Sharon Coleman > 01
Clwb Chwaraeon Aston > 03
Southall Black Sisters > 04
Jack Thomas > 05
Duncan Fisher > 02
Dakota Blue Richards > 08
Cwmni Theatr Open Clasp > 06
Ahsan Khan > 07
Rachel Boyd > 10
Croeso > 09
Un Flwyddyn, Deg Stori
Un Flwyddyn, Deg Stori Croeso i’r cyhoeddiad hwn, sy’n dathlu blwyddyn ers sefydlu’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Roeddem ni am roi cyfle i bobl gael cipolwg ar ein gwaith trwy dynnu sylw at straeon 10 o bobl unigryw y mae’r Comisiwn wedi cyffwrdd eu bywydau mewn rhyw ffordd. Mae rhai o’r straeon yn ysbrydoli, eraill yn ddoniol, a rhai yn hynod o ddiddorol. Cewch glywed am y fam sengl sydd am gael cyfle teg iddi hi a’i phlentyn anabl; y clwb chwaraeon syn dod â phêldroedwyr ifanc at ei gilydd; y tad sy’n chwilio am ffyrdd o weithio’n fwy hyblyg; neu’r sefydliad sy’n ymladd dros bobl sy’n dioddef trais yn y cartref. Gobeithio y bydd Un Flwyddyn, Deg Stori yn rhoi cipolwg i chi ar bwrpas y Comisiwn, yn ein barn ni. Newid gwirioneddol i bobl go iawn.
Mae Tanya Gold yn newyddiadurwraig ar ei liwt ei hun. Mae hi wedi ysgrifennu yn y Guardian, yr Observer, y Daily Mail, yr Independent, y Spectator a’r Daily Telegraph. Mae’n byw yn Llundain.
Mae’r ffotograffydd Suki Dhanda o Lundain yn arbenigo mewn portreadau o bobl yn eu cynefin. Caiff ei chomisiynau golygyddol eu cyhoeddi’n rheolaidd mewn cylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys yr Observer. Mae ei gwaith yn amrywio o ffotograffau o enwogion a gwleidyddion blaenllaw i ffermwyr coffi yn Rwanda. Hi sy’n gyfrifol am y ffotograffau canlynol yn y cyhoeddiad hwn: Sharon Coleman, Duncan Fisher, Clwb Chwaraeon Aston, Southall Black Sisters, Jack Thomas, Dakota Blue Richards a Rachel Boyd.
Gallwch hefyd edrych ar Un Flwyddyn, Deg Stori, gyda lluniau gan y ffotograffydd enwog, Suki Dhanda, a geiriau gan y newyddiadurwraig a’r colofnydd, Tanya Gold, a gweld gwybodaeth am weddill ein gwaith ar ein gwefan ar www.equalityhumanrights.com. Gobeithio y byddwch yn mwynhau.
Sharon Coleman Dwyrain Llundain Stori Un
‘ Unwaith i mi gael Oliver, fe newidiodd popeth. Mae’n enghraifft gyffredin o’r ffordd y caiff pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu eu trin. Ac roedd hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol’
Chwith: Sharon Coleman a’i mab Oliver yn eu cartref yn Llundain
M
ae Sharon Coleman yn eistedd yn sipian ei the yn araf yn ei fflat yn nwyrain Llundain tra bod Oliver ei mab yn rhuthro o gwmpas fel peth gwyllt ar y lloriau pren gyda baner Clwb Pêl-droed Chelsea wedi’i lapio amdano. Mae Sharon wedi llwyddo i newid y gyfraith gyda chymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Diolch i’w natur benderfynol, mae tair miliwn o gynhalwyr ym Mhrydain wedi cael amddiffyniad newydd yn erbyn achosion o wahaniaethu gan gyflogwyr afresymol.
Mae’n byrlymu wrth ddweud yr hanes wrtha i, ac yn chwerthin a chrio tra’n adrodd ei stori. Yn 2001, dechreuodd Sharon weithio fel ysgrifenyddes gyfreithiol i gwmni o gyfreithwyr yn Llundain. Roedd hi’n ymfalchïo yn ei gwaith – ac yn dweud ei bod hi'n gallu gweithio’n gyflym, yn effeithlon a byth yn torri corneli. Yn 2002, aeth ar absenoldeb mamolaeth i roi genedigaeth i’w mab Oliver. Ac yn sydyn roedd hi’n gorfod wynebu heriau newydd.
‘Ro’n i’n ofnus,’ meddai, gan edrych arna i wedi llwyr ymlâdd. ‘Ro’n i’n ofni bod yn fam am y tro cyntaf beth bynnag. Ac ro’n i’n gwybod pe byddai Oliver yn stopio anadlu am bedair munud, y byddai hynny’n achosi niwed i’r ymennydd. Pedair munud heb ocsigen.’ Mae’n ailadrodd hyn nifer o weithiau. ‘Pedair munud.’ Mae hyn wedi’i sodro yn ei meddwl fel mantra. Dywedodd ei bod wedi gorfod dychwelyd i’r gwaith. Pam? ‘Dwi ddim am fagu fy mhlentyn ar fudd-daliadau,’ meddai’n benderfynol. Cafodd hyd i gynhaliwr addas i Oliver ond dywedodd bod y cwmni wedi dechrau ymgyrch i gael gwared arni. Cafodd ei chais i weithio oriau hyblyg ac i weithio o gartref ei wrthod tra bod cydweithwyr gyda phlant iach wedi cael yr hawl i wneud hynny. ‘Ro’n i’n beichio crio ar ôl dod adre,’ meddai. ‘Ro’n i’n meddwl, “alla i ddim gadael, dwi ddim am ildio.”’
Yna mae’n mynd yn dawel, ac mae dagrau’n dod i’w llygaid. Mae’n dechrau eto: ‘Ro’n i’n meddwl, “plîs paid â bod yn sâl heddiw, Oliver, plîs,” ac yn meddwl ei bod hi’n well i fi fynd i’r gwaith a chael fy ngalw adre os oedd o’n sâl, na pheidio â mynd i’r gwaith o gwbl. Ro’n i’n meddwl, “Os ydi o’n marw gyda’r warchodwraig a mod i wedi mynd â fo yno gan wybod ei fod o’n sâl…” Ro’n i’n teimlo, “Dwi ddim digon da. Dwi ddim yn fam dda, dwi ddim yn weithiwr da, ydw i’n gallu gwneud unrhyw beth o gwbl?”’ Oeddech chi wir yn credu eich bod chi’n mynd i’w golli fo? Mae’n sychu ei dagrau a dweud, ‘Oeddwn. Ro’n i’n teimlo mod i’n dechrau tynnu nôl oddi wrtho fo rhag ofn iddo farw. ‘Ro’n i’n meddwl, “paid â’i garu fo ormod achos be sy’n mynd i ddigwydd ar ôl iddo fo farw?”’ Dywed ei bod hi ofn syrthio i gysgu a deffro i weld ei fod wedi marw. ‘Ro’n i’n meddwl, “Mi wnâi fynd â fo i’r ysbyty a chael nhw i ofalu amdano fo… os allan nhw ei gadw’n fyw, mi gymra i fo nôl.”
‘Dwi’n cofio rhywun yn dweud wrtha i, “O leiaf rwyt ti’n cael seibiant pan fyddi di’n y gwaith.” ‘Ac mae’n chwerthin, yn chwerw a hir, gan gofio’r diwrnod pan wnaeth un o uwch-weithwyr y cwmni sgrechian a rhegi arni ynglˆ yn ag Oliver a’i gyflwr. Yn y diwedd, penderfynodd adael trwy ddiswyddiad gwirfoddol. Roedd y cwmni am gael gwared ar staff, ac mae’n ochneidio gan ddweud, ‘Dwi’n gwybod mai fi oedd ganddyn nhw mewn golwg.’ Roedd hi’n teimlo nad oedd dau ddewis ganddi gan fod yr ysgrifenyddesau eraill i gyd yn dioddef oherwydd y tensiwn. ‘Roedd pawb dan straen,’ meddai. ‘Ro’n i’n teimlo mod i wedi cael fy mradychu achos roedd popeth yn iawn cyn i mi gael Oliver. Ond fe wnaethon nhw fy orfodi i adael.’ Roedd hi’n llanast llwyr pan adawodd y cwmni. Ond cafodd waith tempio yn syth, ac roedd ei phennaeth newydd yn wych. Soniodd am ei phrofiad wrth ffrind, a awgrymodd y dylai adrodd ei stori wrth gwmni cyfreithwyr. Roedd y cwmni yn amau achos posibl o wahaniaethu ac fe’i cynorthwyodd i
fynd â’r achos i dribiwnlys cyflogaeth. ‘Do’n i ddim am i neb arall gael ei drin yr un ffordd ag y cefais i,’ meddai. ‘Cyn i mi gael Oliver doedd na ddim problem o gwbl. Ond unwaith i mi gael Oliver, fe newidiodd popeth. Mae’n enghraifft gyffredin o’r ffordd y caiff pobl sydd â chyfrifoldebau gofalu eu trin. Ac roedd hynny’n fy ngwneud yn fwy penderfynol.’ Pan glywodd cyfreithwyr y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am yr achos, gwelwyd pa mor arwyddocaol ydoedd i gynhalwyr ledled Prydain. Byddai’r achos yn pennu hawl cynhalwyr i gael eu hamddiffyn rhag achosion o wahaniaethu gan gyflogwyr. Cynorthwyodd y Comisiwn Sharon i fynd â’r achos i Lys Cyfiawnder Ewrop. Dyfarnodd y Llys bod gan Sharon achos a bod y cwmni wedi ‘gwahaniaethu trwy gysylltiad’. Mewn geiriau eraill, trwy gael ei ‘chysylltu’ ag anabledd (ei mab), roedd hi wedi bod yn destun achos o wahaniaethu. Bydd nawr yn dychwelyd i’r tribiwnlys cyflogaeth ym Mhrydain.
Roedd Cyfarwyddwr Cyfreithiol y Comisiwn, John Wadham, wrth ei fodd gyda’r dyfarniad. ‘Mae Sharon wedi bod yn ddewr iawn yn mynd â’i hachos i Ewrop. Mae wedi helpu i greu hawliau newydd i filiynau o gynhalwyr ym Mhrydain, 60 y cant ohonyn nhw’n fenywod. Yn yr oes sydd ohoni, mae pobl yn gorfod cydbwyso cyfrifoldebau gofalu a gwaith yn gynyddol ac mae’n hollbwysig eu bod yn gallu gwneud hynny heb i gyflogwyr wahaniaethu yn eu herbyn neu eu gorfodi o’r gweithlu.’ Bydd raid i gyflogwyr roi ystyriaeth gyfartal i geisiadau am weithio oriau hyblyg gan gynhalwyr plant a phobl anabl o hyn allan. Ni fyddant yn gallu gwahaniaethu yn eu herbyn. Sut mae hi’n teimlo erbyn hyn? Mae hi’n sipian ei the eto ac yn edrych yn syn. ‘Rydych chi’n meddwl eich bod chi am fynd i rywle ond na fyddwch chi byth yn cyrraedd yno.’ Ac mae iechyd Oliver yn dda erbyn hyn er ei fod dal yn fregus. Wrth iddi ddweud hynny rydym yn ei wylio yn rhuthro heibio’r drws gan chwerthin, a’r faner yn dal amdano.
Cafodd Oliver ei eni’n fyddar ac roedd ganddo broblemau anadlu, gan gynnwys cyflwr meddygol prin o’r enw trawiadau apnoeig. Byddai’n stopio anadlu’n ddirybudd, hyd at 60 gwaith y diwrnod. A byddai Sharon yn gorfod ei ddadebru. Pan roedd yn dri mis oed, fe wnaeth Sharon a thad Oliver wahanu. Roedd yn rhaid iddi ymdopi ag Oliver a’r trawiadau ar ei phen ei hun.
‘ Mae tair miliwn o gynhalwyr ym Mhrydain wedi’u hamddiffyn yn awr yn erbyn achosion o wahaniaethu mewn cyflogaeth’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Sharon Coleman
Duncan Fisher Y Sefydliad Tadolaeth Stori Dau
‘ Tra bydd menywod yn bennaf yn gofalu am aelodau eraill o’r teulu, dynion yn bennaf fydd yn cyrraedd y brig’ Chwith: Duncan Fisher, un o sylfaenwyr y Sefydliad Tadolaeth
‘ Roedd 48 y cant o’r dynion a holwyd am dreulio mwy o amser gyda’u plant’
A
eth Duncan Fisher ati i sefydlu Sefydliad Tadolaeth gydag eraill yn dilyn genedigaeth ei ferched. ‘Roedd pawb yn rhagdybio’, meddai, ‘mai fy ngwraig fyddai’n gofalu am y plant a ’mod i am fyw fy mywyd arferol fel pe bai dim wedi digwydd.’ Mae’n swnio fel syniad o’r 1950au – mae e’n gweithio, mae hi’n gofalu, ac mae’r ddau’n sefyll dan enfys, yn gwenu. Ond doedd hynny ddim yn eu bodloni. A dweud y gwir, roedd yn eu gwylltio. ‘Roedden ni eisiau rhannu,’ meddai.
