Eryri am byth/ Snowdonia Forever - Gwanwyn/Spring 2022

Page 1

Eryri | Snowdonia AM BYTH

FOREVER

Gwanwyn• Spring 2022

Gweithio dros Eryri ● Working for Snowdonia


Sefydlwyd Cymdeithas Eryri yn 1967 a'i nod yw gwarchod a gwella harddwch a rhinweddau arbennig Eryri a hyrwyddo eu mwynhad er budd pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n ymweld â'r ardal, yn awr ac yn y dyfodol. ~~~~~ The Snowdonia Society, established in 1967, works to protect and enhance the beauty and special qualities of Snowdonia and to promote their enjoyment in the interests of all who live in, work in or visit the area both now and in the future.

Y��������� ������! ● ���� �����! Ddim Ddimynynaelod? aelod? Cefnogwch Cefnogwchein ein gwaith gwaith oo warchod warchod a a gwella gwella tirluniau �rluniauaabioamrywiaeth bioamrywiaeth arbennig Eryri trwy ymaelodi! arbennig Eryri trwy ymaelodi! Aelodaeth unigol £30

a member? Not aNot member? Why not help conserve Snowdonia’s Why not help conserve Snowdonia’s magnificent landscape and magnifi cent landscape biodiversity by joining and the Society? biodiversity by joining the Society! Individual membership costs £30

www.cymdeithas-eryri.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk

www.snowdonia-society.org.uk www.snowdonia-society.org.uk

Aelodaeth unigol: £24

Individual membership costs £24

Gwirfoddoli Volunteer

Cylchgronau Magazines

Swyddogion ac Ymddiriedolwyr: Officers and Trustees:

Gostyngiadau Discounts

-20%

Digwyddiadau Events

Staff:

Cyfarwyddwr ● Director: John Harold Cyfrifydd ● Accountant: Judith Bellis Swyddog Aelodaeth a Chyfathrebu ● Membership & Communications Officer: Debbie Pritchard Swyddog Ymgysylltu ● Engagement Officer: Cadeirydd ● Chair: Julian Pitt Claire Holmes Is-Gadeirydd ● Vice-Chair: Sue Beaumont Rheolwr Rhaglen ● Programme Manager: Aelodau'r pwyllgor ● Committee members: Mary-Kate Jones David Archer, Dr Jacob Buis, Uwch Swyddog Cadwraeth ● Senior Bob Lowe, Jane Parry-Evans, Richard Neale, Conservation Officer: Daniel Goodwin Richard Brunstrom, Denis McAteer, Swyddog Cadwraeth a Thŷ Hyll ● Mathew Teasdale Conservation and Tŷ Hyll Officer: Mary Williams Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society Swyddog Prosiect ● Project Officer: Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Owen Davies Gwynedd LL55 3NR Cynorthwy-ydd Cadwraeth ● Conservation Assistants: Cai Bishop-Guest, Alf Bodenham  01286 685498 Gweinyddwr Gwirfoddolwyr a Digwyddiadau  info@snowdonia-society.org.uk ● Volunteer and Events Administrator: www.cymdeithas-eryri.org.uk Jen Willis Llywydd ● President: Roger Thomas Is-Lywyddion ● Vice-Presidents: Ei Fawrhydi/His Honour Huw Morgan Daniel CVO KStJ, David Firth, Syr/Sir Simon Jenkins FSA

www.snowdonia-society.org.uk Rhif elusen/Charity no: 1155401

Ymwadiad golygydddol Cynhyrchwyd y cylchgrawn gan dîm golygyddol yn cynnwys Jane Parry-Evans, Debbie Pritchard, Richard Neale a John Harold. Rydym yn hynod ddiolchgar i'r holl awduron a ffotograffwyr sydd wedi cyfrannu at y rhifyn hwn. Cofiwch mai safbwyntiau personol yr awduron sy'n cael eu mynegi ganddynt, ac nid ydynt o reidrwydd yn adlewyrchu polisi Cymdeithas Eryri.

Editorial disclaimer The magazine is produced by an editorial panel of Jane Parry-Evans, Debbie Pritchard, Rhichard Neale and John Harold. We are very grateful to all the authors and photographers who have contributed to this issue. The views expressed by the authors are their own and do not necessarily reflect Snowdonia Society policy. Delwedd clawr/Cover image: Tryfan © Carl Williams Cyfieithu/Translation: Haf Meredydd Dyluniad/Design: Debbie Pritchard Print: Cambrian Printers


Plannu gwrychoedd yn Ninas Mawddwy fel rhan o broject i gefnogi ffermwyr i wella bioamrywiaeth● Hedge planting in Dinas Mawddwy as part of project to support farmers to improve biodiversity

Daw'r cylchgawn hwn atoch mewn deunydd i'w gompostio gartref

Cynnwys

This magazine comes to you in home compostable wrap

Contents

4

Golygyddol

4

Editorial

5

Blwyddyn newydd, staff newydd

5

New year, new staff

6

Yn gryno: y diweddaraf a gwybodaeth leol

8

Shortcuts: updates and local knowledge

10

Fy wythnos gyntaf - Alf Bodenham

11

My first week - Alf Bodenham

12

Fferm Ifan: Ffermwyr Eryri’n cymryd yr awenau

14

Fferm Ifan: Snowdonia’s farmers leading the way

16

Pedol Cwm Eigiau

18

The Cwm Eigiau Horseshoe

20

Ymfalchïwn yn y dynodiad 'Treftadaeth Byd'

22

Let’s rejoice in the 'World Heritage' status

24

Mynyddoedd y Rhinogydd

24

Rhinog mountains

25

Ffordd fynediad Llanbedr

25

Llanbedr access road

26

Chwyldro tawel

27

A quiet revolution

30

Arlunydd lleol

30

Local artist

31

Ffarwelio â Peter Weston

31

Saying farewell to Peter Weston


Golygyddol

Editorial

Yn y golygyddol diwethaf rhoddais groeso i’r penderfyniad i ddynodi Parc Cenedlaethol ar gyfer Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy (BCaDD), y Parc Cenedlaethol Cymreig newydd cyntaf o fewn cenhedlaeth, y Parc Cenedlaethol cyntaf i’w ddynodi gan Lywodraeth Cymru, a’r cyntaf i’w newid o statws AHNE i Barc Cenedlaethol.

I wrote in the last editorial welcoming the decision to designate a new National Park for the Clwydian Range and Dee Valley (CRDV), the first new Welsh National Park in a generation, the first National Park designated by Welsh Government, and the first to transition from AONB to NP status.

Ym mis Ionawr cefais y fraint o annerch cynulleidfa amrywiol o randdalwyr BCaDD, a drefnwyd gan Gyfeillion BCaDD, a oedd wedi fy ngwahodd i gyfrannu i’r drafodaeth oedd yn cychwyn yno. Rhoddais hanes cyffredinol ein gwaith fel corff sy’n gwarchod y Parc Cenedlaethol, a sut yr oeddem wedi cyrraedd ein sefyllfa bresennol. Fy ngobaith oedd y byddai rhywfaint o’n profiad hir yma fod yn ddefnyddiol yn rhywle arall yn nheulu tirluniau dynodedig. Mae ein stori’n un o barhad a newid, yn llifo drwy ei gilydd. Yn y dechrau, ein hymddiriedolwyr a’n gwirfoddolwyr oedd yn cynnal gweithgareddau’r Gymdeithas. Ers y cyfnod hwnnw mae staff wedi derbyn mwy a mwy o gyfrifoldeb. Chi, yr aelodau, sy’n darparu’r llinyn aur o barhad drwy gydol ein hanes. Chi yw ein llygaid a’n clustiau, a’n cydwybod. Chi sy’n cefnogi ein gwaith, ein hannog i wneud mwy, ymateb ar faterion sy’n bwysig i chi, a’n llywio drwy ddyfroedd geirwon. Yn ddiweddar, gofynnodd aelod beth oedd y Gymdeithas yn ei wneud ynglŷn â gwaith ‘uwchraddio’ llwybrau a roddwyd ar waith gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ac a amlygwyd yn erthygl Paul Gannon yng nghylchgrawn Hydref 2021. Ers hynny mae ein cyfeillion yn y BMC (Cyngor Mynydda Prydain) wedi gwneud gwaith da wrth godi ymwybyddiaeth o faterion penodol yn ymwneud â gwaith ar lwybr Llyn Cwellyn a rhwng Capel Curig a Chrafnant. Rydym yn rhannu’r pryderon hyn. Rydym yn codi’r mater yn egnïol ledled ein partneriaethau. Mae hi’n glir i ni bod ymgynghoriad priodol yn allweddol er mwyn rhwystro problemau o’r fath yn y dyfodol. Byddwn yn defnyddio pob dylanwad sydd gennym i sicrhau’r dull hwnnw o weithio. Rydym yn cyflawni llawer o waith eiriolaeth – ymateb i ddigwyddiadau, ac i ddeddfwriaeth, ymgynghoriadau, cynlluniau, strategaethau a cheisiadau cynllunio. Mae’r gwaith yn bwysig ond nid yn amlwg iawn. I’ch diweddaru ar y gwaith hwn ac i gael eich barn ar faterion allweddol, rydym yn cychwyn cyfres o Gyfarfodydd Aelodau ar-lein. Cynhelir y cyntaf ar 13 Ebrill ac rydw i’n eich annog i gymryd rhan. Cofiwch e-bostio ein Swyddog Ymgysylltu claire@snowdonia-society.org.uk i gofrestru. Pob dymuniad da i chi gyda dyfodiad y gwanwyn. John John Harold yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri

4|

In January it was my privilege to address a diverse audience of CRDV stakeholders, organised by the Friends of CRDV, who kindly invited me to contribute to the conversation starting there. I gave an overview of our work as an organisation which protects our National Park, and of how we got here. My hope was that some of our long experience here may be of use elsewhere in the family of designated landscapes. Like much in life, ours is a story of continuity and change, flowing through each other. In the beginning, our Society was run by its trustees and volunteers. Since that time staff have increasingly taken on responsibilities. It is you, the members, who provide the golden thread of continuity through our history. You are our eyes and ears, and our conscience. Supporting our work, encouraging us to do more, responding on issues that matter to you, setting our course straight when we enter choppy waters. A member recently asked what the Society was doing about controversial footpath ‘upgrades’ carried out by the National Park Authority, highlighted in Paul Gannon’s article in the Autumn 2021 magazine. Since then our friends at BMC (British Mountaineering Council) have done a good job of raising awareness of specific issues with works on the Snowdon Ranger path and between Capel Curig and Crafnant. We share these concerns. We are raising the issue strongly through our partnerships. We are clear that proper consultation is key to preventing such problems in future. We will use every influence we have to secure that way of working. We do a lot of advocacy work – responding to events, and to legislation, consultations, plans, strategies and planning applications. This work is important but not highly visible. To update you on this work and gather your views on key issues, we are starting a series of online Member Meetings. The first will be held on 13th April and I encourage you to take part. Please email our Engagement Officer claire@snowdonia-society.org.uk to register. Wishing you well as spring approaches. John John Harold is the Director of the Snowdonia Society


Blwyddyn newydd, staff newydd

New year, new staff

Rydym yn falch iawn ein bod wedi recriwtio 3 aelod newydd o staff yn ddiweddar. Yn siaradwyr Cymraeg, mae’r tri’n barod iawn i wneud eu rhan. Mae’r recriwtio yma’n adlewyrchu graddfa ac uchelgais cynyddol ein gwaith ymarferol i warchod a gwella rhinweddau arbennig Eryri.

We are delighted to have recently recruited 3 new members of staff. All three are Welsh speakers, keen to do their bit. Their recruitment reflects the increased scale and ambition of our practical work to protect and enhance Snowdonia’s special qualities.

Cai Bishop-Guest Cynorthwy-ydd Cadwraeth ● Conservation Assistant Mae Cai yn un o wynebau newydd sy’n ymuno â Chymdeithas Eryri eleni. Yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Cadwraeth, bydd yn cynnal dyddiau ymarferol i wirfoddolwyr ledled y parc, a helpu’r gymdeithas i wireddu mwy o waith rhyfeddol gyda’i gwirfoddolwyr.

Cai is one of the new faces joining the Snowdonia Society this year. Working as a Conservation Assistant, he will be running practical volunteer days throughout the park, helping the society to accomplish more amazing work with its volunteers.

Wedi ei eni yn Eryri cyn symud yn hogyn ifanc i dde Cymru, mae Cai wrth ei fodd yn cael dychwelyd i fyw a gweithio yn y Parc Cenedlaethol. Yn ystod ei ymweliadau cyson i weld ffrindiau a theulu, roedd wedi gwirioni gyda’r tirlun, y bywyd gwyllt a’r pobl.

Born in Snowdonia before relocating at an early age to south Wales, Cai is excited to have come full circle, returning to live and work in the National Park. During his frequent visits to see friends and family he fell in love with the landscape, wildlife and people.

Jen Willis Gweinyddwr Gwirfoddoli a Digwyddiadau ● Volunteer and Events Administrator Rydw i wedi ymuno â thîm Cymdeithas Eryri fel Gweinyddwr Gwirfoddoli a Digwyddiadau, sy’n golygu hwyluso archebu a threfnu dyddiau gwaith, hyfforddiant a digwyddiadau cyhoeddus i wirfoddolwyr.

I have joined the Snowdonia Society team as Volunteer and Events Administrator, which involves facilitating the booking and arranging of volunteer work days, training and public events.

Wedi byw’r rhan fwyaf o’m bywyd yng ngogledd Cymru, rydw i wrth fy modd efo cefn gwlad unigryw’r ardal hardd hon. Am yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydw i wedi gweithio i’r GIG ond yn fy amser hamdden rydw i wedi mwynhau crwydro yn yr awyr agored ar droed ac ar feic. Rydw i’n credu’n gryf bod crwydro yn y byd naturiol yn gallu cael effaith gwir bositif arnom ni.

Having lived most of my life in north Wales, I love the unique countryside of this beautiful area. For the last few years I have worked for the NHS but in my free time I have always enjoyed being out and about exploring north Wales by foot and by bike. I am a keen believer that being outside in the natural world can have a really positive impact on us.

Alf Bodenham Cynorthwy-ydd Cadwraeth ● Conservation Assistant Alf yw aelod ieuengaf tîm Cymdeithas Eryri; mae’n gweithio fel Cynorthwy-ydd Cadwraeth, ac yn gyfrifol am drefnu dyddiau gwaith cadwraeth ymarferol ar gyfer ein gwirfoddolwyr.

Alf is the newest member of the Snowdonia Society team, working as a Conservation Assistant, where he is responsible for running practical conservation workdays for our volunteers.

Cafodd Alf ddealltwriaeth dda o egwyddorion cadwraeth, yn ogystal â medrau arolygu morol a daearol, tra’n astudio Bioleg ym Mhrifysgol Exeter. Wedi’r brifysgol, dychwelodd Alf gartref i wirfoddoli’n llawn amser gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngogledd Penfro, lle cafodd brofiad o waith cadwraeth ymarferol.

