Issue 1155: Freshers Issue 2020

Page 8

8

taf od

Barn y Bobol

Wedi i nifer o siroedd Cymru fynd mewn i gyfnod clo lleol gyda Caerdydd i ddilyn yn fuan gyda cyfnod o chwech mis o’n flaenau, Taf-od sydd yn gofyn a fydd Cymru a Phrydain yn mynd i gyfnod clo cenedlaethol arall eleni?

Daniel O’Callaghan

Myfyriwr trydedd flwyddyn, Cymraeg a Cherdd Gyda’r gaeaf yn agosáu gan greu amgylchedd delfrydol i’r coronafeirws, dwi’n credu bod cyfnod clo arall yn anochel. Wedi dweud hynny, annhebygol iawn y bydd y cyfnod clo nesaf yn unfath â’r un a gawsom yn y gwanwyn. Ni fydd yr economi- ar sail Cymru a Phrydain - yn gallu ymdopi gyda’r un ergyd eto. Felly, y ffordd ymlaen yw dilyn canllawiau’r cyfnodau clo lleol (RCT ayb.), ond ar raddfa genedlaethol. Mae achosion ardaloedd a siroedd yn newid yn rhy aml i droi at gyfnodau clo lleol o hyd.

Nansi Eccott

Myfyrwraig flwyddyn gyntaf, Cymraeg a’r Gyfraith Mae’n angenrheidiol, yn fy marn i, fod llywodraethau’r wlad yn cyflwyno mesurau llymach na’r rhai sydd eisoes mewn lle er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledaenu. Credaf mai cyfyngiadau lleol yw’r ffordd ymlaen ac ni allwn fforddio rhoi cyfyngiadau symud gwbl genedlaethol mewn grym oherwydd effeithiau ar yr economi ac iechyd meddwl trigolion Cymru a’r DU. Rhaid ceisio sicrhau bod y gwasanaeth profion coronafeirws yn rhedeg mor effeithiol â phosib cyn troi at ‘lockdown’ cenedlaethol fel y gobaith olaf.

Siwan Mason

Myfyrwraig ail flwyddyn Cymraeg a Newyddiaduraeth O weld effaith andwyol y coronafeirws dros y misoedd diwethaf ar yr economi ac yn gymdeithasol, byddai cael ail gyfnod clo yng Nghymru a gweddill y DU dros fisoedd y gaeaf yn sialens heriol, yn enwedig wrth ystyried bod tymor y ffliw yn agosáu, ac ein bod bellach yn wynebu tirwasgiad. Yn sicr ni fydd swyn y Nadolig yr un mor hudol y flwyddyn hon, a bydd y geiriau “social distancing” a “self-isolation” yn rhan o’n hiaith bob dydd am sbelan eto.

Yr unig gyhoeddiad myfyrwyr wythnosol trwy gyfrwng y Gymraeg. Sefydlwyd: 2003 Am fwy o gynnwys, ewch i gairrhydd.com/tafod

Eich hadran taf-od Aled Biston Annell Dyfri Catrin Lewis Nel Richards Alaw Fflur Jones tafod@gairrhydd.com

NEWYDDION

Arlwy Cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd

Gyda blwyddyn academaidd arall ar droed, dyma gyfle i chi bori drwy arlwy cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd Annell Dyfri

Golygydd Taf-od

G

yda blwyddyn academaidd arall ar droed, dyma gyfle i chi bori drwy arlwy cyfrwng Cymraeg Prifysgol Caerdydd. Er bod newidiadau wedi digwydd i bob cymdeithas yn sgil y coronafeirws, maent oll yn parhau i weithio’n galed er mwyn sicrhau bod yr ethos Gymreig a Chymraeg yn parhau yn y brif-ddinas a bod myfyrwyr newydd yn teimlo’n gartrefol yn ein plith. Canolbwynt cymdeithasu cyfrwng Cymraeg y brif-ddinas yw’r Gymdeithas Gymraeg neu’r ‘Gym Gym’ fel mae’r myfyrwyr yn ei galw. Martha Owen yw’r Llywydd am y flwyddyn academaidd i ddod a dyma yw ei gweledigaeth ar gyfer y gymdeithas eleni. ‘Mae’r GymGym yn edrych ymlaen i groesawu aelodau newydd a’n haelodau presennol i Gaerdydd flwyddyn yma. Yn amlwg, bydd ein digwyddiadau yn gorfod newid ychydig ond rydym yn ceisio sicrhau fod digon o gyfleoedd i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd gymdeithasu, boed hynny wyneb yn wyneb, neu yn rhithiol.’ Gallwch ddilyn bwrlwm GymGym Caerdydd wrth ymuno â’r grŵp Facebook YGymGym. Yn ogystal â’r ochr gymdeithasol, mae’r Gym Gym yn cynnwys sawl tîm

