hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:34 PM
Page 1
DIWEDDARIAD CYNHADLEDD I FUDD-DDEILIAID HCC
Hydref 2004
HCC – Gwneud y Gwahaniaeth
PGI: Ein Nod Nodedig AUR I
GWAITH CWRS
Gigyddion t.8
SAM TÂN –
CORNEL YR AREITHWYR
Fe Yw’n Dyn Ni! t.3
Adroddiad am Gynhadledd y Gwanwyn t.7
t.5
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:34 PM
PGI yn Rhoi Mantais i Gymru gan Rees Roberts, Cadeirydd HCC
Croeso i Fwletin Hydref HCC, sy’n anelu at roi’r diweddaraf i chi a’n budd-ddeiliaid eraill am weithgareddau HCC ar eich rhan gartref a thramor. Mae ein diwydiant wedi ennill mantais farchnata bwysig trwy gael statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) i Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru – ac mae HCC wedi bod yn hyrwyddo hyn yn gryf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae statws PGI yn atal ffugio, yn symbyliad i gynhyrchwyr, yn hwb ychwanegol i allforwyr ac yn rhoi sicrwydd i brynwyr – ac mae hyn i gyd yn helpu i roi mantais gystadleuol i gig coch yng Nghymru. Mae gwaith HCC gyda PGI, ynghyd â’n hamrediad eang o weithgareddau eraill i gefnogi cadwyn gyflenwi cig coch Cymru yn cael sylw yn y tudalennau a ganlyn. Gobeithiaf y bydd hyn o ddiddordeb i chi.
Dyma’r Tîm:
Page 2
SIAL yn Cymeradwyo Cig PGI Cymru
Mae Cig Oen Cymru a PGI yn cyd-fynd yn berffaith! Mae’r statws PGI newydd i gig coch Cymru wedi ennill llu o ffrindiau ledled y cyfandir eleni – gan gynnwys un o brif cadwyni archfarchnad yr Eidal. Llofnodwyd y cytundeb sy’n ymwneud â deugain o siopau archfarchnad yn ystod sioe fasnach SIAL a gynhaliwyd dros bum niwrnod ym Mharis pan ddaeth prif allforwyr Cymru a phrynwyr Ewrop at ei gilydd. Yno, cafodd HCC gymorth gan un o Weinidogion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Carwyn Jones (a welir yn y llun uchod gyda Stewart Pope, Rheolwr Marchnata HCC). Bu Cadeirydd HCC, Rees Roberts, yn
GWYN HOWELLS, Prif Weithredwr HCC
PRYS MORGAN, Datblygu’r Diwydiant, HCC
Bwletin HCC 2
sôn wrth brynwyr am lwyddiant PGI. “Erbyn hyn mae gan gynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru sydd â brand PGI sicrwydd yr UE o ran tarddiad, ansawdd ac olrheinedd,” meddai. “Gallwch fod yn gwbl hyderus y byddwch, wrth brynu cynhyrchion Cig Oen Cymru neu Gig Eidion Cymru â statws PGI, yn cael sicrwydd ynghylch eu tarddiad, ansawdd ac olrheinedd. “Ac, wrth gwrs, ynghylch blas o’r radd flaenaf.” Cyhoeddwyd gan: Hybu Cig Cymru/Meat Promotion Wales Blwch SP 176, Aberystwyth. SY23 2YA e-bost: enquiries@hccmpw.org.uk gwefan: www.hccmpw.org.uk Ffôn: 01970 625050
STEWART POPE, Marchnata HCC
BRYAN REGAN, Cyllid a Gweinyddiaeth HCC
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:34 PM
Page 3
GWERSI FFRENGIG Bu ffermwyr o Gymru ar daith ymchwil dridiau i Ffrainc, gan ymweld â fferm ac archfarchnad. Nod y deugain ffermwr oedd deall cystadleuwyr yn Ewrop ac anghenion y farchnad yno yn well. Yn ogystal, buont yn cynrychioli cynhyrchwyr HCC am ddiwrnod ar stondin yn sioe SIAL ym Mharis. “Roedd HCC yn falch o allu darparu ariannu cyfatebol ar gyfer y daith ymchwil hon. Llwyddodd y grˆ wp i ddysgu mwy am ofynion Ewrop yn ystod eu hymweliad,” meddai Prys Morgan, Rheolwr HCC ar gyfer Datblygu’r Diwydiant.
