Iechyd Da Spring Edition (Welsh Language)

Page 1

IechydDa

GWANWYN 2015 RHIFYN 1

Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd

ERTHYGLAU Taflu goleuni ar: Ein Clinig Plant

YN OGYSTAL

Cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer menywod sy’n bwydo ar y fron Y Gwyddorau Gofal Iechyd a’r Porth Cymunedol

THERAPI GALWEDIGAETHOL YN DATHLU JIWBILÎ AUR


Croeso ODDI MEWN

TUDALEN 3 Galluogi cymheiriaid i gefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron TUDALEN 4-5 Jiwbilî Aur

i gylchlythyr newydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd Mae’n bleser gennyf eich croesawu i’r rhifyn cyntaf o Iechyd Da, sef cylchlythyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae hwn yn gyfnod pwysig a chyffrous i’r Ysgol, gyda nifer o lwyddiannau i’w dathlu a blwyddyn brysur o’n blaenau. Yn fwyaf diweddar, roedd canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY) 2014, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, yn gosod ‘Iechyd Perthynol’ ym Mhrifysgol Caerdydd (sy’n cynnwys y Gwyddorau Gofal Iechyd) yn bedwerydd yn y wlad. Sgoriodd yr Uned Asesu Iechyd Perthynol 3.42 allan o 4 yn y maes hwn yn erbyn cyfartaledd y DU o ychydig dros 3.

TUDALEN 6-7 Taflu goleuni ar: Y Clinig Therapi Galwedigaethol

TUDALEN 8-9 Datblygu gweithlu radiotherapi cynaliadwy ym Malta Cyflawniadau’r Ysgol TUDALEN 10-11 Cwrdd â’n pobl TUDALEN 12 Gweithio gyda’r gymuned 2 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1

Cafodd 90% o’n cyflwyniadau i’r FfRhY a oedd yn rhoi enghreifftiau o’n buddion cymdeithasol y raddfa bedair seren uchaf. Roeddem yn y safle cyntaf yn y DU am ein hamgylchedd ymchwil, sef un arall o ystyriaethau’r FfRhY. Aseswyd hyn i fod yn 100% ar y raddfa bedair seren uchaf, sy’n arwydd o amgylchedd sy’n “ffafriol i lunio gwaith ymchwil o ansawdd sy’n arwain y byd”. Mae’r un amgylchedd hwn yn cefnogi addysg israddedig ac ôl-raddedig, gan gyflenwi llawer o brif weithwyr proffesiynol y DU yn y disgyblaethau hyn. Mae gennym strategaeth ymchwil bum mlynedd newydd ar gyfer yr Ysgol, sydd â’r nod o adeiladu ar ein llwyddiannau i sicrhau ein bod yn ehangu ein henw da fel canolfan ar gyfer ymchwil iechyd arloesol gydag enw da yn rhyngwladol am ragoriaeth ac effaith. Mae’r flwyddyn academaidd hon yn dynodi 50 mlwyddiant addysg

therapi galwedigaethol yng Nghymru a chynhaliwyd cynhadledd gennym yng Nghaerdydd i ddathlu’r achlysur. I goffáu ein llwyddiannau dros y blynyddoedd, siaradodd Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol yn y gynhadledd yn ei rôl fel noddwr Coleg y Therapyddion Galwedigaethol. Edrychodd y gynhadledd yn ôl dros 50 mlynedd o addysgu ac ysbrydoli therapyddion galwedigaethol yng Nghymru, yn ogystal ag ystyried rôl addysg ac ymchwil mewn therapi galwedigaethol ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a’i heffaith ar ddarpariaeth gofal iechyd. Mae’r rhifyn hwn o Iechyd Da yn cynnwys newyddion am yr ymchwil a’r gwaith arloesol rydym yn ei wneud yma yng Nghymru, yn y DU a thramor. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen am ein hymchwil arloesol ar gefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer bwydo ar y fron, ein technoleg perfformiad chwaraeon Vector ddiweddaraf a’n gwaith ym Malta sy’n cyfrannu at gyflawni Cynllun Canser Cenedlaethol pum mlynedd y wlad honno. Os hoffech drafod unrhyw un o’r manylion yn y cylchlythyr hwn, cysylltwch â Thîm Marchnata’r Ysgol: HealthSciMarketing@Caerdydd.ac.uk. Gyda’m dymuniadau gorau,

Gail Williams Deon a Phennaeth yr Ysgol

Golygyddion: Heidi Freer-Hay / Kira Hutchinson Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, Tˆy Dewi Sant, Caerdydd CF14 4XN Dilynwch ni ar Twitter: @CUHealthSci Croesewir adborth ac eitemau o ddiddordeb sy’n ymwneud â’r Ysgol, a dylid eu hanfon i healthscimarketing@caerdydd.ac.uk Mae’r Golygydd yn cadw’r hawl i olygu cyfraniadau a dderbynnir. Ymwadiad: Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ofalu bod y wybodaeth a gyflwynir yn gywir adeg ei hargraffu, ni ellir gwarantu hyn. Safbwyntiau’r awduron a fynegir yn Iechyd Da, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu safbwyntiau’r ysgol. Mae Prifysgol Caerdydd yn elusen gofrestredig. Rhif 1136855


