Wales_Tourism_04_CYM

Page 1

tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:32 PM

Page 1

Argraffiad 2 • Tachwedd 2004

Cynghrair Twristiaeth Cymru

Wales Tourism Alliance

Rhifyn Arbennig Cynhadledd CTC 2004 Llywodraeth Llywodraeth Cynulliad Cynulliad Cymru Cymru AA Thwristiaeth: Thwristiaeth: YY Ffordd Ffordd ii Ad-Drefnu Ad-Drefnu

Creu Sylfeini i Ddyfodol Twristiaeth

Ysmygu: Pwnc Llosg Y Flwyddyn Nesaf?

2004 – Golwg Ar Y Flwyddyn

Gweinidog Yn Addo Rhan o Bwys i’r Diwydiant


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:32 PM

Page 2


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 3

NEGES CADEIRYDD CTC

Creu Sylfeini i Ddyfodol Twristiaeth Gan Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru CROESO CYNNES i drydedd gynhadledd flynyddol Cynghrair Twristiaeth Cymru yng nghyrchfan y Celtic Manor, Casnewydd.

diwydiant twristiaeth. Mae Andrew Davies wedi mynegi’n glir ei fod am i ni chwarae’r rhan ganolog wrth gynorthwyo gyda chyflwyno a rhoi ar waith y trefniadau strwythurol newydd. Mae’n disgwyl i CTC ddarparu barn, arbenigedd a syniadau’r diwydiant i’r Cynulliad i’w alluogi i adeiladu ar y sylfeini cadarn y bydd BCC yn eu gadael yn eu lle.

Eich fforwm chi yw’r gynhadledd flynyddol ac eleni mae’n rhoi cyfle i chi ddylanwadu ar ffurf twristiaeth yng Nghymru am ddegawdau i ddod. Mae Cynhadledd 2004 yn fan canolog yn y trafodaethau rhwng y diwydiant a’r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â chyfeiriad cefnogaeth y Llywodraeth yn y dyfodol i dwristiaeth yng Nghymru yn dilyn penderfyniad LLCC i wneud BCC yn fewnol.

Mae’n safle ddylanwadol sydd yn ei thro yn gosod gofynion mawr ar ein haelodau a’n swyddogion. Rhaid i ni arddangos cyfrifoldeb, egni, arbenigedd a chred gadarn. Rhaid adeiladu sefyllfa o’r fath ar sylfaen gadarn; Cynhadledd CTC yw’r sylfaen honno.

Bydd pob agwedd ar gymorth cyllidol y Cynulliad, o ymgyrchoedd marchnata rhyngwladol i grantiau Adran Pedwar, dan reolaeth newydd.

Llwyfan yw Cynhadledd 2004 i greu partneriaeth weithredol gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’n gyfle anturus ac mae’ch cydweithrediad chi’n hanfodol os ydym i chwarae’n iawn ran arweiniol yng nghynllunio’r map a’n cyfarwydda at adrefnu.

Rwy’n falch iawn y bydd y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, Andrew Davies, yma i roi i ni’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau. Bydd Mr Davies, a Chadeirydd BCC Philip Evans yn siarad yn sesiwn edrych tua’r dyfodol Dydd Llun.

Rwy’n addo nad caledwaith fydd y cyfan – bydd siaradwr gwâdd llwyddiannus iawn y llynedd, Billy Dixon yr arbenigwr ar iaith ystum, yn dychwelyd i Gynhadledd 2004-

Julian Burrell yng nghynhadledd CTC 2003

felly cymrwch ofal o’ch gwisg, eich safiad, eich ymgyflwyniad a’ch ymarweddiadau a gwedd eich wyneb – bydd llygaid Billy arnoch! Mae’n cinio nos Sul yn siwr o fod yn achlysur mawreddog, ar dir y safle anhygoel hon a chyda’r ocsiwn elusennau sy’n sefydledig bellach fydd yn gwagio’ch pocedi at achos da. Mae trydedd gynhadledd CTC yn siwr o fod yn un hanesyddol a dymunol; gwnewch yn siwr eich bod yn ei mynychu ac yn helpu ffurfio dyfodol y diwydiant yng Nghymru.

Mae Andrew Davies wedi mynegi’n glir ei fod am i ni chwarae’r rhan ganolog wrth gynorthwyo gyda chyflwyno a rhoi ar waith y trefniadau strwythurol newydd.

Bae Baraffwndle, Sir Benfro

Rydym, fel corff masnachol, wedi cerdded ymhell yn y blynyddoedd diwethaf. Rydym wedi datblygu cydlynedd, cyfrifoldeb a chynrychiolaeth sydd wedi ei arddangos ei hun yn amlwg yn ein hymwneud â phob lefel o Lywodraeth.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach am Gynghrair Twristiaeth Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn y cyfeiriad isod: Cynghrair Twristiaeth Cymru, Llawr Un, Dominions House North Heol y Frenhines, Caerdydd. CF10 2AR FFÔN: 029 2038 4440 FFACS: 029 2039 9392 E-BOST: info@wta.org.uk

© Bwrdd Croeso Cymru

Mae CTC bellach yn rym i’w gymryd o ddifrif; derbynnir yn gyffredinol mai ni yw llais y

3


tourism_04_pages_welsh_c

NEWYDDION

A

24/10/04

2:33 PM

Page 4

BARN CTC

MAE SWYDDOGION CTC am ymgyrchu yn 2005 am welliannau mewn tri pheth sy’n fwgan cyson yn y diwydiant, oll yn ymwneud â darpariaeth gwasanaethau cefnogi ymwelwyr gan Awdurdodau Lleol. Mae’r pwyntiau hyn yn codi’n rheolaidd mewn trafodaethau rhwng gweithwyr proffesiynol yn y diwydiant a chynrychiolwyr CTC ac, o ganlyniad, ymron yn ddi eithriad yn nhrafodaethau’r Cynghrair â gwleidyddion a swyddogion Llywodraeth. Dyma nhw: Canolfannau Gwybodaeth Twristiaeth: “Mae’r rhan fwyaf o GGTau yn cael eu dal rhwng dau rym – cyfyngiadau cynyddol ar gyllid ALL a llai o fudd oddi wrth

wasanaethau traddodiadol”. Mae hyn wedi ei godi mewn gwirionedd allan o ddogfen ymgynghorol sy’n cylchredeg yn Lloegr ar hyn o bryd ond mae’n berthnasol i lawer ardal yng Nghymru; Toiledau: - Pwnc sy’n codi o hyd mewn cyfarfodydd yw methiant rhai Cynghorau i gadw toiledau ar agor y tu allan i’r tymor – a phan fyddant ar agor, i’w cadw’n lân. Arwyddion: - A dyfynnu CTC – “tra mae’r Cynulliad wedi mabwysiadu agwedd unffurf at arwyddion ar lefel genedlaethol, mae amrywiaeth ymhlith Allau unigol. Y canlyniad yw diffyg cysondeb a safonau gwrthgyferbyniol drwy Gymru”.

Ystyriaethau cyllidol sy’n gyfrifol am y rhan fwyaf o’r uchod ond rhan ohono hefyd yw’r pwysigrwydd a osodir gan Awdurdodau Lleol unigol ar dwristiaeth. Pan fydd eu cyllidebau dan bwysau, fe ddichon y bydd y sector gwasanaethau cefnogi ymwelwyr yn dioddef – er colled i’r diwydiant twristiaeth ac yn wir i’r economi leol a chenedlaethol. Y flwyddyn nesaf mae CTC yn bwriadu ymgyrchu’n eang ac yn gadarn i ddadlau’r achos dros ddarparu gwell gwasanaethau a rhoi cyllid digonol i’n gwasanaethau i’n hymwelwyr.

Y Rali Yn Hybu Busnes De Cymru Gan Dr Colin Rouse, Cymdeithasau Twristiaeth Lleol Yn Ne Orllewin Cymru LANSIO “GALLU” YW’R

datblygiad mwyaf arwyddocaol a fu yn ne a gorllewin Cymru dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Prosiect Amcan Un ESF yw hwn gyda Phartneriaeth Twristiaeth De Orllewin Cymru, Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru a’r bedair Cymdeithas Dwristiaeth leol oll yn cydweithio. Mae wedi ei anelu at fusnesau micro ac SME sy’n cael effaith ar brofiad ymwelwyr. Bydd yn helpu datblygu a chynnal busnesau twristiaeth, yn gwella lefelau gwasanaeth, gweithdrefnau cyflogaeth ac yn hybu cystadleuaeth. Mae’r prosiect yn cyflogi cydlynydd rhanbarthol a dau hwylusudd ardal fydd yn gweithio drwy’r bedair cymdeithas dwristiaeth leol. Mae Cymdeithas Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor Sir, Partneriaeth Dwristiaeth De Orllewin Cymru ac ADC wedi derbyn cyllid Amcan Un

i ddatblygu seiliau ei haelodaeth. Dan yr enw “Datblygiad Rhwydwaith Dwristiaeth Sir Gaerfyrddin” bydd yn darparu cyllid o dros £250,000 y flwyddyn am y tair blynedd nesaf. Bydd hyn yn caniatau cyflogi tri swyddog amser llawn fydd yn gweithio gyda’r gweithwyr yn y maes i gynorthwyo busnesau i ddod yn fwy cystadleuol ac yn sicrhau fod y sector yn gwneud pethau angenrheidiol. Unwaith eto, mae Rali PF Cymru newydd wibio (mewn amrantiad, ymadawsant!) drwy dde a gorllewin Cymru. Mwy o wlâu wedi’u llenwi oedd nodwedd y penwythnos drwy’r rhanbarth – er gwaetha’r ffaith mae ar Gaerdydd yr oedd y rali’n canolbwyntio. Trodd Geoff Haden, (cadeirydd Twristiaeth Abertawe) ei hunan-arlwy yn ardal wasanaeth fechan i dri tîm ac mae’n edrych ymlaen at sefydlu partneriaeth farchnata rhwng rasio Honda ac Abertawe. Cododd gosod yr ardal ail – lenwi yng Ngardd Fotanegol Genedlaethol Cymru broffil cyhoeddus yr ardd ac mae’n sicr i’r ardal wasanaeth yn Felindre osod Abertawe ar y newyddion rhyngwladol. Ni chafodd rhagwelediad Andrew Davies, Gweinidog Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, yn dod â’r rali i’r rhanbarth ei gydnabod eto gan lawer, er yr holl fudd a ddaeth i’r cylch. Yn anffodus, oherwydd i’r Rali gael ei dwyn ymlaen o ddeufis, roedd y digwyddiad yn cydredeg â’r Treialon C wn ˆ Defaid Rhyngwladol yn Nyffryn Tywi. Denodd y digwyddiad hwnnw lawer o deuluoedd o

Rali Cymru 2004

4

Aelodau o Gr w ˆ p Gwyliau Fferm a Gwlad Sir Gaerfyrddin yn y Treialon Cˆ wn Defaid Rhyngwladol yn Nyffryn Tywi

bob rhan o’r byd i Ddyffryn Tywi a gwariasant yn hael ar fwyd a llety dros gyfnod o dridiau. Ni ddifethodd boddfa leidiog y diwrnod olaf yr hwyl ond daeth ag atgofion yn ôl o Sioe Frenhinol Cymru yn y dyddiau pan symudai rhwng y Siroedd! Dychwelodd pawb adref gyda golwg gadarnhaol ar dwristiaeth yn ne orllewin Cymru, a gyda rhywfaint o’n llaid!

© Bwrdd Croeso Cymru

Ymgyrch i Roi Blaenoriaeth i Gyfleusterau i Ymwelwyr


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 5

NEWYDDION

A

BARN CTC

Bancio Ar Dwristiaeth Gogledd Cymru Gan Esther Roberts, Twristiaeth Gogledd Cymru BU LLYWODRAETHWR BANC Lloegr Mervyn King yn annerch 80 aelod o Dwristiaeth Gogledd Cymru mewn Seminar Brecwast a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Imperial, Llandudno fis Gorffennaf. Roedd y Llywodraethwr ar gyrch canfod ffeithiau yng Ngogledd Cymru a gofynodd am gael cyfarfod ag aelodau’r Cwmni, oedd yn gydnabyddiaeth o bwysigrwydd y diwydiant i economi’r rhanbarth ac o swyddogaeth y sector fusnes ganolig a llai ei maint mewn awyrgylch anffurfiol. Gofynnodd y Llywodraethwr am gwestiynau a barn gan y gynulleidfa. Cydnabuwyd pwysigrwydd Twristiaeth Gogledd Cymru fel sefydliad masnachol ymhellach gyda phenodi Sandie Dawe, Cyfarwyddwr Cyfathrebu VisitBritain yn Gynghorydd ar y Bwrdd. Mae cyfraniad Sandie eisoes yn neilltuol o werthfawr.

yng Ngogledd Cymru, gan gynrychioli diddordebau ei aelodau ar lefelau lleol a rhanbarthol ac yn genedlaethol drwy Gynghrair Twristiaeth Cymru. Mae’n naturiol fod ein haelodau yn pryderu ynglyn ag oblygiadau posibl penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd BCC i mewn i’w gweinyddiaeth ei hun. Bydd gweithio gyda phartneriaid o fewn y diwydiant yn sicrhau parhad yr elfennau hanfodol o gefnogaeth a roddai BCC. Mae penderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cadarnhau pwysigrwydd bodolaeth sefydliad twristiaid cryf seiliedig ar aelodau sy’n abl i warchod buddiannau ein diwydiant dros y tymor hir. Gwesty’r Imperial, Llandudno

Mae’r cwmni wedi parhau i gyflenwi ystod eang o wasanaethau i fwy na 1200 o aelodau o bob sector o’r diwydiant twristiaeth. Mae’r gwasanaethau a ddarparwyd yn cynnwys cyfleoedd marchnata rhanbarthol a chyngor busnes i’r diwydiant. Un o’n gwasanaethau mwyaf gweladwy yw ein gwasanaeth dosbarthu a ddosbarthodd dros 7 miliwn o daflenni hyrwyddo i allfeydd drwy’r rhanbarth, Canolbarth Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr yn 2003. Yn ychwanegol at wasanaethu ei aelodau mae TGC yn gweithio gydag ystod o sefydliadau twristiaeth i gyflenwi prosiectau gyda’r amcan o godi proffil y rhanbarth fel cyrchfan wyliau yn ogystal â gwasanaethu’r ymwelydd drwy reoli 16 o Ganolfannau Gwybodaeth Twristiaid yn y rhanbarth. Yn bwysicaf oll mae TGC yn rhoi llais cryf i’r diwydiant twristiaeth

5


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 6

CTC YN EDRYCH YN ÔL

Mae Blwyddyn Yn Amser Maith Mewn Gwleidyddiaeth. Ond i Dwristiaeth Gymreig… Dyma

Deuddeng Mis Ym Mywyd CTC 2003

TACH

DIOLCHODD JULIAN BURRELL, Cadeirydd CTC i gynadleddwyr, noddwyr a threfnwyr wedi ail gynhadledd lwyddiannus iawn CTC yn Llandudno.

Roedd ffigyrau ymwelwyr â Chymru am 2003 – hyd at ddiwedd Gorffennaf yn cymharu’n dda â rhannau eraill o’r DU. Roedd nosweithiau ymwelwyr, o’u cymharu â 2002, 21% yn uwch- gyda dim newid yn Yr Alban, lleihad o 7% yn Lloegr a lleihad o 8% yng Ngogledd Iwerddon. Roedd gwariant yng Nghymru dros y cyfnod hwn yn £1,300 miliwn, i fyny o 20% ar 2002. Codiad o ddim ond 2% a welwyd yn yr Alban gyda gostyngiad o 1% yn Lloegr a gostyngiad o 29% yng Ngogledd Iwerddon. Trefnodd BCC Arddangosfa Cymru yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 26 – 27 Tachwedd – a rhoddodd gyfle ardderchog i’r fasnach gyfarfod ag ystod eang o gwmniau tramor. Ymhlith sylwadau masnachwyr caed:“Llawer o ymholiadau o ddifrif”; “Trefniadaeth wych”; “ Ffarwel i Farchnad Deithio’r Byd; Helo Arddangosfa Cymru”; “Gwnaeth y drefniadaeth argraff fawr arnaf; cafodd y prynwyr eu hedrych ar eu holau’n dda iawn”; “Mwy o ymholiadau o ddifrif mewn un bore nac yn y dyddiau ym Marchnad Deithio’r Byd”.

