Gyda'n Gilydd - Gwanwyn 2022

Page 1

Gwanwyn 2022

Mae’r ffordd rydych yn rhentu cartrefi yng Nghymru yn newid… Ar 15 Gorffennaf 2022 bydd y rheolau ar rentu cartrefi yng Nghymru yn newid wrth i Lywodraeth Cymru gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), 2016. Mae’r Ddeddf yn newid llawer ar gyfreithiau tenantiaeth, gan ei gwneud yn symlach ac yn haws i rentu cartref yng Nghymru. Bydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch chi a gallwch ddarllen mwy am hyn ar dudalen 2

Hefyd yn y rhifyn hwn Bod yn garedig wrth eich hunan a phobl eraill 3 Cwsmeriaid wrth eu boddau efo’n gwasanaeth Annibynnol Fi 7 Newydd – Hwb Gwybodaeth 6 Bwriadu dathlu’r Jiwbilî? – gallwn ni eich helpu 11 ymholiadau@cartreficonwy.org / Gwasanaeth Cwsmer: 0300 124 0040 Mae pob galwad gyda Gwasanaethau Cwsmeriaid yn cael eu cofnodi. Mae copïau sain o’r newyddlen hon ar gael.


Y Ddeddf Rhentu Cartrefi ydi un o’r newidiadau mwyaf mewn cyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Bydd y gyfraith newydd yn ei gwneud yn haws i rentu ac yn cynnig mwy o sicrwydd. Bydd Contractau Meddiannaeth yn dod yn lle cytundebau tenantiaeth, a byddwch yn cael eich galw’n ddeiliad y contract, yn hytrach na thenant, ar y contract meddiannaeth. Gallwch ddisgwyl hyn

• cael contract mewn ysgrifen, yn dangos

Gwyliwch am fwy o wybodaeth oddi wrthym ni yn ystod y misoedd nesaf. Hefyd, gallwch gael gwybodaeth rŵan yn www.gov.wales/housing-law-changing-rentinghomes

beth ydi eich hawliau a’ch cyfrifoldebau

• • mwy o ddiogelwch rhag cael eich troi allan o’ch lle byw

• • trefniadau mwy hyblyg ar gyfer pobl

sy’n dal contract ar y cyd, gan ei gwneud yn haws i ychwanegu enwau pobl eraill at gontract meddiannaeth, neu eu tynnu i ffwrdd

a mwy…

Gosod rhenti – y wybodaeth ddiweddaraf Yn y gorffennol, rydym wedi cynyddu rhenti ar draws ein holl gartrefi bob blwyddyn, wedi’i gysylltu efo’r mynegai prisiau defnyddwyr. Y flwyddyn ddiwethaf fe wnaethom ni rywbeth gwahanol fel nad oedd rhaid i’n tenantiaid dalu mwy na 29% o’u hincwm ar rent. Roeddem yn defnyddio model i asesu beth allai pobl ei fforddio, oedd yn edrych ar rai o’r incymau isaf yn eich ardal leol chi.

Os bydd gennych unrhyw gwestiynau am eich rhent neu angen help efo talu eich rhent, mae ein Tîm Budd-daliadau Lles a Chymorth Arian ar gael i helpu. Ffoniwch ni neu gyrrwch ebost atom.

Rydym wedi defnyddio’r model hwn eto eleni i asesu beth all pobl ei fforddio, sy’n golygu y gallai rhai rhenti fynd i fyny, rhai aros yr un fath a rhai ddod i lawr. Dyma i chi fideo gan ein Rheolwr Gyfarwyddwr, Katie Clubb, sy’n sôn mwy am hyn. Teipiwch y ddolen yma i mewn neu glicio arno i weld y fideo. https://cartreficonwy.org/tenants/rentsetting-update/ 2

cartreficonwy.org


Os ydych chi’n rhannu mannau yn eich lle byw efo pobl eraill, cadwch nhw’n glir yr holl amser os gwelwch yn dda - peidiwch â rhoi eich hunan a’ch cymdogion mewn perygl! Rydym yn gwybod nad yw hi’n hawdd bob tro, ac rydym yn diolch i chi am ddeall yr angen a pham fod hyn mor bwysig. Pe byddai tân neu argyfwng arall yn digwydd, bydd cadw’r mannau hynny’n glir yn arbed bywydau ac osgoi anafiadau. Dyna pam fod ein Hysbysiad TORT mor bwysig. Mae yno i’n helpu ni i’ch cadw chi’n ddiogel.

