nevernever
“Once there was, once there was, and once there was not...”
Artists tell tales artistiaid yn adrodd straeon
Chan-Hyo Bae Sarah Ball Barnaby Barford Matthew Cowan Zoe Childerley Claire Curneen Laura Ford Auriea Harvey & Michaël Samyn Daphne Plessner Paula Rego Elaine Wilson White Fox and the Boy 2011 Sarah Ball
nevernever We humans like to daydream, to re-make our world; and we tend to like a narrative drive to make sense of incoming information. Stories are tardis-like respositories of shared data, and like habits they act as richly textured short cuts for busy human brains, supplying visual and verbal information that can be much farther reaching than the superficial sum of its parts. For example, a picture of a girl in a red hooded coat, by some trees – nothing extraordinary on the face of it, but whose brain will not quickly supply the reference? And with the reference, a compactly ‘zipped’ delivery of images, feelings, ideas. Shared stories can take many forms, from the old children’s fairy tales – which can change depending on the social and political climate of the times – to localised folk tales, to the stories which reinforce gender types.
Lion with Sore Paw 2007 Laura Ford
‘Rydym ni fel bodau dynol yn hoffi breuddwydio, i ail-greu ein byd; ac ‘rydym yn tueddu i ffafrio ffurf naratif i wneud synnwyr o’r wybodaeth a dderbynnir gennym. Mae straeon yn storfeydd dwfn o ddata a rennir, ac fel arferion bob dydd maent yn gweithredu fel y ffyrdd byrraf i’r ymenydd dynol prysur, yn darparu gwybodaeth weledol a llafar a all fod yn llawer mwy pellgyrhaeddol na chyfanswm arwynebol ei rhannau. Er enghraifft, llun o ferch mewn côt goch gyda chwfl, ger bwys coed - dim byd eithriadol ar yr wyneb, ond bydd ymenydd pob un ohonom yn gyflym yn darparu’r cyfeirbwynt. A gyda’r cyfeirbwynt daw mynegiant cryno o ddelweddau, teimladau, syniadau. Gall straeon a rennir gymryd llawer o ffurfiau, o’r hen straeon tylwyth teg i blant - sy’n gallu newid, yn dibynnu ar hinsawdd cymdeithasol a gwleidyddol y cyfnod i straeon gwerin lleol, i’r straeon sy’n argyfnerthu dulliau llenyddol penodol.
nevernever
Artists can use the shared knowledge within those stories that are in the general social domain to reinforce the tale’s original points, to question or subvert – or simply use them a springboard for the imagination. The artists in this exhibition have each engaged with and assimilated elements of shared traditional stories. The works fall into three overlapping sections – child, lady, gentleman. ‘child’ centres on fairy tales, which have persisted in our imagination and in re-telling and have acted in the past to reinforce precepts and morals. Although we may choose to remove or downplay the sinister parts of the tales for today’s young, they originally reflected the darkness of life as well as the pleasurable side and offered dreadful warnings as well as hope for change. Chan-Hyo Bae’s photographic reconstructions of traditional western
The Path 2009 Auriea Harvey & Michaël Samyn
Gall artistiaid ddefnyddio’r wybodaeth a rennir o fewn y straeon hynny sydd yn y maes cymdeithasol cyffredinol i atgyfnerthu pwyntiau gwreiddiol y stori, i gwestiynu neu danseilio - neu’n syml eu defnyddio fel sbringfwrdd ar gyfer y dychymyg. Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys 12 o artistiaid, pob un â stori wedi’i chynnwys yn eu gwaith. Mae’r darnau yn syrthio i dair adran sy’n gorgyffwrdd - plentyn, bonigeddes, bonheddwr Mae ‘plentyn’ yn ffocysu ar straeon tylwyth teg, sydd wedi parhau yn ein dychymyg wrth eu hail-adrodd, ac sydd wedi gweithredu yn y gorffennol i atgyfnerthu gwirebau a moesau. Er y gallwn ddewis dileu neu fychanu rhannau sinistr y straeon ar gyfer y ieuenctid cyfoes, bu’r straeon gwreiddiol yn adlewyrchu tywyllwch bywyd yn osgystal â’r ochr bleserus gan gynnig rhybuddion dychrynllyd yn ogystal â gobaith am newid. Seilir adluniadau ffotograffig Chan Hyo Bae o
fairy tales are centred on his ‘outsider’ status as a Korean within a western society and he uses the standpoint of his otherness to reflect on the divisions and perceived status differential between occidental and oriental. These fairy stories are meticulously staged using period costumes and settings; lovingly shot, rich in colour and detail, consciously mimicking the western tradition of oil painting. In each tableau Chan-Hyo Bae appears in the guise of the female of the story– traditionally the more vulnerable, often weaker character, reflecting his perception that Oriental men are viewed thus in the west; simultaneously submerging himself in western consciousness and questioning it. The status of different cultures is another kind of story – one famously written by the victors. The fairy tale Little Red Riding Hood is a particularly potent source for artists. The range of possible interpretations and subversions – the girl, the wolf: male v. female? elements of human psyche?; woman released from wolf’s belly: birth? death?