Sali a Sam yn Difyrru’r Plant Bu’r ffefrynnau teledu Sali Mali a Sam Tân yn ymweld â digwyddiadau Diwrnod Plant cyntaf HCC yn Sioe Amaethyddol Cymru wrth i’r sioe ddathlu ei chanmlwyddiant. Bu’r cymeriadu, sy’n ymddangos ar raglenni S4C, yn dosbarthu anrhegion am ddim i’r plant a fu’n ymweld â’r stondin, er mwyn iddynt ddysgu am fanteision bwyta’n iach. Am y tro cyntaf mewn unrhyw sioe, roedd HCC wedi trefnu gemau rhyngweithiol dwyieithog er mwyn rhoi cyfle i blant ddarganfod ffeithiau am fwyd a chael awgrymiadau ynglˆyn â’u hiechyd.
Bwletin HCC 3
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:34 PM
Page 4
l y Hw Yn Y SIOE FAWR Sioe Frenhinol Cymru yw Ffefryn Pawb o Hyd Mae pawb wrth ei fodd yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru ac roedd gan HCC ran flaenllaw yn y parti canmlwyddiant. Y Sioe yw uchafbwynt y flwyddyn amaethyddol, a golygodd broffil uchel ac wythnos brysur i staff a buddddeiliaid HCC. Carwyn Jones, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad oedd y siaradwr gwadd yn y brecwast ar stondin HCC. Roedd modd i’r ymwelwyr gael gwybod am yr ystod eang o waith i gefnogi’r diwydiant a wnaed ar eu rhan dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd cyfle hefyd i gwmnïau o Gymru gyfarfod â phrynwyr. Ymhlith yr atyniadau roedd arddangosiadau coginio gan brifgogyddion blaenllaw (ar y dde eithaf). Roedd Cadeirydd HCC Rees Roberts (a welir ar y dde) yn un o’r llu o bobl a gafodd flas ar y bwyd danteithiol.
Ymwelwyr â’r Sioe yn heidio i stondin HCC ac yn gwrando ar y Gweinidog Carwyn Jones (ar y dde)
Y Ffordd Ymlaen! Gall y bydd prosiect diweddaraf HCC, sef defnyddio technegau bysbrintio genetig DNA, roi mantais hollbwysig i ffermwyr Cymru. Cafodd arbrawf newydd gan HCC ynghylch olrheinedd teuluol ei lansio ar dair fferm ym mis Tachwedd i weld a ellir defnyddio’r cynllun sy’n seiliedig ar brofion gwaed i gefnogi statws PGI cynhyrchion cig coch Cymru. Mae Cyril Lewis (yn y canol ar y dde), o CAMDA yn helpu i arbrofi cynllun Catapult Shepherd Seland Newydd. Bydd yr arbrofion yn para tan fis Ebrill 2005, pan wneir asesiad llawn o ymarferoldeb y cynllun.
Bwletin HCC 4
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:34 PM
Page 5
Ar Lwybr Dethol Ymarfer gwerth chweil a all arbed arian ac sy’n golygu ychydig oriau’n unig o amser y ffermwr – dyna oedd barn tîm o arweinwyr y diwydiant am gyrsiau Hybu Cig Cymru ar sut i ddewis w ˆ yn wedi pesgi. “Mae’n naturiol i bob ffermwr feddwl taw fe yw’r beirniad gorau o’i anifeiliaid ei hun,” meddai Llywydd NFU Cymru, Peredur Hughes, “ond rwy wedi bod yn barnu w ˆ yn trwy gydol f’oes ac yn sicr rwy wedi dysgu pethau newydd yma heddiw.” Roedd Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Alan Gardner, yn cytuno. “Dyna pam mae mor bwysig i ddenu ffermwyr i’r diwrnodau arbennig hyn – fel y gallan nhw weld pa mor dda ydyn nhw mewn gwirionedd wrth farnu eu hanifeiliaid. “Rhaid i ffermwyr fireinio’u sgiliau. Ar ôl diwygio’r PAC bydd ennill punnoedd ychwanegol o bob carcas yn hollbwysig.” Mae 30 o gyrsiau teirawr mewn lladd-dai ledled Cymru yn ymwneud âr pynciau a ganlyn:
Ymunodd Alan Gardner, Is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru; Peredur Hughes, Llywydd NFU Cymru; Louise Owen, Cynrychiolydd Ffermwyr Ifanc Cymru; Graham Shortland, Rheolwr Gyfarwyddwr Hamer Er mwyn archebu cwrs mewn lladd-dy International; a Gerwyn Davies, Hwylusydd Cyswllt Ffermio, ag eraill yng nghwrs HCC, “Dewis ar gyfer lleol, ffoniwch Dewi Hughes, HCC, ar Lladd” yn lladd-dy Hamer International yn Llanidloes. 01970 625050.
