TROWCH EICH ANGERDD YN BROFFESIWN
ADDYSG RAN AMSER
YN COLEG GWENT
Croesawn filoedd o ddysgwyr
oedolion bob blwyddyn, ac mae gennym gymuned wych o ddysgwyr oedolion i chi ymuno â hi.
P’un a ydych am ddysgu sgìl newydd, troi eich angerdd yn broffesiwn neu ennill cymhwyster
i allu newid eich gyrfa, mae ein hystod o gyrsiau rhan amser ar eich cyfer chi.
Pan fyddwch chi’n dewis astudio gyda ni, mae ein staff talentog yn ymrwymedig i’ch cefnogi chi ar bob cam o’r ffordd, p’un a ydych chi’n weithiwr proffesiynol ifanc neu’n rhywun sy’n dychwelyd i addysg ar ôl seibiant. Rydym ni yma i’ch helpu chi i wneud y dewis cywir ar gyfer eich dyfodol.
Os ydych chi’n bwriadu astudio cwrs amser llawn neu lefel prifysgolcymerwch olwg ar ein canllawiau trwy sganio’r cod QR perthnasol
CANLLAW
ANGEN RHYWFAINT O GYMORTH?
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch gysylltu â’n tîm recriwtio myfyrwyr cyfeillgar: HELO@COLEGGWENT.AC.UK 01495 333777
(Croesawn alwadau yn Gymraeg).
CROESO
CYNNWYS
DIGWYDDIADAU AGORED
CAMPYSAU
CYFRIFEG, BUSNES A RHEOLAETH
MYNEDIAD I ADDYSG UWCH (LLWYBR I’R BRIFYSGOL)
GOFAL ANIFEILIAID, TIR A CHEFFYLAU
CELF A DYLUNIO, Y CYFRYNGAU, CELFYDDYDAU PERFFORMIO A FFOTOGRAFFIAETH
ARLWYO A LLETYGARWCH
CYFRIFIADURO A THECHNOLEG DDIGIDOL
SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL (ESOL)
TGAU
SGILIAU DYSGU ANNIBYNNOL (ILS)
THERAPI TRIN GWALLT A HARDDWCH
IECHYD A DIOGELWCH, CWNSELA A GOFAL
CERBYDAU MODUR
CHWARAEON, FFITRWYDD AC IECHYD
PAM DEWIS COLEG GWENT?
HYBLYGRWYDD SY’N ADDAS I CHI
Cyflwynir ein cyrsiau yn ystod y dydd a chyda’r nos, ac maent yn dechrau ar adegau amrywiol yn ystod y flwyddyn - gan ei gwneud hi’n bosib i chi astudio pan fydd yn gyfleus i chi. A chyda phum campws lleol, gallwch astudio’n agos at eich cartref ar adegau sy’n gyfleus i chi.
CYMORTH
ARIANNOL
Mae llawer o’n cyrsiau’n naill ai’n rhad neu am ddim, sy’n golygu y gallwch ddysgu, dod yn gymwys a symud ymlaen yn eich gyrfa am ddim.
Os oes costau sy’n gysylltiedig â’ch dewis cwrs, gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol, gan gynnwys.
DYSGU
O’R GORAU
Mae ein tiwtoriaid arobryn yn arbenigwyr yn eu maes.
Maent yn dod â’u profiad a’u gwybodaeth i bob gwers.
EICH CEFNOGI CHI
Gall dychwelyd i’r coleg fel oedolyn beri pryder, ond mae hefyd yn hynod foddhaus.
Gall ein tîm cymorth arbenigol eich helpu i fynd ar drywydd eich angerdd. Byddwn yn eich helpu i gynllunio eich llwybr dilyniant a chyflawni eich nodau.
CYFLEUSTERAU
ARBENNIG
Bydd ein cyfleusterau o’r radd flaenaf yn eich helpu i ennill profiad ymarferol a thechnegol i’w ddefnyddio yn y gweithle.
O salonau gwallt a harddwch i weithdai cerbydau modur a bwyty sy’n gweithio’n llawnmae yna ddigon i fanteisio arno.
MAE CROESO I BAWB
Rydym yn goleg cynhwysol ac amrywiol, lle mae croeso i bawb.
Ymfalchïwn mewn creu amgylchedd croesawgar sy’n cofleidio amrywiaeth, lle gallwch deimlo’n hyderus y gallwch fod yn chi eich hun, heb ofni cael eich barnu.
DIGWYDDIADAU AGORED
Mae ein digwyddiadau agored yn cwmpasu popeth sydd angen i chi ei wybod am fywyd y coleg. Rydym yn eich annog i gofrestru cyn mynychu, ond peidiwch â phoeni, mae croeso i chi alw heibio.
DIGWYDDIADAU AGORED AR Y CAMPWS
2IL MAWRTH 2024 10yb-12.30yp
29AIN EBRILL 2024 5-7.30YP
25AIN MEHEFIN 2024 5-7.30YP
DIGWYDDIADAU AGORED RHITHWIR
21AIN AWST 2024 6YP
COFRESTRU AR GYFER UN O’N DIGWYDDIADAU AGORED
Wrth gofrestru, cofiwch fod meysydd pwnc yn benodol i bob campws a bydd angen i chi fynychu digwyddiad agored ar y campws lle cynhelir y cwrs hwnnw.
YN EIN DIGWYDDIADAU AGORED, GALLWCH CHI
Edrych o gwmpas y campws, cyfleusterau ac ystafelloedd dosbarth
Dysgu rhagor am gwrs neu faes pwnc oddi wrth ein tiwtoriaid arbenigol
Cael gwybodaeth am gymorth ariannol a chludiant
Dysgu rhagor am y broses ymgeisio a gwneud cais yn y fan a’r lle
Dysgu am ein gwasanaethau cymorth
Dysgu am yrfaoedd posib
CAMPYSAU
Yn Coleg Gwent, mae gennym bum campws amrywiol sydd â chyfarpar da ac ystod o gyfleusterau arloesol.
PARTH DYSGU TORFAEN
Parth Dysgu Torfaen yw ein campws pwrpasol mwyaf newydd gyda labordai gwyddoniaeth o’r radd flaenaf, theatr berfformio a llawer mwy!
