Quench Magazine, JOY Issue 185, December 2021

Page 46

Clebar

50

Sgwrs gyda Ian Cottrell ac Esyllt Williams o Dirty Pop: Yn y rhifyn hwn, mae Catrin Lewis yn trafod gyda’r DJs Ian Cottrell ac Esyllt William a wnaeth sefydlu Dirty Pop yng Nghlwb Ifor Bach 13 mlynedd yn ôl. Mae’r noson yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw ac yn gartref i atgofion melys ar gyfer sawl un. Maent yn trafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Dirty Pop, ei effaith ar y gymuned LHDT+ â’u hatgofion arbennig o Clwb. Ble gychwynnodd Dirty Pop a sut wnaethoch chi gwrdd? Esyllt: Wnaethon ni gwrdd amser maith yn ôl trwy gigs, teledu a cherddoriaeth. Oedd y ddau ohonom ni’n gweithio’n Clwb ar y pryd ac oedd hyn yn ystod adeg pan oedd na lot o bethau diddorol yn digwydd yn y byd cerddoriaeth. Roedd Girls Aloud ar eu huchafbwynt a oedd y ddau ohonom ni’n chwarae lot o pop ac a diddordeb ynddo. Felly, wnaethon ni drio creu noson fwy rheolaidd a dyna le ganwyd Dirty Pop. Oeddech chi’n teimlo bod ‘na angen ar rywbeth fel yma yng Nghaerdydd a’i fod yn wahanol i unrhyw beth arall oedd ar gael ar y pryd? Ian: Mae’n rhyfedd achos wnaethon ni gychwyn yn swyddogol yn 2008, ond wnaeth o gychwyn rili yn 2006. Oedd genti lefydd fel The Barfly oedd yn cynnal gigs a oedd o’n gyfnod diddorol o ran bandiau indie. Enghraifft amlwg yw The Killers oedd yn defnyddio dylanwadau electronig. Oedd na lefydd yn dre oedd yn chwarae’r gerddoriaeth yma ac oedd cerddoriaeth pop yn dechrau mynd tipyn bach fwy caled o ran y sŵn. Oedd y pop yn amsugno’r steiliau roc yma, lle cyn hynna am flynyddoedd oedd genti gerddoriaeth fel S Club 7, Steps a B*Witched.

Oeddet ti’n dod allan o gyfnod ble oedd pop yn targedu cynulleidfa iau tuag at sŵn mwy caled oedd yn gweddu mwy i’r llawr dawns. Esyllt: Oedd mwy o ‘edge’ iddo fo ac elfennau mwy hip-hop a oedd o’n rili teimlo fel ei fod o’n mynd i rywle. ‘Dwi’n credu dyna pam wnaethon ni alw fo’n Dirty Pop oherwydd oedd o ‘slightly on the dirty end’. Ian: Mae’r ‘dirty’ yn disgrifio’r sŵn yn fwy na dim byd arall, oedd o’n edgy a ‘dwi ddim yn meddwl oedd na nosweithiau fel na yng Nghaerdydd. Oedd Es a fi yn dod o gefndiroedd eithaf gwahanol o ran cerddoriaeth, fi bach mwy cerddoriaeth house a dawns ac oedd Es yn fwy bandiau a indie ond oedda ni gyd yn cymysgu yn yr un cylchoedd. Oedda ni ddim jyst efo pocedi o ffrindiau, oedden ni’n ffrindiau efo’r DJs ac aelodau bandiau ac oeddet ti’n amsugno’r steiliau gwahanol. Cyn Dirty Pop doedd na ddim rhaniad pendant ar nos Sadwrn yn Clwb o ran y lloriau a cherddoriaeth. Nawr mae gen ti indie ar y top, funk a soul ar y canol a ni ar y gwaelod. Mae’n haws i’r gynulleidfa bod y DJs ddim yn chwarae’r un math o gerddoriaeth ar yr un adeg. Ydy Dirty Pop wedi newid dros y blynyddoedd? Esyllt: Mae lot wedi newid. Wnaethom ni’m dychmygu bydda fe’n troi mewn i rywbeth mor fawr a wnaeth e. Oedden ni’n meddwl am ba fath o noson oedden ni eisiau. Oedd diddordeb ‘da ni mewn gweld gwahanol fathau o bobl yn cymysgu a bod neb yn teimlo yn anghyffyrddus am edrych yn wahanol. Oedden ni’n trio creu rhywle agored a ‘dwi’n meddwl gwnaeth hynna weithio. Dechreuon ni ddenu mwy o bobl ifanc oedd ddim yn


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.