Grid EUROP Canran y Pwysau ar ôl Lladd Nodweddion y bridiau Galw’r defnyddiwr ar hyn o bryd Anghenion y lladd-dy Gofynion Hylendid – fferm a lladd-dy
“Mae’r cyrsiau Cyswllt Ffermio hyn yn ceisio codi ymwybyddiaeth o ofynion y defnyddiwr a’r farchnad trwy gynnig profiad ymarferol o ddewis w ˆyn byw,” meddai Swyddog Trosglwyddo Technoleg
Ar Y Bocs Mae HCC yn dweud wrth filiynau o wylwyr teledu ledled Cymru a Lloegr fod Cig Oen Cymru’n “Berffeithrwydd ar Blât”. Ymddangosodd hysbyseb newydd HCC ar gyfer Cig Oen Cymru ar y teledu yn ystod mis Tachwedd. Mae slogan yr hysbyseb – “Perffeithrwydd ar Blât” – i’w gweld ar ôl lluniau o ddarn o gig oen Cymru’n cael ei goginio’n ofalus a’i weini i gyfeiliant llais yr actor Philip Madoc. “Rydym wedi creu hysbyseb sy’n apelio at bobl sy’n mwynhau eu bwyd – gan atgynhyrchu nodweddion unigryw cig oen,” meddai Rheolwr Marchnata HCC, Stewart Pope. “Dangosodd ein hymchwil ymhlith defnyddwyr fod cyfle i ddatblygu cynulleidfa dylanwadol ABC 1 yng Nghymru a Lloegr.”
Bwletin HCC 5
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:35 PM
Page 6
Manteision y Diwrnodau Arddangos Ychwanegwch sgiliau newydd at arferion gorau er mwyn bod ar y blaen – dyna’r neges y tu ôl i Raglen Ffermydd Arddangos Cyswllt Ffermio HCC. Mae wyth o ffermydd gweithredol, sy’n eiddo i ffermwyr masnachol ac sy’n cael eu rheoli ganddynt, yn cael cefnogaeth technegol ac arbenigol gan HCC. Mae diwrnodau agored rheolaidd a chyfarfodydd datblygu busnesau sy’n cael eu rhedeg gan ffermwyr yn golygu bod amrediad eang o gynhyrchwyr brwdfrydig yn dysgu sut i gyfuno technegau traddodiadol â’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ffermydd arddangos yn dangos ffyrdd o wella perfformiad masnachol ar y fferm. Mae tîm o ymgynghorwyr arbenigol yn gweithio’n agos â phob un o’r ffermydd arddangos er mwyn cynghori a monitro perfformiad a chyflwyno’r canlyniadau mewn cylchlythyrau ar wefan HCC – www.hccmpw.org.uk
Brian Bown, uchod, o Fferm Tre Wyn, Ynys Môn, un o ffermydd arddangos HCC. Julie Jones, chwith, yn rhoi’r newyddion diweddaraf am waith HCC i’r ffermwyr.
Gwneud Sioe o Gynhyrchion Bydd HCC yn arddangos cynhyrchion gorau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru â balchder wrth ymweld â gwahanol ddigwyddiadau yn y DG ac Ewrop. “Rydym wrth ein bodd yn dangos y goreuon o blith cynhyrchion ein diwydiant lle bynnag y byddwn yn mynd – un ai Llanfair-ym-Muallt neu Barcelona,” meddai Prif Weithredwr HCC, Gwyn Howells. “Mae cwpwrdd arddangos yn llawn o olwython, toriadau a phecynnau amrywiol gyda’n brand neilltuol, yn chwifio baner Cymru o ddifrif – ac mae wastad yn denu llawer iawn o sylw,” meddai.