Byddwch yn garedig os gwelwch yn dda… wrth eich hun, eich teulu a’ch cyfeillion a’n staff ni! Rydym yn parhau i wynebu heriau, oddi wrth y pandemig, costau byw’n codi, gofal iechyd, a gofal yn y gymuned, ac mae hynny’n effeithio ar sut bydd llawer ohonom ni’n teimlo ac yn ymddwyn. Rydym yn gofyn i chi, os gwelwch yn dda, aros am eiliad ac ystyried sut byddwch yn ymddwyn tuag at bobl eraill. Cofio bod yn garedig

• rydym yma i wrando ac i helpu, ond

ddim i dderbyn eich bod chi’n defnyddio geiriau anghwrtais, sarhaus neu fygythiol tuag at ein staff ni.

• gallwch siarad efo ni am sut rydych chi’n

teimlo neu’r heriau sy’n eich wynebu, a byddwn ni’n gwneud ein gorau i’ch helpu a’ch cefnogi chi.

0300 124 0040

Mewn arolwg o’n staff yn ddiweddar, dywedodd 74% o’n cydweithwyr eu bod wedi cael cwsmer yn eu sarhau ar lafar / rhegi atynt yn ystod y 6 mis diwethaf. Dywedodd y mwyafrif o’r bobl wnaeth ymateb ei fod yn digwydd weithiau, a dywedodd 32% ei fod yn digwydd yn amlach nag unwaith y mis, ac yn digwydd bob dydd i rai o’n cydweithwyr. 3


Bydd Wych. Ailgylcha. Dyma rai syniadau i’ch helpu

• rhowch eitemau gwastraff ac eitemau ailgylchu

• mewn biniau neu fagiau gwahanol • cofiwch y bydd eich cyngor lleol hefyd

yn casglu eich batris, tecstilau ac offer trydanol bychan

• tynnwch unrhyw fwyd dros ben oddi ar blastig neu bapur cyn eu rhoi yn y bin

• defnyddiwch y bocs bwyd gwastraff

a bagiau ar gyfer bwyd sydd dros ben neu wedi mynd yn hen. Cofiwch ofyn am fwy o fagiau cyn gorffen y rhai sydd gennych

A wyddoch chi fod biniau gan archfarchnadoedd, yn cynnwys Tesco a’r Co-op, ar gyfer y darnau o blastig na allwn ni eu hailgylchu - er enghraifft bagiau creision, deunydd lapio seloffen a bagiau plastig, nad ydym am eu defnyddio eto. Mae mwy o syniadau ecogyfeillgar yn https://www.walesrecycles.org.uk/cy/cartrefcymraeg - rydym ni’n hoff iawn o’r rhan Ffeithiau Difyr ac Ailgylchu. Cofiwch hefyd am y canolfannau gwastraff cartref ac ailgylchu. Mae hefyd wasanaeth casglu sy’n mynd â’ch eitemau mawr i ffwrdd am dâl bychan.

• cymerwch ofal pa wastraff sy’n

mynd i le, a chofiwch am yr amserlen casgliadau. Gallwch lawr lwytho app eich awdurdod lleol neu fynd i’w gwefan am fwy o wybodaeth.

