Wales_Tourism_05_CYM

Page 1

tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

11:16 PM

Page 1

Argraffiad 3 • Tachwedd 2005

Cynghrair Twristiaeth Cymru

Wales Tourism Alliance

Rhifyn Arbennig Cynhadledd CTC 2005 Maniffesto Maniffesto Ar Ar Gyfer Gyfer Twristiaeth Twristiaeth Yng Yng Nghymru Nghymru

Blwyddyn sy’n Garreg Filltir i Dwristiaeth yng Nghymru

“Gadewch i ni Gydweithio!”

“Mae Undod yn Hanfodol mewn Blwyddyn o Newid”

Ymgyrch Newydd CTC


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 2

Cig o Gymru – Arwydd o Safon

Pan fyddwch chi’n prynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gallwch fod yn siw ˆ r eich bod yn prynu cynnyrch o safon uchel, o anifeiliaid a gafodd eu geni a’u magu yng Nghymru yn unol â safonau ansawdd llym. Mae Cig Oen Cymru, ynghyd â Chig Eidion Cymru, wedi ennill statws Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) fel cydnabyddiaeth o’r safon uchel hwn a’r ffaith eu bod yn perthyn i ardal ddaearyddol benodol. Mae’r statws hwn yn rhoi sicrwydd taw dim ond cig eidion o anifeiliaid a gafodd eu geni a’u magu yng Nghymru y gellir ei farchnata fel Cig Eidion ‘Cymru’ yn yr UE. Mae Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn gigoedd blasus ac amlddefnydd sy’n gallu troi unrhyw bryd yn bryd arbennig. Mae cig coch yn ganolog i ddiet iach a chytbwys ac yn ffynhonnell ardderchog o haearn a phrotein. Pan fyddwch chi’n prynu Cig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru gallwch fod yn siwˆr eich bod yn prynu cig a gafodd ei gynhyrchu yn unol â rheolau caeth sy'n rheoli safonau yn ymwneud a’r amgylchedd, diogelwch a lles anifeiliaid, sy’n cael eu pennu a'u monitro’n annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth am Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Cymru, cysylltwch â ni yn: Blwch SP 176, Aberystwyth, SY23 2YA Ffôn: +44 (0)1970 625050 Ffacs: +44 (0)1970 615148 Ebost: enquiries@hccmpw.org.uk www.hccmpw.org.uk


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 3

NEGES CADEIRYDD CTC

Blwyddyn Allweddol I Dwristiaeth Yng Nghymru Gan Julian Burrell, Cadeirydd Cynghrair Twristiaeth Cymru

CROESO CYNNES I bedwaredd cynhadledd flynyddol Cynghrair Twristiaeth Cymru yng Ngwesty’r Metropole, Llandrindod. Mae’r adeilad trawiadol hwn yn lleoliad addas i gynhadledd y Gynghrair eleni. Mae’r gwesty wedi tyfu a datblygu – ac mae’n parhau i gynllunio’n uchelgeisiol i godi safonau ac ansawdd. Mae wedi symud yn bell felly o’i marchnad wreiddiol a arloesodd mewn gwyliau tref sba llwyddiannus mewn cyfnod gwahanol. Mae’n rhaid i ni i gyd godi safonau, gwella ansawdd, tyfu a datblygu’n bositif – ac yn 2005 mae hynny’n wir nid yn unig i’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru ond i’r Gynghrair a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Bron i saith mlynedd yn ôl, cymdeithas fasnach ifanc oedd Cynghrair Twristiaeth Cymru gyda’r amcan canolog o argyhoeddi’r Cynulliad bod Twristiaeth yn ddiwydiant digon pwysig i gael ei gynnwys yn y portffolio Datblygu Economaidd newydd. Cyrhaeddwyd y nod honno – a heddiw Cynghrair Twristiaeth Cymru yw “Llais y Diwydiant” yng Nghymru, yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Gweinidog Andrew Davies a’i dîm yn Adran Datblygu Economaidd a Chludiant Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae’r Gweinidog yn pwysleisio’n gyson bwysigrwydd hanfodol ein diwydiant i Gymru a phwysigrwydd y Gynghrair i’r broses wleidyddol.

Cynulliad, rydym yn ymwybodol y bydd yn rhaid i Gynghrair Twristiaeth Cymru ddatblygu ymhellach er mwyn cynrychioli anghenion a dymuniadau’r diwydiant a llywio’r broses wleidyddol tuag at weithredu effeithiol lle bynnag bo modd. Mae’r Cynulliad yn datblygu yn gadarnhaol ac felly hefyd y mae’n rhaid i’r Gynghrair. Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i godi statws y diwydiant yng Nghymru hyd yn oed ymhellach, i fynd i’r afael â diffyg sgiliau ac i annog partneriaeth weithio rhwng y Gynghrair, diwydiant a Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella safon ac i godi nifer yr ymwelwyr i Gymru. Mae yna nifer o faterion y mae’n rhaid i ni eu cael yn iawn ar hyd y

ffordd. Bydd Cynhadledd Cynghrair Twristiaeth Cymru 2005 yn ceisio codi rhai o’r pynciau pwysig hyn ar ran yr aelodau. Costau uwch, prinder sgiliau, trethi busnes, graddio, polisi dim ysmygu, cyfleusterau cyhoeddus, grantiau busnes, marchnata Cymru… mae yna ddigon i ni drafod a datrys. Mae Cynhadledd 2005 yn llwyfan i ddatblygu’r bartneriaeth weithio gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru. I fynegi’n safbwyntiau ac i helpu i ganfod atebion gwleidyddol rhesymol. I lunio maniffesto i’r Diwydiant Twristiaeth yng Nghymru yn 2006 – un y mae’n rhaid i ni ei gyflawni os ydym wir am dyfu a datblygu’n diwydiant.

“Mae’n rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i godi statws y diwydiant yng Nghymru hyd yn oed ymhellach, i fynd i’r afael â diffyg sgiliau ac i annog partneriaeth weithio rhwng y Gynghrair, diwydiant a Llywodraeth Cynulliad Cymru”

Rwyf yn hynod o falch y bydd ef yn bresennol i gyflwyno’r araith gyweirnod i’r cynrychiolwyr ym mhedwerydd cinio’r diwydiant, ddydd Sul, Tachwedd y 6ed.

Os hoffech gael gwybodaeth bellach am Gynghrair Twristiaeth Cymru, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda yn y cyfeiriad isod: Cynghrair Twristiaeth Cymru, Llawr Un, Dominions House North Heol y Frenhines, Caerdydd. CF10 2AR FFÔN: 029 2038 4440 FFACS: 029 2039 9392 E-BOST: info@wta.org.uk

© Bwrdd Croeso Cymru

Fis Ebrill nesaf, pan fydd Bwrdd Croeso Cymru wedi dod yn rhan o’r

3


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 4

SAFBWYNT Y GWEINIDOG

Ebrill nesaf, bydd Bwrdd Croeso Cymru’n peidio â bod, a Llywodraeth y Cynulliad Cymreig fydd yn gweinyddu gwasanaethau cefnogi Twristiaeth.Yma mae’r Gweinidog dros Ddatblygiad Economaidd a Thrafnidiaeth Andrew Davies yn esbonio’i weledigaeth am “ymagwedd fwy cydlynol tuag at ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru.”

Cydweithredu’n Allweddol I’r Ffocws Masnachol Newydd MAE’R SECTOR TWRISTIAETH

yn cyfrannu o gwmpas £2.5 biliwn y flwyddyn i economi Cymru. Fel ym mhob sector o’r economi, Mae Llywodraeth Cynulliad Cymu yn ymrwymo i welliant parhaus yn safon pob agwedd o’r diwydiant.

Mae cyfuno Bwrdd Croeso Cymru â Llywodraeth Cynulliad Cymru’n rhoi llwyfan i ddatblygu ymagwedd fwy cydlynol tuag at ddatblygu’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru ac yn macsimeiddio effaith y diwydiant ar ein heconomi.

Fel llywodraeth, rydym yn cydnabod pwysigrwydd diwydiant twristiaeth Cymru, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu’n rhannol yn y buddsoddiad digynsail a ddyrannwyd gennym i Fwrdd Croeso Cymru dros y blynyddoedd diwethaf.

Gydag ymwelwyr â Chymru’n dod yn fwyfwy craff a’r cynnydd yn y gystadleuaeth fyd-eang yn y diwydiant twristiaeth, mae’n rhaid i ni godi’n perfformiad a gwella ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig i’r nifer cynyddol o ymwelwyr â Chymru.

Mae’r ymagwedd gydweithredol hon yn hanfodol i welliant a datblygiad y diwydiant twristiaeth yng Nghymru.

Mae effeithiolrwydd ymgyrchoedd marchnata Bwrdd Croeso Cymru wedi ennill

Ni allwn fod yn hunanfodlon nag yn anymwybodol o’r pwysau cystadleuol a wynebwn wrth farchnata Cymru yn y farchnad dwristiaeth ryngwladol. Mae’n rhaid i ni addasu, mabwysiadu prosesau newydd, gwrando ar y diwydiant a dangos ymagwedd fwy effeithiol, fwy cydlynol wedi’i thargedu.

“Bydd y corff cyfunedig newydd yn rhoi ffocws masnachol mwy miniog rhwng Llywodraeth y Cynulliad a’r sector, yn fwy tryloyw ac yn ymgynghori’n fwy â’r diwydiant.” cydnabyddiaeth ryngwladol. Bydd ymgyrchoedd marchnata’r dyfodol yn parhau i gael eu hyrwyddo’n effeithiol ac egniol, ac yn adlewyrchu’r angen i deilwra ymgyrchoedd i ofynion y cwsmer yn y farchnad yn ogystal ag anghenion busnesau yng Nghymru. Bydd y corff cyfunedig newydd yn rhoi ffocws canolbwynt masnachol mwy miniog rhwng Llywodraeth y Cynulliad â’r sector, yn fwy tryloyw ac yn ymgynghori’n fwy a’r diwydiant. Gyda mwy na 7,000 o aelodau, Cynghrair Twristiaeth Cymru (CTC) yw’r corff allweddol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Chwaraeodd y CTC ran allweddol yn natblygiad y diwydiant ac rwyf innau bob amser wedi gwerthfawrogi cyfraniadau’r Gynghrair a’i haelodau, weithiau’n heriol ond yn wastad yn adeiladol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i’r diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Ledled y byd, gwelir Cymru fel cyrchfan deniadol i wneud busnes ac i hamddena. Edrychaf ymlaen at barhau’r berthynas glos â CTC ac at adeiladu ar lwyddiannau’r gorffennol i fanteisio i’r eithaf ar yr amryw gyfleoedd sydd yno ar ein cyfer.

4


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 5

CTC YN EDRYCH YN ÔL

Dyna Flwyddyn (Bron Iawn) oedd 2005

Bywyd Prysur Arall Ym Mlwyddyn Y CTC 2004

TACH

AR DDYDD SUL, 31 Hydref a Llun, 1 Tachwedd, cynhaliodd Cynghrair Twristiaeth Cymru ei thrydedd gynhadledd flynyddol yn y Celtic Manor, Casnewydd.

Roedd mwy na 150 o gynrychiolwyr yno i glywed y Gweinidog dros Ddatblygiad Economaidd a Thrafnidiaeth, Andrew Davies yn dweud ei fod yn awyddus i CTC chwarae rhan ganolog yng nghyflwyno a gweithredu trefniadau newydd Llywodraeth y Cynulliad (LlCC) a fydd yn golygu bod Bwrdd Croeso Cymru (BCC) – ac Elwa a’r WDA – yn cyfuno ag Adran Ddatblygiad Economaidd a Thrafnidiaeth y Cynulliad erbyn Ebrill 2006 Mynegwyd pryder bod rhai yn gweithio yn y diwydiant twristiaeth yng Ngogledd Cymru’n wynebu gofynion iddyn nhw gofrestru’u llety, am bris uchel, yn “Llety ag Amryfal Ddeiliaid” dan Ddeddf Tai 1985. DECHREUODD Y CADEIRYDD Julian Burrell a thîm CTC weithredu’r cynllun wyth pwynt, a gytunwyd gan aelodau, ar y cyfuno rhwng BCC â Llywodraeth Cynulliad Cymru, trwy fynychu cyfarfod uno gyda chyrff arweiniol eraill yn y diwydiant. Dau ddiwrnod yn ddiweddarach cyfarfu Julian eto gydag Andrew Davies am awr a hanner o drafod. “Roedd yn gyfle i CTC wyntyllu’n llawn prif ofidiau’r diwydiant ac i edrych ar ffyrdd cadarnhaol ymlaen gyda’r Gweinidog,” meddai Julian Burrell.

2004

RHAG

CTC a Llywodraeth Cynulliad Cymru’n gytûn

Lansiwyd ymgyrch farchnata newydd BCC yn y DU yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar 15 Rhagfyr. Dywedodd cylchlythyr y CTC: “Roedd yr hysbysebion yn cyfleu’r synnwyr lleoliad, y tirlun a’r croeso mewn modd tawel, cartrefol, llawn hiwmor …yn ddiamheuaeth, bydd yr ymgyrch newydd mor llwyddiannus â’r “Big Country”– os nad yn fwy felly.” Lansiodd BCC y cynllun hunan arlwyo newydd a gytunwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol WASCO ar 1 Rhagfyr yn dilyn ymgynghori helaeth â’r diwydiant.

