Halo Annual Report 2018 - Welsh language

Page 1

#MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM

Hamdden

UCHAFBWYNTIAU IONAWR

–

RHAGFYR

2018

Ymddiriedolaeth Menter Gymdeithasol a Hamdden Flaenllaw Rhoi Pobl o flaen Elw a Hybu Iechyd a Llesiant Cymunedol


NEGES GAN GADEIRYDD EIN BWRDD YMDDIRIEDOLWYR B RYA N W H I T E

“Nid yw cyfuno cyngor i hybu iechyd da a diwylliant Halo (#mwynachampfa) â neges fasnachol i hyrwyddo busnes cynaliadwy yn beth hawdd ei wneud. Mae’n ymwneud â rhoi gwybod i’r cyhoedd bod nodau busnes Halo yn cefnogi ein nodau cymdeithasol a chymunedol ac i’r gwrthwyneb. Ar unrhyw un diwrnod rydym yn ceisio denu cwsmeriaid newydd wrth, ar yr un pryd, fodloni disgwyliadau’r miloedd o bobl sy’n cerdded drwy ddrysau ein campfeydd a’n dosbarthiadau ymarfer corff, ein neuaddau chwaraeon a’n sbâu, gan gynnig y gwasanaeth a’r gefnogaeth orau am bris gwych.

Fel menter gymdeithasol rydym yn gwybod bod elw’n bwysig oherwydd ei fod yn ein galluogi i fuddsoddi yn ôl yn yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym am i gwsmeriaid sylweddoli bod eu cefnogaeth dros y model menter gymdeithasol hwn drwy ddewis Halo yn fuddiol i’r gymuned ehangach yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain. Ond nid yw hynny’n effeithiol oni bai bod ein cwsmeriaid yn gwybod eu bod yn cael eu gwerthfawrogi – ein bod ni’n rhoi gwerth eithriadol am arian iddynt ac yn gwneud popeth sy’n bosibl i hybu eu hiechyd. Fel arfer mae tîm cyfathrebu Halo yn ceisio gwneud hynny mewn neges drydar 280 gair (sy’n sicr yn her!), ond yn y cyhoeddiad blynyddol hwn rydym yn ffodus bod gennym ychydig yn fwy o le i rannu ein stori am 2018 a sut mae blaenoriaethau’r fenter gymdeithasol hon yn gweithio’n ymarferol. Rydym wedi teithio ledled y pedair sir lle rydym yn gweithio a gwahodd rhai o’n staff a’n cwsmeriaid i adrodd am eu profiadau gyda Halo, a’r effaith ar eu bywydau, eu ffitrwydd a’u hiechyd. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ei ddarllen ac yn gallu dathlu blwyddyn lwyddiannus arall gyda ni ym maes iechyd a hamdden cymunedol.”

CYNNWYS MAE MENTRAU CYMDEITHASOL YN BWYSIG... BETH MAE GWEITHIO I BOBL NID ER ELW YN EI OLYGU MEWN GWIRIONEDD?

4

MAE YMGYSYLLTU’N BWYSIG... SUT RYDYM YN ESTYN ALLAN I BOBL YNG NGHYFFINIAU EIN CANOLFANNAU?

5

MAE YMDRECH TÎM YN BWYSIG… SUT MAE EIN HYMDRECH NI YN HELPU I WELLA IECHYD CYMUNEDAU LLEOL?

6

MAE CYNHWYSIANT YN BWYSIG... BETH MAE CYNHWYSIANT YN EI OLYGU I GWMNI LLAWN GOFAL?

7

MAE IECHYD MEDDWL YN BWYSIG... SUT MAE YMARFER CORFF YN RHAN O’R NEGES BWYSIG HON?

8

MAE ATAL AFIECHYD YN BWYSIG... SUT GALL APWYNTIAD GYDA MEDDYG TEULU EICH ARWAIN AT EIN DRWS NI?

9

MAE STAFF YN BWYSIG... AM WELD EU HALO YN DISGLEIRIO?

10-11

12 MIS O SYMUD

12-13

MAE CYMUNEDAU’N BWYSIG... SUT RYDYM YN GWEITHIO GYDA’R CYMUNEDAU O’N HAMGYLCH

14

PARTNERIAID... DIOLCH ARBENNIG I’R RHAI SY’N EIN HELPU I GAEL MWY O BOBL YN FWY EGNÏOL YN AMLACH!

15

Bryan White BEM Bwrdd Ymddiriedolwyr Halo – Cadeirydd

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 0 18

CY NNWY S


4

5

MAE MENTRAU CYMDEITHASOL YN BWYSIG...

POBL O FLAEN ELW. MAE YMGYSYLLTU’N BWYSIG...

BETH MAE GWEITHIO I BOBL NID ER ELW YN EI OLYGU MEWN GWIRIONEDD?

SUT RYDYM YN ESTYN ALLAN I BOBL YNG NGHYFFINIAU EIN CANOLFANNAU?

Nid yw bob amser yn hawdd cyfuno uchelgeisiau menter gymdeithasol ag ymdrechion busnes i gystadlu â rhai eraill, ond mae’n hanfodol yn ôl Scott Rolfe, Prif Swyddog Gweithredol Halo.

