UCHAFBWYNTIAU HAMDDEN HALO IONAWR - RHAGFYR 2019 Menter Gymdeithasol ac Ymddiriedolaeth Hamdden flaenllaw sy’n ysgogi iechyd a llesiant cymunedol
EIN GWELEDIGAETH. EIN CENHADAETH. Y FLWYDDYN 2019 Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn ariannol 2019, roedd gennym lawer i’w ddathlu. Drwy gydol y flwyddyn honno roeddem wedi canolbwyntio ar yr hyn a wnawn orau – y weledigaeth i ‘Greu Cymunedau Iachach’ a’n cenhadaeth i wneud ‘Gwahaniaeth cynaliadwy a chadarnhaol drwy annog gweithgarwch corfforol a ffyrdd iachach o fyw’. Roeddem yn gwybod mai dyna oedd yr unig ffordd o herio a gwthio’r gystadleuaeth gynyddol yn ôl. Ar ddechrau 2019 roedd cystadleuaeth gan frandiau byd-eang wedi ffrwydro. Roeddem wedi gweld twf campfeydd am bris isel yn codi yn yr ardaloedd lle rydym yn gweithredu. Mae unrhyw beth sy’n cael mwy o bobl yn fwy egnïol yn beth dda yn ein barn ni, ond – peidied neb â chamgymryd – dechreuom y flwyddyn yn barod i frwydro dros ein cyfran o’r farchnad a’r holl bobl rydym yn eu cyrraedd gyda’n cymysgedd arbennig o wasanaethau. Rydym yn #MwyNaChampfa ac yn helpu pobl i deimlo manteision ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu bywydau mewn mwy o ffyrdd nag yw’n bosibl eu cyfleu mewn un adroddiad (er bod y straeon sy’n dilyn yn rhoi blas i chi) ac sy’n cael ei ddangos gan y miloedd o gwsmeriaid sy’n cerdded drwy ein drysau bob dydd. Ond ein huchelgais yw gwneud mwy. Felly yn wyneb y gystadleuaeth gynyddol honno, canolbwyntiwyd yn graff ar ein meddwl ar lawr gwlad a dathlu ac arddangos yr hyn yw ein hanfod – yr hyn rydym yn dda iawn yn ei wneud. Yr hyn yw ein hanfod a’r hyn rydym yn dda iawn yn ei wneud (a’r hyn yr ydym wedi ei wella wrth ei wneud yn 2019) yw cyflwyno cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd gwych i’r rhai sydd am ymarfer corff neu ymlacio, dechrau bod yn egnïol a dal ati, chwarae chwaraeon raced neu dîm neu hyfforddi
ar gyfer cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol. Gwelsom dros hanner miliwn o sesiynau yn y gampfa a hyd yn oed mwy o ymweliadau â’n pyllau nofio yn 2019, a thua 325,000 o sesiynau ymarfer yn ein dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp o 20,000 a mwy yn ystod y flwyddyn hon. Yn hollbwysig, fodd bynnag, mae hyn i gyd wedi’i ymgorffori mewn pecyn sy’n gwneud yr un cyfleusterau hynny yn hygyrch i’r rhai sy’n wynebu rhwystrau i gyfranogi, ac sy’n cyflwyno manteision cymdeithasol gwych, fel gwersi chwaraeon i bobl ifanc (mwy na 19,000 i gyd, gydag 14,000 o ddosbarthiadau wedi’u cyflwyno gan Ysgol Nofio Halo), gweithgareddau sy’n ystyriol o ddementia i gefnogi teuluoedd, cyfleusterau arbenigol i ddarparu sesiynau ymarfer i’r rhai sy’n cael trafferth gyda salwch a symudedd, a phartneriaethau gyda meddygon teulu (gwnaethant atgyfeirio bron 2000 o bobl atom yn ystod y flwyddyn) i atal problemau iechyd mewn ffordd nad yw dim ond yn trawsnewid bywydau ond sy’n arbed miliynau i’r gwasanaeth iechyd. Yn fyr, mae gan Hamdden Halo ffordd o weithio sy’n taro cydbwysedd rhwng y cymunedol a’r masnachol. Rydym yn herio cystadleuaeth, ond byth yn anghofio am ein rôl fel elusen gofrestredig a menter gymdeithasol nac yn cyfaddawdu ar ein huchelgais i gymunedau lleol fwynhau gweithgarwch corfforol. Dyma gyfrinach ein llwyddiant, ac mae’n hanfodol i’n cynaliadwyedd. Wrth i’r flwyddyn ariannol ddod i ben a symud i mewn i fis Ionawr 2020 cawsom ein mis gorau erioed ar gofnod ar gyfer denu cwsmeriaid newydd i’n cyfleusterau. Wrth gwrs, yr hyn a ddigwyddodd nesaf yw stori 2020 ac nid canolbwynt yr adroddiad hwn. Ond gwyddom – wrth i ni ysgrifennu ac wrth i chi ddarllen – y cafwyd y llifogydd yn gyntaf, ac yna cafwyd y pandemig a brwydr genedlaethol ddilynol i oroesi gan gyfleusterau chwaraeon a hamdden ar draws y DU. Arweiniodd y cyfyngiadau symud at sgwrs hollbwysig am eu lle hanfodol ym mywyd y gymuned ac iechyd meddwl a chorfforol cymunedol. Roeddem yn falch o weld – a gwnaethom annog a chefnogi – ymarfer corff yn y cartref yn ystod y cyfyngiadau symud, ond roeddem hefyd yn gwybod (rydym yn clywed ein cwsmeriaid
yn dweud hyn drwy’r amser) bod Halo yn cynnig rhywbeth sy’n fwy na’r rhannau unigol. Mae ymarfer corff gyda chefnogaeth gweithwyr ffitrwydd proffesiynol ac ymarfer gydag eraill yn darparu pŵer cysylltu, yn cefnogi hirhoedledd ymarfer corff, ac felly iechyd meddwl a chorfforol pobl. Rydym ni, fel gweithredwyr eraill, yn brwydro am gydnabyddiaeth o hynny, ac am ein rôl barhaus wrth ei ddarparu: am gydnabyddiaeth bod pob punt a fuddsoddir gan y Llywodraeth mewn chwaraeon a hamdden nawr, yn sicrhau arbedion pum gwaith i’r pwrs cyhoeddus yn y dyfodol. Ond yr hyn sy’n berthnasol yn yr adroddiad hwn yw’r gwaith a wnaethom yn 2019, ac rwyf yn falch o ddweud bod y gwaith hwnnw wedi ein rhoi mewn lle da ar gyfer yr hyn roeddem ar fin ei wynebu yn 2020. Gobeithio y byddwch yn mwynhau’r adolygiad hwn ac rydym am ddiolch i chi am eich cymorth yn ystod 2019 a thrwy bopeth sydd wedi digwydd ers hynny.
WYDDECH CHI Mae Halo yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol Mae’n rhywbeth yr ydym yn falch iawn ohono. Mae hyn yn golygu nad oes gennym gyfranddalwyr—mae unrhyw elw yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gwasanaethau a ddarparwn i’n cymunedau lleol.
#Pobloflaenelw
Scott Rolfe Prif Swyddog Gweithredol
EDRYCHWCH AR Y RHIFAU Yn 2019 cyfanswm y cyfranogiad mewn gweithgareddau oedd
2,720,574 AC MAE HYNNY’N GOLYGU UN PETH, MWY O BOBL YN FWY EGNÏOL YN AMLACH!
