7 minute read
The power of positive poetry
Sgwrs gyda Ian Cottrell ac Esyllt Williams o Dirty Pop:
Yn y rhifyn hwn, mae Catrin Lewis yn trafod gyda’r DJs Ian Cottrell ac Esyllt William a wnaeth sefydlu Dirty Pop yng Nghlwb Ifor Bach 13 mlynedd yn ôl. Mae’r noson yn parhau i fod yn boblogaidd heddiw ac yn gartref i atgofion melys ar gyfer sawl un. Maent yn trafod yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Dirty Pop, ei effaith ar y gymuned LHDT+ â’u hatgofion arbennig o Clwb. Ble gychwynnodd Dirty Pop a sut wnaethoch chi gwrdd?
Advertisement
Esyllt: Wnaethon ni gwrdd amser maith yn ôl trwy gigs, teledu a cherddoriaeth. Oedd y ddau ohonom ni’n gweithio’n Clwb ar y pryd ac oedd hyn yn ystod adeg pan oedd na lot o bethau diddorol yn digwydd yn y byd cerddoriaeth. Roedd Girls Aloud ar eu huchafbwynt a oedd y ddau ohonom ni’n chwarae lot o pop ac a diddordeb ynddo. Felly, wnaethon ni drio creu noson fwy rheolaidd a dyna le ganwyd Dirty Pop.
Oeddech chi’n teimlo bod ‘na angen ar rywbeth fel yma yng Nghaerdydd a’i fod yn wahanol i unrhyw beth arall oedd ar gael ar y pryd?
Ian: Mae’n rhyfedd achos wnaethon ni gychwyn yn swyddogol yn 2008, ond wnaeth o gychwyn rili yn 2006. Oedd genti lefydd fel The Barfly oedd yn cynnal gigs a oedd o’n gyfnod diddorol o ran bandiau indie. Enghraifft amlwg yw The Killers oedd yn defnyddio dylanwadau electronig. Oedd na lefydd yn dre oedd yn chwarae’r gerddoriaeth yma ac oedd cerddoriaeth pop yn dechrau mynd tipyn bach fwy caled o ran y sŵn. Oedd y pop yn amsugno’r steiliau roc yma, lle cyn hynna am flynyddoedd oedd genti gerddoriaeth fel S Club 7, Steps a B*Witched. Oeddet ti’n dod allan o gyfnod ble oedd pop yn targedu cynulleidfa iau tuag at sŵn mwy caled oedd yn gweddu mwy i’r llawr dawns.
Esyllt: Oedd mwy o ‘edge’ iddo fo ac elfennau mwy hip-hop a oedd o’n rili teimlo fel ei fod o’n mynd i rywle. ‘Dwi’n credu dyna pam wnaethon ni alw fo’n Dirty Pop oherwydd oedd o ‘slightly on the dirty end’.
Ian: Mae’r ‘dirty’ yn disgrifio’r sŵn yn fwy na dim byd arall, oedd o’n edgy a ‘dwi ddim yn meddwl oedd na nosweithiau fel na yng Nghaerdydd. Oedd Es a fi yn dod o gefndiroedd eithaf gwahanol o ran cerddoriaeth, fi bach mwy cerddoriaeth house a dawns ac oedd Es yn fwy bandiau a indie ond oedda ni gyd yn cymysgu yn yr un cylchoedd. Oedda ni ddim jyst efo pocedi o ffrindiau, oedden ni’n ffrindiau efo’r DJs ac aelodau bandiau ac oeddet ti’n amsugno’r steiliau gwahanol. Cyn Dirty Pop doedd na ddim rhaniad pendant ar nos Sadwrn yn Clwb o ran y lloriau a cherddoriaeth. Nawr mae gen ti indie ar y top, funk a soul ar y canol a ni ar y gwaelod. Mae’n haws i’r gynulleidfa bod y DJs ddim yn chwarae’r un math o gerddoriaeth ar yr un adeg.
Ydy Dirty Pop wedi newid dros y blynyddoedd?
