PAPUR BRIFFI POLISI Adrodd ar gynnydd ar Fesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru Cyflwyniad Mae Confensiwn 1989 y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol 1 yn cofnodi cyfres glir o egwyddorion a safonau i wireddu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer plant. 2 Mae’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cynnwys hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol ac yn darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer gwerthuso deddfwriaeth, polisïau a strwythurau penderfynu cyfredol ac arfaethedig. Pan fo Gwladwriaeth yn mabwysiadu Confensiwn Hawliau’r Plentyn, mae’n ymrwymo o dan gyfraith ryngwladol i’w weithredu. Gweithredu yw’r broses lle mae Gwladwriaeth yn rhoi camau ar waith er mwyn sicrhau bod yr holl hawliau yn y Confensiwn yn cael eu cyflawni ar gyfer pob plentyn yn eu hawdurdodaeth. Er mai’r Wladwriaeth sy’n ymrwymo i’r Confensiwn, er mwyn rhoi’r Confensiwn ar waith a sicrhau hawliau dynol i blant mae angen cynnwys pob sector o’r gymdeithas ac, yn amlwg, y plant eu hunain. Mae’n hollbwysig sicrhau bod pob deddfwriaeth ddomestig yn gwbl gydnaws â’r Confensiwn a bod modd cymhwyso egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn yn uniongyrchol a’u gorfodi’n briodol.
Mae’r mesurau gweithredu cyffredinol (erthyglau 4, 42, 44.6) yn ymwneud yn eu hanfod â datblygu safbwynt hawliau plant ledled y llywodraeth, y senedd a chyrff deddfwriaethol, yn ogystal â’r farnwriaeth. Mae’n ofynnol eu bod yn hyrwyddo holl fanteision hawliau’r CCUHP, o ymgorffori’r CCUHP mewn deddfwriaeth ddomestig, i sefydlu cyrff cydgysylltu a monitro (llywodraethol ac annibynnol), casglu data cynhwysfawr, codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant, monitro cyllidebau a datblygu cynlluniau gweithredu ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n seiliedig ar y CCUHP. Y mesurau gweithredu cyffredinol yw’r sylfeini sy’n sicrhau bod safonau hawliau’r plentyn yn safonau sefydliadol sy’n rhaid eu dilyn. Mae’r adroddiad byr hwn yn deillio o adroddiad gan Achub y Plant ar gyfer y DU gyfan, “Governance fit for Children: to what extent have the general measure of implementation of the CRC been realised in the UK”, ac mae’n pwyso a mesur y cynnydd yn y mesurau gweithredu cyffredinol sy’n ymwneud yn benodol â’r sefyllfa yng Nghymru.
Daeth Optional Protocol on the sale of children, child prostitution and child pornography, General Assembly resolution A/RES/54/263 of 25 May 2000, i rym ar 18 Ionaawr 2002 a daeth Optional Protocol on the involvement of children in armed conflicts, General Assembly resolution A/RES/54/263 of 25 May 2000, i rym ar 12 Chwefror 2002 2 Diffinnir gan Erthygl 1 fel ‘pob person o dan 18 oed’ 1
P1
Mae adroddiad y DU gyfan yn cydnabod y gellir disgrifio Cymru heb os fel arweinydd y DU o safbwynt datblygu’r mesur gweithredu cyffredinol, serch hynny, mae llawer o waith i’w wneud o hyd cyn i ni allu eu gweithredu’n llawn a chyn i’r strwythurau sy’n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd gael eu perffeithio’n ddigonol er mwyn gwireddu newidiadau ym mywydau plant ledled Cymru. Fel rhan o’r adroddiad hwn, mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru 3 sy’n cael ei gadeirio a’i gydgysylltu gan Achub y Plant, yn gwneud argymhellion i’r Llywodraeth i roi cyngor ar sut y gallant wneud cynnydd pellach wrth weithredu elfennau sylfaenol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Rhian Croke, Swyddog Polisi Hawliau’r Plentyn Achub y Plant a Chydlynydd Gr p Monitro CCUHP Cymru, Gorffennaf 2011 r.croke@savethechildren.org.uk
Ymgorffori’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn “Er mwyn rhoi ystyr i hawliau, mae’n rhaid cael dulliau effeithiol o unioni’r cam” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi pwysleisio ei fod yn disgwyl i lywodraethau gymryd pob mesur priodol er mwyn i’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn gael grym cyfreithiol yn eu systemau cyfreithiol domestig. Mae cynnwys y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn y gyfraith ddomestig yn golygu sicrhau bod polisïau a deddfwriaeth newydd yn bodloni hawliau’r plentyn a bod awdurdodau cyhoeddus yn gwbl atebol am gynnal hawliau dynol plant. Mae’r Pwyllgor yn nodi’n glir y dylai ymgorffori olygu y gellid galw’n uniongyrchol ar ddarpariaethau’r Confensiwn ger bron y 3
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn gynghrair genedlaethol o Gyrff Anllywodraethol a sefydliadau academaidd, sy’n cael ei gadeirio a’i gydgysylltu gan Achub y Plant ac sydd â’r dasg o fonitro a hyrwyddo gweithrediad y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru
llysoedd i’w defnyddio gan awdurdodau cenedlaethol. Mae’n rhaid i hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol, yn ogystal â hawliau sifil a gwleidyddol fod yn draddodadwy. 4 Yn 2002, anogodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig lywodraeth y DU i ymgorffori hawliau, egwyddorion a darpariaethau’r Confensiwn i mewn i gyfraith ddomestig ac yn 2008 argymhellodd y gallai Parti’r Wladwriaeth fanteisio ar y cyfle a geir yn hyn o beth trwy ddatblygiad Mesur Hawliau Gogledd Iwerddon a Mesur Hawliau Prydain gan ymgorffori ynddynt egwyddorion a darpariaethau’r CCUHP. 5
Datblygiadau yng Nghymru Er na fu llawer o gynnydd ledled y DU, cafwyd datblygiadau sylweddol yng Nghymru. Gwelwyd parhad yn ymrwymiad cyson Llywodraeth Cymru a’r Cynulliad Cenedlaethol pan nododd Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru ar y pryd, ei ymrwymiad gwleidyddol ar 14 Gorffennaf 2009 6 i archwilio ymhellach y posibilrwydd o gynnwys egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn y gyfraith ar ran plant Cymru. Yn gynnar yn 2010, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar Fesur drafft arfaethedig ar gyfer Hawliau Plant a Phobl Ifanc. Roedd yr ymgynghoriad yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynnig. 7 Roedd y ddogfen i’w chanmol am gynnig y byddai gan Weinidogion Cymru ddyletswydd i roi sylw dyledus i Ran 1 y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol, gan ei gwneud yn ofyniad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (erthygl, 4, 42 a 44 para 6). 5 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 11. 6 Datganiad llafar Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru (14 Gorffennaf 2009), Rhaglen Ddeddfwriaethol 2009-10 Llywodraeth Cynulliad Cymru. 7 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2010) Cynigion ar gyfer ‘Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)’ 4
P2
cyfreithiol i’r safonau rhyngwladol hyn gael eu hystyried fel rhan o benderfyniadau Gweinidogol a datblygiad polisi yng Nghymru. Fodd bynnag, cynigiwyd y byddai effaith y ddyletswydd yn cael ei chyfyngu i ‘benderfyniadau o naws strategol’, a oedd yn groes i’r argymhelliad ar gyfer darpariaeth hollgynhwysol a fyddai’n cael effaith dreiddiol ar weithrediadau Gweinidogion Cymru wrth iddynt gyflawni eu holl swyddogaethau. Drwy drafodaethau a gweithdai gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal ag arbenigwyr o Gymru, y DU a’r Cenhedloedd Unedig, a thystiolaeth ysgrifenedig a llafar pellach a roddwyd i’r Pwyllgor Cynulliad perthnasol, parhaodd Grŵp Monitro CCUHP Cymru i ymgyrchu dros fesur treiddiol. Yn y pen draw, llwyddodd yr ymdrechion hyn a chyflwynwyd gwelliannau’n unol â hynny gan y llywodraeth yn ystod Cyfnod 2 o lwybr deddfwriaethol y Mesur. Arweiniodd ymgyrchu cadarn y sector anllywodraethol at basio mesur y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar 18 Ionawr 2010 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth unfrydol yr holl bleidiau a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 16 Mawrth 2011. Bydd y ddyletswydd gyfreithiol ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus 8 i’r hawliau a’r ymrwymiadau yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) a’i Brotocolau Dewisol wrth gyflawni eu holl swyddogaethau, yn cael ei chyflwyno mewn dau gam: yn gyntaf ar gyfer gwneud cyfraith neu bolisi newydd ac adolygu polisïau cyfredol o 1 Mai 2012, ac yna bydd ar gyfer i holl swyddogaethau Gweinidogion Cymru o 1 Mai 2014. Mae hefyd yn cyflwyno’r ddyletswydd i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o’r CCUHP.