Campws Brynbuga
Mae ein canolfan wledig ym Mrynbuga yn gartref i’n cyrsiau tir, chwaraeon, hamdden a gwasanaethau cyhoeddus. Mae ein hamgylcheddau dysgu yn cynnwys canolfan hyfforddi nyrsys milfeddygol, canolfan gofal anifeiliaid, ysgolion ceffylau dan do ac awyr agored, campfa llawn weithredol, caeau chwaraeon ac ystafell dadansoddi perfformiad.
Campws Crosskeys
Mae gan gampws Crosskeys gyfleusterau theatr trawiadol ar gyfer y celfyddydau perfformio yn ogystal â Bwyty ‘Morels’ a salon gwallt a harddwch Blwm sydd ill dau ar agor i’r cyhoedd.
CAMPYSAU
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Mae Parth Dysgu Blaenau Gwent yn rhan o’r gwaith o adfywio’r hen safle gwaith dur yng Nglynebwy, a adnabyddir bellach fel y Gweithfeydd, ac mae wedi’i ganoli o amgylch atriwm, gofod hyfryd o olau ac awyrog sy’n hybu teimlad da y funud y cerddwch drwy’r drws. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys; canolfan seibr, theatr berfformio, Salon gwallt a harddwch Blwm, switiau peirianneg, gweithdai adeiladu a llawer mwy!
Campws Dinas Casnewydd
Mae ein campws yn Ninas Casnewydd yn gartref i gyfleusterau ardderchog, gan gynnwys; gweithdai peirianneg ac adeiladu â chyfarpar da, canolfan achredu technegwyr modurol (ATA), stiwdios celf, labordai gwyddoniaeth, salonau gwallt a harddwch Blwm, yn ogystal â swît technoleg ddigidol arloesol.
Ein Canolfan HiVE newydd (AR Y GWEILL)
Bydd ein Canolfan Peirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglyn Ebwy yn agor ar hen safle ffatri Monwel yn y flwyddyn academaidd 2024-25. Gydag angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Coleg Gwent yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn cyfleuster pwrpasol lle bydd dysgwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchu diwydiant.
EIN CANLLAW I LEFELAU CYMWYSTERAU
Ansicr o le i ddechrau o ran cymhwyster neu lefel? Bydd ein canllaw yn eich helpu i ddewis y cymhwyster sy’n addas i chi.
Nid oes lefel astudiaeth benodol ynghlwm wrth rai o’n cyrsiau hobi a sgiliau – eu pwrpas yw dysgu sgiliau newydd i chi, yn hytrach na gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol. Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr.
CYMHARIAETH CYMWYSTERAU
LEFEL
MYNEDIAD Sgiliau Sylfaenol/Sgiliau Bywyd
1 Tystysgrif/Diploma Lefel 1 TGAU (D-G) Cynllun Hyfforddiant / NVQ1
2 Tystysgrif/Diploma Lefel 2 TGAU (A*-C) Prentisiaeth / NVQ2
3 Tystysgrif/Diploma Lefel 3
Llwybr Dysgu Galwedigaethol Llwybr Dysgu Academaidd Llwybr Dysgu Seiliedig ar WaithCYRSIAU LEFEL PRIFYSGOL
ORIAU RHAN AMSER
A wyddoch chi?
Gallwch ennill cymhwyster lefel prifysgol yn rhan amser yn Coleg Gwent. Mae gennym nifer cynyddol o gyrsiau addysg uwch, felly beth bynnag eich diddordebau neu uchelgeisiau, mae’n debygol bod gennym gwrs sy’n addas i chi.
Gellir astudio llawer o’n cyrsiau addysg uwch yn rhan-amser a gallech fod yn gymwys ar gyfer cyllid.
Cynigir ein holl gyrsiau addysg uwch ar lefel 4 ac uwch.
Ansicr a ydych chi’n bodloni’r gofynion?
Edrychwn ar bob cais ar sail unigol, gan ystyried eich profiad bywyd a gwaith yn ogystal â chymwysterau blaenorol.
CYFRIFEG, BUSNES A RHEOLAETH
Gwellwch eich gwybodaeth a’ch galluoedd proffesiynol gydag un o’n cyrsiau cyfrifeg, busnes neu reolaeth.
Fel canolfan achrededig ar gyfer cymwysterau AAT, CIPD ac ILM, gallwch fod yn hyderus eich bod yn dysgu yn unol â safonau’r diwydiant ac yn cyflawni cymhwyster a fydd yn cael ei gydnabod yn genedlaethol.
Mae cyrsiau ar gael o lefel 1 hyd at lefel 5, sy’n golygu y gallwch chi gymryd y cam proffesiynol nesaf hwnnw gyda ni, waeth beth lle rydych chi yn eich gyrfa a’r profiad blaenorol yr ydych chi’n meddu arno.
DYMA VIKTORIA
Rwy’n gobeithio dod yn gyfrifydd cwbl gymwys. Rydw i o Hwngari yn wreiddiol, dywedodd fy athro mathemateg yn yr ysgol nad oedd cyfrifeg i mi, ond pan ddes i i’r
DU penderfynais ei astudio yma.
Rwy’n falch o fod wedi gwneud cais ar gyfer y cwrs. Byddwch yn ddewr ac ymgeisiwch, Peidiwch ag oedi, Ewch amdani!
VIKTORIA HORVATHNE CSUHAI
AAT LEFEL 1 MEWN CADW LLYFRAU
EIN CYRSIAU
Dyfarniad Mynediad Cadw Cyfrifon
Diploma Cyswllt mewn Rheoli Pobl
mewn Cyfrifeg
mewn Cyfrifeg (Cymhwyster Llawn)
Diploma mewn Cyfrifeg (Wedi’i fodwleiddio)
mewn Rheoli
Rheoli (NVQ)
Tystysgrif Sylfaen mewn Ymarfer Pobl
Diploma
mewn Cyfrifeg (Cymhwyster Llawn)
Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg (Wedi’i fodwleiddio)
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
A WYDDOCH CHI?
