IechydDa
HAF 2015 RHIFYN 2
Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd
ERTHYGLAU Taflu goleuni ar: Nyrsio yn Oman
YN OGYSTAL
Datblygu Cwricwla Cynhwysol Cryfhau bydwreigiaeth yn Ewrop
GWELD Y TU HWNT I DEMENTIA AR GYFER GWELL GOFAL I GLEIFION
Croeso ODDI MEWN
TUDALEN 3 Cryfhau bydwreigiaeth yn Ewrop TUDALEN 4-5 Taflu goleuni ar: Datblygu rhaglenni nyrsio yn Oman TUDALEN 6 Dewch i gwrdd â’n pobl TUDALEN 7 Gweld y tu hwnt i Dementia ar gyfer Gwell Gofal i Gleifion TUDALEN 8 Ymweliad Brenhinol TUDALEN 9 1000 o Fywydau Cymru; gall gwelliannau bach arwain at newid mawr TUDALEN 10 Gweithio gyda Butetown: dechrau da, yn gyflym TUDALEN 11 PAL: Dod â Myfyrwyr Ynghyd TUDALEN 12 Datblygu Cwricwla Cynhwysol: Prosiect cydweithredol gyda Stonewall Llwyddiannau Ysgolion
2 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
i’n hail argraffiad o Iechyd Da, cylchlythyr Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd. Mae’r gwanwyn o’r diwedd ar ein gwarthaf, ac rydym yn edrych ymlaen at ddatblygiadau cyffrous yn yr Ysgol. Un newid o’r fath yw ehangu ein cyfleusterau a’n swyddfeydd gyda thri llawr newydd ar ein safle Eastgate House ar Heol Casnewydd. Mae cynyddu ein harwynebedd llawr yma yn golygu bod gennym bellach fwy o ystafelloedd cyfarfod sydd eu hangen yn fawr, ystafelloedd dosbarth, gosodiadau clinigol, ystafelloedd ymarferol, theatr ffug ac arsyllfa. Dau ddatblygiad newydd yw ein Canolfan Cefnogi Addysg a’n Canolfan Ymchwil, yr olaf yn fan agored mawr i’n hacademyddion weithio’n agos, rhannu syniadau, cydweithio a chefnogi ei gilydd wrth iddynt weithio ar ymchwil trawsbynciol. Mae croeso i chi ymweld â’r llefydd hyn sydd wedi eu hadfywio wrth i ni eu rhoi i’w defnyddio ar gyfer sesiynau cynhyrchiol, creadigol, ysgolheigaidd gyda’n staff a’n myfyrwyr. Yn ein rhifyn cyntaf o Iechyd Da, fe wnaethom sôn am y Gala Therapi Galwedigaethol a’r Gynhadledd, yn dathlu 50 mlynedd o addysg Therapi Galwedigaethol yng Nghymru. Ar dudalen x rydym yn rhannu’r uchafbwyntiau a rhai lluniau o’r gala a’r gynhadledd.
Cawsom y fraint bod y Dywysoges Anne wedi mynychu rhan o’r gynhadledd fel Noddwr y Coleg Therapyddion Galwedigaethol; rhoddodd araith mewnweledol am y proffesiwn. Roedd y digwyddiadau yn llwyddiant mawr, ac rydym yn credu bod y cyfranogwyr wedi gallu rhannu, rhwydweithio a dysgu am weithio ym maes therapi galwedigaethol yng Nghymru. Rwy’n gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen y rhifyn hwn o Iechyd Da, yn enwedig ein nodweddion am weithio gydag eraill fel ymgysylltu â chymunedau lleol am ganser y prostad, ein partneriaeth brawf gyda Sefydliad Iechyd y Byd fel canolfan sy’n cydweithredu ar gyfer bydwreigiaeth yn Ewrop a datblygu cwricwla cynhwysol gyda Stonewall. Os hoffech drafod unrhyw rai o’r manylion yn y cylchlythyr hwn, cysylltwch â Thîm Marchnata‘r Ysgol yn HealthSciMarketing@caerdydd.ac.uk Gyda fy nymuniadau gorau,
Gail Williams Deon a Phennaeth yr Ysgol
Golygyddion: Heidi Freer-Hay / Kira Hutchinson Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, Tˆy Dewi Sant, Caerdydd CF14 4XN Dilynwch ni ar Twitter: @CUHealthSci Croesewir adborth ac eitemau o ddiddordeb sy’n ymwneud â’r Ysgol, a dylid eu hanfon i healthscimarketing@caerdydd.ac.uk Mae’r Golygydd yn cadw’r hawl i olygu cyfraniadau a dderbynnir. Ymwadiad: Er y byddwn yn gwneud pob ymdrech i ofalu bod y wybodaeth a gyflwynir yn gywir adeg ei hargraffu, ni ellir gwarantu hyn. Safbwyntiau’r awduron a fynegir yn Iechyd Da, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu safbwyntiau’r ysgol. Mae Prifysgol Caerdydd yn elusen gofrestredig. Rhif 1136855
Cryfhau bydwreigiaeth yn Ewrop Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd yn mynd i chwarae rhan allweddol wrth gryfhau proffesiynoldeb bydwreigiaeth ar draws Ewrop ar ôl arwyddo cytundeb cydweithio â changen y Cenhedloedd Unedig o iechyd y cyhoedd. Mae hwn yn gyfnod prawf o ddwy flynedd i ddod yn Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) dros Fydwreigiaeth yn Ewrop. i gymryd rhan yn y cydweithrediad hwn gyda WHO.” Caerdydd fydd un yn unig o 44 Canolfan Cydweithredu ar gyfer Nyrsio a Bydwreigiaeth yn fyd-eang, a’r unig Ganolfan Gydweithredu fydd yn canolbwyntio’n llwyr ar Fydwreigiaeth yn Rhanbarth Ewrop o WHO. Rydym eisoes wedi dechrau dangos cydweithio drwy gynnal digwyddiad Bydwreigiaeth Ryngwladol ym mis Mawrth a oedd yn canolbwyntio ar y cydweithio hwn.
Mae’r WHO yn cydnabod bydwreigiaeth fel un sy’n chwarae rôl hanfodol wrth wella darpariaeth gwasanaethau iechyd mewn ardaloedd o angen iechyd mawr, lle’n aml nhw yw’r unig ddarparwyr rheng flaen o ran gofal i fenywod a babanod. Yn ystod y cyfnod prawf, bydd tîm amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu gwahodd i gyfrannu at brosiectau sy’n cefnogi rhaglen Adnoddau Dynol WHO ar gyfer Iechyd yn Ewrop.