21,021
DATHLWYD: O AELODAU AR DRAWS EIN 20 O GANOLFANNAU YN SIR PEN-Y-BONT AR OGWR, SWYDD HENFFORDD, SWYDD AMWYTHIG A WILTSHIRE. ROEDD HYNNY’N CYNNWYS 12,059 O AELODAU NEWYDD SY’N OEDOLION A DDYWEDODD HELO WRTH HALO YN 2019
644,006 63,000 O YMWELIADAU Â’N PYLLAU NOFIO AC
14,461 O DDISGYBLION AR EIN RHAGLEN ‘DYSGU NOFIO’
O WERSI CHWARAEON A GYFLWYNWYD I 19,786 O BLANT A FWYNHAODD HYFFORDDIANT MEWN AMRYWIAETH O WEITHGAREDDAU
537,094 1,998 O SESIYNAU YMARFER YN Y GAMPFA
O BOBL WEDI’U HATGYFEIRIO GAN EU MEDDYG TEULU
325,229
259
O GLYBIAU CHWARAEON WEDI’U LLEOLI YNG NGHANOLFANNAU HAMDDEN HALO
4,859
, 8 000 , 21618 O DDOSBARTHIADAU YMARFER CORFF MEWN GRŴP – GYDA PHRESENOLDEB BLYNYDDOL O
292
O AELODAU WEDI MWYNHAU CYFRADDAU GOSTYNGOL DRWY EU CYFLOGWR
O BOBL YN MWYNHAU SESIYNAU AM BRIS GOSTYNGOL. GWNAETHOM DDILEU RHWYSTRAU I GYFRANOGI AR GYFER PLANT IAU, POBL HŶN, POBL AG ANABLEDDAU A PHOBL AR RAI BUDD-DALIADAU PRAWF MODD
O’R ATHLETWYR LLEOL GORAU A GEFNOGWYD DRWY SEFYDLIAD CHWARAEON HALO
9,275
O YMWELIADAU Â’R SAITH LLYFRGELL SYDD WEDI’U LLEOLI YN EIN CANOLFANNAU
GWEITHIO’N DDA A GWEITHIO’N EFFEITHLON Fel y gwyddoch, rydym yn buddsoddi symiau enfawr (o ran amser ac arian) i gadw ein hadeiladau’n hynod drwsiadus, yn hynod ddiogel, yn lân ac yn eco-gyfeillgar. Mae pobl yn sylwi ar offer newydd a gwelliannau mewn mannau i gwsmeriaid ond rydym yn gwybod, hefyd, mai’r pethau technegol, gweithredol y tu ôl i’r llenni sy’n aml o fudd mwyaf i gwsmeriaid. Rydym wedi cynnwys rhai enghreifftiau pwysig yma a oedd yn cynrychioli gwariant o tua £700k ar waith gan gynnwys: Campfa newydd sbon yn Craven Arms diolch i’r gwaith o drawsnewid ystafell gyfarfod nas defnyddiwyd yn aml yn stiwdio ymarfer corff yn y ganolfan gymunedol leol yr ydym bellach yn ei rheoli.
Gosod gwres tiwb pelydrol yng Nghanolfan Chwaraeon Maesteg.
Meddalwedd adnabod wynebau yng Nghanolfan Hamdden Henffordd ar gyfer mynediad-rheolaeth gyflym, effeithlon i’r safle a chofnodi presenoldeb.
Bwyleri newydd yng Nghanolfan Bywyd Cwm Ogwr a, thrwy gyllid allanol, rydym wedi rhoi cyfnewidydd gwres plât hynod effeithlon yn lle’r uned storio dŵr poeth unionsyth ar y safle.
Gwaith adnewyddu wedi’i gwblhau ar ein pwll nofio awyr agored wedi’i wresogi yng Nghanolfan Severn (gwaith a wnaed gyda chefnogaeth y bobl leol sy’n dwlu arno!). Ap Hamdden Halo newydd ar gyfer ffordd un stop wrth law i weld amserlenni gweithgareddau, trefnu neu ganslo dosbarthiadau a chyrtiau raced, a chael mynediad at y cynigion a’r newyddion diweddaraf.
Atgyweirio’r to dros y neuadd fowls yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr.
Atgyweiriadau arloesol i danc storio dŵr oer a oedd yn gollwng yng Nghanolfan Chwaraeon Bridge Street. Pympiau cylchredeg dŵr newydd ym Mhwll Nofio Llanllieni.
Tri gorchudd newydd ar gyfer pyllau nofio.
Goleuadau awyr agored mwy effeithlon ac effeithiol yn y cyfleusterau tennis yng Nghanolfan Chwaraeon Bridge Street.
Lifft wedi’i huwchraddio yng Nghanolfan Hamdden Henffordd.
Cwblhau’r gwaith o weddnewid yr ystafelloedd newydd yng Nghanolfan Hamdden Highworth.
Stoc o unedau dosio awtomatig wedi’u hadnewyddu mewn dau o’n pyllau nofio. Adnewyddu’r ystafell beiriannau yng nghanolfan Halo ym Mhencoed gan gynnwys bwyleri newydd a chyfnewidydd gwres plât dŵr poeth. Adnewyddu a diweddaru’r uned trin aer ar gyfer yr ystafelloedd newid ym Mhwll Nofio Maesteg. Adnewyddu’r hidlydd yn y pwll addysgu ar safle Halo yn Ynysawdre.
GWNEUD GWAITH YN LLE IACH I FOD YNDDO GWAITH TÎM AR WAITH Ni fyddai gweledigaeth a chenhadaeth Halo yn bosibl heb ein gweithlu. Rhan hanfodol o’n llwyddiant yn 2019 oedd y ffordd agored, didwyll o weithio sydd gennym gyda’n staff sydd wedi croesawu’n gadarnhaol yr hyn rydym yn ceisio ei gyflawni. Gwnaethom hwyluso a hyrwyddo newid o ran sut rydym yn gweld ein hunain a sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd fel tîm. O ganlyniad i hynny, effeithiodd ar ein perthynas â chwsmeriaid, gan greu tuedd gadarnhaol ar i fyny a oedd yn gwella ysbryd Halo. Roedd ein canolfannau’n brysurach, roedd ein staff yn hapusach, ac roedd y ddau yn sbardunau newyddion da, iechyd da, a phrofiadau gwych yn Halo. Roedd gwaith arbennig yn mynd rhagddo y tu ôl i’r llenni i gefnogi hyn. Rydym yn gwybod – mae pawb yn gwybod – am y pwysau y mae pobl sy’n gweithio wedi’u hwynebu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ein nod yw cadw pobl yn iach, ac mae hynny’n cynnwys ein staff.
pecyn cymorth gwerth £20,000 i’n gweithlu, sy’n cynrychioli budd gwerth £1,300 fesul cyflogai. Roedd y cymorth newydd yn amrywio o gwnsela i therapïau cyflenwol i gyngor ariannol. Yn hollbwysig, roedd yn cynnwys hyfforddiant iechyd meddwl i uwch reolwyr er mwyn sicrhau bod llesiant cydweithwyr bob amser ar yr agenda ar y lefel uchaf. Gwelsom reolwyr yn goruchwylio ac yn symud cymorth iechyd meddwl yn ei flaen ac maent wedi helpu i sicrhau nad yw ceisio cymorth byth yn cael ei stigmateiddio. Ar yr un pryd, gwnaethom flaenoriaethu gweithgareddau adeiladu tîm o amgylch digwyddiadau fel Plant mewn Angen, Boreau Coffi Macmillan a Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol UKActive. Roedd yn wych gwylio’r gwaith – a’r timau – yn dod at ei gilydd drwy gydol y flwyddyn.