Cydweithredodd y Sefydliad Tadolaeth â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Mumsnet.com a Dad.info i lunio arolwg a fyddai’n archwilio sut mae rhieni’n sicrhau cydbwysedd ac a oes dewisiadau eraill. Mae’n gyfraniad pwysig i fenter Gweithio’n Well y Comisiwn – ymgynghoriad mawr sy’n archwilio y gall ffyrdd hyblyg o weithio helpu grwpiau fel rhieni, cynhalwyr, pobl anabl neu weithwyr hˆ yn. Creda’r Comisiwn mai sialens fawr yr 21ain Ganrif yw creu gweithleoedd ystwyth, modern sy’n gwneud y gorau o dalentau pawb. Dywedodd Duncan bod pedwar deg wyth y cant o’r dynion a ymatebodd i’r arolwg eisiau treulio mwy o amser gyda’u plant ond bod hynny’n amhosibl am fod cyfraith Prydain yn ‘anghywir – yn gwbl anghywir.’ Gofynnais iddo ym mha ffordd, a llifodd brawddegau rhwystredig diddiwedd o’i enau. Mae’n dechrau gyda’r ffordd rydym ni’n strwythuro gofal mamolaeth a thadolaeth. ‘Pan fo dau berson sy’n gweithio’n cael plentyn gyda’i gilydd,’ esboniodd, ‘mae’r fam yn cael naw mis o absenoldeb
mamolaeth â thâl, a dim ond pythefnos mae’r tad yn ei gael. Mae’r gyfraith yn gwthio gofal y plentyn ar y fam, a’r gwaith o ennill cyflog ar y tad, fel pe bai’n ddeddfwriaeth mewn comedi Ealing. Mae tri mis o absenoldeb rhiant ar gael i’r ddau hefyd, ond does neb yn ei gymryd am ei fod yn gyfnod heb dâl.’ ‘Mae oriau gwaith dynion yn cynyddu pan maen nhw’n dadau, nid lleihau,’ meddai, a dyma ffaith oedd yn fy synnu i gychwyn, ond wedyn sylweddolais ei fod yn gwneud synnwyr perffaith. ‘Felly mae mam yn aros adref. Ac yn sydyn mae gennych chi fam sydd â’r holl sgiliau angenrheidiol i ofalu am y plentyn ac mae gennych chi’r dyn sy’n gweithio drwy’r amser. Mae hynny’n gwahanu’r rheini.’ Yn ei farn ef, nid yw hynny’n dda i’r plant. ‘Mae bod yn rhan o fywyd y plentyn yn gynnar yn arwain at fod yn rhan o’i fywyd yn ddiweddarach,’ esboniodd. ‘Mae ’na gysylltiad rhwng yr amser mae’r tad yn ei dreulio gyda’i blant pan fyddan nhw’n fach a’r amser mae’n ei dreulio yn ddiweddarach gyda’i blant. Mae rhannu swyddogaethau’n cael effaith bositif ar nifer o deuluoedd.’ ‘Pam?’ gofynnais iddo. ‘Dwn i ddim. Ond nid oes modd i chi gael cydraddoldeb go iawn i fenywod heb fynd i’r afael â’r mater o ddynion a phlant. Nid oes modd i chi gael cydraddoldeb ar gyfer menywod yn nhermau cyflog a rhagolygon gyrfa os nad ewch chi i’r afael â’r agenda gofal. Tra bydd menywod yn bennaf yn gofalu am aelodau eraill o’r teulu, dynion yn bennaf fydd yn cyrraedd y brig. Proffwydais y byddai’r bwlch mewn cyflogau’n cynyddu dair blynedd yn ôl, ac ro’n i’n iawn.’ Un Flwyddyn, Deg Stori
Felly beth mae e’n ei gynnig? Ar hyn o bryd, meddai, mae’r llywodraeth yn ystyried rhoi tri mis ychwanegol o absenoldeb mamolaeth â thâl i fenywod, sy’n ymestyn eu lwfans i 12 mis. Mae Duncan am weld cyflog y tri mis ychwanegol yna yn cael ei neilltuo ar gyfer absenoldeb rhiant â thâl fel bod pob rhiant yn cael eu tri mis eu hunain. Mae hefyd eisiau gweld mwy o anogaeth – a llai o gosbi – ar gyfer rhieni sydd am weithio oriau hyblyg. ‘Rwy’n meddwl y bydd pobl yn hapusach,’ meddai. ‘Mae mwy o hyblygrwydd yn rhoi mwy o gyfle i rannu profiadau a mwy o amser gyda’r plant, a bydd hynny’n gwneud rhieni’n hapusach eu byd. Mae’n reddf gyffredinol. Mae gofalu am blant yn brofiad arbennig. Ond, pan gewch eich gorfodi i wneud hynny drwy’r amser, heb seibiant, neu bod yna broblem ac nad ydych yn derbyn cymorth mae’n gallu troi’n hunllef. Mae’n rhaid i ni roi’r gorau i siarad am ofalu am blant fel pe bai ni’n dioddef o’u herwydd, a meddwl amdanyn nhw fel cyfleoedd.’ Mae’n siarad mewn iaith gwrtais a glân fel gwleidydd yn awr, ond o dan yr wyneb mae’r gwirionedd erchyll yn llechu’n dawel – mae nifer o ddynion yn colli’r cyfle i ddod i adnabod eu plant. Mae nifer o fenywod yn cael eu rhwystro rhag cyflawni eu huchelgais gyrfaol. Nid yw plant yn adnabod eu tadau. Mae’n gylch o gamweithredu a beth yw’r gost am hynny – pwy a wyr? ˆ
Ond mae ein diwylliant gweithio a gofalu ni – mae’n gwrthod ei alw’n wahaniaethu yn erbyn dynion am y rheswm taw gwahaniaethu yn erbyn dynion, menywod a phlant ydyw yn ei farn ef – yn lledaenu i’n hiaith hyd yn oed. Dywedodd am erthygl ddiweddar mewn papur newydd oedd yn sôn am ddarganfod nerf newydd yn y corff dynol. Roedd un llinell, meddai, yn dweud, ‘mae’n ymddangos bod croen yn sensitif i fwythau a chofleidio y byddai mam yn eu rhoi i’w phlentyn.’ Anfonodd lythyr coeglyd at y golygydd, yn gofyn, ‘Ydy’r nerfau’n gwahaniaethu rhwng mamau a thadau?’ Mae’n cellwair wrth gwrs ond ro’n i’n synhwyro ei rwystredigaeth. Mae’n rhestru’r problemau y mae’n ceisio mynd i’r afael â nhw drwy gydweithio ag asiantaethau’r llywodraeth – nid yw llenyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar feichiogrwydd yn cyfeirio at y ddau riant yn gyfartal; mae yna adran ychwanegol ar gyfer tadau, fel pe bai’n ychwanegiad diweddarach, neu’n atodiad. Nid oes gan dadau babanod newydd-anedig oriau ymweld hyblyg mewn ysbytai ac nid oes gan famau hawl i gael eu partneriaid i aros gyda nhw dros nos. Pan gofrestrwyd ei wraig gyda’r ysbyty ar gyfer genedigaeth eu babi, ychwanegodd, dim ond un cwestiwn a ofynnwyd am y tad: sef, ‘Oes ganddo unrhyw abnormaledd genetig ar ei ochr ef o’r teulu?’
Duncan Fisher
Aeth yn ei flaen i ddweud bod mam â chyflwr iechyd meddwl yn medru hawlio cymorth gan y wladwriaeth; ond os oes cyflwr tebyg ar y tad, nid oes ganddo’r un hawliau. ‘Mae’n [cael ei ystyried yn] well nad yw ef yn gysylltiedig â’r babi,’ meddai Duncan. ‘Y rhagdybiaeth sylfaenol yw bod angen mam ar blant, ac eisin ar y gacen yw’r tad.’ Mae’n sôn am weithgor a fynychodd, ble’r oedd grw ˆp o dadau du ifanc o Hackney yn siarad ag uwch weision sifil am ofal plant. ‘Dywedodd un ohonyn nhw nad oedd disgwyl iddyn nhw fod yn gyfrifol, i fod yn rhan o fywyd eu plant. Dywedodd un arall ei bod hi’n rhy hawdd i ddynion ddatgysylltu’u hunain oddi wrth eu cyfrifoldebau. Mae fel petai’r drws ar agor. Gallwn ni gwyno amdanyn nhw a pha mor anghyfrifol ydyn nhw, ond fe ddaliwn ni’r drws ar agor a gadael iddyn nhw gerdded allan mor gyflym ag sy’n bosibl. Mae nifer o ddynion ifanc yn cael babanod achos maen nhw eisiau rhywbeth i’w garu, yn union fel mamau ifanc.’ Mae’n gofyn am gefnogaeth ar eu cyfer i ddod o hyd i swyddi a gwybodaeth am sut i ofalu am eu plant. ‘Mae’r dynion yn ymateb yn hynod i hyn – er enghraifft maen nhw’n talu mwy o arian tuag at gynnal eu plant yn ddiweddarach yn eu bywydau – ac mae’r dybiaeth na fyddan nhw’n gwneud hynny, yn fy marn i, yn agos at ragfarn’. Mae’n ochneidio.
Mae swyddogaeth tadau a’r berthynas â lles y teulu yn rhywbeth mae’r Comisiwn yn ymchwilio iddo fel rhan o brosiect Gweithio’n Well a fydd yn cyflwyno adroddiad yn 2009. ‘Swyddogaeth y fenyw yw gofalu am fabanod yn ein cymdeithas ni,’ meddai. ‘Mae hynny wedi’i strwythuro yn ein sefydliadau, yn ein hawliau’n y gwaith, ein gwasanaethau cyhoeddus, ac yn ein sgyrsiau. Ac mae hynny’n bell o’r gwirionedd, ideoleg yw’r cyfan, mae’r hyn sy’n bwysig i blant yn hollol wahanol.’ Gofynnais iddo am ei ferched, ond roedd yn gwrthod eu henwi. Nid yw am eu defnyddio yn ei ymgyrchoedd. Ond dywedodd, ‘mae gweddill fy mywyd yn canolbwyntio ar rywbeth arall yn awr, nes byddaf yn marw, mae’n rhaid iddo.’ Mae’n swnio’n hapus iawn am y peth.
Matt Kendal Clwb Chwaraeon Aston Stori Tri
‘ Rydyn ni’n defnyddio pêl-droed i chwalu’r rhwystrau. Mae’n rhaid cymysgu er mwyn byw’
Chwith: Peldroediwr ifanc o Glwb Chwaraeon Aston
M
ae Matt Kendall yn fy ngyrru i o gwmpas Aston yn Birmingham yn dangos parciau diffaith a stadau cyngor blêr i mi. Mae Matt yn gyn-hyfforddwr pêl-droed ac yn un o 19 Swyddog Hat-trick UEFA sy’n gweithio gyda chymunedau difreintiedig ym Mhrydain. ‘Mae Aston yn un o’r rhai mwyaf difreintiedig’ meddai, gan gyfeirio at safle truenus lle cafodd rhywun ei saethu’n ddiweddar.’ Dair blynedd yn ôl bu terfysgoedd mewn ardal gyfagos o’r enw Lozells. Dechreuodd y rhain yn sgil honiad na chafodd ei brofi bod criw o bobl ifanc Asiaidd wedi treisio merch AffroCaribïaidd 14 oed. Yn yr ardal hon o Birmingham ceir lefelau uchel o ddiweithdra, trosedd, trais gangiau ac anghydraddoldeb o ran darpariaeth gofal iechyd. Mae hefyd yn un o’r cymunedau lleiafrifoedd ethnig mwyaf ym Mhrydain, gyda nifer cynyddol ohonynt yn geiswyr lloches. Un noson oer ym mis Hydref 2005 ffrwydrodd y sefyllfa. Lladdwyd dau o bobl a cheisiwyd llofruddio pump arall. Fore trannoeth roedd pobl Birmingham yn gofyn – beth allwn ni ei wneud?
