LLWYDDIANNAU BRO EDERN
M
ae wedi bod yn dymor prysur iawn yn Ysgol Gyfun Bro Edern gyda nifer o lwyddiannau i'w dathlu. Bu'n dymor llwyddiannus iawn i'r adran Addysg Gorfforol wrth i James B arwain y tîm rygbi i fuddugoliaeth ym mhlat ysgolion Caerdydd dan 12 oed. Y sgôr oedd 64-0 i Fro Edern. Anrhydeddwyd Iwan J yn Seren y Gêm. Yn ogystal â hynny, gwobrwywyd 17 o ddisgyblion gyda thystysgrif efydd yn yr Ysgol Judo a 6 disgybl gyda thysysgrif arian. Llongyfarchiadau hefyd i'r criw fu'n cystadlu yn yr Eisteddfod Sir yn Ysgol Glantaf. Roedd safon uchel iawn ym mhob cystadleuaeth. Dyma'r canlyniadau: Cân Actol 1af, Partïon merched a bechgyn yn 2il. Hoffai pawb ddiolch i Miss Dafydd am ei holl waith caled, ac maent oll yn edrych ymlaen at gystadlu ym Meirionnydd ym mis Mai. Bu llwyddiant i'r pedwar aeth trwyddo yn y Spelling Bee Almaeneg dan arweiniad Miss James, sef Olivia B, Iwan J, Mabli B a Tomos E. Bydd Olivia yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Aberystwyth. Fe ddaeth Rownd a Rownd i ymweld â'r ysgol ym mis Chwefror i drefnu gweithdy gyda blwyddyn 8, rhoddwyd cyfleoedd iddynt actio, sgriptio a chyfarwyddo gyda'r tîm o'r rhaglen deledu boblogaidd. Llys Rhymni a enillodd yr eisteddfod ysgol eto eleni. Roedd cystadlu brwdfrydig iawn trwy gydol y dydd. Cadeiriwyd Twm E ym mhrif seremoni'r diwrnod. Rydym oll ym Mro Edern yn edrych ymlaen at dymor newydd wrth i ni gael mynediad i floc newydd yr ysgol a chystadlu ym mabolgampau a'r Eisteddfod Genedlaethol. Rita Bevan Arweinyd Dyniaethau