ION

Mewn cyfarfod rhwng CTC â BCC ar 21 Ionawr, pwysleisiodd CTC yr angen i weithredu ar fyrder i droi’r diddordeb a ysgogwyd gan farchnata rhagorol BCC yn ymwelwyr gwirioneddol, gan ychwanegu y dylid ail-strwythuro VisitWales.com fel bod gan bob sector Twristiaeth ei borth ei hunan. Roedd cynlluniau graddio’r Byrddau Croeso ar gyfer llety hunanarlwyo bellach yn gytûn ar draws Lloegr, yr Alban a Chymru. Roedd BCC yn rhagweld y bydden nhw’n gallu cyhoeddi manylion y cynlluniau cytûn ar gyfer llety â gwasanaethau a hosteli erbyn diwedd Ebrill 2005.

Dechreuwyd ymgynghori gyda’r diwydiant am y system graddio gyffredin arfaethedig ar gyfer llety â gwasanaethau yn y DU.

Bu’r Arglwydd Marshall, Cadeirydd newydd VisitBritain, yn siarad yng Nghyfarfod y Pwyllgor Datblygu Twristiaeth Prydeinig yn Llundain ar Ionawr 26. Parhaodd y trafodaethau am y dyddiad cyflwyno ar gyfer polisi “wedi’i archwilio’n unig”.

Dangosodd arolwg o aelodau’r Gymdeithas Letygarwch Brydeinig y byddai cynnydd yn yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn y dyfodol yn fygythiad i swyddi ac oriau gwaith yn y diwydiant. Penodwyd aelod gweithredol y CTC David Williams, o Westy’r Ambassador, Llandudno, yn Gadeirydd 2005 Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Gymdeithas Letygarwch Brydeinig i ddilyn Andrew Guy.

2005

ROEDD Y BROSES ymgynghori ar argymhellion Llywodraeth Cynulliad Cymru i gyfuno â BCC, WDA ac Elwa, yn mynd yn ei blaen.

Esther Roberts (Swyddog Gweithredol CTC ac RTC Twristiaeth Gogledd Cymru) yn trin Llety ag Amryfal Ddeiliaid.

Cyfarfu Fforwm Sector Bychan wedi’i Wasanaethu’r CTC ar Ionawr 28. Roedd y Fforwm, gyda chefnogaeth Bwrdd Croeso Cymru, yn llais defnyddiol iawn ar gyfer perchnogion lletyau gwely a brecwast, gwestai bach a lletyau i westeion.

5


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 6

CTC YN EDRYCH YN ÔL

Dyna Flwyddyn (Bron Iawn) oedd 2005

Bywyd Prysur Arall Ym Mlwyddyn Y CTC CYFARFU UWCH REOLWYR Bwrdd Croeso Cymru gydag Aelodau Cyffredinol y CTC ar yr 2il ar gyfer sgyrsiau am y cyfuniad rhwng Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd Croeso Cymru – sef y tro cyntaf mae’n debyg yr oedd cynrychiolwyr o’r diwydiant twristiaeth i gyd a chyfarwyddwyr Bwrdd Croeso Cymru wedi cyfarfod ynghyd.

2005

2005

CHW

EBR

Ar Chwefror 22, cyflwynodd Cadeirydd y CTC gyfarfod cyntaf Fforwm Diwydiant Twristiaeth De Ddwyrain Cymru. Roedd y Fforwm, gyda chefnogaeth Capital Region Tourism, i fod i gysylltu diwydiant y De Ddwyrain gyda CTC.

2005

MAW

ˆ CWBLHAODD Y GRWP Adolygu Ansawdd lawer o’i waith ar Raddio Safonau Cyffredin yn ei gyfarfod ar Fawrth 1.

Yn y Ffair Fasnach Teithio Brydeinig, rhoddodd Cadeirydd y CTC rybudd i’r Gweinidog Twristiaeth Prydeinig am effaith y Ffioedd Trwyddedu Gwirodydd newydd ar weithredwyr bychain.

AR ÔL MISOEDD o drafod a dadlau, cyflwynodd CTC ymateb 48-tudalen i Ymgynghoriad Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) ar yr argymhellion uno.

Roedd “Traethau Baner Las Prydain” yn cynnwys dim llai na 109 yng Nghymru (allan o gyfanswm o 373 ym Mhrydain gyfan) gan ymestyn o Aberdaron ar Benrhyn Llˆyn i Wiseman’s Bridge yn Sir Benfro. Adroddodd y Cyngor Carafanio Cenedlaethol fod 2004 yn flwyddyn ddigynsail i’r diwydiant.

2005

MAI

Ysmygu mewn mannau cyhoeddus yn bwnc llosg ar yr agenda gwleidyddol.

PARATODD CTC EI Maniffesto Twristiaeth ei hunan ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol i’w ddosbarthu i holl ymgeiswyr y prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru.

Cyhoeddodd CTC ddatganiad i’r wasg yn galw am leihau costau tanwydd ond yn pwyso ar brotestwyr i ymatal rhag gosod gwarchae ar burfeydd olew. Yn Araith y Frenhines ar 17 Mai, roedd Cofrestru Statudol yng Nghymru yn bolisi blaenoriaeth.

Lansiodd Cynghrair Twristiaeth Cymru ymgyrch chwe mis i ymladd yn erbyn y codiadau echrydus mewn Trethi Busnes a ddioddefwyd gan aelodau mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. “Mae’n wirioneddol annerbyniol bod rhai aelodau’n gweld eu trethi busnes yn dyblu bron oherwydd ailbrisio,” meddai Julian Burrell.

YMOSODODD CTC AR gostau cynyddol rheoli busnesau twristiaeth yng Nghymru, gydag ymgyrch yn y cyfryngau i dynnu sylw at y cynnydd llethol mewn costau a oedd yn deillio o ffioedd trwyddedu a threthi busnes newydd – a sylweddol uwch.

2005

MEH

Aberdaron: Traeth Baner Las

Roedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n ymddangos yn barod i gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn gweithleoedd a mannau cyhoeddus caeedig o fewn dwy neu dair blynedd ar ôl pwyso ar Lywodraeth y DU am rymoedd i alluogi hynny. Mae Bwrdd Croeso Cymru yn cychwyn ymgynghoriad gyda’r diwydiant ar y meini prawf safonau gofynnol ar gyfer Cofrestriad Statudol.

© Bwrdd Croeso Cymru

Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru’r 125 ymateb i’r ymgynghori ar yr uniad – gan gynnwys un BCC – a dderbyniwyd gan LlCC.

6

Kevin Jones a’i wraig Dianne, o Aberconwy Web Solutions Cyf, oedd enillwyr Gwobr Efasnach Gwobrau Busnes mawreddog y Western Mail. Mae’r cwpl yn rhedeg Tˆ y Aberconwy yn Eryri.


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 7

CTC YN EDRYCH YN ÔL

© Bwrdd Croeso Cymru

Tymor anghyson, yn ôl y sectorau i gyd, bron.

LLUNDAIN YN ENNILL Gêmau Olympaidd 2012, a’r diwydiant yng Nghymru “wrth eu bodd”, meddai Julian Burrell. "Rwy’n siw ˆ r y caiff hyn effaith mawr ar y diwydiant ledled y Deyrnas Unedig”, yn ôl Mr. Burrell.

2005

GOR

Aeth cinio blynyddol y Gymdeithas Letygarwch Brydeinig ymlaen ar 7 Gorffennaf â chyfran fechan o’r gwesteion a ddisgwyliwyd yn bresennol, o ganlyniad i’r bomio a ddigwyddodd yn Llundain yn gynharach y diwrnod hwnnw. Byddai amserlen amodol ar gyfer Cofrestru Statudol, yn arwyddo deddfwriaeth fframwaith, heb gynnwys meini prawf na manylion gweithredol, drwy’r Senedd erbyn diwedd 2006. Yna cyflwynir y cynllun naill ai yn 2008 neu yn 2009. Estynnodd CTC eu llongyfarchiadau i Gadeirydd BCC, Philip Evans, ar ei CBE yn Rhestr Anrhydeddau Penblwydd y Frenhines, ac i Ros Pritchard, Cyfarwyddwrwaig Gyffredinol BH & HPA a gafodd OBE. Dyfarnwyd MBE i’r tywysydd teithiau Pat Hughes am ei gwasanaethau i dwristiaeth yn Ne a Gorllewin Cymru.

Roedd Gweinidog Twristiaeth y DU James Purnell wedi bod yn trafod y cynnydd anferthol mewn ffioedd trwyddedu a oedd bellach yn berthnasol i reolwyr busnesau bach â gwasanaethau – ond mae’n ymddangos mai ychydig o gynnydd a welwyd. Cyhoeddodd BCC arolwg eang o gyrchfannau ymwelwyr: yn 2004, gwelwyd gostyngiad o 1.6% yn y cyrchfannau lle y talwyd pris mynediad o’i gymharu â chynnydd o 3.3% yn y cyrchfannau lle'r oedd mynediad am ddim..

2005

AWST

CYHOEDDODD CTC Y byddai’n cynnal Derbyniad Seneddol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn Nhˆy ’r Cyffredin nos Lun, 14 Tachwedd, 2005.

Byddai swyddogion CTC yn gweithio gyda Swyddog Twristiaeth Ddiwylliannol BCC, Julie Russell, i ganfod sut

i gynnwys y diwydiant yn llwyr mewn cynlluniau i ddatblygu cyrchfannau rhaidymweld i dwristiaid o gwmpas atyniadau diwylliannol. Y BHA YN cyflwyno tystiolaeth i’r pwyllgor a sefydlwyd gan y DCMS i ymchwilio i strwythur y dyfodol ar gyfer ffioedd trwyddedau gwirod; nododd y BHA y gagendor rhwng honiadau gan Weinidogion y byddai’r diwydiant yn arbed arian trwy’r cynllun newydd â’r costau mynediad uchel iawn.

2005

MEDI

Yr ymchwil diweddaraf gan Oxford Economic Forecasting (OEF) ar gyfer Ymateb Brys y Diwydiant Twristiaeth (TIER) yn dilyn y bomio ar 7 a 21 Gorffennaf yn dod i’r casgliad y byddai economi twristiaeth y Brifddinas a’r DU yn dal i weld cynnydd cyffredinol yn y tymor hir ond y byddai ymwelwyr yn lledu o Lundain i weddill y DU. Mewnbwn aelodau BCC am y tymor yn dangos ymateb cymysg am y flwyddyn gyfan ond y rhan fwyaf o’r rhai oedd yn bresennol yn obeithiol am hydref da iawn. Byddai system newydd o bwyntiau i reoli mewnfudiad i’r DU o’r tu allan i Ardal Economaidd Ewrop, boed hynny ar gyfer cyflogaeth, hyfforddiant, astudio neu gyfnewid diwylliannol, yn debyg o fod yn niweidiol i’r diwydiant twristiaeth

Anrhydeddu Philip a Ros.

Cynhaliwyd cyfarfod pellach o’r Gr w ˆp Adolygu Ansawdd yn Llundain ar Fedi’r 30ain i adolygu hynt y dasg o weithredu Safonau Cyffredin.

7


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 8

CTC DEDDFWRIAETH AMGYLCHEDDOL

NetRegs – Gwneud Cyngor Gwyrdd Yn “Ddu A Gwyn” I Fusnesau MAE LLAI NAG un o bob deg busnes bach a chanolig (BBaCh) yn credu y gallai eu gweithgaredd niweidio’r amgylchedd, yn ôl ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan NetRegs (www.netregs.gov.uk) - gwefan â’r amcan o helpu cwmnïau bach i ddeall eu cyfrifoldebau amgylcheddol. “Gall Busnesau Bach a Chanolig (BBaCh) wynebu dirwyon trwm os na fyddan nhw’n cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol”

Cynhaliwyd yr arolwg ledled Prydain (SMEnvironment 2005), a oedd yn cynnwys dros 1,200 Busnes Bach a Chanolig (BBaCH) o Gymru, er mwyn asesu lefel ymwybyddiaeth amgylcheddol ymhlith BBaCh. Gwelwyd mai 7% yn unig o fusnesau a gredai eu bod yn gweithredu mewn modd a allai niweidio’r amgylchedd. Er bod hyn yn gynnydd o 2% ar ffigwr 2003, mae’r ffigwr isel hwn yn dangos bod llawer o fusnesau bach yn dal i fod yn ddall i’r effaith a gaiff eu gweithredu ar yr amgylchedd.

Ond nid oedd y casgliadau i gyd yn ddigalon. Roedd bron i draean (31%) o’r BBaCh a arolygwyd yn dweud eu bod wedi cyflwyno mesurau ymarferol yn y ddwy flynedd ddiwethaf i leihau niwed i’r amgylchedd. Gall Busnesau Bach a Chanolig wynebu dirwyon trwm os na fyddan nhw’n cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol. Mae gwybodaeth a chyngor i fusnesau bach ar gael gan NetRegs -

8

menter ar y cyd rhwng Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, Gwasanaeth yr Amgylchedd a Threftadaeth yng Ngogledd Iwerddon ac Asiantaeth Amddiffyn yr Amgylchedd yn yr Alban. Mae’n rhoi canllawiau clir a chryno ar sut i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol sy’n rheoli gweithgareddau busnes mewn dros 100 o sectorau busnes, ac yn cynnig cyngor a all arbed arian i fusnesau a’u gwneud yn fwy cystadleuol. Mae’r safle yno i’w ddefnyddio am ddim - ac yn ddienw; nid oes angen cofrestru. I warchod eich busnes a’r amgylchedd, cysylltwch â NetRegs heddiw, ar www.netregs.gov.uk.