straeon tylwyth teg gorllewinol traddodiadol ar ei statws ‘allanwr’ fel Coread o fewn cymdeithas orllewinol ac mae’n defnyddio safbwynt ei arwahanrwydd i fyfyrio ar yr ymraniadau a’r statws gweledig sy’n gwahaniaethu rhwng y gorllewinol a’r dwyreiniol. Cyflwynir y straeon tylwyth teg hyn yn gywrain a gyda chariad, gan ddefnyddio gwisgoedd a chefndiroedd y cyfnod, yn gyfoethog mewn lliw a manylder, yn fwriadol yn dynwared y traddodiad gorllewinol o baentio mewn olew. Mewn pob un darlun ymddengys Chan Hyo Bae ar ffurf y fenyw yn y stori - yn draddodiadol y cymeriad mwy bregus, yn aml y gwannaf, sy’n adlewyrchu ei syniad bod dynion Dwyreiniol yn cael eu hystyried felly yn y gorllewin; ar yr un pryd yn ymgolli ei hun mewn ymwybyddiaeth orllewinol ac yn ei chwestiynu. Mae statws gwahanol ddiwylliannau yn fath arall o stori - un a ysgrifennwyd fel arfer gan y buddugwyr. Bu hanes Hugan Fach Goch yn ffynhonnell arbennig o gryf ar gyfer artistiaid yn ddiweddar. Mae ynddo amrediad helaeth o ddehongliadau a phosibiliadau sy’n ei wneud yn fan cychwyn ffrwythlon - y ferch, y blaidd: gwryw yn erbyn menyw? elfennau o’r enaid dynol?; dynes yn cael ei rhyddhau o fola’r blaidd: genedigaeth? marwolaeth? dial? tanseilio cenedl? Mae Auriea Harvey a Michael Samyn wedi defnyddio’r stori fel sylfaen ar gyfer eu gêm fideo ‘The Path’, darn a elwir ganddynt yn ‘ffuglen ryngweithiol’. Gan ffocysu’n bennaf ar chwilfrydedd y bod dynol mae’r gêm hon yn gwobrwyo’r chwaraewyr sy’n gadael y llwybr, sy’n torri’r rheolau; mae pob cymeriad, dan arweiniad y chwaraewr, yn mynd ar daith o ddiniweidrwydd i ryw fath o brofiad. Mae rhan o effaith y gwaith hwn yn dod o’r ffordd y mae’n cwestiynu’r diwylliant gemau; mae’n gêm araf, gyda phwyslais ar y gweledol ac er y gellir ‘ennill’ gwrthrychau, fel yn y rhan fwyaf o gemau cyfrifiadurol, maent wedyn yn cael eu diystyru, o werth dros dro yn unig. Mae’r lliw coch - gwraig ysgarlad, perygl, gwaed bywyd, marwolaeth - yn lliw allwedol yn
Let Thy Seed Possess the Gate of Those Which Hate 2011 Matthew Cowan
nevernever
revenge? gender subversion? - make it a fertile stepping off point. Auriea Harvey and Michaël Samyn have used the story as the basis for their video game ‘The Path’, a work they term ‘interactive fiction’. With its key concerns centred around human curiosity, this game rewards players who step off the path, who break the rules; each character, led by the player, undergoes a trajectory from innocence to a kind of experience. Part of the effect of this work derives from the way in which it questions gaming culture; it is a slow play, with an emphasis on the visual and although objects can be ‘won’ as in most computer games they are then disregarded, of ephemeral worth. The colour red -scarlet woman, danger, life blood, death - is a key colour in the game, which begins in a womb like room; contrasted occasionally with a pure white figure; a symbolic opposition echoed in Elaine Wilson’s ‘Seeing Myself Seeing.’ Paula Rego took inspiration from the nursery rhymes traditionally repeated to small children and created her own visual stories in etching – bizarre, sinister and yet instantly recognisable to the viewer. Story telling is central to all Rego’s work; her printmaking displays formidable draughtsmanship as well as a fertile and often dark imagination. The Nursery Rhyme Portfolio was created for her granddaughter, with a dramatic and surreal mix of the comic and horrible; she has said she thought of the spider in ‘Miss Muffet’ as Freud’s mother figure, with ‘grabbing arms and hairy sticky bits – horrible.’ The prints contain both familiar archetypes and the unexpected; of her imagination the artist has commented: ‘sometimes you please yourself, finding out you are meaner than you thought you were.’ (reported by Felicity Hughes 2 December 2005 culture 24). Like Paula Rego, Laura Ford’s work inhabits a world simultaneously referencing archetypal stories
