EAST WILLIAMSTON & BROADMOOR
Tirfeddiant Roedd rhyw 8 stad yn berchen tir yn ystod y 19eg ganrif. Y stad fwyaf oedd Lawrenny.
Enwau Saif dau bentref o’r enw ‘Williamston’ ychydig filltiroedd oddi wrth ei gilydd. Yn yr Oesoedd Canol roedd enwau ategol - enwau perchnogion plastai o bosibl - yn gwahaniaethu’r naill oddi wrth y llall, ond gyda’r blynyddoedd daeth yn arfer defnyddio’r geiriau ‘Dwyrain’ a ‘Gorllewin’ yn eu lle. Felly daeth yr hen Williamston Elnard (neu Eluard) yn East Williamston. Ardal yw Broadmoor ar gyrion pellaf Capeliaeth East Williamston lle y mae pentref wedi tyfu’n gymharol ddiweddar.
Medieval Strip farming Er bod gan East Williamston ei heglwys ei hunan, ni fu erioed yn blwyf ar wahân. Bu o dan ofalaeth plwyf Begeli am flynyddoedd a rheithor y plwyf hwnnw fu’n ei gwasanaethu, ond yn ddiweddar cydiwyd hi wrth Jeffreyston at ddibenion eglwysig. Mae ardal Cyngor Cymuned East Williamston yn cynnwys rhan o blwyf hanesyddol Sant Issell.
Capeliaeth a Chymuned
Hynafiaethau Mae enwau caeau a ffermydd yn adleisio nodweddion sydd erbyn hyn wedi hen ddiflannu. Tarddiad tebyg yr enw fferm ‘Beaconing’ yw lle i gynnau coelcerth. Roedd y coelcerthi hyn fel arfer yn cael eu codi ar garneddau Oes y Pres. Mae’n debyg bod y grwp o chwe chae sy’n dwyn enwau sy’n cynnwys yr elfen ‘castle’yn rhan o hen safle caerog bryngaer Oes Haearn o bosib.
Yr Oesoedd Canol Roedd y tir âr wedi’i drefnu’n gaeau mawr agored. Byddai unigolyn fel arfer yn byw yn y pentref ac yn meddu ar nifer o stribedi o dir ar wasgar yma ac acw yn y caeau hyn. Mae’n bosibl bod enwau caeau fel ‘Hoarstone’ yn cyfeirio at fonolithau terfyn. Cafodd y stribedi hyn eu cyfuno â’u gilydd â’u hamgau fel caeau hirgul. Than yn ddiweddar roedd rhai ffermydd yn dal yn berchen ar gaeau a oedd ynghanol caeau ffermydd eraill; roedd eiddo ambell i dirfeddiannwr hyd yn oed, yn cynnwys tir pobl eraill. Nodweddir y pentref gan dir comin a heolydd heb ffensiau ac er gwaethaf moderneiddio mae ei gynllun yn dal yn draddodiadol.
Pa mor hen yw East Williamston? Mae’n sicr bod pentref o ryw fath yn bodoli ar y safle hwn 700 mlynedd yn ôl. Yr enw ar ddau gae i’r gorllewin o eglwys y plwyf ers talwn oedd ‘moat meadow’ sy’n awgrymu bod castell mwnt ar y safle yn y gorffennol. Mae yr eglwys, sy’n ganolbwynt i glwstwr o dai, wedi’i chysegru i sant Cymreig - sef Sant Elidyr. Ers canrifoedd, roedd y rhan fwyaf o draffig rhwng Caerfyrddin a Phenfro’n teithio drwy Fegeli a Temple Bar ac ar hyd ffin ogleddorllewinol pentref East Williamston. Roedd heol Jeffreyston i Stoneybridge yn croesi’r ffordd hon. O’r 18fed ganrif ymlaen daeth Cwmniau Tyrpeg i fodolaeth. Adeiladwyd ffordd newydd o Sanclêr i Kingsmoor gan y Prif gwmni tyrpeg (Main Trust) ac ymunodd â ffordd newydd Gwmni Tyrpeg Tavernspite i Hobbs Point. Roedd hon yn croesi’r hen ffordd o Jeffreyston yn y man lle cafodd Cross Inn ei sefydlu’n ddiweddarach. Ar 6 Ebrill 1839 teithiodd y Post Brenhinol ar hyd y ffordd dyrpeg o Gaerfyrddin i Hobbs Point am y tro cyntaf gan osgoi East Williamston. Ym 1842, un o lonydd y pentref oedd ‘One Way Lane’.