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 9

HYFFORDDIANT CTC

Ymgyrchu i gystadlu â’r goreuon…

Hyfforddiant Mewn Twristiaeth Yn Cyrraedd Uchafbwyntiau Newydd “ADDYSG, ADDYSG, ADDYSG” -

gwybodaeth, arferion arloesol a datblygu ysbryd tîm. Dyma ail gyfnod y prosiect sy’n ceisio profi i fusnesau'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw hefyd i godi ansawdd eu cynnyrch.

meddai rhywun, rhywbryd - yw’r allwedd i lwyddiant cenedl, ond mae hyn yn fwy gwir fyth am ddyfodol diwydiant twristiaeth Cymru. Gyda niferoedd digynsail o ymwelwyr â chyrchfannau a chyfleusterau Cymru, mae Fforwm Hyfforddiant Twristiaeth Cymru (TTFW) yn benderfynol o helpu busnesau i sicrhau bod pobl yn mwynhau eu profiad ac yn dymuno dychwelyd. “Mae’n wych bod pobl yn dymuno ymweld â Chymu neu aros yma am wyliau, ond er mwyn iddyn nhw ddod yn ôl, mae’n rhaid i ni gystadlu gyda’r goreuon,” meddai’r Rheolwr Cyfathrebu Huw Evans. “Ers hydoedd buom yn canu clodydd datblygu sgiliau a gwybodaeth, ac, yn wir, mae mwy a mwy o fusnesau ledled Cymru’n cydio yn yr her ac yn canolbwyntio ar fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael. “Ein bwriad yn awr yw canolbwyntio ar yr hyfforddwyr a’r darparwyr hynny sy’n medru cynnal cyrsiau a

phrosiectau sydd o’r budd mwyaf i fusnesau.” Yng Ngwobrau Twristiaeth Cymru 2005 bydd TTFW yn noddi’r wobr Arfer Gorau – Dysgu i Lwyddo, a gyflwynir i’r hyfforddwr neu gorff hyfforddi sydd y gorau am ateb gofynion y diwydiant. Bydd TTFW yn canolbwyntio ar arferion arloesol pan fydd darparwyr hyfforddiant yn gwrando ar, ac yn ymateb i, ofynion busnesau. Eisoes dathlwyd 14 o brosiectau arloesol Patrwm mewn digwyddiadau rhanbarthol yn Ynys Môn, Aberystwyth, Aberafan a Chaerdydd. Mae’r rhain yn cael eu clodfori fel yr enghreifftiau gorau o arfer da ar gyfer pobl eraill sy’n gweithio yn y maes yng Nghymru. Yn 2003 tynnodd TTFW sylw at waith y busnesau Patrwm yng Nghymru a oedd yn llwyddo orau i ddatblygu eu busnes trwy hyfforddiant sgiliau a

Whodoiask yn Gymraeg? Triwch gofynibwy.com! MAE GWEFAN CYMORTH i fusnesau twristiaeth unigryw TTFW, www.whodoiask.com eisoes yn derbyn 65,000 o drawiadau’r mis, ac yn awr, i ateb gofynion y rhai y mae’n well ganddyn nhw drafod busnes trwy gyfrwng y Gymraeg, mae chwaer-wefan wrthi’n cael ei pharatoi, www.gofynibwy.com! Bydd y ddwy wefan yn darparu’r cyfan sydd ei angen ar fusnesau twristiaeth i sefydlu, rhedeg a datblygu’u busnesau – gan gynnwys cysylltiadau â safleoedd defnyddiol eraill – a’r cyfan am ddim. Ni fydd angen cofrestru ar gyfer y naill wefan na’r llall - dim allweddeiriau nag unrhyw ffurflenni i’w llenwi - pwyso unwaith a dyna chi yno!

Mae’r Fforwm yn parhau i gydweithio â busnesau ledled Cymru ac wedi dechrau ar raglen Fentora lle bydd pobl fusnes llwyddiannus yn gallu cynorthwyo eraill i ddatblygu’u busnesau.

Aelodaeth – cynnig na fedrwch fforddio’i golli! Gwneir cynnig unwaith ac am byth i aelodau BCC a chyrff cysylltiol i ymuno â TTFW a chael cystadlu mewn raffl – a’r wobr yn ginio, gwely a brecwast i ddau berson mewn gwesty o’u dewis am ddwy noson, CYSTADLEU A hyd at uchafswm o £500 R HAD AETH – AM DDIM! C

AM DD IM GALLEC HE

Ceir y manylion ym NNILL 2 NOSO N I DDA mhob un pecyn U O BOBL cynrychiolydd yng , c in io , gwely nghynhadledd a brecwas Cynghrair Twristaeth t am d dwy n Cymru ym mis mewn g oson we Tachwedd; dylai dewis, s sty o’ch ydd we aelodau fod wedi rth hyd at £500. derbyn ffurflen bostio’n ôl eisoes. Bydd aelodau’n derbyn pecynnau gwybodaeth a chymorth am ddim, ac yn cael cyfle i ymuno yn y ddadl a chynorthwyo i osod cyfeiriad ar gyfer gwaith y Fforwm yng Nghymru.

Pa reswm dros oedi? Ymunwch heddiw! Manylion gan: Fforwm Hyfforddiant mewn Twristiaeth Cymru, Uned 16 Adeilad Frazer, 126 Stryd Bute, Caerdydd. CF10 5LE Ffôn: 029 2049 5174 E-Bost: enquiries@ttfw.org.uk Ar y we: www.ttfw.org.uk

9


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 10

GWASANAETHAU CYHOEDDUS Y CTC

“Yr hyn sy’n bwysig yw bod y gwasanaethau rheng flaen yn effeithiol ac yn gweithio’n iawn” – ydy’r geiriau yma’n swnio’n gyfarwydd? Y gwahaniaeth yw mai aelod blaenllaw a dylanwadol o’r cyngor sy’n siarad. Mae gan y Cynghorydd Rhiannon Wyn Hughes, sy’n llefarydd yn y gynhadledd, neges bwerus i’r cynrychiolwyr…

Gadewch I Ni Gydweithio! Gan Rhiannon Wyn Hughes, Llefarydd CLlLC ar gyfer Twristiaeth MAE POB UN

leol yn hanfodol, ond mae angen gosod hyn yng nghyd-destun ehangach y gwasanaethau rheng flaen megis buddsoddiad mewn ysgolion neu gartrefi gofal. Felly, mae angen i’r diwydiant twristiaeth ddadlau dros fuddsoddiad mewn twristiaeth mewn ffordd debyg, i fframio’r ddadl o fewn y buddiannau tymor hir sylweddol y gall twristiaeth eu darparu i les economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol lleoliad.

ohonom yn gwybod bod twristiaeth yn fusnes mawr ym Mhrydain. Mae’n cynrychioli mwy na £74 biliwn ac yn cefnogi 2.2 miliwn o swyddi. Mae’n sicrhau gwelliannau mewn amodau cymdeithasol ac amgylcheddol ac yn rhoi gwell cyfle i ymwelwyr a’r boblogaeth leol fel ei gilydd fwynhau elfennau diwylliannol ac addysgiadol. Mae llawer o Awdurdodau Lleol yn rheoli atyniadau a chyfleusterau allweddol eu hunain ac yn deall pwysigrwydd y rhain i’r economi lleol. Mae hefyd yn farchnad sydd wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diweddar. Mae gan bobl fwy o amser hamdden ac rydym wedi gweld cynnydd mewn gwyliau byrion a marchnadoedd cilfach. Felly mae’n hanfodol ein bod ni’n deall mor bwysig yw twristiaeth a beth yw cyfeiriad strategol twristiaeth er mwyn caniatáu i Awdurdodau Lleol gydlynu eu gweithgareddau gyda Bwrdd Croeso Cymru, ei olynydd yn Llywodraeth y Cynulliad, a gyda’r darparwyr twristiaeth lleol eu hunain.

“Ydy’r strydoedd yn lân, ydy’r cyfleusterau wedi’u cadw’n dda, ydy’r toiledau’n agored, a oes lle i barcio ceir? Dyma’r pethau sy’n effeithio ar brofiad unigolion ac yn golygu eu bod nhw naill ai’n canmol ardal neu’n beirniadu’r ardal ar ôl iddynt fynd adref.”

Nid ffiniau cyfundrefnol sy’n bwysig i ymwelwyr, fodd bynnag, na’r ffaith fod strategaeth allweddol ar waith gan y llywodraeth. Yr hyn sy’n bwysig yw bod y gwasanaethau rheng flaen yn effeithiol ac yn gweithio’n iawn. Ydy’r strydoedd yn lân, ydy’r cyfleusterau wedi’u cadw’n dda, ydy’r toiledau’n agored, a oes lle i barcio ceir? Dyma’r pethau sy’n effeithio ar brofiad unigolion ac yn golygu eu bod nhw naill ai’n canmol ardal neu’n beirniadu’r ardal ar ôl iddynt fynd adref. Yn y cyd-destun yma mae CLlLC yn cydnabod gwerth ymgyrch y CTC, ‘Ei Gadw’n Agored, Ei Gadw’n Lân’ mewn gwneud pobl yn fwy ymwybodol o rôl twristiaeth mewn cefnogi cymunedau lleol. Mae’r gwasanaethau yma hefyd yn cael effaith mawr o ran gwneud ardal yn rhywle y mae’r gymuned leol yn mwynhau byw ynddo. Mae hyn yn rhywbeth y mae gwleidyddwyr lleol yn methu ei weld, er mawr anfantais iddynt. Mae dadansoddiad diweddar Bwrdd Croeso Cymru yn dangos bod 48 y cant o fusnesau dros Wyliau Banc mis Awst wedi derbyn nifer uwch o ymwelwyr, a’r prif reswm am hyn oedd cynnydd yn y cwsmeriaid oedd yn dychwelyd. Mae hyn yn galonogol ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Mae cefnogaeth a buddsoddiad mewn twristiaeth gan lywodraeth

10

Yn wir, mae’r diwydiant yn un o’r ychydig feysydd lle mae unrhyw fuddsoddiad yn sicr o ddod â manteision i’r ardal leol. Bydd unrhyw wariant yn mynd i bocedi pobl leol yn aml iawn, a byddent hwy’n mynd allan i brynu nwyddau a thalu am wasanaethau lleol eraill. Mae hyn yn cael effaith enfawr ar gynaliadwyedd cymunedau. Mae llywodraeth leol yn prynu nwyddau a gwasanaethau fwy a mwy mewn ffordd sy’n cefnogi cymunedau lleol, ac mae’n rhaid i ni geisio cefnogi busnesau lleol i wneud hynny hefyd. Mae hyn yn rhoi gwerth ychwanegol i’r darparwr twristiaeth, wrth i ymwelwyr geisio mwy a mwy o elfennau lleol sy’n nodweddiadol o ardaloedd arbennig, rhywbeth yr ydym ni yng Nghymru mewn sefyllfa dda i’w gynnig.

Mae cystadleuaeth, rheoliadau, dewis y defnyddiwr ac, erbyn hyn, orchmynion cynaliadwyedd oll yn ychwanegu at y pwysau sydd ar fusnesau yn y sector twristiaeth. Wrth ddadlau am fwy o fuddsoddiad a chefnogaeth, fodd bynnag, gallai cynaliadwyedd fod yn gyfaill i ni yn hytrach na baich.

Menter farchnata newydd Mae Gr w ˆ p Marchnata’r Fro yn eich gwahodd i gymryd munud i brofi’r ardal hyfryd hon o Dde Cymru trwy ymweld â’n gwefan ar www.gardenofcardiff.com Os oes gennych lety o fewn y Fro neu yr hoffech hyrwyddo busnes sydd o fewn taith dydd i’r ardal, byddem yn falch i gael clywed gennych. Cysylltwch â ni ar 01446 773171 neu e-bost VMG@crossways.co.uk


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:31 PM

Page 11

YMGYRCH NEWYDD Y CTC

Y CTC Yn Lansio Ymgyrch Newydd MEWN BLYNYDDOEDD DIWEDDAR, mae aelodau’r CTC wedi cwyno am y prinder cyfleusterau cefnogi sydd ar gael i dwristiaeth leol. Toiledau cyhoeddus sydd angen eu trwsio, budreddi… neu’n waethaf oll, y drysau wedi’u cau i’r cyhoedd. Goleuadau stryd gwael, gan olygu nad yw’r ymwelydd yn awyddus iawn i gerdded ar y strydoedd. Canolfannau Croesawu wedi’u cau neu’n cynnig dim byd mwy na’r gwasanaeth lleiaf posib. Y tu cefn i’r golygfeydd torcalonnus yma yn y trefi glan môr, neu’r difwyno mewn ardaloedd Bydd David Williams, Aelod Gweithredol CTC yn hardd, mae cyflwyno'r achos dros yr ymgyrch yn y Gynhadledd. nifer fechan o gynghorwyr lleol sy’n methu gweld o hyd mai twristiaeth yw eu hased economaidd mwyaf. Mae’n ymddangos nad ydyn nhw’n gallu gweld y gyfatebiaeth rhwng busnesau lleol ffyniannus a chynnydd mewn incwm i’r awdurdod lleol. Maen nhw’n methu’r pwynt wrth geisio annog busnesau i symud i’w hardal, sef bod cefnogi busnesau twristiaeth brodorol yn golygu tyfiant dibynadwy tymor hir – a lleol.

I ddechrau, rydym yn taflu sialens sylfaenol i’r awdurdodau lleol i gyd – edrychwch ar eich darpariaeth leol a’i gwella lle bynnag y gallwch.

Mae’r CTC yn sefydliad positif; rydym yn ceisio atebion ac yn cynnig dadl uniongyrchol i gyfleu ein neges ganolog mai twristiaeth yw’r diwydiant blaenllaw yng Nghymru a dylai’r llywodraeth ei drin felly ar bob lefel.

Yn ein barn ni, mae’r ddadl yn syml. Y gorau yw’r cyfleusterau, y mwy y bydd pobl y dref a thwristiaid yn eu defnyddio nhw – a’r mwy y bydd yr economi’n tyfu.