Esyllt: Mae lot wedi newid. Wnaethom ni’m dychmygu bydda fe’n troi mewn i rywbeth mor fawr a wnaeth e. Oedden ni’n meddwl am ba fath o noson oedden ni eisiau. Oedd diddordeb ‘da ni mewn gweld gwahanol fathau o bobl yn cymysgu a bod neb yn teimlo yn anghyffyrddus am edrych yn wahanol. Oedden ni’n trio creu rhywle agored a ‘dwi’n meddwl gwnaeth hynna weithio. Dechreuon ni ddenu mwy o bobl ifanc oedd ddim yn
fyfyrwyr a nifer eithaf sylweddol o bobl LHDT+. Daeth Dirty Pop yn le ble oedd pobl yn teimlo’n saff. Oedd lot mwy o fechgyn yn gwisgo colur a chwplau o’r un rhyw ar y dancefloor. Newidiodd cymdeithas law yn law gyda hynna, oedd na newid yn y noson wrth i amser fynd ‘mlaen ble oedd yn haws i bobl fynegi eu hunain.
Ian: Wnaethon ni fyth gychwyn y noson i apelio at un gynulleidfa, wnaeth y gynulleidfa ffeindio ni. ‘Dwi’n caru gallu dod a’n ffrindiau i Clwb ac mae’n brilliant ei fod o’n wahanol i Mary’s neu Golden Cross, y bariau traddodiadol, mae’n miwsig ni’n wahanol i’r llefydd yna. ‘Dwi’n meddwl ein bod ni’n fwy craff, dim mewn ffordd snobyddlyd, o ran beth da ni’n chwarae achos da ni ddim yn dafarn neu’n far. Ti’n mynd yna i ddawnsio. Dechreuodd Clwb fel rhywle i Gymry Cymraeg ac oedd genti agweddau eithaf milwriaethus o ran y bobl oedd yn mynd yno. Oedd disgwyl clywed cerddoriaeth Cymraeg trwy’r nos a ‘dwi’n meddwl bod agweddau’r gynulleidfa Gymraeg sy’n mynd yno yn lot fwy agored rŵan. Hynny yw, dydyn nhw ddim yn disgwyl clywed cerddoriaeth Cymraeg. Mae Clwb wedi gorfod newid er mwyn goroesi. Mae’n darparu pob math o gigs a cherddoriaeth rŵan a digon o stwff Cymraeg. Mae Clwb wedi ffeindio ei draed yn yr ystyr yna, mae’n gallu plesio pawb. Mae’r gynulleidfa wedi ehangu ac mae pobl yn mynd yno oedd byth yn disgwyl gwneud.
Beth yw eich hoff atgofion chi o Clwb?
Ian: Pa mor hir sydd genti?
Esyllt: Mae’n rhaid bod y tro na wnaeth y holl Lady Gagas gwahanol droi lan i fyny yna.
Ian: Doedd o’m yn noson arbennig chwaith, doedden ni heb ofyn i neb wisgo i fyny. ‘Dwi hefyd yn caru gweld pobl yn gwneud dance offs, fel pan maen nhw’n gwahanu ac yn gwneud un ochr yn erbyn y llall. ‘Dio ddim yn digwydd yn aml ac mae o’n gyfeillgar ond yn hileriys. Hefyd, yr adeg lle wnaeth Esyllt chwarae Umbrella efo’r conffeti.
Esyllt: Ia, mae hwnna’n un o’n hoff atgofion i. Oedd confetti cannons wedi cael eu rhoi lan ar gyfer y gig o flaen ni a doedden nhw heb gael eu defnyddio. Mae ‘na rhan yn Umbrella ble mae ‘na key change ac felly nes i bwyso’r botwm confetti ac oedd hynna’n rili sbesial, gweld pawb yn mynd yn nyts.
Ian: ‘Dwi jyst yn lyfio pan mae’r goleuadau yn dod ymlaen am 4 o’r gloch ac mae pobl yn clapio. Mae pobl yn wirioneddol ddiolchgar. Mae’n rili neis dweud gweld chi wythnos nesa.
