o l a h n e d d m a H D A I M L R O F O F D R D E Y P N D Y L A I B G D Y L IA O D D D A O R D A C A
/ 4 1 0 s 2 l l i i Ebr edd m 15 diw rth 20 w Ma
(A H AC H C A I AU D NE Â U E TH A I M ER Y TN C AR P WN EU ME R C
H
U AP
S
H AC
)
Y FLWYDDYN MEWN RHIFAU...
Y flwyddyn ariannol hon, wrth inni ddechrau datgelu canlyniadau ein rhaglen fuddsoddi gwerth miliynau o bunnoedd, rydym wedi dangos ein huchelgeisiau mwyaf ar gyfer y cymunedau lle rydym wedi ein lleoli ynddynt. Yn ddiau, y rownd hon o ailwampio ac adnewyddu gwerth £9 miliwn yw’r peth mwyaf rydym erioed wedi’i wneud, ac rydym yn gwybod — mae tystiolaeth ac ymchwil yn dweud wrthym — ei fod yn
1,153,586 OEDD CYFANSWM Y CYFRANOGI AR DRAWS POB GWEITHGARWCH GAN GYNNWYS:
arian na fydd dim ond yn cynyddu’r defnydd, ond bydd hefyd yn cyflwyno mwy o bobl newydd, o bob oedran a gallu, i fyd o iechyd a ffitrwydd nad oeddent yn gwybod ei fod yn addas iddynt hwy. Mae hwn yn gyfnod hollbwysig i Halo.
52,121 O WERSI NOFIO
Mae’r hyn fydd yn digwydd yn y deng mlynedd nesaf yn
6,754 O BLANT YN CAEL GWERSI NOFIO
dibynnu ar beth rydym yn ei wneud nawr.
MAE HWN YN GYFNOD HOLLBWYSIG I halo. MAE’R HYN FYDD YN DIGWYDD YN Y DENG MLYNEDD NESAF YN DIBYNNU AR BETH RYDYM YN EI WNEUD NAWR...
470,802 O YMARFERION MEWN CAMPFEYDD
Ar adeg pan mae toriadau wedi golygu bod llawer o sefydliadau hamdden wedi teimlo eu bod wedi’u gorfodi i ostwng y gwasanaethau maent yn eu cynnig,
479,509 O SESIYNAU NOFIO
gwnaethom groesawu’r cyfle i feddwl yn wahanol ac yn graffach am sut y gallem wella’r hyn rydym yn ei wneud. Fel menter gymdeithasol ac elusen gofrestredig gallwn ailfuddsoddi pob ceiniog o
tudalennau canlynol. Mae’r broses hon o
elw yn ôl i’n gwaith, felly roedd yn rhaid i hyn
adnewyddu ac adfer wedi bod yn gamp yn ei
ymwneud â chynyddu’r defnydd yn hytrach
hun, gyda’n rheolwyr a’n staff yn sicrhau bod
na gadael iddo wastadu neu ei adael i
gan ein cwsmeriaid y mynediad roedd ei angen
waethygu. Roedd yn rhaid iddo ymwneud
arnynt o hyd i gadw’n egnïol ac i gymryd rhan yn
â chreu canolfannau a chyfleusterau a
ystod y cyfnod pan oedd canolfannau’n cael eu
oedd yn cyfateb i’r galw cynyddol ac a oedd, yn ei dro, yn denu ffynonellau allanol o gyllid a chodi mwy o incwm i gynorthwyo’r gwaith rydym yn ei wneud.
Sgwrsio â Phrif Swyddog Gweithredol Halo, Scott Rolfe 1
Edrychwch ar y canlyniadau ar y
233,441 WEDI CADW LLE AR GYFER DOSBARTHIADAU FFITRWYDD ˆP YMARFER CORFF MEWN GRW 14,241 O BOBL LEOL A DDAETH YN AELOD O HALO
diweddaru a’u trawsnewid. Mae llwyddiant y broses
CYFANSWM O 22,882 O AELODAU
hon wedi helpu i adeiladu brand Halo yn ogystal â champfeydd, stiwdios ymarfer corff, parthau chwarae dan do i blant, canolfannau gymnasteg, cyfleusterau newid ac ardaloedd sba newydd. Fodd bynnag, nid oedd hyn dim ond yn ymwneud â sicrhau canolfannau sy’n gyfleusterau o’r radd flaenaf lle gall pobl weithio ac ymlacio ynddynt. Roedd yn ymwneud â sicrhau bod
A PHAN NAD OEDDENT YN YMARFER CORFF GYDA NI, ROEDD EIN HAELODAU’N DILYN YR HYN RYDYM YN EI WNEUD!
ein cyfleusterau’n adlewyrchu’r gwasanaeth cynyddol rydym yn ei gynnig a’n gweledigaeth ar gyfer “Creu Cymunedau Iachach” a’n hymrwymiad i hyn. Ein nod - sut rydym yn barnu ein llwyddiant - yw yn ôl nifer y bobl sy’n fwy egnïol yn amlach. Pan fydd pobl yn cerdded drwy ein drysau mae gennym y dulliau a’r timau i weithio gyda hwy beth bynnag yw eu man cychwyn, eu her, eu gallu neu eu hoedran. Rydym yn gweithredu mewn tair sir erbyn hyn (Pen-y-bont ar Ogwr, Swydd
Llwyddodd tudalennau Twitter a Facebook Halo i fynd â’r neges i lwyfan o dros 15,000 gyda 3000 o ddilynwyr ar Twitter (cynnydd o 10% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol) a 12,878 o ddilynwyr ar Facebook (cynnydd o 55% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol)!
Henffordd a Swydd Amwythig) ac wrth inni symud i mewn i 2016 a thu hwnt rydym yn ceisio meithrin partneriaethau newydd a chreu cyfleusterau newydd. Darllenwch ymlaen ac fe glywch gan dimau Halo am rai o’r uchafbwyntiau yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r effaith ar ein twf, ac ar y cymunedau lle rydym wedi’n lleoli, yn fwy na’r holl storïau unigol. Hoffwn ddiolch iddynt i gyd am eu hyblygrwydd a’u hymrwymiad, eu gweledigaeth a’u cefnogaeth. Ni fyddem yn wynebu dyfodol mor gyffrous hebddynt ac ni allem fod wedi cyflawni cymaint eleni heb yr ymrwymiad a ddangoswyd ganddynt.