Yn y llun o ginio’r CTC yng Nghynhadledd y llynedd, o’r chwith i’r dde, mae Geoffrey Lofthouse o Westy’r Imperial, yr ymgynhorydd annibynnol, Dr Adrienne Sweeney a Mick Payne, Cadeirydd Twristiaeth Rhanbarth y Brifddinas

BYDDAI BUDD MAWR yn deillio i economi wledig Cymru yn dilyn sgil effeithiau busnesau twristiaeth lleol sydd wedi cael blwyddyn lewyrchus iawn i ymwelwyr, meddai Julian Burrell yn Ffair Aeaf Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.

2003

RHAG

Roedd Llywodraeth y Cynulliad wedi darparu cyllid o gyfanswm o £42m i BCC y llynedd- bron ddwywaith y cyllid blaenorol. “Eleni am y tro cyntaf yn yr amserau diweddar cafodd y Bwrdd gyfle gwirioneddol i fynd rhagddo gyda grym go iawn ac ennill ymwelwyr mewn marchnad gystadleuol tu hwnt,” meddai. “Mae Twristiaeth yng Nghymru yn chwistrellu arian i economiau lleol, yn aml i’r rhai gwannaf, gan gadw cymunedau’n fyw. Mae’r hyn a ddaw’n ôl lawer yn fwy na’r £42m a fuddsoddwyd – rydym yn ddiwydiant miliynau-ar-filiynau o bunnoedd gyda changhennau ymhob tref a phentref yng Nghymru.”

Arddangosfa Cymru 2003

6

Cyflwynodd ymgynghorwyr adroddiad drafft i Weithgor Cofrestru Statudol y Cynulliad

oedd yn ymdrin â’r pryderon a’r ymholiadau a godwyd gan ACau a gan y fasnach. Penodwyd Richard Tobias, Is Gadeirydd predennol Cynghrair Twristiaeth Lloegr yn Brif Gyfarwyddwr. Cymrodd Digby Jones swyddogaeth newydd y Llywydd. Daeth Bob Cotton yn gadeirydd y bwrdd rheoli ac Ian Reynolds o ABTA yn drysorydd. YN EI NEGES aelod Blwyddyn Newydd, dywedodd Julian Burrell fod CTC wedi cyflawni llawer mewn amser byr ac wedi llwyddo i raddau helaeth i gael gwared â’r enw dilornus ‘diwydiant ar chwâl’ a fu’gysylltiedig â thwristiaeth gyhyd.

2004

ION

Enillodd Bythynnod Gwyliau Pentre Bach , Llwyngwril, a redir gan Margaret Smyth, IsGadeirydd WASCO Wobr Fusnes Twristiaeth Gynaliadwy yng Ngwobrau Amgylcheddol Rhwydwaith Arena Cymru yn ddiweddar. Lansiwyd ymgyrch Gwlad Eang BCC ar y teledu am bedair wythnos fis Ionawr ar ITV Canolog, Granada, HTV Gorllewin, Llwybr yr M4 a rhanbarthau Hampshire ac ar deledu lloeren cenedlaethol.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 7

CTC YN EDRYCH YN ÔL ANOGODD CTC BOB Aelod Seneddol Cymreig o Dˆy’r Cyffredin yn San Steffan i gefnogi Cynnig cynnar-yn-ydydd a alwai am ostyngiad TAW ar dwristiaeth. Ac eithrio yr Almaen a Denmarc, y DU yw’r unig wlad o fewn yr UE sydd heb gyfradd TAW is i dwristiaeth.

2004

CHW

Cafwyd – ac ymladdwyd – awgrymiadau y gallai Awdurdodau Lleol godi treth twristiaeth neu ‘dreth wlâu’ ar westai fel ffynhonnell incwm ychwanegol. Credai Bob Cotton, Prif Weithredwr Cymdeithas Groeso Prydain fod unrhyw awgrym o dreth twristiaeth, ar ben y TAW a delir eisoes gan ymwelwyr, yn anheg mewn egwyddor ac y byddai anawsterau mawr yn codi parthed ei ddehongli a’i gasglu. Bu CTC yn ceisio barn y diwydiant ar awgrymiadau diweddar y dylai Cymru gael ei diwrnod o wyliau cyhoeddus ei hun i ddynodi Dydd Gwˆyl Dewi. CYFARFU CADEIRYDD CTC Julian Burrell âg Andrew Davies y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, i fynegi pryderon y diwydiant ynglyn ag adroddiadau yn y Wasg am gwtogi ar gyllid Twristiaeth am y flwyddyn i ddod.

2004

MAW

Tawelodd y Gweinidog ofnau CTC gan ddweud y byddai BCC yn derbyn dros £22.5m o gymhorthdal sylfaenol yn 200405 – cynnydd o ryw £300K ar y lefel uchaf eto a gaed yn 2003-04. Disgwylid y byddai BCC hefyd yn derbyn dros £10.8m ar gyfer prosiectau cyllid EU a gymeradwywyd a/neu raglenni Cymal1 oedd yn dirwyn i ben. Yn 2004-05 mae BCC yn gwybod eisoes y bydd yn derbyn rhyw £4.9m i’w cwblhau. Bu trafodaethau rhwng WEFO a swyddogion Llywodraeth y Cynulliad ac roedd swyddogion BCC yn paratoi i gyflwyno ceisiadau newydd ac

© Bwrdd Croeso Cymru

Cafodd CTC ymateb cadarnhaol iawn a byddai’n ail bwysleisio’r achos yn ystod cyfres o ymweliadau âg ASau Cymreig yn ystod y misoedd i ddod.

Gwyliau ysgol yn gweld miloedd yn tyrru at draethau ledled Cymru

ymarferol ar gyfer ail gymalau ei Gynnal a Marchnata Busnes Integreiddedig. CAFODD CTC ymateb da iawn oddi wrth ACau parthed mesur a lansiwyd yn Nhˆy’r Arglwyddi gan yr Arglwyddess Finlay o Landaf fyddai’n rhoi grym i’r Cynulliad wahardd ysmygu mewn tafarndai a thai bwyta. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Jane Hutt, wrth CTC petai’r Cynulliad yn cael y grym i wahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus “y byddai’n awyddus i wrando ar farn gwahanol sectorau cyn ymgymryd âg unrhyw reoliadau drafft”.

Thrafnidiaeth i drafod adroddiad LLCC. DAETH SÔN eto am newid gwyliau ysgol traddodiadol. Ymhlith yr awgrymiadau, cafwyd pythefnos o wyliau sefydlog ym Mis Ebrill heb fod yn gysylltiedig â’r pasg; arholiadau yn Ebrill/Mai; cwtogi ar wyliau’r haf, pythefnos o wyliau ym Mis Hydref a chychwyn cynt i’r gwyliau ym Mis Gorffennaf gan ddod i ben ynghanol Awst. Lansiodd BCC wefan gynllunio taith lawn gwybodaeth a rhwydd-i’w-defnyddio (www.traveltradewales.com) i’w gwneud yn haws i rai’n gweithredu dramor ac yn y DU i gysylltu â phersonau cyswllt yn y diwydiant ac i greu rhaglenni ymwelwyr.

Torrodd CTC dir newydd gyda chynrychioli aelodau pan ymunodd dau o’i Swyddogion mewn sesiwn awr o hyd o holi ac ateb gan Bwyllgor LLCC ar Gofrestru Statudol ym Mae Caerdydd ar Ddydd Mercher. M y n y c h o d d Cadeirydd CTC Julian Burrell ac Aelod Swyddogaeth CTC Gogledd Cymru, Is G a d e i r y d d Cymdeithas Groeso Prydain y DU, David Williams, y Pwyllgor D a t b l y g u Economaidd a

Cadeirydd CTC Julian Burrell (chwith) gyda ‘r Gweinidog DET Andrew Davies yn Nerbyniad CTC yn y Cynulliad Cenedlaethol

7


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 8

CTC YN EDRYCH YN ÔL

Mae Blwyddyn Yn Amser Maith Mewn Gwleidyddiaeth. Ond i Dwristiaeth Gymreig… Dyma

Deuddeng Mis Ym Mywyd CTC 2004

EBR

NODDODD ANDREW DAVIES, GWEINIDOG DET, dderbyniad i aelodau CTC, i ledaenu gwybodaeth am faterion Twristiaeth a gweithgareddau’r Cynghrair yn y Cynulliad yn Mawrth.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr, gyda 23 o’r 60 Aelod o’r Cynulliad yn galw i mewn i drafod materion twristiaeth yn ystod yr ymgyfarfod 90 munud gyda’r pymtheg cynrychiolydd CTC o’r diwydiant a allodd fynychu o bob rhan o Gymru. Cyfarfu CADEIRYDD WASCO Howard Jenkins a Chadeirydd CTC â chynrychiolwyr Asiantaeth y Swyddfa Brisio i drafod pryderon y diwydiant parthed y Ffurflenni Treth Busnes ar eu newydd wedd a anfonwyd at weithredwyr hunan arlwyo. Penododd CTC Dwristiaeth Canolbarth Cymru i hwyluso’r trafodaethau i ffurfio fforwm i ddarparwyr sector lletai bychan â gwasanaeth.

© Bwrdd Croeso Cymru

Datblygodd ac ail frandiodd WAVA a BCC y cynllun Prif Ddeniadau i gynhyrchu’r Gwasanaeth Sicrhau Ansawdd Deniadau Ymwelwyr.

2004

MAI

CYFARFU CADEIRYDD CTC Julian Burrell â chynrychiolwyr Llywodraeth a seneddol i’w diweddaru ar bynciau allweddol twristiaeth Gymreig mewn cyfres o gyfarfodydd yn Nhˆy’r Cyffredin.

Gwnai DonTouhig (Islwyn), Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Swyddfa Cymru; Roger Williams AS (Brycheiniog a Maesyfed); Hywel Williams AS (Caernarfon) a David Hanson AS (Delyn, hefyd YPS i’r Prif Weinidog) gynulleidfa o lefel uchel ar draws Cymru i’r rhannu gwybodaeth hwn. Roedd CTC yn falch iawn o gyhoeddi fod Y Clwb Carafanau a’r Clwb Carafanio a Gwersylla wedi dod yn aelodau o CTC yn ystod y mis diwethaf. Mae CTC, mewn cydweithrediad â Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru newydd gyhoeddi pecyn rheolaeth Adnoddau Dynol ar gyfer y diwydiant twristiaeth. Deliodd Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd â 1.94 miliwn o deithwyr yn y flwyddyn yn darfod 31 Mawrth; mae hyn i fyny o 1.51 yn y 12 mis blaenorol. ANERCHODD Y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Andrew Davies Gyfarfod Swyddogion Cynghrair Twristiaeth Cymru a Chyfarfod Cyffredinol yr Aelodau yn Llanelwedd ym Mai – y tro cyntaf i Weinidog o’r Llywodraeth fynychu a chymryd rhan mewn cyfarfod gwaith o GTC.

2004

MEH

Mewn sesiwn ddwyawr lawn gwybodaeth holodd aelodau CTC y Gweinidog – a’i uwch was suful Bob Macey – ar gymorthdaliadau Adran Pedwar, y meini prawf ar gyfer dyfarniadau grant, hyfforddi, Cyllido BCC a Chofrestru Statudol a Harmoneiddio Graddoli. Croesawodd Cadeirydd CTC Julian Burrell greu’r Fforwm Sector Lletai Bychan â Gwasanaeth a’i Gadeirydd newydd June Jenkins a dywedodd ei fod yn credu fod hyn yn gam pwysig arall ymlaen gyda gwella cyfathrebu rhwng y fasnach, BCC a’r Llywodraeth.

Teithwyr yn mynd i’r awyren ym Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd

8

Lansiodd Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru (FFHTC) wefan newydd sy’n rhoi cyngor a gwybodaeth ar redeg busnes

Anerchiad fideo Andrew Davies yng Nghynhadledd CTC y llynedd

twristiaeth yng Nghymru. Mae’r safle, www.whodoiask.com yn annibynnol, am ddim i bob gweithredydd twristiaeth ac yn amcanu rhoi cymorth i fusnesau sefydledig yn ogystal â rhai newydd neu’r rheini sydd am arallgyfeirio i’r diwydiant. Cynhyrchodd Arolwg Twristiaeth y DU rhai ffigyrau diddorol iawn ar gyfer gwariant ymwelwyr yng Nghymru:- roedd Arosiadau Byr (3 noson neu lai) i lawr 13 y cant; arosiadau o bedair noson hyd at wythnos i fyny 24 y cant ; ac arosiadau o dros wythnos – cynnydd aruthrol o 61 y cant. Ymrwymodd y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Andrew Davies i barhau i ddal i ystyried posibiliadau darparu gwasanaethau awyr y tu mewn i Gymru yn enwedig rhwng y De a’r Gogledd. YR ARWYDDION oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru oedd y byddai twristiaeth yng Nghymru yn debygol o dderbyn cyllid cyfatebol am y flwyddyn gyfredol. Y Gynghrair oedd y cyntaf i amddiffyn cyfran y diwydiant ac aethpwyd at y Gweinidog DET, Andrew Davies, sawl gwaith. Ni ryddhawyd unrhyw ffigyrau swyddogol ond credid y gall fod swm o dros £40m ar gael – pell iawn o’r ffigyrau a awgrymwyd yn y wasg yn gynnharach ar y flwyddyn.

2004

GOR

Cynhaliwyd cyfarfod rhwng Cadeiryddion/Prif Weithredwyr Fforymau, Cydffederasiynau a Chynghreiriau Twristiaeth Lloegr, yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon yn Llundain. Pwysleisiodd Swyddogion y Gynghrair bwnc taliadau uwch Yswiriant Atebolrwydd i’r Cyhoedd (yn enwedig i ddarparwyr gweithgareddau) gydag Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 9

Roedd 72 o’r 78 traeth yng Nghymru yn cyfarfod safonau uchaf yr UE parthed ansawdd dw ˆ r yn eu harolwg blynyddol 2003. Pasiodd pum traeth arall y safon isaf a dim ond gydag un traeth – Llangrannog – y cafwyd problem.

© Bwrdd Croeso Cymru

CTC YN EDRYCH YN ÔL

Hysbysodd y Gweinidog DET Andrew Davies y Gynghrair o’i gynlluniau i roi Mesur drwy Dˆ y ’r Cyffredin a fyddai’n cynyddu’n aruthrol rym y Cynulliad parthed materion trafnidiol. Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Rhodri Morgan, y byddai’r Cynulliad yn cymryd BCC, yghyd âg ADC ac ELWa o dan ei reolaeth. Derbyniodd Cadeirydd CTC Julian Burrell sicrwydd oddi wrth y Gweinidog DET Andrew Davies, na fyddai adnoddau, gwasanaethau datblygu busnes na chefnogaeth farchnata i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn cael eu heffeithio. “Mae’r rhain yn gynigion radical a bydd llawer i’w drafod parthed yr effaith o ddydd i ddydd ar dwristiaeth,” meddai Mr Burrell. “Byddwn yn dweud wrth y Gweinidog ein bod, gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, am chwarae rhan flaenllaw yn y broses benderfynu ar y drefn newydd.” Y diwrnod wedyn cyhoeddodd CTC ddatganiad i’r wasg yn dweud y byddai’n ceisio swyddogaeth gynghori o ddydd i ddydd o fewn unrhyw strwythurau newydd gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethu a chefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Mae’n amlwg yn absenoldeb cynrychiolaeth ar Gorff Cyhoeddus dan Nawdd y Cynulliad ar gyfer twristiaeth yn 2006, fod y diwydiant yn barod i gymryd rhan uniongyrchol mewn datblygiadau gwleidyddol ac ymarferol,” meddai. “Dros yr ychydig fisoedd nesaf byddwn yn cyfarfod ag Andrew Davies, y Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, ac yn siarad â’r diwydiant ynglyn â cheisio creu diwylliant trawsnewid fydd yn gweithio tuag at ymwneud llawer ehangach gan y diwydiant yn Ebrill 2006,” meddai.

GOFYNNODD Y GWEINIDOG DET Andrew Davies i Gynghrair Twristiaeth Cymru chwarae rhan ganolog yn y misoedd i ddod i helpu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu’r protocolau traws newidiol ac ôl-gwango ar gyfer cefnogi twristiaeth.