ANod allweddol Iechyd 2020 yw creu gweithlu mwy hyblyg, aml-sgiliau sy’n canolbwyntio ar dîm gyda’r nod o wella iechyd ar gyfer pawb a lleihau’r gagendor iechyd. Mae’r rhaglen ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n anelu at gryfhau’r proffesiynau nyrsio a bydwreigiaeth i gwrdd ag amcanion Adroddiad Iechyd 2020 WHO. Nod allweddol Iechyd 2020 yw creu gweithlu mwy hyblyg, aml-sgiliau sy’n
canolbwyntio ar dîm gyda’r nod o wella iechyd ar gyfer pawb a lleihau’r gagendor iechyd. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar raddio i fyny a thrawsnewid addysg nyrsio a bydwreigiaeth, gan greu amgylchedd gwaith cadarnhaol a hyrwyddo arfer ac arloesedd sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae Canolfan Cydweithredu ar gyfer Bydwreigiaeth WHO yn cael ei harwain gan yr Athro Billie Hunter, Coleg Brenhinol y Bydwragedd, Athro Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Dywedodd “Rwy’n falch ac yn gyffrous i fod yn arwain y prosiect hwn, a fydd yn ein galluogi i gyfrannu at ddatblygiad proffesiynol bydwragedd ar draws y 53 o wledydd a gwmpesir gan WHO Ewrop, o Wlad yr Iâ yn y gorllewin i Kyrgyzstan yn y dwyrain. “Mae bydwragedd yn gwneud cyfraniad enfawr i iechyd y cyhoedd drwy gefnogi teuluoedd a sicrhau dechrau iach mewn bywyd, felly mae’n hanfodol bod eu hyfforddiant cychwynnol yn gryf ac yn seiliedig ar dystiolaeth, a bod eu hamgylchedd gwaith mor gadarnhaol ag y bo modd. Dylai fod llawer o gyfleoedd i staff a myfyrwyr yn yr Ysgol
Ymunodd Frances McConville, Swyddog Technegol, Adran Iechyd Mamau, Babanod Newydd-anedig, Plant a’r Glasoed, Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), a gyflwynodd drosolwg o strategaethau mamolaeth ac iechyd newydd-anedig WHO, ei rôl arweinyddiaeth bydwreigiaeth o fewn y sefydliad a’n cydweithrediad. Mynegodd ei phleser am y Ganolfan Gydweithredol WHO newydd ac mae’n edrych ymlaen at ddatblygiadau yn y dyfodol. Yn ogystal, ymwelodd Frances â’r gwasanaethau bydwreigiaeth yn Ysbyty Athrofaol Cymru gan wneud sylw ar “safon aur” y gofal a ddarperir i fenywod a’u babanod. Roedd nifer o gyflwyniadau eraill ar berthnasau a phrosiectau rhyngwladol, gan gynnwys un gan Sarah Davies, Darlithydd mewn Bydwreigiaeth, a gyflwynodd ‘Ymyriadau i leihau marwolaethau ymysg mamau mewn gwledydd sy’n datblygu’. Mae Sarah wedi teithio a chymryd rhan mewn nifer o brosiectau tramor. Yn cyflwyno hefyd oedd yr Athro Jean White, Prif Swyddog Nyrsio Cymru. Wrth gyfeirio at y cydweithio, meddai: “Mae hwn yn gydnabyddiaeth wych o’n rhagoriaeth mewn bydwreigiaeth yng Nghymru ac Ewrop. Rydym yn gobeithio y bydd rhannu arbenigedd o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn helpu i fodloni amcanion Adroddiad Iechyd 2020 WHO.”
3
Taflu goleuni ar:
Datblygu rhaglenni nyrsio yn Oman Yn 2009 cydweithiodd yr Ysgol Nyrsio ac Astudiaethau Bydwreigiaeth (y Gwyddorau Gofal Iechyd erbyn hyn) gyda’r Weinyddiaeth Iechyd yn Oman i ddatblygu BSc mewn Astudiaethau Nyrsio. nedol yr cymu n! f o fyfyrw hyd ar gyfer llu ta n y g n g a n y rf a d g o Y d nnus yn llwyddia
????
“Mae’n galonogol i weld myfyrwyr yn datblygu meddwl chwilfrydig sy’n eu symud i hyrwyddo arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. ”
4 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
Yn 2011 cryfhawyd y cydweithio gyda datblygiad BSc mewn Ymarfer Nyrsio Iechyd Cymunedol ar gyfer nyrsys cymwysedig sy’n gweithio neu’n bwriadu gweithio yn y gymuned. Nodau allweddol y fenter oedd datblygu nyrsys cymwysedig a chlinigwyr profiadol o ddiplomâu sylfaenol i lefel gradd. Byddai hyn yn rhoi i bobl Oman fynediad at nyrsys sydd â chymwysterau da sy’n darparu gofal iechyd o ansawdd uchel, gwella rhagolygon gyrfa ar gyfer y myfyrwyr eu hunain a lleihau’r ddibyniaeth ar arbenigedd alltudion.
Jerry Bray, Darlithydd Nyrsio Oedolion ar gyfer y BSc mewn Astudiaethau Nyrsio a Dr Judith Carrier, Rheolwr Rhaglen ar gyfer y BSc mewn Ymarfer Nyrsio Iechyd Cymunedol yn dweud rhagor wrthym. Dywedwch ychydig wrthym am gefndir y prosiect:
Jerry Dros lawer o flynyddoedd roedd yr ysgol wedi sefydlu perthynas gydag Oman. Daeth llawer o nyrsys Omani i Gaerdydd i astudio ein rhaglen Meistr mewn nyrsio. Dymunai Oman ddatblygu’r berthynas hon er mwyn darparu cyfle i’r nyrsys i astudio ar lefel Baglor hefyd.
