St florence welsh

Page 1

ST FLORENCE


Safle Saif St. Florence rhyw dair milltir I’r gorllewin o Ddinbych-y-pysgod, yn nyffryn yr afon Ritec, wrth droed llethrau gogleddol y Ridgeway; mae’r afon yn rhedeg trwy ran ddeheuol y pentref. Dim ond ffyrdd bach, cul, sy’n arwain I’r pentref gyda’r B4318 o Ddinbych-y-pysgod i Sageston tua’r gogledd a hen ffordd y Ridgeway I’r de.

Enw Daw’r enw o enw’r sant y cysegrwyd yr Eglwys iddo. Mae’n debygol iawn mai i St. Florent, a gaiff ei goffau yn Abaty St. Florent yn Saumur yn nyffryn y Loire, y cafodd ei gysegru’n wreiddiol. Roedd gan yr Ieirll de Valence gysylltiad ag ardal y Loire.

Trigolion Cynnar Mae rhywfaint o olion i’w gweld o hyd: crug crwn, o Oes yr Efydd yn ôl pob tebyg, yn fferm Park Wall; caeau o’r enw ‘Longstone’ (yn awgrymu maen hir o Oes yr Efydd); a gwrthgloddiau a allai gynrychioli bryngaerau o Oes yr Haearn yn ffermydd Carn Rock a New Inn. Mae’n debyg fod yr elfen ‘castell’ sydd i’w gweld yn enwau rhai o’r caeau yn nodi safle amddiffynnol o gyfnod cynnar, ac mae’r un peth yn wir am y gwrthglawdd a elwir yn Park Wall Dyke.

Yr Oesoedd Canol Cynnar Rydym bron yn sicr fod anheddiad yn bodoli ym mlaenau nant Ritec cyn i’r Normaniaid gyrraedd tua 1100 OC. Mae rhai yn credu y cai ei alw’n Tregoyr yr adeg honno, ond dangosir yn eithaf pendant yn argraffiad Henry Owen o ‘Pembrokeshire’ George Owen fod yr enw hwn - Tregoyr neu Tregaer - yn perthyn i faenor yn Sir Fynwy. Nid ydym yn gwybod beth oedd enw blaenorol St. Florence.

O’r Normaniaid I’r Tuduriaid Saesneg yw’r iaith a bron pob un o’r enwau lleoedd ac mae hyn yn deillio yma, o broses ddeublyg a ddigwyddodd yn nechrau’r 12fed ganrif. Yn gyntaf, concrodd y Normaniaid y tir gan annog y Saeson i symud yno; yn ail dywedir i Harri I anfon y Ffleminiaid i wladychu De Sir Benfro. Roedd tystysgrif tir oedd yn eiddo i Walter Marshal, Iarll Penfro, ym 1248/9 yn cynnwys ‘Arglwyddiaeth Sanctus Florencius’, a basiwyd ymlaen yn ddiweddarach I’r Iarll nesaf, William de Valence. Pan fu farw mab William, Aymer de Valence, ym 1324 nodwyd gwerth maenor St. Florence fel £33-14s-0d. Byddai poblogaeth y pentref yn y 12fed ganrif yn cynnwys cymysgedd o Sgandinafiaid, Gwyddelod, Normaniaid a Ffleminiaid, i gyd wedi’u seisnigeiddio, ynghyd ag Eingl-Sacsoniaid a rhai o dras Cymreig. Dim ond 5 neu 6 o’r 60 tenant ym 1324 oedd ag enwau Cymreig (B.G. Charles).

Footbridge over The Ritec


Roedd parc ceirw, yn eiddo i Ieirll Penfro, ar lethrau gogleddol y Ridgeway ar un adeg: ar ei deithiau (1538-1544) nododd Leland ‘fod eglwys St. Florence a Tounlet mewn pant ger ymyl y parc’. Erbyn 1600 roedd y rhan fwyaf o’r parc hwn wedi’i amgau ar gyfer ffermio. Mae fferm o’r enw Park Wall yno hyd heddiw.

Maenor St. Florence Roedd St. Florence yn un o faenorai demên Iarllaeth Penfro, oes iddo fynd i ddwylo’r Goron yn Oes Elizabeth. Dywed Brian Howells fod 50 gosgordd yn byw yn y maenor yng nghyfnod y Tuduriaid. Prynodd William Williams o Ivy Tower faenor St. Florence gan y Goron ym 1803 am £756-8s-6d.