Bwletin HCC 6
Llwyddiant CAMDA Fe gododd prisiau hyrddod i’n agos i bedair gwaith yr hyn oeddent yn 2003 yn Arwerthiant Hyrddod CAMDA ym mis Hydref, gan gyfnerthu’r cysylltiad rhwng rhaglenni bridio wedi’u cefnogi gan HCC a phrisiau uwch. Roedd y pris cyfartalog ar gyfer yr hyrddod yn £1257, mewn cymhariaeth â £317 y llynedd.
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:35 PM
Page 7
Achub y Blaen Siaradwyr yng Nghynhadledd y Gwanwyn yn edrych tua’r Dyfodol Arweiniodd Lars Hoelgaard, Cyfarwyddwr Cynhyrchion Da Byw, Cyfarwyddiaeth Gyffredinol Amaethyddiaeth yn y Comisiwn Ewropeaidd, dîm o siaradwyr blaenllaw yng Nghyfarfod Briffio Gwanwyn 2004 HCC yn Aberystwyth. Roedd ei anerchiad yn canolbwyntio ar nifer o bynciau – diwygio’r PAC, polisi amaethyddol yr UE, helaethiad Ewropeaidd, masnach ryngwladol, a thrafodaethau Corff Masnachu’r Byd a’u heffaith ar y sector da byw. Yn ogystal, bu Rory O’Sullivan, Pennaeth Is-adran Polisi Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain sesiwn ar “Gweithredu Manylion Technegol Diwygio’r PAC yng Nghymru.” Bu Ysgolor HCC, Richard Tudor (yn y llun ar y chwith gwaelod) yn siarad am Ffermio yn Ne America. Bu tîm diwydiant HCC ei hun yn siarad am farchnata, hyrwyddo a datblygu'r diwydiant ac yn sôn am y gwaith a wnaed gan HCC yn ystod y deng mis blaenorol oddi ar y lansio ym mis Ebrill 2003. “Daeth y gynhadledd â buddddeiliaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i drafod argoelion y farchnad, cynnydd y diwydiant a materion gwleidyddol o berthnasedd uniongyrchol i gadwyn gyflenwi cig coch yma,” Lars Hoelgaard (trydydd o’r chwith ac uchod, yn annerch) a Rory O’Sullivan (pedwerydd o’r chwith) ynghyd â Phrif Weithredwr meddai Prif Weithredwr HCC, HCC Gwyn Howells (chwith) a’r Cadeirydd Rees Roberts (ail o’r Gwyn Howells. chwith) yng Nghynhadledd Wanwyn HCC.
Ar y Ffordd gydag Elwen… Bu HCC yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled Cymru i ddangos taw cig coch Cymru yw’r gorau yn ei ddosbarth. Trefnodd Elwen Roberts, Swyddog Gweithredol HCC ar gyfer y Defnyddwyr, ddwy sioe deithiol ar draws Cymru, a chyfarfu â gweithwyr proffesiynol ym myd addysg i gyflwyno pecyn HCC o ddeunyddiau addysgu. Cafodd sioe deithiol i ysgolion yn y gwanwyn ei lansio gan y Gweinidog Carwyn Jones yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, ac aeth y sioe honno ar daith ledled Cymru, gan annog plant i ddysgu am ddiet cytbwys a maethlon. Bu Elwen ar daith unwaith eto yn yr hydref gyda Sioe Deithiol HCC i Golegau. Roedd y daith hon yn helpu myfyrwyr – trwy hyfforddiant am ddim – i ddeall y manteision o ychwanegu cig coch Cymru at y fwydlen.
Bwletin HCC 7
“Bu’r gynhadledd yn fodd i ddod â budd-ddeiliaid o bob cwr o Gymru at ei gilydd i drafod argoelion y farchnad, cynnydd y diwydiant a materion gwleidyddol”
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:35 PM
Page 8
Aur i Gigyddion Enillodd un ar ddeg o gigyddion o ledled Cymru y prif wobrau a thlysau aur yn rownd derfynol y Gwobrau Cig Cymru Gyfan cyntaf erioed, a gynhaliwyd yn Y Drenewydd ym mis Gorffennaf. Cyn cyrraedd y rownd derfynol, roedd y cigyddion wedi curo cystadleuwyr eraill mewn rowndiau rhagbrofol ar gyfer gogledd a de Cymru yn Llandudno ac Abertawe. Cafodd dros 500 o gynhyrchion eu paratoi yn ystod y rowndiau hyn. Roedd y beirniaid yn cynnwys pobl flaenllaw o blith y diwydiant a’r defnyddwyr.
