Comisiynydd plant cymru
Y Sialens Hawliau TAFLEN GWYBODAETH ATEGOL AR GYFER ARWEINWYR SGOWTIAID/GEIDIAU
Comisiynydd plant cymru Mae gan bawb hawliau Mae CCUHP yn sefyll am Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sef rhestr o hawliau sydd gan bob plentyn a pherson ifanc, ymhob man yn y byd, pwy bynnag ydyn nhw, ble bynnag maen nhw’n byw, a beth bynnag maen nhw’n credu ynddo. Rôl Comisiynydd Plant Cymru yw amddiffyn a hybu’r hawliau yma i blant a phobl ifanc ar draws y wlad. Y bwriad wrth lunio’r bathodyn yma oedd darparu ffordd i geidiau a sgowtiaid yng Nghymru fedru dysgu am eu hawliau, am Gomisiynydd Plant Cymru, a’u hannog nhw i gyfranogi. Dyw e ddim i fod yn fathodyn anodd, ond gobeithio bydd yn galluogi’r plant a’r bobl ifanc sydd yn ei gael i fwynhau, i gael eu herio, ac yn fwy pwysig, i ddysgu rhywbeth am y meysydd dan sylw. I gyd-fynd â’r gofynion mae gweithgareddau y gall geidiau a sgowtiaid gymryd rhan ynddyn nhw i gyflawni’r sialens. Mae’r gweithgareddau’n amrywiol, er mwyn darparu ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd, ac maen nhw wedi eu llunio i ddarparu rhaglen hwylus sydd ar gael ar unwaith ar gyfer arweinwyr, gyda rhestrau o’r cyfarpar angenrheidiol a sut mae cyflawni’r gweithgaredd, i’w lawrlwytho yn ôl y galw. Dim ond un o’r gweithgareddau mae angen ei ddefnyddio i gyflawni’r canlyniad, ond wrth gwrs, mae croeso i chi ddefnyddio faint bynnag ohonyn nhw ag y dymunwch. Bwriad gofynion y bathodyn yw adeiladu gwybodaeth o’r grŵp oedran blaenorol, ac eithrio yn yr adrannau Beaver/Rainbow, lle mae’r gofynion yn ffurfio sylfaen gychwynnol. Gallai rhai gweithgareddau, yn enwedig yn y grŵp oedran hŷn, arwain at drafodaethau, a byddem yn annog arweinwyr, os ydyn nhw’n teimlo’n hyderus, i hwyluso trafodaethau o’r fath neu i ganiatáu i eraill wneud hynny. Un bathodyn sydd ar gyfer yr holl adrannau o sgowtiaid a geidiau ac mae ar gael oddi wrth Girlguiding Cymru a ScoutsWales. Bathodyn newydd yw hwn, ac rydyn ni wedi ceisio ei wneud mor hwylus â phosib. Bydden ni’n falch o gael eich barn ar y bathodyn neu unrhyw amrywiadau neu awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau i’w gyflawni. Os yw eich uned wedi cwblhau gweithgaredd, ac fe hoffech chi rannu eu cyflawniad gydag eraill, ebostiwch ffotograff, dogfen, neu unrhyw eitem arall i scouts.guides@childcomwales.org.uk. Bydd y rhain yn cael eu postio ar wefan y Comisiynydd: www.complantcymru.org.uk
Comisiynydd plant cymru Os byddwch yn anfon lluniau o bobl ifanc, gofalwch eich bod wedi derbyn caniatâd perthnasol gan eu rhieni. Os na fedrwch lwytho gwybodaeth i fyny, gallwch ei hanfon i’r cyfeiriad yma: Comisiynydd Plant Cymru Tŷ Ystumllwynarth Ffordd Ffenics Llansamlet Abertawe SA7 9FS
FFEITHIAUALLWEDDOLAGWYBODAETHGEFNDIRAMGOMISIYNYDDPLANTCYMRU Yn 2001 penododd Llywodraeth Cymru y Comisiynydd cyntaf, i weithredu fel pencampwr dros blant yng Nghymru ac i hyrwyddo CCUHP. Mae gennym 26 o staff cyflogedig, yn ogystal â gwirfoddolwyr sy’n gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru, mewn dwy swyddfa, Abertawe a Bae Colwyn. Rydyn ni’n gweithio’n bennaf gyda ac ar ran plant a phobl ifanc o dan 18 oed, ond rydyn ni hefyd yn gallu gweithredu ar ran pobl ifanc hŷn, er enghraifft os ydyn nhw wedi derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Prif Nod y Comisiynydd Plant yw:
‘Diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant yng Nghymru’
Y cyfreithiau a sefydlodd y swyddfa oedd: Deddf Safonau Gofal 2000, a greodd swydd y Comisiynydd a Deddf Comisiynydd Plant Cymru 2001, a ehangodd y cylch gwaith a chyflwyno prif nod y Comisiynydd. Mae swyddfa’r Comisiynydd Plant yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc; • • • • •
yn ddiogel rhag niwed a chamdriniaeth; yn cael y cyfleoedd a’r gwasanaethau mae eu hangen arnyn nhw, ac y maen nhw’n eu haeddu; yn cael eu parchu a’u gwerthfawrogi; yn cael llais yn eu cymunedau, ac yn gallu chwarae rhan mor llawn â phosib mewn penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw; a’u bod nhw yn gwybod am eu hawliau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).