y gêm, sy’n cychwyn mewn ystafell sy’n debyg i’r groth; gyda chyferbyniad yn achlysurol gyda ffurf wen bur; gwrthgyferbyniad symbolaidd a adseinir yn ‘Seeing Myself Seeing’ gan Elaine Wilson. Cymerodd Paula Rego ysbrydoliaeth o’r rhigymau plant a ail-adroddwyd yn draddodiadol i blant bach a chreuodd ei straeon gweledol ei hun ar ffurf ysgythru - bisâr, sinistr ac eto’n gyfarwydd ar unwaith i’r gwyliwr. Mae adrodd straeon yn ganolog i holl waith Rego; mae ei gwaith print yn dangos dawn dylunio aruthrol yn ogystal â dychymyg ffrwythlon sy’n aml yn dywyll. Creuwyd y Portffolio Rhigymau Plant ar gyfer ei hwyres, gyda chymysgedd dramatig a swreal o’r comig a’r erchyll; dywed ei bod yn meddwl am y pryf cop ym ‘Miss Muffet’ fel ffigur mamol Freud gyda ‘breichiau bachog a darnau gludiog blewog - erchyll.’ Mae’r printiau’n cynnwys archdeipiau cyfarwydd yn ogystal â’r annisgwyl; gan gyfeirio at ei dychymyg, dywed yr artist: ‘weithiau ‘rydych yn plesio’ch hun, ac yn ffeindio allan eich bod yn fwy crintachlyd nag yr oeddech yn meddwl.’ (adroddwyd gan Felicity Hughes 2 Rhagfyr 2005 diwylliant 24) . Fel Paula Rego, mae gwaith Laura Ford yn cyfeirio ar yr un pryd at straeon archdeipaidd ochr yn ochr â syniadau hynod personol ac idiosyncratig. Mae’r ymraniad rhwng anifeiliaid a dynion yn aneglur mewn llawer o’r hen straeon a gall anifeiliaid gynrychioli nodweddion y bod dynol. Yn symud o child a’i rhigymau plant i fewn i straeon ar gyfer oedolion a phlant, mae gan ‘Lion with Sore Paw’ Ford ei gwreiddiau yn hanes Sant Jerome ac yn hwyrach, Androcles, sy’n dysgu y daw beth bynnag yr ydych yn gwneud mewn bywyd - yn dda neu’n ddrwg - yn ôl i chwi. Mae’r llew ar unwaith yn cynrychioli llawer o nodweddion da - cryfder, brenhindod, dewrder. Mae llew Laura Ford yn frenhinol, yn hyderus - ond mae wedi’i frifo, yn dal allan ei bawen ddolurus sydd wedi’i rhwymo. Un goblygiad yw’r syniad o glwyfo’r naturiol,
Little Miss Muffet 2 from The Nursery Rhyme series 1989; courtesy Marlborough Fine Art Paula Rego
nevernever
From the Colorado series (How The Fawn Got Its Spots) Zoe Childerley
alongside deeply individual and idiosyncratic imaginings. The division between animal and human is blurred in many old stories and animals often represent human characteristics. Moving from child and its nursery rhymes into tales for both adults and children, Ford’s ‘Lion with Sore Paw’ has its roots in the tale of St Jerome and later of Androcles, who learn that what you do in life - good or ill - will come back to you. The lion is instantly emblematic of many fine things – strength, royalty, courage. Laura Ford’s lion is regal, confident, Aslan-like – but wounded, holding out his sore bandaged paw. One implication is a wounding of the natural, the un-natural hobbling of something powerful and free; the lion holds his sore paw almost like a dog - have we subjected even the wildest animals? Is he a dread warning of the damage we do to natural environments? Or, as in the traditional story, this could be seen as a positive image, an assurance that the good we do will have an effect in the world; dignified, full of strength – this King of Beasts is tamed by Good Deeds. Laura Ford’s ‘Espaliered Girl’ is another conundrum. A fairy tale figure of the deep woods, guarding secrets and barring the way – or a girl cruelly restrained by macabre enchantment, literally trained to conform? Reaching for help but immobile – or warding us off, barring the way and locking in secrets? Both Laura Ford and Paula Rego make use of humour allied with fear, of ambiguity and surrealism in their imagery. Sarah Ball’s paintings too offer an expansive ambiguity; she often draws on fables and old stories but the ideas and images she uses are re-cast in an alternative world. This leaves an opening for the viewer to bring their own understanding of the imagery to the work and its narrative; a narrative which could be thus, could be other. Ball’s paintings shown in never never step
nevernever