Mae gwefan Halo yn dangos ein dewis helaeth o weithgareddau, ond efallai nad yw bob amser yn esbonio i ba raddau rydym yn estyn allan i gymunedau lle maen nhw, gan ddarganfod ffyrdd newydd o ddod â phobl ynghyd a hyrwyddo cyfleoedd i fod yn iach yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn feddyliol. Ein Partneriaeth Byw’n Iach ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r enghraifft berffaith o hyn. Aethon ni i un o’n canolfannau yn y rhanbarth – Cwm Ogwr – i weld sut mae partneriaeth o’r fath yn gweithio’n ymarferol, a’r gwahaniaeth mae’n ei wneud.

Scott Rolfe

OFE

SE

S SIO N ALI

SPE

CT

R

Mae canolfan hamdden ar ddydd Sadwrn bob amser yn fwrlwm o egni. Pobl ifanc yn dod i chwarae pêl-droed, selogion y gampfa yn ciwio am eu sesiwn ymarfer, grwpiau’n symud i ddosbarth aerobeg eithaf swnllyd. Ond yma yng Nghwm Ogwr mae dosbarth arall nad yw’n cael ei weld mor aml yn y fath leoliad. Mae grŵp o drigolion o’r gymuned yn cyrraedd, gan gynnwys rhai o’r cartref gofal lleol nes i fyny’r heol, gan ddadrolio matiau ar gyfer Tai Chi, sgwrsio â’i gilydd ac unrhyw un arall sydd wedi dewis ymuno â’r

RE

u

PR

CE

as

TIE S

VI

nd positiv ed iffe

ea abl

ain st

Creating Healthier Communities

Makin g

N

U NI

h

SS

PE O

gp

SI

NE

y encouragin

tivity and he l ac alt hie ica ys

re

eb nc

yles.

IN T

BU

E PL

SI O N

EG

PA S

TY RI

M COM

TIO IN N O VA

Roedd eleni’n flwyddyn gyffrous i weithio ym maes iechyd a hamdden. Rydym yn gwybod maint ein cyfraniad at y gymdeithas. Mae canolfannau hamdden yn cael effaith enfawr ar iechyd a llesiant (mae nofio ar ei ben ei hun yn codi rhyw chwarter biliwn o bunnoedd o ran gwerth cymdeithasol ledled y DU) ond maent hefyd yn fuddiol i faterion ehangach fel addysg ac atal troseddu (er nad ystyrir bod y sector gweithgareddau corfforol yn effeithio arnynt yn draddodiadol).

“... hyb cymunedol a’r lle i fynd iddo sy’n ymwneud ag ymwybyddiaeth ofalgar a symudedd cymaint â thenis a melinau traed.”

Halo CEO

st ife

Ond er bod rhoi pobl o flaen elw yn hollbwysig i ni – ac rydym yn gweithio ar sail egwyddorion masnachol er lles cymunedau – rydym yn masnachu mewn marchnad gynyddol gystadleuol a rhaid i ni fod yn ariannol graff a chanolbwyntio’n fawr iawn. Rhaid i ni baru ein ffocws cymunedol â chynnig masnachol sy’n ddeniadol ac sy’n mynd y tu hwnt i’r hyn y mae cwmnïau preifat eraill yn ei wneud. Ac o ran y gystadleuaeth, roedd rhaid i ni wynebu

cystadleuaeth gref yn 2018. Felly nod ein gwaith fel menter gymdeithasol yw ychwanegu gwerth at gynnyrch sy’n berthnasol ac sy’n wasanaeth sy’n gallu achub bywydau a newid bywydau. Mae’n her i Halo – dyma’r brif her i bob menter gymdeithasol – ond rydym yn ymateb iddi ym mhob ffordd. Dyma beth sydd wedi cyfeirio buddsoddiadau dros y blynyddoedd diwethaf, ac sydd wedi llywio ein cyfeiriad yn 2018: yr hyfforddiant a gynigiwyd i’n staff, yr offer a symudwyd i’n campfeydd, y gweithgareddau a drefnwyd gennym, y ffordd y gweithion ni gyda’n partneriaid ym maes iechyd, y wybodaeth a’r cyngor a rannwyd gennym ar-lein. Mae’n ffordd o feddwl sydd wedi sicrhau ein twf eleni pan ddathlon ni ein pen-blwydd yn 16 oed, gyda bron 2.7 miliwn o ymweliadau a chynllun uchelgeisiol wedi’i ddatblygu ar gyfer blynyddoedd y dyfodol.”

rl

“Mae cystadleuaeth yn beth da. Mae’n ein hatgoffa na allwn ni orffwys ar ein rhwyfau neu fod ar ei hôl hi o ran datblygiadau. Mae ein gwaith fel menter gymdeithasol yn ychwanegu gwerth at gynnyrch sy’n berthnasol ac mae’n wasanaeth sydd wir yn gallu achub bywydau a newid bywydau.”

Mae teimlad ar draws pob diwydiant bod eu gwerthoedd yn fwy pwysig nag erioed. Erbyn hyn, nid yw’r cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol hwnnw dim ond yn ychwanegiad at agenda sefydliad llwyddiannus, ond mae wrth ei gwraidd. Ac mae defnyddwyr yn dod yn fwy ymwybodol o werthoedd y cwmnïau maent yn prynu ganddynt, gan ystyried sut maent yn gweithio a’r hyn y maent yn ei wneud yn ogystal â phris y cynnyrch neu’r gwasanaeth y maent yn ei gynnig. Mae Halo yn falch iawn o fod yn fenter gymdeithasol ac o sicrhau bod pob ceiniog o elw yn cael ei ailfuddsoddi yn y gwaith rydym yn ei wneud yn y cymunedau a wasanaethwn.