chwaraeon gwahanol. Nedw Clwyd yw capten y tîm pêl-droed, Owain ap Myrddin yw capten y tîm rygbi a Dionne Morris yw capten y tîm pêl-rwyd eleni. Mae croeso mawr i unrhyw un ymuno â’r timau a gobeithio y bydd modd i Gaerdydd sicrhau buddugoliaeth unwaith eto yn adran chwaraeon yr Eisteddfod Ryng-golegol fis Mawrth. Dyma le mae modd i fyfyrwyr greu cynnwys cyfrwng Cymraeg, boed yn olygu i Taf-od, Gair Rhydd, cynhyrchu a chyflwyno fideos ar CUTV neu greu bodlediad neu sioe radio ar Xpress Radio sef gorsaf radio’r brifysgol. Sara Dylan yw pennaeth cynnwys Cymraeg Xpress radio. Wrth iddi gychwyn ei hail flwyddyn yn y brifysgol, nododd, ‘Yn sicr, ‘dwi’n edrych ymlaen yn awchus at y flwyddyn sydd i ddod, er wrth gwrs fydd yr amgylchiadau ychydig yn wahanol i’r arfer. I’r rheiny sy’n penderfynu dilyn gradd mewn meddygaeth, Clwb y Mynydd Bychan yw’r gymdeithas i chi. Clwb sy’n cefnogi astudio meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Llywydd y clwb am y flwyddyn academaidd i ddod ydy Megan Evans. Nododd Megan mai ‘Cymdeithas sydd yn ceisio annog y defnydd o’r iaith Gymraeg o fewn y byd meddygol’ yw Clwb y Mynydd Bychan. Ychwanegodd bod y clwb yn ‘uno myfyrywyr Cymraeg

Cymraeg yn y brifygol: Mae yna nifer o gyfleuoedd i glasfyfyrwyr eleni. Tarddiad: Colin Smith (drwy Geograph) meddygol mewn amryw o weithgareddau academaidd a chymdeithasol’. Os ydych am ymuno â’r criw, ymunwch â grŵp Facebook ‘Clwb y Mynydd Bychan’. Gydag Aelwyd y Waun Ddyfal yn cyfrannu ac yn llwyddo’n flynyddol yn yr Eisteddfod, mae croeso mawr i’r criw nesaf o fyfyrwyr ymuno. Cadeirydd newydd yr aelwyd eleni yw Elen Lois

Jones. Nododd ‘Gan fod taw wedi bod ar y canu ers sbel - dim Eisteddfod yr Urdd na’r Genedlaethol eleni - rydym ni fel Aelwyd y Waun Ddyfal yn edrych ymlaen i roi’r ffidil yn y to ar ganu rhithiol, a phan yn saff fod gyda’n gilydd, aelodau hen a newydd i ganu, llefaru ac ymlwybro draw i’r Pyb Clyb wythnosol!’. Ymunwch â grŵp Côr Aelwyd y Waun Ddyfal ar Facebook’ a Twitter.