cloffni annaturiol rhywbeth pwerus a rhydd; mae’r llew yn dal ei bawen gloff bron fel ci - a ydym wedi effeithio ar yr anifeiliaid mwyaf gwyllt? A yw ef yn rhybudd ofnadwy o’r niwed a wneir gennym i amgylcheddau naturiol? Neu, fel yn y stori draddodiadol, gellir gweld hon fel delwedd bositif, addewid y bydd y daioni a wneir gennym yn cael effaith ar y byd; yn urddasol, yn llawn grym - dofir Brenin yr Anifeiliaid gan Weithredoedd Da. Mae ‘Espaliered Girl’ Laura Ford yn bos arall. Cymeriad tylwyth teg y fforest ddofn, yn gwarchod cyfrinachau ac yn rhwystro’r ffordd - neu ferch a gyfyngir yn greulon gan hud macâbr, wedi’i hyfforddi’n llythrennol i gydymffurfio? Yn ymestyn am gymorth ond yn methu â symud - neu’n ein cadw ni draw, yn rhwystro’r ffordd ac yn cadw cyfrinachau? Mae Laura Ford a Paula Rego yn defnyddio hiwmor ynghyd ag ofn; amwysedd a
Princess 2008 Daphne Plessner
lightly along the divide between animal and human, articulating a relationship which is indistinct and troubling. Zoe Childerley’s photographs in never never are selected from two series, each of which engages with fairy and folk stories from different countries. These stories act to distinguish cultures, but they also unite through their many common factors, both visual and verbal. The myths are different – magical birds, spider woman (not the comic book character!) the egret and water buffalo – but the themes are familiar: the search for utopia; obedience results in happiness; cleverness overcomes strength. There is a stillness and gravity to these photographs, with clear heightened colour and strong contrasts of light and shade; the creatures in the compositions have a totemic feel – powerful, static, posed; time has halted. From the nursery rhyme land of child to grown up tales for the lady and gentleman. Elaine Wilson’s ceramic ‘Gunwomen’ adopt that most masculine appendage – the gun. She uses the language of figurines, with their connotations of settled domesticity, of regulated femininity – but although the women have long dresses with transfers of pastoral scenes and roses on them, their faces are not demure but scowling, shouting and blowing on a smoking gun. Their stance is one of action and defence rather than submission or of waiting to be viewed and judged. ‘Seeing Myself Seeing’ is at the other end of the spectrum in scale. A duo of ceramic female sculptures in red and white; the figures are opposite each other but each is returning its own gaze, looking downwards into a glossy pool of colour. The faces are troublingly blank and unformed. The female symbolism of red in contrast to white is frequently used in old tales, distinguishing between the pure and the transgressive; these figures
St. Sebastian 2011 Claire Curneen
swrrealaeth yn eu delweddau. Mae paentiadau Sarah Ball hefyd yn cynnig elfen eang o amwysedd; mae hi’n tynnu’n aml ar chwedlau ac hen straeon ond mae’r syniadau a’r delweddau a ddefnyddir ganddi yn cael eu hail-gastio mewn byd gwahanol. Mae’n cynnig cyfle i’r gwyliwr i ddod â’i ddealltwriaeth ei hun o’r delweddau i’r gwaith a’r naratif; gall naratif o’r math fod yn naratif arall. Mae’r paentiadau a arddangosir yn never never yn camu’n ysgafn ar hyd yr ymraniad rhwng anifail a dyn, yn mynegi perthynas sy’n aneglur ac sy’n achosi pryder. Detholir ffotograffau Zoe Childerley ar gyfer yr arddangosfa o ddwy gyfres - y ddwy yn ymwneud â straeon tylwyth teg a gwerin o wahanol wledydd. Mae’r straeon yn gwahaniaethu rhwng diwylliannau, ond maent hefyd yn uno â’i gilydd yn sgil llawer o factorau cyffredin, yn weledol ac ar lafar. Mae’r mythau’n wahanol - adar hudol, spider woman (nid y cartŵn!) y crëyr bach copog a’r byfflo dŵr - ond mae’r themâu’n gyfarwydd: y chwilio am iwtopia; bod ufudd-dod yn arwain at hapusrwydd; bod clyfrwch yn llwyddo dros gryfder. Ceir llonyddwch a difrifwch yn y ffotograffau hyn, gyda lliwiau cryfion, clir a chyferbyniad rhwng golau a chysgod; mae gan y creaduriaid yn y cyfansoddiadau deimlad totemig - pwerus, llonydd, wedi eu gosod mewn ystum; mae amser wedi stopio. O fyd y rhigwm yn child i straeon oedolion ar gyfer y foneddiges a bonheddwr. Mae ‘Gunwomen’ serameg Elaine Wilson yn defnyddio’r atodyn gwbl wrywaidd hwnnw - y gwn. Mae hi’n defnyddio iaith y model bach, gyda’i gysylltiadau â chartrefgarwch cyfforddus, benyweidd-dra rheoledig - ond er bod gan y merched ffrogiau hir gyda phatrymau del a rhosod arnynt, nid yw eu hwynebau’n ddiymhongar ond yn hytrach yn gwgu, yn gweiddi ac yn poeri ar gwn myglyd. Mae eu hymddygiad yn un o weithredu ac amddiffyn yn hytrach nag ildio neu aros i gael eu gwylio a’u beirniadu. Mae ‘Seeing Myself Seeing’ ym mhen arall y sbectrwm mewn maint. Dau gerflunwaith benywaidd serameg