Alf gained a good theoretical understanding of conservation, as well as marine and terrestrial survey skills while studying Biology at the University of Exeter. After university Alf returned home to volunteer full time with North Pembrokeshire National Trust, where he gained experience in practical conservation work.

|5


Yn gryno: y diweddaraf a gwybodaeth leol

Gobeithio y bydd yr isod o ddiddordeb i chi – os hoffech wybod mwy yna cofiwch gysylltu – info@snowdonia-society.org.uk neu director@snowdonia-society.org.uk CE, YPC ac AWDL Mae ein Hymddiriedolwr ac Is-Gadeirydd Sue Beaumont wedi cychwyn ei chyfnod fel ymddiriedolwr gyda’r Ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol (YPC). Gyda phenodiad Rose O’Neill fel Prif Weithredwr newydd YPC, mae arwyddion bod perthnasau cryfach rhwng Cymdeithas Eryri ac YPC, a rhwng y Gynghrair dros Dirluniau Dynodedig Cymru ac YPC. Ni all yr amseru fod yn well wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen gyda bwriad positif o’r newydd dros dirluniau dynodedig. Y dystiolaeth ymarferol dros hyn yw’r ymrwymiad i ddynodi Parc Cenedlaethol newydd i Fryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy. Rydym eisoes yn cefnogi’n ymarferol y datblygiad tymor hir hwn. Cerdd hir ei ffurf yw awdl, sy’n rhan o dreftadaeth llenyddol cyfoethog a hynafol Cymru. Rhaglen ‘Weatherman Walking’ yn Eryri Yn ei gyfres ddiweddaraf, mae dyn tywydd y teledu a’r cerddwr brwd Derek Brockway yn cyfarfod ein staff a’n gwirfoddolwyr sy’n helpu’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol i drwsio llwybrau, tra bod ein Swyddog Ymwneud â’r Cyhoedd Claire yn mwynhau sgwrsio gydag ef am ein gwaith yn Nhŷ Hyll. Cewch hanes diweddaraf y gyfres Weatherman Walking ar BBC iPlayer. Cludiant cynaliadwy Fel rhan o fentr Partneriaeth yr Wyddfa ar gludiant cynhaliwyd gweithdy defnyddiol dros ben ym mis Hydref 2021, i adnabod heriau a chamau nesaf y gwaith hwn. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn ymdrechu i wireddu elfennau allweddol; bydd angen cydweithio llawer agosach rhwng y cyrff comisiynu cludiant cyhoeddus – cynghorau Gwynedd a Chonwy, ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol. Cewch wybod y diweddaraf gennym ar www. snowdonpartnership.co.uk/parking-and-transport

Cymdeithas Eryri yn ymuno ag Agile Nation 2 Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae staff ac ymddiriedolwyr Cymdeithas Eryri wedi cymryd rhan mewn rhaglen o hyfforddiant, adolygu polisïau a dadansoddi, fel rhan o’r rhaglen Agile Nation 2 a drefnir gan Chwarae Teg. Mae’r gwaith hwn wedi arwain at gryfhau ein dulliau o weithio fel cyflogwr a gwella’r hyn y gallwn ei gynnig i recriwtiaid newydd. Gyda gwell dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chyfartaledd a chynhwysedd, rydym mewn sefyllfa well i weithio gydag ystod amrywiol o bobl, boed hynny fel staff, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, partneriaid, grwpiau cymunedol neu’r cyhoedd. Bydd ein gwaith o warchod mannau arbennig yn cael ei atgyfnerthu gan ein gwaith o warchod pobl. Erbyn y byddwch yn darllen hwn byddwn, os bydd pob dim wedi ei wireddu, wedi cymhwyso fel Cyflogwr Chwarae Teg. Gweler www.chwaraeteg.com/projects/fairplay Pryder dros goedwigaeth y dyfodol Yn y cylchgrawn diwethaf roedd adroddiad ar ein pryderon ar amharodrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i newid ei gynlluniau parthed ail-blannu conifferau cylchedd-byr ar safleoedd o fawnogydd dwfn. Mae pwysau coedwigo masnachol bellach yn ymddangos wrth i ni weld adroddiadau o ffermydd yn cael eu prynu ar gyfer plannu ar raddfa fawr o dan faner gwrthbwyso carbon. Mae gwrthbwyso’n peri digon o broblem fel cysyniad, ond lle mae’n bygwth effeithio ar ddiwylliant, byd natur ac adnoddau carbon mawnogydd, yna mae angen gofyn cwestiynau. Bydd aelodau o oed neilltuol yn adnabod y materion hyn o hanner canrif yn ôl! Dydy hi ddim yn ddigon dyfynnu ‘y goeden iawn yn y lle iawn’ a gadael y gweddill i rym marchnata. Mae angen cynllunio strategol arnom i wahaniaethu rhwng mannau lle bydd coed yn fuddiol a lle mae’n debygol y byddan nhw’n niweidiol. Rydym yn cydweithio gyda chyrff eraill i lunio dull strategol gyda CNC ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Pryder plastig ar yr Wyddfa Rhag ofn i chi ei fethu, dyma gyswllt i astudiaeth peilot gan y cwmni geowyddoniaeth CGC, a fu’n mesur llygredd microblastig mewn samplau pridd o’r Wyddfa; yn ôl eu canlyniadau, roedd y lefelau uchaf o ficroblastig yn y mannau lle mae’r rhan fwyaf o bobl yn dod at ei gilydd. Er nad yw’r dystiolaeth hon yn ein synnu, mae’n dal yn ddychrynllyd, ac fe’i defnyddir yn ein hymdrechion i godi ymwybyddiaeth a newid ymddygiad. Gweler www.cgg.com/ newsroom/news/cgg-and-snowdonia-national-park-authorityidentify-significant-microplastic-pollution Economi Cynaliadwy Ymwelwyr Datblygiad diweddar iawn yw cyfres o weithdai i fynd i’r afael â ‘Chynllun Economi Cynaliadwy Ymwelwyr Gwynedd ac Eryri 2035’. Rydym yn cyfrannu gyda meddwl agored ac yn dilyn gyda diddordeb. Gweler: www.visitsnowdonia.info/gwynedd-anderyri-sustainable-visitor-economy-2035

6|

Chwynnu ar raddfa tirlun

● Weeding on a landscape scale

Mawn – ymgyrch sy’n datblygu Mae ein Cyfarwyddwr yn rhoi ychydig o’i amser fel cynrychiolydd Cymru ar y grŵp llywio dros ymgyrch Plantlife i ddod â’r defnydd o fawn mewn garddwriaeth i ben. Yn frwdfrydig dros fawnogydd, dywed John Harold bod rhaid i ni gadw mawn yn y ddaear – mae hi’n hen bryd i’r masnach hwn ddod i ben. Cefnogir yr ymgyrch gan Sefydliad Esme Fairbairn.


Cyflogwr Cyflog Byw Mae Cymdeithas Eryri yn Gyflogwr Cyflog Byw – mae’n swyddogol. Rydym wedi gwneud yr ymrwymiad syml hwn ac wedi cofrestru gyda Sefydliad Cyflog Byw gan ein bod yn credu y dylai gweithio dros yr amgylchedd fod yn ddewis da a realistig i bobl ifanc Eryri. Byddwn yn gwneud ein rhan i greu momentwm tuag at ‘Wasanaeth Natur Cenedlaethol’ i Gymru, a chynyddu’r cyfleoedd a chodi safonau i bobl ifanc sy’n dymuno gwneud gwahaniaeth i’n byd natur a’n tirluniau.

Ddim yn aelod?

Cefnogwch ein gwaith o warcho gwella �rluniau a bioamrywia Newid amseru diwedd arbennig Eryri trwy y flwyddyn ariannol a ymaelod Aelodaeth unigol: £24

chynhyrchu’r cylchgrawn

www.cymdeithas-eryri.org Gwirfoddoli Volunteer

Cytundeb y Carneddau Erbyn hyn, mae gan ein staff a gwirfoddolwyr gweithgar gytundeb i roi rheolaeth llystyfiant ar waith i warchod safleoedd archeolegol a mannau bwydo’r frân goesgoch fel rhan o broject Partneriaeth Tirlun y Carneddau. Chwiliwch am gyfleoedd i gymryd rhan, cynnig cymorth a dysgu mwy am y safleoedd pwysig yma sy’n anghyfarwydd i ni. Gwirfoddolwyr yn dysgu am archeoleg y Carneddau efo Kathy Laws, Archeolegydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Volunteers learn about the archeology of the Carneddau with Kathy Laws, National Trust Archaeologist

Arwyddion newydd i Dŷ Hyll Y tro nesaf y byddwch yn y cyffiniau cofiwch alw i mewn i weld yr arwyddion awyr agored newydd, i’w gosod erbyn mis Mai 2022, i gyfathrebu am ein gwaith a’r angen i barchu a gwarchod y trysorau sydd i’w gweld o’n cwmpas. Diolch i Awdurdod y Parc Cenedlaethol am arian tuag at y project hwn.

Cylchgronau Magazines

Bydd y sawl ohonoch oedd yn bresennol yn y CBC ym mis Hydref 2020 yn gwybod ein bod wedi penderfynu newid diwedd y flwyddyn ariannol o 30 Mehefin i 31 Mawrth. Mae hyn yn cydweddu gyda’r flwyddyn dreth ac hefyd gyda’r rhan fwyaf o gylchoedd treth, felly mae’n gwneud mwy o synnwyr o lawer. Bydd yn digwydd o’r cyfnod presennol, felly bydd y cyfrifon nesaf yn trafod y 9 mis hyd at 31 Mawrth 2022. Gan fod angen cynnal y CBC o fewn chwe mis i ddiwedd y flwyddyn, byddwn yn disgwyl i GBC ddigwydd yn y dyfodol ym mis Medi. O ganlyniad i hyn, oherwydd bod angen i ni roi rhybudd i aelodau dim llai na thair wythnos cyn dyddiad y CBC ac oherwydd bod y rhybudd hwn yn cael ei gynnwys gyda chylchgrawn yr haf/hydref, mae angen i’r dyddiadau pryd y byddwn yn dosbarthu eich cylchgronau newid fymryn. Yn y dyfodol, byddwn yn dosbarthu eich cylchgronau ym mis Awst a Chwefror, yn hytrach na mis Mawrth a Medi. Cyn gynted ag y bydd ein hamserlen ddigwyddiadau arferol yn gallu ailgychwyn, bydd y rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chynnwys gyda rhifyn mis Chwefror. Am rŵan, cewch fanylion pob un o’n dyddiau gwaith a’n digwyddiadau ar ein gwefan: www.snowdonia-society. org.uk/cy/digwyddiadur

|7


Shortcuts:

updates and local knowledge We hope you find these snippets interesting – if you’d like to know more please don’t hesitate to get in touch – info@snowdoniasociety.org.uk or director@snowdonia-society.org.uk CESS, CNP and AWDL Our Trustee and Vice-Chair Sue Beaumont has begun her term as a trustee of Campaign for National Parks (CNP). With the arrival of Rose O’Neill as the new Chief Executive at CNP, all the signs are of strengthened relationships between Cymdeithas Eryri and CNP, and between the Alliance for Welsh Designated Landscapes (AWDL*) and CNP. The timing couldn’t be better – as Welsh Government sets out with a refreshed and positive intent for designated landscapes. Practical evidence for this is the commitment to designate a new National Park for Clwydian Range and Dee Valley. We are already actively supporting this long-term development. *In Welsh awdl is a long-form poem, part of a rich and ancient literary heritage. Weatherman Walking in Snowdonia

Snowdonia Society joins Agile Nation 2 Over the last year Snowdonia Society staff and trustees have taken part in a programme of training, policy review and analysis, as part of the Agile Nation 2 programme run by Chwarae Teg. This work has led to us strengthening our ways of working as an employer and enhancing the offer we can make to new recruits. With a better understanding of issues around equality and inclusion, we are in a better place to work with a diverse range of people, whether that is as staff, trustees, volunteers, partners, community groups or the public. Our work of looking after special places can only be strengthened by our work on looking after people. By the time you read this we will, if all goes to plan, have qualified as a Fair Play Employer. See www.chwaraeteg.com/ projects/fairplay Concern over future forestry In the last magazine we reported our concerns on Natural Resources Wales’ (NRW) reluctance to change its plans to replant short-rotation conifers on deep peat sites. Additional

In his latest series, TV weatherman and keen walker Derek the Weather Brockway features our staff and volunteers helping the National Trust team with footpath repairs, while our Engagement Officer Claire enjoyed talking to him about our work at Tŷ Hyll. Catch up with the new Weatherman Walking series on the BBC iPlayer. Sustainable transport As part of the Snowdon Partnership’s initiative on transport a very useful workshop was held in October 2021, identifying challenges and next steps for this work. We are particularly interested in how key elements will be delivered, which will require greatly strengthened joint working between the public transport commissioning bodies – Gwynedd and Conwy councils, and the National Park Authority. We’ll keep you posted. See www. snowdonpartnership.co.uk/parking-and-transport Plastic Snowdon’s no joke In case you missed it, here’s a link to a pilot study by geoscience firm CGG, measuring microplastic pollution in soil samples from Yr Wyddfa / Snowdon, which found that the highest levels of microplastics correspond with the places where people congregate in greatest numbers. Unsurprising but still shocking evidence, which will be used in our efforts to raise awareness and change behaviour. See www.cgg.com/newsroom/news/ cgg-and-snowdonia-national-park-authority-identify-significantmicroplastic-pollution Sustainable Visitor Economy A very recent development is a series of workshops directed towards a new ‘Gwynedd and Eryri Sustainable Visitor Economy Plan 2035’. We are contributing with an open mind and following with interest. See www.visitsnowdonia.info/gwynedd-and-eryrisustainable-visitor-economy-2035

8|

Sbriws Sitka - problem rhywogaeth ymledol fwyaf Eryri? ● Sitka spruce - Eryri's biggest invasive species problem?


commercial afforestation pressures are now emerging as we see reports of farms being bought up in speculative fashion for large scale planting under the banner of carbon offsetting. Offsetting is problematic enough as a concept, but where it threatens to impact on culture, nature and peatland carbon resources, then questions need to be asked. Members of a certain age will recognise these issues from half a century ago! It isn’t enough to recite ‘right tree in the right place’ and leave the rest to market forces. We need strategic planning to differentiate where trees will be beneficial from where they could be damaging. We’re working with other organisations to pursue a strategic approach with NRW and the National Park Authority.

