fforch i fforc teithiau bwyd lleol
Gad ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
2
|
www.fforchifforc.cymru
GAD I NI ORWEDD MEWN PORFEYDD GWELLTOG Ew, lle da di’r gogledd 'cw. Ar ei hynt o amgylch rhai o siopau fferm gorau gogledd Cymru daw Charles Williams ar draws barwn y buail, swltan y selsig, a llond gwlad o anifeiliaid sydd mewn cae gwahanol i’r lleill. Geiriau Charles Williams Ffotograffau Elinor James
www.fforchifforc.cymru
|
3
4
|
www.fforchifforc.cymru
“M
Gad i ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
Mae’n ddiddordeb angerddol gennyf I Gallaf roi ein cynnyrch allan ar y farchnad yn llawn hyder ein bod ni’n cynhyrchu’r gorau
ae gogledd Cymru’n gwenu dan heulwen braf y gwanwyn. Mae’r eithin yn ei flodau disglair ar y bryniau. Mae’r ŵyn a’r gwartheg yn pori yn ddyfal, fel pe bai dim fory i’w gael. Dyma ni, yn croesi afon Dyfrdwy wrth i… iechydwriaeth, ai gyrr o fuail yw’r rhain? Ie'n wir. Mae’n olygfa frawychus o anarferol, fel pe taen ni 'di troi i’r chwith yn lle i'r dde yn Llangollen a chyrraedd, o – wn i ddim, Wyoming. Ond mewn gwirionedd ry’m ni yn sir Ddinbych o hyd. A bod yn fanwl, ry’m ni ar Ystâd y Rug ger Corwen, cartref yr hybarch Farwn Niwbwrch sydd yn ffermio yn y dull organig ac yn darparu cig oen Cymreig i gogyddion gorau’r byd. “Mi welais i yrr o fuail un tro, a meddwl waw, am sbort!” medd y Barwn. “Ddaru mi roi rhai i bori mewn cae ger y briffordd, yn y gobaith y bydden nhw’n arafu’r traffig ac yn annog pawb i ddod i ymweld â siop y fferm. Roedd y peth mor llwyddiannus nes iddo ddod yn fan peryg am ddamweiniau.” Mae wythfed Barwn Niwbwrch yn hanu o gyff hir o anturwyr, gwleidyddion, swagrwyr ac arwyr rhyfel. Mae’n ddyn gwydn a dydi o ddim yn gwastraffu geiriau. Er ei fod yn ei chwe degau cewch yr argraff y byddai’n gwybod yn iawn sut i drin cleddyf pe bai angen. Heddiw mae’n gwisgo hoff ddillad byddigions y byd, sef hen grys glas sy’n prysur ymddatod ac yn rhy ddi-raen i’r ystafell drafod, a chnu sy’n costio £8.99. “Cefais fy ngeni a’m magu i fod yn ffermwr, ond doedd dim diddordeb o gwbl gen i mewn ffermio, felly i ffwrdd â fi i wneud pob math o bethau eraill – er braw a dychryn i ’nhad” medd. Roedd y ‘pethau eraill’ yn cynnwys diogelu pysgodfeydd yn Sierra Leone, rhedeg cwmni siarter awyr, a datblygu ei gwmni electroneg ei hun. Pan gymerodd awenau’r fferm deuluol, daeth â sgiliau busnes craff gydag ef, yn ogystal ag ymdeimlad o’r byd mawr y tu hwnt i Gymru, a diddordeb angerddol mewn bwyd organig. “Roedd 'na gymaint o helynt yn y naw degau ynglŷn â diogelwch bwyd. Pan gymrish i’r fferm yn 1998 fe benderfynais i droi at fwyd organig,” medd ef. “Mae’n fwy o her o lawer na ffermio yn y dull confensiynol – does dim atebion rhwydd. Mae’n fwy diddorol o lawer.” Ers talwm, byddai holl gynnyrch y Rug, bron iawn, yn mynd i Waitrose. Erbyn heddiw mae’r Rug yn gwerthu 65% o’u cynnyrch yn syth i’r cwsmer. Roedd ganddo naw o weithwyr pan gychwynnodd; nawr mae’n cyflogi 105 o bobl. “Mae’r fferm o leiaf deirgwaith neu bedair gwaith yn fwy cynhyrchiol nag y bu hi erioed. Mae’n rhaid i chi gredu pan y’ch