8 Mae’r ddyletswydd ‘sylw dyledus’ yn addas i gyd-destun Cymru o ddatganoli. Mae’n arwain at newid cadarnhaol yn weinyddol, ond ni fydd yn effeithio ar rwymedïau barnwrol yn y llysoedd yng Nghymru. Mae hyn yn briodol o ystyried cyfnod penodol y datganoli yng Nghymru a chan fod Cymru yn rhannu ei system gyfreithiol â Lloegr.
Mae’r ddeddfwriaeth yn cyflwyno cynllun plant a fydd yn nodi’r trefniadau y bydd yn rhaid i Weinidogion Cymru eu rhoi ar waith er mwyn cydymffurfio â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol iddynt ymgynghori â rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys Comisiynydd Plant Cymru, y sector gwirfoddol yn ogystal â’r plant a’r bobl eu hunain wrth ddatblygu’r cynllun. Mae’r ddeddfwriaeth arloesol yn unigryw yn y DU ac yn ymateb i waith lobio effeithiol ac ymrwymedig gan Grŵp Monitro CCUHP Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf o ddatganoli, yn galw ar Lywodraeth yng Nghymru i fod yn atebol i blant wrth wireddu eu hawliau. Mae’n hollbwysig yn awr fod Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cyfle a gynigir gan y ddeddfwriaeth hon i wireddu hawliau plant ledled Cymru ac yn dyrannu adnoddau ariannol a dynol digonol i’w gweithredu’n effeithiol. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn darparu adnoddau digonol (dynol ac ariannol) i weithredu Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). o Gweithio’n effeithiol gyda Chomisiynydd Plant Cymru, y Sector Gwirfoddol a phlant a phobl ifanc i ddatblygu’r gwaith o roi’r Mesur ar waith, sefydlu cynllun Plant a sefydlu cymuned ddeongliadol i ddatblygu’r egwyddor o ‘sylw dyledus’. o Sicrhau bod dulliau effeithiol yn cael eu datblygu i gynorthwyo’r Llywodraeth i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd, gan gynnwys asesu’r effaith ar hawliau plant ac asesu’r effaith ar gyllideb.
Cynllun gweithredu cenedlaethol ar hawliau plant “Os yw Llywodraeth gyfan ac ar bob lefel yn mynd i hyrwyddo a pharchu hawliau’r
P3
plentyn, mae’n rhaid iddi weithio ar sail strategaeth unol, gynhwysfawr sy’n seiliedig ar hawliau sydd wedi’i gwreiddio yn y Confensiwn” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn disgwyl i lywodraethau ddatblygu strategaeth genedlaethol gynhwysfawr neu gynllun gweithredu ar gyfer plant sy’n seiliedig ar y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Ym 1993, galwodd Datganiad a Rhaglen Weithredu Vienna a fabwysiadwyd gan Gynhadledd y Byd ar Hawliau Dynol ar lywodraethau i sicrhau bod y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei integreiddio i mewn i gynlluniau gweithredu hawliau dynol cenedlaethol. 9 Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi datblygu canllawiau manwl ar sut y dylid datblygu cynllun gweithredu a’r hyn y dylid ei gynnwys mewn cynlluniau gweithredu 10 : o Ystyried y Sylwadau Terfynol; o Ymwneud â sefyllfa pob plentyn ac â holl hawliau’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Dylid rhoi sylw arbennig i nodi a rhoi blaenoriaeth i grwpiau o blant difreintiedig sydd wedi’u hymyleiddio; o Eu datblygu drwy broses o ymgynghori, gan gynnwys ymgynghori â phlant a phobl ifanc; o Eu cefnogi gan lywodraeth ar y lefel uchaf a’u cysylltu â chyllidebau cenedlaethol; o Pennu targedau real a chyraeddadwy mewn perthynas â’r ystod lawn o hawliau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol plant yn hytrach na rhestru bwriadau da; o Dyrannu digon o adnoddau ariannol a dynol ar gyfer eu cyflawni;
Cynhadledd y Byd ar Hawliau Dynol, Vienna, 14-25 Mehefin 1993. “Datganiad a Rhaglen Weithredu Vienna” a ddyfynnwyd ym Mhwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (erthygl, 4, 42 a 44 para 6). 10 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. 9
o Eu dosbarthu’n eang, gan gynnwys ymhlith plant a phobl ifanc. Yn 2008, mynegodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig bryderon nad yw’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn cael ei ddefnyddio’n rheolaidd fel fframwaith ar gyfer datblygu strategaethau ac argymhellodd y dylai Parti’r Wladwriaeth fabwysiadu cynlluniau gweithredu cynhwysfawr i roi’r Confensiwn ar waith ym mhob rhan o’r DU. Anogodd ddyraniad cyllideb digonol a mecanweithiau atodol a gwerthuso er mwyn sicrhau bod cynnydd yn cael ei asesu’n rheolaidd a diffygion yn cael eu canfod. 11
Datblygiadau yng Nghymru Fel awdurdodaethau eraill y DU, nid oes gan Gymru gynllun gweithredu hawliau plant cenedlaethol sy’n bodloni safonau’r Cenhedloedd Unedig yn llawn, ond mae llawer o ddatblygiadau dymunol iawn wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf. Yn 2004, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol fel y gyfres drosfwaol o egwyddorion ar gyfer ei holl bolisi ar blant gan drosi’r Confensiwn yn saith nod craidd ar gyfer plant yng Nghymru. 12 Er yr ymrwymiad cadarnhaol hwn, mynegwyd pryder gan Gyrff Anllywodraethol Cymru yn eu hadroddiad amgen, ‘Aros, Edrych, Gwrando’, nad oedd “pob rhan o’r llywodraeth yn deall y nodau (yn enwedig y meysydd polisi hynny nad ydynt wedi bod yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc yn y gorffennol) ac yn aml iawn maent yn gorfod cystadlu â strategaethau a chynlluniau eraill y llywodraeth.” Mynegwyd siom hefyd nad oedd cynllun cenedlaethol clir a fframwaith monitro wedi’u datblygu ochr yn ochr â’r nodau craidd. Argymhellodd yr adroddiad “bod mwy o sylw’n cael ei roi i’r saith nod craidd ar gyfer plant a’u bod yn cael eu hadlewyrchu yng nghynllun strategol trosfwaol y llywodraeth” a bod Llywodraeth Cymru yn 11 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraffau 14 a 15 12 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2004) Plant a Phobl Ifanc: Gweithredu’r Hawliau.
P4
“cynhyrchu cynllun cenedlaethol er mwyn symud ymlaen â’r saith nod craidd gyda thargedau a cherrig milltir. 13 Ym mis Tachwedd 2009, ychydig dros flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r Sylwadau Terfynol cyhoeddwyd ‘Gwneud Pethau'n Iawn 2009: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn’. Disgrifiwyd yr adroddiad fel cynllun gweithredu treigl 5 mlynedd ac mae’n nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ymateb i argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig. Mae’n cynnwys 16 maes blaenoriaeth a 90 cam gweithredu arfaethedig sy’n cael eu cyfyngu gan amser. 14 Mae’r 16 o flaenoriaethau’n seiliedig ar ymateb Llywodraeth Cymru i gais Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig (yn ystod y broses adrodd) ar gyfer ei blaenoriaethau ar gyfer plant a ddatblygwyd ar ôl ymgynghori cyfyngedig â Chyrff Anllywodraethol yn ystod haf 2008. Yn ogystal â’r 16 maes blaenoriaeth, mae’r cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys gweithgareddau sy’n ymwneud â bwydo ar y fron, plant Sipsiwn a Theithwyr ac iechyd a gwasanaethau iechyd. Un mater allweddol a godwyd gan randdeiliaid yw nad yw Llywodraeth Cymru yn gallu mynd i’r afael yn llawn â rhai o argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hyd yn oed pan fo ewyllys gwleidyddol i wneud hynny oherwydd y cyfnod datganoli sydd ohoni yng Nghymru. Er enghraifft, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud â chyfiawnder ieuenctid, mewnfudo a chosbi plant yn gorfforol. Dyma’r ddogfen gyntaf o’i bath yng Nghymru ac mae’n rhaid ei chanmol er gwaethaf ambell wendid. Mae’n ddymunol iawn bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod mai dechrau’r daith yn unig yw ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’ ac mae’n ei disgrifio fel sylfaen ar
gyfer symud ymlaen - ‘dogfen fyw’ a fydd yn cael ei hadolygu’n rheolaidd. Dylid defnyddio’r mecanwaith newydd i fynd i’r afael â gwendidau’r ddogfen, er enghraifft, y diffyg cyllideb; yr argraff ei bod yn naratif o weithgarwch cyfredol o bryd i’w gilydd; diffyg eglurder o ran sut y mae’n ymgysylltu â’r ‘Saith Nod Craidd’; diffyg fframwaith monitro clir a chanlyniadau clir ar gyfer plant a phobl ifanc, a darlun anghywir ar adegau o sefyllfa Cymru o ran gweithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Mae anfodlonrwydd hefyd fod ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’ wedi’i ddatblygu ar ei ben ei hun heb gyfraniadau gan bob rhan o’r llywodraeth neu gysylltiad digonol â strategaethau a chynigion perthnasol eraill gan y llywodraeth. Fodd bynnag, dylai ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’ helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn y llywodraeth drwyddi draw. Hefyd, mae rhanddeiliaid yn credu ei fod yn darparu dull defnyddiol y gall Cyrff Anllywodraethol a Chomisiynydd Plant Cymru wneud Llywodraeth Cymru fod yn atebol iddo. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhwydwaith Cymorth o randdeiliaid allweddol i weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Nod y grŵp hwn yw sicrhau gyrru’r gwaith yn ei flaen a chyfrannu at ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer Cynllun Gweithredu ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’. Gobeithio y bydd y rhwydwaith hwn yn cynghori ar sut i wella rhai o’r pryderon a fynegwyd uchod. Mae’n allweddol i lwyddiant y cynllun gweithredu bod llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill yn cyfrannu at ostwng y bwlch o ran gweithredu’r polisi a nodwyd gan yr holl randdeiliaid yn ystod proses 2008 o adrodd ar y Confensiwn Hawliau’r Plentyn fel un o’r prif rwystrau i gyflawni hawliau plant. Ymddengys fod angen gwneud llawer mwy o waith yn y maes hwn.