Galluogi cymheiriaid i gefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron Prosiect ymchwil newydd sydd â’r nod o gynorthwyo’r sawl sy’n cefnogi mamau sy’n bwydo ar y fron trwy ddatblygu sgiliau newydd yn seiliedig ar gyfweld ysgogiadol. Dyma beth sydd gan yr Athro Billie Hunter i’w ddweud. Mae’r Athro Billie Hunter a Dr Julia Saunders yn cychwyn ar astudiaeth ar ddull arloesol o ddarparu cefnogaeth gan gymheiriaid i famau sy’n bwydo ar y fron yng Nghymru a Lloegr, dan arweiniad Dr Shantini Paranjothy, sy’n Gyfarwyddwr Ymchwil yn y Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd y Cyhoedd yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Bydd “cyfweld ysgogiadol”, sef cysyniad a ddatblygwyd gan yr Athro Stephen Rollnick o Brifysgol Caerdydd, yn sail i’r ymchwil newydd ar ddarparu cefnogaeth gan gymheiriaid ar gyfer bwydo ar y fron. Mae cyfweld ysgogiadol yn ddull cwnsela sy’n gweithio drwy ymgysylltu â rhywun a gosod nodau penodol ar gyfer newid ymddygiad. Un o nodau allweddol y prosiect yw galluogi mamau i fwydo ar y fron am fwy o amser. Bydd y prosiect ymchwil, a lansiwyd ym mis Hydref 2014, yn dilyn tri cham. Y cam cyntaf yw sefydlu sut mae cymorth gan gymheiriaid yn cael ei ddarparu ar hyn o bryd a pha fylchau sy’n bodoli yn ogystal â sefydlu beth sy’n gweithio’n dda ar hyn o bryd. Bydd yr ail gam yn datblygu ymyriad newydd ar ffurf cefnogaeth gan gymheiriaid gyda chyfeillion cefnogol a rhieni presennol, a darparu hyfforddiant ar gyfer cyfeillion cefnogol. Dyma pryd y bydd y gwirfoddolwyr yn cael gwybodaeth ynghylch cyfweld ysgogiadol, a sut mae archwilio pryderon unigolion a’u hannog i osod eu nodau eu hunain yn gallu hwyluso canlyniad cadarnhaol. Bydd y trydydd cam yn profi’r ymyriad newydd er mwyn asesu ei ddichonoldeb.

Mae cyfweld ysgogiadol yn ddull cwnsela sy’n gweithio drwy ymgysylltu â rhywun a gosod nodau penodol ar gyfer newid ymddygiad.

difreintiedig sydd yn draddodiadol â nifer isel sy’n bwydo ar y fron. Bydd gweithwyr iechyd proffesiynol, rhieni a chyfeillion cefnogol yn cyfrannu at yr astudiaeth. Nod yr astudiaeth yw galluogi mamau i fwydo ar y fron am fwy o amser, drwy osod menywod wrth wraidd yr ymyriad.

“Mae’r dull hwn o ddeall beth sy’n dylanwadu ar rywun i wneud penderfyniad ynghylch ffordd o fyw wedi profi’n ddefnyddiol mewn meysydd megis rhoi’r gorau i ysmygu. Rydym yn edrych ar y cymhellion, y rhwystrau a nodau sy’n effeithio ar ymddygiad pobl. Rydym yn gobeithio y bydd yr arweiniad hwn yn rhoi sgiliau gwrando ac addasu ychwanegol i gyfeillion cefnogol ar gyfer bwydo ar y fron er mwyn iddynt ymgysylltu â mamau newydd, a gobeithiwn y bydd yn effeithiol o ran cefnogi menywod i wneud penderfyniadau iechyd cadarnhaol,” dywedodd yr Athro Billie Hunter, sy’n Athro Bydwreigiaeth y Coleg Bydwreigiaeth Brenhinol yn yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.

Esboniodd Dr Hunter y manteision: “Mantais arall yr astudiaeth hon yw bod hwn yn brosiect â chanlyniadau buddiol i bawb sy’n gysylltiedig. Mae fel cwnsela â ffocws, lle mae person yn gallu archwilio’u rhesymau dros wneud penderfyniad ynghylch rywbeth fel bwydo ar y fron. Wedyn gallant osod eu hagenda eu hunain, eu targedau eu hunain. Rydym yn gobeithio darganfod pa mor effeithiol yw hyn erbyn cam olaf yr ymchwil. Os bydd yn dangos addewid, byddwn yn gwneud cais am gyllid pellach i gynnal astudiaeth ar raddfa fwy.”

Dyma’r tro cyntaf y bydd cyfweld ysgogiadol yn cael ei ddefnyddio mewn astudiaeth ar gefnogi gan gymheiriaid ar gyfer bwydo ar y fron, a bydd yn canolbwyntio ar ardaloedd economaidd-gymdeithasol

AM RAGOR O WYBODAETH

ynghylch hyn a phrosiectau eraill sydd ar waith o fewn thema ymchwil Iechyd a Lles Mamau, Plant a Theuluoedd, ewch i www.cardiff.ac.uk/healthcaresciences/research. 3


Jiwbilî Aur

Y flwyddyn academaidd hon, rydym yn dathlu carreg filltir arbennig iawn – 50 mlynedd o addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru.

Mae addysg fodern therapi galwedigaethol yn cynnwys defnyddio senarios ffug.

Agorwyd Ysgol Therapi Galwedigaethol Cymru ym 1964, gyda charfan o 19 o fyfyrwyr yn unig gan gynnwys dau fyfyriwr gwrywaidd, a oedd yn anarferol bryd hynny. Graddiodd y garfan gyntaf ym 1967 gyda Diploma Cymdeithas y Therapyddion Galwedigaethol.