Sut gwnaethoch chi ymwneud â’r prosiect? Jerry Roedd Dr Dianne Watkins, Cyfarwyddwr Rhyngwladol ac Ymgysylltu yn rhan o’r prosiect o’r cychwyn cyntaf; gan gynnwys trafodaethau contract cychwynnol gyda’r Weinyddiaeth. Daeth Dianne ataf i a chydweithiwr (sydd bellach wedi ymddeol) a gofyn a fyddai gennym ddiddordeb mewn cyflwyno modiwl sy’n seiliedig ar dystiolaeth a chefnogi’r rhaglen yn gyffredinol. Roedd hynny chwe blynedd yn ôl ac nid wyf erioed wedi edrych yn ôl. Judith Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach aeth y Weinyddiaeth at Dianne i siarad am ddatblygu Rhaglen Nyrsio Gymunedol. Mae nyrsio cymunedol yn rhywbeth sydd yn gymharol newydd i Oman ac nid yw wedi ei sefydlu ar draws y wlad. Roeddwn yn flaenorol wedi bod yn arwain ar gyfer rhaglen debyg yma yng Nghaerdydd, ac yr oedd yn fy nghylch gwaith fel Pennaeth Proffesiynol Gofal Sylfaenol / Nyrsio Iechyd y Cyhoedd ar y pryd ac roeddwn yn hapus i arwain ar ddatblygu cwricwlwm cymunedol a chymerais rôl rheolwr rhaglen.
Beth oedd eich argraffiadau cyntaf o Oman? Jerry Pan ddaethpwyd ataf yn gyntaf roedd gen i rai amheuon. Fodd bynnag, yr wyf yn teimlo mor freintiedig o fod wedi cael y cyfle hwn, nid yn unig i addysgu ond yr wyf wedi gwneud ffrindiau da iawn ac wedi cael profiadau y byddaf byth yn eu hanghofio. Chwalodd fy ymweliad cyntaf unrhyw amheuon oedd gennyf oherwydd y cynhesrwydd a charedigrwydd staff a myfyrwyr Oman a’u lefelau eithriadol o gymhelliant. Ar ymweliad diweddar ag Oman gyda Dianne, wrth i ni lanio dywedodd hi ei bod nawr yn ei hail gartref sy’n dal pa mor garedig a chroesawgar yw ein cydweithwyr yn Oman.
Sut mae’r BSc mewn Astudiaethau Nyrsio yn wahanol i’r BSc mewn Ymarfer Nyrsio Iechyd Cymunedol?
Judith Mae’r elfen theori ar gyfer y ddwy raglen yn cael ei ddarparu mewn ffordd debyg; bloc addysgu 2 wythnos ddwys. Mewn nyrsio cymunedol mae hwn yn cael ei ddilyn gan leoliad clinigol o 9 i 11 wythnos lle maent yn cwblhau portffolio clinigol. Mae gan nyrsio cymunedol yn y cartref dipyn o ffordd i fynd i ddal i fyny ac mae’n ymwneud â goresgyn y rhwystrau hynny. Mae Dr Manal A. Al-Zadjali, cydlynydd y rhaglen yn Oman ar gyfer y rhaglen gymunedol wedi trefnu bob blwyddyn i’r myfyrwyr wneud digwyddiad hybu iechyd. Trefnodd y garfan 1af ddigwyddiad hybu iechyd a gynhaliwyd yng nghanolfan siopa Grand Mall, y nod oedd darparu hybu iechyd i’r cyhoedd a hyrwyddo rôl y nyrs gymunedol. Ymwelodd amryw o bobl bwysig â’r digwyddiad gan gynnwys Prif Swyddog Nyrsio Oman. Mae’r math yma o ddigwyddiad wir yn arddangos gwaith y myfyrwyr.
fod yn sensitif yn ddiwylliannol. Rwy’n defnyddio cynrychiolaeth eiconig pan fyddaf yn eu haddysgu ac ar y dechrau doedd gen i ddim syniad pa eiconau fyddai’n ystyrlon i fyfyrwyr Omani. Dechreuais drwy roi enghreifftiau o’r DU a gofyn iddynt beth fyddai hynny’n cael ei gymharu ag ef yn Oman. Yn awr, yr wyf wedi adeiladu tipyn o repertoire o eiconau diolch i’r myfyrwyr. Oherwydd sgiliau siarad Saesneg rhagorol y myfyrwyr mae’n hawdd anghofio eu bod yn astudio drwy gyfrwng ail iaith. Rwyf wedi dysgu pa mor bwysig yw siarad yn glir ac yn araf a chaniatáu amser iddynt drosi. Rwyf hefyd wedi dod yn ymwybodol o ba mor aml yr wyf yn defnyddio ymadroddion llafar wrth ddysgu yn y DU a pha mor bwysig yw hynny yn Oman, rwy’n eu cynnwys drwy esbonio’r hyn yr wyf yn ei olygu ac mae fy addysgu wedi gwella diolch iddyn nhw
Beth oedd fwyaf heriol?
Judith Mae mynd i addysgu mewn gwlad arall wedi gwella fy ngallu i gyfathrebu gyda myfyrwyr tramor yn ôl yng Nghaerdydd. Rydych yn gweld yr heriau maent yn eu hwynebu o lygad y ffynnon yn Oman ac felly mae gen i well dealltwriaeth o’r hyn y gallent eu hwynebu yn y DU, yn ddiwylliannol ac yn academaidd. Mae darparu’r rhaglen wedi bod yn gromlin ddysgu wych.
Jerry Rydych chi i ffwrdd oddi wrth eich teulu am gyfnod gweddol hir. Fel arfer, byddaf yn mynd allan am 3 wythnos ddwywaith y flwyddyn ac nid yw’n addas i bawb. Arferai fod camsyniad ei fod yn wyliau, fodd bynnag, mae’n waith anhygoel o galed. Mae ein diwrnod yn dechrau am 5:30y.b.; rydym yn dechrau dysgu am 8:00y.b. a gorffen dysgu am 4:00y.p. Mae bywyd yn dal i fynd yn ei flaen yng Nghaerdydd fodd bynnag ac o ganlyniad i’r gwahaniaeth amser o 4 awr a’r gwahaniaeth yn yr wythnos waith rydych yn cael eich hun yn delio â’r gwaith hwnnw yn ogystal â’r ymrwymiadau addysgu llawn amser. Er gwaethaf hyn mae’n brofiad anhygoel o werth chweil. Judith Ar wahân i gadw i fyny â’r gwaith bob dydd, rheoli disgwyliadau myfyrwyr yw’r peth mwyaf anodd gan fod y myfyrwyr yn llawn cymhelliant ac yn awyddus i ragori. Mae eu hannog i ddod yn feddylwyr beirniadol yn heriol, yn ogystal â’u cefnogi yn eu hail iaith. Bu cynnydd gwirioneddol mewn graddau fesul modiwl wrth i’r flwyddyn fynd yn ei blaen ar gyfer y ddwy garfan sydd wedi cwblhau ac mae wedi bod yn eithaf calonogol gweld ein bod yn cael cymaint o effaith.
