Coleg Gwent Canllaw Addysg Uwch 2025/26

Page 1


GWELLA EICH RHAGOLYGON GYDA GRADD LEFEL PRIFYSGOL

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

ASTUDIO ADDYSG UWCH

YN COLEG GWENT

Rwy’n falch iawn eich bod yn ystyried astudio yn Coleg Gwent. Yn y prosbectws hwn, fe welwch fod nifer gynyddol o gyrsiau addysg uwch ar gael ar draws pob un o’n pum campws.

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau mewn partneriaeth â phrifysgolion arbenigol ar draws ystod o bynciau gan gynnwys Ceffylau ac Iechyd Anifeiliaid, Celf a Dylunio, y Cyfryngau a Ffotograffiaeth, Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol, Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Addysg a Hyfforddiant, Colur Arbenigol a Therapïau Cyflenwol, Peirianneg, Iechyd a Gofal, Cerddoriaeth, Gwyddoniaeth a Chwaraeon, Lletygarwch a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Fel un o golegau mwyaf Cymru gyda chymuned myfyrwyr o dros 16,000 o ddysgwyr, rydym yn croesawu myfyrwyr o bob cefndir ar wahanol adegau yn eu bywydau.

Gall astudio cwrs addysg uwch yn Coleg Gwent agor rhwydweithiau proffesiynol ac ehangu eich cyfleoedd, p’un a ydych am gael mantais yn y farchnad swyddi hynod gystadleuol, symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu archwilio llwybr gyrfa newydd.

Rydym yma i’ch cefnogi bob cam o’r ffordd.

Angela Lewis

Pennaeth Addysg Uwch

CYNNWYS

IECHYD A GOFAL CYN-FYFYRWYR

Colur ar gyfer y Theatr/Cyfryngau a Therapïau Cyflenwol

PAM DEWIS COLEG GWENT?

CAEL PROFIAD PRIFYSGOL

Mae ein partneriaethau cryf gyda’n prifysgolion yn golygu y bydd gennych fynediad at gyfleusterau, adnoddau ar-lein ac undebau myfyrwyr pob prifysgol.

Ar ôl cwblhau, byddwch yn derbyn tystysgrif a ddyfernir gan y brifysgol, a byddwch hyd yn oed yn cael eich gwahodd i’w seremoni graddio.

PUM CAMPWS LLEOL

AC UNIGRYW

Rydym yn cynnig yr ystod fwyaf o gyrsiau Addysg Uwch mewn coleg addysg bellach yng Nghymru, ac maent ar gael ar draws pob un o’n pum campws.

ARBED

ARIAN

Mae ein cyrsiau Addysg Uwch yn costio tua £7,500, sy’n rhatach na’r rhan fwyaf o brifysgolion, gan arbed miloedd o bunnoedd i chi.

Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o grantiau i gefnogi eich astudiaethau.

ADDYSG O ANSAWDD

Dan arweiniad yr Asiantaeth Sicrhau

Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch (QAA), canmolwyd Coleg Gwent ar draws holl ofynion academaidd y DU heb unrhyw feysydd penodol wedi eu nodi fel rhai y mae angen eu gwella na’u datblygu.

MAE’N HAWDD

Nid oes angen gwneud cais drwy UCAS ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau. Felly, gallwch anghofio ysgrifennu’r datganiad personol hir hwnnw.

CYFLEOEDD GWYCH

Bydd ein cyrsiau arbenigol yn rhoi sgiliau gyrfa-ganolog i chi a phrofiad penodol yn y diwydiant y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, gan gynyddu eich siawns o sicrhau eich swydd ddelfrydol.

CYFLEUSTERAU ARDDERCHOG

Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arbenigol ym mhob safle, gan gynnwys ein hybiau AU.

Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i gyfleusterau’r brifysgol bartner.

CEFNOGAETH BERSONOL

Rydym yn cynnig cymorth rhagorol gyda thîm ymroddedig o staff cymorth i’ch helpu i’ch tywys drwy eich astudiaethau.

Mae maint llai ein dosbarthiadau yn sicrhau y byddwch yn derbyn cefnogaeth bersonol ragorol gan ddarlithwyr.

CYN-FYFYRWYR ADDYSG UWCH

PEIDIWCH Â CHYMRYD EIN GAIR

DYMA BEN

Dechreuais ar Lefel 3 ac yna symud ymlaen yn

hawdd i’r HNC a’r HND. Rhoddodd y cyrsiau yn Coleg Gwent well dealltwriaeth i mi o bob ochr o’r diwydiant adeiladu ac fe wnaethant hefyd ddarparu cysylltiadau a phrofiad gwych i mi i wneud i mi fod yn fwy cyflogadwy. Roedd maint y dosbarthiadau yn llai, felly cefais fwy o hyfforddiant un i un - a oedd yn help mawr! Ers gadael y coleg, rwyf wedi parhau â’m hastudiaethau ac rwyf bellach ym mlwyddyn olaf fy nghwrs gradd. Ym mis Gorffennaf 2024, byddaf yn cyflawni fy uchelgeisiau ac yn dod yn Syrfëwr Meintiau cwbl gymwysedig. Ni allwn fod wedi gwneud hyn heb y gefnogaeth a roddwyd i mi. Mae Coleg Gwent wedi rhoi’r wybodaeth, y set sgiliau a’r ddealltwriaeth i mi berfformio trwy gydol fy nghwrs prifysgol a thu hwnt.

BEN ROBERTS

HNC & HND - ADEIL ADU YN YR

AMGYLCHEDD ADEILEDIG

Dechreuodd fy nhaith Addysg Uwch yn Coleg Gwent, ble astudiais Radd

Sylfaen mewn Iechyd a Lles Anifeiliaid. Yna, astudiais y diploma Lefel 3 seiliedig ar waith mewn Nyrsio Milfeddygol yn y coleg. Roedd astudio yn lleol yn caniatáu i mi sicrhau cydbwysedd rhwng gwaith ac astudio.

