7 minute read
Dydd San Ffolant yng Nghaerdydd
Advertisement
issue 176 CLEBAR - 23 words by: SIÂN JONES design by: RHIANNA HURREN-MYERS Mae Dydd San Ffolant yn ddiwrnod hudol, diwrnod i ddathlu cariad rhwng partneriaid, aelodau teulu a ffrindiau ehangach. Mae’r diwrnod yn cael ei ddathlu ym mydeang, a miliynau o bobl yn gymer bwys yn eu bywydau prysur er mwyn cryfhau eu perthnasoedd efo’r rhai mwyaf pwysig yn eu calonnau. Ar gyfer Dydd San Ffolant eleni, rydw i wedi creu rhestr eang o lefydd yng Nghaerdydd aller pobl mynd er mwyn dathlu’r ŵyl. Mae’r cyrchfannau yma yn amrywio o rad i ddrud er mwyn cynnig popeth sydd ar gael yng Nghaerdydd. Mae rhoddion hael o’ch amser ar ddiwrnod mor bwysig â hyn yn werth y byd, ond does dim disgwyl i dorri’r waled er mwynmwynhau! I gloi, gobeithio mae rhai o fy syniadau ar gyfer Dydd San Ffolant wedi bod yn ddefnyddiol er mwyn creu diwrnod a phrofiad unigryw ar eich cyfer chi a’ch partner. Dymuniadau gorau ar gyfer Dydd San Ffolant! Y cyrchfannau cyntaf yw’r rhai rhad ac am ddim. Ar gyfer myfyrwyr mae’n anodd ceisio cael diwrnod allan yn y ddinas heb dalu llawer o arian, felly rydw i wedi creu rhestr o leoliadau rhad ac am ddim i ymweld ag ar Ddydd San Ffolant, ar gyfer y rhai ohonom sydd angen arbed arian. Gan fod mis Chwefror yn eithaf twym ac yn penodi’r cychwyn o’r gwanwyn, y syniad cyntaf sydd gen i ar gyfer Dydd San Ffolant yw picnic ym mharc Bute. Ar ôl eich picnic yn y parc, allwch chi fynd i’r amgueddfa. Nid yn unig yw daith i’r amgueddfa yn addysgiadol, ond mae’n rhad ac am ddim, yn golygu eich bod chi yn medru estyn eich diwrnod allan ymhellach heb orfod talu unrhyw arian ychwanegol.
Nesaf yw’r cyrchfannau rhad yng Nghaerdydd, lleoliadau eto sydd yn medru creu diwrnod diddorol heb ofyn ormod yn ariannol. Yn gyntaf, mae’n bosib cael taith rownd Castell Caerdydd am ddim ond £3.35 yr un, sydd yn syniad hwylus ar gyfer unrhyw un a diddordeb yn hanes, ond yn ogystal â hyn, mae yna gerddi prydferth ar ben to’r castell ar agor i’r cyhoedd i ymweld a. Mae yna nifer o adolygiadau yn canmol y gerddi, mae’n debyg ei bod nhw yn boblogaidd iawn, felly mae’n synhwyrol i fwcio o flaen amser.Yn ail, mae’n bosib teithio i Bae Caerdydd trwy’r Aquabus am £4 yr un. Wrth wneud hyn, mae’n ychwanegu elfen arall tuag at yr holl ddiwrnod ac yn rhoi pwyslais ar ba mor arbennig mae’r profiad. Wedyn, ar ôl cyrraedd y Bae, mae nifer o leoliadau i fynd mas am fwyd/ddiodydd efo’ch partner. Os dydy bwyd yn y Bae ddim yn apelgar, mae canolfan y mileniwm yn y Bae yn cynnig nifer eang o berfformiadau, er enghraifft, ar Ddydd Sadwrn, 15fed o Chwefror, mae’r Opera Cenedlaethol yn perfformio Les Vepres Siciliennes efo tocynnau o amryw bris yn dechrau am £14. Syniad arall eithaf unigryw ar gyfer Dydd San Ffolant yw bwyty The