rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:19 AM
Page 1
Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR
RHIFYN 67
Llwybrau yn y Dyfodol M
ae Cerddwyr Cymru yn galw am gyllid newydd ar gyfer llwybrau cyhoeddus yn arbennig ar gyfer cynlluniau newydd awdurdodau lleol i wella llwybrau. Bydd angen i’r cyllid newydd ddod oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol. Dylai hwn ynghyd â’r cyllid sydd gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd ddod ag arian ychwanegol i mewn o Ewrop a ffynonellau eraill. Gelwir y cynlluniau newydd hyn ar gyfer llwybrau yn Gynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT/ROWIPS) ac mae pob awdurdod lleol wedi bod yn eu paratoi. Maent yn cynnwys asesiad o ddyheadau lleol a’r adnodd ei hun. Maent hefyd yn cynnwys datganiad o weithredu sy’n rhoi manylion am yr hyn a fydd yn cael ei wneud i wella llwybrau, yr amserlen a’r gost. Yna bydd y ffigur ar gyfer Cymru gyfan yn glir. Pan ystyriwyd hyn ddiwethaf yn 2003 nododd arolwg Cyngor Cefn Gwlad Cymru fod angen £26 miliwn i sicrhau bod llwybrau mewn cyflwr da (yn ogystal â’r costau rheoli nad oeddent wedi eu cynnwys).
Bydd llawer o aelodau wedi cyfrannu at neu byddant yn y broses o gyflwyno eu sylwadau ar gyfer y Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy (CGHT). Mae rhai CGHT yn dal heb eu trin a rhoddir y rhaglen ar dudalen 4. O’u plaid, mae’r CGHT wedi bod drwy broses o ymgynghori lleol, a byddant yn ddogfennau i seilio cais arnynt ac maent yn gynlluniau statudol 10 mlynedd. Maent yn rhoi man cychwyn ar gyfer newid cyflwr y llwybrau oherwydd ar hyn o bryd yng Nghymru dim ond 41% o lwybrau sy’n hawdd eu defnyddio ac yn bwysig maent yn cynnig cyfle i ddal awdurdodau i gyfrif.
Mae gan y CGHT eu beirniaid hefyd, cerddwyr sy’n bryderus y byddant yn cynnig ffordd o roi’r gwaith o gynnal y llwybr cyffredin o’r neilltu drwy greu hierarchaeth o lwybrau a fydd yn arwain at gynnal dim ond rhannau o’r rhwydwaith. Byddai’r amheuwyr yn dweud os ydynt yn cael cefnogaeth gan bawb, yna ni fydd buddiannau’r cerddwr yn cael sylw dyledus! Fel cynrychiolwyr, bydd yn rhaid i ni sicrhau bod buddiannau’r cyhoedd sy’n cerdded yn cael goruchafiaeth drwy leisio’r diddordeb hwnnw’n lleol ac rydym hefyd yn rhoi sylwadau ar bob Cynllun Gwella Hawliau Tramwy drwy eu dadansoddi yn erbyn set o feini prawf safonol. Mae John Trevelyan yn helpu gyda’r gwaith hwn.
Croeso i Gerddwyr M
ae Prestatyn a Meliden wedi cael llwyddiant mawr gyda’r prosiect ‘Croeso i Gerddwyr’. Yn yr haf enillodd y gymuned y wobr gyntaf yng Nghymru yn Sioe Frenhinol Cymru. Cyflwynwyd y wobr gan Weinidog dros Gynaliadwyedd a Thai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Jane Davidson, (gweler llun) i Malcolm Wilkinson, gwirfoddolwr a cherddwr. I ddathlu’r digwyddiad hwn yn Hydref 2007 ymunodd cerddwyr â’r Cynghorydd June Cahill, Maer Prestatyn, Roger Thomas, Prif Weithredwr Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Kate Ashbrook, Cadeirydd Y Cerddwyr a Gwen Goddard o gymuned Hebden Bridge am ddiwrnod gwych o gerdded mewn lle sy’n dod yn fwy a mwy pwysig i gerddwyr ac ymwelwyr. TUDALEN
1
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:19 AM
Page 2
Y
HYDREF 2007
Helo eto …
y y Penne Beverle
2007
…Mae wedi bod yn haf gwlyb i bawb gyda gordyfiant mwy nag arfer dros y llwybrau. Rydym yn dal i dynnu’r drain o’n bysedd o’r gamfa ddiwethaf y buom yn tocio canghennau oddi arni. Mae pryderon yngl_n â chlefyd Clwy’r Traed a’r Genau yn bryder i bawb sy’n malio am gefn gwlad. Rydym yn hynod o falch fod y Gweinidog newydd, Jane Davidson AC, yn rhoi mynediad fel un o’i dau flaenoriaeth ynghyd â’r mater hynod bwysig o newid hinsawdd. Cawsom amser gwlyb iawn yn Sioe Frenhinol Cymru ac amser gwych yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug, gweler y lluniau isod. Fel bob amser, diolch yn fawr i’n
gwirfoddolwyr. Ar yr ochr staffio, rydym wedi estyn croeso cynnes i Celia Wyn Parri sydd wedi ymuno â ni fel Gweinyddydd Swyddfa ac wedi ffarwelio â Martin Dowson sydd wedi dychwelyd i’w ardal enedigol yr oedd mor hoff ohoni yn Ardal y Peak ac wedi ymuno â Chyngor Dinas Sheffield i weithio gyda Mannau Gwyrdd a Mynediad. Wrth i mi ysgrifennu hwn rydym yn hysbysebu swydd newydd i weithio ar brosiectau a chyllid gyda phwyslais arbennig ar hawliau tramwy. Mae gennym hefyd Brif Weithredwr newydd ar gyfer Prydain, Tom Franklin, cyn-bennaeth ‘Living Streets’ sy’n adnabod Y Cerddwyr yn dda oherwydd roeddem wedi cydweithio yn agos ag ef ar gais y Loteri, a arweiniodd at ddyfarniad o £3.5 miliwn i hyrwyddo cerdded yn Lloegr. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Tom. Mwynhewch gerdded! Beverley Cyfarwyddydd Cymru
Chwith: Eisteddfod Genedlaethol 2007. Uwch ac uwchben: Sioe Frenhinol Cymru 2007.