Adeiladau Hanesyddol Ar y ffordd isaf i Benalli ble mae’n croesi’r Ritec, fe welwch olion yr hen felin ]d. Ym 1609 roedd y felin, a gafodd ei disgrifio fel ‘one Old Mill overshut mill with the banckes and watercourses thereunto belonging’ yn nwylo Thomas Bowen, a dalai rent blynyddol o 26s-10d. Roedd y felin yn bwysig i’r gymuned hyd canol y 19eg ganrif. Ym 1841 William Athoe oedd y melinydd. Pan ddechreuwyd mewnforio grawn yn rhad, cafodd ei newid yn d]. Mae chwe adeilad rhestredig yn St. Florence, ac fe welir tai fowtiog canoloesol iwmyn o fath sy’n arbennig i Dde Sir Benfro yn Carswell a West Tarr, sydd gerllaw. Nid yw’r simnieau ‘Ffleminaidd’ sydd i’w gweld yn y pentref, yn rhai Ffleminaidd mewn gwirionedd. Un o nodweddion arddull bensaerniol yr ardal oeddynt: mewn nifer o achosion ychwanegwyd y simneiau at y tai mwyaf yn ddiweddarach.

‘Flemish’ chimney


Pentref o Flodau Mae blodau’n elfen bwysig iawn o ddelwedd y pentref. Ers 1964 mae wedi ennill nifer o wobrwyon yn y categorïau Cymru yn ei Blodau, Prydain yn ei Blodau a’r Pentref Taclusaf. Ym 1989 enillodd y wobr bwysig, Pentref Blodau Prydain yng nghystadleuaeth Prydain yn ei Blodau; ac ym 1988 enillodd y ‘Prix d’Honneur’ yn y gystadleuaeth Ewropeaidd ‘Entente Florale’. Cyflawnwyd hyn trwy waith caled y gymuned gyfan yn sgîl Pwyllgor Cyfeillion St. Florence a sefydlwyd ym 1958, a Phwyllgor Blodau St. Florence.

Nant y Ritec Mae’r Ritec - Rhydeg - yn draenio dwr o lethrau gogleddol y Ridgeway ac yn llifo i’r môr yn Ninbych-y-pysgod. Cyn i’r arglawdd gael ei osod ar draws yr aber yn Ninbych-y-pysgod ym 1820 er mwyn adennill tir, roedd yr afon yn ddigon llydan i longau bach allu hwylio hyd at fan rhywle islaw’r felin, yn ôl pob tebyg. Mae carreg fawr wedi’i gosod yn y ddaear wrth ymyl yr ‘Arch’, a dywedir mai yno yr arferid clymu’r llongau. Mae’n annhebygol y cai’r garreg ei defnyddio at y diben hwnnw yn ei safle presennol heblaw, o bosibl, ar gyfer cychod bach. Mae yna hen ddywediad sy’n dweud nad ydych chi wedi bod yn St. Florence nes i chi roi eich bys yn y twll ar ben y garreg.

Y Pentref Ym 1652 caewyd marchnad Hwlffordd oherwydd pla, a rhoddwyd caniâtad i St. Florence, ymhlith pentrefi eraill, gynnal marchnad wythnosol ar ddydd Iau. Ym 1811 adroddodd Fenton ei fod wedi gweld olion tai a darnau o furiau oedd yn awgrymu fod y pentref yn arfer bod yn fwy poblog oherwydd y cynhyrchwyr oedd yn gyfrifol am gyfoeth masnachol Dinbych-y-pysgod. Roedd nifer o ffermydd wedi’u lleoli yn y pentref mor ddiweddar â’r 1960au, o bosibl oherwydd system y Canol Oesoedd o ffermio caeau agored. Mae’r rhain wedi diflannu erbyn hyn a chartrefi yn unig sydd yn St. Florence, fel y gwelwn o edrych ar ganran uchel y mewnfudwyr a’r rhai sydd wedi ymddeol. Roedd poblogaeth St. Florence ychydig yn uwch na 600 ym 1991 - y cyfanswm uchaf ers y cyfrifiad cyntaf ym 1801.

Gwaith a Chrefftau Roedd y galwedigaethau yn cynnwys pannu (proses o wneud defnydd) yn Flemington, chwarelu carreg galch ar gyfer adeiladu ac amaethyddiaeth, a thorri marmor:

St Florence village


roedd yno bedwar saer marmor ym 1841. Dengys cyfrifiad y flwyddyn honno 2 brentis adeiladu llongau. Roedd crefftau eraill y cyfnod yn cael eu cynrychioli hefyd, gyda nifer rhyfeddol o uchel o gryddion: 5 meistr, 1 jermon a 3 prentis. Yn ystod ail hanner y 19eg ganrif ymunodd gwneuthurwr basgedi a’r gymuned leol. Roedd yno 3 tafarn yn y cyfnod hwn: y New Inn, y Sun a’r Ball.

Y Tir Gellir olrhain Minerton, Gorllewin Jordanston, New Inn a Flemington yn ôl i’r Oesoedd Canol, gyda Flemington o bosibl yn gymuned fechan. Heddiw mae’r arallgyfeirio yn mynd rhagddo. Agorodd Ivy Tower fel Parc Bywyd Gwyllt a Hamdden Manor Park ym 1975 ac agorodd fferm Heatherton Barc Chwaraeon Gwledig yn ddiweddar; agorwyd Parc Deinosoriaid yn Great Wedlock ym 1994; mae’r rhain i gyd wedi’u lleoli ar y B4318 sydd tua milltir i’r gogledd o’r pentref.