2004

AWST

“CTC yw’r gymdeithas twristiaeth allanol allweddol,” meddai. “ Bydd Llywodraeth y Cynulliad yn dibynnu ar y Gynghrair i’n cadw mewn cysylltiad ag agweddau a barn y diwydiant yn ystod y cyfnod hwn o newid. Mae pobl sy’n aros mewn cartrefi gwyliau carafan yn cyfrannu rhyw £200m i’r economi Gymreig – tua 17% o’r cyfanswm gwariant gwyliau – yn ôl canfyddiadau arolwg annibynnol.

Traethau baner las Cymru yn cyrraedd penawdau’r newyddion yn 2004

HYSBYSODD Y GWEINIDOG DET ANDREW DAVIES aelodau CTC o gynlluniau’r Cynulliad ar gyfer Twristiaeth a chefnogaeth i’r diwydiant a phwysleisiodd y swyddogaeth bwysig fydd gan y Gynghrair i’w chwarae yn y broses.

2004

MEDI

Dywedodd y byddai’r newidiadau yn creu gwelliannau yn effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd hyrwyddo datblygu economaidd yng Nghymru ac y byddai twristiaeth yn dal i chwarae rhan flaenllaw. Byddai twristiaeth yn nodwedd amlwg yn y sefydliad cyfunol newydd, a byddai ef yn sicrhau y byddai’r ymgyrchoedd marchnata twristiaeth a redodd BCC dros y blynyddoedd diwethaf yn dal i gael eu rhedeg mewn modd blaenllym ac y byddai gan y sefydliad cyfunol newydd ganolbwynt masnachol clir.

Cyhoeddodd BCC benodiad Wieden & Kennedy i redeg eu hymgyrch hysbysebu yn y DU dros y bedair blynedd nesaf. Daeth CTC yn aelodau o Gr w ˆ p Cynghori Mwg Tybaco y Cynulliad Cenedlaethol – gyda chyfarfod cyntaf y gr w ˆ p wedi ei gynllunio ar gyfer dyddiau cynnar Tachwedd.

9


tourism_04_pages_welsh_c

NEWYDDION

A

24/10/04

2:33 PM

SYLWADAU’R GYNGHRAIR

Rhodio Gyda WASCO! Gan Howard Jenkins, WASCO CAFODD CYMDEITHAS GWEITHREDWYR Hunan-ddarpar Cymru flwyddyn brysur yn amddiffyn ac yn hyrwyddo buddiannau ei haelodau yn sector barhaus boblogaidd bythynnod gwyliau.

Dyma rai o’r pynciau y bu WASCO yn ymdrin â nhw, ar ran ei aelodau, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:– Harmoneiddio y systemau graddoli gyda Lloegr a’r Alban. Gwnaeth WASCO gyfraniad sylweddol i agweddau ymarferol posibl system wedi ei harmoneiddio gan nad yw’n ymddangos i ymgynghori ddigwydd i’r un graddau yn y gwledydd cartref eraill. Yn y trafodaethau hyn, bu WASCO yn gweithio i geisio diogelu buddiannau’r gweithredwyr hynny sy’n darparu mynediad i rai llai hwylus eu symudiadau â’r rheini â chymwysterau ‘gwyrdd’ neu adeiladau treftadaeth. Prisio Ardrethu Busnes Yn gynharach yn y flwyddyn gallodd WASCO a CTC gael deialog fuddiol gydag Asiantaeth y Swyddfa Brisio parthed yr hawliadau am wybodaeth oedd yn ofynnol ar gyfer y rhestr ardrethu ddiwygiedig. Casglu gwybodaeth ystadegol parthed y sector hunanarlwyo. Cychwynnwyd ar drafodaethau gyda BCC parthed diffygion tybiedig y drefn bresennol. Gobeithir y bydd y drefn fwy ystyrlon sy’n cael ei hargymell gan WASCO yn cael ei mabwysiadu ar gyfer y tymor nesaf. Band Eang Mae BT yn honni y bydd dros 95% o danysgrifwyr yn medru cael at y band eang erbyn canol 2005. Yn anffodus, mae’r ardal ddaearyddol a ddaw dano gryn dipyn yn llai. Cymrodd WASCO ran amlwg mewn tynnu sylw at y sefyllfa hon ac mewn ceisio ateb i’r anghyfartaleddwch cyfle hwn. Tai Aml Feddiannaeth Ymddengys fod rhai awdurdodau lleol yn rhoi eu dehongliad eu hunain ar beth sy’n dˆy o’r fath, gan gynnwys fflatiau hunanarlwyo, nad oeddynt cynt yn cael eu dynodi felly. Mae WASCO’n gweithio’n egniol i unioni’r sefyllfa. Cymorth Grant Mae WASCO yn cefnogi’r egwyddor y dylid rhoi cefnogaeth yn ôl y cyfraniad i’r gymuned a’r economi yn hytrach nag yn ôl nifer y gweithwyr uniongyrchol.

10

Page 10

YOUR WTA CONTACTS Antur Cymru 01348 840763 sealyhamsam@aol.com Antur Cymru yw’r sefydliad cyfansawdd sy’n cynrychioli addysg awyr agored, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’n darparu fforwm beirniadol i gyfnewid barn ac i ddatblygu ymatymatebion cefnogol a mentrau’n ymwneud â hyn. Cymdeithas Asiantau Cymru 01492 582492 barbara@nwhc.demon.co.uk Mae AWA yn cynrychioli nifer fawr o weithredwyr hunanarlwyo, llawer gydag un ffermdy neu fwthyn yn unig ac eraill gyda safleoedd mwy. Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain 01452 – 526911 enquiries@bhhpa.org.uk www.bhhpa.org.uk BH&HPA yw corff y fasnach yn y diwydiant parciau yn y Deyrnas Unedig. Cymdeithas Croeso Prydain 0207 404 7744 martin.couchman@bha.org.uk www.bha.org.uk BHA yw’r gymdeithas genedlaethol sy’n cynrychioli’r diwydiant gwestai, tai bwyta ac arlwyo. Farmstay UK 024 7669 6909 info@farmstayuk.co.uk www.farmstayuk.co.uk Consortiwm ym mherchnogaeth amaethwyr yw Farmstay UK sy’n anelu at hyrwyddo’r syniad o dwristiaeth fferm yn y DU. Ffederasiwn Busnesau Bychain 029 2052 1230 ben.cottam@fsb.org.uk www.fsb.org.uk Sefydliad busnes sy’n lobïo ac yn ymgyrchu ac yn sicrhau fod llaisy perchennog busnes bychan yn cael ei glywed yw FSB. Fforwm Lletai Bychan â Gwasanaeth yng Nghymru 01446 774451 junejenkins@bydd.co.uk Gr w ˆ p ymgynghorol twristiaeth cenedlaethol yw’r fforwm ar gyfer y sector G & B, lletai a gwestai bychan gyda 10 neu lai o lofftydd. Twristiaeth Canolbarth Cymru 01654 702653 valh@mid-wales-tourism.org.uk www.visitmidwales.co.uk MWT yw prif gyflenwydd cefnogaeth i economi twristiaeth Canolbarth Cymru ac mae’n cynrychioli buddiannau twristiaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol. Twristiaeth Gogledd Cymru 01492 531731 esther.roberts@nwt.co.uk www.nwt.co.uk Mae NWT yn cynrychioli 1300 o sefydliadau o’r sector breifat ac o’r sector gyhoeddus o fewn y diwydiant twristiaeth/croeso yng ngogledd Cymru. Ef yw prif gyflenwydd cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth ar sail bartnerol.

Cyngor Carafanau Cenedlaethol 01252 318251 info@nationalcaravan.co.uk www.thecaravan.net Cymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant carafanau yn y DU oedd NCC yn wreiddiol. Y mae wedi tyfu bellach i gynrychioli gwneuthurwyr, gwerthwyr, gweithredwyr parciau a darparwyr offer a gwasanaeth drwy gydol Prydain a Gogledd Iwerddon. Y Clwb Gwersylla a Charafanio 024 7685 6797 enquiries@caravanclub.co.uk www.campingandcaravanningclub.co.uk Mae’r clwb gwersylla a charafanio hynaf yn y byd yn darparu safleoedd gwersylla a gwybodaeth am safleoedd gwersylla, cyfleoedd teithio tramor a phopeth arall y mae ar y gwersyllwr neu’r carafanwr ei angen. Y Clwb Carafan 01342 326944 www.caravanclub.co.uk Fel prif sefydliad teithwyr carafan Ewrop, mae’r Caravan Club yn cynrychioli buddiannau dros 850,000 o deithwyr carafan, carafanwyr modur a pherchnogion pebyll treilar. Mae’r clwb yn rhedeg y rhwydwaith mwyaf o safleoedd o ansawdd mewn perchnogaeth breifat yn y DU ac mae ganddo gynrychiolaeth eang yng Nghymru gyda deunaw safle a 320 Lleoliad Ardystiedig( lleoliadau llai na 5 safle). Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid 029 2039 6766 wales@yha.org.uk www.yha.org.uk Mae YHA yn cynnig mannau aros fforddiadwy mewn 36 Hostel Ieuenctid drwy Gymru, wedi eu lleoli yn bennaf ym mharciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro. Cymdeithasau Twristiaeth Lleol yn Ne Orllewin Cymru 01267 290455 w.c.rouse@btopenworld.com Mae’r pedwar Cymdeithas Twristiaeth yng Ngorllewin Cymru yn cynnig i’r diwydiant twristiaeth a chroeso yn ne orllewin Cymru sefydliad y mae’n berchen arno, ac a gyfarwyddir ganddo ac sy’n cyfranogi wrth gyflawni drwy bartneriaeth strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer twrisitaeth. Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Yng Nghymru 029 2049 5174 enquiries@ttfw.org.uk www.ttfw.org.uk Mae TTFW yn hyrwyddo ac yn cyfarwyddo addysg a hyfforddiant yn y diwydiant twristiaeth. Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru 08701 283152 enquiries@wasco.org.uk www.walescottages.co.uk Yn gweithredu fel llais hunanarlwyo yng Nghymru, mae aelodaeth WASCO’n amrywio o weithredwyr un bwthyn i asiantaethau mawrion sy’n gweithredu drwy’r wlad. Cymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru 01633 774796 enquiry@walestourguides.com Mae WOTGA yn hyrwyddo ac yn cynrychioli buddiannau tywysyddion taith cymwysedig hunan gyflogedig yng Nghymru. Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru 01654 711228 wava@corris-wales.co.uk Mae WAVA yn cefnogi ac yn cynrychioli gweithredwyr atyniadau ymwelwyr. Mae’n darparu cyfleoedd rhwydweithio i weithredwyr i drafod eu problemau a rhannu eu profiadau.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 11

RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

The Children's Hospice in Wales

Yr Hosbis i Blant yng Nghymru

Tˆy Hafan yw’r unig hosbis i blant yng Nghymru, wedi’i leoli yn Abersili ym Mro Morgannwg. Mae’n cynnig seibiant a gofal diwedd-oes, yn yr hosbis ac yn y cartref, i blant sy’n dioddef gan gyflwr a fydd yn golygu eu bod yn marw cyn tyfu’n oedolion. Mae Tˆy Hafan yn ymrwymo i ddarparu cariad, gofal a chynhaliaeth i’r teulu cyfan, gan osod y pwyslais ar hwyl, gofaL a chyfeillgarwch. Fe’i agorwyd yn Ionawr 1999, wedi’i adeiladu a’i gyfarparu gan gyfraniadau’r cyhoedd o £3 miliwn, Mae’n rhaid i Tˆy Hafan godi £2 filiwn bob blwyddyn i gynnal y gwasanaeth cwbl angenrheidiol hwn sy’n unigryw yng Nghymru ac yn rhad ac am ddim i’r teuluoedd sy’n ei ddefnyddio. Am ragor o wybodaeth a manylion am ddigwyddiadau i godi arian, byddwch cystal â chysylltu â’r Swyddfa Apeliadau ar:

01446 739993 email: info@tyhafan.org neu ymwelwch â’n gwefan ar:

www.tyhafan.org Rhif Elusen Cofrestredig: 1047912

Rydym yn gweithio’n galed i ddod i nabod eich busnes Masnachol

Staff o Ansawdd Da

Technegol

Telerau Cystadleuol

Busnesau

Adborth a Gwerthuso Cyson

Dros Dro a Pharhaol

Gwirio BCT

20 mlynedd o Brofiad o’r Farchnad Leol

11


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 12


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 13

NEWYDDION

Cysylltiadau’r Clwb Yn Hybu Busnesau Natur Gan Fiona Bewers, Y Clwb Carafan MAE SAFLEOEDD CARAFAN yn aml yn hafanau i wylwyr adar, yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru, felly fe fydd cynghrair newydd rhwng y Clwb Carafanau a’r RSPB yn newyddion a groesewir gan garwyr natur ym mhobman. Wedi ei lansio’n swyddogol ym mis Medi, mae’r Gynghrair yn golygu y gall aelodau’r Clwb Carafanau sydd â diddordeb fanteisio’n llawn ar fynediad i warchodfeydd y RSPB, yn ogastal âg ar deithiau gyda Mae thywysydd a sgyrsiau natur.

garafanio – ar siopa’n lleol, bwyta allan ac ymweld ag atyniadau. Mae gan y Clwb Carafan gynrychiolaeth gref drwy Gymru, gyda deunaw safle a 320 Lleoliad Ardystiedig, neu LLA (lleoliadau llai 5-safle). Mae’r safleoedd hyn yn cynnig mannau aros i ymwelwyr mewn amrywiaeth o leoliadau trawiadol, wedi eu datblygu’n gydnaws â thirwedd godidog Cymru, a chyda cydweithrediad awdurdodau lleol sy’n cydnabod eu gwerth i’r gan gymuned leol.

y Clwb Carafan Mae’r Clwb Carafan yn Un o lawer o safleoedd parhau i fuddsoddi yn ei perffaith y Clwb lle gellir gynrychiolaeth gref rwydwaith o safleoedd manteisio ar y prosiect yw yng Nghymru. Gwern y Bwlch yng drwy Gymru, gyda Gweddnewidwyd un o nghanolbarth Cymru, gyda safleoedd Jiwbili Aur y chuddfan adar ar y safle, a deunaw safle a 320 Clwb – y datblygiad a gorsafoedd bwydo gerllaw gostiodd dros £1.1 miliwn pob safle. Gyda mynedfa Lleoliad Ardystiedig ym Mharc Gwledig uniongyrchol i lwybr Ffordd Pembre, Llanelli – o fod yn Glyndwr ˆ a dewis o deithiau safle ffatri arfau adfeiledig wedi ei chlirio i cerdded ardderchog mae’r safle’n darparu fod yn Safle Clwb Carafan wedi ei ar gyfer y rheini sydd am werthfawrogi thirweddu’n llawn gyda’r cyfleusterau gogoniannau Canolbarth Cymru. arferol uchel eu safon. Fel prif sefydliad teithwyr carafan Ewrop, yn Mae’r clwb yn ymroi i annog mwy o cynrychioli 850,000 o garafanwyr, dirfeddianwyr i ystyried rhedeg Lleoliad carafanwyr modur a phabellwyr treilar yn y Ardystiedig, i sicrhau fod ei aelodau’n cael DU, mae’r Clwb Carafan yn rym o bwys yn y mynediad i’r dewis ehangaf posibl o sector dwristiaeth. Rydym yn amcangyfrif leoliadau ar gyfer arosiadau byr a hwy ym fod aelodau’r Clwb yn gwario tua £8.5 mhob rhan o’r wlad hardd hon. miliwn bob blwyddyn drwy Gymru wrth Parc Gwledig Pembre, Llanelli

A

BARN CTC

LLCC Yn Tynnu Ar CTC Dros Bwnc Llosg MAE LLYWODRAETH CYNULLIAD Cymru wedi sefydlu pwyllgor ar Ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus sy’n cynnwys pump AC dan gadeiryddiaeth Val Lloyd; ei faes gwaith yw: i) Ystyried tystiolaeth gyfredol ar bynciau perthnasol, gan gynnwys peryglon iechyd mwg tybaco amgylcheddol ac effaith economaidd cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus; ii) Adolygu datblygiadau yn y DU ac Iwerddon parthed cyflwyno cyfyngiadau ar ysmygu mewn Mannau Cyhoeddus (gan gynnwys y ddadl ar Fesurau Aelodau Preifat yr Arglwyddes Finlay a’r Arglwydd Faulkener, yr ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth y DU ar ddatganoli pwerau i awdurdodau lleol i g y f l w y n o gwaharddiadau ysmygu yn y gwaith ac mewn m a n n a u c y h o e d d u s , c a n l y n i a d y m g y n g h o r i a d Gweinyddiaeth yr Alban ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus, a’r profiad o weithredu’r gwaharddiad ar ysmygu yn y gwaith yn Iwerddon); iii) Ystyried y profiadau mewn gwledydd eraill lle cafodd gwaharddiad ei gyflwyno; ac iv) Adrodd i’r Cynulliad erbyn 25 Mai 2005 ar ei gasgliadau. Fel rhan o broses ymgynghori gyhoeddus, gofynnwyd i CTC (ynghyd â nifer o sefydliadau eraill) roi tystiolaeth i’r pwyllgor ar y pynciau canlynol:– 1. Peryglon iechyd amgylcheddol;

mwg

tybaco

2. Effaith economaidd cyfyngiadau ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus;

© Bwrdd Croeso Cymru

3. Effaith gwaharddiad ar gwtogi ar ysmygu, hy a fyddai gwaharddiad yn annog pobl i roi’r gorau i ysmygu neu i beidio â dechrau; 4. Effeithlonrwydd gwyntyllau echdynnu ac offer awyru arall i gael gwared â mygdarth tybaco o’r amgylchedd; 5. Dadleuon iawnderau dynol o du ysmygwyr a rhai nad ydynt yn ysmygu; 6. Gorfodaeth.