dosbarth wythnosol hwn. Ddydd Llun, byddant yn dychwelyd am eu sesiynau OlympAge rheolaidd a drefnir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr – cyfres o gemau symudedd fel dartiau Velcro neu hwpla – sy’n hybu symud a chydsymud ymhlith aelodau hŷn y gymuned. Mae’r ymwelwyr hyn yn cymryd eu sesiynau o ddifrif (ym mis Tachwedd byddan nhw’n cystadlu mewn digwyddiad OlympAge blynyddol yn erbyn eraill yn y sir), ac maen nhw hefyd o ddifrif am yr effaith ar eu hiechyd. Nid ydynt yn cael hoe am goffi a bisgedi nes iddynt gwblhau’r gyfres o weithgareddau. Gyda phoblogaeth Prydain yn heneiddio, mae ffocws wedi cael ei roi ar ffyrdd rydym yn gallu sicrhau iechyd a chyfranogiad tymor hwy ac egnïol i’n cymunedau. Y ffocws a’r syniadaeth hyn a ysgogodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a’r tîm yn Halo i weithio mewn partneriaeth yma yng Nghwm Ogwr i gefnogi symudedd pobl leol, gan gynnal dosbarthiadau atal cwympo a symudedd eraill yn y cartref gofal lleol i ddechrau. Mae’r bobl sy’n mynychu’r ganolfan yn dod o bob rhan o’r cwm gyda phob math o anawsterau iechyd, o nam ar y clyw a’r golwg i broblemau symudedd. Mae’n ffordd o gysylltu pobl, meithrin cyfeillgarwch a gwneud iddynt deimlo’n llai ynysig. Mae’n anodd mesur gwerth hynny o ran iechyd (a’r llai o alw ar y gwasanaeth iechyd).”

“Un darn o’r jig-so yn unig yw’r gwaith rydym yn ei wneud gyda’r gymuned hŷn,” ychwanegodd Karl Patterson, rheolwr ardal arobryn. “Cynhelir clybiau ffilmiau cymunedol yn ystod gwyliau’r ysgol, sesiynau sy’n cael eu cefnogi gan archfarchnad leol Sainsbury’s i blant sy’n sôn am fwyta’n iach, clybiau brecwast, sesiynau llesiant (i helpu i fynd i’r afael â bwlio a’i atal) a mwy. Nawr mae Halo yn gallu dod â phobl hen ac ifanc ynghyd hefyd. Mae sesiynau gemau OlympAge rhwng y cenedlaethau yn dod â phlant o’r ysgol drws nesaf a hen bobl ynghyd sy’n annog ei gilydd – gan weithio fel partneriaid – wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau,” meddai Karl. “Mae’r plant yn gofyn am help gan eu partneriaid cymaint ag y mae’r bobl hŷn yn gofyn am help gan aelodau iau eu tîm. Mae’n hudolus iawn gwylio hyn.”

SM

M A E M EN T R AU C Y M DEI T H AS O L Y N B WY S I G . . .

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 0 18

MA E Y MGY S Y LLT U 'N B WY S IG. . .


6

7

CLOD I YMDRECH TÎM AM HELPU I WNEUD CYMUNEDAU LLEOL YN IACHACH Mae’r ‘ymdrech tîm’ arloesol sy’n helpu i annog cenedlaethau o bobl i fod yn fwy egnïol yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael clod arbennig gan Quest, aseswyr ansawdd arweiniol y diwydiant hamdden. Maent wedi nodi bod gwaith ar y cyd rhwng Halo a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ysgolion, clybiau, grwpiau gwirfoddol, Chwaraeon Cymru, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yn cael effaith ‘ragorol’ ar iechyd, llesiant a ffitrwydd preswylwyr.

Y TRO CYNTAF I GYMRU… Dyma’r tro cyntaf i Quest asesu dull partneriaeth yng Nghymru a rhoi marc ‘rhagorol’ am y gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i lefelau gweithgarwch pobl leol. Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet y Cyngor dros Lesiant a Chenedlaethau’r Dyfodol, “Un o’n llwyddiannau mwyaf yw’r bartneriaeth rydym wedi’i ffurfio â Hamdden Halo: cafwyd cynnydd o 9% yn nifer yr ymweliadau â’n canolfannau bywyd a buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau.”

POBL O FLAEN ELW. MAE CYNHWYSIANT YN BWYSIG... BETH MAE CYNHWYSIANT YN EI OLYGU I GWMNI LLAWN GOFAL? Mae cynhwysiant yn air hawdd ei ddweud ond mae’n uchelgais heriol i’w hymgorffori yn niwylliant sefydliad. Serch hynny, mae wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud. Rydym yn gyfarwydd â’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio cadw’n heini – rhwystrau ariannol, corfforol, cymdeithasol wedi’u hachosi gan bethau sydd y tu hwnt i’w rheolaeth, ond sy’n effeithio ar eu gallu i gadw’n iach a theimlo’n dda. Rydym mor falch o helpu i chwalu’r rhwystrau hynny drwy grwpiau chwaraeon i’r anabl, ymwybyddiaeth o awtistiaeth, cymorth i ofalwyr a llawer mwy. Enghraifft arall o’n gwaith yn y maes hwn

yw ein hymgyrch i weld rhagor o fenywod a merched yn Halo, ac i gefnogi ymgyrch ‘This Girl Can’ gan Sport England. Mae gormod o fenywod yn teimlo bod ymarfer corff traddodiadol wedi’u gadael ar eu hôl, ac mae gormod o ferched yn gadael yr ysgol heb fod wedi mwynhau chwaraeon a ffitrwydd ac felly wedi’u dadrithio o ran y rheiny ac maent mewn perygl o golli eu holl fuddion wrth gynnal iechyd a llesiant. Rydym am helpu i’w denu nhw yn ôl. Roedd ein haelodau’n awyddus i ddweud wrthym am eu llwyddiannau...