nevernever
nevernever
are caught in their feminine hooded garb and their vanity, waiting to discover what the next passing reflection will instruct them to become. A key motif in traditional tales is the possibility of dramatic change, a magical transformation. Claire Curneen’s ‘Daphne’ is, like ‘Espaliered Girl’, changing from human to tree; but there is no doubt in this case that Daphne rejoices in her transformation into a laurel plant, with its precious gold-tipped leaves protectively encasing her. The Greek myth tells of Daphne’s flight from Apollo and her rescue by the gods, through being turned into a strong laurel tree towering over her amorous pursuer. In Ovid’s version she asks ‘destroy my shape by which I’ve pleased too much, by changing it’.
Seeing Myself Seeing 2009 Elaine Wilson
mewn coch a gwyn; mae’r ffigyrau’n wynebu ei gilydd ond mae’r ddau yn dychwelyd ei edrychiad ei hun, yn edrych i lawr i fewn i bwll gloyw o liw. Mae’r wynebau’n wag ac yn ddi-ffurf; defnyddir y symboliaeth fenywaidd o goch mewn cyferbyniad i wyn yn aml mewn hen straeon, yn gwahaniaethu rhwng y pur a’r troseddol; mae’r ffigyrau hyn wedi cael eu dal yn ei gwisgoedd benywaidd, yn dangos eu balchder, yn aros i ffeindio allan beth y bydd yr adlewyrchiad nesaf sy’n mynd heibio yn dweud wrthynt am fod. Nodwedd allweddol mewn straeon traddodiadol yw’r posibilrwydd o newid dramatig, trawsffurfiad hudol. Mae ‘Daphne’ gan Claire Curneen, fel ‘Espaliered Girl’, yn newid i fewn i goeden; ond ‘does dim amheuaeth yn yr achos hwn bod Daphne yn llawenhau yn ei thrawsffurfiad yn blanhigyn llawryf, gyda’i ddail euraidd yn ei hamddiffyn. Mae’r myth Groegaidd yn adrodd hanes ehediad Daphne rhag Apollo a’i hachub gan y duwiau, sy’n ei newid i fewn i goeden lawryf gref yn sefyll uwchben ei dilynwr serchus. Yn fersiwn Ovid mae hi’n dweud ‘destroy my shape by which I’ve pleased too much, by changing it’. (Mae’n werth nodi nad oedd Apollo yn hapus iawn efo’r sylw hwn - yn hawlio pe na byddai ef yn ei chael hi fel dynes, o leiaf byddai ef yn berchen ar y goeden: “my lyres will have you, my quivers will have you, Oh Laurel…’) Mae ‘Blue study’ gan Curneen yn dangos trawsffurfiad benywaidd arall, dynes yn ymddangos allan o flodau. Yr hyn sy’n dod i’r meddwl yw natur dros dro harddwch, a bywyd ei hun; neu Blodeuwedd, y ddynes a greuwyd allan o flodau. Bu Blodeuwedd yn mwynhau ei bywyd a’i phrydferthwch yn ormodol, bu’n wraig anffyddlon ac felly cafodd ei chosbi, yn y stori o’r Mabinogion. Ffordd Chan Hyo Bae o ddelio gyda’i statws israddol tra’n byw yn y gorllewin oedd i gyfleu ei hun yn ei waith fel boneddiges y dosbarth llywodraethol, yn rhoi iddo fo’i hun orffennol gorllewinol dychmygol. Mae Daphne Plessner yn cael ei denu at y straeon sy’n diffinio’r fenyw
(Apollo, it is worth noting, did not take this well– claiming if he could not have her as a woman, she would be his tree: “my lyres will have you, my quivers will have you’’). ‘Blue study’ by Curneen shows another female transformation, a woman of - or emerging from – flowers. The references which spring to mind include the ephemeral nature of beauty and indeed life; or Blodeuwedd, the woman created from flowers. Blodeuwedd enjoyed her life and beauty too well, proving a faithless wife and so receiving her come-uppance, in the story from the Mabinogion. Chan Hyo Bae’s method of dealing with his perceived demotion in status while living in the west was to image himself in