Mae addysg therapi galwedigaethol, ac yn wir y proffesiwn, wedi datblygu’n sylweddol dros y 50 mlynedd diwethaf, ac mae’r Ysgol, yn ei gwahanol ymgorfforiadau, wedi gweld llawer o newidiadau ar hyd y ffordd. Erbyn hyn mae gennym ddwy raglen therapi galwedigaethol cyn cofrestru, sef gradd israddedig a diploma i raddedigion, ac mae’r Ysgol yn derbyn 78 o fyfyrwyr bob blwyddyn. Mae cyswllt agos iawn yn y ddwy raglen rhwng addysgu a phroffil ymchwil rhagorol yr Ysgol. Fodd bynnag, un peth nad yw wedi newid yw’r awydd i ddefnyddio therapi galwedigaethol i alluogi pobl i fyw bywydau llawn a boddhaol mor annibynnol ag y bo modd. Mae therapyddion galwedigaethol yn gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau

4 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1

gyda phobl o bob oedran. Maent yn cydnabod bod nam ar y gallu i gyflawni gweithgareddau bob dydd, boed o ganlyniad i ddamwain, salwch neu heneiddio, yn gallu tanseilio iechyd a lles. Trwy weithio gyda phobl i oresgyn effeithiau anabledd a galluogi unigolion i ymgymryd â’r tasgau a galwedigaethau bob dydd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, mae therapyddion galwedigaethol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl. Mae’r ffeithiau’n rymus. Mae canolbwyntio ar adsefydlu ac ail-alluogi drwy ymgysylltu â therapi galwedigaethol yn lleihau’r risg o ddatblygu iselder a dementia ymhlith pobl oedrannus a phobl anabl, ac mae’n hysbys bod therapi galwedigaethol yn atal datblygiad cyflyrau cronig. Caiff


Pan agorodd Ysgol Therapi Galwedigaethol Cymru ym 1964, dyna’r tro cyntaf i therapi galwedigaethol gael ei addysgu yng Nghymru. therapyddion galwedigaethol eu cyflogi fwyfwy mewn adrannau damweiniau ac achosion brys; mae hyn yn lleihau derbyniadau ac ail-dderbyniadau i ysbytai. Yn yr un modd, drwy gynyddu nifer yr ymyriadau a ddarperir yn y gymuned, adolygu pecynnau gofal, argymell addasiadau i amgylcheddau cartref ac annog adsefydlu, mae therapyddion galwedigaethol yn gallu lleihau’r angen am becynnau gofal costus a chymhleth. Yn ogystal â chyfrannu at wella ansawdd bywyd, mae’r defnydd cynyddol o wasanaethau therapi yn gallu lleihau costau iechyd a gofal cymdeithasol yn sylweddol drwy alluogi unigolion i fod yn fwy annibynnol yn eu cartrefi yn hytrach na chael eu derbyn i systemau gofal. Pan agorodd Ysgol Therapi Galwedigaethol Cymru ym 1964, dyna’r tro cyntaf i therapi galwedigaethol gael ei addysgu yng Nghymru. Roedd y diploma’n canolbwyntio ar wella a deall sgiliau corfforol ac ymarferol. Symudodd yr Ysgol i’w safle presennol yn Ysbyty Athrofaol Cymru ym 1973, a daeth y diploma’n radd a ddilyswyd gan Brifysgol Cymru ym 1991. Mae cyn-fyfyrwyr yr ysgol, yn ei gwahanol ymgorfforiadau, wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad y proffesiwn o ran ymarfer, addysg ac ymchwil. Mae ymgorfforiad modern y radd mewn Therapi Galwedigaethol yn seiliedig ar ailddyluniad trylwyr y rhaglen a gynhaliwyd yn 2007. Ailstrwythurwyd y rhaglen i adlewyrchu dull addysgu modiwlar a diweddarwyd y cwricwlwm i integreiddio ethos o ddysgu seiliedig ar broblemau a chysyniadau newydd o ymholi gwerthfawrogol. Mae Maeve Harnett yn fyfyriwr trydedd flwyddyn ar y cwrs gradd mewn therapi galwedigaethol. “Rydym yn cael ein hannog i feddwl yn annibynnol, sef sgil pwysig i ni ei weithredu ar

leoliad ymarfer. Mae dysgu seiliedig ar broblemau yn ein dysgu i feddwl yn feirniadol ac i seilio ein hymarfer ar y dystiolaeth, sydd yn eu tro yn cynyddu ein gallu a’n hyder proffesiynol.” Dywedodd Dr Steve Whitcombe, Pennaeth Proffesiynol Therapi Galwedigaethol yr Ysgol: “Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad eu hunain. Trwy ddatblygu eu sgiliau datrys problemau, bydd ein myfyrwyr wedi’u paratoi’n well i fodloni anghenion agenda iechyd a gofal cymdeithasol cynyddol gymhleth. Mae cyfleoedd i therapyddion galwedigaethol weithio mewn lleoliadau anhraddodiadol yn cynyddu – gweithio mewn gwasanaethau ar gyfer pobl ddigartref, er enghraifft, a gweithio gyda sefydliadau elusennol neu fasnachol. Mae’r cyfleoedd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’n graddedigion allu defnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd mewn ffyrdd newydd ac arloesol.” Yn ogystal â hyn, crëwyd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn ddiweddar, gan ddod â’r hen ysgolion Nyrsio, Bydwreigiaeth ac Astudiaethau Gofal Iechyd at ei gilydd, ac mae’n darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu a rennir. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol sy’n cael eu haddysgu gyda’i gilydd mewn lleoliad addysgol aml-broffesiynol yn dysgu’n gynnar i gydweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, gydag astudiaethau’n dangos eu bod yn llawer mwy tebygol o weithio’n effeithiol gyda’i gilydd mewn lleoliadau clinigol. Caiff ehangder yr amgylcheddau lle mae therapi galwedigaethol yn rhan allweddol ei arddangos yn yr amrediad o waith ymchwil sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd yn yr Ysgol. Mae astudiaeth Dr Carly Reagon sy’n cael ei gyllido gan Tenovus yn ymchwilio i effeithiau canu corawl ar ansawdd

