7 minute read

Dod ar draws blodyn

Rob Collister

Tormaen porffor ●Purple saxifrage

Advertisement

Y llynedd, ar ddechrau mis Ebrill, mewn byd gwahanol iawn i’r un yr ydym yn byw ynddo erbyn hyn, mi es i fyny i fy hoff gwm ar yr Wyddfa. Roedd yn agos at ddiwedd cyfnod hir a sych; roedd coesau’r rhedyn yn crensian o dan draed, y mwsoglau’n frown ac yn sych, ac roeddwn yn gallu crwydro efo traed sych mewn mannau lle fel arfer byddai’n rhaid gwisgo welingtons i’w croesi. Wrth glawdd y mynydd roedd dwy afr hirgorn yn aros i fy hebrwng i’r cwm cyn diflannu o’r golwg. Es i fyny’r glaswellt a’r sgrî, gan anelu am waelod rhes o glogwyni sy’n dringo’n serth i fyny ochr y mynydd yr holl ffordd i’r grib ymhell uwch fy mhen. Yn llaith, efo llystyfiant ac heb fawr o atyniad o ran dringo, roedden nhw’n edrych fel pe baen nhw’n cynnal planhigion difyr. Yn ddaearegol, mae’n debyg eu bod wedi eu creu o dwff sylfaenol, lludw a gwympodd i’r ddaear yn dilyn ffrwydrad yn yr oes Ordoficaidd. Yn wir, sylwais bron yn syth bin ar sbloets o liw, a’r adeg hon o’r flwyddyn dim ond peth alla’i hwn fod – blodau’r tormaen porffor (Saxifraga oppositifolia). Mae hwn yn blodeuo’n gynnar bob amser (cefais hyd iddo unwaith yn Nhwll Du ar 8 Chwefror) ond roedd yn wych ei weld gan nad o’n i wedi bod yn chwilio amdano, a’r profiad mor gyffrous â chlywed gog cynta’r flwyddyn. Mae’r llyfr newydd ardderchog gan Jim Langley a Paul Gannon (The Alps, A Natural Companion; Oxford Alpine Club 2019) yn fy hysbysu bod y tormaen porffor Saxifraga oppositifolia yn dal y record am y planhigyn blodeuol uchaf yn yr Alpau ac wedi ei gofnodi ar 4450m ar y Dom yn y Swistir. Mae hefyd yn tyfu ymhellach i’r gogledd nag unrhyw flodyn arall felly mae’n wir arctig alpaidd ac yn agos at ffin deheuol ei ddosbarthiad yn Eryri. Wrth i’r hinsawdd gynhesu bydd yn prinhau fwyfwy yma.

Pe bawn yn gorfod enwi fy hoff blanhigyn arctig alpaidd mae’n debyg mai hwn fyddwn i’n ei ddewis. Gyda’i liw llachar a’i allu i ffynnu yn y mannau mwyaf anial mae ganddo gystadleuaeth, wrth gwrs; mae brenin yr Alpau Eritrichium nanum yn dod i’r meddwl, neu’r gludlys mwsoglog Silene acaulis, o bosib. Ond, i mi, mae gan y tormaen porffor fwy o gysylltiadau personol gyda mynyddoedd o amgylch y byd nag unrhyw blanhigyn arall.

Ar un achlysur roedd pump ohonom yn dod i lawr Mynydd Deborah yn Alasga. Ar adeg pan oedd bron i 500 o bobl ar fynydd Denali (Mt McKinley), ni oedd yr unig ddringwyr yn rhan ddwyreiniol gyfan mynyddoedd Alasga. Roeddem wedi bod ar y mynydd am bron i bythefnos, gan gysgu mewn ogofeydd eira i ddechrau ac yna mewn bifwac mewn mannau dychrynllyd ar ben crib gyda gordo eira enfawr. Y fi oedd yn dod i lawr olaf, gan ddringo’n araf ac yn ofalus o dan bwysau rhaff 300 troedfedd yn ogystal â phob dim arall. Roeddem o fewn ychydig o droedfeddi i rewlif ar graig go amheus ac roeddwn wedi blino ac yn eithaf digalon pan sylwais, yn sydyn, ar fymryn o liw porffor wrth flaen fy esgid. Yn hollol annisgwyl, cododd fy ysbryd yn syth. Roedd fel cael fy nghroesawu’n ôl i fyd y byw. I mi, roedd yn eiliad emosiynol iawn er nad oedd yr un o’r lleill wedi sylwi ar y blodau a doedden nhw ddim yn mynegi llawer o ddiddordeb pan soniais amdanyn nhw.