Beth ydych chi’n teimlo rydych wedi ei ddysgu eich hunain? Jerry Rwyf wedi dysgu bod myfyrwyr Oman yn gweld addysg fel braint ac nid hawl. O ran addysgu mae’n rhaid i chi
Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono? Jerry Yr wyf fwyaf balch o gyflawniadau ein myfyrwyr, maent i gyd mor ysgogol ac yr ydym wedi cael rhai llwyddiannau rhagorol. Er enghraifft, daeth un myfyriwr a raddiodd o’r garfan gyntaf i ymweld â ni pan oeddem yn Oman. Wrth gyrraedd cyflwynodd bedair erthygl yr oedd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion rhyngwladol. Roeddent i gyd am y newidiadau oedd wedi’u gwneud mewn ymarfer clinigol sy’n seiliedig ar y sgiliau rheoli dadansoddol a newid a’r effaith y mae ein rhaglen wedi ei gael ar wella gofal claf yn Oman. Judith Gweld y gwahaniaeth mae myfyrwyr wedi eu gwneud i gleifion yn eu cymuned a’r effaith rydym yn ei gael ar nyrsio cymunedol yn Oman. Mae’n galonogol i weld myfyrwyr yn datblygu meddwl chwilfrydig sy’n eu symud i hyrwyddo arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae myfyrwyr blaenorol wedi dychwelyd i drafod eu portffolios gyda myfyrwyr newydd ac mae gweld y gwahaniaeth y maent wedi’i wneud i ofal cleifion yn wirioneddol wych. 5
Dewch i gwrdd â’n pobl... C&A Monica Busse-Morris Ymunodd yr Athro Monica Busse-Morris â’r cyn Ysgol Astudiaethau Gofal Iechyd yn 2005, ac mae’n arweinydd thema ar gyfer thema ymchwil Atgyweirio, Ailalluogi, Adsefydlu ac Adfer yr Ysgol. Mae hi’n gyfarwyddwr cysylltiol Uned Treialon De-ddwyrain Cymru (SEWTU) ac yn arwain y Gr w ˆ p Ffisiotherapi Clefyd Huntington Caerdydd sy’n cynnal ymchwil ac yn rhoi arweiniad o gwmpas ymarfer corff, gweithgareddau corfforol a ffisiotherapi i bobl sydd â Chlefyd Huntington (HD). Cael gwybod mwy: www.healthcarestudies.cf.ac.uk/ActiveHD Disgrifiwch eich hun mewn tri gair… Penderfynol, gofalgar, fel arfer yn hapus
wrthdaro gyda byw ger fy nheulu yn Affrica)
Pam ffisiotherapi? Yr oedd yn ymddangos yn syniad da ar y pryd yn enwedig gan ei fod yn golygu y byddwn yn cael astudio a byw yn Stellenbosch, De Affrica am rai blynyddoedd.
fwyaf arno neu ei newid o ran gofal iechyd? Hoffwn weld mynediad cyffredinol i ofal iechyd i bawb gwaeth ble maent yn byw neu pwy ydynt (yn enwedig pobl yn Ne Affrica)
Pwy neu beth sydd yn eich ysbrydoli fwyaf? Fy ng w ˆr
I ble ydych chi’n gweld dyfodol ffisiotherapi yn mynd? Arbenigwyr ffisiotherapi yn arwain hunanreoli
Beth ydych chi’n fwyaf balch ohono? Fy nau o blant hardd, Kate (oed 6) a Max (bron yn 5 oed) Pe gallech gael tri dymuniad, beth fydden nhw? 1. Bod fy mhlant bob amser yn hapus ac yn iach 2. I fyw ger fy rhieni a’m chwaer yn hytrach nag ar draws y cyfandir 3. I fyw mewn cyrchfan sgïo (... math o 6 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
Beth fyddech chi’n hoffi dylanwadu
Sut ydych chi’n ymlacio yn eich amser hamdden? Ymlacio? Amser hamdden? Beth yw hynny? Fel arfer mae gwyliau yn yr awyr agored, beicio, cerdded, weithiau chwarae golff neu sgïo
Beth yw eich moment mwyaf o
embaras? Pan ofynnais i chwaraewr rygbi Cymraeg enwog (fel yr oeddwn yn eistedd nesaf
iddo ar yr awyren yn dod o Amsterdam) a oedd newydd ddringo Mynydd Everest (mae stori yma mae tipyn o bobl eisoes yn gwybod amdani). Dim ond wedyn pan dynnais sylw’r gyrrwr tacsi ato gwnes i ddarganfod pwy oedd e... Pe gallech fynd yn ôl mewn amser, pa gyngor fyddech chi’n ei roi i’ch hunan pan oeddech yn iau? Ceisiwch osgoi’r pyst rygbi yng nghanol y cae, dewch o hyd i ffyrdd o gwmpas y pethau hynny na fydd yn symud. Pwy yn y gwaith hoffech chi ddiolch iddynt? Ychydig o fentoriaid a ffrindiau rhagorol sydd ill dau wedi fy arwain a’m cefnogi yn fy ngyrfa; maen nhw’n gwybod pwy ydyn nhw. Beth sy’n adnodd gwych i’ch helpu i wneud eich swydd? Skype
Gweld y tu hwnt i Dementia ar gyfer Gwell Gofal i Gleifion Bob dydd mae un o bob pedwar o welyau gofal acíwt yn y DU yn cael eu llenwi gan rywun â dementia. Gyda’r nifer hwn sy’n tyfu, mae angen cynyddol i ddeall dementia a sut i weithio gyda, a chefnogi anghenion pobl sy’n dioddef ohono. Mae Dr Katie Featherstone, Uwch Ddarlithydd, yn arwain ymchwil i ymchwilio i ofal pobl â dementia a dderbyniwyd i’r ysbyty gyda chyflwr acíwt, gyda chyllid gan Sefydliad Cenedlaethol y GIG dros Ymchwil Iechyd, o fewn eu ffrwd ariannu a arweinir gan ymchwil. Ei ffocws yw nodi anghenion pobl â dementia, eu gofalwyr, a staff nyrsio a staff cymorth gofal iechyd o fewn y lleoliad acíwt, gyda ffocws ar reoli gwrthod, nodwedd gyffredin o’r symptomau ymddygiadol sy’n gysylltiedig â’r cyflwr. Mae’r gwaith hwn yw datblygu ymyriadau cost-isel, hyfforddiant ac addysg ar gyfer staff nyrsio a staff cymorth gofal iechyd yn benodol. Mae hi wedi casglu gr w ˆp rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol i ddwyn ynghyd arbenigedd mewn ymchwil, addysgu, ymddiriedolaethau’r GIG, elusennau a grwpiau cefnogi i nodi, deall, a datrys problemau gwirioneddol sy’n cael eu hwynebu o fewn ymarfer clinigol a nyrsio a chan bobl â dementia a’u teuluoedd sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn. Mae Katie am i’r ymchwil hwn gymryd safbwynt y claf, ac mae’n dechrau ei gwaith gyda phobl â dementia mewn lleoliadau ysbytai. Dechreuodd y prosiect ym mis Chwefror 2015, gyda’r nod ar gyfer allbynnau ymarferol, concrid sydd yn ymwneud â chefnogi staff. Mae hi eisiau canolbwyntio ar sut i ofalu am y cleifion hyn pan na fydd gan y gweithwyr proffesiynol a’r teuluoedd yr arbenigedd arbenigol, gyda ffocws penodol ar fwydo a meddyginiaeth ar gyfer y cleifion. Mae’r ymchwil hefyd yn cynnwys Nyrsys
