rambler_65_CYMRU
28/9/06
11:02 PM
Page 1
Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR
RHIFYN 65
Defnyddia dy Lwybrau – ymateb i’r her M
Mae’r her Defnyddia dy Llwybrau yn cynnig ffordd i’r 33,211km (20,756 o filltiroedd) o lwybrau Cymru gyfan gael eu cerdded dros y flwyddyn i ddod. Gall unrhyw un gymryd rhan drwy ddewis sgwâr 1km o’r map ar wefan y Cerddwyr, cerdded y llwybrau yn y sgwâr hwnnw, dweud wrth yr awdurdod lleol am unrhyw broblemau ynglˆyn â’r llwybrau, ac yna rhoi’r sgwâr ar wefan ryngweithiol i droi’r sgwâr yn wyrdd. Neu gallwch wneud hyn i gyd drwy gysylltu â’r Cerddwyr ar y ffôn, drwy’r post ac ati. Mae’r sgwariau yn ddigon bach (dim ond 1km sgwâr) i bobl gerdded ei lwybrau mewn llai na diwrnod. Bydd angen i bobl fenthyg map, gwisgo eu hesgidiau cerdded a mynd ar hyd y llwybrau gan nodi unrhyw beth sydd angen ei drin.
www.defnyddiadylwybrau.info
Arfyd Parry Jones
ae gan Gymru y rhwydwaith ddyrys fwyaf rhyfeddol o lwybrau cyhoeddus sy’n cynnig y ffordd orau o ddod i adnabod y wlad. Mae’r rhwydwaith hon yn cynnig cyfleoedd am boddhad mawr, iechyd da, cyfle i ymlacio ac i gael hwyl i bawb ar garreg y drws. Yn ogystal â’r manteision cymdeithasol a chymunedol hyn mae mantais fawr i fusnes oherwydd rhwydwaith y llwybrau yw asgwrn cefn y £548 miliwn a gynhyrchir gan gerddwyr i Gymru bob blwyddyn. Gwireddu’r holl fanteision hyn yw’r rheswm am lansio’r her Defnyddia dy Llwybrau.
Lansio ‘Defnyddia dy Lwybrau’ yn y Sioe Frenhinol. O’r chwith i’r dde Ron Williams, Cadeirydd Y Cerddwyr Cymru, Carwyn Jones AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Roger Thomas, Prif Weithredwr CCGC, a Beverley Penney, Cyfarwyddydd Cymru.
Gall Cerddwyr lleol roi gwybodaeth a chefnogaeth. Yn y pen draw bwriadwn i’r holl lwybrau yng Nghymru gael eu harchwilio, h.y. yr holl ddotiau a llinellau toriad gwyrdd ar y mapiau Explorer AO (1:25000) neu’r dotiau a’r llinellau toriad pinc ar y map 1:50000. Mae’r her yn estyn i holl hawliau tramwy cyhoeddus gael eu cerdded gan gynnwys yr holl lwybrau cyhoeddus, llwybrau march, ffyrdd a ddefnyddir fel llwybrau cyhoeddus, isffyrdd wedi eu cyfyngu, isffyrdd yn agored i bob traffig a llwybrau eraill gyda mynediad cyhoeddus. Os bydd cerddwyr yn dod o hyd i broblemau ychwanegol i ddefnyddwyr fel merlotwyr ar y llwybrau march mae’n gwneud synnwyr i roi gwybod i’r awdurdod lleol am y rhain hefyd. Mae gadael wybod i’r awrdurdod lleol unrhyw broblemau a ganfyddir ar y llwybrau (a cyswllt lleol Y Cerddwyr) neu i roi canmoliaeth iddynt yn rhan bwysig o’r dasg. Rydym eisoes yn gwybod fod llawer o broblemau ar lwybrau Cymru oherwydd dim ond 40% ohonynt sy’n hawdd i’w defnyddio
(cyfeirier at y dangosyddion perfformiad a gynhyrchwyd gan Uned Data Llywodraeth Leol Cymru). Dymunwn ddangos fod y llwybrau yn cael eu cerdded a rhoi gwybod i’r awdurdod lleol am broblemau ar y llwybr ac am lwybrau da hefyd. Mae’r her yn canolbwyntio ar lwybrau sydd wedi eu cofnodi’n swyddogol ar y map diffiniol. Os nad yw’r llwybrau wedi eu cofnodi ond eu bod yn ymddangos ar y llawr mae’r rhain yn cael eu galw yn ffyrdd coll (cysylltwch â’r Cerddwyr am wybodaeth bellach). Mae hon yn her enfawr, a gobeithio y bydd pobl yn ei mwynhau ac yn ei defnyddio i adnabod eu llwybrau yn well. Yn y rhifyn yma: Cerdded yr arfordir – y cynlluniau’n datblygu Cystadleuaeth ffotograffig mewn cysylltiad gyda: TUDALEN
1