Clink sef bwyty sydd yn cynnig hyfforddiant coginio i garcharorion er mwyn paratoi nhw i gyflwyno’u hunain i gymdeithas unwaith eto. Dyma gynllun i geisio gwneud y carcharorion mwy cyflogadwy a rhoi cyfleoedd iddyn nhw wedi iddyn nhw gyflawni eu hamser. Mae’r bwyty yn eithaf drud wrth gymharu â llefydd arall yng Nghaerdydd, ond credaf fod y profiad yn werth y pris. Pris pryd tair gwrs yn y bwyty yw £39.95 yr un, neu am ddau gwrs mae’n £15.95 yr un. Mae rhaid bwcio o flaen llaw, fedrwch wneud hyn trwy’r linc yma: https://theclinkcharity.org/
Lleoliad arall mae’n bosib ymweld ag ar gyfer bwyd Dydd San Ffolant yma yw The Coconut Tree. Mae’r bwyty yma yn arbenigo yn fwyd stryd o Sri Lanka ac mae ganddyn nhw fwydlen ar gyfer llysieuwyr a fegans. Mae’r bwyty yn cynnig profiad gwahanol os dydych chi ddim yn medru dewis beth i fwyta; am £20 yr un, maen nhw’n cynnig i ddewis amrywiaeth o fwydydd o’r fwydlen ar eich cyfer yn ogystal â ‘Hopper’ sef crempog mewn siâp bowlen wedi llenwi a winwns, cnau coco a salsa. Maent yn cynnig coctels hefyd ac mae rhai ohonyn nhw yn 2 am £10. Bargen. I orffen fy rhestr o syniadau ar gyfer Dydd San Ffolant yng Nghaerdydd yw’r syniad mwyaf drud, ond y mwyaf hwylus, sef Escape Room. Er bod Escape Room ddim yn bloeddio rhamant, mae’r profiad o wneud Escape Room werth gwneud, ac mae’n gyfle arbennig i bartneriaid fondio. Mae yna lu o lefydd yng Nghaerdydd i wneud Escape Room oherwydd maen nhw mor boblogaidd, ond eto, yn debyg i weddill y cyrchfannau dwi di restri uwchben, mae’n rhaid bwcio o flaen llaw. Mae’n costio tua £20 yr un ar gyfer awr tu fewn Escape Room ac mae yna amryw eang o wahanol ystafelloedd i geisio dianc o. Dyma’r linc i fwcio: https://www.escaperoomscardiff.co.uk/ Dydd San Ffolant yng Nghaerdydd Dydd San Ffolant yng Nghaerdydd
words by: NIAMH GOODWIN - THOMAS design by: YEON SU CHO Pobl chi’n weld yn ystod y Chwe Gwlad
Mae’r Cwpan byd Rygbi wedi dod i ben a nawr mae’r byd rygbi yn paratoi am y cyffro o’r chwe gwlad. A da’r chwe gwlad mae grwpiau penodol o bobl yn ymddangos ar strydoedd Caerdydd, dyma rhai o’r bobl efallai byddwch yn cwrdd ar ddydd rygbi.
Yn gyntaf mae’r MEGA ffan. Dyma’r fath o berson sy’n deffro am 8 y bore i sicrhau seddu da yn y tafarn, ac os ydych yn fyw da un, neu’n ffrindiau da un, byddwn nhw’n siŵr i herwgipio chi am y daith. Ond os nad ydych chi’n byw ‘da un dydy nhw ddim yn anodd i spotio, gyd mae angen edrych am yw’r person sydd ‘di gwisgo yn y cit newydd Cymru gyda draig wedi paentio ar ei wyneb er ei fod yn eistedd yn y tafarn nid y stadiwm. Allwch chi glywed nhw o filltir i fwrdd yn canu Hen Wlad ar ben ei hun 2 awr cyn Kick off, a sgrechain i unrhyw un sy’n ddigon agos am gymaint maen nhw’n casáu’r Saeson a pwy fydd yn sgorio’r cais gyntaf (bydden nhw’n anghywir).
