4 minute read
Cwrs Ôl-raddedig vs. Swydd
Mae dewis eich dyfodol yn anodd yn enwedig wrth i chi gadael Prifysgol. Mae dau o ein cyfranwyr yn ddadlau beth yw’r opsiwn gorau, swydd neu gwrs ôlraddedig.
Advertisement
Pam ddewis swydd? Gan Indigo Jones
“Beth ydych chi’n wneud blwyddyn nesaf?” y cwestiwn sydd yn codi chills arna i. Gan fod fi’n agosáu diwedd fy amser yn brifysgol, dwi’n clywed y cwestiwn yma cwpwl o weithiau’r wythnos. Ond yr ateb yw, nad ydw i’n hollol sicr o feth i wneud ar ôl i mi raddio. Dwi’n gofyn fy hun “sut allai ddarganfod beth yn union yw’r peth gorau i mi?”. I ambell berson profiadau yw’r peth gorau, a beth yw’r ffordd gorau i ennill profiad? Ymgeisio am amrywiaeth o swyddi! Efallai fel fi, rydych chi’n edrych am y beth nesaf i wneud yn fywyd, ac yn ansicr ble i ddechrau.
Ti ‘di bod yn astudio am ryw 18 flwyddyn ac yn barod i ddechrau eich bywyd tu allan o addysg. Mae’r cysur a diogelwch o aros am radd ôl-raddedig yn apelgar, ond y syniad o wneud flwyddyn arall yn addysg yn llafurus. Nid yn unig ydy o’n flwyddyn arall o brifysgol, ond efallai’r flwyddyn fwyaf anodd yn eich amser yn addysg, felly bydd rhaid i chi wneud yn sicr fod chi’n wneud y peth gorau i chi!
Wrth ddechrau swyddi rydych yn cael eich taflu mewn i’r ochr ddwfn, mae rhaid i chi gael profiad ymarferol yn syth ac yn dysgu ar y swydd. Yn sicr i rai pobl mae hyn yw’r pethau gorau oherwydd does dim ffordd well i ddysgu ‘na dysgu o eich camgymeriadau wrth weithio. Mae’r profiad yma yn ddechrau da i’ch dyfodol yn waith wrth i chi casglu profiad yn amrywiaeth o swyddi a chasglu pethau i adio i’ch CV. Mae nifer fawr o gwmnïau yn edrych am brofiad yn lle cyrsiau ôl-raddedig, felly tra bod chi’n ennill arian chi hefyd yn ennill profiad gwerthfawr.
I ddweud y gwir y syniad o fod dyfnach mewn dyled yn ofni mwyafrif o fyfyrwyr, ac felly efallai nad ydy gradd ôl-raddedig yn y beth gorau iddyn nhw. I wneud y cwrs bydd rhaid i chi dalu llawer o arian, ac efallai na fydd eich benthyciad myfyriwr yn ddigon i dalu am y cwrs a chostau byw. Mae’r syniad o fynd fewn i swydd a dechrau ennill arian yn barod i’ch dyfodol yn apelgar iawn, yn enwedig wrth i ni gasglu nifer fawr o ddyled yn y tair flwyddyn gyntaf o Brifysgol.
Mae dewis beth i wneud ar ôl Brifysgol yn anodd, a phaid becso oherwydd y mwyafrif ohonom ni yn yr un sefyllfa. Felly pob lwc i chi gydag eich dewisiadau a pob lwc gydag eich dyfodol!
Pam ddewis cwrs ôl-raddedig? Gan Lowri Pitcher
Wrth i mi agosáu at hanner ffordd trwy fy mlwyddyn olaf yn y brifysgol yn amlwg rydw i wrthi’n pendroni cam nesaf fy mywyd. Ffeindio swydd, mynd i deithio, gwneud dim, astudio cwrs ôlraddedig? Mae nifer fawr iawn o opsiynau o’n blaenau ni fyfyrwyr. Serch hynny, yr hyn rwy’n credu sydd orau, yn enwedig i mi, ydy astudio cwrs ôl-raddedig.
Un o’r prif resymau rwy’n credu taw hyn yw’r penderfyniad cywir i mi ydy’r ffaith bod gwneud meistr neu ddoethuriaeth yn caniatáu i berson arbenigo mewn maes sydd yn wahanol i’w gradd a dysgu sgiliau gwahanol i’r rheiny sy’n cael eu magi yn ystod astudiaethau israddedig. Er enghraifft, gallech gymysgu radd israddedig ieithoedd modern gyda chymhwyster newyddiaduraeth neu gysylltiadau rhyngwladol; neu gymysgu gradd israddedig hanes gyda gradd ôlraddedig yn y gyfraith.
Yn ogystal dylid nodi bod astudio meistr neu astudiaethau pellach yn caniatáu i chi dderbyn achredidau neu arbenigo mewn rhyw faes o’ch gradd israddedig er mwyn cyrraedd safon arbenigol a chynyddu’r tebygolrwydd o dderbyn eich swydd ddelfrydol.
Mae astudio am flwyddyn neu ddau ychwanegol felly yn caniatáu i chi ddilyn gyrfa wahanol, arbenigo mewn maes penodol neu ganiatáu i chi ymgeisio am swyddi sydd rheng neu ddau uwchben rheini sydd heb y cymwysterau olradd.
Ymysg fy nghyd-fyfyrwyr yn aml iawn rwy’n clywed bod nifer o bobl ifanc yn dyheu am fynd i deithio am flwyddyn cyn penderfynu ai astudiaethau pellach neu ffeindio swydd ydy’r trywydd cywir i ddilyn. Er fy mod yn credu bod teithio yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, yn bersonol rwy’n credu ei bod yn well gorffen astudio cyn teithio. Rwy’n nabod nifer o bobl sydd wedi mynd i deithio ac ar ôl iddynt ddychwelyd nid oes ganddynt y cymhelliant i ddychwelyd i’r llyfrgell a threulio oriau maeth yn ysgrifennu traethodau. Yn ogystal, mae teithio’n ddrud ac efallai ar ôl dychwelyd bydd angen ffeindio swydd felly gallai cyllido am astudiaethau pellach bod yn anodd.
Yn olaf, rydym yn aml yn clywed taw bod yn fyfyriwr ydy amser gorau ein bywyd ac felly pam nad ymestyn y profiad hwn un cam ymhellach trwy barhau i astudio? Er bod cyrsiau ôl-raddedig yn ddwys ac yn amlwg mae’n rhaid ymdrechu llawer, mae hi dal yn gyfle i chi fyw ‘bywyd myfyriwr’. Mae hyn yn enwedig wir os oes gennych chi ffrindiau ar gyrsiau israddedig pedair blynedd ond rydych chi’n astudio cwrs tair blynedd. Gallai flwyddyn ychwanegol cynnig profiadau gwych a chymwysterau gwerthfawr!