Roedd Hamdden Halo, fel cynifer o rai eraill, wedi gweld problemau fel straen yn cynyddu absenoldebau staff. Roeddem am wneud rhywbeth i helpu ein tîm i ymdopi â’r hyn y mae bywyd yn ei daflu atynt, gyda’r gwaith yn gwella’r cydbwysedd yn eu bywyd yn hytrach nag ychwanegu at y straen. Dyna pam mai un o straeon llwyddiant 2019 oedd ein rhaglen Llesiant Staff. Gwnaethom weithio mewn partneriaeth â Westfield Health i ddarparu
Ein glasbrint ar gyfer hyfforddi a datblygu staff: mae iechyd a hapusrwydd staff yn flaenoriaeth yn Halo.
GWNEUD GWAITH YN LLE IACH I FOD YNDDO
Mae llesiant yn uchel ar ein hagenda, gydag uwch reolwyr wedi’u hyfforddi fel swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl
Roedd cymorth gyrfa yn rhan bwysig o’r rhaglen gymorth hon i staff. Rydym yn parhau i greu llwybrau i yrfaoedd hirdymor yn y diwydiant hamdden, y pethau sy’n gwella sicrwydd pobl ac felly’n hyrwyddo eu hunan-werth a’u llesiant. Rydym wedi ceisio darparu strwythur lle gallwn ddeall profiad ein staff o waith yma. Rydym yn eu helpu i ddewis llwybr gyrfa (boed fel prentis, arweinydd tîm, hyfforddwr personol, arweinydd cwrs, neu drwy rôl mewn adnoddau dynol, cyfrifyddu a rhagor) a chofnodi eu cyflawniadau gyda ni wrth iddynt symud ymlaen. Mae’n creu manteision i bawb rydym yn eu cyflogi.
YN 2019, O GANLYNIAD I’N HYMDRECHION, GWELSOM: • Absenoldeb sy’n gysylltiedig â straen yn lleihau dros draean. • Cynnydd o ran cyfranogiad mewn gweithgareddau Halo ymhlith staff, gyda’r aelodaeth am ddim i staff yn arwain at ddefnydd cyfartalog o gyfleusterau Halo chwe gwaith y mis. • Dros 250 o staff yn cwblhau modiwlau ymwybyddiaeth e-ddysgu Iechyd Meddwl... ... a’r cyfan yn arwain at dwf iach mewn sgoriau boddhad cwsmeriaid.
EILIAD GYDA...
GEOFF CHEETHAM Dyma GEOFF CHEETHAM, 66, a ymddeolodd o yrfa ym maes tai ac a oedd yn addysgu Tai Chi yn ei gymuned leol cyn cofrestru ar gyfer hyfforddiant hyfforddwr campfa yn Halo. Mae Geoff bellach yn cyflwyno dosbarthiadau Tai Chi ac yn ystod 2019 cafodd ei ddewis i gefnogi rhaglen hyfforddi staff Halo a chafodd ei gynnwys hefyd mewn un o ymgyrchoedd Llywodraeth Cymru – Nid oes gan unrhyw un ddyddiad ‘ar ei orau cyn’* – gan ddathlu sefydliadau fel Hamdden Halo sy’n hyrwyddo cyfleoedd yn y gweithle i bobl dros 50 oed.
“Rydym yn gweld mwy o ddynion hŷn yn ymuno â’r dosbarthiadau ac yn barod i roi cynnig ar ymarfer corff oherwydd efallai eu bod yn gweld rhywun yn union fel nhw’n bownsio o amgylch ar y blaen ac yn sylweddoli y gallan nhw wneud hynny hefyd!”
“Roeddwn i ddwywaith oed pawb a oedd yn gwneud y cwrs Hyfforddwr Campfa Lefel 2, ond yr un mor angerddol. “Rydw i bob amser wedi bod yn egnïol – yn mynd i’r gampfa, yn rhedeg hanner marathon a beicio gan fy mod yn gwybod y gwahaniaeth y gall ymarfer corff ei wneud. Nawr rwy’n cynnal sesiynau ar gyfer mwy na 50 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt dros 50 oed. “Rwy’n credu bod meddwl Halo y tu allan i’r blwch am oedran – fy nghyflogi’n ddiweddarach mewn bywyd a bod mor gynhwysol yn eu dull o ran cwsmeriaid hŷn sy’n dod i’r canolfannau – wedi dod â gwobrau, ar gyfer y sefydliad ac ar gyfer y cymunedau lle y mae wedi’i leoli. Mae’r cymysgedd oedran yn y canolfannau yn wych ac yn tyfu a rhaid bod yr arbedion iechyd i bwrs y wlad yn sylweddol. “Mae hyder a phrofiad a gewch o’r byd gwaith sy’n anodd ei fesur ond mae mor bwysig mewn rôl sy’n wynebu cwsmeriaid. Rwy’n credu bod Halo yn cydnabod hynny. Rwy’n falch o fod yn rhan o’r tîm, ac yn llysgennad ffitrwydd i’r rhai dros 50 oed.”
* Gweithiodd Llywodraeth Cymru mewn partneriaeth â’r Sefydliad Dysgu a Gwaith, Busnes yn y Gymuned (BITC) Cymru, Heneiddio’n Dda yng Nghymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chwarae Teg ar yr ymgyrch hon i herio stereoteipiau, dangos gwerth gweithlu sy’n pontio’r cenedlaethau ac annog cyflogwyr i fuddsoddi mewn sgiliau drwy gydol bywydau gwaith eu gweithwyr. Roedd yn bleser gan Hamdden Halo gymryd rhan.
EILIAD GYDA...
CARLY PHILLIPS Dyma Carly Phillips sy’n byw yn Henffordd gyda’i phartner a dau o blant. Mae’n ddirprwy reolwr cartref preswyl i blant gan weithio sifftiau hir yn gwneud gwaith anhygoel.
“Sylweddolais yn gyflym mor anfeirniadol yw’r bobl yn y dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp hyn. Roedd yn ymwneud llai â stigma a mwy am gymdeithasu. Roeddwn yn teimlo’n gwbl gyfforddus a chefais groeso gan yr hyfforddwraig Kelly. Ac fe wnes i lawer o ffrindiau newydd...”