Maes Glo Roedd rhyw fath o weithfeydd yn East Williamston mor bell yn ôl â 1620, a chyfeiriwyd at byllau glo Watershill a Masterland ym 1632. Tua 1792-3 roedd pyllau Williamston a Williamston Meadow yn cael eu gweithio gan Alexander Smith a William Bowen a’u Cwmni. Er bod Williamston Meadow yn dal ym meddiant William Bowen a’i Gwmni ar droad y ganrif, cafodd ei drosglwyddo i Thomas Manning a’i Gwmni erbyn 1809. Roedd pyllau Hill Moor a South Field yn gweithio tua’r un adeg, ond cawsant eu cau wrth i’r dechnoleg wella a chaniatau agor pyllau dyfnach. Serch hynny, roedd pyllau eraill megis Moreton (a gaewyd ym 1887) yn dal i godi glo o dan East Williamston. Datblygodd Broadmoor yn bentref glofaol. Roedd peth cloddio o hyd ym Masterland ar ddechrau’r ugeinfed ganrif a hyn yn parhau traddodiad a ddechreuodd yn gynnar yn yr 17eg ganrif. Yn ôl M R C Price rhoddwyd yr enw Broadmoor ar o leiaf pedwar pwll gwahanol dros gyfnod o ganrif - sef Glofa Wilson a Smith yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, Glofa Greenhill a ffynnai rhwng 1853 a 1881 a Glofeydd Cross Park a Gunter a oedd yn gweithio ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf (agorwyd Cross Park ym 1926). Cafodd y rhes fach o fythynnod sydd i’w gweld o hyd yn Broadmoor eu hadeiladu gan Lofa Greenhill. Roedd Glofa Wilson a Smith yn un o’r rhai cyntaf i ddefnyddio pwmp ager. Roedd gweithio yn y glofeydd yn waith traddodiadol, a phan nad oedd gwaith i’w gael yn lleol byddai pobl yn cerdded i Bonvilles Court a Saundersfoot.
East Williamston village green
Enwau caeau
Mae enwau’r caeau sy’n ymddangos yn Rhestr Dosbarthiad Degwm 1842 yn ddrych o hanes y Gapeliaeth. Er enghraifft, mae amryw o gaeau - gan gynnwys safle diweddarach capel Cold Inn - yn dwyn yr enw ‘Cantons Leat’. Er nad oes sicrwydd ynglyn â’r enw ‘Canton’, mae dogfen ar gael o’r flwyddyn 1799 sy’n cofnodi gwerthu cwlm yn Cantons Leat. Disgrifir cae arall yn y flwyddyn 1842 fel rhan o ‘Harris leat’, ac roedd grwp bach o gaeau’n dwyn yr enw ‘Priest’s Pool’. Mae gan rai o’r caeau enwau hanner Cymraeg fel er enghraifft y 4 cae a adwaenid fel ‘Gelly land’ - ai ‘gelli’ yw’r ‘Gelly’ ynteu enw personol? Mae grwp o enwau sydd o ddiddordeb arbennig yng nghyd-destun astudiaethau natur am eu bod yn cynnwys amrywiadau ar yr enw Saesneg am farcud: er enghraifft – ‘Kite Hill’, ‘Kitle’ a ‘Kettle’. Mae cyfeiriadau hefyd at aderyn y bwn.
Eglwys Sant Elidyr Cafodd pob rhan o’r eglwys hon ar wahân i’w hadain orllewinol ei hailadeiladu yn yr 1880’au gyda’r welydd droedfedd yn uwch. Mae’r ffenestri i gyd yn perthyn i gyfnod yr atgyweirio ac eithrio un sy’n h]n na’r lleill (wedi’i blocio erbyn hyn) wrth ymyl bwtres yn y wal orllewinol. Mae t[r gorllewinol bach yr eglwys yn un o’i nodweddion mwyaf diddorol. Mae modd cyrraedd ato ar hyd grisiau allanol sy’n dilyn llinell y to. Mae basn y maen bedydd yn dyddio’n ôl i gyfnod y Normaniaid. Cafodd mynwent ychwanegol ei chysegru ar 11 Gorffennaf 1898. Prynwyd y tir oddi wrth Syr C.E.G. Philipps (Castell Picton) a’r Fonesig Philipps am £18.0.0. Nid yw safle ffynnon y Santes Fair yn hysbys erbyn hyn.
Church of St Elidyr
Capel y Bedyddwyr Ebenezer, Cold Inn Ar y dechrau câi gwasanaethau eu cynnal mewn bythynnod o dan arweiniad y Parchedig David Phillips o Molleston a gweinidogion eraill. Un o’r arweinwyr lleol oedd John Hay o Wooden. Ym 1859 mewn cyfarfod yn yr hen d] tafarn, ffurfiwyd yr eglwys. Adeiladwyd y capel ym 1861.
East Williamston yn yr 20fed ganrif Cysylltwyd y pentref â chyflenwad d[r ym 1937; cyn hynny roedd y boblogaeth yn dibynnu ar bedair ffynnon. Mae Mrs Cole a symudodd i’r pentref ym 1939 yn cofio mai dim ond 19 t]: 3 fferm, 6 thyddyn a 10 bwthyn a byngalo ar hanner ei adeiladu, a oedd yn y lle yr adeg honno. Adeiladwyd neuadd y pentref ym 1953 a daethpwyd â thrydan i’r pentref ym 1959. Mrs Jermin o deulu Brotherhill a roddodd y tir ar gyfer y neuadd, ac fel y trigolyn hynaf, cyflwynodd yr allweddi pan agorwyd y lle’n swyddogol.