13 Croke R, a Crowley A (golygyddion) Aros, Edrych, Gwrando: Sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Adroddiad Amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru. Achub y Plant 2007. 14 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Gwneud Pethau'n Iawn 2009: Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
P5
Mae Grwp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: Dylai Llywodraeth Cymru: o Adolygu eu ‘cynllun gweithredu’ er mwyn sicrhau ei fod yn cynnwys gwell fframwaith monitro gyda chamau gweithredu clir ac adnoddau digonol sy’n gyfyngedig ar amser yn ogystal â chanlyniadau clir ar gyfer plant a phobl ifanc. o Datblygu gwell cysylltiadau rhwng ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’ ac adrodd ar wybodaeth am gyllideb hawliau plant, y data a gesglir fel rhan o Fonitor Lles Plant a Phobl Ifanc a Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). o Gweithio gydag awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill i weithredu “Gwneud Pethau’n Iawn 2009” yn effeithiol cyn gynted â phosibl.
Cydgysylltu a monitro’r gwaith o weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn “…gall uned arbennig, o gael awdurdod ar lefel uchel – sy’n adrodd yn uniongyrchol, er enghraifft, i’r Prif Weinidog, y Llywydd neu Bwyllgor Cabinet ar blant - gyfrannu at y diben cyffredinol o wneud plant yn fwy amlwg yn y Llywodraeth ac at gydgysylltu er mwyn sicrhau parch at hawliau plant ledled y Llywodraeth ac ar bob lefel o Lywodraeth” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig wedi nodi bron bob tro wrth archwilio Partïon Gwladwriaeth bod yn rhaid annog cydgysylltiad pellach y llywodraeth er mwyn sicrhau gweithredu hawliau yn effeithiol. Mae angen cydgysylltiad effeithiol er mwyn sicrhau bod holl egwyddorion a safonau'r Confensiwn ar
Hawliau’r Plentyn ar gyfer pob plentyn yn cael eu parchu. Yn fwy na dim, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn pwysleisio, wrth gydgysylltu y dylid sicrhau nad dim ond adrannau sy’n effeithio’n sylweddol ar blant sy’n cydymffurfio â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, er enghraifft addysg ac iechyd, ond hefyd adrannau ledled y llywodraeth, er enghraifft y rhai sy’n gyfrifol am gyllid, trafnidiaeth a chyflogaeth. Nid yw Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn dweud beth yw’r ffyrdd gorau o gyflawni hyn, ond mae’n tynnu sylw at fanteision cael adran neu uned benodol yn agos i galon y llywodraeth i gydgysylltu’r gwaith gweithredu ac sy’n gyfrifol am ddatblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer plant a monitro’r gwaith o’i gweithredu, yn ogystal â chydgysylltu’r gwaith o adrodd o dan y Confensiwn. 15 Yn ogystal â galw am strwythurau cydgysylltu effeithiol, mae’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn hefyd yn argymell bod strwythurau monitro effeithiol yn cael eu gweithredu. Yn y ‘cyfarfod i goffau degfed pen-blwydd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: cyflawniadau a heriau’, argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig fod Partïon Gwladwriaeth yn gweithredu i sicrhau bod eu deddfwriaeth genedlaethol yn gwbl gyson â darpariaethau’r Confensiwn gan sefydlu mecanwaith i sicrhau bod yr holl fesurau deddfwriaethol a gweinyddol cyfredol ac arfaethedig yn cael eu hadolygu’n systematig i sicrhau eu bod yn gydnaws â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. 16 Mae’r Sylw Cyffredinol rhif 5 yn rhoi manylion pellach: Mae sicrhau bod buddiannau gorau’r plentyn yn cael ystyriaeth sylfaenol ym mhob cam gweithredu sy’n ymwneud â phlant a bod holl ddarpariaethau’r Confensiwn yn cael eu 15 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (erthygl, 4, 42 a 44 para 6). 16 Casgliadau gweithdy deuddydd: Cyfarfod i goffau degfed penblwydd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: cyflawniadau a heriau, a ddyfynnwyd yn Unicef (2002) Implemention Handbook for the Convention on the Rights of the Child, argraffiad diwygiedig.
P6
parchu mewn deddfwriaeth ac wrth ddatblygu a darparu polisi ar bob lefel yn y llywodraeth yn gofyn am broses barhaus o asesu’r effaith ar y plentyn. Mae angen cynnwys y broses hon ym mhob agwedd ar waith y llywodraeth a chyn gynted â phosibl wrth ddatblygu polisi. Yn ei Sylwadau Terfynol yn 2008, mynegodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig bryder am y diffyg mecanweithiau i asesu effaith ar y plentyn yn y DU. 17 Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hefyd yn pwysleisio bod gan Gyrff Anllywodraethol a phlant rôl hollbwysig wrth weithio gyda llywodraethau i fonitro’r gwaith o weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn: Mae angen i’r Wladwriaeth weithio’n agos gyda Chyrff Anllywodraethol yn yr ystyr ehangaf, gan barchu eu hymreolaeth. Roedd gan Gyrff Anllywodraethol ran hollbwysig wrth ddrafftio’r Confensiwn ac mae eu cyfraniad at y broses o’i weithredu yn hanfodol. 18
Datblygiadau yng Nghymru Yn y blynyddoedd diwethaf mae Cymru wedi cymryd nifer o gamau calonogol i sicrhau bod gweithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn gymharol uchel ar yr agenda wleidyddol. Mae mesurau wedi’u cymryd hefyd i wella cydgysylltiad ledled Llywodraeth Cymru. Sefydlwyd Gweinidog Plant gyda chyfrifoldeb am y Confensiwn yn 2002, a sefydlwyd Pwyllgor Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn 2003. Y Gweinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes oedd cadeirydd Pwyllgor y Cabinet a sefydlwyd Grŵp Swyddogion Plant a Phobl Ifanc i gefnogi ei waith. Roedd y Prif Weinidog hefyd yn aelod. Roedd cylch gorchwyl y Pwyllgor yn cynnwys sicrhau bod buddiannau plant a phobl ifanc yn cael blaenoriaeth ddyledus yn holl bolisïau’r Cabinet a Llywodraeth Cymru; goruchwylio 17 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 19. 18 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn (erthygl, 4, 42 a 44 para 6).