Wedyn chi da’r merched sy ddim yma i wylio’r rygbi, o na, maen nhw’n yma amdano’r booze a’r bechgyn ffit rygbi (s’dim lot ohonyn nhw). Mae’r merched hwn di gwisgo yn ei tops ffansi a heels dal (fel gallant nhw weld y sgrin yn well wrth gwrs), gydag wyneb sy’n barod am noson allan yn lle’r tafarn. Byddwn nhw’n neud yn sicr i sgrechain ar deledu oleia unwaith ond 2 awr mewn pryd rydych yn ‘ofyn pwy yn union sy’n chwarae, does dim clem ‘da nhw, gyd mha nhw’n gwybod yw bod peint yn ei llaw ac mae Will o’r tîm rygbi yn bylon brynu mwy iddyn.
Efallai byddwch chi’n cwrdd â’r ffan pêl-droed allan yma. Nawr, mae’r rhain yn haws i spotio o bellter, efallai maen nhw’n gwisgo crys rygbi, ond o dan grys yma mae raging ffan o Arsenal ‘di cuddio i ffwrdd. Mae’r bobl yma gyda’r farn fod pêl-droed yw’r gêm gorau yn y byd ond ni allant nhw wrthod y ffaith bod dydd rygbi, yn enwedig yng Nghaerdydd, yn ddigwyddiad sy’n ysblennydd o hwyl, ac yn sicr dydy’r fans pêl-droed ddim yn yfed cymaint â’r fans rygbi. Y ffordd i nabod ffan pêl droed ar ddydd fel hyn yw os ydych yn dechrau siarad am y gêm, bydd y person yma wastad yn cymharu’r ddwy, bydd pêl droed wastad yn well yn cymharion yma. Ac ar ddiwedd y gêm efallai byddwch chi’n clywed y frawddeg, “dydy o ddim yn pel-droed naw ydy o.” Mae’r chwe gwlad yn gadael i chi yfed am bob awr y dydd a dyma ble mae’r pedwerydd person yn dod i mewn; y Sesh head. Gyd maen nhw yma amdano yw’r booze, y peints ar ôl peints ar ôl peints. A bydd neb yn barnu’r bobl yma am yfed ei pheint cyntaf am 9 yn y bore, oherwydd mae pawb arall yn neud yr un beth. Ond pryd mae’r gemau yn dod i ben, ac mae pawb yn trafod os mae Juice yn opsiwn am y nos, ac un person yn cynnig Tiger Tiger oherwydd efallai bydd y tîm yno, mae’r person yma yn dod ‘nôl i’r bwrdd ‘da 3 jager bombs i bawb a shots ‘fyd. Ac wedyn maen nhw’n dod a rownd arall rhyw 10 munud ar ôl i chi orffen y rownd gyntaf. Dydy’r bobl yma ddim ‘da clem beth sydd di ddigwydd yn y gêm ond maen nhw di yfed ei phwysau yn alcohol.
Yn olaf chi da’r bobl doedd ddim hyd yn oed gwybod bod rygbi yn chwarae penwythnos yma. Efallai mai nhw di troi lan i’r pwb am 2 o gloch yn disgwyl sedd a bach o fwyd, ddim ond i weld y lle jam packed da crysau coch, gwyn, glas neu wyrdd. Neu’r bobl sy’n cerdded lawr stryd St Mary’s am fach o siopa yng nghanol y dydd, dim ond i weld strydoedd llawn pobl yn ganu ac yfed, a rhedeg o un man i’r llall yn cwyno am rywun maen nhw’n galw’n ‘Ref!”.
Felly joio y Chwe Gwlad, ac edrych allan am y bobl uchod!