Coffad Cymdeithas y Cerddwyr, 3 Iard y Cowper, Ffordd Curran, CAERDYDD. CF10 5NB Ffon: 029 2064 4308 • Ffacs: 029 2064 5187 Ar y we: www.ramblers.org.uk e bost: cerddwyr@ramblers.org.uk Mae Cymdeithas y Cerddwyr yn elusen gofrestredig (rhif 1093577) ac yn gwmni a gyfyngir gan warant yng Nghymru a Lloegr (rhif 4458492). Swyddfa gofrestredig: Camelford House, 87-89 Albert Embankment, Llundain, SE1 7TW.
TUDALEN
2
NORMAN SLATER. Bu Norman farw ar 26 Medi, 2007. Roedd yn ysbrydoliaeth a gynigiodd ei ymrwymiad, ei egni a’i hiwmor i’r Cerddwyr. Cyfrannodd yn strategol tra’n gwasanaethu ar Bwyllgor Gwaith Cymru a Phwyllgorau Ardal Morgannwg ac i Gr wp ˆ Caerdydd mewn llawer o ffyrdd meddylgar ac ymarferol.
RHAGFYR 1af – Diwrnod Hyfforddiant ynglˆyn â Llwybrau, y Drenewydd
2008 IONAWR 12 – CCB Gogledd Cymru MAWRTH 15 – CCB Ceredigion EBRILL 12-13 – Cyngor Cymru, Aberystwyth
Diweddaru’r Llawlyfr Ymarferol Cyhoeddwyd ‘Getting Greens Registered’ am y tro cyntaf ym 1994. Mae’r ail argraffiad hwn, gan John Riddall, wedi ei ddiwygio a’i ddiweddaru’n drwyadl i gynnwys, yn arbennig, y newidiadau pwysig a wnaed gan Ddeddf Tiroedd Comin 2006 a llysoedd y gyfraith. Mae’r argraffiad hwn yn nodi’r ddeddf fel y mae ar 6 Ebrill 2007. Mae’n berthnasol i Gymru a Lloegr. Mae’r llyfr hwn yn llawlyfr ymarferol i unrhyw un sy’n dymuno cofrestru darn o dir fel grîn i dref neu bentref. Mae’n rhoi disgrifiad syml o’r camau sy’n angenrheidiol. Bydd o fudd i unigolion, grwpiau cymunedol, tirfeddianwyr, cynghorau lleol ac awdurdodau lleol eraill. Dyma’r cyngor manylaf o bell ffordd a gyhoeddwyd erioed ar gyfer awdurdodau cofrestru ac ymgeiswyr ar y pwnc hwn. Mae John Riddall MA (TCD) yn fargyfreithiwr a chyn ei ymddeoliad roedd yn Uwch Ddarlithydd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Leeds. Mae ei lyfrau yn cynnwys ‘Land Law’, ‘Jurisprudence’, ‘The Law of Trusts’ a chyda John Trevelyan, ‘Rights of Way: A guide to law and practice’. Mae’n IsGadeirydd y Gymdeithas Mannau Agored.