2
Buddsoddi ar gyfer twf... Yr allwedd i gael mwy o bobl yn fwy egnïol yn amlach.
Llanllieni oedd y gymuned gyntaf i gael budd o well canolfan pan y gwnaethom gwblhau ein gwaith adnewyddu gwerth £1.3m ar y cyfleusterau sydd bellach yn cynnig: / JumpINGym — ardal chwarae meddal newydd i blant // Campfa newydd, fwy gan dyfu o 51 i 65 o orsafoedd /// Cyfleusterau newid a thoiledau wedi’u hadnewyddu //// Stiwdio ymarfer corff mewn grwˆp bwrpasol ///// Gwell mynediad i bobl anabl ////// Neuadd chwaraeon wedi’i hadnewyddu. Roedd yr ardal chwarae meddal ar restr ddymuniadau cannoedd o rieni yn y dref a oedd yn dymuno cael lle diogel i’w plant ymarfer corff, cymdeithasu a bod yn egnïol. Agorodd JumpINGym yn swyddogol ym mis Chwefror ac mae’n cynnig ardal benodol i blant bach, siglen i blant ag anableddau, siglen synhwyraidd a chyfleusterau newid i fabanod. Gan aros yn Llanllieni, cafodd y cae pob tywydd yng Nghanolfan Chwaraeon Bridge Street Halo ei adnewyddu ac, o ganlyniad cafodd y clybiau hoci eu harwyneb chwarae gorau am nifer o flynyddoedd.
Yn y flwyddyn ariannol flaenorol gwnaethom drawsnewid rhai o’n cyfleusterau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn y cyfnod hwn daeth canolfannau ledled Swydd Henffordd o dan ein hadain. Yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr a Phwll Nofio Hamdden Henffordd rydym wedi gweld yr effaith gadarnhaol y mae buddsoddi yn y cyfleusterau yn ei chael ar ddenu a chadw aelodau a thyfu cyfranogiad ac incwm cyffredinol. Yn ystod 2014/15 dechreuodd cynllun buddsoddi gwerth £9 miliwn (mewn partneriaeth â Chyngor Swydd Henffordd) gyda gwaith datblygu ac adnewyddu yn mynd rhagddo mewn canolfannau yn Llanllieni, Henffordd a’r Rhosan ar Wy.
3
4
Roedd y gwaith adnewyddu gwerth £2.3 miliwn yng nghanolfan Halo yn y Rhosan ar Wy nid yn unig yn galw am gynllunio perffaith ond hefyd y gallu i reoli pobl mewn ffordd ddeallus. Mae’r ganolfan hon yn cael ei gwerthfawrogi gan ei chymuned ac nid oeddem am golli un cwsmer o ganlyniad i drefniadau anochel i gau wrth i waith adeiladu ar raddfa fawr fynd rhagddo. Roedd angen inni roi’r diweddaraf i’r Rhosan ar Wy am gynnydd, cyfeirio disgyblion gwersi nofio i byllau nofio eraill Halo, cefnogi ymarferwyr brwd yn ein cyfleuster ffitrwydd dros dro a agorwyd gennym yn y dref yn ystod ein prosiect, a chynnig cymhellion i aelodau deithio i ganolfannau Halo eraill er mwyn iddynt allu mwynhau eu sesiwn ymarfer corff ddyddiol neu wythnosol.
Yna trodd ein sylw i Henffordd. Cyn lansiad swyddogol Canolfan Hamdden Henffordd ar ei newydd wedd yn haf 2015, agorwyd Canolfan Ragoriaeth Gymnasteg Ranbarthol newydd yn y ganolfan yng ngwanwyn eleni gyda chymorth grant £500,000 gan Sport England a’r addewid y bydd pobl ifanc bellach yn gallu darganfod pwˆer gymnasteg hamddenol, neu gael y cyfle i ddatblygu eu sgiliau os ydynt am ymuno â charfan gystadleuol; rydym hyd yn oed yn gobeithio denu rhai oedolion yn ôl i’r gamp! Y tu allan i’r adeilad, gwnaethom uwchraddio’r trac athletau gyda chwistrelliad arian parod o £2,000. Parhaodd y prosiect adnewyddu gwerth £4m i mewn i’r flwyddyn ariannol newydd ac yn haf 2015, gwnaeth y ganolfan ddatgelu’r canlynol:
Mae’n arwydd o ymrwymiad ein staff bod aelodau wedi aros gyda ni yn ystod y cyfnod hwn ac wrth i’r flwyddyn ariannol ddod i ben roeddem yn paratoi ar gyfer agor (ym mis Medi 2015) y ganolfan drawiadol hon ar ei newydd wedd a fydd yn gartref i’r canlynol: / Campfa newydd: ddwywaith maint y gampfa bresennol gyda 54 o orsafoedd — dwbl y nifer presennol o ddarnau o gyfarpar // Stiwdio ffitrwydd newydd — i gynorthwyo hyfforddiant personol ac amserlen dosbarthiadau ymarfer corff mewn grwˆp well /// Sawna, ystafell stêm a chawod nodwedd newydd //// Cyfleusterau newid newydd ffres ///// Neuadd nofio ac ardal i wylwyr ar eu newydd wedd ////// Derbynfa newydd a lle swyddfa.
/ Campfa newydd, fwy gan dyfu o 85 i 100 o orsafoedd // Cyrtiau sboncen wedi’u hadnewyddu /// Stiwdio fawr ar gyfer ymarfer corff mewn grwˆp //// Estyniad newydd i leoli JumpINGym — ardal chwarae meddal newydd i blant ///// Gweddnewid y caffi, y dderbynfa a’r ardal newid dan do ////// Ystafell gyfarfod newydd a lle swyddfa wedi’i adleoli.