Mae Caroline Jones, 54 oed, yn defnyddio’r Ystafell Tynhau Cyhyrau yng Nghanolfan Hamdden Henffordd deirgwaith neu bedair gwaith bob wythnos, er nad oedd hi’n siŵr y byddai’n gwneud gwahaniaeth pan gyrhaeddodd y tro cyntaf...

Y dosbarthiadau pwll nofio ac ymarfer corff mewn grŵp a ddenodd Sarah Symonds, 29 oed, un o sawl menyw a dyfodd i fyny’n casáu chwaraeon yn yr ysgol gan deimlo nad oedd ymarfer corff yn rhywbeth a oedd yn apelio ati. “Dechreuodd pethau newid pan oeddwn yn awyddus i leihau maint gwisg cyn fy mhriodas yn 2016,” meddai Sarah. “Roeddwn wedi fy synnu cymaint yr oeddwn yn dwlu ar Halo, ac ar ôl y mis mêl es i nôl i roi cynnig ar rai dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp, ac roeddwn wrth fy modd gyda’r dosbarth Body Combat. Goleuadau, cerddoriaeth, ysbrydoliaeth a nawr llawer o ffrindiau newydd.

“Doeddwn i ddim am gyrraedd yr oedran pan fyddai’n rhy hwyr i wneud unrhyw beth i atal poenau bach rhag fy arafu,” meddai. “Nawr dwi’n stôn yn ysgafnach ac yn 23.5 modfedd yn deneuach a dwi’n gyflymach ac yn fwy ffit nag o’r blaen.”

Er fy mod dal yn weddol swil, byddwn yn annog pawb i roi cynnig arni. Does dim pwysau o gwbl – dim ond cefnogaeth. Dwi’n gallu bod yr un mor egnïol â’m plant nawr, a dwi wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd (yn ogystal ag ymarfer corff gyda’n gilydd, rydym yn mynd i ginio ac i siopa gyda’n gilydd hefyd) a dwi wedi colli dwy stôn arall.”

Mae Roxksie Logan, 32 oed, wedi bod yn dipyn o ysbrydoliaeth yng Nghanolfan Hamdden Halo yn Llanllieni ers cychwyn ymgais i gadw i symud ar ôl diagnosis o sglerosis ymledol.. “Y sbardun i mi oedd fy nicter a’m rhwystredigaeth o ran fy mhroblemau iechyd, ond hefyd derbyn y ffaith bod angen i mi golli pwysau, bwyta’n well a defnyddio’r flwyddyn gyntaf ar ôl y diagnosis i newid fy mywyd. Dwi’n defnyddio’r gampfa – gan gyfuno peth ymarfer cardio â chodi pwysau am awr neu fwy – o leiaf bedair neu bum gwaith yr wythnos.”

Partneriaeth Halo a Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr – wedi’i nodi’n ‘Dîm Cymunedau Egnïol sy’n Perfformio Orau’ yng Nghynhadledd Flynyddol Quest 2018 U C H A FBWY NT I AU ION AWR – RHAGF YR 2018

“Mae wedi helpu’n fawr gyda’m llesiant meddyliol yn ogystal â’m hiechyd corfforol (dwi wedi colli’r pwysau ychwanegol). Pan dwi’n gweld y meddygon nawr, maen nhw’n dweud bod golwg mor iach arna’ i. Maen nhw wedi penderfynu lleihau fy apwyntiadau. Mae’n gallu bod yn frawychus pan fyddwch yn canolbwyntio ar ochr wael diagnosis. Gallwch chi fynd yn sownd wrth feddwl bod eich byd yn cwympo ar wahân. Ond dwi’n ystyried ymarfer corff fel siot am ddim o endorffinau, siot am ddim o hapusrwydd. Wrth i chi ddechrau teimlo’n well, mae’n fwy na’ch siâp sy’n newid. Mae eich hyder yn dychwelyd. Pan fyddwch yn teimlo’r buddion hynny, dydych chi ddim yn edrych yn ôl...”

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 0 18

“DWI’N YSTYRIED YMARFER CORFF FEL SIOT AM DDIM O ENDORFFINAU, SIOT AM DDIM O HAPUSRWYDD.” ROXKSIE

GWEITHREDU DROS DDEMENTIA Gyda rhagfynegiad y bydd nifer y bobl sy’n byw â dementia yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn cynyddu i fwy na 3000 erbyn 2030, mae lansio’r ddarpariaeth nofio sy’n addas i bobl â dementia yn 2018 wedi bod yn ymyriad pwysig a chyffrous. Drwy gydweithio ag awdurdodau lleol a sefydlu partneriaeth o ofal cymdeithasol i oedolion, hyfforddwyr iechyd, llyfrgelloedd, y sector gwirfoddol, gofalwyr a grwpiau cymunedol lleol, creodd y prosiect amgylchedd nofio diogel a chyfeillgar. Y pethau bach sy’n gwneud ymweliad â phwll nofio yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr yn fwy hygyrch i’r rhai â dementia a’u gofalwyr - o arwyddion clir a hawdd eu darllen i staff gofal a hyfforddi. Mae hyn wedi symud y rhwystrau i gyrchu cyfleusterau hamdden ac wedi creu cyfle addas i annog pobl i ‘Fyw’n dda â dementia’.