13


tourism_04_pages_welsh_c

NEWYDDION

A

24/10/04

2:33 PM

Page 14

BARN CTC

Gwyliwch Eich Iaith Ystum Gan Billy Dixon, Ymgynghorydd Marchnata Personol a siaradwr gwâdd yng nghynhadledd eleni. RYDYM NI’R CYHOEDD yn griw anwadal, dydyn ni ddim yn driw,rydym yn disgwyl pob peth ar unwaith, ac rydym yn mynnu safonau na fuasem yn eu disgwyl yn ein cartrefi ein hunain. Eto, yr un yw ein hanghenion oll, rydym oll am gael ein canmol, ein cysuro ac am gael synnwyr o berthyn.

“Ydych chi wedi archebu lle, syr?” gofynnodd y ferch ifanc drwsiadus y tu ôl i’r dderbynfa.

Os yw’ch busnes yn seiliedig ar bobl mae’n bwysig eich bod yn taenu canmoliaeth, cysur a pherthyn yn hael. Nid mater o gelfyddyd dywyll mo hyn, ond mater o synnwyr cyffredin.

Rhoddais enw’r sefydliad iddi a dywedodd wrthyf ble ‘roedd y neuadd. Wnaeth y ferch ifanc hon ddim bwrw ei llygaid arnaf ar unrhyw adeg yn ystod y sgwrs fer hon, ymddangosai mewn gwirionedd ei bod yn rhoi ei holl sylw i damaid o bapur ar ei desg.

Mae llawer o lwyddiant busnes yn dibynnu ar greu’r delweddau cywir. A yw’ch maes parcio a’ch prif fynedfa yn cysuro’r cwsmer neu’n ei ddychryn a’i roi mewn hwyl amddiffynnol? A yw’ch clientau yn teimlo’ch bod yn eu croesawu? A yw’r staff wedi eu hyfforddi i wisgo ac i ymddwyn yn briodol? Yn ddiweddar, gofynnwyd i mi siarad mewn cynhadledd, oedd i’w chynnal mewn gwesty pum seren. Pan gyrhaeddais, parciais fy nghar mewn maes parcio gydag arwyddion a goleuadau da a cherddais drwy’r gerddi cymen i’r brif fynedfa. Croesawyd fi mewn modd cwrtais a chyfeillgar gan w ˆ r mewn oed mewn lifrai. Agorodd y drws a’m tywys gyda gwên tua’r dderbynfa. Gwnaeth argraff arnaf, teimlwn wedi fy nifetha braidd, ond byrhoedlog fu’r teimladau hyn.

“Naddo, rwy’n siarad mewn cynhadledd” atebais. “Pa grw ˆ p?” gofynnodd.

Cerddais i’r gynhadledd gyda theimladau briw. Drwy’n unig beidio â bwrw’i llygaid arnaf roedd y ferch ifanc honno wedi peidio fy nghanmol, fy nghysuro na gwneud i mi deimlo fod f’angen. Mae yna ffordd gywir a ffordd anghywir o ymwneud â phobl, nid yw’n ddirgelwch ac mae’r ateb yn gyffredinol. Bydd y mwyafrif o bobl yn adlewyrchu’r agweddau, yr argraffiadau a’r ymddygiad a gânt oddi wrth eraill yn ogystal â’r amgylchedd y maen nhw’u hunain ynddo. Rhaid i sefydliadau â’u llwyddiant yn dibynnu ar ymwneud â phobl ddeall mai’r hyn a dafluniant fydd yr hyn a ddaw’n ôl atynt. Gwybod beth i’w daflunio a sut i’w

Billy Dixon yng nghynhadledd CTC y llynedd

daflunio yw craidd llwyddiant mewn busnes. Bydd llawer yn chwyddo pwysigrwydd delwedd busnes mewn dulliau gweledol megis logos, lliwiau, lifrai ag ati. Does dim dwywaith fod y rhain yn bwysig ond ni wnant lwyddiant o fusnes ar eu pennau eu hunain. Dylai taflunio delwedd edrych bob amser ar anghenion a disgwyliadau seicolegol pobl ac yna geisio gwasanaethu’r rhain. Y tro nesaf y byddwch yn siopa’n y stryd fawr, yn mynd am bryd o fwyd neu’n mynychu digwyddiad gofynnwch i chi’ch hun, “Sut oeddwn i’n teimlo?” a “Beth wnaeth i mi deimlo felly?” Beth bynnag fydd yr ateb, byddwch newydd gael profiad o “Daflunio Delwedd”.

Parciau yn Hybu Economi Cymru Gan Ros Pritchard Prif Gyfarwyddwr, Chymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain MAE POBL SY’N

aros mewn cartrefi gwyliau carafan yn cyfrannu rhyw £200m i’r economi Gymreig – tua 17 y cant o’r cyfanswm gwariant gwyliau – yn ôl canfyddiadau arolwg annibynnol newydd. Wedi ei gomisiynu ar y cyd gan Fwrdd Croeso Cymru (BCC) a’r Gymdeithas Gwyliau a Pharciau Cartrefu Prydeinig (CG&PCP) mae’r astudiaeth yn dangos pwysigrwydd y 200-a-mwy o barciau gwyliau yng Nghymru i wariant gwyliau, cynnal cyflogaeth leol, a helpu i ddal i ddenu’r ymwelwyr. Canfyddodd yr astudiaeth, nad oedd yn cynnwys y rheini sy’n defnyddio carafanau symudol a phebyll, fod pob carafan wyliau dan berchnogaeth breifat yn cynhyrchu gwariant blynyddol yn yr economi leol o dros £5,400. Mae’r ffigwr hwn, fodd bynnag yn llamu i fyny i gyfeiriad £15,500 i garafanau sy’n cael eu rhentu am wythnos neu bythefnos – yn bennaf oherwydd fod yr ymwelwyr hyn yn gwario mwy ar fwynhau eu hunain a bwyd a diod.

O ran cyflogaeth, mae’r astudiaeth yn dangos fod pob parc yn cynnal tua 20 o swyddi yn y tymor ysgafn – ac ychydig dros 40 o swyddi yn ystod cyfnodau prysuraf y flwyddyn. Mae’r niferoedd yn codi’n uwch eto pan gynhwysir cyflogaeth eilradd – megis mewn busnesau’n gwasanaethu cwsmeriaid y parciau.

Parthed apêl y cartrefi gwyliau carafan, cyfeiriodd llawer o’r cannoedd o ymwelwyr a holwyd at safonau moethus y carafanau. Mae nodweddion megis Mae pob carafan wyliau gwres canolog, gwydro dwbwl, ceginau wedi eu dan berchnogaeth breifat gosod yn llwyr a digon o le i bawb yn helpu cadw’r ymwelwyr yn driw.

yn cynhyrchu gwariant blynyddol yn yr economi leol o dros £5,400.

Canfyddodd ymchwilwyr y gallai bron pob parc nodi o leiaf un siop

14

neu fusnes lleol oedd yn dibynnu ar ymwelwyr â’r parciau am ganran sylweddol o’u masnach.

Dywed Ros Pritchard, Prif Gyfarwyddwr CG&PCP “Y cyrchfan yw prif ystyriaeth y rhan fwyaf o ymwelwyr, ond yn glos iawn ar ôl hynny daw man aros sy’n cydfynd â ffordd o fyw eu gwyliau. Mae’n amlwg fod Cymru’n cael croesau yn y blychau iawn mewn llawer profiad gwahanol, ac mae’r parc gwyliau yn para’n safle o ddewis i fynd allan ohonynt i’w mwynhau.”


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 15

NEWYDDION

A

BARN CTC

Offa a YHA – Ymwelwyr yn methu dweud ‘Na’ Gan Alison Crawshaw, Cymdeithas Hosteli Ieuenctid Cymru MAE PROSIECT CLAWDD Offa sy’n cael cefnogaeth YHA yn amcanu at gynyddu twristiaeth i Gymru drwy godi ymwybod o gefn gwlad a gweithgareddau ymwelwyr drwy’r ardaloedd yr â’r llwybr drwyddynt.

© Bwrdd Croeso Cymru

Ar ddechrau 2004 cychwynnodd YHA ar brosiect wedi ei gyllido ar y

cyd â’r Asiantaeth Cefn Gwlad a BCC drwy gronfa ADFYWIO, sy’n canolbwyntio ar lwybr Clawdd Offa. Amcan y prosiect yw cynyddu nifer yr ymwelwyr sy’n defnyddio’r llwybr ac yn dod i’r ardal, drwy farchnata cadwyn o fannau aros G&B/Lletai Bychan sydd eisoes yma a gwella’u cynnyrch drwy greu pecynau gwerth-ychwanegol. Mae’r Gwestywyr yn dod yn rhan o gynllun Menter YHA. Mae’n cynnig iddynt gyfle i ddod yn aelodau dan ‘nôd’ o rwydwaith YHA ac i fanteisio ar sianelau marchnata cenedlaethol a rhyngwladol YHA. Mae YHA hefyd yn gallu cynnig cefnogaeth a chyngor, sy’n seiliedig ar flynyddoedd o brofiad a gwybodaeth arbenigol. Mae gweithredwyr preifat a YHA yn dod yn bartneriaid - gyda YHA yn

Hawthorn Hill, Clawdd Offa

gwerthu’r gwlâu a’r G&B yn darparu gwlâu mewn ardaloedd lle nad oes gan YHA fannau aros. Y bwriad yw i tua 15 G&B/Llety Bychan sydd wedi’u lleoli ar hyd Clawdd Offa gymryd rhan yn y prosiect a bydd y marchnata a’r cyhoeddusrwydd cysylltiedig yn anelu at ddechrau tymor 2005. Y cynllun yw datblygu arosiadau byrion a phecynnau yn defnyddio’r lleoliadau aros a fydd, gyda’r marchnata, yn ychwanegu at nifer yr ymwelwyr â’r ardal tra’i fod hefyd yn cynyddu busnes y G&B. Os ydych angen mwy o wybodaeth ar Brosiect Clawdd Offa cysylltwch âg Alison Crawshaw ar 01874 636671 neu alisoncrawshaw@yha.org.uk. Os hoffech wybod mwy am Fenter YHA cysylltwch â Martin Trouse ar 01629 592679 neu martintrouse@yha.org.uk

Antur Cymru’n Ehangu Gan Sam Richards, Antur Cymru

Fel sefydliad byddwn yn parhau i sicrhau ein bod yn tynnu ar y gynrychiolaeth ehangaf posibl fel y gallwn ddal i ddarparu cynrychiolaeth berthnasol ar ran y sector gweithgareddau twristiaid ar lefel genedlaethol. Gwelodd blwyddyn brysur Antur Cymru yn cyflwyno eiriolaeth i’r llywodraeth ar amryw o bynciau. Er enghraifft byddai Cyfarwyddyd Arfaethedig HSE Gweithio ar Uchter yn golygu newidiadau sylweddol ( a gwirion yn ôl rhai) i’r dull y gellid gweithredu gwaith â rhaff yn y dyfodol. Yn gyfochrog â sefydliadau eraill gwnaeth Antur Cymru ei wrthwynebiad i’r newidiadau arfaethedig yn glir a chafodd sicrhad na fyddai’r arferion llwyddiannus a diogel y bu gweithredwyr proffesiynol gweithgareddau yn eu defnyddio ers blynyddoedd yn cael eu rhoi heibio.

Cyflwynodd AC eiriolaeth i Lywodraeth Cynulliad Cymru parthed ei methiant i gyhoeddi cyfarwyddyd i ysgolion ar gynnal ymweliadau ysgol yn ddiogel. Ymhellach yr oedd AC yn gofidio dros y penderfyniad i beidio â sefydlu cronfa addysg arbenigol ar gyfer addysg awyr agored, yn wahanol i’r hyn a fwynhai ysgolion Lloegr. Rydym wedi ysgrifennu at LLCC yn ceisio sicrhad y byddid yn delio ag unrhyw ledaeniad o glwy’r traed a’r genau yn y dyfodol mewn dull mwy cyfrifol. Bu cau cefn gwlad ynddo’i hun yn drychineb y tro diwethaf. Achos pryder yw na chawsom ymateb! Rydym wedi rhoi’n cefnogaeth i sefydlu Prifysgol yr Awyr Agored ac rydym yn falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru, a Bwrdd Croeso Cymru wedi dangos mwy o ddiddordeb yn y sector gweithgareddau awyr agored. Rydym wedi rhybuddio fod ar strategaeth Dringo’n Uwch LLCC angen ystyriaeth fanwl parthed rheoli adnoddau naturiol ac integreiddio â chymunedau lleol. Bu AC mewn trafodaethau â Bwrdd Croeso Cymru parthed newidiadau i drefn achredu’r Bwrdd – rydym yn falch fod gan y Bwrdd drefn yn ei lle bellach i gydnabod

© Bwrdd Croeso Cymru

MAE ANTUR CYMRU wedi penderfynu lledaenu sail ei aelodaeth i gynnwys clystyrau rhanbarthol o ddarparwyr gweithgareddau, sy’n gweithio’n bennaf yn y sector breifat. Cymerwyd y penderfyniad i unioni cydbwysedd yr aelodaeth oedd cyn hynny’n tueddu’n gryf tuag at y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Ar yr un pryd penderfynasom ddod yn aelodau llawn o CTC.

cynlluniau sy’n cael eu rhedeg gan gyrff Llywodraethu Cenedlaethol ac eraill. Rydym yn parhau i weithio gyda sefydliadau cyffelyb yn Lloegr a’r Alban ac rydym yn cynghori ar greu sefydliad ar draws y DU i gymryd lle Pwyllgor Cynghori‘r Diwydiant Gweithgareddau Antur HSE a gafodd ei ddiddymu bellach.

15


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 16

NEWYDDION BCC

Grantiau i Gefnogi’ch Busnes MAE GRANTIAU DATBLYGU

Busnes yn erfyn hanfodol i ddatblygu cynnydd ac ansawdd masnachu yng Nghymru. Gellir gweld eu gwerth yn y cannoedd o fusnesau twristiaeth drwy Gymru gyfan sydd wedi gwneud gwelliannau mewn blynyddoedd diweddar. Mae BCC wedi dynodi £ 14.9m ar gyfer 286 prosiect unigol gan warantu buddsoddiad o gyfanswm o £63.5m (fel mae’n sefyll ar 31 Mawrth 2004). Mae hyn wedi arwain at £35m o fuddsoddi gan y sector breifat ac wedi creu neu gynnal yr hyn sy’n cyfateb i 1042 swydd amser llawn.

Tîm Cefnogi Busnes BCC yng Nghynhadledd CTC 2003

Yn ôl gwerthuso cynnar mae trosiant y busnesau a gafodd gymorth wedi codi o 37% ar gyfartaledd wedi’r buddsoddiad.