Llwyddiant Ysgolor Bryn Hughes, (yn y llun ar y dde) a Nigel Scollan oedd enillwyr Ysgoloriaeth Rhaglen Datblygu Defaid ac Eidion Cyswllt Ffermio eleni. Bu Bryn, rheolwr fferm Coleg Gwent ym Mrynbuga, yn astudio’r diwydiant cig eidion o ansawdd yn Illinois, cyn teithio tua’r gorllewin trwy Iowa, Wisconsin, Wyoming a Montana. Bydd Nigel Scollan, prif wyddonydd ymchwil yn y Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), yn Aberystwyth yn astudio cyflwr presennol ac argoelion y diwydiant cig eidion yn Awstralia ym mis Chwefror 2005. Ar ôl dychwelyd, bydd y ddau’n cyflwyno manylion am eu teithiau i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
DIWE DDAR
IAD CYNH ADLE DD
Cadw mewn Cysylltiad I FUDD -DDE
ILIAI D
HCC Hydr ef
HCC – G y Gwaha wneud niaeth
PGI: Ein Nodedig Nod AUR I
Gigyddio
n t.8
SAM TÂN
– Fe Yw’n Dyn Ni! t.3
GWAITH
CWRS
CORN YR AREITHEL WY
R Adroddia d am Gynh ledd y Gwa adnwyn t.7
t.5
2004
Eich cadw mewn cysylltiad â’r farchnad fyd-eang – dyna mae gwefan newydd HCC – www.hccmpw.org.uk – yn ei wneud trwy gyfrwng dros 1500 o dudalennau bywiog. Bob mis, ceir degau o filoedd o ymweliadau ag adran prisiau’r farchnad a’r adrannau eraill i gael newyddion am rychwant eang o weithgareddau HCC. Ar-lein, gall ffermwyr drefnu cael prisiau’r farchnad ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru ar eu ffonau symudol bob wythnos am ddim. Mae’r wefan yn cynnwys Bwletin Misol y gellir ei drawslwytho sy’n rhoi’r manylion diweddaraf am fridio, meincnodi, ffermydd arddangos a chynlluniau iechyd anifeiliaid. Yn ogystal, mae yna awgrymiadau i ddefnyddwyr, ryseitiau a manylion am ddigwyddiadau coginio.
Bwletin HCC 8
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:35 PM
Page 9
Mae Anifeiliaid Iach yn
Golygu Mwy o Elw! Gall defnyddio Cynllun Iechyd Buchesi olygu hyd at 20 y cant yn fwy o elw gros y flwyddyn – sy’n werth oddeutu £75 y fuwch. Mae modd i ffermwyr eidion yng Nghymru wneud profion i gynnal iechyd eu buchesi gyda chymorth Cyswllt Ffermio HCC. Mae ffigurau gan HCC yn dangos fod maintioli’r elw gros (cyn costau porthiant) wedi cynyddu £4,875 o £24,470 i £29,345, sy’n gyfwerth â gwerthu naw llo ychwanegol bob blwyddyn. Bu modd gwerthu mwy o loi trwy gynyddu’r cyfraddau cyfebru o 79% i 93%, a thrwy leihau canran y lloi marw o 12% i 8%. “Trwy ddelio â phroblemau afiechyd, bydd modd gwerthu anifeiliaid nad oes eu hangen ar y fferm am y pris gorau yn y dyfodol,” meddai Rheolwr HCC ar gyfer Datblygu’r Diwydiant, Prys Morgan. Un ffermwr a lwyddodd yn ei gais i ddefnyddio’r cynllun yw Alun Edwards (yn y llun uchod), o Gae Coch, Dolgellau.
TAMEIDIAU • TAMEIDIAU • TAMEIDIAU • TAMEIDIAU
Greg Ev
EID: Adnabod yw’r Nod sy’n me
ntro gyd
a EID
Mae yna chwilio ar hyn o bryd am system syml a rhad o adnabod anifeiliaid trwy ddulliau electronig er mwyn hybu olrheinedd cig coch a’i gwneud yn haws i reoli ffermydd Cymru. Mae’r Prosiect Gwerthuso Dyfeisiau Adnabod Electronig (EID) yng Nghymru, ar y cyd â’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER) ac wedi’i noddi gan Gyswllt Ffermio, yn brosiect dwy-flynedd gan HCC sy’n edrych ar bedair system electronig wahanol. Mae 32 o fentrau yng Nghymru (17 defaid a 15 gwartheg) wedi ymuno â’r arbrofion cenedlaethol sydd i fod i gael eu cwblhau ganol 2005. “Rydym yn chwilio am system sy’n bodloni deddfwriaeth yr UE, sy’n ymarferol i’r ffermwr a heb fod yn rhy ddrud,” meddai Prys Morgan, Rheolwr HCC ar gyfer Datblygu’r Diwydiant.