Change of financial year end and magazine timing

Peat - a growing campaign Our Director is giving some of his time as the Wales representative on the steering group for Plantlife’s campaign to end the use of peat in horticulture. Passionate about peat, John Harold says we must keep peat in the ground - the end of this trade will not come a moment too soon. The campaign is being funded by the Esme Fairbairn Foundation. Living Wage Employer Snowdonia Society is a Living Wage Employer – it’s official. We’ve made this simple commitment and registered with the Living Wage Foundation as we believe that working for the environment should be a good option and a realistic choice for young people in Snowdonia. We’ll do our part to build momentum towards a ‘National Nature Service’ for Wales, increasing the opportunities and raising standards for young people who want to make a difference for our nature and landscapes. Carneddau contract Our hard-working staff and volunteers now have a contract to carry out vegetation management to safeguard archaeological sites and chough feeding areas as part of the Carneddau Landscape Partnership project. Watch out for opportunities to get involved, lend a hand and learn more about these important and little-known sites. Gwirfoddolwyr ar ddiwedd y dydd ar ôl clirio eithin o safle archeolegol ● Volunteers at the end of the day after clearing gorse from an archaeological site

Those of you who were present at the AGM in October 2021 will know that we have decided to change the financial year end from 30 June to 31 March. This aligns with the tax year and also with most grant cycles, so it makes much more sense. It will take effect from the current period, therefore the next accounts will be for the 9 months to 31 March 2022. As the AGM needs to be held within 6 months of the year end, in future we expect AGMs to take place in September. As a consequence of this, because we need to give members’ notice of the AGM not less than three weeks before the date of the AGM and this notice is included with the summer/autumn magazine, the dates when magazines are sent to members need to change slightly. In future, we will be sending out your magazines in August and February, rather than March and September. As soon as our normal events schedule can resume, the events programme will be included with the February issue. For the time being, all of our workdays and events can be found on our website: www. snowdonia-society.org.uk/events

New signage for Tŷ Hyll Next time you are passing pop in in to see the new outdoor signage, due to be installed by May 2022, communicating about our work and the need to respect and protect the treasures we see around us. Thanks are due to the National Park Authority for funding towards this project.

|9


Fy wythnos gyntaf Alf Bodenham

Dechreuais weithio gyda Chymdeithas Eryri fel Cynorthwy-ydd Cadwraeth ar ddiwedd 2021. Mae fy swydd gyda’r Gymdeithas yn golygu trefnu ac arwain dyddiau cadwraeth i wirfoddolwyr. Mae cychwyn unrhyw swydd newydd yn gryn her, ond cefais groeso cynnes ar fy niwrnod cyntaf. Yn ystod fy wythnos gyntaf, mynychais ddyddiau i wirfoddolwyr gyda’r aelodau o staff Mary ac Owen. Fel siaradwr Cymraeg o Aberteifi oedd newydd symud i ogledd Cymru, roedd yn braf dechrau dod i adnabod Eryri a rhai o’r lleoliadau y byddaf yn gweithio ynddyn nhw. Dyma rai o fy argraffiadau cyntaf o’m hwythnos gyntaf o weithio i Gymdeithas Eryri. Ar fy niwrnod cyntaf yn y maes bum yn brysur yn clirio eithin mân o anheddiad o’r oes haearn uwchben Rachub. Trefnwyd y diwrnod i wirfoddolwyr gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel rhan o broject Partneriaeth Tirlun y Carneddau. Amcan y diwrnod i wirfoddolwyr oedd gwarchod y nodweddion archeolegol a chynnal y borfa a borir yn fyr fel cynefin hanfodol i’r frân goesgoch. Cefais eglurhad o ecoleg y frân goesgoch gan Cai sydd, fel fi, wedi ymuno â’r staff yn ddiweddar fel Cynorthwy-ydd Cadwraeth. Mae gan Cai a minnau wahanol brofiadau, gwybodaeth, a medrau o fewn maes cadwraeth felly mae hi wedi bod yn braf iawn dysgu pethau newydd oddi wrth ein gilydd. Mae cychwyn y swydd hon ar yr un pryd â Cai hefyd wedi golygu ein bod yn gallu gofyn y cwestiynau gwirion yna i’n gilydd na fyddem yn cyfaddef nad oeddem yn gwybod yr ateb iddyn nhw! Cefais fwynhad mawr o wrando ar sgwrs gan dîm archeoleg yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar yr anheddiad o oes yr haearn yn ogystal â thyllau’r ‘cerrig canu’ gerllaw. Gweddillion dathliadau o’r 19eg ganrif yw’r rhain lle byddai tyllau’n cael eu creu mewn creigiau, eu llenwi â phowdr du, a’u tanio. Byddai’r goleuo yn parhau ychydig o eiliadau’n unig, ond fe fydden nhw’n creu sŵn ffrwydrol a gwledd weledol. Doeddwn i erioed wedi clywed am ‘gerrig canu’ o’r blaen; rydw i’n dysgu

10 |

llawer am ddiwylliant a hanes unigryw Eryri gan bawb yr ydw i’n eu cyfarfod ar y dyddiau i wirfoddolwyr. Y diwrnod canlynol cefais gyfle i gydweithio gyda llawer o wirfoddolwyr a staff yr Ymddiriedolaeth Fywyd Gwyllt yng Nghors Bodgynydd, lle roedden ni’n tynnu eginblanhigion coniffer sy’n ymledu ar gynefinoedd gwlyptir pwysig. O’u gadael heb reolaeth, byddai’r conifferau’n ymledu dros yr holl wlyptir, gan dynnu lleithder o’r tir corsiog a dinistrio cynefinoedd pwysig i lawer o rywogaethau difyr. Dywedodd gwirfoddolwr lleol wrthyf bod y gwlyptir yn llawn gweision neidr yn yr haf, felly byddaf yn bendant yn dychwelyd i’w gweld nhw. Ar fy nhrydydd diwrnod yn y maes, codais ben bore ar gyfer y daith i fyny llwybr PyG ar yr Wyddfa. Gyda chymorth gwirfoddolwyr, ein nod oedd trwsio adran o lwybr PyG a oedd wedi ei ddifrodi yn ystod storm ddiweddar. Wrth weithio ar lwybrau mynydd bu’n rhaid i mi ddysgu’n sydyn. Wedi symud cerrig mawr drwy’r dydd roeddwn yn wir werthfawrogi’r gwaith sy’n cael ei wneud ar lwybrau yr oeddwn cyn hynny wedi eu cerdded, a’u cymryd yn ganiataol. Yn ogystal â chael eu herydu gan y tywydd, mae’r llwybrau’n cael eu herydu hefyd gan y troedio mynych wrth i bobl ddringo’r Wyddfa; roeddwn wedi synnu mor brysur oedd

llwybr PyG hyd yn oed ar ddiwrnod oer o fis Rhagfyr. Drwy gydweithio, bu’n bosibl i ni gwblhau’r gwaith mewn da bryd, gan sicrhau digon o amser i bawb fwynhau paned, teisen a sgwrs cyn cychwyn yn ôl i lawr am Ben y Pas. Roedd gwirfoddolwyr oedd wedi bod yn gweithio gyda ni drwy’r wythnos yn ddiolchgar am ddiwrnod llai egnïol o arddio yn Nhŷ Hyll. Doeddwn i erioed wedi ymweld â Thŷ Hyll o’r blaen ac roedd yn syndod gweld maint y creigiau sy’n rhan o strwythur anghyffredin y tŷ. Yn ystod y diwrnod soniodd Mary (ein swyddog Tŷ Hyll) am y tŷ, ei hanes, y chwedlau ynglŷn â’i godi, a’i brynu gan Gymdeithas Eryri. Rydw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Dŷ Hyll yn fuan, pan fydd y caffi wedi agor, gobeithio, er mwyn i mi gael blasu rhai o’r teisennau yr oedd y gwirfoddolwyr yn sôn amdanyn nhw. Y peth rydw i wedi ei fwynhau fwyaf yn ystod fy wythnosau cyntaf gyda’r Gymdeithas ydy gweithio gyda gwirfoddolwyr. Mae’r gwaith ymarferol a wneir gan y Gymdeithas yn creu amgylchedd braf ar gyfer rhannu gwybodaeth, sgwrsio a dod i adnabod pobl. Mae pob un o’r gwirfoddolwyr yr ydw i wedi gweithio efo nhw wedi bod yn unigolion diddorol sy’n frwdfrydig dros Eryri ac mae hyn yn gwneud fy swydd newydd yn werth chweil ac yn rhoi mwynhad.

Cynnal a chadw llwybrau troed ● Footpath maintenance


My first week Alf Bodenham

Gwirfoddolwyr Cymdeithas Eryri yn trwsio adran o lwybr PyG yn dilyn storm ● Snowdonia Society volunteers reparing a section of the Pyg track after a storm

I started work with the Snowdonia Society as a Conservation Assistant at the end of 2021. My role with the Society entails organising and leading volunteer conservation days. Starting any new job is nerve-racking, but the warm welcome that I received on my first day made settling in a lot easier. In my first week, I was out on volunteer days led by staff members Mary and Owen. Having just moved to north Wales as a Welshspeaker from Aberteifi, it was nice to start getting to know Snowdonia and some of the sites I will be working on. Here are some of my first impressions from my first week of work for the Snowdonia Society. My first day out in the field saw me clearing western gorse from what is thought to be an iron age settlement above Rachub. The volunteer day was organised with the National Trust as part of the Carneddau Landscape Partnership project. The aim of the volunteer day was to protect the archaeological features and maintain the short-grazed grassland, essential habitat for the chough. The ecology of the chough was explained to me by Cai, who like me has also recently joined the staff as a Conservation Assistant. Cai and I have different experiences, knowledge, and skills in conservation so it’s been enjoyable to learn new things from each other. Starting this job at the same time as Cai has also meant that we can ask each other those silly questions that we wouldn’t want to admit we don’t know the answer to!

I thoroughly enjoyed a talk from the National Trust archaeology team on the iron age settlement as well as the nearby ‘rock cannon’ holes. The holes are the remnants of 19th-century celebrations where holes would be drilled into rocks or boulders, filled with gunpowder, and ignited. The lighting of the gunpowder would only last a matter of seconds but would create a loud explosive noise and visual show. I had never heard of ‘rock cannons’ before; I’m learning a lot about Snowdonia’s unique culture and history from everyone I’ve met out on the volunteer days. The following day I had the opportunity to work with lots of interesting volunteers and Wildlife Trust employees at Cors Bodgynydd, where we were removing conifer saplings that are encroaching on important wetland habitats. Left to their own devices, conifers would populate the whole wetland, removing moisture from the boggy ground, and thus destroying important habitats for many charismatic species. A local volunteer told me that during the summer months the wetland is swarming with dragonflies, which I’ll definitely be coming back to see. I was up bright and early, ready for the hike up Snowdon's Pyg track on my third day out in the field. With the help of our volunteers, we aimed to fix a section of the Pyg track which had been washed away during a recent storm. Working on mountain paths was a steep learning curve... if you'll pardon the pun. Moving large stones all day gave me a new appreciation for the

work that goes into maintaining paths I had previously walked on, and admittedly taken for granted. As well as being eroded by the weather, the paths are eroded by the footfall of the people who walk up Snowdon; I was surprised by how busy the Pyg track was even on a cold December day. Lots of hands made light work and we finished quicker than expected, giving everyone enough time to have coffee, cake, and a chat before heading back down to Pen y Pass. Volunteers who had been working with us all week were grateful for a less physically demanding day gardening at Tŷ Hyll. I had never visited Tŷ Hyll before and was struck by the size of the boulders that make up its beautifully unusual structure. During the day Mary (our Tŷ Hyll officer) told me all about the house, its history, the myths surrounding its construction, and its acquisition by Snowdonia Society. I’m looking forward to returning to Tŷ Hyll soon, hopefully when the cafe is open so I can try some of the cakes that our volunteers were raving about. Working with volunteers is what I have enjoyed most during my first weeks with the Snowdonia Society. The practical work that the Society does creates a very conducive environment for sharing knowledge, chatting and getting to know people. All the volunteers that I’ve worked with have been interesting individuals who are passionate about Snowdonia which is making my new job really enjoyable and rewarding.

| 11


Fferm Ifan: Ffermwyr Eryri’n cymryd yr awenau Richard Neale

Yn ein Cyfarfod Blynyddol Cyffredinol eleni cawsom gyflwyniad ysbrydoledig gan grŵp o ffermwyr o Ysbyty Ifan, sef rhai o aelodau menter Fferm Ifan. Roedd y cyflwyniad fel chwa o awyr iach i’r rhai ohonom sy’n dueddol i anobeithio am dranc bywyd gwyllt Eryri, ac sy’n poeni am y newid hinsawdd brawychus sydd ar garlam yn ein byd.

Awel a’r teulu ● Awel and her family

Felly beth oedd mor galonogol am y criw brwdfrydig hwn? Wel, y ffaith mai nhw oedd wedi cymryd yr awenau i wella bywyd gwyllt eu bro ei hunain, ac eu bod nhw’n ymfalchïo am beth roedden nhw wedi ei gyflawni. Heb os, ysgogiad y criw pan ffurfiwyd Fferm Ifan oedd yr angen i’r ffermydd wneud gwell elw. Ond, tra mae rhai yn gafael yn dynn yn yr hen drefn, mae’r criw ifanc hwn wedi gweld y dyfodol: dyfodol lle mae meithrin bywyd gwyllt a mynd i’r afael â gwrthdroi newid hinsawdd, yn cymryd eu lle ochr yn ochr gyda chynhyrchu bwyd, fel rhannau annatod o waith dyddiol ac incwm y fferm. Agwedd gyffrous arall Fferm Ifan ydi’r ffaith bod y fenter wedi tynnu sylw llunwyr polisi'r llywodraeth, mudiadau cadwraethol, a chymunedau ffermio eraill. Erbyn hyn, mae’r prosiect wedi cymryd ei le fel un o fentrau cadwraeth-amaeth blaenllaw ein gwlad. Ond, fel y clywsom ni yn y cyflwyniad, mae dyfodol y prosiect yn y fantol. Wrth i Gynllun Ffermio Cynaliadwy newydd Llywodraeth Cymru cael ei lunio’n boenus o araf ac yn dal ar y gorwel pell - a mudiadau cadwraethol yn brin o arian yn sgil y pandemig - mae perygl y gall Fferm Ifan ddod i ben os na cheir chwistrelliad buan o arian i fynd â’r arbrawf ymlaen. Felly, i’r rhai o aelodau’r Gymdeithas a fethodd y cyflwyniad, dyma i chi grynodeb o’r sgwrs, a’r sesiwn holi-ac-ateb a ddilynodd. Yn cyflwyno: Awel Jones, Rheolwr Prosiect Fferm Ifan. Ar y panel yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Gymdeithas: Meilir Jones, Pant Glas (gŵr Awel) Guto Davies, Hafod Las Alun Lloyd Davies, Dylasau Isaf

12 |

Beth yw Fferm Ifan?

Sut mae’r cynllun yn gweithio?