“Ychydig fisoedd ar ôl i mi gael fy mab penderfynais fy mod am fod yn heini. Rwy’n gwybod nawr nad wyf ar fy mhen fy hun o ran y teimlad o fod yn fam newydd. Roeddwn wedi magu llawer o bwysau yn ystod beichiogrwydd ac erbyn yr haf roeddwn yn barod i weithredu ac wedi cael llond bol o wisgo dillad llac i guddio’r pwysau yr oeddwn wedi’i fagu. Ymunodd fy ffrind a mi â grŵp colli pwysau ond nid oedd deiet ar ei ben ei hun yn ddigon. Roeddwn wedi gweld pobl yn colli pwysau ac yna’n magu pwysau drwy ddeiet yn unig, ac roeddwn am wneud newid a fyddai’n para. Roeddwn am redeg o amgylch ar ôl fy mhlant heb golli fy anadl. I fynd i’r cae gyda fy mab hŷn, sy’n ddeg oed erbyn hyn, a chicio pêl o amgylch heb deimlo’n anystwyth. “Y gampfa oedd y cam cyntaf, ond wrth i mi fagu hyder llwyddais i ddod o hyd i’r dewrder i fynd i gwpl o ddosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp – Body Blitz a Choesau, Pen-ôl a Bola oedd fy newisiadau cyntaf, a’r dewisiadau cywir! Roedd hwn yn gam mawr i fynd o’r gampfa i’r dosbarth, oherwydd yn y gampfa gallwch wneud beth a fynnoch, cyn lleied neu gymaint ag y mynnwch...ond dosbarth llawn, gyda llawer o bobl eraill? Sylweddolais yn fuan nad oedd gennyf unrhyw beth i boeni amdano. “Fy nod ar ddechrau’r daith hon oedd colli pum stôn, ac roedd hynny’n ymddangos fel targed enfawr. A bod yn onest, nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn ei gyrraedd byth. Ond cyrhaeddais y nod ym mis Ebrill 2019, a pharhaodd fy mhwysau i ostwng. Dechreuais ar 17 stôn ac rwyf bellach yn 10 stôn a 3 phwys. Flwyddyn yn ôl byddai rhedeg am bum munud wedi fy ngorfodi i stopio a cherdded. Nawr rwy’n gallu rhedeg am 35 munud heb stopio – yn wir, rhedeg am hanner awr o amgylch y bloc yw fy newis cyntaf os oes gennyf hanner awr i’w sbario. Mae’n teimlo’n wych. Rwy’n teimlo’n iach. Rwy’n gwybod fy mod yn fwy hyderus ac rwy’n mwynhau fy ngwaith a bod yn fam gymaint yn fwy.
“Mae bod yn heini yn eich newid. Mae’n newid pobl eraill hefyd. Rwyf mor falch pan fydd fy ffrindiau yn dweud wrthyf fy mod wedi eu hysbrydoli i fod yn egnïol oherwydd fy mod yn gwybod y manteision a ddaw yn ei sgil.” Carly yn cymryd y llwyfan yn ei hoff ddosbarth ymarfer corff mewn grŵp!
GWNEUD GWAITH YN LLE IACH I FOD YNDDO AR ÔL 17 MLYNEDD O YMRWYMIAD DIFLINO FEL CADEIRYDD YMDDIRIEDOLWYR HALO, TROSGLWYDDODD BRYAN WHITE Y FANTELL I REG CURTIS YN 2019.
WYDDECH CHI Roedd Halo ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr genedlaethol Community Leisure UK yn y categori Datblygu’r Gweithlu ar gyfer ei raglen Datblygu Rheolwyr y Dyfodol.
Scott Rolfe, Prif Swyddog Gweithredol Halo, a’r Foneddiges Darnley, Arglwyddes Raglaw Swydd Henffordd, yn helpu Bryan (ochr bellaf ar y dde) i ddathlu Medal yr Ymerodraeth Brydeinig
Mae Bryan wedi bod wrth y llyw yn Halo ers ei greu yn 2002 ac mae ei arbenigedd wedi llywio cynifer o straeon llwyddiant Halo. Fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr Halo, mae wedi dangos angerdd dros gynnwys pobl leol mewn gweithgarwch corfforol ac mae bob amser wedi ymdrechu i annog rhagoriaeth a chyflawniad mewn chwaraeon. Ni fyddwn byth yn gallu mesur yr effaith y mae wedi’i chael ar nifer y bobl, gan gynnwys pobl ifanc, sydd wedi cael budd – ond gwyddom fod degau o filoedd ohonynt a bod ei effaith wedi bod yn enfawr. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Bryan i gydnabod ei gyfraniad eithriadol i chwaraeon cymunedol a gweithgarwch corfforol.
Penododd Hamdden Halo Reg Curtis yn Gadeirydd newydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr yn 2019. Roedd Reg yn Brif Weithredwr sector Manwerthu ac Arlwyo’r Weinyddiaeth Amddiffyn cyn iddo ymddeol ac mae ei brofiad yn ased yng nghenhadaeth Halo i ragori yn y maes, i wynebu cystadleuaeth gan weithredwyr masnachol am bris gostyngol, ac i ehangu i ranbarthau newydd yn y DU.
GWNEUD GWAITH YN LLE IACH I FOD YNDDO EIN PARTNERIAID LLESIANT YN Y GWEITHLE MAE HALO YN HYNOD FALCH O’I GYDWEITHREDIAD Â CHWMNÏAU SYDD AM I’W TIMAU DEIMLO’N IACHACH YN Y GWAITH A’R TU ALLAN IDDO. Dangosodd un arolwg gan Sefydliad Prydeinig y Galon fod bron un o bob pump o weithwyr yn y DU yn gwneud dim gweithgarwch corfforol o gwbl yn ystod oriau gwaith a phrin bod chwarter yn llwyddo i wneud 20 munud neu lai dros y diwrnod gwaith cyfan – er y dangosir bod gweithgarwch corfforol yn helpu cyflogeion i reoli straen, cynnal lefelau egni, a chadw rhagolwg cadarnhaol ar eu diwrnod. Mae astudiaethau eraill nid yn unig wedi dangos y gall cyflogwyr, drwy hyrwyddo gweithgarwch a llesiant cadarnhaol, leihau absenoliaeth tymor byr (o ganlyniad i beswch, annwyd a ffliw), ac absenoldeb oherwydd salwch hirdymor (oherwydd problemau fel straen, poen cefn, clefyd y galon) ond eu bod yn gweld manteision o ran recriwtio a chadw cyflogeion pan fydd eu hiechyd a’u hapusrwydd yn flaenoriaeth.
Mae ein mentrau Llesiant yn y Gwaith yn parhau i fynd o nerth i nerth. Un cydweithrediad cyffrous yn 2019 oedd gyda HEINEKEN, sydd wedi’u lleoli yn Henffordd, a welodd dros 60 o gydweithwyr yn manteisio ar y cyfle i weithio tuag at iechyd gwell drwy raglen lesiant beilot a gyflwynir gan Hamdden Halo, ar y safle yn HEINEKEN ac yng nghanolfannau Halo. Manteisiodd eu gweithlu ar asesiadau iechyd (e.e. ar gyfansoddiad y corff), cyngor pwrpasol ar weithgarwch corfforol gan un o hyfforddwyr ffitrwydd blaenllaw Halo, a sesiynau teuluol fel nofio hwyl i’r teulu. Meddai Jane Brydon, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yn HEINEKEN, “Yn HEINEKEN rydym yn cymryd agwedd gyfannol at iechyd corfforol a meddyliol ein cydweithwyr. Bydd cymryd rhan yn y fenter hon gyda Halo yn helpu i gefnogi ein Strategaeth Lesiant gyffredinol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y canlyniadau yn Henffordd.”
