10
TAF-OD
Canllaw caffis Caerdydd Nel Richards Golygydd Taf-od
N
ewydd i’r ddinas? Ddim yn gwybod le i fynd i gyfarfod ffrindiau ar ôl darlithoedd, i fynd am goffi pan ry’ chi’n hungover, neu am baned ar fore oer hydrefol? Dyma ganllaw am gaffis hen a newydd, edgy a cool, bwyd a choffi da yng Nghaerdydd. Arcêd yw un o’r lleoliadau gorau yn y ddinas i ddod o hyd i siopau coffi annibynnol a chyfforddus. Coffee Barker (@coffeebarker) yw un sy’n arbenigo mewn coffi. Er bod hon yn eithaf drud, mae’r awyrgylch yn glyd ac yn gynnes, felly perffaith ar gyfer dêt neu amser i ddal lan gyda ffrind ar ôl cyfnod prysur. Wedi’i leoli yn Arcêd y Castell, lle sy’n llawn siopau annibynnol, ceir digon o gyfleoedd i grwydro o gwmpas â takeaway coffee yn eich llaw. Caffi da sy’n cynnwys llawer opsiynau fegan a llysieuol yw Eartha (@earthastore) ar City Road. Gyda thipi yn yr ardd, a’r lle llond planhigion (sydd modd eu prynu), ceir amrywiaeth o fwydydd a diodydd ffres, gan weithio gyda chynhyrchwyr, tyfwyr, a gwneuthurwyr lleol. Caffi perffaith ar gyfer gwneud bach o waith neu ddarllen yw Uncommon Ground (@_uncommonground) yn yr Arcêd Frenhinol. Gydag atmosffer ymlaciedig, a hamddenol, mae’r siop goffi hon yn gynnes, y staff yn gyfeillgar; ac yn gwerthu’r coffi gorau! Deli bach Cymraeg ar Heol yr Eglwys Newydd yw Cegin Bodlon, (@ ceginbodlon), sy’n berffaith ar gyfer cymdeithasu dros brunch ar Fore Sadwrn. Gyda’r staff yn siarad Cymraeg, ceir awyrgylch cymunedol, lle mae pawb yn adnabod ei gilydd yno. Yn debyg, mae Caffi Jams (@caffijam), ym Mae Caerdydd, sydd hefyd yn gwasanaethu’n ddwyieithog. Os ydych chi’n Coffee Connoisseur, Hardlines (@hardlinescoffee) yw’r lle i chi. O greu coffi ei hunain, i redeg cafe retro yn Nhreganna, sy’n teimlo fel ry’ chi’n camu’n ôl i’r 70au. Gwerthir llawer o’u coffi mewn caffis ar draws Prydain, sy’n gwneud y gwasanaeth yn fwy proffesiynol. Wedi’i leoli ym Marc Bute, The Secret Garden Cafe (@secretgardencf ) yw un o leoliadau mwyaf heddychlon a chudd y ddinas. Wrth eistedd ar un o’i meinciau tu allan, dyma’r lle gorau i fynd ar ddiwrnod braf wrth fynd am dro yn y parc. Dyma gaffi sydd hefyd yn gwerthu coffi Hardlines, ac mae opsiynau bwyd ffres ar gael yma hefyd. Gan taw Cathays yw cartref mwyafrif o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd, ceir llawer o gaffis fforddiadwy a chyfforddus yma. The Early Bird (@ theearlybird_uk) ar Heol Woodville yw ffefryn llawer o fyfyrwyr sy’n byw yn gyfagos. Yn y caffi bach yma, gellir dod o hyd i’w brunch bendigedig, eu coffi’s cynnes a diodydd at ddant pawb. Dyma le perffaith i fynd ar ôl darlithoedd! Yn yr un modd, ar Cathays Terrace, ceir Metchy’s Café (@ metchyscafe_). Dyma gaffi rhesymol lle mae’n bosib cael brecwast mawr, a chinio sy’n fwy! Gydag amrywiaeth ar y fwydlen, dyma gaffi sy’n ddeniadol i bawb. Ond gyda’r nifereroedd o fwytai yn cynyddu, mae rhywbeth at ddant pawb yma, yng Nghaerdydd.