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:20 AM
Page 3
Welsh Y
GWEITHIO AR WORKING FOR RHAN WALKERS CERDDWYR
PROFFIL >>>
Maggie – a’i chariad tuag at Islwyn Mae Maggie Thomas yn ysgrifennydd Gr w ˆ p Cerddwyr Islwyn ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Cymru Sut y daethoch i fod yn ymwneud â cherdded a pham ei fod yn arbennig yn awr? Roeddwn arfer nofio’n rheolaidd i gadw’n iach ac i geisio cadw fy mhwysau i lawr. Awgrymodd un o Gerddwyr Islwyn y dylwn ymuno a’r gr w ˆ p. Dechreuais gerdded ar fy mhen fy hun i ddechrau oherwydd roeddwn yn ansicr a fyddwn yn ffitio i mewn gyda’r lleill yn y grˆ wp. Pan benderfynais ymuno ag un o’r teithiau canfûm fy mod yn adnabod amryw o’r lleill. Roedd yn grˆwp cyfeillgar iawn, ac mae pawb sy’n dod ar y teithiau yn cael croeso. Mae’n arbennig iawn yn awr am yr un rheswm ag yr oedd y pryd hynny. Rwy’n byw yn un o rannau prydferthaf y wlad. Mae pobl yn dweud wrthyf y dylwn gadw hynny’n gyfrinach, oherwydd nad ydym eisiau gweld hyrddiau o bobl yn dod yma. Rwy’n lwcus iawn o allu camu’r tu allan i’r drws ffrynt a chael cymaint o deithiau hyfryd i ddewis ohonynt. Pam wnaethoch chi ymuno â’r Cerddwyr? Rwy’n meddwl fy mod wedi ymuno â’r Cerddwyr cyn imi ddechrau cerdded gyda grˆwp. Ymunais ar ôl darllen am von Hoogstraten yn ‘The Guardian’. Roedd yr erthygl yn crybwyll y ffaith fod aelodau’r Cerddwyr yn ymladd i gael yr hawl tramwy wedi ei hail-agor ac roedd arnynt angen cyllid. Pa un yw eich hoff le i gerdded ynddo? Unrhyw rai o’r mynyddoedd sy’n hygyrch o’m cartref. Mae’r daith i ben Twmbarlwm bob amser yn un i lonni’r ysbryd. Pwy fyddai eich hoff bartner cerdded? Alfie, y ci, nid y chwaraewr rygbi! Rwy’n mwynhau cerdded gydag aelodau grˆwp Y Cerddwyr Islwyn. Rydym yn grˆwp bach a chyfeillgar. Ond rwyf yn mwynhau cerdded ar ben fy hun hefyd. O ddifrif, hoffwn fynd â Derek Brockway ar daith leol. Dylai’r ardal gael sylw yn ‘Weatherman Walking’. ‘Weatherman Walking’ yn cyfarfod â’r Athrawes Mathemateg Aflonydd! A oes gennych hoff ddarn o git cerdded? Mae fy GPS wedi fy helpu i ysgrifennu’r pecyn o deithiau lleol. Rwy’n hoff o declynnau technolegol, ond dim ond rhai o’r botymau rwyf yn eu defnyddio, ond er hynny, mae hwn wedi bod yn amhrisiadwy. Rwy’n falch iawn fy mod wedi mynd ati o’r diwedd a chynhyrchu pecyn wedi ei lamineiddio o 13 o deithiau cerdded i gyd yn ardal coedwig Cwm Carn. Rwy’n gwerthfawrogi’r grant a gefais oddi wrth Y Cerddwyr Gwent Fwyaf ac rwyf
Uchod: Golygfa o un o hoff deithiau cerdded Maggie – Twm Barlwm. Ar y chwith: Hoff bartner cerdded Maggie – Alfie Ar y dde: Maggie’n cyfarfod ag Iolo Williams
eisoes wedi dechrau ar y pecyn nesaf o deithiau cerdded. Beth yr hoffech ei gyflawni gyda’r Cerddwyr? Hoffwn gynyddu aelodaeth Y Cerddwyr Islwyn fel y gallwn gynnal mwy nag un rhaglen gerdded. Hoffwn gael yr awdurdod lleol hefyd i hyrwyddo’r ardal hon ar gyfer cerdded. Pa un oedd y digwyddiad mwyaf doniol yn ymwneud â cherdded y daethoch ar ei draws? Mae’n ddrwg gen i ond fedra’ i ddim meddwl am un y gellid ei argraffu! Fel y dywedais mae Cerddwyr Islwyn yn grˆwp cyfeillgar a gellir clywed chwerthin drwy’r amser wrth inni gerdded. Y flwyddyn ddiwethaf ar ein Taith Mins Peis cynhaliwyd hon mewn niwl trwchus iawn. Pan eisteddon ni i lawr o’r diwedd wrth y safle picnic roedd yno wledd o fins-peis, siocledi a gwin cynnes. Byddai cerddwyr eraill yn sicr wedi cael tipyn o syndod o glywed carolau yn cael eu canu’n wresog yn y niwl trwchus! Sut y daethoch i gymryd rhan yn y grwp? ˆ Gofynnwyd i mi a fyddwn yn Ysgrifennydd i grˆwp Cerddwyr Islwyn yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf i mi ei fynychu. Mae hynny’n dangos pa mor fach yw’r grˆwp a chyn lleied o bobl sydd gennym sy’n teimlo bod ganddynt yr amser neu’r arbenigedd i fod yn un o’r swyddogion – ond rydym yn gweithio ar hynny. Pam fod cerdded yn arbennig i chi? Rwy’n siˆwr fod unrhyw un sy’n mynd allan am dro, nid dim ond y rhai hynny sy’n cerdded fel hobi, yn cael y teimlad iwfforig rhyfeddol hwnnw o fewn
Mae Maggie wedi cynhyrchu pecyn wedi ei lamineiddio ardderchog o 13 o deithiau cerdded sydd ar gael yn ardal Islwyn.