his work as a lady of the ruling class, endowing himself with an imaginary western past. Daphne Plessner engages with the stories which define the fantasy female in a patriarchy. Her paintings examine the current story and status of the desirable young woman, reflecting society's commodification of sexuality. At first glance these paintings are enticingly coloured and patterned, decorative, displaying desirable women in familiar poses; but a closer look reveals a different story, with subversive imagery and titles offering sharp social criticism. The works highlight the tension between society’s thrust to promote and package female sexuality and the derogatory labels and moral opprobrium suffered by those who enact the fantasy. Barnaby Barford’s ‘Damaged Goods’ also touches on transformation, through love; the work is shown both in its animated version and in the sculptures made with the story’s protagonists. Barford’s narrative works reflect humorously on social mores ; like Elaine Wilson, he references the language of figurines but his characters are made from
ffantasi mewn patriarchaeth. Mae ei phaentiadau yn archwilio stori a statws y fenyw ddymunol, yn cyferbynu’r syniad o rywioldeb gyda’r feirniadaeth foesol a wneir ynglyn â’r benywod hynny sy’n cyflawni’r ffantasi. Ar y golwg cyntaf mae’r paentiadau hyn yn batrymog, yn lliwgar braf, yn addurnol, yn cyflwyno menywod mewn ffyrdd cyfarwydd, ond mae golwg agosach yn datgelu’r feirniadaeth gymdeithasol finiog. Fel y dywed Kit Lydd “we are on the one hand socially and culturally indulgent of the idea of women as emblems of consumerism, but squeamish about the consequences.” (London Grip 2005) Mae ‘Damaged Goods’ Barnaby Barford hefyd yn ymwneud â thrawsffurfiad, trwy gariad; dangosir y gwaith yn ei fersiwn animeiddiedig ac hefyd yn y cerfluniau a wnaethpwyd gyda phrif gymeriadau’r stori. Mae darnau naratif Barford yn myfyrio gydag hiwmor ar arferion a moesau cymdeithasol; fel Elaine Wilson, mae’n defnyddui iaith y model bach ond ffurfir ei gymeriadau o addurniadau modern ac hynafol. Mae gan y stori chwareus hon am gariad gwaharddedig rhamantus gyffyrddiad o’r stori glasurol, yn cynnwys rhwystrau a orchfygwyd, trasedi ac yn olaf rhyddhad; gyda dosbarth mewn cymdeithas yn llythrennol ac mewn modd eironig yn cael ei bortreadu gan silffoedd gwahanol mewn trefn ysblander materol. Yn ogystal â chwarae gyda’r stori ramantus glasurol, mae gwaith Barford hefyd yn adlewyrchu stori newidiol serameg gwelir y modelau kitsch o’r newydd yn y cerfluniau, yn rhan o agweddau ôl-fodern tuag at ddelweddau a syniadau traddodiadol. Mae gan ddynion straeon sy’n llunio eu tynged yn ogystal â menywod wrth gwrs; mae’r straeon gwrywaidd yn ‘Damaged Goods’ yn cynnwys perfformiwr syrcas gyda chalon fawr, dandi a charwr rhamantus. Mae hunan bortreadau Chan Hyo Bae o’r gyfres ‘Existing in Costume’ yn cymharu statws merched mewn perthynas â dynion mewn cymdeithas orllewinol
nevernever
nevernever
ornaments both modern and antique. This playful tale of romantic forbidden love has a classic story arc including obstacles overcome, tragedy and finally a chastened redemption; with class in society literally and ironically portrayed by different shelves in ascending order of material grandeur. In addition to playing with the classic romantic tale, Barford’s work also reflects the changing story of ceramics the kitsch figurines are seen anew in the sculptures, part of postmodern attitudes to traditional imagery and ideas. Men have stories to shape their destinies as well as women of course; the male stories in ‘Damaged Goods’ include a good hearted circus performer, a dandy and a romantic lover. Chan-Hyo Bae’s group of self portraits from his ‘Existing in costume’ series compares the status of women in relation to men in western society with that of the East in relation to the West. Observing that his status as an Asian man is lower in the west, he portrays himself in the portraits as an aristocratic lady of the past – queenly and