BYD O HYGYRCHEDD CROESO EHANGACH, CYNHESACH P’un a yw’n aelodaeth am bris gostyngol i bobl ar incwm isel (a chyflwynwyd tua 120,000 o sesiynau am bris gostyngol drwy gydol y flwyddyn, ardal fwy tawel i ymarfer corff i’r rhai sy’n ofni campfa brysur, neu gymorth arbenigol i’r rhai sydd mewn perygl o heriau iechyd neu’n adfer ar ôl hynny, mae Halo yn parhau i agor ei ddrysau’n eang er mwyn sicrhau bod pawb yn cael croeso ac yn gallu teimlo’r manteision. Mae ein timau’n cael cymaint o bleser o weld ein beiciau addasol yn chwyrlïo o amgylch y parc, ein sesiynau nofio sy’n ystyriol o ddementia yn llawn teuluoedd hapus sy’n creu atgofion newydd, ein hystafelloedd tynhau cyhyrau yn trawsnewid iechyd (emosiynol a chorfforol) y rhai sy’n wynebu problemau symudedd, a’n aelodau’n magu hyder amlwg wrth iddynt wneud ffrindiau newydd a chymryd camau breision o ran eu hiechyd a’u ffitrwydd. Rydym bob amser yn awyddus i gyfeirio dathliadau sydd wedi’u hadeiladu o amgylch diwrnodau cenedlaethol sy’n hyrwyddo byd tecach, mwy hygyrch ac amrywiol ac rydym wedi gweld y galw am ein gwasanaethau pwrpasol yn cynyddu o ganlyniad i hynny. Ar draws ein canolfannau cynhaliwyd sesiynau wedi’u teilwra gyda chyngor ac arweiniad i bobl (a’u teuluoedd) sy’n byw gydag awtistiaeth, MS, cyflyrau cardiaidd a’r rhai sydd mewn perygl o gael eu hanafu drwy gwympo. Cafodd ein gweithgareddau sy’n ystyriol o ddementia yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr hwb cyllid o £58,858 o Gronfa Gymunedol Loteri Genedlaethol Cymru ac roedd yn llwyddiannus o ran sicrhau £40,000 o gyllid pellach i sicrhau eu dyfodol, gan gynnwys £30,000 gan Sefydliad Peter Harrison.
WYDDECH CHI Roedd ceisiadau llwyddiannus am gyllid o £25,000 wedi golygu bod modd ychwanegu cyfleuster PodPwll i bwll nofio Halo yn Llanllieni – gan wella hygyrchedd nofio ymhellach i bobl ag anawsterau symudedd.
Aeth ein Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff yng Nghymru – partneriaeth gyda’r gwasanaeth iechyd sy’n gweld meddygon teulu yn atgyfeirio cleifion i Halo yn Sir Pen-ybont ar Ogwr i gael cymorth ychwanegol – o nerth i nerth. Cafodd bron 2,000 o bobl eu hatgyfeirio i Halo gan eu meddyg teulu yn ystod 2019, gan gynnwys pobl mewn perygl o broblemau iechyd yn y dyfodol oherwydd pwysau gormodol neu ddiffyg gweithgarwch.
Yn y cyfamser, gan weithio gyda’r GIG a Chymorth Canser Macmillan, gwnaethom gynnig dosbarthiadau ymarfer corff i gleifion cyn, yn ystod a/neu ar ôl triniaeth canser. A hwythau wedi’u hatgyfeirio gan eu gweithiwr meddygol proffesiynol, mwynhaodd y cleientiaid raglen 10 wythnos yn ein canolfannau yn Ninas Henffordd. Ac roeddem mor gyffrous o weld y digwyddiad ‘Gemau Olympage’ arloesol yn datblygu yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr (fel y gwelir yn y llun isod). Mae’r timau niferus y tu ôl i’r digwyddiad gwych hwn wedi datblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran ac wedi cydnabod manteision iechyd a llesiant annog pobl hŷn i gadw’n gorfforol egnïol er mwyn helpu i fynd i’r afael ag unigedd ac unigrwydd. Cymerodd mwy na 150 o drigolion hŷn a phobl ag anableddau ran yn y digwyddiad llawn hwyl.
EILIAD GYDAG...
AMANDA PHILLIPS Mae Sglerosis Ymledol yn gyflwr sy’n effeithio ar ryw 100,000 o bobl yn y DU (tair gwaith yn fwy o fenywod na dynion), gan effeithio ar eu hymennydd a llinyn asgwrn y cefn ac yn niweidio gorchudd y nerfau. “Roedd y ffisio’n credu y byddai ymarfer corff yn helpu i adeiladu fy nghryfder craidd, a stamina yn fy nghoesau,” meddai Amanda. Nid oedd Amanda’n hoff o’r syniad o ymarfer corff ger selogion y gampfa ac nid oedd yn teimlo’n barod i gofrestru ar gyfer y dosbarth MS arbenigol a oedd ar gael yn ei chanolfan Halo leol.
“Roedd y staff yn Halo yn gwybod am MS. Roeddent yn gwybod am iaith y cyflwr, a’i effaith, ac wedi dyfeisio trefn ymarfer ar gyfer y gampfa a rhai ymarferion y gallwn eu gwneud gartref pan nad oeddwn yn teimlo’n ddigon da i ddod i’r ganolfan...” Dyma Amanda Phillips a gafodd ddiagnosis o Sglerosis Ymledol (MS) bedair blynedd yn ôl a darganfod bod y gampfa (y lle olaf y credai y byddai am fod) wedi adeiladu ei chryfder, a rhwymau teuluol. Ni oedd Amanda, mae’n cyfaddef, wedi mynd i gampfa am flynyddoedd, ac ymaelodi oedd y darn olaf o gyngor yr oedd yn ei ddisgwyl gan ei ffisiotherapydd. Ond roedd yn sylwi ei bod wedi blino’n lân ar ddiwedd y dydd. “Nid oeddwn hyd yn oed yn gallu mynd am dro gyda fy nghi ar ôl cyrraedd adref,” meddai Amanda, sy’n byw ac yn gweithio yn Rhosan ar Wy.
Ond roedd pethau annisgwyl yn aros amdani yn Halo.“Es i mewn yn meddwl tybed a fyddai pawb yn sylwi fy mod dros bwysau, neu os oeddwn dim ond yn llwyddo i wneud tair munud ar y peiriant croesi, neu 10 munud yn cerdded ar y peiriant rhedeg, neu mor gyflym y byddwn yn mynd i eistedd i lawr a darllen llyfr wrth i fy ngŵr neu fy merch orffen eu sesiwn ymarfer? Ond na, nid oeddent wedi sylwi,” meddai Amanda. “Mae pobl o bob oed, maint, siâp a gallu yn y gampfa, ac maent i gyd yno i ymarfer corff ar eu cyflymder eu hunain ac am eu rhesymau eu hunain. “Mae’r tîm ffitrwydd wedi dysgu technegau i mi leihau poen, fel ffyrdd haws o godi pan fyddaf yn penlinio neu’n gorwedd i lawr. Ac maent wedi deall nad yw’n rhywbeth sy’n effeithio arnoch yn gorfforol yn unig, ond yn emosiynol hefyd. Maent yn deall yr hyn rwy’n ei deimlo ac maent mor gefnogol. Os gallaf wneud dim mwy na hyrddiad byr ar y peiriannau, nid oes byth unrhyw bwysau. Os ydw i’n anghofio sut i weithio’r peiriannau hynny – ac mae hynny’n digwydd – maent yn mynd â mi drwy’r cyfan eto.” Ond un o’r pethau gorau am drefn ffitrwydd newydd Amanda yw ei bod wedi gallu ei rhannu â’i merch 15 oed, Isobel (yn y llun). “Mae Isobel yn fy helpu gyda’r peiriannau ac yn deall ble ydw i. Nid yw’n amlwg bod gennyf anabledd. Nid wyf yn cerdded â ffon. Ond mae’n gwybod yr hyn sydd ei angen arnaf. Pan fyddwn allan yn siopa gyda’n gilydd, mae bob amser yn dod o hyd i ystafell newid gyda chadair, neu’n gwybod y bydd angen arosfannau rheolaidd arnaf. Heb i mi ofyn iddi, bydd hi’n dod draw yn y gampfa ac yn fy helpu i roi fy nhroed mewn gwarthol gan fy mod yn cael trafferth gyda symud yn fy nhraed. Heb fy MS efallai na fyddem wedi gwneud hyn gyda’n gilydd, neu wedi cael y ddealltwriaeth hon, ond mae ymarfer corff yma wedi dod â ni hyd yn oed yn nes.”
