Welsh Rambler 68 - Cymraeg

Page 1

rambler_68_CYMRU_b

12/3/08

12:49 PM

Page 1

Y YR ELUSEN SY’N GWEITHIO AR RAN CERDDWYR

RHIFYN 68

Cerddwyr Cymru yn gadael i’r trên gymryd y straen hynod o falch o fod yn cymryd rhan ym mhrosiect ‘Troeon Trên’ am yr wythfed flynedd yn olynol. Mae’r prosiect hwn yn dangos pa mor hawdd yw hi i fynd am dro ymhellach i ffwrdd ond heb y costau ychwanegol o dalu am betrol neu barcio.” Meddai Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, “Mae gan Gymru rwydwaith rheilffordd wledig ardderchog sy’n hygyrch o drefi a phentrefi ar draws y wlad. O linell Dyffryn Conwy yn y gogledd, i linellau’r Cambrian a Chalon Cymru (sydd gyda’i gilydd yn gwasanaethu Powys, Ceredigion, Gwynedd a Sir Gaerfyrddin) ac i Linell Rheilffordd y De Orllewin allan i Sir Benfro; a heb anghofio llinellau’r Cymoedd – maent i gyd yn rhoi mynediad gwych i wlad ardderchog i gerdded ynddi.”

‘Troeon Trên’ Caerdydd yn mynd heibio adeilad Pierhead

eth cerddwyr allan yn y glaw yn ddiweddar i fynd am dro gwahanol – defnyddio’r trên i gyrraedd a dod adref o’r tro yn hytrach na chymryd y car. Mae Cerddwyr Cymru mewn partneriaeth gydag Arriva Trains Wales wedi cynhyrchu cyfres o deithiau tywys wythnosol yn dechrau ac yn diweddu o orsafoedd rheilffordd ar draws Cymru.

Meddai Gwyn Lewis, gwirfoddolwr lleol gyda’r Cerddwyr, “Mae mynd am dro gan ddefnyddio’r trên yn ffordd wych i bobl grwydro ymhellach i ffwrdd heb orfod gyrru. Bonws ychwanegol o beidio defnyddio car yw gallu cerdded o un orsaf i’r llall a pheidio gorfod meddwl am gasglu’r car.”

ydynt eisiau poeni am ddefnyddio eu car. Byddant yn eich helpu i fynd yn ffit ac yn rhoi cyfle i chi wneud ffrindiau cerdded newydd.”

Cedwir rhaglenni Arriva Trains sydd wedi eu hargraffu yn yr holl orsafoedd rheilffordd yng Nghymru ac yn y canolfannau croeso lleol. Gellir lawrlwytho rhaglen o www.ramblers.org.uk/wales/railrambles.

A

Mae cynllun y ‘Troeon Trên’ a lansiwyd gan Jane Davidson AC, Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, yn gadael i bobl fwynhau cerdded heb y straen o ddefnyddio’r car, a mwynhau teithio cynaliadwy sy’n creu llai o lygredd. Mae’r trên hefyd yn rhoi mwy o gyfle i fwynhau agwedd wahanol ar gefn gwlad o gysur sedd yn y trên – yn ogystal â chyfle i eistedd yn ôl ac ymlacio ar y ffordd adref!

Meddai Ben Davies, Rheolwr Cyswllt â Rhanddeiliaid Arriva Trains Wales, “Rydym yn

Sefydlwyd Troeon Trên ym 1987, a deilliodd o gr w ˆ p craidd oedd yn darparu teithiau cerdded yng Nghanolbarth Cymru a’r Gororau. Bellach mae Troeon Trên wedi ehangu ac o fis Ionawr 2008 cyhoeddwyd rhaglen ar gyfer Cymru gyfan drwy gydweithrediad ag Arriva Trains Wales. Mae’r rhaglen yn cynnig dros 100 o droeon ar draws Cymru. Fel gyda throeon eraill a gynigir gan Gerddwyr Cymru, maent am ddim a chynigir amrywiaeth o bellterau – o droeon hanner diwrnod i anturiaethau diwrnod o hyd. Mae llawer ohonynt yn deithiau cylchol, ond mae Troeon Trên yn rhoi cyfleoedd newydd i gerdded o un orsaf i’r llall. Meddai Beverley Penney, Cyfarwyddydd Cerddwyr Cymru, “Dyluniwyd y teithiau hyn yn arbennig ar gyfer pobl a hoffai fynd am dro ond nad

Y Gweinidog Jane Davidson AC gyda Cherddwyr Caerdydd yng Ngorsaf Ffynnon Taf. TUDALEN

1


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.