bywyd, hunan-barch a grymusiad ymhlith dioddefwyr canser a’u gofalwyr. Ar nodyn hollol wahanol, mae Dr Gail Boniface yn arwain prosiect sy’n cael ei gyllido gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd sy’n edrych ar y prosesau y mae teuluoedd plant anabl yn eu dilyn wrth wneud cais am addasiadau i gartrefi yng Nghymru. “Mae grantiau ar gael i addasu tai ar gyfer plant anabl yng Nghymru. Fodd bynnag, mae gweinyddu grantiau o’r fath yn gymhleth. Maent yn cael eu cyllido yn ôl deiliadaeth tai, ac yn cael eu gweithredu gan adrannau gwahanol o fewn awdurdodau lleol a gan weithwyr proffesiynol gwahanol, felly maent yn gallu bod yn anodd i ddefnyddwyr gwasanaeth eu dilyn.” Bydd canlyniad yr ymchwil yn llywio darpariaeth y prosesau hyn a’r gobaith yw y bydd yn dylanwadu ar ddatblygiad gwasanaethau yn y dyfodol ar draws y bwrdd – nid dim ond ar gyfer teuluoedd sydd â phlant anabl. Mae cwmpas ac effaith therapi galwedigaethol ledled y DU yn cynyddu, ac mae’n amserol, ar achlysur 50 mlwyddiant addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru, i ddathlu ein cyfraniad i’r proffesiwn pwysig iawn hwn. Fel y noddodd Steve: “Rydym yn datblygu arweinwyr y proffesiwn, gan sicrhau ein bod yn cynhyrchu gweithwyr proffesiynol sy’n gallu cefnogi defnyddwyr gwasanaeth i fyw mor annibynnol ag y bo modd ac i’w helpu i wneud y pethau y maent angen, eisiau neu y disgwylir iddynt eu gwneud. Dyma sydd, ac sydd bob amser wedi bod, wrth wraidd yr hyn a wnawn.”

Darllenwch ein herthygl ‘Cwrdd â’n Pobl’ ar Dr Carly Reagon ar dudalen 10. 5


Taflu goleuni ar:

Y Clinig Therapi Galwedigaethol Ar 50 mlwyddiant Addysg Therapi Galwedigaethol (ThG) yng Nghymru, mae Sue Delport a Wendy Cumines yn myfyrio ar flwyddyn gyntaf ein Clinig ThG i Blant.

6 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1


Lansiwyd y Clinig ThG ym Mhrifysgol Caerdydd yn gynnar yn 2014. Nod y clinig oedd darparu gwasanaethau arbenigol i blant ag anhwylderau datblygiadol sy’n cael anawsterau gyda pherfformiad a gweithrediad tasgau dyddiol (galwedigaethau). Yn unol ag egwyddorion arweiniol strategaeth ‘Y Ffordd Ymlaen’ Prifysgol Caerdydd, mae’r clinig yn cynnig cyfleoedd addysgol gwell i fyfyrwyr ThG israddedig sy’n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac mae’n darparu sylfaen at gyfer datblygu gallu ymchwil yn y dyfodol. Mae gan y Clinig ThG, sydd wedi’i leoli yn Nhŷ Dewi Sant yn Ysbyty Athrofaol Cymru, y cyfleusterau asesu a thrin diweddaraf, gan gynnwys ystafell integreiddio synhwyraidd sy’n llawn offer. Rydym yn cynnig asesiadau ac ymyriadau arbenigol yn bennaf ar gyfer plant ag anhwylderau datblygiadol megis anhwylder cydsymud datblygiadol, anhwylder ar y sbectrwm awtistig, ac anhwylder prosesu synhwyraidd. Mae rhai plant yn cael diagnosis ffurfiol a wneir gan weithiwr proffesiynol iechyd neu addysg – mae’n bosibl na fydd eraill wedi cael diagnosis ffurfiol ond gallai rhieni neu athrawon fod yn bryderus ynghylch perfformiad neu ymddygiad y plentyn. Fel practis annibynnol, rydym yn derbyn atgyfeiriadau gan deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol iechyd ac addysg sy’n pryderu ynghylch helpu plant i gyflawni eu potensial llawn. Caiff pob atgyfeiriad ei sgrinio ac, os cânt eu derbyn, addasir asesiadau ac ymyriadau i fodloni anghenion yr unigolyn. Yn ystod ein blwyddyn gyntaf rydym wedi gweithio’n uniongyrchol gyda 14 o blant a dau oedolyn, gan arwain at dros 60 o sesiynau triniaeth. Hefyd rydym wedi gallu rhoi cyngor ac arweiniad drwy e-bost neu dros y ffôn i lawer o’r rhieni sydd wedi cysylltu â’r clinig er mwyn tawelu eu meddyliau. Anogir ein holl gleientiaid, beth bynnag yw eu hoedran, i ddod yn bartneriaid cyfartal yn eu triniaeth eu hunain. Pan fo ffilmio’n digwydd yn y clinig, er enghraifft, i’n galluogi i ystyried sut mae ymyriad penodol yn mynd ei flaen