‘Mae yma grwpiau o bobl ifanc sy’n ffurfio gangiau gan nad oes dim byd gwell ganddyn nhw ei wneud’ meddai Matt yn dawel. Mae’n syllu dros yr olwyn lywio allan i’r stryd gan godi’i ysgwyddau. ‘Ond dyw hi ddim fel Beirut yma’ ychwanega. ‘Dyw hi ddim mor wael â hynny. Ond fy ngwaith i yw ceisio datrys y broblem, i wneud Aston yn lle gwell i fyw, i gael gwared ar ynnau a chyffuriau a drygioni.’ Sut? ‘Trwy chwaraeon. Rydyn ni’n defnyddio pêl-droed i chwalu’r rhwystrau. Mae’n rhaid cymysgu er mwyn byw. Rydyn ni’n ceisio difyrru plant nad oes ganddyn nhw ddiddordebau a rhoi cyfle iddyn nhw gymryd rhan mewn chwaraeon. Rydym am gynnig lle i fechgyn ymlacio mewn cyd-destun cymdeithasol.’ Comisiynodd Cyngor Birmingham adroddiad yn syth ar ôl y terfysgoedd. Un canfyddiad oedd bod diffyg cyfathrebu cadarnhaol rhwng y cymunedau du ac Asiaidd wedi cyfrannu at y trais. Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi darparu £10.9 miliwn o gyllid i sefydliadau llawr gwlad sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain fel rhan o’i raglen grantiau eleni. Rhoddwyd £18,000 i Matt sefydlu’r prosiect Madrassa Link, rhaglen allgymorth i annog bechgyn Mwslimaidd ifanc i chwarae pêl-droed, gyda’i gilydd yn gyntaf ac yna chyda phlant o gymunedau ethnig eraill.
Un Flwyddyn, Deg Stori
Awr yn ddiweddarach, rwyf yn swyddfa Matt ar lawr uchaf Aston House, sef plasty Jacobeaidd sy’n eiddo i Gyngor Birmingham. Mae tu allan yr adeilad yn frics brown gyda gargoiliau hyll; mae’n llawer mwy moel y tu mewn gydag elfennau o fyd chwaraeon – mae yna lawlyfr hyfforddi criced ar y silff, megaffon a llun o Paul Gascoigne yn crio. O’r ffenest rwy’n gweld cyfleusterau chwaraeon arbennig Clwb Chwaraeon Aston yn ymestyn ar hyd tir Aston House – mae’n cynnwys pafiliwn criced gwych, maes criced o’r radd flaenaf, a maes pêl-droed gwerth ei weld. Mae’r rhain yn wag am y tro ac yn dal i gael eu hadeiladu, ond mae Matt yn awyddus i’w llenwi. Gwelaf gysgod enfawr Clwb Pêl-droed Aston Villa i lawr y ffordd, ond nifer fach yn unig o’r bobl leol all fforddio mynd yno. Mae Matt yn wynebu sawl rhwystr. Nid yw pob rhiant lleol o reidrwydd yn awyddus i’w plant gymryd rhan mewn chwaraeon yn ôl Matt, sydd wrthi’n chwifio’r megaffon, at rieni lleol anweladwy mae’n debyg. Nid yw’n flaenoriaeth iddynt. Mae gwybodaeth yn broblem hefyd; mae o leiaf saith iaith yn cael eu siarad yn Aston ac mae’n anodd mynd i’r afael â’r rhwystrau ieithyddol er mwyn gwahodd y plant hyd yn oed. ‘Dyw pobl ifanc ddim yn teimlo’n gyfforddus y tu allan i’w cymunedau’ meddai.
Matt Kendal
Felly, pan sefydlodd Matt Glwb Chwaraeon Aston, ‘roedd yna lawer o grwpiau bach yn cystadlu i gynnal gemau pêl-droed ar raddfa fach’. Roedd yna grwpiau Kashmiraidd a grwpiau Bengalaidd a grwpiau gwyn, ond ymysg ei gilydd fydden nhw’n chwarae ac roedden nhw’n amharod i ddefnyddio Clwb Chwaraeon Aston. Roedden nhw’n chwarae ar y stryd ac mewn parciau. Yna, er mwyn esbonio y byddai cydchwarae’n well i bawb, mae’n cymharu’r sefyllfa â diod ysgafn. ‘Pam gwneud eich cola eich hunain pan allech chi fod yn rheolwr rhanbarthol Coca Cola?.’
‘Mae’r holl bethau yma ar gael’ meddai, gan gyfeirio at y cyfleusterau penigamp hyn ac esbonio bod y plant yn gwybod y gwahaniaeth rhwng ‘rhywun yn gosod cotiau fel pyst gôl a chael hyfforddiant go iawn. Ac maen nhw’n gwerthfawrogi hynny.’ Mae Altaf Kazi, cydgysylltydd y prosiect madrassa, yn cerdded i mewn gan wenu ac ymgrymu. Mae’n Fwslim 24 oed a gafodd ei gyflogi’n arbennig gan Matt i berswadio’r madrassas lleol – sef clybiau ar ôl ysgol i Fwslimiaid 5–14-oed – i gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n dweud bod y plant o’r madrassas yn ‘gwrando’n astud’ ac mai perswadio’u hathrawon i adael iddynt wneud chwaraeon oedd yr unig ffordd bosibl o sicrhau llwyddiant y cynllun. Heb gydweithrediad y madrassas, ni fyddai plant Mwslimaidd yno.
Felly dechreuodd Altaf siarad â’r madrassas. ‘Rwy’n dweud wrthyn nhw bod chwaraeon yn bwysig. Rwy’n dweud y gall chwaraeon gynnig ffordd i blant roi’r gorau i ymddwyn yn wrthgymdeithasol a gwneud pethau drwg. Mae mwy o chwaraeon yn golygu llai o ddyrnu, saethu a gwerthu cyffuriau ac yn gwneud i’r plant weithio’n galetach yn yr ysgol hefyd. Mae pêl-droed yn iaith gymunedol. Mae criced yn iaith gymunedol. A does dim diddordebau gan y plant hyn’ Mae Matt yn sefyll o dan y poster o Paul Gascoigne yn crio ac yn nodio, ‘ac mae’n gweithio’ meddai Altaf. Mae eisoes wedi trefnu twrnamaint madrassa lle bu 12 tîm yn cystadlu. ‘Efallai y bydd un o’r bechgyn yn mynd ymlaen i chwarae yn yr Uwch Gynghrair’ ychwanega. Mae madrassas o’r tu allan i Aston wedi dangos diddordeb. Mae’r gair ar led.
Mae Prosiect Menywod ar y gweill hefyd. A chan fod hwn yn cael ei gynnal trwy’r madrassas, mae menywod yn ymddiried ynddynt felly mae mwy o fenywod ifanc Mwslimaidd wedi dechrau dod i wneud chwaraeon yn Aston, rhywbeth na welwyd o’r blaen – maent yn chwarae pêl-rwyd a badminton ac yn ystyried gwersi hunanamddiffyn hyd yn oed. ‘Nhw sy’n penderfynu pa chwaraeon i’w wneud,’ meddai Matt. ‘Rydyn ni’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau llawer o bobl.’ Cynaliadwyedd yw’r nod yn ôl Matt. Pan ddaw prosiect Madrassa Link i ben mae’n gobeithio y bydd y madrassas yn trefnu’u timoedd eu hunain i chwarae yn erbyn timoedd o gymunedau lleiafrifoedd ethnig eraill. Mae am i bobl allu cynnal eu hunain; ar ôl i’r prosiect orffen mae am i’r plant barhau i gicio peli yn hytrach na’i gilydd. ‘Mae plant wrth eu bodd â phêl-droed’ meddai gan wenu. ‘Mae chwaraeon yn eu gwneud yn hapusach’.
‘ Dyrannwyd £10.9 miliwn o gyllid i sefydliadau sy’n hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol ledled Prydain’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Matt Kendal
Pragna Patel Southall Black Sisters Stori Pedwar
‘ Fe wnes i dyfu ym mhob ffordd, cefais hyder, dysgais beidio â derbyn pethau, cefais nerth ac roeddwn ni’n teimlo bod gen i bw ˆer’
Rhes gefn o’r chwith i’r dde: Pragna Patel, Meena Patel a Shakila Maan a’r rhes flaen o’r chwith i’r dde: Hannana Siddiqui a Neeta Chitteray, o’r Southall Black Sisters
M
ae Pragna Patel yn eistedd yn ei swyddfa’n hel atgofion am ei dyddiau ysgol ar ddiwedd y 1970au. ‘Roedden nhw’n dweud pethau fel, “Pam na ei di’n ôl i dy wlad dy hun? Ti’n bwyta bwyd od, ti’n gwisgo dillad od, ti’n siarad yn od.” Roedd hyn yn gwneud i mi deimlo fy mod i’n cael fy ngwrthod, doeddwn ni ddim yn gwybod i ble’r o’n i’n perthyn a doedd gen i ddim hyder. Doeddwn ni ddim yn deall pam fod pobl yn pigo arna i ac yn fy nhrin i’n wahanol.’ Daeth rhieni Pragna o Kenya a phan aeth hi i gael cyngor gyrfaoedd, dywedwyd wrthi am fynd i weithio ym maes awyr Heathrow fel stiward ar y ddaear. Ond doedd hi ddim am wneud hyn. Heddiw, Pragna yw Cadeirydd Southall Black Sisters (SBS), grw ˆp cymorth sy’n ymladd trais yn erbyn menywod yn y gymuned Ddu ac Asiaidd yng ngorllewin Llundain ac ar hyd y lled y wlad. Fe wnaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ymyrryd yn llwyddiannus yn eu hachos yn erbyn Cyngor Ealing yn gynharach eleni. Roedd dyfodol y sefydliad uchel ei barch hwn yn y fantol ar ôl i’r cyngor newid ei bolisïau ariannu. Dadleuodd y Comisiwn fod Cyngor
Ealing wedi camddehongli’r gyfraith sy’n caniatáu i wasanaethau trais domestig dargedu menywod sy’n anodd eu cyrraedd oherwydd rhwystrau fel iaith a diwylliant. Mae SBS yn brwydro yn erbyn yr hyn y mae Pragna’n ei alw yn “gyffordd rhwng hil a rhyw a dosbarthiadau cymdeithasol’. Dyma fan tywyll, yn llawn gwybodaeth gamarweiniol, distawrwydd a phoen. Mae SBS yn brwydro dros hawliau menywod sydd wedi’u cam-drin; yn eu cartrefi, yn y gwaith, yn y system fewnfudo, ar y stryd. Maent yn cynnig cyngor mewn sawl iaith, gwybodaeth, gwaith achos, eiriolaeth, gwasanaeth cwnsela a gwasanaethau hunangymorth. Maent yn gweithio’n ddiflino, ac mae gofyn iddynt fod felly. Mae Pragna’n cofio’r union ddiwrnod iddi gwrdd ag aelodau SBS. Roedd hi newydd adael y brifysgol, lle bu’n astudio cymdeithaseg, ac roedd hi’n ceisio osgoi’r briodas draddodiadol yr oedd ei rhieni am iddi ei chael. ‘Roedden nhw’n gwerthu eu cylchlythyr ar strydoedd Southall, yn eu dillad ffasiynol,’ meddai. ‘Y cyfan oedd yn mynd trwy fy meddwl i oedd, dwi ishe bod fel nhw. Dwi ddim am
eistedd yma’n llawn ofn ac yn casáu’r ffaith fy mod i’n fenyw ddu.’ Felly, ymunodd â’r sefydliad ac mae’n dweud, ‘Fe wnes i dyfu ym mhob ffordd. Cefais hyder a dysgais beidio â derbyn pethau, cefais nerth ac roeddwn ni’n teimlo bod gen i bw ˆer.’ Roedden nhw’n wahanol, meddai, i unrhyw fenywod yr oedd hi wedi dod ar eu traws o’r blaen. Roedd ei theulu yn draddodiadol gyda’r dyn yn unben dros bawb ond roedd aelodau SBS yn gynddeiriog am hyn. ‘Roedden nhw’n ceisio mynd i’r afael â hiliaeth a rhywiaeth yn y gymuned a thu hwnt,’ meddai. ‘Roedden nhw’n brwydro yn erbyn sawl peth gwahanol ar yr un pryd a wnaethon nhw ddim rhoi blaenoriaeth i un frwydr ar draul un arall.’ Felly, roedd materion menywod yn cael eu gwthio o’r neilltu yn ystod yr ymgyrchoedd gwrth-hiliaeth mawr? Mae’n cymryd saib. ‘Y gred oedd mai sicrhau cydraddoldeb i bobl ddu oedd y frwydr bwysicaf ac y gallen ni boeni am broblemau menywod ar ôl hynny.’ Mae’n ymddangos mai maes i ddynion oedd gwrth-hiliaeth.