“Ffurfiwyd Fferm Ifan yn 2008 pan ddaeth un ar ddeg o denantiaid stad Ysbyty'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (YG) ynghyd i geisio ychwanegu gwerth i’w cynnyrch cig coch. Arwyddwyd cytundebau gyda chwmnïau bwyd a chafwyd premiwm am ein cynnyrch, gan labelu’r cig â bathodyn yr YG. Be sy’n wych ydi ein bod ni’n rhannu £1 o werthiant pob oen i achosion da lleol, fel yr ysgol gynradd a neuadd y pentref, neu’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Yna, yn 2015, dyma ni’n penderfynu esblygu’r grŵp i geisio am grantiau i wella’r amgylchedd a bywyd gwyllt. Yn 2017, y ni oedd y grŵp o ffermwyr cyntaf i lwyddo i gael grant 3-mlynedd Cynllun Rheoli Cynaliadwy Llywodraeth Cymru”.

“Efo’n gilydd, rydym yn rheoli dros 6,000 o erwau o ffriddoedd a hawliau pori ar rannau helaeth o fawndir anferthol Y Migneint. Roedd rheoli ardal mor eang o gynefinoedd bywyd gwyllt o fantais mawr i ni gael y grant CRhC mae’n siŵr. Ers derbyn y grant dair blynedd yn ôl, rydym wedi cwblhau pob math o welliannau amgylcheddol, fel adfer gwrychoedd, plannu coed a gwella iechyd yr afonydd. “Ond heb os, y rhan fwyaf cyffrous oedd ail gyflwyno gwartheg i’r Migneint am y tro cyntaf ers cyn cof. Mae pori gyda gwartheg yn llesol iawn i fywyd gwyllt, gan ei fod yn debyg i’r pori naturiol oedd mewn bodolaeth yn y gorffennol pell. Ond does 'na neb yn gwybod faint o wartheg ddylai


Plannu coed ● Planting trees

bori yno ac am ba hyd, felly gyda chymorth yr YG dyma ni’n creu nifer o blotiau pori arbrofol wedi eu hamgáu â ffensys trydan, a system fonitro i fesur yr effaith ar y llystyfiant, yn enwedig y migwyn, sy’n hanfodol i greu mawn a chloi carbon yn y tir”. Sut mae’r treialon pori’n gweithio, a phwy sy’n eu monitro? “Roedden ni’n lwcus iawn o gael cymorth staff yr YG, yn enwedig eu hecolegydd ar y pryd, Sabine Nouvet. Cawsom sesiynau hyfforddi i’n dysgu sut i adnabod y planhigion a defnyddio sgwaryn i gofnodi’r newidiadau yn y llystyfiant mewn modd sy’n ystadegol gywir. Un o’r elfennau pwysig oedd y cysyniad o ‘bwyntiau sbarduno’ (trigger points), sef tystiolaeth bod angen symud y gwartheg i’r plot nesa, i alluogi’r llystyfiant i adfywio”. Pa heriau ydych chi wedi eu gorchfygu? “Bu’n rhaid i ni oresgyn sawl rhwystr ymarferol a gweithdrefnol. Yr un mwyaf oedd cael caniatád Cyfoeth Naturiol Cymru i bori gwartheg a chodi ffensys trydan ar fawndir sydd wedi’i ddynodi’n SSSI. Daeth y caniatâd yn ôl y tro cyntaf yn gaeth iawn, ond llwyddwyd i oresgyn hynny trwy gynnal trafodaethau hefo swyddogion

CNC i ddangos fod y dulliau monitro yn rhwystro unrhyw ddifrod”. Be ydi canlyniadau’r treialon? “Ar ôl 3 mlynedd o waith pori a monitro, mae’r holl ddata wedi ei yrru i’w ddadansoddi yn y Ganolfan Ecoleg a Hydroleg ym Mangor, ac mi fyddan ni’n cael adroddiad yn fuan a’i rannu efo’n partneriaid. Rydym yn ffyddiog y bydd yr adroddiad yn profi fod pori gofalus â gwartheg yn fuddiol i fywyd gwyllt ac yn helpu i gloi carbon yn y mawn”. Sut wnaethoch gymuned?

chi

ymgysylltu

â’r

Beth am y dyfodol? “Rydym wedi cyrraedd diwedd y cynllun CRhC 3 mlynedd, a heb gyllid nid oes modd parhau â’r treialon pori. Ond rydym i gyd yn awyddus iawn i fwrw ymlaen hefo’r gwaith ac wedi gofyn i fenter Pori Natur a Threftadaeth (PONT) gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer arbrawf ‘taliadau am ganlyniadau’, sef trefn newydd o wobrwyo ffermwyr wrth iddynt gynhyrchu cynefinoedd iach”.

Mae Richard Neale yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

“Dyma un o’r pethau gorau am yr holl fenter - sef meithrin diddordeb y genhedlaeth nesa yn rhyfeddodau amgylcheddol eu bro. Gyda chymorth Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r YG, aethom ati i weithio gyda phedair o ysgolion cynradd Dyffryn Conwy a chynnig pecyn o weithgareddau hwyliog yn y dosbarth ac ymweliadau maes. Roedd hi’n wirioneddol fendigedig cael clywed y plant yn trafod yr enwau Cymraeg hyfryd sydd ar y planhigion”.

| 13


Fferm Ifan: Snowdonia’s farmers leading the way Richard Neale

At last year’s Snowdonia Society Annual General Meeting we had an inspired presentation by farmers from the Ysbyty Ifan -based Fferm Ifan group. The presentation was like a breath of fresh air to those of us who lament the loss of so much of Snowdonia’s wildlife and despair at the lack of progress with tackling the causes of climate change.

Presentation given by: Awel Jones, Fferm Ifan Project Manager.

The thing that was so inspiring about this enthusiastic group was the fact that they had taken the initiative themselves to improve wildlife in their area. Admittedly, it was the need to improve their income that had originally inspired the Fferm Ifan members. But, while other farmers have clung to intensive production-driven ways, this young group have seen the future: a future where nurturing wildlife and tackling climate change takes place side by side with food production; a future where caring for the environment is seen as an integral part of daily work and farm revenue.

What is Fferm Ifan?

Another exciting aspect of Fferm Ifan is the fact that the initiative has caught the attention of policy makers in government, conservation bodies and other farm communities. By now, the project has taken its place amongst Wales’s leading conservation and agricultural initiatives. But, as we heard in the presentation, the project’s future is now in doubt. The benefits of the Welsh Government’s new Sustainable Farming Scheme still seem a frustratingly long way off and conservation bodies are short of cash following the pandemic. Consequently, here is a danger that Fferm Ifan will come to an end if no injection of funds is found to forge ahead with the experiment. Therefore, for those members of the Society that missed the presentation, here is an account of the talk, and of the question-and-answer session that followed.

14 |

On the panel, answering questions from Society members: Meilir Jones, Pant Glas (Awel’s husband) Guto Davies, Hafod Las Alun Lloyd Davies, Dylasau Isaf

“Fferm Ifan was established in 2008 when 11 of us National Trust tenants on the Ysbyty Estate came together to add value to our red meat products. We signed agreements with food companies, a premium was secured for our produce and we were able to label our meat with the NT’s logo. What has been brilliant is that we distribute a pound from the sale of each lamb to local good causes, such as the primary school, village hall or the Young Farmers’ Club. Then, in 2015, we decided to apply for grants to improve our environment and wildlife habitats. As a result, in 2017 we were the first farmers’ group to be awarded a 3-year Sustainable Management Scheme (SMS) grant from the Welsh Government”. Gwrych wedi ei blygu ● A newly laid hedge

How does the plan work? “Together, we manage over 6,000 acres of ffridd (enclosed rough pasture) and grazing-rights on large tracts of the vast Migneint peatland. I’m sure that bringing sustainable management to such an extensive area of wildlife habitat was of great benefit in securing the SMS. By now, we have completed all sorts of environmental improvements, such as renovating hedges, planting trees and improving the health of our rivers. “The most exciting part was reintroducing cattle to the Migneint for the first time for many years. Grazing with cattle is very beneficial to wildlife, as it replicates the natural grazing that occurred in the distant past. But nobody knows how many cattle should be grazed there, or for how long. So, with the help of the NT, we created several experimental grazing plots enclosed with electric fences, and put in a monitoring programme to measure the effect on the vegetation, especially the Sphagnum, that is essential for locking carbon into the ground by building peat”.


Gwartheg ar y Migneint ● Cattle on the Migneint

How do the grazing trials work, and who monitors them? “We were very lucky to have the help of the NT’s staff, especially their ecologist at the time, Sabine Nouvet. Training sessions were held to teach us how to identify the plants and use a quadrat frame to record changes in the vegetation in a statistically accurate way. One of the important elements was the concept of ‘trigger points’, indicating when cattle needed to be moved to the next plot to allow the vegetation to recover”. What challenges have you overcome? “We had to overcome quite a few practical and organisational problems. The biggest was getting permission from Natural Resources Wales to graze cattle and erect fences on peatland that is designated as a SSSI. The first permission we received was rather too restrictive; but through discussions with NRW officials we were able gain some flexibility since any damage to the peat would be avoided through monitoring”.

What are the results of the trials?

What about the future?

“After 3 years of grazing and monitoring, the data has been sent for analysis at the Ecology and Hydrology Centre in Bangor. We are certain that the resulting report, which we will share with conservation organisations, will prove that careful grazing with cattle is beneficial to wildlife and will help to store carbon in the peat”.

“We have reached the end of the SMS 3-year plan, and without further finance it’s impossible to continue with the grazing trials. But we are all very keen to continue with the work and have asked the conservation-grazing initiative, PONT to conduct a feasibility study into a new experiment with a ‘payment for outcomes’ method of awarding farmers as they produce healthy habitats.”

How did you work with the community? “One of the best things about the whole enterprise has been inspiring the next generation to appreciate the area’s environmental delights. With the help of Snowdonia National Park Authority and the NT, we have provided a package of classroom activities and field visits with four primary schools in Dyffryn Conwy. It was truly wonderful to hear the children reciting the lovely Welsh plant names”.

Richard Neale is a Trustee of the Snowdonia Society

| 15


Pedol Cwm Eigiau Rob Collister

Mae Cwm Eigiau yn fynedfa i gopaon uchel y Carneddau ac yn un o’m hoff leoedd i grwydro. Y dyddiau yma, rydw i fel arfer yn parcio ger pen y ffordd yng Nghwm Eigiau ac yn cyrraedd copa Pen Llithrig y Wrach drwy chwarel Cedryn a’i adfeilion cysylltiedig. Ond, rydw i’n cofio un diwrnod llwyd ym mis Tachwedd, pan oeddwn yn ifanc, yn ffit ac, yn ôl rhai, yn annoeth, crwydrais i fyny’r llethr serth a choediog y tu ôl i Ddolgarrog i ddringo Carnedd Llewelyn. Roedd yn daith hir ond wrth gerdded o’r afon Conwy roeddwn yn wir werthfawrogi uchder mynydd sy’n ail i’r Wyddfa’n unig, ac roedd cychwyn o droed y dyffryn yn gwneud i mi deimlo diffeithwch y llwyfandir lle roedd gweithgaredd rhewi-dadmer hyd yn ddiweddar yn parhau i symud cerrig mân i ffurfio streipiau a pholygonau. Lle nad oedd yr ongl mor serth, newidiodd coed ynn a derw’r Warchodfa Natur Genedlaethol i redyn, coed drain a hen systemau caeau. Mae’r llwyfandir uchel hwn yn frith o adfeilion y cyn-breswylwyr a roddodd y gorau i’r frwydr yn erbyn gwynt, glaw, a phridd sâl, a gadael am y dinasoedd neu’r gwladfeydd. Does neb yn byw yma rŵan. “Allwch chi ddim byw yn y presennol, o leiaf nid yng Nghymru”, ysgrifennodd R S Thomas. Yn yr ucheldir unig hwn sydd, o bosib, yn wacach nag y bu ers 4,000 o flynyddoedd, gallwch weld a theimlo ystyr hyn. Dydy cyfraniad yr ugeinfed ganrif i’r olygfa hon ddim mor ddeniadol – pibell ddu hyll sy’n cludo dŵr o Lyn Cowlyd i’r orsaf bŵer trydan-dŵr yn Nolgarrog. Wedi croesi o dan y bibell dringais i’r grib lydan a oedd yn golygu taith hir a garw drwy rug i Ben Llithrig y Wrach. Aeth hebog tramor heibio uwchben, gan hedfan yn gyflym ac yn benderfynol tuag at glogwyni Creigiau Gleision. Filltiroedd i ffwrdd tua’r de, roedd llyn ar lethrau Moel Siabod yn disgleirio yn y tirlun llwyd. Roedd cymylau’n ymgasglu yn y gorllewin ac roedd y gwynt yn gryfach i fyny yma ac yn oer. Roedd glaw ar y ffordd ond ar Y Gogarth, roedd yr haul yn disgleirio fel arfer.