© British Wool Marketing Board
ans, un
HELP TECHNEGOL CNEIFIO’N LÂN Mae amrediad o lyfrynnau technegol wedi’u cynhyrchu gan Dîm HCC ar gyfer Datblygu’r Diwydiant ac sy’n cynnwys cyngor a gwybodaeth ymarferol i’r ffermwr ar gael i’w trawslwytho o www.hccmpw.org.uk
Bwletin HCC 9
Bu cyrsiau cneifio am ddim yn boblogaidd iawn gyda bron i 500 o ffermwyr ledled Cymru. Trwy weithio ar y cyd â Bwrdd Marchnata Gwlân Prydain, trefnodd HCC 90 diwrnod o hyfforddiant am ddim eleni.
hcc_bulletin_cym_04
12/11/04
1:35 PM
Page 10
Hybu Trwy Trwy Farchnata Farchnata Cafodd rhinweddau unigryw cig coch o Gymru eu hamlygu’n eang mewn ymgyrchoedd hyrwyddo mewn siopau cigyddion annibynnol ac archfarchnadoedd yn y DG. Rhoddodd HCC gyflenwad o becynnau pwynt talu i gigyddion manwerth annibynnol er mwyn eu helpu i hyrwyddo Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru. Defnyddiwyd deunydd pwynt talu, ffrîs ffenestr a phosteri ar gyfer siopau manwerth a chigyddion manwerth annibynnol yng Nghymru fel rhan o hyrwyddiad Dydd Gw ˆ yl Dewi. Yna, ym mis Mai, cafwyd pecyn i ddynodi dechrau Wythnos Farbeciw Genedlaethol, a oedd yn cynnwys posteri, llumanau ffenestr a ryseitiau i’r defnyddiwr. Ryseitiau i gynhesu’r galon – “Cysuron yr Hydref” – oedd canolbwynt pecyn pwynt talu yn yr hydref. Roedd y Ryseitiau hyn yn rhoi manylion tri phryd newydd sbon o Gig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, ynghyd â nifer o brydau blasus eraill. Bydd pecyn arbennig ar gael hefyd ar gyfer y Nadolig. Bydd hwnnw’n amlygu’r duedd gynyddol o fwyta darnau o gig eidion a chig oen dros yr w ˆ yl. Cynhyrchwyd llu o hysbysebion yn ystod y flwyddyn i’w rhoi ar silffoedd a phwyntiau talu mewn archfarchnadoedd er mwyn tynnu sylw at gynhyrchion Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru, a chafwyd amryw o gystadlaethau i bwysleisio’r statws PGI. Yn ogystal, rhoddwyd hysbysebion amryfal mewn cylchgronau masnach a chylchgronau defnyddwyr er mwyn trosglwyddo gwybodaeth i gwsmeriaid a manwerthwyr. “Trwy gydol y flwyddyn mae ein logos newydd ar gyfer Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru wedi bod o flaen llygaid cwsmeriaid ledled Cymru a Lloegr yn gyson,” meddai Stewart Pope, Rheolwr Marchnata HCC. “Mae siopwyr yn gweld cynhyrchion o Gymru ar y teledu, yn y wasg, mewn siopau ac ar y silffoedd – ac maen nhw’n sylweddoli pa mor rhagorol a gwahanol yw’r hyn rydym yn ei gynnig iddyn nhw.”
Yma fe welwch ychydig o’r amrediad o ddeunyddiau hyrwyddo a gynhyrchwyd eleni.
NEGES O’R SILFF Hyrwyddo PGI – dyna bwrpas silff-neges newydd sy’n pwysleisio i siopwyr rinweddau Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru â statws PGI. “Mae’r siopwyr hynny sy’n ymweld ag archfarchnadoedd ac yn gweld ein clip ar y silffoedd yn sylweddoli ar unwaith fod yna gyfle i gael pryd blasus,” meddai Stewart Pope, Rheolwr Marchnata HCC.
Bwletin HCC 10