‘Pan ymunais ag SBS, fe adawodd pawb’, meddai gan chwerthin. Ond fe arhosodd hi mewn swyddfa fach gyda chelfi di-raen a oedd wedi’u rhoi gan gefnogwyr a grant bach gan Gyngor Llundain Fwyaf. ‘Roedd canolfannau menywod ym mhob twll a chornel bryd hynny,’ meddai. ‘Roedd menywod du o’r farn, “rydyn ni angen rhywle i’n hunain i ffwrdd oddi wrth y bobl hiliol wyn ac i ffwrdd oddi wrth y dynion sy’n credu mai hiliaeth yw’r unig beth pwysig”. Ond doedd gennym ni ddim clem. Doedd gennym ni ddim syniad pa broblemau fyddai gan y menywod a fyddai’n troi atom ni. Yr unig beth roeddem yn ei wybod yn sicr oedd nad oedd eu hanghenion yn cael eu diwallu.’ Maent wedi cynnal sawl ymgyrch enwog: yr ymdrechion i ryddhau Kiranjit Ahluwalia a Zoora Shah, a oedd wedi’u carcharu am ladd y dynion a oedd wedi’u cam-drin; y gollfarn gyntaf i ddyn am drais priodasol yn y gymuned Asiaidd; yr achos cyntaf o ddirymu priodas wedi’i threfnu yng Nghymru a Lloegr. Mae lluniau’r buddugoliaethau’n frith ar waliau’r swyddfa; lluniau o fenywod yn sefyll o flaen yr Uchel Lys, wedi’u lapio mewn baneri, yn chwerthin, bloeddio a chofleidio’i gilydd. Ond mae mwy i’r gwaith na’r ymgyrchoedd cyfreithiol. Mae hi wrthi’n hwyr yn y nos yn rhuthro o gwmpas yn chwys domen yn ymbil am lety, bwyd a meddyginiaeth i fenywod a phlant sy’n ffoi o berthynas dreisgar, fesul achos, fesul dioddefwr.
Ei gelynion yn ei thyb hi yw natur ynysol cymunedau o fewnfudwyr nad ydynt yn cefnogi eu dioddefwyr oherwydd eu bod yn ofni hiliaeth o'r tu allan, me a llywodraeth sy’n brysur neu’n rhy ofnus i ymyrryd. Gofynnaf iddi am yr achos mwyaf brawychus iddi ddod ar ei draws. Mae’n dawel am eiliad a gallaf weld yn ei llygaid bod yna lawer gormod, pob un ohonynt yn arswydus. Yna mae’n dweud, yn bwyllog iawn ac yn arafach nag arfer, ‘Mae’r holl bethau creulon a brawychus na allwch chi eu dychmygu na’u dirnad sy’n digwydd i fenywod a phlant yn dal i godi arswyd arna’ i. Dwi’n cofio un fenyw feichiog yn cael ei chadw’n garcharor mewn fflat gydag estyll ar y ffenestri. Ni chafodd fwyd am y naw diwrnod cyntaf, heblaw am ambell siwgr lwmp. Mae rhai menywod yn cael eu cadw’n gaethweision yn y cartref. Y bwriad yw eu diraddio a’u bychanu. Mae’r manylion yn codi dychryn arna i. Ac i feddwl bod pawb yn poeni am ddiogelwch ar y stryd. Y cwestiwn mawr yw pa mor ddiogel yw’n cartrefi?’
Os yw menywod yn dod yma i briodi ac yna’n ffoi o berthynas dreisgar o fewn dwy flynedd, cânt eu halltudio – a hynny’n ôl i wlad lle y gwahaniaethir yn eu herbyn am eu bod yn fenywod yn y mwyafrif o achosion – neu fe fyddant yn anghenus oherwydd nad oes hawl ganddyn nhw gael budd-daliadau. ‘Felly hyd yn oed os gallan nhw ddianc rhag perthynas dreisgar,’ medd Pragna, ‘nid oes ganddynt unman i fynd a dim byd i’w cynnal.’ Mae Pragna o’r farn fod pethau eraill y dylen ni boeni amdanyn nhw: y syniad y dylai cyfraith Sharia gael ei chynnwys yng nghyfraith Prydain, ‘y twf mewn Islamaffobia; y twf mewn ffwndamentaliaeth; y ffordd y mae athrawiaeth amlddiwylliant yn anwybyddu anghenion menywod’. Wrth i mi adael, mae Pragna’n dangos poster ffeministaidd o India i mi. Y neges yw bod menyw’n disgleirio fel haul y bore, mae hi’n goleuo’r byd, yr haul a’r lleuad yw ei gemwaith. Mae hi’n weithgar, mae hi’n alluog, mae hi’n ymwybodol, mae hi’n ddewr, mae hi’n rhydd.
Pam mae’r achosion y mae Pragna’n eu gweld mor frawychus? Mae’n egluro, yn bwyllog iawn eto. Mae’n bosibl bod yn rhaid iddi ffrwyno’i theimladau rhag iddi wylltio’n lân. ‘Dyw’r cyfreithiau mewnfudo ddim yn helpu oherwydd mae’r bobl sy’n cam-drin y menywod yn gwybod nad oes dim y gallan nhw ei wneud yn ei gylch. Oherwydd na allan nhw ddianc, maen nhw’n wynebu math o drais sydd lawer mwy difrifol na gweddill y gymdeithas, a hynny’n llawer amlach. Mae’r sawl sy’n cam-drin y menywod yn gwybod nad oes unrhyw beth y gallan nhw ei wneud felly maen nhw’n ymddwyn yn fwyfwy creulon.’
‘ Roedd ymyrraeth y Comisiwn yn llwyddiannus gan sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau arbenigol’ Un Flwyddyn, Deg Stori
Pragna Patel
Jack Thomas Abertawe Stori Pump
‘ Roedden ni’n ymwybodol y gallai Jack gael dyfodol fel nofiwr rhyngwladol ond nad oedd modd iddo gystadlu’n y Gemau Paralympaidd, sef yr uchafbwynt rhyngwladol’
Chwith: Jack Thomas, athletwr anabl
M
ae Jack Thomas yn eistedd ar gadair freichiau yn ei lolfa mewn tyˆ yn Abertawe, yn gafael yn ei neidr anwes a phentwr o fedalau. Mae’i fam, Wendy, yn gwthio paned o de i’m dwylo ac yn dweud wrth ei mab 13 mlwydd oed am gadw’r neidr. Mae’n ufuddhau gan godi’i ysgwyddau, ac yna’n dychwelyd i chwarae â’r medalau. Mae stori Jack yn anghyffredin am dri rheswm. Mae’n un o’r nofwyr ifanc gorau ym Mhrydain, mae ganddo anabledd dysgu ac mae ei frwydr yn erbyn rhagfarn wedi rhoi wyneb dynol i un o frwydrau gwahaniaethu pwysicaf y flwyddyn. Dechreuodd y frwydr yn y flwyddyn 2000 yn Sydney pan dwyllodd tîm pêl-fasged Sbaen yn y Gemau Paralympaidd. Fe enillodd y tîm fedal aur ond cawsant eu diarddel am ddefnyddio 10 chwaraewr anghymwys gan hawlio fod ganddynt anabledd dysgu. Mae eu gweithredoedd wedi cael effaith ar y bachgen bach penfelyn hwn yn Abertawe. O ganlyniad i dwyll y tîm o Sbaen, gwaharddwyd pob athletwr ag anabledd dysgu rhag cymryd rhan yn uchafbwynt blwyddyn athletwyr anabl – y Gemau Paralympaidd. Dywedodd papur newydd The Guardian bod y sefyllfa’n ‘gywilyddus’ ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yn gweithio mewn partneriaeth â grwpiau eraill, i geisio gwyrdroi hyn.
Un Flwyddyn, Deg Stori
Jack Thomas
Esboniodd Wendy mai dwyflwydd oed oedd Jack pan gafodd ddiagnosis o anawsterau dysgu ac mae wedi derbyn addysg un-i-un yn ei ysgol brif ffrwd ers ei fod yn bum mlwydd oed. Roedd yn llawn egni pan oedd yn fachgen bach – ‘roedd e’n bownsio oddi ar y waliau,’ meddai ei fam – ac felly buodd hi a’i gw ˆr yn arbrofi gyda phob math o chwaraeon er mwyn ei helpu i losgi’r egni. Fe wnaethon nhw roi cynnig ar gerdded cyflym a seiclo. Yna, pan oedd Jack bron yn bedair mlwydd oed, rhoddwyd cynnig ar wersi nofio ddwywaith yr wythnos. ‘Roeddwn i’n arfer eistedd ar ymyl y pwll yn crio,’ meddai Jack, ‘Ro’n i ofn y dw ˆr.’ Ond sylweddolodd yn eithaf buan ei fod yn nofiwr da. Trefnodd ei rieni glwb nofio anabl yn Abertawe a Jack yw un o sêr y clwb erbyn hyn. Mae wedi torri pum record ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ym Mhrydain a fe yw’r person ieuengaf erioed i gynrychioli Prydain fel athletwr gydag anabledd dysgu. Gofynnais iddo ai ef oedd nofiwr gorau ei ysgol. ‘Ie,’ meddai. Mae’n hyfforddi ddwywaith y dydd ac yn nofio hyd at 20 milltir yr wythnos. Dywedodd ei fam ei fod weithiau’n crio wrth nofio. Mae hi’n gallu gweld o ymyl y pwll. ‘Rwy’n gofyn iddo – pam wyt ti’n crio?’ ‘Achos mae’n brifo,’ yw ei ateb. ‘Felly pam wyt ti’n dal i fynd?’ ‘Achos dwi eisiau bod yn gyflym’.
Dywedodd Wendy bod nofio wedi newid ei mab. Cyn iddo ddarganfod ei sgiliau yn y dw ˆr, ‘doedd o ddim yn hoffi bod yn wahanol. Roedd gen i fwrdd cegin yn fan’na ers talwm,’ meddai wrth bwyntio at ei chegin lân – ‘ac fe arferai fynd oddi tano a dweud ei fod o eisiau marw. Roedd o’n teimlo nad oedd ganddo reswm i deimlo’n dda amdano’i hun. Pan ddechreuodd ddatblygu fel nofiwr, dechreuodd ei hyder ddatblygu hefyd. Roedd yn sianel bositif ar gyfer ei egni ac roedd ganddo rywbeth y gallai fod yn falch ohono.’ Gofynnais am gael gweld ei fedalau. Mae’n sleifio’i ffwrdd ac yn dychwelyd gyda chymysgedd enfawr o fedalau aur ac arian sy’n crogi wrth rubanau. Mae’n edrych fel rhyw fath o anghenfil medalau estron.
Doedd Wendy ddim wedi sylweddoli arwyddocâd yr hyn a ddigwyddodd yn Sydney tan 2005. ‘Roedden ni’n ymwybodol y gallai Jack gael dyfodol fel nofiwr rhyngwladol ond nad oedd modd iddo gystadlu’n y Gemau Paralympaidd, sef yr uchafbwynt rhyngwladol,’ meddai hi. Roedd ymgyrch i gael athletwyr gydag anableddau dysgu i gystadlu ym Meijing 2008 ond ni chafodd y gwaharddiad ei godi. Mae hyn yn gwylltio Wendy; mae hi’n sipian ei the yn flin ac yn colli te ar y soser. ‘Mae un wlad yn twyllo, ac mae’r byd i gyd yn cael ei wahardd,’ meddai hi, ‘mae hynny mor annheg. Pam cosbi pawb? Mae ‘na fwy o bobl ag anabledd dysgu yn y byd nag unrhyw anabledd arall.’ ‘Mae’n wirion,’ cytunodd Jack, gan edrych i fyny arna’ i. ‘Gwirion. Dim ond yn y Gemau Paralympaidd y gallaf gyflawni fy mhotensial.’ Gwaharddwyd Jack rhag cystadlu yng nghystadlaethau’r ysgol hefyd sy’n efelychu’r Gemau Paralympaidd. Gan i bobl ag anableddau dysgu gael eu gwahardd rhag cystadlu’n y Gemau Paralympaidd, cawsant eu gwahardd yn awtomatig rhag cystadlu’n yr ysgol hefyd. ‘Gwirion,’ meddai Jack eto, gan rowlio’i lygaid. Yn dilyn bygythiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i weithredu’n gyfreithiol dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd, gwyrdrowyd y gwaharddiad hwn ac o ganlyniad, gall dros 300,000 o bobl
ifanc ag anabledd dysgu gymryd rhan yng Ngemau Ysgolion y DU. Er hynny, mae’r frwydr gyda Phwyllgor y Gemau Paralympaidd Rhyngwladol eto i’w hennill, ond mae disgwyl iddynt wneud cyhoeddiad ar y mater yn y dyfodol agos.