deng munud o gychwyn ar eu taith. Mae pobl yn dweud wrthyf i y gallwch gael yr un teimlad yn y gampfa, ond does dim modd cymharu’r ddau brofiad. Mae’n eich atgoffa’n gyson o ba mor lwcus yr ydym i fyw mewn lle mor hardd. TUDALEN
3
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:20 AM
Page 4
Y
HYDREF 2007
LLWYBRAU >>>
Un Llais Cymru Y
Cam arall pwysig a gyflawnwyd fu trechu cais i ddileu llwybr march yn Llanbadarn Fynydd, a fu’n broses hir. Meddai Bob, “Roedd y cyfan yn werth yr ymdrech i ddiogelu’r llwybr march dymunol hwn.”
Dyddiadau cau ar gyfer ymgynghoriadau CGHT/ROWIP
Meddai Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy dros Y Cerddwyr, “Mae dros 700 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, sy’n Mike Mills yn cyflwyno copi newydd o ‘Rights of way, a Guide to cynrychioli haen o lywodraeth Law and Practice’ i Simon White, Prif Weithredwr Un Llais Cymru. sydd agosaf at gymunedau lleol. Mae’r cymunedau yn amrywio o aneddiadau gwledig bychain i drefi rai hynny sy’n gyfrifol am strategaethau lleol mawr. Ond yr hyn sydd gan gynghorau tref a a chyflwyno gwasanaeth. Mae hon yn haen chymuned yn gyffredin yw eu bod i gyd yn bwysig o lywodraeth a all chwarae rhan fawr ymdrechu i wella ansawdd bywyd i bobl leol.” mewn cyflwyno gwelliannau i rwydwaith y Rydym yn awyddus i weithio gyda’r llwybrau yng Nghymru. Mae pobl leol mewn sefyllfa dda i ddeall problemau lleol ac partneriad perthnasol ar y prosiect hwn. “Cyflawnir llawer o waith cynghorau lleol ystyriwn fod eu rôl yn holl bwysig o ran drwy ymarfer ystod o bwerau a dyletswyddau cyflwyno gwelliannau.” Mae Un Llais Cymru yn rhoi gwasanaeth, cyngor a chanllawiau i gynghorau sy’n aelodau ac yn hyrwyddo buddiannau’r sector ar y lefel genedlaethol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisi a gweithio’n agos gyda phartneriaid allweddol i sicrhau y gall cynghorau lleol wasanaethu eu hetholaethau yn effeithiol. Maent yn rhoi cyfleoedd hefyd i gynghorau rwydweithio a rhannu arferion gorau, er enghraifft drwy’r 16 o Bwyllgorau Ardal ar draws Cymru a’n Pwyllgor Cynghorau Lleol Mwy sy’n datblygu ar hyn o bryd. Eu gwefan yw www.unllaiscymru.org.uk.
Yr Arfordir Copr – Taith gylchol 14 milltir awsom y syniad am yr Arfordir Copr wrth inni glirio llwybr rhwng Mynydd Parys (y fwynglawdd copr fwyaf yn y byd yn y 18fed ganrif) a phorthladd Amlwch. Cawsom y dodrefn oddi wrth y Cyngor, ychwanegwyd naw o gamfeydd, dwy bont, chwech o byst cyfeirbwyntio, cliriwyd dwy filltir o lystyfiant a gosodwyd 150 o gyfeirbwyntiau unigryw wedi eu dylunio gan Gymdeithas y Cerddwyr a dalodd amdanynt hefyd. Mae’r daith yn dilyn arfordir Ynys Môn, heibio Ffynnon Sant Eilian ac yna safle ei dˆy gweddi o’r 6ed ganrif lle ceir eglwys o’r 12fed ganrif a adeiladwyd er anrhydedd iddo ychydig ymhellach i mewn i’r tir. Ymlaen wedyn i Point Lynas, a bleidleisiwyd fel un o’r mannau gorau yng Nghymru i wylio morfilod. Ymlaen wedyn i Ddulas gan fynd heibio llawer o safleoedd hanesyddol, ac yna i mewn i’r tir ar hyd llwybrau hynafol y mwyngloddwyr i Fwynglawdd Parys ac i lawr hen ffordd y mwyn at ein man cychwyn. Y giang o wirfoddolwyr a fu’n gweithio ar y llwybr yn Ynys Môn
C
TUDALEN
4
ywed Bob Seabrook, Swyddog Llwybrau Powys fod Rhanbarth Powys wedi pwyso D am Swyddog Gorfodi ac mae’n teimlo’n falch fod hyn yn gweithio’n dda, gyda gweithdrefnau cyfreithiol yn cael eu rhoi ar waith yn gyflym i gael y llwybrau cyhoeddus ar agor.