dros ymweliadau dilynol, caiff plant eu hannog i lofnodi eu ffurflenni caniatâd eu hunain sydd wedi’u cynllunio’n arbennig ar eu cyfer. Gan fyfyrio ar fanteision ymyriadau gan ein therapyddion galwedigaethol profiadol i’n cleientiaid, gallwn weld yn glir y cynnydd y maent wedi’i wneud tuag at gyrraedd y nodau a ddatblygwyd o ganlyniad i’w hasesiadau cychwynnol. Disgrifiodd un o’n rhieni’r gwahaniaeth yn ei mab ers iddo ddechrau ymweld â’r clinig: “Roedd yn arfer bod fel tarw, yn bomio i ffwrdd ar 100 milltir yr awr, a oedd yn ei gwneud yn anodd iddo allu gwrando a chlywed, felly roedd yn rhaid i chi weiddi neu fod yn uchel er mwyn cael ei sylw neu gael cyswllt llygad. Roedd ei sgiliau echddygol bras yn fawr, yn arw ac yn gyflym. “Nawr mae’n rhedeg, mae ei sgiliau echddygol bras yn ymddangos yn feddalach ac mae ei allu i wrando a chlywed wedi gwella fel nad ydym bellach yn gorfod gweiddi i gael ei sylw.” Tra bod cleientiaid yn cael eu gweld bob amser gan un o’r therapyddion profiadol, mae’r cyfle ar gael, os rhoddir caniatâd, i’n myfyrwyr presennol gynorthwyo yn y clinig. Hyd yn hyn mae pedwar myfyriwr ThG wedi ymwneud yn uniongyrchol â chleientiaid a’u teuluoedd ac mae llawer o fyfyrwyr eraill yn elwa’n anuniongyrchol ar fynediad i’r cyfleusterau asesu a thrin a’r adnoddau sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd ar gael yn y clinig. Mae adborth gan fyfyrwyr wedi dangos eu bod yn ystyried y profiad yn fuddiol o ran datblygu eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth weithio gyda phlant.

Wrth symud ymlaen, rydym yn datblygu prosesau i alluogi mwy o gyfleoedd ar gyfer cyfranogiad myfyrwyr yn y clinig ynghyd â system ffurfiol ar gyfer gwerthuso eu profiad dysgu wrth weithio gyda ni. Rydym wedi derbyn llif cyson o atgyfeiriadau drwy gydol y flwyddyn, sy’n dangos angen pendant yn Ne Cymru am glinig o’r math hwn a’r potensial i ehangu ein gwasanaethau. Mae cysylltiadau’n cael eu gwneud gydag asiantaethau a chydweithwyr statudol yn y gymuned yn ogystal â rhwydweithiau ymchwil o fewn y Brifysgol i ddatblygu cyfleoedd ymchwil yn y dyfodol ar gyfer staff a myfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i weithio gyda’n cleientiaid presennol, gan sicrhau y byddant yn cael amser pleserus yn ogystal â buddiol yn y clinig.

OS HOFFECH WNEUD ATGYFEIRIAD

i’r clinig neu gyflwyno ymholiad anffurfiol, anfonwch neges e-bost at otclinic@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 029 2068 7689.

Mae adborth gan fyfyrwyr wedi dangos eu bod yn ystyried y profiad yn fuddiol o ran datblygu eu hyder, eu gwybodaeth a’u sgiliau wrth weithio gyda phlant.

7


Rydym yn dathlu graddio’r garfan gyntaf i gychwyn ar y radd BSc mewn Radiograffeg ym Mhrifysgol Malta, a redir ar y cyd â’r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, ac edrychwn ar y ffordd y mae’r cydweithrediad yn trawsnewid gofal canser ym Malta.

dd n ar y ra gychwy g. i f ta n ffe n gy adiogra Y garfa mewn R newydd

BSc Dathlu

graddio

ym mis

Rhagfyr

2014.

Bydd y Ganolfan Oncoleg newydd gwerth €48 miliwn yn Ysbyty Mater Dei yn gartref i dri chyflymwr unionlin ar gyfer radiotherapi.

Datblygu gweithlu radiotherapi cynaliadwy ym Malta

Yn 2010, dechreuodd Adran Iechyd Malta ehangu gwasanaethau canser yn sylweddol gyda’r nod o gysoni’r gwasanaethau hyn â gwledydd Ewropeaidd eraill a chynyddu cyfraddau goroesi canser. Cafwyd cyllid datblygu rhanbarthol Ewrop ar gyfer adeiladu canolfan oncoleg gwerth €48 miliwn a fydd â chyfarpar o’r radd flaenaf ar gyfer darparu therapi ymbelydredd a galluogi’r defnydd o dechnegau radiograffeg modern. Gan gydnabod y byddai angen i addysg radiograffeg ddiagnostig ym Malta ddatblygu i gynnwys radiograffeg therapiwtig er mwyn darparu gweithlu medrus a phrofiadol ar gyfer y ganolfan newydd, cychwynnwyd ar gydweithio rhwng Adran Iechyd Malta, Prifysgol Malta, a Phrifysgol Caerdydd. Roedd gan Erica Chivers, un o gydlynwyr y rhaglen, hyn i’w ddweud am y bartneriaeth: “Roedd gan yr 8 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1

