Cynllun Datblygugweithlu Creadigol Adiwylliannol (CiDS)

Page 1

YSGOL DIWYDIANNAU CREADIGOL A DIWYLLIANNOL CAERDYDD

CYNLLUN DATBLYGU GWEITHLU CREADIGOL A DIWYLLIANNOL (CiDS)


Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol (CiDS)

YNGLYˆ N Â’R CWRS Mae’r Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol (CiDS) yn cynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol parhaus i fusnesau bach a chanolig yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd. Mae’r rhaglen achrededig hon o ddysgu seiliedig ar waith yn cwmpasu amrywiaeth eang o feysydd yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol, gan gynnwys y celfyddydau perfformio, cynhyrchu cerddoriaeth, theatr dechnegol, dylunio a chrefftau. Nod y rhaglen yw datblygu sgiliau proffesiynol i weithwyr llawrydd, ymarferwyr hunangyflogedig a microfusnesau yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Mae hefyd yn darparu achrediad am y sgiliau a’r wybodaeth rydych eisoes wedi’u magu yn eich gyrfa yn y sector. Caiff y Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol ei gyflenwi drwy gyrsiau byr a dwys, gan gynnig dull hyblyg o ddysgu sy’n eich galluogi i astudio tra’n parhau â’ch gwaith o ddydd i ddydd. O gwblhau’r cynllun yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn derbyn cymhwyster achrededig oddi wrth Brifysgol Morgannwg, ynghyd â’r cyfle i barhau â’u hastudiaethau ar amrywiaeth o gyrsiau. Cynigir y Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol mewn partneriaeth â Phrifysgol Morgannwg a Chyngor Sgiliau Creadigol a Diwylliannol Cymru. Gwnaed y cynllun yn bosibl gan Gronfa Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

2


Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

3


Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol (CiDS)

STRWYTHUR Y CWRS Gall myfyrwyr ennill achrediad am sgiliau y maent eisoes wedi’u datblygu yn y diwydiant drwy gydweddu eu profiadau blaenorol â chanlyniadau dysgu amrywiaeth o fodiwlau, gan gynnwys: n n n n n n

Entrepreneuriaeth Greadigol 1 Entrepreneuriaeth Greadigol 2 Cyflwyniad i Ddatblygu Sgiliau Creadigol 1 Cyflwyniad i Ddatblygu Sgiliau Creadigol 2 Datblygu Sgiliau Creadigol Pellach 1 Datblygu Sgiliau Creadigol Pellach 2.

Gallwch astudio hyd at 60 credyd o blith y modiwlau hyn. Caiff y modiwlau hyn eu teilwra at eich dewis faes, gan ddatblygu eich gallu entrepreneuraidd a’ch sgiliau ymarferol o fewn eich maes chi yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol. Mae’r cwrs hefyd yn cynnwys pecyn cymorth NESTA (Y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer Gwyddoniaeth, Technoleg a’r Celfyddydau) sy’n gydnabyddedig yn y diwydiant. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys deunydd addysgu ac arweiniad i helpu unigolion creadigol i droi eu syniadau yn fusnesau llwyddiannus. Mae’r rhaglen heriol hon yn cynnwys astudiaethau achos, taflenni gwaith i’w lawrlwytho a gweithgareddau a baratowyd i herio unigolion hunangyflogedig neu gyflogeion yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

4


Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

GOFYNION MYNEDIAD Gwnaed y Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol yn bosibl gan Gronfa Gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Gallai ymgeiswyr llwyddiannus sy’n cyrraedd y meini prawf canlynol fod yn gymwys i le ar y cwrs wedi’i ariannu’n llawn neu’n rhannol: 1.

Mae’n rhaid i chi fyw a/neu gweithio yn un o Ardaloedd Cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.

Ardaloedd cydgyfeirio Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yw:

n n n n n n n

2.