superior, using her finery to symbolise her standing. The costumes, wigs and settings were carefully researched, but in each image there is a small Korean object, a half hidden flash of the true story. Claire Curneen’s ‘St. Sebastian’ sculpture shows the influence of the artist’s Catholic upbringing. The figure is accepting of his fate; his stance, expression and the artist’s use of gold and blue suggesting religious ecstasy rather than messy death. In fact Sebastian did not die from these arrows, being clubbed to death at a later point, but the arrow story was clearly seen to be a better tale and used to symbolise the transforming effects of belief. Matthew Cowan’s performance and film work draws inspiration from both British and European folk customs, many of which continue to resonate today with quirky and bizarre instances surviving specific
gyda statws y Dwyrain mewn perthynas â’r Gorllewin. Gan sylwi bod ei statws fel dyn Asiaidd yn is yn y gorllewin, mae’n cyflwyno ei hun yn y portreadau fel boneddiges aristocrataidd o’r gorffennol - fel brenhines ac yn uwchraddol, yn defnyddio ei gwisg hardd i symboleiddio’i statws. Mae’r gwisgoedd, y wigiau a’r cefndir yn destun ymchwil gofalus, ond mewn pob darlun gwelir eitem Goreaidd fechan, awgrym hanner-guddiedig o’r stori wir. Mae cerflunwaith Sant Sebastian Claire Curneen yn dangos dylanwad magwraeth Gatholig yr artist. Mae’r ffigwr yn derbyn ei dynged, mae ei safiad, ei edrychiad a defnydd yr artist o aur a glas yn awgrymu ecstasi crefyddol yn hytrach na marwolaeth flêr. Mewn gwirionedd ni farwodd Sebastian oherwydd y saethau hyn, cafodd ei guro i farwolaeth yn hwyrach, ond mae’r stori hon yn symboleiddio’n well effeithiau trawsffurfiol cred a dyma’r stori a ddewisir fel arfer i bortreadu’r Sant. Ysbrydolir gwaith perfformio a ffilm Matthew Cowan gan ddefodau gwerin Prydeinig ac Ewropeaidd, llawer ohonynt yn parhau i atseinio heddiw gydag elfennau mympwyol a bisâr yn goroesi mewn perthynas â meysydd penodol. Mae’r ffilmiau a ddangosir yn never never yn canolbwyntio ar wahanol gymeriadau a gwisgoedd sy’n deillio o straeon gwerin - yn cynnwys y Chocol, chwaraewr triciau o wlad Pwyl, dawnswyr Morus a cheffylau pren, ffigyrau carnifal traddodiadol a all fod yn bwer anarchaidd neu ddrwgargoelus. Bu’r cymeriadau hyn yn draddodiadol yn cynnig hwyl ac hefyd yn cynnig cyfle ar cyfer ymddygiad gwrth-gymdeithasol. Fel mewn llawer o straeon tylwyth teg, ceir hefyd yr elfen bwysig honno - y posibilrwydd o newid sylfaenol, o’r israddol neu’r gorthrymedig yn llwyddo yn y diwedd. Gwnaethpwyd gwaith arall o eiddo Cowan, y gyfres ‘Let Thy Seed Possess the Gate of Those Which Hate’, ar ôl iddo ddod ar draws portreadau stiwdio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o ddynion wedi eu
to a particular area. The films shown in never never centre on various characters and costumes from folk tales – including the Chochol, a trickster character from Poland, Morris dancers and Hobby Horses, traditional carnival figures which could be an anarchic or foreboding force. These characters traditionally offered fun and also an outlet for anti-social behaviours. As in many fairy tales, there is also that important element – the possibility of real change, of the downtrodden or derided coming out on top. Another of Cowan’s works, the series ‘Let Thy Seed Possess the Gate of Those Which Hate’, was made after he came across nineteenth century studio portraits of men dressed in female Welsh costume. This work makes reference to a famously rebellious act during the ‘Rebecca’ Riots when men were dressed as women while protesting about rising toll prices. The decision to cross-gender dress was probably an effort to mask people’s identities, but it is also used as a symbol of a topsy turvey world. The title of Cowan’s work is from the book of Genesis where Rebecca is told ‘‘may your offspring possess the gates of their enemies.” (It is likely that the riots were actually so-called after the woman who lent the clothes - but ,again, Genesis has a much better story.) The Welsh costume has its own weight of history and emotion; the men are funny because they really don’t look like women; and for those who understand the Rebecca connection the image talks of class rebellion, transgression, subversion. Fairy stories, myths and tales can help us see how things used to be organised so that we can look to what might become, what could become. Many old stories were originally aimed at keeping the status quo – emphasising the importance of obedience or instilling fear – but they also offered