Mae Cyfrifwyr Siartredig ac Ardystiedig yng Nghymru yn ennill
£36,100 y flwyddyn ar gyfartaledd
(EMSI, 2023)
MYNEDIAD I ADDYSG UWCH (LLWYBR I’R BRIFYSGOL)
Yn Coleg Gwent, mae modd cyrraedd gradd prifysgol hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol. Bydd ein cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch (AU) o gymorth wrth i chi ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnoch i gymryd y cam nesaf hwnnw.
Efallai y byddwch hyd yn oed yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch cynorthwyo gyda chost astudio.
Mae’r cwrs mynediad hwn yn fy helpu i fynd i’r brifysgol heb orfod astudio fy Lefelau A. Rwyf wrth fy modd â rhyddid y cwrs. Mae’r tiwtoriaid mor gynorthwyol a chyfeillgar, maen nhw’n helpu i fy ysgogi
i wneud fy ngorau a, gyda gobaith, mynd ymlaen i ennill swydd o fewn yr heddlu.
MADISON BONES
MYNEDIAD I BLISMONA
EIN CYRSIAU
Mynediad at AU - Astudiaethau Nyrsio, Meddygol a Gofal Iechyd
Mynediad at AU - Plismona a Gwasanaethau Cyhoeddus
DYMA MADISON
Lefel Campws3
3
Gwasanaethau gwallt a harddwch proffesiynol yn Coleg Gwent
P’un a oes angen tylino i chwalu tensiwn arnoch, am ail-greu eich hun gyda steil gwallt newydd neu dim ond cael eich maldodi gyda dewis o dros 30 o driniaethau harddwch, bydd ein steilwyr a’n therapyddion harddwch dan hyfforddiant yn Blwm Hair and Beauty yn gwneud i chi deimlo ac edrych yn wych, ac am ffracsiwn o’r gost.
Lleoliadau salan: Parth Dysgu Blaenau Gwent, Capmws Crosskeys, Campws Dinas Casnewydd
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu, ewch i’n gwefan: www.coleggwent.ac.uk/blwm
GOFAL ANIFEILIAID, TIR A CHEFFYLAU
Ar ein campws gwledig ym Mrynbuga, mae ein cyrsiau
gofal anifeiliaid, ceffylau a diwydiannau’r tir yn cynnig digon o ddewis i’r rheini sy’n hoff o’r awyr agored.
Pa bynnag gwrs a ddewiswch, gallwch
fod yn sicr o gael digon o brofiad ymarferol, boed hynny o’n canolfan anifeiliaid bach bwrpasol, canolfan farchogaeth lawn cyfarpar neu ganolfan diwydiannau’r tir.
Fel Canolfan Hyfforddi ac Asesu Lefel
4 a Gymeradwyir gan y BHS, gallwch
fod yn sicr y cewch hyfforddiant
o ansawdd uchel a mynediad at y cymwysterau sydd eu hangen arnoch
i wneud cynnydd yn y diwydiant ceffylau.
Yn yr un modd, bydd ein hystod o Ddyfarniadau City & Guilds yn sicrhau bod gennych y cymhwysedd i weithio’n ddiogel mewn amrywiaeth o broffesiynau ar y tir, ynghyd â’r ardystiad i brofi hynny.
Ers i mi fod yn blentyn, rwyf bob amser wedi cael diddordeb mawr ym maes meddygaeth. Mae’n rhywbeth fy mod bob amser wedi dymuno ei wneud. Rwyf hefyd yn dwlu ar anifeiliaid felly meddyliais y byddwn yn cyfuno’r ddau beth a dyna’r swydd ddelfrydol i mi. Rwyf wedi mwynhau fy nghyfnod yn y coleg yn fawr iawn ac rwyf wedi dysgu cymaint.
DYMA ALEX
EIN CYRSIAU
Ymdrin â Cherbydau Pob Tir (ATV)
Wedi’i deilwra
Dyfarniad mewn Torri a Phrosesu Coed Bychain 2
Dyfarniad mewn Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel (PA1) 2
Cymorth Cyntaf Sylfaenol ar gyfer Cŵn a Chathod
Cynnal a Chadw Llif Gadwyn a Gweithrediadau Cysylltiedig
Clipio Ceffylau
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Diploma mewn Cynorthwywyr Gofal Milfeddygol 2
Diploma mewn Nyrsio Milfeddygol - Ymarfer Anifeiliaid Bach 3
Cyflwyniad i Arddio Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Ŵyna
PA6 Defnyddio Taenwyr Llaw yn Ddiogel
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
PA6W Chwistrellu Plaladdwyr Wedi’i deilwra
Paratoi ar gyfer Teach Training Cam 2 BHS
Paratoi ar gyfer Teach Training Cam 3 BHS
Paratoi Ceffylau ar gyfer Cystadleuaeth - Dangos Paratoadau ac Edrychiad
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi Sylfaenol ar gyfer Cam 1 BHS Wedi’i deilwra
Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi ar gyfer Cam 2 BHS
Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi ar gyfer Cam 3 BHS
Tyddynwyr (Sgiliau Da Byw ac Ystadau)
Hyfforddiant ar gyfer Gofal a Rheolaeth Cam 4 BHS
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
A WYDDOCH CHI?
Gall Uwch Nyrsys Milfeddygol ennill dros
£30,000 y flwyddyn
(Careers Wales 2024)
CELF A DYLUNIO, Y CYFRYNGAU, CELFYDDYDAU PERFFORMIO
A FFOTOGRAFFIAETH
Os ydych chi’n berson creadigol sy’n awyddus i ehangu eich set sgiliau neu ddysgu rhywbeth newydd, Coleg Gwent yw’r lle perffaith i droi eich angerdd yn broffesiwn.
DYMA KERI
Rydw i wedi ymddeol, ond mae’r
cyrsiau nos yn opsiwn gwych i bobl sy’n gweithio’n llawn amser ymuno
â nhw. Os ydych chi eisiau gwneud rhywbeth cymaint, byddwch chi’n ei ffitio yn eich bywyd.
KERI JAYNE CROSIO I DDECHREUWYRArchwiliwch eich ochr greadigol a gwella’ch sgiliau gyda’n hystod o gyrsiau mewn ffotograffiaeth, golygu, gwnïo, tecstilau a’r celfyddydau perfformio.
Bydd gennych fynediad at ystod o dechnoleg ac offer modern, ac mae’r cyrsiau ar gael drwy gydol y flwyddyn, gan roi’r cyfle i chi archwilio amrywiaeth o hobïau newydd.
