Adroddiad Blynyddol Cymru Gynhaliol

Page 1


Sustainable Wales Cymru Gynhaliol Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol 6 Ebrill 2008 - 5 Ebrill 2009

CYNNWYS Cymru Gynhaliol.......................................................................3 Staff, Gwirfoddolwr, Ymddiriedolwyr, Ymgynghorwyr, Noddwyr........................................................4 ADRODDIAD BLYNYDDOL 2008/09 Sylwadau’r Cadeirydd..............................................................5 Adroddiad y Cyfarwyddydd.....................................................6 Adolygiad Ariannol................................................................10


Sustainable Wales Cymru Gynhaliol Pwrpas Galluogi unigolion, cartrefi, sefydliadau a chymunedau Cymru i leihau eu heffaith amgylcheddol a byw’n fwy cynaliadwy trwy hwyluso newid ymddygiad trwy ddarparu gwybodaeth, addysg a chyfleoedd ymarferol mewn ffordd arloesol a fydd, yn eu tro, yn dylanwadu’n uniongyrchol ar newid polisi tuag at ddatblygu cynaliadwy.

Nodau • • •

Hybu byw un blaned. Lobïo am newid polisi i wireddu dulliau o fyw mwy cynaliadwy. Chefnogi’r economi lleol.

Amcanion • • • •

Annog a chynyddu’r defnydd o nwyddau a gwasanaethau lleol, gwyrdd, moesegol a masnach deg gan y gymdeithas. Lleihau gwastraffu adnoddau a’r lefel o waredu sbwriel ac ar yr un pryd rhoi cefnogaeth i gynhyrchion sy’n para, ailddefnyddio ac ailgylchu. Arbed ynni a hybu ynni adnewyddadwy i ymladd cynhesu byd-eang/newid hinsawdd ac annog eto ddatblygu economi carbon isel. Annog mwy byth o ymglymiad gan gymunedau wrth wneud penderfyniadau yn lleol.

• Annog ymglymiad dinasyddion wrth wneud penderfyniadau’n lleol a gweithredu cymunedol, gan gynyddu lles, sgiliau, hyder a hunan-barch. Gweithredir trwy: • •

Hybu, addysgu a hyrwyddo ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy trwy weithgareddau yn y cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus/marchnata, cynhyrchu gwybodaeth/adnoddau, digwyddiadau neu wyliau cyhoeddus amrywiol. Cynnig gwybodaeth, cyngor, cefnogaeth, dulliau hwyluso i helpu dinasyddion/sefydliadau/rhwydweithiau Cymru i weithio tuag at ddatblygu cynaliadwy trwy eu gweithgareddau, projectau, polisïau ac arferion.

• Annog a datblygu gweithgareddau yn y gymuned y mae modd eu dyblygu. • •

Annog a datblygu gweithgareddau yn y gymuned y mae modd eu dyblygu. Cydweithio er mwyn dylanwadu ar sectorau eraill.

Codi arian trwy grantiau, nawdd, ffioedd ymgynghori a hyfforddi.

• Sicrhau ymglymiad gwirfoddolwyr, pobl leol, artistiaid, ymarferwyr a gwleidyddion.

2


STAFF Margaret Minhinnick Verity Dighton

Cyfarwyddydd Rheolwr Swyddfa

STAFF PROJECT Sian Dando Natalie Sargent Angharad Dalton Joseph Newbury

Ymgyrch Cewynnau Go Iawn (YCGI) Cymru (Rhan amser) Prosiect Datblygiad/Grantiau (Rhan Amser) Swyddog GD Pen-y-Bont Ymgyrch Pen-y-Bont Heb Fagiau Plastig

GWIRFODDOLWYR Catrin Dalton Steve Pullen Rob McGhee Rebecca Austin Lindsay Peter Morgan Eamon Bourke James Nee 5 YCGI gwirfoddolwyr