Ysgol Agorwyd Ysgol Genedlaethol St. Florence ym 1861, ar dir a roddwyd gan John Leach o Ivy Tower. Cyn hyn darperid rhyw fath o addysg gan yr anghydffurfwyr mewn ystafell a gafodd ei defnyddio fel Ystafell Ddarllen y pentref wedi hynny. Mae wedi’i ymgorffori i mewn i Rock House erbyn hyn. Adeiladwyd ysgol newydd ym 1973 wrth ymyl yr hen un, sy’n cael ei ddefnyddio fel uned i blant ag anghenion arbennig ers 1975. Nes i Neuadd y Pentref fod ar gael, yn y 1970 au, yr ysgol oedd canolfan gweithgareddau’r gymuned.

Eglwys St. Florence Dim ond corff a changell oedd i’r eglwys hon yn wreiddiol, ac arferai fod tua dwy ran o dair o hyd yr adeilad presennol. Mae’r bedyddfaen a’r basn colofn o’r cyfnod hwn wedi goroesi. Cafodd ei ehangu yn y 13eg ganrif ac ychwanegwyd y twr yn y 1500au. Cafodd ei adnewyddu’n helaeth ym 1870. Codwyd y llawr dair troedfedd (gan greu’r hagiosgop isel) a gosodwyd y pulpud a’r organ. G.W. Birkett, a fu’n ficer yno am 48 o flynyddoedd, oedd yn bennaf gyfrifol am y gwaith adnewyddu. Pan ddaeth i St. Florence, roedd ceiliogod ac ieir yn clwydo yn yr Eglwys a ceffyl yn cael ei gadw yn y cyntedd. Adnewyddwyd y twr a’r clychau ym 1963 ac erbyn hyn mae chwe chloch i’w clywed yn atsain trwy’r pentref, ar ôl ychwanegu dwy at y rhai gwreiddiol. Mae’r cofebau yn yr eglwys yn cynnwys rhai i deulu Williams St Florence o Ivy Tower, yr Esgob Ferrar o Church Dyddewi a losgwyd yng Nghaerfyrddin ym 1555, ac i Robert Rudd a fu’n Rheithor segurswydd yn St. Florence ac yn ddiweddarach yn Archddiacon Tyddewi; roedd yn weithgar ar


ochr y Brenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref, ac roedd ymhlith y rhai a garcharwyd ym mis Mawrth 1644 pan gymerwyd Dinbych-y-pysgod gan fyddin leol y Seneddwyr. Mae Croes yn y fynwent, hefyd Cofeb Rhyfel y pentref. Ym 1923 unwyd ficeriaeth Redberth a St. Florence. Cafodd St. Florence a Redberth eu rhoi gyda Maenorbyr a Jameston ym 1985.

Hen draddodiad Fel un o’r hen draddodiadau, arferai’r pentrefwyr orymdeithio i’r Ffynnon Bin yng nghae Verwell ar Ddydd y Pasg a thaflu pin cam i mewn i’r ffynnon i ‘daflu’r Grawys i ffwrdd’.

Bethel Chapel

Capel Bethel Adeiladwyd y Capel Annibynwyr hwn ym 1858. Adeiladwyd capel arall, a gafodd ei ddefnyddio’n ddiweddarach fel Ysgol Sul, wrth ymyl y felin ym 1804 ac erbyn hyn mae wedi’i droi’n d] preifat. Ym 1972 ymunodd y capel â’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig (cyfuniad o’r Presbyteriaid Saesneg a’r Annibynwyr) a chyfuno gyda phedwar capel lleol arall ym 1979. Caewyd y drysau ym 1988.

Llwybrau Cerdded a Bywyd Gwyllt Mae rhai o’r llwybrau yn mynd ar hyd y Ridgeway. Dylid cymryd gofal gan fod y ffordd hon yn gallu bod yn brysur yn ystod yr haf. Nid ydym yn argymell dilyn y llwybr troed i Gumfreston gan fod y ffordd trwy bentref Gumfreston yn frysur. Mae’r perthi o amgylch yn gyforiog o flodau gwyllt trwy gydol y flwyddyn. Mae digonedd o adar y perthi i’w gweld, gydag ambell i Walch Glas. Uwch ben y caeau gallwch weld y Boda, ac mae’r Crychydd i’w weld ar hyd dyffryn y Ritec.

Sparrowhawk


Y Côd Cefn Gwlad Parchwch - Diogelwch - Mwynhewch • Byddwch yn ddiogel - cynlluniwch o flaen llaw a dilynwch unrhyw arwyddion • Gadewch glwydi ac eiddo fel rydych chi’n eu cael nhw • Ewch â’ch sbwriel gartref, a gofalwch warchod bywyd gwyllt • Cadwch eich ci dan reolaeth dynn • Byddwch yn ystyriol o bobl eraill

Text researched and written by Owen Thomas of St Florence in conjunction with Dyfed Archaeological Trust Design by Waterfront Graphics Illustrations by Geoff Scott Published by SPARC ©


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.