EILIAD GYDA...
ROB FERGUSON Dyma Rob Ferguson a’n helpodd i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2019 drwy rannu ei brofiad o iselder a sut roedd ymarfer corff yn Halo wedi ei helpu ar daith i wella.
“Rhaid i chi ddod o hyd i rywun sy’n eich deall, ac sy’n gallu eich helpu i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Yn fy achos i, mae’r cymorth yn Halo, ac ymarfer corff wedi bod yn hanfodol i’m gwellhad. A nawr does dim mynd yn ôl...”
“Rhan o’r broblem gydag iselder – ac mae’n rhan fawr – yw’r rhan gyfrinachol. Nid ydych am ddweud wrth bobl nad ydych yn teimlo’n iawn. Pan oeddwn yn sâl am y tro cyntaf gydag anhwylder straen wedi trawma, fe ddes i allan o’r ysbyty ac es i yn ôl i’r gwaith ac roedd yn hunllef. Gallwn deimlo fy hun yn chwalu, yn gorfforol ac yn feddyliol. Ac yna, pa mor rhyfedd bynnag y mae’n ymddangos i bawb arall, rydych yn ofni rhoi cynnig arni. Rydych yn cloi eich hun i ffwrdd. Mae fel bod eich traed wedi’u hoelio i’r llawr. “Gallaf weld nawr bod peidio â siarad, peidio â mynd allan yno, dim ond yn gwneud i mi deimlo’n waeth. Rydw i wedi newid ac rwy’n falch o weld bod y byd yn newid o ran iechyd meddwl. Nid wyf yn siarad â llawer o bobl, ond rwyf wedi siarad â’r bobl yn Halo ac mae hynny wedi bod mor ddefnyddiol mewn ffyrdd sy’n anodd eu hesbonio. “Ystyriwch Pilates. Mae gwybod bod yr athrawes Pilates yn deall lle rydw i arni – mae wedi bod yn wych – yn gwneud y dosbarth mor bleserus. Rwyf wedi dysgu bod fy iselder yn effeithio ar fy ystum ac felly fy anadlu. Mae cymryd y dosbarth ymarfer corff hwnnw wedi gwella fy iechyd. Neu roi cynnig ar y gampfa. Mae cael ychydig bach o gymorth ychwanegol yn y gampfa – pobl yn dweud eu bod yno os bydd eu hangen arnaf – yn gwneud gwahaniaeth mawr. Nawr mae mynd i’r gampfa yn rhoi blas o ryddid i mi...ymdeimlad o bwyll. Mae’r pethau bach – fel 20 munud ar y peiriant croesi – yn fuddugoliaeth i mi. Wrth i mi ddod yn fwy ffit rwyf wedi dechrau beicio, ac roedd y daith feicio ddiweddaraf yn y glaw a’r oerfel ac fe lwyddais i’w chwblhau! Yn wir, mewn un mis llwyddais i wneud 300 milltir ar fy meic. Gyda phob taith feicio rwy’n teimlo mor dda am fy hun ar y diwedd. Oherwydd effaith ymarfer corff (a rhyddhau’r endorffinau hynny), ond hefyd am eich bod yn cael eich croesawu i mewn i’r
gymuned hon, ac yn siarad â phobl sy’n deall. Sydd eisiau helpu. “Mae gennyf slogan ger fy nrws blaen sy’n dweud: ‘Beth fyddech yn rhoi cynnig arno heddiw pe baech yn gwybod na allech fethu?’ Rwy’n hoffi hynny gan nad wyf yn gweld methiant mwyach. Os gallaf adael y tŷ mae’n fuddugoliaeth, ac mae popeth arall yn fonws. Yna mae’r buddugoliaethau bach yn gwneud i chi anghofio’r adegau drwg. Ac maent yn ysbrydoli arferion gwell. Rwyf wedi darganfod fy mod wrth fy modd yn pobi bara. Ac rwyf bellach yn bwyta’n iachach (yn hytrach na throi at y bagiau o doesenni am gysur). O ganlyniad rydw i wedi colli pwysau ac rwy’n teimlo’n iachach yn gorfforol, ac felly wedi profi buddugoliaeth arall. Ac yn sydyn mae pethau ar i fyny i mi ac mae hynny’n teimlo’n wych. Y llynedd roeddwn yn cymryd cyffuriau gwrth-iselder i’m helpu i ymdopi yn y gwaith, ond nawr mae gennyf swydd newydd ac rwy’n teimlo gymaint yn well. “Rwy’n gallu gweld, gan edrych ar y daith hon dwi wedi bod arni, bod nifer o bethau wedi fy helpu i wella. Ond rhaid mai’r peth cyntaf yw gwybod bod rhywun yno i chi. Gallai fod yn rhywun yn y feddygfa, neu mewn cwnsela, neu yn eich teulu. Ond rhaid i chi ddod o hyd i rywun sy’n eich deall, ac sy’n gallu eich helpu i gymryd y cam cyntaf hwnnw. Yn fy achos i, mae’r cymorth yn Halo, ac ymarfer corff wedi bod yn hanfodol i’m gwellhad. A nawr does dim mynd yn ôl.”
BUDDSODDI £650,000 YN EIN CANOLFAN LLESIANT NEWYDD SBON...
WYDDECH CHI Cyrhaeddom y rownd derfynol yng Ngwobr Community Leisure UK – yn y categori Effaith ar y Gymuned drwy Weithgarwch Corfforol – ar gyfer ein rhaglen gweithgarwch ystyriol o ddementia ‘Teimlo’n Dda am Oes’. Mae rhagor o wybodaeth yn haloleisure.org.uk/feelgoodforlife/
Ym mis Hydref 2019 agorodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr y drysau i’r Ganolfan Llesiant newydd yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr Halo. Roedd buddsoddiad o £650,000 gan bartneriaid cymunedol gan gynnwys y Gronfa Gofal Canolraddol wedi galluogi dymchwel y strwythur mewnol presennol a chodi canolfan iechyd newydd o fewn yr adeilad presennol. Cafodd y gofod ei ailbwrpasu ar gyfer cyfleusterau bowlio wedi’u hadnewyddu a lle cymunedol sy’n cael ei ddefnyddio gan bartneriaid o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Bwrdd Iechyd Lleol, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff. Edrychwn ymlaen at weld amrywiaeth cynyddol o wasanaethau cymorth iechyd a llesiant yn cael eu darparu o dan ei tho.