Derbyniodd ein sgyrsiau cyntaf ar alluogi gwelliant mewn gwasanaeth lleol wrandawiad calonnog gan swyddogion Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fel y gwelwch o’u herthygl hwy ochr yn ochr â hon, rydym wedi canfod cyfran dda o dir cyffredin rhyngom yn barod.

Ac wrth i’r economi lleol dyfu, gallwn ailfuddsoddi mwy mewn busnesau lleol sy’n barod i aros yn lleol a pheidio ag ymfudo i India, symud i uned arall mewn ardal asiantaeth datblygiad rhanbarthol wahanol neu ddioddef mympwy’r cyfuno amlwladol.

Nawr mae’n amser gweithredu ymhellach. Yn y deuddeg mis nesaf, byddwn yn gweithio law yn llaw â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i newid gwasanaethau cefnogi twristiaeth ar hyd a lled Cymru.

Felly, rhaid “Ei Gadw’n Agored – Gadw’n Lân” – a bydd pawb ar eu hennill!

Wedi’r cwbl, bydd y bobl leol sy’n talu treth y cyngor yn elwa hefyd.

11


tourism_05_pages_welsh_b

NEWYDDION

A

24/10/05

10:31 PM

Page 12

BARN CTC

Rheoli’r Rheolwyr: Swyddogaeth Allweddol BH&HPA

Helpu’r Llywodraeth I Fframio’r Dyfodol Gan Den Bannister MAE’R SIALENSIAU SY’N

“Ond, mae’n ymddangos nad oes atebion hawdd i’r sialens o ddeall a dehongli’r rheolau a’r rheoliadau sy’n effeithio ar fusnesau unigol”

wynebu cwmnïau bach neu ganolig eu maint heddiw yn amrywiol a niferus. Ymhob maes o fusnes bron iawn, mae perchnogion neu reolwyr yn dod wyneb yn wyneb â materion niferus bob dydd mewn meysydd sy’n amrywio o dechnoleg gwybodaeth i gyfraith cyflogaeth. Mae gwneud penderfyniad anghywir mewn unrhyw un o’r meysydd yma’n gallu bod yn hynod ddrud, ond mae arweiniad proffesiynol ar gael yn aml iawn gan gynghorwyr megis ymgynghorwyr TG a chyfreithwyr.

fel arfer â pherthnasoedd llawer hirach sy’n cynnwys symiau sylweddol. Yn ein diwydiant yn y gorffennol roeddem yn dibynnu ar gyfuniad o gyfreithiau cyfredol y defnyddiwr a chodau ymarfer gwirfoddol. Heddiw, mae’r llywodraeth yn dewis cadw amddiffyniad o’r fath mewn statud swyddogol sydd wedi’i sancsiynu gan y senedd neu ei lunio gan gorff gwarchotgi perthnasol.

Fodd bynnag, mae’n ymddangos nad oes unrhyw atebion hawdd i’r sialens o ddeall a dehongli’r amrywiaeth cymhleth o reolau a rheoliadau sy’n effeithio ar fusnesau unigol. Mae’r rhain wedi ffrwydro yn y degawd diwethaf, a – gyda help yr UE – maen nhw’n cynyddu bron bob dydd.

Rydym yn hapus i dderbyn y dull mwy ffurfiol yma ond rydym yn cydnabod y risg o gael canlyniadau na fwriadwyd sy’n codi pan fydd rheoliadau tynn yn cael eu rhoi ar waith nad ydynt yn cydnabod buddiannau busnes. Os bydd gallu parc i fasnachu neu ddatblygu wedi’i rwystro gan reoliadau, yna mae’n rhaid iddo yn y pen draw ddatblygu mewn ffordd sy’n wrthgyferbyniol i fuddiannau’r defnyddiwr.

Mae gwneud camgymeriad yn y maes yma’n gallu bod yr un mor gostus â dewis y system gyfrifiadurol anghywir, neu ddiswyddo gweithiwr yn annheg. Ond, yn anaml iawn y mae hi’n syml cael y cyngor cywir ar faterion rheoliadol – yn enwedig os ydych yn ceisio cynllunio eich busnes o amgylch newidiadau sydd heb eu cyflwyno eto.

Am y rheswm yma, mae’r BHHPA yn cymryd rhan, ar gam cynnar yn y broses, mewn llunio unrhyw newidiadau sy’n benodol berthnasol i’r diwydiant a newidiadau mwy cyffredinol ac, wedi hynny, drwy’r broses fframio a chynhyrchu’r papur drafft. Mae’r llywodraeth yn parchu’n gyfan gwbl bryderon y BH&HPA a’i arbenigedd a’i wybodaeth gwerthfawr.

Mae’r mwyafrif llethol o reoliadau a deddfwriaeth newydd, a rhai sydd ar y gweill, yn cael eu cyflwyno i amddiffyn buddiannau’r defnyddiwr. Mae hyn yn haeddu canmoliaeth – ond mae’n golygu bod busnesau megis parciau, sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yn uniongyrchol gydag amrywiaeth eang o wasanaethau, yn cael eu heffeithio gan ganran mawr iawn o’r ddeddfwriaeth sy’n dod o bob lefel o’r llywodraeth.

Er enghraifft, yn ddiweddar mae’r BH&HPA wedi gweithio’n agos â Swyddfa’r Dirprwy Brif Weinidog (ODPM) i ddod ag addasiadau i ddeddfwriaeth cartrefi mewn parciau, gan helpu i sicrhau y bydd y cyfreithiau newydd yn darparu strwythur cyfreithiol sy’n gweithio i berchnogion cartrefi a gweithredwyr parciau. Ar hyn o bryd rydym yn cymryd rhan mewn cyfres o sioeau teithio gyda’r ODPM fydd yn teithio’r wlad i esbonio effaith y newidiadau.

Yn wahanol i siop, lle mae gwerthiant bach yn cymryd munudau, mae parciau a’u cwsmeriaid yn ymwneud

Mae’r BH&HPA wedi cynnal ymgynghoriadau hirion gyda’r Swyddfa Masnachu Teg i drafod sut y dylid cymhwyso rheoliadau i gontractau rhwng gweithredwyr parciau a pherchnogion cartrefi carafannau gwyliau. Yn yr UE, clywir llais y gymdeithas mewn nifer o wahanol fforymau lle trafodir cyfreithiau a rheoliadau newydd allai effeithio ar y diwydiant. Mae’r swyddogaeth strategol allweddol yma’n sicrhau mantais ddwbl i aelodau unigol. Mae’r parciau’n gwybod nad yw’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu gallu i redeg busnesau effeithlon a phroffidiol yn cael eu gwneud heb gyfeirio at eu buddiannau y tu ôl i ddrysau caeedig. Mae gwybodaeth fanwl y BH&HPA a’r rheoliadau sydd ar y gweill yn caniatáu i ni roi arweiniad i aelodau ar baratoadau ar gyfer darpariaethau newydd yn y gyfraith.

Cyfarwyddwr BHHPA Ros Pritchard (chwith), Alicia Dunne (Cyngor Carafannau Cenedlaethol) a Syr Brooke Boothby, Aelod Gweithredol Sector Carafannau’r CTC yn sgwrsio yng nghynhadledd y llynedd.

12

Mae busnesau wedi cydnabod ers amser maith bod y gallu i ymdopi’n llwyddiannus gyda newid yn hanfodol i’w lles. Mae aelodaeth y BH&HPA yn rhoi’r adnoddau a’r cyfryngau i’r parciau fydd yn sicrhau eu bod yn barod pan ddaw’r newidiadau – nid yn barod i gydymffurfio yn unig, ond yn barod i gymryd mantais o’r cyfleoedd newydd y mae unrhyw sefyllfa newydd yn eu creu.


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 13

NEWYDDION

A

BARN CTC

Mae Undod Yn Hanfodol Mewn Blwyddyn O Newid Gan Bob Cotton STRWYTHUR MARCHNATA TWRISTIAETH newydd… cynllun cofrestru statudol arfaethedig… deddfwriaeth newydd ar ysmygu… mae twristiaeth yng Nghymru’n gweld newid nad yw wedi ei weld bron erioed o’r blaen. Mae’r strwythur newydd ar gyfer cefnogi twristiaeth yng Nghymru, gyda Bwrdd Croeso Cymru’n cyfuno gyda’r Cynulliad Cenedlaethol, yn newid natur perthynas y diwydiant gyda swyddogaethau marchnata cenedlaethol. Ein tasg yn awr yw sicrhau bod manteision go iawn yn codi o’r undeb agosach yma gyda’r llywodraeth. Penderfyniad gwleidyddol arall yw ceisio gwahardd ysmygu mewn mannau cyhoeddus yng Nghymru, beth bynnag y bydd San Steffan yn ei benderfynu. Mae’r BHA yn credu y bydd y cynigion cyfredol gan Adran Iechyd Lloegr – i eithrio safleoedd nad ydynt yn gwerthu bwyd – yn creu dryswch. Rydym yn ffafrio gwaharddiad cyfan gwbl ar y sail y byddai hyn yn gwneud pethau’n gyfartal i bawb, ond rydym yn awyddus hefyd i weld amseriad rhesymol ar waith fel bod busnesau – a’r cyhoedd – yn gallu addasu’n raddol i’r drefn newydd.

BHA: Cyfarfod a chyfarch yng Nghynhadledd y CTC 2004. (Yn glocwedd o uchod): Y Prif Weithredwr Bob Cotton yn annerch cinio Cynhadledd y CTC dan nawdd y BHA ac (isod) yn siarad am bolisïau wrth y bwrdd gydag aelodau’r BHA; Dirprwy Brif Weithredwr y BHA Martin Couchman (chwith) gyda Michael German AC a Jenny Randerson AC; Cadeirydd BHA Cymru Peter Smith (chwith, Gwesty Caer Beris, Llanfair ym Muallt) a Chadeirydd BHA Prydain David Williams (Gwesty’r Ambassador, Llandudno); Michael Kagan (chwith, Gwesty Cross Lanes Wrecsam), gydag Esther Roberts (Twristiaeth Gogledd Cymru) a Lisa Francis AC; a Michael gydag Elyse Waddy (chwith, Gwesty’r Empire, Llandudno) a Peter a Bobbi Lavin (Gwesty’r Castell, Conwy).

Mae’r trydydd mater mawr – y cynnig yng Nghymru i gyflwyno cofrestriad gorfodol – yn ychwanegol at gyflwyno cynllun graddio gwestai a lletai drwy Brydain gyfan. Er bod cytgordio wedi bod yn darged ers amser hir i bawb sy’n ymwneud â marchnata twristiaeth ym Mhrydain, ac yn darged sydd wedi’i gefnogi’n gryf gan y BHA, mae cofrestriad statudol i Gymru’n gam pellach arwyddocaol sy’n pryderu nifer o weithredwyr. Bydd angen i’r diwydiant archwilio’r meini prawf cofrestru yn fanwl pan gânt eu cyhoeddi. Yn y trafodaethau ar bob un o’r materion yma, mae’r BHA wedi chwarae rhan allweddol a bydd yn parhau i wneud hynny. David Williams, o Bwyllgor BHA Cymru, yw cadeirydd cenedlaethol Prydain ar hyn o bryd; mae’r gymdeithas yn gefnogwr blaenllaw o’r CTC ac yn cadw mewn cysylltiad agos ag aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol, gan gyfarfod â hwy ddiwethaf ym mis Medi. Trwy weithio mewn partneriaeth, byddwn yn parhau i geisio uchafu potensial enfawr twristiaeth yng Nghymru.

13


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 14

HYFFORDDIANT Y CTC

Mae cynlluniau uchelgeisiol i yrru ymlaen â sgiliau i dwristiaeth yn cael eu hamlinellu gan Reolwr Pobl yn Gyntaf Cymru Karen Long

Mae’n Ymwneud â… Rhoi Pobl Yn 1af MAE GAN GYFLOGWYR

yn y diwydiannau lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth yng Nghymru gyfle unigryw i weithio gyda Pobl yn 1af yn y Cyngor Sgiliau Sector Prydeinig, y TTFW a’r CTC i sicrhau bod y niferoedd cywir o bobl, sydd â’r sgiliau a’r cymwysterau cywir, ar gael ar yr amser cywir yn y dyfodol. Mae Pobl yn 1af, y TTFW, a’r CTC yn cydweithio i sicrhau: • Bod cyllido’r llywodraeth yn mynd i’r fan lle mae’r diwydiant ei angen; • Bod cymwysterau’n glir ac yn ddealladwy i gyflogwyr a chyflogeion fel ei gilydd; • Bod dulliau darparu hyfforddiant hyblyg wedi’u creu. Mae’r cyfle yma’n codi o’u cyfranogaeth mewn adolygiad strategol o ddarpariaeth sgiliau a wnaeth Pobl yn 1af. “Ein blaenoriaeth yw dod â diwydiant i ganol y ddadl am sgiliau, sefydlu llais ar faterion sgiliau ar gyfer y sector, datblygu partneriaethau gyda budd-ddeiliaid allweddol a gweithio gyda busnesau i ddatblygu cynhyrchiant drwy ddatblygu sgiliau,” meddai Karen Long, Rheolwr Cymru Pobl yn 1af. “Mewn geiriau syml, yr hyn a olygwn yw llunio “Cytundeb Sgiliau Sector”, sef contract “Er mwyn i rhwng y llywodraeth, addysgwyr a chyflogwyr i sicrhau mai’r sgiliau sydd eu dwristiaeth hangen ar gyflogwyr yw’r sgiliau a gânt.” gyrraedd ei

botensial llawn mae’n amlwg bod angen cael gafael ar yr hyfforddiant cywir i wella sgiliau, cynhyrchiant ac i barhau i ddarparu’r cynhyrchion premiwm yn y tymor hir” 14

Mae barn a chyfranogaeth cyflogwyr yn hanfodol yn y broses bum-cam i: •Ganfod pa sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt gan eu gweithlu yn awr ac yn y dyfodol; • Canfod maint, ansawdd ac effaith y ddarpariaeth ddysgu sydd ar gael; • Asesu’r bylchau rhwng y galw am sgiliau a’r cyflenwad dysgu sydd ar gael; • Wedi ei seilio ar y dystiolaeth, canfod beth sydd angen digwydd; • Cynhyrchu cytundeb terfynol ar y ffordd mae Pobl yn 1af, cyflogwyr a phartneriaid cyllido allweddol yn cymryd y gweithredu gofynnol yn ei flaen. Os yw twristiaeth i gyrraedd ei botensial llawn mae’n amlwg bod angen cael gafael ar yr hyfforddiant cywir i wella sgiliau, cynhyrchiant ac i barhau i ddarparu’r cynnyrch twristiaeth premiwm yn y tymor hir yn ogystal â chynyddu apêl a chadwraeth y dalent.