Tormaen porffor - Alpau Ffrainc ● Purple saxifrage - Ecrins, French Alps

Ar achlysur arall roedd dai ohonom mewn man gwyllt yn Kyrgyzstan. Roedd dau ohonom wedi croesi crib uchel i mewn i gwm nad oedd modd mynd iddo fel arall er mwyn rhoi cynnig ar ddringo copa 6000 metr nad oedd wedi ei ddringo o’r blaen mewn cornel anghysbell o fynyddoedd Tien Shan. Doedd gynnon ni ddim ffôn lloeren nag offer i’n lleoli mewn argyfwng bryd hynny, ac roeddem ymhell o unrhyw gymorth pe bai rhywbeth yn mynd o chwith. Roedd dod o hyd i fymryn o liw porffor mewn marian wrth i ni gychwyn am y copa ei hun yn teimlo fel neges o anogaeth ac fel pe bai’r blodyn yn dymuno lwc dda i ni. Yn y

pen draw wnaethon ni ddim cyrraedd y copa, a dod yn ôl mewn storm yn uchel ar y mynydd oedd ein hanes ond, o ystyried i ni fod yn hynod o ffodus wrth i ordo eira chwalu, rydw i wedi teimlo bob amser bod y blodau wedi dod â lwc i ni.

Dyna wedyn y man gwersylla ar 5600m ar lethrau isaf Makalu yn Nepal, carped o gerrig wedi ei addurno â rhosedi porffor, wedi i ni glirio’r sbwriel a adawyd gan griw trecio diweddar. Yn wir, mae’n ymddangos mod i wedi dod o hyd i’r planhigyn hyfryd hwn ym mhob man lle mae’r creigiau’n cynnwys rhywfaint o galch ac y mae’n bosib eu disgrifio fel gwaelodol gyfoethog, hynny ydy – ar lefel y môr yn Alpau’r Lyngen, Norwy; toreth ohonyn nhw ar siâl moel o amgylch cwt Dix, y Swistir; ar furiau carreg galch heulog y Tenailles de Mont Brison yn Ecrins, Ffrainc; yn nes adre, ar darren basalt y Quirang ar An t-Eilean Sgitheanach (Skye) a llawer lleoliad yn y Cuillin.

Yma yng Nghymru mae’n eithaf cyffredin mewn llawer man ar yr Wyddfa ac Idwal lle mae’r ddaeareg yn iawn. Cefais hyd iddo unwaith ar Foel Siabod, wedi ei mi gael fy ysbrydoli gan Evan Roberts, chwarelwr o Gapel Curig. Wedi ei hel o’i gartref gan ei wraig un diwrnod pan nad oedd yn gweithio, daeth Evan ar draws y blodyn ar hap yn y cwm uwchben Llyn y Foel. Roedd wedi gwirioni cymaint gan y profiad, aeth ymlaen i fod yn brif awdurdod ar blanhigion arctig alpaidd gogledd Cymru, gyda doethuriaeth mygedol gan Brifysgol Bangor yn dyst i hynny. Yn rhyfedd, fodd bynnag, dydw i erioed wedi llwyddo i ddod o hyd i’r planhigyn eto er mi fynd yno i chwilio sawl gwaith. Dim ond unwaith y cefais gyfarfod Evan, wedi iddo golli ei olwg, ac roedd yn fodlon iawn disgrifio sut i ddod o hyd i’r casgliad o dderig sy’n ffynnu mewn man mwyaf annhebygol yn y Carneddau.