EIN CYRSIAU
Torri â Laser ac Argraffu 3D
Lefel
Wedi’i deilwra
Adobe Photoshop Wedi’i deilwra
Ffotograffiaeth Uwch
Ffotograffiaeth Amgen
Technegau Celf ar gyfer Datblygiad Personol
Cerameg
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Creu Torchau Nadolig Wedi’i deilwra
Ysgrifennu Creadigol
Wedi’i deilwra
Crosio i Ddechreuwyr Wedi’i deilwra
Crosio Lefel Ganolradd
Darlunio Digidol a Thraddodiadol
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Sgiliau DJ a Chynhyrchu Cerddoriaeth Wedi’i deilwra
Trefnu Blodau (dechreuwyr)
Wedi’i deilwra
Trefnu Blodau (Uwch) Wedi’i deilwra
Uwchgylchu Dodrefn
Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Ffotograffiaeth - Dechreuwyr Wedi’i deilwra
Creu Gemwaith Wedi’i deilwra
Lansio Busnes/Menter Creadigol Wedi’i deilwra
Bywluniadu Wedi’i deilwra
Y Celfyddydau Perfformio Wedi’i deilwra
Ffotograffiaeth Wedi’i deilwra
Photoshop i Ddechreuwyr Wedi’i deilwra
Creu Printiau Wedi’i deilwra
Canu er Pleser Wedi’i deilwra
Tecstilau Wedi’i deilwra
Dosbarth Meistr Ffotograffiaeth Colodion Plât Gwlyb Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
Campws
ARLWYO A LLETYGARWCH
P’un a ydych yn arbenigo mewn paratoi bwyd neu ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol, gallwn eich helpu i ddod yn weithiwr proffesiynol yn y diwydiant.
Cynigir ein cyrsiau arlwyo a lletygarwch yn bennaf trwy gyrsiau NVQ i’w hastudio yn y gweithle, gyda rhywfaint o addysgu hefyd yn cymryd lle yn ein ceginau llawn offer ar gampws Crosskeys, cartref i’n bwyty poblogaidd a redir gan fyfyrwyr, sef Morels.
DYMA DERREN
Hoffwn fod yn berchennog siop gacennau un diwrnod, bydd y cwrs hwn yn rhoi popeth sydd ei angen arna i i wneud hyn. Mae’r cwrs yn hwyl ac yn greadigol iawn, byddwn yn ei argymell yn fawr.
DERREN BRADBURY
PATISSERIE LEFEL 3
EIN CYRSIAU
Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmer
Tystysgrif mewn Gwasanaeth Cwsmer
Tystysgrif
Diploma mewn Coginio
Diploma
Ers 2016, mae cyflogaeth yn y sector lletygarwch wedi codi i 305
gan ei wneud y trydydd cyflogwr mwyaf yn y DU (ukhospitality2024)
CYFRIFIADURO A THECHNOLEG DDIGIDOL
Mae’r byd digidol yn datblygu’n gyson ac yn symud yn gyflym. Bydd ein cwrs pwrpasol yn helpu i roi’r wybodaeth a’r sgiliau diweddaraf i chi gadw i fyny â’r datblygiadau diweddaraf.
Byddwch yn dysgu mewn ystafelloedd TG llawn offer gyda mynediad at y technolegau, y caledwedd a’r meddalwedd diweddaraf. Mae’r cwrs hwn yn gyflwyniad delfrydol i ddatrys problemau caledwedd a meddalwedd, yn agor drws byd cyfrifiadureg a chymorth systemau.
EIN CYRSIAU
Lefel Campws
Trwsio Cyfrifiadur - Cwrs Hunangymorth Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
A WYDDOCH
DC
CHI?
Gall Peiriannydd Cymorth Technegol profiadol ennill hyd at
£45,000
y flwyddyn
(Careers Wales 2024)
Mae ein bwyty arddangosol ar ein campws yn Crosskeys yn cynnig gwasanaeth rhagorol a gwerth ardderchog am arian, gyda seigiau blasus a rhestr win helaeth, a weinir hwy i gyd gan gogyddion dan hyfforddiant sydd yr un mor angerddol dros fwyd â chi.
Oriau agor
Dydd Mawrth
Cinio 12.00yp (eistedd am 12.15yp)
Cinio o 6.15yh (eistedd am 6.30yh)
Dydd Mercher
Cinio 12.00yp (eistedd am 12.15yp)
Dydd Iau
Cinio 12.00yp (eistedd am 12.15yp)
Dydd Gwener
Cinio 12.00yp (eistedd am 12.15yp))
(Amser tymor yn unig)
ADEILADU
Rydw i’n adnewyddu tŷ, felly penderfynais ymgymryd â’r cwrs hwn fel y gallwn deimlo’n fwy hyderus wrth wneud y gwaith yn annibynnol ac yn arbed arian ar grefftwyr. Fy hoff beth am y cwrs yw’r ystod eang o feysydd pwnc rydych chi’n eu hastudio.
LAUREN KNAPMAN MERCHED YN ADEILADU
Mae gan ein cyrsiau adeiladu rhan amser rywbeth sydd at ddant pawb. Cynigiwn opsiynau i selogion DIY sydd am wella eu sgiliau sylfaenol mewn cynnal a chadw cartrefi, yn ogystal â’n cwrs ‘Merched mewn Adeiladu’ hynod boblogaidd. Hefyd, darparwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, p’un a ydych am ennill cymwysterau diogelwch neu uwchsgilio trwy wneud cwrs Peirianneg Sifil.
Mae ein gweithdai llawn offer yn ein galluogi i gwrdd ag anghenion ystod eang o fyfyrwyr. Gan mai adeiladu yw pumed diwydiant mwyaf Cymru, mae ennill cymhwyster yn y sector ffyniannus hwn yn ddewis ardderchog.
