreiddiol. Ond daeth un i’r brig, gan ddangos nad oes angen bryntni na rhegi er mwyn dirmygu’r gelyn. Mae ‘Anti Wendy’ yn arddangos gafael dda ar anghenion mydryddol y limrig gan roi swadan i ddwy brifysgol ar yr un pryd.
Cerdd Ddychan Dwin synnu bod UMCA ‘di boddro Troi fyny i’r sdeddfod i dreulio Penwythnos go fawr Yn chwydu ar lawr I gyfeiliant côr Bangor yn udo
1.7 Limerig “Wrth Skype-io darlithydd un noson...” Beirniad: Sioned Davies 1. Yncl Dewi (Marged Gwenllian Edwards – Aberystwyth) 2. Candi (Sara Alis – Caerdydd) 3. Yncl Arthur (Marged Gwenllian Edwards – Aberystwyth) Beirniadaeth: Rhaid mai dyma gystadleuaeth fwyaf poblogaidd yr Eisteddfod – derbyniwyd 42 limerig i gyd. Mae’n amlwg nad yw rhai o’r ymgeiswyr yn deall rheolau’r ffurf farddonol hon – ceir gormod o sillafau neu ddiffyg odl. Aethpwyd ar sawl trywydd, a sawl un yn frawychus o ddichwaeth – cofiwch mai cynildeb yw cyfrinach y limerig, a hiwmor awgrymog. Ond daeth tri i’r brig.
Limerig Wrth skype-io darlithydd un noson Ymlaen yn y cefndir roedd ‘rymryson Mae’n rhaid llyfu tîn I blesio’r boi blin Sy’n marcio’n traethodau ‘fo crayon.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 15
RHYDDIAITH 2.1 Cystadleuaeth y Goron - Darn o ryddiaith greadigol heb fod dros 6,000 o eiriau ar y testun - Gorwelion Beirniad: Anni Ll n 1. Macsen (Mared Roberts – Caerdydd) 2. Pawb yn Aberystwyth (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) 3. Gwaith Cartref (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) I ddechrau, diolch o galon am y gwahoddiad i feirniadu. Dwi’n ymddiheuro na alla i fod yma heddiw ond dwi’n gobeithio eich bod i gyd yn cael amser da ac yn cael croeso yng Nghaerdydd. Pleser oedd darllen yr wyth ymgais ddaeth i law. Yn amlwg mae ’na sgwennwyr gwreiddiol a hyderus yn eich plith. Mae ’na dri wedi dod i’r brig. Ond dyma bwt o air am y 5 arall: Hen r Bethesda – Agoriad hynod o effeithiol, ond yn anffodus mae’r cywair yn newid i fod braidd yn drwsgwl a chwithig wedi’r paragraff cynta. Mae angen bod yn ofalus gydag amser y ferf a threigladau. Mae yma syniad difyr ac rwyt wedi ystyried y strwythur ond mae ’na ddiffyg dychymyg o ran y disgrifiadau. Gwaith addawol sy’n mynd i ddatblygu llawer wrth ei ail-ddrafftio. Crwstyn – Dyfais ddiddorol dros ben
16 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
o ddadansoddi cymeriadau drwy ddadansoddi eu dewis o bwdin. Diweddglo arbennig hefyd wrth droi’r cyfan yn ôl ar y prif gymeriad. Ond i ryw raddau rwyt ti’n datgelu’r ddyfais yn rhy rhwydd, oes posib ailwampio’r stori ac ailfeddwl y strwythur? Mae angen mymryn mwy o ddyfeisgarwch yma. Nansi – Mae gan yr awdur ddawn cymeriadu da iawn. Mae angen gweithio eto ar y grefft o saernïo’r stori fer e.e. pa mor berthnasol yw’r capel i’r stori mewn gwirionedd? Rwyf hefyd yn amheus o’r berthynas rhwng y mab a’r fam. Does dim digon o gyfeiriadaeth gynnil yn ystod y stori sy’n fy nenu i gredu’r casineb. Ond dyma awdur addawol sydd wedi creu cymeriad cofiadwy iawn. Alys – Stori ddifyr sy’n datblygu’n stori “opera-sebonaidd” gymhleth. Mae ’na gyffyrddiadau arbennig yma e.e. “…pluo’r amlenni oddi ar y cardiau Nadolig.” Ond nid yw cywair y person cyntaf yn eistedd
yn gyfforddus iawn. Mae ambell ran yn annaturiol o lenyddol a cymeriad y tad yn cael ei golli. Stori afaelgar, ond angen ychydig bach mwy o feddwl o ran strwythur. Beth am feddwl am ffordd arall i ddatgelu’r gyfrinach fawr ar y diwedd? Efallai bod modd rhannu’r gwir gyda’r darllenydd yn unig? Heli yn y Felin – Dyma ddarn dwys iawn yn llawn emosiwn a’r awdur yn archwilio iselder ac anhapusrwydd yn ddwfn. Mae rhywbeth arteithiol am y darn, sydd am wn i, yn cyfleu’r caethiwed y mae’r cymeriad yn ei deimlo. Ond, yn bersonol, mae yma ormod o ddwysder emosiynol sy’n llethu’r stori a’r cymeriad. Mae’r delweddu braidd yn ailadroddus a’r datblygiad yn araf. Mae pethau’n ysgafnhau tua’r canol ond dwi’n meddwl, yn gyffredinol bod angen gweithio ar gynildeb. Ond awdur deallus iawn. Y tri ymgais sydd wedi rhoi’r mwyaf o foddhad a chyffro i mi fel darllenydd yw Gwaith Cartref, Pawb o Aberystwyth a Macsen. Cafwyd stori am Dylwyth Teg sy’n byw yn Ynys Awenasa yng nghanol Llyn y Dywarchen gan Gwaith Cartref. Rwyf i’n bersonol yn mwynhau straeon ffantasïol ac yn mwynhau gweld awdur yn archwilio dychymyg. Mae’r awdur wedi creu byd a chymeriadau arbennig, ac mae’r gwaith cynllunio o ran yr enwau, hanes a’r daearyddiaeth yn afaelgar. Mae’r gwaith dyfeisio yn drawiadol iawn e.e. presenoldeb Niwl Amos. Ond mae ambell wendid e.e. hoffwn pe bai yna fwy o ryfeddod wrth i Loti weld meidrolyn am y tro cyntaf. Yn gyffredinol mae angen mwy o amser a swmp i’r stori yn
enwedig o ystyried y dyfyniad a geir ar y dechrau. Ond gwaith difyr dros ben fydda’n datblygu’n nofel fer dda. Mae’r awdur Pawb o Aberystwyth wedi cyflwyno stori am ddirywiad ysbryd bachgen ifanc o’r enw Rhun. Dyma sgriptiwr gora’r gystadleuaeth. Mae’r ddeialog yn rhwydd a naturiol, a ffraethineb y sgwrs yn dod yn fyw. Mae yma gyffyrddiadau gwreiddiol e.e. “…a stem y te yn cosi’r ffenestri rhynllyd.” Mae taith y prif gymeriad wedi ei saernïo yn gelfydd a’r dealltwriaeth o’r llithriad meddyliol yn effeithiol iawn. Mae ambell i lithriad ieithyddol a chamgymeriadau, dim ond mater o brawfddarllen eto efallai. Breuddwyd Gwil oedd is-deitl stori Macsen. Dyma awdur galluog, dyfeisgar sydd wedi datblygu llais llenyddol cyffrous. Mae’r darn yn adlais, uniongyrchol ar adegau, o Freuddwyd Macsen o’r Mabinogion. Allwn i ysgrifennu traethawd yn dadansoddi’r berthynas ramadegol ac ysbrydol rhwng y gwaith a’r chwedl. Ond be sy’n arbennig am y ffordd y mae’r awdur wedi defnyddio’r dylanwad, yw’r ffordd y mae wedi plethu dau gywair ieithyddol– yr hen ffaswin a’r cyfoes – ac wedi creu llais unigryw a chwareus. Mae’r cysyniad breuddwydiol wedi ei drwytho’n gelfydd trwy gydol, ac mae’r elfen athronyddol yn ddatblygiad difyr iawn tua’r diwedd. Mae’n amlwg bod yr awdur yn feistr ar yr iaith. Mae yma gyffyrddiadau hynod o farddonol, bron yn gynganeddol, cyfeiriadaeth glyfar at atgofion a cherddoriaeth, ac mae’r defnydd o Ffrangeg yn hudolus. Mae Breuddwyd Gwil gan Macsen yn gampwaith. Rwy’n edrych ymlaen i ddarllen
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 17
mwy gan yr awdur yn y dyfodol. Mae’n llwyr haeddu Coron yr Eisteddfod Rynggolegol eleni. Yn ail rwy’n gosod Pawb o Aberystwyth am ei raen naturiol o gyfoethog. Ac mae Gwaith Cartref yn cael y drydedd wobr am greu byd cyffrous o Dylwyth Teg. Detholiad o ‘Gorwelion: breuddwyd Gwil’ st mihiel Diwrnod digon od oedd hi. Diwrnod heulog ond oer ym mis Hydref. Cybolfa lwyr o haf a gaeaf. Tywydd bodywarmer. Am ei ben, gwisgai Gwil ei gap Legionnaire coch y prynodd ei fam iddo o ‘Mataland’ Gaerfyrddin. Y math hwnnw â’r fflaps yn hongian dros y clustiau. Roedd honno wedi dod yn dipyn o ffan o’r siop ers iddi ei darganfod. Dillad ‘cyfoes’ am bris rhesymol, yn ei hôl hi. Doedd ganddo ddim cap arall nac ychwaith sbectol haul, a byddai’n well ganddo edrych fel sbaniel ffotosensitif ar grwydr na llosgi ei war, felly gwell oedd ei wisgo. Croesodd y bont dros yr Erdre ac ailddarganfu ei hafan uwaith eto. Braf oedd medru dianc o fywyd y dref a mentro i mewn i wyrddni weithiau. L’île de Versailles. Y lle hudolus hwn lle byddai’r coed a’r rheadrau a’r cerrig sarn yn consurio’i awen. Roedd yn un o’r mannau hynny yn y ddinas lle llifai’r geiriau, fel y d r wrth ei ymyl, mor rhwydd ar y papur. Mwythodd risgl y rhododendron i’w chwith. Roedd ganddo ychydig o waith meddwl i’w wneud am yr hyn a’r llall. Clirio’i ben.
18 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Carthu ei bryderon... Roedd ganddo awydd cystadlu eleni. Wedi’r cyfan, yr oedd Gwil wastad wedi hoffi ysgrifennu, ac ni fedrai gofio’r tro diwethaf iddo gynhyrchu darn o waith er pleser personol. Diddordeb mewn pobl oedd ganddo. Pobl a llefydd. Llefydd a phobl. Sut y medrai lle fowldio cymeriad dyn, a’i newid. Er gwell. Er gwaeth. Byddai hyn yn cyfareddu Gwil o hyd. Ta beth, dyna ddigon ar hynny am y tro. Roedd angen ysgrifennu pwt bach i’w deulu arno heddiw. Dechreuodd gydag ‘Annwyl mam a dad,’. Yna bu’n rhaid iddo feddwl am amser hir cyn dechrau dodi rhywbeth ar ddu a gwyn. Meddyliodd am yr olygfa a welsai ar harbwr Cei y noson olaf honno. Yr oedd yn ddim ond brithgof swreal i Gwil erbyn hyn. Mor bell yr ymddangosai ei atgofion o’i gartref; eistedd ar y wal yng nghanol y gwylanod yn bwyta’i fecryll a’i jips o’r Lime Crab, a’r cychod a’r bwiau a’r ceffylau gwyn yn ddarlun Helen Elliottaidd, naïf o’i flaen, a’r haul ar fin machlud dros draeth Llanina a Chei Bach gyferbyn. Y math hwnnw o fachlud tanbaid a welir yng ngweithiau Renoir. Daeth pwl sydyn o hiraeth arno. Hiraeth [eg]: galar a thristwch ar ôl rhywun neu rywbeth a gollwyd, dymuniad neu ddyhead dwys. Gair na fedrir ei gyfieithu’n uniongyrchol i unrhyw iaith arall. Teimlad, felly, casglodd Gwil, y’i profir gan Gymry yn unig, o bosib... Eto i gyd, edrychodd Gwil o’i amgylch yn wyllt, a’i du mewn yn llawn galar,
yn llawn ofn, yn llawn llawenydd. Ei amser yn Nantes oedd y peth agosaf a gawsai erioed at freuddwyd. Teimlodd fel petai’r holl brofiadau a gafodd yn ymddangos, yn diflannu, yn ymddangos, yn diflannu mewn mater o eiliadau yn adlewyrchiad ei sbectol. Ac felly gwyddai pan ddychwelai i Gymru, y byddai teimlo rhyw wacter yn ei enaid yn anochel.