CHWARAEON
Bale yn dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr Prif sgoriwr Cymru yn ymuno ar fenthyg am flwyddyn o Real Madrid
Aled Biston Golygydd Taf-od
A
r ôl wythnosau o ddisgwyl, cyhoeddwyd bod Gareth Bale yn ailymuno â’i gyn-glwb Tottenham Hotspur ar fenthyg. Bydd Bale yn ymuno â thîm José Mourinho am y tymor 2020/21 gan obeithio i helpu Spurs gynnal sialens am y teitl. Bydd Bale yn gwisgo crys rhif 9 ac yn siŵr o fod yn chwarae fel ymosodwr gyda Harry Kane, neu ar yr asgell yn lle Lucas Moura. Ond beth mae arwyddo i Spurs yn golygu i Uwch Gynghrair Lloegr ac i Gymru? Yn sicr mae yna gyffro wrth weld Bale yn dychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr. Heb amau, gadawodd Bale yn 2013 wedi iddo greu argraff a sicrhau ei hun fel un o chwaraewyr gorau yn hanes y gynghrair. O 2007 i 2013 sgoriodd Bale 42 gôl mewn 146 gêm, ystadegyn sydd yn fwy campus gan ystyried roedd Bale yn chwarae yn amddiffyn Spurs am bedair blynedd. Wedi iddo symud i’r asgell chwith roedd yn allweddol i ymosod Spurs, gan sgorio a chreu
Dychwelyd i Spurs: Bydd Gareth Bale gallu ailadrodd ei berforrmiadau i Spurs tymor yma? Tarddiad: kimjihihi (drwy flickr) llawer o goliau. Cafodd dymor i’w gofio yn 2012/13 wrth iddo ennill PFA Players’ Player of the Year, PFA Young Player of the Year, FWA Footballer of the Year a Premier League Player of the Season. Tymor campus tu hwnt. Wedi saith mlynedd o lwyddiant yn Sbaen, mae Bale nawr yn dychwelyd i Spurs ar fenthyg ar ôl blwyddyn neu ddwy gythryblus gyda Real Madrid o dan Zinedine Zidane, lle nad
oedd Bale yn chwarae llawer. Roedd hyn yn effeithio ar ei berfformiadau dros Gymru gan nad oedd Bale yn cael munudau i Real Madrid. Wrth iddo beidio chwarae yn gyson, nid oedd ffitrwydd Bale i safon chwarae 90 munud llawn heb unrhyw broblemau, a doedd ei berfformiadau yn y crys coch ddim cystal â blynyddoedd cynt. Ond nawr bod Bale wedi dychwelyd i Spurs, mae’n siŵr bydden yn
ei weld yn chwarae bob wythnos, ac eithrio anafiadau. Bydd pawb yn ysu i weld yr un Bale eleni a welsom o 2011 i 2013, chwaraewr oedd llawn sgil, dawn, a chyffro. Ond yn siŵr bydd e’n cymryd amser i Bale addasu i chwarae yn gyson eto, mewn cynghrair lawer mwy ffisegol a chyflymach na La Liga, felly ni ddylem ei farnu’n rhy llym ar ôl cwpl o gemau. Gyda Bale (gobeithio) yn chwarae’n gyson i Spurs tymor yma, cyfnerth bydd i dîm cenedlaethol Cymru wrth fynd i’r Ewros blwyddyn nesaf. Mae Bale wedi bod yn ganolog i lwyddiant Cymru ers iddo serennu i Spurs, gan chwarae rôl bwysig yn Ewro 2016 a helpu Cymru i gyrraedd yr Ewros blwyddyn nesaf. Bydd ei bresenoldeb yn y tîm yn parhau i fod yn allweddol hyd at ei ymddeoliad, a bydd cael Bale sydd yn chwarae’n gyson yn cychwyn gemau yn yr Ewros fel cael un o chwaraewyr gorau’r byd ar ein ochr. Bydd pawb yn syllu’n awchus ar gemau Spurs i weld pryd fydd Bale yn cychwyn ei gêm gyntaf, a bydd y Wal Goch yn gwylio’n ofalus dros y tymor i ddod, mae hynny’n sicr.
