www.dinesydd.com
Maehefin 2008
P a pur Br o Din as C aer d yd d a’ r Cyl ch
Rhif 329
Clymblaid i redeg Caerdydd Mae Plaid y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru wedi cytuno ar ddogfen “Gweledigaeth Prifddinas” i reoli Cyngor Sir Caerdydd am y pedair mlyned nesaf. Yn dilyn yr etholiad ym mis Mai roedd y Rhyddfrydwyr, gyda 35 o seddi, 3 yn brin o fwyafrif llawn. Llwyddodd Plaid Cymru i gynyddu eu cynrychiolaeth ar y cyngor o 4 i 7 ac mae’r ddau grŵp wedi cytunio i gydweithio. Bydd y Lib Dem Rodney Berman yn parhau i fod yn Arweinydd y Cyngor gyda Neil McEvoy, Plaid Cymru a Judith Woodman, Lib Dem, yn Ddirprwy Arweinyddion.
Daeth atgofion lu yn ôl nos Wener, Mai 16eg, yn Ysgol Glantaf gyda noson yng nghwmni Huw Jones a Heather Jones, atgofion am gyfnod cyffrous y 60au a’r 70au a ddylanwadodd yn enfawr ar ddyfodol ieithyddol a gwleidyddol Cymru. Diolch i Huw a Heather am ail danio’r ysbryd.
TAITH CRICC (Dan 9) i’r GORLLEWIN Dyma’r tro cyntaf i garfan oed ysgol gynradd fynd ar daith rygbi i gynrychioli CRICC. Mae’r diolch yn bennaf i fyfyriwr ifanc o’r enw Siôn Edwards sydd wedi rhoi o’i amser a’i sgiliau hyfforddi yn ddidâl am bron i ddau dymor. Trefnodd Siôn daith i Aberystwyth, gyda help rhai o’r rhieni brwd, ar y penwythnos pan oedd Clwb Rygbi Cymry Caerdydd yn chwarae yno i ddathlu penblwydd CRCC yn ddeugain oed. Yn wahanol i CRCC, ennill
gwnaeth CRICC ar y bore Sadwrn ac wedyn chwarae ac ennill pob gêm yn Llambed y diwrnod canlynol. Trechwyd Aberaeron, Aberystwyth [eto], Caerfyrddin a’r tîm cartref Llambed, a welir yn y llun gyda charfan CRICC. Yn rhes flaen y llun, mae Rhydian DeightonJones yn dal y tlws a enillwyd yn yr Ŵyl ac yn yr ail res mae Tomos James yn dal y groes Geltaidd [symbol y clwb] o wydr nadd a gyflwynwyd fel anrheg i Glwb Llambed.
Yn rhes gefn y llun mae swyddogion CRICC, Rob Deighton Jones [dyfarnwr]; Gareth Williams [a Siôn Edwards [hyfforddwyr]. Yn anffodus i CRICC, mae Siôn yn dilyn cwrs ôlradd yn Lerpwl y tymor nesaf ac felly bydd angen rhywun tebyg, sy’n fodlon gwirfoddoli er mwyn rhoi cyfle i`r plant chwarae drwy gyfrwng ein hiaith. Hoffai Pwyllgor CRICC ddiolch i Siôn am ei waith a dymuno pob llwyddiant iddo yn ystod ei gwrs ac yn ei yrfa yn y dyfodol.
Yng nghanol lludw folcanig Patagonia Ar Ddydd Gwener 2 Mai fe ffrwydrodd llosgfynydd Chaitén yn Chile. Tasgodd y lludw o'r llosgfynydd, 760 milltir i'r de o brifddinas Chile, Santiago, gan gyrraedd yr Ariannin ble roedd yn disgyn fel eira trwchus. Roedd pentref Trevelin a thre Esquel, sy’n gartref i lawer o siaradwyr Cymraeg, yn llwybr y lludw. Mae Gill Stephens o Riwbeina yn yr ardal am flwyddyn yn dysgu Cymraeg yno ac mae James Williams o Lantrisant yn yr ardal hefyd yn gweithio i Fenter Iaith Patagonia. Da deall fod y ddau yn iawn er gwaethaf yr anghyfleustra a’r perygl.