Hefyd yn ystod y flwyddyn cafwyd dathliad arbennig iawn yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (yr enw newydd ar Ganolfan Hamdden Pen-y-bont ar Ogwr) ar ôl cwblhau cam terfynol y gwaith adnewyddu gwerth £4 miliwn ar hen ganolfan hamdden y dref. Roedd yn bleser gennym groesawu arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Melvyn EJ Nott OBE, i oruchwylio’r digwyddiad a datgan yn swyddogol bod y gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau gyda thros 80 o orsafoedd ymarfer, stiwdios ymarfer corff, cyfleusterau newid pwrpasol, cyfleusterau cynadledda, ardal chwarae meddal i blant JumpINGym, wal ddringo, llyfrgell, ystafell ffyrfhau gyda’i hamrywiaeth o beiriannau ymarfer corff pweredig, sba iechyd, derbynfa a chaffi cynllun agored.
5
6
Trefnir nifer o ddigwyddiadau cenedlaethol drwy gydol y flwyddyn i roi sylw i bopeth o iechyd y galon i smygu, bywyd teulu i iechyd dynion. Mae Halo yn cefnogi pob un ohonynt gydag amrywiaeth o fentrau wedi’u cynllunio i gynnwys a chefnogi pobl o bob rhan o’r gymuned.
/// Dathlodd Halo ddau ddiwrnod ymwybyddiaeth yn gysylltiedig ag iechyd tuag at ddiwedd y flwyddyn: Diwrnod Arthritis y Byd ym mis Hydref wedi’i ddilyn gan y Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Pobl ag Anableddau ym mis Rhagfyr — ymgyrchoedd rhyngwladol blynyddol i godi ymwybyddiaeth o nifer y bobl sy’n byw gyda’r cyflwr ac anableddau. Rhoddodd y digwyddiadau hyn gyfle inni hyrwyddo’r cyfleusterau a’r gwasanaethau cynhwysol, hygyrch sydd ar gael yn Halo. Gwahoddwyd pobl leol sy’n byw gydag arthritis a/neu anableddau i ymweld ag un o’n canolfannau, codi tocyn saith diwrnod am ddim, a siarad â’n staff am wasanaethau a chyfleusterau sydd ar gael i gyfateb i’w hanghenion, eu hiechyd a’u nodau ffitrwydd. Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gwnaethom ddatblygu a lansio gwefan bwrpasol yn hyrwyddo chwaraeon anabledd ar draws y sir — ‘Rhannu’r Wefr’.
DY MAE HALO YN YMWNEUD Â BOD MEWN CYTGORD Â’R GYMUNED A’I HANGHENION A CHEFNOGI MENTRAU IECHYD CENEDLAETHOL GYDA’R NOD O GAEL MWY O BOBL YN FWY EGNÏOL YN AMLACH,
meddai Alex Haines, Rheolwr Partneriaeth. 7
/ Wythnos Iechyd Dynion (Mehefin 2014) — gyda’r nod o hyrwyddo rôl hanfodol iechyd ataliol i fynd i’r afael â diabetes, canserau, clefyd y galon a mwy. I nodi’r digwyddiad blynyddol hwn gwnaethom wahodd teuluoedd a ffrindiau i helpu’r dynion yn eu bywyd i feddwl yn galetach am eu hiechyd a manteisio ar gyngor iechyd ataliol a’r cyfleusterau hamdden a all eu helpu i aros yn iach. Dathlwyd drwy gynnig tocyn saith diwrnod am ddim i ddynion ar draws y siroedd er mwyn iddynt gael blas ar yr hyn sydd gan Halo i’w gynnig.
// Rydym yn falch o’n cyfradd lwyddiant barhaus ar ein menter rhoi’r gorau iddi a chadw’n heini sy’n cynnig rhaglen gymorth 12 wythnos am ddim i smygwyr ac aelodaeth am bris gostyngol pan fyddant wedi cwblhau’r rhaglen. Gwnaethom ddefnyddio Diwrnod Dim Smygu ym mis Mawrth a Stoptober ym mis Hydref i hyrwyddo’r cyfle ac i lansio ymgyrch boster newydd gan groesawu mwy o smygwyr a gofrestrodd i wella eu hiechyd.
’R A M
// Yn haf 2014 lansiwyd gweithdai i ferched yn eu harddegau yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd y gweithdai wedi’u cynllunio i roi cyfle i ferched ifanc ledled y sir i glywed a dysgu am harddwch, iechyd a ffitrwydd gan dîm o arbenigwyr yn y diwydiant. Roedd y cwrs tri diwrnod wedi ychwanegu at ein mentrau a’n hymrwymiad i gynnwys y grwˆp hwn o bobl sy’n fwy anodd eu cyrraedd a’u hannog i barhau i gymryd rhan mewn chwaraeon a hamdden er mwyn inni fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â hunanhyder a delwedd y corff.
R E M
ED H C
D N Y
… D O / Roeddem yn falch iawn o gefnogi ymgyrch ‘This Girl Can’ Sport England, menter wedi’i chynllunio i ddileu’r rhwystrau (delwedd, profiad gwael yn yr ysgol, unigedd) sy’n aml yn atal menywod a merched rhag cymryd rhan mewn ymarfer corff. Fel rhan o ymgyrch genedlaethol i annog mwy o fenywod a merched yng Nghymru i fod yn fwy egnïol yn gorfforol, gwnaeth Halo hefyd barhau i gefnogi Chwaraeon Cymru i dreialu menter newydd o’r enw ‘sut mae’ch symud chi?’