16 |

Agosáu at gopa Carnedd Llewelyn ● Approaching summit of Carnedd Llewelyn © Rob Collister

O’r copa, gan deimlo pwysau amser, rhedais i lawr llethr gwelltog i Fwlch y Tri Marchog, lle mae ffiniau tair plwyf yn cyfarfod. Mae hi’n hawdd dychmygu tri phennaeth llwythau, ymhell yn ôl mewn hanes, yn arwain eu ceffylau i’r llecyn hwn, efallai i ddatrys dadl ynglŷn â’r ffin; er, mae’n rhaid dweud, byddai’r ffordd uniongyrchol i lawr o Gwm Eigiau, yn llawer rhy serth i unrhyw geffyl. Dydy hi ddim yn hawdd, chwaith, dod o hyd i ffynhonnell enw Pen Llithrig y Wrach. Wedi ychydig o ddringo cyrhaeddais gopa Pen yr Helgi du, enw hiraethus a difyr arall. Mae’r copa’n eang, ond wedi ychydig o gamau tua’r gogledd gwelais newid trawiadol. Yn sydyn culhaodd y grib, gan ddatgelu am y tro cyntaf ddyfroedd tywyll Ffynnon Llugwy ar un ochr, ac adfeilion chwareli llechi Cwm Eigiau, sy’n wag ers yr 1890au, ymhell i lawr yr ochr arall. Bron yr un pryd aeth y grib ar i lawr yn serth, gan ddatgelu amlinell creigiog enfawr Craig yr Ysfa o’m blaen, ac er iddi ddod yn amlwg nad oedd y ffordd i lawr yn hir, roedd yn serth ac roedd angen defnyddio dwylo. Yn y bwlch, roedd llwybr igam ogam i fyny sgrî rhydd yn cyrraedd Ffynnon Llugwy. Wedi i fwrdd trydan y cyfnod, gan anwybyddu

dynodiadau’r Parc Cenedlaethol, greu ffordd darmac heb awdurdod i fyny i’r llyn yn yr 1970au cynnar, daeth y llwybr mor boblogaidd fel y bu rhaid trwsio’r llwybr gyda chewyll gabion hyll (blychau o wifr wedi eu llenwi â cherrig) sy’n dal yno heddiw. Wedi sgrambl byr i fyny darn moel o graig uwchben y bwlch cyrhaeddais Graig yr Ysfa, ysgwydd ar Garnedd Llewelyn sydd â chlogwyni serth creigiog. Mae un o ddringfeydd clasurol Eryri, ‘Amphitheatre Buttress’, yn cyrraedd y copa yma. Roedd tri dringwr ar ei grib uchaf, a’u ffurfiau bychan ac ambell i floedd yn ychwanegu graddfa a drama o’r tirlun o gwmpas. Ychydig droedfeddi cyn cyrraedd copa Llewelyn, edrychais i lawr dros yr ochr ar fy llaw dde. Roedd llethrau o sgrî gyda chlympiau o redyn persli yn gostwng 200 metr i Ffynnon Llyffant, pwll bach tawel lle mae gweddillion awyren yn gorwedd. Digwyddodd y rhan fwyaf o ddamweiniau awyrennau yn Eryri yn ystod yr ail ryfel byd pan roedd criwiau dibrofiad yn hyfforddi ond jet Canberra RAF oedd hon a gwympodd yn 1957 heb reswm amlwg, gan ladd y ddau oedd ynddi. Un gaeaf, roeddwn wedi sefyll yn yr un fan yn edrych


ar ordo bychan o eira a llethr serth o eira caled wedi rhewi i ystyried doethineb sgïo i lawr. Yna heb feddwl llawer, dyna lle’r oeddwn yn paratoi ar gyfer y tro cyntaf. Y tro yma, roedd yr Wyddfa wedi ei gorchuddio â chymylau ac roedd y gwynt yn hynod oer. Â’m dwylo yn fy mhocedi, cerddais yn gyflym dros y copa i gael golwg ar Ynys Môn, Ynys Seiriol ac ehangder o fôr wedi ei oleuo gan yr haul. Ychydig cyn y llwyfandir gwelltog rhwng Llewelyn a Foel Grach, troais I’r ochr i archwilio’r tŵr bach creigiog sy’n nodwedd amlwg o’r dwyrain. O’i gwmpas ym mhob man mae cerrig rhydd ac olion cloddiau sy’n rhywfaint o ddirgelwch oherwydd nid yw’n debyg i’r carneddau mawr ar y copaon sy’n rhoi eu henwau i’r Carneddau ac sy’n dyddio yn ôl i’r Oer Efydd.

Amffitheatr Craig yr Ysfa ● The amphitheatre of Craig yr Ysfa © Rob Collister

O’r llwyfandir, newidiais gyfeiriad i fynd I lawr y grib llydan a red o’r de i’r dwyrain i ardal o fawnogydd sy’n erydu sy’n edrych i lawr dros Ddulyn a Melynllyn – llynnoedd dwfn, tywyll yng nghysgod clogwyni llawn llystyfiant sydd, mewn ambell fan, yn gwarchod blodau arctig alpaidd rhag difrod gan ddefaid a phobl. I lawr yr afon o Ddulyn, mae cloddiau anheddiad amgaeedig o’r Oes Efydd i’w gweld yn glir. Y tu ôl i mi, roedd cymylau yn troelli uwchben Llewelyn ac yna’n sydyn tywyllodd y llethrau serth rhewlifol islaw, gyda llethr golau, gwelltog Pen Llithrig y Wrach uwchben mor amlwg ag eira mewn cyferbyniad. Gan droi, brysiais ar hyd y grib, gyda diferion o law yn fy nilyn i lawr y ffordd. Wrth i’r golau bylu brysiais ar hyd y ffordd gul ac i lawr y llwybr serth heibio ceunant Dolgarrog. Roedd ei rhaeadrau a’i byllau, a oedd yn adnabyddus i mi gan fy mod wedi treulio prynhawniau braf o haf yno, yn disgleirio yn y gwyll. Roedd yn dywyll erbyn i mi gyrraedd y car. Arweinydd mynydd wedi ymddeol yw Rob Collister, ac mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

Cyfrannwch

Donate

ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk gyda siec, yn daladwy i 'Cymdeithas Eryri'

on-line at www.snowdonia-society.org.uk by cheque, payable to 'Snowdonia Society'

ymaelodi

join

ar-lein yn www.cymdeithas-eryri.org.uk

on-line at www.snowdonia-society.org.uk

gadewch Gymynrodd i eryri

Leave a Legacy to snowdonia

Mae rhoddion o ewyllysiau yn rhan hanfodol o'n hincwm, ac mae cymynrodd mawr neu bychan yn gwneud gwahaniaeth go iawn i'r hyn allwn ei gyflawni. Os byddwch yn ysgrifennu eich ewyllys, wedi i chi gofio eich teulu a'ch ffrindiau, ystyriwch adael cymynrodd i Gymdeithas Eryri os gwelwch yn dda.

Gifts in wills form a crucial part of our income, and legacies large or small make a real difference to what we can achieve. If you are writing your will, once you have remembered family and friends, please consider leaving a bequest to the Snowdonia Society.

www.snowdonia-society.org.uk/cy/gadael-cymynrodd

www.snowdonia-society.org.uk/leave-legacy

 Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif • Registered charity no: 1155401

| 17


The Cwm Eigiau Horseshoe Rob Collister

horse. Less easy, though, to find an origin for Pen Llithrig y Wrach, the slippery hill of the witch.

Ar Graig yr Ysfa ● On Craig yr Ysfa © Rob Collister

Cwm Eigiau is a gateway to the high tops of the Carneddau and a favourite stamping ground of mine. Nowadays, I usually park at the roadhead in Cwm Eigiau and reach the top of Pen Llithrig y Wrach by way of Cedryn quarry and its associated ruins. But I remember one grey November day, years ago, when I was young, fit and some would say foolish, picking my way up the steep, wooded hillside behind Dolgarrog to climb Carnedd Llewelyn. It was a long approach but walking from the tidal river Conwy made me appreciate fully the height of a mountain second only to Snowdon; and starting from the valley floor made me feel more keenly the bleakness of a plateau where, until very recently, freezethaw activity was still sorting loose stones into stripes and polygons.

not in Wales", wrote R S Thomas. In this lonely upland, possibly emptier than it has been for 4,000 years, you can both see and feel what he meant. The twentieth century's contribution to the scene is less poignant - a hideous black pipeline that carries water from Llyn Cowlyd to the hydro-electric power station in Dolgarrog. I ducked under the pipe and climbed up onto the broad spur which gave a long, rough haul through heather to Pen Llithrig. A peregrine passed overhead, flying fast and determined towards the cliffs of Creigiau Gleision. Miles away to the south, a lake on Moel Siabod glittered in the grey landscape. Clouds were gathering in the west; the wind was stronger up here and cold. Rain could not be far away but on the Great Orme, as usual, the sun was shining.

Where the angle eased, the ash and oak of the National Nature Reserve gave way to bracken, thorn trees and old field systems. This shelf of high land is dotted with ruins whose occupants gave up the unequal struggle with wind, rain, and poor soil, and departed for the cities or the colonies. No-one actually lives here now. "You cannot live in the present, at least

From the summit, with a sense of urgency, I jogged down a grassy slope to Bwlch y Tri Marchog, the pass of three horsemen, where three parish boundaries meet. Easy to imagine three chieftains, back in history, leading their horses to this spot, perhaps to settle a boundary dispute; although the direct ascent from Cwm Eigiau, it has to be said, would be much too steep for any

18 |

A short climb led to the top of Pen yr Helgi Du, hill of the black hound, another evocative yet tantalising name. It is a spacious summit, but a few steps northwards brought a dramatic change. Abruptly the ridge narrowed to a knifeedge, revealing for the first time the dark waters of Ffynnon Llugwy on the one hand, and the ruins of the Cwm Eigiau slate quarries, derelict since the1890s, far below on the other. Almost simultaneously the ridge plunged downwards, revealing the huge craggy profile of Craig yr Ysfa straight ahead; and though it soon became apparent that the descent was a short one, it was steep and hands were needed. At the col, a zig zag path up loose scree arrived from Ffynnon Llugwy. After the electricity board of the time, with arrogant disregard of the National Park, built an unauthorized tarmac road up to the lake in the early seventies, this path quickly became so popular that the erosion had to be contained with ugly, gabion cages (wire boxes filled with stones) which are still there today. A short scramble up a rock slab above the col led to Craig yr Ysfa, cliff of the gathering, a shoulder of Carnedd Llewelyn boasting some dramatically steep rock walls. One of the classic rock climbs of Snowdonia, Amphitheatre Buttress, emerges hereabouts. There were three climbers on its upper arete , their tiny figures and faint shouts adding scale and drama to their surroundings. A few feet short of the summit of Llewelyn, I peered over the edge on my right. Scree slopes studded with parsley fern dropped 200 metres to Ffynnon Llyffant, pool of the frog. This is an unfrequented little tarn in and around which lies the wreckage of an aircraft. Most plane crashes in Snowdonia occurred in the second world war when inexperienced crews were in training but this one was an RAF Canberra jet which crashed in 1957 for no obvious


reason, killing both crew. One winter, I had stood in this same spot contemplating a small cornice and a steep slope of hard, frozen snow, pondering the wisdom of skiing down it. Then I had found myself, almost without thinking, launching out into the first turn. On this occasion, Snowdon was buried in cloud and the wind was biting. Hands thrust deep in pockets, I passed quickly over the summit to a view of Anglesey, Ynys Seiriol/Puffin Island, and a wide expanse of sunlit sea. Just before the grassy plateau between Llewelyn and Foel Grach, I turned aside to investigate the small rock tower that is a conspicuous feature from the east. All around it are loose stones and traces of walling which are something of a mystery for it is quite unlike the large burial cairns on the summits which give the Carneddau its name and almost certainly date back to the Bronze Age.

Y trac i Gwm Eigiau ● Track into Cwm Eigiau © Rob Collister

From the plateau, I turned away down the broad ridge that runs south-east to a region of eroding peat hags overlooking Dulyn and Melynllyn - deep, dark lakes overhung by wet, vegetated crags which, in a few places, protect an arctic-alpine flora from the depredations of sheep and people. Downstream of Dulyn, the walled enclosures of a Bronze Age settlement stood out clearly. Behind me, wraiths of cloud were swirling about Llewelyn and, suddenly, the steep, glaciated faces I had been walking above, became an inky black, the pale, grassy flank of Pen Llithrig standing out like snow by contrast.

Turning, I hurried along the ridge, drops of rain chasing me down the wind. As the light faded I sped along the single-track road and down the steep path beside the Dolgarrog gorge. Its waterfalls and pools, familiar from playful summer afternoons, glinted sombrely in the gloaming. It was dark by the time I reached the car. Rob Collister is a retired mountain guide and former trustee of the Snowdonia Society

Cystadleuaeth Ffotograffiaeth Photography Competition Eryri Snowdonia' Dyddiad cau / Closing date: 27/06/22

Llyn Hywel & Rhinog Fach © Nick Livesey |

19


Ymfalchïwn yn y dynodiad 'Treftadaeth Byd' i’n broydd llechi Dafydd Wigley

Un o uchelfannau 2021, i ni yn Eryri, oedd y cyhoeddiad ym mis Gorffennaf gan UNESCO, eu bod wedi derbyn cais Cyngor Gwynedd i gael statws 'Treftadaeth Byd' i’r tirweddau llechi mewn chwe lleoliad yng Ngwynedd. Daeth hyn ar ôl dros ddegawd o ddatblygu’r cais, ei mireinio a’i chyflwyno i’r awdurdodau priodol i geisio ennill eu sêl bendith. Bum innau’n cadeirio Pwyllgor Cydlynu’r cais dros y chwe mlynedd ddiwethaf; ond swyddogion o Adran Datblygu’r Economi , Cyngor Gwynedd, ynghyd â’u cydweithwyr mewn llu o gyrff cyhoeddus a’r arbenigwyr proffesiynol fu’n ein cynghori, sydd pia’r clod am y llwyddiant hwn. Amcan sicrhau’r dynodiad oedd i ddenu math gwahanol o ymwelwyr i Eryri – pobl o bedwar ban y byd sydd yn ymddiddori yn yr ystod eang o leoliadau a gafodd eu cydnabod gan UNESCO: mae bellach dros fil o safleoedd treftadaeth byd mewn

pum cyfandir sydd yn rhan o’r teulu arbennig ac eithriadol hwn. Maent yn cynnwys nodweddion naturiol; adeiladau hynod; safleoedd o hanes unigryw; a champweithiau peirianyddol a gwyddonol.

gweladwy a pharhaol. Ond fe naddodd y diwydiant llechi, hefyd, olion parhaol ar y gymdeithas o’i hamgylch. Roedd hyn yn un o’r ffactorau a’m denodd innau i’r byd gwleidyddol.

Dyma sydd yn dal dychymyg teithwyr sy’n 'hel' y profiad wrth deithio o amgylch y byd i ymweld â’r safleoedd a dysgu am eu harwyddocâd. Dylai hyn ddenu pobl o gefndir gwahanol i’r twristiaid traddodiadol, i’n gweld; ymwelwyr a fyddent yn aros am ychydig ddyddiau i astudio’r safleoedd, i ddysgu am eu hanes; ac i fynd a’n stori ni yn ôl gartref gyda hwy, gan ehangu’r dealltwriaeth drwy’r byd am ein tirweddau diwydiannol, eu lleoliad anhygoel a’r cymunedau a’r diwylliant a dyfodd o gwmpas y diwydiant llechi.

Cofiaf fy mhrofiad o syllu ar chwarelwyr di-waith Dyffryn Nantlle yn gorymdeithio ym 1958 heibio’m cartref ar eu ffordd i rali fawr Caernarfon i brotestio yn erbyn difaterwch Llywodraeth Macmillan am lefelau diweithdra Arfon. Dysgu, wrth dyfu, am felltith y llwch oedd yn llesteirio bywyd cyn-chwarelwyr; yn chwalu eu hiechyd a’u condemnio i farwolaeth araf a chyn-amserol, heb geiniog o iawndal. Dod i sylweddoli nad oedd iaith a diwylliant ein bro ni, mwy na’r neges cymdeithasol ac economaidd a darddai ohoni, yn cyfrif am y nesa beth i ddim yng nghynteddau Whitehall; ac mai ymreolaeth oedd yr unig ateb. Roedd y diwydiant llechi wedi naddu ei ffordd i galon fy ngwleidyddiaeth.