Nid oes arnoch angen unrhyw gymwysterau ffurfiol i gael lle ar y cynllun, ond mae’n rhaid i chi fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig (amser llawn neu ran amser) mewn sector perthnasol yn y diwydiannau creadigol a diwylliannol.

Mae sectorau perthnasol yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i:

n n n n n

Os ydych yn gyflogedig, mae’n rhaid eich bod yn gweithio i Fusnes Bach neu Ganolig (BBaCh) nad yw yn y sector cyhoeddus. Bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o hyn, megis eich contract swydd, wrth wneud cais am le ar y cwrs.

Os ydych yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth Cyllid a Thollau ei Mawrhydi o statws eich cyflogaeth. Os ydych yn byw y tu allan i Ardal Gydgyfeirio, mae’n rhaid i’ch cyfeiriad gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi fod yn seiliedig o fewn Ardal Gydgyfeirio.

Blaenau Gwent Caerffili a Thorfaen Ceredigion Sir Ddinbych Ynys Môn Castell nedd Port Talbot Rhondda Cynon Taff

n n n n n n n

Pen-y-bont ar Ogwr Sir Gaerfyrddin Conwy Gwynedd Merthyr Tudful Sir Benfro Abertawe

y celfyddydau perfformio cynhyrchu cerddoriaeth theatr dechnegol ddylunio crefftau

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am ba sectorau sy’n gymwys.

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth am y meini prawf mynediad.

5


Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol (CiDS)

6


Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd

POTENSIAL GYRFA Ar ôl cwblhau’r cynllun, gallwch fwrw ymlaen i ddefnyddio eich sgiliau newydd yn y gweithle neu barhau â’ch astudiaethau ar amrywiaeth o gyrsiau achrededig Prifysgol Morgannwg.

SUT BYDDWCH YN ASTUDIO Rydym wedi dylunio’r Cynllun Datblygu Gweithlu Creadigol a Diwylliannol i weddu i’ch gwaith chi o ddydd i ddydd. O ganlyniad, caiff ei gyflenwi drwy flociau byr a dwys o addysgu, gyda rhai modiwlau’n cael eu cyflenwi dros benwythnosau. Bydd gennych fentor personol a fydd yn eich arwain drwy eich dysgu ac yn eich cynghori ar sut i fanteisio’n llawn ar y cynllun.

BLE BYDDWCH YN ASTUDIO Mae natur hyblyg y cynllun yn golygu y gallai lleoliadau amrywio, ond bydd llawer o’r dysgu a’r addysgu yn digwydd yn ATRiuM, ein campws o’r radd flaenaf yng Nghaerdydd. Mae ein cyfleusterau yn cynnwys stiwdio deledu manylder uwch sydd â galluoedd sgrin werdd, cyfleusterau recordio a golygu fideo a sain a adeiladwyd at y diben, a labordai cyfrifiaduron gyda chyfrifiaduron personol a Macintosh sy’n cynnwys pecynnau meddalwedd safonol y diwydiant.

DULL ASTUDIO Mae’r cwrs yn un rhan amser, gan alluogi myfyrwyr i barhau i weithio tra’n ast udio.

BETH NESAF? I gael rhagor o wybodaeth neu i ym geisio, cysylltwch ag aelod o dîm y cwrs: Ian Fitzell

01443 668 560 imfitze1@glam.ac.uk Cleeve Jenkins

01443 668 680 cjenkins@glam.ac.uk neu ewch i’n gwefan: http://cci.glam.ac.uk/cids

7


MEDDWL YN WAHANOL BYW YN WAHANOL Rhif ffôn DU: 08456 434 030 Rhif ffôn Dramor: +44 (0)1443 654 450 ATRiuM, Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd, Stryd Adam, Caerdydd CF24 2FN, DU Mae Ysgol Diwydiannau Creadigol a Diwylliannol Caerdydd yn gyfadran o Brifysgol Morgannwg. Mae’r wybodaeth yn y llyfryn hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi.


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.