Welsh Rambler 64 - Cymraeg

Page 1

rambler_64_CYM_g

4/5/06

10:23 PM

Page 1

Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 64

Cerdded ar Hyd Arfordir Cymru Y môr sy’n denu fy enaid i fynd, i grwydro godreon y bae; Gwyllt leisiau y llanw sy’n galw yn glir, ac iddynt rhaid ufuddhau. Eurwyn Pierce

M

ae’n harforlin hardd yn un o’n hasedau naturiol gorau. Mae pobl o bob galwedigaeth yn teimlo eu bod yn cael eu tynnu at yr arfordir ac i lawer does dim byd y maent yn ei fwynhau yn fwy na cherdded ar ben y clogwyni yn edrych dros olygfeydd eang o’r môr a’r awyr. Ond yn ymarferol, mae hyn yn aml yn amhosib. Heb unrhyw hawl mynediad cyhoeddus i draethau a rhwydwaith o hawliau tramwy sy’n llawn o fylchau a rhwystrau, gall cerdded yr arfordir yn aml fod yn brofiad rhwystredig. Mae cerddwyr wrth eu bodd gyda llwybrau arfordirol ond gallant fod yn gul ac yn gyfyngol, gan ein cau i mewn gyda ymyl y clogwyn ar un ochr a ffens gyda weiren bigog arni neu wrych llawn mieri ar y llall. Mae hyn yn tynnu oddi ar yr agoredrwydd a’r synnwyr o ryddid y mae cymaint ohonom yn ei werthfawrogi ac felly yn cwtogi ar ansawdd y profiad o gerdded yr arfordir. Yn hytrach na cherdded ar hyd llwybr cul mewn un rhes rydym am gael ystod eang o dir wedi ei neilltuo ar gyfer mynediad arfordirol sy’n gadael i bobl fwynhau eu hamgylchion heb ofni ymyl y clogwyn. Llain o dir sy’n gadael i bobl edrych tuag at y gorwel ac ymlacio gyda’u ffrindiau a’u teulu yn ddiogel. Ni fu cerdded yr arfordir erioed mor boblogaidd. Aeth bron i 4 miliwn o bobl i gerdded ar arfordir Cymru yn 2003, gan wario ychydig llai na £650 miliwn (Bwrdd Croeso Cymru 2003). Byddai hawl mynediad arfordirol newydd yn agor hyd yn oed mwy o’n harforlin hardd ac yn creu adnodd gydag apêl gwirioneddol a phoblogaidd.

Bae Whitesands, Sir Benfro © Llywodraeth Cynulliad Cymru

Rydym yn ceisio sicrhau cyfle i gael llwybr parhaus o amgylch arfordir Cymru ac i’r mynediad fod yn sicr, yn glir ac yn ddiogel. Dynodi llain eang o dir mynediad wedi ei fapio yw’r ffordd orau o wneud hyn. Byddai band o’r fath ar gael ar hyd arfordir Cymru, gan gulhau a lledu yn unol ag amodau lleol, ond gyda lleiafrif tywysedig o 20m. Byddai hyn yn sicrhau profiad cerdded o ansawdd, yn cadw erydiad i isafswm ac yn ffocws i arian amaethamgylchedd i ganiatáu ar gyfer datblygu cynefinoedd arfordirol. Gan ddefnyddio’r Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy – y ddeddf a ddaeth â’r ‘hawl i grwydro’ ein mynyddoedd a’n gweundiroedd

y llynedd, gallem fapio hawl mynediad diogel a darparu ar gyfer cyfyngiadau yn unol â diddordebau yn ymwneud â rheoli tir. I wneud hyn mae arnom angen cefnogaeth oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru. Maent eisoes wedi gwneud ymrwymiad i ymestyn mynediad cyhoeddus i’r arfordir erbyn 2008/09 ac mae angen i ni wneud yn siwr ein bod yn cael y fargen orau i gerddwyr. Helpwch ni ac ymunwch â’n hymgyrch i gael hawl mynediad arfordirol i Gymru drwy ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad lleol heddiw. Edrychwch ar ein gwefan am fwy o fanylion a’n datganiad swyddogol ynglˆ yn â’r ymgyrch. TUDALEN

1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.