Roeddwn i’n awyddus i archwilio gwahanol lwybrau yn fy mhroffesiwn, ac felly fe wnes i symud ymlaen o ymarfer milfeddygol i addysgu nyrsio milfeddygol yn Coleg Gwent, rôl sydd wedi bod yn hynod werth chweil. Er

mwyn datblygu fy nghymwysterau, cwblheais fy Nhystysgrif Broffesiynol mewn Addysg a Hyfforddiant (PcET) yn y coleg (wedi’i ddilysu gan PDC), ac rwyf ar fin graddio eleni.

Mae astudio Addysg Uwch yn Coleg Gwent yn cynnig amgylchedd dymunol a hamddenol. Os yw meddwl am brifysgol yn ymddangos yn frawychus, efallai mai dyma’r lle i chi. Mae’r amgylchedd cefnogol a’r rhaglenni cynhwysfawr wedi bod yn ganolog yn fy nhaith addysgol a phroffesiynol, gan fy ngalluogi i gyflawni fy nodau. Byddwn yn argymell astudio Addysg Uwch yn Coleg Gwent.

THEONA ARISTIDOU

GRADD SYLFAEN IECHYD A LLES ANIFEILIAID

A DIPLOMA SEILIEDIG AR WAITH MEWN

NYRSIO MILFEDDYGOL

DYMA THEONA

DIGWYDDIADAU AGORED

Mae ein digwyddiadau agored yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod am fywyd y coleg. Rydym yn eich annog i gofrestru cyn mynychu, ond peidiwch â phoeni, mae croeso i chi alw heibio.

DIGWYDDIADAU

AGORED AR Y CAMPWS

Dydd Mercher 13eg Tachwedd 2024

5-7.30PM

DYDD MAWRTH 28AIN IONAWR 2025

5-7.30PM

DYDD SADWRN 22AIN MAWRTH 2025

10AM-12.30PM

DYDD MERCHER 7FED MAI 2025

5-7.30PM

DYDD MAWRTH 1AF GORFFENNAF 2025

5-7.30PM

COFRESTRU

AR GYF ER UN O’N DIGWYDDIADAU AGORED

Wrth gofrestru, cofiwch fod meysydd pwnc yn benodol i bob campws a bydd angen i chi fynychu digwyddiad agored ar y campws lle cynhelir y cwrs hwnnw.

COLEGGWENT.AC.UK/AGORED

OEDDECH

Rydym hefyd yn cynnig diwrnodau i ymgeiswyr i roi cyfle i chi gwrdd â ni cyn dechrau eich cwrs. Mae diwrnodau ymgeiswyr wedi’u teilwra i chi, er mwyn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnoch.

YN EIN DIGWYDDIADAU AGORED GALLWCH CHI

Edrych o gwmpas y campws, cyfleusterau ac ystafelloedd dosbarth

Cael gwybodaeth am gymorth ariannol a chludiant

Dysgu rhagor am gwrs neu faes pwnc oddi wrth ein tiwtoriaid arbenigol

Dysgu rhagor am y broses ymgeisio a gwneud cais yn y fan a’r lle

Dysgu am ein gwasanaethau cymorth

Dysgu am yrfaoedd posib

CAMPYSAU

Yn Coleg Gwent, mae gennym bum campws amrywiol sydd â chyfarpar da ac ystod o gyfleusterau arloesol.

Parth Dysgu Torfaen

Parth Dysgu Torfaen yw ein campws mwyaf newydd, pwrpasol gyda labordai gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, theatr berfformio a llawer mwy. Mae’n hawdd ei gyrraedd trwy drafnidiaeth gyhoeddus yng nghanol Cwmbrân ac mae ganddo awditoriwm a gweithleoedd eang.

Campws Brynbuga

Mae ein canolfan wledig ym Mrynbuga yn gartref i’n cyrsiau seiliedig ar y tir, nyrsio milfeddygol a ffitrwydd. Mae’r campws wedi’i gyfarparu â chanolfan o’r radd flaenaf ar gyfer hyfforddi nyrsys milfeddygol, canolfan gofal anifeiliaid, ysgolion ceffylau dan do ac awyr agored, campfa gyflawn, caeau chwaraeon ac ystafell ddadansoddi perfformiad.

Campws Crosskeys

Mae gan ein campws mwyaf gyfleusterau theatr trawiadol ar gyfer y celfyddydau perfformio, stiwdio ffotograffiaeth o’r radd flaenaf, ystafelloedd golygu mac, stiwdios recordio, stiwdios darlunio a serameg a salon gwallt a harddwch Blŵm sy’n agored i’r cyhoedd.

CAMPYSAU

Parth Dysgu Blaenau Gwent

BG

Ym Mharth Dysgu blaengar Blaenau Gwent, cynigir cyrsiau addysg uwch eang gan gynnwys canolfan seiber, theatr berfformio, salon gwallt a harddwch Blŵm, ystafelloedd peirianneg, gweithdai adeiladu a llawer mwy.

Hybiau Addysg Uwch

Ar ein campysau fe welwch le pwrpasol ar gyfer myfyrwyr Addysg Uwch yn unig gyda chyfrifiaduron, ardaloedd ymneilltuo a soffas ar gyfer astudio tawel neu ddadflino.

Campws Dinas Casnewydd

Mae ein campws yn Ninas Casnewydd yn cynnig cyfleusterau gwych, gan gynnwys gweithdai peirianneg ac adeiladu wedi’u cyfarparu’n dda, stiwdios celf, labordai gwyddoniaeth, salon gwallt a harddwch Blŵm, ac ystafell dechnoleg ddigidol arloesol.

Canolfan Peirianneg HIVE (YN DOD YN FUAN)

Bydd ein Canolfan Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglyn Ebwy yn agor yn hen safle ffatri Monwel yn 2025. Gydag angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Coleg Gwent yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn cyfleuster pwrpasol lle bydd dysgwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchu diwydiant.