gweithrediad y Confensiwn yng Nghymru a ‘Saith Nod Craidd’ Llywodraeth y Cynulliad; a sicrhau bod dull strategol o ddatblygu polisïau a rhaglenni er mwyn cyflawni ymrwymiadau i blant a phobl ifanc. 19 Yn gynnar yn 2008, sefydlwyd Rhwydwaith Datblygu Plant a Phobl Ifanc “er mwyn hwyluso ymagwedd drawsbynciol, gydgysylltiedig at bob mater polisi sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc 0-25 oed”. Roedd yn cyfarfod bob mis i godi ymwybyddiaeth ymysg swyddogion Llywodraeth Cymru o’r CCUHP – ei egwyddorion a’i erthyglau unigol a’r graddau y maent yn effeithio ar feysydd polisi allweddol. 20 Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd y Pwyllgor Cabinet Plant a Phobl Ifanc yn gwneud cyfraniad pwysig i’r gwaith o adolygu cynnydd a chynlluniau diwygiedig mewn perthynas â Gwneud Pethau’n Iawn 2009. Mae’n hanfodol bod Pwyllgor y Cabinet yn mynd ati’n effeithiol i fonitro a sbarduno cynnydd. Mae angen mynd i’r afael â phryderon rhanddeiliaid nad yw Pwyllgor y Cabinet bob amser yn effeithiol. Yn union fel rhannau eraill o’r DU, mae diffyg adnoddau a dylanwad gwleidyddol yn parhau yn rhwystrau allweddol wrth gydgysylltu a monitro’r Confensiwn yn foddhaol ledled y llywodraeth yng Nghymru. Mae pryderon wedi bod yn ddiweddar fod hawliau plant yn dechrau llithro i lawr yr agenda wleidyddol yng Nghymru. Gellir cadarnhau’r ofn hwn yn rhannol o ystyried mai’r Dirprwy Weinidog dros Blant sy’n gyfrifol am y Confensiwn (roedd yn arfer bod yn rhan o bortffolio uwch Weinidog).Hefyd, ymddengys fod llai o weision sifil bellach yn gweithio ar gyflawni hawliau plant o ganlyniad i’r toriadau yn y gyllideb.
19 Gweler http://cymru.gov.uk/about/cabinetsubcommittes/cyp/?lang=cy 20 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Gwneud Pethau’n Iawn 2009 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cynllun Gweithredu treigl pum mlynedd ar gyfer Cymru yn nodi’r blaenoriaethau a’r camau allweddol y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgymryd â hwy mewn ymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2008.
P7
Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau dewr i wireddu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru ac mae’n unigryw yn y DU i fabwysiadu’r Confensiwn fel rhan o’i pholisi a’i deddfwriaeth. Mae’n bwysicach nag erioed ei bod yn cadw at ei haddewid i gyflawni’r agenda hon ar gyfer plant ac nad yw ei hymrwymiad i’r Confensiwn yn gwanhau.
Cydweithredu â chymdeithas sifil Rhwydwaith Cymorth Gweithredu Nid oes gan Lywodraeth Cymru grŵp ffurfiol o randdeiliaid sy’n canolbwyntio ar weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn er ei bod wedi sefydlu Rhwydwaith Cymorth o randdeiliaid allweddol i weithredu’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Nod y grŵp hwn yw gyrru’r gwaith yn ei flaen a chyfrannu at ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer Cynllun Gweithredu ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’. Roedd cryn oedi cyn sefydlu’r grp ŵa dim ond un cyfarfod sydd wedi bod ers mabwysiadu’r Cynllun Gweithredu yn 2009. Grŵp Monitro CCUHP Cymru Sefydlwyd Grŵp Monitro CCUHP Cymru ym mis Gorffennaf 2002 ac mae’n darparu llais beirniadol pwysig, ond adeiladol, ar y cyd sy’n monitro rhwymedigaeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i wireddu hawliau plant yng Nghymru. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn gynghrair genedlaethol o Gyrff Anllywodraethol ac asiantaethau academaidd, sy’n cael ei gadeirio a’i gydgysylltu gan Achub y Plant ac mae ei aelodau’n cynnwys Gweithredu dros Blant, Barnardos Cymru, Plant yng Nghymru, y Ddraig Ffynci, NSPCC Cymru ac academyddion cyfreithiol ac iechyd o Ganolfan Materion Cyfreithiol Cymru a Phrifysgolion Abertawe a Chaerdydd. Mae gan Lywodraeth Cymru statws arsyllwr ar y Grŵp Monitro, ac mae swyddogion yn mynychu ei gyfarfodydd yn rheolaidd i roi newyddion am weithgareddau gweithredu, ynghyd â’r Comisiynydd Plant, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Plant a phobl ifanc Nid oes mecanwaith ffurfiol ar gyfer cynnwys plant yn y gwaith o fonitro’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. Fodd bynnag, mae’r Ddraig Ffynci yn cynnig mecanwaith ffurfiol ar gyfer cyfranogiad plant yng Nghymru ac mae’n gwneud rhywfaint o waith mewn perthynas â monitro gweithrediad y Confensiwn, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ac sy’n derbyn cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae wedi colli cyllid yn ddiweddar mewn perthynas â chyfranogiad plant iau yn y maes hwn. Asesu’r effaith ar hawliau plant Fel y dywedodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig, un o’r dulliau gorau o roi’r Confensiwn ar Hawliau’r Plant ar waith mewn ffordd gadarn a strwythurol yw trwy asesu’r effaith ar hawliau plant. Trwy wneud hyn mewn ffordd effeithiol, gall asesu’r effaith ar hawliau plant roi man cychwyn ar gyfer safbwynt hawliau plant systematig yn y prosesau gwaith a phenderfynu ar gyfer gweithgareddau sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc. Hyd yma, ni chynhaliwyd unrhyw asesiadau o effaith ar hawliau plant o gymharu â’r hyn a wnaed mewn perthynas â chynaliadwyedd, cydraddoldeb a’r Gymraeg. Fodd bynnag, yn sgil cyhoeddi Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddatblygu dull o asesu effaith ar hawliau plant i’w ddefnyddio ledled y Llywodraeth i gefnogi cydymffurfiaeth â’r ddeddfwriaeth newydd. Rôl y Senedd Mae gan Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru rôl ffurfiol sef ystyried materion sy’n effeithio ar blant yng Nghymru ac archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, rhan o waith y Pwyllgor yw monitro gweithrediad y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ac annog Pwyllgorau eraill y Cynulliad i graffu ar bolisi mewn perthynas â chydymffurfio â’r Confensiwn. Nid yw’r Pwyllgor yn tueddu i edrych ar weithrediad y Confensiwn yn ei gyfanrwydd fel y Cydbwyllgor ar Hawliau Dynol ond mae’n cynnal ymchwiliadau ar
P8
faterion penodol sy’n effeithio ar blant neu ar grwpiau penodol o blant, er enghraifft, plant mewn gofal, mannau i chwarae, a rhianta yng Nghymru. Mae’n ystyried y Sylwadau Terfynol wrth wneud ei argymhellion. Mae hefyd wedi archwilio materion allweddol sy’n ymwneud â’r mesur gweithredu cyffredinol gan gynnal ymchwiliad i’r mater o roi lle mwy blaenllaw i blant mewn cyllidebau a’r broses o graffu ar y Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) cyn y broses ddeddfu. Nid yw’r Pwyllgor wedi archwilio ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’ eto. Mae’n hollbwysig fod Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn parhau â’i rôl o sicrhau bod penderfyniadau a pholisïau Gweinidogion Cymru’n cael eu craffu’n drawsbynciol a’u monitro. Mae angen adolygu ac archwilio rôl y Pwyllgor o ran darparu mecanwaith atebolrwydd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cydymffurfio â’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn sicrhau bod strwythurau gydag adnoddau digonol yn cael eu sefydlu sy’n hyrwyddo cydgysylltiad a monitro effeithiol o weithrediad y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ledled y Llywodraeth, gan gynnwys: Cryfhau rôl y Gweinidog Plant a Phobl Ifanc gyda chyfrifoldeb clir dros weithredu’r Confensiwn. o Parhau rôl Pwyllgor y Cabinet ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yn y gwaith o oruchwylio gweithrediad y Confensiwn. o Sicrhau bod uned drawsbynciol ar hawliau plant yn Llywodraeth Cymru gyda digon o awdurdod ac adnoddau. o Datblygu system i sicrhau cyfranogiad effeithiol plant a phobl ifanc yn y gwaith o fonitro a gweithredu’r Confensiwn.
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: o Yn parhau rôl hollbwysig y Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc er mwyn sicrhau bod y gwaith o graffu a monitro penderfyniadau a pholisïau Gweinidogion Cymru yn cael ei wneud yn drawsbynciol mewn perthynas â gweithredu’r Confensiwn a chydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru).