Englyn i gyfarch y llenor buddugol Mared Rywle mae’r holl orwelion – yn uno: mae llun yn dy galon o relwe aur, ac mae’r lôn yn arwain at dy goron. Gruffudd Antur
Manquer à qqn [verbe] : se dit lorsqu’une personne ressent l’absence d’une autre. Pan fo unigolyn yn teimlo absenoldeb unigolyn arall. Rwy’n dy fethu di. Tu me manques. Hynny yw, rwyt ti’n goll oddi wrthyf i. Onid yw hynny’n hardd? Fel petai darn hanfodol o berson bellach yn absennol. Fel petai’r person neu’r lle hwnnw’n ddarn o’r corff nad oes modd byw hebddo. Fel cinio dydd Sul heb grefi. Fel enw heb ansoddair. Fel John heb Alun. Mae’n rhyfedd fel y mae blwyddyn dramor yn medru cael y fath argraff ar berson. lefydd mewn gwahanol ieithoedd. Y teimlad chwerw-felys hwnnw o berthyn i ddau le. Gwybod beth yw caru lle. A gwyddai Gwil yn iawn pan ddeuai’r amser iddo adael, nid yn unig y byddai’n gweld eisiau’r lle a’r bobl, ond y byddai hefyd yn gweld eisiau’r person hwnnw ydoedd ar y pryd, gan na fyddai’r Gwil hwnnw fyth yr un person eto. Mor lwcus ydoedd o gael rhywbeth a wnâi dweud hwyl fawr yn weithred mor anodd. Dododd feiro ar bapur a dechreuodd ysgrifennu. Macsen Mared Roberts, Prifysgol Caerdydd Prif Lenor Eisteddfod Ryng-golegol 2016 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 19
2.2 Stori Fer ar y testun - Pont Beirniad: Lisa Sheppard 1. Illuminati (Mari Elen Hughes – Bangor) 2. Antur Stori ‘Geiriau’ (Elliw Griffith – Caerdydd) 3. Y Corn Gwlad (Manon Elwyn – Bangor) Beirniadaeth: Diolch yn fawr iawn i bob ymgeisydd a gyflwynodd stori i’r gystadleuaeth eleni – roedd nifer o elfennau addawol ym mhob un ohonynt a chefais flas ar ddarllen y gwaith ffres a’r syniadau diddorol sydd gan fyfyrwyr ein prifysgolion i’w cynnig. Eleni cyflwynwyd saith stori i’r gystadleuaeth a nifer ohonynt yn ymdrin â sefyllfaoedd a chymeriadau tebyg. Yn eu plith roedd chwe stori yn trafod marwolaeth mewn rhyw ffordd ac yn rhoi mewnwelediad i fywydau cymeriadau sy’n ceisio ymdopi â cholli aelod o’r teulu neu ffrindiau agos. Roedd pump o’r straeon hefyd yn dehongli’r thema ‘Pont’ fel pont rhwng y gorffennol a’r presennol, ac yn cyffwrdd â phrofiadau megis dioddef o glefydau megis Alzheimer’s, neu gychwyn ar drywydd newydd mewn bywyd. Oherwydd hyn, cafwyd sawl un yn ceisio symud yn ôl ac ymlaen rhwng ddoe a heddiw - i rai, dyma oedd y prif faen tramgwydd, wrth i’r naratif golli ffocws wrth symud rhwng cyfnodau amser, a chymhelliant y cymeriadau, neu’r rheswm dros atgof penodol, yn eisiau ar brydau. Wedi dweud hynny, cafwyd awgrym o ddoniau creadigol yr awduron ym mhob un o’r straeon, ond daeth dwy stori i’r amlwg oherwydd eu bod wedi’u llunio’n gynnil gyda strwythur a chymeriadau a oedd yn dal d r yn llwyr, yn enwedig wrth symud rhwng
20 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
gwahanol gyfnodau ym mywydau’r cymeriadau. Roedd un stori yn arbennig yn llwyddo i bontio ddoe a heddiw, themâu diniweidrwydd a marwolaeth, a gobaith ac anobaith gyda’i harddull awgrymog a’i disgrifiadau apelgar. Y stori honno oedd eiddo Illuminati, sy’n llawn haeddu’r wobr hon eleni. Pont “Wnei ‘di wneud un i mi ar ôl i chdi orffan Beca?” cwestiwn oedd hi wastad yn ei ofyn wrtha i oedd hwnna. Wrth i mi bigo a lladd llygaid y dydd oedd yn berwi o’n cwmpas, a’u clymu yn un fel petawn yn rhoi’r cyfle iddynt farw hefo’i gilydd yn hapus, ro’n i’n teimlo ei llygaid emrallt yn syllu arna i’n fud. “Gnaf si r” oedd fy ateb innau bob tro. Er fod bron i bum mlynedd rhyngtha i a hi, roedden i’n ffrindiau mawr. Roedd gen i lawer o gefndryd, ond dim ond un gyfnither, Nel. ‘Dwi’n cofio pan ddaeth hi i’r byd. Dim ond 4 oeddwn i, ond ro’n i ‘di cynhyrfu’n lân pan es i a mam lawr y lôn i Fferm Tan-y-Bryn, t Anti Sian, a rhoi cnoc ar drws. Steff, fy nghefnder mawr ddaeth i’w ateb, a’i focha’ yn goch yn unlliw a’i wallt. “Yn parlwr ma ‘nw” meddai, a’i lais yn canu o gynhwrf. ‘Dwi’n cofio mam yn rhoi ei
breichiau o gwmpas Anti Sian a honno bron a chrio am ei bod wedi cael hogan fach, a hithau yn fam i bedwar hogyn yn barod. Sleifiais heibio mam yn ara deg tuag at y bwndel bach pinc oedd yn saff yn nwylo Tomi, yn frawd balch arall. Roedd ei hwyneb bach mor berffaith, a’i dwylo bach yn gwingo fel dail y coed Roedd ei llygid yn gilagored, a ‘dw i’n cofio gofyn i Anti Sian, sut bod ganddi lygaid gwyrdd, gan mai glas oedd ei rhai hi ac Yncl Dei. Gwenodd arna i am eiliad, a phlygu i’r un lefel â mi. “Mae nhw’n si r o newid ‘sdi pwt, mae llygaid babi bach ifanc fel hyn yn newid ei liw bob tro sdi.” Ond aros wnaethant. Treuliais weddill fy mhlentyndod gyda Nel yn ffyddlon wrth fy nghwt. Daeth Tan y Bryn, yn ail gartref i mi, ac adref yn ail gartref iddi hithau. Bu’r ddwy ohonom yn profi sawl gyrfa cyn cyrraedd ein harddegau, o weithio mewn salon i fodelu dillad ar y ‘catwalk’, i’r magu tragwyddol ar y babis plastig, i fod yn arwyr mewn jyngl yn cwffio’r holl anifeiliaid gwyllt, yn yr ardd gefn. Ac yn meddwl y byd ohoni. Roedd hi’n gwneud i mi deimlo’n hapus, ac yn fodlon, wrth i mi sylweddoli faint yr oedd hithau yn feddwl ohona innau hefyd. Roedd hi’n fy edmygu. Yr holl ddyddiau oeddem yn eu treulio allan yng nghaea’r ffermydd o’n cwmpas, ym mlagur y gwanwyn ac yng nghynhaeaf yr hydref, haul yr haf a marw’r gaeaf. Dim ond y ni ein dwy. Finnau’n arwain a hithau’n dilyn. Ffrindiau bora oes, ffrindiau am byth.
y byd. Ar ôl cyfnod byr o swatio tu ôl i furiau cyfyngedig ein cartrefi cynnes, teimlad cyffroes, diarth oedd mentro allan y diwrnod hwnnw. Y nawfed ar hugain o Chwefror, tua deg yn y bore. “Beca, mae ‘na bedair rôl ham mewn ffoil yn y ffrij i chi gael i ginio, a mae ‘na ‘fala wrth y sinc a digon o ddiod coch i chi yn y cwpwrdd. Fyddai’m yn hir, chydig oria’. Mae’r hogia’ lawr lôn yn Cefnen fo hogia’r pentra’, a fydd Yncl Dei ddim adra ‘dan tua 2, yr un pryd â minnau mae’n si r, felly gwyliwch chi’ch hunain ar y big bels ‘na os ‘da chi’n bwriadu g’neud dryga. Mi eith Dei fyny wal efo chi‘ch dwy!” A minnau a Nel yn chwerthin yn ddireidus fel oedd Anti Sian yn rhoi y got goch aeaf am Nel cyn iddi adael. Doedd ganddi ddim llawer o ddyddiau ar ôl i’w gwisgo, roedd y tywydd yn newid. Dwi’n cofio sylwi ar wên Anti Sian y diwrnod hwnnw. Roedd hi mor hapus, fel petai’n perthyn i’r haul oedd yn trawo’n ffyrnig y tu allan. A parod iawn yr oeddem i fentro allan i’w gyfarch. Roedd o fel pennod newydd i nofel hir, a finnau yn ffansio’n hun fel llances, yn cael gwarchod Nel am ‘chydig o oriau. Wnes i ddim sylwi ar y frân a ddigwyddodd ddisgyn i grawcian ar y polyn letrig yn y cae flaen t , achos ei bod hi’n ddiwrnod mor rhyfeddol o braf. Roedd bob dim yn ffres, bob dim yn newydd, a’r aer yn hymian o’i hapusrwydd newydd anedig ei hun.
Daeth y Gwanwyn yn fuan y flwyddyn honno, i’n hudo ni allan i ward mamolaeth
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 21
Y bore hwnnw, troediais i tu ôl i Nel am y tro cyntaf, i’r ardd gefn i chwilio am bel, a’r cerrig man yn crensian eu croeso dan draed. “Ty’d Beca ti’n slo!” Roedd ei llais yn gryf ac yn iach, a’i llygaid yn sugno goleuni’r haul fel dwy banel solar yn storio egni am y diwrnod oedd o’n blaenau. Gwenais wrth ei gweld yn petruso o gwmpas y goeden gwsberis, yn mynnu wrthi hun bod rhai ohonynt yn barod i’w bwyta. ‘Dwi’n cofio chwerthin am ei phen, ar ei diniweidrwydd cysurus.
bach doeth yn rasio y tu ôl iddynt ‘dan fop o gyrls euraidd. “Ond mae gen i ddwy droed, ac mae gen titha ddwy law... a dwy droed hefyd! Felly rhwng chdi a fi, mi fedra ni fod yn octopws medran!”
“Paid â bod yn wirion, rho ‘chydig fisoedd eto Nel bach ac ella fyddi ‘di chydig nes ati.”
Bu’r ddwy ohonom yn chwerthin yn braf am yn hir wedyn yn dynwared rhyw Octopws o’i gof gan orweddian ar ein cefnau yn ysgwyd ein dwylo a’n coesa yn yr awyr yn feddwol. Roedd hi’n hogan glyfar, a chanddi ateb i bob dim. Cymêr. Craduras. Cariad. Yn glên, yn ffeind, yn ddoniol yn feddylgar. Roedd ganddi gymaint i’w gynnig, a hithau ond yn saith oed.
Deuddeg oed oeddwn i. Ro’n i’n dechrau tyfy fyny erbyn hyn, deall mwy am y byd a’r pobl ong nghwmpas. Roeddwn i yn fy mlwyddyn gyntaf yn yr ysgol uwchradd, ac yn ei gasáu. Ond doedd hynny ddim yn broblem ar ddiwrnodau fel y diwrnod hwnnw. Roedd Nel yn gwneud bob dim yn well, bob dim yn iawn.
Buom yn gorwedd yno yn sobri am ‘chydig eiliadau cyn iddi neidio ar ei thraed eto, felly dyma finnau ar fy ngliniau. Taflodd ei breichiau eiddil ong nghwmpas. Dwi’n cofio teimlo gwres ei bochau coch yn dynner ar f’un i, a’i hanadl ysgafn yn mwytho ngwar. Gafaelais innau ynddi’n dynn, ac aros felly am chydig bach.
‘Dwi’n cofio’r sgwrs yn iawn. Ei phen bach ifanc yn llawn syniadau.
Gwenais.
“Gawn ni chwara pêl? Na na, gawn ni fynd ar y swing? O na na, ga i ddod a fflwff y gath tedi bêr allan a cogio bo ni’n mynd am dro i dre neu i’r jyngyl a, a...” “Ers pryd wyt ti’n octopws?!” Chwarddais wrth weld ei hwyneb bach yn troi’n syn am nad oedd hi’n deall. “Un peth ar y tro ia? Dwy law sgin ti cofia!” medda finna a rhoi winc iddi. Roedd ei llygaid mawr yn syllu arnai, a’r meddwl
22 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
“Reit, be’ oedd y peth cynta ar list Mr Octopws ‘na ta?” A dyma’r ddwy ohonom yn codi, a dilynodd fy llygaid ei welingtons bach melyn yn brasgamu drwy’r gwair marw, hen, fel chwannen ar farf hen ddyn. Bu’r ddwy ohonom yn sefyll yno am ‘chydig eiliadau cyn sylwi nad oedd y bêl yno. ‘Dw i’n cofio hi’n cychwyn chwerthin yn ddireidus, yn afreolus , a dyma finnau yn chwerthin ar ei hol. Pam? Toedd na’m rheswm. Am ein bod wedi sefyll yno’n wirion yn barod i
gychwyn chwarae heb bêl? Efallai. Am fod Mr Octopws dal yn ddoniol? Mae’n si r. Neu efallai am ein bod ni’n hapus. Ia. Dyna o’dd. “’Dwi’n gwybod lle mae hi! A’i nol hi.” “Lle ma hi? Ddoi efo chdi Nel...” “Tu ôl i’r sied i fod. Mi giciodd Tomi hi dros do y sied ddoe ac mi griodd Sam achos nath mam im gadael iddo’i nol hi am bo’ ni’n gorfod cychwyn i fynd i wers nofio erbyn 5. Mi on i’n chwerthin am i ben o.” Roedd hi’n chwerthin wrth ddweud y stori hefyd... “Dos i nol hi reit sydyn ta. Dos trwy’r sgubor a heibio cenal y ci a’r pit slyri...”
gyfarwyddo a phob carreg fel postmon ar ei rownd ddyddiol, a’r adar bach yn canu emynau o nghwmpas. Ar eu traws daeth cri’r Foncath yn gresiendo uwch fy mhen, yn gwaeddi am bartner. Ciliodd f’amrannau, agorais fy llygaid, a dilynais ei chylch. Synfyfyriais nes aeth y foncath coll yn ddotun du mewn canfas wen. Teimlais fy llygaid yn meddwi, yn disgyn yn ôl i mhen i gymhwyso’r teimlad o deimlo dim. Sobrais. Clywais gri arall, ac un arall, ond, nid cri’r foncath oedd hon, cri agosach, cri wnaeth fy neffro, a yrrodd iâs yn syth drwydda i fel chwystrelliad o sioc trwy wythiennau glan; cri diarth, ond eto mor gyfarwydd...