Admiral, rhan o Dementia UK, sy’n darparu gofal nyrsio dementia arbenigol, gan helpu staff ysbytai a theuluoedd i weithio’n well gyda’i gilydd ar gyfer gofal cleifion. Meddai Karen Harrison, Cyfarwyddwr Nyrsio Admiral: “Rydym yn arbennig o awyddus i weld sut mae poen yn cael ei ganfod a’i reoli, a chanlyniadau’r canfyddiadau ar natur gwrthod gofal i helpu ym maes addysgu gofal iechyd proffesiynol. Yn aml, mae ymddygiad rhywun sydd â dementia yn cael ei gamddeall, gan nad yw’r cleifion yn gallu cyfathrebu. Mae symptomau yn aml yn cael eu camddehongli ac nid yw gofid, poen a symptomau corfforol yn hawdd eu hadnabod, maent yn cael eu cymryd yn ganiataol i fod yn amlygiadau o’r dementia ei hun.” Mae Dr Featherstone hefyd wedi cynnwys gr w ˆ p anffurfiol o bobl sydd wedi dod yn ffrindiau o ganlyniad i fod yn ofalwyr, neu rai sydd nawr yn gyn-ofalwyr pobl â dementia. Mae’r gr w ˆ p hwn yn cefnogi ei gilydd ac yn rhannu profiadau, yn cynnig atebion ac yn gweithredu fel un llais i wneud pethau’n iawn. Mae’r prosiect hwn yn cael ei dderbyn yn dda gan y gofalwyr, fel cyfle i’w lleisiau a’u profiadau gael eu rhannu, gan godi ymwybyddiaeth o anghenion eu hanwyliaid. “Fel gofalwyr mae’n ymddangos i ni pan fydd claf sydd â dementia yn mynd yn sâl iawn ac angen eu derbyn i ysbyty acìwt, fod llawer o’r gweithlu yn gwrthod edrych y tu hwnt i’r label ‘dementia’, fel achos eu salwch presennol. Gall pobl sydd â dementia hefyd brofi problemau iechyd anghysylltiedig eraill.
Mae ganddynt yr hawl i gael eu hasesu, i gael diagnosis a thriniaeth yn union yr un ffordd â phawb arall. Rydym yn credu bod rhai pobl â dementia yn marw yn ddiangen ac o flaen eu hamser wrth iddynt gael eu ‘gwasanaethu’n annigonol a’u hanwybyddu’. Fel gofalwyr rydym yn falch iawn bod y prosiect hwn yn edrych i wrthdroi’r gwahaniaethu hwn,” eglura Dr Rosie Tope, aelod gweithredol o’r gr w ˆp hwn, a hefyd Cadeirydd Gofalwyr Cymru. Un arall o brosiectau Dr Featherstone yw arwain fel rhan o’r ymchwil hon i helpu Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd ddod yn ‘ysgol gyfeillgar dementia’ - lle y byddwn yn cynnig hyfforddiant i’r holl staff a myfyrwyr i ddod yn ‘gyfaill dementia’ a dysgu mwy am weithio gyda phobl â dementia. Y nod cyffredinol yw ysbrydoli eraill i gydnabod anghenion pobl â dementia yn eu gwaith bob dydd (er enghraifft yn eu dysgu ac ymchwil) ac o fewn ein cymunedau. Ychwanega Karen Harrison: “Rydym yn gyffrous iawn gan yr ymchwil hwn. Bydd yn amhrisiadwy i helpu i egluro sut y gallwn weithio’n well a delio gydag ymddygiadau sy’n heriol, gan alluogi staff yr ysbyty, gofalwyr a theuluoedd i ofalu’n well am bobl gyda dementia.” Mae Dr Featherstone yn disgrifio ei chymhelliant fel: “Mae angen i ni ddechrau adeiladu yn awr, gan weithio gyda’r gymuned, megis â grwpiau gofalwyr, ac nid ar wahân. Mae rhai bylchau eithriadol yn ein gwaith ymchwil, mae llawer nad ydym yn ei wybod, ac mae angen i ni symud ymlaen gyda dysgu, ymchwilio, ac yn bwysig iawn, rhannu gydag eraill.” 7
Ymweliad Brenhinol
Croesawodd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd dros 300 o gynrychiolwyr, gan gynnwys cyn-fyfyrwyr, staff a myfyrwyr presennol i gynhadledd yn dathlu 50 mlynedd o addysg therapi galwedigaethol yng Nghymru ym mis Ionawr. Uchafbwynt y gynhadledd oedd ymweliad gan EHB y Dywysoges Frenhinol. “Roeddem yn hynod falch bod EHB y Dywysoges Frenhinol yn gallu ymuno â ni a marcio’r 50 mlynedd o addysg therapi galwedigaethol yng Nghaerdydd yn swyddogol,” meddai Dr Steven Whitcombe, Pennaeth Proffesiynol Therapi Galwedigaethol Prifysgol Caerdydd. “Fel Noddwr y Coleg Therapyddion Galwedigaethol, mae’r Dywysoges Frenhinol yn adfocad blaenllaw ar gyfer ein proffesiwn a’n gwaith hanfodol. Rydym yn gobeithio bod ein digwyddiad
a’n hymwelydd Brenhinol wedi helpu i daflu goleuni ar ein llwyddiannau a manteision therapi galwedigaethol i bobl yng Nghymru, y DU, a’r byd ehangach.” Yn ogystal â chlywed cyfres o areithiau gan staff a myfyrwyr y gorffennol a’r presennol, ymgymerodd EHB y Dywysoges Frenhinol daith o amgylch cyfleusterau’r Ysgol. Roedd yn gallu gweld drosti ei hun y cyfarpar a’r technegau diweddaraf a ddefnyddir gan yr Ysgol a siarad â staff, myfyrwyr a rhai o’r plant sydd yn cael eu trin mewn clinig therapi galwedigaethol yr Ysgol.