Casglu data “Mae casglu data digonol a dibynadwy ar blant, sydd wedi’i ddadgyfuno er mwyn gallu nodi gwahaniaethu a/neu wahaniaethau yn y ffordd y mae hawliau’n cael eu gwireddu, yn rhan hollbwysig o’r broses weithredu… Mae’n hollbwysig nid yn unig fod systemau casglu data yn cael eu sefydlu, ond bod sicrwydd hefyd fod y data a gesglir yn cael ei werthuso a’i ddefnyddio i asesu cynnydd o ran gweithredu… Er mwyn gwerthuso bydd angen datblygu dangosyddion sy’n gysylltiedig â’r holl hawliau a warantir gan y Confensiwn” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Yn ogystal â galw am ddigon o ddata wedi’i ddadgyfuno ar yr holl blant y gellir ei ddefnyddio i asesu’r broses weithredu, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig hefyd wedi cymeradwyo Gwladwriaethau sydd wedi cyflwyno asesiad cynhwysfawr blynyddol o ‘gyflwr hawliau plant’ yn eu hawdurdodaeth. Gall adroddiadau o’r fath, wrth eu dosbarthu a rhoi digon o gyhoeddusrwydd iddynt, roi ffocws ar gyfer trafodaeth am weithredu’r Confensiwn. Mae’r Pwyllgor hefyd yn pwysleisio bod angen cynnwys safbwyntiau plant wrth gasglu data gan ei bod yn amlwg mai dim ond y plant eu hunain sydd mewn sefyllfa i
P9
ddweud a yw hawliau’n cael eu cydnabod a’u gwireddu’n llawn. 21 Yn ei Sylwadau Terfynol yn 2002, argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig y dylai parti’r Wladwriaeth sefydlu system ledled y wlad lle mae data wedi’i ddadgyfuno’n cael ei gasglu am bob person dan 18 oed ar gyfer pob maes a gwmpesir gan y Confensiwn, gan gynnwys y grwpiau mwyaf agored i niwed, a bod y data hwn yn cael ei ddefnyddio i asesu cynnydd a chynllunio polisïau ar gyfer gweithredu’r Confensiwn. 22
Datblygiadau yng Nghymru Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc Cenedlaethol (y cyntaf yn 2008 a’r ail yn 2011) gydag ymrwymiad i lunio’r Monitor bob tair blynedd. Mae’r Monitor Lles Cenedlaethol yn coladu data yn ôl y saith nod craidd ac yn monitro bywydau plant a phobl ifanc mewn ffordd gyfannol, gan ddeall bod eu lles yn dibynnu ar sawl ffactor. Mae monitor 2011 hefyd yn cynnwys safbwyntiau’r plant eu hunain ar eu bywydau am y tro cyntaf. Mae hyn yn gychwyn da, ond mae angen dull mwy systematig o ganfod beth yw safbwyntiau plant a phobl ifanc ar wireddu eu hawliau. Mae’n hanfodol fod y data hwn yn cael ei gasglu’n gyson er mwyn i Lywodraeth allu gwneud penderfyniadau polisi priodol er lles gorau plant a phobl ifanc ledled Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu dangosyddion hawliau plant eto ac felly nid yw’n cyhoeddi data sy’n asesu’r holl hawliau penodol er ei bod yn casglu data amrywiol ar blant. Mae’r monitor wedi’i groesawu gan randdeiliaid, ond mae angen gwella’r ffordd o’i ddadgyfuno ac mae angen iddo ganolbwyntio’n fwy ar hawliau. Problem arall yw annigonolrwydd y data a gesglir ledled y DU yng nghyd-destun Cymru oherwydd nad yw’n cynnwys sampl digon 21 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2003) Sylw Cyffredinol rhif 5 Mesurau Gweithredu Cyffredinol y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn 22 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2002) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 19.
mawr ar gyfer Cymru neu nad yw gwybodaeth ar lefel ddatganoledig wedi’i ddehongli’n ddigonol. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn parhau i wella’r Monitro Lles Cenedlaethol i gynnwys dangosyddion hawliau plant a data wedi’i ddadgyfuno a chasglu safbwyntiau plant yn gyson. Mae Gŵrp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth y DU: o Yn sicrhau bod data’r DU gyfan yn cynnwys samplau sy’n ddigon mawr i sicrhau y gellir dehongli data sy’n ymwneud â phlant yn y gweinyddiaethau datganoledig.
Rhoi lle amlwg i blant mewn cyllidebau “Ni all yr un wladwriaeth ddweud a yw’n gwireddu hawliau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol plant ‘hyd eithaf maint yr adnoddau sydd ar gael iddynt’, fel sy’n ofynnol yn ôl erthygl 4, ac eithrio ei bod yn gallu nodi’r gyfran o gyllidebau cenedlaethol ac eraill a ddyrannir i’r sector cymdeithasol ac, o fewn hynny, i blant, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol….” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Trwy gyfrwng ‘Cyllideb Plant’ gall llywodraethau archwilio eu dyraniad o adnoddau er mwyn canfod i ba raddau y mae hawliau plant yn cael eu gweithredu: “Drwy archwilio pob elfen o waith cyllidebu llywodraeth ochr yn ochr â gwybodaeth am ganlyniadau a pherfformiad, mae gwaith cyllideb hawliau plant yn helpu i lunio darlun manwl o sut ac i ba raddau y mae hawl benodol plant yn cael ei gweithredu. O ganlyniad, mae’n haws nodi ymyrraeth benodol a newidiadau sydd eu hangen i
P10
gyflymu’r broses o gyflawni’r hawl hon i blant a gwella canlyniadau” 23 Mae gwaith cyllidebu cyfranogol plant (h.y. cynnwys plant yn y broses o wneud penderfyniadau cyllidebu) hefyd yn helpu i gynyddu tryloywder ac atebolrwydd llywodraeth. Yn ei 3ydd a’i 4ydd adroddiad cyfunol i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig, dywedodd Llywodraeth y DU nad yw’n bosibl darparu un ffigur cywir ar gyfer y DU,” nac asesiad o ganran y CMC sy’n cael ei wario ar blant oherwydd cyfuniad o ffactorau fel gweinyddiaeth ddatganoledig, gwahanol flaenoriaethau polisi a ffyrdd amrywiol o ddyrannu cyllidebau.” 24 Er bod Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn croesawu’r cynnydd mewn gwariant ar blant yn y blynyddoedd diwethaf, “mae’n parhau’n bryderus os na chynhelir dadansoddiadau cyllidebol ac asesiadau o effaith ar hawliau plant cyson, ni ellir nodi faint o wariant a ddyrannir i blant ledled Parti’r Wladwriaeth ac a yw hyn yn galluogi i bolisïau a deddfwriaethau gael eu gweithredu’n effeithiol”. 25 Roedd hyn yn gyson â’i argymhelliad yn 2002 y dylai Parti’r “Wladwriaeth gynnal dadansoddiad o bob cyllideb sectoraidd a chyfan ledled Parti’r Wladwriaeth a’r gweinyddiaethau datganoledig er mwyn dangos y gyfran sy’n cael ei gwario ar blant”. 26 Yn adroddiad Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn 2008, dywedodd y pedwar Comisiynydd Plant yn y DU nad yw dyrannu adnoddau [i blant] yn dibynnu ar angen a aseswyd, nid yw’n dryloyw, mae’r adnoddau am dymor byr yn aml, ac nid yw eu heffaith ar ganlyniadau ar gyfer plant yn cael eu gwerthuso bob tro. 27 Argymhellodd Comisiynwyr y DU y dylid ei Achub y Plant (2009) Children’s Budgets at the local level Llywodraeth y DU (2008) The Consolidated 3rd and 4th Periodic Report to the UN Committee on the Rights of the Child 25 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 18. 26 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2002) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 11. 27 Pedwar Comisiynydd Plant y DU (2008) Adroddiad Comisiynwyr Plant y DU i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 23 24
gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig nodi a gwerthuso effaith eu gwariant ar blant.
