Dinesydd Chwefror 2006

Page 1

www.dinesydd.com

Chwefror 2006

Calennig i’r Dinesydd Yn haf 2005 ymddangosodd y 300fed rhifyn o’r Dinesydd. Hwn yw papur bro cyntaf Cymru, ac oddi ar ei sefydlu yn 1973 gwnaeth gyfraniad amhrisiadwy i h y b u ’ r b y w y d C ym r a e g yn g Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Mae 3,000 o gopïau yn cael eu dosbarthu bob mis, a phob rhifyn yn orlawn o newyddion am fywyd Cymraeg y brifddinas a’r cyffiniau. Ar adeg pan yw’n bwysicach nag erioed feithrin cymunedau Cymraeg, a chreu pontydd i mewn i’r bywyd Cymraeg, anodd yw gorbwysleisio rôl Y Dinesydd yn y gwaith o hybu rhwydweithiau a g w e i t h g a r e d d a u C ym r a e g yn g Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Gwirfoddolwyr yw’r tîm ymroddgar o olygyddion, gohebwyr a dosbarthwyr sy’n cynhyrchu’r papur o fis i fis, ond mae costau sylweddol ynghlwm wrth ei gysodi a’i argraffu. Felly, er mwyn cynnal y papur a’i ddatblygu, rhaid wrth ffrwd gyson o incwm. Oherwydd natur y gymdeithas Gymraeg yng Nghaerdydd a’r cyffiniau, dosbarthu’r Dinesydd yn rhad ac am ddim fu hanes y papur o’r dechrau. Daw ein hincwm o dair ffynhonnell: grant bl yn yddol bychan oddi wrth y Llywodraeth trwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg; incwm hysbysebion; a rhoddion oddi wrth unigolion a chymdeithasau. Rhoi Mae rhai unigolion, cymdeithasau a sefydliadau yn anfon rhoddion yn rheolaidd, o leiaf unwaith y flwyddyn. I’r rheini ohonoch nad ydych yn gwneud hynny, apeliwn atoch i ddechrau rhoi yn rheolaidd. I’r rheini sy’n gwneud eisoes, diolchwn yn gynnes, gan ofyn yr un pryd i chi ystyried cynyddu maint eich rhodd o flwyddyn i flwyddyn, gan fod ein costau ninnau yn cynyddu’n flynyddol.

P a pur Br o Din as C aer d yd d a’ r Cyl ch

Rhif 305

PÊL­DROED YN Y GWAED: DAU FRAWD O GAERDYDD YN CODI CANOLFAN 5­BOB­OCHR GYNTAF CYMRU

Timau y gêm gyntaf, tîm Kevin Brennan AS a thîm Ysgol Uwchradd Fitzalan, yng Nghanolfan Gôl gyda’r Prif Weinidog, Rhodri Morgan AC.

gallwch annog eraill i wneud, byddwn yn ddiolchgar dros ben. Mae ein telerau hysbysebu yn rhesymol, a thystiolaeth ein hysbysebwyr yw eu bod yn cael ymateb da iawn gan ein darllenwyr. Noddi Byddem yn ddiolchgar iawn pe bai rhai o’n darllenwyr o fyd busnes yn barod i noddi’r papur, neu eitemau arbennig yn y papur – yr adran chwaraeon, adran y dysgwyr, y capeli, yr ysgolion, y calendr digwyddiadau, ac yn y blaen. Hen arfer Gymreig yw estyn calennig ar ddechrau blwyddyn newydd. Gofynnwn i’n darllenwyr ystyried estyn calennig i’r Dinesydd eleni, a phob blwyddyn.

Mae dau frawd o Gaerdydd, sy’n gefnogwyr brwd o’r tîm pêl­droed cenedlaethol, wedi mynd â’u cariad at y gêm gam ymhellach drwy agor canolfan bêl­droed gwerth £1.25 miliwn. Gwilym a Rhys Boore yw Cyfarwyddwyr Canolfannau Gôl a’r brêns y tu ôl i ganolfan bêl­droed 5­bob­ochr bwrpasol gyntaf Cymru. Mae’r ddau yn dilyn y tîm cenedlaethol pan fyddant yn chwarae gartref ac oddi cartref, yn ddyfarnwyr yn eu hamser hamdden, ac wedi chwarae i nifer o dimau lleol. Os hoffai unrhyw un ragor o wybodaeth am Ganolfan Gôl, mae modd cysylltu ar 0870 168 8989, e­bostio info@golcentres.co.uk, neu ymweld â www.golcentres.co.uk

Dychmygwch sut y byddai ar fywyd Cymraeg Caerdydd a’r cyffiniau HEB Y Dinesydd, ac estynnwch yn ddwfn i’ch poced! At Drysorydd y Dinesydd, d/o Menter Caerdydd, Tŷ Avocet, 88 Heol yr Orsaf, Ystum Taf, Caerdydd CF14 2FG Amgaeaf/wn rodd o £ tuag at waith Y Dinesydd. Enw: ………………………………………………………………………………… Cyfeiriad: ………………………………………………………………………….… ………………………………………………………………………………………..

Hysbysebu Os ydych mewn ffordd i osod hysbysebion, bach neu fawr, neu os

Llofnod: ……………………………… Dyddiad: ………………………………... Sieciau’n daladwy i ‘Y Dinesydd’


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.
Dinesydd Chwefror 2006 by Y Dinesydd - Issuu