Ailagor Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol AberystAgorwyd y neuadd wedi misoedd o ddisgwyl
Nel Richards Golygydd Taf-od
C
artref newydd sbon i nifer o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth ar ôl cau am saith mlynedd yw neuadd Pantycelyn. Ar ôl buddsoddiad o £16.5m, gan gynnwys £5m o’r Llywodraeth Gymreig, mae yna le i 200 o fyfyrwyr i aros. Yn ychwanegol i’r ystafelloedd gwely a cheginau, ceir ardaloedd tawel i astudio, cyfleusterau cyfrifiadurol, ystafelloedd cyfarfod a 4 ystafell gyffredin, i gyd o dan un to. “Cynnal traddodiad o Gymreictod” Dyma eiriau Llio Heledd, sy’n fyfyrwraig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth esbonio effaith ailagor y neuadd hon ar yr Iaith Gymraeg. Dywed hefyd; “Yn sgil yr agoriad, y gobaith yw y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o Gymry sy’n dewis byw drwy’r Gymraeg.” Ers agor am y tro cyntaf yn 1951, ceir gymuned glos Gymraeg yma ers y dechrau wrth i’r fflatiau fod drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd fod yn gartref i Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), a’r holl gymdeithasau Gymraeg ei hiaith. Dyma ardal lle gall myfyrwyr gymdeithasu, gweithio, a mwynhau drwy gyfrwng y Gymraeg. Yn 2013, roedd rhaid cau’r neuaddau, gyda’r bwriad o adeiladu neuadd breswyl Gymraeg arall yn Fferm Penglais. Er hyn, cafwyd llawer o anghydfod ymysg myfyrwyr wrth iddynt deimlo fel bod y Gymraeg yn cael ei fychanu. Yn sgil hyn, protestiodd ac ymprydiodd nifer o fyfyrwyr, a phobl eraill am fisoedd. Wedi hyn, penderfynwyd newid y
Newydd sbon: Dyma edrychiad newydd Neuadd Pantycelyn. Tarddiad: Morgan Lewis cynllun yn 2014, a chytuno i barhau add; “Wrth i Bantycelyn ailagor yr wrth gael y gyntaf, ail a’r drydedd i adnewyddu hen neuadd Pantyce- ydym yn uno UMCA ac mae UMCA flwyddyn i gyd ym Mhantycelyn, y lyn. Dechreuodd yr adeiladu yn yn adennill rhan o’i hunaniaeth. bydd ein cymdeithas yn dod yn fwy 2017, a thair blynedd yn ddiwed- Llynedd roedd aelodau UMCA wedi clos.” “Mae agoriad Pantycelyn hefyd darach, mae’r neuaddau nawr yn rhannu, rhai o’r flwyddyn gyntaf yn yn dangos parodrwydd y Brifysgol i agored i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf Fferm Penglais, rhai ym Mhenbryn wrando ar lais myfyrwyr Cymraeg ym mis Medi, 2020. “Pantycelyn yw a’r gweddill lawr yn y dre. gan hefyd ddangos ei pharodrwydd calon cymuned y myfyrwyr CymByddai digwyddiadau a chyfar- i gefnogi’r iaith a’r diwylliant. Mae raeg”. Wrth lunio pennod newydd fodydd UMCA wedyn ni yn cael hyn yn mynd i berswadio mwy o fyyn Aberystwyth, dyma beth oedd eu gwasgaru ar draws Aber. Gyda fyrwyr i sefyll yng Nghymru i astugan Morgan Lewis, Llywydd Undeb Phantycelyn yn ailagor bydd pob dio. Ac wrth i niferoedd myfyrwyr Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth peth dan un to felly bydd cartref Cymraeg cynyddu, bydd yr iaith a’r (UMCA) i ddweud am ailagor y neu- i’r iaith Gymraeg unwaith eto. Ac diwylliant yn mynd o nerth i nerth.”