Etienne Cronje Richard Giddons (Prifysgol Caerwysg) Catherine Felton (Ysgol Gyfun Porthcawl) Sarah Jenkinson Jason Bragg Lucy Minhinnick Robert Minhinnick Siambr Fasnach Porthcawl

YMDDIRIEDOLWYR John Drysdale Frank O’Connor Philip Marks Simon O’Rafferty Jan Walsh Steve Harris Richard Thomas

Cadeirydd

YMGYNGHORWYR Robert Minhinnick Alwyn Jones Gareth Clubb Ken Moon

Richard Thomas Philip McDonnell Lee Turner

NODDWYR Jonathon Porritt Edward Goldsmith  Jan Morris John Barnie Dafydd Iwan John Humphries Angharad Tomos Hilary Llewellyn-Williams

Ysgrifennwr, darlledwr, amgylcheddwr, cyn-cadeirydd UK Sustainable Development Commission Sylfaenydd a cyn-golygydd ‘The Ecologist’ ac ysgrifennwr Awdures, darlledwraig Cyn-golygydd y cylchgrawn ‘Planet’ ac ysgrifennwr Llywydd Plaid Cymru, ysgrifennwr, cerddor, darlledwr Cyn-olygydd y ‘Western Mail’ Awdures Bardd

3


SYLWADAU’R CADEIRYDD Mae’n bleser adrodd am flwyddyn brysur a llwyddiannus arall i’r elusen yn ei hymdrechion i annog ein cymdeithas i fod yn llai afradlon ac i ddatblygu agwedd fwy ystyriol i’r byd rydym yn ei greu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae diwedd 2008/09 wedi gweld un prosiect peilot pwysig bron yn cael ei gwblhau - 3 blynedd o ‘Atebion Cynaliadwy i Ben-y-bont’ a ariannwyd gan y Loteri Fawr ynghyd â chwblhau 15 mis o ‘Sir Pen-y-bont Heb Fagiau Plastig’ a ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC). Roedd y ddwy ymgyrch yma yn gofyn am sgiliau datblygu cymunedol, creadigrwydd a chyfathrebu ardderchog. Mae gwaith yn ymwneud â meithrin cysylltiadau ac i ryw raddau ‘galluoedd' wedi bod yn flaengar. Mae hyn wedi golygu ffurfio rhwydweithiau ar sail buddiannau, darparu gwybodaeth ac adnoddau, cynllunio digwyddiadau a chynnig cefnogaeth a phob un o’r rhain yn rhannu’r nod o hybu byw’n gynaliadwy. Yn bendant, yn sgil hyn i gyd, mae ymwybyddiaeth newydd ym mwrdeistref Pen-y-bont lle'r oedd ein dau swyddog datblygu’n gweithio. Golyga’r profiad ymgyrchu a enillwyd wrth weithio â phob math o gymunedau, datblygu gweithgareddau wyneb-i-wyneb, hybu arfer da - a hynny i gyd gyda phroffil sylweddol yn y cyfryngau - fod gennym gryn dipyn i’w gynnig i gymunedau eraill o ran patrymau i’w dyblygu. Mae’r gwaith rhan amser a wnaethpwyd ar gyfer Cynllun Craff am Wastraff/LlCC ar gyfer Ymgyrch Cewynnau Go Iawn Cymru (YCGI) wedi helpu o ran cynnal ein cefnogaeth ar gyfer teuluoedd, awdurdodau lleol a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ogystal â datblygu perthynas fwy proffesiynol gydag undebau credyd ar draws Cymru. Mae’r wybodaeth benodol a’r creadigrwydd a ddangoswyd gan ein swyddog yn hanfodol ar gyfer llwyddiant yr ymgyrch. Mae CG wedi cyfrannu at ddatblygu polisi trwy amrywiaeth o bwyllgorau. Mae ein cyfarwyddydd yn dal yn Aelod Bwrdd i Cynnal Cymru, yn aelod o Bwyllgor Grantiau Amgylchedd Cymru CGGC ynghyd â Grŵp Ymgynghorol Newid yn yr Hinsawdd CGGC. Mae hi’n aelod o Glas Cymru - y cwmni ‘di-elw’ sy’n rhedeg Dŵr Cymru. Mae’n dda gweld partneriaethau newydd yn datblygu sy’n ymestyn CG i feysydd eraill, fel y Celfyddydau. Daw cyswllt â’r mudiad gofal cymdeithasol trwy gyfleoedd a ddarperir trwy gontractau a ffioedd. Bydd angen y math yma o gefnogaeth ar weithgareddau ‘newid ymddygiad’ hanfodol ochr yn ochr â grantiau am nifer o flynyddoedd i ddod. Ni fyddai’r hyn y mae CG wedi’i gyflawni yn ystod yr unfed flwyddyn ar ddeg yma yn bosibl heb ein cytundebau grant ac ymgynghori, ymrwymiad fy nghyd-ymddiriedolwyr a chefnogaeth ein Hymgynghorwyr a’n gwirfoddolwyr diwyd. Mae canlyniadau nodedig ein gwaith yn ffrwyth uniongyrchol ymroddiad ein staff i gyd a hoffwn ddiolch i bawb am eu holl ymdrechion.