nevernever
gwisgo mewn gwisg fenywaidd Gymreig. Mae’r gwaith hwn yn cyfeirio at weithred wrthryfelgar enwog yn ystod Terfysgoedd Rebecca pryd y gwisgodd dynion fel merched tra’n protestio yn erbyn codiadau mewn prisiau tollbyrth. Mwy na thebyg ‘roedd y penderfyniad i draws-wisgo yn ymdrech i fasgio hunaniaeth unigolion, ond fe’i defnyddir hefyd fel symbol o fyd sy’n wyneb i waered. Daw teitl gwaith Cowan o lyfr Genesis lle y dywedir wrth Rebecca ‘‘may your offspring possess the gates of their enemies.‘‘ (Mae’n debygol bod y terfysgoedd wedi dwyn eu henw o’r ddynes a fenthycodd y dillad - ond mae gan Genesis stori well o lawer.) Mae gan y wisg Gymreig ei hanes a’i hemosiwn ei hun; mae’r dynion yn ddoniol oherwydd nid ydynt yn edrych fel merched o gwbl; ac i’r sawl sy’n deall y cysylltiad gyda Rebecca mae’r ddelwedd yn sôn am wrthryfel, tramgwydd, tanseiliad.
Existing in Costume Anne Bolyen Chan-Hyo Bae
nevernever
the possibility (although probably illusory) of alternative world orders and allowed space for transgressive social behaviours to be temporarily played out. It has been suggested that there are only seven story archetypes which are re-imagined in myriad ways; and that stories are an effective subconscious preparation for what might befall us in life. Psychologist Bruno Bettelheim believes that Jewish children who had read Grimm’s Tales were better prepared for the Holocaust; as Bobette Buster puts it ‘‘they’d been taught that some day somebody might throw you in an oven; someday a wolf might eat you...” The artists in never never have engaged with various ideas and imagery familiar from collectively recognised stories, reflecting complex truths about the human condition; the works produced are also bewitching, fun and fire the imagination. Eve Ropek June 2012 Mehefin 2012
Happily Ever After 2009 courtesy David Gill Galleries Barnaby Barford
Gall straeon tylwyth teg, mythau a chwedlau ein helpu i weld sut yr oedd pethau yn arfer cael eu trefnu fel y gallwn edrych ar beth all digwydd yn y dyfodol. Anelodd llawer o’r hen straeon yn wreiddiol at gadw’r sefyllfa oedd ohoni - yn pwysleisio pwysigrwydd ufudd-dod neu’n achosi ofn - ond buont hefyd yn cynnig y posibilrwydd (er efallai’n rhithiol) bod cyfundrefnau eraill yn y byd ac yn caniatau i ymddygiad cymdeithasol camweddus ddigwydd dros dro. Fe awgrymwyd mai dim ond saith o archdeipiau stori sydd - sy’n cael eu hail-ddychmygu mewn pob math o wahanol ffyrdd; a bod straeon yn ddarpariaeth isymwybodol effeithiol ar gyfer beth a all ddigwydd i ni mewn bywyd . Cred y Seicolegwr Bruno Bettelheim fod plant Iddewig oedd wedi darllen Straeon Grimm wedi eu darparu’n well ar gyfer yr Holocawst; fel y dywed Bobette Buster “dysgwyd iddynt efallai un diwrnod y byddai rhywun yn eich taflu i fewn i ffwrn; un diwrnod efallai y bydd blaidd yn eich bwyta...” Mae’r artistiaid yn never never wedi gweithio gyda gwahanol syniadau a delweddau sy’n gyfarwydd mewn straeon cydnabyddedig, yn adlewyrchu gwirioneddau cymhleth ynglyn â’r cyflwr dynol; mae’r darnau a gynhyrchwyd hefyd yn swynol, yn hwyliog ac yn tanio’r dychymyg.
nevernever
The story is told and a word is like a sparrow once out it is out for good Traditional opening and closing lines of folk tales Llinellau agor a chau traddodiadol chwedlau gwerin www.folktale.net
www.aberystwythartscentre.co.uk
ISBN 978-1-908992-03-1 Design Stephen Paul Dale Design spdale@live.com Cover/Clawr Auriea Harvey & MichaĂŤl Samyn