Cyfarwyddwyr cyfredol a chyn gyfarwyddwyr ThG wedi eu haduno mewn Cinio Gala i ddathlu
Sue Delport o’r Clinig ThG yn dangos y ffordd y mae’r clinig yn gwella ac yn trawsnewid bywydau
Mwynhaodd Maeve Harnett a chyd-fyfyrwyr y cyfle i drafod eu rhaglen
Roedd y Dywysoges Frenhinol yn siaradwr VIP yn y gynhadledd pen-blwydd
Dywedodd Maeve Harnett, myfyriwr therapi galwedigaethol trydedd flwyddyn a gafodd ei dewis i gwrdd â’r Dywysoges Frenhinol, “roedd ganddi ddiddordeb arbennig mewn pam ein bod wedi dewis dod yn therapyddion galwedigaethol - sut yn y lle cyntaf roeddem wedi darganfod y proffesiwn a beth a’n hysgogodd i wneud cais.” Ers i’r rhaglen agor ei drysau am y tro cyntaf yn 1964, mae dros 2,000 o fyfyrwyr wedi graddio gyda gradd therapi galwedigaethol Prifysgol Cymru, neu (o 2005) Prifysgol Caerdydd. Ymunodd llawer o gyn-fyfyrwyr â ni ym mis Ionawr ar gyfer y dathliadau, a dangosodd adborth ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod ac ar ôl y digwyddiad faint yn union yr oeddent wedi mwynhau’r cyfle i ddathlu “50 mlynedd wych o ThG.” Roedd un defnyddiwr yn enwedig wedi mwynhau “gweld fy holl hen athrawon, Martin, Ruth, Mary, Sara a Gail,” tra bod un arall wedi cael “diwrnod hyfryd gyda rhai ffrindiau hyfryd, darlithwyr ac EHB y Dywysoges Frenhinol. Yn falch o fod yn gyn-fyfyriwr ThG Caerdydd!”
8 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
1000 o Fywydau Cymru; gall gwelliannau bach arwain at newid mawr
Aled Jones a Francesca Magness yn ymuno â myfyrwyr bydwreigiaeth y drydedd flwyddyn gyda’u gwobrau Efydd 1000 o Fywydau.
Mae myfyrwyr bydwreigiaeth 3edd blwyddyn Prifysgol Caerdydd yn arwain y ffordd o ran ymgorffori gwella ansawdd yn eu hymarfer trwy ymgymryd â Gwobr Efydd 1000 o Fywydau ar gyfer Gwella Ansawdd Gyda’n Gilydd (IQT). Y wobr Efydd yw’r lefel gyntaf i ymgymryd â hi ac mae’n addas ar gyfer holl staff y GIG gan gynnwys gweithwyr anghlinigol. Mae’r wobr yn cynnwys pedwar modiwl e-ddysgu sy’n cyflwyno’r model ar gyfer gwella a chanolbwyntio ar ymagwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i wella ansawdd. Hyd yn hyn, mae 10,260 o staff GIG Cymru wedi ennill y dyfarniad lefel Efydd ac mae myfyrwyr ar draws Cymru hefyd yn ymgymryd â’r rhaglen. Fodd bynnag, mae hyn yn anghyffredin o ran myfyrwyr bydwreigiaeth y 3edd flwyddyn, wedi iddynt gwblhau hyn fel carfan yn yr ystafell ddosbarth yn hytrach nag yn unigol ar-lein.
Ym mis Medi 2012, gwreiddiwyd y wobr Efydd IQT i mewn i’r cwricwlwm ar gyfer yr holl fyfyrwyr bydwreigiaeth i ymgymryd ag ef ochr yn ochr â’u gradd israddedig. Mae ymgorffori sesiynau IQT 1000 o Fywydau trwy gydol tair blynedd y rhaglen yn golygu mwy o ymateb i heriau yn y gweithle, yn ymwneud yn benodol â materion ansawdd o fewn y gwasanaethau mamolaeth yng Nghymru. Mae’r Uwch Ddarlithydd, Dr Aled Jones, Ymgynghorydd Cyfadran Addysg (1000 o Fywydau+) yn egluro nodau sylfaenol y rhaglen: “Mae’r IQT yn rhoi hyder i’r myfyrwyr feddwl amdanynt eu hunain fel arweinwyr y dyfodol ac yn rhoi caniatâd iddynt wneud gwelliannau bach a all arwain at newid mwy. Mae’r wobr yn arbennig o boblogaidd gyda myfyrwyr gan ei fod yn pontio’r bwlch rhwng profiadau dosbarth ac ymarfer.” Mae’r wobr yn grymuso pawb gyda’r ddealltwriaeth i wneud newidiadau bach a fydd wir yn gwella meysydd gofal. Gan ei fod ar gael i holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol ar draws Cymru mae’n golygu datblygu
unffurfiaeth ar gyfer arfer gorau ynghyd â rhannu geirfa, methodoleg a dealltwriaeth. Mae’r adborth gan y myfyrwyr bydwreigiaeth wedi bod yn gadarnhaol iawn. Mae Francesca Magness, Rheolwr Rhaglen a chynrychiolydd ar y Gr w ˆ p Llywio Addysgwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru (1000 o Fywydau) yn ehangu ar hyn: “mae’r wobr wedi cael derbyniad da iawn; mae’r myfyrwyr yn gyffrous iawn am dderbyn eu gwobr efydd. Mae nid yn unig yn gwella eu sgiliau trosglwyddadwy, ond hefyd mae’n cynyddu eu rhagolygon cyflogadwyedd ac yn eu gosod ar ‘lwybr i wobr arian’ y gallant fynd ymlaen i’w gyflawni yn eu rôl fel Bydwragedd Cofrestredig newydd.”
