Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog Calon Eryri
www.DyFf.co.uk
www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog Calon Eryri CYNNWYS 1
Cyflwyniad
3
Llechwedd
4
Rheilffordd Ffestiniog
5
Portmeirion
6
Atyniadau lleol eraill
7
Tro mynydd
8
Tro yn y goedwig
9
Tro arfordirol
10
Beicio a gweithgareddau eraill
11
Trefi a Pentrefi
12
Bwyd a diod
13
Aros yma
14
Cyrraedd a teithio o gwmpas
15
Y tymhorau gwahanol
Lluniau - Š Hawlfraint (2010) Croeso Cymru
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog Calon Eryri Yng nghanol Eryri dyma galon y parc cenedlaethol. Mynyddoedd garw ar dair ochr a thraeth tywodlyd ar hyd yr arfordir. Llechi o Flaenau oedd technoleg ddiweddaraf toi ysgafn – yn aur llwyd. Am flynyddoedd byddai’r pynfeirch yn eu cludo i lawer i’r ceiau ar Afon Dwyryd a byddai’r cychod rhwyfo’n mynd â nhw allan ar y llanw heibio i Bortmeirion i’r llongau oedd yn eu disgwyl allan ar y môr. Ar y mynydd mae tysteb i ddyfeisgarwch y Fictoriaid. Er cymaint eu tebygrwydd i lethrau sgïo enfawr, gwelyau parau o dramffyrdd yw’r rhain: byddai pwysau’r wagen yn mynd i lawr yn tynnu’r un wag yn ôl i fyny. Roedden nhw’n cysylltu â Rheilffordd Ffestiniog a agorodd yn 1836 fel trên disgyrchiant gyda cheffylau’n tynnu’r wagenni gwag yn ôl i Flaenau. Mae milltir olaf y rheilffordd yn rhedeg ar hyd y Cob, sef arglawdd a adeiladwyd gan William Madocks i ddal y môr yn ôl. Sgil ddatblygiadau naturiol i hyn oedd y porthladd dŵr dwfn ar y pen gogleddol, sef Maddock’s Port a drodd yn Borthmadog, lle mae cychod a badau hwylio bellach yn angori. Yn y 1860au cafodd y rheilffordd ei moderneiddio ac erbyn hyn mae’n lle poblogaidd i ymlacio neu gael hwyl: mae’n ardal hyfryd i gerdded ac yn cynnig poeth o droeon yn yr ucheldir a golygfeydd i’r pellter i grwydro’n hamddenol ar y traeth wrth i’r haul suddo y tu ôl i gastell i’r môr. Llan Ffestiniog oedd yr anheddiad gwreiddiol, mae’n mynd yn ôl i’n dyddiau cynnar ac mae ganddo wreiddiau hir yn ein hanes; Blaenau Ffestiniog yw’r dref fodern a adeiladwyd pan oedd y diwydiant llechi ar ei anterth.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
ymlaen - Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog
Calon Eryri Hanner ffordd i lawr y Dyffryn ceir Plas Tan-y-bwlch – cyn-gartref Teulu Oakley oedd yn berchen ar y chwarel fwyaf ond mae’r plas bellach yn ganolfan astudio yn nwylo’r parc cenedlaethol. Mae’n cynnig amrywiaeth o gyrsiau o wylio adar i gasglu (a ffrio!) madarch gwyllt. Mae rhyw hud breuddwydiol ond cyfarwydd i dirwedd Eryri, o bosibl gan mai dyma leoliad cymaint o ffilmiau megis First Knight sydd newydd ei rhyddhau. Mae’n edrych fel tirwedd o’r oes a fu, pan oedd yn dal heb ei hanharddu gan ddyn. Mae yma le i enaid gael llonydd ac i anadlu awyr sydd newydd chwythu 3,000 o filltiroedd i groesi Môr Iwerydd. Cododd y Rhufeiniaid gaer yn Nhrawsfynydd ac mae un o’r cerrig gwreiddiol, sy’n nodi bod milwyr Marcus wedi gorffen adeiladu eu rhan nhw o’r waliau, bellach i’w gweld yng nghilbost y dafarn ym Maentwrog. ‘Rwy’n mynd i wneud ychydig o archaeoleg nawr!’ Mae’n boblogaidd iawn fel cyrchfan ers llawer dydd. Dyddiadur yr Arglwydd Lyttleton ym 1776 ....’Ddigwyddodd dim byd diddorol ar ein taith, nes inni gyrraedd Ffestiniog, sydd â’r Dyffryn bertaf a welwyd gennym i gyd ..... gyda’r wraig rydych chi’n ymserchu ynddi, eich ffrindiau mynwesol, a chasgliad da o lyfrau, gallech fyw yma am oes, heb deimlo fel nad wy mwy na diwrnod wedi pasio.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Llechwedd Fel parc thema ond yn fywyd go iawn, yn fwy cyffrous, llawn ysbryd antur ac arloesed. Nid amgueddfa ‘mo hon, dyma lle y byddai ein cydeidiau’n clocio i mewn ar gyfer eu gwaith a chewch weld enghreifftiau o’u hamgylchiadau gwaith, y mathau o swyddi y bydden nhw’n eu gwneud a’r heriau peirianegol oedd yn eu hwynebu. Mae’n chwarel fyw sy’n dal i gynhyrchu cynhyrchion llechi hyd heddiw, er mai dim ond ychydig a gyflogir o gymharu â’r dyddiau a fu, ac mae iechyd a diogelwch yn bwysig iawn a does dim rhaid gweithio 6 diwrnod yr wythnos neu 12 awr y dydd! Os ewch i mewn i’r ogofâu yn Llechwedd fe ewch i mewn i fyd tywyll y mwynwyr a chewch ddewis dilyn taith trwy’r pwll dwfn neu ddal y trên bach a dilyn tramffordd y mwynwyr ar hyd y lefel. Beth oedden nhw’n ei wneud i lawr yno drwy’r dydd? Ble roedden nhw’n bwyta? Oedden nhw wir yn canu? Wedi dod yn ôl i wyneb y ddaear cewch weld arddangosfeydd o hollti a thrimio llechi i’r maint iawn cyn eu rhoi yn y wagenni llechi a’u cludo i lawr y rhiw i Reilffordd Ffestiniog ac i’r byd. Gallwch weld ‘car gwyllt’, y ffordd fwyaf eithaf o deithio i lawr mynydd, a chlywed fel y defnyddiwyd cloddfa gyfagos i storio cynnwys yr Oriel Genedlaethol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn fwy diweddar, mae tri phâr o frain coesgoch wedi dechrau nythu yn Llechwedd. Wrth gerdded drwy’r Pentref Fictorianaidd cewch gyfle i gyfnewid eich arian, nid am Euro ond yn ôl mewn amser, ar gyfradd gyfnewid o £2-40 i ddarn chwecheiniog. Cewch lawer am ddarn chwech yn siop da-da Ffestin, a’i silffoedd yn llawn jariau gwydr o losin berwi traddodiadol, a gallwch dorri eich syched wrth far y Miners Arms. Boed law neu hindda dyma atyniad i bob tywydd – cyfle i’r hen hel atgofion a hwyl ac addysg i’r ifanc.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Rheilffordd Ffestiniog Hon sy’n clymu popeth ynghyd – y rheilffordd fu gynt yn cario llechi i lawr o’r mynydd ond bellach yn cario pobl yn gyfforddus. Nid unrhyw hen reilffordd dreftadaeth ‘mo hon ond, ynghyd â’r Rheilffordd Eryri, yr hwyaf a’r un sy’n brolio’r golygfeydd mwyaf ysblennydd. Ymwelwch â Llechwedd hefyd er mwyn dod â’r chwyldro diwydiannol yn fyw mewn ffordd sy’n eich ysbrydoli heb ramantu dim. Dyma beth ysgrifennodd un fam mewn llyfr ymwelwyr: ‘..... does dim un ohonom eisiau mynd adref. Mae’r trenau’n bleser go iawn – yn sydyn roedd fy mab 3 oed a’m gwr 40 oed yr un oedran!’ Bydd y rhan fwyaf ohonom yn dyheu am gefn gwlad a’r awyr agored ond gall fod yn anodd cyrraedd yno weithiau - gyda’r rheilffordd gallwch fynd â phlant bach, perthnasau hŷn neu goes glec i bob math o lefydd i weld y golygfeydd. Dyma gadair freichiau symudol â ffenestr dros dirwedd Eryri ynghyd â gwasanaeth car bwyd heb i chi orfod symud o’ch sedd. I gerddwyr mae’r daith ar y trenau’n ehangu’r gorwelion ar gyfer teithiau hirach. O’r orsaf yn Nhanygrisiau, dros gopaon y Moelwyn ac yna ddal y trên yn Nhan-y-bwlch. Cadwch lygad yn agored am y geifr gwyllt. Ac am y canon cerrig! I’r rhai llai egnïol mae taith i’r Dduallt i weld unig ddolen reilffordd Prydain , ac yna i lawr y llethrau wrth ymyl y rheilffordd drwy Goed y Bleiddiau - ydy hi’n wir mai fan hyn y saethwyd y blaidd olaf yng Nghymru? A arhosodd yr Arglwydd Haw-Haw yn y bwthyn hwn? Ac ymlaen i dafarn ym Maentwrog neu i gaffi yn Nhan-y-bwlch. Mae’r rheilffordd yn dod â phobl o bob oed a galwedigaeth ynghyd. O ran y gwasanaeth, gwirfoddolwyr ymroddedig wedi derbyn yr hyfforddiant mwyaf - chlywch chi ddim ‘mwynhewch eich diwrnod’ difflach yma ond ymrwymiad go iawn i’r gwaith.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Portmeirion Os yw’r Eryri’n fyd gwahanol, mae hynny’n sicr yn wir am Bortmeirion, gyda’i lliwiau pastel llon yn cyferbynnu â’r creigiau garw a llanw a thrai’r môr dros y traethau maith. I lawr dyma fan cysegredig i’r gyfres teledu The Prisoner, sy’n dal yn enwog ddeugain mlynedd ar ôl y bennod olaf. Mae’r cotiau ysgafn ag ymylon gwyn, fel rhai Patrick McGoohan, ar werth yn Rhif 6! Mae cerdded yn araf o gwmpas y llu o lwybrau troed a’r pentref fel bod ar daith ddarganfod, mae pethau rhyfedd a diddorol ym mhob man. Strwythurau a wnaed gan ddyn yn gwthio allan o’r cerrig neu wedi’u hadeiladu o gwmpas boncyffion a gwreiddiau coed - er eu bod mor od mae’r cyfan yn cydweddu â’i gilydd. Mae sŵn yn teithio’n bell ar draws dyfroedd gwastad yr aber a sŵn y tonnau’n torri’n cario’n bell ar yr awel o’r gorllewin. Mae’r planhigion toreithiog, trofannol bron, ar hyd y llain arfordirol hon yn tystio i effaith dwymo Llif y Gwlff – coctels a phalmwydd ar noson dwym o haf a sŵn ceiliogod y rhedyn yn canu ac arogl ffres y môr. Bydd llawer o bobl yn dewis priodi ym Mhortmeirion ac mae’n lle gwych am wyliau bach beth bynnag yw’r achlysur. Yn ogystal â gwestyau crand, mae digonedd o ddewisiadau hunanarlwyo, neu gallwch ymweld ar daith ddiwrnod - dim ond yn filltir ar droed o Reilffordd Ffestiniog neu daith bws o Borthmadog. Os ydych ar hast, gallwch ddefnyddio’r hofrenfa.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Atyniadau lleol eraill Mae ansawdd ein pysgota’n enwog ar hyd y lle ac ers 2004 rydym wedi gwylio gweilch y pysgod yn plymio ar gyflymder o 50 milltir yr awr i’r dŵr i ddala brithyllod a hyrddiaid i fwydo eu cywion. Yn ogystal â gwe-gamerâu a thelesgopau pwerus mae tywyswyr brwdfrydig yr RSPB yno i’ch pwyntio i’r cyfeiriad iawn - maen nhw’n arbennig iawn gan mai nhw yw’r unig bâr o weilch y pysgod sy’n bridio yng Nghymru. Y gobaith yw y byddan nhw’n ffurfio cnewyllyn cytref ac mae nythod artiffisial wedi eu hadeiladu i annog rhai newydd i ddod. Mae Rheilffordd Eryri teithio o Gaernarfon drwy Feddgelert ac yn dod i’w therfyn ger nyth gweilch y pysgod ac mae’r gyrwyr yn ymatal rhag ymarfer eu brwdfrydedd i chwythu’r chwiban er mwyn osgoi amharu ar yr adar ar eu nyth. Yn 2011 dylai’r rhan olaf o’r lein i Borthmadog gael ei hagor. Rheilffordd arall sydd ag enw tebyg yw Rheilffordd Ucheldir Cymru, gerllaw gorsaf y brif linell ym Mhorthmadog. Er nad yw ei thrac yn hir iawn mae’n gwneud yn iawn am hyn fel atyniad etifeddiaeth (y car bwffe lled gul cyntaf yn y byd) a thrwy gynnig llawer iawn o adloniant gwerth yr arian i deulu. Y naill ochr i’r traethau y mae Castell Harlech a adeiladwyd gan y Saeson a Chricieth gan y Cymry. I’r rhai mae’n well ganddyn nhw hanes ychydig yn hŷn, mae tomen a beili Normanaidd a adeiladwyd ar ben y gaer Rufeinig, Tomen y Mur, ychydig y tu allan i bentref Trawsfynydd a gerllaw mae Bryn Cader Faner, fath o gôr y cewri bach ond gyda golygfeydd gwell. Yng nghanolfan etifeddiaeth Llys Ednowain yng nghanol Trawsfynydd mae arddangosfa ddeniadol am y merthyr St. John Roberts a’r bardd Hedd Wynn – dau arwr lleol. Llun Hawfraint © Andy Rouse
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Tro Mynydd Ym mis Ebrill bob blwyddyn bydd rhedwyr yn cystadlu yn Ras y Moelwyn, ras dros y copaon. 10 ½ milltir yn codi i 2,800 troedfedd o uchder, mae’r enillydd fel arfer yn cymryd rhyw 80 munud - ond gan mai cerdded rydym ni’n bwriadu ei wneud, cawn ni hepgor y dechrau a chymryd y diwrnod cyfan. O’r caffi yn Nhanygrisiau dilynwch y llwybr i Gwmorthin, cwm rhewlifol serthochrog. I’r dde mae’r chwarel y galwai’r chwarelwyr ‘y Lladd-dy’ arni. I’r chwith mae llwybr hen dramffordd wrth ochr y llyn a barics y chwarelwyr a hen gapel adfeiliedig a fu’n fawreddog ar un adeg yn edrych drosto. Mae’n rhaid bod rhyw ddewiniaeth yma oherwydd dim ond ers 30 munud rydych yn cerdded ond rydych chi bellach mewn arallfyd. Mae’r llwybr yn dringo i ragor o gloddfeydd a chroesffordd. I’r dde mae yna lynnoedd llawn brithyll brown a’r Cnicht, a elwir weithiau yn ‘Matterhorn Cymru’. Yn syth ymlaen ac i lawr y llwybr mae pentref Croesor gyda’i gaffi ac oriel gymunedol. Neu trowch i’r chwith ac i fyny i’r Moelwyn Mawr, yr uchaf o’r copaon ar 770m. Cewch olygfeydd anferth gyda’r Wyddfa’n ymddangos yn agos i’r gogledd, a Chadair Idris i’r de a’r arfordir yn llenwi’r gorwel. Disgynnwch i esgair arw Craig Ysgafn sy’n edrych dros argae uchaf pwerdy hydro-electrig storfa bwmp gyntaf Prydain. Ar adegau o alw mawr am drydan, tynnir y plwg a bydd y dŵr yn rasio i lawr drwy’r tyrbinau i’r llyn yn Nhanygrisiau. Ymlaen i gopa’r Moelwyn Bach lle y cewch olygfa wych dros Dyffryn Ffestiniog, y trenau ager bach yn croesi’r Cob i Borthmadog a milltiroedd o draeth tywodlyd gerllaw’r cestyll yng Nghricieth a Harlech. Wrth gerdded ar hyd wal yr argae mae’n teimlo fel amffitheatr cawr - fyddai Barnes Wallis byth yn cael ei fomiau i mewn fan hyn! Mae Ras y Moelwyn yn mynd i fyny dros Foel yr Hydd ond os ydych chi’n dechrau blino, mae’r llwybr i lawr ffordd y peirianwyr yn ddigon hawdd ac mae’n dod â chi yn ôl i’r man cychwyn.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Tro coedwig Hanner ffordd i lawr y Cwm, rhwng Plas Tan-y-bwlch a’r rheilffordd y mae Llyn Mair sydd wedi’i amgylchynu gan goetir derw â llwybrau troed hawdd trwyddo. Mae’r cerdded yn hawdd iawn ac yn hwylus i bawb ond eto heb fod mor brysur fel ei fod yn tarfu ar yr heddwch. Lle da i ddechrau a gorffen taith gylch yw’r caffi ger yr orsaf, lle mae’r trenau’n dod i lawr yn cyfarfod â’r rhai’n dod i fyny. Dilynwch yr arwyddion i lawr y bryn – ar hyd y ffordd mae yna gerfluniau a c arddangosfeydd yn esbonio prinder a phwysigrwydd y coetir, sut y defnyddiwyd y derw i wneud llongau ac i wneud pyst cnotiog ffensys a fydd yn para am byth. 3 thrawstoriad o foncyff, pob un â throed o faint gwahanol wedi’i gosod yn y top, yn dangos oed cymharol pob coeden - ond peidiwch â phoeni, nid yw’n ddim i ymwneud â’r 3 arth. Croeswch y ffordd gul i mewn i’r safle picnic lle bydd hwyaid yn aros am dameidiau o dan belen fawr o hadau dant y llew. Dilynwch y llwybrau yn wrthglocwedd o gwmpas y llyn – trowch i’r chwith bob tro a byddwch chi’n iawn! Ar y pen pellaf mae’r dŵr yn llifo i’r pwll melin a fyddai ar un adeg yn rhoi pŵer i’r felin flawd, y felin a melin lifo a’r tyrbin oedd yn cynhyrchu trydan i’r Plas. Mae llygod pengrwn, llwynogod a 9 math o ystlum yn byw yma a nifer o adroddiadau heb eu cadarnhau o beled. Mae’r gwanwyn a’r haf yn amser da i weld a chlywed gwybedogion brith, tingochion a theloriaid y coed. Mae gweilch Marthin, troellwyr mawr a gweilch y pysgod hefyd yn ymweld. Wrth fynd o gwmpas byddwch chi’n gweld llawer o droadau – mae drysfa o deithiau cerdded wrth ochr y rheilffordd ac i lawr trwy’r coed i’r Plas neu’r tafarndai ym Maentwrog. Mae taflenni ar gael o Reilffordd Ffestiniog (yng Ngorsaf Tan-y-bwlch, Porthmadog a’r Blaenau) ac o’r Canolfannau Croeso.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Tro arfordir O’r bont ym Mhorthmadog dilynwch ymyl y cei. Os ydych yn lwcus efallai y gwelwch chi ddyfrast yn dysgu ei chenawon i ddal crancod – cymaint yn haws ar gyfer hyfforddi na physgod cyflym. Dyma ddechrau llwybr arfordirol Llŷn ond nid oes rhaid i chi fynd 84 milltir! Y tu ôl i'r clwb iotiau heibio iardiau cychod prysur ac ymlaen dros fryn bach gyda thai crand ac i mewn i Borth y Gest. Mae’n anodd dychmygu’r pentref hwn fel y bu gynt, yn llawn seiri llongau a seiri coed. Pan fydd y llanw'n cilio a’r cychod yn gwyro ar eu hochrau, daw piod môr i brocio â’u pigau, yn chwilota am gocos. Mae meinciau ar lan y cei, yn ymyl y maes parcio rhad ac am ddim a’r toiledau glân, yn help i sadio ysbienddrychau wrth i chi edrych ar y cyfoeth o adar sy'n elwa ar y traeth draw i Bortmeirion. Ewch ymlaen heibio'r gaer danddaearol sy'n sefyll fel gwyliwr dros y bae. Mae’r cerhyntau’n gwibio heibio gyda seibiant byr pan fydd y llanw’n troi - mae’r bobl leol yn eu cychod hirion Celtaidd pedwar â llywiwr, yn gwybod i amseru eu teithiau'n gywir wrth iddynt hyfforddi ar gyfer regatas. Gallwch adael y llwybr unrhyw bryd a disgyn i lawr i’r cildraethau a’r traethau cysylltiedig sydd wedi'u hynysu gan greigiau pan fydd y llanw’n uchel. Bydd llawer o’r bobl leol yn mwynhau Dywedir bod gwichiaid yn dda ond maen nhw’n edrych yn rhy debyg i falwod. Ar draws yr aber mae Castell Harlech yw’r patrwm i ddarpar adeiladwyr cestyll. Mae’n lle ysbrydoledig i'w archwilio, i chwarae ynddo neu ddal draenogyn môr – popeth sydd orau am draethau a childraethau heb y torfeydd. Taith ddychwelyd mewn llai na 3 milltir neu o faes parcio Borth y Gest mewn milltir yn unig - cewch chi fynd mor bell neu mor agos ag yr hoffech chi gyda seibiant mewn caffi yn edrych dros y naill borthladd neu’r llall.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Beicio a gweithgareddau eraill Both i feicwyr yn y triongl o lwybrau yng Nghoed y Brenin, Betws y Coed a Phenmachno. Lonydd tawel a llwybrau golygfaol ar garreg ein drws gyda chynlluniau cyffrous am feicio i lawr y bryn uwchben Blaenau a llwybrau teuluol o gwmpas Llyn Tanygrisiau. Mae traeth Harlech yn ddiddiwedd - golygfeydd o’r Wyddfa yn y pellter, ambell i ddolffin, madfallod y tywod prin a chyfrinachgar yn y twyni. Mae cildraethau tywodlyd Borth y Gest yn ymuno â Thraeth y Garreg Ddu, sy’n boblogaidd gyda sgiwyr jet ar un pen a theuluoedd ar y pen arall - mae gallu gyrru ar filltiroedd o draeth yn fantais pan fydd llawer i'w gario. Y tu ôl i'r twyni yn Harlech mae Royal St Davids, sy’n rhif 73 yn rhestr y Golf Digest o’r Can Cwrs Gorau y tu allan i’r UDA. Mae 14eg twll Porthmadog, sydd ger y traeth ac sydd â’r enw ’Yr Himalayas', yn annhebygol o gael ei anghofio. Ar gyfer golygfeydd a golff anwastad mae Llan Ffestiniog yn edrych i lawr ar y Dyffryn - efallai cewch chi’r cwrs i chi’ch hunan ar wahân i ychydig o ddefaid a sŵn yr ehedydd. Dringo creigiau ar y clogwyni sy’n wynebu’r de uwch ben Tanygrisiau. Milltiroedd di-ri’ o geuffyrdd a mwyngloddiau tanddaearol. Os am eu harchwilio, mae tywysydd a het galed yn ddefnyddiol. Mae caiacio a chanŵio’n boblogaidd gyd thaith badlo glasurol o’r porthladd ym Mhorth y Gest at y bont ym Maentwrog ac yn ôl wrth i’r llanw gilio, yn ôl y rhwyfwyr hynafol a aeth â llechi allan i’r llongau ar y môr. Mae’r pysgota’n wych. Brithyll brown gwyllt mewn llynnoedd yn y mynyddoedd hyd at 2,000 troedfedd (y llynnoedd, nid y pysgod!) Llyn Trawsfynydd, lleoliad cystadlaethau rhyngwladol gyda chychod i’w llogi. Llynnoedd yn byrlymu â brithyll seithliw. Samwn a sewin yn rasio i fyny’r afonydd, mecryll a draenogiaid y môr oddi ar yr arfordir gyda digonedd o grancod yn yr harbwr. Hefyd mae cwrs pysgota â phlu poblogaidd iawn ym Mhlas Tan y Bwlch.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Trefi a phentrefi Heb ots nac oni bai adeiladwyd Blaenau Ffestiniog ar y diwydiant llechi ac mae chwyth achlysurol seiren yn eich atgoffa o hynny. Mae’r etifeddiaeth fwyngloddio gadarn hon yn ysbrydoli pobl mewn llawer ffordd - yn gartref i gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, 2 gôr meibion a seindorf arian. Wedi’i hamgylchynu gan borfeydd a choetir derw mae naws gwledig i Lan Ffestiniog. Mae’r golygfeydd a gewch oddi yno i lawr y cwm i’r arfordir yn rhagorol. Pan gaewyd tafarn y pentref a’i rhoi ar werth daeth y gymuned ynghyd a’i phrynu fel cwmni cydweithredol er mwy ei chadw yn ganolfan i fywyd y pentref. Saif Trawsfynydd ar hen groesffordd y llwybr oes efydd o Iwerddon i Gôr y Cewri a’r ffordd Rufeinig yn cysylltu eu caerau. Mae’r llyn, sef yr un mwyaf yng Nghymru yn ôl arwynebedd, yn cynhyrchu trydan hydro-electrig ac roedd yn arfer oeri adweithyddion yr atomfa a gaeodd ym 1991. Adeiladwyd Maentwrog, a enwyd yn ôl y chwedl ar ôl y maen a daflwyd gan y cawr Twrog, ar gyfer ystâd Tan-y-Bwlch ac mae’r pentref i’w weld yn glir o’r plas - gofynnwyd i’r trigolion beidio â rhoi eu dillad i sychu ar y lein ar ddydd Llun rhag sbwylio’r olygfa i westeion a ddaeth am y penwythnos. Penrhyndeudraeth yw cartref y Gwaith Powdwr lle y gwnaed 17 miliwn o grenadau! Erbyn hyn mae’n warchodfa natur hawdd mynd iddi ac mae sied y pendil balistig yn lle da i wylio adar fel troellwyr mawr. Mae Porthmadog yn bentref glan môr byrlymus llawn cymeriad a phethau i’w darganfod. I selogion rheilffyrdd treftadaeth prin bod unman gwell na’r gyffordd hon – lle mae’n rhaid ymweld ag ef. Mae’r Cob yn lle poblogaidd i wylio adar, pwy a yr efallai y gwelwch chi walch y pysgod yn dal hyrddyn
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Bwyd a diod Bydd llysieuwyr am fynd heibio’r paragraff hwn. Ar y mynyddoedd gwelwch ŵyn yn pori ym mhob man a bustych eidion Duon Cymreig - mor flasus, yn aeddfedu’n araf ar gyflymder naturiol. Yn un o fwydydd arbennig yr ardal yw cig oen y morfeydd heli. Mae’r ŵyn yn pori ar y morfeydd wrth ochr y foryd, ac yn cael ymborth llawn lafant y môr, corn-carw’r môr a chlustog Fair. Os ‘mai defaid yw’r hyn mae defaid yn ei fwyta’ does dim rhyfedd ei fod mor flasus. Nid yn unig yn crwydro’n rhydd ond yn crwydro’n rhydd ger y môr - awyr iach ac ymarfer corff pob llanw a thrai. Tafarndai’r goets fawr ym Maentwrog - mae mor hawdd dychmygu’r ceffylau’n cael eu ffrwyno neu eu harwain i’r stablau. Y dafarn yn Llan Ffestiniog, a brynwyd gan gwmni cydweithredol dan arweinyddiaeth Mel Goch: ‘Mae tafarn yma ers 1726, yn fan yfed pwysig i’r porthmyn cyn croesi’r gweunydd.’ A dyma lle roedd y criw yn ffilmio fersiwn Roman Polanski o Macbeth yn mwynhau peint neu ddau. Dark Side of the Moose a chwrw arbennig yr hydref, Bog Myrtle Stout, yw dau o gyrfau poblogaidd bragdy’r Mŵs Piws ym Mhorthmadog. Mae caffis stryd yn y Blaenau a Phorthmadog yn fannau gwych i wylio pobl. Caffis yn Nhanygrisiau a Than-y-Bwlch yw’r lleoedd delfrydol i gerddwyr gael hoe o’r cerdded. Hufen iâ Cadwallader neu bysgod a sglodion ar fainc ger yr harbwr. Macrell ffres wedi’i ddal a’i goginio ar y traeth. Mae cyw iâr bocs mwg yn fwyd arbennig ar y rheilffordd –y cyw iâr a thatws pob eu lapio dair gwaith mewn ffoil a’u coginio yn y bocs mwg ar flaen yr injan. Ychydig o siyntio a 13 milltir yn ddiweddarach, gyda thun o grefi, mae’n wledd i’r gyrwyr. Nid yw hynny ar y fwydlen ond mae ‘brecwast ar raw’ taniwr ar gael yn Rheilffordd Ucheldir Cymru. Mae rhywbeth at bob dant ond os ydych yn gwneud cinio pecyn yn y Blaenau mae’r siop fara’n gwneud ‘pastai Cwrdaidd’ arbennig.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Ble i aros O fewn Bro Ffestiniog a Phorthmadog mae dewis eang, o lety mewn hostel am £19 y noson, gyda lle i gadw beiciau’n ddiogel, i wely a brecwast mewn swît penty ym Mhortmeirion am £300 – gan gymryd parcio diogel ar gyfer Bentley yn ganiataol. Mae’ golygfeydd yn wych ym mhobman ac mae’r lleoedd yn llawn cymeriad, nid wedi’i arosod ond cymeriad go iawn. Tŷ capten môr neu fwthyn cychwr ym mhentref adeiladu llongau Borth y Gest. Bwthyn wrth ymyl y cei yn edrych dros harbwr Porthmadog gyda'r Wyddfa, y Cnicht a’r Moelwynion yn y pellter. Bwthyn chwarelwr yn Ffestiniog yn edrych i lawr y cwm ar fachlud yr haul. Gwesty cefn gwlad crand gyda wal ddringo yn y seler – yn boblogaidd gyda grwpiau fel gweithgaredd ar ôl cinio. Arhoswch yn ysguboriau wedi’u trosi plasty 500 mlwydd oed, ar lethrau’r Moelwyn Bach, gyda phlatfform preifat i ddal y trenau stêm sy’n mynd heibio. Gwely a brecwast islaw’r clogwyni yn Nhanygrisiau gyda theithiau cerdded a dringfeydd yn dechrau ar garreg y drws a sawna i hwyluso’ch adferiad gyda’r nos. Hen dafarndai'r coetsis mawr, heb y stablau, yn anffodus, ond cysylltiad gyda’r gorffennol a lle da i gwrdd â’r bobl leol. Neu babell wedi’i chodi ar lan yr afon – cyfle gwych i wylio ein bywyd gwyllt a gweld y sêr gwib rhyfeddol, mor hawdd eu gweld: heb lygredd golau, mae’r nos yma yn wirioneddol dywyll.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Cyrraedd a teithio o gwmpas Mae gan Dyffryn Ffestiniog a Phorthmadog bopeth sy’n dda a diddorol am gyrchfannau tramor. Cewch holl gyffro teithio ond heb ddim o’r ffwdan mae cyrraedd yma’n rhan o’r hwyl. Mae Rheilffordd Arfordir y Cambrian yn dod â phobl trwy’r Canolbarth i Aberdyfi ac yna i fyny’r arfordir mor bell â Phwllheli gan gysylltu â Rheilffordd Ffestiniog ym Minffordd a Phorthmadog. Daw mapiau darluniadol â’r golygfeydd o’r trên yn fyw a phan fydd tymor yr haf ar ei anterth bydd gwasanaeth ager fel arfer yn gweithio ar hyd y darn arfordirol. O Landudno ar arfordir y gogledd mae llinell Dyffryn Conwy’n mynd trwy dref farchnad Llanrwst, i Fetws y Coed a Dolwyddelan, gyda golygfa draw am gastell Llywelyn Fawr, ac wedyn trwy dwnnel 2 filltir o hyd yn dod allan o dan Lechwedd i gysylltu â Rheilffordd Ffestiniog. Efallai bydd fforwyr dewrach am gyrraedd mewn caiac ar yr arfordir neu'n cario sach deithio a phabell wrth gerdded Ffordd y Cambrian neu weithio tuag at Wobrau Dug Caeredin. Yn y car, mae’n well yng ngolau dydd – mae’n gwella po agosaf yr ewch chi. Mae cloddiau’n troi’n waliau cerrig, bryniau’n troi’n fynyddoedd creigiog ac yn sydyn reit daw’r arfordir i’r golwg. Efallai ein bod yn anghysbell ond mae prif wythiennau'r A5 a’r A55 yn rhedeg yn agos – 2 awr yn unig o Fanceinion ac ychydig ymhellach o Firmingham. Unwaith i chi gyrraedd yma rydych chi o fewn both effeithiol iawn o drafnidiaeth gyhoeddus – efallai nad oes yma amlder amserlen drefol ond dim ond i chi gynllunio, dyma ffordd effeithiol o fynd o gwmpas. Mae cerdded yn gweithio’n dda o’i gyfuno â’r rheilffyrdd a cheir disgrifiadau o lawer o deithiau cerdded rhwng gorsafoedd mewn llyfrau a thaflenni. Mae trenau a bysiau, gyda Thocyn Crwydro Gogledd Cymru, yn ffyrdd gwych o gyrraedd canolfannau poblogaidd prysur heb lygredd ceir a ffwdan parcio.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk
calon Eryri >>
Y tymhorau gwahanol Mae’n lle gwahanol i bobl wahanol ar adegau gwahanol ond mae trwy gydol y flwyddyn - mae’r gymuned yn bwrw ymlaen â’i busnes ac yn croesawu ymwelwyr waeth beth yw’r tymor. Bydd y myfyrwyr yn mynd ac yn dod ym Mhlas Tan y Bwlch wrth i’r cyrsiau newid gyda'r tymhorau. Mae’r cestyll, Llechwedd a Phortmeirion ar agor ac mae’r trenau ager yn rhedeg, er yn llai aml. Fodd bynnag mae gwalch y pysgod yn hoffi’r hindda, yn cilio i Affrica yn ystod ein gaeaf! Gwanwyn Bydd gwybedogion brith yn hedfan draw o Affrica fel bod eu cywion yn deor pan fydd argaeledd lindys yn bwydo ar ddail tyner ifanc y derw ar ei orau. Bydd ŵyn bach yn poenydio eu mamau ac yn rasio o gwmpas mewn gangiau. Bydd clychau’r gog yn ffrwydro i’w blodeuo. Bob man yr edrychwch chi mae lliw a gobaith. Haf Mae traethau ar eu gorau yn ystod dyddiau hir yr haf ac os byddwn yn ffodus caiff y macrell eu cwrso i mewn gan y dolffiniaid. Mae hyd at wyth trên yn rhedeg ar hyd Rheilffordd Ffestiniog. Mae ffermwyr a’u cŵn yn casglu preiddiau o ddefaid o’r mynyddoedd i’w cneifio. Bydd llus gwyllt yn y coed a’r mynyddoedd ar eu hanterth ym mis Awst a gweilch y pysgod yn troi tua’r de. Hydref Bydd y grug yn blodeuo, a’r geifr gwyllt yn rhodio ar fynyddoedd Moelwyn. Bydd gwiwerod a sgrechod y coed yn storio bwyd ar gyfer y gaeaf. Bydd y dail yn dechrau newid eu lliw. Bydd siantrelau a madarch gwyllt blasus eraill ar eu gorau. Gaeaf Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn debycach i ‘Val de ‘Stiniog’, gyda cherddwyr yn gwisgo sgïau a chramponau i symud o gwmpas y wlad hud aeafol. Bydd bywyd gwyllt a natur yn adlenwi eu batris. Amser da ar gyfer fforio tawel gyda swper ar ddiwedd y dydd o flaen tân coed. Plant wedi’u swyno ar drenau arbennig Siôn Corn ar Reilffordd Llechwedd a Ffestiniog.
www.DyFf.co.uk www.porthmadog.co.uk