chi’n ffermio’n organig. Mae’n ddiddordeb ysol gennyf i. Gallaf roi ein cynnyrch allan ar y farchnad yn llawn hyder ein bod ni’n cynhyrchu’r gorau” medd ef. Yn unol â hyn, mae ei gig oen a’i gig eidion organig yn cael eu gweini wrth rai o fyrddau gorau’r byd, gan gynnwys Le Manoir aux Quat’Saisons, gwesty’r Mandarin Oriental yn Hong Kong, y Burj al Arab yn Dubai, a gwestai’r Ritz, y Connaught, y Dorchester a’r Berkeley yn Llundain. Ond ar yr un pryd, mae Barwn Niwbwrch lawn cyn falched ei fod e’n cyflenwi cig eidion a chyw iâr i ysgolion ym mwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain. I ffwrdd â ni – i yrru o amgylch yr ystâd fel bod Elinor, y ffotograffydd, yn cael cyfle i dynnu ei lluniau. Mae’r Barwn yn eistedd yn y cefn yn gwrtais, ac yn neidio allan i agor y clwydi. O weld y gyrr o saith deg o fuail o fewn ergyd carreg i ni, mae naws fwy chwedlonol fyth iddynt – rhywbeth tebyg i daro ar Beyoncé yn siopa yn Asda. Mae Barwn Niwbwrch yn ein rhybuddio ni i gadw llygaid barcud ar Farwn Niwbwrch byd y buail, clamp o darw mawr blewog sy’n edrych fel pe bai’n cynnwys pedair ar bymtheg o dunelli o gyhyrau, esgyrn, cyrn, lledr a chenfigen. “Watsh owt os bydd o’n codi ei gynffon. Ar fin ymosod y bydd o,” medd Barwn N, gan estyn ei law yn ddihidans i roi mwythau i’r tarw. Ym marn Elinor a finnau, mae cynffon y tarw yn reit uchel i fyny’r mast fel mae hi. Afraid dweud mai rhuthro yn ôl at y car yn reit gyflym yw’n hanes ni ein tri. Ymlaen â ni. Mae ŵyn organig mwyaf dymunol y byd yn prancio’n ddel o flaen Plasty’r Rug, cartref hynafol y Barwn. Lliw mêl cynnes sydd i’r tŷ ar ochr draw'r llyn, ac yn y cae drws nesaf mae gwartheg Aberdeen Angus ifainc yn mwynhau porfa’r gwanwyn. Mae Barwn Niwbwrch yn sôn yn frwdfrydig am bleserau arallgyfeirio at ffermio organig, sut mae pob math o feillion a phlanhigion y perthi wedi dod i’r amlwg ers i deyrnasiad y plaleiddiaid a’r gwrtaith cemegol ddod i ben. Mae’n sôn hefyd am y ffordd y mae arferion pori'r anifeiliaid wedi newid: bellach maen nhw’n chwilio am y llysiau gwyllt sy’n cynnwys y mwynau a’r maetholion sydd eu hangen yn naturiol ar eu cyrff. Draw â ni wedyn at siop a bwyty’r Rug, i brofi’r cig anhygoel yma. Tipyn o wefr yw gallu prynu cig sy’n cael ei weini gan gogyddion pennaf y byd, mewn siop wrth ochr y ffordd yng Nghymru – er bod y siop honno'n edrych yn debycach i neuadd fwyd rhyw
www.fforchifforc.cymru
|
5
siop adrannol swel. (Y byrgyr mwyaf poblogaidd yw’r byrgyr bual, sy’n gwerthu’n gyflymach nag y gallan nhw ei gynhyrchu. O dro i dro bydd ymwelwyr sydd wedi teithio'r holl ffordd o Birmingham i flasu un o’r rhain yn dweud y drefn wrth Farwn Niwbwrch.) Tip i chi felly: er bod y byrgyr bual yn wych, mae’r byrgyr cig oen yn fwy blasus byth. Ffarweliwn â’r Rug ac i ffwrdd â ni i’r gogledd, tua’r bryniau. Rydym yn dilyn yr heolydd cefn trwy blygion cefnwlad sir Ddinbych a Chonwy, ar heolydd sy’n edrych yn fwy ar y map nag ydyn nhw go iawn. Does dim iws hastu yn rhywle fel hyn. Yn y bryniau acw mae 'na ddyn o’r enw Eifion Howatson yn gwneud ei chorizo a’i salami ei hun, o gig y moch y mae’n eu magu ar ei dyddyn. (Roeddem wedi meddwl picio draw ond mae Eifion yn