Y MIS hwn rydym yn llongyfarch
myfyrwyr bydwreigiaeth 3edd flwyddyn Prifysgol Caerdydd am gwblhau eu gwobr lefel efydd. Ar 9 Mawrth, cyflwynwyd tystysgrif i’r myfyrwyr am eu hymdrechion.
9
Gweithio gyda Butetown: dechrau da, yn gyflym Mae Sarah Fry, Arbenigwraig Nyrsio Clinigol Uro-Oncoleg a myfyriwr PhD, ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ymchwil i ddeall a yw dynion o darddiad Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd a dynion gwyn Prydeinig yn deall eu risg ar gyfer canser y prostad yn wahanol. Mae hi’n edrych ar y gwahaniaeth hwn oherwydd y nifer isel o ddynion du sy’n cael diagnosis o ganser y prostad er gwaethaf eu risg cynyddol.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.facebook.com/ butetownmile
10 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
Fel rhan o’i hymchwil, mae Sarah wedi ymrwymo i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r canser ymhlith y rhai sydd mewn perygl. Yn fwyaf diweddar, cymerodd ran mewn sgwrs a drefnwyd gan Tenovus i ddynion yn y gymuned Somali leol yn Butetown. Roedd y sgwrs, a gynhaliwyd ar 12 Chwefror, yn rhoi gwybodaeth am ganser y prostad a chanser y ceilliau mewn sesiwn anffurfiol yn Red Sea House - cartref i ddynion môr Somali wedi ymddeol. Eglurodd Sarah: “Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr. Cawsom gyfanswm o 64 o ddynion yn mynychu’r sgwrs yn Red Sea House. I mi roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gasglu nodiadau maes ar yr hyn oedd y digwyddiad, pwy oedd y bobl a oedd yn mynychu, a sut roeddent yn ymateb i’r wybodaeth a roddwyd iddynt. Yr wyf hefyd wedi cael dwy alwad ddilynol o’r digwyddiad hwn gan ddynion sydd eisiau cymryd rhan yn fy ymchwil.”
Sarah gydag aelodau’r pwyllgor, Tony Hendrickson a Steve Khaireh ar gyfer Milltir Butetown.
Yn ogystal, mae Sarah yn ymwneud yn helaeth â’r pwyllgor a sefydlodd Milltir Butetown. Mae hwn yn ddigwyddiad a drefnodd y llynedd gyda’r gymuned yn Butetown. Dywedodd: “Rwyf hefyd wedi defnyddio fy ymwneud â’r pwyllgor fel ffordd o gasglu nodiadau maes ac roedd y rhediad mor boblogaidd rydyn ni am ei wneud eto eleni.” Bydd y rhediad Milltir Butetown yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 30 Awst 2015. Bydd dwy ras: rhediad elitaidd am 11y.b. a ras hwyl am 11.15y.b. Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys llawer o weithgareddau cymunedol gyda’r nod o gynnwys pobl leol. Mae Sarah yn dweud mwy wrthym: “Os ydych am gymryd rhan yn y digwyddiad, bydd cofrestru yn agor o’r 25 Mai 2015 drwy wefan Cancer Research UK.”
PAL: Dod â Myfyrwyr Ynghyd Gan: Claire Blakeway (Is-lywydd, Campws Parc y Mynydd Bychan) Steph Bird (Myfyriwr Radiotherapi ac Oncoleg) Er gwaethaf Prifysgol Caerdydd yn darparu ystod eang o gyrsiau gofal iechyd, sydd wedi cael cydnabyddiaeth fawr dros y blynyddoedd, yn ôl yn Awst 2013, roeddem yn teimlo y gallai profiad dysgu’r myfyrwyr gael ei wella hyd yn oed yn fwy. Fe wnaethom ni ddatblygu rhaglen, Dysgu wedi ei Gynorthwyo gan Gymheiriaid (PAL), fel cynllun cymorth academaidd lle mae myfyrwyr ail a thrydedd flwyddyn, ‘yr Arweinwyr Myfyrwyr’, yn cael eu hyfforddi i gynnal sesiynau rheolaidd i ychwanegu at ddysgu blynyddoedd is a chymrodyr’. Mae’r arweinwyr hyn yn trosglwyddo eu gwybodaeth trwy ystod eang o weithgareddau a gweithdai yn ogystal â darparu eu hunain fel cymorth adolygu perffaith. Fel myfyrwyr gofal iechyd blwyddyn olaf ein hunain, rydym yn deall sut y gall dysgu fod yn anodd - yn enwedig tra ar leoliad. Gydag ychydig iawn o amser cyswllt roeddem am sicrhau bod ffordd arall y gallai myfyrwyr ddysgu ac adolygu pan nad oeddent yn y brifysgol. Gwnaethom gais i gael arian ar gyfer y prosiect gan yr Academi Addysg Uwch (AAU). I gefnogi ein cais, cynhaliwyd grŵp ffocws i siarad yn uniongyrchol â myfyrwyr ac i gael gwybod beth oedd eu hanghenion dysgu a ph’un ai a oedd angen sefydlu PAL. Bwydodd myfyrwyr yn ôl i ni destunau y credant y byddai’n ddefnyddiol i’w cwmpasu gan fynegi eu
barn ar y dulliau dysgu y byddent yn eu cael fwyaf buddiol fel rhan o PAL. Ym Medi 2013 darganfûm ein bod yn un o ddim ond 12 o brosiectau a oedd wedi bod yn llwyddiannus yn derbyn arian gan yr Academi Addysg Uwch - roedd cynllun PAL Caerdydd un cam yn nes! Roeddem yn falch iawn o gael gwybod bod ein holl ymdrech wedi talu ar ei ganfed a bod gennym y cyfle i newid y profiad dysgu myfyrwyr gofal iechyd. Ers mis Medi diwethaf, yr ydym wedi cynnal grwpiau ffocws ychwanegol i ymchwilio i ffyrdd y gall profiadau dysgu gael eu gwella. Y prif adborth a gawsom gan grwpiau ffocws yw bod myfyrwyr eisiau tiwtorialau fideo, cwisiau a chronfeydd data wedi eu cyfuno i ap a ellir ei lawrlwytho, sy’n cynnwys gwybodaeth glinigol ac academaidd.
i ddysgu ymadroddion Cymraeg sylfaenol i ddefnyddio tra ar leoliad. Rydym hefyd yn bwriadu dechrau gweithio ar anatomeg, offer theatr ac adrannau negeseuon ffisiotherapi. Rydym yn bwriadu lansio ein hadnoddau PAL ar-lein mewn pryd ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf ac yn ystod Wythnos y Glas byddwn yn trefnu Showcase Pal i dynnu sylw at yr adnoddau a gweithgareddau.
