Dod ar draws blodyn Rob Collister
Tormaen porffor ●Purple saxifrage
Y llynedd, ar ddechrau mis Ebrill, mewn byd gwahanol iawn i’r un yr ydym yn byw ynddo erbyn hyn, mi es i fyny i fy hoff gwm ar yr Wyddfa. Roedd yn agos at ddiwedd cyfnod hir a sych; roedd coesau’r rhedyn yn crensian o dan draed, y mwsoglau’n frown ac yn sych, ac roeddwn yn gallu crwydro efo traed sych mewn mannau lle fel arfer byddai’n rhaid gwisgo welingtons i’w croesi. Wrth glawdd y mynydd roedd dwy afr hirgorn yn aros i fy hebrwng i’r cwm cyn diflannu o’r golwg. Es i fyny’r glaswellt a’r sgrî, gan anelu am waelod rhes o glogwyni sy’n dringo’n serth i fyny ochr y mynydd yr holl ffordd i’r grib ymhell uwch fy mhen. Yn llaith, efo llystyfiant ac heb fawr o atyniad o ran dringo, roedden nhw’n edrych fel pe baen nhw’n cynnal planhigion difyr. Yn ddaearegol, mae’n debyg eu bod wedi eu creu o dwff sylfaenol, lludw a gwympodd i’r ddaear yn dilyn ffrwydrad yn yr oes Ordoficaidd. Yn wir, sylwais bron yn syth bin ar sbloets o liw, a’r adeg hon o’r flwyddyn dim ond peth alla’i hwn fod – blodau’r tormaen porffor (Saxifraga oppositifolia). Mae hwn yn blodeuo’n gynnar bob amser (cefais hyd iddo unwaith yn Nhwll Du ar 8 Chwefror) ond roedd yn wych ei weld gan nad o’n i wedi bod yn chwilio amdano, a’r profiad mor gyffrous â chlywed gog cynta’r flwyddyn. Mae’r llyfr newydd ardderchog gan Jim Langley a Paul Gannon (The Alps, A Natural Companion; Oxford Alpine Club 2019) yn fy hysbysu bod y tormaen porffor Saxifraga oppositifolia yn dal y record am y planhigyn blodeuol uchaf yn yr Alpau ac wedi ei gofnodi ar 4450m ar y Dom yn y Swistir. Mae hefyd yn tyfu ymhellach i’r gogledd nag unrhyw flodyn arall felly mae’n wir arctig alpaidd ac yn agos at ffin deheuol ei ddosbarthiad yn Eryri. Wrth i’r hinsawdd gynhesu bydd yn prinhau fwyfwy yma. Pe bawn yn gorfod enwi fy hoff blanhigyn arctig alpaidd mae’n debyg mai hwn fyddwn i’n ei ddewis. Gyda’i liw llachar a’i allu i ffynnu yn y mannau mwyaf anial mae ganddo gystadleuaeth, wrth
gwrs; mae brenin yr Alpau Eritrichium nanum yn dod i’r meddwl, neu’r gludlys mwsoglog Silene acaulis, o bosib. Ond, i mi, mae gan y tormaen porffor fwy o gysylltiadau personol gyda mynyddoedd o amgylch y byd nag unrhyw blanhigyn arall. Ar un achlysur roedd pump ohonom yn dod i lawr Mynydd Deborah yn Alasga. Ar adeg pan oedd bron i 500 o bobl ar fynydd Denali (Mt McKinley), ni oedd yr unig ddringwyr yn rhan ddwyreiniol gyfan mynyddoedd Alasga. Roeddem wedi bod ar y mynydd am bron i bythefnos, gan gysgu mewn ogofeydd eira i ddechrau ac yna mewn bifwac mewn mannau dychrynllyd ar ben crib gyda gordo eira enfawr. Y fi oedd yn dod i lawr olaf, gan ddringo’n araf ac yn ofalus o dan bwysau rhaff 300 troedfedd yn ogystal â phob dim arall. Roeddem o fewn ychydig o droedfeddi i rewlif ar graig go amheus ac roeddwn wedi blino ac yn eithaf digalon pan sylwais, yn sydyn, ar fymryn o liw porffor wrth flaen fy esgid. Yn hollol annisgwyl, cododd fy ysbryd yn syth. Roedd fel cael fy nghroesawu’n ôl i fyd y byw. I mi, roedd yn eiliad emosiynol iawn er nad oedd yr un o’r lleill wedi sylwi ar y blodau a doedden nhw ddim yn mynegi llawer o ddiddordeb pan soniais amdanyn nhw.
Tormaen porffor - Alpau Ffrainc ● Purple saxifrage - Ecrins, French Alps
14 | Gwarchod a dathlu Eryri ers dros 50 mlynedd
Ar achlysur arall roedd dai ohonom mewn man gwyllt yn Kyrgyzstan. Roedd dau ohonom wedi croesi crib uchel i mewn i gwm nad oedd modd mynd iddo fel arall er mwyn rhoi cynnig ar ddringo copa 6000 metr nad oedd wedi ei ddringo o’r blaen mewn cornel anghysbell o fynyddoedd Tien Shan. Doedd gynnon ni ddim ffôn lloeren nag offer i’n lleoli mewn argyfwng bryd hynny, ac roeddem ymhell o unrhyw gymorth pe bai rhywbeth yn mynd o chwith. Roedd dod o hyd i fymryn o liw porffor mewn marian wrth i ni gychwyn am y copa ei hun yn teimlo fel neges o anogaeth ac fel pe bai’r blodyn yn dymuno lwc dda i ni. Yn y