GWASTRAFF

GWYDR PLASTIG

4

cartreficonwy.org


Cadw’n ddiogel – Partneriaeth gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru Cofiwch edrych ar y Cynlluniau Gweithredu Tân sy’n cael eu harddangos yn yr adeilad rydych chi’n byw ynddo – gallai hynny arbed eich bywyd ac osgoi anafiadau i chi. Ydych chi’n byw mewn tŷ? Ydych chi wedi gwneud cynllun ar gyfer sut i ddianc os bydd tân? Os nad ydych, gallwn ni a’n partner, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, eich helpu. Byddwn ni’n gweithio efo’n gilydd i’ch cadw chi’n ddiogel. Ni ydi’r unig Gymdeithas Tai efo’r bartneriaeth unigryw hon yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Mae Deri’n Weithiwr Cefnogi Diogelwch yn y Cartref sy’n gweithio efo’n tîm tai ni i wneud archwiliadau Diogel ac Iach yn y Cartref. Bydd yn helpu i wneud yn sicr bod tenantiaid mae mwy o berygl iddynt neu sy’n fwy agored i niwed yn deall bod angen gwneud newidiadau sy’n gallu achub bywyd, er mwyn cadw’n ddiogel a byw’n annibynnol yn eu cartrefi. Pa bryd oedd y tro diwethaf i chi gael prawf Diogel ac Iach yn y Cartref? Os oedd hynny gryn amser yn ôl neu os bydd gennych bryderon am ddiogelwch rywun, cysylltwch efo ni os gwelwch yn dda. Cofiwch fod syniadau da a chyngor ar gadw’n ddiogel yn eich cartref i’w gweld yn eich llawlyfr tenantiaid, neu ewch i https://www.northwalesfire.gov. wales/?lang=cy-gb wedyn clicio ar y rhan Eich Cadw Chi’n Ddiogel. 0300 124 0040

Beth i’w wneud os bydd yna dân Os bydd tân yn cychwyn yn eich flat:

• EWCH ALLAN

a chau’r drws

• PEIDIWCH a cheisio diffodd y tan eich hun • Defnyddiwch y grisiau. PEIDIWCH a defnyddio'r lifft • Ffoniwch 999 ac arhoswch y tu allan, yn bell oddi wrth yr adeilad

Os byddwch chi’n gweld neu’n cael clywed amdân pan fyddwch chi mewn man cymunedol:

• EWCH ALLAN • Defnyddiwch y grisiau. PEIDIWCH a defnyddio'r lifft • Ffoniwch 999 ac arhoswch y tu allan, yn bell oddi wrth yr adeilad

Os byddwch chi’n gweld neu’n cael clywed amdân pan fyddwch chi yn eich flat:

• ARHOSWCH LLE’R YDYCH CHI • Caewch bob drws • Ffoniwch 999 • Os ydych yn teimlo'n anniogel neu'n amheus, EWCH ALLAN (defnyddiwch y grisiau, PEIDIWCH a defnyddio'r lifft)

5


Gweithio yn ystod COVID Mae ein prif swyddfa’n dal wedi cau i ymwelwyr ar hyn o bryd, ond mae ein hybiau cymunedol yn agored, efo mesurau diogelwch. Gallwch ddarllen mwy am beth sy’n digwydd yno yn y daflen newyddion hon ac ar lein. Mae’n newyddion da iawn bod y cyfyngiadau COVID yn llacio. Ond mae effaith y cyfyngiadau ar ein cadwyn gyflenwi ni a hefyd effaith BREXIT, yn golygu na fydd rywfaint o’r gwaith roeddem yn ei fwriadu, datblygiadau a gwaith trwsio, ddim yn mynd ymlaen fel arfer am dipyn eto. Er hynny, mae pethau’n gwella o wythnos i wythnos.

Hwb Gwybodaeth Newydd Mae ein tîm Gwasanaeth Cwsmeriaid ni wedi bod yn gweithio’n galed ar ffordd newydd o roi gwybodaeth i denantiaid a chydweithwyr, i geisio ateb cwestiynau ar unwaith. Gallwch ei weld ar ein gwefan – teipiwch gwestiwn i mewn i’r bocs chwilio a chewch ateb ar unwaith. Mae ar gael 24 awr o’r dydd, ac os na chewch yr ateb i’ch cwestiwn yno gadewch i ni wybod, i’n helpu ni i barhau i dyfu’r gwasanaeth gwybodaeth hwn i chi.