Mae’r rhaglen ymgynghori Pobl yn 1af yng Nghymru’n cychwyn yr hydref yma fel rhan o adolygiad strategol drwy Brydain gyfan o’r ddarpariaeth i ddiwallu’r anghenion sgiliau yn y sector lletygarwch, hamdden a thwristiaeth. Bydd cyfres o weithgareddau’n casglu barn cyflogwyr ar amrediad o faterion yn cynnwys diffyg mewn sgiliau, recriwtiad a materion cadwraeth a’r hyn sy’n rhwystro pobl ar hyn o bryd rhag cael gafael ar hyfforddiant / addysg, er mwyn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r anghenion hynny. Gall cyflogwyr leisio eu barn drwy geisio ymgynghoriaeth ar-lein sy’n cymryd ychydig funudau yn unig i’w gwblhau ar www.people1st.co.uk/surveys/wales. I gael rhagor o wybodaeth am Pobl yn 1af neu’r Cytundeb Sgiliau Sector, cysylltwch â Karen Long, Rheolwr Cymru os gwelwch yn dda drwy ffonio 07798 741661 neu e-bostiwch karen.long@people1st.co.uk neu edrychwch ar ein gwefan ar www.people1st.co.uk

Prif gyflenwyr Cymru o systemau EPOS, rhestrau arian parod a rheoli stoc i’r diwydiant lletygarwch

Os ydych yn chwilio naill ai am bwynt gwerthiant neu reoli stoc neu system archebu integredig, bydd gan CJ-PoS ateb EPOS wedi ei deilwra ar gyfer eich anghenion busnes unigryw!

Am fwy o wybodaeth ar ein hystod llawn o systemau neu i archebu arddangosiad yn RHAD AC AM DDIM heb unrhyw ymrwymiad i brynu ffoniwch

01685 881660 www.cj-pos.com


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 15

MARCHNATA’R CTC

Mae’n amser buddsoddi yn y dyfodol a chynyddu eich cyfran chi yn y farchnad dwristiaeth dramor enillfawr meddai Nigel Haigh o WORDSapart.

Hoffech Chi Gael Cyfran O £270m? Mae’r tymor gwyliau, gyda’i nifer fechan ond hynod ddylanwadol o ymwelwyr tramor, wedi dod i ben eleni erbyn hyn. Mae’n amser da i ni edrych yn ôl ac ystyried y pump neu chwe mis diwethaf. • Oedd eich enillion a nifer eich ymwelwyr tramor mor uchel ag y gallen nhw fod? • Beth allech chi ei wneud i wella eich cyfran yn y farchnad enillfawr hon y flwyddyn nesaf?

Cyfathrebiad yw marchnata; mae cyfathrebiad yn dibynnu ar ddealltwriaeth. Beth fydd yn digwydd os na all eich cwsmeriaid tramor ddeall eich marchnata?

• Sut allech chi roi gwybod i ymwelwyr tramor beth sydd gennych i’w gynnig cyn iddyn nhw adael eu cartrefi i ddod i ymweld â Phrydain? • Os ydyn nhw’n dod i Brydain, sut allwn ni sicrhau eu bod nhw’n dod atom ni? • Sut allwn ni eu perswadio nhw i aros yn hirach - a gwario mwy o arian gyda lwc?

Gadewch i ni edrych am atebion sy’n wirioneddol gost-effeithiol.

Pam ddylech chi ei gwneud hi’n anodd i ymwelwyr tramor wybod o flaen llaw beth sydd gennych i’w gynnig drwy osgoi rhoi eu hiaith frodorol hwy ar eich gwefan, ar lyfrynnau gwybodaeth, ar wybodaeth glywedol neu ar hysbysebion? Pan fydden nhw’n cyrraedd eich busnes chi, gadewch iddyn nhw wybod beth sydd gennych i’w gynnig drwy roi deunydd clywedol neu brintiedig yn eu hiaith hwy. Darparwch wybodaeth ac arwyddion argyfwng, bwyty, a thoiledau mewn nifer o ieithoedd. Peidiwch byth â chymryd yn ganiataol eu bod nhw’n gallu siarad, deall neu ddarllen Saesneg. Cofiwch, bydd ymwelwyr o dramor yn cymryd eich gwybodaeth yn eu hiaith eu hunain gartref gyda hwy i’w ddangos i bobl eraill allai ddod i ymweld â chi maes o law. Dyma rai awgrymiadau i sicrhau bod eich cyllideb marchnata, pa mor gyfyngedig bynnag ydyw, yn gweithio i chi. • Defnyddiwch rywfaint o iaith dramor (byddai cyn lleied â 100 o eiriau’n effeithiol) ar eich gwefan; (mae porwyr y rhyngrwyd yn mynd at we-dudalennau yn yr iaith frodorol yn gyntaf). • Cynhyrchwch lyfrynnau y gallwch eu gwerthu i ennill rhywfaint o’r arian a wariwch yn ei ôl; ystyriwch roi is-deitlau ar unrhyw ddeunydd aml-gyfrwng sydd gennych yn barod. • Ceisiwch osgoi gwneud newidiadau costus i waith celf – y cwbl sy’n rhaid i chi ei wneud yw newid y testun Saesneg yn destun yn yr iaith dramor ac osgoi costau argraffu mawr (ac osgoi gwastraffu twmpath o lyfrynnau gwybodaeth) drwy argraffu atodiadau i lyfrynnau gwybodaeth yn yr iaith ar bapur pennawd eich cwmni chi o’ch cyfrifiadur • Beth am gyflwyno ieithoedd ychwanegol yn raddol. Gallech ddechrau, efallai, gyda Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg a Japaneg. (Bydd yr ieithoedd yma’n bodloni’r rhan fwyaf o Orllewin Ewrop, De America ac, wrth gwrs, Japan). • Cynlluniwch yn ofalus, peidiwch â rhoi dyddiadau a gwybodaeth benodol arall arnynt – drwy wneud hynny dim ond unwaith y bydd yn rhaid i chi wneud y cyfieithiad • Gallech gynhyrchu deunydd ar y cyd gyda lleoliad, cwmni neu atyniad arall er mwyn rhannu costau. Peidiwch ag ystyried hyn yng nghyd-destun y flwyddyn hon yn unig. Mae nifer yr ymwelwyr tramor yn cynyddu; mae hwn yn fuddsoddiad ar gyfer y dyfodol.

15


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 16

ERTHYGL CTC

Ydych chi’n cofio’r adeg pan oedd gwyliau rhannu tˆy a hysbysebion yng nghylchgrawn “The Lady” yn gwneud y gwyliau perffaith? Mae Paul Russell yn egluro sut mae’r diwydiant yng Nghymru wedi camu ymlaen mewn ychydig o ddegawdau.

Tipyn O Newid! PAN SEFYDLWYD NORTH Wales Holiday Cottages & Farmhouses, ganol y 1960au, roeddem yn byw mewn oes pan oedd rhannu tˆy – perchnogion tai yn cynnig rhannu eu cyfleusterau gyda phobl ar eu gwyliau – yn dal i fod yn beth cyffredin. Cymaint y mae pethau wedi newid. Roedd ffermio mewn dirwasgiad, a’r dyddiau pan oedd gwragedd fferm yn ennill incwm o werthu eu cynnyrch yn y farchnad leol yn prysur ddirwyn i ben. Roedd yna bwysau ar ffermwyr i geisio mwy o dir, ac arweiniodd hynny at uno ffermydd, gan greu ail ffermdy mewn rhai achosion. Gwelodd y ffermwyr bod modd gwneud incwm ychwanegol o osod yr eiddo dros ben fel tai gwyliau. Ond roedd gosod ar hyd y flwyddyn yn dal i fod ymhell i ffwrdd, oherwydd bod pobl yn meddwl am Gymru fel lle dan drwch o eira bob gaeaf, a doedd dim cerbydau 4 x 4 yn y dyddiau hynny. Ar y dechrau, hysbysebion syml mewn papurau newydd oedd yn denu’r ymwelwyr. Byddai’n rhaid i bwy bynnag oedd â diddordeb anfon

amlen wedi’i stampio a’i chyfeirio, i ofyn am wybodaeth am garafán, bwthyn neu ffermdy, ac yna’n cael y wybodaeth trwy’r post, ar ffurf copi wedi’i baratoi ar beiriant Banda (copi ar bapur carbon). Roedd yn rhaid talu ernes o 5 gini, a thalu’r gweddill ar ôl cyrraedd. Doedd dim yn cael ei drafod dros y ffôn, roedd archeb post yn fwy cyffredin na siec, ac wrth gwrs, doedd dim cardiau credyd.

“Defnyddiodd Syr Edmund Hillary yr un bwthyn carreg yn Eryri ar ddau achlysur…” Wrth i niferoedd eiddo gwyliau gynyddu, cynhyrchwyd taflen garbon, ac wrth wasgu’n galed ar y papur, roedd modd gwneud pum copi. Daeth yn amser i argraffu taflen, gyda dim ond un neu ddau o luniau mewn inc ac ychydig o ffotograffau du a gwyn. Dechreuodd y drefn o hysbysebu

cenedlaethol yn y Sunday Times a The Lady, a datblygodd busnes yn gyflym iawn yn dilyn erthygl ffafriol yng nghylchgrawn yr AA, ac ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ofyn i’r asiantaeth gynnwys eu heiddo yng Ngogledd Cymru ar y daflen. Yn raddol, trwy gyfrwng ffôn, peiriant ateb a ffacs, roedd modd i ni gyfathrebu’n agosach gyda’n cwsmeriaid. Ond yn wahanol i heddiw, doedd neb yn gofyn am rywle ‘digon agos i gerdded i dafarn’ – doedd yr heddlu ddim yn gofyn i chi chwythu i’r bag! Doedd neb chwaith yn holi am le i fwyta allan, gan fod ymwelwyr yn tueddu i wneud eu bwyd eu hunain. Ond mae yna ddau gais sy’n dod i’r cof – un gan ddynes oedd eisiau bwthyn mor agos at y môr â phosibl fel y gallai glywed y tonnau – a’r enw ar y siec oedd Mrs. C. Gull! Ac roedd yna gais gan wr ˆ bonheddig a welodd ffermdy yng nghyffiniau Nasareth, Caernarfon. Yr enw ar ei siec yntau oedd Rev. Moses! Wrth i safonau wella, dechreuodd ymwelwyr a arferai ddod i westy, ddod i rai o’r lletyau gorau, am eu bod mor hyblyg a phreifat. Oherwydd eu lleoliad a’u preifatrwydd, cafwyd rhai ymholiadau diddorol iawn, yn eu plith gan Warner Bros, a archebodd lety ar gyfer y diweddar George Cukor a Katherine Hepburn. Defnyddiodd Syr Edmund Hillary yr un bwthyn carreg yn Eryri ar ddau achlysur. Daeth y newid mawr, wrth gwrs, yn sgil y cyfrifiadur; peiriannau digon syml oeddynt ar y dechrau – yn cynhyrchu cronfeydd data ar gyfer paratoi swp-lythyrau. Erbyn hyn mae gennym e-bost, cardiau post electronig, marchnata ar y we a llythyrau newyddion electronig. Mae’n anodd dychmygu sut oeddem ni’n ymdopi hebddynt.

16


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 17

NEWYDDION

Arian I Gefnogi Hunanarlwywyr

A

BARN CTC

Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddylanwadu ar y meini prawf ar gyfer y cynllun cysoni graddfeydd seren i’w gyflwyno yng Nghymru yn 2008 a hefyd wedi bod yn ymgynghori ar y safonau gofynnol sy’n briodol ar gyfer Cofrestru Statudol. Mae ailbrisio cyfraddau busnes, yn arbennig yng Ngogledd Cymru, yn fater arall sy’n peri pryder, ac rydym yn ymgyrchu am well cydraddoldeb o fewn system Cymru gyfan.

Margaret Smyth

Mae Bwrdd Croeso Cymru yn treialu dull newydd, mwy manwl o gasglu ystadegau ymwelwyr, wedi’i gynllunio gan WESCO, ac rydym am weld gwefannau VisitWales a VisitBritain yn rhoi cyhoeddusrwydd da i lety hunanarlwyo hygyrch yng Nghymru.

MAE GWASANAETH NEWYDD ar gyfer grantiau bach ac ymgyrch ar gyfer cyfraddau busnes cydradd yn flaenoriaethau uchel gan WASCO, sef y corff sy'n cynrychioli perchnogion eiddo hunanarlwyo yng Nghymru.

Mae grantiau ar gyfer gosod canllawiau, rampiau, arwynebau gwrthlithro, cawodydd eang, seti toiledau, arwyddion Braille a/neu brint bras ac eitemau tebyg o dan ystyriaeth ar hyn o bryd. Dylai’r gwariant fod rhwng £500 a £2,499 i fod yn gymwys. Mae penderfyniadau yn cael eu gwneud yn gyflym, gyda llawer o gynlluniau wedi’u hamserlennu ar gyfer y rhaglen gynnal a chadw dros y gaeaf.