WYDDECH CHI Mae’n swyddogol – mae’r hyfforddwr Fitsteps gorau yng Nghanolbarth Lloegr yn Halo. Enillodd ein hyfforddwr Laura wobr Hyfforddwr y Flwyddyn.
Mae Laura yn dathlu ei gwobr gyda Mark Foster, cyn-nofiwr Olympaidd a chystadleuydd 2008 ar Strictly Come Dancing y BBC (ar y chwith) ac Ian Waite (ar y dde), cyn-ddawnsiwr proffesiynol ar Strictly a chyd-grëwr rhaglen ymarfer corff Fitsteps.
#FFITRWYDDIMI Roedd cwsmeriaid a staff fel ei gilydd yn awyddus i gymryd rhan yn Niwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol UKACTIVE ac i ddeud wrthym beth mae #FfitrwyddIMI yn ei olygu iddyn nhw...
AR DRAWS Y WLAD Eleni, gwelwyd timau Halo a’u cwsmeriaid yn dathlu ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ymgyrchoedd iechyd a llesiant cenedlaethol gan gynnwys: •
Diwrnodau rhyngwladol i blant, menywod, dynion, pobl hŷn, pobl ag anableddau
•
Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol
•
Wythnos Genedlaethol Prentisiaid
•
Mis Symud Mwy
•
Misoedd Ymwybyddiaeth ar gyfer MS, Awtistiaeth, Asthma, Atal Strôc, Iechyd Meddwl, Alzheimer’s, Arthritis
•
Diwrnod y Llyfr
•
Wythnos Atal Boddi
HELPU EIN PLANT I FFYNNU Mae’n dechrau gyda dosbarth nofio i fabanod, yn gallu arwain at fydoedd hudol partïon pwll Disney, llenwi gwyliau ysgol gyda hwyl a gemau difrifol (a rhai mentrau hanfodol fel cinio am ddim Gwyliau Ysgol Egnïol am Oes), a chyflwyno gwersi nofio sy’n achub bywydau a dosbarthiadau chwaraeon sy’n trawsnewid bywydau. Ac yn ystod blynyddoedd yr arddegau neu fywyd myfyriwr, gall ein pobl ifanc barhau i fwynhau ffyrdd fforddiadwy o gadw’n heini, yn iach ac yn hapus gyda’n pecynnau aelodaeth arbennig. Dyma rai o’r ffyrdd y mae Hamdden Halo yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu. Yn 2019, gwelwyd dros 19,500 o blant yn mwynhau gwersi chwaraeon yn ein canolfannau gan gynnwys 14,461 o ddisgyblion a ddaeth i Halo i ddysgu nofio. A chyflwynodd ein hyfforddwyr gwych wersi nofio 1-1 i blant ag anableddau. Roedd Halo wrth ei fodd, hefyd, i gael gwobr o £8,531 gan gynllun Grantiau Cymunedol y Gronfa Gofal Integredig i’n galluogi i ddarparu cynllun peilot Gwersi Nofio Ystyriol o Ddementia. Galluogodd y prosiect i ni wneud addasiadau fel bod mwy o blant ag anghenion ychwanegol yn cael y cyfle (drwy hyfforddiant, adnoddau a chymorth arbenigol) i ddysgu nofio. “Rwy’n credu bod yr hyn y mae Halo yn ei ddarparu yn anhygoel ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano ac mae wedi bod yn fuddiol iawn iddo” meddai un o’r mamau yr oedd ei mab wedi mwynhau cymryd rhan.
WYDDECH CHI Helpodd disgyblion Blwyddyn 5 o Ysgol Gynradd Riverside yn Henffordd ni i lansio cwrs nofio dwys pythefnos newydd lle roedd plant yn mynychu bob dydd (yn hytrach na phob wythnos), gan ddefnyddio Siarter Nofio Ysgol Swim England. “Mae symud i’r model hwn wedi bod yn llwyddiannus iawn. Mae plant bellach yn dod yn gyfforddus yn y pwll gyda’r hyfforddwyr ac yn cael hwyl wrth iddynt ddysgu. Mae eu cynnydd wedi bod yn syfrdanol.” Emma Shearer, Pennaeth O ganlyniad i’w lwyddiant bydd 450 o blant eraill Riverside rhwng 5 ac 11 oed yn mynd ymlaen i gael budd o’r model dwys hwn yn ystod y flwyddyn academaidd.
Mae Halo yn parhau i ddefnyddio cynllun achredu QUEST (Gwobr Ansawdd ar gyfer Chwaraeon a Hamdden) fel rhan o welliant parhaus mewn ansawdd. Cafodd pum canolfan yn ein hardaloedd yng Nghymru eu hasesu gan aseswyr allanol annibynnol, gyda phob un ohonynt yn cael gradd ‘Da Iawn’.
EILIAD GYDA...
CHARLOTTE JONES Dyma Charlotte Jones, sy’n byw yn Henffordd ac a ddarganfu bŵer trawsnewidiol ein hystafell tynhau cyhyrau sydd, yn ei geiriau hi, yn mynd ymhell y tu hwnt i’r stôn o bwysau y mae wedi’i cholli (hyd yma!).
“Mae’r ystafell tynhau cyhyrau mor braf, y croeso mor gynnes. Rwy’n mynd yno dair neu bedair gwaith yr wythnos ac rwyf wedi colli dros stôn yn barod. Ond nid yw’n ymwneud â’r pwysau yn unig, mae teimlad gwirioneddol o lesiant a pherthyn...”