Comisiynydd plant cymru Mae Swyddfa’r Comisiynydd yn sefydliad annibynnol, a rhoddodd y gyfraith a sefydlodd y swyddfa hefyd bwerau i’r Comisiynydd, fel ei fod e a’i swyddfa yn gallu gwneud eu gwaith, gan gynnwys; • • • • •
dolygu effeithiau polisïau, polisïau arfaethedig a chyflenwi gwasanaethau i blant; archwilio achos plentyn neu blant penodol yn fanylach; gofyn bod asiantaethau neu bobl sy’n gweithredu ar eu rhan yn rhoi gwy bodaeth, a gofyn bod tystion yn rhoi tystiolaeth ar eu llw; darparu cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc, ac eraill sy’n pryderu am eu hawliau a’u lles; a chyflwyno cynrychiolaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar unrhyw fater sy’n effeithi ar hawliau a lles plant yng Nghymru.
Mae gan y Comisiynydd 5 prif swyddogaeth yn ei dîm: Ymchwiliadau a Chyngor • • • •
Gwerthuso Gwasanaeth a Pholisi Cyfathrebu Cyfranogiad Gwasanaethau Corfforaethol
RHAID i’r Comisiynydd… • • •
sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gwybod sut mae cysylltu ag e; galluogi plant a phobl ifanc i gyfrannu at ddatblygu rhaglenni gwaith; a chwrdd â phlant a phobl ifanc ble bynnag y maent, yn enwedig plant ‘anodd eu cyrraedd.
Peth o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud: • • •
Rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc neu oedolion: RHADFFÔN 08088011000 TECST AM DDIM 80800 Adolygiadau gwasanaeth a pholisi e.e. ‘Dydy Plant ddim yn Cwyno’ – yn edrych ar y systemau sydd ar gael i blant gwyno mewn lleoliadau ysgol Y Cynllun Llysgenhadon Ysgol – ar gyfer plant oed cynradd – sy’n hyrwyddo Comisiynydd Plant Cymru a CCUHP ac yn rhoi gwybodaeth amdanyn nhw mewn ysgolion
Comisiynydd plant cymru • •
Gwefan ddwyieithog a ffyrdd electronig o gadw mewn cysylltiad â phlant a phobl ifanc; ‘ATEBNÔL’ Mae’r Comisiynydd a’i dîm yn ymweld ag ysgolion, grwpiau ieuenctid a cholegau i wrando ar beth mae plant a phobl ifanc eisiau ei weld yn newid ac yn gwella iddyn nhw.
Mae HOLL waith y swyddfa wedi ei seilio ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP)
Y Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor Diben y Gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yw bod gan blant a phobl ifanc, a’r bobl sydd â gofal amdanyn nhw, rywun i droi atyn nhw pan fyddan nhw wedi rhedeg allan o opsiynau eraill wrth ddelio â phroblem. Mae’r Swyddogion Ymchwiliadau a Chyngor yn derbyn galwadau, negeseuon tecst ac yn darllen negeseuon e-bost a llythyron oddi wrth blant, pobl ifanc ac oedolion sydd wedi bod yn ceisio datrys problem, ond sy’n teimlo eu bod nhw ddim yn cyrraedd unman. Nid cwnselwyr yw ein swyddogion, ond maen nhw’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac oedolion sy’n ymwneud â’r sefyllfa i’w helpu i ddod o hyd i ateb. Os na allwn ni helpu, byddwn ni’n ceisio dod o hyd i sefydliad fydd yn gallu. Rydyn ni bob amser yn gofalu ein bod ni’n trin pob plentyn a pherson ifanc â pharch. Rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn breifat oni bai ein bod ni’n meddwl eich bod chi neu blentyn neu berson ifanc arall mewn perygl – os felly, byddwn yn rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i’ch amddiffyn. Os bydd angen i ni rannu’r wybodaeth gyda phobl eraill a allai helpu, byddwn ni’n dweud wrthych chi beth rydyn ni’n ei wneud a pham rydyn ni wedi penderfynu gwneud hynny. Mae Comisiynydd Plant Cymru a’i staff yn gweithredu Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008, ac mae polisi cyfrinachedd y sefydliad yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau hyn. Byddwn yn trin pob plentyn neu berson ifanc â pharch ac yn amddiffyn eu preifatrwydd oni bai bod angen rhannu gwybodaeth gydag asiantaethau eraill er mwyn diogelu lles plentyn neu berson ifanc. Rydyn ni’n egluro hyn wrth blant a phobl ifanc pryd bynnag y byddan nhw’n dechrau datgelu gwybodaeth a allai ddangos eu bod nhw, neu blentyn arall, mewn perygl o ddioddef niwed sylweddol.