John Drysdale

4


ADRODDIAD Y CYFARWYDDYDD Gwaith Lleol: 1.

Atebion Cynaliadwy - Pen-y-bont ar Ogwr. Ariannwyd gan y Cronfa Loteri Fawr

Blwyddyn 3 o 3. Y nod oedd cynyddu byw’n gynaliadwy trwy gynyddu ymwybyddiaeth, datblygu partneriaethau, gweithredu ymarferol ac ymwneud â’r gymuned ar draws bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr ac ar yr un pryd, cadw cysylltiadau â chynghorau a rhwydweithiau. Cynhyrchwyd 'Community Connections', ein cylchgrawn deniadol, darllenadwy o hyd mewn diwyg hardd, gyda chynnwys o safon a chan ymdrin â materion cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol. Roedd ei ddosbarthu’n mynd â chryn amser ond mae’n bosibl fod y cylchgrawn wedi cyrraedd mwy na’r 45,000 o ddarllenwyr a ragamcanwyd os ydym yn ystyried bod 12 – 15,000 copi o bob rhifyn wedi’i argraffu a’i fod ar gael ar ein gwefan www.sustainablewales.org/blog/?page_id=101. Llwyddwyd i ymwneud â’r cyhoedd trwy gynnig cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus a gwyliau gwyrdd (daeth dros 1000 o bobl i’n marchnad Nadolig), cynnal y ganolfan wybodaeth wedi’i lleoli yn ein hadeilad, cynnig cyngor, sgyrsiau a hyfforddiant a mynd i lawer o ddigwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd gan sefydliadau eraill. Curodd y prosiect ei darged o weithio gyda 77 o gyrff lleol a 40 o fentrau cymdeithasol, cydweithio â llawer o grwpiau cymunedol a helpu datblygu ‘Tools For Self Reliance,’ ‘Marchnad Ffermwyr fisol Pen-y-bont,’ ‘Siambr Fasnach Porthcawl,’ ‘Sussed’ a’i wirfoddolwyr. Ar ben hynny, fe gychwynnodd ‘Grŵp Masnach Deg y Sir.’ Rydym yn credu i ni osod agenda ‘gwyrdd’ i’r fwrdeistref yma a gadael etifeddiaeth fydd yn fodd i weithredu’n bellach. Ein gobaith yw ehangu a dyfnhau’r dull gweithredu yma trwy gais newydd i’r Cronfa Loteri Fawr ac rydym yn gweithio ar seminar terfynol o’r enw ‘ A Resilient Local Economy?’ 2.

