
8 minute read
Yn gryno - y diweddaraf a gwybodaeth leol
Rhodd Eryri
Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Rhodd Eryri, y cynllun ‘ymwelwyr yn rhoi’, sef cyfrwng i fusnesau lleol a’u cwsmeriaid roi rhywbeth yn ôl i’r ardal. Pan gymerwyd cyfrifoldeb am y cynllun peilot gan Gyngor Gwynedd, roeddem yn gobeithio y byddai’n ffynnu a chynhyrchu llawer o gefnogaeth i brojectau lleol. Yn drist iawn, mae wedi diflannu’n llwyr – gresyn o ystyried yr holl waith a wnaed i’w ddatblygu. Fodd bynnag, bydd Rhodd Eryri yn dod i ben ar nodyn bositif a gyda chofrodd positif; defnyddir y cyfraniad olaf i’r Gymdeithas o £1,250 i ddarparu hyfforddiant ymarferol mewn medrau cadwraeth i bobl ifanc Eryri.
Advertisement
HSBC
Anaml y gwelwch chi gyfeiriad at fanciau yn y tudalennau yma. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo y dylem adael i chi wybod bod yr Ombwdsman Ariannol unwaith eto wedi penderfynu ar ein hochr ni yn ein brwydr tymor hir gyda HSBC ynglŷn â’u methiannau mewn perthynas â’n cyfleusterau taliadau. Mae Judith a Debbie (a Frances o’u blaenau) wedi gwneud gwaith ardderchog o ran ceisio sicrhau bod ein banc yn cywiro eu camgymeriadau. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2016. Dydy’r gorchymyn iawndal o £750 ddim yn agos at dâl am amser y staff a chostau’r pryder, ond o leiaf mae’n fuddugoliaeth symbolaidd. Llawer o ddiolch i’r sawl ohonoch sydd wedi gorfod ail-gyflwyno mandadau debyd uniongyrchol pan na hawliwyd eich tanysgrifiadau – rydym yn wir werthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth.
Hyrwyddo byd natur
Weithiau mae’n teimlo fel pe bai yr Wyddfa wedi dod yn rhyw fath o fynydd aberthol. Drwy lygad cul y cyfryngau (a’u pwyslais ar barcio! sbwriel! torfeydd!), fe’i gwelir fel lle budr ac anrhefnus. Yn y cyfamser fe all y cyfryngau cymdeithasol a hunluniau chwyddo’r naratif ‘fi yn erbyn y mynydd mawr’ yn anghymesur â’r gwirionedd. Mae elfen o wirionedd yn y ddau farn, wrth gwrs. Defnyddir llawer o’n hadnoddau o ran staff a gwirfoddolwyr ar ymateb i’r heriau o ganlyniad i gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond byddai’n bechod dod i’r canlyniad nad ydy’r Wyddfa yn ddim byd ond rhywle sy’n peri trafferth. Yn anfodlon teimlo’n drist am yr Wyddfa, penderfynwyd gwneud rhywbeth amdano! Cyn bo hir byddwn yn datgelu ein taflen newydd 'Yr Wyddfa - y Mynydd Byw'. Gobeithiwn bod ei bwrpas yn amlwg, sef ysbrydoli ymwelwyr i edrych o’r newydd a gweld yr Wyddfa mewn ffordd wahanol, a’i werthfawrogi a’i barchu oherwydd ei fod yn fynydd hynod arbennig. Yn benodol mae’r daflen, a’r adnoddau ar-lein sy’n mynd gyda hi, yn tynnu sylw at y bywyd gwyllt rhyfeddol sy’n byw ar lethrau’r Wyddfa.
Rydym yn ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’u cronfa CAE a dalodd am ran o’r gwaith hwn, ac i’r llu o bartneriaid a’r cefnogwyr gwybodus a ddarparodd fewnbwn.
Golwg o’r newydd ar gludiant
Yn ddiweddar rydym wedi adrodd ar ein gwaith fel rhan o Bartneriaeth Eryri i fynd i’r afael â heriau cludiant a pharcio sydd yn raddol wedi dod yn fwy amlwg mewn mannau ‘pot mêl’ – yn fwyaf amlwg yr Wyddfa ei hun ac Ogwen. Mae’r rhan fwyaf o’r dewisiadau’n cynnwys cynyddu graddfa neu ailgynllunio darpariaeth cludiant cyhoeddus. O ganlyniad i bellhau cymdeithasol mae’r dewisiadau yma’n ymddangos yn fwy anodd ar hyn o bryd, ond ni ddylai hyn ein rhwystro rhag bwrw golwg o’r newydd ar y broblem. Felly roeddem yn falch o glywed gan Ed Straw, sy’n byw ger rhywle allweddol o ran cludiant. Dyma sydd gan Ed i’w ddweud:
“Rydw i’n byw yn Nant Peris sydd, mae’n debyg, ymysg y mannau gorau i fod yn ystod cyfnod o glo mawr. Efallai mai’r newid mwyaf yn ein dulliau o fyw yn ystod y cyfnod hwn oedd diffyg sŵn cerbydau. Mae’r tawelwch, heblaw synau hyfryd byd natur, wedi bod yn wych, ynghyd â’r cyfle i grwydro ar hyd y cwm heb orfod gwylio’r ceir neu eu hosgoi. Mae’r Parc yn brofiad gwahanol iawn heb geir, efallai yn llawer mwy felly nag yr oedd neb wedi ei ddisgwyl.