Adran Iechyd ym Malta gynllun pum mlynedd uchelgeisiol i foderneiddio gwasanaethau canser, ond roedd yn wynebu diffyg arbenigedd. Felly mae’r Adran Iechyd yn darparu’r elfennau radiograffeg, tra bod darlithwyr gradd o Gaerdydd yn mynd yno i ddarparu’r addysg radiotherapi ac oncoleg. “Mae’r cydweithio hwn yn gyfle delfrydol nid yn unig i Gaerdydd rannu arferion gorau ym maes addysg ymarferwyr gofal iechyd, ond hefyd i ddylanwadu ar y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ymarfer gan y gweithlu radiograffeg.” Mae darparu’r rhaglen dramor yn ymrwymiad mawr, gyda staff o’r Ysgol

Gwyddorau Gofal Iechyd yn darparu hyd at 25 wythnos o addysgu ym Malta rhyngddynt. Hefyd mae’r cwrs yn cynnwys lleoliad ymarfer sy’n 22 wythnos o hyd ar gyfer myfyrwyr mewn dwy adran oncoleg yng Nghymru. “Yn aml mae’r heriau rydym wedi’u hwynebu wedi bod yn annisgwyl – roeddem yn Malta yn 2010 ar gyfer cyfarfod cynllunio, a oedd i barhau am ddeuddydd, pan ffrwydrodd y llosgfynydd yng Ngwlad yr Iâ! Ni fu’n bosibl i ni ddychwelyd am dros wythnos!“ dywedodd Lynn Mundy, sy’n gydlynydd y rhaglen. “Ond mae’r manteision yn ddiymwad. Mae’r myfyrwyr ym Malta yn dysgu technegau cyfredol, ac yn profi arferion


CYFLAWNIADAU’R YSGOL Mae’r Darlithydd a’r Myfyriwr PhD Amie Hodges wedi llwyddo gyda’i chais am gyllid gan y Coleg Nyrsio Brenhinol ar gyfer ei PhD, sy’n archwilio profiadau brodyr a chwiorydd plant sydd â Ffibrosis Cystig.

Roedd y tîm yn eithaf emosiynol pan raddiodd carfan gyntaf y rhaglen ym mis Rhagfyr, ac yn falch dros ben o’u cyflawniad. Cafodd yr holl fyfyrwyr eu cyflogi gan yr Adran Iechyd, gan ddechrau ymarfer ym mis Tachwedd. sy’n seiliedig ar dystiolaeth, y byddant yn parhau i’w hymarfer ar ôl cymhwyso. Mae ein myfyrwyr ni yng Nghaerdydd yn elwa ar ddysgu ochr yn ochr â’u cydweithwyr ym Malta, ac rydym wedi canfod bod mwy ohonynt eisiau mynd ar leoliadau tramor o ganlyniad.” Ym mis Rhagfyr, cwblhaodd y garfan gyntaf i gofrestru ar gyfer y rhaglen newydd eu rhaglen bedair blynedd, gan raddio. Roedd Keren Williamson, sy’n ddarlithydd Radiotherapi yng Nghaerdydd, yn bresennol a chymerodd rhan yn yr orymdaith academaidd. Dywedodd am y seremoni: “Roedd y myfyrwyr yn falch iawn bod rhywun o’r Brifysgol wedi gallu bod yn bresennol. Roedd yn emosiynol iawn, gydag araith gan un o’r myfyrwyr, a chafodd pob myfyriwr graddedig gymeradwyaeth unigol wrth gael eu cyflwyno â thystysgrif a thynnu eu llun.” Mae’r tîm yn canmol yr holl fyfyrwyr. Buont yn gweithio’n galed ac roeddynt yn ymroddedig, ac maent yn benderfynol o wneud y gorau o’u gwasanaeth iechyd. “Maent bob amser yn chwilio am y ffordd orau o wneud rhywbeth, yn hytrach na ffordd dda yn unig,” dywedodd Erica. “Cawsom ddim byd ond adborth cadarnhaol gan eu haddysgwyr clinigol a’u cleifion pan oeddent ar leoliad yng Nghymru, ac maent yn gosod esiampl ragorol ar gyfer ein myfyrwyr ni yng Nghaerdydd. Mae eu hagwedd a’u

cyflawniadau yn gwneud ein holl waith caled yn werth yr ymdrech.” Yn y dyfodol, er mwyn darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, bydd angen i’r myfyrwyr hyn ymgymryd â chymwysterau uwch, ac maent i gyd yn awyddus i fanteisio ar gyfleoedd ôlraddedig. Bydd y diddordeb mewn DPP yn sicrhau etifeddiaeth barhaol i gyfraniad Caerdydd i’r rhaglen israddedig. Roedd y tîm yn eithaf emosiynol pan raddiodd carfan gyntaf y rhaglen ym mis Rhagfyr, ac yn falch dros ben o’u cyflawniad. Cafodd yr holl fyfyrwyr eu cyflogi gan yr Adran Iechyd, gan ddechrau ymarfer ym mis Tachwedd. Mae Lynn yn eu disgrifio fel “dyfodol disglair radiotherapi”, yn benderfynol o arloesi arferion radiotherapi modern a gwneud y gorau o’r cyfle i greu newid. Yn y pen draw, y cleifion fydd yn elwa fwyaf ar y cydweithio hwn. Bydd dioddefwyr canser sy’n derbyn triniaeth yn y ganolfan oncoleg newydd â mynediad i gyfleusterau ac arferion modern a fydd yn achub bywydau pobl. Mae’r gwasanaeth wedi’i drawsnewid i fod yn amgylchedd a arweinir gan gleifion, gydag ymarferwyr yn dangos empathi, tosturi ac urddas wrth ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel dan arweiniad cleifion. Mae’r canlyniadau hyn yn dangos sut mae addysg yn gallu trawsnewid ac arbed bywydau.