Pen-y-bont Heb Fagiau Plastig. Ariannwyd gan y Cynulliad

Mae’r bag plastig tafladwy yn eicon o’n diwylliant ‘cyfleus’. Y bagiau hyn yw’r eitem draul fwyaf hollbresennol ar y blaned gyda thriliynau ohonynt. Wrth gwrs, maen nhw wedi’u gwneud o betroliwm neu nwy naturiol ac yn cyfrannu at newid hinsawdd. Mae’r proffil uchel i’r ymgyrch hon ar draws y DU yn arbennig o bwysig i ni yng Nghymru lle byddwyn ni weld tâl neu ardoll yn cael ei chyflwyno ymhen rhai blynyddoedd ar fagiau untro. Trwy weithio mewn llawer o siambrau masnach, cawsom gipolwg gwerthfawr o sut mae busnesau bach yn ystyried y mater yma. Cafwyd cyfleoedd sylweddol yn y cyfryngau sydd wedi cynnwys teledu a radio’r BBC yn ogystal â’r Western Mail a South Wales Echo. Gofynnwyd am ein cyngor gan y Cynulliad hefyd. Cymerodd tua 95% o’r masnachwyr lleol ran yn ein hymgyrch gyda lleihad yn nifer y bagiau plastig a ddosbarthwyd o bron i 30% yn ystod cyfnod cyflogi ein Swyddog Datblygu. Mae angen monitro newid ymddygiadol amgylcheddol ac mae dull gweithredu yn y gymuned, fel un CG, yn ein barn ni, yn hanfodol. Mae canllaw ‘sut mae gwneud’ dwyieithog terfynol ar gael bellach ar ein gwefan www.sustainablewales.org/blog/?page_id=11.

5


Ymgynghori a Chontractau: Cymru. a.

Ymgyrch Cewynnau Go Iawn. Ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru

Amcangyfrifir bod 200 miliwn o gewynnau tafladwy yn mynd i safleoedd tirlenwi bob blwyddyn yng Nghymru. Mae’r swydd yn hybu’r defnydd o gewynnau golchadwy (CG) ledled Cymru gan gynnig gwybodaeth a chyngor diduedd i rieni, meithrinfeydd, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol a’r sector iechyd. Darparwyd sgyrsiau, sgriptiau gwefannau a thaflenni i bob awdurdod lleol a helpwyd tri ohonynt i ddatblygu cynllun cymell CG; cynlluniwyd, argraffwyd a dosbarthwyd 3000 o daflenni yn amlygu rôl Undebau Credyd; mae pob ysbyty a chanolfan eni wedi derbyn bwrdd arddangos ac yn cael sgyrsiau yn eu dosbarthiadau gan asiantau CG. Ail-olygwyd DVD yr ymgyrch gan CG a chynhyrchwyd 200 copi. Argraffwyd cant o galendrau oedd yn cynnwys lluniau o fabanod yn gwisgo CG! Cafwyd 6860 o ymweliadau â’r wefan ar ei newydd wedd, 24 ymholiad a 46 o alwadau i’r llinell gymorth. Cynhaliwyd cyfarfodydd a mynychwyd digwyddiadau ledled Cymru. Mae teuluoedd yn ymateb yn fwyfwy i’r mater yma o wastraff ac edrychwn ymlaen at weithio gyda mwy o fydwragedd yn y flwyddyn i ddod. b. Hyfforddiant Newid yn yr Hinsawdd. Ariannwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru Roedd diwrnod gwybodaeth cymuned ‘Cyfnewidfa Hinsawdd’ Caerdydd yn cynnwys dros 30 o sefydliadau – y nod oedd ysgogi’r rhai nad oeddynt wedi cael ‘eu hysgogi’ o’r blaen. Denodd Gweinidog y Sector Gwirfoddol, Kevin Brennan AS, y Gweinidog Jane Davidson AC ar ffilm, Graham Benfield, Prif Weithredwr CGGC ymhlith eraill, gynulleidfa fawr drwy gydol y dydd. Cafwyd amrywiaeth eang o weithgareddau (e.e., ystafell ffilmiau, dadl fyw, stondinau gwybodaeth, cyflwyniadau, cymorthfeydd, gweithdai, trafodaethau grŵp o gwmpas y bwrdd) ac yr oedd fel pe bai’r rhai oedd yno yn mwynhau’r awyrgylch anffurfiol tebyg i farchnad. Dyma enghreifftiau o’r ganmoliaeth a gafwyd “ … da iawn – diwrnod da, roedd eich holl waith caled wedi talu ar ei ganfed,” “trefnwyd y digwyddiad yn dda dros ben a mwynheon ni’n fawr!” “ … balch o weld/clywed am gymaint o sefydliadau’n dechrau gwneud stwff go iawn ar lawr gwlad.” Cymorth Mae CG wedi parhau i gefnogi gwaith SUSSED, y siop werdd a moesegol ym Mhorthcawl, dros y flwyddyn gan roi gofod swyddfa am ddim, costau gweinyddu, staff a rheoli cyfrifon. Mae CG wedi parhau â’i waith diwylliannol, gyda phrosiect ffilm/ffotograffig/cerddoriaeth/llafar ‘Sea Holly’ a lwyfannwyd yn Academi Frenhinol Celf Ddramatig Llundain ym mis Tachwedd '08, ac yn ein digwyddiad 'Commune' gyda phedwar band byw ym mis Mawrth '09. Mae CG yn teimlo bod gwaith diwylliannol o’r fath wedi’i seilio ar ‘synnwyr o le’ a chof cymunedol yn faes hanfodol i ni ymdrechu ynddo ac yn ganolog i’n syniadau am gynaliadwyedd. Ochr yn ochr â’n gweithgaredd prosiect, mae CG yn falch ei bod yn creu swyddi yn ogystal â’r hyfforddiant a’r profiad gwaith mae’n eu rhoi i wirfoddolwyr – yn lleol ac ar draws Cymru. Mae llawer ohonynt yn israddedigion neu’n raddedigion yn ceisio ennill profiad a thystiolaeth gwaith ar gyfer eu CViau.

6


Adolygiad ariannol Mae’r elusen wedi cadw digon o gronfeydd wrth gefn i gwblhau’r gwaith ar gyfer ein cynhadledd olaf, ‘A Resilient Local Economy?’ Ar ben hynny, byddwn yn cynnal yr Ymgyrch Cewynnau Go Iawn am 2009/10 a threfnu ymgyrch beilot CO2 ‘Living Lighter.’ Ceisiadau Grant a Datblygu Prosiectau Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn ceisio sicrhau mwy o gyllid oddi wrth y Loteri Fawr ac asiantaethau eraill ar gyfer gwaith sy’n cynnwys newid yn yr hinsawdd, lleihau gwastraff, hyfforddiant polisi datblygu cynaliadwy a phwrcasu amgylcheddol a moesegol. Diolch Hoffwn ddiolch hefyd i’n partneriaid eleni sydd wedi cynnwys Science Shops Wales (Prifysgol Morgannwg), Prifysgol Bangor, (Ysgol Fusnes) UWIC Caerdydd, Llyfrau Seren, Llais Cymru; i’n staff ac i’n hymgynghorwyr sydd wedi cyflawni cymaint eleni gan roi ymdrech 100% i bopeth y maent yn ei wneud ac wrth gwrs i’n holl ymddiriedolwyr, ymgynghorwyr a gwirfoddolwyr ymroddedig.

Margaret Minhinnick Cyfarwyddydd

7


Turn static files into dynamic content formats.

Create a flipbook
Issuu converts static files into: digital portfolios, online yearbooks, online catalogs, digital photo albums and more. Sign up and create your flipbook.