n dilyn ymlaen o’r gwaith llwyddiannus gyda’r Cynghorau Tref a Chymuned yng Nghonwy mae prosiect peilot newydd yn mynd i gael ei lansio yn ddiweddarach eleni a fydd yn dechrau partneriaeth waith newydd rhwng Cymdeithas y Cerddwyr ac Un Llais Cymru, y corff cenedlaethol dros Gynghorau Tref a Chymuned yng Nghymru.
statudol ac mae’r rhain yn cynnwys rhai hawliau a phwerau pwysig sy’n ymwneud â hawliau tramwy.” Ychwanegodd Mike Mills, “Mae’n wir na all unrhyw awdurdod arall adnabod y llwybrau lleol cystal ag y gall cynghorau lleol, a llais y cyngor lleol yn aml a fydd yn tynnu sylw’r awdurdod lleol pan fo gweithredu yn angenrheidiol. Mae cynghorau tref a chymuned yn rhoi cyfraniad gwerthfawr i ddemocratiaeth leol, gan ymgysylltu â phobl leol, meithrin a chydlynu gweithredu sifil, gweithio gyda phobl leol i ddatblygu gweledigaeth ar gyfer sicrhau dyfodol i bobl leol a chyfathrebu’r dyheadau hynny i’r holl
Llwybrau Powys
Ymgynghoriadau sydd wedi eu Mabwysiadu a Chyhoeddi Rhondda Cynon Taf Abertawe CBS Caerffili Wrecsam Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog CBS Merthyr Tudful Cyngor Sir Fynwy Ymgynghoriadau sydd wedi eu Cwblhau Ynys Môn Cyngor Sir Powys Cyngor Sir Bro Morgannwg Caerdydd Gwynedd Blaenau Gwent Sir Benfro Sir Gaerfyrddin Ar y Gweill Authority Ceredigion Conwy
Closing Date 2007 mis Hydref/Tachwedd mis Hydref
Dyddiadau ymgynghori i’w cyhoeddi: Pen-y-bont ar Ogwr Sir Ddinbych Sir y Fflint Castell Nedd Port Talbot Casnewydd Torfaen
Mwynglawdd copr Mynnydd Parys
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:20 AM
Page 5
Y
GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR
Cynghorau Tref a Chymuned yn Derbyn Her yr Ymgyrch yng Nghonwy
M
ae Cynghorau Cymuned wedi ymuno gyda Chymdeithas y Cerddwyr yng Nghonwy yn eu hymgyrch i wella llwybrau yn y Sir. Daeth 35 o wirfoddolwyr Y Cerddwyr Cymru ynghyd ar 14 Gorffennaf yng Nghanolfan Glasdir, Conwy i ddatblygu eu sgiliau i warchod llwybrau yng Nghymru ac agorodd y Cynghorydd Sylvia Challinor, Cadeirydd Pwyllgor Llwybrau Cyngor Tref Llanrwst weithgareddau’r diwrnod fel rhan o bartneriaeth waith newydd a chyffrous. Meddai’r Cynghorydd Challinor, “Rydym yn croesawu’r Cerddwyr i Lanrwst ac rydym yn hynod o falch fod ein dau sefydliad bellach yn gweithio gyda’n gilydd i ddod o hyd i ateb i broblemau difrifol y Sir ynglˆyn â llwybrau troed”. (Gweler llun ) Meddai Mike Mills, Swyddog Hawliau Tramwy Cymdeithas y Cerddwyr a arweiniodd weithgareddau’r dydd, “Mae’n wych fod y cynghorau cymuned yng Nghonwy wedi derbyn yr her i ddiogelu eu llwybrau lleol a’u bod yn awr yn cysylltu’n uniongyrchol â’r Cyngor ynglˆyn â’r materion hyn. Mae gweithgor ymgyrch Cymdeithas y Cerddwyr wedi gweithio’n galed ar greu partneriaethau lleol ac ynghyd â Llanrwst, wedi sicrhau llwyddiant nodedig gyda chwech o gynghorau cymuned a thref eraill yn mynegi diddordeb yn ein gwaith”. Ychwanegodd Mike: “Mae Cyngor Sir Conwy wedi tanberfformio yn gyson o ran cynnal eu llwybrau gyda bron 80% ohonynt yn anodd neu yn amhosibl eu defnyddio. Mae Dangosyddion
Perfformiad diweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod llwybrau Conwy yn bendant ar waelod y tabl cynghrair perfformiad. Rydym yn pwyso arnynt i weithredu’n gyflym i gael eu holl hawliau tramwy mewn cyflwr da ac rydym yn pwyso ar gynghorau tref a chymuned eraill i chwarae eu rhan i wneud i hyn ddigwydd”. Parhaodd Mike, “Mae Conwy yn Sir hardd ac ychydig iawn y mae rhwydwaith o lwybrau na ellir eu defnyddio yn ei wneud i hyrwyddo hyn. Mae twristiaeth sy’n gysylltiedig â cherdded yn cyfrannu rhyw £548 miliwn y flwyddyn at economi Cymru ac mae’r manteision pwysig i iechyd a ddaw