Fe naddodd ein cyn-deidiau chwareli, twneli a chloddfeydd o’r graig, gan adael golygfeydd trawiadol o ddramatig, oedd yn adrodd hanes mewn modd

Safle treftadaeth y byd newydd i Gymru ● Dinowrig Quarry, a new world heritage site for Wales © Jackie Evans

20 |


Chwarel Lechi Dinorwig ● Dinorwig Slate Quarry © Sian Jones

Mae tri pheth yn hanfodol i mi fel arwyddion o lwyddiant y fenter am Dreftadaeth Byd; wedi’r cyfan, tydi 'statws', yn ei hun, yn golygu dim, mwy na balchder dros dro a fyddai’n brysur dirywio onid oes gwerth sylweddol parhaol yn deillio o’r dynodiad. Tybiaf fod y tair nodwedd canlynol am ffurfio’r ffon fesur i asesu gwerth y dynodiad i bobl Gwynedd. Yn gyntaf, y daw a budd economaidd i’r ardal, a fydd yn cynyddu safon byw’r trigolion ac yn gwella’r rhagolygon i’n pobl ifanc gael gwaith a bywoliaeth yma a thrwy hyn helpu diogelu ein hiaith a’n diwylliant. Yn ail, gobeithio – o gofio am hanes y diwydiant llechi - daw balchder wrth ddysgu am frwydrau diwydiannol a chymdeithasol y chwarelwyr: er enghraifft, o ddeall mai yn chwareli llechi Gwynedd y gwelwyd yr ysbytai diwydiannol cyntaf ym Mhrydain. Ac o’r balchder hwn y daw hunanhyder a pharodrwydd i frwydro dros gyfiawnder cyffelyb yn ein byd cyfoes. Ac yn drydydd, y gwelwn y gornel fechan hon, o’n cenedl fechan ninnau – fel un sydd â’i rhan mewn byd mawr o amrywiol ddiwylliannau a phrofiadau; ond byd sydd yn gwerthfawrogi ein cyfraniad ninnau – ac yn dod yma i ddysgu o’n profiad. Ac y bydd hyn yn tanio chwilfrydedd ymhlith ein pobl ifanc, i ddysgu mwy am ryfeddodau’r byd, drwy’r 'Teulu Treftadaeth Byd'; ac yn codi awydd ynddynt i deithio eu hunain i ddysgu mwy am bobloedd eraill, eu hanes, eu campweithiau a’u diwylliannau. Gall hyn hefyd ein cyfoethogi ni – a’n symbylu i godi ein gorwelion a dyrchafu uchelgais o bob math.

Cyn bo hir Ymunwch â ni ar gyfer ein penwythnos lawn antur o weithgareddau i wirfoddolwyr er mwyn helpu i warchod ein Parc Cenedlaethol. O gynnal a chadw llwybrau i glirio rhywogaethau ymledol a chasglu sbwriel, dyma ein cyfle i ddod at ein gilydd a gwneud gwir wahaniaeth dros benwythnos. Ar y nos Sadwrn cynhelir barbaciw a cherddoriaeth fyw i’r gwirfoddolwyr i gyd. Dyddiad i'w gadarnhau. Gwiriwch ein gwefannau am y fersiwn ddiweddaraf o amserlen y penwythnos. Am ragor o wybodaeth am Benwythnos Mentro a Dathlu 2022 ac i gadw lle, cysylltwch â’n Swyddog Ymwneud, Claire:

claire@snowdonia-society.org.uk

Gwlad fechan yw Cymru; ond nid ydyw’n ynys. Rydym yn rhan o fyd rhyfeddol; byd y bu i’n cyn-deidiau gyfrannu ati mewn cymaint o ffyrdd. Trwy ein dynodiad 'Treftadaeth Byd', rydym yn datgan ein perthynas â’r byd mawr tu hwnt i ffiniau’r ynysoedd hyn; a da hynny i ni oll – ac yn arbennig i genedlaethau’r dyfodol. Dafydd Wigley yw Cadeirydd Grŵp Llywio Llechi Cymru a sefydlwyd gan Gyngor Gwynedd. Bu'n Aelod Seneddol Caernarfon 1974-2001, yn Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru (19992003); ac mae bellach yn Aelod o Dŷ'r Arglwyddi

| 21


Let’s rejoice in the 'World Heritage' status of Eryri’s slate communities Dafydd Wigley

One of our 2021 highlights, in Eryri, was UNESCO July announcement, that they had accepted Gwynedd Council’s bid to secure 'World Heritage Status' for six slate landscapes within the county. This was achieved after a decade of work before submitting the bid to the relevant authorities for approval. For the last six years, I had the honour of chairing the Coordinating Committee; but it was the officers of Gwynedd’s Economic Development department, along with colleagues in other public bodies, and professional advisers, who should be credited with this notable success. The objective of securing the designation was to attract a new, different type of visitor to Eryri, from all corners of the globe – people who are 'Heritage Site visitors', making it their goal to visit all such sites. There are over a thousand such locations in five continents, designated by

UNESCO; and their visitors form a unique family of cultural tourists. These sites include natural landmarks, distinctive buildings, locations of historic importance; and places of scientific and engineering interest. Such unique characteristics catch the imagination of travellers who 'collect' these locations - intent on learning, at first hand, of their significance. This dimension should attract to Eryri, different visitors to the tourists who come here in abundance. They may well come for a few days to study the designated locations; to learn about their history; and to take our story home with them. This can widen the understanding around the world about our industrial landscapes, their stunning locations, and the communities and their culture which grew around the slate industry.

Our forefathers carved out of the mountain, rock-faces, tunnels and mines – leaving dramatic vistas, which told their own story in permanent, visible landscapes. But the slate industry also carved its indelible mark on surrounding communities. This was one of the factors which brought me into politics. I still remember the impact made on me by the marching, unemployed quarrymen who filed past our home, in 1958, on their way to the mass protest in Caernarfon against the indifference of the Macmillan government to Arfon’s levels of unemployment. I came to learn, later, about the curse of industrial 'dust' which afflicted former quarrymen, ravaging their health and condemning them to a slow and premature death, without a penny’s compensation. I came to realise that our language – and the social and economic message which it conveyed - rang no bells

Olion y gwaith a gyflawnwyd flynyddoedd lawer yn ôl yn Chwarel Dinorwig ● Remnants of work undertaken all those years ago at Dinorwig Quarry © Andy Pritchard

22 |


Baracs Môn, Chwarel Dinorwig ● Anglesey Barracks Dinowrig Quarry

in Whitehall; and that self-government was our only option. That message from the slate communities carved its place in the heart of my politics. There are three dimensions which I regard as key indicators of the success of the World Heritage designation; after all, 'status', of itself, counts for little if it doesn’t bring with it some permanent and tangible benefit to the associated communities. I believe that there are three measuring rods for assessing such benefit for the people of Gwynedd. Firstly, it must help secure for the slate communities, economic benefit which will raise the standard of living of their residents, improve the prospects for young people to secure work and thereby help underpin the prospects for the language and our culture. Secondly, by learning about the history of the slate industry, there will be triggered a pride in the social and economic battles which were fought by our forebears working in the industry, to secure social justice. For example, the first industrial hospitals in Britain were in Gwynedd slate quarries. The pride this rightly triggers can help develop that essential confidence which will empower this generation to make a stand in today’s social and economic battles.

Coming up Join us for our annual action-packed weekend of volunteer activities to help protect our National Park. From footpath maintenance to invasive species clearance and litter picks, this is our chance to get together and really make a difference over a weekend. Featuring a big BBQ and live music for all volunteers on the Saturday evening. Date to be confirmed. Check our websites for updates to the weekend timetable. For more information about MaD 2022 and to reserve your place, contact our Engagement Officer, Claire:

claire@snowdonia-society.org.uk

Thirdly, that this small corner of our small nation, will be regarded as one which has its rightful place in the wider world with all its diverse cultures and experiences; but a world which appreciates our story and which comes here to learn of our experience. And that this will fire the imagination of our young people, enticing them to learn more about the wonders of the world through the 'World Heritage Family' and encouraging them to travel to learn about other people, their history, their achievements and their cultures. This can also enrich our communities, teaching us to broaden our horizons and raise our ambitions. Wales is a small country; but it isn’t an island. We are part of a wonderful world – a world to which our forefathers contributed so much, in so many different ways. By dint of our 'World Heritage' designation, we are recognizing our relationship to that big wide world beyond the shores of these islands. And that, surely, must be beneficial for us all and, in particular, for future generations. Dafydd Wigley chairs the Slate Heritage Steering Group set up by Gwynedd Council. He was Caernarfon's MP (19742001) and AM (1999-2003); and currently serves in the House of Lords

| 23


Mynyddoedd y Rhinogydd – bygythiad i dawelwch wedi ei atal am rŵan

Rhinog Mountains – a threat to tranquillity averted for now Julian Pitt Yn rhifyn y gwanwyn diwethaf adroddais am fygythiad newydd i dawelwch mynyddoedd y Rhinogydd. Roedd gweithredwr Maes Awyr Llanbedr, ‘Canolfan Gofod Awyr Eryri’ (CGAE), wedi gwneud cais i’r Awdurdod Hedfan Sifil (AHS) i greu ‘Ardal Beryglus’ (AB) o ofod awyr i ymestyn mewn cylch eang o gwmpas y maes awyr.

In last year’s spring issue I reported on a new threat to the tranquillity of the Rhinog mountains. The operator of Llanbedr Airfield, the ‘Snowdonia Aerospace Centre’ (SAC), had applied to the Civil Aviation Authority (CAA) to create an airspace ‘Danger Area’ (DA), extending in a wide circle around the airfield.

Mae sector yr AB i mewn i’r tir yn cynnwys arwynebedd eang o fynyddoedd y Rhinogydd, bron iawn i’r copaon eu hunain. Mae CGAE yn dymuno gallu rhoi’r AB ‘ar waith’ ac felly cau sectorau dethol ohoni i draffig awyr arferol pryd bynnag y bydd defnyddwyr masnachol y maes awyr eisiau rhoi prawf ar ‘systemau gofod awyr newydd a thechnoleg hedfan arfaethedig yn y dyfodol’. Gallwch ddehongli hyn fel dronau di-beilot gydag ystod eang o ddefnyddiau potensial.

The DA’s inland sector includes a large swathe of the Rhinog mountains, approaching almost to the summits. SAC wants to be able to ‘activate’ the DA and thereby close selected sectors of it to normal air traffic whenever commercial users of the airfield want to test ‘novel aerospace systems and emerging future flight technology’. Read that as pilotless drones with a wide range of potential applications.

Roedd y ddogfennaeth ymgynghori yn awgrymu y byddai’r rhan fwyaf o’r profi’n digwydd yn sectorau gorllewinol yr AB, uwchben y môr ac yn agos at y maes awyr ei hun. Cawsom wybod y byddai’r awyr uwchben y Rhinogydd yn cael ei ddefnyddio am ddim mwy nag oddeutu chwe diwrnod bob blwyddyn ac y byddai awyrennau arbrofol mor ddistaw ac uchel fel na fyddai modd eu clywed, mae’n debyg. Fodd bynnag, ein pryder oedd nad oedd cyfyngiad ffurfiol ar y nifer o ddyddiau yn y cynnig ac felly ni fyddai dim i rwystro cwmni arfogaeth rhyngwladol rhag defnyddio’r maes awyr ar gyfer arddangosiadau a hyfforddiant cwsmeriaid yn nefnydd dronau ar gyfer gweithrediadau uwchben y tir. Efallai bod y risg o’r math yna o ddigwyddiad yn fach, ond pe bai’n digwydd yna fe allai’r canlyniadau o ran mwynhad y cyhoedd a bywyd gwyllt hawdd aflonyddu arno yn y Rhinogydd fod yn ddifrifol. Felly, yn ein hymateb i’r ymgynghoriad gwrthwynebwyd y cynnig os na fyddai amod gyfreithiol rwymol na ellid rhoi’r AB ar waith uwchben y Rhinogydd am fwy na 10 diwrnod y flwyddyn (codwyd y rhif gennym ni i 10 er mwyn bod yn rhesymol). Byddai hynny’n ddigonol i ateb anghenion busnes arfaethedig ond ni fyddai’n rhoi golau gwyrdd di-amod i hedfan heb gyfyngiad dros y mynyddoedd yn y tymor hir. Cyhoeddodd yr AHS ei benderfyniad ym mis Medi 2021. Fel y disgwylir, y penderfyniad oedd caniatáu’r AB. Ond rydym yn falch bod amod caeth sy’n cyfyngu gweithredu’r AB uwchben y Rhinogydd i ddim ond 6 diwrnod y flwyddyn. Dyma ganlyniad sy’n foddhaol i ni gan na fyddem wedi disgwyl gwell. Fodd bynnag, os bydd sectorau gorllewinol yr AB yn cael eu gweithredu mor aml â gobeithion perchennog y maes awyr, yna fe all hynny symud mwy o draffig awyr arferol o lwybrau hedfan uwchben y môr i lwybrau uwchben y mynyddoedd. Bydd angen i ni gadw llygad manwl ar yr hyn sy’n digwydd yn y maes awyr rhag ofn y bydd canlyniadau anfwriadol. Julian Pit, Cadeirydd Cymdeithas Eryri

24 |

The consultation documentation indicated that most testing would be in western sectors of the DA, out to sea and close to the airfield itself. We were told that the skies above the Rhinogydd would be used for no more than about six days each year and that experimental aircraft would be so quiet and high up they would be scarcely audible. However, our concern was that there was no formal restriction on the number of days in the proposal and there would therefore be nothing to stop an international armaments company using the airfield for demonstrations and customer training in the use of drones for overland operations. The risk of that kind of scenario might be small, but if it were to happen then the consequences for public enjoyment and easily disturbed wildlife in the Rhinogydd could be dire. So, in our consultation response we objected to the proposal unless there would be a legally binding condition that the DA could not be activated over the Rhinogydd for more than 10 days a year (we rounded up from 6 just to be reasonable). That would be sufficient to meet foreseeable business needs but wouldn’t give an unconditional green light to unlimited flying over the mountains in the longer term. The CAA published its decision in September 2021. As expected, the decision is to allow the DA. But we are pleased that there is a strict condition limiting activation of the DA over the Rhinogydd to just 6 days each year. This is as good an outcome as we could have hoped for. However, if western sectors of the DA are activated as often as the airfield’s owner hopes, then that may divert more normal air traffic from flight paths over the sea to over the mountains. We shall have to keep a close eye on what goes on at the airfield and look out for unintended consequences. Julian Pitt, Chair of the Snowdonia Society