Rydym ni’n ddiolchgar i chi am eich amynedd a’ch cymorth dros y ddwy flynedd ddiwethaf, efo sut mae’r pandemig wedi newid ein ffordd o weithio.

Mynd o Gwmpas

Pan fyddwn ni yn eich ardal chi, bydd croeso i chi ddod draw am sgwrs efo ni am faterion, a’r pethau da sy’n digwydd lle rydych chi’n byw. Dyma le byddwn yn ystod y misoedd nesaf: 6ed Ebrill Lon Cymru, Bloc 23-37, Llandudno 4ydd Mai Glas Coed / Maenan, Peulwys 1af Mehefin Llangernyw, Stad y Groes 6

cartreficonwy.org


Ydych chi wedi clywed am Annibynnol Fi? Gall ein gwasanaeth Annibynnol Fi eich helpu efo’ch siopa, eich cefnogi i fynd ar lein, mynd i apwyntiadau meddyg teulu neu ysbyty, bod yn rhywun i siarad efo chi a llawer mwy! I gael gwybod mwy, ewch i’n gwefan www.independentme.org.uk neu ffonio 0300 124 0040

Nawdd ac Arian o’r Gronfa Gymunedol Mae gennym ni arian i gefnogi tenantiaid a grwpiau yn ein cymunedau. Cysylltwch efo ni am sgwrs, i gael mwy o wybodaeth a gweld sut i wneud cais.

A ydych chi’n bwriadu dathlu’r Jiwbilî Platinwm? Mae’n anodd credu ei bod hi’n 10 mlynedd ers adeg dathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines - ia, yn 2012 roedd hynny. Felly, mwy fyth o reswm i fwynhau unwaith eto, yn dathlu Jiwbilî Platinwm y Frenhines yn eich cymuned chi. Gallwn ni eich helpu chi i drefnu parti stryd i’w gofio, a byddwn yn cynnig pecynnau parti jiwbilî a rhywfaint o arian i’ch helpu. Ffoniwch i gael sgwrs efo ni... 0300 124 0040

7


Mae llawer yn digwydd yn ein cymunedau Celf i Ymlacio

Cafodd defnyddio Celf i Ymlacio ei lansio, diolch i arian oddi wrth Addysg Oedolion Cymru. Mae hwn yn gwrs celf i bobl o wahanol oed, sy’n dod â thenantiaid hŷn a mamau ifanc sy’n byw yn Llanrwst at ei gilydd. Nod y sesiwn ydi gwella llesiant trwy fyfyrdod a chreadigrwydd. Mae’n cael ei redeg gan y tiwtor talentog iawn Kate Philbin, sy’n dechrau pob sesiwn efo cyfnod o fyfyrdod meddylgar i helpu i ryddhau unrhyw straen, cyn dechrau ar weithgaredd celf dan ei harweiniad hi. Mae’r grŵp hwn wedi paentio rhai darnau gwirioneddol ryfeddol a chreu cyfeillgarwch newydd.

Coffi a Sgwrs

Hunan Ofal

Byddwn yn cynnal ein clwb coffi a sgwrs ddwywaith y mis, ar ddydd Iau am 2pm. Byddwn yn cael mwynhau cwmni da, cwis, siaradwyr gwadd a bingo.

Mae gweithgareddau Hunan Ofal hefyd yn digwydd ar Zoom, efo’n Tîm Llesiant Cymunedol ni. Byddwn yn cyfarfod bod mis ar ddydd Mercher, i wella llesiant corff a meddwl.

8

cartreficonwy.org


Clwb ‘Brunch’ Parkway yn ailagor ac yn cynnal corff ac enaid y preswylwyr Mae Sue Mottram yn rhedeg clwb Parkway gyda dau o’i chyfeillion, ac maen nhw’n dweud bod yr ymateb cadarnhaol ers ailagor wedi bod yn galonogol iawn. Bydd y triawd caredig yma’n gwneud yr holl waith siopa, coginio a threfnu ar gyfer redeg y clwb ‘brunch’ bob wythnos, ar fore Mercher. Doedd rhai o’r aelodau ddim wedi bod allan i gymdeithasu ers bron ddwy flynedd. Maen nhw yn ôl rŵan ac yn falch iawn o’r cyfle i weld cyfeillion a chymdogion eto a chael diod poeth a phryd digonol yng Nghanolfan Gymunedol

0300 124 0040

Parkway, Llandrillo-yn-rhos. Mae wedi bod yn gymaint o lwyddiant, ac rydym ni’n bwriadu helpu i gael clybiau tebyg yn rhedeg mewn cymunedau eraill.

I gael gwybod mwy am beth sy’n digwydd ar gyfer tenantiaid hŷn, ffoniwch Nerys ar:

07733 916255.

9


Beth sy’n digwydd yn ein Hybiau Cymunedol ni? Os ydi’r pandemig wedi dysgu unrhyw beth i ni, mae wedi dangos bod y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu gan Gartrefi Conwy a Chreu Menter yn gryf, yn gallu gwrthsefyll a bod ganddynt ddigonedd o galon. Rydym am ddefnyddio canolfannau sydd wedi’u hadeiladu’n arbennig i’r pwrpas a chanolfannau cymunedol sydd yno’n barod ym mhob rhan o Gonwy. Ein nod ydi darparu amrediad eang o wasanaethau sy’n ateb anghenion pob unigolyn sy’n dod i mewn trwy’r drws. Bydd cymorth yno i chwilio am swyddi, cefnogaeth i reoli eich arian a chyfleoedd i gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad. Rydym ni wir yn credu bod gennym ni rywbeth i’w gynnig i bawb.

Y contractwr cymdeithasol delfrydol The social contractor of choice www.creatingenterprise.org.uk 01492 588 980

Gallwch weld ein hamserlen lawn o sesiynau rheolaidd, a phethau sy’n digwydd ddim ond unwaith, yn rhan Hybiau Cymunedol ein gwefan, neu galwch ni i holi beth sy’n digwydd. www.creatingenterprise.org.uk/ en/creating-futures/communityhubs/

Tîm Budd-daliadau Lles a Chymorth Arian

Budd ein tîm ni allan yn ein hybiau bob wythnos. Gallwch hefyd gysylltu â nhw trwy ebost neu ffonio, i gael cymorth a chefnogaeth gyfrinachol efo arian, budd-daliadau a chyllidebu. 10

cartreficonwy.org


Hanes Pobl: Holly

Allai Mrs Davies ‘ddim bod yn hapusach’ efo’i Chegin Newydd.

Mae Holly yn denant i Gartrefi Conwy, yn astudio Lefel 2 mewn Gosodion Trydanol yng Ngholeg Llandrillo ac yn gwirfoddoli i weithio efo Trydanwr, Justin, i gael profiad o waith gwirioneddol.

Diolch yn fawr iawn i chi Mrs Davies o Landrilloyn-rhos am eich sylwadau caredig iawn am ein tîm Cynnal Eiddo ni a’r Swyddogion Cyswllt Tenantiaid.

Ydych chi eisiau adeiladu eich sgiliau, profiad a hyder? A ydych chi wedi ystyried gwirfoddoli? Fe fyddem ni’n falch o glywed gennych! Ffoniwch ni ar 01492 588 980 neu gyrrwch ebost i employmentacademy@ creatingenterprise.org.uk

Da iawn chi, i bawb yn y tîm!

Mae’n wych gweld yr effaith gadarnhaol mae’r tîm yn ei gael ar gartrefi a bywydau tenantiaid Cartrefi Conwy bob dydd, a gwybod bod y gwasanaeth ansawdd uchel, proffesiynol hwn yn dod ag incwm sy’n ein galluogi ni i greu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i bobl leol.