Gyda Chymru bellach yn mwynhau lefelau uwch o gyflogaeth, cred CTC ei bod yn bwysig symud y pwyslais mewn meini prawf dyfarniadau oddi wrth greu swyddi tuag at gadw swyddi.

Mae’n debyg fod grantiau Adran Pedwar wedi gwneud mwy nag unrhyw fesur arall i wella’r ansawdd yng Nghymru. Heb gymorthdal, byddai Gwestai yn ei chael yn fwy anodd i godi safon eu gradd ac i gadw’n mantais gystadleuol.

Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru’n gefnogol iawn i barhâd grantiau datblygu busnes ar gyfer twristiaeth ac mae’n credu y dylai grantiau Adran Pedwar fod ar gael i bob lefel o eiddo graddedig i fodloni gofynion twristiaid am wahanol strwythurau prisio.

Am wybodaeth benodol a chyngor ar ddatblygu eich busnes twristiaeth cysylltwch â thîm Cefnogi Busnes BCC ar 029 2047 5030 neu ewch i www.wtbonline.gov.uk.

Ymchwil Safoni’r DU yn Dwyn Ffrwyth Gan Chris Coleman, Bwrdd Croeso Cymru Yr ymgais i sicrhau safonau cyffredin i raddoli mannau aros drwy Loegr, yr Alban a Chymru – dyna faes gwaith y Gr w ˆ p Adolygu Ansawdd (GAA). Bu BCC yn cydweithio â Visit Britain, Visit Scotland. yr AA a’r RAC a’r Cadeirydd Alan Britten ar GAA. Mae Julian Burrell, Cadeirydd CTC yn aelod o’r Gr wp ˆ Adolygu Ansawdd. Dechreuodd y trafodaethau o ddifrif yn 2003 a chafwyd cryn symud ymlaen.

Fisoedd lawer cyn rhoi’r cynigion graddoli wrth ei gilydd bu’r Bwrdd, yn gweithio gyda’r Cynghrair, yn hwyluso trafodaeth â chynrychiolwyr pob sector llety. Cafodd grwpiau ffocws eu defydlu ar gyfer pob un o’r sectorau hynanarlwyo, gwasanaeth a hostelau.

Mae gan y sector garafan eisoes gynllun graddoli cyffredin drwy’r DU ar gyfer parciau felly canolbwyntiodd y trafodaethau ar dri sector; bythtnnod hunanarlwyo, llety hostel a llety â gwasanaeth.

Cynigion ar gyfer harmoneiddio’r cynllun hunanarlwyo sydd agosaf at gael eu cwblhau a disgwylir cyhoeddiad gan y Bwrdd yn fuan. Cyfarfu’r gr wp ˆ ffocws hunanarlwyo â’r Bwrdd nifer o weithiau a chwaraeodd ran wrth helpu’r Bwrdd gydymdrafod newidiadau “synhwyrol” i’r cynllun graddoli gyda’i gymheiriaid yn yr Alban a Lloegr.

Bu’r Byrddau Croeso yn bartneriaid wrth adolygu pob un o’r dair sector; dim ond mewn trafodaethau parthed llety â gwasanaeth y bu’r AA a’r RAC yn bartneriaid.

Byddwn yn dilyn llwybr trafod cyffelyb ar gyfer lletai â gwasanaeth a hostelau.

Wrth archwilio pob sector, cafwyd dull cyffredin: Cymal 1 Meini prawf cyffredin drafft y cytunodd swyddogion arnynt; Cymal 2 Profi defnyddwyr; Cymal 3 Coethi yng ngolwg ymateb defnyddwyr; Cymal 4 Ymgynghori â’r fasnach; Cymal 5 Coethi’r meini prawf yng ngolwg ymateb y fasnach; Cymal 6 Penderfyniad i fabwysiadu’r safonau cyffredin fel y’i newidwyd. Mae’r tabl canlynol yn dangos pa gymal a gyrhaeddwyd ym mhob un o’r sectorau. Sector Carafan Hunanarlwyo Gwasanaeth

16

1 Cyflawn Cyflawn Cyflawn

Cymal 2 3 4 5 6 Cyflawn Cyflawn Cyflawn Cyflawn Hyd 04 Cyflawn Hyd 04 Rhag/Ion 05 Ion/Chwef 05 Maw 05 Cyflawn Cyflawn Tach 04 Rhag/Ion 05 Chwef 05

Bydd y Bwrdd yn cynhyrchu rhifyn arbennig o’i gylchgrawn Siarad Siôp fydd yn ceisio barn y diwydiant ar y newidiadau drafft i’r cynllun graddoli ar gyfer Gwestai a Lletai Bychan. Cynhelir ymgynghoriad a thrafodaethau â’r diwydiant ar raddoli hostelau yn ystod Rhagfyr neu Ionawr 2005 mae’n debyg. Disgwylir y bydd trafodaethau ar raddoli gwestai, lletai bychan a hostelau wedi dod i ben erbyn Chwefror 2005. Mae BCC wedi mynnu erioed mai 2008 fyddai’r cyfle cynharaf y byddai’n gallu rhoi’r cynllun newydd yn ei gyhoeddiadau er mwyn rhoi amser i’r diwydiant addasu. Mae rhywfaint o bwysau allanol yn cael ei roi ar y Bwrdd i gychwyn ynghynt. Bydd BCC yn hwyluso cyfarfod yn Rhagfyr i edrych ar y pynciau sy’n codi o gwmpas gweithredu’r cynlluniau diwygiedig newydd. Bydd CTC yn cymryd rhan lawn.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 17

RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

Cynigiwch Yn Hael Dros Dˆy Hafan BOB

BLWYDDYN, fel rhan o gynhadledd flynyddol CTC, rydym yn cynnal ocsiwn at elusen. Y llynedd cododd cynadleddwyr CTC bron i £3000 i’r elusen a ddewiswyd – Tˆy Gobaith/Hope House, yng

Nghonwy, sy’n rhoi gofal ysbaid, gofal lliniarol a nyrsio diweddglo i blant byr eu dyddiau. Amrywiai gwobrau’r ocsiwn o arhosiadau penwythnos i ddyddiau allan. “Cawsom ymateb gwych gan gynadleddwyr y llynedd ac roeddem yn hynod o falch o gyflwyno’r elw i achos teilwng iawn Tˆy Gobaith.”, meddai Cadeirydd CTC Julian Burrell. “Eleni rydym yn ne Cymru ac rwy’n falch iawn o gyhoeddi y bydd elw ein hocsiwn elusen yn mynd i Dˆy Hafan, Hosbis y Plant yng Nghymru,” meddai e. “Cafodd yr Hosbis ei hagor yn Ionawr 1999 i roi cymorth a chefnogaeth i dros 300 o deuluoedd sy’n byw yng Nghymru, gydag un neu fwy o’r plant yn goddef o salwch fydd yn byrhau eu dyddiau.

Yr ocsiwnîar gwâdd Jonathan Jones, Prif Weithredwr BCC yng nghynhadledd CTC y llynedd

Petai aelodau’n dymuno gwneud cyfraniad pellach at yr elusennau, dyma’r manylion cyswllt:

“Gan fod y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim i bob teulu sy’n defnyddio Tˆy Hafan, mae’n costio £2 filiwn y flwyddyn i’w redeg erbyn hyn ac rwy’n gobeithio y bydd y cynadleddwyr, unwaith eto, yn helpu i wneud noson yr ocsiwn yn llwyddiant gwirioneddol i elusen ddewisedig eleni – Tˆy Hafan,” meddai Mr Burrell.

Tˆy Hafan – Hosbis y Plant yng Nghymru Swyddfa’r Apêl, Tˆy Hanard, Ffordd Caerdydd, Y Barri, Bro Morgannwg. CF63 2BE Ffôn: +44 (0)1446 739993 Ffacs: +44 (0)1446 739994 www.tyhafan.org Ebost: info@tyhafan.org Tˆy Gobaith-Hope House Head Office Nant Lane Morda, Near Oswestry, Shropshire SY10 9BX Ebost; info@hopehouse.org.uk Codi arian: 01691 671671

Gyflogwyr… Gadewch i ni eich cynorthwyo i ddatblygu eich busnes Recriwtio’r rhai sy’n gadael yr ysgol neu’r coleg

arbenigwyr treftadaeth

Cyngor ar ddatblygu eich gweithlu Dwyn eich cwmni i fyd cysylltiadau addysg a busnes

GWNEUD Y GORAU O’R TREFTADAETH AR EICH TROTHWY?

Employers… Let us help you develop your business Recruitment of school and college leavers

Arolygon treftadaeth ar gyfer eich busnes twristiaeth chi am bris y gallwch ei fforddio.

Advice on developing your workforce Involving your company in education business links

38, Heol Newydd, Gwaun-cae-gurwen, Rhydaman, Sir Gâr SA18 1UN 01269 826397 ymholiadau@trysor.net www.trysor.net

www.gyrfacymru.com www.careerswales.com 0800 100 900 Y grym tu ôl i linell gymorth cyswlltdysgu yng Nghymru The power behind the learndirect helpline in Wales

17


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 18

RHIFYN ARBENNIG CYNHADLEDD Y GYNGHRAIR

Y Wlad Fawr yn Llwyddiant Mawr DAW DROS 90% o’r ymwelwyr â Chymru o’r DU, felly mae taclo marchnad mor fawr a phwysig yn galw am ymgyrch farchnata fawr – ac yma y daeth ymgyrch Cymru – Y Wlad Fawr i chwarae ei rhan. Cafodd ymgyrch farchnata arobryn y DU ei lansio mewn rhanbarthau allweddol a bu ar yr awyr ar Granada, Midlands, Cymru a’r Gorllewin a drwy’r DU gyfan ar deledu lloeren yn 2001. Hwn fu’n hymosodiad mwyaf erioed ar farchnad y DU. Golygodd Cyllid Amcan 1 a mwy o gyllid gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fod y gweithgarwch o gwmpas yr ymgyrch yn fwy dwys nag erioed, gan ganiatau treiddio’n ddyfnach i’r farchnad. Yn ogystal âg ennill cydnabyddiaeth ymhlith marchnatwyr proffesiynol, y canlyniad go iawn yw fod ymgyrch Y Wlad Fawr wedi creu enillion i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Arweiniodd cyfanswm y gweithgarwch drwy gydol 2003-2004 at dros 417,000 o ymholiadau, a arweiniodd yn ei dro at dros 117,000 o dripiau a gwariant o gyfanswm o £89 miliwn oedd yn ganlyniad uniongyrchol i’r ymgyrch. Cyrhaeddodd

Gan Roger Pride, Cyfarwyddwr Marchnata BCC

lefelau cofio hysbysebion yn ddigymell (lle mae ymatebwyr yn cofio gweld hysbyseb deledu heb gael eu hatgoffa) uchafbwynt o 27% yn ystod Mehefin 2003; lefel sy’n uwch nag unrhyw hysbysebu cyfeiriedig arall ar deledu’r DU. Mae’r ymgyrch dair blynedd £10 miliwn wedi herio syniadau ymwelwyr am Gymru ac wedi dangos Cymru fel cyrchfan fywiog a llawn her gyda dyfodol Mawr. Anelodd at ddal y mawredd ysbrydol a theimladol a ysbrydolir gan bobl Cymru a’r tirwedd godidog.

Cynnydd i CGC Drwy Glwb Newydd Gan Peter Frost, Cyfarwyddwr Cyfathrebu Y Clwb Gwersylla a Charafanio UN O’R BLYNYDDOEDD mwyaf cyffrous o’r cant a phedair o flynyddoedd o hanes y tu cefn i’r Clwb Gwersylla a Charafanio – dyna fu 2004. Fis Mai symudodd y Clwb i’w bencadlys newydd pwrpasol, ar y ffin â Champws Prifysgol Warwick, ychydig gannoedd o lathenni yn unig o’r swyddfeydd y bu ynddynt am dros ddegawd. Rhoddodd yr adeilad newydd dair gwaith cymaint o le i’r Clwb, a bydd y lle a ddarperir gan y buddsoddiad maes-glas chwe miliwn a hanner o bunnoedd yn galluogi’r Clwb i gadw i fyny â’i dwf cyflym. Yn fuan wedi symud i’r pencadlys newydd, croesodd nifer aelodau’r Clwb bedwar can mil. Dros un o bob cant a hanner o boblogaeth Prydain. Ceir y cyfanswm hwn, sy’n record i’r Clwb, o ganlyniad i

dwf yn yr aelodaeth o ddeg y cant yn flynyddol dros y tair blynedd ddiwethaf – llwyddiant hynod iawn. Un o’r datblygiadau cyntaf yn yr adeilad newydd fydd cyflwyno ClubRez, system archebu gwersyllfan ar gyfrifiadur amser-go-iawn ddylai gychwyn ar 1 Tachwedd 2004. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle i aelodau’r Clwb archebu eu safle ar y Rhyngrwyd, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos,a bydd aelodau hefyd yn gallu archebu ar y ffôn, drwy ffacs, drwy’r post neu’n uniongyrchol o’r safle, os ydynt, er enghraifft, yn dymuno symud i un o safleoedd eraill y Clwb. Yn cael ei gweinyddu o ganolfan gyswllt newydd yn y pencadlys newydd, gellir archebu ar unrhyw adeg, drwy gysylltu’n uniongyrchol â Rheolwyr Safleoedd Gwyliau ar y safle, ac os nad oes unrhyw un ar gael ar y safle ar unrhyw adeg benodol, bydd yr alwad yn cael ei throsglwyddo’n awtomatig i’r ganolfan gyswllt ganolog lle caiff ei chofrestru ar system ClubRez. Pan ddychwel y Rheolwr Safleoedd Gwyliau at ei ddesg, bydd yr archeb yn fyw ar ei gyfrifiadur yntau. Bydd safleoedd Cymreig y Clwb, yn y Bala, Bangor Is y Coed, Bae Ceredigion, Llanystumdwy, Rhandirmwyn a Thyddewi ymhlith y safleoedd fydd yn defnyddio’r system newydd. Mae’r system ClubRez hefyd yn allweddol i ddatblygiad allweddol arall a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Clwb. Cynllun masnachfraint, sy’n galluogi unigolion i berchnogi gwersyllfan, ond i’w redeg fel rhan o rwydwaith genedlaethol y Clwb o oddeutu cant o safleoedd. Eisoes mae dau gwpwl wedi prynu safleoedd, a bydd y rhain yn agor fel safleoedd y Clwb Gwersylla a Charafanio y tymor nesaf. Mae’r Clwb yn credu ei fod mewn sefyllfa unigryw i gynnig y profiad a’r wybodaeth arbenigol angenrheidiol i redeg gwersyllfan yn ôl safonau uchel iawn. Meddiannodd y Clwb ei safle cyntaf yn 1913, ac mae’n dal i redeg y safle hwnnw’n llwyddiannus heddiw.

Staff y Clwb y tu allan i’r pencadlys newydd

18

Dywedodd Cadeirydd Y Clwb Gwersylla a Charafanio, David Batty, wrth Twristiaeth: “Mae ein buddsoddiad yn ein pencadlys newydd ac mewn llawer menter newydd yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu i’n haelodaeth sy’n cynyddu’n barhaus y gorau sydd ar gael ym maes gwersylla a charafanio”.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 19

NEWYDDION BCC

Gwaith Fel Arfer Gan Philip Evans, Cadeirydd, Bwrdd Croeso Cymru MAE’N DDA GENNYF fod wedi gallu trefnu fy rhaglen er mwyn, yn llythrennol, gyffwrdd y tarmac ym Mhrydain wedi ymweld â saith cystadleuwr Ewropeaidd a dod yn uniongyrchol i’ch trydedd gynhadledd flynyddol.

sy’n dod o’r pegwn ac sy’n cael effaith ar bawb. Mae cefnogaeth gan Lywodraeth, sy’n cydnabod dylanwad ein diwydiant cyffrous ar nid yn unig economi eu gwlad, ond hefyd effaith y ‘bunt dwristaidd’ ymylol ar y gymuned gyfan, yn cwblhau’r triongl.

Mae yna wastad adegau heriol i dwristiaeth yng Nghymru, ac ni fydd hyn byth yn newid cyn belled ag y bydd gweithredwyr yn y wlad hon eisiau cystadlu yn y farchnad fyd eang a chreu cynnyrch o ‘safon byd’ a fydd yn sefyll ben ac ysgwyddau uwch y rhai sy’n ceisio lleihau ein marchnadoedd domestig a rhyngwladol.

Ar gyfer y dyfodol agos, fodd bynnag, mae’n fusnes fel arfer ym Mwrdd Croeso Cymru. Byddwn yn parhau i ddarparu yr un gwasanaeth i fusnesau twristiaeth, gan gynnwys cefnogaeth busnes, dosbarthu grantiau, ymchwil, cyfathrebu a marchnata. Ar gyfer busnesau unigol, mae hyn yn golygu y byddant yn parhau i ddelio â’r un pobl, yn yr un ffordd – yn gryno, ni ddylai dim newid yn y dyfodol agos.

Os edrychwn yn ofalus ar ein cystadleuwyr mwyaf chwyrn a llwyddiannus, fe welwch lwyfan helaeth o gefnogaeth ac arweiniad yn arwain eu cyd uchelgais. Mae’r llwyfan hwn yn cynnwys bwrdd twristiaeth modern ac effeithlon ynghyd â doethineb diwydiant

Prif gyflenwyr Cymru o systemau EPOS, rhestrau arian parod a rheoli stoc i’r diwydiant lletygarwch

Os ydych yn chwilio naill ai am bwynt gwerthiant neu reoli stoc neu system archebu integredig, bydd gan CJ-PoS ateb EPOS wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion busnes unigryw!

Am fwy o wybodaeth ar ein hystod llawn o systemau neu i archebu arddangosiad yn RHAD AC AM DDIM heb unrhyw ymrwymiad i brynu ffoniwch

Rwy’n gobeithio y byddwn yn mwynhau cynhadledd lwyddiannus, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i sicrhau dyfodol llwyddiannus i dwristiaeth Cymru.

Peidiwch ag edrych ymhellach am amrywiaeth eang o arbenigwyr ar bopeth o ariannu cerbydau i brosesu cardiau.

Beth bynnag yw’ch busnes, gall eich banciwr busnes lleol gael gafael ar amrywiaeth eang o arbenigwyr i’ch helpu i’w ddatblygu. O ariannu cerbydau i brosesu cardiau, mae eu gwybodaeth yn golygu nad oes angen i chi chwilio ymhell am gyngor arbenigol. Am ragor o fanylion am y termau ffafriol sydd ar gael i aelodau o’r The British Hospitality Association, ffoniwch Andy Ward ar 0116 281 8323. www.ukbusiness.hsbc.com/movetohsbc

01685 881660 www.cj-pos.com

Mae’r llinellau ar agor o 9am i 5pm bob dydd (ar wahân i Ddydd Nadolig, Dydd San Steffan a Dydd Calan).

Cyhoeddwyd gan Banc HSBC ccc

19


tourism_04_pages_welsh_c

NEWYDDION

A

24/10/04

2:33 PM

Page 20

BARN CTC

Whodoiask? – “Wow” Ar Y We Gan TTFW Gan Diana James, Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Yng Nghymru

AM WYBOD SUT i roi’r ffactor “wow” yn eich busnes twristiaeth ond heb wybod i bwy i ofyn? Does dim rhaid edrych ymhellach na Whodiask.com – adnodd newydd seiliedig ar y we a lansiwyd gan Fforwm Hyfforddi Twristiaeth yng Nghymru. Mae’n llawn o wybodaeth hawdd-ei-ddeall o sefydlu busnes twristiaeth bychan i gyfraith cyflogaeth, cyflogau a phensiynau a sut i ychwanegu’r ffactor”wow” dihangol hwnnw i’ch menter. Mae’r safle eang, sy’n rhad ac am ddim ac ar gael i bawb, wedi ei gynllunio ar y cyd gyda Gwasanaethau Sicrhad Ansawdd ac UWIC ac mewn gwirionedd mae’n adnodd

godidog i’r gweithredwr sefydledig neu’r rheini sy’n cychwyn yn y busnes. Yng nghynhadledd CTC eleni bydd y Fforwm yn gwesteio sesiwn prynhawn cyfan fydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth o’r potensial na chafodd ei ddefnyddio ac a all ateb un o ofynion allweddol y diwydiant – recriwtio staff. Bob blwyddyn mae busnesau twristiaeth yn ymlafnio i lenwi swyddi allweddol, a hynny nid yn unig ar yr adegau prysuraf, ond mae llawer wedi medru canfod atebion ac fe hoffem rannu eu profiadau hwy ar draws y diwydiant. Bydd y Fforwm hefyd yn dadlau mai hanner y broblem yn unig yw recriwtio staff – mater arall yn hollol yw eu cadw!

Yn arwain sesiwn yn Nghynadledd CTC llynedd, gwelir, o’r chwith i’r dde, Jenny Evans ac Alison Lea-Wilson o Sw ˆ Morwrol Ynys Môn, Diana James a John Walsh Heron o’r Fforwm Hyfforddi mewn Twristiaeth yng Nghymru.

Bu’r fforwm yn gweithio gyda busnesau mawr a bach drwy Gymru a fedrodd ddatrys y broblem o ddal gafael ar eu staff gorau. Mae yna lawer enghraifft o fusnesau sydd ar eu hennill oherwydd cynlluniau sy’n

gwobrwyo eu staff drwy hyfforddiant a datblygu sgiliau a dulliau eraill. Mae llawer o’r mentrau hyn wedi tyfu o ganlyniad i arferion dyfeisgar sy’n rhoi lle canolog yn eu busnesau i les y gweithlu. Cafodd cwsmeriaid well gwasanaeth ac mae’r gweithlu yn cymryd mwy o falchter yn eu swyddogaeth ac yn gwerthfawrogi’r cyfleoedd a gânt i ddatblygu. Cymorth gwerthfawr arall i fusnesau twristiaeth yw Llwyddiant Drwy’ch Pobl. Ar gael mewn copi caled ac ar CD-rom amcan y “pecyn gwaith” hwn yw rhoi cyngor, cymorth a gwybodaeth i weithredwyr twristiaeth, mawr a bach. Wedi ei gynllunio gan fusnesau ar gyfer busnesau mewn cydweithrediad â Choleg y Drindod, Caerfyrddin, mae’r pecyn yn dangos sut mae eraill wedi llwyddo i oresgyn problemau a cheisio atebion ac mae’n cynnig cyngor ar sut i wneud y gorau o’ch staff a’ch busnes. Mae llu o ffurflenni parod y gellir eu llwytho i lawr a’u haddasu yn caniatau i ddefnyddwyr ddyfeisio eu disgrifiad swyddi, contractau a’u hysbysebion etc eu hunain ac yn mynd dros bob maes gan gynnwys iechyd a diogelwch a chyfraith cyflogaeth. Mae’r pecyn gwaith eto yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb. Mae’r pecyn gwaith yn Gymraeg, a gafodd ei lansio gan Weinidog y Cynulliad Jane Davidson AC, hefyd ar gael yn rhad ac am ddim. Am fwy o wybodaeth at yr uchod cysylltwch â enquiries@ttfw.org.uk neu ffoniwch 029 2049 5174 neu ewch i www.ttfw.org.uk.

Asiantyddion Yn Uno I Gyrraedd Y Nôd BU AELODAU’R GYMDEITHAS yn neilltuol o weithgar yn 2004 yn cydweithio â BCC a WASCO ar gynigion i harmoneiddio cynlluniau graddoli rhwng Cymru, yr Alban a Lloegr. Fel mae’r broses hon yn tynnu tua’i therfyn, teimlwn fod anghenion llawer o weithredwyr wedi cael cynrychiolaeth dda ac y ceir cynllun ymarferol o ganlyniad.

ond un ffermdy neu fwthyn, eraill gyda safleoedd mwy.

Daeth Cymdeithas Asiantyddion Cymru yn aelodau o Gynghrair Twristiaeth Cymru i hwyluso cyfathrebu rhwng yr Asiantyddion eu hunain, BCC ac CTC

Bydd creu’r Gymdeithas yn rhoi gwell cynrychiolaeth nid yn unig i’r Asiantyddion eu hunain ond hefyd i weithredwyr unigol.

Mae’r Gymdeithas yn cynnwys bron y cyfan o Asiantyddion Cymru (ac un o dros y ffin!) ac yn eu cyfanrwydd mae ei haelodau’n marchnata oddeutu 2500 o unedau hunanarlwyo.

Barbara Griffiths o Fythynnod Gwyliau a Ffermdai Gogledd Cymru sy’n cynrychioli’r Gymdeithas yng nghyfarfodydd CTC a Gwen Thomas o Wasanaethau Twristiaid Eryri sy’n darparu’r cymorth ysgrifenyddol.

Rydym yn cynrychioli nifer fawr o weithredwyr twristiaeth, llawer gyda dim

Gellir cysylltu â Barbara ar barbara@nwhc.demon.co.uk

20

Mae Asiantaethau Cymru’n cyfarfod bob chwech mis cyn cyfarfodydd â Bwrdd Croeso Cymru, ac yn cysylltu â’i gilydd rhyngddynt yn ôl y gofyn.

© Bwrdd Croeso Cymru

Gan Barbara Griffiths, Cymdeithas Asiantyddion Cymru


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:33 PM

Page 21

NEWYDDION

A

BARN CTC

Amserau Anodd Cyngor gan: Adroddiad gan y Cyngor Carafannau Cenedlaethol Mae’r Cyngor Carafan Cenedlaethol yn lobïo gwleidyddion yn y DU ac Ewrop yn erbyn cynigion i gynnwys prawf a hyfforddiant ychwanegol ar gyfer categorïau penodol o gerbydau a dynnir cyn y gallant gael Trwydded Yrru Ewropeaidd. Mae’r CCC yn credu y byddai’r cynnig – y Cyfarwyddyd Trwydded Yrru – yn rhwystr i newydd ddyfodiaid at garafanio, felly mae’n defnyddio ei lais cryf i gynrychioli barn y diwydiant i ASau ac ASEau. Gydag aelodaeth o dros 500, mae’r Cyngor Carafan Cenedlaethol (CCC) yn gymdeithas fasnach weithgar, ddeinamig i ddiwydiant carafanau’r DU. Mae CCC yn cynrychioli parciau, gwneuthurwyr, gwerthwyr a chyflenwyr gwasanaethau. Ei genhadaeth yw parhau i wella safonau’r diwydiant mewn rhagoriaeth dechnegol a masnachol. Felly mae’n falch iawn o gyhoeddi mai hanes llwyddiant yw hanes carafanio yn y DU, gyda’r diwydiant, a gafodd un o’i flynyddoedd gorau erioed, bellach werth dros £3 biliwn y flwyddyn, a ddaw o werthiant cynhyrchion a gwariant ar wyliau carafan yn y DU. Mae CCC yn parhau, yn enwedig drwy ei Gynllun Ardystio, i weithio i greu cynnyrch gwell a

DGA: dulliau a argymhellir i dderbyn archebion

diogelach i’r prynwr. Mae’n rhoi cyngor i’w aelodau ar nifer o faterion, gan gynnwys diogelwch a materion cyfreithiol, a gwybodaeth dechnegol. Mae wedi cyhoeddi nifer o daflenni ‘arfer da’, yn enwedig Camddefnyddio Cartrefi Gwyliau Carafan, dogfen ar y cyd o fewn y diwydiant sy’n anelu at ddadwneud problem gynyddol pobl yn mynd i fyw i garafanau gwyliau. Mae’r ymgyrch Dechreuwch Garafanio, y bu CCC yn cydweithio’n glos arni gyda’r ddau glwb defnyddwyr, y Clwb Carafan a’r Clwb Gwersylla a Charafanio, yn dal i gael ei hyrwyddo gyda llyfryn newydd Ffwrdd-aChi yn cael ei rannu am ddim i’r cyhoedd mewn arddangosfeydd. Mae’n anelu at gyflwyno carafanio i farchnadoedd newydd, gan bwysleisio rhyddid, gwerth a dewis. Mae CCC hefyd yn rhedeg gwefan sy’n wynebu tua’r cwsmer ar www.thecaravan.net, gyda llwyth o wybodaeth fuddiol yn cynnwys ble i aros, a sut i ddewis parc neu gartref carafan. Yn ogystal â chyhoeddi Parciau Teithio Safonol 2004, rhestriad blynyddol o bob parc yn y DU a Gogledd Iwerddon a gafodd ei archwilio gan y Bwrdd Croeso, mae CCC yn gweithio gyda VisitBritain ar gyflwyno Safonau Mynediad Cenedlaethol newydd ar gyfer parciau carafan a chartrefi gwyliau carafan. Bu CCC, drwy weithgor o fewn y diwydiant, yn gweithio i leihau troseddu carafan. Mae’n dal i hybu’r Cynllun Cofrestru a Dynodi Carafan (CCDC) ar gyfer carafanau teithiol ac mae’n aelod o dîm y Swyddfa Gartref ar Gweithredu ar Leihau Troseddau yn y Sector Hamdden (LSCRAT).

O ganlyniad i’r Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, a ddaeth i rym o’r diwedd ar 1 Hydref, mae’r Gymdeithas Letygarwch Brydeinig yn cynghori gwesteuwyr y byddai’n ddoeth iddynt fabwysiadu’r dulliau canlynol wrth dderbyn archebion. Sicrhau bod unrhyw asaint a/neu systemau archebu yn gyfarwydd â nodweddion mynediad eich eiddo a’r iaith briodol i’w defnyddio (gweler geiriad y paragraff nesaf). Wrth gymryd archebion dros y ffôn, ffacs, ebost neu lythyr, dywedwch “DYWEDWCH WRTHYM AM UNRHYW ANGHENION MYNEDIAD SYDD GENNYCH ER MWYN I NI DDARPARU’R GWASANAETH PRIODOL.” (Gellir egluro’r cwestiwn hwn, os bydd gofyn, fel cais am wybodaeth ymarferol fydd yn helpu’r busnes i ddarparu’r gwasanaeth angenrheidiol i bob cwsmer unigol). Ail adroddwch wrth y gwestai y wybodaeth a roddwyd a gwnewch nodyn o’r gofynion i sicrhau cadw atynt pan gyrhaedda’r gwestai. Byddwch yn onest ynglyn â’r cyfleusterau ac ystyriwch gynnig dewisiadau eraill os nad yw mynediad llawn ar gael ar y safle. Darparwch fan cyfeirio gwybodus yn y busnes, fel bo ymholiadau parthed cyfleusterau i’r anabl yn cael eu hateb yn gywir, nid ar fyr fyfyr. Pan gyrhaedda’r gwestai, dywedwch “WRTH ARCHEBU RHOESOCH WYBOD I NI FOD ARNOCH ANGEN ___________ RHWYDD MYND ATO. OES YNA FFYRDD ERAILL Y GALLWN FOD O GYMORTH I CHI?”

21


tourism_04_pages_welsh_c

A

2:34 PM

Page 22

BARN CTC

Ffurfio Fforwm i’r Sector â Gwasanaeth CAFODD FFORWM NEWYDD

i wasanaethu anghenion lletai a gwestai bychan yng Nghymru ei lansio yn ystod yr haf eleni. Grw ˆ p cenedlaethol ymgynghorol twristiaeth ar gyfer y sector G&B, lletai bychan a gwestai bychan gyda 10 llofft neu lai yw’r Fforwm Lletai Bychan â Gwasanaeth. Mae aelodaeth o’r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o’r fasnach o bob un o bedair rhanbarth Cymru, Cadeirydd CTC Julian Burrell a Chris Coleman, Pennaeth Adran Sicrhau Ansawdd CTC wrth law. Un o dasgau cyntaf y grw ˆ p fu ystyried y cynigion i harmoneiddio graddoli yn y sector hon. Yn dilyn ymgynghori ehangach gyda’r diwydiant, bydd y grw ˆ p yn gweithio’n glos gyda CTC i sicrhau y bydd y safonau newydd arfaethedig ac amserlen eu gweithredu yn ymarferol ac yn gyraeddadwy. Yn ychwanegol at harmoneiddio graddoli, bu’r grw ˆ p yn ystyried ystod eang o bynciau megis Cofrestru Statudol, Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, a’r posibilrwydd o gau nifer o Ganolfannau Gwybodaeth Ymwelwyr. Y Cadeirydd yw June Jenkins – 01446 774451 junejenkins@bydd.co.uk.