DYMA LAUREN
Gall rheolwyr adeiladu profiadol ennill hyd at
£60,000 y fylwyddyn
EIN CYRSIAU
Ymwybyddiaeth Olwynion Sgraffinio Wedi’i deilwra
Adnewyddi Nwy ACS Wedi’i deilwra
Dyfarniad mewn Gosodiadau Trydanol: Arolygu a Phrofi/Dilysu
Dyfarniad mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dŵr Poeth Thermol Solar
Cynnal a Chadw Tŷ Sylfaenol i Ddechreuwyr Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth COSHH Wedi’i deilwra
Diploma mewn Adeiladu (Peirianneg Sifil) 3
Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Cwrs Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol (CORE) 2
Cyflwyniad i Blastro - dechreuwyr Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Blastro Wedi’i deilwra
Rheoli'n Ddiogel IOSH Wedi’i deilwra
Rheoli'n Ddiogel IOSH - Gloywi
Ymwybyddiaeth Legionella
Ymwybyddiaeth o ofynion Codi a Chario
deilwra
deilwra
deilwra
Cynllun Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle Newydd Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth o Anafiadau a Achosir gan Nodwyddau
Diploma Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol
Wedi’i deilwra
2
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R) 2
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R)
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Diogelwch Safle ac Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle - Gloywi (SSSTS-R) Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS)
Wedi’i deilwra
Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd Gwyrdd 2
Merched yn y maes Adeiladu
Merched yn y maes Adeiladu - Uwch
Weldio i Fenywod
Ymwybyddiaeth Gweithio o Uchder
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
ADEILADU
Rydw i’n adnewyddu tŷ, felly penderfynais ymgymryd â’r cwrs hwn fel y gallwn deimlo’n fwy hyderus wrth wneud y gwaith yn annibynnol ac yn arbed arian ar grefftwyr. Fy hoff beth am y cwrs yw’r ystod eang o feysydd pwnc rydych chi’n eu hastudio.
LAUREN KNAPMAN MERCHED YN ADEILADU
Mae gan ein cyrsiau adeiladu rhan amser rywbeth sydd at ddant pawb. Cynigiwn opsiynau i selogion DIY sydd am wella eu sgiliau sylfaenol mewn cynnal a chadw cartrefi, yn ogystal â’n cwrs ‘Merched mewn Adeiladu’ hynod boblogaidd. Hefyd, darparwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant, p’un a ydych am ennill cymwysterau diogelwch neu uwchsgilio trwy wneud cwrs Peirianneg Sifil.
Mae ein gweithdai llawn offer yn ein galluogi i gwrdd ag anghenion ystod eang o fyfyrwyr. Gan mai adeiladu yw pumed diwydiant mwyaf Cymru, mae ennill cymhwyster yn y sector ffyniannus hwn yn ddewis ardderchog.
DYMA LAUREN
Gall rheolwyr adeiladu profiadol ennill hyd at £60,000 y fylwyddyn (O*NET
EIN CYRSIAU
Ymwybyddiaeth Olwynion Sgraffinio Wedi’i deilwra
Adnewyddi Nwy ACS Wedi’i deilwra
Dyfarniad mewn Gosodiadau Trydanol: Arolygu a Phrofi/Dilysu
Dyfarniad mewn Gosod a Chynnal a Chadw Systemau Dŵr Poeth
Solar
Cynnal a Chadw Tŷ Sylfaenol i Ddechreuwyr Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth COSHH Wedi’i deilwra
Diploma mewn Adeiladu (Peirianneg Sifil) 3
Diploma mewn Adeiladu a'r Amgylchedd Adeiledig
Cwrs Sylfaen mewn Gosodiadau Trydanol (CORE) 2
Cyflwyniad i Blastro Wedi’i deilwra
Rheoli'n Ddiogel IOSH Wedi’i deilwra
Rheoli'n Ddiogel IOSH - Gloywi Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth Legionella
deilwra
Ymwybyddiaeth o ofynion Codi a Chario Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Safle Newydd Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth o Anafiadau a Achosir gan Nodwyddau Wedi’i deilwra
Diploma Dilyniant mewn Gosodiadau Trydanol 2
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R)
2
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R) Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS)
Diogelwch Safle ac Ymwybyddiaeth Iechyd a Diogelwch
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle - Gloywi (SSSTS-R) Wedi’i deilwra
Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Goruchwyliwr Safle (SSSTS) Wedi’i deilwra
Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd Gwyrdd 2
Merched yn y maes Adeiladu Wedi’i deilwra
Weldio i Fenywod Wedi’i deilwra
Ymwybyddiaeth Gweithio o Uchder Wedi’i deilwra
ADDYSG A HYFFORDDIANT
Mae cymorth dosbarth mewn ysgolion yn hanfodol i helpu plant i wireddu eu llawn botensial. Os yw gweithio mewn rôl gefnogi yn apelio atoch chi, mae ein cymwysterau addysg ac addysgu yn ddewis gwych.
Gall helpu eraill i ddysgu fod yn hynod werth chweil a byddwch yn gweithio mewn gyrfa lle nad yw dau ddiwrnod yr un fath.
Gallech ddewis gweithio gyda phlant ifanc neu oedolion ifanc sydd ar fin annibyniaeth – chi biau’r dewis!
DYMA AMANDA
Roeddwn i eisiau datblygu fy sgiliau a chymhwyso fel cynorthwyydd
addysgu yn yr ysgol gynradd rydw i eisoes yn gyflogedig ynddi. Dewisais gwrs nos fel y gallwn i ffitio popeth
mewn. Byddwn yn argymell Coleg
Gwent yn fawr am ei gyrsiau a’r gefnogaeth anhygoel i fyfyrwyr.
AMANDA LOOKER
LEFEL 3 MEWN ADDYSGU
A DYSGU MEWN YSGOLION
EIN CYRSIAU
Iaith Arwyddion Prydain Mynediad 3
Iaith Arwyddion Prydain
Iaith Arwyddion Prydain
Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio
A WYDDOCH CHI
Mae tua
16,900
OBOBL
yn gyflogedig fel Cynorthwywyr Addysgu a swyddi perthnasol yng Nghymru
(Lightcast™, 2022)
PEIRIANNEG
Mae galw mawr am beirianwyr tra medrus, felly mae astudio cymhwyster peirianneg yn Coleg Gwent yn ddewis gwych ar gyfer gyrfa werth chweil ac amrywiol.
Gallwch chi hogi eich sgiliau mewn gweithdai o’r radd flaenaf gyda mynediad at offer llaw a pheiriannol traddodiadol, yn ogystal â pheiriannau modern a reolir gan gyfrifiadur a phrototeipio cyflym.