MA E CY NHWY S IA NT Y N B WY S IG. . .


8

9

POBL O FLAEN ELW. MAE IECHYD MEDDWL YN BWYSIG...

POBL O FLAEN ELW. MAE ATAL AFIECHYD YN BWYSIG... SUT GALL APWYNTIAD GYDA MEDDYG TEULU EICH ARWAIN AT EIN DRWS NI Mae ein partneriaeth â’r gwasanaeth iechyd yn ein helpu i gefnogi mesurau iechyd ataliol a chleifion sy’n gallu cael budd o ymarfer corff wrth iddynt wella o afiechyd. Eleni cyfeiriwyd dros 2000 o gleifion i Halo gan eu meddyg teulu. Mae’n anodd mesur gwerth hynny i’r unigolion dan sylw ac i’r gwasanaeth iechyd. Gofynnon ni i un ohonynt, Rachel Griffiths, sydd bellach yn aelod o Ganolfan Hamdden Waddoledig Bridgnorth, i esbonio beth roedd hyn yn ei olygu iddi hi...

Mae buddion gweithgarwch corfforol ar ein hiechyd meddwl yn ogystal â’n hiechyd corfforol yn ddiddiwedd – o wella’n hwyliau i greu ffordd fwy cytbwys o fyw, o gynhwysiant cymdeithasol gwell i lai o straen. Mae’r cyfleoedd am arbedion yn y gweithle (llai o absenoldeb) ac mewn gofal iechyd (ystyrir bod cymaint ag un o bob tri apwyntiad i weld meddyg teulu yn ymwneud â phroblemau iechyd meddwl a llesiant) yn hollbwysig. Gwnaethom siarad ag un o’n haelodau, Matt, y mae ei hanes ef yn dangos sut gall chwaraeon helpu i oresgyn heriau personol a datblygu iechyd meddwl cryfach.

Ymunodd Matthew Aspinall â’r lluoedd arfog pan oedd yn 16 oed a bu’n gwasanaethu am ychydig yn llai nag 11 mlynedd - blynyddoedd a oedd yn cynnwys cyfnodau yn yr Almaen, dwy daith i Irac a pheth amser yng Nghyprus. Roedd Matt yn dioddef anhwylder straen wedi trawma, problem na chafodd ei diagnosio tan 2014 ar ôl i lofruddiaeth y milwr Lee Rigby waethygu symptomau roedd wedi bod yn eu profi (cwsg gwael, hunllefau, dibyniaeth ar alcohol, agwedd ymosodol a gorbryder enfawr) gan orfodi ei bartner i geisio cymorth gan y meddygon. Fel llawer o bobl, darganfu Matt fod ymarfer corff yn rhyddhau’r straen ac yn ddull effeithiol o ymdopi.

Mae dod o hyd i weithgaredd rydych yn ei fwynhau yn allweddol i ddatblygu arfer ymarfer corff parhaus. Yn ogystal â sesiynau campfa rheolaidd yng nghanolfannau Halo yn Henffordd, gan gynnwys sesiynau ar y peiriant rhwyfo, mae Matt wedi dechrau beicio dan do ar feic sefydlog. “Dwi’n adnabod yr hyfforddwyr yn y dosbarth troelli ac maennt yn profi fy nygnwch a’m cyflymder ym mhob sesiwn (o leiaf deirgwaith yr wythnos). Wrth i’r tywydd wella dwi wedi bod yn beicio ar y ffordd hefyd ac wedi dychwelyd i’r pwll.”

Matt yn derbyn clod gan Dywysog Harry

“Roedd y problemau gyda fy mhen-glin a’m symudedd yn ddifrifol. Doeddwn i ddim yn gallu cysgu oherwydd y poen, ddim yn gallu cerdded yn hawdd heb ffon fagl. Dwi’n gofalu am fy ngŵr sydd wedi cael strôc ac roedd y diffyg symudedd yn broblem. Roeddwn am fwynhau gweld fy nheulu, gan gynnwys fy saith o wyrion hyfryd. Felly roeddwn yn fodlon rhoi cynnig ar unrhyw beth.

Dwi’n cofio fy niwrnod cyntaf yn y gampfa. Doeddwn i ddim yn gallu gwneud mwy na munud ar y peiriant croes-hyfforddi ar Lefel 1. Wir i chi, dyna’r cyfan. Mwy na thebyg cymerodd tua chwe wythnos o weithio gyda hyfforddwr (ddwywaith yr wythnos) i mi deimlo gwahaniaeth go iawn. Yna rhoddwyd chwe wythnos arall o gymorth i mi. O fewn yr amser byr hwnnw roeddwn yn mynd allan heb fy ffon fagl, ac yn cysgu heb boen. Nawr pan dwi ar y peiriant croes-hyfforddi hwnnw, dwi’n gwneud o leiaf 30 munud ar Lefel 6 a dwi’n gaeth iddo! Y peth allweddol i mi oedd y gefnogaeth. Bod gyda rhywun nad oedd yn canolbwyntio ar y nod terfynol, ond y nodau bach roeddwn yn gweithio tuag atynt ym mhob sesiwn. Byddai Jenny, yr hyfforddwr ffitrwydd, yn dweud wrthyf i beidio â phoeni, gan fy atgoffa bod pob peth bach, pob munud roeddwn yn ei wneud yn y gampfa yn helpu ac roedd hynny’n fy annog i ddal ati. Roedd mor raddol, ac mor gefnogol. A byddwn i bob amser yn mynd adref gyda chyngor ar yr hyn i’w wneud rhwng sesiynau – symudiadau ac ymarferion ymestyn – i ategu’r rhaglen.”