EICH CEFNOGI

Fel myfyriwr yn Coleg Gwent, bydd gennych fynediad at lu o wasanaethau cymorth, gan gynnwys:

CYMORTH FFYDD AC YSBRYDOLRWYDD

Help gyda myfyrdod a gweddi ac ystafelloedd gweddi ar bob campws!

CYMORTH ASTUDIO CYMRAEG A DWYIEITHOG

Mae ein ‘HWB Cymraeg’ yn cynnig cymorth un-i-un i astudio yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.

CYMORTH LLESIANT

Mae gennym dîm cymorth pwrpasol ym mhob campws i ddarparu cymorth ariannol, helpu i ddelio â straen a gorbryder, helpu i reoli eich llwyth gwaith a llawer mwy!

Mae Togetherall yn gymuned ar-lein ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl, gyda mynediad 24/7 at weithwyr proffesiynol hyfforddedig. Bydd Togetherall yn eich helpu i reoli cyflyrau iechyd meddwl, cymryd rheolaeth, teimlo’n well a chynnal lles cadarnhaol tra byddwch chi yn y coleg.

ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)

Os oes gennych anhawster dysgu cofrestredig a/neu anabledd, gallwn gynnig amrywiaeth o wasanaethau cymorth i chi, gan gynnwys cymorth yn y dosbarth gan Gynorthwy-ydd Cymorth Ychwanegol (ASA), help gan Weithiwr Cymorth Cyfathrebu (ar gyfer myfyrwyr byddar), cymorth dyslecsia, cymorth astudio ychwanegol a sesiynau a threfniadau mynediad ar gyfer arholiadau a llawer mwy!

GYRFAOEDD A CHYFLOGADWYEDD

Mae gennym dîm ymroddedig a fydd yn eich helpu gyda’ch cynnydd ar ôl i chi orffen eich cwrs. Gall ein tîm o hyfforddwyr dilyniant gefnogi gyda datganiadau personol, sgiliau cyflogadwyedd fel chwilio am swydd, ysgrifennu CV ac awgrymiadau cyfweld i’ch paratoi ar gyfer byd gwaith.

Mae gennym hefyd ein hyrwyddwyr menter ein hunain a all eich cefnogi ar eich taith i fod yn entrepreneur, p’un a ydych newydd ddechrau neu eisiau tyfu eich busnes.

CANOLBWYNTIO AR GYLLID

Mae’r ffioedd cwrs hyn yn gywir ym mis Mehefin 2024 a gallant newid. Faint

Gradd Sylfaen HNC HND

PCET (Ôl-Dystysgrif mewn

De Cymru, Prifysgol

Gradd Atodol (1 flwyddyn)

De Cymru, Prifysgol

Cymwysterau Addysg Uwch gan Pearson Pearson

Cyfeiriwch at wybodaeth unigol y cwrs ar ein gwefan gan fod ganddynt ffioedd amrywiol.

MYFYRWYR ADDYSG UWCH

LLAWN AMSER

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch gael Benthyciad ar gyfer Ffioedd Dysgu hyd at uchafswm o £9,250. Nid yw’r Benthyciad ar gyfer Ffioedd Dysgu yn seiliedig ar incwm eich cartref.

Myfyrwyr Addysg Uwch

rhan-amser

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gallwch wneud cais am fenthyciad ar gyfer ffioedd heb brawf modd o hyd at £2,625 i dalu eich ffioedd blynyddol. Bydd angen i chi fod yn astudio ar ddwysedd sydd o leiaf 25% i fod yn gymwys.

P’un a ydych yn astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser, yn ogystal â’ch benthyciad ffioedd dysgu, gallwch hefyd wneud cais am gymorth cynhaliaeth (help gyda chostau byw).

Gellir dod o hyd i fanylion llawn am gymorth ariannol a sut i wneud cais ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru: www.studentfinancewales.co.uk

Os ydych chi’n byw yn Lloegr, ewch i: www.gov.uk/student-finance

GWIRIWCH A YDYCH YN GYMWYS

Os ydych chi eisoes wedi astudio cwrs addysg uwch, bydd hyn yn effeithio ar eich cymhwysedd. Bydd angen I chi gwneud cais am gyllid myfyrwyr cyn ddechrau, felly gorau po gyntaf y gwnewch hyn gorau oll!

CYMORTH ARIANNOL ARALL

Efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer bwrsarïaethau, grantiau neu gymhorthion i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio, mae’r meini prawf cymhwysedd yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Morth ariannol arall ar gael:

• Lwfans Myfyrwyr Anabl

• Grant oedolyn dibynnol

• Grant gofal plant

• Grant lwfans rhieni

I ddysgu mwy, edrychwch ar ein gwefan: www.coleggwent.ac.uk/he

EICH CANLLAW I GYMWYSTERAU A GOFYNION MYNEDIAD

Ddim yn siŵr pa gymhwyster rydych chi’n chwilio amdano, neu ar ba lefel i ddechrau? Dyma ganllaw defnyddiol i’ch helpu i ddeall beth yw pob cymhwyster ac i’ch cynorthwyo i ddewis y cymhwyster cywir i chi a’ch nodau.

Gradd Sylfaen

Mae Gradd Sylfaen yn gymhwyster lefel 5, ar lefel prifysgol sy’n cyfuno astudiaeth academaidd â dysgu yn y gweithle ac sy’n cyfateb yn fras i ddwy flynedd gyntaf gradd. Fe’u dyluniwyd gyda maes gwaith penodol mewn golwg, gyda chymorth sefydliadau o bob sector. Ar ôl i chi ennill Gradd Sylfaen, gallwch ‘ychwanegu’ at eich cymhwyster gyda chwrs ‘atodol’ 1/2 flynedd arall ar y diwedd i gael gradd baglor lawn.