Esyllt: Ie, y peth mwyaf neis ydy’r sgyrsiau bach dani’n cael gyda phobl. Mae’r pethau bach cymdeithasol a’r gymuned yna’n rili neis, lot gwell na unrhyw beth mawr flashy.
Sut oedd y cyfnod clo i chi?
Esyllt: Pob nos Sadwrn oedden ni’n gwneud playlist a oedden ni’n cael lot o ymateb a phobl yn hala lluniau ohonyn nhw’n gwisgo crysau-t Dirty Pop, oedden ni’n dal i deimlo mewn cysylltiad â’r bobl a’r gymuned.
Sut deimlad oedd cael ail-agor ym mis Awst a beth oeddech chi’n edrych ymlaen fwyaf ato?
Ian: O’n i methu aros, o’n i ddim am chwarae unrhyw beth o Fawrth 2020 ymlaen nes hanner nos. O’n i’n meddwl ‘let’s keep them waiting’! Wnaethom ni chwarae Dirty Pop bangers hyd at hanner nos.
Esyllt: O’n i’n edrych ymlaen at chwarae Stupid Love gan mod i ddim ond wedi ei chwarae o unwaith cyn cau. Nes i fwynhau DJio efo’n gilydd hefyd oherwydd fel arfer ‘da ni’n gweithio ar wahân pob yn ail wythnos. ‘Dwi ddim yn mynd mewn gyda rhestr chwarae, ‘‘dwi’n dewis wrth fynd ac oni’n edrych ‘mlaen cael arbrofi eto. Ian: Oedd na gymaint o fiwsig wedi ei ryddhau yn y cyfnod a oedd o’n neis gweld ymateb pobl.
Oes ‘na unrhyw gan neu artist sy’n diffinio Dirty Pop i chi?
Ian: ‘Dwi methu dewis un, mae tair cân yn dod syth i’r cof. ‘Dwi’n meddwl bod Bad Romance gan Lady Gaga, Million Dollar Bill gan Whitney Houston a Dancing On My Own gan Robyn diffinio’r sŵn, y profiad a’r llawenydd.
Esyllt: Hefyd Cut To The Feeling gan Carly Rae Jepsen! ‘Da ni’n chwarae caneuon ‘da ni’n hoffi oherwydd fel arall beth ydy’r pwynt? ‘Da ni eisiau sicrhau bod pawb yn mwynhau oherwydd er mai gweithio ydyn ni efallai bod o’n achlysur arbennig i rywun arall.
Beth sy’n eich cyffroi am ddyfodol Dirty Pop, unrhyw gynlluniau am newid?
Esyllt: Wnaethom ni ddim dechrau efo strategaeth, dim ond creu noson oedden ni’n rili mwynhau ac yn ffodus mae pobl eraill yn ei hoffi o hefyd. Ian: Mae’r adeg yma o’r flwyddyn wastad yn gyffrous oherwydd dyma pryd mae myfyrwyr yn dod i Gaerdydd ac yn ffeindio Dirty Pop. Dyma’r cyfle i’w bachu nhw i mewn. Yn enwedig efo freshers blwyddyn yma gan eu bod nhw heb gael llawer o gyfle i fynd allan.
I gloi, pa dri gair buasech chi’n eu defnyddio i ddisgrifio Dirty Pop i rywun sydd erioed wedi bod?
Ian: Wel, llawen yn bendant. Mae llawenydd yn cyfleu lot o bethau o ran teimlad. ‘Dwi hefyd yn meddwl cofiadwy achos ti’n gorfod gwneud yn siŵr bod pawb sy’n dod yn cofio rhywbeth ac yn cofio’r profiad, hyd yn oed os ‘di nhw ddim yn cofio’r caneuon.
Esyllt: Beth am agored hefyd?
Ian: Ia, ‘dwi’n meddwl bod hwnna’n gweithio mewn sawl ffordd oherwydd y gynulleidfa sy’n dod, er ein bod ni’n ffiltro lot o ganeuon allan ‘dwi’n meddwl ein bod ni’n agored o ran be dan i’n chwarae hefyd. Felly, ia, llawen, agored a chofiadwy!
Interview by: Catrin Lewis Design by: Isabel Brewster