Cold Inn Mae’r enw yn ddirgelwch. Heddiw mae’n cyfeirio at gr[p o dai a Chapel Ebenezer. Nid oes unrhyw dafarn erbyn hyn. Roedd yr enw Cold Inn yn bodoli ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond New Inn, mae’n debyg, oedd enw’r hen dafarn. Ni wyr neb pryd yn union y caewyd hi. Mae’n debyg mae Susannah Howells oedd y tafarnwr olaf. Cyfeirir at ei th] yn Nhreth Tir 1829 fel ‘New Inn’, fel ‘New End’ ym 1830 ac fel ‘Cold End’ ym 1831. Yng nghofrestrau’r plwyf tua’r un adeg, enw arferol y t] hwn a’r rhai cyfagos oedd Ebenezer Chapel, Cold Inn ‘Gould neu Gold Inn’. Ar ochr arall y ffordd i fferm Cold Inn ac ychydig bach yn nes at East Williamston roedd hi’n byw ym 1842. Ond y traddodiad lleol yw bod y dafarn ar yr un ochr a’r fferm. Mae fferm Cold Inn yn dal ym meddiant y teulu Protheroe a oedd yn byw yno ar ddechrau’r 19fed ganrif. ‘Penderfynodd Mr Reg Protheroe nad oedd ef am gael ei gladdu ym mynwent Eglwys East Williamston na mynwent Capel Cold Inn, a’i bod yn well o lawer ganddo gael ei roi i orwedd ar ei dir ei hunan. Cwrddodd â’r holl ofynion ffurfiol a chael caniatâd i ddilyn ei ddymuniad ac mae ei fedd yntau a bedd ei wraig i’w gweld mewn rhan arbennig o’r tir lle y gofelir amdanynt yn ofalus’. Cyn yr Ail Ryfel Byd, roedd lladd-dy a siop gigydd yn y pentref ynghyd â dau fwthyn ar wahân i’r fferm a’r t] ar gornel ffordd Clayford.
Cold Inn Farm
Cold Inn Cottage
Broadmoor Roedd ffermydd megis Masterland a Morgans (Hanbury Lodge erbyn hyn) yn bodoli yn ystod cyfnod y Tuduriaid. Serch hynny, nid oedd gan y boblogaeth niwclews tan ar ôl i’r ffordd dyrpeg gael ei hadeiladu. Roedd y t] a safai ar safle Cross Inn ym 1842 yn perthyn i ddyn o’r enw James Humphreys. Cafodd briciau, pibellau a phlociau concrît eu cynhyrchu’n lleol yn ogystal â glo. Roedd y pentref hwn yn enwog yn yr ardal am ei garej (a sefydlwyd yn y 1920’au) a werthai feiciau ac esgidiau yn ogystal â phetrol ac olew. Roedd gan y pentref ei ladd-dy a siop gigydd ei hunan tan 1945. Bellach cymerodd y diwydiant twristiaeth le’r diwydiant glo ac y mae ‘Cross Park’ enw’r cyn bwll glo bellach yn enw parc Cycle Garage, gwyliau. Broadmoor
Teithiau cerdded a Bywyd Gwyllt Mae’r perthi Cyll, Drain Gwynion, Drain Duon ac Ynn yn gynefin i amrywiaeth o flodau gwyllt gan gynnwys Pidyn y Gog, y Gludlys Coch (Blodau’r Neidr), Llys y Llwynog a Bysedd y Cwn, a bydd Ji-bincod, Drywod ac Adar Duon yn nythu yn y prysgwydd trwchus. Mae’r perthi hefyd yn llwybrau hwylus i famaliaid megis Moch Daear, Cadnoid, Carlymiaid a Gwenciod eu dilyn wrth hela. Mae’r tir isel o gwmpas Prouts Park a Kite Hill yn haenen o glai trwm anhydraidd, gyda chorsydd a gweundir sy’n gynefin pwysig i amryw fyd o adar ac anifeiliaid. Bydd Giachod, Bodaod (Boncathod) a Chyffylogod yn byw yn yr ardal, a daw’r Bod Tinwyn a’r Dylluan wen am dro i hela o bryd i’w gilydd. Tyf amryw o fathau o frwyn a hesg yn yr ardal hon ynghyd â nifer o blanhigion eraill megis yr Erwain, yr Iris Wyllt a’r Trewynyn Porffor. Mae llwybr cylch hyfryd o gwmpas yr ardal a ddisgrifiwyd uchod a llwybrau eraill sy’n cysylltu’r ardal honno â Saundersfoot a Dinbych-y-pysgod.
Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill
Text researched and written by East Williamston & Broadmoor Local History Group in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott Published by SPARC ©