DYMA JOHN-MARC
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ym maes peirianneg ac ymunais â’r cwrs hwn i wella fy sgiliau a’m profiad trwy ddysgu seiliedig ar waith a rhan amser. Byddwn 100% yn argymell mynychu digwyddiad agored a siarad â chynrychiolwyr y cwrs, maen nhw’n wybodus iawn ac yn barod i ymateb i anghenion dysgu pob unigolyn.
JOHN-MARC COMPERAT
DIPLOMA LEFEL 2 MEWN PEIRIANNEG
Gall Peirianwyr Trydanol ennill hyd at £60,000 y flwyddyn
(O*NET Pathways 2024)
EIN CYRSIAU
Dyfarniad mewn Cynnal a Chadw a Phrofi Offer Trydanol (2377)Profi Offer Symudol (Profion PAT)
Tystysgrif
a Weldio) (NVQ)
(CAD)
Diploma mewn Peirianneg - Technoleg Cynnal a Chadw (Aml Sgiliau)
Diploma mewn Peirianneg (Peirianneg Trydanol)
Diploma mewn Peirianneg (Saernïo a Weldio)
Diploma mewn Peirianneg (Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu)
Weldio i Fenywod
Tystysgrif Estynedig
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
deilwra
SAESNEG I SIARADWYR IEITHOEDD ERAILL (ESOL)
Mae athrawon Coleg Gwent yn gynorthwyol iawn, nid yn unig ar y cwrs ond hefyd pryd bynnag y bydd angen help arna i, a bydd angen i mi ofyn cwestiynau. Cael cysylltiad â siaradwyr brodorol yw’r peth gorau am y cwrs hwn. Rwy’n teimlo’n gyfforddus yn astudio yn Coleg Gwent.
ANDRZEJ NOWAK
Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, bydd ein cyrsiau yn eich helpu i wella eich sgiliau.
Gallai gwella eich Saesneg eich helpu i ddod o hyd i waith, cyfathrebu’n well os oes gennych blant yn yr ysgol ac yn eich helpu wrth geisio cymorth neu siarad â’ch meddyg.
Gall ein cyrsiau eich helpu i: Wella’ch Saesneg - siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, gramadeg a geirfa.
Dysgu sut i ysgrifennu’n ffurfiol ac yn anffurfiol ar gyfer e-byst, llythyrau, eich CV ac ymgeisio ar gyfer swyddi.
Dysgu am fywyd yn y DU.
Dysgu am y sgiliau sydd eu hangen arnoch i gael swydd neu ddyrchafiad yn y gwaith.
Dysgu sut i gymhwyso mathemateg i’ch bywyd bob dydd, gan gynnwys mesur, cyllidebu a sut i ddarllen amserlenni.
EIN CYRSIAU
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Siarad a Gwrando) 1
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Siarad a Gwrando) 2
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Siarad a Gwrando) Mynediad 1
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Siarad a Gwrando) Mynediad 2
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Siarad a Gwrando) Mynediad 3
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Ysgrifennu) 1
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Ysgrifennu) 2
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Ysgrifennu) Mynediad 1
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Ysgrifennu) Mynediad 2
Dyfarniad mewn Sgiliau Bywyd ESOL (Ysgrifennu) Mynediad 3
ESOL - Lefel Ragarweiniol Wedi’i deilwra
ESOL RORO 2
ESOL RORO Mynediad 1
ESOL RORO Mynediad 2
ESOL RORO Mynediad 3
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
Os hoffech ymuno â chwrs ESOL yn Coleg Gwent, gallwch ddechrau drwy gysylltu â’r Ganolfan Ymestyn. Bydd y Ganolfan Ymestyn yn cynnal asesiad iaith, yn eich cynghori ynghylch pa gwrs fyddai fwyaf addas i chi, ac yn trefnu i chi ymrestru yn y Coleg.
Cysylltwch â’r Ganolfan Ymestyn: Ffôn: 07805 272916 E-bost: Reachnewport@gmail.com
Cyfeiriad: Canolfan Ymestyn, 23 Stryd y Deml, Pillgwenlli, Casnewydd, NP20 2GJ
TGAU
Mae Mathemateg a Saesneg yn asedau hanfodol yn y farchnad swyddi heddiw, yn ogystal â bywyd bob dydd.
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio am ymgeiswyr sydd yn meddu ar raddau TGAU A* i C mewn Mathemateg a Saesneg. Felly, os na chawsoch y graddau Saesneg a Mathemateg sydd eu hangen arnoch ar gyfer y dyfodol rydych chi am ei gael, gallwn ni roi cyfle arall i chi eu gwella.
EIN CYRSIAU
Fel arall, os ydych yn gobeithio helpu eich plentyn neu ddibynnydd i ffynnu wrth astudio ar gyfer ei TGAU, gall ein cyrsiau pwrpasol fod o gymorth. Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os
TGAU Mathemateg - Haen Uwch 2
Sgiliau Llythrennedd (Saesneg cyn TGAU)
Sgiliau Rhifedd (Mathemateg cyn TGAU)
Cefnogi eich Plentyn drwy TGAU Saesneg
Cefnogi eich Plentyn drwy TGAU Mathemateg
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Lefel CampwsSGILIAU DYSGU ANNIBYNNOL
Cynigiwn ystod o gyrsiau sy’n addas ar gyfer myfyrwyr o amrywiaeth o gefndiroedd a galluoedd addysgol.
Yn ogystal â dysgu sgiliau ymarferol, byddwn yn helpu i gynyddu eich hunan-barch a hyder. Byddwch yn cwmpasu cymysgedd o sgiliau galwedigaethol a chreadigol megis celf a chrefft, coginio, garddio a TG, yn ogystal â pharhau i wella eich llythrennedd, rhifedd a sgiliau hanfodol eraill. Byddwch hefyd yn mynd ar deithiau ac yn ymweld â lleoedd fel amwynderau lleol, amgueddfeydd ac atyniadau twristiaid, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau codi arian a menter.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol gan fod anghenion pob myfyriwr yn cael eu hystyried ar sail unigol; byddwn yn sicrhau eich bod yn cael eich ymrestru ar gwrs sy’n addas i chi. Byddwch hefyd yn cael cyfle i fynychu rhaglen bontio lle gallwch gwrdd â’r tiwtoriaid, mynychu rhai sesiynau a dod i adnabod y coleg cyn i chi ddechrau.