Brandio Cymru – Allwedd Llwyddiant Gan Ben Cottam, Swyddog Datblygu Polisi Cymreig Ffederasiwn Busnesau Bychain. Mae’r sector twristiaeth yng Nghymru yn amrywiol ac yn ddeinamig – ni ellir amau hynny. Sut arall y byddai wedi goroesi digwyddiadau trychinebus megis clwy’r traed a’r genau ac effaith yr ymosodiadau terfysgol yn Efrog Newydd ar niferoedd ymwelwyr? Y mae yna, fodd bynnag, er gwaetha’r effeithiau gweddol fyrdymor hyn, angen gwirioneddol i gymryd golwg hir-dymor ar werthu Cymru fel ‘cynnyrch’. Mae hyn yn allweddol nid yn unig i dwristiaeth fel sector, ond hefyd i bob agwedd ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.

22

effeithiol. Gyda chymharol ychydig o weithredwyr mawr proffil marchnata gwan sydd gan y diwydiant yn ei gyfanrwydd. Yr hyn sydd ei angen yw mwy o eglurder ynglyn â phwy sy’n gyfrifol am beth o fewn y diwydiant, gwell sianelau cyfathrebu rhwng yr holl gyrff perthnasol a gwell cydlynu i ddileu rhywfaint o’r dryswch a geir o fewn y sector.

Bu yna feirniadaeth mewn blynyddoedd diweddar ar ddiffyg cydlynedd rhwng yr holl gyrff perthnasol o fewn y sector twristiaeth, defnydd effeithiol o’r adnoddau sydd ar gael ac o ddyblygu mewn gormod o feysydd. O ganlyniad, bu yna fethiant rhannol i frandio a marchnata Cymru’n effeithiol fel cyrchfan ymwelwyr.

Yr hyn sy’n dod yn neilltuol o eglur yw fod gan Gymru mewn gwirionedd botensial brand diwylliannol cryf. Rhaid i ni sylweddoli’n llawnach ei bod yn hanfodol, os yw diwydiant twristiaeth o ansawdd da i fod yn gynaliadwy mewn gwirionedd yng Nghymru, a’i fod am gydweddu â dyheadau pobl Cymru, ein bod yn adeiladu ar agweddau diwylliannol, a chyda mwy o gydlynedd yn y sector dan arweiniad CTC, mae yna bellach gyfle euraid i ecsbloitio’r brand hwn.

Mae natur anghymesur a bach-ofaint y diwydiant ynddo’i hun yn broblem parthed marchnata’n

Mae gennym dirwedd a hanes sy’n ddi-os yn cydio yng nghalonnau twristiaid, ac ymwelwyr eraill â’n

glannau hefyd, fel y tystia’r defnydd cynyddol o leoliadau Cymreig gan gynyrchiadau mawrion o Hollywood yn Sir Frycheiniog ac ar Ynys Môn yn ddiweddar er enghraifft. Rhaid i gefnogaeth briodol i ddatblygiad gwasanaethau ac is adeiledd yng Nghymru gydfynd â datblygu’r brand diwylliannol hwn. Mae aelodau o FFBB yng Nghymru, er enghraifft, ar hyn o bryd yn lobïo dros y maes awyr y mae ei wir angen ar ogledd y wlad ym Môn, a fyddai, pe ceid ef, â’r potensial i ychwanegu’n sylweddol at niferoedd yr ymwelwyr â Chymru a’r manteision economaidd a fyddai’n anochel yn deillio o hynny. Rhaid dweud,fodd bynnag, mai dim ond drwy fwy o ymgynghori â’r gymuned busnesau bach – sy’n ffurfio canran mor fawr o’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru – y bydd yr ail-werthuso ar ddiwylliant Cymreig y mae gwir angen amdano yn arwain at ffurfio delwedd brand gryfach i Gymru ac at gynyddu’r elfen ddeinamig ymhlith busnesau twristiaeth Cymreig.

© Bwrdd Croeso Cymru

NEWYDDION

24/10/04


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:34 PM

Page 23

NEWYDDION

A

BARN CTC

Delwedd Lachar Newydd i Aros ar Fferm yng Nghymru BYDD AROS AR Fferm DU yn lansio delwedd newydd gyffrous i’r sector Gymreig y flwyddyn nesaf, gan gydnabod y rhan sylweddol y mae Cymru’n ei chwarae mewn codi proffil twristiaeth fferm yn y DU. Bydd llyfryn llachar newydd, “ Arhoswch ar Fferm yng Nghymru”, yn cymryd lle cyhoeddiad presennol Gwyliau Fferm Cymru. Ochr yn ochr â hyn bydd gwefan newydd gyffrous, â chysylltiad cryf â’r safle genedlaethol sy’n llwyddiannus iawn. Ers trychineb clwy’r traed a’r genau, mae twristiaeth wledig wedi mynd o nerth i nerth, ac mae gan Aros ar Fferm DU bob hyder at y dyfodol. Mae’r sefydliad yn credu, fodd bynnag, fod delwedd y diwydiant gwely a brecwast drwy’r DU yn dal i gael ei lusgo i lawr gydag enw o fod yn anghyson a gwael ei ansawdd. Nid yw’n syndod fod Aros ar Fferm yn dal yn llais cryf dros gyflwyno isafbwynt safon derbyn gorfodol ar unrhyw un sy’n gwerthu lle aros neu wasanaethau twristiaeth eraill. “ Rhaid i dwristiaeth drwy’r DU roi mwy o flaenoriaeth i feithrin enw am ddarparu gwerth am arian ac ansawdd da os ydym am weld twf parhaus a sylweddol mewn busnes , yn ogystal ag ennill yn ôl beth o’r farchnad a gollwyd mewn blynyddoedd diweddar,” meddai Nigel Embry, Prif Weithredwr Aros ar Fferm DU.

Mae natur dymhorol y diwydiant yn parhau yn broblem fawr yn nhermau adeiladu busnes fodd bynnag, meddai Mrs Ionwen Lewis, Cyfarwyddwr Cymru Aros ar Fferm. “ Felly rhaid i ni weithio’n galetach drwy’r amser i ddatblygu ein henw fel diwydiant gydol y flwyddyn ac i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan ynddi ei hun i ymwelwyr a theithwyr busnes fel ei gilydd.” Byddai Aros ar Fferm yng Nghymru yn hoffi gweld Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar farchnata a llai ar gynyddu ystod y cynnyrch. “Ansawdd, nid maint ddylai fod yn arwyddair ein sector hanfodol bwysig o’r diwydiant i lwyddo yn y dyfodol,” meddai Mrs Lewis, sy’n egnïol iawn gyda hyrwyddo diwydiannau amaethu a thwristiaeth yng Nghymru. “Ymhellach, byddai cael cynllun archwilio llwyr integreiddiedig ac unffurf ar gyfer y DU gyfan yn seiliedig ar isafbwynt safon derbyn yn gaffaeliad mawr gyda marchnata tramor ac yn help i ganiatau gwneud y mwyaf o’r ddelwedd wledig Gymreig.” Yn esiampl ardderchog o’r hyn y mae’n ei hyrwyddo, mae Mrs Lewis yn enwog fel bridiwr Gwarthaeg Duon Cymreig a defaid tecsel, yn is lywydd Undeb Amaethyddol y Merched ac yn gadeirydd ei bwyllgor da byw, yn ogystal â bod wedi troi ystod o adeiladau fferm traddodiadol yn weithdai a swyddfeydd. Felly mae’n falch iawn o weld fod y buddsoddiad anferthol yng Nghaerdydd yn y blynyddoedd diwethaf wedi chwarae rhan bwysig gyda chodi delwedd y cynnyrch Cymreig a chreu gwell ymwybyddiaeth o ba mor gyraeddadwy yw’r wlad i ymwelwyr.

O’r dde i’r chwith – Ionwen Lewis, Is Gadeirydd UAM a Chyfarwyddwraig Aros ar Fferm yng Nghymru; Nigel Embry, Prif Weithredwr Aros ar Fferm DU; a Gillian van der Meer, Llywydd UAM yn tynnu’r tocynnau buddugol yn raffl fawreddog Undeb Amaethyddol y Merched 2004.

“Gan mai Lloegr yw’r brif farchnad, ni ellir gorbwysleisio’r neges hon na phwysigrwydd croeso cynnes. Rhaid i ni ddangos i’r byd ein bod yn wirioneddol hoff o ymwelwyr – nid dim ond o’u harian! – ac y gallwn gynnig iddynt yr amrywiaeth ehangaf posibl o gyfleoedd,” meddai. “O ganlyniad, mae Aros ar Fferm yn awyddus i weld twristiaeth drefol a gwledig yn cydweithio’n glosiach i greu gwell adnabyddiaeth gyfansawdd o swyddogaethau cyfochrog y ddau mewn datblygu ymwybod rhyngwladol o’r ystod helaeth o gynhyrchion cyffrous o safon sydd ar gael yn y wlad fendigedig hon.”

“Croeso” Sy’n Gwneud Neu’n Difetha Eich Busnes WAETH PA MOR soffisdigedig yw’ch technoleg, pobl sy’n gwneud neu’n difetha profiad y cwsmer yn y diwydiant twristiaeth, yn ôl Cynllun Croeso Cymru. Mae’r sefydliad, sydd wedi hyfforddi dros 70,000 o bobl yn y sector ers 1991, yn cynnal cyrsiau sy’n ymwneud â gosod safonau a chreu hyderi gyflenwi anghenion pob ymwelydd â Chymru. Mae gwneud pethau’n iawn i’ch ymwelwyr yn hanfodol yn yr hinsawdd busnes cyfoes ac mae’n rhoi mantais gystadleuol. Fu croeso cynnes a ategir gan wasanaeth o ansawdd drwy gyfanrwydd profiad yr ymwelydd erioed yn bwysicach yn y farchnad fydeang. Erbyn hyn mae Betws-y-Coed yn cystadlu â Barcelona neu Trefdraeth â Tenerife yn y farchnad arhosiadau byrion y mae cymaint o weithredwyr twristiaeth Cymru yn dibynnu arnrnt. Rhaid i chi ymateb i her fel hyn yn y farchnad ac mae’r Cynllun Croeso, hefyd, yn cadw i fyny â datblygiadau’r diwydiant wrth

fod yn sensitif o’ch anghenion busnes a staffio wrth gyflwyno hyfforddiant; yn adolygu a diweddaru cynnwys cyrsiau ‘n barhaus; erth ychwanegu at ein criw o hyfforddwyr drwy Gymru er mwyn dod â gwybodaeth arbenigol i’n tîm ac yn bwysicaf oll, drwy ymateb i’ch anghenion hyfforddiant gwasanaethau cwsmeriaid. Fel y daw technoleg gwybodaeth cyfathrebu yn rhan beunyddiol o fusnes, mae’r Cynllun Croeso yma i’ch atgoffa waeth pa mor soffisdigedig ac effeithiol yw’r systemau sydd ar gael, eich pobl sy’n cyfrif o hyd. Nhw fydd yn gwneud neu ddifetha profiad cwsmer. Mae Cynllun Croeso Cymru yn cynnig ystod o weithdai ar wasanaethu cwsmeriaid ac ymwybod o anabledd i ddarparwyr gwasanaeth ar hyd a lled Cymru. Gellir cael mwy o wybodaeth gan Cynllun Croeso Cymru ar 01492 542302 neu ebost whost@llandrillo.ac.uk neu ewch i www.welcome-host-wales.co.uk am ddigwyddiadau hyfforddi yn eich ardal.

23


tourism_04_pages_welsh_c

NEWYDDION

A

24/10/04

2:34 PM

Page 24

BARN CTC

Uwchraddio Atyniadau Wedi Ymweliad 20m Gan Ian Rutherford, Gymdeithas Cymru Atyniadau Ymwelwyr Rhoddodd atyniadau ymwelwyr yng Nghymru wybodaeth i diddori dros 20 miliwn o bobl y llynedd, gan ddod â tua £79 miliwn o bunnoedd i economi Cymru.

Dywedodd bron i 40% o’r 204 atyniad a ymatebodd i’r rhan hon o’r arolwg eu bod wedi uwchraddio a gwella eu hatyniadau yn ystod y flwyddyn

Daw’r ffigyrau calonogol o astudiaeth mewn dyfnder gan Adran Ymchwil BCC sy’n ymateb i alwadau gan Gymdeithas Cymru Atyniadau Ymwelwyr am ddadansoddiad manylach o gyraeddiadau atyniadau Cymreig na chyhoeddiad blynyddol traddodiadol niferoedd ymwelwyr. Dyma, o’r diwedd, dystiolaeth gadarn y gallai gweithredwyr atyniadau feincfarcio eu busnesau yn eu herbyn. Mae’r arolwg – sy’n cynnwys cyfoeth o wybodaeth y dylai gweithredwyr atyniadau ei darllen – yn dangos fod y sector atyniadau wedi bod yn gwneud yn ddadros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Roedd niferoedd ymwelwyr i fyny 6% ar 2002 a bron i 15% ar 2001 yn dangos dychwelyd yn llawn at fasnachu arferol ar ôl effeithiau negyddol CTG. Roedd cyraeddiadau’r gwahanol sectorau yn fwy amrywiol gyda pharciau thema yn dangos dim twf mewn niferoedd yn 2003 tra roedd twf atyniadau seiliedig ar natur dros 11%. Gellir priodoli ‘r twf hwn yn rhannol i’r tywydd da yn 2003 a wnaeth y parciau gwledig ac atyniadau eraill y sector hwn yn fwy deniadol. Dangosir tymoroldeb y sector drwy fod traean o’r holl ymweliadau yn digwydd ym misoedd Gorffennaf ac Awst er bod y De Ddwyrain yn llai tymhorol na’r tair rhanbarth arall gyda 36% o’r ymweliadau yn digwydd yn nhrydydd chwarter y flwyddyn o’i gymharu â 47% yn yr holl ranbarthau eraill. Rhyngddynt, denodd y 256 atyniad a ymatebodd i’r arolwg 13 miliwn o ymwelwyr yn 2003. Gyda trefnyddion yr arolwg wedi dynodi 479 o atyniadau ni fyddai’n afresymol amcangyfrif fod atyniadau yng Nghymru wedi

rhoi gwybodaeth a diddori dros 20 miliwn o ymwelwyr y llynedd. Mae’r adroddiad hefyd yn dynodi lefel y cyllid a enillwyd oddi wrth bob ymwelydd ag atyniad. Y cyfartaledd yw £3.95 a ddaw’n bennaf drwy dâl mynediad a gwerthiannau. Mae hyn eto’n cuddio amrywiaeth sylweddol drwy’r sector atyniadau gyda parciau thema a rheilffyrdd wedi eu hadfer yn cyrraedd dros £7.70 tra bo amgueddfeydd ac orielau yn cyrraedd £2.82. Tynnir sylw at amrywiaethau rhanbarthol sylweddol hefyd gydag atyniadau yng Ngogledd Cymru yn ennill £4.84 ar gyfartaledd ac atyniadau yn y De Ddwyrain yn cyrraedd £3.07. Dylid efallai gadw mewn cof fod canghenau Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru wedi eu canoli yn y De Ddwyrain. Mae lefelau mynychiad yr atyniadau hyn yn uchel ac nid ydynt yn codi tâl mynediad. Ond nid yw atyniadau ymwelwyr yn gorffwys ar eu rhwyfau. Dywedodd bron i 40% o’r 204 atyniad a ymatebodd i’r rhan hon o’r arolwg eu bod wedi uwchraddio a gwella eu hatyniadau yn ystod y flwyddyn, gan wario rhyngddynt ryw £6 miliwn ar draws 64 o atyniadau. Rhaid cydnabod mai dim ond gyda diolch am gymorth grant Adran 4 gan BCC a’r gefnogaeth a’r cyngor a ddaw yn ei sgîl y cafwyd y lefel hwn o fuddsoddi. Pryder mawr gan WAVA a’i bartneriaid yng Nghyngrair Twristiaeth Cymru yw y bydd y cymorth hwn yn aros ar yr un lefel ar ôl ad drefniant cyfredol swyddogaethau BCC ac y bydd y Grant Adran 4 yn cadw’i eithriad gwerthfawr o reoliadau cyfrif ‘de minimis’ Cymorth Gwladwriaethol. Cafodd ‘Ymweliadau ag Atyniadayu Twristiaid 2003’ ei gynhyrchu gan Ganolfan Moffat ac mae ar gael gan Adran Ymchwil BCC neu gellir ei lwytho i lawr o wefan Arlein BCC.