Bu Matt yn fabolgampwr erioed. Roedd yn beicio, yn rhedeg ac yn cystadlu mewn sgïo Nordig pan oedd yn gwasanaethu yn y lluoedd arfog ac ers gadael y fyddin mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd yn Halo, gan hyfforddi ar gyfer digwyddiadau fel Gemau Invictus, y digwyddiad ar gyfer cyn-aelodau o’r lluoedd arfog sydd wedi denu miliynau o gefnogwyr ledled y byd.

U C H A F BWY NT I AU ION AWR – RHAGF YR 2018

M AE I EC H Y D M EDDWL YN B WY S I G . . .

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 018

MA E ATA L A F IE CHY D Y N B WY S IG. . .


10

11

POBL O FLAEN ELW. MAE STAFF YN BWYSIG...

2. ADOLYGU

MAEN NHW’N DISGLEIRIO...

OUR VISION

- dyna nifer y bobl yn nhîm Halo. Tîm sy’n croesawu cwsmeriaid ac yn helpu i annog mwy o bobl i gadw’n heini drwy gampfeydd, pyllau nofio, stiwdios, neuaddau chwaraeon, cyrtiau, caeau, llyfrgelloedd, golff, ystafelloedd tynhau a waliau dringo. Gofynnon ni i Sara Gosling, Cyfarwyddwr Pobl Halo, i roi’r tri pheth allweddol y mae Halo’n eu gwneud i helpu’r tîm i gyflawni nodau cymunedol a busnes Halo.

CREATING HEALTHIER COMMUNITIES

OUR MISSION

“DRWY DDARPARU CYDBWYSEDD, CYMORTH A GWOBRAU I’N STAFF, RYDYM YN RHOI NEGES DDIWYLLIANNOL GLIR BOD EIN POBL YN BWYSIG I NI...”

1. HYFFORDDIANT “Gallai rhai ddymuno symud i rôl uwch neu reoli, a gallai eraill ddewis datblygu yn eu rôl bresennol. Mae llawer yn ymgymryd â rolau mentora gan gefnogi eraill sy’n dod drwodd drwy raglen Sêr Halo ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus,” meddai Sara. “Rydym wedi sefydlu nifer mawr o bobl sy’n gallu rhoi yn ôl ac yn helpu i wella sgiliau pobl eraill. Mae’r rhaglen brentisiaeth yn rhan hanfodol o hyn, gan roi llwybr gyrfa i o bobl ynghyd â chyfle i groesawu diwylliant y sefydliad a dyheadau i’w dyfodol.”

U C H A F BWY NT I AU ION AWR – RHAGF YR 2018

To make a sustainable and positive difference to the people in our communities by encouraging physical activity and a healthier lifestyle.

3. BUDDION Nid ydym yn cynnal adolygiad perfformiad blynyddol traddodiadol yma yn Halo. Yn allweddol i’r broses mae sgyrsiau am sut mae pob aelod o’r staff yn cael effaith ar iechyd y gymuned mae’n ei gwasanaethu. “Rydym am annog pobl i feddwl am yr hyn maen nhw’n ei wneud ac i ddeall y gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud. Gallai hynny fod yn haws i staff y rheng flaen (er nad yw rhai hyd yn oed bryd hynny’n sylweddoli’r buddion gallen nhw fod yn eu dwyn i lesiant cwsmer), ond i lawer o staff mae’r adolygiad yn gyfle i ddeall eu rôl hanfodol yn y tîm a sut mae hynny’n helpu Halo i gyflawni ei genhadaeth a’i weledigaeth gyffredinol, sef ‘Creu Cymunedau Iachach’.”

“Mae llesiant ein tîm yn bwysig i ni cymaint â llesiant y cwsmeriaid – o gynorthwywyr cymorth cyntaf iechyd meddwl ym mhob canolfan sy’n sicrhau bod unrhyw aelod o staff sydd ag angen cymorth ychwanegol yn ei gael, i’r defnydd am ddim o gyfleusterau Halo, gostyngiadau i aelodau teulu a chynlluniau gofal iechyd am ddim.” Sally Gunnell OBE, cyn-athletwraig trac a chae Prydeinig a enillodd fedal aur yng Ngemau Olympaidd 1992 yn y ras glwydi 400m – ymunodd hi â staff, ffrindiau ac aelodau teulu yng ngwobrau staff blynyddol Halo. Yn y llun isod mae sêr disglair 2018 gan gynnwys...

• Gwobrau Dewis y Cwsmeriaid – Rhydian Jones o Ganolfan Bywyd Cwm Garw a Ray Shakesheff o Bwll Nofio Ledbury. • Gwobr Cyflogai’r Flwyddyn – Joanna Ware – Safleoedd Gogledd Sir Pen-y-bont ar Ogwr • Gwobr Hyrwyddwr Arloesedd – Ryan Statton – Halo Sir Pen-y-bont ar Ogwr

Cefnogi prentisiaid sy’n oedolion... Enillodd Jane Morgan, aelod o’n staff ffitrwydd ym Mhwll Nofio Maesteg, wobr ‘Prentis y Flwyddyn’ gan y Coleg Paratoi Ysgogol ar gyfer Hyfforddiant.