cadw cwmni i’r wyrion heddiw, sy’n bwysicach o lawer, wrth reswm.) Ymhen hir a hwyr dyma ni’n ymuno â chwm sy’n rhedeg lawr tua Chonwy, lle mae yna glamp o gastell anferthol, a chlamp o atyniad lleol enwog arall, sef Edwards o Gonwy, a enillodd goron Butcher’s Shop of the Year trwy Brydain gyfan. Yn y stafelloedd cefn, sydd fel drysfa, mae dynion yn hollti’r celanedd. Oni bai bod y siop fel pin mewn papur a phawb mor siriol, byddai’n lle brawychus iawn. Y dyn mwyaf siriol oll yw Ieuan Edwards, mab i ffermwr o Ddyffryn Conwy. Yn ugain oed, agorodd Ieuan ei siop gigydd ei hun. Mae ei selsig ardderchog bellach i’w gweld ar silffoedd archfarchnadoedd ledled Gymru. Maen nhw hefyd yn ymledu draw at Loegr, ar frys i ddatblygu o fod yn frand rhanbarthol i fod yn arch-selsig ar raddfa Brydeinig. Maen nhw hefyd yn hynod o ffasiynol yn Kuala Lumpur, am ryw reswm. Er gwaetha’r holl gyllyll sy’n gorwedd ar hyd y lle, holaf Ieuan a yw safon ei selsig wedi gostwng ar eu taith o selsig lleol i selsig sy’n goresgyn y byd. Mae e’n chwerthin (diolch byth). “Mae’n rhaid cadw at werthoedd penodol,” medd Ieuan. “Pan ddaru ni gychwyn, rhyw dri deg mlynedd yn ôl, dim ond porc o ysgwydd y mochyn oedd yn ein selsig a dim byd arall, a dyna sut mae hi hyd heddiw. Dydi gwneud chwaneg ddim yn golygu ein bod ni’n gwneud selsig salach. Yn fy marn i, maen nhw’n well nag erioed oherwydd ein bod ni’n dallt y broses gwneud selsig yn fwy manwl nag oeddan ni gynt.” Cwestiwn hy arall: mae gennych chi ddigon (o selsig) ar eich plât yn barod. Pam 'dach chi’n trafferthu i gadw siop? “Am fy mod i’n gigydd, ynte?” yw ateb Ieuan. “Yn anffodus mae’n rhaid i mi wisgo hwn” (gan ddangos ei dei) “yn lle fy ffedog gan fwyaf. Ond mi fydda i wrth fy modd o hyd pan fydda i’n taro draw fan hyn.” Mae Ieuan wedi sbriwsio’r siop yn ddiweddar, a hynny mewn ffordd sydd ddim yn brin o ddangos bod cig yn dod o… wel, anifeiliaid marw. Mae yna lawer o elfennau dylunio chwaethus ar hyd y lle, ond y tu ôl i’r cownter mae 'na gabinet sy’n dangos ysbodiau cyfain o gig oen a chwlffiau mawr o gig eidion. Cau, nid ehangu'r bwlch rhwng yr anifail a’r cwsmer mae Ieuan. Mae’n gwahodd pobl i halltu eu ham Nadolig at eu dant. Mae’n cynnal nosweithiau bwyd a gwin. Wrth i ni sgwrsio yn y siop, mae cwsmeriaid a siopwyr sy’n cerdded heibio yn torri ar draws yn gyson, gan dynnu coes yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae pawb yn nabod Ieuan, ac mae o yn nabod pawb. Ieuan, cigydd dre – sydd yn digwydd llywio ymherodraeth selsig ryngwladol, ond sy’n dal i ddarparu cig o’r safon uchaf i’r bobl leol. Bwyd Cymreig Bodnant, Bodnant Welsh Food, yw’n cyrchfan olaf ni heddiw. Mae’r cefndir yn fendigedig, yng nghesail gerddi enwog yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yng nghanol clwstwr twt o adeiladau fferm o’r 18fed ganrif. Cawsant eu troi, mewn modd chwaethus iawn, yn lle gwely a brecwast, ysgol goginio, bwyty, parlwr te, selar win a siop fferm
6
|
www.fforchifforc.cymru
Gad i ni orwedd mewn porfeydd gwelltog
“
Cau, nid ehangu'r bwlch rhwng yr anifail a’r cwsmer mae Ieuan. Mae’n gwahodd pobl i halltu eu ham Nadolig at eu dant.