HNC (Tystysgrif

Genedlaethol Uwch)

Mae HNC yn gwrs lefel 4 sy’n gysylltiedig â gwaith ac mae cyflogwyr yn y DU a thramor yn rhoi pwys mawr arno. Er bod Graddau baglor yn tueddu i ganolbwyntio ar ennill gwybodaeth, mae HNCs wedi’u cynllunio i roi’r sgiliau i chi roi’r wybodaeth honno at ddefnydd effeithiol mewn galwedigaeth benodol. Mae rhai HNCs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i ail flwyddyn rhaglen radd, Felly, p’un a ydych am fynd yn syth i swydd neu barhau â’ch astudiaethau, gall cael cymhwyster Cenedlaethol Uwch fod yn lle gwych i ddechrau.

HND (Diploma

Cenedlaethol Uwch)

Cwrs lefel 5 sy’n gysylltiedig â gwaith yw HND ac mae’n debyg iawn i HNC – dim ond ychydig yn fwy datblygedig. Byddwch yn astudio sgiliau a gwybodaeth berthnasol i’r diwydiant a fydd yn eich paratoi ar gyfer eich galwedigaeth ddewisol. Mae llawer o HNDs yn caniatáu mynediad uniongyrchol i drydedd flwyddyn gradd a gallant hefyd roi mynediad i chi i nifer o gyrff proffesiynol.

Mynediad i Addysg Uwch

Mae cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn gwrs Lefel 3 sydd wedi’i gynllunio i baratoi dysgwyr gyda’r sgiliau sydd eu hangen i ddilyn astudiaethau lefel uwch. Mae cwrs Mynediad yn ddelfrydol ar gyfer dysgwyr aeddfed sydd am newid gyrfa neu sy’n dychwelyd i astudio ar ôl seibiant. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn barod i astudio ar lefel prifysgol. Gallwch astudio’n llawn amser neu’n rhan-amser a gallwch ddewis cwrs sy’n addas ar gyfer eich llwybr gyrfa.

Gofynion Mynediad

Mae ceisiadau ar gyfer pob cwrs yn cael eu hystyried yn unigol. Rydym yn derbyn cyfuniadau o gymwysterau yn ogystal â phrofiad perthnasol blaenorol sydd naill ai o’r gweithle neu’ch bywyd personol. Gallwch edrych ar ofynion mynediad cwrs ar dudalennau’r cwrs unigol ar ein gwefan.

Gradd Atodol

Mae gradd atodol yn gyfwerth â blwyddyn olaf yr astudiaeth israddedig, gan roi Gradd Baglor lawn i chi. Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r cyrsiau hyn yn rhoi’r opsiwn i chi ‘ychwanegu’ at gymhwyster sy’n bodoli eisoes, boed hynny’n Radd Sylfaen neu’n gymhwyster perthnasol arall, fel HND. Mae gan bob cwrs ei ofynion mynediad ei hun, felly cymerwch olwg ar y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo i ddarganfod yn union beth fydd ei angen arnoch i allu gwneud cais. Yn ogystal, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio eich cymhwysedd ar gyfer cyllid parhaus i fyfyrwyr.

Ddim yn siŵr os ydych yn bodloni’r gofynion mynediad? Peidiwch â gadael i’r gofynion mynediad eich digalonni, os ydych yn ansicr, cysylltwch â ni drwy he@coleggwent.ac.uk

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL)

Mae RPL yn rhoi cyfle i chi ennill cydnabyddiaeth am gyflawniadau academaidd perthnasol blaenorol ac mae’n caniatáu trosglwyddo credydau i’r cwrs newydd er mwyn osgoi dyblygu dysgu blaenorol. Rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod wedi cyflawni’r deilliannau dysgu ar gyfer y modiwl yn flaenorol.

Ymweld a’n wefan am fwy o wybodaeth: www.coleggwent.ac.uk/he

CEFFYL AU AC IECHYD ANIFEILIAID

Os ydych yn angerddol am anifeiliaid, beth am wneud gyrfa allan ohono?

Cymerwch yr awenau ac astudiwch un o’n cyrsiau ceffylau neu iechyd anifeiliaid ar ein campws gwledig hardd ym Mrynbuga.

Mae cyflogwyr yn chwilio am brofiad perthnasol a byddwch yn cael digon ohono ar ein campws ym Mrynbuga.

Mae gennym gyrsiau sefydledig gyda

Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol

Aberystwyth felly ni waeth pa gwrs y byddwch yn ei ddewis, bydd gennych fynediad i’r holl gyfleusterau y byddech yn disgwyl dod o hyd iddynt yn y diwydiant hwn.

Efallai y bydd gennych yr opsiwn i astudio am flwyddyn arall yn llawn amser neu’n rhan-amser gyda’r brifysgol o’ch dewis i ychwanegu at Radd Baglor lawn, neu gallech ddilyn eich Gradd Sylfaen fel cymhwyster annibynnol a chael gwaith mewn meysydd fel milfeddygaeth, ymddygiad anifeiliaid a seicoleg.

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Mae Argonomegwyr yn y Deyrnas

Unedig yn ennill hyd at

£60,000 y flwyddyn (0*Net Pathways)

Ymddygiad Anifeiliaid

Technegydd Anifeiliaid

Rheolwr Ceffylau

Rheolwr Garddwriaethol

Nyrs Milfeddygol

EIN CYRSIAU

Lechyd a Lles Anifeiliaid

Lechyd a Lles Anifeiliaid

Astudiaethau Ceffylau

Astudiaethau Ceffylau

Nyrsio Milfeddygol

Nyrsio Milfeddygol

Dyfarniad

Gradd

Atodol

Gradd

Sylfaen

Gradd

Atodol

Gradd

Sylfaen

Gradd

Atodol

Gradd

Sylfaen

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol Aberystwyth LA

Prifysgol Aberystwyth LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

Yn Coleg Gwent, mae ganddyn

nhw ddarlithwyr a chyfleusterau gwych gan gynnwys arena dan do ac awyr agored a cheffylau anhygoel!

Mae’n lleol, felly mae wedi rhoi cyfle i mi astudio cymhwyster da iawn ar fy stepen drws. Mae maint dosbarthiadau yn llawer llai na’r hyn y byddech yn ei gael yn y rhan fwyaf o brifysgolion, felly mae ar lefel llawer mwy personol gyda’ch darlithwyr. Byddwn yn bendant yn argymell cwrs Addysg Uwch yn Coleg Gwent.

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu

CELF A DYLUNIO,

CYFRYNGAU A FFOTOGRAFFIAETH

Mae’r diwydiannau creadigol yn tyfu’n gyflymach nag unrhyw faes arall o economi’r DU - sy’n newyddion gwych i raddedigion celf, dylunio, cyfryngau a ffotograffiaeth talentog.

Os ydych yn angerddol am y celfyddydau creadigol, ein stiwdios eang ar gyfer celf, dylunio, ffasiwn, cyfryngau a ffotograffiaeth yw’r lle delfrydol i fynegi eich hun, arbrofi gydag amrywiaeth o dechnegau a pherffeithio’ch arbenigedd.

GYRFAOEDD

POSIBL

Cynllunydd Serameg

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

35,400

Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth

Dylunydd Gemau

Dylunydd Graffig

Darluniwr

o bobl yn cael eu cyflogi yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru (Cymru Greadigol, 2023)

YDYCH CHI EISIAU

PARHAU Â’CH

ASTUDIAETHAU?

Gallwch astudio blwyddyn ychwanegol ac ychwanegu at radd lawn mewn Darlunio neu Ffotograffiaeth yn Coleg Gwent

EIN CYRSIAU

Dylunwyr Artistiaid

Celf a Dylunio Gemau

Darlunio

Darlunio

Cynhyrchu Cyfryngau

FFotograffiaeth

FFotograffiaeth

Dyfarniad

Gradd Sylfaen

Gradd Sylfaen

Gradd Sylfaen

Gradd

Atodol

Gradd Sylfaen

Gradd Sylfaen

Gradd Atodol

Sefydliad dilysu Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

Penderfynais astudio Celf a Dylunio Gemau yn Coleg Gwent oherwydd ei fod yn llawer rhatach na phrifysgolion eraill. Mae’n gwrs da iawn ac mae’r modiwlau yn eich galluogi i fod yn greadigol iawn. Mae’r tiwtoriaid yn wych ac yn creu awyrgylch braf yn yr ystafell ddosbarth.

THOMAS MORTON GRADD SYLFAEN CELF A DYLUNIO GEMAU

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Campws Crosskeys
Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

CYFRIFIADURA A

THECHNOLEG DDIGIDOL

Trwy astudio cwrs addysg uwch mewn cyfrifiadura neu dechnolegau digidol, gallwch gyfarparu eich hun â’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfa werth chweil a mynediad at offer o’r radd flaenaf.

Mae’r diwydiant technoleg yn ehangu’n gyflym ac yn esblygu’n gyson. Oherwydd prinder gweithwyr medrus, mae nifer o gyfleoedd gwaith ar gael, gan wneud hwn yn ddiwydiant hynod ddeniadol i raddedigion.

Mae Coleg Gwent yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych gan gynnwys cyfleoedd lleoliad gwaith grêt. Mae maint y dosbarthiadau yn llai na’r brifysgol ac rydych chi’n dod i adnabod y tiwtoriaid yn dda. Ar ôl gorffen fy nghwrs, hoffwn symud ymlaen i wneud fy ngradd atodol Baglor ac oddi yno, dod o hyd i swydd yn y sector TG, fel cymorth systemau neu rwydweithio.

NICHOLAS MALOLEPSZY

HND CYFRFIADURA

DYMA NICHOLAS

EIN CYRSIAU

Cyfrifiadura

Diogelwch Digidol

Diogelwch Digidol

Dyfarniad

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

HND Prifysgol De Cymru LA

HND Prifysgol De Cymru LA

HNC Prifysgol De Cymru LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

GYRFAOEDD

POSIBL

Swyddog Cudd-wybodaeth

Seiber

Dadansoddwr Cyfrifiadurol

Fforensig

Cyfarwyddwr TG

Technegydd TG

Gall Cyfarwyddwyr TG ennill hyd at £140,000 y flwyddyn (0*Net Pathways, 2024)

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

ADEILADU A’R AMGYLCHEDD ADEILEDIG

Dylunio ac adeiladu eich dyfodol yn y byd adeiladu.

Os ydych am chwarae rhan mewn newid gorwelion neu ddylanwadu ar bensaernïaeth, byddwch yn dysgu’r technegau a’r egwyddorion diweddaraf i’ch paratoi ar gyfer gyrfa mewn adeiladu a’r amgylchedd adeiledig trwy ein cyrsiau HNC a HND.

OEDDECH CHI’N

GYRFAOEDD POSIBL

Pensaer

Peiriannydd Gwasanaethau

Adeiladu

Technegydd CAD

GWYBOD?

Gall syrfewyr adeiladu ennill hyd at

£70,000

y flwyddyn (0*Net Pathways, 2024)

Syrfëwr Siartredig

EIN CYRSIAU

Dyfarniad

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HNC Prifysgol De Cymru RA

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HND

Prifysgol De Cymru RA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

DYMA BEN

Dechreuais ar lefel 3 ac yna symud ymlaen yn hawdd i’r HNC a’r HND. Rhoddodd y cwrs well dealltwriaeth i mi o adeiladu yn ogystal â chyflwyniad i gyflogwyr, a fydd, gobeithio, yn fy ngwneud yn fwy cyflogadwy. Mae

maint y dosbarthiadau yn llai ac mae’n fwy o hyfforddiant un-i-un, a helpodd yn fawr!

BEN ROBERTS

HND ADEILADU YN YR

AMGYLCHEDD ADEILADU

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

ADDYSG A HYFFORDDIANT

Ydych chi eisiau gwneud gwahaniaeth i fywyd rhywun drwy ddysgu? Gall gyrfa addysgu fod yn gyffrous, yn werth chweil a chynnig amrywiaeth i chi, yn ogystal â’r cyfle i wella rhagolygon pobl eraill.

Mae ein cyrsiau’n eich cymhwyso i addysgu’r rhai dros 16 oed, felly bydd angen i chi allu sefydlu perthynas dda â myfyrwyr o bob oed a gallu, gan fod proffil darpar fyfyrwyr yn hynod o eang. Ar ôl cymhwyso, gallech fod yn addysgu ymadawyr ysgol sydd am fynd i’r brifysgol, oedolion sy’n dymuno ailhyfforddi neu bobl sy’n dychwelyd i’r ystafell ddosbarth ar ôl blynyddoedd allan o addysg.

Byddwn yn argymell Coleg Gwent oherwydd bod y bobl rydych chi’n cwrdd â nhw yn wych. Roedd fy nhiwtor personol yn gefnogol ac yn broffesiynol, ac roeddwn i’n gyfforddus yn siarad ag ef am unrhyw beth. Yn ystod y lleoliad, cefais adborth effeithiol gan olygu fy mod wedi gallu gwneud cais i addysgu.

MACEY JONES

PCET

DYMA MACEY

EIN CYRSIAU

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PcET)

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (PcET)

Dyfarniad

Tystysgrif Proffesiynol

Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Sefydliad dilysu Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Prifysgol De Cymru RA

Prifysgol De Cymru RA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

GYRFAOEDD

POSIBL

Cynghorydd Academaidd

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Gall athrawon Addysg Bellach ennill hyd at

£40,000 y flwyddyn (0*Net Pathways, 2024)

Cyfarwyddwr Cyfadran

Darlithydd Addysg Bellach

Pennaeth Ysgol mewn coleg neu brifysgol

Gweithiwr Ieuenctid

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

PEIRIANNEG

Mae peirianwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein bywydau bob dydd, o’r ffonau rydyn ni’n eu defnyddio, y diaroglydd rydyn ni’n ei wisgo, i’r awyrennau rydyn ni’n teithio ynddynt. Mae’r sector yn amrywiol, sy’n gofyn am weithwyr proffesiynol medrus iawn sy’n cael eu talu’n dda.

Mae peirianwyr mecanyddol yn defnyddio eu gwybodaeth am ffiseg a mathemateg i ddylunio a chynnal cydrannau a systemau, gan weithio gyda deunyddiau datblygedig fel ffibr carbon a chyfansoddion.

Os ydych chi’n sylwgar i fanylion ac yn gyfarwydd â’r egwyddorion, peirianneg drydanol yw’r maes i chi.

GYRFAOEDD POSIBL

Peiriannydd Awyrofod

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Mae peirianwyr trydanol yng Nghymru yn ennill

£46,000 ar gyfartaledd

(0*Net Pathways, 2024)

Peiriannydd Sifil

Peiriannydd Trydanol

Ergonomydd

Peiriannydd Mecanyddol

EIN CYRSIAU

Dyfarniad

Sefydliad dilysu Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HNC Prifysgol De Cymru RA

Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig HND Prifysgol De Cymru RA

Peirianneg Sifil

Peirianneg Sifil

HNC Prifysgol De Cymru RA

HND Prifysgol De Cymru RA

Peirianneg Drydanol a Thrydanol HNC Prifysgol De Cymru RA

Peirianneg Drydanol a Thrydanol HND Prifysgol De Cymru RA

Peirianneg (Chwaraeon Modur) HNC Prifysgol De Cymru LA

Peirianneg Fecanyddol

HNC Prifysgol De Cymru RA

Peirianneg Fecanyddol HND Prifysgol De Cymru RA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

Fy nod yw dod yn beiriannydd ac mae astudio yn Coleg Gwent wedi rhoi’r cymwysterau academaidd sydd eu hangen arnaf. Mae’r cwrs yn hyblyg ac mae’r hyn rydych chi’n ei ddysgu yn berthnasol ac yn drosglwyddadwy i amgylchedd gwaith. Mae’r tiwtoriaid yn wych ac mae gen i berthynas gyda n hw lle rwy’n teimlo y gallaf ofyn am help bob amser.

COLUR ARBENIGOL A THERAPÏAU

CYFLENWOL

Gall ein cyrsiau Colur a Therapïau Cyflenwol Arbenigol eich helpu i ddechrau eich gyrfa ddelfrydol!

Bydd ein cwrs colur theatrig addysg uwch yn gadael i’ch creadigrwydd ddisgleirio ac yn rhoi i chi yr holl sgiliau sydd eu hangen arnoch ar gyfer rôl gyffrous yn y diwydiant colur ar gyfer ffilm, theatr a theledu.

Rwy’n hoffi popeth am fy nghwrs. Rwy’n hoffi’r campws ac rwyf wrth fy modd â modiwlau’r cwrs oherwydd gallwch eu personoli. Rwy’n hoffi’r tiwtoriaid oherwydd eu bod mor gefnogol, maent yn rhoi cymorth academaidd a hefyd yn eich cyfeirio i’r cyfeiriad cywir os oes angen cymorth arall arnoch fel lles iechyd meddwl.

EMILY WATKINS COLUR ARBENIGOL

EIN CYRSIAU

Dyfarniad

Sefydliad dilysu Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Colur Arbennigol HND Pearson LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

GYRFAOEDD POSIBL

Aromatherapydd

Therapydd Cyflenwol

Adweithegydd

Artist Colur Theatr

Artist Colur Teledu / Ffilm

C

OEDDECH CHI’N

GWYBOD?