© Bwrdd Croeso Cymru

Mae’r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd wedi gorfodi pawb ohonom i ystyried sut y gallwn wella ein heiddo, gan gymryd gofynion y Ddeddf i ystyriaeth. Rydym erbyn hyn yn cynnig grantiau bach i’n haelodau, tuag at waith o’r fath, yn rhan o gynllun rydym yn ei redeg ar gyfer Bwrdd Croeso Cymru.

WAVA yn cefnogi VAQAS

Trefnus, Croesawus A Destlus Ian Rutherford MAE TUA 128 o’r atyniadau gorau yng Nghymru erbyn hyn yn cymryd rhan yn y cynllun achredu ansawdd, VAQAS Cymru. Mae gan gynllun Bwrdd Croeso Cymru sawl mantais dros ei ragflaenwyr. Mae’n rhoi sicrwydd i’r ymwelydd bod yr atyniad yn cael ei redeg yn dda, yn groesawus a destlus. Nid cynllun graddio ydyw; mae’r atyniadau yn cael eu hachredu neu’n peidio â chael eu hachredu, ac mae rhai yn methu. I’r gweithredydd, mae’n cynnig adolygiad ar eu gweithrediad gan rywun â barn annibynnol – a hynny am gost isel. Bydd pob elfen o’r atyniad yn cael ei adolygu, ei sgorio er budd y

gweithredydd, a’i drafod yn fanwl ar ddiwedd yr arolygiad. Nid mater o arolygu a chosbi ydyw, ond mae’n cynnig cyfraniad gwerthfawr ar y modd y gellir gwella atyniadau ac arweiniad ynglˆyn â ble i gael cymorth. Byddai Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru (WAVA) yn annog dosbarthu’r canlyniadau cyfansawdd i bawb sy’n cymryd rhan er mwyn darparu cyfle meincnodi gwerthfawr. Gellid canfod enghreiffitu o ymarfer da hefyd. Mae WAVA yn cefnogi VAQAS Cymru yn llawn, ac yn credu bod ansawdd yr un mor hanfodol i’r sector atyniadau ag ydyw i sectorau eraill. Mae VAQAS Cymru yn cael ei fabwysiadu fel anghenraid ar gyfer arddangos taflenni ar atyniadau mewn Canolfannau Gwybodaeth Twristiaid drwy Gymru, gan ddechrau yn nhymor 2008. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod ymwelwyr yn cael profiadau da ac yn annog yr atyniadau hynny sydd heb ymuno â’r cynllun, i gymryd rhan.

17


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 18

SAFBWYNT Y CTC

Mae’n ymddangos bod ffermydd gwynt yn cynnig ffynhonnell o egni adnewyddol, ond beth yw’r gost i’r diwydiant ymwelwyr? Mae Tim Giles o’r farn mai’r un materion sy’n wynebu Sir Gaerfyrddin â’r hyn sy’n wynebu gweddill Cymru

Mater O Gydbwysedd MAE’R DDADL YNGLˆYN â lleoli ac

pwysigrwydd cynyddol a roddir ar iechyd a lles ar yr agenda cenedlaethol yn creu mwy o alw am weithgareddau hamdden a chwaraeon ar gyfer trigolion lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd.

adeiladu ffermydd gwynt yng Nghymru yn un fydd yn si wr ˆ o droi a throi, fel y melinau gwynt eu hunain. Wrth wraidd y ddadl hon mae’r gwrthdaro rhwng yr amgylchedd, yr economi ac egni. Mae’n amlwg bod angen dulliau adnewyddol o gynhyrchu egni – ond rydym hefyd angen ein hymwelwyr.

Mae llawer o’r polisïau, strategaethau a’r cynlluniau gweithredu cyfredol yn dangos y bydd mwy o fuddsoddi er mwyn gwella iechyd y boblogaeth. Gall Sir Gaerfyrddin elwa ar y buddsoddiad hwn os gallwn gynnal yr amgylchedd priodol – ac rydym yn ffodus o gael yr amgylchedd hwnnw ar ffurf adnodd naturiol, i’w ddefnyddio’n ofalus er budd pawb.

Mae’r diwydiant ymwelwyr yng Nghymru yn cytuno’n llwyr â’r farn bod creu egni adnewyddol yn hanfodol ar gyfer y dyfodol; nid yn unig er mwyn cynnal y math o ansawdd bywyd mae trigolion Sir Gaerfyrddin, Gorllewin Cymru – neu weddill Cymru, yn wir, yn ei fynnu a’i ddisgwyl, ond hefyd ar gyfer cynaladwyedd economaidd yr ardal.

Felly, rhaid i ddarpariaeth ffurfiau adnewyddol ar egni fod ynghlwm â sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddod yma. Mae’r cynaladwyedd economaidd hwn yn dibynnu i raddau helaeth yng Ngorllewin Cymru a Sir Gaerfyrddin ar ymwelwyr yn dod i’n rhanbarth ac i’n sir. Felly, rhaid i ddarpariaeth ffurfiau adnewyddol ar egni fod ynghlwm â sicrhau bod ymwelwyr yn parhau i ddod yma. Gall ffurfiau egni adnewyddol ychwanegu at neu dynnu oddi wrth brofiadau ymwelwyr .

18

Tim Giles, Prif Weithredwr, Cymdeithas Ymwelwyr Sir Gâr

Mae ymwelwyr yn cyfrannu tua £250 miliwn i’r Sir bob blwyddyn – sydd yn sicr yn ddiwydiant pwysig i ni, os nad y pwysicaf. Nid yn unig y mae’n ddiwydiant y disgwylir iddo ehangu’n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf, ond y mae’n ganolog i strategaethau economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a chynlluniau gweithredu Cyngor Sir Caerfyrddin ac asiantaethau lleol a rhanbarthol eraill. Ceir tystiolaeth o hyn yn y buddsoddi a’r gefnogaeth a roddwyd i brosiectau fel Parc Arfordirol y Mileniwm, gan gynnwys Machynys, yr Ardd Fotaneg Genedlaethol, Parc Dinefwr, Gelli Aur, Amgueddfa Wlân Cymru, Canolfan Beiciau Mynydd Brechfa, i enwi dim ond ychydig. Ar y cyfan, mae’n cynrychioli buddsoddiad ymhell dros £100 miliwn yn ystod yr wyth neu’r deng mlynedd ddiwethaf. Mae ymchwil wedi dangos mai’r amgylchedd naturiol yw’r prif reswm pam y mae ymwelwyr yn dod i Sir Gaerfyrddin a Gorllewin Cymru. Bydd y

Felly mae’n rhaid dod o hyd i gydbwysedd – oes, mae angen adnoddau egni adnewyddol, ond hefyd mae arnom angen rôl gynyddol bwysig ymwelwyr os yw ein cymunedau a’n cymdeithas i ffynnu a datblygu. Mater o gydbwysedd yw hyn. Faint yn union o ffermydd gwynt fydd yn cael eu caniatáu? A wyddom ni faint o ffermydd gwynt fydd yng Nghymru yn y pen draw? Ble fydd y ffermydd gwynt hyn? Ac yn bwysig iawn, pryd fydd nifer y ffermydd gwynt wedi codi i’r fath raddau na fydd ymwelwyr eisiau dod yma, gan nychu ein diwydiant ymwelwyr hanfodol?

© Bwrdd Croeso Cymru

Mae’n ymddangos bod ffermydd gwynt yn cynnig ffynhonnell ddibynadwy o egni adnewyddol, ar raddfa fechan, ond am ba gost i’n diwydiant ymwelwyr? A yw’r ddau beth yn gwbl anghymarus, neu a oes modd datrys y mater ynghylch ymwelwyr?


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 19

SAFBWYNT Y CTC Mae yna ffynonellau egni adnewyddol eraill, ond does dim ffynonellau economaidd eraill a all greu’r un cynaladwyedd economaidd a safon byw ar gyfer ein Sir ag y gall y diwydiant ymwelwyr ei roi. Mae ein hamgylchedd naturiol yn amhrisiadwy, a does dim arall all gymryd ei le. Mae mater ffermydd gwynt yn bwnc emosiynol iawn; pan fydd cynlluniau yn cael eu cyhoeddi i godi fferm wynt, mae hynny mor ddadleuol â chynlluniau i godi peilonau. Yn wir, rydym eisoes wedi gweld peilonau trydan yn cael eu gwaredu ger Parc Arfordirol Llanelli, ar gost uchel iawn, er mwyn gwella profiadau ymwelwyr. Felly pam fod ffermydd gwynt yn dderbyniol mewn rhai ardaloedd ac yn annerbyniol mewn ardaloedd eraill? Rydym yn cydnabod nad yw hwn yn gwestiwn hawdd ei ateb i’r bobl hynny sy’n gorfod gwneud y penderfyniadau. Ond a yw’r penderfyniadau hollbwysig hyn yn cael eu gwneud yng ngoleuni’r ffeithiau i gyd? Credaf fod angen i’n hawdurdodau lleol a’n cynllunwyr gael mwy o wybodaeth i’w helpu i wneud y penderfyniadau cywir. Mae angen iddynt fod yn hyderus y gallant ystyried gwir effaith economaidd a chymdeithasol ffermydd gwynt ar ein cymunedau yng

Nghymru; cymunedau lle mae ein diwydiant ymwelwyr yn chwarae rhan economaidd fwy sylweddol nag y mae mewn sawl rhan o’r Deyrnas Unedig. Rhaid iddynt ystyried unrhyw atebion eraill – ac a oes modd iddynt mewn unrhyw ffordd ychwanegu at brofiadau ymwelwyr o’n gwlad mewn ffordd debyg i’r hyn mae’r cronfeydd dwr ˆ yn ei wneud erbyn hyn. Rydym yn cofio am y gwrthwynebiad chwyrn ar y pryd i adeiladu’r cronfeydd hyn, ond mae’n anodd gweld niferoedd mawr o ffermydd gwynt yn dod â manteision economaidd cyffelyb yn eu sgîl. I grynhoi, nid ydym yn awgrymu na ddylai ffermydd gwynt fodoli o gwbl, ac nid ydym yn dadlau na ddylai fod

Mae angen iddynt fod yn hyderus y gallant ystyried gwir effaith economaidd a chymdeithasol ffermydd gwynt ar ein cymunedau yng Nghymru mwy ohonynt. Yn hytrach, rydym yn gofyn a yw’n bosibl bod y manteision economaidd ‘rhagweladwy’ yn cael eu cysgodi – fel y mae rhai o’n tirweddau, gan y melinau gwynt anferth hyn – gan yr effaith economaidd ar ddiwydiant mwyaf Cymru. Rwy’n derbyn nad yw’r atebion gennym – ond ein cyfrifoldeb ni yw gofyn y cwestiynau.

“A fydd y caniatâd cynllunio nesaf a roddir yn ‘un fferm wynt yn ormod’?”

19


tourism_05_pages_welsh_b

NEWYDDION

A

24/10/05

10:32 PM

Page 20

BARN CTC

Yn dal i feddwl yn ystrydebol am Hosteli Ieuenctid? Mae'n amser i chi ddod i adnabod yr YHA ifanc, 75 oed. Erbyn hyn mae'n…

Ystafelloedd En Suite A Dim Gwaith ’Sgubo BETH SY’N DOD i’ch meddwl chi wrth glywed y geiriau Hostel Ieuenctid? Os mai’r hyn sy’n dod i’ch meddwl yw adeiladau llwyd, cysgu mewn bynciau metel mewn ystafell gyda dwsin o ddieithriaid, ymolchi mewn dw ˆ r oer a ‘sgubo’r lloriau cyn y cewch adael – yna mae’n bryd i chi feddwl eto. Eleni, mae YHA yn dathlu 75 mlynedd o gynnig llety am bris rhesymol yng Nghymru, ond mae pethau wedi newid yn sylweddol er 1930 pan agorodd Richard Schirrmann – sylfaenydd y mudiad Hosteli Ieuenctid – yr hostel gyntaf yng Nghymru, YHA Bwthyn Idwal ger Bwlch Nant Ffrancon yng Ngwynedd. Gyda’r tueddiadau newydd yn y diwydiant gwyliau, mae YHA yn gweithio’n galed i fodloni anghenion cwsmeriaid mewn 36 o leoliadau yng Nghymru. I roi syniad i chi o gymaint mae pethau wedi datblygu, ac i chwalu ambell hen fyth, dyma rai o’r camsyniadau sydd gan bobl: • Rhaid i chi fod yn ifanc ac yn aelod cyn y gallwch aros mewn hostel ieuenctid – anghywir. Mae YHA yn agored i bawb, ac o eleni ymlaen, does dim rhaid bod yn aelod, er bod prisiau rhatach i aelodau. • Rhaid i chi rannu ystafelloedd gwely ac ystafelloedd ymolchi – anghywir. Mae gan lawer o

20

hosteli ystafelloedd bach, preifat, neu ystafelloedd teulu, ac mae llawer o’r rhain yn ystafelloedd ensuite.