AM FWY O WYBODAETH anfonwch e-bost i: vpheathpark@cardiff.ac.uk
Arweinwyr PAL Claire Blakeway, Is-lywydd, Campws Parc y Mynydd Bychan a Steph Bird, Myfyriwr Radiotherapi ac Oncoleg.
Roeddem yn falch iawn o gael gwybod bod ein holl ymdrech wedi talu ar ei ganfed a bod gennym y cyfle i newid y profiad dysgu myfyrwyr gofal iechyd. Yr ydym wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr o ystod o wahanol ddisgyblaethau gofal iechyd i lunio tiwtorialau fideo ar gyfer yr ap. Hyd yn hyn, rydym wedi ffilmio lleoli radiograffig, sgiliau cyfathrebu a ‘Gofalu drwy’r Gymraeg’ sydd â’r nod o helpu myfyrwyr 11
Datblygu Cwricwla Cynhwysol: Prosiect cydweithredol gyda Stonewall Mae Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd wedi bod yn gweithio gyda Stonewall i ddatblygu addysg ar gyfer academyddion. Mae’r prosiect cwricwlaidd cynhwysol sy’n datblygu yn anelu at gynyddu dealltwriaeth academyddion gofal iechyd o anghydraddoldebau iechyd Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) ac i gynyddu hyder academyddion i gynnwys y rhain yn eu haddysgu bob dydd. Cafodd y fenter hon ei hyrwyddo ar 27 Mawrth 2015 ym 5ed Cynhadledd Cwricwlwm Blynyddol Ysgol Feddygaeth Prifysgol Caerdydd, C21: Ennill Momentwm, lle cynhaliodd y tîm prosiect stondin wybodaeth.
Mae’r prosiect yn darparu diwrnodau hyfforddi am ddim i bob aelod o staff academaidd Prifysgol Caerdydd sy’n cyfrannu at addysg myfyrwyr gofal iechyd. Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal ar
YSGOLION Dyfarnwyd grant o £30,000 i Sally Anstey gan Tenovus i greu modiwl addysgol newydd. Mae’r modiwl, ar gyfer nyrsys cymwysedig a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, yn canolbwyntio ar ganser fel clefyd goroesadwy, ac yn unigryw yn y bydd yn cael ei greu, ei fonitro a’i asesu gan gleifion yn ogystal â chlinigwyr.
Sexua_l Interactive exercises to Mae Dr Nicki Phillips wedi cael OrienD SOtaCIALtiCAoREn ei wneud yn Chef de Mission Tîm You can integrate any of the following exercises directly into your
delivery or they can be adapted to Cymru be morear relevant your discipline A HEALTH AN gyfer to Gemau Ieuenctid URCE CURRICULA RESOor module. y Gymanwlad 2015 a fydd yn
digwydd yn Samoa ym mis Medi.
THE CONFIDENCE RULER
Mae gwahaniaethau sylweddol rhwng anghenion iechyd pobl LGBT a rhai pobl heterorywiol. Yn ogystal, mae llawer o bobl LGBT yn adrodd eu bod wedi profi neu’n ofni gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol wrth gyrchu gofal iechyd. Maent yn dweud bod hyn yn creu rhwystr i dderbyn gofal a thriniaeth briodol. Mae angen i fyfyrwyr ddeall anghenion iechyd cleifion LGBT ac i allu cael gwared ar y rhwystrau sy’n eu hwynebu i dderbyn gofal a thriniaeth briodol.
LLWYDDIANNAU
How to do it:
This exercise can be used to assess levels of confidence in your Mae ein rhaglen Dychwelyd i students, and to iden fy prac cal ways to make students feel more Ymarfer, a reolir gan Jayne Foley, confident about LGB issues.
➧
_
wedi cael ei henwebu ar gyfer Return to Practice Course of Use the Stonewall Confidence in this guide, the YearRuler yng template Ngwobrau Student draw a ruler on a flipchart or mark out a ruler on the floor. Times 2015. Include a scale from Nursing zero to ten,y with 0 being ‘not at all’ and 10 being ‘very.’
_ Ask the group about where they would place themselves
Llongyfarchiadau i Andrew on the scale in response to a specific ques on, for example:
Santos, sydd wedi bod ar y rhestr
On a scale of 0-10 how confident are you: fer arlanguage gyfer y wobr Athrawon Mwyaf …challenging homophobic …discussing health needs with ayng lesbian, gay or bisexual Effeithiol Ngwobrau Cyfoethogi pa ent Bywyd Myfyrwyr eleni, ac i lawer …suppor ng a pa ent or colleague who tells you they o staff y Gwyddorau Gofal Iechyd are gay?
Mae’r prosiect yn darparu diwrnodau hyfforddi am a dderbyniodd enwebiadau. _ Use a ques on that iseraill relevant to your module and discipline, ddim i bob aelod o staff but make sure you keep the ques on clear and simple at the bo om of the scale, ask people to raise academaidd Prifysgol_ Star ng Llongyfarchiadau i their hands when you reach the number that represents Dr Una Jones, a enillodd ei their level of confidence. People rarely (if ever) say zero. Caerdydd sy’n cyfrannuThis gives you a star ng a group discussion. PhDpoint yn for ddiweddar, a hefyd i _ Start by asking ques ons about why par cipants are Dr Mandayachepa Nyando. at addysg myfyrwyr gofal higher than zero – then begin to explore what would make them feel more confident _ Ask people who have more confidence: iechyd. Why do they have more confidence? What do they think would work in this situa on and why? What can they recommend other people say and do?
18 Mehefin 2015 28 Hydref 2015
_ Ask people who have less confidence:
7 Rhagfyr 2015
guide provides you with everythi _ This gives you a simpleThis way to start talking about prac cal
WHAT YOUR PROFESSIONAL I ARCHEBU LLE CODES OF cysylltwch â Katy Perkins yn perkinsk@cardiff.ac.uk PRACTICE SAY
What do you think would make you feel more confident? techniques, policies, procedures and resources that will and deliver healthcare raise the confidence of students
curricula that p environment for lesbian, gay and bise and pa�ents. It will enable you to sup of health and social care professional and effec�vely comply with both equ relevant professional code of prac�ce orienta�on.
2 8
_ The Nursing and
12 Iechyd Da | Haf 2015 | Rhifyn 2
The NMC regulates registered nurses and midwives in England, Wales,