“Pit slyri?” “Ia pwll pw pw y mw mws de!” Chwarddodd yn braf, a chychwynnodd gerdded. “O ia, cofio an.” “A paid â mynd drwy’r lon fawr cofia ma ‘na geir yn gyrru heibi ffor’ma does.” “Iaaaawn...” “A paid â dychryn y ieir!” Ac yna, fe aeth. Eisteddais i lawr yn y gwair, ac yn clywed dim ond alaw werin Nel yn pylu fel oedd ei thraed yn ei chario yn bellach i ffwrdd, ac yna, distawrwydd. Gorweddais yn ôl a theimlo nghorff yn farus am wres yr haul. Ceuais fy llygaid a gwrando ar ambell bryfyn yn saethu heibio, llif yr afon yn ail
Nel, lle roedd Nel? Lle roedd y bel? Roedd y sgrechfeydd yn dal i seinio a chyn i mi sylwi roedd fy nghoesau’n fy nghario i dir, i rhywbeth na ddylai fod, yn rhedeg heb wybod i ble ro’n i’n mynd, ac yn gweiddi fy hun - fy ngweiddi i yn gymysg hefo’r... Distawrwydd? Roedd y sgrechian wedi tewi, mor sydyn ac y cychwynnodd. Roedd y ward yn dawel. Dim aderyn, dim gwynt, a dim alaw werin. Teimlais fy nghalon yn dyrnu fy mrest, yn fy mrifo. Yr unig s n oedd yno’n gwmni. Sylwais lle ro’n i. Ro’n i’r ochr arall i’r sied, ond wedi dewis mynd heibio’r lôn fawr, ac wrth ochor y pit slyri. Dim golwg o Nel, na’r bel. Edrychais o nghwmpas, chwys oer, gwaed berw. Y sgubor, y cenal? Roedd fy llygaid yn rhedeg marathon o gwmpas yr iard yn methu gwybod lle i edrych, lle i
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 23
fynd. Stop, aros yn fa’na. Trodd fy ngwaed i’n rew - y bel fach goch, fel tegan uffern ar grystun y slyri, yn ysgafn, yn llonydd, ac wrth ei ochr... twll, yn hollt fudur flêr drwy’r dorth. “Wnei ‘di wneud un i mi ar ôl i chdi orffan?” Codais fy llygaid i’r haul, gan weld y welingtons bach melyn yn brasgamu trwy’r gwair sych tuag ata i. Mi fu’r gwanwyn yn hir yn cyrraedd tro’ma, a cymaint ac erioed o lygaid y dydd yn y cae o flaen t .
Roedd y foncath yn troelli yn araf uwchben unwaith eto, a llanwodd ei llygaid emrallt a phelydrau’r haul wrth iddi godi ei phen mewn braw naturiol at ei gri. Fe’i tynnais tuag ata i, fy merch fach, yn ifanc ac yn saff, a theimlo ei chynhesrwydd diniwed yn swatio yn fy nghôl. Roedd yr awyr yn berffaith glir; tewodd y cri yn y pellter, a bron i mi feddwl clywed am ennyd, nodau tlws rhyw alaw werin ar yr awel. Fe’i daliais yn dynn, a’i hateb. “Gnaf siwr.”
2.3 Cyfres o dri darn o lên meicro ar y testun Antur Beirniad: Siwan Rosser 1. Afal (Elliw Griffith – Caerdydd) 2. Gog (Elen Lewis – Caerfyrddin) 3. Rhywun yn y Neuadd (Rhiannon Lloyd Williams – Bangor) Beirniadaeth: Tri yn unig a roddodd gynnig ar y gystadleuaeth hon, â phob un yn dehongli cwmpawd llên meicro a thema’r dasg yn bur wahanol. 35 gair yn unig a gafwyd gan GOG: chwe brawddeg yn awgrymu antur na chafodd fod, am i’r prif gymeriad ddewis cerdded yn ei flaen yn hytrach nag aros i ganfod achos y bwrlwm ar ymyl y stryd liw nos. Cynigiodd RHYWUN YN Y NEUADD dri darn rhyddiaith byr a chanddynt yr un bwriad, sef chwalu diniweidrwydd anturiaethau plentyndod,
24 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
o Superted i hela wyau Pasg. Mae yma gryn ddawn i drin geiriau, ond mae’r awydd i fod yn smala yn tynnu oddi ar onestrwydd y dweud. Gan AFAL cawn destun llawn tyndra a dirgelwch. Dyma lenor aeddfetaf y gystadleuaeth, ond byddwn wedi hoffi gweld mynegiant mwy awgrymog ganddo. Gan AFAL cawn destun llawn tyndra a dirgelwch. Dyma lenor aeddfetaf y gystadleuaeth, ond byddwn wedi hoffi gweld mynegiant mwy awgrymog ganddo.
Mae cynildeb yn angenrheidiol, wrth gwrs, ond rhaid wrth ddigon o awgrymiadau er mwyn galluogi i’r darllenydd ddychmygu’r sefyllfa a gyflwynir a llenwi’r bylchau â’i ddychymyg. Mae yma ormod o amwysedd hefyd yn y cyswllt rhwng y tair adran a thema’r gystadleuaeth. Byddai GOG wedi dod i’r brig gan iddo greu darlun byw mewn llond llaw o eiriau, ond nid yw wedi cyflawni gofynion y gystadleuaeth (sef cynhyrchu 3 darn o lên meicro). Gwobrwyer felly AFAL am y tyndra a’r addewid a welir yn y testunau byrion hyn. Antur Tri gair. Dyna’r oll oedd angen. Tri gair a fyddai’n newid ei dyfodol, yn chwalu’r hyn oedd yn gyfarwydd iddi hi am byth. Roedd hynny’n ddigon i droi’r gwaed a lifa drwy ei chorff yn chwerw. Yn wenwyn pur. ‘Ond pam? Pam dwim yn cael neud hynny ddim mwy?’ meddai. Doedd dim byd wedi ei rhwystro o’r blaen. Roedd peidio gwneud yn groes i natur, fel peidio anadlu. Roedd dwy law yn gafael amdani, yn ei mygu, ond yn gwrthod gollwng. Llonyddwch. Distawrwydd. Awyr las yn gafael mewn popeth oddi fewn cyrraedd i ddo. Yn cynnig antur newydd i’r dieithryn ar fin mentro. Ond roedd cwmwl du ar y gorwel. Cuddliw gwych i’r gelyn oedd ar fin dyfod i herio a chwalu’r perffeithiwch.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 25
2.4 Ymson ar y testun - Taith Beirniad: Ll r Gwyn Lewis 1. Botel Ddwr (Ceris Mair – Bangor) 2. Babi Flwydd (Gwyndaf Lewis – Caerfyrddin) 3. Blawd (Manon Elwyn – Bangor) 3. Dwr yr Wyddfa (Meinir Angharad Owen – Bangor) Beirniadaeth: Gwaith anodd yw llunio ymson dda. Fe allech feddwl ei bod yn orchwyl gweddol hawdd: y cyfan yn digwydd ac yn cael ei ddisgrifio trwy lygaid un person; y cyswllt amlwg rhwng digwyddiadau allanol a myfyrdodau mewnol, yn rhoi digon o sgôp dramatig ac athronyddol. Y perygl â’r math hwn o ysgrifennu, fodd bynnag, yw cymryd gormod o raff: aiff yn demtasiwn nodi popeth sy’n digwydd, a’r ymateb iddynt, gan droi’r broses o feddwl yn broses o ddisgrifio. Pwy mewn gwirionedd sy’n meddwl ‘dw i’n cerdded i lawr y stryd’ wrth gerdded y stryd? Mae posibiliadau dramatig ac eironig cyfrwng yn aml i’w canfod yn y gagendor rhwng y digwydd allanol a’r ymateb mewnol, a ninnau’r darllenwyr yn gorfod edrych, chwilio a dirnad am y tro cyntaf, fel pe baem yno yn profi’r peth ynghyd â’r traethydd. Cafwyd y duedd arferol tuag at y trasig hefyd, gan olygu bod nifer o’r darnau yn llawn sentiment a melodrama oherwydd nad oedd gan yr awduron amgyffrediad gwirioneddol o’r math o feddyliau a myfyrdodau y byddai pobl yn y sefyllfaoedd hyn yn eu cael. Yn y dosbarth cyntaf mae D r yr Wyddfa, Babi Flwydd, Botel Dd r a Blawd.
26 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
D r yr Wyddfa Darn annwyl a theimladwy sy’n brae i’r ysgrifennu eglurhaol a nodir uchod. Cawn ormod o wybodaeth a disgrifiadau mewn amser ‘go-iawn’ o’r hyn a ddigwydd. Mae dylanwad y ffilm Hedd Wyn yn drwm ar yr ymson – yn rhy drwm efallai. Hoffais fodd bynnag y tro annisgwyl yn yr hanes am frawd y traethydd, a buasai’n dda gweld yr elfen hon yn cael ei datblygu. Babi Flwydd [sic] Mae’r darn hwn yn frith o wallau teipio a diffyg prawf ddarllen. Ni waeth pa gyweiriau ieithyddol a ddefnyddir, mae angen cysondeb o fewn y cyweiriau hynny o hyd. Wedi dweud hyn, ceir yma gynildeb ac ymatal rhag gorddisgrifio. Caiff y darllenydd ei orfodi i lenwi’r bylchau ei hun, ac mae’r meddyliau’n rhai sy’n gweddu i’r sefyllfa. Gall rhywun glywed y person yn dweud y geiriau hyn, ac nid camp fechan mo honno. Darn syml, cynnil, teimladwy. Botel Dd r Bac iddo elfennau o hiwmor i gydbwyso’r rhannau mwy difrifol. Llwydda’r ymson i ddweud rhywbeth am ein dulliau cyfoes o fyw ac o ymwneud ag eraill. Efallai y gellid bod yn fwy cynnil ar adegau. Mae’r daith dacsi ei hun yn cynnig strwythur cryfach yma nag a geir yn yr ymsonau eraill, ond byddwn wedi hoffi gweld rhyw
fath o ddiweddglo mwy boddhaol hefyd. Dyma’r darn mwyaf ffres a gwreiddiol o ran ieithwedd a syniadaeth. Blawd Fel D r yr Wyddfa mae Blawd yn rhy euog o ddisgrifio pob proses feddwl fechan a red drwy feddwl y traethydd, ac o’r herwydd gall fod yn syrffedus ac ailadroddus ar brydiau. Serch hynny, mae rhyw fywiogrwydd a chyffro yn y dweud sy’n cymell y darllenydd yn ei flaen. Eto, fe fyddai meddwl rhagor am strwythur y darn – a’i nod – yn fanteisiol, gan nad ydym fawr callach ynghylch unrhyw beth yngl n â hanes y cymeriad erbyn y diwedd. Ni chawn wybod a oes canlyniadau i’r goryrru, neu a yw’r babi’n cyrraedd yn ddiogel, er enghraifft. Mewn cystadleuaeth lle cafwyd nifer o elfennau diddorol ond lle nad oedd unrhyw ymgais yn disgleirio uwchlaw pob un arall, Botel Dd r sy’n mynd â hi, gyda Babi Flwydd yn ail a Blawd a D r yr Wyddfa yn gydradd drydydd. Pwynt yr un i bob ymgeisydd arall. Gyrrwr Tacsi Yr un hen daith i ganol y dre’, dwy goes i ga’l gyda nhw. Iwswch nhw, bois bach. Dro ar ôl tro, ar ôl tro, ar ôl tro... pendro! Dim pwynt conan, ma’r cwsmeriaid yn gwneud yn si r bod y rhewgell yn llawn ‘fish fingers’ a tships i’r plant... a’r garej yn orlawn o boteli gwin i’r wraig. Tair menyw ganol oed yn clochdar yng nghefn y car, wedi cael ‘lager top’ yn ormod. Lager... larger. Ie, bydde hi’n well o lawer os bydde nhw’n dewis ‘gin’ gyda ‘slimline tonic’, gyda’r cwlffyn lleia’ posib o leim, wel... rhaid cael rhywbeth iachus! Cymry yn
mynnu siarad Saesneg. Cwestiwn rhif un... gofyn am faint o’r gloch byddaf yn gorffen heno. Pam fod PAWB yn gofyn y cwestiwn ’na? Beth ma’ nhw’n ennill? Cwestiwn patheitc! Bydda nhw’n rowlo mewn i wely clyd, neu’n eistedd ar bafin yn pendwmpian cysgu, â phwll o dd r wrth draed, a phentwr o hwd ar lawr. Cwestiwn rhif DAU... gofyn a ydw i wedi cael diwrnod prysur? Dim heddi’, ond yr un ateb fydda i’n rhoi bob tro, er mwyn cael ychydig o gydymdeimlad wrth y diawled! NON STOP. Rhedeg a raso, rownd y ddinas. NON STOP. Ma’ nhw dal i siarad Saesneg er bod yr hen fal n bach oren ym mlaen y car. Dachre’n ame i nawr. Meddwl ’mod i’n mynd y ffordd anghywir. Pwy yw’r gyrrwr tacsi? Pwy sy’n gyrru’r strydoedd yma mewn golau a thywyllwch? Pwy sy’n gwybod rhif pob cyffordd a phob twll cwningen o ddihangfa? FI. Eistedd yn dawel. Dim iws gweud dim. Fi wedi arfer. Yr un hen beth yn digwydd gytre. Y wraig s’da fi. Rhwyddineb mewn bywyd yn gwenu a chytuno gyda phawb a phopeth. Er gwaetha’ pawb a phopeth, rwyf i yma o hyd... yn styc yn y gwregys dyn ’ma. Goleuade traffig... handi, brêc bach i fi ga’l agor y ffenest ’ma. Drewdod alcohol yn rheiddio o’r cefn. Agor y ffenest... BAM. Bwyd cyflym yn ymdroi gan lynu ar ddillad ac ar ledr tywyll y car. Sain troed drom ar sbardun. CORN yn byddaru. Fflach golau yn y drych yn dallu. Gollwng yr handbrêc. Bant â ni. CWESTIWN RHIF TRI... tro yma, gofyn a yw’r hewl mor brysur â hyn drwy’r amser. Pam gofyn na?! Lleia’ o glebran ma’ nhw’n neud. Cyflyma’n byd alla’i gyrraedd canol y dref iddyn nhw. Un
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 27
yn dweud wrth y llall ei bod yn hoffi siarad gyda gyrrwr tacsi. HOFFI SIARAD ’DA GYRWYR TACSI, WIR DDUW!! Yn ystod y daith yr un tri chwestiwn arferol i fi wedi ca’l! Yr amser fi’n gorffen... os yw’r hewl wedi bod yn fishi... ac os yw’r hewl mor fishi â hyn bob dydd. Calliwch, fois bach, Bydde fe’n change bach neis cael cwestiynau gwahanol a gwreiddiol. Croesfan nawr. Hir a maith yw y ffordd ambell waith, ar lwybr... Diolch byth bod rhein i gael yn y ddinas ’ma. Hadel ambell i unigolyn, gan gynnwys y wraig i feddwl bod nhw’n rhw filgi ar ôl diod neu ddau. Milgi a allai ennill y ras yn erbyn y car cyflyma’n y byd! Shwt olwg fydd arni heno druan, sai’n gwbod shwt i helpu’r ferch wedi mynd. Popeth wedi newid, mater o flwyddyn. Wedd hi’n gwbod, yn gwbod yn iawn fod ei Thad hi’n wael ers blynyddoedd. Ers yn ferch ysgol... a nawr ma’ hi ei hunan yn dilyn yr un llwybr, yr un llethr. Fel petai hi hefyd ar frys i farw. Ma’ pawb o hyd ar frys. Mynd, mynd, mynd. Dim eiliad i feddwl ac ystyried. Gweddïo, ’na’i gyd galla’i ’neud. “Stop, we’re here!” “Pedair punt.”