EIN CYRSIAU
Tystysgrif mewn Byw’n Annibynnol - Sgiliau Oedolion
THERAPI TRIN GWALLT A HARDDWCH
Os oes gennych ddiddordeb mewn gyrfa yn y sector byth-gynyddol gwallt a harddwch, mae gennym ddewis enfawr o gyrsiau i chi ennill y cymwysterau sydd eu hangen arnoch, o sgiliau trin gwallt sylfaenol i wybodaeth gyflenwol ynghylch therapi modern.
Cynigiwn ystod eang o dechnegau a dulliau penodol i’ch helpu i arbenigo ym maes y diwydiant sy’n apelio fwyaf atoch. Mae cyrsiau ar gael ar ystod o wahanol lefelau, sy’n golygu fod rhywbeth at ddant pawb.
DYMA KEMRON
Rydw i eisiau dod yn farbwr hollol gymwys ac agor fy musnes fy hun ryw ddydd. Ar y cwrs, rwy’n gallu arddangos fy sgiliau ynghyd â rhyngweithio â phobl a chael effaith hapus arnyn nhw.
KEMRON WELCH
BARBRO LEFEL 2
EIN CYRSIAU
Dylunio Celf Corff
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
EIN CYRSIAU
Diploma mewn Technoleg Ewinedd
Diploma mewn Effeithiau Arbennig Theatraidd, Gwallt a Cholur y Cyfryngau (Oedolion)
Diploma mewn Trin Gwallt Menywod a Dynion
Colur Artistiaid Drag
Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau (Oedolion)
Laminiad Aeliau
Gwallt ar gyfer Rhieni (Steilio Gwallt Plant gan Rieni)
Gwallt i Fyny
Trin Gwallt (Oedolion)
Gwasanaethau Estyniadau Gwallt
Cyflwyniad i Dylino’r Corff
Cyflwyniad i Guddliwio Cosmetig
Cyflwyniad i Dorri Gwallt
Cyflwyniad i Driniaethau Llygaid
Cyflwyniad i Baentio Wyneb
Cyflwyniad i Driniaethau Dwylo ac Ewinedd
Cyflwyniad i Gelf Henna
Cyflwyniad i Golur Parti
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Bermio Gwallt Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Adweitheg
Wedi’i deilwra
Cyflwyniad i Effeithiau Arbennig Wedi’i deilwra
Estyniadau Amrannau 3
Codi Amrannau
Triniaeth Dwylo/Traed
Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
GYRFAOEDD POSIB
Technegydd Ewinedd
A WYDDOCH
Artist Colur Arbenigol
Perchennog Salon Gwallt
Therapydd Tylino
Mae 62.5% o bobl sy’n gweithio yn y sector gwallt a harddwch yn HUNANGYFLOGEDIG
(NHBF 2023)
Therapydd Harddwch
IECHYD A DIOGELWCH, CWNSELA A GOFAL
Gall ein cyrsiau mewn iechyd, gofal a’r blynyddoedd cynnar eich arfogi â’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo mewn nifer o wahanol yrfaoedd.
Mae cyrsiau cwnsela achrededig AIM ar gael ar lefelau 2, 3 a 4 yn ogystal ag amrywiaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf a chyrsiau gofal. Gall ein cyrsiau rhan-amser hyblyg eich helpu i gyflawni eich nodau personol a gyrfaol, p’un a ydych am wneud cynnydd yn eich rôl bresennol neu newid gyrfa.
Rydw i wedi bod yn gweithio fel trydanwr cymwysedig am yr 20 mlynedd diwethaf, ond nawr rydw i eisiau newid gyrfa a dilyn rhywbeth rydw i wir yn angerddol drosto. Er mwyn cyflawni fy nod hirdymor o ddod yn gwnselydd cymwys, rwy’n bwriadu cwblhau fy nghymwyster lefel 4 ar ôl astudio a phasio lefel 2.
NATHAN EVANS
CWNSELA LEFEL 3
EIN CYRSIAU
Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith
Dyfarniad mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith
Tystysgrif mewn Uwch Ymarferwyr mewn Ysgolion a Cholegau
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela
Tystysgrif mewn Sgiliau Cwnsela
Tystysgrif mewn Deall Awtistiaeth
Tystysgrif mewn Deall Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc
Tystysgrif mewn Deall Anawsterau Dysgu Penodol
Gofal, Chwarae, Dysg a Datblygiad Plant: Craidd ac
a Theori
Diploma mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Egwyddorion a Chyd-destunau
Cymorth Cyntaf ar gyfer Plant, yn cynnwys Arddangosiad Epi Pen
a Gofal Cymdeithasol: CRAIDD
Cyflwyniad i Ofal Plant
Paratoi ar gyfer Mynediad i Gwrs Nyrsio
Dilyniant i Fynediad
i Waith Chwarae
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
deilwra
deilwra
deilwra
deilwra
A WYDDOCH CHI?
Gall Cwnselydd profiadol ennill hyd at
y
MODURO
Ein cyrsiau modurol yn darparu ar gyfer selogion ceir sydd am ddysgu sgiliau newydd, y rheini sydd am ddechrau gyrfa yn y diwydiant moduro a gweithwyr proffesiynol sydd am uwchsgilio.
Cynigiwn amrywiaeth o gyrsiau cerbydau trydan lle gallwch ddysgu sgiliau cyfoes ar ein cerbydau o’r radd flaenaf, gan gynnwys Tesla. Cynigiwn hefyd ardystiadau ar gyfer cydymffurfio â’r MOT, ynghyd ag amrywiaeth o gyrsiau mewn atgyweirio cyrff cerbydau a gwaith paent.
Roeddwn i’n nerfus iawn wrth ddod i’r coleg fel dysgwr aeddfed a gwneud rhywbeth nad oeddwn wedi ei wneud o’r blaen, ond dyma’r penderfyniad gorau a wnes i erioed. Dim ond cwpl o ferched sydd yn fy nosbarth, ond er gwaethaf hynny, rwy’n teimlo fel dw i’n ffitio i mewn i’r dosbarth - maen nhw i gyd yn groesawgar. Rydw i wrth fy modd yn dysgu pob manylyn am geir a’r diwydiant ceir. Mae’r cyfleusterau yma’n wych ac yn debyg i safon y diwydiant y byddech chi’n dod o hyd iddi yn y rhan fwyaf o fodurdai.