Ffordd fynediad Llanbedr

Llanbedr access road

Richard Brunstrom Ers blynyddoedd bellach, mae cynlluniau wedi bod ar y gweill ar gyfer gwell ffordd fynediad i’r maes awyr, yn gysylltiedig â ffordd osgoi pentref Llanbedr ar yr A496. Mae’r maes awyr, a saif o fewn y Parc Cenedlaethol, bellach yn rhan o ‘Barth Menter Eryri’ a ddynodwyd yn benodol ar gyfer datblygiadau gofod awyr gan Lywodraeth Cymru (LlC). Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi’r Parth Fenter ac mae’r awdurdod priffyrdd wedi hyrwyddo’r cynllun Ffordd Fynediad. Roedden nhw wedi gobeithio defnyddio arian LlC a’r UE yn bennaf i’w hadeiladu ar gost o £15m (amcan bris 2018). Mae’n ofynnol gan Lywodraeth Cymru bod cynigion adeiladu ffyrdd o’r fath yn atebol i werthusiad ffurfiol a adnabyddir o dan yr acronym WelTAG. Fodd bynnag, yn gynnar yn 2020 a chyn i’r broses WelTAG gael ei chwblhau, cyhoeddodd y Gweinidog Economi a Chludiant ar y pryd, Ken Skates, bod arian LlD wedi ei glustnodi i’r cynllun. Gwrthwynebodd y Gymdeithas gan ddatgan bod hyn yn groes i’r broses a sicrhawyd ymrwymiad gan LC y byddai angen i’r ymgeisydd – Cyngor Gwynedd – gwblhau’r broses WelTAG mandadol cyn y byddai unrhyw ariannu gan LC yn cael ei ryddhau. Yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021, cyhoeddodd yr Isweinidog newydd dros Newid Hinsawdd, Lee Waters, sy’n gyfrifol am gludiant, foratoriwm ar adeiladu ffyrdd newydd yng Nghymru. Yn ganolog i hyn roedd ffurfio Panel Adolygu Ffyrdd i ystyried pa gynlluniau ffyrdd a oedd yn cael eu datblygu ddylai gael caniatâd i barhau. Dewiswyd Ffordd Fynediad Llanbedr gan yr Is-weinidog fel achos pwysig i’w ystyried gan y Panel oherwydd pwysau amser i wneud defnydd o ariannu gan yr UE. Wrth ofyn i’r Panel adolygu’r cynllun penodol hwn gofynnodd yr Isweinidog: a) oes ystyriaeth ddigonol wedi ei rhoi i opsiwnau eraill? b) a fyddai ffordd newydd arwain at gynnydd yn yr allyriadau CO2, neu’n peri rhwystr arwyddocaol i wireddu ein targedau dadgarboneiddio? Anfonodd y Gymdeithas gynrychiolaeth ysgrifenedig i’r Panel Adolygu Ffyrdd, yn seiliedig ar ein gwaith dros sawl blwyddyn o archwilio cyfnodau datblygu’r project. Nid oedd ein cynrychiolaeth i’r Panel yn dadlau dros nag yn erbyn y ffordd ei hun – roeddem yn gofyn am werthusiad trylwyr yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Yn ein barn ni.nad yw’r dystiolaeth angenrheidiol, wrth ysgrifennu hwn, wedi ei chwblhau nac ar gael ar gyfer archwiliad rhanddalwyr. Adroddodd y Panel Adolygu Ffyrdd i’r Is-weinidog ar 1 Tachwedd 2021, gan argymell na ddylid bwrw ymlaen â’r cynllun ond yn cynnig opsiynau eraill. Derbyniodd yr Is-weinidog argymhellion y Panel. Mae Cyngor Gwynedd wedi datgan bwriad i geisio Adolygiad Cyfreithiol. Mae adroddiad llawn y Panel ar gael ar www.gov.wales/roads-review-panel-llanbedr-access-roadand-bypass-html ac yn sefydlu cyd-destun newydd ar gyfer cynlluniau adeiladu ffyrdd gyda Llwybr Newydd, strategaeth gludiant Cymru. Mae hi’n ymddangos, yng Nghymru o leiaf, bod y cyfnod o adeiladu ffyrdd yn seiliedig ar yr hen fodel o ‘ragweld a darparu’ wedi dod i ben, mae’n debyg. Fodd bynnag, rydym yn parhau i fonitro datblygiadau’n fanwl.

For years there have been plans to improve road access to the airfield, associated with a bypass for the village of Llanbedr on the A496. The airfield is within the National Park and is now part of the ‘Snowdonia Enterprise Zone’ designated by Welsh Government (WG) particularly for aerospace developments. Gwynedd Council has supported the Enterprise Zone and promoted the Access Road scheme, aiming to use Welsh Government and EU funding to construct it at a cost of £15m (2018 estimate). WG requires all such road building proposals to be subject to formal appraisal known as WelTAG. Early in 2020, before the WelTAG process had been completed, the then-Minister for Economy & Transport, Ken Skates, announced the allocation of WG funding to the scheme. The Society objected that this was a breach of due process, and secured a commitment from WG that the scheme applicant – Gwynedd Council - would be required to complete the mandatory appraisal process before WG funding would be released. Following Senedd elections in May, the new Deputy Minister for Climate Change, Lee Waters, who holds responsibility for transport, announced a moratorium on new road building in Wales. Central to this was the formation of a Roads Review Panel to consider which, if any, road schemes currently in development should be allowed to proceed. The Llanbedr Access Road was singled out as an urgent case for consideration by the Panel because of the time pressure to make use of EU funding. In asking the Panel to review this scheme, the Deputy Minister asked whether sufficient consideration been given a) to other options, and b) to whether the road proposal will lead to increased CO2 emissions or impede achievement of our decarbonisation targets? The Society submitted a written representation to the Roads Review Panel, based on our work over several years of scrutiny of the project’s development stages. Our representation to the Panel argued neither for nor against the road itself – we asked for a proper evaluation based on up-to-date evidence. In our opinion the required evidence had not, at the time of writing, been completed or made available for stakeholders to scrutinize. The Roads Review Panel reported to the Deputy Minister on 1st November 2021, recommending that the scheme not proceed but suggesting alternative solutions. The Deputy Minister accepted the panel’s recommendation, but Gwynedd Council has stated an intention to seek Judicial Review. The panel’s full report (available at www.gov.wales/roads-review-panel-llanbedraccess-road-and-bypass-html ) establishes a new context for road building schemes in Wales which aligns with Llwybr Newydd, the transport strategy for Wales. It seems that in Wales the era of road building based upon the ‘predict & provide’ model has probably come to an end. However, we continue to monitor developments closely. Richard Brunstrom, Snowdonia Society trustee

Richard Brunstrom, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

| 25


Chwyldro tawel John Harold Gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed yn ystod Caru Eryri yn 2021 ● Volunteers working hard during Caru Eryri in 2021

Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf rydym wedi buddsoddi cryn ymdrech mewn arwain y rhaglen Caru Eryri. Mae’r gwaith yma’n ei gwneud yn bosibl i bobl gyfrannu fel gwirfoddolwyr i raglen o waith wedi ei strwythuro er mwyn gwarchod y lleoedd mwyaf poblogaidd gan ymwelwyr a’r pwysau o ganlyniad i hynny. Rydym yn falch o’r gwaith hwn ac yn y cylchgrawn rydym wedi rhoi’r newyddion diweddaraf am yr hyn y mae’n ei olygu i’n staff a’n gwirfoddolwyr. Yma hoffwn gamu’n ôl ac edrych ar y gwaith hwn yng nghyd-destun esblygiad y Gymdeithas. Dyma ben draw datblygiad hir o’n dull o fynd i’r afael â’n gwaith ymarferol sydd erbyn hyn yn dechrau newid persbectif pobl y tu hwnt i dirlun Eryri. Er ein bod yn gymdeithas fechan mae gennym effaith fawr a rhywfaint o ddylanwad, ac mae’n hynod o ddifyr gweld sut mae hynny’n esblygu dros gyfnod o amser. Y dull rydym wedi ei fabwysiadu o fynd i’r afael â’r gwaith yw drwy fuddsoddi mewn gweithio mewn partneriaeth, er mwyn cynnig cymorth i’n partneriaid ac i fod yn gyson wrth ddarparu ein hymrwymiadau. Cychwynnodd hyn gyda phartneriaethau anffurfiol, gydag ymrwymiadau syml i weithredu rhai mathau penodol o waith mewn rhai lleoliadau i helpu ein partneriaid dros gyfnod o amser – cymryd cyfrifoldeb dros gynnal llwybrau, clirio sbwriel a gwaith parhaus arall sydd angen ei gyflawni os ydym i gyd yn mynd i allu mwynhau Eryri. Cafodd ein dull groeso cynnes, ac mae’r gwaith wedi tyfu’n raddol dros y blynyddoedd. Ambell dro rydym yn cyfeirio at y gwaith hwn o dan y pennawd ‘Dwylo Diwyd’, sy’n disgrifio’r hyn yr ydym yn ei gynnig a sut yr ydym yn ei wireddu. Mae’r cynnig i gyrff sy’n bartneriaid yn syml; os oes angen gwaith ymarferol arnoch sy’n addas ar gyfer gwirfoddolwyr, dewch i gael gair efo ni. Os yw’r gwaith hwnnw o fudd i Eryri ac os ydym yn gallu ateb y gofynion, fe wnawn ni roi cynnig ar helpu. Pan fyddwn yn gwneud ymrwymiadau o’r fath mae hynny’n aml am gyfnodau estynedig o amser, felly mae’n rhaid bod yn glir bod y gwaith yn flaenoriaeth. Dyna pam yr ydym yn tueddu i ganolbwyntio ar waith ac ymdrech tymor hir a hanfodol yn hytrach na phrojectau tymor byr.

26 |

Wedi sefydlu rhai perthnasau cryf yn seiliedig ar y partneriaethau ymarferol yma, roedd yn naturiol y byddem ymysg y cyntaf at y bwrdd pan gymeradwywyd partneriaethau mwy ffurfiol. O’r cychwyn cyntaf rydym wedi chwarae rhan arwyddocaol mewn sefydlu partneriaethau ffurfiol allweddol, wrth gefnogi datblygiad eu cynlluniau gweithredu ac yna gwireddu’r cynlluniau hynny. Mae hynny’n golygu, ymysg pethau eraill, mynychu cryn dipyn o gyfarfodydd! Ond mae’n golygu mwy na hynny – mae cyfarfodydd yn werthfawr pan fydd y sawl sy’n mynychu yn wir gyfathrebu, a phan y byddan nhw’n ymddiried yn ei gilydd i wireddu’r hyn a drafodwyd. Mae Partneriaeth Eryri, Fforwm Eryri a Phartneriaeth Tirlun y Carneddau yn dair enghraifft allweddol o bartneriaethau sydd bellach yn y cyfnod gwireddu. Rydym wedi chwarae rôl wirioneddol arwyddocaol yn y rhain, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Mae partneriaethau eraill wedi cyrraedd cyfnodau amrywiol o ddatblygiad ac rydym yn helpu lle allwn ni – cewch glywed mwy y rhain cyn bo hir. Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn haeddu cydnabyddiaeth am ei waith rhyfeddol wrth ddatblygu dull o weithredu mwy agored, cynhwysol ac ymgynghorol drwy gyfrwng y partneriaethau hyn. Mewn ffordd mae chwyldro tawel wedi digwydd.

Nid y ni yw’r unig lais annibynnol sydd angen ei gynnwys yn y drafodaeth am warchod y man gwerthfawr hwn. Mae llu o randdalwyr ac yn y pen draw mae angen cytbwysedd o ran ein anghenion. Mae cynnal momentwm a natur agored, wrth gwrs, yn orchwyl diddiwedd ac nid ydy’r gwaith eto wedi ei gwblhau. Rydym wedi pwysleisio mewn man arall yr angen am wella’r ffordd y mae ymgynghoriad yn digwydd i ddarparu gwybodaeth ar gyfer gwaith pwysig, er enghraifft, ar ‘wella’ llwybrau. Y perthnasau sydd wedi datblygu dros gyfnod o amser sydd wedi ein galluogi i dderbyn rôl fel arweinwyr mewn rhaglen fel Caru Eryri. Dyma broject sylweddol ac ni fyddai’n bosibl i ni gyflawni dim byd mor uchelgeisiol heb y Bartneriaeth Awyr Agored, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel partneriaid. Bellach, mae’r gwaith hwn a’r dull o’i weithredu’n cael eu cydnabod gan Lywodraeth Cymru a phartneriaeth tirlun dynodedig eraill, ac mae’r cyfle i rannu ein profiadau yn un y dylem ei dderbyn. Rydym yn gweld yr arwyddion mwyaf positif o gefnogaeth ar gyfer tirluniau dynodedig ers blynyddoedd lawer, a’n cyfrifoldeb ni yw gwneud yr hyn a allwn i helpu’r teulu cyfan i ddatblygu a ffynnu. John Harold yw Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri


A quiet revolution John Harold Gwirfoddolwyr Caru Eryri yn gofalu am lwybr Watkin ● Caru Eryri volunteers looking after the Watkin path

In the last two years we have invested much effort into leading the Caru Eryri / Care for Snowdonia programme. This work makes it possible for people to contribute as volunteers to a structured programme of work to look after the places that receive the highest visitor numbers and resulting pressures. We are proud of this work and have given updates in the magazine of what it involves for our staff and our volunteers. Here I want to take a step back and look at this work in context of the Society’s evolution. It is the culmination of a long development of our approach to our practical work that is now starting to change perspectives beyond the landscapes of Eryri. We are a small organisation with a big impact and some influence, and it is fascinating to see how that is evolving in real time. The approach we have followed is to invest heavily in partnership working, to offer a helping hand to our partners and to be consistent in delivering on our commitments. This began with informal partnerships, with simple commitments to carry out certain types of work in certain places to help out our partners over time – taking responsibility for maintaining footpaths, clearing litter and

other ongoing work that needs doing if we are all to be able to enjoy Eryri. This approach was well received. The work has grown steadily over the years. We sometimes refer to this work under the umbrella heading of ‘Helping Hands’, which describes both what we offer and how we go about it. The offer to partner organisations is simple; if you need practical work doing that is suited to volunteers, come and talk to us. If that work benefits Eryri and if we have the capacity, we will try to help. When we make such commitments it is often for extended periods of time, so we have to be clear that it is a priority. This is why we tend to focus on unglamorous long-term and essential work in preference to shortterm projects. Having established some strong relationships based around these practical partnerships, it was natural that when more formal partnerships were mooted, we would be among the first to the table. From the very start we have played a significant part in the establishment of key formal partnerships, supporting the development of their action plans and then the delivery of those plans. This means, amongst other things, attending a lot of meetings! But it means more than that

– meetings are worthwhile when those attending really communicate, and when they dare to trust in each other to deliver. The Snowdon Partnership, Fforwm Eryri and the Carneddau Landscape Partnership are three key examples of partnerships now in the delivery stage. We have and continue to play a really significant role in them. Other partnerships are at various stages of development and we are helping where we can - expect to hear more about these soon. The National Park Authority deserves recognition for its remarkable work in developing a more open, inclusive and consultative approach through these partnerships. It has been in some ways a quiet revolution. We are not the only independent voice that needs to be part of the conversation about how we look after this precious place. There are many stakeholders and our needs must in the end be balanced. Maintaining momentum and openness is of course an endless task and this work is by no means done. We’ve highlighted elsewhere the urgent need to improve the way consultation takes place to inform major footpath ‘improvement’ works, for example. It is the relationships built up over time which have allowed us to take on a leadership role in a programme such as Caru Eryri. This is a substantial project and we couldn’t do anything so ambitious without the Outdoor Partnership, the National Trust and the National Park Authority as partners. Now this work and the approach behind it are being recognised by Welsh Government and other designated landscape partnerships, and the opportunity to share our experience is one that we must take up. We see the most positive signs of support for designated landscapes for many years, and it is our responsibility to do what we can to help the whole family develop and thrive. John Harold is the Director of the Snowdonia Society

| 27


Cynhadledd Tirluniau Dynodedig 12-14 Hydref 2022

Designated Landscapes Conference 12-14 October 2022

Plas y Brenin Canolfan Awyr Agored Cenedlaethol | Eryri National Outdoor Centre | Snowdonia Ymunwch â ni wrth i ni gynnal cynhadledd yr hydref hwn i ganolbwyntio ar arweinyddiaeth a phartneriaeth o fewn y mudiad tirluniau dynodedig a helpu i ysbrydoli atebion i’r heriau amrywiol sy’n wynebu ein tirluniau heddiw.