Comisiynydd plant cymru Mae Comisiynydd Plant Cymru yn cynnig cyfrinachedd llwyr i blant a phobl ifanc lle bernir nad oes perygl niwed sylweddol. Os oes angen i chi siarad â rhywun o swyddfa’r Comisiynydd, dyma sut gallwch chi gysylltu â ni. Manylion cyswllt ar gyfer cyngor a chymorth Ffôn: 01792 765600 Ebost: cyngor@complantcymru.org.uk Ysgrifennu: Comisiynydd Plant Cymru Tŷ Ystumllwynarth Llys Siarter Ffordd Ffenics Llansamlet SA7 9FS Ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc, o 10am -1pm
Y FFEITHIAU A GWYBODAETH GEFNDIR AM GONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN (CCUHP): Rhai Dyddiadau a Digwyddiadau Allweddol: •
Mabwysiadwyd CCUHP gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar 20 Tachwedd 1989
•
Mae 192 allan o 194 o wledydd, tiriogaethau a gwladwriaethau wedi llofnodi’r confensiwn (ei gadarnhau), a dyma’r confensiwn a gadarnhawyd fwyaf yn Hanes y CU (dyw UDA na Somalia ddim wedi ei lofnodi eto)
•
Cadarnhaodd llywodraeth y DU y confensiwn ym mis Rhagfyr 1991
•
Mabwysiadodd Llywodraeth Cynulliad Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol ym mis Ionawr 2004
•
Pasiodd Llywodraeth Cymru ddeddf o’r enw ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)’ ar 17 Mawrth 2011 – sy’n golygu bod rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i CCUHP o 2012
Comisiynydd plant cymru Mae CCUHP yn gosod safonau gofynnol ar gyfer hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol plant a phobl ifanc. Mae CCUHP yn cynnwys 54 erthygl. Erthyglau 1 i 42 sy’n cynnwys HAWLIAU plant. Yr hawliau yw’r holl bethau y mae eu hangen ar blant i oroesi a datblygu hyd eithaf eu potensial. Dyna’r pethau mae gan blant hawl i’w derbyn i’w gwneud nhw’n hapus, yn iach ac yn ddiogel. Erthyglau 42 i 54 yw sut mae Llywodraethau yn gweithredu ac yn monitro’r Confensiwn. Mae’r 42 o hawliau i gyd yn syrthio i 3 chategori; •
Darparu gofal iechyd, safon byw, addysg a chyfleusterau priodol, yn ogys tal â chefnogaeth ar gyfer anghenion arbennig
•
Cyfranogi mewn cymdeithas fel aelodau gweithredol o’r gymuned
•
Amddiffyn rhag trais, gwaith peryglus, camdriniaeth a chipio, atal niwed
Mae’r holl hawliau yn gysylltiedig â’i gilydd ac nid yw’r un ohonynt yn bwysicach na’r lleill. Dyma’r 4 Egwyddor sy’n sail ar gyfer CCUHP • • • •
Peidio â gwahaniaethu (erthygl 2) – mae’r hawliau yn berthnasol i bob plentyn, yn ddieithriad. Lles pennaf y Plentyn (erthygl 3) – dylai pob sefydliad neu unigolyn sy’n ymwneud â phlant a phobl ifanc sicrhau eu bod yn gwneud beth sydd orau i’r plentyn. Goroesi a datblygiad (erthygl 6) – mae gan bob plentyn yr hawl i FYWYD, a dylai’r llywodraeth sicrhau hyd eithaf ei gallu bod pob plentyn yn cael cyfle i oroesi a datblygu. Cyfranogiad (erthygl 12) – mae gan blant a phobl ifanc hawl i leisio barn ac i gael y farn honno wedi ei hystyried pan fydd oedolion yn gwneud pen derfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Rhai negeseuon allweddol am y swyddfa: •
Mae’r Comisiynydd Plant yn rhywun sy’n sefyll dros blant a phobl ifanc a’u hawliau • Dyw’r Comisiynydd ddim yn gweithio i’r llywodraeth, mae’n gweithio ar y pethau mae plant a phobl ifanc eisiau eu gweld yn cael eu newid a’u gwella. • Hawliau yw’r holl bethau mae eu hangen ar blant i dyfu ac i fod yn hapus, yn iach ac yn ddiogel.
