Gerddi Sophia, Caerdydd | #YmchwilCymru22 Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru Cynhadledd 2022 | 13 Hydref 2022
Mynychodd dros 500 o bobl Gynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru 2022 – Diolch yn fawr iawn. Darllenwch beth oedd ganddyn nhw i’w ddweud ar Twitter am fynychu digwyddiad eleni.
“Diolch i @YmchwilCymru am gynhadledd hyfryd. Gymaint o siaradwyr i danio’r meddwl, ac roedd hi’n wych clywed gan y stondinau arddangos am yr holl waith cyffrous y maen nhw’n ei wneud.” @SpeccyFellow
“Fe gyrhaeddodd y soffa newydd jest mewn pryd ar gyfer dechrau cynhadledd @YmchwilCymru –a oedd yn hynod o hygyrch eto trwy barhau i gynnig cynhadledd hybrid, diolch!” @IydMeRJD
“Roedd hi’n wych gweld cymaint o bobl yn mynychu Cynhadledd Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru... roedd hi mor dda bod yn ôl yn y cnawd.” @GinaDolan
“Roedd hi’n wych bod yn ôl yn y cnawd gyda chydweithwyr i glywed y diweddaraf am bopeth cysylltiedig ag ymchwil ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.” @TimothyBanks7
“Sesiwn panel hynod ddiddorol i danio’r meddwl ynglŷn â dysgu gwersi o effaith COVID ar ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol! Trueni na allwn i fod yno yn y cnawd ond roedd hi’n wych gallu ymuno ar-lein.” @Price_Delyth
“Digwyddiad @YmchwilCymru ffantastig heddiw. Roedd yn gyfle gwych i rwydweithio, rhannu syniadau a chael mewnwelediad.” @BHFCymru
“Roedd hi’n ffantastig gweld cymaint o bobl yn y cnawd yng Nghynhadledd #YmchwilCymru22 @YmchwilCymru.” @JoeCas71