Strategaeth Newydd ar gyfer Effaith Gymunedol – Lansio ym mis Ebrill Mae’n hynod gyffrous i ni fod yn brysur yn paratoi Mae’r rhan anoddaf wedi’i orffen, a’r rhan orau i lansio ein Strategaeth Effaith Gymunedol i ddod – sut i gael y cynllun i weithredu. Dyma newydd sbon ym mis Ebrill. pam rydym ni’n gofyn am eich cymorth a’ch cefnogaeth chi unwaith eto. Diolch i’r 552 o denantiaid a 71 o gydweithwyr fu’n Fe fyddem wrth ein boddau yn clywed oddi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad mwyaf rydym ni wedi’i wneud erioed. Oherwydd hynny, mae gennym wrthych, ac i chi fod yn rhan o’r newid cadarnhaol mae’r cynllun hwn yn ei achosi yn lle rydych chi’n rŵan gynllun tair blynedd i wneud gymaint ag y bo byw. Gyrrwch ebost os gwelwch yn dda i modd o newid cadarnhaol yn ein cymunedau. Byddwn yn canolbwyntio ar:

Taclo Tlodi

0300 124 0040

Adeiladu Cymunedau sy’n Ymgysylltu ac yn Gweithredu

information@creatingenterprise.org.uk

Iechyd a Llesiant

Pa mor hawdd yw i bobl gael gwaith, a Chynhwysiad Digidol

11


Does unman yn debyg i gartref Rydym ni’n gorffen y datblygiadau hyn y Llanrwst

Rhodfa Phil Evans 14 o gartrefi i deuluoedd – 10 efo tair ystafell wely a 4 efo pedair ystafell wely.

Dyma fanylion

• lleoliad gwych, yn agos at ganol tref Llanrwst • safonau byw gwych

Cofiwch ein bod ni’n cynnig gwahanol fathau o dai fforddiadwy. Mae galw anferth yn parhau am dai cymdeithasol, a does dim digon o gartrefi tai cymdeithasol i’w cynnig ar gyfer pawb sydd ar y gofrestr. Bydd llawer o bobl sydd ar y gofrestr yn meddwl eu bod wedi cael eu hanghofio, gan y gall fod yn amser hir cyn cael cynnig i symud i gartref arall. Gan ddibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch gael cynnig mathau eraill o dai fforddiadwy. A ydych chi’n gwybod am, neu wedi ystyried y rhain?

Parc Afon Bach 8 o gartrefi i deuluoedd, cymysgedd o rai efo dwy a thair ystafell wely.

• costau ynni hyd at 80% yn llai • gerddi a lle i barcio oddi ar y stryd

Tai Rhent Canolradd Mae tai rhent canolradd yn ffordd fwy fforddiadwy o rentu cartref (fel arfer tua 20% yn llai na rhenti’r sector preifat). Efo’r cynllun hwn, mae cyfle i chi gynilo arian ar gyfer blaendal os ydych chi’n meddwl prynu eich cartref eich hunan yn y dyfodol. Rhaid i chi fod dros 18 mlwydd oed, mewn cyflogaeth rhan amser neu lawn amser a bod gan yr aelwyd incwm gros o rhwng £16,000 a £45,000. Credyd treth incwm ydi’r unig fudd-dal sy’n cael ei dderbyn i’w gyfrif fel incwm.

Rhentu i Berchnogi - Cymru Gallai Rhentu i Berchnogi (Cymru) fod yn addas i chi os gallwch fforddio taliadau misol ond nad oes gennych y blaendal ar gyfer cartref newydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch i’r dudalen hafan darganfod ar ein gwefan.

12

Hyd yn oed os nad ydych yn gymwys rŵan, cymrwch olwg ar y cyfleoedd a’r posibiliadau sydd gennym ni yn Creu Dyfodol. Efo’r gefnogaeth gywir, cymorth a lwc, gallech chi wneud cais yn fuan iawn am y dewisiadau tai arall hyn www.https://cartreficonwy.org/find-a-home/ cartreficonwy.org


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.