• Gwobr Cyflawniad Rhagorol – Sarah Wroe – Pwll Hamdden Henffordd • Gwobr Gwirfoddolwr y Flwyddyn – Daniel Meadmore – Canolfan Hamdden Llanllieni • Gwobr Rheolwr y Flwyddyn – Nick Flay – Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr • Gwobr Canolfan y Flwyddyn 2018 – Pwll Nofio’r Rhosan ar Wy (am yr ail flwyddyn yn olynol!) • Canolfan Iechyd a Diogelwch y Flwyddyn 2018 – Pwll Nofio’r Rhosan ar Wy

M A E STAF F Y N B WY S I G . . .

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 0 18

MA E S TA F F Y N B WY S IG. . .


12

13

12 MIS O SYMUD... UCHAFBWYNT MIS IONAWR! Y mis hwn lansiwyd Boditrax yn rhai o’n campfeydd (un o lu o offer uwch-dechnolegol newydd) i gynnig ffordd newydd i aelodau wirio eu cynnydd ymarfer corff. Roedd yn rhoi dull hawdd i ymwelwyr o gael 20 ystadegyn cyflym (fel màs braster a chyhyrau, cyfradd fetabolig sylfaenol ac oedran metabolig) mewn 30 eiliad yn unig, er mwyn iddynt allu gweithio gyda ni i deilwra eu sesiynau ymarfer er mwyn cyrraedd eu nodau.

UCHAFBWYNT MIS CHWEFROR! 1. Athletwyr Sefydliad Chwaraeon Sir Pen-ybont ar Ogwr 2018 2. Athletwyr Sefydliad Chwaraeon Swydd Henffordd 2018

U C H A F BWY NT I AU ION AWR – RHAGF YR 2018

UCHAFBWYNT MIS EBRILL! UCHAFBWYNT MIS MAWRTH! Gwnaethom baratoi ar gyfer her Sport Relief, gan ymarfer gyda’n gilydd i godi arian ar gyfer Comic Relief. Roeddem yn falch o weld ein haelodau’n nofio, yn rhedeg, yn dawnsio ac yn sgipio ar hyd a lled y siroedd, a’r swm enfawr a godwyd ganddynt.

Gwnaethom brosesu’r llwyth o geisiadau am rownd ddiweddaraf cyllid Sefydliad Chwaraeon Halo yn ystod y mis hwn. Mae hwn yn cynnig grant arian a/neu fynediad hyfforddi am ddim i bobl sy’n cystadlu ar lefel ranbarthol (neu’n uwch) mewn digwyddiad Olympaidd, Paralympaidd, Byddarlympaidd neu Olympaidd Arbennig, neu mewn disgyblaethau chwaraeon a ysbrydolir ganddynt – sy’n byw, astudio neu hyfforddi yn Swydd Henffordd neu Sir Peny-bont ar Ogwr. Rydym yn hynod falch o’r gwahaniaeth mae hyn wedi’i wneud i ryw 260 o athletwyr yn y flwyddyn ariannol hon, gyda grantiau arian parod ac aelodaeth Halo am ddim gwerth bron £100,000.

UCHAFBWYNT MIS HYDREF!

UCHAFBWYNT MIS GORFFENNAF

Bu ein canolfan yn Highworth yn dathlu 50 mlynedd o fod yn rhan weithredol o’i chymuned ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn cynhaliwyd parti pwll i ddathlu deng mlynedd ers agor y pwll nofio.

Yn ystod yr haf dychwelodd ein cynigion aelodaeth haf hynod boblogaidd i bobl ifanc. Rydym yn gwybod pwysigrwydd materion iechyd a llesiant i bobl ifanc a pha mor agored i niwed y gallant fod yn ystod y gwyliau ac ar ôl neu cyn cyfnodau arholiadau. Rydym yn falch o effaith y mentrau hyn. Achubodd 1,434 ar y cyfle gan ddychwelyd i’w hastudiaethau yn llawn egni newydd ac yn barod i wynebu’r flwyddyn academaidd newydd.

UCHAFBWYNT MIS MAI! Daeth nofwyr o bell ac agos i’r pwll nofio awyr agored wedi’i wresogi yng nghanolfan Severn yn Highley, Swydd Amwythig – wrth iddi agor ar gyfer tymor yr haf. Roedd y tywydd yn garedig (gan mwyaf), gan alluogi nofwyr ymroddedig i godi chwys, teuluoedd i fwynhau sesiynau sblashio llawn hwyl a phlant lleol i fagu hyder a chymhwysedd yn y dŵr drwy wersi.

UCHAFBWYNT MIS MEDI! Gwnaethom hefyd groesawu ein golffiwr proffesiynol newydd, Stuart Rank, i gwrs 9 twll par 35 Canolfan Hamdden Henffordd. Daeth Stuart atom gydag ymrwymiad i wneud y gêm (sydd hefyd yn weithgaredd sy’n arwain llawer o bobl drwy genedlaethau o iechyd a ffitrwydd) yn fwy hygyrch i fwy o bobl, gan gynnwys pobl ifanc. Roedd dewis o sesiynau rhagflas am ddim ac archebion ar gyfer sesiynau un-i-un o ganlyniad.

UCHAFBWYNT MIS AWST! Dyma bob amser ein rhaglen gweithgareddau gwyliau ysgol fwyaf prysur a chyffrous gyda chwe wythnos o hwyl a gemau i gadw plant yn iach ac yn hapus yn ystod y seibiant o’r ysgol.