2:5 Brawddeg - Caerdydd Beirniad: Iwan Wyn Rees 1. Dream Team (Manon a Gwenlli Jones – Caerdydd) 2. RAJ (Iwan Hanmer Jones – Aberystwyth) 3. Lili Wen (Heledd George – Bangor) Beirniadaeth: Cyflwynwyd dros 40 o frawddegau amrywiol o ran eu cynnwys i’r gystadleuaeth hon. Er gwaethaf nifer uchel y cystadleuwyr, yn anffodus nid oedd nifer ohonynt yn deilwng o farc hyd yn oed gan fod ynddynt wallau gramadegol elfennol, neu gan eu bod yn aneglur eu mynegiant neu’n drwsgl eu cystrawen. Byddai wedi bod yn gymeradwy pe defnyddid ‘R’ ar ddechrau’r pedwerydd gair (yn hytrach na ‘Rh’), a phe defnyddid hefyd un gair ar gyfer y llythyren ‘Dd’ (yn hytrach na dau air), ond penderfynwyd rhoi maddeuant i’r euog-rai am y camau
28 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
gweigion hynny y tro hwn er mwyn gallu gwobrwyo y brawddegau mwyaf ystyrlon. Y mae’r tair brawddeg a ddaeth i’r brig yn rhagori ar y lleill am eu hiwmor a/neu eu gobaith llawn asbri, ac am eu helfennau o wreiddioldeb. Brawddeg Cornelwyd Aber Eleni Rhag Dal Y Darian Drachefn.
2.6 Cyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg Beirniad: Sioned Davies 1. Adda (Efa Edwards – Caerdydd) 2. Gobaith (Manon Elin Jones – Aberystwyth) 3. Olwen (Hanna Medi Merrigan – Aberystwyth) Beirniadaeth: O gofio pwysigrwydd cyfieithu i’r Gymru sydd ohoni, ychydig yn siomedig oedd yr ymateb – derbyniwyd pum ymdrech yn unig. Wedi dweud hynny, llwyddodd y
goreuon i drosglwyddo hanesion Michael Palin a Stephen Fry i Gymraeg cyhyrog, idiomatig. Mae gyrfa ddisglair i’r rhain ym myd cyfieithu.
2.7 Cyfieithu o’r Ffrangeg i’r Gymraeg Beirniad: Sian Beidas 1. Piaf (Elin Arfon – Caerdydd) 2. Savoyarde (Elan Morris – Caerdydd) 3. Bonjour ça va? (Gwyndaf Lewis – Caerfyrddin) Beirniadaeth: Roedd hon yn gystadleuaeth ddiddorol ac roeddwn yn falch o gael darllen cynigion y tri ymgeisydd uchod; hoffwn eu hannog i ddal ati i ymarfer eu sgiliau cyfieithu o’r Ffrangeg i’r Gymraeg. Roedd y tri ymgeisydd wedi creu fersiynau tra gwahanol o eiriau cân Edith Piaf, ond pob un â’i nodweddion a’i rhinweddau ei hun ac yn cyfleu ystyr y gwreiddiol yn gywir ar y cyfan. Nid oedd yr un o’r cynigion yn dilyn patrwm odli’r gwreiddiol nac ychwaith rhythm y llinellau - ni fyddai’n bosib canu’r un ohonynt i’r dôn wreiddiol. Wedi dweud hynny cafwyd enghreifftiau o gyflythrennu a rhythm effeithiol mewn rhai llinellau.
O ran y Gymraeg mae safon yr iaith yn gyffredinol gywir, ond mae gwallau i’w gweld ymhob un o’r cynigion, e.e. dewis arddodiaid, cystrawen chwithig yma ac acw, ac ambell i gamdreiglad. Diolch yn fawr am eich ymdrechion daliwch ati! Merci beaucoup. Siomedig iawn oedd gweld bod pedwerydd ymgeisydd (Cath Fach Wen) wedi defnyddio Google Translate, ac ar ben hynny heb wneud unrhyw ymgais i newid neu fireinio’r fersiwn y mae Google yn ei greu. Petai’r cynnig yn cael ei gyflwyno fel tasg asesu ffurfiol byddai’n cael ei ystyried yn achos o dwyll neu lên-ladrad.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 29
2.8 Cyfieithu o’r Almaeneg i’r Gymraeg Beirniad: Edith Gruber 1. Llachar (Elin Wyn Erfyl Jones – Caerdydd) Beirniadaeth: Ffugenw: Llachar
Ail gynnig nad yw’n haeddiannol Ffugenw: Barry Chuckle
Er bod y testun gwreiddiol yn eithaf heriol o ran geirfa, ymadroddion a chystrawen, mae’r ymgeisydd yn trosglwyddo cynnwys y testun gwreiddiol yn gywir i’r Cymraeg heblaw ambell fanylyn. Mae’n llwyddo i ddod o hyd i ymadroddion Cymraeg sy’n cyfateb i’r Almaeneg ac yn osgoi cyfieithu’n rhy llythrennol. Ar adegau mae cywair y cyfieithiad braidd yn llafar ond mae’r rhan fwyaf mewn cywair addas i’r testun.
Nid yw’r cynnig hwn yn deilwng o’r ail wobr oherwydd ceir tystiolaeth bod tua 80% o’r cyfieithiad yn tarddu o’r gwasanaeth cyfieithu ar-lein Google Translate. Pan mewnosodir y testun ffynhonnell i’r rhaglen Google Translate, ceir cyfieithiad sy’n agos iawn i’r cynnig. Cywirodd yr ymgeisydd rai gwallau cyfieithu amlwg iawn ond mae gweddill y cyfieithiad yn dilyn fersiwn Google yn air am air.
2.9 Cyfieithu o’r Sbaeneg i’r Gymraeg Beirniad: Geraldine Lublin 1. Neb yn deilwng 2. Frida Kahlo (Siriol Elis – Aberystwyth) 3. Dwylo (Elain Siân – Caerdydd) Beirniadaeth: Dyna fraint yw cael beirniadu cystadleuaeth gyfieithu rhwng y Sbaeneg a’r Gymraeg yn Eisteddfod Ryng-golegol 2016. Hoffwn longyfarch pob un o’r chwe ymgeisydd am gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon, beth bynnag fyddo’r canlyniadau. Yn anffodus iawn, mae rhaid i mi ddatgan na allaf gyhoeddi bod un o’r chwe ymgais wedi bod yn fuddugol, gan nad oes ymhlith y
30 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
cyfan gyfieithiad sy’n cyfleu’r gwreiddiol yn gywir drwyddi draw. Rwy’n mawr obeithio bydd yr ymgeiswyr yn rhoi sylw i’r adborth a roir yma a rhoi cynnig arni eto yn y dyfodol. Roedd cyfieithiad Frida Kahlo’n agos iawn at y brig. Cymraeg graenus sydd yn y testun gan amlaf, ac mae’r iaith yn llifo’n naturiol ond ceir yn y testun ambell wall o
ran ystyr sydd yn gosod y testun yn ail yn y gystadleuaeth. Ychydig o broblemau parthed ystyr sydd yng ngwaith Dwylo hefyd, sydd yn gosod y cyfieithiad yn y trydydd safle. Ceir mynegiant naturiol ar brydiau, ond mae’n mynd yn drwsgl o bryd i’w gilydd, a cheir gwallau o ran gramadeg a geirfa yn ogystal. Credaf fod ymgais Y Bugail hefyd yn haeddiannol, er gwaethaf y camgymeriadau o ran ystyr, gramadeg a geirfa. Ceir hefyd rai gwallau o ran deall y darn gwreiddiol a’i gyfleu’n gywir, yn ogystal â hepgoriadau ac ychwanegiadau sydd ddim yn y gwreiddiol. Sylwais ar ymdrech i ddefnyddio mynegiant naturiol yng ngwaith Pry Bach Tew, ond
eto ceir gwallau wrth geisio cyfleu’r darn gwreiddiol yn ffyddlon ac o ran gramadeg, cystrawen a geirfa. Ceir ychwanegiadau a hepgoriadau hefyd yng nghyfieithiad Ola Cata, sydd mewn mwy nag un achos yn mynd ar ei lwybr ei hun ac anghofio am y testun gwreiddiol! Sylwir ar anawsterau wrth geisio cyfleu ystyr y darn gwreiddiol, yn ogystal â gwallau o ran gramadeg, cystrawen, cywair a geirfa mewn llawer man. Daw Calon Lan druan yn olaf, nid oherwydd unrhyw ddiffyg gallu wrth gyfieithu ond achos iddi gyfieithu darn o’i (d)dewis yn hytrach na’r darn gosod. ¡A prestar más atención a las instrucciones el año que viene!
