www.dinesydd.com
Ebrill 2008
P a pur Br o Din as C aer d yd d a’ r Cyl ch
Betsan a chyfwelwyr y dyfodol
Fe gymrodd Lydia, Sophie a Jasper, tri o fyfyrwyr Ysgol Howell, ran yn ddiweddar yng Nghystadleuaeth Flynyddol y Rotari ar gyfer Cyfwelwyr Ifanc. Yn y rownd hon, a noddwyd gan Glwb Brecwast Rotari Caerdydd, roedd Ysgol Howell yn wynebu Ysgol Gyfun Yr Eglwys Newydd. Y sialens oedd cyfweld Sue Essex, cyn aelod o’r Cynulliad Cenedlaethol a thestun y cyfweliad oedd y cynllun i adeiladu morglawdd ar draws aber yr afon Hafren. Un o’r beirniaid oedd Betsan Powys, golygydd gwleidyddol gyda’r BBC. Llwyddodd Lydia a Jasper i gael eu dewis ar gyfer y rownd derfynol. Llongyfarchiadau i’r cystadleuwyr i gyd.
Adeilad newydd i Pedal Power
Agorwyd adeilad newydd Pedal Power ym Mharc Pontcanna ar 7 Mawrth gan Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Gill Bird. Mae Pedal Power yn elusen sy'n darparu cyfleoedd i feicio ar gyfer pob oedran a gallu. Mae ganddyn nhw ystod eang o feiciau o feiciau mynydd, beiciau i blant i feiciau arbennig iawn
Cwrs rasio ceffylau yn cael cerflun gan Gymraes Ar nos Iau, 27 Chwefror dadorchuddiodd y gôf neu’r cerflunydd metel Nia Wyn Jones o Landaf ei gwaith comisiwn o geffyl metel dwy fetr o uchder ym Mharc Kempton yn Lloegr. Mae Nia yn ferch i Tegai Jones a’r ddiweddar Gwen Jones a bu’n ddisgybl yn Ysgol Glantaf cyn mynd yn ei blaen i astudio yng N g h a e r d y d d a P h r i f y s g o l Wolverhampton. Cynlluniodd ffynnon yn Dubai ac ar ôl blwyddyn yn Llundain yn gweithio i gynllunydd yno dychwelodd i Gaerdydd yn 1997 a sefydlodd ei busnes metel ei hun. Mae peth o’i gwaith i’w weld y tu allan i Eglwys Sant Ioan yng nghanol Caerdydd a hi gynlluniodd y tlysau ar gyfer cystadleuaeth personoliaeth chwaraeon yng Nghymru. Dymunwn pob lwc iddi yn ei gyrfa ddewisiedig. sy'n caniatáu i bobl ag anableddau difrifol gymryd rhan mewn gweithgaredd pleserus a chyffrous. Derbyniodd yr elusen dros £300,000 gan Gronfa Fawr y Loteri ar gyfer yr adeilad, sy'n galluogi iddyn nhw ehangu eu gwasanaeth, sy'n cael ei rhedeg gan wirfoddolwyr yn bennaf. Os oes gennych ddiddordeb mewn beicio, neu'n adnabod rhywun allai fanteisio ar wasanaethau Pedal Power, gallwch gysylltu â nhw ar 029 2039 0713, neu galwch i mewn i'w gweld ym maes carafanau Parc Pontcanna.
Rhif 327
Tîm Pêldroed y Cymric yn teithio i'r Swistir Mae Tîm Pêldroed y Cymric, sef tîm pêldroed Cymry Caerdydd, yn mynd ar daith i'r Swistir ym mis Mai eleni i gynrychioli Cymru mewn cystadleuaeth pêldroed i wledydd Ewrop sydd ag ieithoedd lleiafrifol o fewn ei ffiniau. Paratoad yw'r gystadleuaeth hon ar gyfer cystadleuaeth Pencampwriaeth Ewrop yn yr haf yn y Swistir ac Awstria. Disgwylir tuag ugain o dimau o ieithoedd lleiafrifol Ewrop i gymryd rhan. Pob lwc i fechgyn Tîm y Cymric yn y gystadleuaeth. Mae'r tîm yn ymarfer bob nos Lun yn Stadiwm Lecwydd ac ar ôl pob gêm byddant yn ymgasglu yn y Mochyn Du am lymaid a sgwrs.
Cennin Pedr Undeb Rygbi Cymru
I ddathlu llwyddiant tîm rygbi Cymru planwyd flodyn unigryw ar faes stadiwm y mileniwm cyn eu gêm fawr yn erbyn Ffrainc. Cyflwynwyd y blodyn newydd, Cenhinen Bedr Undeb Rygbi Cymru, i’r tîm gan yr elusen arddio Cymdeithas Garddwriaethol Frenhinol (RHS). Mae sawl un enwog wedi cael blodyn wedi’i enwi ar ei ôl ac nawr mae RHS wedi anrhydeddu tîm Cymru – y tîm chwaraeon cyntaf i dderbyn y fath anrhydedd. Bydd y blodyn yn cael ei ddadorchuddio’n swyddogol yn Sioe Wanwyn yr RHS yng Nghaerdydd ar 18 20 Ebrill a bydd cyfle bryd hynny i chi ei brynu. Am ragor o wybodaeth a thocynnau ffoniwch 0870 040 0286 neu ewch ar y wefan www.rhs.org.uk.