Datblygiadau yng Nghymru Yn 2006, yn dilyn adolygiad o wariant ar blant yng Nghymru a gomisiynwyd gan Achub y Plant, sef ‘A Child’s Portion’, 28 cydnabu Llywodraeth Cymru ei bod hi’n bwysig gallu nodi faint o wariant a ddyrannwyd i blant yng Nghymru. 29 Ar ôl hynny, “comisiynodd ddadansoddiad o ddarpariaeth ariannol ar gyfer plant yn ei chyllideb ar gyfer 2004-05 30 mewn ymateb i ofyniad i ddeall yr adnoddau sy’n cael eu gwario ar blant, er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu polisi, a chydymffurfio â chyfrifoldeb o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i adrodd ar y swm a chanran y cyllidebau cenedlaethol sy’n cael eu gwario ar blant”. 31 Er i’r dadansoddiad gael ei ddisgrifio fel un cymharol elfennol gan adroddiad amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru i Bwyllgor y Cenhedloedd Unedig, roedd hefyd yn cydnabod mai dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth Cymru neu unrhyw lywodraeth yn y DU geisio canfod beth yw’r gwariant ar blant 32 . Roedd hefyd wedi chwalu’r gred ei bod yn amhosibl gwneud hynny. Cynhaliwyd dadansoddiad pellach ar gyfer cyllideb 2006-07 ac ym mis Mawrth 2009 cyhoeddwyd bwletin ystadegol a oedd yn cyflwyno amcangyfrifon o’r gyfran a fyddai’n cael ei gwario ar blant rhwng 2007-08 a 201011. 33 Ar sail cynlluniau gwariant cyfredol, 28 Sefton, T., (2003), Achub y Plant, A Child’s Portion: Public Spending on Children in Wales 29 Dyfynnwyd yn Achub y Plant (2007) Aros, Edrych, Gwrando: Sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Adroddiad Amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru. 30 Darpariaeth Ariannol i Blant o fewn Cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru : nodyn technegol (Saesneg yn unig) 31 Ystadegau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Darpariaeth Ariannol i Blant o fewn Cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg yn unig) 32 Achub y Plant (2007) Aros, Edrych, Gwrando: Sut mae gwireddu hawliau plant yng Nghymru. Adroddiad Amgen Cyrff Anllywodraethol Cymru. 33 Ystadegau Cymru a Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Darpariaeth Ariannol i Blant o fewn Cyllideb Llywodraeth Cynulliad Cymru (Saesneg yn unig)
P11
rhagwelir y bydd y gyfran o gyllideb y Llywodraeth a gaiff ei dyrannu i blant yn parhau oddeutu 28% 34 Yn ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod “bod gennym lawer iawn o waith i’w wneud eto er mwyn darparu darlun mor gywir ag sy’n bosibl” 35 ond er bod hwn yn ddadansoddiad amrwd mae’n dangos parodrwydd Llywodraeth Cymru i roi argymhellion Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar waith. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i “wella tryloywder y gwaith o bennu cyllidebau ar gyfer plant a phobl ifanc” yn genedlaethol fel un o’i 16 blaenoriaeth. 36 Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen (a oedd yn cynnwys swyddogion polisi ac ariannol) yn 2010 i weithio tuag at well dealltwriaeth o ffyrdd cyfredol o wella’r dull o ragweld cyllideb a gwariant ar blant; ystyried materion perthnasol eraill fel cyllidebu cyfranogol a gwariant ar bobl dlawd; ac ystyriodd yr argymhellion a wnaed gan ymchwiliad Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru i’r gwaith o bennu cyllidebau plant. 37 Mae Llywodraeth Cymru yn arwain y ffordd yn y DU ac ar hyn o bryd mae’n cynnal dau brosiect i gryfhau cyfraniad plant at wneud penderfyniadau ar gyllidebau. Bydd y prosiect cyntaf, gan adeiladu ar waith blaenorol, yn datblygu adnodd newydd i blant wella eu gwybodaeth ariannol; bydd yr ail brosiect yn treialu nifer o brosiectau cyllidebu cyfranogol lleol a chenedlaethol.
34 Dyfynnwyd ym Mhwyllgor Plant a Phobl Ifanc Cynulliad Cenedlaethol Cymru (2009) Cyllidebu ar gyfer plant yng Nghymru 35 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Gwneud Pethau’n Iawn 2009 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cynllun Gweithredu treigl pum mlynedd ar gyfer Cymru yn nodi’r blaenoriaethau a’r camau allweddol y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgymryd â hwy mewn ymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2008. 36 Ibid. 37 Pwyllgor Cyllid Cynulliad Cymru, Adroddiadau gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â chyllideb ddrafft Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn parhau i wella’r systemau a/neu fecanweithiau sydd eu hangen i alluogi cynnal dadansoddiad rheolaidd (Datganiad Cyllideb Plant) o holl wariant y Llywodraeth ar blant yn ei holl gyllidebau yn y dyfodol. o Sicrhau bod y prosesau cynllunio ac adrodd yn gwneud y cysylltiadau rhwng cyllidebau a chanlyniadau yn fwy amlwg a thryloyw. o Datblygu’r cysylltiad rhwng adrodd gwybodaeth cyllidebol plant a phobl ifanc â’r Monitor Lles Plant a Phobl Ifanc, y Cynllun Gweithredu Blynyddol ar Hawliau Plant a’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru). o Sicrhau bod canllawiau ar gyfer cynlluniau plant a phobl ifanc awdurdodau lleol yn cynnwys canllawiau ar gyllidebu hawliau plant. o Parhau i ddatblygu systemau ar gyfer cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y gwaith o fonitro ac adrodd ar gyllideb Llywodraeth Cymru. o Targedu’r adnoddau mwyaf sydd ar gael i’r plant a’r bobl ifanc tlotaf sydd fwyaf agored i niwed. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol: o Yn llunio Datganiadau Cyllideb Plant a Phobl Ifanc, a phennu amserlenni ar gyfer y gwaith. o Gan adeiladu ar waith Llywodraeth Cymru, datblygu systemau ar gyfer cyfranogiad plant a phobl ifanc yn y gwaith o fonitro ac adrodd ar gyllidebau.
Sefydliadau hawliau dynol annibynnol “Mae sefydliadau hawliau dynol annibynnol yn fecanwaith pwysig ar gyfer hyrwyddo a sicrhau gweithrediad y
P12
Confensiwn ac mae’r Pwyllgor ar Hawliau’r Plentyn yn ystyried bod sefydlu cyrff o’r fath yn rhan o’r ymrwymiad a wneir gan Bartïon Gwladwriaeth wrth eu cadarnhau……” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Ym 1991, yn eu Cyfarfod i Goffau eu Degfed Pen-blwydd, 38 anogodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig y dylid sefydlu mecanweithiau monitro annibynnol ar gyfer hawliau plant. Dylent adeiladu ar ofynion y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a chydymffurfio ag ‘Egwyddorion Paris’ y Cenhedloedd Unedig – sef Egwyddorion a oedd yn ymwneud â statws a gweithrediad sefydliadau cenedlaethol ar gyfer amddiffyn a hyrwyddo hawliau dynol. 39 Cafwyd galwadau tebyg gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig yn 2003 40 a gan Uwch Gomisiynydd y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Hawliau Dynol yn 2005. 41 Mae Sylw Cyffredinol rhif 2 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn darparu canllawiau manwl pellach i Bartïon Gwladwriaeth ar y safonau gofynnol ar gyfer cyrff monitro annibynnol o ran hawliau plant, ynghyd â Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC). 42 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Safonau Gofynnol Hawliau’r Plentyn ar gyfer Gorchmynion a Phwerau Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol ar gyfer Plant: o Dylai Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol, os yw’n bosibl, fod ar sail 38 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (1999) Cyfarfod i Goffau 10fed Pen-blwydd. 39 Swyddfa Uwch Gomisiynydd y Cenhedleodd Unedig ar gyfer Egwyddorion Hawliau Dynol sy’n ymwneud â statws Sefydliadau Cenedlaethol (Egwyddorion Paris) a Fabwysiadwyd gan gynnig 48/134 y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Rhagfyr 1993 40 Cynnig Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (2004) a fabwysiadwyd gan y Cynulliad Cyffredinol 58/157. Hawliau’r Plentyn 41 Swyddfa’r Uwch Gomisiynydd ar gyfer Hawliau Dynol (2005) Hawliau’r Plentyn. Cynnig Hawliau Dynol 2005/44 42 Rhwydwaith Ombwdsmyn Plant Ewrop (ENOC) (2001) Safonau Sefydliadau Hawliau Plant Annibynnol ENOC
gyfansoddiadol a rhaid i’w cyfrifoldebau gorfodi fod o leiaf ar sail ddeddfwriaethol. o Dylai eu Mandad gynnwys y cyfle ehangaf posibl i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau dynol o Dylai’r ddeddfwriaeth gynnwys darpariaethau sy’n nodi swyddogaethau, pwerau a dyletswyddau penodol sy’n ymwneud â phlant sy’n gysylltiedig â’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’i Brotocolau Dewisol o Dylai Sefydliadau Hawliau Dynol Cenedlaethol gael yr holl bwerau angenrheidiol i’w galluogi i roi eu mandad ar waith yn effeithiol, gan gynnwys pwerau i wrando ar unrhyw berson a chasglu unrhyw wybodaeth a dogfen sy’n angenrheidiol er mwyn asesu’r sefyllfaoedd sy’n berthnasol i’w cymhwysedd. Ym 1993, mabwysiadodd Cynulliad Cenedlaethol y Cenhedloedd Unedig ‘Egwyddorion Paris’ sy’n ymwneud â statws sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol. Mae’r rhain yn rhoi canllawiau clir i Bartïon Gwladwriaeth ar gymhwysedd, cyfrifoldebau ac annibyniaeth sefydliadau hawliau dynol cenedlaethol. Yn 2008, galwodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Barti Gwladwriaeth y DU i sicrhau bod y pedwar Comisiynydd sefydledig yn cydymffurfio’n annibynnol ag Egwyddorion Paris a bod ganddynt awdurdod, ymhlith pethau eraill, i dderbyn ac ymchwilio i gwynion gan neu ar ran plant mewn achosion o droseddu yn erbyn eu hawliau. 43 Pryder arall yw bod Deddf Plant 2004 wedi cyflwyno cylch gwaith DU gyfan ar Gomisiynydd Plant Lloegr mewn perthynas â materion annatganoledig, er ei gylch gwaith statudol gwannach. Mae Comisiynwyr y DU yn pwysleisio y gallai hyn ddrysu plant yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon oherwydd y byddai disgwyl iddynt droi at 43 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraffau 16 a 17.