Mae hyn wedi peri i rai ohonom feddwl: rŵan bod ymwelwyr yn cael dod unwaith eto, a fyddai modd rhoi prawf ar ddiwrnod di-geir bob mis o amgylch yr Wyddfa? Ac efallai Ogwen hefyd? Unwaith y bydd ymwelwyr yn profi yr hyn yr ydym wedi bod mor ffodus â’i brofi dros y tri mis diwethaf, a fydden nhw’n gwerthfawrogi cymaint yn well mewn cymaint o wahanol ffyrdd yw’r ardal heb sŵn, symudiadau, peryglon a natur ymwthiol ceir? Mae’n wahaniaeth enfawr. Mewn amser, efallai y byddai ymwelwyr yn gofyn am fwy o ddyddiau di-geir, oherwydd byddai hyn yn gwella cymaint ar eu hamser yma.
Byddai angen cryn waith i drefnu hyn yn nhermau parcio, cynllunio parcio a chludo, bysiau ymatebol, tacsis integredig ac wedi eu rheoleiddio, dirwyon parcio i annog pobl i beidio parcio mewn ambell le, trenau ac yn y blaen. Byddai’n rhaid cydweithio gyda busnesau lleol a’u cysuro. Mae dinasoedd o amgylch y byd yn cymryd y cyfle hwn i gynyddu mannau di-geir, felly pam nid ni?”
Cynllunio – y Diweddaraf: Llanbedr – gwyliwch y gofod
Mae’r golygfeydd arfordirol trawiadol a’r ucheldir garw uwchben Llanbedr yn un o ryfeddodau llai adnabyddus y Parc Cenedlaethol. Ond, mae’r ardal hon o dan fygythiad gan gasgliad o ddatblygiadau rhyngberthynol a chynigion ‘awyr ofod’.
Er gwaethaf cynrychioliadau manwl a phryderon y Gymdeithas, rhoddwyd caniatâd cynllunio am ffordd osgoi newydd filltir o hyd yn gynharach y flwyddyn hon. Er wedi ei gynllunio’n ofalus i leihau niwed, byddai’n peri difrod na ellir mo’i adfer i’r tirlun, treftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt i’r gorllewin o bentref Llanbedr. Mae adeiladu’r ffordd hon ai peidio yn fater arall. Yn dilyn y prisiad economaidd mwyaf diweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru daethpwyd i’r canlyniad y byddai’n golygu ‘gwerth isel am arian’. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd yn ariannu cynlluniau trafnidiaeth os nad ydyn nhw’n cyfateb i ofynion prisiad technegol o’r enw ‘WelTAG’. Hyd yma, does dim WelTAG diweddar wedi ei gwblhau ar gyfer ffordd Llanbedr. O ystyried rhagolygon economaidd y DU, sy’n dirywio,
byddwn yn pwysleisio i Lywodraeth Cymru mai dim ond y gwerth mwyaf am arian a chynlluniau trafnidiaeth sy’n wir gynaliadwy ddylai gael eu cymeradwyo. Meddyliwch
am reilffyrdd, bysiau a beicio. Ychydig o’r blychau yma sy’n edrych tua’r dyfodol y mae ffordd osgoi Llanbedr yn eu ticio. Mae’r datblygiad hwn yn cael ei hyrwyddo yn bennaf oherwydd byddai’n sicrhau gwell mynediad i loriau i Faes Awyr Llanbedr yn hytrach na darparu rhywfaint o welliannau amgylcheddol ym mhentref Llanbedr. Mae’r safle’n rhan o’r hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei labelu yn ‘Parth Menter Eryri’ (PME). Mae Cynllun Datblygu Lleol Eryri, yn briodol iawn, yn gofyn am gynhyrchu meistr gynllun ar gyfer datblygu safle PME Llanbedr, i ddarparu’r wybodaeth sydd ei angen ar Awdurdod y Parc Cenedlaethol i sicrhau bod rhinweddau arbennig yr ardal yn cael eu gwarchod. Does dim sôn bod y meistr gynllun hwn yn dod i’r golwg eto. Er gwaethaf hyn, cyhoeddodd datblygwyr PME gynigion – y mae’n rhaid eu cymeradwyo gan yr Awdurdod Hedfan Sifil – yn nodi sut byddai cannoedd o filltiroedd sgwâr o ofod awyr o amgylch y maes awyr yn cael eu ddefnyddio.