2.10 Blog (nas cyhoeddwyd) i Golwg 360 am unrhyw bwnc llosg cyfoes Beirniad: Dylan Foster Evans 1. Hedydd (Morgan Owen – Prifgsyol Caerdydd) 2. Atgof (Manon Elin James – Prifysgol Aberystwyth) 3. Fflam (Manon Elin James – Prifysgol Aberystwyth) Beirniadaeth: Mae’n debyg nad oes modd llunio diffiniad cynhwysfawr o beth yw blog, ac eithrio ei fod yn destun sy’n bodoli ar y we. Yn aml bydd yn mynegi ymateb personol ei awdur. Ond ymateb i beth? Manion bywyd pob dydd: pam lai? Neu ddigwyddiadau o bwys tyngedfennol i’r ddynolryw: ie, hynny hefyd. Pawb at y peth y bo. Gall iaith blog fod yn anffurfiol neu’n dafodieithol. Ond nid oes rheol bod rhaid iddi fod felly
’chwaith. Gan ei fod yn bodoli ar y we, bydd blog gan amlaf yn cynnwys delweddau neu ddeunydd amlgyfryngol neu ddolenni, neu gyfuniad o’r fath bethau. Gwaith anodd a llafurus yw creu gwefan dienw er mwyn cystadlu, felly mae’n ddigon teg bod y cynigion a ddaeth i law wedi eu creu ar ffurf dogfennau Word. Wedi dweud hynny, byddai wedi bod yn ddigon
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 31
hawdd i’r cystadleuwyr gynnwys lluniau neu ddolenni perthnasol. Ond testun moel a gafwyd gan y pedwar ymgeisydd. Felly nid yw natur flogaidd y deunydd yn amlwg bob tro. Mae hynny’n wir yn achos Prishart, sydd wedi llunio adroddiad ar yr ymosodiad erchyll ar Baris ym mis Tachwedd y llynedd. Ond adroddiad ffeithiol yn y trydydd person yw’r darn mewn gwirionedd. Nid oes llawer o awgrym o ymateb personol a byddai’r darn yn fwy addas ar gyfer adran newyddion gwefan megis Golwg360 nag ar gyfer blog. Trafodaeth ar ostwng oedran pleidleisio i 16 a gawn gan Fflam. Mae barn bersonol i’w chael yn y darn hwn ynghyd â nifer o ffeithiau diddorol a difyr ynghylch y cyfraniad y mae pobl rhwng 16 a 18 yn ei wneud i’n diwylliant a’n heconomi. Ond at ei gilydd mae’n debycach i ymarfer mewn mynegi barn neu sgript ar gyfer cystadleuaeth siarad cyhoeddus nag i flog. ‘Hyderaf y cytunwch’ meddai Fflam, a ‘galwaf arnoch i gefnogi’r ymgyrch hon’. Diffuant yn sicr, ond gwelaf eisiau’r elfen bersonol a chwareus sy’n nodweddu’r blogiau mwyaf llwyddiannus. Refferendwm annibyniaeth yr Alban yw testun Atgof. Mae digon o fynegi barn i’w gael yma wrth i’r ymgyrch ‘na’ ddod o dan y lach am ‘chwydu celwyddau ac ofnau’. Cawn glywed am fanciau bwyd, y dreth ystafell wely, ffioedd dysgu, Catalonia, Gwlad y Basg, a Llydaw, ymhlith pethau arall. Yn wir, ceisio gwneud gormod y mae Atgof mewn gwirionedd. Byddai archwilio un elfen mewn manylder yn rhoi cyfle i’r awdur ddweud rhywbeth newydd am y pwnc diddorol hwn.
32 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Dyfodol Cymru a’r Gymraeg sydd dan sylw gan Hedydd. Pwnc cyfarwydd? Wel, ie. Ond mae’r frawddeg gyntaf yn hoelio ein sylw yn syth: ‘Nid ydym wedi dioddef digon.’ Gan ddefnyddio arddull fachog a chofiadwy mae Hedydd yn chwarae â dau syniad gwahanol: y byddai rhagor o ddioddef yn ysgwyd y Cymry o’u difrawder ynghylch dyfodol eu gwlad a’u hiaith, ond pwy yn ei iawn bwyll a fyddai’n croesawu dioddefaint? ‘Nid deisyf caledi ydw i—mil gwell fyddai croesawu machlud y Gymru rydd heb ychwanegu pennod arall at ein hanes dolurus.’ Fel mewn sawl blog da, mae digon i gytuno ac anghytuno ag ef gan Hedydd, ac mae’n llawn haeddu ennill y gystadleuaeth. Gormes fesul dafn Nid ydym wedi dioddef digon. Ie, dyna’n problem ni fel cenedl ac achos ein diymadferthedd heddiw. Ond peidied neb â’m camddehongli. Nid deisyf caledi ydw i- mil gwell fyddai croesawu machlud y Gymru rydd heb ychwanegu pennod arall at ein hanes dolurus. Ond, rydym yn ddigon cyffyrddus yn y Gymru sydd ohoni i beidio â mentro dim ar siawns a herio ein darostyngiad; er hynny, rydym yn ddigon tlawd i aros yn ddof a byth ymgodi o’n tlodi a’n gorthrwm. Beth ond ysgytwad all ein deffro? Clywn bob 10 mlynedd am ddirywiad pellach ein hiaith a’i hencilio parhaus o’i bröydd cadarnaf. Yn amlwg, nid yw tranc araf y Gymraeg yn ddigonol i fynd â bryd y Cymry, sydd yn rhy brysur yn rhygnu byw i gamu yn ôl a phendroni ynghylch argyfwng dirfodol yr heniaith. Beth am ddylifiad cyson pobl ddi-Gymraeg
i’r ardaloedd hynny lle mae’r iaith yn dal i fod yn iaith gymunedol? Nid y mewnfudwyr yw’r broblem, fel y cyfryw. Ni chânt eu gorfodi i ddefnyddio’r Gymraeg mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Caniateir iddyn nhw beidio â defnyddio’r iaith. Mae’r Cymry yn chwannog i ymryson yn ffyrnig ymysg ei gilydd, ond arswydant rhag cyfarch mewnfudwr di-Gymraeg â’r un gair o Gymraeg. Dan y fath amodau, nid oes gwahaniaeth rhwng deg neu gant o fewnfudwyr. Pan fo’r Cymry yn newid i’r Saesneg er eu lles nhw, bydd y Gymraeg yn darfod amdani cyn gynted ag y bo’r mewnfudwyr yn fwy niferus na’r Cymryac nid yw hynny’n bell o’r gwir mewn llawer lle fu gynt yn go Gymraeg. Beth am ein tlodi llythrennol? Mae Cymru’n cynhyrchu mwy o egni na defnyddia hi, ond nid ydym yn derbyn dim i dystio i hynny. Rydym yn dlawd, er i gwmnïoedd mawrion reibio ein tir am elw enfawr. Ond felly y bu hi erioed. Ni all ein hecsploetio siglo ein cydwybod chwaith.
Nid terfysg mo ein marw, ond hir salwch. Prin y byddai digwyddiad megis Penyberth neu Dryweryn pe digwyddai heddiw yn esgor ar ymateb ymarferol. Nid yw allanolion y frwydr dros ein hiaith a’n rhyddid fel cenedl yn cyffwrdd dim ar fywyd y Cymry bellach. O ganlyniad, ni fydd gwir ewyllys am ryddid na pharhad y Gymraeg (dau beth na ellir mo’u didoli) oni bai bod y frwydr yn cyffwrdd â’r Cymry eu hunain yn bersonol. Yn ein hoes unigolyddol ni, rhaid i’r frwydr ddod atoch chi, ac yn ddiau, felly y gwna hi os nad ydych yn ei rhagweld. Gobeithio yr wyf felly ni fydd raid wrth drasiedi bersonol er mwyn dangos iddyn ni pa mor fregus yw’n hiaith a’n diwylliant a’n gobeithion dros ryddid, boed y drasiedi honno’n foddi cymoedd neu dranc y Gymraeg. Gweler cysgod dioddefaint ar y gorwel. Ein penderfyniad ni ydyw a ydym yn ei fwrw ymaith cyn y bo’n nosi arnom am byth. Gallwn ddysgu wrth ddioddefaint eraill-a thrwy hynny, ei osgoi.
Yn wir, nid ydym wedi dioddef digon. Dioddefodd y Gwyddelod orthrwm enbyd, a gwelsant y tu hwnt i’w dioddefaint werth eu rhyddid. Nid gormod felly oedd hunanaberth iddynt: credasant mai eu hymwared nhw am eu cystudd fyddai rhyddid eu plant. Cawsant ymwared yn y pen draw. Ond, wele ni’r Cymry heddiw- yn Gymraeg ac yn ddi-Gymraeg fel ei gilydd. Nid oes gynnau ar annel amdanon ni; nid oes y fath ormes enbyd a welodd lawer cenedl yn ein llesteirio ninnau. O’r herwydd, rydym wedi bodloni ar ormes fesul dafn. Yn araf deg mae popeth sydd yn ein nodweddu fel cenedl yn diflannu. A beth wnawn? Dim.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 33
2.11 Araith ar y cwestiwn “A oes lle i ofodau uniaith Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru gyfoes?” Beirniad: Jeremy Evas 1. Torgoch (Morgan Owen – Caerdydd) 2. Merch y Mynydd (Hanna Merrigan – Aberystwyth) Beirniadaeth: Diolch am y cyfle i fwrw barn ar y ceisiadau a ddaeth i law – mae’r testun ‘A oes lle i ofodau uniaith Gymraeg ym mhrifysgolion y Gymru gyfoes’ yn berthnasol iawn yn sgil y drafodaeth ddiweddar ar gau/cadw Neuadd Pantycelyn ar ei ffurf bresennol. Mae’r syniad o ofodau uniaith mewn sefyllfaoedd dwyieithog yn h n o dipyn na dadl Pantycelyn. I ba raddau y bydd iaith yn parhau i gael ei siarad os nad oes gofod/pau/rhywle iddi gael ei siarad yn ddirwystr heb fod mathemateg sosioieithyddol yn mennu ar ei defnydd rhydd? Wn i ddim – nid gwyddor galed mo cynllunio ieithyddol - ond roeddwn yn edrych ymlaen at gael fy ngoleuo. Gofynnwyd am ‘araith’ ac roeddwn yn disgwyl darllen llawer o ddyfeisiau rhethregol a dadleuon tanbaid. Cafwyd rant mewn mannau, a dim ymgais i ddarbwyllo mewn mannau eraill. Roedd cyfraniad cymharol fyr Torgoch mewn iaith rhywiog ac yn hoelio’r sylw. Roedd yna ddyfeisiau, seibiau pwrpasol ac awdurdod i’r llais. Ac ôl meddwl. Roedd Merch y Mynydd wedi meddwl yn ddwys ac yn teimlo’n angerddol, gan ddyfynnu ffynonellau lu. Ond cofiaf eiriau Mark Twain, nad oedd “ag amser i ysgrifennu llythyr byrrach, felly ysgrifennodd un hir yn lle.” Oherwydd hynny, ac er byrred y bo, cyflwyniad y wobr gyntaf i Torgoch, a’r ail i ‘Merch y Mynydd’.
34 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
A oes lle i ofodau uniaith Gymraeg ym mhrifysgolion Cymru gyfoes? Un o ddifyr bethau ni Gymry yw darogan ein difodiant. Pa nifer o weithiau yr ydym wedi rhagweld y môr yn merwino’r tir a’r sêr yn syrthio, a’r Saesneg yn lledu fel gwenwyn trwy wythiennau ein gwlad, gan gychwyn ym mhellafion bysedd ein tiriogaeth- Caerdydd, y Gororau, y Cymoedd- nes bygwth cyrraedd y galon, a’n lladd? Byth ers i ni roi inc ar bapur-neu femrwn- yr ydym wedi bod yn disgwyl Angau’n amyneddgar, ac yntau’n ddeir o hyd. Ymddengys iddo dario eto, ond deil i fwrw ei gysgod drosom. Dyma ni, yma o hyd, ond nid yw hynny’n ddigon. Beth yw deng mlynedd o fywyd ychwanegol i’r claf gorweiddiog? Beth yw canrif arall o einioes i’r Gymraeg os yw’r darnio arni’n parhau’n ddiarbed? Ai gwell marw hir, neu fentro terfysg a chadw Angau draw unwaith yn rhagor? Mae’r tir yr ydym yn sefyll mor gysurus arno’n diflannu dan ein traed; mae’r t ar dân ac yr ydym yn segura’n ddifater yn y lolfa gyda’r fflamau’n cau amdanom. Ond bid a fo am hynny. Yma yng Nghaerdydd yr ydym, yn siarad yr iaith hon y proffwydwyd ei marwolaeth droeon. Rydym, rywsut, wedi cael ein hunain y tu fewn i furiau y gaer Saesneg, am dyna, yn nhyb nifer, oedd Caerdydd o hyd- rhyw
ynys o Seisnigrwydd. Diau fod hynny’n safbwynt anodd i’w amddiffyn y dwthwn hwn a hithau’n ein prifddinas, ond arhoswn ennyd gyda’r ddelwedd honno: y gaer o Seisnigrwydd. Serch hynny, yng nghyswllt yr Undeb hwn, efallai, y gellid arddel y ddelwedd honno’n fwyaf llwyddiannus. ‘Oblegid yr iaith fyw, yn y troedle cwtodedig hwn sy’n aros iddi, yr ydym yn Bobl’. Dyna eiriau tra enwog J. R. Jones a erys yr un mor dreiddgar heddiw. Bid sicr, mae’r iaith Gymraeg ar drai yn yr ardaloedd hynny lle y mae’n iaith gymunedol- ond wele yma yng Nghaerdydd, yn y Brifysgol hon, gymuned Gymraeg. Eithriad calonogol i’r dirywiad mawr. Yn burion, Pobl ydym ninnau: Cymry. Ond, ym mha le y mae ein troedle ninnau yma, boed yn gwtodedig ai peidio? Yng nghyd-destun y Brifysgol a’r Undeb yng Nghaerdydd, prin y gellir sôn am ofod uniaith Gymraeg o fath yn y byd-rhyw droedle- sydd yn arwyddocáu ac yn cydnabod mai cymuned ydym, neu yn Bobl, fel ys dywed J. R. Jones. Canys dyna fyddai gofod uniaith Gymraeg yn y ddinas hon: darn o dir, yn real neu yn rhithwir, yn dyst ein bod yn mynnu byw. Neu, a mynegi’r peth yn wahanol, pa beth sydd yn nodweddu ymwneud ni Gymry â’n gilydd? Nid ein man geni, o angenrheidrwydd. Gwyddom oll Gymry a aned dros y ffin yn Lloegr, neu yn America, neu yn Ffrainc, neu ym mha le bynnag ar wyneb y ddaear. Yn hynny o beth, nid oes a wnelo ddim â’n cyndeidiau ychwaith, o reidrwydd; nid dosbarthiad hiliol yw ‘Cymry’. Yn wir, nid oes y fath beth â ‘hil’ yn bodoli’n fiolegol, am nad yw’n bodoli’n ddiriaethol. Beth felly ond ein hiaith? Hi yw arwyddnod ein harwahanrwydd a sail ein cymuned ni.