Bydd ganddo anfantais annheg. Bydd modd iddo gystadlu’n y Gemau Olympaidd Arbennig (sefydliad rhyngwladol a grëwyd i gynorthwyo pobl ag anableddau dysgu i ddatblygu hunanhyder, sgiliau cymdeithasol ac ymdeimlad o gyflawniad personol) ond ni fydd hynny’n bodloni ei uchelgais; y farn gyffredinol yn Abertawe yw na ddylai pobl ag anableddau dysgu gael eu cyfyngu i’r Gemau Olympaidd Arbennig yn unig; dylent gael cystadlu’n gystadleuol gydag athletwyr elitaidd eraill, fel pawb arall. ‘Bwriad y Gemau Olympaidd Arbennig yw eich bod yn gwneud eich gorau ac mae hynny’n wych,’ meddai Wendy. ‘Ond nid yw’r canlyniadau’n cyfrif dim cyn belled eich bod wedi gwneud eich gorau. Ac mae angen i’r sawl sydd ag anabledd dysgu sylweddoli eu bod nhw’n gallu bod yn rhan o chwaraeon cystadleuol – a llwyddo – ar lwyfan rhyngwladol.’
Mae croeso i Jack nofio mewn cystadlaethau ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl ond mae’n well gan Wendy ei weld yn cystadlu mewn digwyddiadau anabl. ‘Mae’n fwy addas ar gyfer ei anghenion, mae ‘na fwy o ddealltwriaeth, mae’r awyrgylch yn llawer brafiach,’ meddai. ‘Os ewch chi i ddigwyddiadau nofio anabl mae’r nofwyr yn annog ei gilydd ac am fod gan y cystadleuwyr amrywiaeth o anableddau maen nhw’n helpu’i gilydd.’ Dywedodd y byddai Jack yn cario coes ffug athletwr arall er enghraifft, tra bod athletwr ag anabledd corfforol yn medru esbonio rhywbeth i Jack nad oedd ef o bosibl yn ei ddeall. ‘Nid yw cystadleuaeth Wrth i mi godi o’m sedd, mae Jack yn dal prif ffrwd yn ystyried ei anabledd,’ meddai. ‘Dyw’r plant ddim mor gyfeillgar.’ i chwarae gyda’i fedalau. Mae’r neidr yn ôl yn ei thanc. Dywedodd Wendy bod Yn sgil anabledd dysgu Jack, mae’n ansicr y teulu wedi bod ar wyliau i Sbaen yn pa un ai a fydd modd iddo fod yn nofiwr ddiweddar ac roedd Jack yn gwrthod prif ffrwd o safon ryngwladol. ‘Mae’n mynd i’r môr. Roedd yn sefyll ar y traeth ymwneud â chydsymud,’ esboniodd Wendy. ‘Dyna un o’r problemau y byddai’n yn syllu. Pam, gofynnais? ‘Mi fyswn i wedi gwneud pe byddai yna gystadleuaeth,’ wynebu pe bai’n gwneud chwaraeon atebodd. prif ffrwd. Mae e’n gorfod amsugno gwybodaeth dechnegol i’w helpu i gael gwared â’r eiliadau bach olaf.’ Wrth iddo fynd yn hyˆn, meddai, bydd yr anabledd dysgu’n cael mwy o effaith arno.
‘ Gall dros 300,000 o bobl ifanc ag anabledd dysgu gymryd rhan yng Ngemau Ysgolion y DU’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Jack Thomas
Catrina McHugh Open Clasp Theatre Company Stori Chwech
‘ Sylweddolais bryd hynny fy mod am greu theatr sy’n sbarduno trafodaeth. Dwi’n ceisio gwneud i’r gynulleidfa ystyried a meddwl am eu credoau a’u barn eu hunain’
Chwith a throsodd: Open Clasp: Cwmni Theatr Open Clasp yn perfformio A Twist of Lemon
‘ Ariannwyd 285 o sefydliadau eleni trwy raglen grantiau’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol’
R
wy’n cwrdd â Catrina McHugh mewn theatr dywyll yn Newcastle ar set wag ei drama newydd, A Twist of Lemon. Mae hi ar fin dweud wrtha i beth yw holl bwynt drama. Mae’r ferch dal, dywyll yn edrych yn ddwys ac yn taflu ei gwallt yn ôl wrth ddatgan ‘Dwi’n meddwl mai pwrpas drama ydy siarad ar ran pobl sydd ddim yn cael cyfle i leisio eu barn yn onest yn aml’. Catrina yw Cyfarwyddwr Datblygu Cymunedol Artistig Open Clasp, cwmni theatr proffesiynol i fenywod yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, sef un o 285 o sefydliadau sy’n cael eu hariannu’n rhannol eleni gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol trwy’i raglen grantiau. Ei nod yw rhoi llais i fenywod a rhoi cyfle i’r gynulleidfa glywed y llais hwnnw. Gadawodd Catrina’r ysgol heb gymwysterau safon uwch, ond penderfynodd ddilyn cwrs theatr ym Mhrifysgol Northumbria pan oedd yn ei thridegau. Yn ystod y cwrs daeth yn gyfarwydd â gwaith Bertolt Brecht, sef dramodydd a oedd yn ystyried y theatr fel cyfrwng i sicrhau newid cymdeithasol. ‘Sylweddolais bryd hynny fy mod am greu theatr sy’n sbarduno trafodaeth,’ meddai. ‘Dwi’n ceisio
gwneud i’r gynulleidfa ystyried a meddwl am eu credoau a’u barn eu hunain. Dwi’n mynd i’r theatr yn aml ac yn meddwl, dydi hwn ddim yn siarad â mi, dydi o ddim yn adrodd storïau menywod.’ Felly, naw mlynedd yn ôl, aeth Catrina a phedair menyw arall ati i ymweld â menywod nad oedd yn cael eu cynrychioli yn eu barn nhw – mamau ifanc, menywod dosbarth gweithiol, menywod ag anhwylderau bwyta, lesbiaid a menywod sy’n cael eu cam-drin. Rhoddwyd man cychwyn i bob grw ˆp – enghraifft o hyn oedd menyw nad oedd am fod yn debyg i’w mam – ac ysgrifennodd Catrina ddrama wedi’i seilio’n gyfan gwbl ar beth ddywedodd y menywod am y pwnc hn. Enw’r ddrama oedd After Her Death a chafwyd ‘ymateb arbennig’ iddi. Dyma’r templed ar gyfer pob sioe Open Clasp o hyd. Mae Open Clasp yn treulio hyd at ddwy flynedd yn gweithio gyda grwpiau menywod er mwyn ymchwilio i bob prosiect (serch hynny mae’r actorion yn rhai proffesiynol) felly wrth i Catrina deipio’r sgript ar ei gliniadur, mae’n clywed lleisiau cyfarwydd cannoedd o fenywod yn ei phen, pob un ohonynt yn fenywod go iawn.
Un Flwyddyn, Deg Stori
Mae’n nodi’n ofalus nad therapyddion yw gweithwyr Open Clasp; mae popeth yn cael ei wneud drwy gyfrwng drama. Am y rheswm hwn, meddai ‘mewn sioe Open Clasp gall pawb yn y gynulleidfa uniaethu â rhywun ar y llwyfan – beth maen nhw’n ddweud, ble maen nhw, am beth maen nhw’n sôn, am beth maen nhw’n chwerthin, beth sy’n eu drysu, am beth maen nhw’n crio’. ‘Ni sy’n hwyluso’r broses,’ meddai. ‘Rydan ni’n defnyddio sawl dull i annog menywod i drafod a dadlau a dod i gasgliad gyda’i gilydd. Dim ond diwedd y broses honno yw’r sioe ei hun. Mae’n broses gylchol. Rydym yn mynd allan i’r gymuned i wneud y sioe ac yn ei throsglwyddo i’r gymuned ar ôl i ni orffen.’’ Ac er ei bod yn ceisio cynnwys elfen o gomedi mewn pob drama – cw ˆn bach, priodasau, gwyliau – mae’n trin yr elfennau mwyaf tywyll o fywydau menywod. Roedd Falling Knives and Runaround Wives yn ymwneud â pherthynas gamdriniol wrth baratoi at berfformiad band sy’n dynwared ABBA. Roedd Stand ‘N’ Tan yn mynd i’r afael â hiliaeth tuag at geiswyr lloches. Roedd Tonic yn sôn am salwch meddwl.
Mae ei phrosiect diweddaraf, A Twist of Lemon, yn sôn am gamdriniaeth emosiynol mewn perthynas lesbiaidd. Pam ddewisodd hi’n pwnc hwnnw? ‘Mi ddaeth o’r grw ˆp’ meddai. ‘Os na fyddai’r grw ˆp wedi ei greu, fyddwn i ddim wedi’i gynnwys.’ Mae’n dweud nad oedd y menywod hynny am gael eu trin yn wahanol am eu bod yn lesbiaid. Maen nhw am i’r ddrama ymdrin â’u profiadau go iawn. ‘Roedd rhai o’r menywod yn y grw ˆp wedi dioddef cam-drin domestig ac roedd rhai ohonynt wedi cam-drin eu partneriaid’ meddai. ‘Mae cam-drin emosiynol i’w gael ym mhob agwedd ar fywydau menywod. Mae i’w gael ym mhobman.’ Mae’n dweud ei bod yn sylweddoli sut mae rhoi llais i fenywod yn eu gweddnewid. Wrth wneud gwaith ymchwil ar gyfer Tonic mae’n dweud bod ‘un fenyw yn ei chael hi’n anodd iawn. Doedd di ddim yn gallu edrych i fyw llygaid neb.’ Gweithiodd Catrina gyda hi am ddeufis ac ar ddiwedd y broses, meddai ‘roeddwn i’n gallu gweld ei bod wedi cryfhau’n emosiynol, roedd hi’n actio ac yn gwneud penderfyniadau.’ Cyfaddefodd menyw arall ei bod hi’n teimlo fel lladd ei hun gydol y broses, a bod y ddrama wedi’i helpu i gael hyd i’w llais a chyfaddef hyn ac yna cael cymorth.
Catrina McHugh
Bu menyw arall yn trafod ei anhwylder obsesiynol cymhellol; fe wnaeth Catrina gynnwys hwn yn y ddrama, ac ar ôl i’r fenyw ei gweld fe aeth adref a gwneud llanast yn ei chegin er mwyn dangos ei bod am drechu’r anhwylder. Mae menywod eraill wedi dod â pherthynas gamdriniol i ben ar ôl gweithio gydag Open Clasp. ‘Gallwn fod yn gatalydd i’r menywod hyn newid eu bywydau’ meddai Catrina. Mae Catrina wedi newid hefyd. Wrth drafod cynhyrchu Stand ‘N’ Tan, y ddrama am hiliaeth tuag at fenywod sy’n ceisio lloches, mae’n dweud ‘doeddwn i ddim yn medru cadw’n dawel mwyach pan roedd pobl yn hiliol’ gan ei bod wedi gweithio gyda menywod o Iran yn y sefyllfa honno. ‘Doeddwn i ddim yn gallu eistedd ar y bws a goddef pobl hiliol mwyach. Byddwn i’n sefyll i fyny a dweud, “dydi hyn ddim yn iawn”’. Cafodd y ddrama ei chynhyrchu ar gyfer pobl wyn yn bennaf. Rydym yn mynd â’r gynulleidfa i’r pwynt lle maen nhw’n teimlo’n anghyfforddus ond dydyn ni ddim yn mynd yn rhy bell. Rydym am i’r gynulleidfa ddweud, “na, dydi hyn ddim yn iawn”. Rydym eisiau i’r gynulleidfa deimlo’n ddig.’
Yn ystod noson olaf y sioe, roedd dwy ferch yn y gynulleidfa yn sgwrsio, bron yn ymyrryd. ‘Bob tro roedd dwy fenyw yn cusanu ar y llwyfan byddai’n merched hyn yn dweud “mae hynna’n afiach, dwi isio chwydu, mae o mor afiach”. Ond erbyn y diwedd, ar ôl iddynt ddilyn stori’r cymeriadau roedden nhw’n cefnogi’r cymeriadau a oedd angen cymorth.’ Yna rwy’n gadael Catrina i chwilio am y gwirionedd trwy edrych ar eneidiau menywod. Wrth i mi agor y drws dyma hi’n troi ata i a dweud â gwên enfawr ‘fe allen ni ysgrifennu i Casualty. Ond beth fydden i’n ei gael o hynny?’