yn sgil cerdded yn golygu bod hyn yn dod ag arbedion enfawr i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Os dymuna Conwy dderbyn eu cyfran deg o’r manteision hynny, yna mae angen i’w llwybrau fod mewn cyflwr da.” Bydd Anne Penketh, Max Grant a David Tindall, gyda chefnogaeth Mike Mills yn swyddfa Cymdeithas y Cerddwyr Cymru, yn canolbwyntio ar fynd â’r ymgyrch yn ei blaen dros y misoedd sydd i ddod. Mae ar ymgyrchoedd llwyddiannus angen cefnogaeth felly os hoffech fwy o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yna cysylltwch ag Anne Penketh ar 01492 622887.
Brwdfrydedd mawr dros Hyfforddiant yn ymwneud â Llwybrau yng Nghymru M ae hyfforddiant yn ymwneud â llwybrau yng Nghymru yn parhau i ddenu gwirfoddolwyr sy’n ymwneud â llwybrau lleol gydag 16 o bobl yn mynychu’r diwrnod hyfforddiant diweddaraf yn Ne Cymru a gynhaliwyd yn Sefydliad Chwaraeon Cymru yng Nghaerdydd ar 22 Medi. Meddai Mike Mills, a drefnodd ddigwyddiadau’r diwrnod, “Mae’r ffaith fod cymaint o wirfoddolwyr wedi rhoi eu hamser gwerthfawr ar ddydd Sadwrn yn destament gwirioneddol i’w brwdfrydedd a’u hymrwymiad i Gymdeithas y Cerddwyr ac i lwybrau yng Nghymru. Mae hyn yn dangos yn eglur beth yw gwerth digwyddiadau o’r fath” ychwanegodd, “er bod ein dyddiau hyfforddi yn canolbwyntio ar sylfeini cyfraith llwybrau rydym wedi ceisio sicrhau bod y sesiynau yn briodol ar gyfer ystod eang o bobl, sy’n amrywio o weithwyr profiadol sy’n ymwneud â’r llwybrau troed i’r aelodau hynny sydd ychydig yn chwilfrydig ac yr hoffent wybod mwy am sut y gallent gymryd rhan mewn gwaith yn ymwneud â’r llwybrau.”
Uchod: Ymestyn y celloedd llwyd yn y Cwis Llwybrau yn ystod y diwrnod hyfforddi Chwith: Iawn … felly pryd nad yw rhwystr yn rhwystr o gwbl? Isod: Maggie Thomas, Gwyn Lewis a Tony Yule yn dal eu tlws wrth iddynt ennill yr ymarferiadau hyfforddi i’r grwpiau.
Meddai Mike eto, “Mae hyfforddiant yn ymwneud â llwybrau yng Nghymru wedi esblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf i ateb anghenion ein haelodau a’n gwirfoddolwyr. Trwy gyfuniad o gwisiau sy’n ymwneud â llwybrau, ffilmiau, ymarferion gr_p, modiwlau hyfforddi ffurfiol a thrafodaethau mwy cyffredinol ar faterion yn ymwneud â llwybrau, mae gan y digwyddiadau hyn bellach apêl eang”. Gobeithir y bydd dyddiau hyfforddi yn esblygu ymhellach dros y misoedd a’r blynyddoedd sydd i ddod i ddenu eraill a allai rannu ein dymuniad i ehangu gwaith yr elusen. Trefnwyd i gynnal y diwrnod hyfforddi nesaf ar gyfer Canolbarth Cymru ac fe’i cynhelir ddydd Sadwrn, Rhagfyr 1af ym Mhlas Dolerw, y Drenewydd, Powys. I gael gwybodaeth bellach neu i archebu eich lle, cysylltwch â Celia Parri yn Swyddfa Cymru neu e-bostiwch hi ar celiap@ramblers.org.uk TUDALEN
5
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:20 AM
Page 6
Y
HYDREF 2007
HYRWYDDO CERDDED >>>
Cerrig Camu / Stepping Stones (CC/SS) M ae’r rhaglen o deithiau cerdded rhwydd Cerrig Camu/Stepping Stones (CC/SS) wedi bod yn rhedeg am ddwy flynedd. Dros y cyfnod hwnnw trefnwyd 531 o deithiau cerdded drwy gydol y flwyddyn gan 21 o grwpiau. Mae gennym 211 o arweinwyr teithiau wedi eu hyfforddi mewn grwpiau ar draws Cymru a hyd yma mae amcangyfrif o 7,500 o gerddwyr wedi cymryd rhan yn y prosiect.