Ac nid peth dibwys mo hynny. Onid yn ein hiaith y cronnir yr holl bethau sydd yn gwrthrychu ein harwahanrwydd: ein cerddoriaeth, ein llên, ein gwyliau-fel yr yl hon- a’n traddodiadau? Os na chydnabyddir sail ein cymuned, sef yr iaith Gymraeg, yna, fe wedir i ni ein bodolaeth fel Pobl. Ni ellir gwaeth gormes na hynny; gwadu i Bobl eu bod yw cam cyntaf eu dileu. Heb ofod uniaith Gymraeg yn ein prifddinas, fy ymdoddwn i’r diwylliant Saesneg. Nid codi gwahanfur rhôm â’r byd o’n cwmpas fyddai coledd gofod uniaith Gymraeg; yn hytrach, fe roddai well sylfaen i ni ymgysylltu â diwylliannau eraill heb orfod gefnu ar ein diwylliant a’n hiaith ninnau. Pan fo rhyw planhigyn anghyffredin yn wynebu mynd ar ddifancoll am fod ei gynefin yn diflannu, eir ati i warchod ei diriogaeth, fel y geill ffynnu drachefn. Os ydyw amryw gyrff a sefydliadau ein dinas, gan gynnwys y Brifysgol a’r Undeb, yn honni ymboeni â’n hiaith a phopeth sydd yn deillio ohoni, ym mha le y mae ein cynefin ni, a sut y gwarchodir ef? Onid oes ddisgwyl i ni ffynnu heb ein pau ein hunain, ein gofod uniaith? Hawdd ydyw i siaradwyr Saesneg wfftio’r fath syniad pan fo pob gofod yn y Brifysgol a’r Undeb eisoes yn uniaith Saesneg i bob pwrpas. At hynny, hanfodol ydyw creu gofod uniaith Gymraeg yma yng Nghaerdydd, yn ein Prifysgol a’n Hundeb. Pa na wnaem, darfyddwn amdani. Fel y mae, rydym yn dod yma i Gaerdydd i ddysgu sut i ddygymod â bod yn ddi-droedle ac yn anweladwy. Nid yw hynny’n anesgor. Gallwn hawlio ein lle dyledus a ffynnu, a ffynnu yn Gymraeg yn hynny o beth. Wedyn, gallwn gymryd ein lle ymysg y cenhedloedd rhyddion. Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 35
ADRAN Y DYSGWYR 3.1 Stori Fer ar y testun - Y Ddinas Beirniad: Hanna Sams 1. Tecila (Megan Adele – Bangor) Beirniadaeth: Un yn unig a fentrodd yn y gystadleuaeth hon sef Tecila. Adroddir stori Mari a chlywn bytiau am orffennol y prif gymeriad sy’n gadael ei bwthyn mewn pentref bychan ac yn dychwelyd at y ddinas i wynebu ei gorffennol. Mae’r darnau o wybodaeth a geir yn ennyn ein chwilfrydedd gan beri i ni ofyn - beth am ei gorffennol sy’n peri iddi grynu wrth yrru yn ôl tuag at y ddinas? Teimlaf fod y stori hon yn cynnig digon o addewid i roi’r wobr gyntaf iddi. Mae i’r stori elfen o gyffro a dirgelwch ac edrychaf ymlaen at ddarllen gwaith Tecila yn y dyfodol.
yn crynu’n wrth geisio llywio’r olwyn a’i anadl yn trymhau gyda chot tenau o chwys yn dechrau ffurfio dros ei thalcen.
Y Ddinas
O ystyried ei gorffennol, roedd hi wedi setlo’n dda yng Nghefn Gwlad mewn bwthyn bychan mewn pentref. Pentref tawel o gymharu â swn y ddinas. Gorweddai ei th wrth ymyl y lon a oedd yn mynd at dref fechan Aberbrychni. Ac erbyn hyn hefyd, ‘roedd hi wedi setlo yn ei swydd mewn swyddfa cyngor lle’r oedd yna ddigon o fwrlwm iddi anghofio’i gorffennol. Darganfyddodd ei gwr yn y swyddfa a fe sydd nawr yn dad i’w 2 o blan - Sion a Gwenllian. Y ddau yn ei harddegau. Roedd y cownsela a’i derbyniodd wedi’i helpu’n arw gan iddi
Taniodd Mari y car ar fore lle tywynna’r haul dros brydferthwch cefn gwlad Cymru. Wrth deithio’r heolydd cul lle’r oedd y gwrychoedd yn gwisgo ei lliwiau prydferth roedd calon Mari yn cyflymu ac yn curo’n gyflymach bob eiliad. ‘Roedd hi am ddychwelyd. Dychwelyd yn ei ôl i’r ddinas. Y dyffryn o ardal lle’r oedd afon du o atgofion yn llifo’n lem trwy’r ddinas. Dinas lle cafodd ei fywyd ei parlysu gan ddicter, trais ac anhapusrwydd. Daeth chwa o gryndod dros y car gyda’i bysedd
36 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Cyrhaeddodd y draffordd a gweld y ceir yn mynd o’i amgylch wrth iddi deithio’n hamddenol. Mor hir oedd y daith. ‘Bore Cothi’ oedd ar y radio gyda Shan Cothi yn chwarae amryw gan ac ambell sgwrs. Roedd ei throed yn ysgafnhau bob tro wrth iddi geisio arafu yng nghanol cyflymder bywyd. Yn ofn. Dim eisiau cyrraedd y ddinas. Eisiau lleddfu ac arafu’r boen a oedd fel cwmwl du dros ei bywyd yn poeri glaw parhaol arni.
geisio wynebu a herio’i gorffennol a dyma oedd y cam olaf yn y broses. Dychwelyd i’r ddinas. Teithiodd yn ofnus gan agosáu at ei ofn. Cyrhaeddodd. Cyrhaeddodd y ddinas a theithio lawr y strydoedd cefn i’w lleoliad. Roedd hi’n edrych o gwmpas a gweld fod y tai wedi dirywio gyda pob ardd yn jwngl fawr heb ei dorri, lliw’r tai wedi gwelwi, gatiau yn disgyn a rhai o’r ffenestri wedi’i orchuddio gan bren. Roedd y strydoedd mor frwnt a’i hatgofion o’r ardal. Bob hyn a hyn gwelai dynion fel polynau ysglafaethus yn sefyll ar rhyw gornel yn aros am ei cwsmeriaid a’i cludwyr i wneud ei gwaith brwnt. Saif y siop gornel yn ei hunfan. Dyma lle ai i hol ei dabledi yn wythnosnol. Tabledi i geisio leddfu’r poen. Pils bach gwyn crwn. Rhyddhad o bilsen yn ei allfudo i fyd newydd. Byd o obaith a llawenydd. Byd lle’r oedd hi’n gallu hedfan yn rhydd fel llygoden yn dianc o’r eryr.
chamodd allan o’r car. Edrychai i fyny ac i lawr fel beirniad yn syllu ar anifail yn y Sioe Frenhinol. Caeodd ei llygaid yn dawel gan feddwl yn ddwys. Roedd y cot denau o chwys oedd ar ei thalcen nawr yn got mawr trwchus fel cot sgïo. Cerddodd yn agosach at y drws a llenwodd ei ffroenau gan ofn. Roedd y t yn felyn, heb ffenestri a neb wedi byw yno ers blynyddoedd. Roedd y t mor fochedd a’i hatgogion. 54 Stryd Brewys. 54. Camodd at y drws a’i ddyrnu ar agor. Oedodd. Safai fel carreg yn wynebu ei hofnau. Penderfynodd i gerdded ymlaen mewn camau bach i’r ‘stafell fach. Agorodd y drws. Dyma gobeithio oedd ei hallwedd i’r dyfodol. Dyfodol o wynebu’r gorffennol a byw gyda hynny. Agorodd y drws a gweld dros 10 mlynedd o’i bywyd yn chwythu yn yr aer fel ysbryd. Edrychodd at y sedd. Sedd a oedd yn orsedd i’w sglyfaeth. Y gadair ddu a thrig yn y ddinas.
Stopiodd y car. Agorodd y drws gan amsugno’r awyr iach i’w ysgyfaint fel hwfer. Ac anadlu yn araf ond ystyriol. Daeth nol at ei hun gan estyn at y pecyn fags oedd yn ei phoced a thanio un. Amsugnodd am hir gan fwynhau’r pleser oedd yn lladd ei ysgyfaint. Teimla’r rhyddhad fel ton yn ei chipio ar lannau mor Berwis. Camodd yn ol i’r car gan ei ail-danio. Ei hail-danio a thro hyn yn sicr. Yn sicr ei bod am wynebu ei gorffennol fel byddin. Yn gadarn ac yn gryf a gwn yn ei llaw yn barod i anelu at y targed a’i lofruddio fel cigydd. Ei drywnau yn galed a’i dorri yn deilchion man dros y llawr. A damsgen nes fod y cwbwl yn un pancwsen ar y llawr. A’i gladdu. Roedd hi wedi cyrraedd ei lleoliad a
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 37
3.2 Cerdd ar y testun - Taith Beirniad: Hanna Sams 1. Benjamin a’e cant (Benjamin Angwin – Bangor) 2. Bruno Lewis (Ryan Bowen – Bangor) 3. Tecila (Megan Adele – Bangor) Beirniadaeth: Mentrodd 4 bardd yn y gystadleuaeth hon eleni ac mae pynciau ac arddulliau’r beirdd yn amrywio’n helaeth. Ystyriaf ymgais Benjamin a’e cant yn gyntaf. Mae’r gerdd ‘Melynwallt Coesau Hirion’ yn gerdd am dorcalon. Mae ynddi eirfa gyfoethog dros ben ac emosiynau cryfion. Fodd bynnag, efallai y byddai gosod y gerdd ar ffurf penillion wedi’i gwneud yn haws i’w dilyn ar adegau.
gyfoethog a’r gerdd llawn emosiwn. Gosodaf y gerdd honno yn gyntaf. Gosodaf gerdd Bruno Lewis yn ail a cherdd Tecila am Lance Armstrong yn drydydd.
Tecila – Cyflwynwyd dwy gerdd gan Tecila a mwynheais y ddwy. Teimlaf, fodd bynnag, fod y gerdd sy’n cymharu Lance Armstrong a Dafydd o’r Beibl yn rhagori ar yr ail gerdd sy’n trafod yr ymdeimlad o wladgarwch a deimlai’r bardd yn Temple Bar, Dulyn.
Mae’n felltith, ni chaf i well byth!
Bruno Lewis- Taith Saul yn troi’n Paul yw ffocws y gerdd hon gan Bruno Lewis. Fel ail gerdd Tecila mae dylanwad Beiblaidd ar gerdd Bruno. Mae ynddi ddelweddau cryfion o Saul fel llew ar ddechrau’r gerdd yn ‘[l]lyfu’i grafangau’ tra ceir delwedd wrthgyferbyniol ohono yn yr ail gerdd fel ‘anifail anwes’ a thrwy’r delweddau hyn llwydda’r bardd i ddangos y newid a fu yn Saul. Teimlaf fod cerdd fentrus Benjamin a’e cant yn cyrraedd tir uwch ar sail ei eirfa
38 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Melynwalltyn Coesau Hirion Melysfochau fy melynwalltyn! ’Mond nwyf yr wyf ac yn wyllt a syn. Fy nghalon? Dellt yn y gwellt. Spia arno! Melltenboeth, tenau fel gwelltyn. O bell hwn, gwelwn i goesau cnocell wen A wyntylla fy llogell â chwydd afallen;  llaw fy llogell yn wyllt  llaw am gaill yn llunio ei wallt. Naill ai cyfaill ai cast y mall A all gwneud fi’n ddall A’m trallodi â llawenydd di-ball, Llwon byrbwyll ac anallu syllu Ymhellach na dail ei gain ddilledyn. Colla’th ddail addawol ddyn, Mwll fy mochau o byllau llygaid. Llwaf, addurnaf dy addyrnau ebillaidd, Llyffant eu lled, pennau estyll,  lleu Rolex gemau gloywedd brithyll. Y llynges breuddwydion a yrri’n lloffion Lliwus, atgofion llon am dy estyll,
Llawn gofion ydynt, llamsachol gudyll; Gwylltiaf, ffroenfa’th helgi hoen llwyr. Yfwr seidr neidrdenau, genau priellau, Llawen, chwerthinaf am dy ben llanc, Er gwell ers gwersi ‘hoffi coffi’, mor llon, Gwell s n llynciadau d r llawr cwch Na llafurfa’th leisiad ‘blwch llwch’. Enillion dy dafod o’th orlliw allu, Grill Caergrawnt graenus lledwyr cach, Llefarydd a ofera heb ofersill. Llorpiau pelican peilliw Sais, Pabellwn yno, padelleg dyn, pa bell ydy o? Lleufer Gwlaf yr Haf yn dy wallt, Ymdywalltwn arnat, ni allaf o bell, Hirbell dy hirion, gwirion imi bellter; Nid Lloegr mo’th le, y llynedd Llyncais eiriau felly.