Pasbort i Lewyrch Adroddiad gan Cymdeithas Tywyswyr Taith Swyddogol Cymru Mae menter teithiau ‘Pasport i Gymru’wedi dod â dros £1m o fusnes teithiau gr w ˆp i Gymru ers i Gymdeithas Tywyswyr Taith Swyddogol Cymru ei lansio yn 2003. Trwy ‘Pasport i Gymru’ mae CTTSC bellach yn cynrychioli cynhyrchion y Fasnach Deithio drwy Gymru, mewn arddangosfeydd Teithiau Gr w ˆ p a Bysiau yn y DU, yn ogystal â chynrychioli’r diwydiant ar gyrff masnachol y DU dros y sectorau hynny o’r diwydiant. Mae grwpiau sy’n dod i Gymru yn cael budd o’r profiad o gael Tywysydd Taith Swyddogol Cymru gyda nhw yn ystod eu hymweliad. Mae hyn yn dyfnhau eu dealltwriaeth a’u mwynhad o Gymru ac yn arwain at fwy o ymweliadau drachefn. Crewyd 30% o’r busnes hwn i ddigwydd rhwng Hydref a Mawrth, gan helpu felly i ymateb i bwnc tymoroldeb.

24

Mewn adborth oddi wrth rai a fu ar deithiau ‘Pasport i Gymru’, gofynnwyd i glientau pa un gair neu gymal fyddai’n disgrifio orau eu tywysydd am y diwrnod. Gall ein holl ymaelodau ymfalchio mai’r deg ymateb amlaf oedd: Rhagorol; Addysgiadol; Da Iawn; Cyfeillgar; Diddorol; Gwybodus; Braf; Dymunol; Gwych; Proffesiynol. Fyddwn ni ddim fodd bynnag yn datgelu enw ein haelod a gafodd ei disgrifio gan unigolion sengl fel; Deniadol, Hyfryd, a Gwefreiddiol! Mae ‘Pasport i Gymru’ yn cael ei ehangu ar hyn o bryd, mewn cydweithrediad â Bwrdd Croeso Cymru a’r bedair partneriaeth Ranbarthol, i ymestyn drwy bob ardal ddaearyddol yng Nhymru. Mae CTTSC

Steve Griffin, aelod o WOTGA, yn cynrychioli Cymru yn Ffair Deithio Gr wp ˆ Dorchester

hefyd yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd digwyddiadau pwysig gan y Diwydiant Teithiau Gr w ˆ p a Bysiau yn cael eu cynnal yng Nghymru yn y dyfodol agos.


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:34 PM

Page 25

NEWYDDION

A

BARN CTC

TCC Yn Wych Ar Y WE Gan Val Hawkins, Twristiaeth Canolbarth Cymru

MAE TWRISTIAETH CANOLBARTH Cymru ar y blaen gyda darparu’r offer marchnata diweddaraf ar y we. Wedi lansio nifer o wefannau newydd yn ystod y flwyddyn, mae TCC yn awr yn cyhoeddi cynlluniau i lansio safle ‘Canolbarth Cymru Bywiog’ fydd yn tynnu sylw at y darparwur gweithgareddau a’r digwyddiadau cysylltiedig â gweithgaredd niferus yn y rhanbarth, yn ogystal â safle ‘Canolbarth Cymru i Grwpiau’ yn darparu ar gyfer y farchnad grwpiau a bysiau. Dau safle newydd sydd eisoes yn gweithio ac yn amhrisiadwy i ymwelwyr yw MidWalesEvents.co.uk a SouthernWalesEvents.co.uk. Mae’r ddau safle yn cynnig cyfleusterau chwilio ardderchog felly gellir dangos digwyddiadau naill ai yn ôl yr ardal neu’r dyddiad. Mae TCC yn ymhyfrydu mewn gwneud y defnydd gorau o dechnoleg newydd, gan ddod a budd i’r lleiaf o fusnesau twristiaeth. Ein ‘llong llyngesydd’ marchnata yw’n gwefan ranbarthol www.visitmidwales.co.uk. Yn hyrwyddo Canolbarth Cymru yn ei gyfanrwydd mae’r wefan yn dangos cannoedd o fannau i aros, pethau i’w gwneud, mannau i fwyta, digwyddiadau rhanbarthol a llawer iawn mwy. Gall mannau aros roi gwybod faint o le sydd ar gael a gellir archebu llawer o leoedd arlein.

Gall aelodau ychwanegu cyswllt â’u gwefan eu hunain, dangos faint o le sydd ar gael ganddynt a rhestru digwyddiadau ac atyniadau yn yr ardal gylchynnol. Gallwn hyd yn oed gysylltu’n uniongyrchol â gwefan ’Visit Britain’ i bawb sy’n darparu mannau aros i’w diweddaru’n rheolaidd. Felly bu’n flwyddyn brysur i TCC. Wedi ei leoli’n ganolog ym Machynlleth, prifddinas hynafol Cymru, mae TCC yn darparu ystod o wasanaethau ymwelwyr, cyfleoedd marchnata rhanbarthol a gwasanaethau a chyngor y diwydiant i dros 700 o fusnesau twristiaeth o bob sector o’r diwydiant twristiaeth. Yn bwysicaf oll mae TCC yn rhoi llais cryf i’r diwydiant twristiaeth yng Nghanolbarth Cymru, gan gynrychioli buddiannau ei holl aelodau ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol drwy Gynghrair Twristiaeth Cymru. Yn ogystal â datblygu cyfleoedd marchnata ar y wei’w haelodau, mae TCC am gynhyrch y dau lyfryn cyfarwyddo newydd i’r rhanbarth

– ‘Ble i aros’ a ‘Beth i’w wneud’ yng Nghanolbarth Cymru. Bydd y rhain yn ychwanegol at y llyfryn pen gwely ‘Eich Cyfarwyddyd i Archwilio Canolbarth Cymru’ sy’n cael ei gynhyrchu’n flynyddol a’i ddosbarhtu’n rhad ac am ddim i bob aelod sy’n darparu man aros. Yn ychwanegol at gyfleoedd marchnata, mae TCC wedi ymestyn ystod y gwasanaethau gwerth am arian a gynigir i aelodau. Yn benodol, gellir gwneud arbedion sylweddol ar brosesu cardiau credyd drwy gyfraddau aelodaeth arbennig TCC gyda Gwasanaethau Masnachol Barclaycard. Mae’r gwasanaeth hwn wedi galluogi nifer o fusnesau bychain i gynnig prosesu cardiau credyd am y tro cyntaf. Am fwy o wybodaeth ynglyn a Twristiaeth Gogledd Cymru cysylltwch â: Val Hawkins, Rheolwr Cyffredinol Twristiaeth Canolbarth Cymru Yr Orsaf, Machynlleth, Powys, SY20 8TG Ffôn: 01654 702653

Cadw Allan o’r Tribiwnlys Gan Martin Couchman, Dirprwy Brif Weithredwr,Y Gymdeithas Letygarwch Brydeinig Gweithdrefnau cyflogaeth newydd o 1 Hydref: Er mwyn ceisio cwtogi ar hawliadau yn y Tribiwnlys Cyflogaeth, cafodd gweithdrefnau isafswm statudol newydd eu cyflwyno o 1 Hydref, yn ymdrin â diswyddo, disgyblu, ac achwynion. Bydd rhaid i gyflogwyr bellach gyhoeddi dogfen ysgrifenedig, yn gosod allan eu rheolau disgyblu a’r gweithdrefnau isafswm newydd. Gallai peidio â gwneud hynny gostio hyd at bedair wythnos o gyflog petai gweithiwr cyflogedig yn ennill achos yn y Tribiwnlys. Yn ail, os na fydd cyflogwr yn dilyn y gweithdrefnau, fe ganfyddir unrhyw ddiswyddiad yn anheg ohono’i hun a bydd dyfarniad y Tribiwnlys yn codi o 50%. Gweithdrefn diswyddo a disgyblu safonol: Cam 1: Anfonwch ddatganiad ysgrifenedig at y cyflogedig yn gosod allan beth mae ef/hi wedi ei wneud neu heb ei wneud a all arwain at weithred ddisgyblu neu

ôl rhaid cyfleu’r penderfyniad terfynol i’r cyflogedig.

ddiswyddiad. Gydag achosion o wneud yn segur, iechyd ayyb., gosodwch allan yr amgylchiadau a arweiniodd at y penderfyniad i ddirwyn cyflogaeth i ben. Rhaid egluro’r holl fanylion i’r cyflogedig cyn y cyfarfod cam 2. Cam 2. Rhaid i’r cyflogwr wahodd y cyflogedig i wrandawiad mewn man ac ar adeg rhesymol i drafod y pwnc. Rhaid i’r cyflogedig gymryd pob cam rhesymol i fod yn bresennol a gall ddod a chydweithiwr neu gynrychiolydd gweithwyr gydag ef/hi. Ar ôl y cyfarfod, penderfynwch beth i’w wneud, dywedwch wrth y cyflogedig a chynigiwch hawl i apelio (Mae ACAS yn argymell cyfyngiad amser o bum niwrnod.) Cam 3: Rhaid i weithiwr cyflogedig sy’n dymuno apelio roi gwybod i chi, a rhaid i chi ei wahodd ef/hi i gyfarfod apêl ac ar ei

Gweithdrefn achwyn safonol: Cam 1: Rhaid i’r cyflogedig anfon manylion yr achwyniad atoch yn ysgrifenedig. Cam 2: Rhaid i chi wahodd y cyflogedig i gyfarfod mewn man rhesymol ar adeg rhesymol i drafod yr achwyniad, gan roi amser rhesymol i chi’ch hunan ymchwilio i’r achwyniad. Mae’r cyflogedig dan orfod i fod yn bresennol a gall ddod â rhywun gydag ef/hi. Ar ôl y cyfarfod, hysbyswch y cyflogedig o’r penderfyniad a chynigiwch hawl i apelio. Cam 3: Os yw’r cyflogedig yn dymuno apelio, rhaid iddo ef/hi eich hysbysu o hynny a rhaid i chi drefnu cyfarfod apêl, yn ddelfrydol dan gadeiryddiaeth rheolwr uwch, ac ar ôl y cyfarfod rhaid cyfleu’r penderfyniad terfynol i’r cyflogedig. Cyfarwyddyd manylach ar www.dti.gov.uk/disputeresolution

25


tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:34 PM

Page 26

ANERCHIAD Y GWEINIDOG

Y Diwydiant i Chwarae Rhan o Bwys Gan Andrew Davies, Gweinidog Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cynulliad Cymru

GWLAD FECHAN YW CYMRU, ac mae’n bwysig ein bod yn mabwysiadu agwedd fwy cydlynol i wneud yr eithaf o effaith y diwydiant Twristiaeth Cymreig ar ein heconomi. Bydd corfforaethu Bwrdd Croeso Cymru i mewn i Lywodraeth Cynulliad Cymru yn gwella’n sylweddol effeithiolrwydd, datblygiad a hyrwyddiant y diwydiant, ac yn meithrin perthynas waith agosach â’r rheini sy’n ymwneud â’r rhan bwysig hon o’n heconomi. Tra gall newid weithiau fod yn anghyfforddus, mae’n hanfodol fod ein hagwedd yn un o wellhau parhaus ar ddatblygiad a chyflawnhad cefnogaeth y sector gyhoeddus i’n diwydiant twristiaeth. Mae ffigyrau a ryddhawyd yn ddiweddar gan Fwrdd Croeso Cymru yn dangos cynnydd o 4% yn yr ymwelwyr tramor â Chymru, ac er bod y ffigyrau hyn yn galonogol, rwyf yn credu’n gryf y gallwn, o gydweithio, gyrraedd lefel uwch fyth o ymwelwyr tramor a chartref â Chymru.

Mae’r rhain yn adegau cyffrous iawn i’r diwydiant Twristiaeth Cymreig. Mae’r byd cyfan yn gweld Cymru fel lle i wneud busnes, ac fel lle i ymweld ag ef. Rwy’n edrych ymlaen at weithio’n glos â chi i adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol ac i wneud yr eithaf o’r cyfleoedd lluosog sydd ar gael i ni.

Adeilad y Cynulliad Cenedlaethol, Bae Caerdydd

Allwn ni ddim ymfodloni na bod yn anwybodus o’r pwysau cystadleuol a wynebwn wrth farchnata Cymru ar y maes twristiaeth rhyngwladol. Rhaid i ni addasu, a mabwysiadu prosesau newydd, gwrando ar y diwydiant a chyflenwi dull mwy effeithiol a chydlynol wedi ei anelu’n fanylach i sicrhau ein bod yn gwella ein cynnig twristiaeth. Fel llywodraeth rydym wedi cydnabod pwysigrwydd canolog y diwydiant twristiaeth i’r economi Gymreig, ac adlewyrchir hyn yn rhannol yn y buddsoddi ar y lefel uchaf erioed a ddyfarnasom i Fwrdd Croeso Cymru dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bydd y gydnabyddiaeth hon yn parhau, a chaiff swyddogaeth nodedig y diwydiant ei adlewyrchu’n glir o fewn y strwythur newydd.

© Bwrdd Croeso Cymru

Bydd y sefydliad cyfunol newydd yn darparu canolbwynt masnachol praffach rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r sector dwristiaeth, gyda mwy o dryloywedd a lefel uwch o ymgynghori â’r diwydiant. Tra bydd Llywodraeth y Cynulliad yn atebol yn uniongyrchol am gyflenwi cefnogaeth i dwristiaeth yng Nghymru, bydd cyfarwyddyd a chyngor gan unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â’r diwydiant yn chwarae rhan bwysig yn y trefniadau sefydliadol newydd. Gyda dros 7,000 o aelodau, Cynghrair Twristiaeth Cymru yw sefydliad cynrychioliadol allweddol y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Rwyf yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y mae’r Gynghrair a’i haelodau yn ei wneud, ac edrychaf ymlaen at drafodaethau parhaus fel y byddwn yn llunio manylion y trefniadau newydd.

26

Cadeirydd CTC Julian Burrell gyda’r Gweinidog DET Andrew Davies yn Sioe Frenhinol Cymru eleni


MINISTER’S ADDRESS

Industry To Play Major Role By Andrew Davies, Minister for Economic Development and Transport, Welsh Assembly Government

WALES IS A SMALL COUNTRY, and it is important that we adopt a more cohesive approach to maximise the impact of the Welsh tourism industry on our economy. The incorporation of the Wales Tourist Board into the Welsh Assembly Government will significantly improve the effectiveness, development and promotion of the industry, and will foster closer working relationships with those involved in this important part of our economy. While change can sometimes be unsettling, it is essential that our approach is one of continuous improvement in the development and delivery of public sector support for the tourism industry. Recent figures released by the Wales Tourist Board show a 4% increase in overseas visitors to Wales. Whilst these figures are encouraging, I firmly believe that by working together, we can achieve an even higher level of both overseas and domestic visitors to Wales.

These are very exciting times for the Welsh Tourism industry. Wales is being seen across the world as a place to do business, and as a place to visit. I am looking forward to working closely with you to build on the successes of the past, and maximise the many opportunities available to us.

The National Assembly Building, Cardiff Bay

We cannot be complacent or ignorant of the competitive pressures we face in marketing Wales on the international tourist scene. We have to adapt, and adopt new processes, listen to the industry and deliver a more effective, joined-up and targeted approach to ensure we improve our tourism offer. As a government we have recognised the central importance of the tourism industry to the Welsh economy, reflected in part by the record level of investment we have allocated to the Wales Tourist Board over the last few years. This recognition will continue, and the distinctive role of the industry will be clearly reflected within the new structure.

Š Wales Tourist Board

The new merged organisation will provide a sharpened commercial focus between the Assembly Government and the tourism sector, with an increased transparency and level of consultation with the industry. Whilst the Assembly Government will be directly accountable for delivering tourism support in Wales, direction and advice from individuals and organisations involved in the industry will play a major role in the revised organisational arrangements. With more than 7,000 members, the Wales Tourism Alliance is the key representative organisation for the tourist industry in Wales. I value the contribution that the Alliance and its members are making, and look forward to continuing discussions as we shape the detail of the new arrangements.

WTA Chairman Julian Burrell with EDT Minister Andrew Davies at this year’s Royal Welsh Show

26

tourism_04_pages_welsh_c

24/10/04

2:34 PM

Page 27


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.