Dyfarnwyd y Wobr Ymchwil mewn Nyrsio i’r Athro Lesley Lowes yn seremoni wobrwyo Nyrs y Flwyddyn y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru ym mis Tachwedd. Hefyd enwebwyd yr Athro Lowes ar gyfer gwobr ‘Menter Orau’ yn yr adran Ansawdd mewn Gofal Diabetes, gyda’i hastudiaeth DECIDE yn derbyn Canmoliaeth Uchel gan y beirniaid yn y seremoni wobrwyo ym mis Hydref. Llongyfarchiadau i Amy Lake, a enillodd Fedal Norman K Harrison yng ngwobrau Sefydliad y Darlunwyr Meddygol ym mis Hydref. Ym mis Medi, cafodd yr Ysgol ei graddio’n gyntaf yn y DU ar gyfer ffisiotherapi yng Nghanllaw Prifysgolion 2015 y Sunday Times. Mae aelodau’r staff a enillodd radd PhD yn ddiweddar yn cynnwys Dr Judith Carrier, Dr Nicola Evans a Dr David Clarke.

HEFYD YN 2014... Penodwyd Dr Valerie Sparkes yn Ddarllenydd mewn Ymchwil Arthritis a phenodwyd Dr Monica Busse-Morris i un o’r Darllenyddiaethau byrraf a gofnodwyd erioed cyn cael ei phenodi’n Athro Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae staff a gafodd eu dyrchafu’n llwyddiannus i swydd uwch ddarlithydd yn cynnwys Sue Annetts, Rhian Barnes, Dr Judith Carrier, Judy Cousins, Una Jones a Dawn Pickering.

9


Cwrdd â’n pobl... Dr Carly Reagon, Darlithydd Cymhwysodd Carly fel therapydd galwedigaethol yn y flwyddyn 2000 yn Ysgol Therapi Galwedigaethol Essex cyn mynd ymlaen i weithio fel clinigiwr mewn adsefydlu orthopaedig. Mae wedi bod yn gweithio gydag Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ers cwblhau ei gradd PhD yng Nghaerdydd, sef astudiaeth achos gan ddefnyddio damcaniaeth seiliedig ar ymarfer seiliedig ar dystiolaeth mewn therapi galwedigaethol. Mae ei hymchwil ar hyn o bryd yn ymchwiliad a gyllidir gan Tenovus i effeithiau canu corawl ar ansawdd bywyd, hunan-barch a grymusiad a’r ffactorau sy’n sail i’r effeithiau hyn mewn cleifion a gafodd ddiagnosis o ganser yn flaenorol a’u gofalwyr. Disgrifiwch eich hun mewn tri gair… Anniben. Anniben. Anniben. Pam therapi galwedigaethol? Astudiais archaeoleg yn wreiddiol, ond sylweddolais nad oedd llawer y gallwn ei wneud i helpu hen esgyrn. Pwy neu beth sy’n eich ysbrydoli fwyaf? Vera Britten. Ysgrifennodd am ei phrofiadau fel nyrs yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn Testament of Youth. Roedd hi’n gryf, yn ddeallus ac yn ffeminist. Beth ydych chi fwyaf balch ohono? Fy mab, Wilfred, sy’n ddwy flwydd oed. Hefyd cwblhau drafft cyntaf fy nofel.

10 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1

Pe byddai gennych dri dymuniad, beth fydden nhw? 1. Hoffwn fynd yn ôl mewn amser ac ymweld â ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf (gorau oll mewn siwt a fyddai’n fy amddiffyn rhag bwledi, sieliau a llygod mawr). 2. Yr holl fyd yn troi’n llysieuwyr 3. Heddwch ledled y byd

Beth fyddech chi’n dymuno ei

ddylanwadu neu ei newid fwyaf mewn gofal iechyd? Deintyddion am ddim, os gwelwch yn dda. I ble ydych chi’n gweld therapi galwedigaethol yn mynd yn y dyfodol? Mwy o therapyddion galwedigaethol yn y gymuned.

Sut ydych chi’n ymlacio yn eich amser hamdden? Ar hyn o bryd rwy’n golygu fy nofel gyntaf. Hefyd rwy’n hoffi rhedeg llwybrau, canu mewn corau, ac unrhyw beth i’w wneud â hanes (yn enwedig hanes y Rhyfel Byd Cyntaf).

Pe gallech wahodd unrhyw un i ginio,

pwy fyddech chi’n ei ddewis a pham? Vera Britten (gweler uchod) Winston Churchill (dyna gymeriad. A byddai’n siˆ wr o ddarparu’r champagne) Wilfred Owen (fy hoff fardd, yr enwais fy mab ar ei ôl)

Pwy yn y gwaith yr hoffech ddiolch

iddo fwyaf? Dr Gail Boniface, a oruchwyliodd fy PhD ac a oedd bob amser yn gwneud i mi deimlo fy mod yn werth yr ymdrech!


Hoffwn fynd yn ôl mewn amser ac ymweld â ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf (gorau oll mewn siwt a fyddai’n fy amddiffyn rhag bwledi, sieliau a llygod mawr). 11


Gweithio gyda’r gymuned

Yn 2014, lansiodd y Brifysgol bum prosiect ymgysylltu blaenllaw, gyda nodau uchelgeisiol i weithio gyda chymunedau i fynd i’r afael â thlodi, i roi hwb i’r economi, ac i wella iechyd, addysg a lles. bod cleifion a’u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas sy’n sicrhau eu bod yn teimlo bod ganddynt reolaeth dros eu hiechyd, eu lles a’u triniaeth eu hunain, trwy ymgynghori, hysbysu a thrafod,” dywedodd Sally.