DEWCH I ‘ACADEMI AMDANI FERCH’ SESIYNAU HWYL GAN ARBENIGWYR BLAENLLAW’R DIWYDIANT I gynnwys: Zumba/Dawns Ioga Dosbarth meistr trin gwallt Awgrymiadau gofal croen Clinique Cyngor harddwch ac iechyd
GWEITHDAI HAF I FERCHED 11-17 OED DYDD MAWRTH 28 - DYDD IAU 30 GORFFENNAF A DYDD MAWRTH 18 - DYDD IAU 20 AWST 10AM3PM CANOLFAN BYWYD PEN-Y-BONT AR OGWR £39.50 Y PERSON Beth fyddwch chi’n gwneud yr haf hwn? I gadw lle ffoniwch Wenda ar 07968 694517
GoGirlAcademy.co.uk
Mewn cydweithrediad â
Working in partnership for the people of Bridgend County Borough Yn gweithio mewn partneriaeth er mwyn pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
/// Cefnogwyd menywod lleol yn Swydd Henffordd drwy gynnig sesiynau am ddim i baratoi ar gyfer y Ras am Fywyd. Yn y chwe wythnos yn arwain at y ras elusennol flynyddol hon, gwnaeth hyfforddwyr ffitrwydd Halo helpu menywod i wella lefelau ffitrwydd, rhoi hwb i’w hegni, a dysgu am gynhesu, ymestyn, ac aros yn iach pan fyddant yn rhedeg.
8
Ni ddylai pris byth fod yn rhwystr i fod yn egnïol, a dyna pam rydym yn cynnig prisiau gostyngol i blant, pobl hyˆn, pobl ag anableddau, myfyrwyr amser llawn ac unigolion a theuluoedd sydd ar incwm isel. Ac yn 2014/15 roedd cyfanswm y gostyngiad mewn prisiau ar gyfer y grwpiau hyn werth £2 filiwn. Roedd hyn yn un o nifer o ffyrdd y gwnaethom weithio i sicrhau mynediad i chwaraeon a hamdden. Roedd y mentrau eraill yn cynnwys:
Rydym yn ymrwymedig i roi’r cyfle i blant a phobl ifanc gadw’n heini a meithrin cyfeillgarwch, ac mae’r ddau beth yma yn hanfodol i’w canlyniadau addysgol ac mewn bywyd. Rydym wedi cyflwyno miloedd o wersi nofio (6,754 i fod yn fanwl, ynghyd â bron 900 o leoedd ar ein cyrsiau carlam dysgu nofio am ddim) yn y flwyddyn ariannol hon — gan wynebu’r ffaith frawychus bod un rhan o dair o blant yn dal i adael yr ysgol gynradd yn methu nofio a dangos ein penderfyniad i newid hynny yn y siroedd lle rydym yn gweithio.
/ Symud pobl leol i’w marathon bach eu hunain... Gall y llam o gysur y soffa at her rhedeg dros elusen deimlo fel un mawr. Ond cynigiodd Halo bont rhwng y ddau drwy Glwb Loncian. Bob dydd Mawrth mae’r tîm rhedeg yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr yn mynd â dwsinau o redwyr o bob oedran a gallu (gan gynnwys newydd-ddyfodiaid i redeg) ar y trac glaswellt ac o amgylch yr ardal leol ar lwybr a gynlluniwyd ar gyfer eu hoedran a’u gallu ac ar gyflymder sy’n addas i’w hanghenion.
// Drwy ein hymrwymiad parhaus i Fenter Nofio am Ddim Llywodraeth Cymru daeth 19,233 i’r sesiynau o dan 16 oed a 83,967 i’r sesiynau dros 60 oed.
MAE HALO YN YMWNEUD Â BYWYD TEULUOL IACH,
meddai Andy Walker, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Dwˆ r.
Dathlwyd bywyd y teulu drwy Wythnos Genedlaethol y Teulu - y dathliad blynyddol mwyaf o deuluoedd a gwerthoedd teuluol cadarnhaol yn y DU. Yn ystod hanner tymor mis Mai anogwyd teuluoedd i neilltuo rhywfaint o amser gyda’i gilydd yn Halo gan gynnig nofio am ddim i’r teulu. Ar adeg pan mae’r tueddiadau cenedlaethol yn rhybuddio am ostyngiad yn nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n ymarfer corff, canolbwyntiodd Halo ar amrywiaeth o fentrau i sicrhau bod gan deuluoedd fynediad fforddiadwy, hawdd i chwaraeon a hamdden. Diolch i gymorth gan Gynghorau Tref a Chymuned roedd rhai o’r mentrau hyd yn oed am ddim drwy CHWARAE AM OES. Llwyddwyd i gadw disgyblion i symud yn ystod gwyliau’r ysgol drwy gynnig amrywiaeth mawr o weithgareddau iddynt gan gynnwys nofio, celfyddydau, snorcelio, crefftau, pêl-fasged, sgiliau syrcas, gymnasteg a rygbi.
SESIWN YMARFER 10 MUNUD AR THEMA DISNEY I’R PLANT! Yn ystod mis Awst aethom i mewn i Ganolfan Siopa’r Hen Farchnad yn Henffordd a — thrwy gymorth rhywfaint o hud Disney — dangoswyd i deuluoedd bwysigrwydd ymarfer corff gyda’n sesiwn ymarfer 10 munud dros yr haf. Bob diwrnod gwnaethom wahodd plant i ymuno mewn gemau a gweithgareddau a ysbrydolwyd gan Disney ac roeddem yn gallu rhoi cyngor iddyn nhw a’u teuluoedd ar sut y mae cadw’n egnïol mewn pyliau o 10 munud yn arwain at well iechyd. Roedd y fenter yn rhan o ymgyrch Newid Am Oes a Disney dros yr haf a gefnogwyd gan Hamdden Halo a Gwasanaeth Hyfforddi Ffordd o Fyw Iach Iechyd Cyhoeddus Cyngor Swydd Henffordd. Fe’i cynlluniwyd i hyrwyddo’r ffaith bod angen 60 munud o ymarfer corff ar blant oed ysgol bob dydd ac i helpu teuluoedd i ddod o hyd i ffyrdd haws, llawn hwyl o gael yr ymarfer corff hwn. Rhoddwyd talebau nofio am ddim er mwyn i deuluoedd allu nofio mewn un o’n pyllau nofio a — phan oeddent yn gwneud hynny — rhoddwyd cyfle i oedolion hawlio tocyn mynediad 7 diwrnod am ddim er mwyn iddynt roi cynnig ar bopeth arall sydd gan Halo i’w gynnig.