COURTNEY WILLIAMS
CYNNAL A THRWSIO CERBYDAU
DYMA COURTNEY
EIN CYRSIAU
Paent ATA - Uwch Dechnegydd
Wedi’i deilwra
Dyfarniad mewn Ymwybyddiaeth o Gerbydau Hybrid/Trydan 1
Dyfarniad mewn Gweithgareddau Cynnal a Chadw Cerbydau
Hybrid/Trydan Arferol
2
Dyfarniad mewn Atgyweirio ac Ail-osod Systemau Cerbydau Hybrid/Trydan 3
Dyfarniad mewn Gweithredu a Chynnal a Chadw Cerbydau Trydan/Hybrid 2
Dyfarniad mewn Rheoli Canolfan Profion MOT 3
Dyfarniad mewn Profion MOT
Cynnal a Chadw Ceir Sylfaenol i Ddechreuwyr
Cwrs Cynnal a Chadw / Adnewyddu Cerbydau Sylfaenol
Tystysgrif Technegydd Archwilio Cerbydau Ysgafn
2
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Diploma mewn Atgyweirio wedi Damwain (Corff a Phaent) 3
Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur 2
Diploma mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio (Beiciau Modur) 3
Cyflwyniad i Atgyweirio Corff Car
Asesiad Blynyddol MOT
Cynnal a Chadw Cerbydau i Fenywod
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
A WYDDOCH CHI?
Gallai peirianwyr modurol profiadol ennill hyd at £40,000 y flwyddyn
(O*NET Pathways 2023)
CHWARAEON, FFITRWYDD AC IECHYD
Os ydych chi’n angerddol dros chwaraeon a ffitrwydd, yna rydych chi yn y lle cywir!
Cynigiwn amrywiaeth o gyrsiau a fydd yn eich helpu i arbenigo mewn unrhyw faes o’ch diddordeb. Boed hynny’n hyfforddiant personol, hyfforddiant ymarfer grŵp, tylino chwaraeon neu ymarfer corff cadair, mae gennym ni gwrs a all eich helpu i gyflawni’ch nodau.
Ein campfeydd ag offer da yw’r lleoliadau perffaith i ddysgu a datblygu ynddynt, gan eich helpu i gyflawni eich nodau ffitrwydd neu yrfa personol. Mae cyrsiau hefyd yn rhedeg trwy gydol y flwyddyn ar amseroedd a dyddiadau cyfleus, sy’n golygu bod cymryd y cam nesaf hwnnw’n agosach nag y tybiwch.
DYMA DANIEL
Fy nghyflawniad mwyaf wrth astudio’r
cwrs yw dod â fy hun allan o fy mharth cysur. Rydw i eisiau mynd ymlaen a dod o hyd i yrfa ym maes hwn a helpu pobl i gyrraedd lle maen nhw eisiau bod. Fy nghyngor i unrhyw un sydd eisiau astudio cwrs rhan amser yw astudio cymaint ag y gallwch ond hefyd cael hwyl.
DANIEL AWATAR
HYFFORDDI YN Y GAMPFA LEFEL 2
EIN CYRSIAU
Dyfarniad
Dyfarniad mewn Cyflwyno Ymarfer Corff sy’n Seiliedig ar Gadair
Dyfarniad
Ffitrwydd (Ymarfer Corff i Gerddoriaeth)
Dyfarniad mewn Arwain Ymarfer Grŵp -Hyfforddiant Cylchol
Arwain Ymarfer Grŵp - Seiclo Dan Do
Dyfarniad mewn Arwain Ymarfer Grŵp - Ymarfer Step i Gerddoriaeth
Dyfarniad mewn Arwain Ymarfer Grŵp - Ymarfer Corff mewn Dŵr
Dyfarniad mewn Arwain Ymarfer Corff Grŵp: Ymarfer Corff i Gerddoriaeth - Arddull Rydd
Dyfarniad
Tystysgrif
Tystysgrif mewn Ymarfer
Kettlebell
ar gyfer Rheoli Poen yng
mewn Addysgu Pilates (Ymarferydd)
Profi a Hyfforddi Ffitrwydd Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol i beidio â’u rhedeg.
GWYDDONIAETH
Astudiwch gwrs gwyddoniaeth rhan amser yn Coleg Gwent a chael cipolwg hynod ddiddorol ar sut mae’r byd o’n cwmpas yn gweithio.
Ein cwrs gwyddoniaeth lefel mynediad yw y cam cyntaf delfrydol tuag at ddilyn cyrsiau lefel 2 neu 3, yn ogystal ag amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous.
A WYDDOCH CHI?
Gall Gwyddonwyr Fforensig profiadol ennill hyd at £45,000 y flwyddyn
(National Careers Service, 2023)
EIN CYRSIAU
Cyflwyniad i Wyddoniaeth Wedi’i deilwra
Noder: Gall cyrsiau gael eu newid a’u canslo os bernir ei bod hi’n ymarferol
Lefel CampwsCYFRIFON DYSGU PERSONOL
Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, cyrsiau am ddim sy’n rhoi’r sgiliau a’r cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt yw y rhain, a fydd yn eich helpu i wneud cynnydd yn eich gyrfa bresennol neu wneud y newid hwnnw.
I fod yn gymwys i wneud cais am gwrs, rhaid i chi fod dros 19 oed, yn byw yng Nghymru ac yn gyflogedig, gan ennill o dan gap cyflog.*
MAE YNA GYMAINT O FANTEISION O GYMRYD CWRS PLA:
Cymwysterau Achrededig AM DDIM
Hyblyg - Yn cyd-fynd ag ymrwymiadau presennol
Yn seiliedig ar sgiliau mewn galw
Dewis – Gellir dewis o blith dros 70 o gyrsiau
Ewch i www.coleggwent.ac.uk/pla i wneud cais
*Mae gan rai cyrsiau gap cyflog ond nid oes gan gyrsiau Digidol a Sero Net unrhyw derfyn cyflog uwch.