“Roeddwn wedi bod mewn ysbyty seiciatrig ers sawl blwyddyn a symudais i fflat gyda chymorth mewnol ac roeddwn yn chwilio am ffyrdd o wella fy iechyd. Ond i mi roedd y gampfa – a oedd yn ymddangos fel y dewis amlwg – yn rhy brysur, ac yn rhy ddigymeriad. Roeddwn yn teimlo’n rhy bryderus. Rwy’n cofio bod ar y peiriant rhedeg ac ar ôl ychydig funudau roeddwn yn dymuno fy mod i’n cerdded adref nid ar y peiriant. Yna dywedodd ffrind wrthyf am yr ystafell tynhau cyhyrau yng Nghanolfan Hamdden Henffordd, a newidiodd hynny bopeth. “Mae’n anodd disgrifio effaith iechyd meddwl gwael ar fywyd bob dydd, a sut y mae’n taro eich hyder ac yn ei dro eich cymhelliant i fod yn egnïol, faint bynnag rydych chi eisiau gwneud hynny. Roeddwn yn arfer casáu ymarfer corff. Roeddwn dros bwysau o ganlyniad i’r arhosiad hir yn yr ysbyty a’r feddyginiaeth roeddwn i arni. Roeddwn i yng nghwmni gweithwyr cymorth y rhan fwyaf o’r amser. Nid oedd gennyf lawer o ffrindiau, ac roedd fy hyder mor isel nid oeddwn i eisiau mynd ar fws ar fy mhen fy hun. Gall hynny fod yn unig iawn, ffordd o fyw sy’n anodd ei newid. “Pa ganlyniad welais i yn yr ystafell tynhau cyhyrau? A bod yn onest mae’n anodd ei roi mewn geiriau y newid yn fy iechyd corfforol yn ogystal â meddyliol. Mae pawb yn yr ystafell yn gyfeillgar, ond maent yn rhoi’r lle i chi ymarfer ar eich cyflymder eich hun. Rwy’n hoffi ymlacio drwy wrando ar gerddoriaeth wrth i mi ymarfer corff, ond rwy’n gwybod y gallaf alw ar y Cynghorwyr Tynhau Cyhyrau os bydd angen cymorth arnaf. Maent mor garedig a hynod gefnogol. Mae’r ystafell, yn llythrennol, yn newid fy mywyd. Rwy’n dal y bws yno ar fy mhen fy hun ac rwyf wedi gofyn i ffrind sy’n byw gerllaw i ymuno â mi. Rydym yn cerdded os yw’r tywydd yn dda, yn cael coffi wedyn. Ni allaf esbonio’r ymdeimlad o gyflawniad rwy’n ei deimlo o ganlyniad i hynny. Rwy’n cael fy nghymell i fwyta’n well a symud mwy. Rwyf hefyd yn mynd i ddosbarth ymarfer corff mewn grŵp yn Halo erbyn hyn. Gwnaeth un o’r hyfforddwyr yn y gampfa (a oedd yn synhwyro nad oeddwn yn gyfforddus yn ymarfer corff yno) fy ngwahodd i fynychu dosbarth y maent yn ei gynnal. Dwi wrth fy modd, ac yn ymarfer corff am 45 munud yn ddibaid ac yn teimlo’n wych o ganlyniad i hynny.”
EILIAD GYDA...
LEANNE MEEK “Rwy’n gwybod bod llawer o ferched ifanc yn syrthio allan o gariad gydag ymarfer corff pan maent yn cyrraedd eu harddegau. Gwnaeth fy merch Ellie roi’r gorau i ddawnsio a thrampolinio ar ôl gadael yr ysgol gynradd ac nid oedd yn mwynhau’r chwaraeon tîm yn yr ysgol uwchradd. Ac roedd ganddi lai o amser ar gyfer clybiau y tu allan i’r ysgol oherwydd yr holl waith cartref y mae’n ei gael. Ond rwy’n gallu gweld, hefyd, bod amser sgrin yn gallu cymryd lle nofio a chwaraeon yn hawdd i blant sy’n tyfu, ac roeddwn am sicrhau bod y cydbwysedd yn iawn i Ellie.
Dyma Leanne Meek sy’n treulio mwy o amser yn ymarfer corff gyda’i merch yn ei harddegau ar ôl ei hannog i gyfnewid amser sgrîn ar-lein am sesiynau ymarfer yn y ganolfan.
“Mae Halo yn cynnig rhai cynigion aelodaeth gwych i bobl ifanc hyd at 24 oed, felly gwnaethom gofrestru a dechrau mynd i rai dosbarthiadau ymarfer corff mewn grŵp gyda’n gilydd a, gyda chymorth staff Halo, fe wnes i ei chyflwyno i’r gampfa. Mae hi wrth ei bodd, yn enwedig pan fyddwn ni’n dwy yn rhedeg ochr yn ochr â’n gilydd ar y peiriant rhedeg. Yn ogystal â phlannu’r hedyn nad yw hyn yn rhywbeth y dylech dyfu allan ohono byth, rwy’n cael treulio amser gyda hi ac, ar y penwythnos, pan fyddwn yn rhannu teisen gwpan neu bysgod a sglodion, mae’r ddwy ohonom yn teimlo ein bod yn haeddu’r danteithion. Nawr mae Ellie yn aml yn galw heibio yn Halo ar ei ffordd adref o’r ysgol yn ogystal â dod gyda mi, ac mae rhai o’m ffrindiau yn sôn am ddod â’u merched i’r dosbarthiadau hefyd. Lledaenwch y newyddion da!”
“Yn ogystal â phlannu’r hedyn nad yw hyn yn rhywbeth y dylech dyfu allan ohono byth, rydym yn cael treulio mwy o amser gyda’n gilydd...”
GWYBODAETH EDRYCHWCH AR ARIANNOL 2019 EIN RCANLYNIADAU
Crynodeb o’r Cyfrif Incwm a Gwariant ar gyfer y Flwyddyn a Ddaeth i Ben 31 Rhagfyr 2019 Incwm
2019
2018
Rhoddion a Chymynroddion
223
227
Incwm o weithgareddau elusennol
12,549
12,255
Ffïoedd Rheoli
1,486
1,432
Grantiau’r Llywodraeth
25
24
Incwm o weithgareddau masnachu masnachol
235
220
Incwm Buddsoddi
4
2
Cyfanswm yr Incwm
14,522
14,160
Gweithgareddau masnachu masnachol
145
125
Cyflogau
8,532
8,626
Costau Safleoedd
1,174
1,134
Cyfleustodau
1,345
1,394
Gwariant
Hysbysebu a Hyrwyddo
77
70
Gweinyddu Swyddfa
215
242
Cyllid a Chydymffurfio
738
661
Costau Cyllid Eraill Re FRS 102
190
164
TAW anadenilladwy
663
614
Atgyweirio, Cynnal a Chadw a Phrydlesu Offer
188
119
Costau Eraill
734
930
Costau Llywodraethu
21
21
Dibrisio ac Amorteiddio
834
778
Prydles Gyllidebol a Hurbryniant
581
520
Cyfanswm Gwariant
15,437
15,398
Incwm / Gwariant Net
(915)
(1,238)
2019
2018
Crynodeb o’r Fantolen ar 31 Rhagfyr 2019 Asedau Sefydlog
15,064
15,693
Asedau Cyfredol
1,953
1,524
Credydwyr sy’n ddyledus o fewn blwyddyn
(2,512)
(2,321)
Asedau/Rhwymedigaethau Cyfredol Net
(559)
(796)
Cyfanswm yr Asedau llai Rhwymedigaethau Cyfredol
14,505
14,896
Credydwyr sy’n ddyledus ar ôl mwy na blwyddyn
(11,681)
(11,959)
Croniadau ac Incwm Gohiriedig
(154)
(157)
Asedau Net
2,670
2,780
Cronfeydd a Ddygwyd Ymlaen
(3,150)
(1,912)
Incwm Net
(915)
(1,238)
Cronfeydd a Gariwyd Ymlaen
(4,065)
(3,150)
Mae’r uchod cyn unrhyw addasiad FRS17 sy’n ymwneud â chynllun pensiwn buddiannau diffiniedig Mae datganiad archwiliedig o weithgareddau ariannol ar gael ar gais.
#POBLOFLAENELW
yn falch o fod yn ‘CREU CYMUNEDAU IACHACH’
MEWN PARTNERIAETH Â Highworth Trustees
DYWEDWCH HELO! SWYDDFA GOFRESTREDIG: CANOLFAN GYMORTH HALO
Tîm Cyswllt Halo 01432 842075 info@haloleisure.org.uk haloleisure.org.uk
Halo Leisure Services Ltd Lion Yard Broad Street Leominster HR6 8BT 01568 618980 Rhif Cwmni Cof restredig Cymru a Lloegr: 4335715 Rhif Elusen Gof restredig: 1091543