gyfer y cwrs a chinio. Galwch Anwen Parker heddiw i drefnu eich diwrnod hyfforddi eich hun ar gyfer arweinwyr teithiau!
Hyfforddiant i Arweinwyr Teithiau Cerdded ym mhobman
£150 ar gael i grwpiau
Hoffai Y Cerddwyr Cymru gynnig ein hyfforddiant newydd ac sydd wedi ei wella i arweinwyr teithiau cerdded i holl grwpiau Cerrig Camu/Stepping Stones p’run ai ydynt yn penderfynu cymryd rhan yn y rhaglen CC/SS ai peidio. Efallai eich bod yn gofyn pam y dylwn i, arweinydd teithiau cerdded profiadol, ddod i ddiwrnod hyfforddi? Bydd y diwrnod yn gwneud i chi ganolbwyntio ar beth yw taith rwydd – y rhai sy’n debygol o ddod i gerdded, cyflymder taith, materion yn ymwneud ag iechyd a chynllunio taith o’r fath. Byddwch yn cael cyfle i gysylltu â grwpiau eraill Y Cerddwyr a rhannu syniadau a phrofiadau. Mae’r cwrs am ddim i aelodau Cerddwyr Cymru a darperir nodiadau ar
Cynhelir y diwrnod hyfforddi nesaf ym mis Ionawr yn Ne Cymru. Bydd y cwrs yn dechrau am 10.00am ac yn gorffen am 3.00pm. Mae’r hyfforddiant yn agored i bawb a allai fod yn ystyried bod yn arweinydd teithiau byr.
Taflen Cyngor ynghylch Trefnu Teithiau Byrrach ae Cerddwyr Cymru wedi cynhyrchu taflen cyngor sy’n rhoi gwybodaeth am drefnu teithiau cerdded hawdd rhwng 3 a 5 milltir, o fath a ddylai apelio at ystod eang o gerddwyr. Fe’i bwriedir yn bennaf ar gyfer gwirfoddolwyr gyda grwpiau Cerddwyr lleol er ei fod yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw un sy’n cynnal ac yn trefnu teithiau byrrach.
M
Drwy drefnu ystod ehangach o deithiau cerdded gan gynnwys dewisiadau byrrach a rhwyddach gallwn apelio at y cyhoedd yn ehangach yn ogystal â nifer fawr o aelodau’r Cerddwyr na wneir darpariaeth ar eu cyfer ar hyn o bryd gan ein teithiau i grwpiau.
Mae Pwyllgor Gwaith Cyngor Cymru wedi cytuno i gynnig grant o hyd at £150 y flwyddyn i grwpiau sy’n trefnu rhaglen o deithiau cerdded byr CC/SS. Os oes gan eich gr w ˆ p raglen o deithiau cerdded byr yna cysylltwch ag Anwen i ddarganfod sut i hawlio eich arian.
Y daith ddelfrydol Wrth drefnu eich rhaglen o deithiau byr CC/SS ceisiwch sicrhau ei bod yn cynnwys y nodweddion canlynol: Rheolaidd: o leiaf unwaith y mis (er bod ein hymchwil yn dangos bod teithiau wythnosol yn rhai sydd â galw amdanynt hefyd) Hanner diwrnod: gorffen erbyn 12.00pm Byr: 3 - 5 milltir Lleol: O fewn taith 30 munud mewn bws neu drên o’r man cychwyn Defnyddio cludiant cyhoeddus Wedi cael cyhoeddusrwydd da: defnyddiwch wefan eich grˆwp, eich rhaglen o deithiau cerdded, posteri gwag CC/SS a ‘Walks Finder’ ar-lein Y Cerddwyr yn ogystal â’ch cyfleoedd lleol eich hun i gael y cyhoeddusrwydd mwyaf posibl i’ch teithiau.
Mae’r daflen cyngor ar gael oddi wrth Cerddwyr Cymru – mae’r manylion cyswllt isod.