Fel Uwch Artist Effeithiau Arbennig, gallech ennill hyd at

£71,596

y flwyddyn (Salary Expert 2024)

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

IECHYD A GOFAL

Mae’r sector gofal yn darparu ystod

amrywiol o gyfleoedd gyrfa a all fod yn hynod werth chweil ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl eraill.

Gall ein cyrsiau gofal iechyd eich

paratoi ar gyfer gyrfa lwyddiannus, p’un a ydych am weithio’n uniongyrchol gyda chleifion, arwain tîm i ddarparu gofal o’r

safon uchaf neu ddylanwadu ar bolisi ar lefel genedlaethol neu ranbarthol.

Os yw’n well gennych yrfa mewn gofal plant, bydd ein cwrs astudiaethau plentyndod yn eich cyfarparu â’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad ymarferol sy’n angenrheidiol ar gyfer y sector heriol ond amrywiol a gwerth chweil hwn.

Gyda iechyd corfforol a meddyliol yn bwnc mor ddadleuol ac amlwg yn y gymdeithas sydd ohoni, bydd ein

Graddau Sylfaen arbenigol yn eich

paratoi gyda’r ddealltwriaeth i ymuno â’r sgwrs.

GYRFAOEDD

POSIBL

Rheolwr Meithrinfa

Gofal Plant

Nyrs Iechyd a Lles Cymunedol

Rheolwr yn y Gwasanaeth Iechyd

Nyrs Nyrs Feithrin

OEDDECH CHI’N

Gall gweithwyr proffesiynol profiadol yn y sector hwn ennill hyd at

£50,000 y flwyddyn (0*Net Pathways, 2024)

EIN CYRSIAU

Astudiaethau Plant

Astudiaethau Plant

Leithoedd Cymunedol a Lles

Rheoli Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol

Gofal Ieuenctid a Chymdeithasol

Dyfarniad

Gradd Sylfaen

Gradd Sylfaen

Tystysgrif Addysg

Uwch

Gradd Sylfaen

Gradd Sylfaen

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Prifysgol De Cymru LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

DYMA CARLY

Byddwn yn argymell addysg uwch yn Coleg Gwent oherwydd bod y cwrs wedi fy helpu i dyfu cymaint yn academaidd ac yn bersonol. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb gefnogaeth anhygoel fy nhiwtoriaid a myfyrwyr eraill. Rwy’n teimlo ei fod wedi fy ngwneud i’n llawer mwy hyderus ym mhob agwedd ar fy mywyd.

CARLY STEPHENS IECHYD A LLES CYMUNEDOL

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

CERDDORIAETH

Os ydych chi’n teimlo’n gartrefol ar y prif lwyfan, yn y stiwdio recordio neu’n ysgrifennu eich cerddoriaeth eich hun, dyma’r diwydiant i chi. Mae Cymru’n enwog am ei diwydiannau creadigol sy’n tyfu’n gyflym, gan gynhyrchu sioeau teledu proffil uchel a cherddorion a chantorion adnabyddus.

Mae’n anodd mynd i mewn i’r diwydiant, felly mae dod i Coleg Gwent wedi rhoi mantais gystadleuol i mi gan fy mod wedi profi amrywiaeth o gyfleusterau na fyddwch yn dod o hyd iddynt yn unman arall. Mae’r dechnoleg yn wych, ac mae gan y tiwtoriaid sgiliau mewn technolegau modern a digidol. Dewisais Coleg Gwent dros brifysgolion eraill

oherwydd bod maint y dosbarthiadau yn llawer llai, felly gallwch ddefnyddio’r cyfleusterau a chewch fwy o gefnogaeth gan eich tiwtoriaid.

DYMA LEVI

LEVI MORGAN

CERDDORIAETH BOBLOGAIDD

EIN CYRSIAU

Dyfarniad

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

Cynhyrchu Sain ac Ysgrifennu Caneuon BC Prifysgol De Cymru LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

C

GYRFAOEDD POSIBL

Cyfansoddwr Caneuon Sain

Technegydd Cerddoriaeth

Ddigidol

Cerddor

Cynhyrchydd Cerddoriaeth

OEDDECH CHI’’N

Y cyflog cyfartalog ar gyfer cynhyrchydd cerddoriaeth yn y Deyrnas Unedig yw

£44,164 y flwyddyn (*Glassdoor UK 2024)

Parth Dysgu Blaenau Gwent
Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

GWYDDONIAETH

Mae datblygiadau technolegol a gwyddonol yn newid y byd rydym yn byw ynddo yn gyson. Yn ystod eich astudiaethau, byddwch yn ennill profiad ymarferol yn ein cyfleusterau gwyddoniaeth pwrpasol o safon diwydiant. Byddwch hefyd yn cael eich addysgu gan ein darlithwyr arbenigol, sydd â chyfoeth o brofiad a chewch eich cefnogi gan dechnegwyr sydd â llawer iawn o brofiad diwydiannol a fforensig.

GYRFAOEDD POSIBL

OEDDECH CHI’N

GWYBOD?

Gwyddonydd Biofeddygol

Gwyddonydd Clinigol

Gwyddonydd Haematoleg

Rheolwr Ymchwil a Datblygu Labordy

Technegydd Labordy

Gall gwyddonwyr fforensig profiadol ennill hyd at

£45,000 y flwyddyn

(Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol, 2023)

EIN CYRSIAU

Dyfarniad

Gwyddoniaeth Feddygol HND Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

Byddwn yn argymell cwrs

gwyddoniaeth yn Coleg Gwent gan nad yw’n rhy llethol, mae llawer o amser rhydd ar gyfer dysgu annibynnol ac mae popeth sydd ei angen arnoch yn y Coleg. Dwi’n ei fwynhau fel myfyriwr aeddfed, achos mae’r dysgwyr yn fy nosbarth i’n hŷn – rydyn ni gyd tua’r un oed ac yma am reswm.