Comisiynydd plant cymru • •
Rhai o’r hawliau sydd gan blant a phobl ifanc yw; hawl i leisio barn, hawl i ddysgu a chael addysg dda, hawl i chwarae, hawl i fod yn ddiogel, peidio â chael eu hanafu ac ati Gall plant a phobl ifanc ffonio/anfon tecst os bydd angen iddyn nhw gy sylltu â’rswyddfa, os bydd angen cyngor neu gefnogaeth arnyn nhw, neu os byddwch chi’n meddwl eu bod nhw ddim yn cael eu hawliau.
Mae gan bawb hawliau, ac yn aml mae pobl yn creu cysylltiad rhwng y cysyniad o hawliau a chyfrifoldebau. Ym marn Comisiynydd Plant Cymru mae’r cysyniad bod gan bawb hawliau yn well na chysylltu hawliau’n uniongyrchol â chyfrifoldeb. Rydyn ni’n credu bod hon yn sail fwy cadarnhaol ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth o’u hawliau ymhlith plant. Mae’r dull yma’n annog plant a phobl ifanc i ddod yn ymwybodol o’u hawliau eu hunain a hawliau grwpiau eraill mewn cymdeithas, gan feithrin parch at hawliau pobl eraill. Dyw’r confensiwn ddim yn dibynnu ar unrhyw weithredu gan y plentyn. Trwy lofnodi’r Confensiwn mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflawni’r hawliau yn y confensiwn a’u darparu i holl blant Cymru, beth bynnag yw eu sefyllfa. Mae gan blant, fel pob aelod o gymdeithas, gyfrifoldebau, ond dyw eu hawliau ddim yn dibynnu arnyn nhw’n cyflawni’r cyfrifoldebau hynny.
Adnoddau I gael rhagor o wybodaeth am CCUHP a hawliau plant, edrychwch ar: www.complantcymru.org.uk www.funkydragon.com www.savethechildren.org.uk www.unicef.org.uk
Comisiynydd plant cymru Cyfranogiad Rydyn ni’n credu ei fod yn bwysig dros ben i ni wrando ar blant a phobl ifanc. Cyfranogiad yw’r gair sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio sut rydyn ni’n cynnwys plant a phobl ifanc yn ein gwaith. Ysgrifennodd person ifanc ddiffiniad o gyfranogiad sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cynulliad Cymru:
‘Ystyr cyfranogiad yw bod gen i hawl i fod yn rhan o wneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred a allai effeithio arna i.’
Rydyn ni’n gwrando ar farn a phrofiadau plant a phobl ifanc er mwyn gallu eu cynrychioli a gwneud safiad ar eu rhan, gan wneud yn siŵr bod lleisiau plant a phobl ifanc yn glir iawn. Yn Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru rydyn ni’n gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu hamddiffyn, yn gallu bod yn rhan o benderfyniadau am eu bywydau, a bod gwasanaethau’n cael eu darparu ar eu cyfer i’w helpu i gyflawni hyd eithaf eu potensial. I’n helpu i sicrhau ein bod yn cynnwys plant a phobl ifanc yn y gwaith rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni’n defnyddio’r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol yn ein gwaith. Ewch i http://www.participationworkerswales.org.uk/standards/ Rydyn ni’n annog defnydd o gyfranogiad ymhlith geidiau a sgowtiaid trwy’r bathodyn yma. Fe welwch mai gofyniad cyntaf y bathodyn yw bod eich sgowtiaid a’ch geidiau yn cael rhoi barn ar y gweithgareddau rydych chi’n eu cynllunio ar gyfer y rhaglen.
Manteision Cyfranogiad Mae nifer o fanteision i annog cyfranogiad plant a phobl ifanc: Mae’n annog datblygiad sgiliau cyfathrebu, hyder a hunan-barch, a dealltwriaeth o ddemocratiaeth a chyd-drafod. Mae’n golygu bod penderfyniadau yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus, gan fod pawb y byddant yn effeithio arnyn nhw wedi bod yn rhan o’r broses o wneud y penderfyniadau. Mae’n annog plant i ddod yn ddinasyddion gweithredol, nid yn unig yn amgylchedd y cyfarfod, ond hefyd yn eu cymunedau. Mae’n golygu bod oedolion yn gwybod pa faterion mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, heb orfod dyfalu beth ydyn nhw. Mae gan blant hawl i ddweud beth maen nhw’n meddwl ddylai ddigwydd pan fydd oedolion yn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw.
Comisiynydd plant cymru Adnoddau Cyfranogiad Participation – Spice It Up! (Achub y Plant) 2002 Breathing Fire into Participation (Y Ddraig Ffynci) 2002 www.funkydragon.com www.savethechildren.org.uk www.participationworks.org.uk www.participationworkerswales.org.uk