P13
Gomisiynydd Lloegr pe bai eu hachos pryder yn fater annatganoledig.
Datblygiadau yng Nghymru Fframwaith deddfwriaethol, cyllideb a gweithdrefn benodi Sefydlwyd Comisiynydd Plant Cymru gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ac ehangwyd ei bwerau o dan Ddeddf Comisiynydd Plant 2001. Ef oedd Comisiynydd Plant cyntaf i gael ei sefydlu yn y DU. Prif nod Comisiynydd Cymru wrth ymarfer ei swyddogaethau yw “diogelu a hyrwyddo hawliau a lles plant.” Mae ganddo’r cylch gwaith ehangaf o’r pedwar Comisiynydd Plant yn y DU a gall ymgymryd â gwaith achos ac ymchwiliadau unigol, er bod hyn yn cael ei gyfyngu gan adnoddau. Fodd bynnag, er yr elfennau cadarnhaol hyn, nid yw Comisiynydd Plant Cymru, fel y Comisiynwyr eraill yn y DU, yn cydymffurfio’n llawn ag Egwyddorion Paris. Fel y nodir uchod, ni all roi sylwadau’n uniongyrchol ar faterion polisi sy’n annatganoledig – mae’r rhain yn cynnwys mewnfudo, treth, a chyfiawnder ieuenctid – meysydd polisi sy’n cael effaith enfawr ar hawliau plant yng Nghymru. Problem arall yw nad yw Swyddfa’r Comisiynydd yn cael ei chyllido’n uniongyrchol gan y Cynulliad Cenedlaethol, ond gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn tanseilio ei hannibyniaeth yn sylweddol. Collwyd cyfle i roi atebolrwydd ariannol i’r Cynulliad Cenedlaethol o Dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (a ailddiffiniodd y berthynas rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru). Mae gan y Comisiynydd gryn dipyn o adnoddau (gyda chyllideb o £1.83 miliwn), er nad yw’r gyllideb wedi newid ers 2007/08. Disgwylir y bydd y Swyddfa yn wynebu toriadau o ystyried yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae plant yn cyfrannu at broses recriwtio’r Comisiynydd Plant a chredir bod hyn yn cael ei wneud yn dda iawn ar y cyfan. Mae’r penodiad yn cael ei wneud gan y Llywodraeth (y Prif Weinidog), ond yn cael ei adolygu gan y Cynulliad.
Ymgysylltu â phlant a Chyrff Anllywodraethol Mae sawl ffordd y gall plant gysylltu â’r Swyddfa, er enghraifft, drwy ei gwasanaeth ymchwilio a chynghori a thrwy ymweliadau rheolaidd iawn y mae’r Comisiynydd yn eu gwneud â phlant a phobl ifanc. Mae’r Swyddfa’n ymgysylltu’n sylweddol â Chyrff Anllywodraethol, er enghraifft mynychu cyfarfodydd Grŵp Swyddogion Polisi Cyrff Anllywodraethol yng Nghymru, statws arsyllwr ar Grŵp Monitro CCUHP Cymru ac is-grŵp Erthygl 42 (gweler isod), cyfrannu at y Consortiwm Cyfranogi a’r Uned Gyfranogi (sy’n cael eu cynnal gan Achub y Plant) ac mae’n cydweithio’n frwd â’r Ddraig Ffynci. Mae Prif Weithredwr y Swyddfa’n cyfarfod yn rheolaidd â phenaethiaid sefydliadau plant yng Nghymru ac mae’r swyddfa hefyd yn ymgysylltu’n rheolaidd â sefydliadau plant lleol. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn diwygio deddfwriaeth i sicrhau bod Comisiynydd Plant Cymru yn cydymffurfio’n llawn ag Egwyddorion Paris a Sylw Cyffredinol Rhif 2. o Trosglwyddo cyllid y Comisiynydd Plant o Lywodraeth Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. o Galluogi Comisiynydd Plant Cymru i ymchwilio i unrhyw fater sy’n effeithio ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru a rhoi sylwadau ar y mater.
Gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth “Os nad yw’r oedolion o gwmpas plant yn deall goblygiadau’r Confensiwn, ac uwchlaw popeth ei fod yn cadarnhau statws cyfartal plant fel blodau sy’n meddu ar hawliau, mae’n annhebygol iawn y bydd yr hawliau a nodir yn y Confensiwn yn cael eu gwireddu i lawer o blant……. mae’n rhaid hyrwyddo gwybodaeth am hawliau
P14
dynol, yn amlwg, ymysg y plant eu hunain…..” Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Gan gydnabod ymdrechion Parti’r Wladwriaeth, mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig yn bryderus nad oes dull systematig o godi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a bod y lefel o wybodaeth amdano ymysg plant, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant yn isel. 44 Argymhellodd Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig y dylai Parti’r Wladwriaeth: “…wneud ymdrechion pellach, er mwyn sicrhau bod holl ddarpariaethau’r Confensiwn yn hysbys i bawb ac yn cael eu deall yn eang gan oedolion a phlant fel ei gilydd, ymhlith pethau eraill, drwy gynnwys y Confensiwn yn y cwricwlwm ysgol a sicrhau bod ei egwyddorion a’i werthoedd yn cael eu hintegreiddio i mewn i strwythurau ac ymarfer pob ysgol. Mae hefyd yn argymell y dylid cryfhau’r hyfforddiant digonol a systematig sydd ar gael i bob gŵrp proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant…” 45
Datblygiadau yng Nghymru Gwybodaeth ymysg plant Awgrymodd ymchwil a gyflawnwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru mai dim ond 30% o blant sy’n ymwybodol o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn. 46 ” Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod astudiaethau amrywiol eraill hefyd wedi nodi lefelau amrywiol (ond isel ar y cyfan) o ymwybyddiaeth o hawliau’n gyffredinol.” 47
Mae Llywodraeth Cymru i’w canmol am geisio gwella’r sail dystiolaeth mewn perthynas ag 44 Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (2008) Sylwadau Terfynol ar Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, paragraff 20. 45 Ibid, para 21 46 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2009) Gwneud Pethau’n Iawn 2009 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Cynllun Gweithredu treigl pum mlynedd ar gyfer Cymru yn nodi’r blaenoriaethau a’r camau allweddol y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgymryd â hwy mewn ymateb i Sylwadau Terfynol Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 2008 47
Ibid.
ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru ac mae wedi cynnwys cwestiynau am erthyglau 12 a 42 y Confensiwn yn yr Arolwg Cartrefi Cenedlaethol, sy’n treialu adran pobl ifanc. Codi ymwybyddiaeth Er bod timau ar draws adrannau yn dechrau codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn mewn perthynas â meysydd polisi penodol fel rhan o weithredu ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’, roedd y Tîm Hawliau, Polisi a Gweithredu yn arwain y ffordd hyd yn ddiweddar o ran codi ymwybyddiaeth yn fwy cyffredinol ac roedd gan Lywodraeth Cymru nifer o weithgareddau ar waith i godi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn yng Nghymru. Mae rhanddeiliaid yn croesawu’r ffaith nad yw Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r cysyniad fod hawliau’n dibynnu ar gyfrifoldebau fel y dull y mae llywodraethau eraill yn y DU wedi bod yn ei ddefnyddio. Elfen gadarnhaol iawn o’r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yw’r ddyletswydd uniongyrchol ar Weinidogion Cymru i gymryd camau sy’n briodol i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth ymysg y cyhoedd (gan gynnwys plant) o’r Confensiwn a’r Protocolau Dewisol. Yn wahanol i bawb arall yn y DU, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda swyddogion cyfathrebu i ddatblygu dull cynhwysfawr a thrawsbynciol o farchnata a dwyn sylw i’r Confensiwn ac mae gwaith yn cael ei wneud i sicrhau bod pob polisi a strategaeth sy’n ymwneud â phlant yng Nghymru yn glir o ran sut mae’n cyfrannu at weithredu’r Confensiwn. Cynhaliwyd cynhadledd genedlaethol ar hawliau plant, wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru, ym mis Mawrth 2009 ac un o’i hamcanion oedd codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn a’r Sylwadau Terfynol. Ar 20fed pen-blwydd y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ym mis Tachwedd 2009, cynhaliodd Llywodraeth Cymru ddigwyddiad yn y Senedd, a ddenodd sylw eang yn y wasg lle lansiwyd Pecyn Cymorth Codi Ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r
P15
Plentyn. Mae’r pecyn yn cynnwys deunyddiau ar gyfer gweithdai i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. 48 Mae’r pecyn cymorth ar gael i’w lawrlwytho ar wefan Gwneud Pethau’n Iawn sy’n cynnwys gwybodaeth gyffredinol am hawliau plant, fersiwn plant a phobl ifanc o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn, gêm i ddysgu am hawliau a fersiynau plant o’r Sylwadau Terfynol a ‘Gwneud Pethau’n Iawn 2009’. 49 Mae gwybodaeth am y Confensiwn hefyd ar gael ar wefan CLIC – y Gwasanaeth Gwybodaeth a Chyngor Cenedlaethol ar gyfer pobl ifanc. Mae adnoddau newydd ar gyfer y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn a’r Sylwadau Terfynol ar gael bellach mewn Braille, fersiwn sain, Iaith Arwyddion Prydain a Chymraeg - mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i lunio dogfennau mewn ieithoedd eraill os oes galw. Mae hyn yn ddatblygiad cadarnhaol iawn a Llywodraeth Cymru yw’r unig Lywodraeth yn y DU i wneud hynny. Dysgu am y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn yr ysgol Yn 2007, yn sgil ymchwil y Ddraig Ffynci pan holwyd dros 8,000 o blant ledled Cymru, gwelwyd mai dim ond 8% o gyfranogwyr oedd wedi dysgu am y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn yn yr ysgol. 50
dinasyddiaeth fyd-eang’ lle mae’n cyfeirio at hawliau dynol yn fwy cyffredinol.” 51 Fodd bynnag, er bod ABCh ei hun yn rhan statudol o’r cwricwlwm mae’r fframwaith ABCh ei hun yn anstatudol a chyfrifoldeb ysgolion yw cynllunio a darparu ABCh eang, cytbwys. Yn dilyn ymarfer mapio Achub y Plant a nododd fylchau mewn deunyddiau addysgu, mae Llywodraeth Cymru yn datblygu adnoddau ar hyn o bryd. Fel mewn rhannau eraill o’r DU, mynegodd rhanddeiliaid bryderon nad oes gan athrawon yr arbenigedd a’r hyder ar adegau i addysgu plant am hawliau ac nid ydynt yn derbyn hyfforddiant digonol i fynd i’r afael â’r bwlch hwn. Hyfforddiant proffesiynol a gwybodaeth i rieni Datgelodd astudiaeth gwmpasu yn 2007 a gomisiynwyd gan Achub y Plant i asesu lefel y wybodaeth am y Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ymysg gweithiwyr proffesiynol, fod ansicrwydd ar draws proffesiynau ynglŵn â’r hyn y mae hawliau plant yn ei olygu mewn gwirionedd. Ym maes gwaith ieuenctid a phartneriaethau plant a phobl ifanc yn aml mae ffocws ar bwysigrwydd Erthygl 12, ond esgeuluswyd dealltwriaeth ehangach o’r Confensiwn. 52
Mae’r fframwaith diwygiedig ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol (cyfnodau allweddol 1-4) yn cyfeirio’n benodol at hawliau dynol o dan ddwy o’i bum thema allweddol ‘dinasyddiaeth weithgar’ lle mae’n nodi y “dylai’r dysgwyr archwilio’u hawliau mewn cymdeithas ddemocrataidd, a ategir gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn” a ‘datblygu cynaliadwy a
Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi dyfarnu grant i Achub y Plant i ddatblygu a darparu hyfforddiant ar y Confensiwn ar Hawliau’r Plant i weithwyr proffesiynol. Ar hyn o bryd mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar yr amrywiaeth o grwpiau proffesiynol fel y nodir yn Sylwadau Terfynol 2008. Lansiwyd gwefan www.childrensrightsinwalesorg.uk gan Achub y Plant ym mis Ionawr 2011 i gefnogi gweithrediad y Confensiwn yng Nghymru gan lunwyr polisi, cynllunwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant.
48 Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chronfa Gymdeithasol Ewrop (2009) Gwneud Pethau’n Iawn Pecyn Cymorth i helpu i Godi Ymwybyddiaeth a Hybu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn http://www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk /toolkit.aspx 49 http://www.ccuhpgwneudpethauniawn.co.uk 50 Y Ddraig Ffynci (2007) Ein Stori Ni, Ein Hawliau Ni
51 Llywodraeth Cynulliad Cymru (2008) Fframwaith addysg bersonol a chymdeithasol ar gyfer dysgwyr 7 i 19 oed yng Nghymru 52 Milne, B., (2007) Who is disseminating information on the United Nations Convention on the Rights of the Child in Wales? Astudiaeth gwmpasu heb ei chyhoeddi ar gyfer Achub y Plant
P16
Nid yw’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn wedi’i gynnwys eto mewn hyfforddiant statudol ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, ond mae’r Rhwydwaith Datblygu Gweithlu Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru wrthi’n ymgynghori ar ddrafft Strategaeth Gweithlu Plant a Phobl Ifanc, sy’n cynnwys codi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn a’r Craidd Cyffredin o Sgiliau, Gwybodaeth a Dealltwriaeth, a fydd yn gymwys i bob gweithiwr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae datblygiad y gwaith hwn wedi bod yn araf oherwydd nad oes digon o swyddogion ar gael, ond dylai ailddechrau’n fuan. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu datblygiad cyrsiau cyn cymhwyso ac ôlgymhwyso generig ar hawliau plant ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gydag ac er budd plant a phobl ifanc. Mae’r Tîm Hawliau, Polisi a Gweithredu hefyd wedi cynnal gweithgareddau i gynyddu’r ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ar draws adrannau’r llywodraeth, er enghraifft, drwy swyddogion Rhwydwaith Datblygu Plant a Phobl Ifanc ar draws Llywodraeth Cymru a thrwy brosiect Achub y Plant. Daeth dyletswydd Atodlen 5 Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru), i hybu gwybodaeth a dealltwriaeth o’r Confensiwn, i rym ym mis Mai 2011 ac mewn ymateb i hyn mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu pecyn e-ddysgu gorfodol i’w gyflawni gan bob gwas sifil yn Llywodraeth Cymru i’w cynorthwyo i ddeall y Confensiwn mewn perthynas â’u dyletswydd i gydymffurfio â Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)
Nghymru ond mae diffyg strategaeth gydlynol a chynhwysfawr ar gyfer Erthygl 42 a fyddai’n sicrhau dull mwy strategol a phellgyrhaeddol o’i weithredu. Mae Grŵp Monitro CCUHP Cymru yn argymell bod Llywodraeth Cymru: o Yn datblygu strategaeth gynhwysfawr ar gyfer codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn ledled Cymru. O fewn y strategaeth gynhwysfawr, bydd yn rhaid cynnwys, o Yr argymhellion o adroddiad Mapio’r Confensiwn ar Hawliau’r Plentyn o Yr argymhellion o grŵp Erthygl 42. o Dylai gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda ac er budd plant dderbyn hyfforddiant statudol, cyn cymhwyso, ar ôl cymhwyso ac yn barhaus ar y Confensiwn.
Yn ogystal â’r gweithgareddau uchod, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddefnyddio ei Strategaeth Rianta Cymru i helpu i godi ymwybyddiaeth o’r CCUHP ymysg rhieni ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd yn mynychu is-grŵp Erthygl 42 o Grŵp Monitro CCUHP Cyrff Anllywodraethol Cymru sy’n edrych yn strategol ar ffyrdd o godi ymwybyddiaeth o’r Confensiwn ledled Cymru. Cafwyd llawer o gynnydd a gweithgarwch er mwyn datblygu Erthygl 42 y Confensiwn yng
P17
Mae Achub y Plant yn gweithio mewn mwy na 120 o wledydd. Rydym yn achub bywydau plant. Rydym yn brwydro dros eu hawliau. Rydym yn eu helpu i gyflawni eu potensial. Mae Achub y Plant yn gweithio ar draws Cymru gydag asiantaethau partner a chyrff cyhoeddus. Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni i ddatblygu ein prosiectau yn eich hardaloedd chi, neu os ydych am fwy o wybodaeth am ein gwaith, cysylltwch gydag: Achub y Plant 3ydd Llawr, Ty^ Ffenics, 8 Heol y Gadeirlan Caerdydd CF11 9LJ walesinfo@savethechildren www.savethechildren.org.uk www.childrensrights.org.uk
P18