“Mae'r cyfleusterau a gynigir gan YHA Cymru yn ei wneud yn rhan bwysig o'r profiad twristiaeth yng Nghymru ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i fusnesau lleol a'r economi yn gyffredinol ” • Rhaid i chi wneud gwaith o amgylch yr hostel – anghywir. Mae hynny hefyd yn perthyn i’r gorffennol. Ond mae dau beth wedi aros heb newid. Mae YHA yn dal

i gynnig gwerth am arian, a hynny mewn ardaloedd prydferth dros ben. Yn ystod y llynedd, arhosodd dros 215,000 o bobl dros nos yn hosteli YHA Cymru, ac roedd 41% o’r ymwelwyr yn bobl ifanc. Dros y 75 mlynedd, mae tua 15.5 miliwn o bobl wedi aros mewn hostel YHA yng Nghymru – o hosteli dinesig fel Caerdydd a Bangor, i hosteli mynyddig yn Llwyn-y-Celyn ym Mannau Brycheiniog, hosteli arfordirol fel Maenorbˆ yr, Sir Benfro a hosteli traddodiadol yn Elenith. Mae’r cyfleusterau a gynigir gan YHA Cymru yn ei wneud yn rhan bwysig o’r profiad twristiaeth yng Nghymru ac yn gwneud cyfraniad


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 21

AELODAETH Y CTC

Eich Cysylltiadau yn y CTC Antur Cymru 01348 840763 sealyhamsam@aol.com Antur Cymru yw’r sefydliad cyfansawdd sy’n cynrychioli addysg awyr agored, hamdden a thwristiaeth yng Nghymru. Mae’n darparu fforwm beirniadol i gyfnewid barn ac i ddatblygu ymatebion cefnogol a mentrau’n ymwneud â hyn. Cymdeithas Asiantau Cymru 01492 582492 barbara@nwhc.demon.co.uk Mae AWA yn cynrychioli nifer fawr o weithredwyr hunanarlwyo, llawer gydag un ffermdy neu fwthyn yn unig ac eraill gyda safleoedd mwy.

sylweddol i fusnesau lleol a’r economi yn gyffredinol. Mae YHA yn cyfrannu tuag at warchod yr amgylchedd. Yn wir, cafodd Bwthyn Idwal ei atgyweirio yn 2002, yn fodel ‘gwyrdd’ gyda chymorth Bwrdd Croeso Cymru, gan greu cyfleuster cynaladwy pedair seren, gan ddefnyddio paneli solar, deunydd ynysu o wlân dafad a choed wedi’i adennill ar gyfer fframiau ffenestri. Prosiectau newydd cyffrous eraill oedd agor pedwar Labordy Digidol yn Borth, Maenorbˆyr, Conwy a Llangollen, gan hybu sgiliau TG a chyfathrebu ymysg pobl ifanc 16 – 25 oed. Bydd YHA Cymru yn lansio ei gynllun busnes ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn y Cynulliad Cenedlaethol yn Ebrill y flwyddyn nesaf. Y prif nod fydd cynyddu busnes ac elw i ail-fuddsoddi mewn hosteli, gwella ansawdd cynnyrch ac agor hyd yn oed fwy o hosteli mewn lleoliadau allweddol er mwyn cadw’r traddodiad hir hwn yn fyw. Ewch i www.yha.org.uk i gael rhagor o fanylion.

Cymdeithas Parciau Gwyliau a Chartrefi Prydain 01452 – 526911 enquiries@bhhpa.org.uk www.bhhpa.org.uk BH&HPA yw corff y fasnach yn y diwydiant parciau yn y Deyrnas Unedig. Cymdeithas Croeso Prydain 0207 404 7744 martin.couchman@bha.org.uk www.bha.org.uk BHA yw’r gymdeithas genedlaethol sy’n cynrychioli’r diwydiant gwestai, tai bwyta ac arlwyo. Farmstay UK 024 7669 6909 info@farmstayuk.co.uk www.farmstayuk.co.uk Consortiwm ym mherchnogaeth amaethwyr yw Farmstay UK sy’n anelu at hyrwyddo’r syniad o dwristiaeth fferm yn y DU.

Cyngor Carafanau Cenedlaethol 01252 318251 info@nationalcaravan.co.uk www.thecaravan.net Cymdeithas fasnach ar gyfer y diwydiant carafanau yn y DU oedd NCC yn wreiddiol. Y mae wedi tyfu bellach i gynrychioli gwneuthurwyr, gwerthwyr, gweithredwyr parciau a darparwyr offer a gwasanaeth drwy gydol Prydain a Gogledd Iwerddon. Y Clwb Gwersylla a Charafanio 024 7685 6797 enquiries@caravanclub.co.uk www.campingandcaravanningclub.co.uk Mae’r clwb gwersylla a charafanio hynaf yn y byd yn darparu safleoedd gwersylla a gwybodaeth am safleoedd gwersylla, cyfleoedd teithio tramor a phopeth arall y mae ar y gwersyllwr neu’r carafanwr ei angen. Y Clwb Carafan 01342 326944 www.caravanclub.co.uk Fel prif sefydliad teithwyr carafan Ewrop, mae’r Caravan Club yn cynrychioli buddiannau dros 850,000 o deithwyr carafan, carafanwyr modur a pherchnogion pebyll treilar. Mae’r clwb yn rhedeg y rhwydwaith mwyaf o safleoedd o ansawdd mewn perchnogaeth breifat yn y DU ac mae ganddo gynrychiolaeth eang yng Nghymru gyda deunaw safle a 320 Lleoliad Ardystiedig (lleoliadau llai na 5 safle). Cymdeithas yr Hosteli Ieuenctid 029 2039 6766 wales@yha.org.uk www.yha.org.uk Mae YHA yn cynnig mannau aros fforddiadwy mewn 36 Hostel Ieuenctid drwy Gymru, wedi eu lleoli yn bennaf ym mharciau cenedlaethol Eryri, Bannau Brycheiniog ac Arfordir Sir Benfro.

Ffederasiwn Busnesau Bychain 029 2052 1230 ben.cottam@fsb.org.uk www.fsb.org.uk Sefydliad busnes sy’n lobïo ac yn ymgyrchu ac yn sicrhau fod llais y perchennog busnes bychan yn cael ei glywed yw FSB.

Cymdeithasau Twristiaeth Lleol yn Ne Orllewin Cymru 01267 290455 w.c.rouse@btopenworld.com Mae’r pedwar Cymdeithas Twristiaeth yng Ngorllewin Cymru yn cynnig i’r diwydiant twristiaeth a chroeso yn ne orllewin Cymru sefydliad y mae’n berchen arno, ac a gyfarwyddir ganddo ac sy’n cyfranogi wrth gyflawni drwy bartneriaeth strategaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ar gyfer twrisitaeth.

Fforwm Lletai Bychan â Gwasanaeth yng Nghymru 01446 774451 junejenkins@bydd.co.uk Gr w ˆ p ymgynghorol twristiaeth cenedlaethol yw’r fforwm ar gyfer y sector G & B, lletai a gwestai bychan gyda 10 neu lai o lofftydd.

Fforwm Hyfforddi Twristiaeth Yng Nghymru 029 2049 5174 enquiries@ttfw.org.uk www.ttfw.org.uk Mae TTFW yn hyrwyddo ac yn cyfarwyddo addysg a hyfforddiant yn y diwydiant twristiaeth.

Twristiaeth Canolbarth Cymru 01654 702653 ValH@midwalestourism.co.uk www.visitmidwales.co.uk MWT yw prif gyflenwydd cefnogaeth i economi twristiaeth Canolbarth Cymru ac mae’n cynrychioli buddiannau twristiaeth yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.

Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru 08701 283152 enquiries@wasco.org.uk www.walescottages.co.uk Yn gweithredu fel llais hunanarlwyo yng Nghymru, mae aelodaeth WASCO’n amrywio o weithredwyr un bwthyn i asiantaethau mawrion sy’n gweithredu drwy’r wlad.

Twristiaeth Gogledd Cymru 01492 531731 esther.roberts@nwt.co.uk www.nwt.co.uk Mae NWT yn cynrychioli 1300 o sefydliadau o’r sector breifat ac o’r sector gyhoeddus o fewn y diwydiant twristiaeth/croeso yng ngogledd Cymru. Ef yw prif gyflenwydd cefnogaeth i’r diwydiant twristiaeth ar sail bartnerol. Fforwm Twristiaeth De Ddwyrain Cymru 01654 702653 info@tourismwales.co.uk Mae'r Fforwm yn cynrychioli pob sector yn y diwydiant twristiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru ac yn darparu cyswllt i'r CTC.

Cymdeithas Tywyswyr Teithiau Swyddogol Cymru 01633 774796 enquiry@walestourguides.com Mae WOTGA yn hyrwyddo ac yn cynrychioli buddiannau tywysyddion taith cymwysedig hunan gyflogedig yng Nghymru. Cymdeithas Atyniadau Ymwelwyr Cymru 01654 711228 wava@corris-wales.co.uk Mae WAVA yn cefnogi ac yn cynrychioli gweithredwyr atyniadau ymwelwyr. Mae’n darparu cyfleoedd rhwydweithio i weithredwyr i drafod eu problemau a rhannu eu profiadau.

21


tourism_05_pages_welsh_b

NEWYDDION

A

24/10/05

10:32 PM

Page 22

BARN CTC

>> CTC - LlCC – Y Diweddaraf am y Cyfuniad >> Mae Jonathan Jones, Prif Weithredwr Bwrdd Croeso Cymru a Chyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata newydd y Cynulliad, yn egluro ei uchelgais i gyflwyno “busnes yn ôl yr arfer, neu hyd yn oed well”. AR EBRILL Y 1af 2006 bydd y gwaith sy’n cael ei wneud gan Fwrdd Croeso Cymru ar hyn o bryd yn cael ei wneud gan adran twristiaeth a marchnata newydd o fewn Adran Datblygu Economaidd a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC).

Mae’n rhy gynnar i roi manylion am y strwythurau arfaethedig i gyd gan eu bod o dan ymgynghoriad ar hyn o bryd gyda’r staff a’r undebau; fodd bynnag, bydd y symudiad yn sicrhau y bydd twristiaeth bellach yn cael ei ystyried pan fydd unrhyw bolisïau Llywodraeth yn cael eu ffurfio neu eu newid. Mae’r diwydiant wedi bod yn gofyn am hyn ers blynyddoedd. Y cyfan sy’n rhaid i ni ei wneud nawr yw gwneud yn siˆ wr bod y system yn gweithio.

Bydd cyfuno’n hadran farchnata gydag adrannau’r Awdurdod Datblygu ac Adran Datblygu Economaidd LlCC yn cynhyrchu darlun pendant a rhesymol o Gymru ar draws pob marchnad. Gydag un Cyfarwyddwr Marchnata yn adrodd yn ôl i mi fel Cyfarwyddwr Twristiaeth a Marchnata rwy’n argyhoeddedig y gwelwn ddefnydd mwy effeithiol o gyllidebau, llai o waith tameidiog a gwell cydweithio ar draws pob un o Adrannau Marchnata LlCC. Bydd ein trefn grantiau cyfalaf yn dod yn llawer nes at rai LlCC. Bydd penderfyniadau ar grantiau llai yn dal i fod o fewn yr adran dwristiaeth ond rhagwelir y bydd y prosiectau mwy yn cael gwell cyfle i fynd at systemau cefnogi cyfalaf LlCC ehangach. Bydd ein swyddogaeth o gefnogi busnes yn aros fwy neu lai yr un fath, yn rhoi cyngor arbenigol lle bo angen. Bydd ein ymgynghorwyr sicrhau ansawdd yn dal i helpu’r diwydiant i godi safonau a gweithio tuag at gysoni’n holl gynlluniau graddio gyda rhai Lloegr, yr Alban a’r AA erbyn bod ein cyhoeddiadau marchnata 2008 yn dod o’r wasg.

Byddwn yn parhau i roi cefnogaeth ariannol Byddwn eisiau parhau i ddarparu yr hyn yr i’r bedair Bartneriaeth Twristiaeth ydym ni’n ei ystyried yn Rhanbarthol yn ystod wasanaeth da i chi i gyd. “…mae’n hymgyrchoedd blwyddyn ariannol Y bwriad yw mai dim ond byddwn ar yr marchnata wedi dechrau 2006/07; gwelliant a fydd yn yr un pryd, yn cynnal gwneud gwahaniaeth, yn arolwg hyn a wnawn a’r ffordd yr o’r ydym yn cydweithio gyda arbennig yn y blynyddoedd Partneriaethau er chi. mwyn sicrhau, fel y diwethaf pan fu’r gwnawn gyda’n Un agwedd o’n gwaith gwaith i gyd, bod gystadleuaeth ar ei mwyaf sydd wedi cyflawni gwerth am arian yn pethau i’r diwydiant yn fy ffyrnig.” cael ei roi. marn i, yw marchnata. Byddwn yn parhau i wneud ymchwil, yn Ers i ni dderbyn y pwerau cyfreithiol cyntaf i annibynnol ac mewn cydweithrediad ag farchnata dramor yn 1992 ac yna gyda eraill, mewn ymgais i ddarparu gwell dyfodiad arian Ewropeaidd ychwanegol (ac gwybodaeth i’r diwydiant y gallwch ei roedd cefnogaeth gref gan y diwydiant yn defnyddio i gynllunio twf eich busnes. allweddol i gael y ddau beth), mae’n hymgyrchoedd marchnata wedi dechrau gwneud gwahaniaeth, yn arbennig yn y blynyddoedd diwethaf pan fu’r gystadleuaeth ar ei mwyaf ffyrnig.