www.fforchifforc.cymru
|
7
o safon ardderchog. Aeth Elinor a finnau ati’n syth bin i gynnal astudiaeth ddwys o seidr Cymreig; i wylio’r haul yn machlud dros afon Conwy, ac i ddadlau pwy oedd piau’r ystafell fwyaf. Fi gollodd, a nawr mae’n amser noswylio. Diwrnod perffaith eto. Traflyncwn frecwast Cymreig llawn yn ystafelloedd te Bodnant, ac yna i ffwrdd â ni ar ein hynt i Ynys Môn, ynys a fu, ar un adeg, yn porthi Cymru gyfan gyda’i gwenith, yn gadarnle olaf i’r derwyddon, ac yr hyn roedd y papurau tabloid yn arfer ei ddisgrifio fel “WILLS & KATE’S SECRET LOVE NEST”. Ers y 1960au, bu’n gartref hefyd i Michael a Rosalind Hooton, a symudodd yma i dyfu tatws a grawn ar fferm ar lannau’r Fenai. Dechrau trwy werthu merllys (neu asparagus) o’u drws cefn wnaethon nhw; wedyn fe ddaeth y meibion, Andrew a James, adref i ffermio. Maen nhw bellach yn rhedeg dwy siop sy’n gwerthu llond y lle o gigoedd, fel cig eidion Gwartheg Duon Cymreig, cig oen Llŷn, moch a thwrcwn. Dyma ni yn Siop Fferm Hooton’s Homegrown wreiddiol ym Mrynsiencyn, ac mae drws ffrynt y siop yn ffrâm berffaith i gopa pigog yr Wyddfa, rhyw ddeuddeg milltir o’r fan hyn. Da’n ni’n hoffi James o’r dechrau’n deg, yn rhannol oherwydd ei fod yn un 'dach chi’n tynnu ato’n syth, ond yn bennaf oherwydd ei fod yn cyrraedd ar dractor mawr coch, fel ffarmwr go iawn (a dyna beth ydi o, wrth gwrs). “Dan ni jyst yn… go iawn,” medd James, gan rwgnach ambell i beth ffrom am rai ‘siopau fferm’ sydd ddim yn rhai ‘go iawn’ o gwbl. Mae shop Hooton’s yn bendant yn y categori cyntaf: mae’r holl gynnyrch sydd ar y silffoedd yn cael ei dyfu neu ei godi ar y fferm (‘gweithio fesul metrau bwyd, nid milltiroedd’ yw eu harwyddair). Daw eu holl gyffeithiau, peis, cacennau a phrydau parod o’u cegin eu hunain. “Mae pob dim a wnawn ni yma, pob dim da’n ni’n ei dyfu neu’n ei godi neu’n ei goginio, yn cael ei werthu yn ein siopau ni, a 'run siop arall,” meddai James. Mae ganddyn nhw ddilynwyr lleol teyrngar, ac mae’r mewnlif o ymwelwyr yn ychwanegu at hynny, yn ôl eu tymor. Fe fyddan nhw’n tanio’r barbeciw yn yr haf, fel y gall yr ymwelwyr lowcio golwythion a byrgyrs wrth ymhyfrydu yn y golygfeydd anhygoel. Yn y cefndir, mae tri chigydd yn brysur yn torri cig oen, porc a chig eidion cartref. Mae James yn eu hysio nhw i’r heulwen i gael tynnu eu llun, gan bwyso ar olwyn ei dractor Massey Ferguson. “Ydi hwn yn ddigon ffermwr-cefn-gwlad i chi?” hola’n gellweirus. “Fedra i gnoi gwelltyn a dweud ‘ooh-arr’, os hoffech chi.” Does dim galw am hynny. Mae’r cig a brynwn ni i’w goginio yn nes ymlaen yn hynod o flasus. I ffwrdd ag e James unwaith eto ar ei dractor, i blannu pys a chael cip ar y garlleg a gwneud beth bynnag mae ffermwyr yn ei wneud. Os byddwch hi yn Sir Fôn rywbryd, cofiwch daro draw. Yng ngeiriau James, it’s real. Dyma ni’n gyrru 'nôl dros y Fenai ac i lawr â ni i benrhyn Llŷn. Mae’n rhyfeddol o fynyddig, gyda phigau folcanig, garw yn codi o wely’r môr. Mae’r ffordd yn troi’n sydyn tua’r mewndir ychydig cyn i’r Eifl ddod i’r golwg, ac yna’n disgyn hyd Barc Glasfryn, ein cyrchfan olaf. Mae Glasfryn wedi arallgyfeirio ymhell y tu hwnt i’r siop fferm arferol. Bellach mae’n gymaint o atyniad ymwelwyr ag ydi o fferm, gyda gwibgertio a thonfyrddio ymhlith yr atyniadau.