Ahsan Khan Dumfries Stori Saith
‘ Mae pobl yn dueddol o benodi pobl sydd yr un fath â nhw. Chi’n gwybod? Mae’n gylch dieflig’
Chwith: Ahsan Khan, a enillodd achos o wahaniaethu ar sail hil mewn proses recriwtio
‘ Mae achos Ahsan Khan yn un o dros 1000 o achosion y mae’r Comisiwn wedi bod yn rhan ohonyn nhw eleni, yn cefnogi unigolion i ymladd yn erbyn gwahaniaethu ac i geisio cael canlyniad teg’
Y
n 2005, gwnaeth Ahsan Khan gais am swydd pennaeth tai gyda Chyngor Angus yn yr Alban. Esboniodd yn ei acen Albanaidd ei fod yn gymwys ar gyfer y swydd a bod ganddo arbenigedd yn y maes. Efallai ei fod yn rhy gymwys hyd yn oed, ond roedd eisiau symud i Angus er mwyn bod yn agos at ei rieni oedrannus. Ychydig wythnosau’n ddiweddarach, derbyniodd lythyr gwrthod safonol. ‘Cefais fy synnu’n fawr’, meddai. ‘Dydych chi ddim yn gwneud cais am swydd heb feddwl fod gennych obaith o’i chael.’ A dyma ddechrau ymgyrch un dyn penderfynol i herio gweithred a oedd, yn ei farn ef, yn achos annerbyniol o wahaniaethu. Gyda chefnogaeth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a gredai fod ganddo achos cryf, aeth â Chyngor Angus i dribiwnlys cyflogaeth llwyddiannus am wahaniaethu ar sail hil. I gychwyn, penderfynodd ofyn pam na ddewiswyd ef ar gyfer cyfweliad. ’Roeddwn i eisiau gwybod beth oedd y broblem,’ meddai. ‘Roedd hi’n bosibl fod ganddynt resymau dilys.’ Aeth yn ei flaen, ‘Doeddwn i ddim am ddechrau cwestiynu fy hun na fy ngallu fy hun. Doeddwn i ddim wedi cwestiynu hynny ers blynyddoedd. Ac roeddwn i wedi cyrraedd pwynt yn fy ngyrfa lle nad oedd rhaid i mi boeni am y canlyniadau [o weithredu].’
Dywedodd y Cyngor wrth Ahsan bod safon y ceisiadau ar gyfer y swydd yn eithriadol o uchel. Felly, fe wnaethon nhw benderfynu newid manyleb y person i gynnwys profiad diweddar yn llywodraeth leol yr Alban. ‘Gwnaeth hynny i mi feddwl wedyn,’ meddai Ahsan. ‘Mae unrhyw ganllawiau arfer da yn dweud bod hynny’n annerbyniol. Dydych chi ddim yn gwneud peth felly.’ Roedd ganddo brofiad yn llywodraeth leol yr Alban beth bynnag, ychwanegodd. Edrychodd Ahsan ar bolisi cydraddoldeb y cyngor a meddyliodd fod y cyngor wedi’i dorri o bosibl. Felly ysgrifennodd at y Cyngor yn gwrtais yn cynnig darparu mwy o wybodaeth am ei gais. Cafodd ei anwybyddu. ‘Derbyniais ateb yn dweud bod y cyngor wedi ymchwilio i’r broses, wedi siarad gyda’r panel a luniodd y rhestr fer a bod dim angen gweithredu ymhellach,’ meddai. Sut oedd o’n teimlo am yr ymateb? ‘Yn flin,’ oedd ei ateb yn syml.
Parhaodd i ymchwilio. Cyflwynodd gais Rhyddid Gwybodaeth i’r cyngor, er mwyn cael mwy o wybodaeth am y broses o lunio rhestr fer. A wnaeth y panel gymryd nodiadau? A wnaethon nhw gyfnewid e-byst? Beth yn union ddigwyddodd yn ystod y broses o lunio rhestr fer? Pam fod dyn mor gymwys wedi cael ei eithrio yn y camau cynnar? Bu tawelwch hir, ac yna derbyniodd ymateb arall. Ni wnaed dim nodiadau annibynnol yn ystod y broses o lunio rhestr fer. Ni anfonwyd dim e-byst. Penderfynodd bod y broses yn ddiffygiol. Mae’n credu na chynigiwyd cyfweliad iddo er mwyn ei atal rhag creu argraff ar y panel cyfweld.
Mae Ahsan yn Brydeiniwr o darddiad Bangladeshaidd. Ydy hynny wedi cyfrannu at y penderfyniad yn ei farn ef? Mae’n oedi, ac yna’n ateb yn ofalus, fel pe bai wedi diflasu clywed y cwestiwn. Fel pe bai’n ei flino’n llwyr. ‘Mae pobl yn dueddol o benodi pobl yr un fath â nhw’u hunain,’ meddai. ‘Mae’n gylch dieflig.’ Ar ôl y datguddiad Rhyddid Gwybodaeth, ysgrifennodd Ashan at y cyngor. ‘Roeddwn i eisiau ymddiheuriad,’ meddai. ‘Roeddwn i eisiau rhywbeth.’ Dywedodd y cyngor nad oedd yn fodlon trafod y mater ymhellach. Dyna ddiwedd y mater.
Felly aeth Ahsan at y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol, sy’n rhan o’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol erbyn hyn. Fe wnaethon nhw ei gynghori i lunio holiadur gwahaniaethu i’r cyngor, sef y cam cyntaf cyn mynd ag ef i dribiwnlys cyflogaeth am wahaniaethu ar sail rhyw. ‘Roedd hi’n broses flinedig ac roedd gen i gywilydd,’ dywedodd Ahsan. ‘Roedd rhaid i mi erfyn ar bobl i roi tystiolaeth a rhoi o’u hamser a’u hegni i’m cefnogi a siarad ar fy rhan.’ Roedd yn boenus, ond fe weithiodd. Penderfynodd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod gan Ahsan achos cryf ac y bydden nhw’n ei ariannu; ni fyddai wedi medru talu ei hun fel arall. Mae achos Ahsan Khan yn un o dros 1000 o achosion y mae’r Comisiwn wedi bod yn rhan ohonyn nhw eleni, yn cefnogi unigolion i ymladd yn erbyn gwahaniaethu ac i geisio cael canlyniad teg. Ond fe wnaethon nhw ei rybuddio y gallai’r achos niweidio’i yrfa, hyd yn oed pe bai’n ennill. ‘Dywedodd pobl y byddai parhau â’r achos yn lladd fy ngyrfa,’ meddai. ‘Ac y buaswn i’n cael fy ystyried fel person sy’n creu trafferth.’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Ahsan Khan
Yng ngwanwyn 2008, aeth i dribiwnlys cyflogaeth ac ar ôl rhoi tystiolaeth am nifer o ddyddiau dros gyfnod o chwe mis, penderfynodd y tribiwnlys fod y cyngor wedi gwahaniaethu’n anuniongyrchol trwy newid y broses o lunio rhestr fer. Enillodd Ahsan £26,000 o iawndal. Dywedodd Lynn Welsh, Pennaeth Ymgyfreitha Strategol yr Alban y Comisiwn: ‘Dyma ganlyniad gwych ar gyfer Mr Khan a ddioddefodd achos o wahaniaethu oherwydd ei hil. Roedd Mr Khan yn ymgeisydd cryf a ddylai fod wedi cael cyfle i fynd trwy’r holl broses gyfweld.’ Ymatebodd Cyngor Angus i’r dyfarniad drwy ddweud ei fod yn ymdrechu i fod yn gyflogwr cyfle cyfartal a’i fod yn gwadu unrhyw awgrym o wahaniaethu ar sail hil. Mae Ahsan yn anghytuno. ‘Dylai’r cyngor fod wedi cyfaddef yn syth, ac ymddiheuro.’ Mae’n gwenu am y tro cyntaf. ‘Roedd yn ddyfarniad gwych. Cefais gyfiawnhad llwyr.’
Dakota Blue Richards gwersyll haf Our Space Stori Wyth
‘ Mae ’na gymaint o bwysau i fod beth mae pobl yn ei alw’n berffaith. Rwy’n methu â deall hynny gan y byddai’r byd yn od pe byddai pawb yn edrych yr un fath. Amrywiaeth pobl sy’n gwneud y byd yn lle mor ddifyr’
Chwith: Dakota Blue Richards, actores a oedd yn rhan o wersyll haf Our Space
M
ae Dakota Blue Richards yn actores dalentog a oedd yn 12 oed pan chwaraeodd ran Lyra Belacqua mewn addasiad ffilm o The Golden Compass gan Philip Pullman. Roeddwn i’n disgwyl cyfarfod merch fach walltgoch ddisglair ond roed Dakota yn ferch ifanc denau â gwallt tywyll, yn chwarae gyda’i bodiau’n nerfus ac yn dweud wrtha i fod yn gas ganddi wahaniaethu. Mae’n esbonio ei bod wedi treulio amser yn Ardal y Llynnoedd gydag 86 o bobl ifanc 14 i 15 oed eraill yn ystod yr haf eleni yn cymryd rhan mewn gwersyll haf Our Space cyntaf y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Bwriad y gwersyll oedd dod â phobl o gefndiroedd gwahanol ynghyd, eu hannog i siarad amdanynt eu hunain a’u hunaniaeth a gweld sut mae cydraddoldeb a hawliau dynol yn effeithio ar eu bywydau. Cawsant gyfle i ymarfer eu sgiliau arwain a datblygu hyder, mynd mewn caiac, gwersylla a chyfeiriannu. Y gobaith yw y byddant yn lledaenu’r neges i’w ffrindiau a’u cymunedau ar ôl mynd adref, yn llysgenhadon yn trosglwyddo’r neges y dylai pawb ddisgwyl a mynnu cael eu trin yn deg a chyfartal. Bydd y Comisiwn yn datblygu prosiect Our Space ymhellach y flwyddyn nesaf fel rhan o’i strategaeth ehangach i gysylltu â phobl ifanc.
Roedd Dakota yn awyddus i fynd i Our Space gan fod y prosiect yn cyd-fynd â’r ffordd y cafodd ei magu. ‘Ges i fy magu i gredu na ddylech farnu pobl am y ffordd maen nhw’n edrych neu eu cefndir a bod hawl ganddyn nhw wneud rhywbeth gwahanol, fel dilyn crefydd wahanol neu fod yn hoyw, cyn belled nad yw hynny’n brifo pobl eraill.’ Mae’n siarad yn araf a difrifol; ond weithiau bydd yn gwenu a chwerthin. ‘Roedd mam bob amser yn dweud wrtha i “waeth beth sy’n digwydd rwyt ti’n lwcus i gael cymaint o bethau da yn dy fywyd a ddylet ti ddim cymryd pethau’n ganiataol, fel addysg dda, cartref, bwyd neu ddw ˆr glân” meddai. ‘Rwy’n meddwl weithiau nad yw pobl yn gwerthfawrogi beth sydd ganddyn nhw.’ Yna mae’n dweud rhywbeth rhyfeddol. Ar ôl iddi liwio’i gwallt yn goch i chwarae rhan Lyra Belacqua, cafodd ei phrofocio yn yr ysgol. Mae’n sôn am y ffordd y mae pobl yn ymateb i wahaniaethau. ‘Mae pobl yn yr ysgol yn galw enwau ar bobl eraill oherwydd lliw eu gwallt, lliw eu croen, neu eu cenedligrwydd’ meddai. ‘Byddai’r bwlis yn galw enwau arna i ac ro’n i’n ei chael hi’n anodd derbyn eu bod yn ceisio brifo rhywun oherwydd eu bod yn edrych ychydig yn wahanol. Mae yna gymaint o bwysau i fod beth mae pobl yn ei alw’n berffaith. Rwy’n methu â deall hynny gan y byddai’r byd yn od pe byddai pawb yn edrych yr un fath. Amrywiaeth pobl sy’n gwneud y byd yn lle mor ddifyr.’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Roedd yna ddau fath o bobl yn Our Space, meddai: ‘y bobl â rhywfaint o ddiddordeb mewn hawliau dynol a chydraddoldeb a phobl a oedd yn meddwl eu bod yn cael gwyliau am ddim.’ Roedd Our Space yn cynnwys cymysgedd o weithgareddau corfforol a meddyliol ac mae’n gwenu wrth adrodd stori arswyd am raff a bin, a gorfod symud y bin gan ddefnyddio darn o’r rhaff. ‘Roedd hyn yn ein dysgu ni am arwain a gweithio fel grw ˆp’ meddai, ‘roedd yn gwneud i ni feddwl am bawb yn y grw ˆp ac i wrando ar bawb a gadael i bawb ddweud eu dweud. ‘Efallai nad yw’r unigolyn yn arweinydd y grw ˆp ac nad yw’n nabod unrhyw un arall yn y grw ˆp ond efallai bod syniad da ganddo a doedd dim ots pwy ydoedd.’ Erbyn diwedd yr wythnos, roedd rhagfarn pobl yn diflannu. (Ac roeddent wedi symud y biniau.) Cafodd un gweithgaredd argraff fawr arni. Rhoddwyd rhestr o weithredoedd gwahaniaethol ar gardiau i’r bobl ifanc a gofynnwyd iddynt eu rhoi mewn trefn o ran pa mor ddifrifol oeddynt. Roeddynt yn amrywio o brofocio rhywun am fod â gwallt coch i ymosodiad hiliol corfforol. ‘Roedd pobl yn edrych ar eu cardiau ac yn dweud “o na, dyma’r math o beth byddwn i’n ei wneud, profocio rhywun am gael gwallt coch neu wisgo sbectol”’ Roedd yn gwneud iddynt feddwl am eu hymddygiad.
