RHANNU AC YSBRYDOLI
HAF
ADDYSGU A DYSGU YM MHRIFYSGOL BANGOR
LLWYDDIANT AM Y BEDWAREDD FLWYDDYN YN Y STUDENT CHOICE AWARDS!
ENWEBWYD PRIFYSGOL BANGOR AR GYFER GWOBRAU YN Y CATEGORÏAU CANLYNOL: LLETY, CLYBIAU A CHYMDEITHASAU, CYRSIAU A DARLITHWYR, RHOI’N ÔL, RHYNGWLADOL, RHAGOLYGON SWYDDI, CEFNOGI MYFYRWYR, CYSYLLTIAD GORAU Â DARPAR FYFYRWYR A PHRIFYSGOL Y FLWYDDYN YN GYFFREDINOL.
Ar sail adolygiadau a barn ein myfyrwyr, dewiswyd Prifysgol Bangor fel y gorau yn y DU ar gyfer Clybiau a Chymdeithasau Undeb y Myfyrwyr yn ogystal â Llety Myfyrwyr yn WhatUni.com Student Choice Awards. Roedd y Brifysgol hefyd yn drydedd yn y categori Prifysgol y Flwyddyn ac yn ail am Gyrsiau & Darlithwyr. Dywedodd yr Athro John G Hughes Is-ganghellor y Brifysgol
Rwy’n falch iawn bod y Brifysgol wedi ennill gwobrau mewn dau gategori, ac mae’r gwobrau hyn yn adlewyrchu ein perthynas waith agos gydag Undeb y Myfyrwyr a’n myfyrwyr i ddarparu addysg ragorol a phrofiad prifysgol sy’n rhoi’r myfyrwyr yn gyntaf.
Dywedodd Mair Rowlands Cyfarwyddwr Undeb Myfyrwyr Bangor
Mae’r myfyrwyr yn rhan greiddiol o bopeth a wnawn, ac rydym yn ennill y gwobrau hyn trwy wrando, a thrwy weithio mewn partneriaeth â nhw i sicrhau bod myfyrwyr Bangor yn cael y cyfleoedd gorau posibl.
bangor.ac.uk
01