8
|
www.fforchifforc.cymru
Graze Anatomy
Mae anifeiliaid ar eu gorau pan gânt rwydd hynt i wneud beth sy’n naturiol iddynt
Mae’r cig wedi ennill llond gwlad o wobrau'r Gwir Flas ac maen nhw’n cyflenwi i lawer o dafarndai a gwestai lleol (gan gynnwys, rwy’n falch o weld, Plas Bodegroes, un o fy hoff fwytai yng Nghymru). Maen nhw hefyd yn gwerthu cig i’r cyhoedd ar y fferm ac yng Nghaffi’r Puffin ym Mhenmaenmawr. Mae Gwynfor, rheolwr y fferm, yn mynd â ni am dro o amgylch ei deyrnas. Mae’n wych o is-dec, yn gasgliad o adeiladau fferm digon urddasol, er bod y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o oes Fictoria. Mae’r Gwartheg Duon Cymreig ar fin cael eu troi i’r borfa, ac mae golwg hynod o iach arnynt. Yr ochr draw i wal gerrig mae ŵyn (fel y byddant) yn prancio a strancio ar y ddôl. Cawn gyfarfod â’r moch – mae eu cartref nhwythau mewn cae llawn prysgoed sy’n ddi-iws i wartheg a defaid, ond sy'n baradwys i’r moch eu hunain. Mae Gwynfor yn eu galw ato, a throt drot dônt draw i gwrdd â ni. Mae stribyn o fwd ar bob un – canlyniad yr ymdrybaeddu yn y gors islaw’r cae. Rydan ni’n teimlo trueni yn sydyn dros foch sy’n gynnyrch ffermio gorddwys, ac sy’n teimlo dim ond concrid o dan eu traed. Rydym hefyd yn cofio mantra Barwn Niwbwrch: bod anifeiliaid ar eu gorau pan gânt rwydd hynt i wneud beth sy’n naturiol iddynt. Mae’r moch yma mor hapus â moch mewn… wel, chi wyddoch beth. Mae’r un peth yn wir am bob anifail a welsom ni ar ein taith, gan gynnwys y bobl. Mae codi anifeiliaid yn y ffordd iawn, yng ngogledd Cymru pan fo’n heulog braf, a gwneud cigoedd sy’n cael eu canmol gan gogyddion gorau’r byd yn bownd o roi gwên ar eich wyneb, yn tydi?
“
Mae pob dim a wnawn ni yma, pob dim da’n ni’n ei dyfu neu’n ei godi neu’n ei goginio, yn cael ei werthu yn ein siopau ni, a 'run siop arall… www.fforchifforc.cymru
|
9
Arwydd yr Eidon Du
Ers talwm byddai’r porthmyn yn gyrru Gwartheg Duon Cymreig am bellteroedd maith i’w gwerthu ym marchnadoedd Lloegr. Taith hir a pheryglus oedd hon; byddai lladron pen ffordd yn ymosod yn aml ar y llwybrau cyfarwydd hyn. Roedd angen i’r porthmyn gludo llawer o arian. Yn ymateb i hyn sefydlwyd banciau arbennig ar hyd y daith, gan gynnwys Banc yr Eidon Du yn Llanymddyfri. Dyma un o fannau cwrdd porthmyn Sir Gaerfyrddin. Yn ddiweddarach cafodd y banc ei brynu gan fanc Lloyds.