3.3 Blog - eich gwers Gymraeg gyntaf Beirniad: Angharad Naylor 1. Bruno Lewis (Ryan Bowen - Bangor) Beirniadaeth: Dyma flog gonest sy’n crynhoi’r profiad o fod yn y wers Gymraeg gyntaf yn glir. Mae’r cyfeiriad at daith yn ddiddorol – y daith lythrennol o America i Gymru a’r daith honno y byddwch yn ei hwynebu wrth ddysgu’r Gymraeg a’i defnyddio i ddatblygu eich gwybodaeth. Mae’r iaith a’r mynegiant yn bur gywir ond cofiwch am yr acen grom (swn > s n). Llongyfarchiadau a phob hwyl ichi ar eich taith!
Dechrau ar fy nhaith Heddiw, rydw i wedi cychwyn ar gael gwersi Cymraeg. Roedd yn llawer o hwyl ac mae swn pert iawn i’r geiriau. Ond am yr ‘ch’ ac ‘ll’ wrthgwrs lle mae’n rhaid i mi ddechrau ymarfer gwneud y swn oherwydd yn America nid ydynt yn defnyddio’r llythrennau. Ar ôl awr, roeddwn i wedi dechrau dod i ddeall rhai pethau syml iawn fel ‘Bore da’ a defnyddio ‘Rydw i’. Mae ‘Rydw i’ yn ddefnyddiol iawn ac yn golygu ‘I am’. Felly
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 39
mae modd i mi ddweud nawr sut yr wyf yn teimlo. Er enghraifft, ‘Rydw i’n teimlo’n hapus’. Roedd fy athro yn arbennig o dda ac yn bwyllog iawn. Roedd e hefyd yn gwneud popeth llawn hwyl a gweud rhai jociau.
daith. Rydw i wedi teithio draw o America ac yn edrych ymlaen i ddysgu mwy o’r iaith. Yn y pen draw, fy ngobaith yw i edrych i hanes y tywysgion a’r cynfeirdd. Mae hyn yn fy niddori i’n fawr ar ôl gwylio ‘Game of Thrones’. Hwyl am nawr a chadwch mewn cysylltiad.
Rhaid i mi gofio mai dyma’r dechrau ar y
3.4 Cyfres o 5 trydariad yn sôn am eich tymor cyntaf yn y Brifysgol Beirniad: Angharad Naylor 1.Tecila (Megan Adele – Bangor) Beirniadaeth: Cyflwynwyd cyfres o 5 trydariad bachog a oedd yn cynnwys elfen o hiwmor. Llwyddir i grynhoi profiadau amrywiol y tymor cyntaf yn y brifysgol yn bur effeithiol. Llongyfarchiadau! 29/09/2014 12:04 Gobaith @gobaith Wedi symud mewn i JMJ... be’ ddiawl ma’r bobl ‘ma yn ei ddeud? Fydda’i fyth yn eu dallt nhw. Be ‘di ‘gelan’? 07/10/2014 15:25 Gobaith @gobaith Wedi goroesi wythnos y glas, ddim yn gyfarwydd efo faint ma’r bobl ‘ma yn ei yfed... ma’ nhw’n insên. #quadvod
40 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
20/10/2014 14:45 Gobaith @gobaith Y meic agored cyntaf imi brofi neithiwr.. ddim yn gwbod unrhyw eiriau i’r caneuon ‘ma ac ma’ pawb wrth eu boddau efo’r Bryn Fôn ‘na. 12/12/2014 02:10 Gobaith @gobaith Dwni’m am beth oedd rhai pobl yn sôn pan ddudon nhw fod y flwyddyn 1a’n hawdd... dwi wrthi’n paratoi at seminarau, traethodau, arholiadau... 19/12/2014 14:42 Gobaith @gobaith Semester 1 wedi’i gorffen ac dwi ‘di ennill tua stôn ond wedi cyfarfod y bobl fwya’ gwallgof erioed.. dal methu dallt y Cofis ‘ma ddo.
3.5 Cyfres o 5 trydariad yn sôn am eich gwersi Cymraeg Cystadlaethau i Ddechreuwyr Pur/Myfyrwyr Cymraeg i Bawb Beirniad: Nia Thomas 1. Marchog Gwilym (Yann Guillaume Nurismloo – Caerdydd) 2. Tecila (Megan Adele – Bangor) Beirniadaeth: Roedd dau gystadleuydd sef Tecila a Marchog Gwilym. Defnydd o dafodiaith a’r amrywiaeth o hashnodau yw’r agwedd gryfaf o drydariadau Tecila. Mae ei ddisgrifiad o fynychu cwrs Cymraeg sydd ddim o hyd yn llwyddo cadw ei sylw yn gredadwy a doniol. Mae cael llinyn stori yn syniad da ond byddai hefyd wedi bod yn ddiddorol gweld trydariadau ar fwy o amrywiaeth o bynciau. Mae trydariadau Marchog Gwilym yn llawn brwdfrydedd am agweddau gwahanol o ddiwylliant Cymraeg. Mae’n sôn am bethau mae wedi’u gwneud ac am bethau mae am eu gwneud yn y dyfodol. Mae ei drydariad am gyfarfod merch o Batagonia yn greadigol iawn. Fel Tecila, mae’n defnyddio hashnodau a hiwmor i greu trydariadau bywiog. Yr enillydd yw Marchog Gwilym o drwch blewyn.
Mae campwriaeth y chwe gwlad wedi dechrau: canais i’r anthem genedlaethol Cymru (yn gymraeg!) heddiw! Ymuna â fi! Mae #Cymraeg yn hwyl! Dw i wedi cwrdd â merch o Batagonia! Dw i ddim yn deall Sbaeneg; dyw hi ddim yn deall Saesneg; ond dyn ni’n dau yn siarad Cymraeg! Hwre! Dw i’n mwynhau barddoniaeth a dw i’n byw yn y gwlad ‘beirdd a chantorion’: dw i’n lwcus! Darllenais i Dafydd ap Gwilym neithiwr: am awdur! Bydd Côr Glanaethwy yn canu ar S4C yn rhaglen #NosonLawen heno. Dw i’n mynd i ganu mewn côr cymraeg yn fuan hefyd! Diolch #Cymraeg am hwn Dw i’n gwisgo fy mathodyn #Cymraeg bob dydd. Heddiw gwelodd yr athrawes fe a dwedodd hi bod gwaith ar gael am siaradwyr Cymraeg. Gwych!
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 41
3.6 Cerdyn post at ffrind yn sôn am daith Beirniad: Gwennan Higham 1. Marchog Gwilym (Yann Guillaume Nurismloo – Caerdydd) 2. Bruno Lewis (Ryan Bowen – Bangor) 3. Tecila (Megan Adele – Bangor) 1af = Marchog Gwilym Roedd yr iaith yn raenus ar y cyfan, yn dangos ystod eang o strwythurau iaith a disgrifiadau naturiol ac effeithiol. 2ail = Bruno Lewis Roedd yr iaith yn weddol gywir ac yn naturiol ond roedd y testun yn rhy fyr. 3ydd = Tecila Roedd y testun yn dafodieithol iawn ac yn gywir ar y cyfan. Roedd hyn yn gymeradwy ond teimlwyd bod safon yr ysgrifennu yn uwch na’r categori hwn mewn gwirionedd. Helo Siwan, Shwmae! Gobeithio bod ti’n iawn ym Mhenarth. Hoffwn i adrodd rhywbeth yn y cerdyn post yma. Yr wythnos ddiwethaf codais i’n gynnar, ces i facwn ac wyau i frecwast a phenderfynais i i seiclo o Gaerdydd i’r Barri. Roedd yr awyr yn ddu eto pan gadawais i yn y bore. Yn y dechrau gwthiais i’r beic. Yn wir mae’n well gyda fi gerdded na seiclo. Ar y ffordd gwyntais i genhinen Bedr ym Mharc y Plas a gwrandawais i ar y colomennod ar bwys y Taff. Roedd y natur yn brydferth a chanais i ‘Anfonaf Angel’. Ro’n i’n credu bod adenydd gyda fi. Am saith o’r gloch dechreuais i i seiclo. Roedd e’n galed iawn iawn! Cyfarchais i bobl a gofynnais i ddwy hen
42 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
wraig am gyfarwyddiadau yn Gymraeg. Yn ffodus deallon nhw a gallon nhw helpu. Am un ar ddeg o’r gloch cyrhaeddais i: gallais i weld y traeth. Eisteddais i ar y tywod achos ro’n i wedi blino. Ond ro’n i’n hapus iawn: roedd y môr yn ffantastig ac roedd hi’n heulog iawn. Am daith! Roedd hi’n ardderchog! Y tro nesa byddi di’n dod hefyd. Mae seiclo yn weithgaredd da i gadw’n heini! Wela i di yn fuan. Cofion, Marchog Gwilym
Medal y Dysgwyr Dyfernir Medal y Dysgwyr i’r gwaith a ddaw i’r brig o blith yr holl fuddugwyr ym mhob cystadleuaeth yn yr Adran hon. Noddwyd gan Cymraeg i Bawb, Ysgol y Gymraeg. 1. Tecila (Megan Adele – Bangor) 2. Benjamin a’e Cant (Benjamin Angwin – Bangor) Beirniadaeth: Yn gyntaf, diolch i bawb am gystadlu yng nghystadlaethau Adran y Dysgwyr. Mae’r cystadlaethau hyn yn hollbwysig ac yn cynnig cyfle gwych i ddysgwyr ar bob lefel arbrofi gyda’r iaith y maent yn ei dysgu. Gobeithio y bydd pob ymgeisydd yn parhau i i fwynhau defnyddio’r iaith yn greadigol. Roedd y darnau a ddaeth i law yn amrywio o ran cynnwys a safon. Mae lle i rai ymgeiswyr ysgrifennu yn fwy cynnil a chreadigol ar brydiau er mwyn gallu datblygu gwreiddioldeb – daw hyn gyda phrofiad rwy’n si r. Dylid canmol pob ymgeisydd am ddangos brwdfrydedd llwyr – pob lwc yn y dyfodol. Mae cerdd fentrus Benjamin a’e cant yn dod yn agos iawn i’r brig. Gobeithio y bydd yn parhau i arbrofi gyda geiriau yn y dyfodol. Ond dyfernir Medal y Dysgwyr eleni i Tecila. Cyflwynwyd stori fer sy’n dangos ymgais i greu delweddau cynnil ac i ddefnyddio patrymau clir a chywir. Diolch i Tecila hefyd am gyflwyno cerddi difyr. Llongyfarchiadau.
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 43
CELF A FFOTOGRAFFIAETH 4.1 Y Fedal Gelf - gwaith yn ymateb i’r thema Hunaniaeth Beirniad: Elin Meredydd 1. Dychwelyd (Iestyn Tyne – Aberystwyth) 2. Tostyn (Elin Evans – Caerdydd) 3. Staples (Luned Bedwyr – Caerdydd) Hunaniaeth’ gan ‘Dychwelyd’ Roedd y manylder yn y darn yma’n drawiadol iawn. Mae cydosod yr ysgrifen a’r lluniadu yn gryf, ond efallai bod y defnydd o liwiau cynradd yn gwanhau’r casgliad o waith i raddau, am ei fod yn peri iddo edrych mwy fel prosiect hanes na darn o waith gorffenedig. Er hyn, roeddwn yn teimlo mai’r gwaith hwn oedd yn fuddugol oherwydd maint yr ymchwil y tu ôl i’r darn a safon uchel y lluniadu.
cyflawni hyn.
Gwaith gan ‘Tostyn’ Roedd cynildeb y gwaith gwnïo yn fedrus. Y darn hwn oedd yn sefyll allan y mwyaf yn y gystadleuaeth am fod y deunydd gwlân a ddefnyddiwyd yn unigryw. Serch hynny, gadawodd y cyflwyniad y gwaith i lawr. Yn hytrach na thrin y darn fel dilledyn, byddai wedi bod yn llawer mwy trawiadol pe bai’r darn wedi ei gyflwyno mewn modd mwy cysyniadol. Efallai y byddai ei hongian ar wifren yn llorweddol er mwyn gallu gwerthfawrogi’r sgil yn y gwaith wedi
Gwaith gan ‘102’ Er i’r paentiad yma fod yn ddarn o waith graenus ag iddo ddefnydd da o donyddiaeth a sensitifrwydd at liw, yn anffodus gadawyd ef i lawr gan y modd y cyflwynwyd y darn o waith i’r gystadleuaeth. Collwyd ystyr y darn am nad oedd yn ddigon clir pa faint oedd y darn gwreiddiol, na chwaith pa ddeunydd y defnyddiwyd wrth ei gynhyrchu.
44 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Gwaith gan ‘Staples’ Roedd rhyw ramant i’r darn hwn yr oeddwn yn ei hoffi. Roedd yn amlwg bod llawer o waith cynnil a manwl wedi mynd tuag at y gwaith gwnïo, ac roedd y lliwiau cyfoethog yn atgyfnerthu’r gwaith lluniadu gwyllt a’r siapiau haniaethol. Serch hynny, efallai nad oedd gan y darn ddigon o wreiddioldeb i wneud hi i’r brig tro yma.
