2 minute read
Sut mae digwyddiadau Cymreig yn uno Cymru?
Fel bodau dynol, rydym yn rhannu llawer o nodweddion cadarnhaol cyffredin a meysydd gallwn fwynhau gyda’n gilydd. Mae rhai o’r meysydd sy’n ein huno yn cynnwys dawns, bwyd, celf a cherddoriaeth sy’n ein gwneud yn agosach at ein gilydd mewn harmoni. Os yw grŵp o bobl neu bethau yn uno neu os bydd rhywbeth yn eu huno, maen nhw’n ymuno a’i gilydd ac yn gweithredu fel grŵp. Mae ‘na digwyddiadau yng Nghymru yn digwydd yn flynyddol sy’n uno’r bobl Gymreig ledled y wlad.
Mae’r Eisteddfod yn llwyfan naturiol i gerddoriaeth, dawns, celfyddydau gweledol, llenyddiaeth, perfformiadau gwreiddiol a llawer mwy. Gan gwmpasu pob agwedd ar gelfyddyd a diwylliant Cymru, mae’n ŵyl gynhwysol a chroesawgar, sy’n denu miloedd o bobl Cymraeg a dysgwyr Cymraeg bob blwyddyn. Mae’r dathliad o Gymraeg yma yn uno pobl Gymreig, cei teimlad o hunaniaeth a bod yn rhan o gymuned groesawgar.
Advertisement
Yn sicr, mae’r gemau rygbi chwe gwlad a gemau rhyngwladol yn uno’r Cymreig. Hyd yn oed os nad ydych yn chwarae rygbi neu ddim cweit yn deall y gêm mae bloeddio’r anthem Gymraeg a chlywed y gytgan “Gwlad, Gwlad..” ymysg y cefnogwyr ond yn rhoi teimlad o falchder o fod yn Gymraeg. Mae gweld y bechgyn yn gwisgo’i chrysau rygbi Cymru yn dala’i pheints o gwrw a’r merched yn ei chrysau ffug Cymru llawn colur yn cymryd ei Instagram selfies ond yn cryfhau teimlad o Gymraeg a’n uno fel cenedl hyd yn oed os nad ydym yn gallu cofio’r gêm erbyn diwedd y noson..
Ynghyd a phedwar diwrnod cyffrous o gystadlaethau byd gydag anifeiliaid, crefftau, chwaraeon, coginio, coedwigaeth mae gan y sioe rhywbeth i ddiddori pawb trwy ei hystod eang o weithgareddau. Mae’r digwyddiadau yma yn uno unigolion ar draws y wlad i gymryd rhan ynddynt, tra ei fod yn ffordd grêt i gael unigolion i ddathlu’r
Gymraeg. Mae’r Sioe hyd yn oed yn denu sylw o bobl ar draws y byd, gyda phobl yn ymuno gyda’r dathliad yma. Nid yn unig yw’r sioe felly yn uno pobl Gymraeg ond hefyd yn uno pobl ar draws y byd.
Yn wahanol i nifer o wledydd mae gan Gymru iaith unigryw sy’n uno’r wlad. Mae’r iaith Gymraeg yn un cymhleth a hardd sydd wedi treulio hyd at 4,000 o flynyddoedd yn esblygu. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n ddiwylliant, ein treftadaeth a’n bywydau beunyddiol. Mae’n rhan o’n hetifeddiaeth a’n hunaniaeth a rennir fel cenedl. Ond ni ellir cymryd ei ddyfodol ledled Cymru yn ganiataol. Mae cyfrifoldeb arnom i gymryd camau rhagweithiol i gefnogi a chynyddu’r defnydd o’i iaith, a’i throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Mae’n rhywbeth gallwn ni gyd cydweithio gydia’n gilydd i ledaenu’r defnydd o Gymraeg a cheisio cyrraedd gôl y llywodraeth erbyn 2050 i gyrraedd miliwn o siaradwyr Gymraeg.
Mae’r digwyddiadau yma yng Nghymru sy’n digwydd dros y blynyddoedd ond yn uno’r genedl yn fwy. Yn wahanol i wledydd gwahanol mae gan Gymru deimlad clos sy’n cael ei ddangos yn nifer o ddigwyddiadau eang.