Mae’n credu mai diffyg meddwl yn bennaf yn hytrach na chasineb sy’n achosi gwahaniaethu ymhlith pobl ifanc. Ond mae’r ffordd y mae pobl ifanc yn defnyddio’r gair ‘gay’ i olygu ‘unrhyw beth sydd ddim yn cw ˆl yn ei phoeni’n fawr’. ‘Sa i’n deall pam fo pobl yn defnyddio’r gair hwnnw gan nad yw llawer o bobl sy’n ei ddefnyddio yn ei olygu yn y ffordd honno. Felly pam defnyddio gair sy’n sarhaus i bobl?’. Dywed ei bod wedi mynnu nad yw ei ffrindiau’n defnyddio’r gair, ac os ydyn nhw ei ddefnyddio mae hi’n gwrthod ymateb iddynt. ‘Yn aml dyw pobl ddim yn deall pryd maen nhw’n gwahaniaethu. Dydyn nhw ddim yn deall eu bod yn pechu pobl eraill. Ac os ydych chi’n teimlo’n ansicr, yn anhyderus, gall y sylw lleiaf effeithio arnoch chi. Does dim angen hyn.’ Dywed fod yr wythnos ‘wedi gwneud i mi feddwl y dylem geisio dysgu pobl eraill i beidio â gwneud pethau sarhaus.’
‘Rwy’n ceisio dylanwadu ar fy ffrindiau ac os ydyn nhw’n dweud rhywbeth sy’n wahaniaethol rwy’n esbonio hynny iddyn nhw. Dywedodd fy ffrind rywbeth difeddwl am bobl ddigartref yn ddiweddar a cheisiais gael y ffrind hwnnw i ddychmygu sut brofiad oedd bod yn ddigartref. Mae’n fater o geisio gwneud iddyn nhw ystyried pethau o safbwynt rhywun arall’ meddai. Mae’n ychwanegu bod Our Space wedi’i hysbrydoli. ‘Fe ddysgais y dylwn i geisio gwneud rhywbeth i herio gwahaniaethu yn fy nghymuned.’ Ac wrth chwarae gyda’i bodiau mae’n dweud wrtha i ‘mae gan fy mam a fi hoff ddywediad. Sa i’n siw ˆr pwy ddywedodd hyn, ond y dywediad yw “Peidiwch byth â meddwl na all ychydig o unigolion penderfynol newid y byd gan mai nhw sydd wastad wedi gwneud hynny.”’
‘ Bydd y Comisiwn yn datblygu prosiect Our Space ymhellach y flwyddyn nesaf fel rhan o’i strategaeth ehangach i gysylltu â phobl ifanc’
Dakota Blue Richards
Ysgol Gynradd Coryton Croeso Stori Naw
‘ Roeddem am wneud i’r bwli edrych yn wannach na’r unigolyn sy’n cael ei fwlio, gan fod y bobl sy’n cael eu bwlio’n ddigon cryf i fod yn wahanol’
Chwith: Kate Bennett o’r Comisiwn, canol, gyda disgyblion Ysgol Gynradd Coryton
Dros y dudalen, o’r chwith i’r dde: Imogen Buckley, Ben Davies, Cameron Hunter, Mathew Johnson a Sam Willson, enillwyr ein cystadleuaeth Croeso
‘ Derbyniwyd dros 1000 o geisiadau o bob cwr o Gymru ar gyfer ein cystadleuaeth animeiddio Croeso’
Y
n ystod yr hydref eleni bydd cartw ˆn 30 eiliad yn cael ei ddangos mewn sinemâu ledled Cymru a de orllewin Lloegr. Enw’r cartw ˆn yw Your Choice ac mae’n sôn am fwli ar iard chwarae sy’n sarhau pawb o’i gwmpas – am unrhyw reswm – am fod yn anabl, am hanu o wlad dramor neu am beidio bod yn ffasiynol. ‘Lliw anghywir’ meddai’r bwli’n wawdlyd. ‘Gwlad anghywir. Maint anghywir. Corff anghywir. Label anghywir. Esgidiau anghywir.’
Rwy’n eistedd yn ystafell athrawon Ysgol Gynradd Coryton gyda Hanne Reid a drefnodd gais Coryton, a’r Pennaeth Hillary Bassett. Mae ganddynt yr agwedd ddigyffro honno sydd gan athrawon profiadol sy’n gallu ymdopi ag unrhyw beth; maen nhw wrthi’n yfed coffi a bwyta teisen gartref. Y tu allan, mae 180 o blant o 17 cenedl wahanol sy’n siarad 17 iaith wahanol – yn chwarae’n fyrlymus ar yr iard. Yn rhyfedd iawn, mae yna naws gerddorol i’w sgrechfeydd.
Mae’r darn dadleuol hwn yn greulon ond gwych, ond nid hysbysebwyr o fri yn y cyfryngau a feddyliodd amdano. Pump o blant 11 oed o Ysgol Gynradd Coryton ger Caerdydd feddyliodd am y syniad fel rhan o brosiect ‘Croeso’ y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n ceisio mynd i’r afael â gwahaniaethu yng Nghymru. Enillodd y ffilm ryfeddol hon wobr mewn cystadleuaeth lle’r oedd ‘safon y cystadlu’n eithriadol o dda’, yn ôl Kate Bennett, Cyfarwyddwr Cymru’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Cafodd ei ysgrifennu gan y plant hefyd.
Wrth siarad â Hanne a Hillary, rwy’n dod i ddeall pam enillodd plant 11 oed Coryton gystadleuaeth a oedd ar agor i bobl hyd at 26 oed. Mae plant yr ysgol fywiog hon yn deall a thrafod gwahaniaethau mewn ffordd hynod o aeddfed, gan fod Hillary a’i thîm yn ystyried bod dysgu’r plant i barchu gwahaniaethau yr un mor hanfodol i ddatblygiad y plant â dysgu darllen. Bob blwyddyn, maen nhw’n cynnal wythnos gwrth-fwlio. ‘Mae’r grwpiau’n ymdrin ag agwedd wahanol ar wrth-fwlio bob blwyddyn’ meddai Hanne. ‘Gallai fod yn ddrama, gwaith celf neu gyflwyniad PowerPoint – unrhyw beth gweledol a fydd yn cyfleu’r neges’. Y llynedd, fe wnaeth un o’r grwpiau o blant hy ˆn ddrama am fwlio a datrys bwlio’n llwyddiannus. Ddiwedd yr wythnos mae’r dosbarthiadau’n cyflwyno’u gwaith i weddill yr ysgol mewn gwasanaeth.
Un Flwyddyn, Deg Stori
Cynhelir wythnos amlddiwylliannol bob blwyddyn hefyd, lle mae’r plant yn cael profiad o fwydydd, ieithoedd ac arferion y grwpiau ethnig gwahanol. Yn ystod yr wythnos hon mae Hillary yn gwahodd y rhieni i’r ysgol i sôn wrth y plant am eu diwylliannau nhw. Gall y disgyblion fwyta cyri wrth glywed hanes mam o India neu dorri platiau wrth edrych ar luniau o briodas tad o wlad Groeg. ‘Felly,’ mae Hillary yn esbonio, ‘mae’r plant yn deall rhagfarn a pharch yn dda iawn. Mae profiad helaeth ganddynt o drafod syniadau haniaethol ac eithaf cymhleth.’ Mae pob dosbarth hefyd yn cynnal sesiwn ‘amser cylch’ wythnosol, lle mae’r athrawon a’r plant yn trafod materion amrywiol. ‘Mae’n bosibl trafod pob math o faterion sensitif yn y cylch’ meddai Hillary, ‘gan gynnwys bwlio a pharchu eraill. Mae hyn yn eu dysgu i gymryd eu tro mewn trafodaethau ac i wrando ar farn pobl eraill. Mae pawb yn cael cyfle i siarad. Rydym yn trafod hyn gyda’r plant drwy’r amser. Mae’r plant ieuengaf yn defnyddio tedi bêr i’w helpu i siarad yn gyhoeddus’ ychwanega. ‘Dim ond y plentyn sy’n dal y tedi bêr sydd â’r hawl i siarad’ meddai. Mae gan yr ysgol system ‘bydi’ hefyd sy’n paru plant iau â phlant hyˆn.
Meddai Hillary ‘mae pob plentyn yn yr ysgol yn gwybod enwau’r gweddill. Mae’n lle da i wneud ffilm yngly ˆn â rhagfarn.’ Bu pob plentyn yn cystadlu’n unigol i gychwyn. Ymwelodd arbenigwyr o brosiect Croeso â’r ysgol a dangos i’r plant sut i wneud byrddau stori cartwnau a gosod y testun yn gywir. Roedd y syniad yn apelio at Hanne a phenderfynodd ofyn i bump o’r plant hy ˆn i gyflwyno gwaith grw ˆp. Dywedodd Hanne ei bod wedi dewis y plant hynny ar sail eu sgiliau a’u hagweddau gwahanol at fywyd. Er enghraifft, roedd rhai ohonynt wedi cael eu bwlio, tra bod eraill yn mwynhau chwaraeon, darllen neu fod yn greadigol. Dewisodd Imogen Buckley, Cameron Hunter, Ben Davies, Sam Willson a Mathew Johnson. Dyma dîm dyfal o ymladdwyr gwrth-wahaniaethu; pum plentyn penderfynol sy’n herio rhagfarn.
Mewn cyfres o gyfarfodydd penderfynodd pum plentyn ‘diddorol ac ystyriol’ Hanne ganolbwyntio ar fwlio. ‘Fe wnaethom drafod y mathau gwahanol o ragfarn a cheisio cysylltu’r rhain â chyddestun yr ysgol’ meddai Hanne. ‘Roedden nhw eisoes yn gwybod am ddiwylliannau gwahanol, roedden nhw’n gwybod am anabledd a gordewdra a phobl nad ydynt yn llwyddo mewn rhai pethau. Yna fe wnaethon ni waith ymchwil i fwlio er mwyn cael deall pam fo plant yn cael eu bwlio. Fe wnaethon ni holi plant eraill yr ysgol a sylweddoli bod bwlio fel arfer yn digwydd pan fo rhywun yn wahanol. Roeddem am gyfleu’r neges ei bod hi’n cw ˆl i fod yn wahanol. Roeddem am wneud i’r bwli edrych yn wannach na’r unigolyn sy’n cael ei fwlio, gan fod y bobl sy’n cael eu bwlio’n ddigon cryf i fod yn wahanol.’ Roeddent am gynnwys plant o bob oed, ‘gan eu bod yn gwybod bod oedolion a’r henoed hefyd yn cael eu bwlio’ eglura Hanne. Y thema yn y pendraw oedd ffasiwn gan fod hwn yn destun lliwgar, modern, diddorol ac uniongyrchol. Ysgrifennwyd y testun a chrëwyd byrddau stori i esbonio’r ffilm ac yna fe anfonwyd y prosiect. Eu llinell glo yw ‘Gyda’n gilydd neu ar ben eich hun – chi piau’r dewis’. Roedd hi’n llinell ragorol, ac enillodd y prosiect.