9
/// Daeth pêl-droed cerdded i Sir Peny-bont ar Ogwr, gyda chlwb newydd yn chwarae fersiwn arafach ond yr un mor gyffrous o’r gêm brydferth. Mae’r gêm wedi’i chynllunio’n arbennig i’r rhai 50 oed a hyˆn nad ydynt am roi’r gorau i’w hoff chwaraeon.
MAE HALO YN YMWNEUD Â MYNEDIAD, HYGYRCHEDD, PARTNERIAETHAU A CHAEL Y GYMUNED AR EIN HOCHR,
/// Mae llyfrgelloedd yn bwysig... Nid yw geiriau a’r gampfa yn bartneriaid amlwg ond llwyddom i barhau i gynnig gweithgareddau a digwyddiadau o’r fath yn y llyfrgelloedd yn ein canolfannau. Roedd ‘Diwrnod y Llyfr yn Halo’ yn un enghraifft, pan ddaeth plant i Ganolfan Bywyd Cwm Garw mewn gwisg ffansi a gwisgoedd Cymreig i glywed straeon yn y llyfrgell a chael rhywfaint o hwyl bownsio a chwarae gemau parasiwt yn y neuadd chwaraeon.
meddai Carl Gregg, Rheolwr Iechyd a Ffitrwydd.
RYGBI’N SGORIO ETO... Daeth cefnogwyr y Gweilch ynghyd yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr i gwrdd â’u harwyr chwaraeon. Gwnaeth mwy na 70 o gefnogwyr rygbi iau fwynhau celf a chrefft am ddim, sesiynau hyfforddi rygbi, a chyfle hirddisgwyliedig i gael eu heitemau cofiadwy wedi eu llofnodi gan y chwaraewyr.
10
CEFNOGI TALENT CHWARAEON LLEOL — SEFYDLIAD CHWARAEON HALO
/ Agorodd ein cyfleuster gymnasteg newydd gwych yn Henffordd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon ac mae’n gyfle i gymnastwyr ifanc ddatblygu eu sgiliau mewn canolfan ragoriaeth benodedig o’r radd flaenaf.
Mae ein Sefydliad Chwaraeon (sy’n cydnabod nad oes gan 80% o athletwyr uchelgeisiol ddigon o gyllid i gefnogi eu huchelgeisiau a’r hyfforddiant a’r cystadlaethau hanfodol sy’n eu cynorthwyo i symud ymlaen i lefel genedlaethol a rhyngwladol) yn cefnogi athletwyr sy’n cynrychioli eu sir a’u gwlad drwy gynnig aelodaeth am ddim a chymorth ariannol iddynt. Cafodd y Sefydliad gymorth parhaus gan ei ddau Noddwr, Rob Howley, un o hyfforddwyr cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru a chyn-chwaraewr URC, a Sascha Kindred OBE, sydd wedi ennill chwe medal aur nofio yn y Gemau Paralympaidd. Yn ystod 2014/15 mae 147 o athletwyr sy’n cynrychioli dros 50 o chwaraeon gwahanol (gan gynnwys chwaraeon anabledd) wedi elwa o dros £39,000 o gymorth gan y Sefydliad.
// Cydweithiodd Halo â sefydliadau ar draws Sir Pen-y-bont ar Ogwr i lansio Sêr Chwaraeon Halo, un o’r prosiectau chwaraeon mwyaf cynhwysfawr i blant yn y rhanbarth, wedi’i gynllunio i blant 3 i 11 oed. Mae’r rhaglen hon yn canolbwyntio ar gyfeillgarwch a hwyl a dysgu sgiliau newydd fel sut i ddringo creigiau, reidio beic, chwarae rygbi neu godi hwyl, trampolinio neu gymnasteg (mae’n rhestr hir - ceir cynifer â 15 o opsiynau gwahanol). Gwnaethom hefyd weithio gyda gweithwyr proffesiynol ym maes chwaraeon y tu allan i Halo — gan gynnwys ysgolion bale, clybiau chwaraeon lleol ac Undeb Rygbi Cymru — i gyflwyno amserlen lawn a chyffrous.
MAE GWEITHGAREDD YN HALO YN YMWNEUD Â PHROFIADAU A FFRINDIAU NEWYDD A’R CYFLEOEDD SY’N HELPU POBL IFANC I DDISGLEIRIO
/// Ffitrwydd i blant yn eu harddegau — Mae ffitrwydd i blant yn eu harddegau yn galluogi plant yn eu harddegau (am gost gymharol fach) i gael mynediad i holl gyfleusterau Halo yn ystod gwyliau’r ysgol. Drwy’r fenter gwelwyd ugeiniau yn rhagor o bobl ifanc yn y pwll nofio neu ar y cwrt badminton, yn ymuno â dosbarth ymarfer corff neu yn y gampfa yn eu hamser rhydd, gan fuddsoddi yn eu hiechyd, gwneud ffrindiau newydd a magu hyder. Manteisiodd 295 o blant yn eu harddegau ar y cynnig hwn yn ystod haf 2014.
meddai’r Rheolwr Cyffredinol, Richard Preece a weinyddodd yn lansiad y ganolfan gymnasteg newydd yng Nghanolfan Hamdden Henffordd — sydd wedi cael cymorth grant gwerth £500,000 gan Sport England. 11
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr gwnaeth naw athletwr lleol sy’n cael cymorth gan y Sefydliad Chwaraeon gynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad mewn athletau, para-feicio, triathlon, bowls lawnt, nofio a phêl-rwyd; roedd Aled Davies, MBE a Chapten Tîm Cymru yn eu plith.
//// Roedd myfyrwyr a oedd gartref dros y gwyliau neu ar wyliau o addysg amser llawn lleol yn gallu mwynhau aelodaeth tri mis am bris dau dros haf 2014 — arbediad gwych a barnu wrth y rhifau, a ffordd boblogaidd o sicrhau eu bod yn cadw’n egnïol pan oeddent i ffwrdd o’u desg. Manteisiodd dros 350 o fyfyrwyr ar y cynnig hwn.
Athletwyr Sefydliad Chwaraeon Halo — Swydd Henffordd
///// Gwnaeth dros 1,000 o blant ysgolion cynradd lleol fwynhau sesiynau a gweithgareddau rhagflas yn ystod Gemau Ieuenctid yr Haf a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Henffordd.
Athletwyr Sefydliad Chwaraeon Halo — Sir Pen-y-bont ar Ogwr
12
Rydym wedi bod yn cydweithio â meddygon teulu a sefydliadau iechyd lleol i gyflawni rhaglenni iechyd i fynd i’r afael â bom amser clefyd y galon, gordewdra a diabetes. / Yn 2014/15 dathlwyd ail flwyddyn ers lansio’r rhaglen Ffordd o Fyw Iach yn Swydd Henffordd gyda’r nod o gynorthwyo pobl 40-75 oed i fod yn fwy egnïol yn gorfforol. Gan weithio gyda meddygon teulu ar draws y sir, rydym yn defnyddio rhaglenni newid ymddygiad i gynorthwyo agenda ataliol y sectorau iechyd. Unwaith eto, roedd galw mawr am y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff a gyflwynwyd drwy ein cyfleusterau yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, a rhoddwyd cymorth i 1,186 o bobl. Aeth staff y Cynllun y tu hwnt i ffiniau’r canolfannau i roi cyngor a chanllawiau mewn digwyddiadau fel Diwrnod Camu Allan dros Strôc a’r Sioe Deithiol Hybu Adferiad ar ôl Canser.
MAE HALO YN YMWNEUD AG IECHYD CYMUNEDOL,
// Gwnaethom barhau i gyflwyno cwrs ffordd o fyw iach i blant, sef MEND (Mind, Exercise, Nutrition...Do it!). Mae MEND yn sefydliad rhyngwladol sy’n gweithio gyda grwpiau fel Halo i fynd i’r afael â phroblem gynyddol gordewdra yn ystod plentyndod. Gydag un o bob tri o blant yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr dros bwysau iach, mae rhaglen MEND yn helpu teuluoedd lleol i ddod yn fwy heini ac yn iachach. Mae hon yn rhaglen heriol iawn (o ran recriwtio a chadw teuluoedd), ond mae’r gwaith caled yn dwyn ffrwyth ac mae’r cynllun yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae data a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod canran y newid o ran plant 4 i 5 oed yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr sydd yn ordew neu dros bwysau rhwng 2012/13 a 2013/14 wedi gostwng dros 4%, gan berfformio’n well na phob awdurdod lleol arall yng Nghymru ac yn well na’r cynnydd o 0.3% yng nghyfartaledd Cymru.
“Rydym yn gwybod yr heriau iechyd mae ein cymunedau’n eu hwynebu, a chredwn ein bod yn rhan o’r ateb i anweithgarwch. Rydym yn gyffrous i weld sut y bydd pethau’n datblygu wrth inni barhau i weithio mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus” meddai Jeremy Rowe, Rheolwr Partneriaeth
GET WITH THE PROGRAMME...
/ Workshops and guest speakers / Sony Wellness Centre / Advice and guidance from a fitness professional / Group exercise classes
Er bod cyflogwyr ledled y DU yn ystyried sut i godi pontydd rhwng y gweithle a lles, roedd yn bleser gan Halo nodi bod y fenter lles yn y gweithle a reolir ganddo yn un o gyflogwyr mwyaf Pen-ybont ar Ogwr, Canolfan Dechnoleg Sony UK ym Mhencoed ar flaen y gad, ac ar fin dechrau ar ei hail flwyddyn. Llwyddodd y rhaglen i ennill Gwobr Flame genedlaethol Ukactive am yr effaith a gafodd ar y gweithlu, gyda mwy o staff yn ymgymryd â mentrau iechyd a ffitrwydd yn y gwaith ac — o ganlyniad — yn rhoi mwy o flaenoriaeth i’w hiechyd.
/ Stop smoking support / Healthy lifestyle tips
Rydym yn dod â gweithwyr cwmnïau eraill ac aelodau o grwpiau/ cymdeithasau i mewn i’n byd o les, hefyd, drwy ein cynllun aelodaeth gorfforaethol. Mae hyn yn ein galluogi i weithio gyda busnesau a chlybiau lleol i hyrwyddo gwell iechyd, a chynnig mynediad gostyngol i’n canolfannau i’w gweithwyr a’u haelodau. Ar hyn o bryd mae gennym oddeutu 4000 o bobl sy’n cael budd o gyfraddau ffafriol drwy aelodaeth gorfforaethol/grwˆp.
MAE HALO YN YMWNEUD Â BOD YN IACH RHWNG 9 A 5 A THU HWNT,
meddai Stuart Mitchell, Cydlynydd y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
13
Gwyddom fod gennym rôl i’w chwarae yn iechyd gweithlu’r siroedd. Nid dim ond drwy ein cynllun hyfforddiant a phrentisiaeth staff arloesol ein hunain (gweler tudalen 9), ond drwy gynorthwyo busnesau eraill hefyd a’u helpu i flaenoriaethu a hyrwyddo lles yn y gweithle.
Tanni Grey-Thompson, un o athletwyr Paralympaidd gorau erioed Prydain, yn cyflwyno gwobr genedlaethol cyflawniad eithriadol Flame i Halo a Chanolfan Dechnoleg Sony UK
meddai Jeremy Rowe, Rheolwr Partneriaeth a glywodd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon fod rhaglen lles gweithlu Halo ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ennill gwobr ‘Cyflawniad Eithriadol’ yng Ngwobrau Flame Cenedlaethol UKactive. 14
/ Mae’n bleser gennym ein bod wedi sefydlu partneriaeth newydd gyda Lifetime Training a fydd yn ein helpu i greu rhaglen datblygu’r gweithlu wedi’i rheoli’n llawn i wella ein hyfforddiant staff presennol i greu llwybrau ar gyfer cynnydd a datblygu proffesiynol. Yn ganolog i’r bartneriaeth newydd hon mae rhaglen brentisiaeth wedi’i theilwra a fydd yn cyflwyno hyfforddiant seiliedig ar waith ar draws pob adran yn Halo, sydd eisoes wedi creu cyfleoedd swyddi i bedwar o blant yn eu harddegau.
// Gwnaethom ddathlu penodi Scott Rolfe yn Brif Swyddog Gweithredol Newydd. Ymunodd Scott â Halo 12 mlynedd yn ôl fel un o sylfaenwyr yr uwch dîm rheoli ac ers hynny bu’n gyfarwyddwr gweithrediadau a rheolwr gyfarwyddwr ar ei gangen fasnachu.
MAE HALO YN YMWNEUD AG ARFER GORAU. MAE EIN LLWYDDIANT O GANLYNIAD I YMRWYMIAD EIN STAFF I IECHYD Y GYMUNED LEOL A’U HARBENIGEDD — BOED DRWY GYFLWYNO DOSBARTHIADAU FFITRWYDD, DYSGU NOFIO, CYNNAL A CHADW CYFARPAR NEU GYNORTHWYO’R RHAI SY’N CAEL EU HATGYFEIRIO GAN EU MEDDYG TEULU,
/// I gynorthwyo cynllunio ar gyfer olyniaeth lansiwyd ein rhaglen datblygu rheolwyr mewnol ar gyfer darpar reolwyr; mae 20 o staff yn cymryd rhan ar hyn o bryd.
//// Yn ystod y flwyddyn cymerodd 400 arall o staff ran yn y Rhaglen Sêr. Yn seiliedig ar waith Mary Gober, arbenigwraig rhyngwladol ym maes ymgysylltu, perthnasoedd busnes a boddhad cwsmeriaid, roedd yr hyfforddiant hwn yn ymwneud â helpu staff i fyw gwerthoedd Halo, i wella’r profiad i gwsmeriaid ac, yn y pen draw, ein perfformiad busnes. Mae’r rhaglen yn datblygu pobl gadarnhaol, sy’n canolbwyntio ar atebion ac sy’n cyflawni perfformiad brig, adeiladu diwylliannau cryf a rhagori ym mhob agwedd ar fywyd busnes.
meddai Sara Gosling, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol. 15
Gwnaeth ein tîm marchnata ailwampio’r cyfan o wefan Halo, i’w gwneud yn gyflymach, yn haws ac yn fwy hygyrch i’r nifer cynyddol o bobl (706,922 o ymweliadau yn ystod y flwyddyn) sydd am wybod beth gallant ei wneud i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd drwy glicio’r llygoden. Mae’r adborth ar y wefan wedi bod yn wych. Os nad ydych eisoes wedi gwneud, ewch i www.haloleisure.org.uk i weld y canlyniad gorffenedig.
///// I fodloni’r galw cynyddol am wersi nofio i blant, hyfforddwyd 22 o hyfforddwyr nofio newydd. Gwnaethom hefyd uwchsgilio hyfforddwyr presennol; mae 17 o’n hyfforddwyr bellach wedi cymhwyso ar lefel 2 — y cymhwyster lefel uchaf ym maes campau dwˆr. Mae’r tîm yn gyfrifol am y rhaglen dysgu nofio sy’n cael ei mwynhau gan 6,754 o blant ar draws naw o byllau nofio Halo a 52,121 o wersi nofio cyffredinol.
GWYDDOM FAINT O YMWELIADAU Â’N CANOLFANNAU SY’N DECHRAU AR-LEIN FELLY ROEDDEM AM SICRHAU MAI EIN GWEFAN YW’R PORTH PERFFAITH I IECHYD DA, GAN ARDDANGOS BETH SYDD AR GAEL AR GARREG EICH DRWS,
LLEDAENU’R NEGES... / Digwyddiadau allgymorth ac ymgysylltu â’r gymuned — roedd gan Halo bresenoldeb mewn 88 o ddigwyddiadau cymunedol fel ffeiriau, carnifalau, arddangosfeydd cyngor iechyd a sesiynau gweithle.
// Amcangyfrifir bod gwerth £86,000 o gyhoeddusrwydd am ddim wedi’i gynhyrchu drwy gysylltu â’r cyfryngau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a masnachol.
meddai’r Rheolwr Marchnata, Cathy Fletcher.
16
MATERION ARIANNOL
MAE ADBORTH GAN GWSMERIAID YN LLUNIO’R HYN RYDYM YN EI WNEUD YN EIN CANOLFANNAU AR DRAWS Y TAIR SIR LLE RYDYM YN GWEITHREDU,
Datganiad o Weithgarwch Ariannol Halo Leisure Services Limited am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2015, cyn addasiadau FRS 17 yn ymwneud â chynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio’r elusen.
Crynodeb o’r Cyfrif Incwm a Gwariant am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2015
meddai Iain Hayes, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid.