Roedd gan Richard Day a Dr Sally Anstey o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd rôl flaenllaw gyda’r Porth Cymunedol, sef un o’r prosiectau blaenllaw cyntaf i weithredu. Mae’r prosiect Porth Cymunedol yn dod â thîm ynghyd o amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys pensaernïaeth, cynllunio a daearyddiaeth, seicoleg, a’r gwyddorau gofal iechyd wrth gwrs. Gan ganolbwyntio yn y lle cyntaf ar ardal leol Grangetown, nod y prosiect yw sefydlu perthynas gyda’r gymuned a fydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol gwirioneddol. Dywedodd Dr Sally Anstey: “Mae hwn yn fodel newydd ac unigryw o ymgysylltiad â’r gymuned. Ein nod yw sefydlu partneriaeth gyfartal sy’n gweithio’r ddwy ffordd, fel y gallwn ddeall pa faterion sy’n bodoli a dysgu mwy am yr hyn y gellid ei wneud i wella iechyd a lles. Nid yw’n golygu bod y Brifysgol yn gosod atebion ar y gymuned, ond yn hytrach cefnogi a galluogi’r gymuned honno i wireddu ei dyheadau, a thrwy hynny i wneud gwahaniaeth ymarferol i fywydau pobl.”

Hyd yn hyn, mae’r prosiect wedi canolbwyntio ar ddeall y ffyrdd y gallai’r bartneriaeth hon weithio. Cynhaliwyd grwpiau ffocws yn Grangetown a gynlluniwyd i ddeall sut mae’r gymuned leol yn gweld y Brifysgol ar hyn o bryd, a sut y byddai pobl yn dymuno gweithio gyda’r sefydliad yn y dyfodol. Daw Sally a Richard o gefndir gofal iechyd, felly maent mewn sefyllfa arbennig o dda i ddeall mai’r pethau sydd bwysicaf i gymuned yw’r rhai sy’n cael effaith ymarferol ar eu bywydau – sef iechyd a lles yn ei ystyr ehangaf. “Roedd ymdeimlad pendant yn y grwpiau ffocws bod y gymuned yn teimlo bod y Brifysgol yn ‘gwneud pethau iddi’, ond er mwyn i’r gymuned deimlo’n wirioneddol uchelgeisiol, mae angen i bobl gymryd rhan ar eu telerau eu hunain. Bydd darparu cefnogaeth a mynediad i adnoddau’r Brifysgol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol dim ond os bydd hyn yn galluogi’r gymuned i fynd i’r afael â materion sy’n bwysig iddi, yn y ffordd y mae’r gymuned ei heisiau. Mae hyn yn adlewyrchu’r ethos sy’n rhedeg drwy addysg ac ymchwil yn y gwyddorau gofal iechyd – sef sicrhau

Arweiniodd yr ymgynghoriad at ddatblygu gr w ˆ p llywio, sy’n cynnwys aelodau o’r Brifysgol ac o Grangetown, a fydd yn goruchwylio’r prosiect Porth Cymunedol. Bydd aelodau’r gymuned yn gallu rhoi syniadau ar gyfer prosiectau unigol gyda’r nod o wella iechyd a lles lleol, a bydd y syniadau llwyddiannus yn derbyn cyllid cychwynnol, cefnogaeth ac arweiniad gan y Brifysgol. Esboniodd Sally: “Cyflwynwyd un o’r syniadau cychwynnol gan gr w ˆ p o fenywod Bangladeshaidd lleol, sy’n chwilio am ffyrdd o wella iechyd eu dynion. Mae gan Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, er enghraifft, gyfoeth o brofiad, ymchwil ac adnoddau y gellid eu defnyddio ar gyfer prosiect fel hwn. Yn gyfnewid, mae’r menywod yn bwriadu cynnig gwersi coginio. Dyma’r union fath o beth sydd o fudd i’r Brifysgol yn ogystal â’r gymuned – sef datblygu dealltwriaeth y sefydliad o’r diwylliannau ar garreg y drws mewn ffyrdd newydd – a blasus.” I Sally, elfen bwysicaf y Porth Cymunedol yw’r nod o wneud y prosiectau’n hunangynaliadwy yn y pen draw. “Mae gan y Brifysgol adnoddau – sef pobl a sgiliau – a allent fod o fudd i’r gymuned. A gallwn ddarparu symiau bach o gyllid cychwynnol. Ond drwy wneud cais am fwy o gyllid ymchwil, gan roi mwy o ddewis a mwy o gyfleoedd i bobl, rydym yn sicrhau ein bod yn galluogi pobl i gymryd y prosiectau hyn ymlaen eu hunain. Rydym yn eu grymuso i gyflawni eu dyheadau eu hunain. Dyma beth rwy’n gobeithio ei gyflawni drwy gydweithio ar y prosiect hwn – i’r Brifysgol roi rhywbeth yn ôl – ond dim ond mewn ffordd y mae pobl ei heisiau, ac sy’n fuddiol mewn ffordd wirioneddol ac ymarferol.”

Mae hwn yn fodel newydd ac unigryw o ymgysylltiad â’r gymuned. 12 Iechyd Da | Gwanwyn 2015 | Rhifyn 1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.