GWLÂN AR gerdded
Cael eu magu am eu gwlân roedd defaid yn wreiddiol, ac yn yr Oesoedd Canol mynaich yr abatai fyddai’n bugeilio’r praidd. Y mynaich sefydlodd y diwydiant nyddu a gwehyddu yng Nghymru hefyd, ac am ganrifoedd bu brethyn gwlân yn un o'r prif allforion oddi yma. Bryd hynny byddai pobl yn bwyta cig dafad, sef cig ŵyn a oedd wedi treulio blwyddyn o leiaf ar y mynydd. Daeth cig dafad yn fwy poblogaidd heddiw oherwydd y blas arbennig sydd arno.
TIPYN O GAWL
Ai cawl yw saig genedlaethol Cymru? Yn hanesyddol roedd yn cael ei wneud o facwn neu gig eidion wedi’i halltu (o gig oen erbyn hyn) ac erfin, moron a thatws. Yng ngogledd Cymru lobsgóws yw’r enw arno. Mae cawl cennin yn defnyddio isgell cig a chennin ac mae’n cael ei weini gyda bara a chaws.
CHWEDL A LLÊN BWYD 10
|
www.fforchifforc.cymru
Mynd Tad-cu’r gyda’r llif Twrch Trwyth
Y baedd gwyllt oedd hen-hen-hen daid (hyd y nawfed ach) moch amaethyddol heddiw. Cynefin y baedd oedd coetiroedd Cymru. Yn ôl chwedlau’r Mabinogi roedd y moch cyntaf yn anrheg o’r isfyd Celtaidd, ac fe’u gwelwyd gyntaf yn Nyfed. Mae’r hen gân werin am ‘gladdu’r mochyn du’ hefyd yn hanu o Sir Benfro.
Mae sawl afon yng Nghymru wedi ei henwi ar ôl aelodau o deulu’r moch – Hwch, Twrch, Aman, Banw, Machno a Soch. Mae afonydd yn twrio neu’n torri trwy’r tir, fel mochyn sy’n chwilio am fes, gwreiddiau a madarch. Bydd mochyn hefyd yn mwynhau rholio yn y mwd – nid am ei fod yn anifail brwnt ond oherwydd bod haen o fwd yn ei gadw’n oer braf, ac yn ei amddiffyn rhag pelydrau’r haul.
HEN DDAFAD Crème de la YNG NGNU crème Cymru OEN BACH
Mae tir ffermio Cymru wedi bod yn gartref i fridiau gwartheg cynhenid ers miloedd o flynyddoedd. Yn anaml iawn y byddai llwythau Celtaidd yn bwtsiera eu hanifeiliaid er mwyn eu bwyta – dim ond adeg rhyw wledd arbennig. Byddai nifer y gyrr yn dangos cyfoeth a statws y perchennog. Mae’r gair am wartheg yn ne Cymru, sef ‘da’, yn dal i gael ei ddefnyddio yno – mae’n golygu ‘cyfoeth’ neu ‘eiddo’.
I rai, cig mollt (gwryw o rywogaeth y ddafad wedi’i ddisbaddu) yw cig dafad ac i eraill, cig hen famog yw e. Ta waeth, caiff y cig gorau (yn enwedig o frîd y Ddafad Fynydd Gymreig) ei gynhyrchu o fis Hydref i fis Mawrth ar ôl haf hir o bori. ‘Mae coes cig dafad Cymru’n well na choes cig dafad unrhyw wlad arall,’ George Borrow, Wild Wales.
www.fforchifforc.cymru
|
11
Rydym wedi cyrraedd pen ein taith... ...ond os ydych am ddechrau ar eich taith bwyd a diod eich hun, beth am ymweld 창 www.fforchifforc.cymru a dewis un o'r cannoedd o leoliadau bwyd uniongyrchol sydd ar gael ergyd carreg o'ch cartref, boed yn farchnad ffermwyr, yn siop fferm, neu'n ymweliad 창'r fferm ei hun.
www.fforchifforc.cymru