clebar
S m a l l T o w n Me d � dylfryd Tref Fach Un o’r ffactorau gorau am symud i ddinas i astudio yn y brifysgol yw’r amgylchedd cosmopolitanaidd. Mae’r trawsnewidiad yma yn syndod llwyr wrth gymharu â’r poblogaeth tu fewn i drefi bach cefn gwlad. Mae’r agweddau o bobl yn drefi bach cefn wlad yn amrywio yn helaeth gan gymharu i agweddau’r trigolion y brif ddinas. Maent llawer fwy caeedig ac yn fwy parod i feirniadu eraill am eu hil, crefydd ayyb. Dydyn nhw ddim eisoes wedi cael y profiad o fyw mewn ardal cosmopolitanaidd fel prif ddinas, ac felly na chwaith ydyn nhw mor agored â dinasyddion y ddinas o ran beirniadu pobl am eu dillad, eu rhywioldeb, eu crefydd a.y.y.b. Yn aml, dydy’r bobl yn y trefi yma heb byw tu allan o’u siroedd, na chwaith wedi profi byw mewn dinas, sydd yn medru teimlo fel byd hollol wahanol. Yn sicr, nid ydy hwn yn berthnasol i bob person sydd yn byw mewn tref fach, ond dyw hi ddim yn anodd darganfod pobl fel hyn ym mhob tref/pentref yn enwedig yng nghefn gwlad Cymru. Heb brofi byw mewn dinas, neu yng nghwmni amryw helaeth o bobl mewn ardal
69
cosmopolitanaidd, dydyn nhw ddim yn byw eu bywydau mor gyflym â ni. Gan eu bod nhw byth erioed wedi symud tu allan o’u pentrefi/ trefi maent yn aml yn cadw’r un gwerthoedd a moesau a’u rhieni/teulu, ac yn cael eu dylanwadu gan bawb arall o’u gwmpas sydd yn dal yr un farn o genhedlaethau yn ôl. Er enghraifft, mewn sefyllfa ddamcaniaethol, os oedd eich rhieni yn ymddwyn fel petai bod yn hoyw yn beth ofnadwy, maent yn dylanwadu eu plentyn i fagu yr un farn a hwy, ac wedyn mae’r patrwm yma yn parhau i gael ei throsglwyddo ar draws cenedlaethau o deuluoedd sy’n byth yn cael y cyfle i symud tu allan o’i tref genedigol. A heb symud a phrofi bywyd mewn lleoliad llawer mwy agored a derbyniol efo pobl sydd â meddylfryd flaengar. Yn aml nid ydyn nhw yn medru datblygu barn eu hun oherwydd dylanwad y gymdeithas maent yn byw ynddo.
Ambell waith mae parhau i fyw yn eich tref genedigol trwy eich bywyd yn gallu teimlo’n fyglyd, ac yn gallu effeithio ar y ffyrdd rydych chi yn meddwl ac yn gweld y byd. Drwy symud