Y tro hwn, ar yr Wyddfa, roedd y tormaen porffor yn tyfu’n drwch, nid yn unig ar y graig ond yn y glaswellt wrth ei throed hefyd. Mewn ambell i fan roedd y blodau’n welw ac yn llwydaidd; mewn mannau eraill, yn arlliw dwfn llachar anghyffredin, gyda’r gwahaniaeth mae’n debyg yn gysylltiedig â chynnwys mwynol y pridd. Wrth ben-linio i archwilio’r blodau yn fwy manwl, sylwais ar ronynnau o galch a oedd wedi eu gwthio allan o bennau’r dail bychain. Ar galchfaen mae’r ddeilen gyfan yn cael ei gorchuddio â chalch, addasiad y credir iddo ddarparu gwarchodaeth ychwanegol yn erbyn y gwynt a’r glaw. Am ychydig o eiliadau roeddwn wedi llwyr ymgolli ac roedd gen i syniad o ystyr Jim Perrin pan ysgrifennodd am, “‘those acts of attention that are the profoundest prayer”. O barhau i ddringo, symudais o’r wyneb ogleddol cysgodol, wedi ei naddu gan rew, i laswelltir heulog, yn ddiolchgar ac yn fodlon, ac yn falch o adael y copa i eraill.

Arweinydd mynydd wedi ymddeol yw Rob Collister, ac mae hefyd yn gyn-ymddiriedolwr Cymdeithas Eryri

Prynais fynydd

I bought a MOUNTAIN

THOMAS FI RBANK

New, illustrated edition of the classic account of life on a Welsh hill-farm

Mae hi’n wythdeg o flynyddoedd ers i Thomas Firbank ysgrifennu ‘I Bought A Mountain,’ ei adroddiad clasurol o fywyd ar fferm fynydd Gymreig. Wedi ei ysgrifennu ychydig cyn yr Ail Ryfel Byd, gwerthwyd copïau lu o’r llyfr yn rhyngwladol, dros hanner miliwn ledled y byd, ac mae wedi parhau i rhoi pleser i genedlaethau o ddarllenwyr. I nodi pen-blwydd cyhoeddi’r llyfr, bydd Gwasg Gwydir yn cyhoeddi fersiwn gyda lluniau yn ddiweddarach eleni.

Y fferm dan sylw oedd Dyffryn Mymbyr, 2,400 erw o dirwedd garw’r ucheldir ar ochr ddeheuol y Glyderau yn Eryri. Prynodd y fferm bron ar fympwy yn 1931; roedd yn un-ar-hugain oed. Dyma ddrama a ddatblygodd mewn cilfach o gymoedd serth a thywydd garw, wrth iddo ef a’i wraig newydd Esmé frwydro i sicrhau bod y fferm ddefaid yn gynhyrchiol er nad oedd ganddo ef na’i wraig fawr o wybodaeth ymarferol. Mae’r llyfr yn drawiadol, a’r adroddiad yn un onest; mor gyffrous â llawn bywyd ag unrhyw nofel gan John Buchan. Cyfrannodd y llyfr ‘I Bought a Mountain’ yn enfawr i fywyd mynyddig, ffermio mynydd a chadwraeth yng Nghymru a sefydlodd hefyd faes newydd o lyfrau ‘bywyd da’.

Yn ogystal â gyrfa filitaraidd ddisglair (gwobrwywyd Thomas â dau MC yn ystod y rhyfel ac ymddeolodd o’r fyddin yn rhenc Lefftenant Cyrnol), aeth ymlaen i ysgrifennu llawer o lyfrau eraill ar amrywiaeth o themâu. ‘Bu fy mywyd yn gyfres o fywydau o’r newydd,’ meddai unwaith, ‘ffermwr defaid, milwr, gwerthwr masnachol.’ Parhaodd Esmé i amaethu tir fferm Dyffryn, gan ddatblygu’r hyn yr oedd hi a Thomas wedi ei gychwyn yno. Aeth ymlaen i sefydlu Cymdeithas Eryri yn 1967 ac yn 2005 gadawyd y tŷ a’r tir i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae ‘I Bought A Mountain’ ar gael ar www.gwydirpress.com

This article is from: