gair rhydd Papur myfyrwyr Prifysgol Caerdydd | sef. 1972
gair rhydd Papur wythnosol myfyrwyr Caerdydd Rhifyn arbennig: Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd 10fed o Awst 2018
2
GOLYGYDDOL Llais y Maes 2018 Golygyddion Liam Ketcher Aled Huw Russell Gohebwyr Gwenan Gravell Jacob Morris Tomos Evans Llion Carbis Elen Fflur Davies Cyfranwyr Cerys Rhys Lowri Evans Ifan Prys Sara Dafydd Jonah Mayo Elen Jones Eirian Jones Caeo Harri Hughes Megan Tomos Osian Morgan Meleri Williams Mared Jones Dyluniadau Celf Esyllt Lewis Instagram: @darlyn_y_dydd Hyfforddwyr Iwan Roberts Manon Edwards-Ahir Emma Mease Gwenda Richards Bathan Muxworthy Elen Davies Guto Llewelyn Sali Collins Lluniau Aled Llywelyn Write to the editor editor@gairrhydd.com
Yn Gair Rhydd, cymerwn ein cyfrifoldeb i gynnal y safonnau uchaf posibl o ddifrif. Weithiau, oherwydd cyfyngiadau amser, efallai y gwnawn rai camgymeriadau. Os ydych o’r farn nad ydym wedi cyrraedd y safonau yr anelwn amdanynt, ebostiwch editor@gairrhydd.com. Medrwch ddarllen ein Datganiad Polisi Moesol a Gweithdrefn Gwynion drwy ddilyn: cardiffstudentsmedia.co.uk/complaints Dydy barn a roddir mewn darnau golygyddol ddim yn adlewyrchiad o Gyfryngau Myfyrwyr Caerdydd, sef cyhoeddwyr Gair Rhydd mewn termau cyfreithiol, ac ni ddylid ei ystyried fel cyfathrebiad swyddogol na chwaith yn safbwynt y mudiad. Mae Gair Rhydd yn bapur newyddion cofrestredig gyda Swyddfa’r Post.
eisteddfod yn y bae Gair Rhydd, y rhifyn gyntaf trwy’r Gymraeg Liam Ketcher
C
roeso i Gaerdydd a chroeso i Gair Rhydd: papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn cyhoeddi rhifynnau am fwy ‘na 45 o flynyddoedd! Mae Gair Rhydd yn rhan o Gyfryngau Myfyrwyr Caerydd ac yn cydweithio gydag orsaf radio Xpress, cylchgrawn Quench â gorsaf deledu CUTV. Y mae’n garreg filltir yn hanes y papur newydd wrth inni gyhoeddi hwn, y rhifyn cyfrwng Cymraeg cyntaf erioed. Mae’r brifwyl yn y Bae yn gefnlen llwyr briodol i lansio’r rhifyn hanesyddol yma. Yn ystod haf 2017 fe wnes i a chydolygydd Llais y Maes eleni, Aeld Russell, gweld cyfle i greu cynnwys Cymraeg yn yr undeb gan sicrhau cyfleodd i fyfyrwyr hogi eu sgiliau newyddiadurol ymhellach. Felly fe ffurfiwyd CMCC (Cyfryngau Myfyrwyr Cym-
raeg Caerdydd) er mwyn i llais y myfyrwyr Cymraeg eu hiaith gael ei chlywed, boed hynny yn ysgrifenedig neu’n ymarferol. Rydym yn griw ffodus o gael Ysgol Newyddiaduraeth, JOMEC Cymraeg i’n harwain ac ein haddysgu yn ogsytal â chymorth gan ITV Cymru, S4C a C4CJ unwaith eto eleni. Gyda Llais y Maes yn ei chweched flwyddyn rydym yn hen law ar ohebu am holl hynt a helyntion y Brifwyl a chredwch i fi, ma ‘na hen ddigon o ddrama i’w chlwyed hyd y maes. Diben y cynllun yw adrodd straeon o’r Maes gan greu cynnwys addysgiadol ac ysgafn er mwyn difyrru ein cydEisteddfodwyr. Trwy’r wythnos mae’n siwr fod eich sgrin ffon wedi bod yn drwch o’n straeon ar eich cyfrifon Trydar, Facebook, Twitter ac Instagram. Ac mae’n fraint i allu gyflwyno’r rhifyn arbennig hwn i chi gyd ar brynhawn dydd Gwener y Brifwyl. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau pori trwy dudalennau’r papur yma ac ei fod yn hêl atgofion
o’r wythnos ichi a’n tanio trafodaeth ynghlyn â phynicau amrywiol, o’r difyr i’r doniol, fel: a ddylai Trump ddod i’r Steddfod?. Wnai adael ichi darllen hynny, a dehongli dros eich hunain, os y ddylau Arlywydd America cael gwahoddiad i ‘Steddffod Sir Conwy yn 2019 - sgwn i os fyddai Bestsan Moses ag awydd i ariannu blimp i hedfan fry uwch y maes! Hoffwn ddechrau’r diolchiadau trwy ddiolch i fy nghyd-olygydd Aled Huw Russell, am ei holl gefnogaeth ddyfal dros y flwyddyn diwethaf. Hebddo fe, ni fyddai CMCC wedi bod gymaint o lwyddiant ac felly ni fyddai’r partneriaeth gyda Llais y Maes wedi bod yn bosib. Yn ychwanegol i hyn, hoffwn ddiolch i holl ohebwyr a chyfranwyr Llais y Maes eleni am greu cynnwys proffesiynol o’r radd flaenaf. Heb amheuaeth un o’r rhannau gorau o weithio fel rhan o’r tîm yw’r gallu i weithio ac i ddysgu gan rai o’r newyddiadurwyr mwyaf brofiadol yn y cyfryngau Cymraeg heddiw. Rhaid i
mi ddiolch i holl staff JOMEC ac ITV am eu cefnogaeth ddiddiwedd cyn, ac yn ystod, yr wythnos ac am hyfforddi’r tîm, gan helpu iddynt hwy fagu sgiliau craidd y grefft o newyddiadura a’u hysbrydoli i fod yn newyddiadurwyr y dyfodol. Yn arbennig hoffwn ddiolch am waith Iwan Roberts, Manon EdwardsAhir, Bethan Muxworthy, Emma Meese, Sali Collins a Gwenda Richards am yr holl gymorth yn ystod yr wythnos, hebddyn nhw ni fyddai’r wythnos gymaint o lwyddiant. I orffen, hoffwn ni fel tîm longyfarch ein darlithydd anhygoel o JOMEC Cymraeg, Sian Morgan-Lloyd a’i gŵr Carwyn ar enedigaeth ei merch, Anni Gwyneth Lloyd. Pob dymuniad da iddyn nhw a gobeithio fydd Sian yn dychwelyd i’r tim y flwyddyn nesa! A’r diolch olaf i chi - am ddarllen hwn. Gobeithio y gwnewch chi mwynhau’r cynnwys gan Cymru ifanc a chofiwch ymateb i’n herthyglau drwy ddilyn ein cyfrif trydar, Facebook ac Instagram: @Llaisymaes.
GOLYGYDDOL
3
Llais y Maes yn cwrdd a Ashok Ahir Jacob Morris aeth i gwrdd a chadeirydd pwyllgor gwaith yr Eisteddfod.
A
shok Ahir yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith eleni, a gyda’r anrhydedd hon daw cyfrifoldeb mawr y gwaith trefnu er mwyn sicrhau llwyddiant yr ŵyl. Yn Gymro sydd wedi cael ei fabwysiadu o dras Indiaidd y mae bellach yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig Manon a’i ddau o blant. Mae Ashok yn newyddiadurwr hynod brofiadol ac wedi gweithio yn Llundain a Chaerdydd ac mae ganddo angerdd mawr dros Newyddiaduraeth a Gwleidyddiaeth.
Wel os chi ddim yn dod lawr ar gyfer y penwythnos da chi rhy hwyr.
Ry’ ni gyd yn deall eisioes ei bod hi’n ‘Steddfod wahanol, a oedd yn fwriad o’r cychwyn i wneud yr Eisteddfod yn un ddi ffin? Wel, roedd y penderfyniad i wneud Eisteddfod yn un di-ffin wedi ei wneud yn gynharach cyn i’r Pwyllgor ffurfio, a hynny ym mis Mehefin 2016. Felly roedden ni bron yn derbyn y syniad a gweithio ar y weledigaeth honno.
dyfodol yn dilyn eich esiampl chi? Hynny yw, Eisteddfod agored, aml-ddiwylliedig, neu hoffech chi’r elfen honno aros yn unigryw i Steddfod Caerdydd? Na, i mi mae’n anodd i drio creu ‘Steddfod ddi-fens ym mhob gornel o Gymru, wrth gwrs mae’n anodd. Ond dwi’n medddwl be’ bynnag sy’n digwydd yn Eisteddfodau’r dyfdol, os bydde rhywun yn gofyn i mi am adborth neu gymorth am yr Eisteddfod yma, neu unrhyw Bwyllgor Gwaith, fydde’n un gweud ei bod hi’n anrhydedd i fod ar y Pwyllgor Gwaith. Yn yr Eisteddfod hon mae angen i ni feddwl am y Traddodwyr yn ogystal â’r bobl newydd rydym ni felly wedi trio plethu anghenion pobol yr ardal, ymwelwyr i Gaerdydd yn ogystal â’r rhai sy’n dod i’r Steddfod bob blwyddyn a ry’ ni di cael canmoliaeth gan bob math o bobol gan gynnwys y sawl sy’n dod i’r steddfod bob blwyddyn.
Ydych chi’n gobeithio fydd Eisteddfodau’r
Beth yw eich hoff beth chi am yr Eisteddfod
Sut y cawsoch eich dewis ar gyfer y swydd? Roedd etholiad mewn cyfarfod cyhoeddus yn Glantaf ym Mis Tachwedd 2016. Roedd yna rhywrai wedi rhoi eu henwau ymlaen ond fy enw i ddaeth mas yn y diwedd.
hyd yn hyn, a hefyd eich cas beth? S’dim cas beth gen i o gwbl i fod yn onest! Nawr ni’n dechrau becso am y penwythnos gyda mwy o bobol yn dod i’r Maes am y lle. Ond ni wedi gwneud defnydd da o’r maes gan ddefnyddio’r holl bae, oes fydd Llwyfan y Maes yn brysur mae modd symud pobol i lawr. Un o’n hoff bethau eraill yw gweld fy mab yn cystadlu yn y côr gyda gweddill Plasmawr yn sioe ‘Mynd A Dod’ sy’n seiliedig ar gerddoriaeth y band Wigwam. Ydych chi’n meddwl fod sylwadau’r Archdderwydd yn Seremon i’r Coroni yn tanseilio ethos yr Eisteddfod? I’ch atgoffa ‘fedar hi ddim ei wneud o heb y dynion ‘da chi’n gweld.’ Y peth pwysig oedd ei fod o wedi ymddiheurio ac i mi’n bersonol ro ni’n meddwl am Catrin Dafydd yn fwy na phawb arall. I ni, bobol Caerdydd yn dathlu wrth ei gweld hi’n sgrifennu am Gaerdydd modern, newydd oedd y peth pwysig. Pryd ddechreuodd y gwaith trefnu a beth oedd ymateb pobl Caerdydd fod y brifwyl yn dod i’w stepen drws?
O’n i’n brwydro i gadw popeth yn y Bae. Odd e’n broses hir ond ni’n falch mae hi wedi digwydd, da ni di bod yn gweithio ar jigsaw itha cymhleth - ond ma’r jigsaw wedi llwyddo. Yn amlwg mae yna gryn feirniadaeth wedi bod ar yr Eisteddfod hon, a rhai yn dewis peidio dod, beth yw eich ymateb i’r rhain? Wel os chi ddim yn dod lawr ar gyfer y penwythnos da chi rhy hwyr. Pa leoliad sydd orau gennych chi ar gyfer safle’r ‘Steddfod - cau neu’r Bae? Ummm…Bae
O’n i’n brwydro i gadw popeth yn y Bae. Odd e’n broses hir ond ni’n falch mae hi wedi digwydd, da ni di bod yn gweithio ar jigsaw itha cymhleth - ond ma’r jigsaw wedi llwyddo.
4
NEWYDDION
newyddion
MAES B
Elen Fflur Davies
G
yda Chymru’n parhau i arwain y ffordd yn y sector ailgylchu, mae’r Eisteddfod Genedlaethol eleni wedi penderfynu cymryd camau eu hun er mwyn lleihau’r maint o blastig a ddefnyddir yn yr ŵyl. Drwy gyflwyno cynlluniau megis gwydrau plastig gellir eu hailddefnyddio ac eisoes gefnu ar welltynnau plastig ar y maes, eu gobaith yn yr hirdymor ydy gwahardd plastig untro yn gyfan gwbl erbyn Eisteddfod Sir Conwy 2019. Yn wir, Cymru fach ydy’r wlad gorau yn y Deyrnas Unedig, y gorau ond un yn Ewrop a’r gorau ond dau yn y byd am ailgylchu. Er mwyn ceisio gwireddu eu gweledigaeth, mae’r Eisteddfod yn cydweithio gydag ymgyrchwyr #drastigarblastig yr AIF (Association
#DrastigArBlastig
of Independent Festivals). Mae’r ymgyrchwyr yn ceisio gwahardd plastig un-tro yng ngwyliau diwylliannol ar hyd a lled Prydain erbyn 2021. Un o’r cynlluniau newydd eleni ydy cyflwyno tal £1 ychwanegol am wydryn plastig gellir eu hailddefnyddio. Yn ogystal â phrynu diod, wrth archebu eu peint cyntaf, fe fydd yn rhaid i yfwyr gyfrannu’n ychwanegol am eu diod er mwyn lleihau’r gwastraff plastig un-tro ar y Maes. Fodd bynnag, bydd modd i’r yfwyr ail-lenwi’r gwydrau yma neu eu dychwelyd am rhai glân am ddim. Wrth gwrs, gall rhai hyd yn oed gadw’r gwydrau ar ddiwedd y dydd fel rhyw fath o gofrod, wedi’r cyfan maent wedi eu haddurno’n atyniadol gyda logo’r ‘Steddfod! Yn ogystal â chyflwyno gwydrau plastig gellir eu hailddefnyddio, mae’r Eisteddfod yn annog darparwyr coffi a the sy’n rhan o’r ŵyl i gyflwyno cwpanau paned ailddefnyddio hefyd. Cynllun arall ar y gweill ers nifer o fly-
nyddoedd bellach, sydd wedi profi’n llwyddiannus, ydy’r gorsafoedd dŵr yfed rhad ac am ddim o amgylch y maes wedi’u darparu gan Ddŵr Cymru. Wedi eisoes gwahardd y defnydd o welltynnau plastig yn yr Eisteddfod, mae dau fyfyriwr Daearyddiaeth Amgylcheddol o Brifysgol Caerdydd, Nia Jones a Douglas Lewns gyda’u hymgyrch ‘No Straw Stand’, wrthi yn annog busnesau’r brifddinas i roi’r gorau i ddefnyddio gwelltynnau. Eu nod ydy creu amgylchedd gwyrddach, glanach a mwy cynaliadwy i fyw ynddi. Medd Nia “Mae’r ffaith bod yr Eisteddfod yn lleihau ar ei ddefnydd o blastig yn newyddion gwych i’w glywed. Mae’r ‘steddfod mewn sefyllfa unigryw, lle mae ganddynt dylanwad mawr ar filoedd o bobl sy’n cerdded trwy’r maes. Rwy’n gobeithiol fydd mwy o wyliau a sefydliadau cenedlaethol yn cymryd camau cadarnhaol tuag at polisiau cynaliadwy fel ‘Steddfod wedi
eleni.” Cynhelir yn ogystal, gweithdy sy’n berthnasol i’r lleoliad, ‘Pysgod a Phlastig’, ym Mhentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Maes. Arddangosfa ddyddiol yw hon, i godi ymwybyddiaeth o’r broblem blastig yn y moroedd a’u heffaith ar gadwyni bwyd bywyd y môr. Nid yn unig gŵyl yr Eisteddfod sydd wrthi ar hyn o bryd yn ceisio gwneud eu digwyddiad mor wyrdd â phosib. Mae gŵyl leol arall y brifddinas, Tafwyl, ers rhai blynyddoedd bellach yn ymfalchïo yn y ffaith eu bod yn eco-gyfeillgar. Gydag un o’r cyfraddau ailgylchu uchaf yn y byd yma yng Nghymru, nod yr Eisteddfod ydy gwneud eu cyfraniad at warchod yr amgylchedd hefyd. Yng ngeiriau’r Prif Weithredwr, Elfed Roberts, gobeithio y bydd gwyliau eraill Cymru’n dilyn yr un trywydd â ni yn y dyfodol.
Technoleg realiti estynedig ar flaen y gad yn y Brifwyl Llion Carbis
C
ydnabyddir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni fel un gymharol chwyldroadol. Yn sicr, mae’r Eisteddfod agored, neu’r Eisteddfod heb furiau wedi bod yn destun trafod i sawl un sydd wedi ymweld â Bae Caerdydd dros y diwrnodau diwethaf. Ond, maes arall ymhle mae gŵyl fwyaf poblogaidd Cymru wedi profi chwyldro yw gydag esgyniad technoleg y Brifwyl. Am y tro gyntaf erioed mae technoleg realiti estynedig yn ganfyddadwy ar faes yr Eisteddfod, ac mae’r ap ‘AR y Maes’ yn cynnig modd amgen i Eisteddfodwyr i deithio o amgylch y Bae. Mae’r ap yn cyfuno technoleg realiti estynedig ac enwogion Cymru i gynnig profiad addysgiadol ac adloniannol. Fe ddisgrifiodd Lowri Johnston, a oedd yn aelod o’r tîm a chreodd yr ap, fel “ffenestr hud sy’n galluogi cynnwys i ddod yn fyw” wrth i Eisteddfodwyr ddefnyddio eu ffonau symudol. Fel rhan o’r ap, cynigir sawl taith wahanol, pob un ohonynt yn gwireddu swyddogaethau amrywiol. Mae un yn dathlu pen-blwydd Cyw, ac yn galluogi i blant hel anrhegion ar hyd y daith. Opsiwn arall, sy’n gwasanaethu chwaethau mwy aeddfed, yw sylwebaeth sêr Hansh megis DJ Bry, ac Esyllt Ethni-Jones sy’n rhoi trosolwg digrif o leoliadau ar y maes. Mae hyd yn oed yn bosib i lawr lwytho uchafbwyntiau dyddiol o’r ap, sy’n fodd hwylus o gadw cofnod o newyddion diweddara’r maes. Yn weledol, mae’r ap yn ymddangos yn broffesiynol ac yn drawiadol, yr unig beth mae
rhaid sicrhau yw eich bod yn berchen ar ffon gymharol newydd a mynediad i’r we, fel bod yr ap yn medru gweithredu yn ôl ei bwrpas. Yn ôl Lowri Johnston, yr awydd i adlonni ac i addysgu sydd wrth galon yr ap, ac mae modd i ddefnyddwyr “beth bynnag i chi moen allan o’r ap, gobeithio y byddwn yn gallu ei roi i chi”. Yn naturiol, gydag ymddangosiad technoleg newydd i’r brifwyl, mae’r ap wedi ennyn tipyn o gyffro ymysg Eisteddfodwyr, gydag un yn datgan bod ffurfiant yr ap yn golygu ein bod ni “yn y dyfodol”. Wrth ystyried trefniad Bae Caerdydd, mae’r maes ymledol ac agored yn debygol o weithio er budd ‘AR y Maes’, ond yr her sy’n wynebu’r ap – sydd wedi ennill clod yn y Brifddinas – yw petai byddai modd efelychu’r hygyrchedd a defnyddioldeb yr ap ar faes mwy traddodiadol yn Sir Conwy, y flwyddyn nesa. Er nad yw’r ap yn sicr o brofi’r un poblogrwydd yng Nghonwy, mae Lowri Johnston yn ffyddiog o ail-adrodd y llwyddiant y flwyddyn nesaf. “Dyna’r gobaith [parhau gyda’r ap y flwyddyn nesa], gewn ni weld. Wrth gwrs, mae gyda ni 4G fan hyn ym Mae Caerdydd. Felly, gewn ni weld sut all ffonau symudol ar faes Eisteddfod brysur iawn blwyddyn nesa. Ond, pwy a ŵyr? Arbrawf yw hi, gewn ni weld sut mae pethau yn mynd”. Heb os, mae ffurfio’r ap yn cadarnhau perthnasedd yr Eisteddfod yn yr oes gyfoes, un ymhle mae technoleg yn chwarae rôl flaenllaw. Yn aml, caiff y Cymry Cymraeg ei chydnabod o fod yn rhy draddodiadol, ond pa dystiolaeth sydd yn cynrychioli Eisteddfod fodern yn well na’ chofleidio defnydd thechnoleg realiti estynedig?
NEWYDDION Y MAES
‘‘
Rwy’n cydnabod fod ‘yna gamau mawrion dal i’w cyflawni’. Ond mae’n fuddugoliaeth arall i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol y Brifddinas.
mae’n garreg filltir i fyfyrwyr Prifysgol y brifddinas y prynhawn yma, wrth iddynt lansio’n swyddogol ‘Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd’. I ddathlu’r digwyddiad hanesyddol fydd yna lansiad ar faes y brifwyl ar stondin Prifysgol Caerdydd am 5:30yh, lle disgwylir i Gomisiynydd yr Iaith Meri Huws fod yn bresennol. Diben yr Undeb fydd i gynrychioli myfyrwyr sy’n Gymry Cymraeg yn y brifddinas boed yn rhugl, dysgwyr neu â diddordeb yn y diwylliant Cymraeg. Fydd gan yr Undeb ei chyfansoddiad a phwyllgor etholedig annibynnol, ond yn gweithredu o fewn yr Undeb Myfyrwyr presennol. Eisioes mae amryw o gymdeithasau at ddant y Cymry Cymraeg, yn eu plith y mae’r GymGym, Cymdeithas Iolo a Chymdeithas y Mynydd Bychan. Gweithredu fel Undeb a fydd yn gosod sylfaen i’r holl gymdeithasau eraill fydd UMCC, â’i nod ‘yw cydweithio gyda myfyrwyr a chymdeithasau Cymraeg, er mwyn sicrhau fod ystod eang o ddigwyddiadau a gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig i fyfyrwyr y Brifysgol.’ Yn ôl Osian Morgan, Llywydd UMCC , “Mae lansio UMCC yn swyddogol yn symbol o’r ffaith ein bod bellach yn barod i fynd ati o ddifrif i wethredu dros y Gymraeg o fewn Undeb a Phrifysgol caerdydd. Fydd UMCC yn gorff dylanwadol a holl bresennol o fewn yr Undeb a bydd y Gymraeg a’r siaradwyr yn gweld budd o’i herwydd am flynyddoedd i ddod.” Gyda chwta pedwar mis ers i’r Comisiynydd gyhoeddi ei safonau newydd sy’n galluogi myfyrwyr cyfathrebu’n swyddogol a’u prifysgo-
lion yn Gymraeg, roedd Meri Huws yn llongyfarch ac yn croesawu’r undeb newydd. Dywedodd y Comisisynydd wrth Gair Rhydd “Rydym yn hynod o falch fod undeb ar gyfer myfyrwyr Cymraeg wedi ei sefydlu ym Mhrifysgol Caerdydd, gan roi statws i’r iaith o fewn yr Undeb. Mae undebau myfyrwyr yn hynod bwysig o ran pwyso ar sefydliadau addysg uwch a sicrhau atebolr wydd, allai arwain at newid er gwell o fewn y sefydliadau. “Braf hefyd clywed mai eu bwriad yw gweithio gyda’r cymdeithasau Cymraeg sydd eisoes yn bodoli yn y brifysgol, gan dynnu pawb at ei gilydd i greu cymdeithas gref o Gymry Cymraeg a dysgwyr yn y brifddinas. “Wrth gwrs, mae safonau’r Gymraeg wedi dod i rym mewn prifysgolion a cholegau ledled Cymru ers y 1af o Ebrill, ac mae llywyddion yr undebau Cymraeg wedi chwarae rhan allweddol yn ein cynorthwyo ni i hyrwyddo’r hawliau newydd hyn. Hyderwn y bydd y gwaith da mae’r Llywyddion yn ei wneud yn hyrwyddo’r Gymraeg, yng Nghaerdydd a thu hwynt, yn parhau.”
‘‘
Cronfa Gyfle i bawb Gwenan Gravell
M
ae Urdd Gobaith Cymru wedi sefydlu ‘Cronfa Cyfle i Bawb’ sydd yn chwilio am noddwyr i gyfrannu £160 er mwyn i blant difreintiedig Cymru fynd ar eu gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd ar draws y wlad. Dywed Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: “Rydym yn ymwybodol bod 29% o blant Cymru yn byw mewn tlodi ond bach iawn o gyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw gael gwyliau haf neu brofiadau o wersylloedd yr Urdd.” Bydd y nawdd yn cefnogi plant a phobl ifanc rhwng 7-16 oed sydd o gefndiroedd difreintiedig. Yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae’r Urdd yn canfasio ar gyfer dod o hyd i unigolion a chwmnïau i gyfrannu at y gronfa. Y targed eleni yw sicrhau nawdd i 100 o blant a phobl ifanc Cymru yn dechrau o Haf 2019 ac erbyn 2022, sef canmlwyddiant yr Urdd. Y
gobaith yw bydd ganddyn nhw gannoedd o lefydd i gynnig i unigolion yng ngwersylloedd Caerdydd, Glan Llyn a Llangrannog am ddim. Un stori wnaeth ysbrydoli’r Urdd i greu’r gronfa oedd clywed hanes disgybl ysgol gynradd sydd o gefndir heriol. Ar ôl i’r disgybl wersylla gyda’r Urdd, fe ysgrifennodd ddarn o farddoniaeth yn sôn am fachlud yr haul, tawelwch meddwl a’r teimlad o gyfeillgarwch cafodd yn y gwersyll.
Gobaith yw bydd ganddyn nhw ganoedd o lefydd i gynnig i unigolion yng ngwersylloedd Caerdydd “Mae mynychu Gwersyll Haf yn un o’r profiadau mwyaf unigryw’r Urdd. Dyma pam rydym ni wedi bod yn chwilio am ddulliau arloesol i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle,” medd Sian Lewis.
Ond beth felly fydd y berthynas rhwng y cymdeithasau sydd eisioes yn bodoli â’r undeb newydd? Croesawu’r newid gwnaeth Nest Jenkins, Llywydd Y GymGym, y gymdeithas fwyaf boblogaidd o blith cymdeithasau Cymraeg eu hiaith. Dywedodd ‘Mae’r GymGym wedi bod yn ganolbwynt i gymdeithas Gymraeg Caerdydd ers blynyddoedd – a diolch amdano. Ond heb Undeb, mae c yf yngder i weithredoedd c y m deithas o’r fath. Gyda’r lawnsiad d d y d d Gwener – o’r diwedd, gallwn ni gydweithio yn ffurfiol ag Undeb sydd â’r un bwriad craidd â’r GymGym: rhoi llais i fyfyrwyr Cymraeg y ddinas.’ Fel Swyddog y Gymraeg yn y brifysgol, rwy’n cydnabod fod ‘yna gamau mawrion dal i’w cyflawni’. Ond mae’n fuddugoliaeth arall i fyfyrwyr Cymraeg Prifysgol y Brifddinas. Mae cael Undeb wedi ei neulltio i’r Cymry Cymraeg yn sicrhau fydd gan yr iaith lle cydradd o fewn peirianwaith Undeb y Brifysgol. Serch hynny, gyda Aberystwyth, Bangor ac yn ddiweddar Abertawe yn derbyn Swyddog
Cymraeg llawn amser, y mae’n hen bryd inni ddilyn ar eu holau.’ Ond sut mae’r myfyrwyr yn teimlo am y cynllun newydd? Canmoliaeth a gafwyd gan Meleri Williams, myfyriwraig Ysgol y Gymraeg a Newyddiaduraeth ‘Mae fy mlwyddyn gyntaf wedi bod yn un fythgofiadwy. Mae’r GymGym wedi bod yn ganolog i’m mhrofiad cymdeithasol eleni, ond teimlaf fydd yr UMCC yn cynrychioli’r gymuned Gymraeg yn ehangach ac fwy swyddogol, hynny yw nid cymuned cymdeithasol fel rhan o’r Gymgym yn unig.’ Er hynny, mae’r lansiad yn peri’r cwestiwn: pam bod Caerdydd ar ei hôl hi wrth sefydlu Undeb Myfyrwyr Cymraeg o gymharu â Phrifysgolion Aberystwyth a Bangor? Yn ôl Gwenllian Jones, myfyrwaig Adran y Gyfraith ‘Mae’n chwythig meddwl and yw eisioes yn bodoli. Serch hynny, rwy’n croeswau’r datblygaid hwn yn fawr ac yn falch ei fod yn digwydd yn ystod fy nghyfnod tra’n fyfyrwraig yng Nghaerdydd’. Dywedodd Mirain Llwyd, cyn Swyddog Gymraeg Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru a Chyn-lywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor ei bod yn bles iawn o weld y brifysgol yn dilyn cynsail Bangor ac Aberystwyth. Dywedodd ‘Mae’n newyddion gwych fod Caerdydd yn lansio ei hundeb myfyrwyr cymraeg ei hunain. Mae’n bryd i lais y myfyrwyr Cymraeg yng Nghaerdydd gael ei glywed a rwyf yn croesawu hyn fel cam enfawr ymlaen. Bydd hyn hefyd yn cryfhau pwer y myfyrwyr Cymraeg ar draws Cymru gyfan, sydd yn wych!’
‘‘
“O’r diwedd, gallwn ni gydweithio yn ffurfiol ag Undeb sydd â’r un bwriad craidd â’r GymGym: rhoi llais i fyfyrwyr Cymraeg y ddinas.’ Nest Jenkins - Llywydd Y Gym Gym
“Amser yn dynn iawn” i gyflwyno’r bleidlais i bobl 16 oed erdyn Etholiad Tomos Evans
‘‘
...yn ymwybodol fod “amser yn dynn iawn” i gyflwyno’r ddeddfwriaeth i alluogi pobl ifanc 16 oed i bleidleisio. Elin Jones Llywydd y Cynulliad
‘‘
Yn y llun: Logo UMCC (Tarddiad: UMCC)
Y
Y cyntaf o’i fath i Brifysgol y brifddinas
M
ae Llywydd y Cynulliad, Elin Jones, wedi cyfaddef fod y Llywodraeth yn ymwybodol fod “amser yn dynn iawn” i gyflwyno’r ddeddfwriaeth i alluogi pobl ifanc 16 oed i bleidleisio erbyn Etholiadau Cyffredinol Cymru 2021. Ond pwysleisiodd mai ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru dylai fod “y cyfle cyntaf i bobl ifanc 16 a 17 i bleidleisio”. Gwnaeth y sylwadau yn ystod panel gan y Comisiwn Etholiadol ar faes yr Eisteddfod i drafod os yw pobl ifanc 16 oed yn barod am y bleidlais. Cafodd y panel ei hysgogi gan argymhellion Adroddiad McAllister a oedd yn awgrymu cynyddu’r nifer o Aelodau Cynulliad i rhwng 80 a 90 a gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Yn ogystal, roedd Sally Holland, y Comisiynydd Plant, hefyd ar y panel a dywedodd hi fod y “cwricwlwm yn rhy llawn” ar y funud i gyflwyno gwleidyddiaeth fel ac ychwanegodd Ethan Williams, Is-Lywydd yr Urdd, wrth Llais y Maes fod angen “penderfynu i ba raddau ‘dan ni’n dysgu gwleidyddiaeth”. Ymhlith pryderon y panel, roedd
gofidion ynghylch anwybodaeth gwleidyddol yn fwy cyffredinol. Mewn cyfweliad â Llais y Maes yn dilyn y digwyddiad, dywedodd Elin Jones fod “e’n hala ofn” arni fod “tua hanner y boblogaeth yng Nghymru” yn meddwl mai Llywodraeth San Steffan sydd â chyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Iechyd yn y wlad. Creda mai un o’r prif resymau y tu ôl i hyn yw’r “system cysylltu a chyfryngau” yng Nghymru a bod angen “sicrhau fod y dimensiwn Cymreig yn cael lle priodol, digonol” ynddi. Gyda lansiad Senedd Ieuenctid Cymru eleni, dywedodd Elin Jones ei bod yn gobeithio y bydd y fenter newydd o gymorth i bobl ifanc “i feddwl am sut mae pobl ifanc yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau drwy broses ddemocrataidd”. Yn ôl Elin Jones, dydy ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth Cymru “ddim wedi gwreiddio’n ddigonol eto” ym mhobl Cymru ac mae angen gweithio “ar draws yr oedran” er mwyn gwella dealltwriaeth gwleidyddol wrth edrych ymlaen at yr ugain mlynedd nesaf o ddatganoli.
‘‘
...dydy ymwybyddiaeth am ddemocratiaeth Cymru “ddim wedi gwreiddio’n ddigonol eto”
‘‘
Swyddog y Gymraeg (UMPC)
Lansio Undeb Myfyrwyr Cymraeg
‘‘
Jacob Morris
5
Elin Jones - Llywydd y Cynulliad
6
SYLWADAU
sylwadau Dewch â Trump i’r ‘Steddfod!
Dyluniad: ‘Donald Trump yn ymweld â’r Orsedd’ gan Esyllt Lewis
Y
bod yn rhan ohonynt ers amser maith. Yn achos yr America, mae nhw’n ymladd am eu swyddi diwydiannol ac yn achos y Cymry, ymladd am ein hiaith yr ydym ni. Wrth gwrs, dwi ddim yn trio deud bod yr Eisteddfod, na’r bobl sy’n mynychu, yn ymdrochi’n yr un syniadau a Trump, na chwaith yn dweud bod amddiffyn iaith yn beth gwael o gwbl. Y syniad dwi’n ceisio’i gyflwyno ydy os ydych chi’n edrych digon manwl efo crib mân, fe allwch chi weld rhyw fath o debygrwydd...ond mae modd gwneud hynny efo unrhyw beth. Beth sydd angen i ni fel Cymry
...mae Trump wedi gwahardd mewnfudwyr, tynnu allan o’r cytundeb Paris ac wedi cloi plant mewn celloedd i enwi dim ond rhai o’r pethau erchyll mae o wedi neud... ganolbwyntio yw nid y pethau sy’n de-
byg rhyngddo ni a’r rhai fel Trump, ond canolbwyntio ar beth sy’n ein gwneud ni’n wahanol, ac y dylen ni fod yn falch iawn o hynny. Ag efallai ‘Steddfod yw un o’r enghreifftiau gorau sydd gennyn ni o sut yr ydym ni y Cymry ddim byd tebyg i Trump a’i fath. Yn y ‘Steddfod fe groesawn unrhyw ddysgwr, unrhyw ryw, lliw croen neu grefydd i mewn gyda’n breichiau lled agored. Gallwch weld plant yn cerdded o gwmpas heb wir ofni bygythiad o ynnau yn tanio, nag erioed wedi meddwl am boeni am ffasiwn beth. Mi allwch chi weld gwleidyddion yn eistedd lawr ac yn cael trafodaeth efo’r bobl, rhywbeth sy’n hollol bwysig i’n democratiaeth ni, a rhywbeth sy’n digwydd yn bur anaml yn America ar hyn o bryd. Felly dewch a Trump a’i fath draw i faes y Brifwyl ym Mae Caerdydd eleni. Nid er mwyn cael gweld sut mae Cymru’n cydffurfio efo’i syniadau hurt a gwrth gymdeithasol, ond i ddangos iddo sut mae gwlad blaengar â meddwl agored yn cynnal gŵyl hollol anhygoel
sy’n croesawu pawb a phob un.
Yn y ‘Steddfod fe groesawn unrhyw ddysgwr, unrhyw ryw, lliw croen neu grefydd... Yn y lluniau: Protestiadau yn Llundain yn ystod ymweliad y babi Trump i Brydain fis diwethaf. (Tarddiad: Elen Davies)
‘‘
Felly dewch a Trump a’i fath draw i faes y Brifwyl ym Mae Caerdydd eleni... i ddangos iddo sut mae gwlad blaengar a meddwl agored yn cynnal gwyl hollol anhygoel sy’n croesawu pawb a phob un.
‘‘
Harri Hughes
dy, mae’r ‘Steddfod yn ei hôl. Yr ŵyl flynyddol lle mae cyfle i bawb ail-wefru eu batrîs diwylliannol Cymreig ar gyfer y flwyddyn i ddod. Ond ydy hi’n bryd i ni gael un o ddynion enwocaf a mwyaf dadleuol y byd i’r Brifwyl? Ydy hi’n amser i gael tocyn parhaol yn y pafiliwn i’r dyn mawr ei hun, Donald Trump. Yn ystod ei amser fel Arlywydd mae Trump wedi gwahardd mewnfudwyr, tynnu allan o gytundeb Paris a wedi cloi plant mewn celloedd i enwi dim ond rhai o’r pethau erchyll mae o wedi neud, ond ai dod i’r Eisteddfod Genedlaethol fyddai’r peth fwyaf dadleuol allai dyn mwyaf pwerus y gorllewin ei wneud? Efallai ddim, ond mae achos i ni ymestyn gwahoddiad i uchafbwynt ein blwyddyn diwylliannol. Mae’n rhaid dweud fod rhywbeth am yr ŵyl y byddai Trump yn ei weld fel adlewyrchiad o be ddylai ei America ef fod. Meddyliwch am y peth, mae’n ddigwyddiad i bobl gwladgarol sy’n ceisio amddiffyn yr hyn sydd wedi
Tyrd i’r ‘Steddfod os ti isio, Fydd o’n hwyl a sbri dwi’n addo, Dim gynau i blant, Mond canu Cerdd Dant, A gwylio’r hen Jarman yn gigio. Math Emyr
SYLWADAU
7
YR ORSEDD
A oes... pwrpas i orsedd y beirdd?
Sara Dafydd
‘‘
Mae yna lawer o gwestiynau... ynglyn â gwir bwrpas ac arwyddocâd gorsedd y beirdd
‘‘
Ifan Prys
‘‘
Gorsedd Beirdd Ynys Prydain... yn barod i rwygo cymdeithas yn ddarnau yn eu pared trilliw...
A
m ganrifoedd mae’r Cymry wedi heidio o un pegwn o’r wlad i’r llall, y brechdanau yn y bag a’r wellies ym mŵt y car. Ond mae tipyn wedi newid ers dyddiau Iolo Morgannwg wrth gwrs, mae’n sicr nad oedd ef yn partïo ym Maes B tan yr oriau mân ac yna’n canu cerdd dant erbyn y prynhawn, er gwaetha’r hangofyr llethol. Ac yn bendant nad oedd yn strytan o gwmpas maes fwdlyd yn ei linen orau wrth siarad siop gyda hen gyfeillion coleg yr oedd yn “cofio’n net”. Fyddai’r gigs, yr yfed a’r dawnsio disgo yn gwbl ddieithr i Iolo druan- ond un peth fyddai’n falch o weld yw’r orsedd yn ei holl gogoniant. Mae yna lawer o gwestiynau wedi codi dros y blynyddoedd ynglŷn â gwir bwrpas ac arwyddocâd gorsedd y beirdd, gyda llawer yn ei gweld fel sioe ddibwrpas. A yw’r feirniadaeth hyn yn gyfle i foderneiddio’r orsedd er mwyn cynnwys bawb? Neu a ydy traddodiad yn draddodiad am reswm? Yn ôl y prifardd Tudur Dylan Jones: “Y perygl o newid yn ormodol ydy ein bod mewn perygl o golli’r awyrgylch arbennig sy’n cael ei greu yn ystod y seremonïau”. Y broblem amlwg imi yw fod prinder cynrychiolaeth ifanc ymhlith yr orsedd. Mae ambell i berson ifanc i’w weld ond maent yn fwy na thebyg wedi bod yn fuddugol yn un o brif gystadlaethau’r Urdd. Yn ôl y bardd ifanc Iestyn Tyne: “Efallai mai cynrychiolaeth eitha niche ydi o… Feri dosbarthcanolcyfryngicrea-
Y doniol:
D
yma ni. Unwaith eto. Yn fama. ‘Co ni off ponis. Here we go again ac yn y blaen. Ta waeth. Do, aeth blwyddyn arall heibio, blwyddyn o edrych ymlaen i rai, blwyddyn o gwyno i eraill am fod y Brifwyl yn cael ei chynnal flynyddoedd i ffwrdd o adref. Ond dyne ni, does ‘nem ennill efo rhai nagoes? Bethbynnag, o roi hynny i’r ochr, daeth cyfle unwaith eto i fwynhau cyfoethogrwydd ein hunaniaeth yn ei holl anterth, i ymdrochi yn ein diwylliant ac i feddwi’n chwil gachu. O ystyried hynny, criw sydd wedi bod yn ysu ers peth amser am bartêy lawr yn y DDINAS FAWR DDROOG ydi criw’r gwisg ffansi. A phwy ar wyneb y ddaear ydyn nhw ‘dechi’n ei ofyn? Wel wrthgwrs, ein beirdd, ein cerddorion, ein who you know’s i gyd, ein cyfryngis, ein hoelion wyth, ein pyst o fewn cymdeithas, ein caviar, ein Hen Lyfrge... Hynny yw, Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, a fydd eto eleni wedi gwisgo’n drwsiadus tu hwnt, yn barod i rwygo cymdeithas yn ddarnau yn eu parêd trilliw trwy’r maes di-ffîn, ac yn barod am un gangbang eisteddfodol enfawr arall. Ond diawch erioed, y mae’n rhaid gofyn, onid yw’r holl beth yn dechrau mynd yn ffars? Onid yw hi’n amser symud ymlaen gyda’r oes? Onid yw hi’n amser newid steil? Rhywbeth ychydig
mwy dashing efallai? Neu a oes pwrpas bellach i’r Orsedd yn gyfangwbwl? Wel, o ystyried eu cefndir, efallai ei bod hi wir yn amser cwestiynnu dyfodol yr seshheads hyn fel rhan o’n Prifwyl. Pam? Wel, fel y byddai’r sawl ohonoch yn yn ei osod fel disgrifiad i lun pre-drinks – ‘Cyn i bethau fynd yn fler’.
Rhywbeth ychydig mwy dashing efallai? Neu a oes pwrpas bellach i’r Orsedd yn gyfangwbwl? Gadewch inni fynd yn ôl i’r cychwyn, yn ôl i’r amser lle nad oedd llawer o faniau bwyd hipster yn bodoli. Roedd na rai o gwmpas wrthgwrs, ond roedd trafnidiaeth yn broblem bryd hynny. Doedd ffordd osgoi Rhaeadr heb ei hadeiladu eto, a’r A470 mor droellog ag erioed. Bethbynnag. 1792 oedd hi, a’r haul yn tywynnu’n braf ar diroedd gwyrddion Lloegr. Ar gyrion dinas Llundain, ar fryn nid nepell o’r dref, eisteddai llencyn tenau â sbliff yn ei geg, yn synfyfyrio’n ddiwyd ar yr prydferthwch di-ddiwedd o’i gwmpas. Yolo oedd ei enw, ac roedd wedi teithio hyd syrffed o Forgannwg bell. Tybiwn felly mai dyma’r rheswm fod pawb yn ei alw’n Yolo Morgannwg. Roedd Yolo wedi byw sawl moment yn ei oes, ond roedd hon yn foment go arbennig. Ar y pryd, ni fedr pethau fod yn llawer gwell. Roedd yr adar yn canu, yr awel yn gynnes, a’i draed yn teimlo fel dwy fricsen wlanog yn padlo mewn bath
Yn y llun: Y Fari Lwyd yn gwneud ymddangosiad yn Eisteddfod Caerdydd 2018 (Tarddiad: Aled Llywelyn Photography)
bod i’r orsedd megis newid y ffordd o
anrhydeddu a dewis Archdderwydd. Ac mi’r oedd yna un newid sylweddol yn mynd i fod eleni ym Mae Caerdydd. Ym Modedern cyhoeddodd Ashok Ahir, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fod trafodaethau ynglyn â chael yr orsedd a’r seremonïau ar lwyfan ar ddŵr Bae Caerdydd. Wrth gwrs, nad yw’r cynllun yma bellach yn mynd yn ei flaen ond mae’n amlwg fod angen newidiadau fel hyn er mwyn tynnu sylw at yr orsedd ac ei wneud yn rhywbeth fwy 21ain ganrif. Roedd Tudur Dylan Jones yn groesawgar tuag at y syniad o gael orsedd ar y dŵr: “Byddai’n sicr wedi bod yn waha-
nol! Ydy, mae traddodiad yn bwysig, ond mae modd hefyd i ni fod yn amrywio ac arbrofi o fewn y traddodid hwnnw.”. Ond wedi’r cyfan, er gwaetha’r beirniadaethau- ni fyddai’r un Eisteddfod yr un peth heb weld y wisgoedd amryliw na chlywed atsain y corn gwlad. Rhaid cydnabod does dim byd o’i fath yn y byd, pwysleisiai Tudur Dylan Jones: “Dyma brif anrhydedd Cymru, ac nid unrhyw anrhydedd y mae gwlad arall yn dewis ei roi”. Mae gorsedd y beirdd hefyd yn destun balchder i sawl unigolyn, ac maent wedi cael eu trwytho yn y traddodiad. Unigolion megis y diweddar Ray Gravell a oedd yn agored am ei edmygedd o’r sefydliad unigryw. Fe fyddai, yn ôl ei wraig Mari: “wedi rhoi cap Cymru er mwyn ennill cadair neu choron”. A oes angen i ni fabwysiadu’r agwedd yma? Efallai fod yna le i addysgu yn ogystal ag addasu, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu gwarchod y traddodiad hynafol. Wedi’r
o driog melys. ‘O!’ ochneidiodd Yolo, ‘Mae hyn mor ... mor ... mor ... dda!’. Ond does dim da yn parhau am byth, daeth ‘Steddfod Meifod hydnoed i ben. Ta waeth am hynny, roedd hi bellach yn oddeutu chwarter wedi pedwar y prynhawn, a Yolo bellach yn crynnu am ddôs ffres o greadigrwydd i’w arwain trwy brydferthwch y dydd. Yn sydyn, cofiodd am yr hyn a roddodd ym mhoced chwith ei anorac cyn gadael y tŷ dros wythnos yn ôl ac ar amrant, aeth ei ddwylo chwim fel ditectifs i chwilota am yr hyn oedd ei angen arno i gyrraedd y lefel nesaf O fewn munud a phymtheg eiliad, roedd matsien ffres yn cynhesu llwy dê reit nobl â bwysai’n ddel o ddwrn Yolo. Meddyliodd unwaith, ddwywaith, deirgwaith, cyn dweud wrtho’i hun – ‘pam lai’. Yr oedd hi wedi’r cwbl yn nos Sadwrn bach (Nos Fercher), a chyn pen dim, roedd Yolo’n boddi’n braf mewn pydew o opiwm parhaus, ac yn powlain chwerthin ar ei gefn fel hen wenci. Ar beth tybiwch chi? Wel ar y parti mawr a ymddangosodd o’i flaen. Parti gwyn a glas a gwyrdd, lle roedd corn, cleddyf a chwip reit ddandi yn rhan o’r miri. Ac wrth i’r eiliadau basio, cafodd rithweledigaeth ar ôl rhithweledigaeth ar ôl rhithweledigaeth. Ymunodd pobl â’r parti. Arfon Haines Davies a Margret Williams mewn cadachau llestri amryliw, dawnswyr ar draws y siop i gyd, spotlight yn chwyrlïo o le i le ynghyd â llond llaw o gyfryngis chwyslyd yn gwei-
ddi ‘Fi, fi, fi, fi, fi, fi!’. Ar y pryd, nid oedd ganddo syniad beth yn union oedd yn mynd ymlaen. Ond roedd un peth yn sicr - roedd Yolo yn mwynhau, ac yn credu’n gryf y dylid trosglwyddo’r mwynhad hwn i eraill. Heb ildio, penderfynodd y dylid cynnal parti gwisg ffansi o’r fath yn flynyddol, a’i fod am gadw stash enfawr o opiwm yn saff ar gyfer y sawl oedd yn mynychu’r parti dros y canrifoedd nesaf. Byth ers hynny, y mae’r stash wedi teithio o ‘Steddfod i ‘Steddfod dan ofal yr archdderwydd, sy’n sicrhau fod pob aelod yn derbyn eu siâr o’r cymun cyn pob prif seremoni. Feddylioch chi erioed pam eu bod nhw’n eistedd mor llonydd? Pobol barchus efo llwyau aur yn eu cegau medde chi? Wel, meddyliwch eto. Os oeddech chi’n meddwl bod yne bethau ofnadwy’n mynd ‘mlaen yn y maes carafannau gyda’r nos, mae’n werth ichi gymryd cipolwg tu ôl llwyfan y Pafiliwn cyn seremoni’r cadeirio. Does gan neb syniad hyd heddiw beth yn union sy’n mynd ymlaen, ond duwcs, ‘neni, ma’ angen ‘chydig o hwyl ‘does? Boed yr orsedd off eu pennau, yn hybu cam-ddefyddio sylweddau anghyfreithlon neu beidio, mae nhw’n parhau i fod yn rhan mawr o’n traddodiad, ac yn adlewyrchu’n diwylliant a’n hunaniaeth trwy wisgo’n debyg ar y diawl i’r... Ie. Rhaid derbyn erbyn hyn nad oes dim am newid, ac y bydd y gangbang Eisteddfodol enfawr yn parhau hyd diwedd oes. Felly hir oes i’r orsedd.
Mae hyn yn codi’r cwestiwn a ydy’r orsedd yn ymdrechi digon i estyn wahoddiad i bobl ifanc?
‘‘
Does gan neb syniad hyd heddiw beth yn union sy’n mynd ymlaen.
‘‘
Y difyr:
digolcymraeg. Oes yna ddigon o bobl ifanc yn cael eu urddo am waith yn y gymuned, gwaith elusennol - gwaith sy’n mynd o dan y radar ac nad ydi o’n cael ei anrhydeddu gan y steddfod ar y cyfan?”. Gallwn i feddwl am lawer o bobl ifanc fyddai’n haeddu gwisg las neu werdd am eu gwaith cymunedol ond a fydd gwynebau ifanc yn amharu ar naws traddodiadol yr orsedd? Mae’n sicr wrth gymharu maint torf gig y pafiliwn â’r seremoni gadeirio llynedd, mae gwir angen i’r orsedd apelio at y genhedlaeth iau, cyn i’r traddodiad gael ei anghofio’n llwyr. Mae hyn yn codi’r cwestiwn a ydy’r orsedd yn ymdrechi digon i estyn wahoddiad i bobl ifanc? Diddorol yw sylwi nad yw Iestyn Tyne yn aelod o’r orsedd er iddo gipio coron Eisteddfod yr Urdd yn 2016 ac felly’n llwyr haeddiannol o’i le: “Mi ges i wahoddiad ar ôl ennill yn yr Urdd yn 2016 ond mi fu’n rhaid i mi ohirio fy urddo am ‘mod i’n brysur iawn yn Eisteddfod Môn y llynedd. Ches i ddim llythyr eleni, felly dwi’n cymryd eu bod nhw wedi pwdu efo fi”. Pa obaith sydd gan yr orsedd i ddenu bobl ifanc gyda chyn lleied o ymdrech i’w cynnwys? Yn ogystal, y gwirionedd trist yw nad oes heddwch. Gyda chweryla rhyngwladol, gwleidyddion pwdr ac wrth gwrs Lloegr yn cyrraedd cwpan y byd eleni. Ond sut mae’r criw gwyrdd, glas a gwyn yn mynd i newid yr erchyllterau hyn? Mae un o ganeuon Gwilym yn canu cloch- “Ti mawr dy ddelwedd yn eistedd ar dy orsedd”. A oes yna unrhyw wirionedd i’r ddelwedd yma? Wrth gwrs, mae yna newidiadau wedi
‘‘
Lowri Evans
‘‘
Does dim dwy waith for yr Eisteddfod yn rhoi cyfle teg i ferched sy’n cystadlu, ond teimlaf y dylai hwy gael eu hysgogi i gyflawni eu hychelgais.
‘‘
Gwenan Gravell
Y
Braint Betsan yn chwyldroi’r Brifwyl
n dilyn 30 mlynedd dan arweinyddiaeth Elfed Roberts fel Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Betsan Moses wedi camu i’r adwy fel y Prif Weithredwraig newydd. Dywedodd Betsan bod ei swydd newydd yn ‘anrhydedd ac yn her’ am y rheswm bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn ‘rhan ganolog o’n treftadaeth.’ Gwelwn yma yr Eisteddfod yn rhoi’n ôl i’r fenyw o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin sydd wedi gweithio’n ddi-wyd dros y blynyddoedd fel Pennaeth Cyfathrebu Cyngor Celfyddydau Cymru. Er hynny, y mae’n codi’r cwestiwn a yw’r Eisteddfod Genedlaethol wedi rhoi pob chwarae teg i ferched erioed? Gwir yw’r ffaith bod menywod yn rhan o bwyllgor yr Eisteddfod a bod y niferoedd wedi cynyddu cryn dipyn dros y blynyddoedd sydd wedi derbyn croeso gan ffeministiaid ers peth amser. Er hynny, wrth ddadansoddi’n fanwl ar rolau’r merched hyn o fewn y pwyllgor, gallwn ddadlau nad yw popeth mor deg â hynny. Edrychwn ar un o swyddi mwyaf hybarch yr ŵyl – y Cadeirydd, sydd yn ddyn. Edrychwn ar swyddogion yr is-bwyllgor er enghraifft – dynion yw’r rhan fwyaf o gadeiryddion lle fydd y fenyw yn trigo mewn rolau llawer iselach eu statws gan eithrio ambell i Is-Gadeirydd ac Ysgrifennydd fenywaidd. Ydy, Heulwen Jones yw ysgrifennydd y pwyllgor Eisteddfod ond unwaith eto, a
oes modd rhoi rolau fwy dylanwadol i ferched yn 2018? Heb os, dw i’n wir werthfawrogol o’r holl waith y mae’r merched a dynion yn cwblhau o fewn pwyllgor yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn deall na fyddai’r Eisteddfod yr un mor llwyddiannus heb pob aelod o’r pwyllgor. Teimlo ydw i, y gall y rolau mwyaf dylanwadol a phwysig yn yr Eisteddfod gael presenoldeb merch a fyddai’r un mor lwyddiannus ac ymroddedig ag unrhyw ddyn. Pam nag all fwy o ferched lenwi’r rôl o Gadeirydd? Pam bod rhaid iddynt fod yn chwarae rôl, sydd yn sicr yn bwysig, ond sydd bron yn israddol i rolau’r dynion? Eleni, dim ond 13 merch sy’n cael eu hurddo gan Orsedd y Beirdd o gymharu â’r 27 o ddynion, does bosib mai ar hap a damwain yw’r ffaith hwn. Yn sicr, wrth gofio yr oedd cyfnod lle nad oedd merched yn ennill unrhyw gystadleuaeth nac yn cael eu hystyried yn ddigon pwysig a gwerthfawr i fod mewn rheolaeth, mae’r ffaith bod cymaint o ferched yn rhan o’r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn hon yn destun dathlu. Er hynny, yn draddodiadol fe gaiff y rolau mwyaf blaenllaw eu chwarae gan ddynion. Deallaf y dylai’r Orsedd urddo ein cyd-Gymry ar sail eu cyfraniad helaeth i’r diwylliant Cymraeg, onid oes yna nifer teilwng o fenywod yn deilwng o ymuno â’r Orsedd â dynion eleni? Ystyriwch Ffion Dafis, yn ac-
Yn y llun: Prif
Weithredwraig newydd yr
Eisteddfod Genedlaethol Betsan Moses (Tarddiad: Yr Eisteddfod Genedlaethol)
tores sydd wedi ymroi i’r Eisteddfod a’r diwylliant Cymraeg ar hyd ei hoes, yn ogystal â rhyddhau ei nofel gyntaf y llynedd. Er hynny, y mae hithau’n teimlo fod yr Eisteddfod yn ‘un o’r sefydliadau sy’n rhoi’r un statws i’r ddau ryw’ ac ei fod yn ‘esiampl i sefydliadau eraill Cymreig.’ Ond wrth edrych yn ddyfnach ar yr holl fanylion, efallai bod statws merched yn uwch na llawer o sefydliadau Cymreig eraill, ond ymddengys nad ydynt yr un mor uchel â dynion wrth ystyried bod y rolau mwyaf dylanwadol a blaenllaw yn cael eu chwarae gan ddynion. Does dim dwy waith fod yr Eisteddfod yn rhoi cyfle teg i ferched sy’n cystadlu, ond teimlaf y dylai hwy gael eu hysgogi y tu hwnt i’r llwyfan, gan gael eu hysbrydoli i gyflawni eu huchelgais. Hynny yw, dylid trosglwyddo’r egni
hyn i’r byd gwaith a thrwy hynny fydd gan fenywod yr hyder i herio trefn y gweithle a llwyddo ennill swyddi sy’n draddodiadol wedi eu llenwi gan ddynion. Dywed y Prifardd Gwion Hallam fod yr Eisteddfod yn ‘mynd i’r cyfeiriad iawn, ond yn symud yn boenus o araf.’ Medrir cydnabod hynny, gan nad oes amheuaeth bod hawliau a statws uchel i ferched o’i fath mewn sefydliad fel yr Eisteddfod, ond mae hefyd lle ar gyfer mwy. Drwy apwyntio Prif Weithredwr benywaidd, mae hyn yn gwreiddio sylfaen a chynsail ar gyfer cenedlaethau i ddod. Amser a ddengys felly i sefyllfa’r fenyw yn yr Eisteddfod, ond er gwaetha’r diffygion y mae’n sicr fod yr Eisteddfod yn un o’r sefydliadau blaenllaw sy’n dangos y ffordd i sefydliadau eraill Cymru.
‘‘
Eleni, dim ond 13 merch sy’n cael eu hurddo gan Orsedd y Beirddo gymharu a’r 27 o ddynion.
Cae neu Bae?
W
‘Steddfod y ddinas neu’r wlad
rth i ni ffarwelio â Geraint Llifor fel Archdderwydd yr Orsedd eleni, rydym yn paratoi i fynd i Sir Conwy i groesawu Myrddin ap Dafydd am y cyfnod 2019-2022. Ond mae yna frwydr dawel yn mynd ymlaen tu cefn i’r Pafiliwn sydd llawer mwy tyngedfennol ymysg ieuenctid Cymru sef... ‘Caerdydd neu Llanrwst?’ Mae Hanna Dobson, Ysgrifennydd
ddlon i’w cartrefi nhw! Heb os nag oni bai, bydd y ddwy Eisteddfod yn wahanol iawn o ran lleoliad a gosodiad y maes. Y disgwyliadau am Eisteddfod Llanrwst yw ei bod yn cadw’r maes traddodiadol , yn wahanol i’r un rydym yn gweld eleni felly mae llawer o Eisteddfodwyr yn canmol hyn fel rhywbeth i ddenu pobl i Lanrwst yn 2019. Felly gallwch chwythu’r dwst i
Yn y llun: Llythrennau mawr coch yr Eisteddfod. (Tarddiad: Paul Sandham, drwy Flickr)
Hanna yn cytuno bydd pobl yn fwy cyfarwydd gyda’r drefn wersylla sydd fel arfer wrth ymyl pabell Maes B. “Mae’n bwysig bod yr Eisteddfod yn trial pethau newydd, y gerddoriaeth sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd a tra bydd y miwsig yn dda bydd Maes B yn apelio’n unrhywle.” O ran barn trigolion Caerdydd, mae Manon Hâf yn gyffrous iawn i gael y Wŷl ar ei stepen drws. “Cefais fy nghodi i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd felly mae sawl ffrind gen i oherwydd hynny, ac rydyn ni’n cwrdd bob blwyddyn ar y maes.” Wrth drafod effaith y fformat newydd o’r maes, fe eglurodd “Dwi’n edrych ymlaen at weld adeiladau rwy’n gyfarwydd â yn cael eu trawsnewid i
Mae hyn yn codi’r cwestiwn a ydy’r orsedd yn ymdrechi digon i estyn gwahoddiad i bobl ifanc?
Pwyllgor Maes B ar gyfer Eisteddfod Sir Conwy 2019 a Manon Hâf, Eisteddfodwraig ffyddlon o Gaerdydd sydd yn mynychu setiau Maes B yn flynyddol, yn anghytuno gyda’r ddwy yn hollol ffy-
ffwrdd o’ch wellies blwyddyn nesaf wrth i ni ailymuno a’r cae (a mwd!) Felly a fydd Maes B Llanrwst yn apelio’n fwy nag un Caerdydd oherwydd sefyllfa gwersylla’r Bae? Roedd
mewn i faes yr Eisteddfod. Dwi’n credu bydd y fformat yma yn rhoi persbectif newydd i bobl a’u hannog i weld pethau efallai fydden nhw ddim yn ceisio ar faes traddodiadol”. Un o’r problemau mwyaf mae trefnwyr a rheolwyr Maes B yn delio â yw’r defnydd hanesyddol o alcohol ar y maes. Felly a oes angen codi’r oedran mynediad i Faes B o 16 i 18? Anghytun-
wyd Hanna gyda’r syniad. “Efallai mai gwell rheolaeth sydd angen yn hytrach na chodi oedran. Mae’n bwysig bod
Mae hyn yn codi’r cwestiwn a ydy’r orsedd yn ymdrechi digon i estyn wahoddiad i bobl ifanc? cymaint o bobl ifanc â sy’n bosib yn cael mwynhau cerddoriaeth Gymraeg, ac mae Maes B yn gyfle i rai o dan 18 wneud hynny.” Cytunodd Manon mai “cyfrifoldeb y rhieni yw i addysgu eu plant am ddefnydd cyfrifol o alcohol, nid eu gwahardd yn gyfan gwbl”. Felly pa mor bwysig yw Maes B i’r Eisteddfod? I rai, mae Maes B yn rhywbeth maent wedi edrych ymlaen at am flynyddoedd. Gwnaeth Hanna pwynt diddorol iawn,“Efallai na fyddai nifer fawr o bobl yn profi bwrlwm yr Eisteddfod oni bai am Maes B. Rhaid cofio bod cymaint mwy i’r Eisteddfod na chystadlu erbyn hyn!” Yng nghanol y cyffro â’r gerddoriaeth i gyd, mae’n rhwydd iawn i golli holl bwrpas yr wŷl a’i bod yn holl bwysig am ddyfodol y Gymraeg”. Ond o ran pa Eisteddfod bydd orau, mae’r ddwy yn parchu barn ei gilydd felly fel ganodd y Ffug yn 1989 ‘cawn ni siarad am Cymru, Lloegr a Llanrwst unwaith eto’!
‘‘
Does dim dwy waith for yr Eisteddfod yn rhoi cyfle teg i ferched sy’n cystadlu, ond teimlaf y dylai hwy gael eu hysgogi i gyflawni eu hychelgais.
‘‘
SYLWADAU
‘‘
8
cerddoriaeth
CERDDORIAETH
9
GIG Y PAFILIWN: Jaman ‘da Jarman!
Jacob Morris
‘‘
Rhwng yr holl ganu roedd y gynulleidfa’n dyst i smwdd mwfs yr hen foi wrth iddo chwifio’i freichiau lled y llwyfan a siglo o un pen y llwyfan i’r llall... – yn adddoli Messiah Y Sîn Roc Gymraeg.
D
aeth Gymry hen ac ifanc ynghyd nos Fawrth i Gig fawreddog y Pafiliwn, ac am foi sydd ar fin cyrraedd yr wythdeg y mae Geraint Jarman yn dal i wybod sut i godi’r to. Noswaith o gerddoriaeth amrywiol o Fand Pres Llareggub i reggae a roc, fu’n gig i’w chofio am Eisteddfodau i ddod. Do wir, unwaith yn rhagor tyrrodd ‘steddfodwyr dan do’r Pafiliwn, cefnlen dra gwahanol i’r arfer a hynny ar grandrwydd y llwyfan byd enwog. Bu ffefrynau mawr y sîn yn diddanu’r dorf tan hwyr â’r Llywydd wrth y llyw, Huw Stephens yn arwain y noson yn hwyliog. Er fu pawb ar eu eistedd doedd hynny’n ddim trafferth i’r ffans ffyddlon i fentro draw wrth ymyl y llwyfan a jeifio ger flaen y llwyfan. Plant y dosbarth canol Cymraeg yn ymgymryd â’r ddawns nodweddiadol – o shifftio’n lletchwith ac esgus
Dechreuodd y perfformiadau gydag atsain trwmpedi Band Pres Llareggub â pherfformiad gadarn o ‘Yma o Hyd’. eu bod yn gwybod y geiriau! Dechreuodd y perfformiadau gydag atsain trwmpedi Band Pres Llareggub â pherfformiad gadarn o ‘Yma o Hyd’. Fu capelwyr y gynulleidfa yn eu helfen hefyd gyda Lisa Jên â’i pherfformiad hithau o Gwm Rhondda yn llwyddo i drosi’r noson yn gymanfa ganu, ond y dorf braidd yn
wahannol i gwrdd fore Sul. Bellach mae’r band yn hen law ar berfformio yn y Brifwyl, gyda nhw eisoes wedi chwarae yn Gig y Pafiliwn, Llwyfan y Maes ac i’r to ifanc yn Maes B droeon dros y blynyddoedd. Eisteddfodwraig a oedd yno oedd Sara Dafydd ddywedodd ‘Wnes i gal amser gwirioneddol wych, a odd y band di taro’r nodyn iawn da fi! Braf oedd gweld sawl cenhedlaeth yn dod at eu gilydd i joio a dathlu’r steddfod yn y ddinas.’ Wedi twrw’r trwmpedi fe ddaeth y dyn ei hun - yr arwr anfarwol, Arglwydd y reggae a’r roc, brenin y brifddinas – Geraint Jarman i’r llwyfan a chan gofio ei fod yn 78 mlwydd oed, ac fel arfer fe gamodd i’r llwyfan ac fe aeth y dorf yn wyllt. I weddill y byd y tu hwnt i Gymru fyddai rhai’n cwestiynu agwedd y Cymry at fwynhau mynychu gigs dynion sydd yr un oed a’n dadcu’s, ond does dim gwadu fod rhywbeth cŵl. Gwedwch, ba ddatcu arall sy’n medru honni fod ffanbês ganddo sy’n ymestyn o’r arddegwyr hyd at y pensiynwyr sydd yn eu hoed a’u hamser? Does dim dadlau - Jarman yw Arglwydd Cerddoriaeth Gymraeg . A gyda’r llwyfan yn loyw â goleuadau fe ddaeth llu o ganeuon o’r hen a’r newydd, gyda nodau cychwynol ‘Rhywbeth bach yn poeni’ yn danfon gwefr o gyffro drwy’r dorf. Fu un o’i glasuron diweddarach ‘Hiraeth am Kylie’ hefyd yn plesio yn ogystal â’r hen dôn ‘Gwesty Cymru’ yn llonni’r dorf. Rhwng yr holl ganu roedd y gynulleidfa’n dyst i ‘smŵdd mŵfs’ yr hen foi wrth iddo chwifio’i freichiau lled y llwyfan a siglo o un
pen y llwyfan i’r llall. Roedd y criw ifanc a oedd yn drwch, a rhai yn fwced o chwys gan estyn eu dwylo ymflaen at Jarman – yn adddoli Messiah y Sîn Roc Gymraeg. Ond beth felly oedd barn y sawl oedd yno? Fe ddywedodd Meleri Williams: ‘Nosweth mor arbennig! Pan o’n i’n fach ges i ‘nghodi yn clywed y caneuon rownd y ty neu yn y car gyda Dad. Odd y caneuon yn rhan o fy mhlentyndod, a odd clywed alawon megis ‘Siglo ar y Siglen’ yn dwyn atgofion melys yn ôl. Noson i’w chofio gyda’m ffrindie.’ ‘Ffan girl arall oedd yn bloeddio ymysg y dorf oedd Luke Thomas, fe fynegodd: ‘Odd hi’n ymdebygu i Noson Lawen yn y rhan gyntaf gyda phawb ar eu heisted, ond erbyn yr ail hanner erbyn yr ail hanner ddechreuodd bethach dwymo. Hip a hwyl yng nghwmni ffrindie!’ Yn gyfeillion i Jarman ar y llwyfan
oedd Osian Williams a Mei Gwynedd a oedd wrthi’n strymio tannau’r gitars, megis dau grwt yn rhoi help llaw i’w hen wncwl am noswaith. Ond eto, roedd rhyw deimlad eu bod yn ddisgyblion i’r athro – yn amsugno dawn eu harwr ac yn dysgu o’r boi
Ond eto, roedd rhyw deimlad eu bod hwythau’n ddisgyblion i’r athro – yn amsugno dawn eu harwr ac yn dysgu o’r boi sy’n gwybod popeth sydd i’r Sîn Roc Gymraeg.
Yn y llun: Jarman yn jaman ar lwyfan Canolfan y Mileniwm. (Tarddiad: Aled Llewelyn)
sy’n gwybod popeth sydd i’r Sîn Roc Gymraeg. Gyda’r ffiniau’r Maes wedi dymchwel ac yn agored i’r byd, fydd y ‘Bourgeois’ Cymraeg yn cofio am rocio tan hwyr yng Nghanolfan y Mileniwm.
Yn y llun: Llwyfan Canolfan y Mileniwm wedi ei lliwio yn goch, gwyn a gwyrdd. (Tarddiad: Aled Llewelyn)
‘‘
10 CERDDORIAETH Yn y llun: Carwyn Jones (Tarddiad: British High Commission, Ottawa)
Aled Huw Russell
A
r wahân am gig dirgel yng Nghlwb Ifor Bach yn ddiweddar mae 17 mlynedd ers perfformiad swyddogol diwethaf y band. Bydd ei anthemau pop/house yn dychwelyd i Lwyfan y Maes yn ei cartref ysbrydol o Gaerdydd ar Nos Wener, Awst 10fed am 9.y.h. Wedi dilyn llwybr tebyg o Ysgol Maes Garmon yn yr Wyddgrug i Brifysgol Caerdydd, pwy well na i un o’n golygyddion Aled Huw Russell i siarad hefo Ian Cottrell, 1/6 o un o fandiau amlycaf sîn Gymraeg y 90au, Diffiniad.
Mae Caerdydd yn cwl, a mae’r maes sydd am fod yn agored i’r cyhoedd yn beth ecstra cwl i fod yn rhan o.
‘‘
...gan ein bod ni’n caru gwneud cerddoriaeth house gymaint, erbyn haf 1992 penderfynom ein bod ni angen vocalist benywaidd a oedd yn gallu bangio caneuon allan.
‘‘
Yn y llun: Carwyn Jones (Tarddiad: British High Commission, Ottawa)
Beth ydi dy rôl di o fewn Diffiniad? God, ma’ hwnna’n gwestiwn anodd. Yn y stiwdio pan oedda’ ni’n recordio, rôl fi oedd i ddod a’r caneuon at ei gilydd a ffeindio lot o’r breakbeats a samples. Oni’n neud lot o’r ochr cynhyrchu yn y stiwdio hefyd, dwi ddim yn chwarae offerynnau yn dda iawn o gwbl felly roeddwn i’n defnyddio fy mhrofiad i fel DJ, yn ogystal â chanu a gwneud ychydig bach o rapio. Sut daeth Diffiniad i fodolaeth? Roedd pedwar ohonom ni ym Maes Garmon hefo’n gilydd: Fi, Iwan, Iestyn a Geraint. Roedd y tri arall mewn band o’r enw Mae Fi Gyn (piss-take o sut roedd pobol o Sir y Fflint yn dweud mae gen i) ac ar ôl i’r band yna orffen ymunais a nhw i greu Diffiniad. Symudon ni gyd lawr i’r Brifysgol yng Nghaerdydd yn 1991 a gan ein bod ni’n caru gwneud cerddoriaeth house gymaint, erbyn haf 1992 penderfynom ein bod ni angen vocalist benywaidd a oedd yn gallu bangio caneuon allan. Nath Geraint ddod ar draws Bethan yn canu ar dop bwrdd mewn parti! Da ni byth yn meddwl am hwn ond oedd o’n eitha’ strange iddi hi i ymuno a’r ped-
war bloke yma o Mold a oedd genna hi lot i ddysgu ar ran ein hiwmor ni a’r ffordd roedd ni’n siarad. Ymunodd Aled Walters a ni yn 1996 pan ddechreuom ni wneud lot mwy ar ran offerynnau byw.
Be oedd catalydd y reunion? Steddfod yn y Bae? Wnaethon ni weld Eden yn Tafwyl a yn Eisteddfod y Fenni yn 2016 ac odda nhw’n amazing ac ar ôl hynny roedd y hadyn wedi’w blannu ac odda ni’n gwybod fod y ‘Steddfod am fod yn Gaerdydd yn 2018. Odda ni gyd am gyfnod hir yn byw yn Gaerdydd a da’ ni wastad wedi cael cynulleidfaoedd gwych yma. Mae Caerdydd yn cwl, a mae’r maes sydd am fod yn agored i’r cyhoedd yn beth ecstra cwl i fod yn rhan o. Unrhyw blaniau am gigiau pellach ar ôl yr Eisteddfod? Da’ ni ddim wedi trafod unrhyw beth ymhellach na’r ‘Steddfod, da ni wedi bod yn canolbwyntio ar hwn a dyna fo. Pwy a ŵyr… Watch this space! O le ddaeth fersiwn Yr Eira o Angen Ffrind? Rhoddodd Griff Lynch fi mewn cysylltiad gyda’i frawd Lewys (prif leisydd Yr Eira) a chwarae teg, gofynnodd i mi am ganiatâd i wneud fersiwn o Angen Ffrind. Doeddwn i byth yn meddwl bysa neb yn neud cyfyr o ein caneuon ni, yn rhannol gan nad oes bandiau hefo arddull dancey/pop fel Diffiniad o gwmpas dyddiau yma. Dwi’n meddwl fod y cyfyr yn brilliant, mae o bron fel can newydd. Er nes i glywed o am y tro cyntaf a meddwl oh my god di’ nhw heb ddefnyddio’r bridge, hwnna di’r best bit! Os ti’n mynd i wneud cyfyr ti unai yn ei gadw fo mor wreiddiol
Doeddwn i byth yn meddwl bysa neb yn neud cyfyr o ein caneuon ni, yn rhannol gan nad oes bandiau hefo arddull dancey/pop fel Diffiniad o gwmpas dyddiau yma.
â phosib, sy’n ddi bwynt, neu ti’n go to town arni! Fel gwnaethom ni hefo Calon, a oedd yn gan fach ddwy funud disgo o’r 70au i club banger! Oes am fod ymwelwyr arbennig ar y llwyfan i’ch set chi felly? Allai’m gwadu neu cadarnhau pethau fel’na yn anffodus! Wedi sôn ychydig bod ‘na ddim band tebyg i Diffiniad ar y funud, beth wyt ti’n feddwl o’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar y funud a sut bod o’n wahanol i’ch dyddiau chi? Mae’n anhygoel beth sydd wedi digwydd dyddiau yma trwy social media fel Soundcloud, Spotify, Apple Music, ti’n gallu bodoli yn y safle yno heb fod yn gorfforol, yn ogystal â bod yn fand sy’n chwarae yn fyw, dyna’r prif wahaniaeth. Roedd cyfnod ni jyst cyn y cyfnod Cool Cymru, lle penderfynodd rhaid bandiau stopio canu yn Gymraeg a chanu yn Saesneg, a oedd ar y pryd yn beth anferthol ond aeth y sin drwy ychydig bach o dip ar un cyfnod ond mae o wedi dod ‘nôl o fanna. Er bod cerddoriaeth electronig, does ‘na ddim stwff fel Diffiniad, dwi’m yn gwybod os ma’ hwnna’n neud ni’n sbesial neu be, ein bod ni’n gymysgiad od o bob-
ol. Odda ni o gefndir dancy, club kids mewn ffordd, ddim y teip pigo gitâr fynnu a chwarae mewn garej, a oedd o’n reit anodd i bobol derbyn hynny weithiau. Yn eich gig dirgel diweddar yng Nghlwb Ifor Bach oedd unrhyw ‘cobwebs’? Odda ni’n bell o fod yn berffaith ond back in the day odda ni prin yn ymarfer! Pwrpas y gig yn Clwb oedd chwythu’r cobwebs i ffwrdd, ond oedd o fwy i weld ymateb y gynulleidfa a odda ni’n hollol gobsmacked hefo’r ymateb. Y peth mwyaf crazy oedd pan ofynnais i’r gynulleidfa i roi eu dwylo fynnu os mai hwn oedd eu tro cyntaf yn gweld ni a aeth o leiaf hanner dwylo’r gynulleidfa fynnu! Ar ôl y gig oedda ni’n dweud wrth ein gilydd pwy di’r bobol yma a pam di nhw gyd yn gwybod y geiriau?! Yn olaf, wyt ti dal yn cofio pob gair o Hen Fyd Trist? Haha! Yndw, dwi yn, fysa ti’n synnu. Yn y gig yna yn Clwb roedd rili rhaid i ni drio i gadw pethau hefo’i gilydd, ma’ fi ac Iestyn dal yn ei chael hi’n anodd ei wneud heb chwerthin, ma’ na gymaint o lawenydd yn y gan yno.
‘‘
Y peth mwyaf crazy oedd pan ofynnais i’r gynulleidfa i roi eu dwylo fynnu os mai hwn oedd eu tro cyntaf yn gweld ni aeth o leiaf hanner dwylo’r gynulleidfa fynnu!
‘‘
Diffinio Diffiniad
Yn y llun: Carwyn Jones (Tarddiad: British High Commission, Ottawa)
GWLEIDYDDIAETH
gwleidyddiaeth
11
CYNGOR CAERDYDD
Cyngor Caerdydd yn gorfod paratoi am “y risg o No Deal” medd yr Arweinydd M
Tomos Evans
‘‘
Ychwanegodd fod yna “broblemau mawr yn mynd i’n wynebu ni fel dinas ac, yn wir, fel dinasoedd ledled y wlad” o ganlyniad i Brexit.
ae Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, Huw Thomas, wedi rhybuddio bod rhaid i Gyngor Dinas Gaerdydd baratoi at adael yr Undeb Ewropeaidd a’i fod yn “credu fod Brexit yn risg anferthol”. Mewn cyfweliad arbennig â Llais y Maes dywedodd fod “papur yn disgwyl i fi ar fy nesg” yn trafod goblygiadau gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Gwnaeth Cyngor Caerdydd “astudiaeth wreiddiol rhyw flwyddyn yn ôl” am effeithiau Brexit, yn ôl Huw Thomas ond gyda datblygiadau diweddar cred fod angen gwneud mwy. “’Dy’n ni’n gweld nawr y risg o ‘no deal’ ac mae’n rhaid inni baratoi ymhellach, felly, [am] beth fyddai’r goblygiadau os nad oes yna ddêl ym mis Mawrth y flwyddyn nesa”, meddai. Ychwanegodd fod yna “broblemau mawr yn mynd i’n wynebu ni fel dinas ac, yn wir, fel dinasoedd ledled y wlad” o ganlyniad i Brexit. Cyfaddedfodd Huw Thomas wrth Llais y Maes ei fod yn “poeni” am Brexit, gan fod 60% o ddinasyddion Caerdydd wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac 11,000 o ddinasyddion Caerdydd yn hanu o’r Undeb Ewropeaidd. Ar drothwy etholiad am arweiny-
ddiaeth Llafur Cymru, teimla Huw Thomas fod hyn “yn gyfle i ni edrych ar beth sydd wedi gweithio yn ystod yr ugain mlynedd o ddatganoli” a chynnig gweledigaeth “am yr ugain mlynedd nesa”. Vaughan Gething sy’n hawlio cefnogaeth Huw Thomas yn yr etholiad gan y byddai’n dod â “rhywbeth newydd i’r blaid”. Ond dywed arweinydd cyngor ieuengaf Cymru nad oes ganddo unrhyw ddyhead i arwain y blaid Lafur yng Nghymru. Yn hytrach mae Huw Thomas am ffocysu ar Gaerdydd, am ei bod yn ddinas “mor anhygoel” a bod prosiectau newydd gan y cyngor, megis gorsaf fysiau a marina newydd i’r Bae, yn mynd a’i sylw. Felly ydy sedd yn y Senedd yn ystyriaeth? “Yn sicr ddim ar hyn o bryd”, medd Huw Thomas. Ond, rhyw ddiwrnod? Amser a ddengys. Wrth drafod bwrlwm gwleidyddiaeth y Bae a’r brifddinas mae Huw Thomas hefyd yn dweud ei fod yn hapus iawn o weld bwrlwm a llwyddiant Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd eleni. Cred ei fod yn cael “effaith rhagorol” ar y ddinas a fod y ffaith fod yr Eisteddfod yn un heb bris mynediad yn golygu fod pobl o “gefndiroedd di-Gymraeg yn gweld y diwylliant Cymraeg”.
Yn y llun: Huw Thomas yn gael ei gyfweld gan Tomos o griw Llais y Maes. (Tarddiad: Gwenan Gravell)
‘‘
Guto Harri: Angen i newyddiaduraeth Cymru “esblygu ac aeddfedu” Tomos Evans
M
ewn cyfweliad â Llais y Maes, dywedodd Guto Harri bod angen “esblygu ac aeddfedu yn ein newyddiaduraeth a’n gwleidyddiaeth ni [fel Cymru]”. Mae e hefyd yn galw am newyddiaduraeth “mwy ymosodol” a safbwyntiau “mwy amrywiol”. Er ei fod yn cydnabod fod y BBC yn cynhyrchu “rhaglenni ardderchog”, dywedodd cyflwynydd ‘Y Byd yn ei Le’ a chyn-ohebydd y BBC, fod yna “or-ddibyniaeth” ar bersbectif y BBC
gan ddweud fod angen “mwy nag un persbectif ”. Dywedodd Guto Harri ei fod wedi dod i ddeall, o’i brofiad newyddiadurol, ei bod hi’n “anodd bod yn ddigon agos at y bobl...’ych chi’n eu cyfro heb fod yn rhy agos i ofni pechu nhw”. Wrth i’r cyfryngau ddechrau ddod i gynrychiolaeth mwy o grwpiau lleiafrifol, teimla Guto Harri mai’r bobl sydd yn colli allan erbyn hyn yw’r dynion dosbarth gweithiol, gwyn ac ei bod hi’n bwysig iawn eu bod yn cael
Yn y llun: Guto Harri. (Tarddiad: y Byd yn ei Le [ITV/S4C] drwy Trydar)
eu cofio. Derbyniodd gryn feirniadaeth ar gyfryngau cymdeithasol yn ystod ei gyfres ddiweddar Y Byd yn ei Le am ddiffyg cysondeb wrth herio a chyfweld â rhai gwleidyddion. Roedd rhai yn ei gyhuddo o fod yn rhy llym ar Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, er enghraifft tra’n methu herio’r Prif Weinidog, Theresa May, yn ddigonol. Dywedodd fod y cwestiynau a ofynnwyd yn ystod y gyfres yn rhai “caled a phriodol” ond ychwanega ei bod hi’n
anodd “dilyn i fyny a chroesholi’r atebion” oherwydd cyfyngiadau amser. Teimla Guto Harri ei bod hi’n bwysig iawn i’r genhedlaeth nesaf werthfawrogi pwysigrwydd newyddiaduraeth mewn oes o fake news. Ond i’r rheiny o genhedlaeth ifanc Cymru sy’n gobeithio dechrau ar yrfa yn y byd newyddiadurol, dyweda ei bod hi’n bwysig eu bod yn anelu am y top. Ei neges iddynt felly? “Mae’r cyfleoedd yna i chi...jyst chwiliwch amdanyn nhw a manteisiwch”.
12
GWYDDONIAETH
gwyddoniaeth Dr Hefin Jones o Brifysgol Caerdydd sy’n gipio’r fedal Wyddoniaeth R
Osian Wyn Morgan
‘‘
#scicomm has been using social media platforms to reach out to members of the public, and those traditionally less likely to work in STEM fields.
oedd enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg eleni yn wyneb cyfarwydd iawn i lawer o fyfyrwyr a staff Prifysgol Caerdydd. Ddydd Iau y 9fed o Awst mewn seremoni ym Mhafiliwn HSBC, gwobrwywyd y fedal i Dr Hefin Jones, uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd. Cyflwynwyd y fedal i Dr Jones, sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol am y 44fed tro yn olynol eleni, o ganlyniad i’w gyfraniad gydol oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ers ei benodi yn uwch-ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn y flwyddyn 2000, mae wedi cyfrannu’n helaeth at ddarpariaeth Cymraeg Ysgol y Biowyddorau, gan gynnwys mewn cyrsiau gradd megis Ecoleg, Sŵoleg, Bioleg a Microbioleg. Wrth siarad â Gair Rhydd, dywedodd Dr Jones “roedd derbyn y fedal hon yn anrhydedd fawr. O edrych ar restr enillwyr y gorffennol, gwyddonwyr a fu’n brwydro’n galed i sicrhau defnydd o’r Gymraeg mewn cyfnodau lle’r oedd tipyn llai o gydymdeimlad tuag at yr iaith, rwy’n teimlo’n wylaidd iawn.
Yn ôl yr Eisteddfod Genedlaethol, ‘bu ar flaen y gad’ yn ei ymdrechion i gynyddu darpariaeth Gymraeg Prifysgol Caerdydd, ac ef oedd yn gyfrifol
“The findings show a reduction in the spreading of cancer, and the rate of tumour growth through the new PEG nanotube treatment.”
am gynnig yr unig gyfleoedd fyfyrwyr meddygol y Brifysgol astudio trwy’r Gymraeg cyn dyfodiad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2011. Yn ogystal â chyfrannu at y Gymraeg ym myd gwyddoniaeth, mae Dr Jones, a ddaw o Bencader yn Sir Gaerfyrddin yn wreiddiol, wedi mwynhau gyrfa lwyddiannus fel gwyddonydd. Rhwng 1979 ac 1982 astudiodd Sŵoleg yng Ngholeg y Brenin yn Llundain, cyn cwblhau doethuriaeth yng Ngholeg Imperial Llundain. Ar ôl cwblhau ei ddoethuriaeth, treuliodd gyfnod ymchwil yn Wellesbourne, Swydd Warwick, cyn dychwelyd i Goleg Imperial Llundain yn 1988, lle cwblhaodd sawl cyfnod ymchwil cyn ymuno â Phrifysgol Caerdydd yn 2000. Fe’i gan-
molwyd gan yr Eisteddfod am ei waith ymchwil ar effeithiau newid hinsawdd ac ar fioamrywiaeth, yn benodol. O ganlyniad i’w lwyddiannau fel gwyddonydd, yn ddiweddar iawn, cafodd ei ethol yn Gymrawd er Anrhydedd i’r Gymdeithas Entomolegol Frenhinol. Gorffennodd drwy ddatgan “Os caf wneud un apêl, a hynny yw ar i fyfyrwyr gymryd mantais o’r hyn a gynigir, cofrestru ar y modiwlau, a thrwy hynny gynyddu’r galw am ychwaneg o gyfleoedd.” I ychwanegu at ei gyfraniad at wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, a gwyddoniaeth yn gyffredinol, mae Dr Jones yn enw blaenllaw ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, ac mae’n ffigwr allweddol yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Penodwyd Dr Jones yn Ddeon y Coleg ar ôl iddo gael ei sefydlu yn 2011. Yn ogystal, mae’n gadeirydd ar Fwrdd Academaidd y Coleg, ac yn aelod o’r Bwrdd Cyfarwyddwr. Ychwanegodd “mae dyfarnu Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg yn yr Eisteddfod yn pwysleisio bod y Gymraeg yn fodd bywiog, byw a chyfoes o gyfathrebu. Rhaid sicrhau bod y
Gymraeg yn cael ei chroesawu, yn hytrach na’i hamau, nid yn unig mewn trafodaethau hanesyddol a llenyddol, ond hefyd mewn trafodaethau ar y datblygiadau gwyddonol, technegol a meddygol diweddaraf. Mae’r rhod bellach yn dechrau troi yma ym Mhrifysgol Caerdydd gyda nifer o fodiwlau gwyddonol yn cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Estynna’r Gair Rhydd longyfarchiadau gwresog i Dr Jones ar ei lwyddiant, a diolchwn iddo ar ran myfyrwyr Caerdydd am ei gyfraniad gwerthfawr i ddarpariaeth Cymraeg Prifysgol
‘‘
DIWYLLIANT 13
diwylliant
Ffoaduriaid Cymraeg yng Nghaerdydd Gwenan Gravell
‘‘
I get involved with 3 of the 4 platforms avaliable through CSM, and next year want to try them all.
E
rs symud i Gaerdydd yn 2013 mae Matt Spry wedi cyflawni llawer yn ei amser byr yn y ddinas. Symudodd i Gymru am y tro cyntaf nôl yn y 90au i fynychu Prifysgol Caerdydd ac ers hynny mae’r tiwtor prifysgol wedi dysgu Cymraeg i safon uchel iawn. Symudodd yn ôl i Aberplym (Plymouth) ar ôl gorffen ei radd yn y brifysgol ond roedd wastad rhywbeth oedd yn ei dynnu nôl i Gymru. “Cafodd fy mamgu ei geni yng Nghastell-Nedd felly roedd wastad gen i ddiddordeb yn hanes Cymru, ei diwylliant, chwaraeon a cherddoriaeth. Cyn i mi symud yn ôl i Gymru, roedd nifer o drigolion Aberplym yn fy ngalw i’n ‘Welsh Matt.” Pan symudodd i Gaerdydd yn 2013, sylwodd bod proffil y Gymraeg wedi codi’n sylweddol. “Meddyliais i fy hun, ‘I wish I spoke Welsh,’ felly es i adre i chwilio ar-lein am gyrsiau ac ymrestrais ar gwrs Cymraeg i oedolion.” Cafodd ei diwtor Cymraeg cyntaf Annest Wheldon argraff ddofn arno ac fe yrrodd i ddysgu’r iaith yn rhugl ac i helpu hyrwyddo’r Gymraeg. “Cefais fy ysbrydoli gan hanes yr iaith wrth ddarllen am y bobl wnaeth frwydro dros ei hamddiffyn. Hebddyn nhw efallai fyddwn i ddim yma heddiw yn byw llawer o fy mywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.” Wynebodd Matt nifer o heriau yn ystod ei daith i ddysgu’r iaith. “I ddechrau, diffyg hyder i fynd â’r iaith tu allan i’r dosbarth a ffeindio cyfleoedd i’w
ddefnyddio. Dwi’n byw yn Waunadda felly does dim llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg yno.” Dechreuodd grŵp ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn Waunadda a Sblot, ardaloedd sydd ddim yn nodedig am eu Cymraeg. “Dwi wedi dechrau trefnu cyfarfodydd i drafod y syniad o gynnal Eisteddfod Wa u n adda/ Sblot fl-
wyddyn nesaf a fydd yn dathlu’r amrywiaeth sydd gynnon ni yn yr ardal.” “Heb os nac oni bai mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr!” Dioddefodd Matt iselder a rhyw 18 mis yn ôl fe aeth drwy gyfnod tywyll iawn. “Un peth wnaeth fy nghadw i fynd oedd dysgu Cymraeg. Gallwn anghofio am fy mhroblemau ac roedd cyfleoedd i fynd allan a chwrdd â phobl.”
Ers cael swydd gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd yn y brifysgol mae bywyd Matt wedi newid am y gorau. “Pan ddechreuais y swydd ces i fy atgoffa gan fy mos newydd beth ysgrifennais pan o’n i’n gwneud lefel myndeiad yn 2015; ‘yn y dyfodol hoffwn weithio fel tiwtor Cymraeg yn dysgu ffoaduriaid’ a dyma fi. Mewn llai na thair blynedd i ddysgu dwi wedi cael fy swydd ddelfrydol.”
Gweithiodd i Gyngor Ffoaduriaid Cymru y llynedd ble gynhaliodd wersi Cymraeg ar gyfer y staff a ffoaduriaid. Dyma pan ddechreuodd ei hangerdd i ddysgu’r Gymraeg i geiswyr lloches a ffoaduriaid. “Gall llawer iawn o’r ffoaduriaid siarad mwy nag un iaith yn barod felly dyw dysgu iaith arall ddim yn anarferol.” Esboniodd bod nifer o’r ffoaduriaid eisiau profi diwylliant a chymuned
Cymraeg. “Bydd yr iaith yn agor mwy o drysau iddyn nhw.” Yn barod mae un ffoadur o Eritrea wedi agor caffi yn Waunadda ac yn bwriadu cael arwyddion a bwydlenni dwyieithog gyda help Matt. Hyd yn hyn mae’r gŵr o Aberplym wedi helpu dros 45 o ffoaduriaid a cheiswyr lloches i ddysgu’r Gymraeg. Mae ganddo grŵp o 6-8 o ddysgwyr sydd yn dangos ymrwymiad at ddysgu’r iaith. “Rydym yn gobeithio bydd yr Eisteddfod yn sbarduno mwy ohonynt i ddechrau dysgu.” Eleni, mae Matt yn bwriadu dod i’r Eisteddfod yn y bae gyda’i ddisgyblion a bydd sawl un ohonynt yn ymweld a’r stondinau. “Dwi eisiau iddyn nhw dreulio amser jyst i grwydro’r maes er mwyn cael y profiad.” Trwy ddysgu’r Gymraeg i safon uchel, mae Matt wedi cyrraedd ffeinal cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. “Mae hyn wedi rhoi llawer o gyfleoedd newydd i mi megis ymddangos ar y radio a theledu.” Yn sgîl hyn, mae pobl wedi dechrau defnyddio’r Gymraeg gyda Matt pan maent yn ei weld ar y stryd, rhywbeth sydd yn ei wneud yn hapus iawn. “Dwi wrth fy modd fy mod i wedi cyrraedd y ffeinal ond nid fi yn unig a fyddai’n ennill taswn i’n ennill y gystadleuaeth ond hefyd y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n dysgu Cymraeg hefyd.” Mae Matt yn sicr yn ŵr teilwng i fod yn rhan o’r gystadleuaeth.
Yn y llun: Matt Spry (Tarddiad: Matt Spry)
‘‘
Dathlu’r Diwylliannau Elen Fflur
‘‘
Cynrychioli Caerdydd fodern mewn ffordd oedd y carnifal, gan dynnu sylw at wreiddiau trigolion y brifddinas.
M
Carnifal cynta’r ‘Steddfod
i oedd nos Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod yn ngo wahanol i’r arfer eleni gyda Bae Caerdydd wedi’i lenwi’n lliwgar gan Garnifal y Môr. Nid yn unig dathlu dechrau’r ŵyl oedd nod yr orymdaith, ond yn bwysicach oll adlewyrchu’r amryw o ddiwylliannau sy’n byw ac yn tarddu o’r brifddinas. Wedi’i threfnu gan yr Eisteddfod, Carnifal Tre-biwt a chymunedau Caerdydd, roedd yn ddigwyddiad unigryw yn hanes yr Eisteddfod. Dan arweiniad Carnifal Cymunedol Tre-biwt, cychwynnodd bwrlwm yr orymdaith wrth ymyl Canolfan y Mileniwm am 10:30 yh, cyn dechrau ei thaith o amgylch maes yr Eisteddfod. Roedd y cyfuniad o gerddoriaeth tempo uchel, dawnsio egnïol a gwisgoedd amryliw fel pe bai’r dorf wedi eu cludo i un o wledydd y Caribî am noswaith. Uchafbwynt yr orymdaith yn sicr oedd ei therfyn. Ar ochr y Senedd, wedi’i daflunio ar sgriniau dŵr enfawr
oedd ffilm greadigol gan Megan Broadmeadow, artist Cymreig â 10 mlynedd o brofiad yn cyflwyno gweithdai celf a pherfformiadau. Yn cydlynu’r cyfan yn ogystal, roedd cerddoriaeth gefndirol wedi’i chyfansoddi’n arbennig gan neb llai na’r cerddor adnabyddus o’r Super Furry Animals, Gruff Rhys. Lansiwyd un o’r caneuon sy’n rhan o’r ffilm ar ddydd Llun yr Eisteddfod gyda’r enw perthnasol ‘Bae, Bae, Bae’. Tiwn smwdd sy’n cyfleu’r bwrlwm o dan y don. Cynrychioli Caerdydd fodern mewn ffordd oedd y carnifal, gan dynnu sylw at wreiddiau trigolion y brifddinas. Mynegodd y digwyddiad gymeriad amlddiwylliannol y Bae a’r hanes sy’n perthyn iddo. Yn yr 1850au, oherwydd tyfiant allforion glo Caerdydd, ymgartrefodd docwyr a morwyr o bob cwr o’r byd yn nociau Bae Teigr. Rhai enwogion brodorol o’r ardal ydy’r gantores Dame Shirley Bassey a’r chwaraewr rygbi’r gynhrair Billy Boston. Gyda gwahoddiad agored ac am
ddim i aelodau’r cyhoedd, roedd y carnifal yn rhan o ddathliadau Y Lle Celf o ‘Flwyddyn y Môr’. Prosiect wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru er mwyn hyrwyddo arfordiroedd bendigedig Cymru. Yn wir, yn 2016 ymwelodd 25 miliwn o ymwelwyr undydd ag arfordir Cymru gan wario £897 miliwn yma. Gobaith y prosiect ydy denu mwy o ymwelwyr i brofi’r glannau yn y dyfodol. Ffigwr blaenllaw yng nghynlluniau’r Carnifal oedd Adeola Dewis, artist, perfformiwr a theoriwr diwylliannol sy’n wreiddiol o Drinidad yn y Caribî. Dywed am y carnifal: “Credaf bod y carnifal yn fynegiand o greadigredd. Mae’n ymgais greadigol, chynhwysol a’n gyfle gwych i Granifal Tre-biwt gefnogi’r Eisteddfdo ac i’r Eisteddfod gefnogi’r gymuned.” Mae hi hefyd yn un o gydlynwyr Carnifal Tre-biwt sydd bellach y ei bumed flwyddyn ar ôl saib o ugain mlynedd. Gwledd i’r llygaid oedd carnifal cynta’r ‘Steddfod ac yng ngeiriau
Ashok Ahir, cadeirydd pwyllgor gwaith Eisteddfod Caerdydd, mi roedd yn adlewyrchu’r ffaith ei bod yn “ŵyl wahanol” eleni. Dathliad o’r diwylliannau sy’n perthyn i’r Bae oedd Carnifal y Môr ac mae’n siŵr ei bod yn un o’r camau cyntaf i ledaenu atyniad yr Eisteddfod tu hwnt i’w chynulleidfa draddodiadol.
Yn y llun: Carnifal Biwt penwythnos diwethaf (Tarddiad: Aled Llewelyn)
‘‘
14
BYWYD Y MAES
bywyd y maes Mas ar y Maes... o'r diwedd! Jacob Morris
‘‘
Mae'r ymgyrch wedi denu cefnogaeth sylweddol gan rai o wleidyddion mwyaf adnabyddus Cymru.
G
yda Chaerdydd yn prysur ddatblygu yn ddinas fwy Ryddfrydol a goddefgar y mae partneriaeth newydd rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Stonewall Cymru yn ymgyrch sy’n ceisio magu agwedd gynhwysol i’r gymuned LHDT. Diben ymgyrch ‘Mas ar y Maes’ yw dathlu cyfraniad y gymuned hoyw, deurhywiol a thraws i’r diwylliant Cymraeg, a hynny drwy gyfrwng amryw o ddigwyddiadau hyd a lled maes y brifwyl. Daw’r cynllun i’r amlwg wedi cryn feirniadaeth ar y diffyg cydnabyddiaeth a roddwyd mewn eisteddfodau a fu i gyfraniad y gymuned hoyw i’r diwylliant Cymraeg. Lansiwyd y bartneriaeth ychydig fisoedd nôl a hynny’n union ddeng mlynedd ar hugain i’r diwrnod ers cyflwyno Adran 28, rhan o ddeddf a oedd yn gwahardd unrhyw sôn am faterion LHDT mewn awdurdodau lleol ac ysgolion. Cawsom sgwrs gyda Andrew White sydd ynghlwm â'r cynllun, fe ddywedodd ‘30 mlynedd yn ôl dechreuais i ar y daith o ddysgu’r Gymraeg wedi Eisteddfod Casnewydd, ond ro ni’n teimlo fod rhywbeth ar goll, hynny yw yr elfennau eraill o’m hunaniaith. Ni’n gobeithio mynd â hyn ymlaen y flwyddyn nesaf i Steddfod Llanrwst gan alw ymgyrch yn ‘ALlan-rwst.’ Mae’r ymgyrch wedi denu cefnogaeth sylweddol gan rai o wleidyddion mwyaf adanabyddus y genedl gan gynnwys Adam Price, AC Dinefwr a Dwyrain Caerfyrddin. Fe ddywedodd
wrth Gair Rhydd mai ‘Un o nodau Mas ar y Maes yw cefnogi pobl ifanc hoyw i fod yn hyderus yn eu hunaniaith deuol, fel Cymry Cymraeg hoyw, heb yr hollt efallai yn draddodiadol y mae rhai wedi teimlo sydd rhwng y ddau. Rwy’n gobeithio y bydd mwy o Gymry hoyw ifanc yn teimlo y gallen nhw byw bywyd hapus, cyflawn fel pobol hoyw, mas, agored –nid yn unig ar y Maes yn ystod Steddfod, ond ym mhob man yng Nghymru drwy gydol y flwyddyn’. Ymhellach mynegodd fod angen chwalu’r feddylfryd bresennol sydd yn erbyn pobl hoyw Cymraeg eu hiaith os ydym wir o ddifri o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn canol y ganrif. Ond sut mae’r to ifanc wedi ymateb i’r ymgyrch? Heb os, mae yna ymdeimald groesawgar ymysg pobl ifanc yn ôl Ilan Jones, myfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd a oedd ‘wrth ei fodd’ pan glywodd y newyddion. Yn eisteddfodwr brwd ddywedodd ei fod ‘yn falch y bydd y fenter yn rhoi hwb a chefnogaeth i unioglion sy’n rhan o’r gymdeithas LHDT yng Nghymru. Hyderaf y bydd yn dangos fod prifddinas Cymru a’r Eisteddfod yn croesawu pawb yn deg ac yn hafal, beth bynnag eu cefndir a’u rhywioldeb’. Bu hefyd ymateb cadarnhaol gan drigolion ifanc y brifddinas, fe ddywedodd Erwan Sion Hughes, brordor o Gaerdydd ei fod ‘mor hapus i weld yr Eisteddfod yn lansio’r cynllun’. Ymhellach fe alwodd y dylid ymestyn yr ymgyrch ymhellach er lles ‘normalei-
ddio rhai elfenau o’r gymuned. Beth am gyflwyno elfennau fel Drag hefyd?’ Galw i asio agweddau o hunaniaith wnaeth y digrifwr Stifyn Parri sy’n aelod o’r pwyllgor ac yn gyfrifol dros agwedd adloniant yr wythnos. Mewn cyfweliad gyda Gair Rhydd, mynnodd fod angen normaleiddio’r syniad y gall rhywun fod yn Gymro balch ac yn hoyw. Ychwanegodd ‘bod pobl weithiau yn cadw eu rhywioldeb nhw a’i hiaith yn bethau ar wahan a dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig bod pawb yn gymysg oll ynghyd’. Ar ddechrau’r wythnos fe lwyfanodd cynhyrchiad ‘Steddfod Stifyn’. Bu’r sioe tafod yn y boch yn cynnwys ‘Gorsedd Y Gays’ lle'r oedd llu o wisgoedd amryliw gyda’r Archdderwydd yn gofyn am ‘Howyon’ yn hytrach nag am ‘Heddwch’. Ond oes bwriad i weld parhad y cynllun yn Eisteddfodau’r dyfodol? Yn ôl Stifyn Parri oes, dywed ‘Dwi watsad wedi creu adloniant cynhwysol ac felly pam lai cael sioeau o’r math ar lwyfan y pafiliwn bob blwyddyn’. ‘Hyrwyddo a dathlu’ oedd ei brif neges ac i ‘agor ein breichiau a’n calonau i fod yn gynhwysol’. Er i’r mwyafrif helaeth o Gymry canu clod i’r ymgyrch fu rhai yn hynod feirniadol dros wefannau cymdeithasol. Ysgifenodd Margaret Bruce ar dudalen Facebook Yr Eisteddfod ‘Rhag eich cywilydd! Darllenwch eich beibl!’, gwaetha’r modd fe amddiffynodd yr Eisteddfod yr ymgyrch gan fynnu mai
‘Gŵyl gynhwysol, groesawgar ac yn ŵyl i bawb yw’r Eisteddfod. Rydym yn falch iawn o groesawu Mas ar y Maes i’r Eisteddfod ac yn gobeithio mai dyma’r flwyddyn gyntaf o bartneriaieth fydd yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol’. A hithau’n Faes Eisteddfod ddifuriau y mae hynny’n drosiad i’r agwedd agored a chynhwysol sydd gan y brifwyl eleni. Prawf felly yw ymgyrch ‘Mas ar y Maes’ o’r Cymry Cymraeg yn addasu ymhellach i’r Gymru gyfoes, ac mae Eisteddfod Caerdydd yn cychwyn ar gynllun fydd yn ffynnu mewn Eisteddfodau’r dyfodol.
Yn y llun: Dathliadau Mas ar y Maes llwyddiannus yr Eisteddfod eleni (Tarddiad: Aled Llewelyn)
‘‘
Steil y ‘Steddfod gyda Huw wrth y llyw! Meleri Williams
‘‘
Beth yn y byd ydw i am wisgo i'r 'Steddfod eleni.
I
’r rheiny oyn ein plith sydd heb feistroli sgiliau cynghannedd digonol i ennill y gadair neu’r goron cweit eto, mae gwobr cyffelyb o fewn gafael pob un ohonom – Sash Huw Fash! Gyda miloedd o bobl yn tyrru i’r Bae, mae’n siwr fod y cwestiwn, ‘beth yn y byd ydw i am wisgo i’r ‘Steddfod ‘leni?’ yn fwrn ar feddyliau’r mwyafrif ohonom. Gyda llygaid craff Huw Fash a’i sash yn crwydro, ry’n ni i gyd yn dymuno edrych ar ein gorau! Yn ôl Ceidwad y Cwpwrdd Dillad, “ychydig o ymdrech” sydd angen yn Eisteddfod Caerdydd a’r Fro 2018 er mwyn creu argraff. Beth am ystyried cyfnewid pâr o jeans am drwser neu got fawr am siaced ysgafn? Ferched, mae sgertiau midi a jumpsuits ymhobman ac yn ddigon ymarferol. Fechgyn, newidiwch y crys-t am grys neu ychwanegwch siaced – dyma gyngor y guru ffasiwn! Dewch â bag digon o faint sy’n
gweddu i’r dillad i gario cot law a’r ymbarél argyfwng, a chofiwch y sbectol haul - Pwy a ŵyr beth fydd ein tynged o ran y tywydd! Gyda’r Bae Di-gae fel maes eleni, gallwn ddweud ‘wela’i chi wap’ wrth y wellies ond bydd esgidiau ymarferol, ffasiynol, ar restr y beirniad. Heb anghofio’r linen… mae’n rhaid cyfaddef, beth yw ‘Steddfod heb ychydig o linen a chunky beads ymysg y menywod hŷn? Ond efallai mai eleni yw’r flwyddyn i awgrymu newid bach gyda chwaeth y Bae yn chwythu awel newydd ar hyd yr Eisteddfod. Ac os am gael eich urddo i orsedd enillwyr Sash Huw Fash, cofiwch am y lliw! Ymysg y miloedd, bydd angen rhywbeth â digon o liw i lywio llygaid Huw! Felly, ewch amdani bobl, mae’r sash yn aros amdanoch! Meddyliwch, ystyriwch, ac efallai mai chi fydd y nesaf i gael eich anrhydeddu ar faes Eisteddfod 2018. Pob lwc!
Yn y llun: Gwisg traddodiadol Cymreig dal i weld ar faes yr Eisteddfod yn 2018. (Tarddiad: Aled Llewelyn)
‘‘
chwaraeon
CHWARAEON
15
@gairrhyddsport | #GRSport sport@gairrhydd.com gairrhydd.com/category/sport
Menywod Cymru ar drothwy camp hanesyddol
Llion Carbis
W
rth feddwl am bêl-droed yng Nghymru, yr enwau cyntaf sy’n adlamu i’r cof, yw Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ashley Williams. Er bod yr enwogion yma wedi gweithio’n ddiwrthdro i godi statws pêl-droed ein gwlad ledled y byd, Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding sydd ar drothwy cyflawni camp hanesyddol. Yn druenus, ac er gwaethaf ymdrechion diflino sawl garfan, nid yw Cymru wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd ers 1958. Boed hynny y ciccosb dadleuol yn erbyn yr Alban yn 1978, methiant Paul Bodin o’r smotyn yn erbyn Rwmania yn 1993, neu’n fwy diweddar gôl James McClean i gipio buddugoliaeth i Weriniaeth yr Iwerddon yn 2017, mae rhwystr di-dor wedi amharu ar allu’r dynion i wireddu breuddwyd sawl cenedl. Bellach, mae ysbryd 58’ wedi’i atgyfodi, a’r menywod sy’n meddu ar y cyfle i greu hanes arwyddocaol, ac i ddiweddu’r aros am gynrychiolaeth Gymreig yng Nghwpan y Byd. Hyd yn hyn, dydy tîm cenedlaethol y menywod erioed wedi llwyddo i gyrraedd Cwpan y Byd, ond mae yna obaith heintus mai eleni fydd y flwyddyn dyngedfennol i’r garfan. Ar hyn o bryd, mae’r menywod yn preswylio ar ben grŵp 1 yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd yn Ffrainc, ac mae tynged y garfan yn holl ddibynnol ar y gêm olaf yn erbyn yr hen elyn, Lloegr, ar ddiwedd mis Awst. Heb amheuaeth, mae Jayne Ludlow wedi adfywhau’r tîm mewn modd digynsail, a Chymru sy’n meddu ar un o’r amddiffynfeydd gorau yn y byd. Yn wir, Cymru a’r Iseldiroedd yw’r unig wledydd sydd heb ildio gôl yn y gemau rhagbrofol yn Ewrop, sy’n adlewyrchol
Yn y llun: Yn y llun: Swyddog y Wasg i dîm pêl Droed Merched Cymru Owain Harries, Hyfforddwr tîm pêl droed Cymru Jane Ludlow a’r band Adwaith yn Caffi Maes B. (Tarddiad: Llion Carbis).
o nerth amddiffynnol y tîm. Ymhellach, mae Cymru wedi arddangos annhosturi yn erbyn ei wrthwynebwyr, gyda phedwar allan o bum buddugoliaeth wedi’i hennill gan sgôr o un gôl i ddim. Cafodd y tocynnau ar gyfer y gêm hollbwysig yn erbyn Lloegr yn Rodney Parade ei werthu allan o fewn 24 awr, sy’n dystiolaeth o ddiddordeb gweithredol a chynyddol ym mhêldroed Menywod. Ymhellach, bydd y dorf o 7,850 yn stadiwm Casnewydd yn gyfanswm fwy na’r 7,024 o gefnogwyr oedd wedi gwylio tair gem gartref ddiwethaf y tîm, yn erbyn Rwsia, Bosnia-Herzegovina, a Kazakstan. Credaf mai dyma’r dangosydd mwyaf perthn-
asol o’r esgyniad a’r datblygiad aruthrol mai pêl-droed menywod wedi profi yng Nghymru. Atgyfnerthwyd swyddog y cyfryngau tîm Merched Cymru, Owain Harries, arwyddocâd y gêm sydd ar gyrraedd, gan clodforio ymdrechion Jayne Ludlow a’i thîm. “Mae’r Gymdeithas yn hynod falch fydd cyhoeddiad carfan tîm y merched yn yr Eisteddfod Genedlaethol, o flaen un o gemau mwyaf yn hanes y tîm cyn belled. Mae Jayne Ludlow a’i thîm ar y brig o greu hanes, fe all fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yng Nghasnewydd ar Awst 31ain sicrhau lle Cymru yng Nghwpan y byd Menywod FIFA yn Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Mae’r tîm wedi codi sylw ar bêldroed Merched ar draws Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’r ysbryd sydd yn amlwg yn y tîm wedi ysbrydoli merched ifanc ar draws y wlad i chwarae pêl-droed. Mae ymdrechion y tîm wedi sicrhau dyfodol disglair i bêl-droed Merched yng Nghymru ac mae pawb yn gobeithio fe all Sophie Ingle, Jess Fishlock, Natasha Harding a gweddill y merched mynd cam ymhellach mis nesaf.” Mae haf bythgofiadwy 2016 wedi’i gofnodi’n ddiymwad yn hanes ein gwlad, nawr, mae’r menywod yn ysgwyddo cyfle i ffurfio cymyn tebyg, ac i ysgrifennu pennawd euraidd newydd yn hanes pêl-droed ein gwlad.
Yr Eisteddfod yn cymeradwyo Geraint Thomas Llion Carbis
Y
n dilyn ei lwyddiant yn ennill y Tour de France, cafodd Geraint Thomas ei gymeradwyo o flaen dorf sylweddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Eleni, fe ddaeth Geraint Thomas y Cymro gyntaf erioed i ennill y gystadleuaeth, ac fe ddaeth cynulleidfa helaeth i ddathlu llwyddiannau’r gŵr o’r Eglwys Newydd. Mae’r seiclwr wedi ennill clod ledled Cymru yn dilyn ei orchest yn Ffrainc, ac yn ôl Laura McAllister, camp hynod o arwyddocaol ydyw i’r wlad. “Mae ennill y Tour de France yn ddigwyddiad unigryw, arbennig, ac arwyddocaol. Rhaid cofio mae dyma’r tro cyntaf erioed
i Gymro (nid Cymraes wrth gwrs, fe enillodd Nicole Cook y fersiwn Merched – a’r Giro hefyd) i ennill y Ras. Rhaid cofio hefyd, dim ond degawd yn ôl, roedd yn anodd credu fod rhywun o Brydain yn ennill! Dyma un o’r ras galetaf yn y byd, ac un o’r campau mwyaf yn hanes chwaraeon Cymru ac mae Geraint yn haeddu’r weniaith i gyd.” Cafodd lwyddiant Geraint Thomas ei ddathlu ar hyd a lled y maes, ac mae yna sawl stondin sy’n gwerthu crysau t a nwyddau i gofleidio ei gyrhaeddiad yn Ffrainc. Roedd yna sawl Eisteddfodwr yn gwisgo melyn ar y maes fel modd o longyfarch a dathlu llwyddiant Thomas.
‘‘
Mae ennill y Tour De France yn digwyddiad unigryw, arbennig, ac yn arrwyddocaol.
‘‘
Yn y llun: Murlun o Geraint Thomas tu allan i Maes B (Tarddiad: Aled Llewelyn)