UCHAFBWYNT MIS MEHEFIN! Buom yn dathlu dychweliad Furlong Fury, ein ras rwystrau ein hunain a oedd eleni’n cynnwys cwrs 1km Small Fry i blant yn ogystal â’r cwrs 5k mwy sylweddol llawn mwd ac anhrefn. Roedd pawb wedi mwynhau mas draw gan godi arian ar gyfer Sefydliad Chwaraeon Halo.

1 2 M I S O SY M U D. . .

U C H A F BW Y N TI A U I O N AWR – R H AG F YR 2 0 18

Dewiswyd Halo i reoli a chynnal a chadw’r ganolfan gymunedol leol yn Craven Arms, Swydd Amwythig, a phenderfynodd fuddsoddi mewn stiwdio ffitrwydd newydd sbon ar gyfer yr ardal leol (i agor yn 2019).

Canolfan Gymunedol Craven Arms - y safle diweddaraf i fabwysiadu brand Halo!

UCHAFBWYNT MIS TACHWEDD! Nododd seremoni torri rhuban waith adnewyddu campfa arall gan Halo. Y gwaith gwerth £40,000 i weddnewid y gampfa yw’r gwelliant diweddaraf yn y ganolfan sydd wedi dyblu o ran ei maint a’r dewis o offer sydd ar gael.

UCHAFBWYNT MIS RHAGFYR! CLOD UCHEL mewn gwobrau cenedlaethol Roeddem wrth ein boddau i ddod yn ail yn y Wobr Ymgysylltu â Chyflogeion yng Ngwobrau Social Enterprise UK 2018. Mae’r gwobrau cenedlaethol a drefnir gan Social Enterprise UK yn taflu goleuni ar ffigurau blaenllaw’r gymuned menter gymdeithasol, gan gydnabod cyflawniadau rhagorol busnesau sy’n masnachu at ddiben cymdeithasol. Rydym yn hynod falch o ddod yn 2il (allan o bron 70 enwebiad o bob rhan o’r DU), sy’n gydnabyddiaeth o waith caled pob aelod o’n tîm sy’n mynd y filltir ychwanegol honno i annog rhagor o bobl i gadw’n heini’n fwy aml.

12 MIS O S Y MUD . . .


14

POBL O FLAEN ELW - MAE CYMUNEDAU’N BWYSIG... SUT RYDYM YN GWEITHIO GYDA’R CYMUNEDAU O’N HAMGYLCH

Does dim modd i ni fod yn falchach o’r cannoedd o glybiau (o hoci i tennis, o ddawnsio i drampolinio, pêl-droed i carate) sydd wedi’u sefydlu yn Halo. Eleni gwnaethom ehangu ein cefnogaeth yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr drwy Club-links, offeryn ar-lein sy’n hyrwyddo cysylltiadau rhwng clybiau (gwirfoddoli, hyfforddi ac ati) ac i’w cefnogi wrth iddynt wneud cais am gyllid ar gyfer eu twf.

Yn falch o fod yn ‘CREU CYMUNEDAU LACHACH’

“Fel fi, mae’r rhan fwyaf sy’n cynnal clybiau chwaraeon yn wirfoddolwyr sy’n gwneud hyn yn ein hamser rhydd,” meddai Michelle Mitchell, mam pêl-droediwr ac ysgrifennyddes Clwb Pêl-droed Porthcawl a gafodd fudd o gymorth Club-links eleni. “Mae’n wych cael cyfle i gwrdd a chyfnewid syniadau (ynglŷn â phopeth o recriwtio i reoli gwirfoddolwyr) a chael budd o arfer gorau a chyngor arbenigol. Roedd y gweithdy cyntaf yn canolbwyntio ar gyfleoedd codi arian ac yn cynnig cymorth gan dîm Halo i wneud cais am gyllid Cist Gymunedol Chwaraeon Cymru.” “Pan fo hyfforddwyr yn gwirfoddoli drwy gydol y flwyddyn, mae cymorth o’r fath yn gallu bod yn hanfodol. Rydym yn gweld bron 150 o blant yn hyfforddi ar draws o leiaf 45 wythnos o’r flwyddyn. Roedd ein cais yn llwyddiannus a bydd y grant ychwanegol hwn yn eu galluogi i gael hyfforddiant lefel uwch.”

U C H A FBWY NT I AU IONAWR – RHAGF YR 2018

MEWN PARTNERIAETH Â Highworth Trustees

HELP IS AT HAND.... READ UP ON THE SUPPORT AVAILABLE THROUGH CLUB-LINKS AT

WWW.HALOLEISURE.ORG.UK/CLUBLINKS M AE C Y M U N EDA U'N B WYS I G . . .


#MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM #MORETHANJUSTAGYM

EISIAU CYSYLLTU Â NI? Ffoniwch Dim Cyswllt Halo ar 01432 842075

www.haloleisure.org.uk | info@haloleisure.org.uk

SWYDDFA GOFRESTREDIG: CANOLFAN GYMORTH HALO

Halo Leisure Services Ltd, Lion Yard, Broad Street, Leominster HR6 8BT 01568 618 980

Rhif Cwmni Cofrestredig: 4335715 Cymru a Lloegr Rhif Elusen Gofrestredig: 1091543

Sganiwch y cod hwn ar eich ffôn clyfar ac ewch i’n gwefan

Os hoffech dderbyn y ddogfen hon yn Gymraeg, cysylltwch â ni ar info@haloleisure.org.uk


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.