Join us as we host this autumn conference to focus on leadership and partnership within the designated landscapes movement and help inspire solutions to the varied challenges facing our landscapes today.

Dyma gynhadledd flynyddol cymdeithasau Parciau Cenedlaethol Cymru a Lloegr, ynghyd â’r cymdeithasau sy’n gwasanaethu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol.

This is the annual conference of the National Park societies of Wales and England, along with the societies serving Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales.

Drwy gyfuniad o sesiynau llawn, gweithdai rhyngweithiol a chyfleoedd rhwydweithio, bydd y gynhadledd hon yn darparu cyfle i gael golwg mwy manwl ar sut all tirluniau dynodedig agor y ffordd i newid ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol. Byddwn yn trafod astudiaethau achos i’ch ysbrydoli ac enghreifftiau o gydweithio mewn lleoliad hyfryd Parc Cenedlaethol Eryri.

Through a combination of plenary sessions, interactive workshops and networking opportunities, this conference will provide an opportunity to gain a deeper insight into how designated landscapes can pave the way for change at the local, regional and national level. Featuring inspiring case studies and examples of collaboration in a superb setting in Snowdonia National Park.

Nodwch y dyddiad: ewch i www.snowdonia-society.org. uk/event/DLC22 am wybodaeth am docynnau ‘cynta I’r felin’ ac ymholiadau.

Save the date: go to www.snowdonia-society.org.uk/ event/DLC22 for information on Early Bird passes and conference FAQs.

Nodwch dyddiad: Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cymdeithas Eryri 2022 Medi 24ain Lleoliad i'w gadarnhau

28 |

Please note the date:

CCB ● AGM

Snowdonia Society 2022 Annual General Meeting 24th September Location to be confirmed


Diolch i'n hariannwyr yn 2021-2022

Thanks to our funders in 2021-2022

Buddsoddiad Cymdeithasol Cymru Social Investment Cymru

Diolch i fusnesau cefnogol am eu cyfraniadau yn ystod 2021-2022

www.raw-adventures.co.uk

Thanks to supportive businesses for their donations in 2021-2022

www.climbers-shop.com

www.apexrunning.co

Os hoffech gefnogi Cymdeithas Eryri plis cysylltwch i ddarganfod sut If you would like to support the Snowdonia Society please get in touch to find out how: info@snowdonia-society.org.uk

www.sweetsnowdonia.com

www.conquerlakedistrict.co.uk

www.snowdonia-society.org.uk

| 29


Arlunydd lleol

Local artist

Roeddem yn meddwl y byddai ein darllenwyr yn hoffi clywed am artistiaid cyfoes sy'n cael eu hysbrydoli i baentio tirluniau Eryri. Yn y rhifyn hwn rydym yn cyflwyno hanes Josie Russell. Yn ei eiriau ei hun:

We thought our readers might like to hear about contemporary artists who are inspired to paint the landscapes of Snowdonia. In this issue we shine the spotlight on Josie Russell. In her own words:

Fy enw yw Josie Russell, ac rydw i yn artist tecstiliau sy’n byw yn Nyffryn Nantlle yn Eryri. Er i mi gael fy ngeni yn Affrica, symudodd fy rhieni (botanegydd a daearegydd) yn ôl i’r DU 30 mlynedd yn ôl pan o’n i’n fach iawn, felly mae gen i atgofion cynnar o’r Wyddfa ei hun, yn codi uwchben Llyn Nantlle ar ben y cwm lle rydw i wedi byw byth ers hynny.

My name is Josie Russell, and I am a textile artist living in the Nantlle valley in Snowdonia. Although I was born in Africa, my parents (a botanist and a geologist) moved back to the UK 30 years ago when I was very small, so some of my earliest memories are of Snowdon itself, rising above Llyn Nantlle at the head of the valley where I have lived ever since.

Rydw i’n cynllunio ac yn pwytho lluniau o ddarnau bach o ddeunydd print cotwm yr ydw i’n ei dorri a’i ail-drefnu ar gefndir o ffabrig. Yn bennaf, rydw i’n defnyddio ffabrig nad oedd ei angen ac a roddwyd i mi; mae’r deunydd hwn yn cael bywyd newydd yn y delweddau yr ydw i’n eu creu. Fe all y rhain fod yn luniau bach ychydig o fodfeddi o hyd a lled i ddarnau mawr fel tapestri y gellir eu mesur mewn troedfeddi.

I design and stitch pictures from small pieces of cotton print material that I cut up and rearrange onto a fabric background. I mainly use unwanted and donated fabrics that find a new life in the images that I create. These can be small pictures of a few square inches in extent, to large tapestry-like pieces that can be several feet across.

Ar ôl astudio celf yng Ngholeg Menai ym Mangor, roeddwn wedi dechrau creu darluniau blodeuog o ffabrig i’w gwerthu mewn ffeiriau crefft. Ond, gan fy mod yn byw wrth droed yr Wyddfa ac wrth fy modd yn cerdded yn y mynyddoedd fel yr ydw i wedi ei wneud erioed, cefais fy ysbrydoli’n fuan iawn i greu gwaith a oedd yn adlewyrchu tirlun y mynyddoedd o’m cwmpas. Teimlais y byddai’r rhain yn boblogaidd gan fod cymaint o bobl yn dod i Eryri i brofi a mwynhau’r un golygfeydd. Mae’r tirluniau’n gwerthu’n dda, ac mae lliwiau newidiol y tymhorau’n golygu nad yw’r golygfeydd byth yn union yr un fath, fel bod gen i ffynhonnell ddi-ben-draw o ddelweddau i ysbrydoli gwaith newydd. Gan fy mod yn credu’n gryf mewn cadwraeth amgylcheddol, rydw i hefyd yn creu delweddau o anifeiliaid ac adar, yn cynnwys ein bywyd gwyllt lleol yn Eryri a rhai darnau am anifeiliaid Affrica lle cefais fy ngeni. Rydw i bellach yn creu delweddau o bynciau eraill megis adeiladau treftadaeth ac rydw i’n ffodus o dderbyn sawl comisiwn gan bobl sy’n dymuno cael lluniau tecstil o leoliadau sy’n gyfarwydd neu’n bersonol iddyn nhw. Wrth argraffu rhai o’m delweddau ar eitemau megis cardiau a chalendrau, gobennydd, tywelion a bagiau, hambyrddau, costers a matiau bwrdd, mygiau a jig-sôs, gallaf wneud bywoliaeth sy’n galluogi i mi fyw yn nhirlun hardd Eryri sy’n gartref i mi. www.josierussell.bigcartel.com Tanyrallt © Josie Russell

30 |

After finishing art studies at Coleg Menai in Bangor, I had begun making floral pictures out of fabric for sale at craft fairs. But, living at the foot of Snowdon and loving to walk in the hills as I have always done, I was soon inspired to create works that reflected the mountain scenery around me. I thought that these might prove popular as so many people come to Snowdonia to experience and enjoy the very same views. The landscapes sell well, and the changing colours of the seasons mean that the views are never quite the same, so that I have an almost infinite source of imagery to inspire new work. Believing strongly in environmental conservation, I also make images of animals and birds, including our local wildlife in Snowdonia and some pieces about animals from Africa where I was born. I now create images of other subjects such as heritage buildings and I am lucky to receive many commissions from people who want textile pictures of places that are familiar or personal to them. By printing some of my images onto items such as cards and calendars, cushions, towels and bags, trays, coasters and table mats, mugs and jigsaws, I can make a living that allows me to remain in this beautiful Snowdonia landscape that I call home. www.josierussell.bigcartel.com

Yr haul yn codi dros Yr Wyddfa ● Snowdon sunrise © Josie Russell


Peter Weston 1942-2021 Gyda thristwch mawr y cofnodwn farwolaeth Peter Weston, aelod tymor hir o Gymdeithas Eryri ac ymddiriedolwr ers 10 mlynedd. Roedd ei natur diymhongar yn cuddio ystod eang o ddiddordebau a medrau, a chryn ddealltwriaeth. Wedi astudio hanes ym Mhrifysgol Rhydychen a chyfnod gyda’r Bwrdd Glo Cenedlaethol ail-hyfforddodd fel cynllunydd tref a gweithiodd am 20 mlynedd fel swyddog cynllunio gyda Chyngor Sir Swydd Derby. Yn ystod y cyfnod hwn treuliwyd bron pob un o wyliau’r teulu ym Mhorthmadog lle byddai Peter yn dangos ei gariad tuag at reilffyrdd a thirlun Cymru. Roedd yn arlunydd a gwneuthurwr modelau medrus, ac un o’i hoff bethau yn ei amser hamdden oedd modelau o reilffyrdd. Yn 1991, gwireddodd Peter ei freuddwyd o symud i Eryri a gwirfoddoli ar Reilffordd Eryri. O ganlyniad i’w ddiddordeb mewn gwarchod y tirlun a’r diwylliant lleol, ynghyd â’i brofiad fel cynllunydd proffesiynol, gwnaeth gais am gael ei benodi yn gynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri. Gwnaeth hyn am 10 mlynedd fel aelod neilltuol ar Fwrdd Awdurdod y Parc a gwnaeth ei enw fel un a luniau gwestiynau treiddgar a heriol, a hynny’n hynod o gwrtais bob amser. Yn ystod ei ymddeoliad, dilynodd Peter gwrs celfyddyd gain hyd at lefel gradd ym Mhrifysgol Bangor ac roedd wrth ei fodd yn arbrofi gyda gwahanol arddulliau a lefelau o waith haniaethol. Bu’n cymryd rhan gyda llawer o gorau a grwpiau theatr, gan actio, cyfarwyddo a pheintio setiau i Starlight Players Cricieth yn arbennig. Wedi cwblhau ei gyfnod gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri yn 2010, gwahoddwyd Peter gan Gymdeithas Eryri i ddod yn ymddiriedolwr i’r Gymdeithas. Roedd ei hiwmor sych, ei farn bendant a’i brofiad yn ased wych, ac arweiniodd ar waith polisi am lawer o’i 10 mlynedd fel ymddiriedolwr. I ddyfynnu John Harold, ein Cyfarwyddwr, a weithiai’n agos â Peter: “Doedd Peter ddim yn un am ddefnyddio llawer o eiriau, fel pe baen nhw’n werthfawr iddo. Pan oedd o’n siarad mi fyddwn i, ac eraill, yn gwrando. Doedd ganddo fawr o amynedd efo pobl yn malu awyr ac roedd bob amser yn mynegi ei hun yn ddi-flewyn ar dafod. Mae’r rhain yn rinweddau i’w hedmygu, ond roedd y berchen ar y rhain ar y cyd â charedigrwydd tawel.” Rhyw 8 mlynedd yn ôl cafodd Peter ddyfarniad o ganser ond wedi cwrs o radiotherapi ciliodd y canser gan roi iddo mwy o flynyddoedd cynhyrchiol. Ail-gododd y canser ei ben ddwy flynedd yn ôl a theimlodd Peter, er yn gyndyn, bod angen iddo ymddeol fel ymddiriedolwr o’r Gymdeithas. Bob amser yn benderfynol ac yn annibynnol, bu’n byw adref gyda chymorth teulu a ffrindiau hyd ei wythnosau olaf.

It is with sadness that we report the death of Peter Weston, a long-standing member of the Snowdonia Society and a trustee for 10 years. His unassuming nature concealed a broad range of interests and skills, and a sharp intellect. After studying history at Oxford University and a period with the National Coal Board he retrained as a town planner and worked for 20 years as a planning officer with Derbyshire County Council. During this time nearly all the family holidays were spent in Porthmadog where Peter could enjoy his passion for railways and the Welsh landscape. He was a skilled painter and model maker, and model railways were an absorbing hobby. In 1991, Peter fulfilled his dream of moving to Snowdonia and volunteering on the Ffestiniog Railway. His interest in conserving the local landscape and culture, together with his experience as a professional planner, encouraged him to apply for a Welsh Government appointed position on the Snowdonia National Park Authority. He served for 10 years as a distinguished member on the Park Authority Board establishing a reputation for framing penetrating and challenging questions, always with great courtesy. During his retirement, Peter took a fine arts course to degree level at Bangor University and enjoyed experimenting with different styles and levels of abstraction. He took part in many choirs and theatre groups, acting, directing and set-painting in particular for the Criccieth Starlight Players. On completion of his term with the National Park Authority in 2010, Peter was invited by the Snowdonia Society to become a Society trustee. His dry humour, sound judgement and experience were a huge asset, and he led on policy work for much of his 10 years as a trustee. To quote John Harold, our Director, who worked with Peter closely: “Peter used words sparingly, as if they were precious to him. When he spoke I, and others, listened. He didn’t suffer fools gladly and he was always straight to the point. These are admirable characteristics, but Peter had them in combination with a quiet kindness.” Some 8 years ago Peter was diagnosed with cancer but after a course of radiotherapy the cancer retreated giving him more productive years. It reappeared two years ago and he felt obliged, reluctantly, to stand down as a Society trustee. Always determined and independent, until his last few weeks he lived at home, attended by close family and friends.

David Archer, Snowdonia Society trustee

David Archer, ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

| 31


In pursuit of

LASTING ADVENTURE We’re coming together to bring you more adventure than ever. We don’t just share passion and expertise but also a duty to protect the outdoors. Together we walk, run and camp but we can also learn, change and make a difference. We’re here to find you the right kit and help you make it last, for adventure, for the planet.

20% discount in-store and online for Snowdonia Society members. Expires 31.12.2022. T&Cs online.

Make the right choice with our experts.

Ymaelodwch

OCC6803_28197_CO_SS22_Snowdonia Society Advert_240x210.indd 1

www.snowdonia-society.org.uk/cy/ymaelodi

Join

10/02/2022 15:09

www.snowdonia-society.org.uk/join

 Cymdeithas Eryri ● Snowdonia Society, Caban, Yr Hen Ysgol, Brynrefail, Caernarfon, Gwynedd LL55 3NR  01286 685498  info@snowdonia-society.org.uk www.cymdeithas-eryri.org.uk • www.snowdonia-society.org.uk Elusen gofrestredig rhif • Registered charity no: 1155401


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.