Ysgol Gynradd Coryton
Aeth y plant i’r stiwdio ym Mae Caerdydd ddwywaith, i weld Sam Tân yn cael ei gynhyrchu ac i drafod syniadau gyda’r arbenigwyr o gwmni animeiddio Calon a fyddai’n troi’u syniad yn ffilm safonol, a gweld y ffilm yn cael ei chynhyrchu. Dewiswyd eu syniad gan fod y neges mor syml ac yn cynnwys sawl agwedd ar gydraddoldeb ac amrywiaeth. Dywedodd Hanne fod y plant ‘wrth eu bodd’ ar ôl cael deall – wrth gael eu ffilmio’n fyw ar raglen newyddion ITV – eu bod wedi ennill gan guro dros 1000 o brosiectau. Cwmni Calon wnaeth y ffilm gan ddilyn cynllun y plant. Aethant i’r diwrnod lansio mewn sinema yng Nghaerdydd, a fynychwyd gan weinidog addysg Cymru ac enwogion lleol. Mae Hillary yn dangos y wobr i mi. Model bach pren o fwli dienw ydyw, bwli sy’n cael ei guro gan gryfder y plant. Mae ganddo wyneb mawr cas a breichiau a choesau tenau. Mae Hillary yn pasio’r wobr o un llaw i’r llall gan ddweud ‘cawsom arolygiad eleni a dywedwyd bod parch y plant tuag at ei gilydd yn eithriadol. ‘Erbyn iddyn nhw adael yr ysgol bydd y plant yn gallu siarad yn wybodus am wahanol ddiwylliannau a derbyn gwahaniaethau mewn bywyd. Daw’r llwyddiant arbennig hwn o’n gwaith gyda nhw yn eu blynyddoedd cynnar.’
Rachel Boyd Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Stori Deg
‘ Mae gweithio yma wedi fy nysgu y gallwch wneud gwelliannau gwirioneddol a gweithio tuag at gymdeithas gyfartal lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu’
Chwith: Rachel Boyd, un o weithwyr llinell gymorth y Comisiwn yn yr Alban
R
achel Boyd atebodd yr alwad gyntaf i linell cymorth y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn yr Alban. ‘Menyw anabl oedd ar y ffôn yn gofyn am fynediad gwell i’w gweithle,’ meddai. Fel un o’r tri gweithredwr sy’n gweithio ar linell cymorth yr Alban, Rachel yw’r pwynt cyswllt cyntaf rhwng y Comisiwn a’r bobl mae’n eu gwasanaethu. ‘Mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â gwrando ar bobl’, meddai, ‘a gwneud iddynt deimlo bod rhywun yn eu cydnabod’. Mae Rachel yn eistedd mewn swyddfa fechan gyda ffenestr fawr yn edrych dros strydoedd Glasgow. Ar ôl astudio Cysylltiadau Rhyngwladol yn y brifysgol a chyfres o swyddi ‘diwerth’ yn ei barn hi, ymgeisiodd Rachel am swydd gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. ‘Mae hawliau dynol a chydraddoldeb yn bwysig i mi,’ meddai. ‘Rwy’n dod o gefndir gwleidyddol iawn. Mae fy rhieni yn weithgar yn wleidyddol. Roedd fy nain yn Iddewes oedd wedi ffoi o Awstria ac roedd fy nain a thaid arall yn dod o bentref cloddio yn yr Alban. Felly cefais fy magu yn gwybod nad yw pobl yn cael eu trin yn gyfartal, a bod rhai pobl yn wynebu brwydr barhaus.’
Swydd Rachel yw canfod beth mae pobl ei eisiau, beth yw eu hawliau a pha gymorth sydd ar gael iddynt. Mae’r llinell gymorth, sydd wedi cael dros 75,000 o alwadau yn ei flwyddyn gyntaf, yn ganolog i’r gwaith mae’r Comisiwn yn ceisio ei gyflawni; hyrwyddo tegwch i bawb ym Mhrydain a diogelu pobl rhag gwahaniaethu. Mae llawer o’i gwaith yn ymwneud ag egluro i bobl beth yw eu hawliau; mae cyflogwyr yn galw i wneud yn siw ˆr eu bod yn gwybod beth yw’r gyfraith a’u bod yn ei gweithredu’n gywir. Mae gan bobl lawer i’w ddysgu am y maes hwn. ‘Efallai y bydd y bobl sy’n ffonio wedi cael y cyfan yn hollol anghywir ond o leiaf byddwn yn egluro’r cyfan iddyn nhw,’ meddai. Mae hi hefyd yn ystyried y bobl nad ydynt yn ffonio – y cymunedau sipsiwn a theithwyr, er enghraifft – ac yn ystyried beth maen nhw ei eisiau a sut i’w helpu. Mae hi’n galw rhain yn ‘gymunedau cudd’ ac yn dweud ei bod yn gobeithio y byddant yn dod i ganfod beth yw eu hawliau dynol. Un o swyddi’r Comisiwn yw cyrraedd y bobl ‘gudd’ hyn. Mae’r galwadau ffôn yn cael eu rhannu i ddau faes i gychwyn – cyflogaeth a gwasanaethau mewn mannau fel siopau, bwytai, ysgolion ac ysbytai. Mae’r galwadau hefyd yn cwmpasu pob math o wahaniaethu. Mae hi’n eu cyfri ar ei bysedd – gwahaniaethu ar sail hil, rhyw,
anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, bod yn drawsryweddol, crefydd a chred, ac oedran. Mae’n egluro eu bod yn gorgyffwrdd yn aml. Gall pobl ddioddef gwahaniaethu ar sail rhyw, hil ac oedran er enghraifft. Mae’r ymholiadau yn amrywio o bethau syml iawn y gellir eu datrys yn hawdd i bethau cymhleth sy’n gallu newid y gyfraith. Mae’n arbennig o hoff o’r ‘achosion diddorol’, ond bod y rhai symlach yn haws i’w datrys’. ‘Yn aml, dim ond dweud “Ewch i siarad â chynrychiolydd eich undeb” sydd angen’, meddai. Mae hi’n falch o ddweud ei bod yn cael ei synnu weithiau fod y ddeddfwriaeth gwrthwahaniaethu yn gweithio; ar amseroedd eraill, mae hi’n teimlo ei bod yn byw mewn rhaglen gomedi o’r 1970au. Mae gwahaniaethu ar sail rhyw yn enghraifft anffodus, meddai. ‘Mae llawer o fenywod yn dychwelyd o absenoldeb mamolaeth i ganfod bod eu swyddi wedi diflannu,’ meddai. ‘Ffoniodd un fenyw oedd wedi gweithio’n galed, wedi ysgwyddo cyfrifoldebau, wedi ennill ymddiriedaeth ei chydweithwyr, yna wedi beichiogi a dod yn ôl i’r gwaith i ganfod ei bod wedi cael ei symud i swydd is. Nid oedd unrhyw un yn fodlon egluro beth oedd yn digwydd.’ Ac mae hyn, meddai Rachel, yn digwydd 30 mlynedd wedi i’r ddeddfwriaeth gael ei phennu yn y llyfrau statud.
Mae hi’n gwybod ei bod yn byw mewn cymdeithas sy’n datblygu. Mae hi hefyd yn derbyn galwadau am gyflog anghyfartal, pobl sydd eisiau gweithio oriau hyblyg – dywed fod cymaint o ddynion yn galw am hyn â menywod – ac am amharodrwydd rhai clybiau golff i dderbyn menywod, sy’n fwy cyffredin nag a feddyliech chi. ‘Ond does yna ddim byd y gallwn ni ei wneud am hynny eto,’ meddai. ‘Nid yw’r gyfraith rhyw yn cwmpasu clybiau aelodau preifat, ond mi fydd maes o law.’
Un maes sydd o ddiddordeb arbennig iddi yw gwahaniaethu yn erbyn plant. Anfonodd tîm seneddol y Comisiwn gofnodion ati o ddadl a gafwyd yn Senedd yr Alban. ‘Cododd rhywbeth lle’r oedd pobl yn dweud eu bod wedi syrffedu ar blant’, meddai. ‘Mae hynny’n enghraifft amlwg o wahaniaethu.’ Hoffwn weld llawer mwy o bobl ifanc yn defnyddio ein gwasanaeth a chael gwybod am eu hawliau. Rwy’n credu bod yna ansicrwydd am bobl ifanc. Rwy’n credu eu bod wedi arfer cael eu trin yn wael.’
Yn aml, mae unigolion yn cysylltu â’r llinell gymorth am anabledd. Nid yw llawer o bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl yn gwybod eu hawliau, meddai. ‘Mae pobl yn aml yn meddwl am anableddau corfforol pan fyddwch chi’n sôn am anabledd. Nid yw llawer o bobl sy’n cael eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth yn ystyried eu hunain fel pobl anabl. Rydym yn ceisio egluro bod pobl yn anabl drwy beidio â chael mynediad i’r gymdeithas. Maen nhw’n anabl am nad oes mecanweithiau cymorth cywir ar gael iddynt ac nad oes ganddynt gyflogwyr sy’n deall a chydymdeimlo.’
Rwy’n gofyn iddi beth mae hi’n ei feddwl ac mae hi’n cyffroi. Dywedodd ei bod wedi gweithio â phobl ifanc yn Nottingham flynyddoedd yn ôl. ‘Roedden nhw’n byw mewn ardal dlawd, ddifreintiedig iawn ac roeddwn i yn gweithio mewn ysgol gyda phobl oedd â llawer o botensial ond nad oedd yn cyflawni’r potensial hwnnw oherwydd eu bod yn mynychu ysgolion oedd yn methu. Rwy’n teimlo’n amddiffynnol iawn o bobl ifanc. Mae pethau’n digwydd sydd y tu hwnt i reolaeth pobl ac mae angen eu hamddiffyn. Os ydych chi’n am sôn am bobl yn cymryd rhan arwyddocaol a phobl yn magu hyder, yna mae’n rhaid cynorthwyo plant a phobl ifanc.’
‘ Dros 75,000 o alwadau i’n llinell gymorth yn ein blwyddyn gyntaf’
Un Flwyddyn, Deg Stori
Rachel Boyd
Mae hi’n dweud wrthyf am straeon eraill ynglyˆn â’r galwadau mae hi wedi’u derbyn – fel y gweithwyr Pwylaidd mewn bwyty nad oedd yn cael siarad eu hiaith eu hunain yn y gwaith. Tybed a yw hi’n cael ei brifo gan yr hyn mae hi’n ei glywed ar y ffôn ac rwy’n gofyn iddi am hynny. Mae hi’n ymateb yn araf. ‘I ddechrau roeddwn yn canfod hynny’n eithaf anodd,’ meddai. ‘Rydym yn cael tipyn o bobl sy’n ddigalon am bethau sydd wedi digwydd iddyn nhw. Rwy’n credu y dylwn i fod wedi gwneud mwy, dweud rhywbeth yn well, dweud y peth perffaith. ‘Ond wrth i amser fynd heibio rwyf wedi sylweddoli ei bod hi’n bwysig iawn fod gan bobl rhywle i droi ato.’ Ac mae gweithio i’r Comisiwn wedi’i newid, meddai. ‘Mae’n bwysig iawn i mi weld fod yna bobl ymrwymedig, brwdfrydig yn gweithio i sicrhau cydraddoldeb, sy’n credu fod pobl yn haeddu cael hawliau ac na ddylent gael eu trin yn wael. ‘Mae’n ymwneud â gofyn i bobl ystyried eu hunain ac i siarad, bod yn agored. Mae’n ymwneud â chymryd rhan. Mae gweithio yma wedi dysgu i mi fod pethau’n newid a’ch bod yn gallu gorfodi’r newidiadau hynny a llywio rhai eraill. Gallwch wneud gwelliannau gwirioneddol a gweithio tuag at gymdeithas gyfartal lle mae amrywiaeth yn cael ei ddathlu.’
Cysylltu â ni Gallwch gael mwy o wybodaeth neu gysylltu â ni drwy ein gwefan yn: www.equalityhumanrights.com neu drwy ffonio un o’r rhifau llinellau cymorth isod. Os ydych am y cyhoeddiad hwn mewn fformat a/neu iaith arall, cysylltwch â’r llinell gymorth berthnasol i drafod eich anghenion. Mae’r holl gyhoeddiadau ar gael i’w lawrlwytho neu eu harchebu mewn amrywiaeth o fformatiau ar ein gwefan. Llinell gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – Cymru Ffôn: 08456 048 810 Ffôn testun: 08456 048 820 Ffacs: 08456 048 830 9am–5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio Dydd Mercher 9am–8pm Llinell gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – Lloegr Ffôn: 08456 046 610 Ffôn testun: 08456 046 620 Ffacs: 08456 046 630 9am–5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio Dydd Mercher 9am–8pm Llinell gymorth Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol – Yr Alban Ffôn: 08456 045 510 Ffôn testun: 08456 045 520 Ffacs: 08456 045 530 9am–5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener, ac eithrio Dydd Mercher 9am–8pm
ISBN: 978-1-84206-083-4