Rydym yn gwybod eisoes bod gofod awyr gwahanedig oddi ar y lan dros Fae Ceredigion ar gael i brofi dronau a cherbydau awyr ‘arbrofol’ eraill a ddatblygir yn y PME. Dydy’r Gymdeithas ddim yn gwrthwynebu hyn. Fodd bynnag, cyhoeddwyd yn ddiweddar bod yr RAF yn dymuno defnyddio’r maes awyr unwaith eto, yn gysylltiedig â chadarnhau ei hyfforddiant peilotiaid ym Maes Awyr y Fali ar Ynys Môn. Mae hedfan er mwyn hyfforddiant peilotiaid yr RAF yn digwydd ledled gogledd Cymru felly mae effeithiau’r sŵn i rhyw raddau wedi eu gwasgaru. Rydym yn parchu anghenion hyfforddiant yr RAF.
Yr hyn sy’n bryderus yw cynnig ar wahân a hollol fasnachol i ddefnyddio ardal o ofod awyr i mewn i’r tir, i’r dwyrain o Lanbedr, ar gyfer ‘ardal estynedig ar gyfer cynnal profion gweithredu ar ucheldir/fynydd’ o dronau prototeip a cherbydau awyr ‘arbrofol’ eraill – boed y rheiny ar gyfer defnydd sifil neu filitaraidd.
Mae’r ardal sydd o dan sylw wrth wraidd mynyddoedd y Rhinogydd. Dyma ardal o’r ucheldir sy’n adnabyddus am fod yn anghysbell a gwyllt yn ogystal â’i thawelwch ymhell o sŵn a phrysurdeb yr arfordir a’r cymoedd i mewn i’r tir. Rydym wedi ei wneud yn amlwg y bydd Cymdeithas Eryri yn gwrthwynebu’n chwyrn unrhyw ecsbloetio masnachol swnllyd o’r gofod awyr sy’n amgylchynu’r man arbennig hwn, y peth agosaf sydd gennym at ‘dir gwyllt’ yng Nghymru. Byddai datblygiad o’r fath yn peri difrod sylweddol i fwynhad y cyhoedd o rinweddau arbennig Eryri ac felly ni fyddai’n cydymffurfio gyda phwrpasau statudol y Parc Cenedlaethol. Dyma alwad i bob aelod o Gymdeithas Eryri – os gwelwch yn dda, byddwch yn barod i’n cefnogi yn y gwaith hwn, pe bai angen ymgyrch.
Digwyddiadau: daw eto haul ar fryn*
Sgramblo ar y Carneddau gyda Rob Collister ● Carneddau scramble with Rob Collister
Bwrw trem yn ôl, ac ymlaen, ar ddigwyddiadau Cymdeithas Eryri 2019-2020
Y llynedd mynychwyd digwyddiadau Cymdeithas Eryri gan fwy o bobl nag erioed o’r blaen. O sgwrs boblogaidd ein Cyfarwyddwr ar Ail-feddwl Dad-ddofi ym Mhlas-y-Brenin ym mis Tachwedd i’n penwythnos Mentro a Dathlu tri-diwrnod blynyddol ym mis Medi, denwyd bobl o bell ac agos at ein rhaglen brysur o ddyddiau i wirfoddolwyr, teithiau, gweithdai a sgyrsiau, er mwyn helpu i gefnogi’r Parc Cenedlaethol.
Ni all 2020 fod yn fwy gwahanol; o ganlyniad i’r coronafeirws a’r cyfyngiadau dilynol gohiriwyd ein holl ddigwyddiadau, a chyfyngwyd ein gwaith i weithgareddau ar-lein. Ymlaen i heddiw ac rydym yn paratoi i ail-gychwyn ystod o weithgareddau awyr agored yn fuan – yn dilyn ymlaen o’n gwaith ar y cynllun i wirfoddolwyr, ‘Croeso’n ôl’ i Eryri, wrth gydweithio gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’r Bartneriaeth Awyr Agored.
Gyda chanllawiau diogelwch priodol mewn grym bydd rhai gweithgareddau awyr agored yn bosibl ac, wrth gwrs, rydym hefyd yn gallu cynnal digwyddiadau ar-lein, fel sgwrs boblogaidd ein Cyfarwyddwr, ‘Pwysau ar y Mynydd’, yn ôl ym mis Mai, a ffrydiwyd fel rhan o raglen ar-lein y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol, ac a ddenodd dros 200 o fynychwyr.
Rydym yn gweithio’n ddygn i wneud i bethau ddigwydd, mewn modd diogel, ac mae angen eich cefnogaeth ar Gymdeithas Eryri yn fwy nag erioed er mwyn goroesi’r cyfnod anodd hwn. Felly cadwch mewn cysylltiad, cadwch lygad ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a sicrhewch eich bod wedi tanysgrifio i’n e-fwletinau. Rydym yn edrych ymlaen at weld rhai ohonoch eto yn fuan – efallai ar y bryniau ac mewn heulwen! *‘Daw eto haul ar fryn’: gwelwyd y geiriau adnabyddus yma o gerdd gan J.T. Job o Fethesda ochr yn ochr â llu o luniau o’r enfys yn ystod y clo mawr yn nyffryn Ogwen y gwanwyn hwn.