Yn Gryno - y diweddaraf a gwybodaeth leol Rhodd Eryri Rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth Rhodd Eryri, y cynllun ‘ymwelwyr yn rhoi’, sef cyfrwng i fusnesau lleol a’u cwsmeriaid roi rhywbeth yn ôl i’r ardal. Pan gymerwyd cyfrifoldeb am y cynllun peilot gan Gyngor Gwynedd, roeddem yn gobeithio y byddai’n ffynnu a chynhyrchu llawer o gefnogaeth i brojectau lleol. Yn drist iawn, mae wedi diflannu’n llwyr – gresyn o ystyried yr holl waith a wnaed i’w ddatblygu. Fodd bynnag, bydd Rhodd Eryri yn dod i ben ar nodyn bositif a gyda chofrodd positif; defnyddir y cyfraniad olaf i’r Gymdeithas o £1,250 i ddarparu hyfforddiant ymarferol mewn medrau cadwraeth i bobl ifanc Eryri. HSBC Anaml y gwelwch chi gyfeiriad at fanciau yn y tudalennau yma. Fodd bynnag, roeddem yn teimlo y dylem adael i chi wybod bod yr Ombwdsman Ariannol unwaith eto wedi penderfynu ar ein hochr ni yn ein brwydr tymor hir gyda HSBC ynglŷn â’u methiannau mewn perthynas â’n cyfleusterau taliadau. Mae Judith a Debbie (a Frances o’u blaenau) wedi gwneud gwaith ardderchog o ran ceisio sicrhau bod ein banc yn cywiro eu camgymeriadau. Mae hyn wedi bod yn digwydd ers 2016. Dydy’r gorchymyn iawndal o £750 ddim yn agos at dâl am amser y staff a chostau’r pryder, ond o leiaf mae’n fuddugoliaeth symbolaidd. Llawer o ddiolch i’r sawl ohonoch sydd wedi gorfod ail-gyflwyno mandadau debyd uniongyrchol pan na hawliwyd eich tanysgrifiadau – rydym yn wir werthfawrogi eich amynedd a’ch cefnogaeth. Hyrwyddo byd natur Weithiau mae’n teimlo fel pe bai yr Wyddfa wedi dod yn rhyw fath o fynydd aberthol. Drwy lygad cul y cyfryngau (a’u pwyslais ar barcio! sbwriel! torfeydd!), fe’i gwelir fel lle budr ac anrhefnus. Yn y cyfamser fe all y cyfryngau cymdeithasol a hunluniau chwyddo’r naratif ‘fi yn erbyn y mynydd mawr’ yn anghymesur â’r gwirionedd. Mae elfen o wirionedd yn y ddau farn, wrth gwrs. Defnyddir llawer o’n hadnoddau o ran staff a gwirfoddolwyr ar ymateb i’r heriau o ganlyniad i gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Ond byddai’n bechod dod i’r canlyniad nad ydy’r Wyddfa yn ddim byd ond rhywle sy’n peri trafferth. Yn anfodlon teimlo’n drist am yr Wyddfa, penderfynwyd gwneud rhywbeth amdano! Cyn bo hir byddwn yn datgelu ein taflen newydd 'Yr Wyddfa - y Mynydd Byw'. Gobeithiwn bod ei bwrpas yn amlwg, sef ysbrydoli ymwelwyr i edrych o’r newydd a gweld yr Wyddfa mewn ffordd wahanol, a’i werthfawrogi a’i barchu oherwydd ei fod yn fynydd hynod arbennig. Yn benodol mae’r daflen, a’r adnoddau ar-lein sy’n mynd gyda hi, yn tynnu sylw at y bywyd gwyllt rhyfeddol sy’n byw ar lethrau’r Wyddfa. Rydym yn ddiolchgar iawn i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’u cronfa CAE a dalodd am ran o’r gwaith hwn, ac i’r llu o bartneriaid a’r cefnogwyr gwybodus a ddarparodd fewnbwn. Golwg o’r newydd ar gludiant Yn ddiweddar rydym wedi adrodd ar ein gwaith fel rhan o Bartneriaeth Eryri i fynd i’r afael â heriau cludiant a pharcio
10 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd
sydd yn raddol wedi dod yn fwy amlwg mewn mannau ‘pot mêl’ – yn fwyaf amlwg yr Wyddfa ei hun ac Ogwen. Mae’r rhan fwyaf o’r dewisiadau’n cynnwys cynyddu graddfa neu ailgynllunio darpariaeth cludiant cyhoeddus. O ganlyniad i bellhau cymdeithasol mae’r dewisiadau yma’n ymddangos yn fwy anodd ar hyn o bryd, ond ni ddylai hyn ein rhwystro rhag bwrw golwg o’r newydd ar y broblem. Felly roeddem yn falch o glywed gan Ed Straw, sy’n byw ger rhywle allweddol o ran cludiant. Dyma sydd gan Ed i’w ddweud: “Rydw i’n byw yn Nant Peris sydd, mae’n debyg, ymysg y mannau gorau i fod yn ystod cyfnod o glo mawr. Efallai mai’r newid mwyaf yn ein dulliau o fyw yn ystod y cyfnod hwn oedd diffyg sŵn cerbydau. Mae’r tawelwch, heblaw synau hyfryd byd natur, wedi bod yn wych, ynghyd â’r cyfle i grwydro ar hyd y cwm heb orfod gwylio’r ceir neu eu hosgoi. Mae’r Parc yn brofiad gwahanol iawn heb geir, efallai yn llawer mwy felly nag yr oedd neb wedi ei ddisgwyl. Mae hyn wedi peri i rai ohonom feddwl: rŵan bod ymwelwyr yn cael dod unwaith eto, a fyddai modd rhoi prawf ar ddiwrnod di-geir bob mis o amgylch yr Wyddfa? Ac efallai Ogwen hefyd? Unwaith y bydd ymwelwyr yn profi yr hyn yr ydym wedi bod mor ffodus â’i brofi dros y tri mis diwethaf, a fydden nhw’n gwerthfawrogi cymaint yn well mewn cymaint o wahanol ffyrdd yw’r ardal heb sŵn, symudiadau, peryglon a natur ymwthiol ceir? Mae’n wahaniaeth enfawr. Mewn amser, efallai y byddai ymwelwyr yn gofyn am fwy o ddyddiau di-geir, oherwydd byddai hyn yn gwella cymaint ar eu hamser yma. Byddai angen cryn waith i drefnu hyn yn nhermau parcio, cynllunio parcio a chludo, bysiau ymatebol, tacsis integredig ac wedi eu rheoleiddio, dirwyon parcio i annog pobl i beidio parcio mewn ambell le, trenau ac yn y blaen. Byddai’n rhaid cydweithio gyda busnesau lleol a’u cysuro. Mae dinasoedd o amgylch y byd yn cymryd y cyfle hwn i gynyddu mannau di-geir, felly pam nid ni?” Cynllunio – y Diweddaraf: Llanbedr – gwyliwch y gofod Mae’r golygfeydd arfordirol trawiadol a’r ucheldir garw uwchben Llanbedr yn un o ryfeddodau llai adnabyddus y Parc Cenedlaethol. Ond, mae’r ardal hon o dan fygythiad gan gasgliad o ddatblygiadau rhyngberthynol a chynigion ‘awyr ofod’. Er gwaethaf cynrychioliadau manwl a phryderon y Gymdeithas, rhoddwyd caniatâd cynllunio am ffordd osgoi newydd filltir o hyd yn gynharach y flwyddyn hon. Er wedi ei gynllunio’n ofalus i leihau niwed, byddai’n peri difrod na ellir mo’i adfer i’r tirlun, treftadaeth ddiwylliannol a bywyd gwyllt i’r gorllewin o bentref Llanbedr. Mae adeiladu’r ffordd hon ai peidio yn fater arall. Yn dilyn y prisiad economaidd mwyaf diweddar a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru daethpwyd i’r canlyniad y byddai’n golygu ‘gwerth isel am arian’. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud na fydd yn ariannu cynlluniau trafnidiaeth os nad ydyn nhw’n cyfateb i ofynion prisiad technegol o’r enw ‘WelTAG’. Hyd yma, does dim WelTAG diweddar wedi ei gwblhau ar gyfer ffordd Llanbedr. O ystyried rhagolygon economaidd y DU, sy’n dirywio,