Enillydd cystadleuaeth Ffotograffau Llongyfarchiadau i Mr Alan Spiller o Ddinas Powys am y ffotograff hudolus hwn o dan y teitl ‘Goleuni’r gaeaf – Gwlyptiroedd Casnewydd’. Mae’n ennill rycsac, drwy garedigrwydd Cotswold Outdoor. Byddai dda gennym weld mwy o lluniau oddi wrth chi i gyd. TUDALEN
6
rambler_67_CYMRAEG
21/11/07
10:20 AM
Page 7
Y
GWEITHIO AR RHAN CERDDWYR
HYRWYDDO CERDDED >>>
Troeon Trên
Ffoto: Nick Treharne
Teithiau Cerdded Gwyl ˆ y Gaeaf A
yw eich grˆ wp chi wedi trefnu teithiau rhwng 26 Rhagfyr a 2 Ionawr? Yna hysbysebwch nhw ar ‘Walks Finder’ arlein Y Cerddwyr i hyrwyddo eich teithiau cerdded ymhellach i aelodau a rhai nad ydynt yn aelodau. Dyma’r amser perffaith i ddenu aelodau newydd sy’n bwriadu dechrau ar eu hadduned Blwyddyn Newydd drwy ymuno â’r Cerddwyr. Gellir cynnwys pob gradd a phellter. Mae posteri dwyieithog y gellwch chi eu llenwi ar gael oddi wrth Y Cerddwyr Cymru.
I gael mwy o wybodaeth am y pynciau ar y tudalennau hyn cysylltwch ag Anwen Parker ar 029 2064 4308 neu e-bostiwch anwenp@ramblers.org.uk
W
edi diflasu gyda theithiau arferol Y Cerddwyr? Chwilio am daith gerdded wahanol? Yna beth am roi cynnig ar ddefnyddio’r rheilffordd yn hytrach na’ch car i ddechrau eich taith? Mae ‘Troeon Trên’ yn galluogi pobl i fwynhau cerdded heb y straen o ddefnyddio car. Mae’r trên hefyd yn rhoi cyfle i fwynhau agwedd wahanol ar gefn gwlad o gysur eich sedd yn y trên – a chyfle braf i eistedd yn ôl ac ymlacio ar y ffordd adref! Mae gan Gymru rwydwaith ardderchog o reilffyrdd gwledig sy’n hygyrch o drefi a phentrefi ar draws y wlad. O linell Dyffryn Conwy yn y Gogledd; i linellau’r Cambrian a Chalon Cymru (sydd gyda’i gilydd yn gwasanaethu Powys, Ceredigon, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin), hyd at linell Rheilffordd y De Orllewin i Sir Benfro; a heb anghofio rheilffyrdd y Cymoedd. Maent i gyd yn rho mynediad ardderchog i wlad gerdded ardderchog. Fel gyda llawer o deithiau cerdded yn ein rhaglenni, cynigir amrywiaeth o bellteroedd a graddau. Bydd llawer yn deithiau cylchol, ond mae Troeon Trên yn rhoi cyfleoedd newydd i gerdded o un orsaf i’r llall. Sefydlwyd Troeon Trên ym 1987, gan grˆ wp craidd oedd yn darparu teithiau cerdded yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau. Dros nifer o flynyddoedd, maent wedi datblygu dewislen o
gannoedd o deithiau cerdded – sydd i gyd o fewn taith ddychwel y gallwch ei gwneud mewn diwrnod o’r Amwythig. Yn awr mae Troeon Trên yn ehangu ac ym mis Ionawr 2008 bydd rhaglen ar gyfer Cymru gyfan yn cael ei lansio ar y cyd ag Arriva Trains Wales. Bydd y rhaglen yn cynnig dros 100 o deithiau cerdded ar draws Cymru. Beth am ddal y trên o Gaerdydd ar fore braf o haf i Lanilltyd Fawr ar yr arfordir treftadaeth i gerdded ar hyd y clogwyni gyda golygfeydd draw at arforlin Gwlad yr Haf? Neu beth am grwydro o amgylch y Trallwng yn y Gwanwyn gyda’i lu o adeiladau ffrâm bren gyda thaith hamddenol i’w cherdded yn dilyn hynny o amgylch gerddi Castell Powis. Bydd rhaglenni Troeon Trên wedi eu hargraffu ar gael o’r holl orsafoedd perthnasol yng Nghymru ac maent ar gael hefyd o’r Canolfannau Croeso lleol. Bydd y rhaglen ar gael hefyd i’w lawrlwytho o wefan Y Cerddwyr. Os na allwch aros tan fis Ionawr, yna gellir edrych ar y rhaglen gyfredol yn www.ramblers.org.uk/wales/railrambles
GRWPIAU ~ GRWPIAU ~ GRWPIAU ~ GRWPIAU A yw troeon trên yn rhan o raglen eich gr wp ˆ chi? Hoffech chi i’r teithiau cerdded hyn gael eu hychwanegu at raglen Cymru gyfan a fydd yn cael ei dosbarthu i orsafoedd lleol ar y llwybrau ac i Ganolfannau Croeso. I ddarganfod mwy galwch Anwen (manylion gyferbyn). TUDALEN
7