22

Bydd ein Cadeirydd ac Aelodau’r Bwrdd yn gorffen gweithio fel ein Bwrdd ar Fawrth 31ain ac mae cynlluniau mewn lle i greu corff ymgynghorol newydd, y gobeithiwn y

bydd ganddo’r dyletswydd i herio yn ogystal â chynghori. Yn bersonol, byddaf yn hiraethau ar ôl yr hen Fwrdd Croeso ond nid dyma’r amser i edrych yn ôl pan fo’r diwydiant yng Nghymru yn wynebu ei gystadleuaeth fwyaf anodd ar draws y byd. Y gwaith i bawb ohonom a fydd yn uno â LlCC y flwyddyn nesaf fydd gwneud yn siˆ wr ein bod yn gwneud “busnes fel arfer neu’n well”.


tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 23

NEWYDDION

A

BARN CTC

>> CTC - LlCC – Y Diweddaraf am y Cyfuniad >> Mae Roger Pride, Rheolwr Gyfarwyddwr Bwrdd Croeso Cymru, yn egluro'r ymgyrch farchnata newydd a'r canlyniadau hyd yn hyn. CYFLWYNWYD CYFRES NEWYDD o syniadau creadigol i ymgyrch farchnata’r DU ar gyfer 2005, yn dilyn llwyddiannau ymddangosiadol yr ymgyrch Big Country.

allweddol i Gymru, yn cynnwys y Gogledd Orllewin a Chanolbarth Lloegr. Bydd hysbysebion ar sianeli lloeren ar draws y DU hefyd.

Mae gennym ganllawiau brand newydd Mae’n bleser gen i ddweud bod yr sy’n ceisio sicrhau bod arddull a thôn llais hysbysebion newydd a’r dulliau marchnata cyfathrebu’r Bwrdd Croeso yn fwy cyson ar uniongyrchol wedi cael derbyniad da iawn draws pob ymgyrch. Rydym yn gobeithio y ac rydym eisoes wedi mynd y tu hwnt i’r bydd y canllawiau yma yn dylawnadu’n targedau ymateb. Erbyn Medi, roedd gryf hefyd ar hyrwyddo ymgyrch y DU wedi esgor ar 436,000 o Y llynedd cafwyd 426,000 o Cymru mewn meysydd heblaw twristiaeth. ymatebion, mae hyn ymatebion yn sgil yr yn erbyn targed o Rydym yn ceisio osgoi’r 400,000 yn y ymgyrch ac rydym yn ystrydebau a ddefnyddir flwyddyn gyfan. yn rhy aml gan gwybod drwy’n gyrchfannau eraill – Y llynedd cafwyd dadansoddiad trosi bod 46% fyddwch chi ddim yn 426,000 o ymatebion “Gwlad o yn sgil yr ymgyrch ac o’r ymholwyr yma wedi dod gweld Gyferbyniadau”, “Hwyl rydym yn gwybod i Gymru ar eu gwyliau. i’r Teulu Cyfan” neu drwy’n dadansoddiad “Rhywbeth i bawb” yn trosi bod 46% o’r ein hysbysebion. Mae’r canllawiau’n ymholwyr yma wedi dod i Gymru ar eu pwysleisio pwysigrwydd hiwmor, felly beth gwyliau. Dim ond cyfran o’r rhain, serch am “Ardal o Dderbyniad Ffôn Eithriadol o hynny, fyddai wedi bod yn ymwelwyr Wael” a “Cestyll 641, Starbucks 6”. ychwanegol go iawn h.y. lle y bu i farchnata’r Bwrdd Croeso chwarae rôl Yn olaf, rydym yn ceisio aros yn agos at allweddol yn eu penderfyniad i ddod i fusnesau i gael teimlad o sut mae pethau’n Gymru. Mae ymchwil yn dangos bod tua mynd ac rydym yn ymwybodol bod 2005, £125m o wariant ychwanegol yn digwydd yn nhermau busnes, wedi bod yn flwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i ymweliadau a fwy cymysg na 2004 a 2003. Er gwaetha’r ysgogwyd drwy’r ymgyrch hon. newidiadau i strwythur y corff, mae’n hanfodol bod y tîm marchnata yn aros yn Gyda’i gilydd arweiniodd pob ymgyrch yn agos at fusnesau ymwelwyr Cymru. 2004 at £231m o wario ychwanegol. Gan bod y lefelau ymateb yn dal eu tir yn dda yn 2005 rydym yn rhagweld set arall o ffigyrau da ar gyfer 2005. Fel y gwyddoch, mae mwd wedi bod yn nodwedd amlwg o’n hysbysebion yn y DU yn 2005. Mae un hysbyseb teledu yn dangos pâr yn golchi eu beiciau mynydd a’r llais yn dweud: “`Dych chi ddim yn cael ein mwd ni… mae’n fwd da”. Wel, fe glywais o le da bod beicwyr mynydd diweddar yn gweld yr ochr ddoniol i hyn ac yn gofyn a oes angen archwilio eu beiciau am fwd cyn iddyn nhw adael. Efallai y dylem ystyried gosod gwarchodfeydd ar y ffin i stopio pobl rhag smyglo mwd allan o’r wlad! © Bwrdd Croeso Cymru

Arweiniodd yr ymgyrch gymharol fechan hon gyda beiciau mynydd at tua £1.6m o wariant ychwanegol y llynedd. Bydd hysbyseb teledu newydd i’w ddarlledu ym mis Ionawr yn parhau i ganolbwyntio ar yr ardaloedd hynny sy’n

23


tourism_05_pages_welsh_b

NEWYDDION

A

24/10/05

10:32 PM

Page 24

BARN CTC

>> CTC - LlCC - Y Diweddaraf am y Cyfuniad > Mae Lucy O’ Donnell, Cyfarwyddwr Datblygu ym Mwrdd Croeso Cymru yn egluro sut y mae’r cynllun Grant Cyfalaf yn rhoi min cystadleuol i Gymru. ACHOS H T E A I D U T S A afon S d d y w y rchfan Ar Dr a mewn cy Gwesty sb

: ADRAN 4elgais cyffrous AndrewdaGwesty S O H C A ch S u dyna d drosod HANE edi cymry yn y byd –

Defnyddiwyd y cynllun hefyd fel arian cyfatebol i dynnu i lawr symiau sylweddol o arian yr Undeb Ewropeaidd a galluogodd rannu cyllid mewn adegau o argyfwng – fel clwy’r traed a’r genau. Mae Cefnogaeth Fusnes i’r diwydiant wedi tyfu drwy’r cynllun graddio, cefnogaeth arbenigol a chyffredinol, Cysylltiadau Cyhoeddus a chefnogaeth gwerthiant. Caiff pob buddsoddiad ei gyfeirio tuag at brosiectau a fydd yn cwblhau’r cynnyrch presennol neu’n ychwanegu dimensiwn newydd i dwristiaeth yng Nghymru. Mae’r pwynt yma yn gwneud Adran 4 yn unigryw ac mae’n rhoi sylw iddo drwy’r diwydiant sydd, mewn gwirionedd, yn fwy na’r disgwyl o ystyried y symiau o arian. Nid yw’r cynllun yn cael ei redeg ar sail ‘y cyntaf i’r felin gaiff falu’ ond mae wedi ei dargedu at brosiectau a fydd yn dwyn yr enillion gorau. Heddiw, mae buddsoddiad yn cael ei gyfeirio at brosiectau gweithgaredd yn unol ag amryw o strategaethau yn cynnwys golff, chwaraeon dw ˆ r ac antur. Mae’r canlyniadau yn siarad drostynt eu hunain. Hyd yma, drwy’r cynllun Amcan 1, mae Bwrdd Croeso Cymru wedi dyrannu £22.9m yn erbyn 359 o brosiectau unigol, gan gynhyrchu cyfanswm o £87.2m mewn buddsoddiad sector preifat a chreu neu sicrhau 1,996 o swyddi cyfatebol llawn-amser.

24

(Uchod, o’r chwith i’r dde) Cadeirydd Bwrdd Croeso Cymru Philip Evans gyda’r Gweinidog Cludiant a Datblygiad Economaidd, Andrew Davies AC a’r perchnogion Lindsey ac Andrew Evans yn y gwesty newydd ei adnewyddu, Gwesty St. Brides, Saundersfoot.

Bydd asesu ceisiadau Adran 4, gweinyddu hawliadau a monitro prosiectau yn dod yn rhan o’r Adran Cyllid i Gymru wedi’r cyfuno. Bydd cyfeiriad strategol y cyllid yn aros gyda’r Adran Dwristiaeth a Marchnata. Mae’n golygu y bydd Twristiaeth yn gorfod cystadlu yn erbyn sectorau busnes eraill a phrofi y bydd cymorth Llywodraeth ychwanegol yn dod â mwy o werth ychwanegol i’r economi. Mae’n rhaid i ni wneud yn siwr ˆ nad oes gwastraffu ar ymdrech a sgiliau arbenigol. Mae’n rhaid i dargedu cyllid aros yn strategol er mwyn cael y budd mwyaf a gwneud yn siwr ˆ bod twristiaeth yn chwarae rhan lawn wrth gyflwyno Polisi Datblygu Economaidd y Cynulliad – yn arbennig y cynllun gofodol.

>> WTB – WAG

MAE CANNOEDD O fusnesau ymwelwyr wedi elwa ar Adran 4, cynllun grant cyfalaf sy’n cael ei reoli gan Fwrdd Croeso Cymru.

rau ôl, w gyda’r go n nhw ati. lynedd yn t yr aetho ns bum m su a v a E m y y D se d Lin foot. n Saunders eddus St Brides y fydd cyho Cliff a’r lle ’r gwaith ta s y o w g b an ddan ddu Tˆy g y , w e ig n re d ei A m y CAM UNsl: ais cryf ar gelfyddyd GMae’r tˆy bwyta wedi cael y eol. 05. gyda phw rflunwyr ll hymru 20 wyr a che an yng Ng ll A ta y gan arlun w B yn llawlyfr nigol a’u gynnwys nllunio’n u cy u e i d e fftydd w : Creu 35 or logyda golygfeydd o’r môr. U A D M A C ife foethus, n eisio dodrefnu’n sy ’n pwysl moethus, a ron. g sb n u y g d e d ychwan y ’r flwy n rw fi d r A n : fa I h CAM TR sty i weithredu fel cyrc e ui gallu’r gw dd yn help engar a fy la c b a d d a ia n d y farch uddsod chr safon siect fel b o t ro a p ru y g m a r y li C tu e Gw eso eraill Bwrdd Cro . tblygiadau frannodd cy waith hwn ysgogi da g y ll y fe st c o a g r t o a m g a ty tu ’r ehangu Amcan Un 0 o gyllid es £1,186,00 sty St Brid u mai Gwe d re g w i re in a And n ein harw ru,” medd wil eang y lewin Cym rl nyrch o O n e cy N n ru y “Mae ymch a n darp mlycaf y a s y e st d e ri w B g t su a chy r a fydd y a Sba S asanaeth d Gwesty w d r y a “B is a s. sl n Eva a’r pwy ofiadwy.” -eang gyd igryw a ch n safon byd u ch rw a letyg phrofiad o


WTA NEWS

AND

VIEWS

>> WTB – WAG – MERGER LATEST NEWS > Lucy O’ Donnell, Development Director at WTB, explains how the Capital Grant Scheme is giving Wales a competitive edge. UDY CASE ST y or Qualit A Quest F

HUNDREDS OF TOURISM businesses have benefited from Section 4, a capital grant scheme managed by the Wales Tourist Board. The scheme has also been used as match funding to draw down significant sums of EU money and allowed the allocation of funds in times of crisis – such as the foot – and-mouth epidemic. Business Support for the industry has evolved through the grading scheme, specialist and general support and PR and sales support. All investment is directed towards projects that will complement the existing product or add a new dimension to tourism in Wales. This focus makes Section 4 unique and gives it an industry-wide profile which, in truth, is bigger than the amounts of money involved would warrant. The scheme is not delivered on a ‘first come, first served’ basis but is targeted at projects that will give the best return. Today, investment is directed at activity-based projects in line with a variety of strategies including golf, watersports and adventure. The results speak for themselves. To date, through the Objective 1 scheme, WTB has allocated £22.9m against 359 individual projects, generating a total of £87.2m in private sector investment and creating or securing 1,966 full-time-equivalent jobs.

n destinatio y world-class ISTORY: itAion of Andrew and Lindl,se 4 CASE H b te SECTIONthat was the exciting aming over the St Brides Ho – tak spa hotel ago, after five years did it. Evans just how they and ot. This is estaurant Saundersfo The Cliff R f o sing rbishment art, showca s won on Welsh NE: The refu PHASE Os with a strong emphasirss . The Cliff Restaurant ha a lpto public are rs and scu uide. cal painte in Wales g work by lo ining Out and the 2005 D -designed inclusion in dividually s. on of 35 in O: The creaotims, many with sea view PHASE TW d bedro y furnishe facility, luxuriousl luxury spa nd on add a a year-rou nction as REE: Will so PHASE TgHthe hotel’s capacity to fu n emphasisi n. help destinatio t that will e investmen ty end of th a flagship s the quali is seen as rd a w The project pments to WTB ther develo nd so the ards catalyse o e season a nding tow d extend th of Objective One fu market an 0 0 d £1,186,0 contribute otel this work. t Brides H the cost of elief that S the firm b id Andrew ads us to Wales,” sa research le south-west -class “Extensive ing hotel in will provide a world e e the lead a d a uniqu will becom t Brides Hotel & Sp comfort an eS rvice and se Evans. “Th phasis on ith the em erience.” product w itality exp rable hosp and memo

(Above) Economic Development and Transport Minister, Andrew Davies AM (left) with owners Andrew Evans (right) and wife Lindsey and Wales Tourist Board Chairman Philip Evans, at the newly refurbished St. Brides Hotel, Saundersfoot.

The assessment of S4 applications, administration of claims and monitoring of projects will become part of the Finance for Wales Department post merger. The strategic direction of funds will stay with the Tourism and Marketing Department. It means tourism must pit itself against other business sectors and prove that additional Government assistance will bring greater added value to the economy. We must make sure there is no dissipation of effort and specialist skill. The targeting of funds must remain strategic to maximise benefit and ensure tourism plays a full part in the delivery of the Assembly’s Economic Development Policy – particularly the spatial plan.

>> CTC - LlCC -

24

tourism_05_pages_welsh_b

24/10/05

10:32 PM

Page 25


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.