Mae ein hawydd i gael sylwadau gan gwsmeriaid yn adlewyrchu ein polisi ar gyfathrebu. Mae popeth a wnawn — o greu ffurflenni adborth cwsmeriaid a fforymau aelodau i erthyglau yn y wasg, negeseuon post i gwsmeriaid a sgyrsiau ar gyfryngau cymdeithasol — yn broses gyfathrebu ddwy ffordd sy’n rhoi’r diweddaraf i bob cwsmer ac yn ein galluogi i gadw mewn cysylltiad â’u hanghenion a’u disgwyliadau. I gryfhau hyn cyflwynwyd offeryn o’r enw Listen360 i’n helpu i reoli adborth yn effeithlon a defnyddio sylwadau uniongyrchol ac onest cwsmeriaid i wella gweithrediadau busnes, unioni diffygion, a darparu gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol. Mae Listen360 yn dweud wrthym pa rannau o’n busnes y mae cwsmeriaid yn fodlon arnynt a pha rai y gall fod angen gwaith arnynt. Mae’n broses sydd wedi helpu i lunio’r gwaith adnewyddu eleni, a bydd yn llunio popeth newydd a gyflwynir y DS AR flwyddyn nesaf. EW e and eR id
ic s dev ity in e . IES king l activ centr LOR a CA trac . re and profile NE physic e leisu EL O Z LEV online RT d MY t for all e of th e O F F nalis r E, E rso effo outsid RAT in a pe RT
Rydym bob amser yn edrych ar ddatblygiadau newydd a sut y gallant gynorthwyo ein cwsmeriaid. Er enghraifft, eleni daeth gwyddor chwaraeon syml i Lanllieni ar ffurf technoleg olrhain Y MYZONE. Mae’r system yn wregys cyfradd y WH galon sy’n cael ei wisgo yn ystod ymarfer corff ac sy’n galluogi aelodau i weld, mewn amser real, beth sy’n digwydd i’w corff — cyfradd y galon, lefelau ymdrech, hyd yn oed y calorïau y maent yn eu llosgi — wrth iddynt ddechrau symud mewn dosbarth ffitrwydd, hyfforddi yn y neuadd chwaraeon, neu ymarfer yn y gampfa. Gallant hefyd wisgo’r gwregys wrth ymarfer yn yr awyr agored. Mae’r data yn cael eu cofnodi o fewn adroddiad gweithgaredd personol ar-lein y defnyddiwr, gan ei alluogi i fewngofnodi ar unrhyw adeg i weld pa mor agos ydyw at gyrraedd ei nodau.
s A HE result lays nd disp als a belt ise, go NE ZO r exerc Y M you See
99 P £ Price RR motional
ck. dba fee k. by . en trac ULTS driv ou on S RE y n is atio keeps elivers v ti Mo back kd d trac on Fee n ying ta tio S cep
MAE HALO YN YMWNEUD Â’R DYFODOL,
meddai Kieram Hallam, Goruchwyliwr Ffitrwydd. 17
re ls at
etai
re d
Mo
MAE’R STORI YN PARHAU... Mae’r gwaith adnewyddu wedi parhau ym mlwyddyn ariannol 2015/16 gyda’r ganolfan yn y Rhosan ar Wy yn ailagor yn haf 2015. Yna bydd y tîm yn canolbwyntio ar Ganolfan Hamdden Waddoledig Bridgnorth (a ymunodd â Halo ym mis Awst 2015) a Phwll Nofio Ledbury, a gwnaed gwaith datblygu mawr yn y ddau safle yn ystod 2016/17. Mae gennym gynlluniau i reoli Canolfan Hamdden Gymunedol Lady Hawkins yn Swydd Henffordd.
RHAGOR CYN HIR...
£49
Halo
le of peop the for ther
king Wor
toge
Pro
.50
2014/15 £’000
2013/14 £’000
ADNODDAU SY’N DOD I MEWN Ffi reoli gan Gyngor Swydd Henffordd Gweithrediadau masnachol Ffi reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Adnoddau yn dod i mewn o weithgareddau elusennol Incwm arall CYFANSWM YR INCWM
683 138 1,580 9,450 238 12,089
924 110 2,089 9,363 181 12,667
GWARIANT AR ADNODDAU Costau uniongyrchol Costau staff Costau adeiladau Hysbysebu a hyrwyddo Gweinyddu swyddfa Cyllid a chydymffurfio Cyllid arall TAW anadferadwy Offer Arall Dibrisiant Llywodraethu CYFANSWM Y GWARIANT
642 7,180 2,205 172 405 225 447 101 364 320 15 12,076
642 7,522 2,494 184 400 125 386 52 476 168 15 12,464
13
203
2015 £’000
2014 fel yr ailddatganwyd £’000
2,788 1,039 (1,236) (197) (1,751) (243) 597
2,910 1,382 (1,620) (238) (1,816) (272) 584
Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen INCWM NET
584 13
381 203
Cronfeydd a Gariwyd Ymlaen
597
584
INCWM /(GWARIANT) NET shire ford Here
Crynodeb o’r Fantolen ar 31 Mawrth 2015
Asedau sefydlog Asedau cyfredol Credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn Rhwymedigaethau cyfredol net Credydwyr sy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn Croniadau ac incwm gohiriedig ASEDAU NET
Mae’r uchod yn grynodeb o ganlyniadau masnachu cyn addasiadau FRS17 sy’n ymwneud â chynllun pensiwn â buddion wedi’u diffinio’r elusen. Mae datganiad archwiliedig o weithgareddau ariannol ar gael ar gais.
18
(A H AC H C A I AU D NE U YM C EU R C
H
U AP
S
H AC
)
‘Dywedwch’ Bopeth Wrthym Rydym yn cymryd eich sylwadau o ddifrif. Defnyddiwch un o’r dulliau canlynol i ‘ddweud!’ wrthym beth yn union yw eich barn ar eich profiad o Halo: ‘Dywedwch’ wrthym Cwblhewch gerdyn ‘Dywedwch wrth Halo’, sydd ar gael yn eich canolfan Halo leol. Ymwelwch â ni www.haloleisure.org.uk/tellhalo Ysgrifennwch atom Cewch ein cyfeiriadau ar ein gwefan www.haloleisure.org.uk
EISIAU CYSYLLTU Â NI? Ffoniwch 0300 012 1223 ar gyfer Halo Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a 0300 012 1222 ar gyfer Halo Swydd Henffordd
www.haloleisure.org.uk | info@haloleisure.org.uk SWYDDFA GOFRESTREDIG: HALO SUPPORT CENTRE Halo Leisure Services Ltd, Lion Yard, Broad Street, Leominster HR6 8BT 01568 618 980 Cwmni Cofrestredig rhif 4335715. Rhif Elusen Gofrestredig Cymru a Lloegr: 1091543
Sganiwch y cod hwn ar eich Ffôn Clyfar ac ewch i’n gwefan