DIWYLLIANT

Gwaith yn cychwyn i amddiffyn wal Tryweryn

Wedi i’r wal gael ei fandaleiddio sawl gwaith dros y blynyddoedd mae gwaith wedi cychwyn i’w hadfer a’i hamddiffyn Catrin Lewis Golygydd Taf-od

E

rs i’r awdur a newyddiadurwr Meic Stephens baentio’r enwog eiriau ar ochr fwthyn yn y 60au, mae’r geiriau Cofiwch Dryweryn wedi dod yn symbol o wladgarwch a Chymreictod i sawl un. Nid anghyffredin yw gweld y geiriau yn ystod gorymdaith dros annibyniaeth i Gymru neu ychwaith wedi eu paentio ar waliau amrywiol ar draws y wlad. Fodd bynnag, mae’r wal hefyd wedi bod yn destun fandaliaeth dros y blynyddoedd. Mae’r wal, sydd wedi ei lleoli yn Llanrhystud, yn gofeb i Gapel Celyn sef pentref ger y Bala a foddwyd er mwyn creu cronfa ddŵr i drigolion Lerpwl yn 1965. Ym mis Chwefror 2019, cafodd y gair Elvis ei baentio dros y slogan gwreiddiol. Cafodd y wal ei hadfer o fewn 24 awr yn dilyn sawl un yn amlygu eu teimladau dros y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol. Ddeufis yn ddiweddarach paentiwyd y llythrennau AGARI ar y wal ac wedi iddi gael ei hadfer unwaith eto, chwalwyd rhan o’r wal. Bwriadol oedd y fanda-

liaeth hon mwy na thebyg ond aeth criw o bobl ati i sicrhau bod y wal yn cael ei hailadeiladu’r un diwrnod. Wedi’r fandaliaeth daeth y slogan yn ddelwedd fwy amlwg ar draws y genedl. Mae bellach modd dod o hyd i ryw fersiwn o’r geiriau wedi eu chwistrellu ar waliau ac adeiladau drwy yrru heibio sawl pentref neu dref yng Nghymru. Fis Mehefin 2020 oedd y fandaliaeth ddiweddaraf pan baentiwyd y symbol pŵer gwyn a swastica ar y gofeb. Yn ystod y cyfnod yma, roedd protestiadau gwrth-hiliaeth yn digwydd mewn dinasoedd ledled y byd wedi llofruddiaeth George Floyd. Yn amlwg, dangosodd pobl eu gwylltineb bod y symbol hiliol wedi ei phaentio ar y gofeb ar gyfryngau cymdeithasol a galwodd sawl un bod rhywbeth yn cael ei wneud i amddiffyn y wal. Ar y pryd disgrifiodd Elin Jones, AS Ceredigion, y fandaliaeth fel rhywbeth ‘sinistr a pheryglys’ ac anogodd hi bobl i gysylltu â’r heddlu os oedd ganddynt unrhyw wybodaeth. Cymharodd sawl un y wal â murlun Banksy ym Mhort Talbot. Mae’r cyngor lleol wedi bod yn ariannu amddiffyniad y murlun ond ni chafodd unrhyw beth ei wneud i amddiffyn

Hanes hanfodol: Ar ôl cael ei fandaleiddio dros y blynyddoedd mae gwaith wedi cychwyn i amddiffyn wal Tryweryn. Tarddiad: Ceri Thomas (trwy Geograph) cofeb Tryweryn nes yn ddiweddar. Mae llystyfiant marw o amgylch y wal Cychwynnodd y gwaith i adfer ac wedi cael ei dynnu, hefyd, disodlwyd amddiffyn y wal yn ystod y drydedd gan wrychoedd newydd. wythnos o Fedi a disgrifiodd Elin Jones Yn gyffredinol, mae’r ymateb i’r y gwaith fel cyffrous a dywedodd: gwaith wedi bod yn bositif. Mae’r art‘Rydym yn falch bod yr arbenigwr ist Rwth Jên o Aberystwyth wedi cylleol, Nathan Goss, yn goruchwylio’r tuno i ail baentio’r wal ar ôl i’r gwaith gwaith a bod contractwyr lle- gael ei gwblhau. ol, sy’n gyfarwydd â’r maes trefY gobaith yw na fydd angen rhoi gortadaeth, yn ymgymryd y dasg”. chudd plastig ar y wal gan na fydd yn Fel rhan o’r gwaith bydd y wal yn cael ei ddifrodi eto. cael ei chodi’n uwch gan ddefnyddio’r Dim ond amser all dweud a fydd y cerrig sydd wedi disgyn o’r ardal dros gwaith i amddiffyn y wal yn llwyddiany blynyddoedd oherwydd difrod dŵr. nus neu beidio.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.