Gwaith gan ‘Gwaith Paratoi’ Yn anffodus, teimlwyd nad oedd y gwaith
yma’n llwyr gymwys am y Fedal Gelf. Gellir gweld bod gwaith lluniadu yn bresennol yn y gwaith, ond teimlwyd bod y darn yn ymddangos yn debycach i waith ymchwil yn hytrach na darn o waith celf gorffenedig.
o bren yn syniad gwreiddiol yr oeddwn yn ei hoffi, er hyn ni deimlwyd bod unrhyw sgil yn perthyn i’r gwaith. Roedd llygedyn o waith lluniadu da yn bresennol yn y gwaith, ond nid oedd y modd yr oedd wedi ei gydosod yn sensitif nac yn gywrain. Dal ati!
Gwaith gan ‘Bailey’ Roedd cyflwyno’r darn gorffenedig ar ddarn
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 45
4.2 Ffotograffiaeth Beirniad: Dyfan Williams 1. Cymro (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) 2. Twm (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) 2. Ci Bach (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) Mae safon y gystadleuaeth yn dda gydag ambell i lun ymysg y setiau o bedwar wir yn arbennig. Mae gobaith yn air sydd yn cynnig dipyn o sgôp i’r ffotograffwyr fynd ati i fod yn greadigol. Ma’r gweithiau cyfan yn dangos sut mae bobol yn tynnu lluniau y dyddia ma - gyda’r ffôn symudol! A sut ma apps megis instagram yn dylanwadu ar y cyfansoddiadau - drwy gyfyngiadau maint sgwâr, yn ychwanegol i’r duedd o ddefnyddio sawl ffilter gwahanol i ychwanegu dimensiwn arall i’r lluniau ac i ddenu’r llygaid. Ma’r lluniau ddoth i’r brig yn gweithio yn unigol ac fel rhan mewn set o bedwar. Ma nhw’n cynnig rhywbeth bach yn wahanol i’r gweddill… ma na wead yn y gwaith a cyferbyniadau sydd yn denu’r llyged… Fel dylunydd graffeg, rwyf yn gwerthfawrogi sut mae ‘Cymro’ wedi defnyddio geiriau yn y gwaith… a lleoliad y tecst yma o fewn cyfansoddiadau unigryw ac effeithiol. … ac yn y diwedd, y pedwar llun yma sydd yn gweithio orau gyda’i gilydd fel gr p, ac sydd wedi defnyddio’r gair ‘gobaith’ fel man cychwyn i greu set o luniau arbennig … da iawn … da iawn bawb!
46 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
3. Gwenith (Elen Gwenllian Hughes – Bangor) 3. Traeth (Elen Gwenllian Hughes – Bangor)
DRAMA 5.1 Y Fedal Ddrama Cyfansoddi drama lwyfan na chymer hwy na 30 munud i’w pherfformio Beirniad: Merfyn Pierce Jones 1. Yr Hen Gorff (Elen Huws – Bangor) 2. Alys (Sara Anest Jones – Caerdydd) 2. Diafol (Dion Lloyd Davies – Bangor) Beirniadaeth: Er mai dim ond pum darn o waith ddaeth i law eleni, braf yw cael cyhoeddi bod amrywiaeth helaeth o arddulliau a phynciau yn y cynigion i gyd. Brafiach fyth yw cael datgan bod gan bob cystadleuydd rywbeth i’w ddweud ac yn amlach na pheidio, mae pob un yn dangos dychymyg a rheolaeth. Cafwyd dwy ddrama heriol, un “ffars” yn nhraddodiad yr hen ddramâu neuadd bentref, un fonolog ac un ddrama deledu. Mae i ddrama deledu “Wil Cwac Cwac” – “Betsan, ti ‘di gweld Myngu?” - ei rhinweddau; mae’r cymeriadau’n chwarae oddifewn i olygfeydd byrion sy’n ennyn cydymdeimlad a thristwch, er enghraifft... Betsan fach yn esgus bod yn ddoctor sy’n trin ei thaid, Eric, ac er y gellid dweud, o bryd i’w gilydd, y byddai dweud llai ac awgrymu mwy yn ychwanegu at gydymdeimlad y gwyliwr tuag at sefyllfa druenus Eric, ceir yma dro annisgwyl ac effeithiol yn y gynffon. Mae monolog “Cilrhue” – “Gwreiddiau”
– yn bortread annwyl a chynnes o’r prop rygbi rhyngwladol John Davies. Yn y cyfarwyddiadau llwyfan ceir ymgais lwyddiannus i gynnig ffyrdd ar sut i lwyfannu a dramateiddio atgofion y prif gymeriad, gan ddefnyddio dodrefn yr ystafell newid a rhaglen gêm dysteb y chwaraewr poblogaidd. Yn arddull y sioe un dyn “Grav”, down i adnabod John wrth iddo roi trefn ar ei atgofion a chawn wybod sut groeso, neu’n hytrach, y diffyg croeso a gafodd gan ei fam wrth iddo ddychwelyd adref wedi iddo gael ei hel oddi ar y maes yn erbyn Lloegr ym 1995! Wrth feddwl am lwyfannu “Gwreiddiau”, ac wrth ystyried disgwyliadau’r gynulleidfa, mae’n bosib bod angen gweithio ar greu mwy o wrthdaro ac uchafbwyntiau dramatig fel nad yw’r naratif yn teimlo fel ei fod yn taro’r un nodyn. O “Gwreiddiau”, fe drown ein sylw at “Golau Coch” gan “Alys.” Ffars hen deip, sy’n fwriadol hen ffasiwn a bwriadol drosben-llestri. Drwy’r sdwnshan a’r rwdlan rhwng cymeriadau sydd, i bob pwrpas, yn gymeriadau stoc llond-eu-crwyn, yn ddi-os
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 47
mae yma rialtwch crefftus ac i bwrpas. Mae “Golau Coch” y teitl yn cyfeirio at yr unig beth mae’r hen fodryb Anti Airîn yn ei gofio am ddamwain car efo Elen Eryri, ac mae’r bloeddiadau o “Golau Coch, golau coch!” a glywn ganddi ar adegau pwrpasol yn dangos clust am ddeialogi ar gyfer comedi sydd yn tynnu gwên bob amser. Fel, yn wir, y mae llinellau fel...”Morris Corris ti’n feddwl?...Brawd Dorris?”...Wel ie; mi oedden nhw’n dwins yn toedden...Oedden.... Oedden nhw’n aidentical?...Dwi’n meddwl bod un – ond doedd y llall ddim!” Os ydach chi’n aelod o gwmni drama bach lleol, perfformiwch “Golau Coch”, fel ag y mae hi, ac mi fyddwch yn siwr o noson hwyliog. O un pegwn arddull i’r llall awn drwy’r Golau Coch ac at “Y Gêm” gan Diafol. Drama ddirdynnol ag iddi ôl meddwl a chynllunio manwl. Mae pob symudiad ar hyd y llwyfan, pob dodrefnyn a phob emosiwn wedi ei gynllunio i’r eithaf ar daith gymhleth Gwawr drwy ei hatgofion a’i hofnau, wrth iddi orfod wynebu cymeriadau o’i gorffennol sydd bellach yn ymddangos o’i blaen fel y diafol yn ei wahanol bersonoliaethau. Mae “Y Gêm” yn her i’w darllen a’i pherfformio ond ceir ynddi olygfeydd a chameos bychain fydd yn sicr o aros yn y cof, a gyda mymryn lleiaf o waith ar gynildeb y dweud a rhoi ambell haen ychwanegol i gymeriad neu ddau fyddai’n rhoi digon i actor a chynulleidfa gnoi cil drosto. Mae un dyn bach, neu ddynes fach, ar ôl. Yn y ddrama lwyfan sydd yn ôl fel y gwela’ i yn dwyn y teitl “Drama Lwyfan” (!) mae’r “Hen Gorff” yn gwybod sut i ddweud stori, yn gwybod sut i greu cymeriad ac yn gwybod beth ydy gwerth geiriau. A hynny wastad o dan reolaeth. Hanes Mari gawn ni; Mari, ei hanwyliaid a’i hatgofion chwerw-felys. Yn ffodus i’r Hen Gorff mi ydwi’n digwydd bod
48 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
yn ffan mawr o’r arddull lle mae cymeriad yn “sylwebu” ar y digwydd o’i gwmpas tra hefyd aros yn rhan o’r olygfa ei hun. Mewn dwylo llai medrus mae’n gallu dod ar draws y chwarae, ond yn nwylo’r Hen Gorff mae’n ddifyr ac effeithiol. Ffolais ar y defnydd o liwiau sy’n britho’r gwaith; eto, i bwrpas. Yng ngeiriau “Mari”...”Uffarn o beth ‘di bod yn wyth oed a bod ofn i’r lliwiau ddiflannu.” ac yna, yn ddiweddarach,... “A ma’ na haul mawr melyn lond fy mol i eto! Deud gwir, ma’ lliwia’r enfys i gyd yn sgleinio o flaen ‘yn llgada fi,” cyn i realiti creulon bywyd ei tharo ac ennyn yr ymateb...”Hen dawelwch diddiwedd...a’r lliwia ‘di mynd yn llwyr.” Y ganmoliaeth uchaf all beirniad ei roi wrth feirniadu yw ei fod wedi mynd yn ôl at weithiau penodol; nid er mwyn chwilio am feiau, ond er ei fwynhad ei hun. Dyna wnes i...at ddrama’r Hen Gorff. Felly, gydag apêl i’r pump ymgeisydd barhau i greu, gan roi “Alys” a’r “Diafol” yn gydradd ail, ewch ati i hongian Y Fedal Ddrama am wddw’r Hen Gorff. Synnwn i ddim bod yna grochan aur ar ben arall ei enfys!
ADRAN GERDD 6.1 Tlws y Cerddor Cyfansoddi darn a fyddai’n addas i’w berfformio yn fyw ar lwyfan. Caiff fod ar gyfer grwp lleisiol neu grwp offerynnol heb fod yn hwy 10 munud Beirniad: Huw Foulkes 1. Sacs (Manon Elwyn Hughes – Bangor) 2. Anrheg (Heledd Mair Besent – Bangor) 3. Delila (Mared Fflur Harries – Caerdydd Daeth 16 ymgais i law a chafwyd nifer o amrywiaeth - o ddarnau lleisiol i rai offerynnol. Roedd digon o amrywiaeth hefyd o ran arddulliau. Ar y cyfan, roedd y safon yn dderbyniol ond mae bwlch amlwg rhwng y rheini sydd wedi dod i’r brig a’r gweddill. Yn gyffredinol, mae angen i’r rhai na ddaeth i’r brig edrych eto ar natur eu cyfansoddiadau a gofyn iddyn nhw eu hunain a yw’r cyfan yn bosib i’w berfformio. Roedd ambell un yn rhy uchelgeisiol ac mae angen i bob un dalu sylw manylach i’r diwyg a’r ffordd maent yn gosod y cyfansoddiadau ar bapur.
un adran i’r llall ac yn mynd â’r gwrandäwr ar daith. Mae’r dewis o gordiau’n addas bob tro a’r amrywiaeth rhythmig yn gymorth i gadw diddordeb. Cyfansoddiad Sacs felly sy’n cipio tlws y cerddor Eisteddfod Ryng-golegol 2016.
Yn drydydd rwy’n gosod Deleila am gyfansoddiad syml ac sy’n hawdd i wrando arno. Yn ail mae Anrheg am gyfres o symudiadau i leisiau a chyfeiliant wedi eu gosod i destunau heriol. Ond y cyfansoddiad mwya’ cyflawn sy’n barod fel ag y mae i’w berfformio yw pedwarawd llinynnol a phiano gan yr ymgeisydd sy’n dwyn y ffugenw Sacs. Dyma gyfansoddiad sy’n llifo’n esmwyth o
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 49
CANLYNIADAU GWAITH CARTREF 1. Prifysgol Bangor 2. Prifysgol Caerdydd 3. Prifysgol Aberystwyth 4. Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (Caerfyrddin) 5. Prifysgol Abertawe
CANLYNIAD TERFYNOL EISTEDDFOD RYNG-GOLEGOL CAERDYDD 2016 1. Prifysgol Bangor – 428 2. Prifysgol Caerdydd – 372 3. Prifysgol Aberystwyth – 165 4. Prifysgol Cymru Y Drinod Dewi Sant (Caerfyrddin) – 24 5. Prifysgol Abertawe – 2
50 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 51
52 Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016
Taith yr Eisteddfod Ryng-golegol Er gwybodaeth, mae lleoliad y brifysgol a fydd yng ngofal cynnal yr Eisteddfod Ryng-golegol dros y blynyddoedd nesaf fel a ganlyn:
2017 - Bangor 2018 - Caerfyrddin 2019 - Abertawe 2020 - Aberystwyth 2021 - Caerdydd
Eisteddfod Ryng-golegol Caerdydd 2016 53
NODDWYR YR EISTEDDFOD: Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cymraeg i Bawb Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
DYDDIAD CYHOEDDI: Rhagfyr 2016 CYHOEDDWR: UNDEB MYFYRWYR PRIFYSGOL CAERDYDD Cynhaliwyd yr Eisteddfod Eleni ar y Cyd rhwng Swyddog y Gymraeg UMPC a’r Gymdeithas Gymraeg