ZUZANNA KALEK ACCESS TO BIOSCIENCES

Sefydliad dilysu
Llawn Amser/ Rhan Amser Campws
DYMA ZUZANNA
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

CHWARAEON, LLETYGARWCH A GWASANAETHAU CYHOEDDUS

Mae gweithio mewn gwasanaethau i bobl yn golygu eich bod yn aml mewn rôl flaenllaw yn y diwydiant, felly mae’n rhaid bod gennych sgiliau rhyngbersonol gwych. Gallwch ddilyn ôl troed eich arwyr chwaraeon, cadw ein cymunedau’n ddiogel gyda swydd yn y gwasanaethau cyhoeddus ac argyfwng, dod yn ddylanwad mawr mewn digwyddiadau a lletygarwch neu gychwyn ar yrfa werth chweil mewn twristiaeth.

Byddwn yn argymell Coleg Gwent oherwydd bod y tiwtoriaid yn wych, mae ganddynt brofiad mewn gwasanaethau cyhoeddus ac yn arbenigo mewn gwahanol feysydd fel eich bod yn cael ystod eang o wybodaeth.

Mae maint y dosbarthiadau yn llai felly rydych chi’n cael mwy o hyfforddiant un i un nag y byddech chi yn y brifysgol.

HUW LLOYD

HND GWASANAETHAU CYHOEDDUS AC ARGYFWNG

EIN CYRSIAU

Gwasanaethau Cyhoeddus ac Argyfwng

Cynnal Chwaraeon, Ail-Gymryd a Masiad (SCRaM)

Rheoli Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau

Dyfarniad

Sefydliad dilysu

Llawn Amser/ Rhan Amser Campws

HND Prifysgol De Cymru LA

Gradd Sylfaen

Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

HND Prifysgol Metropolitan Caerdydd LA

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

GYRFAOEDD POSIBL

Ymchwilydd Lleoliadau

Trosedd

Ymladdwr Tân

Plismon

Sarjant yn yr Heddlu

OEDDECH CHI’N

GWYBOD?

Yr incwm canolrifol cyfartalog ar gyfer uwch swyddog heddlu yng Nghymru yw

£56,100

y flwyddyn (ESMI, 2023)

Hyfforddwr Personol

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

MYNEDIAD AT ADDYSG UWCH

EICH LLWYBR I PRIFYSGOL

Dewisais wneud y cwrs Mynediad oherwydd fy mod eisiau gwneud cais am radd Gweithio gyda Phlant a Theuluoedd. Bu i’r ffaith bod y cwrs am ddim wir fy ysgogi i gymryd y naid honno a chofrestru. Byddwn yn bendant yn argymell Coleg Gwent i fyfyrwyr darpar, rydw i wedi cael amser gwych yn ystod y cwrs hwn ac rwyf wedi canfod bod yr amgylchedd yn gyffredinol yn gefnogol ac yn gymwynasgar iawn.

SARA CRO CKETT MYNEDIAD AT ADDYSG UWCH

DYMA SARA

EIN CYRSIAU

Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.

LL AWER O DDEWISIADAU

DDIM YN CHYRRAEDD Y GOFYNION MYNEDIAD AR GYFER EICH CWRS?

Mae ein cyrsiau Mynediad yn gam pwysig tuag at eich llwybr Addysg Uwch dewisol, ac fe allwch arbenigo mewn nifer o feysydd. Edrychwch ar dudalennau unigol y cyrsiau ar ein gwefan am fwy o wybodaeth.

Mae gradd prifysgol yn gyflawnadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol ar lefel 3.

Gallwch ddewis o ystod o lwybrau i fynd ymlaen i’ch cwrs gradd dewisol ac yna’r swydd freuddwydiol. Byddwch yn dysgu sut i fynd ati i astudio a’r technegau gwahanol y bydd eu hangen arnoch i lwyddo.

D OD O HYD I’CH CYNNYDD

Mae llawer o bobl yn nerfus pan fyddant yn dechrau cwrs

Mynediad i Addysg Uwch, yn enwedig os nad ydynt wedi bod mewn ystafell ddosbarth am ryw dymor. Ni fyddwch yn cael eich ‘dodi i mewn i’r dwfn’ nac yn cael eich profi, ond gallwch ddisgwyl bod y cwrs yn heriol. Prif ddiben cwrs Mynediad i Addysg Uwch yw eich helpu i lwyddo yn y brifysgol.

ADEIL ADU EICH SGILIAU

Rydym hefyd yn cynnig cwrs cyn-mynediad sy’n canolbwyntio ar sgiliau academaidd i’ch helpu i fynd ymlaen i gwrs Mynediad i Addysg Uwch.

Pan fyddwch yn gwybod pa gwrs rydych chi am ei astudio, mae’n hawdd gwneud cais.

Nid oes angen gwneud cais drwy UCAS* ar gyfer ein cyrsiau, felly gallwch wneud cais yn uniongyrchol ar ein gwefan mewn ychydig funudau yn unig.

GWNEWCH GAIS NAWR ar ein wefan

Roedd ymgeisio yn hawdd! Roeddwn i’n nerfus oherwydd fy oedran ac ar ôl gweithio’n llawn amser ers i mi adael yr ysgol, roeddwn i’n meddwl mai dyna oedd fy unig opsiwn. Fe wnaeth y cam cyfweld helpu ar unwaith gan eu bod wedi ateb fy holl gwestiynau a gwneud i mi deimlo’n gartrefol, felly roeddwn yn falch o gael lle ar y cwrs.

TOM HATHWAY

GRADD SYLFAEN

DARLUNIO

Parth Dysgu Blaenau Gwent Campws Crosskeys Campws Dinas Casnewydd Campws Brynbuga Parth Dysgu Torfaen

Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.